30
0

Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Citation preview

Page 1: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

0

2010 Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Page 2: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Wythnos Addysg Oedolion 2010CyflwyniadCynhaliwyd yr ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru rhwng 15-22 Mai. Mae’r papur hwn yn rhoi dadansoddiad a gwerthusiad cynhwysfawr o’r ymgyrch fwyaf llwyddiannus hyd yma. Yn 2010, cafodd recordiau eu torri, bywydau eu newid a daeth dyfodol pobl yn ddisgleiriach i gyd oherwydd un wythnos anhygoel! Cymerodd oedolion o bob rhan o Gymru y cyfle i roi cynnig ar ddysgu rhywbeth newydd drwy gymryd rhan yn un o’r cannoedd o sesiynau blasu rhad ac am ddim mewn lleoliadau ym mhob rhan o’r wlad yn arddangosiad mwyaf Cymru o gyfleoedd a dysgu. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran a gobeithiwn i chi gael amser da; i’r rhai na chafodd gyfle, peidiwch â phoeni: mae bob amser flwyddyn nesaf. (Mae manylion sut i gymryd rhan ar y dudalen gefn).

Roedd Wythnos Addysg Oedolion 2010 yn fawr, ond yn union pa mor fawr? Wel edrychwch ar y ffigurau islaw, ac yna droi’r dudalen i gael yr holl stori ...Cyfanswm y nifer a gymerodd ran mewn gweithgareddau lleol 34,805Nifer o weithgareddau lleol a drefnwyd 708Erthyglau a sicrhawyd yn y wasg 291Nifer a glywodd hysbysebion radio 588,000Ceisiadau am Grant hyrwyddo dysgu 44Nifer Grantiau hyrwyddo dysgu a ddyfarnwyd 19Cylchrediad atodiadau papurau newydd 650,485Nifer darllenwyr atodiadau papurau newydd 1,546,821Nifer galwadau i’r llinell gymorthSefydliadau / Partneriaid

730255

Dengys gwerthusiad annibynnol fod bron hanner y sawl a gymerodd ran (47%) yn dod o gefndir heb fawr neu ddim dysgu a bod mwy na dau-draean yn bwriadu cyrmyd camau cadarnhaol fel canlyniad i’r ymgryrch

1

Page 3: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Dyddiau Thema EleniMae pob diwrnod o’r Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle i ddysgu rhywbeth newydd, gydag amrywiaeth enfawr o weithgareddau oll yn ymwneud â’n Dyddiau Thema arbennig iawn. Cynlluniwyd pob diwrnod i roi’r sylw ar thema neu faes dysgu penodol, gan helpu i ddangos amrywiaeth ac ehangder yr hyn a gynigir i ddarpar ddysgwyr:

“Rwy’n falch iawn i fod yma fel Gweinidog yr Amgylchedd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi cymeradwyaeth gref iawn, iawn i’r Wythnos Addysg Oedolion a gobeithiaf y caiff pawb gymaint o hwyl wrth ddysgu ac a gefais i heddiw wrth edrych o amgylch yr hyn sydd ar gael.”

Jane Davidson AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

“Mae’r Wythnos Addysg Oedolion a’r Diwrnod Dysgu @ y Gwaith yn llwyddiannus oherwydd ei bod yn denu pobl nad ydynt yn ymwneud fel arfer â dysgu a rhoi blas iddynt o sut y gall fod o fudd iddynt a chyfoethogi eu bywydau.”

2

Penwythnos Un Byd - 15-16 MaiDiwrnod Sgiliau Bywyd - 17 Mai

Diwrnod Treftadaeth Ddiwylliannol - 18 Mai

Diwrnod Dysgu am Iechyd – 19 MaiDiwrnod Dysgu @ y Gwaith – 20 Mai

Diwrnod Digidol – 21 MaiDysgu Diwrnod Teulu a Phontio’r

Cenedlaethau – 22 Mai

Page 4: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Wyddech chi? Mae

Cynulliad Cenedlaethol

Cymru yn un o ddim ond tair

gweinyddiaeth yn y byd

sydd â dyletswydd

gyfreithiol i hyrwyddo

datblygu cynaliadwy. Er bod

mwy o ymwybyddiaeth o’r

mater, mae’n dal yn ffaith

pe bai pawb yn y byd yn

byw fel pobl Cymru byddem

angen 2.7 planed i’n cynnal.

