4
Sain Ffagan Amgueddfa Cymru Cylchlythyr Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2013 www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2333 Cymru’r Oes Haearn 13 Ebrill, 4 Mai, 8 Mehefin, 20 Gorffennaf Fel rhan o broject ailddatblygu Sain Ffagan, byddwn yn tynnu ein tai crwn Oes Haearn i lawr ac yn adeiladu pentref caeedig mewn man arall yn yr Amgueddfa. Bydd dehonglydd addysg y Pentref Celtaidd, Ian Daniel, yn cynnal cyfres o sgyrsiau yn Gymraeg ac yn Saesneg i drafod yr hyn rydym wedi’i ddysgu yn ystod y degawdau o adeiladu tai crwn yn Sain Ffagan. Bydd yn gofyn a oes lle i dechnoleg yr Oes Haearn yn y byd modern ac yn cyflwyno syniadau a chynlluniau ar gyfer Bryn Eryr, ein pentref Oes Haearn cyffrous newydd fydd yn seiliedig ar olion archaeolegol yn Ynys Môn. Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Croeso i dymor newydd sbon o arddangosfeydd a digwyddiadau. Byddwn yn cychwyn ein rhaglen newydd gyda dathliadau Dydd Gw ˆ yl Dewi ym mhob un o’n hamgueddfeydd, ac mae ein rhaglen ar gyfer gweddill y flwyddyn yn orlawn. Mae’n fwrlwm o weithgarwch tu ôl i’r llenni hefyd gyda phroject ailddatblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn dod yn ei flaen yn dda. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu £11.5m i Sain Ffagan tuag at y gwaith o weddnewid yr amgueddfa boblogaidd hon. Byddwn yn ymestyn y llinell amser er mwyn i ymwelwyr allu dilyn straeon am bobl Cymru, o’r brodorion cyntaf hyd heddiw a thu hwnt. Gallwch chi barhau i ymweld â’r amgueddfa fel arfer, er y bydd yr arddangosfeydd yn y brif fynedfa ar gau wrth i’r gwaith o greu orielau dan do newydd cyffrous ddechrau. Bydd rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y project ar ein gwefan, a bydd digonedd o gyfleoedd i chi allu cymryd rhan a Chreu Hanes yn Sain Ffagan. Gobeithio y cewch chi flas ar ddigwyddiadau’r gwanwyn ym mhob un o’n hamgueddfeydd. Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan, yn y llyfrynnau Digwyddiadau unigol yn ein hamgueddfeydd a gallwch gofrestru i gael y diweddaraf trwy ein cylchlythyr e-bost. Pentref Celtaidd Sain Ffagan

Amgueddfa Cymru Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Cylchlythyr: Digwyddiadau ac arddangosfeydd yn ein saith amgueddfeydd. Mawrth - Mehefin 2013.

Citation preview

Page 1: Amgueddfa Cymru Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Sain Ffagan

Amgueddfa CymruCylchlythyr DigwyddiadauMawrth-Mehefin 2013

www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2333

Cymru’r Oes Haearn13 Ebrill, 4 Mai, 8 Mehefin, 20 Gorffennaf

Fel rhan o broject ailddatblygu Sain Ffagan, byddwn yntynnu ein tai crwn Oes Haearn i lawr ac yn adeiladupentref caeedig mewn man arall yn yr Amgueddfa. Bydddehonglydd addysg y Pentref Celtaidd, Ian Daniel, yncynnal cyfres o sgyrsiau yn Gymraeg ac yn Saesneg idrafod yr hyn rydym wedi’i ddysgu yn ystod y degawdau oadeiladu tai crwn yn Sain Ffagan. Bydd yn gofyn a oes lle idechnoleg yr Oes Haearn yn y byd modern ac yn cyflwynosyniadau a chynlluniau ar gyfer Bryn Eryr, ein pentref OesHaearn cyffrous newydd fydd yn seiliedig ar olionarchaeolegol yn Ynys Môn.

