12
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Y Gaeaf Tachwedd 2012-Chwefror 2013 Digwyddiadau www.amgueddfacymru.ac.uk (029) 2057 3600 Peidiwch â cholli Diwrnod Hwyl yr Ŵyl Sad 8 Rhag © Los Kaos

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Tach 2012 - Chwe 2013: Digwyddiadau / Arddangosfeydd

Citation preview

Page 1: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Y GaeafTachwedd 2012-Chwefror 2013

Digwyddiadau

www.amgueddfacymru.ac.uk(029) 2057 3600

Peidiwch â cholli

Diwrnod

Hwyl yr Ŵyl

Sad 8 Rhag

© Los Kaos

Page 2: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Animeiddio, hwyl yr wyl a syllu ar y sêr…Mae’r gaeaf ar gyrraedd a gwynt y gogleddyn dechrau cnoi, ond yma yn AmgueddfaGenedlaethol y Glannau bydd rhywbeth atddant pawb yn ein rhaglen o ddigwyddiadaucyffrous, llawn dychymyg.

Mae animeiddio yn thema bwysig y tymorhwn, gydag arddangosfa chwe mis i’wgweld rhwng dydd Sadwrn 13 Hydref aSul 17 Mawrth. Bydd digonedd oddigwyddiadau i deuluoedd yn ogystal âsgyrsiau a chyflwyniadau.

Ym mis Rhagfyr, y Nadolig fydd yn mynd â’nbryd – ac ymwelydd arbennig sy’n siwr o’chsyfrdanu! Ar ddydd Sadwrn 8 Rhagfyr,bydd arth wen animatronig maint iawn ynymuno â ni ar gyfer Diwrnod Hwyl yr Wyl.

Gyda dyfodiad y flwyddyn newydd, byddcyfle i serydda yn ein Noson o Wylio'r Sêrar ddydd Gwener 18 Ionawr. Ar yr unnoson, byddwn yn dangos SPACE STATION,y ffilm IMAX 3D gyntaf i’ch cludo 220 ofilltiroedd uwch y ddaear ar gyflymdra o17,400 milltir yr awr i’r orsaf ofod ryngwladol!

Trywydd TrydarBydd angen smartphone, iPod touch neu gyfrifiadurllechen arnoch chi a chyfrifTwitter byw.

Dilynwch eich trwyn o amgylch yr orielaugan ddatrys cliwiau ar y ffordd! Casglwchfanylion yn y dderbynfa wrth gyrraedd.

Diod boeth AM DDIM wrth brynu unrhyw gacen neu grwst. Cynnig yn ddilys tan 28 Chwefror 2013.

Llenwch y daleb er mwyn ei defnyddio

Cod post: _______________

Dewch i dwymo yng Nghaffi’r Glannau

Un daleb i bob personar bob ymweliad

Wedi mwynhau’chymweliad?Dywedwch wrth y byd trwy wefan Trip Advisor!Ewch i www.trip.advisor.co.uk neuddefnyddio’r ddolen ar ein gwefan.www.amgueddfacymru.ac.uk/abertawe

2 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk (029) 2057 3600

Page 3: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

AnimeiddioCymru Tan ddydd Sul 17 Mawrth Ymunwch â chymeriadaubron i 90 mlynedd oanimeiddio yng Nghymru adysgu am y technegau addefnyddir i ddod âdelweddau llonydd yn fyw.Mae’r arddangosfaymarferol yn bartner iarddangosfa yn AmgueddfaGenedlaethol Caerdydd acar-lein, ewch iwww.amgueddfacymru.ac.uk

Gwobr BrynuRichard aRosemaryWakelinSul 4 Tachwedd-Sul 9 RhagfyrBob blwyddyn, dyfernir ywobr hon i artist Cymreig achaiff ei waith ei brynu argyfer Casgliad Parhaol OrielGelf Glynn Vivian. Gan fodyr Oriel ar gau ar hyn o brydar gyfer gwaith ailwampio,cynhelir y digwyddiad eleniyn yr Amgueddfa.