Ac os na fyddwn yn

gweithredu, rhagamcanir y

bydd y ffigur hwnnw yn

cynyddu i 3.3 planed erbyn

Lesley Griffiths AC, Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau

Trodd Wythnos Addysg Oedolion 2010 ei sylw at faterion byd-eang ac amgylcheddol gyda lansiad “Penwythnos Un Byd”. Cefnogodd y penwythnos Wythnos Cynaliadwyedd Cymru gyda dros 60 o ddigwyddiadau arbennig wedi’u trefnu ym mhob rhan o Gymru i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, tlodi byd, datblygu a chynaliadwyedd. Roedd y cyrsiau blasu a’r sesiynau am ddim yn cynnwys gwneud dilladau o ddeunyddiau eilgylch a defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer dibenion amgylcheddol, cyfrif eich ôl-troed carbon a chompostio gwastraff.

Gwyliau Ffilm Penwythnos Un Byd

Ddydd Sadwrn 15 Mai, agorodd Jane Davidson AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, dymor ffilm arbennig Wythnos Addysg Oedolion yn Chapter Arts, Caerdydd. Cefnogwyd y digwyddiad gan Sinema Sol - tŷ ffilmiau bach iawn, a wnaed o garafán wedi’i hailgylchu ac a gaiff bŵer gan yr haul, yn dangos ffilmiau byr, 5/10 munud am newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol. Yn dilyn y digwyddiad, symudodd Sinema Sol i Gastell-nedd Port Talbot ar gyfer digwyddiad Un Byd ym Mharc Gnoll ddydd Sul 16 Mai ac a arweiniodd at benllanw Penwythnos Un Byd - “Y Pentref Byd-eang” ym Mharc Cyfarthfa, Merthyr ddydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Mai.

“Hoffwn ganmol darparwyr addysg oedolion ledled Cymru am eu gwaith yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth rydym eu hangen i ostwng ein ôl-troed carbon a byw bywydau mwy

3

Page 5: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

cynaliadwy,” Jane Davidson AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai wrth agor Penwythnos Un Byd, Gŵyl Ffilm Chapter.

Os ydych chi eisiau mynd ymlaen mewn bywyd, bod yn fwy cadarnhaol ym mhopeth a wnewch a thyfu mewn hyder, yna rydych angen y sgiliau i lwyddo. Beth am weithdy dweud stori i’ch helpu pan ydych yn darllen straeon amser gwely i’ch plant, neu ddigwyddiadau sillafu llawn hwyl yn seiliedig ar gemau a phosau, neu ddysgu popeth am gyllid teulu? O goginio ar gyllideb, i weithdai pensiwn - i gyd gyda phobl a fydd yn cael gwared â’r jargon, siarad iaith syml a gwneud pwnc sych yn un llawn hwyl. Swyn Syniadau – Neuadd y Sir Cwmbran

Roedd Swyn Syniadau yn brosiect peilot yn galluogi dysgu drwy dasg go iawn gyda rhifedd, cyfathrebu a datrys problemau yn rhan o’r broses.Mewn dim ond pedwar diwrnod yn defnyddio dŵr, papur wedi’i ailgylchu ac aer, cynlluniodd a chreodd y grŵp gerflun pensaernïol gyda ‘wow’ ffactor a wnaeth ysbrydoli a thrawsnewid y tîm craidd o 12 o ddysgwyr a phawb a ddaeth i’w weld.Daeth tua 60 o bobl i ymweld â’r prosiect dros dri diwrnod ac ar y diwrnod terfynol roedd dathliad o’r prosiect, gyda 50 o bobl yn bresennol.