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Croeso i dymor newydd sbon o arddangosfeydd a digwyddiadau. Byddwn yncychwyn ein rhaglen newydd gyda dathliadau Dydd Gwyl Dewi ym mhob un o’nhamgueddfeydd, ac mae ein rhaglen ar gyfer gweddill y flwyddyn yn orlawn.

Mae’n fwrlwm o weithgarwch tu ôl i’r llenni hefyd gyda phroject ailddatblyguSain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn dod yn ei flaen yn dda. Mae CronfaDreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu £11.5m i Sain Ffagan tuag at y gwaith oweddnewid yr amgueddfa boblogaidd hon. Byddwn yn ymestyn y llinell amserer mwyn i ymwelwyr allu dilyn straeon am bobl Cymru, o’r brodorion cyntafhyd heddiw a thu hwnt. Gallwch chi barhau i ymweld â’r amgueddfa fel arfer,er y bydd yr arddangosfeydd yn y brif fynedfa ar gau wrth i’r gwaith o greuorielau dan do newydd cyffrous ddechrau. Bydd rhagor o wybodaeth amddatblygiad y project ar ein gwefan, a bydd digonedd o gyfleoedd i chi allucymryd rhan a Chreu Hanes yn Sain Ffagan.

Gobeithio y cewch chi flas ar ddigwyddiadau’r gwanwyn ym mhob un o’nhamgueddfeydd. Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan, yn y llyfrynnauDigwyddiadau unigol yn ein hamgueddfeydd a gallwch gofrestru i gael ydiweddaraf trwy ein cylchlythyr e-bost.

Pentref Celtaidd Sain Ffagan

Page 2: Amgueddfa Cymru Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Galwch draw i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru’rgwanwyn hwn. Ar ddydd Sadwrn 3 Mawrth, byddwn yndathlu Dydd Gwyl Dewi gyda chyfle i bawb roi tro arweithgareddau Cymreig, neu ar ddydd Sul 10 Mawrth,bydd cyfle i greu sebon yn anrheg arbennig ar gyfer Sul y Mamau.

I deuluoedd, beth am greu tatwLladin (dros dro wrth gwrs!) fel rhano’n gweithgareddau Pasg, neugeisio curo’n cwningen i ddod o hydi’r siocled ar ddydd Gwener 29Mawrth-Sul 7 Ebrill.

Ar ddydd Sadwrn 23 a Sul 24 Mawrth, paratowch i wlychuwrth i ni arbrofi gyda dulliau’r Rhufeiniaid o gludo dwr ynGwisgwch eich Welis! Neu beth am geisio datrys yLlofruddiaeth Llwfr yn ystod hanner tymor Llun 27-Gwener 31 Mai.

Efallai y bydd ein sgwrs ar ganfyddiadau newydd CaerRufeinig Aberhonddu, dydd Iau 14 Mawrth, at ddantoedolion, neu beth am ein harddangosiad Saethyddiaeth,Sadwrn 18 Mai. Dewch i roi tro ar rywbeth newydd gyda’rhyfforddiant Gladiator neu goginio Rhufeinig ar ddyddSadwrn 11-Sul 12 Mai. Ac yn olaf, Bwytewch, Yfwch aByddwch Lawen ar ddydd Llun Gwyl y Banc 6 Mai, wrth ini ddathlu mewn steil, steil Rufeinig wrth gwrs!

Rhufeinig

Big Pit

Eleni, bydd Big Pit yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 gydallond trol o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennigdrwy gydol y flwyddyn. Ers agor ym 1983, rydyn ni wedicroesawu dros 3.5 miliwn o ymwelwyr, felly galwch draw iymuno â’r dathlu!

Bydd Helfa Wyau Pasg ychydig yn wahanol ar ddydd Llun25 Mawrth-Sul 7 Ebrill yn ein Llwybr 30. Dewch i chwilioam y 30 wy Pasg a dysgu 30 o ffeithiau difyr am Big Pit.

Ym mis Ebrill, bydd arddangosfa newydd yn agor, HenGreiriau Bach a Pheiriannau Diwydiannol wedi Darfod,sef arddangosfa deithiol fydd yn ystyried diwedd ydiwydiant trwm yng Nghymru a datblygiad yr ‘amgueddfaddiwydiannol’.