Llong GanoloesolCasnewydd Sadwrn 17 Tachwedd-Sul 16 Rhagfyr

Cafodd llong Casnewydd,sydd 100 mlynedd yn hynna’r Mary Rose, eidarganfod wrth adeiladutheatr Riverside ar lannau’rWysg yng Nghasnewydd.Bydd yr arddangosfadeithiol hon yn adroddhanes y llong a’i darganfod.

ArddangosfaNadoligaidd YsgolPen-y-brynSadwrn 24 Tachwedd-Sul 6 IonawrGolygfa o stryd Fictoraiddyn llawn pypedau arbennigsy’n canu carolau.Adeiladwyd gan ddisgyblionYsgol Pen-y-bryn.

Treilliwch ynLlawen! CasgliadMolysgiaid JeffreysSadwrn 15 Rhagfyr-Sul 7 Ebrill

John Gwyn Jeffreys,cyfreithiwr o Abertawe, oeddun o naturiaethwyr mwyafamlwg y 19eg ganrif. Maeei waith ymchwil i folysgiaidPrydain a’i gasgliad helaeth ogregyn yn sail hyd heddiw iwaith gwyddonwyr yn ymaes. Dysgwch am ei fywyda’i waith yn yr arddangosfahon gan Adran FioamrywiaethAmgueddfa Cymru.

Gwledd y Gaeafar y GlannauGwener 16 Tachwedd-Sul 6 IonawrMae’r Wledd yn ôl! Byddsglefrio iâ ar lawr sglefrioAdmiral, Olwyn FawrChiquitos, bwyd Nadoligaiddac Ogof Siôn Corn. Rhan oNadolig Abertawe. (01792) 637300www.nadoligabertawe.com

3

ArddangosfeyddBob

dydd10am-5pm

Chwiliwch am y bathodynyma fydd yn dangos holl ddigwyddiadauAnimeiddio Cymru.

Page 4: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Sadwrn 3 Tachwedd

Gwneud a Thrwsio:Cadw’n Gynnesdros y GaeafDewch i greu gorchuddpotel dwr poeth o hensiwmperi gwlanog, arhimynnau drafft o henddarnau o ffabrig.

Darperir deunyddiau, £5 ypen (archebwch o Llun 8Hydref)

1.30pm

Sadwrn 3 a Sul 4 Tachwedd

Animeiddio Fesul Ffrâm –Defnyddio'n Cyrff Defnyddio’n cyrff a thynnulluniau er mwyn creuanimeiddiad fesul ffrâm byr.

11.30am a 2.30pm

Sadwrn 3 a Sul 4 Tachwedd

AddurniadauDiwali Galwch draw i greu addurnhardd ar gyfer eich ty iddathlu Diwali – gwylHindwaidd y Golau.

12pm-3pm

Sadwrn 10 Tachwedd

GwyddoniaethStryd:Caleidosgopau

Dewch i greu eichcaleidosgop eich hun fyddyn creu gwahanol batrymaulliwgar wrth i chi ei droi.

12.30pm a 2.30pm

Sadwrn 10 Tachwedd

Taith Iaith:Taith y Dysgwyr Ffordd wych o ychwanegugeiriau newydd at eich geirfaa magu hyder wrth sgwrsio.Paned am ddim i ddilyn.

10.30am

Sadwrn 10 Tachwedd

Alawon ein GwladYmunwch â’r cerddor HelenAdam am sesiwn gyfeillgarac anffurfiol o ddysgu achwarae alawon Cymreigtraddodiadol.

2pm-3.30pm

Sadwrn 10 Tachwedd

Y Wasg ArgraffuDewch i roi tro ar greucardiau Nadolig ganddefnyddio ein gwasgargraffu o’r 19eg ganrif. 10.30am a 2pm

Sul 11 Tachwedd

Ffilmiau Misol yn yrAmgueddfaUnder Milk Wood (U 1992)

Animeiddiad hyfryd gydaRichard Burton yn adrodd ystori. Dyma hanes diwrnodmewn pentref pysgota bachyng Nghymru.