4

Wyddech chi?Mae gweithwyr gyda sgiliau

rhifedd Lefel 1 yn ennill tua 6-7%

yn fwy na'u cymheiriaid llai

medrus (ar ôl rhoi ystyriaeth

i addysg flaenorol a chefndir

Page 6: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Beth am ganfod mwy am eich treftadaeth? Rhoddodd digwyddiadau ar draws y wlad gyfle i ddysgwyr ymchwilio eu hanes teulu gyda sesiynau blasu ‘Pwy ydych chi’n feddwl ydych chi?’, golwg ar feddygfa yn oes Victoria, a hyd yn oed drip mewn cwch cul ar Ddyfrbont Pontcysyllte i gael gwybodaeth am ei hanes diddorol tu hwnt. Cymerodd amgueddfeydd, llyfrgelloedd, arbenigwyr archifau ac orielau celf ran i ddangos y diwylliant unigryw sy’n diffinio ein cenedl.

Nant yn y NenGolwg bersonol am ddigwyddiad Wythnos Addysg Oedolion ar Ddyfrbont Pontcysyllte gan Bernice Waugh. Am ffordd i ddysgu, yn eistedd mewn heulwen gynnes ar gwch camlas yn teithio’n araf, yn gwrando ac yn edrych ar y golygfeydd godidog, gydag arogleuon clychau’r gog a dechrau’r haf yn yr awel.

 

5

Wyddech chi?Mae gan Gastell

Penrhyn wely llechen

pedwar poster sy’n

pwyso tunnell a wnaed

ar gyfer y Frenhines

Victoria pan ymwelodd

â’r castell yn 1859.

Edrychodd arno

unwaith a gwrthod ei

Page 7: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Ar un o ddyddiau bendigedig Wythnos Addysg Oedolion eisteddais ar flaen cwch camlas wrth iddo symud yn araf dros ddyfrbont enwog Pontcysyllte. Nid oedd unrhyw ganllawiau ar ochr camlas y ddyfrbont a medrech yn rhwydd ddychmygu eich bod yn hedfan fel barcud dros Ddyffryn Dyfrdwy, gyda’r afon yn rhaeadru ac yn rhuthro dros greigiau ymhell islaw, uwchben y coed tal a’r caeau a’r wlad o gwmpas.Ychwanegwyd at hyfrydwch y trip 2 awr gan sgwrs ddiddorol yn rhoi manylion peth o hanes economaidd a chymdeithasol yr ardal o’n hamgylch. Roeddem yn gynulleidfa gaeth gyda dim i dynnu ein sylw heblaw rhai pobl ifanc ddibrofiad mewn caiac a hwyaid bach yn sblasio i fynd o’n ffordd. (Fe wnaeth y caiacwyr ifanc lawer mwy o banicio a sblasio).

Gadawsom Drefor a theithio drwy amser, o ganfyddiadau Oes yr Efydd yn Ninas Bran i gau gweithfeydd Flexys ac Airproducts yn y cyfnod diweddaraf. Cawsom de a bisgedi yn union fel yr agorodd Telford y ddyfrbont yn 1805. Dywedodd ein tiwtor Rod Playford wrthym am y Celtiaid a’u system etifeddiaeth (gyda menywod yn cael hawliau cyfartal), cynnydd Arglwyddi’r Gororau a’r bachgen lleol Owain Glyndŵr. 

Clywsom am adeiladu’r gamlas a’r ddyfrbont a sut a pham y goroesodd yn well na llawer o gamlesi eraill. (A yw hynny oherwydd y triagl a ddefnyddiwyd yn y cymysgedd ar gyfer yr uniadau?) Mae Pontcysyllte yn parhau’r ddyfrbont uchaf sy’n

6

Wyddech Chi?Yn y tir o amgylch

Castell Bodelwyddan

mae olion ffosydd

ymarfer o’r Rhyfel Byd

Cyntaf. Roedd

hyfforddiant yn

weithgaredd pwysig yn

ystod y Rhyfel Byd

Cyntaf (1914-1918). Fe

helpodd i baratoi milwyr

newydd, llawer ohonynt

erioed wedi ystyried

manion rhyfeloedd

Page 8: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Mark Hudson, Joe Ledley a Jay Boothroyd o Dîm Pêl-droed Dinas

dal i gael ei defnyddio yn y byd ac mae’n safle treftadaeth byd UNESCO. Mae’n strwythur bendigedig mewn lleoliad bendigedig.Daeth y ddwy awr i ben drwy ofyn am ein hawgrymiadau am fynd â’r ardal o amgylch y gamlas i’r dyfodol. Roedd yr ychydig oriau gorau i mi dreulio’n dysgu ers amser maith! 