Ar ddydd Sadwrn 6 Ebrill, 2pm, cynhelir ein DarlithFlynyddol sef Mab y Glöwr: Richard Burton aThreftadaeth Mwyngloddio gan Dr Chris Williams,Prifysgol Abertawe.

Byddwn yn dathlu traddodiadau Calan Mai hefyd gydagweithdai creu bedwen Fai fach neu dorch mis Mairhwng dydd Llun 27 Mai a Sul 2 Mehefin. Os hoffech chiddod yn nes at natur,galwch draw i DitectifsByd Natur: Teuluoedd arddydd Mawrth 28 Mai idroedio Tomen Coety,chwilio am fwystfilodbach a rhoi tro ar drochirhwydi. Rhaid archebuymlaen llaw.

Rydyn ni’n edrych ymlaenat eich croesawu ac yngobeithio y gallwch chiein helpu i ddathlu pen-blwyddi’w chofio!

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Yn ystod gwanwyn 2013, byddwn yn lansio rhaglen celfgyfoes newydd a noddir gan Ymddiriedolaeth ElusennolColwinston. Cynhelir yr arddangosfa fawr Pop aHaniaethol, o ddydd Sadwrn 9 Mawrth, yn yr orielau celfgyfoes a bydd yn cynnwys artistiaid megis Bridget Riley,David Hockney, Pablo Picasso, Ernest Zobole a BenNicholson. Bydd gosodwaith ffotograffig newydd sbon ganHolly Davey hefyd.

O ddydd Sadwrn 9 Mawrth, bydd Tim Davies, un oartistiaid cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru, yn dangos Drift –fideo a grëwyd ganddo i gynrychioli Cymru yn BiennaleFenis 2011. O ddydd Sadwrn 6 Ebrill, bydd Julian Stair, uno’r ceramegyddion uchaf ei fri yn y byd, yn arddangos eigasgliad o lestri angladdol ceramig. Cynhelir sgyrsiau ar yddwy arddangosfa ym mis Mai.

Ydych chi erioed wedi gofyn, o ble yn union y daw einbwyd? Ydy’r hyn rydyn ni’n ei fwyta wir yn bwysig? Osfelly, dewch i arddangosfa Bîns ar Dost, Sadwrn 25 Mai-Sul 29 Medi, i weld taith llysiau, codlysiau a grawn o’rpridd i’r plât fel rhan o Wyl Ecoleg Cymdeithas Ecoleg Prydain.

Cofiwch hefyd am ein rhaglen lawn o deithiau tu ôl i’rllenni, sgyrsiau amser cinio a gweithgareddau i deuluoedd,o ddiwrnodau serydda i sesiynau celf, ac o weithdaiffosilau i gyngor ar yrfa ym myd ffasiwn. C

aerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Big Pit

Ken Elias, Dyddiau yw ble rydyn ni’n byw, 1968-69 (casgliad Prifysgol Morgannwg)© yr artist.

Page 3: Amgueddfa Cymru Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Bydd gweithgareddau’r Pasg yn cychwyn rhaglen y Gwanwyn a’r Haf oweithgareddau i deuluoedd. Dewch i roi tro ar Lwybr y Pasg fydd yn eich arwainbob cam trwy hen weithdai’r chwarel a chreu crefft y Pasg i fynd adre gyda chi arddydd Mercher 27-Iau 28 Mawrth. Yna byddwn ni’n codi stêm ac yn anelu amHaf o Lechen ble bydd digonedd o gyfleoedd i wisgo ffasiynau’r oes a fu yn nhai’rchwarelwyr, rhoi tro ar y Cert Celf, neu greu patrymau perffaith ym mlwch tywody ffowndri. Bydd ein sgyrsiau a theithiau arferol yn ôl hefyd, gan gynnwys Sgwrsy Saer a Cyfarfod â’r Curadur yn y llofft patrymau a bydd sgwrs newydd ar gael,Llifio a Thradlo, sy’n esbonio mwy am rai o’r peiriannau gwreiddiol ar y safle.