2.30pm

Sul 11 Tachwedd

Cyfarfod â’rCynhyrchydd: Under Milk WoodYmunwch â’r cynhyrchyddRobin Lyons fydd yn rhannuei brofiad o greu fersiwn 50-munud wedi’i hanimeiddio oglasur Dylan Thomas.

2.30pm

Tachwedd

4 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk (029) 2057 3600

Oed 8+

Oed 8+

Oed7-12

Page 5: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Sadwrn 17 Tachwedd

Bywyd ar y FfinSgwrs gan yr Athro DavidHowell, Prifysgol Abertawe,am ryfeloedd tiroedd CeltaiddPrydain y 19eg ganrif.

11am

Sadwrn 17 Tachwedd

Ffair Hanes Teulua Hanes LleolCyfle i holi i gymdeithasau asefydliadau am hanes eichteulu neu hanes lleol, neueich ysbrydoli i fentro i’r maes.

10am-4pm

Sadwrn 17 a Sul 18 Tachwedd

Animeiddio Fesul Ffrâm –Defnyddio ClaiCyfle i greu eich cymeriadcartwn eich hun o glai a’i animeiddio ganddefnyddio’r un dull âWallace and Gromit.

11.30am a 2.30pm

Sadwrn 24 a Sul 25 Tachwedd

Ffair Werdd Syniadau, cyngor acanrhegion ar gyfer dathluNadolig gwirioneddol wyrdd.

10am-4pm

Gwener 30 Tachwedd-Sul 2 Rhagfyr

Ffair WydrNadoligaiddO addurniadau bach i weithiaumwy, dyma ystod eang owaith gwydr a ddyluniwydgan fyfyrwyr Ysgol GwydrPensaernïol Cymru, PrifysgolFetropolitan Abertawe.

10am-4pm

Gwener 30 Tachwedd

Plantos yGlannau:CartwnauChwarae a dysgu thematig argyfer plant dan 5 oed.

10.30am-12.30pm a1.30pm-3.30pm

Gwener 30 Tachwedd

Noson Blasu GwinGwinoedd Languedoc-Rousillon, cerddoriaeth o'rardal a mapiau.

£10/£8 gostyngiadau

7pm

Am ddim Teuluoedd Oedolion Ymarferol Sgwrs Rhaid archebu lle Animeiddio 5

Oed 7+

Cofiwch hefyd

archebu eich

Parti Nadolig yn yr

Amgueddfa o £18 y pen

Ffoniwch (029) 2057 3600

am fanylion

Page 6: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Sadwrn 1 Rhagfyr

Gwneud a Thrwsio:Gwydrau dalCannwyllNadoligaiddDathlu’r Nadolig trwyaddurno gwydrau i ddalcanhwyllau bach.

Darperir deunyddiau, £5 ypen (archebwch o Llun 5Tachwedd)

1.30pm

Sadwrn 1 Rhagfyr

GweithdyGleiniau FfeltYmunwch â staff AmgueddfaWlân Cymru i greu gleiniauffelt hardd ar gyfer breichled,mwclis neu addurn Nadolig.

11am (oedolion)2pm (teuluoedd, oed 8+)

Sul 2 Rhagfyr

Ffilm Nadoligaidd The GoldenCompass (PG, 2007)Mewn bydysawd cyfochrog,mae Lyra Belacqua a’ichyfaill, arth wen fawreddog,ar daith i’r Gogledd pell iachub ei ffrind gorau.

2pm

Sadwrn 8 Rhagfyr

Taith Iaith: Taith y Dysgwyr Ffordd wych o ychwanegugeiriau newydd at eich geirfaa magu hyder wrth sgwrsio.Paned am ddim i ddilyn.

10.30am

Sadwrn 8 Rhagfyr

Diwrnod o Hwylyr Wyl Dewch i gael eich syfrdanugan arth wen animatronigmaint llawn a’i chyfaill Inuito Begwn y Gogledd. Byddcrefftau i blant, carolau ogwmpas y goeden acymweliad gan Siôn Corn.

11.30am-4pm

Sadwrn 8 Rhagfyr

GwyddoniaethStryd: Hwyl yr Wyl Golwg newydd ar rai o’nhoff bethau am y Nadoligtrwy lygaid gwyddonol.