Mae dysgu rhywbeth newydd yn eich gwneud yn hapusach, yn eich gwneud yn iachach ac yn gwneud i chi deimlo’n fwy cadarnhaol am fywyd. Roedd y diwrnod ffocws hwn yn gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau blasu “teimlo’n dda”ar bynciau fel byw’n iach, bwyd a maeth, bod yn egniol, therapïau amgen, rheoli straen neu fyw gyda chyflyrau iechyd penodol. Mae canfod sut i fwyta’n fwy iach ac arbed arian, sut i ostwng straen, a ffyrdd i gadw’n egniol ymhlith y rhesymau gwych i gymryd rhan yn y Diwrnod Dysgu am Iechyd!

Diwrnod Iach, Cyfoeth a Doeth Plas Pentwyn

Cynhaliodd darparwyr dysgu cymunedol ddigwyddiad drwy’r dydd ym Mhlas Pentwyn gyda samplau am ddim gan gynhyrchwyr bwyd lleol, presenoldeb y fenter gydweithredol bwyd leol, tîm hybu iechyd yr awdurdod lleol, y Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu ac arddangosiadau coginio’n iach gan Goleg Iâl. Roedd y gweithdai’n cynnwys “Bwydo’ch Teulu am Bumpunt” a rysetiau “Braster Isel, Cost Isel”. 

7

Wyddech chi?Mae dynion sydd â chymhwyster

cyntaf 50% yn llai tebygol o ddod yn

Page 9: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Roedd hefyd ddarparydd gofal iechyd yn rhoi gwiriadau pwysedd gwaed ac iechyd. Mwynhaodd bobl wneud diodydd smwddi a sesiynau blasu tyfu’ch perlysiau eich hun, ynghyd â llawer o wybodaeth ar sut i wneud blychau cinio iach, sut i gael eich pump y dydd a thaflenni eraill oedd ar gael.

Ym mhob rhan o Gymru, ymrwymodd busnesau i roi cyfle i’w staff i ddysgu rhywbeth newydd yn ystod y Diwrnod Dysgu @ y Gwaith. Mae rhesymau da dros helpu staff i ddatblygu eu sgiliau drwy ddysgu ‘ar y swydd’. Mae’n gwella perfformiad a chynhyrchiant i ddechrau arni. Ond yr un mor bwysig gall dysgu gynyddu morâl tîm, gostwng absenoliaeth a throsiant staff.

Lansïo Diwrnod Dysgu @ y Gwaith,Depot Bws Caerdydd

“Mae dysgu yn fwy nag astudio am gymwysterau - gall dysgu ddatblygu sgiliau newydd, gloywi hen sgiliau neu adeiladu ar sgiliau presennol. Gall hefyd fod yn fan cychwyn ymrwymiad hirdymor i hyfforddiant neu ddatblygu parhaus”

8

Wyddech chi?Mae risg iselder 15% yn is

ymysg menywod sy’n

Wyddech chi?Mae buddsoddwyr yn cael enillion

52% yn uwch gan gwmnïau sy’n

Page 10: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Lesley Griffiths AC, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, Arloesi a Gwyddoniaeth.

Pawb ar y bwrdd! Yn lansiad y Diwrnod Dysgu @ y Gwaith mae (o’r chwith i’r dde) Richard Spear, Cyfarwyddwr NIACE Dysgu Cymru; Lesley Griffiths AC, Dirprwy Weinidog drosSgiliau, Arloesi a Gwyddoniaeth; Cynthia Ogbonna, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweinyddiaeth,Bws Caerdydd; Sian Cartwright, PennaethGwasanaethau Dysgu, TUC Cymru.