Bydd dwy arddangosfa newydd ar eich cyfer hefyd y tymor hwn, John NevilleFoulkes fydd i’w gweld tan ddydd Sul 30 Mehefin a Worktown – LluniadauFalcon Hildred fydd i’w gweld rhwng dydd Llun 22 Gorffennaf 2013 a dydd Llun6 Ionawr 2014.

Byddwn yn cychwyn 2013 gyda llond lle o weithdai, arddangosfeydd adigwyddiadau.

Ar ddydd Sadwrn 2 Mawrth, cynhelir Diwrnod Hwyl i’r Teulu i ddathlu DyddGwyl Dewi gyda gemau, gweithgareddau a chystadlaethau i bawb. Ar ddyddSadwrn 23 Mawrth, byddwn yn croesawu’r Ffair Werdd boblogaidd yn ôl elenieto. Bydd gwybodaeth am ailgylchu, arbed ynni a byw’n wyrdd, a bydd stondinau,gwasanaethau, gwybodaeth a chyfle i gyfnewid hadau. Ar ddydd Sadwrn 11 Mai,byddwn yn cynnal Ffair Grefftau fydd yn arddangos y gorau o grefftau, celf athecstilau lleol.

Bob mis, bydd cyfle i feithrin sgiliau newydd yn ein sesiynau Gwneud a Thrwsiopoblogaidd. Ym mis Chwefror, byddwn yn dechrau gyda Cardiau ac Amlenni, acyna Crefftau Oelcloth, Pincysau, Blychau Storio a Bagiau a Labeli Rhodd. Arthema wlanog, bydd gweithdai newydd y tymor hwn yn cynnwys uwchgylchu,crosio i ddechreuwyr a gweithdy lliwio naturiol.

Bydd y brif arddangosfa yn Dre-fach eleni yn arddangos gweuwaith gwych ydylunydd tecstilau o fri rhyngwladol, Kaffe Fassett, fydd yn agor ar ddyddGwener 8 Mawrth ac i’w gweld tan fis Tachwedd. Mae’r artist yn enwog am eiddyluniau lliwgar ym myd y celfyddydau addurnol, ac mae’r arddangosfa’n siwr ofod yn dipyn o sioe. Cynhelir yr arddangosfa hon ar y cyd ag arddangosfa o’igwiltiau clytwaith yng Nghanolfan y Cwilt Cymreig, Llambed(www.welshquilts.com).

Llechi

Gwlân

Amgueddfa Wlân Cymru

Bydd rhywbeth at ddant pawb yn rhaglenddigwyddiadau newydd AmgueddfaGenedlaethol y Glannau sy’n llawndigwyddiadau, ffilmiau, sgyrsiau acarddangosfeydd cyffrous.

Dewch i ddathlu’r Pasg gyda’r HetiwrGwallgof mewn diwrnod llawn hwyl i’rteulu cyfan ar thema Alys yng NgwladHud ar ddydd Gwener 29 Mawrth. Neubeth am gael gair o gyngor gan ycyflwynydd teledu James Wong,botanegydd sydd am gychwyn chwyldroyn ein gerddi gyda’i sgwrs ar ddydd Sul 7 Ebrill.

Yn Nhrysorfa ‘Vintage’ a Gwaith LlawMis Mai bydd llond lle o ddillad ac

ategolion ffasiynol ar werth ar ddyddSadwrn 4 Mai neu beth am ddod i GreuBlwch Offer gyda Dad i ddathlu Sul yTadau, dydd Sadwrn 15-Sul 16 Mehefin.

Rhwng hyn oll a’r dathliadau rygbi,teithiau cerdded o gwmpas y ddinas,sgyrsiau hanes, ffilmiau poblogaidd allond lle o grefftau ymarferol, bydd ynwanwyn i’w chofio!

I gael manylion digwyddiadau eraill misMawrth – Mehefin, ewch iwww.amgueddfacymru.ac.uk

Y Glannau

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Lechi Cymru

John Neville Foulkes, Chwarelwr.