12pm-3.30pm

Sadwrn 8 Rhagfyr

Anelu am y SêrYmunwch â’r awdurAndrew Lound am gipolwgar y posibiliadau newyddym maes teithio’r gofod.

2pm

Sul 9 Rhagfyr

Cardiau Nadolig 3DCreu cerdyn Nadolig 3D.

12pm-3pm

Sul 9 Rhagfyr

Carolau ClychauLlawGwedd newydd ar garolautraddodiadol gyda grwp 44Cenawon Sgowtiaid y Sgeti.

1.15pm

Oed 7-12

Rhagfyr

6 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk (029) 2057 3600

Page 7: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Sul 9 Rhagfyr

Ffilm Nadoligaidd Nadolig Plentyn yngNghymru (U 2009)

Cyfle i ddianc rhag bwrlwmyr wyl a gwylio clasurhyfryd Dylan Thomas gydachyflwyniad gan MichaelJeffrey, cynhyrchydd y ffilmac enillydd gwobrau BAFTA.

2pm (Saesneg) 3pm (Cymraeg)

Sul 9 Rhagfyr

Cyfarfod â’rCynhyrchyddNadolig Plentynyng NghymruDewch i gwrdd â’rcynhyrchydd sydd wediennill gwobr BAFTA, MichaelJeffrey, o gwmni BraveNew World Productions iglywed am greu’r ffilm – o’rgolygfeydd agoriadol ardraeth Abertawe i’rseremonïau gwobrwyo.2pm

Llun 10 Rhagfyr

Parti Nadolig i’rPlantos Straeon gyda Santa, crefftau,canu yn Gymraeg acymweliad gan gorachod hud.

10.30am-12.30pm

Mawrth 11 Rhagfyr

O Dawel Nos iDechnoleg HeddiwYmunwch â ni i glywedhanes hudolus technoleg a’iheffaith syfrdanol ar einffyrdd o greu synau, eurecordio a’u newid.Archebwch eich lle ar

http://itwalesbcsxmaslecture.eventbrite.com

7pm

Iau 13 Rhagfyr

Noson Gwis Nadoligaiddyr AmgueddfaDewch at eich gilydd igystadlu yn y rowndiaucerddoriaeth, lluniau,gwybodaeth gyffredinol,gwrthrych cudd a hyd ynoed rownd arogli!

Tocynnau: £3.50 ymlaenllaw, £5 ar y noson (gangynnwys gwydraid o win ygaeaf a danteithion). Byddbar (rhaid talu) ar gael hefyd.

7pm

Sadwrn 15 Rhagfyr

Nadolig y DadeniSgwrs gan Dr John Law,Prifysgol Abertawe, amgynrychioliad artistiaiddiwedd y canoloesoedd adechrau’r Dadeni yn yrEidal, a’r rheini o’r IseldiroeddBwrgwynaidd, o Wyl y Geni.

11am

Sadwrn 15 Rhagfyr

Hanes Protesttrwy gyfrwngCardiau NadoligSgwrs gan Mr Llew Smith,cyn-aelod seneddol BlaenauGwent a pherchennogcasgliad mwyaf y byd ogardiau Nadolig gwleidyddol.12.30pm

Sadwrn 15 Rhagfyr

Ffilm Nadoligaidd Muppets ChristmasCarol (U 1992)

Cymeriadau’r Muppets yneu fersiwn nhw o’r henchwedl Nadoligaidd.

2.30pm

Sul 16 Rhagfyr

FfilmiauNadoligaiddThe Snowman (U 1982) a

Father Christmas (U 1991)

Dau o glasuron animeiddioRaymond Briggs.

3pm (26 munud yr un)

Gwener 21 Rhagfyr

Plantos y Glannau:Hwyl yr Wyl Chwarae a dysgu thematigar gyfer plant dan 5 oed.