Rydym yn byw mewn byd sy’n newid yn gyson – ac weithiau gall fod ychydig yn ddryslyd gyda theclynnau digidol ac ati yn rheoli pob munud o’n bywydau. Mae hynny’n iawn os ydych yn gwybod sut i’w trin, ond beth os nad ydych? Cynhaliwyd cannoedd o ddigwyddiadau dysgu diddorol rhad ac am ddim yn anelu i helpu dysgwyr fynd i’r afael â theclynnau ym mhob rhan o Gymru, yn dysgu pobl sut i hwylio’r rhyngrwyd, sut i argraffu o gamera digidol, sut i ddiweddaru eich cyfrifiadur, a sut i drydar!

Diwrnod Digidol yn Llyfrgelloedd AbertaweCymerodd llyfrgelloedd ar draws Dinas a Sir Abertawe ran mewn Diwrnod Digidol ddydd Llun 21 Mai, gan gynnig sesiynau blasu am ddim ar sut i ddefnyddio’r Rhyngrwyd, anfon e-bost, lawrlwytho cerddoriaeth i chwaraewr MP3, trosglwyddo delweddau o gamera digidol a

9

Page 11: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

gwybodaeth ar wasanaethau ychwanegol a gwybodaeth y medrir ei chyrchu gyda dim ond cerdyn llyfrgell. Dywedodd Emma Townshend (Rheolwr Rhaglen ac Arddangosfeydd Llyfrgelloedd Abertawe): “Cawsom amser gwych ar Ddiwrnod Digidol, gyda staff y llyfrgell yn helpu pobl i roi cynnig ar dechnoleg newydd. Roedd hefyd yn gyfle gwych i ni ddweud wrth bobl am yr holl adnoddau ar-lein sydd ar gael am ddim o’u llyfrgell leol. Mae’n wych ar gyfer cynyddu’r hyder i gofrestru am gwrs TG i ddechreuwyr yn y dyfodol.”

Nid oes dim yn dod â theulu at ei gilydd yn debyg i ddysgu rhywbeth newydd. Roedd Diwrnod Dysgu Teulu a Phontio’r Cenedlaethau yn gyfle gwych i famau, tadau, neiniau, teidiau, bechgyn a merched i gwrdd a chael hwyl yn canfod pethau newydd am y byd. Roedd cyfleoedd i ddysgu am gyfrifiaduron gyda'i gilydd, ysgrifennu straeon gyda’i gilydd, rhoi cynnig ar eu talentau celf gyda’i gilydd - hyd yn oed ddysgu sut i ganu offerynnau gyda’i gilydd. Mae tystiolaeth ystadegol fod plant a gaiff eu hannog i ddysgu gydag aelodau hŷn o’u teulu yn cyflawni mwy yn yr ysgol. Mae dod â phobl ynghyd o wahanol genedlaethau hefyd yn helpu i chwalu’r rhwystrau rhwng hen ac ifanc yn ein cymdeithas, ac yn hwb i ysbryd cymunedol. Felly dere ymlaen Dad-cu, a dangos i’r rhai ifanc yr hyn y medrwch ei wneud!

Hwyl Teulu yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy

Roedd Campws Llaneurgain o Goleg Glannau Dyfrdwy yn brysur iawn gyda gweithgareddau, arddangosiadau ac adloniant plant ddydd Llun 23 Mai 2010 yn y ‘Diwrnod Hwyl Teulu’ a drefnwyd i gyd-daro gyda diwedd yr Wythnos Addysg Oedolion. Roedd y diwrnod teuluol yn cynnwys ystod eang o arddangosiadau gan

10

Wyddech chi?Dangoswyd fod dysgu teulu yn ffactor allweddol mewn cynyddu lefelau cyrhaeddiad plant ysgol gynradd. Yn ogystal, mae’n rhoi cyfle i oedolion sy’n brin o hyder i gymryd rhan mewn gweithgaredd dysgu

Wyddech chi?Mae unigolion gyda gradd yn ennill 25% yn

eu bywydau gwaith nag unigolion gyda 2 neu

fwy o Lefelau A

Page 12: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

diwtoriaid a myfyrwyr yn y Coleg o waith blodau i arddwriaeth, astudiaethau ceffylau i ofal anifeiliaid a pheiriannau trin y tir.

.

