6
Y Stori a’r Gân Cyflwyniad: Salm 19 a Hebreaid 1 Mae’r Nefoedd yn canu, ‘Mor fawr ydy Duw!’ a’r awyr yn gweiddi’r neges, ‘Edrychwch beth mae Duw wedi’i wneud!’ Dydd ar ôl dydd . . . Nos ar ôl nos . . . Maen nhw’n siarad â ni. Salm 19: 1–2 (aralleiriad) Ysgrifennodd Duw, ‘Rydw i’n eich caru chi’ – ysgrifennodd y geiriau yn yr awyr, ar y ddaear, ac o dan y môr. Ysgrifennodd ei neges ym mhobman! Oherwydd creodd Duw bopeth yn y byd i fod yn ddrych i’w adlewyrchu ef ei hun – i ddangos i ni sut un ydy e, i’n helpu i ddod i’w adnabod, ac i wneud i’n calonnau ganu. Fel mae cath fach yn rhedeg ar ôl ei chynffon. Fel mae’r pabi coch yn tyfu’n wyllt. Fel mae’r dolffin yn nofio. Rhoddodd Duw y cyfan mewn geiriau a’i ysgrifennu mewn llyfr o’r enw ‘y Beibl’. 12

Beibl Bach Stori Duw (Sampl)

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Beibl Bach Stori Duw Testun: Eleri Huws. Pris: £12.99, 352tt, cc. Beibl lliwgar newydd i blant 5-8 oed sy’n cyflwyno’r stori fel un stori, ac yn esbonio sut mae’r cyfan yn rhan o stori fawr Duw. Lluniau trawiadol a diwyg ffres.

Citation preview

Page 1: Beibl Bach Stori Duw (Sampl)

Y Stori a’r GânCyflwyniad: Salm 19 a Hebreaid 1

Mae’r Nefoedd yn canu,‘Mor fawr ydy Duw!’

a’r awyr yn gweiddi’r neges,‘Edrychwch beth mae Duw wedi’i wneud!’

Dydd ar ôl dydd . . . Nos ar ôl nos . . .Maen nhw’n siarad â ni.

Salm 19: 1–2 (aralleiriad)

Ysgrifennodd Duw, ‘Rydw i’n eich caru chi’ – ysgrifennodd y geiriau yn yr awyr, ar y ddaear, ac o dan y môr. Ysgrifennodd ei neges ym mhobman! Oherwydd creodd Duw bopeth yn y byd i fod yn ddrych i’w adlewyrchu ef ei hun – i ddangos i ni sut un ydy e, i’n helpu i ddod i’w adnabod, ac i wneud i’n calonnau ganu.

Fel mae cath fach yn rhedeg ar ôl ei chynffon. Fel mae’r pabi coch yn tyfu’n wyllt. Fel mae’r dolffin yn nofio.

Rhoddodd Duw y cyfan mewn geiriau a’i ysgrifennu mewn llyfr o’r enw ‘y Beibl’.

12

Page 2: Beibl Bach Stori Duw (Sampl)
Page 3: Beibl Bach Stori Duw (Sampl)

Mae rhai pobl yn meddwl mai llyfr o reolau ydy’r Beibl, yn dweud wrthych chi beth i’w wneud a beth i beidio â’i wneud. Oes, mae ’na reolau yn y Beibl. Maen nhw’n dangos y ffordd orau o fyw eich bywyd. Ond nid llyfr amdanoch chi a’r hyn y dylech fod yn ei wneud ydy’r Beibl. Llyfr am Dduw ydy e, a’r hyn mae e wedi’i wneud.

14

Noa Moses DafyDD Lea DaNieL

Page 4: Beibl Bach Stori Duw (Sampl)

Mae pobl eraill yn credu mai llyfr am arwyr ydy’r Beibl, yn sôn am bobl y dylech chi geisio bod yn debyg iddyn nhw. Oes, mae ’na arwyr yn y Beibl, ond (fel y gwelwch chi’n fuan) dydy’r rhan fwyaf o’r bobl yn y Beibl ddim yn arwyr o gwbl. Maen nhw’n gwneud camgymeriadau mawr (weithiau’n fwriadol). Maen nhw’n teimlo’n ofnus ac yn rhedeg i ffwrdd. Ac weithiau maen nhw’n ymddwyn yn wael iawn.

15

Mair PeDr Joseff abrahaM sauL

Page 5: Beibl Bach Stori Duw (Sampl)

y stori

Page 6: Beibl Bach Stori Duw (Sampl)

17

Na, nid llyfr o reolau ydy’r Beibl, na llyfr am arwyr chwaith. Yn fwy na dim, Stori ydy’r Beibl. Stori antur am Arwr ifanc sy’n dod o wlad bell i chwilio am ei drysor coll. Stori garu am Dywysog dewr sy’n gadael ei balas, ei orsedd – popeth – er mwyn achub yr un mae’n ei garu. Mae hi’n debyg i stori dylwyth teg hyfryd!

A’r peth gorau un am y Stori hon ydy – mae hi’n stori wir.Mae ’na lawer o storïau yn y Beibl, ond maen nhw i gyd yn

adrodd yr un Stori Fawr. Stori am Dduw yn caru’i blant, ac yn dod i’w hachub nhw.

Mae’n cymryd y Beibl cyfan i adrodd y Stori hon. Ac yng nghanol y Stori, mae ’na fabi. Mae pob Stori yn y Beibl yn sibrwd ei enw. Mae’r babi fel darn coll mewn pos – yr un darn sy’n gwneud i bob darn arall ffitio gyda’i gilydd, fel eich bod yn gallu gweld y darlun cyfan, prydferth.

Nid babi cyffredin ydy hwn. Byddai popeth yn dibynnu ar y Plentyn yma. Dyma’r Plentyn fyddai, ryw ddiwrnod . . . ond arhoswch. Mae ein Stori ni’n dechrau fel pob stori dda arall. Mae hi’n dechrau yn y dechrau . . .