10.30am a 1.30pm

NEWYDD

YN 2012

Am ddim Teuluoedd Oedolion Ymarferol Sgwrs Rhaid archebu lle Animeiddio 7

Page 8: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Sul 23 Rhagfyr

Ffilm Nadoligaidd Miracle on 34th Street (U 1947)

Clasur o ffilm Nadoligaiddac enillydd yng ngwobrau’rOscars.2.30pm

Iau 27 – Llun 31 Rhagfyr

Calendr Parhaus 3DDewch draw i greu calendrparhaus 3D.1pm-3.30pm

Sadwrn 5 Ionawr

Gwneud a Thrwsio:Bwydo’r AdarCreu bwyd blasus llawnmaeth ar gyfer ein cyfeillionyn yr ardd – pelenni braster,cnau ar linyn a phlethdorchauhardd bwytadwy. Darperirdeunyddiau, £5 y pen(archebwch o Llun 3 Rhagfyr)

1.30pm

Sadwrn 12 Ionawr

Taith Iaith: Taith y Dysgwyr Ffordd wych o ychwanegugeiriau newydd at eich geirfaa magu hyder wrth sgwrsio.Paned am ddim i ddilyn.10.30am

Sadwrn 12 a Sul 13 Ionawr

Animeiddio 2D – torri allan Creu cymeriad gwyllt ganddefnyddio deunyddiaucollage, yna’i weld yn dodyn fyw trwy animeiddio.11.30am a 2.30pm

Sul 13 Ionawr

Ffilmiau Misol yn yrAmgueddfa Fantastic Mr Fox(PG 2009)

Hanes llwynog trefol sy’n ysuam gael dychwelyd i ddyddiauda’r wlad. Ond daw eigymuned dan warchae wrthi’r ffermwyr frwydro nôl.

2.30pm

Gwener 18 Ionawr

Noson o Wylio'r SêrYmunwch â ChymdeithasSeryddol Abertawe i wylio’rsêr a dysgu sut maedefnyddio telesgop. Byddcrefftau i blant a dangosiadarbennig o ffilm 3D hefyd.

7pm

Gwener 18 Ionawr

SPACE STATION 3D (U 2002)

Y daith sinematig gyntaf i’rOrsaf Ofod Ryngwladol achyfle i’r gynulleidfa brofibywyd heb ddisgyrchiant aryr orsaf newydd.

8pm

Sadwrn 19 Ionawr

Syr William Jonesyng NgorllewinCymruSgwrs gan yr Athro MikeFranklin, PrifysgolAbertawe, am Syr WilliamJones, un o fawriondeallusol ein hanes.

11am

Ionawr

Oed7+

8 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk (029) 2057 3600

Page 9: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Sadwrn 19 Ionawr

Animeiddio TurnipStarfish Ymunwch â’ranimeiddwyr uchel eu bri,Turnip Starfish, i greu eichanimeiddiad byr eich hun.Dysgwch am y technegau addefnyddir ar Wallace andGromit neu South Park.

11am (oed 10-13)2pm (oed 13+)

Sadwrn 19 a Sul 20 Ionawr

GwyddoniaethStryd: Sut mae3D yn gweithio? Defnyddio technegau 3D igreu tegan stereosgop.

12.30pm a 2.30pm

Sul 20 Ionawr

Ffilm 3D UP (U 2009)

Mae sinema 3D yn rhoigwedd gwbl newydd aradloniant i’r teulu – dewch iroi cynnig arni a mwynhau’rffilm antur ddoniol hon.

2.30pm

Gwener 25 Ionawr

Plantos y Glannau: Cariad a SantesDwynwen Chwarae a dysgu thematigar gyfer plant dan 5 oed.

10.30am-12.30pm a1.30pm-3.30pm

Sadwrn 26 Ionawr

Dathlu SantesDwynwen ar y SadwrnDewch i ddathlu nawddsantcariadon Cymru gydadiwrnod rhamantaidd olwyau caru, adrodd straeona cherddoriaeth gan ydelynores a chantoresGeorgia Ruth Williams.