Wedi’i drefnu i ddod ar ddiwedd yr Wythnos Addysg Oedolion, roedd ardal neilltuol ar gyfer dathlu Dysgu Cymunedol oedd yn cynnig cyfle i ymwelwyr weld arddangosiadau myfyrwyr, cymryd rhan mewn sesiynau blasu am ddim, siarad gyda thiwtoriaid a chael copi o ganllaw rhan-amser Sir y Fflint ar gyfer cyrsiau yn cychwyn ym mis Medi 2010. Ar gyfer y genhedlaeth iau, cynhaliodd y Coleg hefyd Bicnic Tedi Bêr er budd “Papyrus”, Elusen y Flwyddyn y Coleg, gyda gweithgareddau’n cynnwys crefftau, peintio wynebau ac amser stori, a gynhaliwyd yng Ngardd Helyg y Coleg, gyda’r tîm helyg ar gael i ateb cwestiynau am wehyddu helyg.

11

Page 13: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Darparodd myfyrwyr arlwyo'r Coleg farbiciw ynghyd ag arddangosiadau y medrai’r holl deulu gymryd rhan ynddynt yn cynnwys sgiwerau ffrwythau a’r beic smwddi enwog. Roedd y Fyddin ar y safle gyda’u wal ddringo symudol, roedd reidiau trên ar y trên bach gan Gymdeithas Peirianneg Model yr Wyddgrug ac roedd yr orsaf radio leol Dee 106.3 yn rhoi adloniant a pherfformiadau byw ar lwyfannau drwy gydol y digwyddiad.Dywedodd Michelle Turner, Cydlynydd Addysg Oedolion “Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn mwynhau’r sesiynau blasu ac arddangosiadau a chael gwybodaeth am gyfleoedd addysg oedolion yn lleol. Gobeithiwn y bydd y digwyddiad yn dangos y cyfleoedd sydd ar gael yma yn Sir y Fflint ac yn annog pobl i feddwl am gofrestru i ddysgu rhywbeth newydd.”

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2010

“Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle gwych i bobl o bob oedran ennill sgiliau newydd a gwerthfawr a all eu helpu yn eu swydd bresennol neu eu helpu i ddod o hyd i swydd. Nid yw hi byth yn rhyw hwyr i ddysgu rhywbeth newydd.”

Leighton Andrews AC, Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Ym mis Tachwedd 2009, aeth yr alwad allan i ganfod dysgwyr mwyaf ysbrydoledig y flwyddyn. O 217 o enwebiadau, dewiswyd 12 i gynrychioli goreuon addysg oedolion yng Nghymru. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo swmpus ar 13 Mai 2010 yn y Gyfnewidfa Lo, Gaerdydd, a gwelodd 350 o westeion gyflwyno 12 o wobrau cenedlaethol Ysbrydoli! yn dathlu dysgu teulu, grwpiau cymunedol, dysgu ac iechyd, dysgu a’r amgylchedd, dysgu addysg bellach ac addysg uwch a dysgu Cymraeg.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Chris Corcoran a Claire Summers (BBC Cymru), gyda phrif wobr Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei chyflwyno i Zara Roberts (a enwebwyd gan Goleg Llysfasi).

12

Page 14: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Yn dilyn y seremoni, cafodd stori Zara lawer o sylw yn y wasg Gymreig ac ar y cyfryngau Prydeinig yn cynnwys The Daily Mail, a rhoddwyd sylw i’r seren rygbi Scott Quinnell, enillydd Gwobr y Cyfarwyddwr, yn The Sun.

“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eich cefnogi’n llwyr, cefnogwn yr hyn rydych yn ei wneud, cefnogwn NIACE Dysgu Cymru a chefnogwn yr Wythnos Addysg Oedolion, ond yn bennaf oll cefnogwn chi, y bobl sy’n cyflawni gymaint ac yn ein hysbrydoli, ac yn rhoi’r negeseuon pwysig iawn hynny i ni, ac rwy’n mynd i ffwrdd gyda’r negeseuon am ariannu oherwydd i chi fy ysbrydoli fi, rydych yn ein hysbrydoli ni, rydych yn Ysbrydoli Cymru.”

Jane Hutt AC, Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, yn ei sylwadau cloi yn Seremoni Wobrwyo Ysbrydoli! Addysg Oedolion, y Gyfnewidfa Lo, Bae Caerdydd, ar 13 Mai

2010.

Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2010 A’r enillwyr oedd…..

Gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn - Zara RobertsGwobr Dysgwr ESOL y Flwyddyn - Lutala KabeGwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn - Margaret OdyomoGwobr Dysgwr Gweithle y Flwyddyn - John Martin DilworthDysgwr Hŷn y Flwyddyn - Cyd-enillydd - Ada EvansDysgwr Hŷn y Flwyddyn - Cyd-enillydd - Sybil ColemanGwobr Grŵp Gweithredu Cymunedol - The GatheringGwobr Dysgwr Cymunedol y Flwyddyn - Ian WhitehillGwobr Dysgwr Sgiliau Sylfaenol y Flwyddyn – Rachael Williams Gwobr y Cyfarwyddwr - Cyd-enillydd - Scott Quinnell Gwobr y Cyfarwyddwr - Cyd-enillydd - Mike Rivers

13

Zara Roberts, Dysgwr y Flwyddyn, gyda Jane Hutt, Gweinidog Busnes a’r Gyllideb, Chris

Corcoran a Claire Summers o’r BBC

Page 15: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Gwobr Dysgwr Addysg Bellach y Flwyddyn - Terri GeorgeGwobr Dysgwr Addysg Uwch y Flwyddyn - Tracey HudsonGwobr Dysgwr o Bell y Flwyddyn - Katrina SumnerDysgwr Galwedigaethol y Flwyddyn -Zoe SmithGwobr Dysgu Teulu a Phontio’r Cenedlaethau - Dosbarth Dysgu Teulu Central Infants

Cefnogwyd Gwobrau Ysbrydoli! gan City & Guilds, Agored, y Brifysgol Agored, Ufi learndirect, WEA De Cymru, Dysgu Cymunedol Cymru, ColegauCymru, Edexcel a Chyngor Celfyddydau Cymru, a’r Cooperative Membership. Hoffai NIACE Dysgu Cymru ddiolch i’r holl noddwyr am eu cefnogaeth hael i’r seremoni wobrwyo ac am wneud y noswaith yn bosibl.

Gwyliau DysguCyflwynwyd Gwyliau Dysgu gan NIACE Dysgu Cymru yn 2004. Mae gŵyl ddysgu yn ddigwyddiad, neu’n gyfres o ddigwyddiadau, a gyflwynir drwy gydweithredu rhwng darparwyr dysgu ar lefel leol (sirol). Mae'r digwyddiadau yn rhoi cyfle i bobl anodd eu cyrraedd I gymryd rhan mewn dysgu drwy weithgareddau byr. Mae dros 250 o sefydliadau partner bellach yn cymryd rhan yn y grwpiau hyn ar draws Cymru. Hoffai NIACE Dysgu Cymru gofnodi ein diolchiadau i bob cydlynydd a sefydliadau partner am eu holl waith caled yn gwneud Wythnos Addysg Oedolion 2010 mor llwyddiannus.

14

Grŵp CyfranogwrAbertawe 612Blaenau Gwent 635Bro Morgannwg 794Caerdydd 5500Caerffili 1793Casnewydd 844Castell-nedd Port Talbot 1245Ceredigion  372Conwy 394Gwynedd 142Merthyr Tudful 8500Pen-y-bont ar Ogwr 377Powys 908Rhondda Cynon Taf 856Sir Benfro 2023Sir Ddinbych 292Sir Fynwy 268Sir Gâr 1215Sir y Fflint 2250Torfaen 569Wrecsam 1340Ynys Môn 316CYFANSWM 31245

Seremoni Wobrwyo Ysbrydoli! Addysg Oedolion y Flwyddyn yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd

Page 16: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Learning Festival Comments

Gweithgaredd HyrwyddoAnfonwyd datganiadau i’r wasg ar yr holl wasg genedlaethol, lleol ac arbenigol a arweiniodd at 291 erthygl yn cyfeirio at yr Wythnos Addysg Oedolion. Canolbwyntiodd y sylw yn bennaf ar straeon Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! a digwyddiadau lleol. Roedd y papurau Prydeinig a soniodd am yr Wythnos Addysg Oedolion yn cynnwys: The Sun, The Times, ac yng Nghymru the Western Mail, The Daily Post, The South Wales Echo, The South Wales Argus, The Western Telegraph, The Evening Post, Y Cymro, Golwg, The County Times a chyfres papurau Celtic.