Gweuwaith Kaffe Fassett

James Wong

Page 4: Amgueddfa Cymru Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Roasmund Deg gan Dante Gabriel Rossetti yw un o’n paentiadau mwyaf poblogaidd. Gan gymryd einhysbrydoliaeth o’r gwaith addurnol hwn, rydym wedi datblygu casgliad newydd o emwaith hardd. Mae’r dylunyddCymreig Kate Dumbleton wedi defnyddio aur, pres a gleiniau carnelian i greu’r casgliad hwn o glustdlysau, mwclisa broetshis ar thema rhosod yn arbennig ar gyfer Amgueddfa Cymru. Maent ar gael yn Amgueddfa GenedlaetholCaerdydd neu ar-lein ar www.amgueddfacymru.ac.uk/siop. Mae pob pryniad yn cefnogi gwaith Amgueddfa Cymru.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer cylchlythyry siop ac ymweld â’n tudalennauFacebook a Twitter amnewyddion a chynnyrch newyddym mhob un o’n siopau, gangynnwys cynigion arbennig.

Artes MundiColeg Brenhinol Cerdd aDrama Cymru Cronfa Dreftadaeth y LoteriCwpanAurCyfeillion Amgueddfa CymruCyngor Celfyddydau Cymru

Cyngor Dinas Casnewydd Cymdeithas GwestywyrCaerdyddDinas a Sir CaerdyddLlywodraeth Cymru Noddwyr Amgueddfa CymruPrifysgol Caerdydd

Sefydliad Clore DuffieldSefydliad Charles HaywardSefydliad Esmée Fairbairn Sefydliad Foyle Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Paul Hamlyn Sefydliad Wolfson

Setliad Elusennol G C Gibson WestcoWDS Green EnergyY Gronfa GelfYmddiriedolaeth AureliusYmddiriedolaeth CerddoriaethSiambr Cavatina

Ymddiriedolaeth DerekWilliams Ymddiriedolaeth Edina Ymddiriedolaeth ElusennolColwinstonYmddiriedolaeth Leverhulme

Siop

Oriel y Parc

Mae Amgueddfa Cymru yn ddiolchgar am gefnogaeth y busnesau a’r cyrff canlynol:

Oriel dirluniau o safonryngwladol yw Oriel y Parcsydd yng NghanolfanYmwelwyr y ParcCenedlaethol yn Nhyddewi.Mae’n bartneriaeth rhwngAmgueddfa Cymru acAwdurdod ParcCenedlaethol ArfordirPenfro. Ei nod yw dehonglitirwedd Sir Benfro, Cymru athu hwnt drwy gasgliadauamrywiol AmgueddfaCymru, a chasgliad GrahamSutherland yn benodol.

Ar ddydd Sadwrn 16Mawrth, bydd arddangosfanewydd yn agor, BwrwGwreiddiau: Sutherlanda’r Dirwedd Ramantaidd.Cafodd y lleoliadau y buGraham Sutherland (1903-1980) yn gweithio ynddynteffaith ddwys arno. Yn ystod y 1930au, datblygodd eiddull unigryw ei hun o gynrychioli tirwedd Sir Benfro, adaeth yn ffigwr blaenllaw yn y mudiad neoramantaiddddaeth i’r amlwg yng nghelf Prydain yn ystod yr AilRyfel Byd.

Mae’r arddangosfa hon yn dangos casgliad o waith ganSutherland a’i gyfoedion, gan gynnwys John Piper aPaul Nash, darnau cynharach gan William Blake aSamuel Palmer, a gwaith ffilm cyfoes sy’n adlewyrchuagweddau ar y traddodiad Rhamantaidd. Bydd BwrwGwreiddiau i’w gweld tan ddydd Llun 8 Gorffennaf.

Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc

Dyl

un

io a

ch

ynh

yrch

u g

an M

ediades

ign w

ww.m

ediades

ign-w

ales

.co.uk 018

74 730

748

Graham Sutherland, Tirlun Sir Benfro, 1935 © Ystâd Graham Sutherland.