12pm-4pm

Sul 27 Ionawr

Jerry The Tyke:Sgwrs a DangosiadCyfle i weld Jerry TheTroublesome Tyke – y cidrygionus a grëwyd yn y1920au gan yr animeiddiwro Gaerdydd Sid Griffiths – ary sgrin fawr gyda chyfeiliantgan y pianydd ffilmiau mud,Paul Shallcross. Yna byddPaul yn ymuno â Iola Bainesa John Reed o Archif Sgrina Sain Cymru i adrodd hanesdarganfod Jerry a’i adfer.

2pm

Am ddim Teuluoedd Oedolion Ymarferol Sgwrs Rhaid archebu lle Animeiddio

Oed7-12

9

© British Pathé

Page 10: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Sadwrn 2 Chwefror

Gwneud a Thrwsio:Cardiau ac AmlenniCreu cardiau ac amlennihardd o hen bapur wal,llyfrau a phapurau newydda’u haddurno gyda stampiaurwber a hen emwaith.

Darperir deunyddiau, £5 ypen (archebwch o Llun 7Ionawr)

1.30pm

Sul 3 Chwefror

Igam Ogam:Cyfarfod â’rCynhyrchydd

Ymunwch â ni am gyfle iweld Igam Ogam, y gyfresanimeiddio fesul ffrâmboblogaidd, ar y sgrin fawr achyfarfod â’r gwr a greodd ygyfres, Andrew Offiler. Byddyn sgwrsio am wreiddiau’rgyfres am y ferch o’r ogof,ac yn trafod y daith o’rstiwdio i sgrin y teledu.

2pm

Sadwrn 9 Chwefror

Taith Iaith: Taith y Dysgwyr Ffordd wych o ychwanegugeiriau newydd at eich geirfaa magu hyder wrth sgwrsio.Paned am ddim i ddilyn.10.30am

Sadwrn 9 Chwefror

GwyddoniaethStryd: Malwoddan y Microsgop Dewch i weld sbesimenaumalwod dan y chwyddwydra rhoi tro ar greu patrwmhelics tebyg i’r rhai yngnghregyn y malwod.

12.30pm-3.30pm

Sadwrn 9 a Sul 10 Chwefror

Ymweliad yrYmlusgiaid

Eleni yw blwyddyn Tsieineaiddy neidr! Ymunwch â ni igroesawu ystod eang oymlusgiaid byw a dysgu lluo ffeithiau diddorol.

1-3pm

Sul 10 Chwefror

Dathlu’rFlwyddynNewyddTsieineaiddDewch i groesawuBlwyddyn y Neidr gyda ni gyda cherddoriaeth,perfformiadau, crefftau adawns y Ddraig Tsieineaidd. 11am-4.30pm

Sul 10 Chwefror

Ffilmiau Misol yn yr Amgueddfa Mulan (U 1998)

Animeiddiad o stori werinTsieineaidd.

2.30pm

Llun 11-Gwener 15 Chwefror

ZoetropauHanfodion y dechneg oesol hon o animeiddio sy’n defnyddio techneg ailadrodd 12 ffrâm.

11.30am a 2.30pm

Chwefror

HannerTymor

Oed7+

© Calon/S4C/C5 a ZDF

10 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk (029) 2057 3600

Page 11: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

Llun 11-Gwener15 Chwefror

Thaumotropau aPhenakistosgopauHaws gwneud na dweud!Ymunwch â ni i roi tro argreu’r teganau animeiddiocynnar hyn.

12pm-3.30pm

Sadwrn 16 Chwefror

Agweddau arAmddiffyn yngNghymru’r 14eg Ganrif Sgwrs gan Dr John Alban,Archifydd Sirol Norfolk acUwch-ddarlithyddAnrhydeddus Ysgol Hanes,Prifysgol East Anglia.

11am

Sadwrn 16 a Sul 17 Chwefror

Animeiddio Turnip StarfishDysgwch am animeiddio fesul ffrâm a 2Dcyn dylunio ac animeiddio’chcymeriad eich hun acychwanegu sain.

11am a 2pm

Sul 17 Chwefror

Rastamouse:Cyfarfod â’rCynhyrchydd Ymunwch â Greg Boardman,y cynhyrchydd uchel ei fri argyfer dangosiad arbennig o’rgyfres deledu boblogaidd arhannu ei syniadau ef amapêl y llygoden gerddorol.

2pm

Sul 17 Chwefror

SuperTed:Cyfarfod â’r Cynhyrchydd Robin Lyons yw un o’r animeiddwyr uchaf ei barch ymMhrydain. Ymunwch â ni i glywed ei hanesionam ysgrifennu’r gyfresanimeiddio fyd-enwog,SuperTed, a chyfrinachau ei chynhyrchu.

3pm

Gwener 22 Chwefror

Plantos y Glannau:TraddodiadauCymreigChwarae a dysgu thematig argyfer plant dan 5 oed.

10.30am a 1.30pm

Sadwrn 2 a Sul 3 Mawrth

PenwythnosDydd Gwyl Dewi

Dewch i ddathlu nawddsantCymru a mwynhaupenwythnos Cymreig.

11am-4pm

HannerTymor

HannerTymor

HannerTymor

Am ddim Teuluoedd Oedolion Ymarferol Sgwrs Rhaid archebu lle Animeiddio

Sadwrn 16 a Sul 17 Chwefror

Animeiddio Turnip Starfish Defnyddio rig ac offerarbenigol gyda’r cwmnianimeiddio proffesiynol,Turnip Starfish.11am-4pm

11

HannerTymor

HannerTymor

© The Rastamouse Company Ltd

Page 12: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Hydref Gaeaf 2012-13

• Siop roddion • Caffi a man chwarae i blant • Mynediad a pharcio i’r anabl• Cadeiriau olwyn ar gael drwy ofyn• Cyfleusterau newid cewyn • Dolen sain ar gael• Ty bach Lleoedd Newid • Loceri • Maes parcio talu ac arddangos

(ar bwys LC, Ffordd Ystumllwynarth)

Ymweliadau GrwpDiwrnod delfrydol ar gyfer grwpiau.Archebwch ymlaen llaw i gael

• Taith dywys am ddim• Gostyngiad o 10% yn y caffi

(o wario o leiaf £5 y pen)• Gostyngiad o 10% yn y siop

(o wario o leiaf £5 y pen)• Lluniaeth am ddim i yrwyr bysiau

Dweud eich dweud! Cofiwch lenwi Taflen Adborth yn y dderbynfa er mwyn cael dweud eich dweud am ein gwasanaeth.

Beth yw eich barn am y llyfryn Digwyddiadau? Byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi lenwi ein holiadur ar-lein:www.amgueddfacymru.ac.uk/arolwgdigwyddiadau. Diolch

I gael fersiwn print bras, ffoniwch (029) 2057 3600Mae’r holl fanylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Ffoniwch cyn teithio’n unswydd.

Defnyddio WiFi am ddim Llenwch Ffurflen Cyfrif Ymwelydd wrth y dderbynfa!

Ble ydyn ni?Dafliad carreg o arfordir arbennig BaeAbertawe, a phum munud ar droed oganol y ddinas, mae’r Amgueddfa yn yr Ardal Forwrol sy’n llawn atyniadaudiddorol a hanesyddol. Ewch iwww.amgueddfacymru.ac.uki lawrlwytho Llwybr y Marina a dechraucynllunio’ch diwrnod.

Ar y bws Ewch i www.cymraeg.traveline-cymru.info am amserlenni ac arosfannau.

Ar y fforddO’r tu allan i Abertawe, gadewch yr M4wrth gyffordd 42 a dilyn yr arwyddionbrown. O’r tu mewn i Abertawe, mae’rAmgueddfa ar Ffordd Ystumllwynarth,drws nesaf i Ganolfan Hamdden Abertawe(LC). Ar gyfer teclyn llywio â lloeren,defnyddiwch y cod post SA1 3ST.

Ar y trên Mae Abertawe ar brif lein PaddingtonLlundain. Mae cysylltiadau gwych hefyd iGaerfyrddin a'r gorllewin, ac i orsafoedd ycanolbarth ar lein Calon Cymru.

12 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk (029) 2057 3600

Gwybodaeth ddefnyddiol