15

Wyddech chi?Roedd cyfanswm y grantiau a ddyfarnwyd i Grwpiau Gwyliau Dysgu (22 Grŵp Gwyliau Dysgu am £5,000 yr un) yn £110,000.Mae hyn yn golygu mai dim ond £3.52 oedd y

Page 17: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Yr atodiad yn The Sun yn rhoi sylw i Scott Quinnell, Enillydd Gwobr y Cyfarwyddwr

Canllawiau SirolCafodd canllawiau sirol ‘Beth sydd Ymlaen’ eu teilwra ar gyfer pob un o’r grwpiau Gwyliau Dysgu yn rhoi sylw i ddigwyddiadau a gwybodaeth yr Wythnos Addysg Oedolion. Fe’u hanfonwyd at bob cydlynydd Gŵyl Ddysgu i’w dosbarthu o fewn y grŵp. Cynhyrchwyd cyfanswm o 420,000 o ganllawiau gyda phob grŵp yn gofyn am y nifer angenrheidiol ar gyfer eu hardal.

Eitemau HyrwyddoDosbarthwyd pennau ysgrifennu, bagiau cludo, crysau ti, mygiau, posteri a matiau llygoden ac ystod eang o ddeunyddiau hyrwyddo i ddarparwyr ar gyfer yr Wythnos Addysg Oedolion, gyda’r rhan fwyaf o’r eitemau yn hollol rad ac am ddim!

16

Page 18: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Gwnaed cynnyrch hyrwyddo NIACE Dysgu Cymru o goed cynaliadwy, deunyddiau pydradwy, deunyddiau eilgylch a deunyddiau o ffynonellau moesegol.

Ymgyrch posteriFel gyda phob ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion, cynlluniodd a dosbarthodd NIACE Dysgu Cymru bosteri i bob rhan o’r wlad. O faneri y tu allan i adeiladau, i ochrau bysus, gorsafoedd trên a hyd yn oed waliau toiledau, doedd unman na fyddai’r neges Wythnos Oedolion yn mynd!

Gweithgareddau Gwefan a Chyfryngau CymdeithasolAr gyfer Wythnos Addysg Oedolion parhaodd NIACE Dysgu Cymru â’i gyrch i’r tirlun digidol drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a safleoedd fideo i wthio neges yr Wythnos Addysg Oedolion i leoedd na fu erioed ynddynt o’r blaen!

17

Page 19: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Ymweliadau Gwefannau Yn ystod mis Mai, derbyniodd y wefan 2,232 o ymweliadau gan gyrraedd brig ar 222 mewn un diwrnod yn ystod yr Wythnos Oedolion a chofnodwyd 587 ar gyfer yr wythnos gyfan ei hun.

Sianel YouTube NIACE Dysgu CymruYn ei flwyddyn ers ei sefydlu, mae sianel YouTube NIACE Dysgu Cymru wedi denu 4,211 ymweliad, gyda 895 ymweliad am y mis y cynhaliwyd Wythnos Addysg Oedolion 2010. Mae’n cynnwys nifer o ffilmiau byr am addysg oedolion (yn cynnwys holl fideos enillwyr gwobrau Ysbrydoli!), mae gan y safle rywbeth i bawb sydd â diddordeb mewn addysg oedolion. I weld drosoch eich hunan, ewch draw i YouTube a chwilio am NIACEDC yn y rhestr sianeli.

Facebook / TwitterDefnyddiwyd Twitter/Facebook gyda’i gilydd unwaith eto i helpu hyrwyddo’r neges Addysg Oedolion. Er bod gan Facebook gyfyngiadau i ddarparwyr (oherwydd cyfyngiadau difrifol o ran nifer sefydliadau partner), cafodd y defnydd o Twitter beth llwyddiant a medrir ei weld fel arf ddefnyddiol iawn wrth i’w boblogaeth gynyddu o fewn y gymuned addysg oedolion a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion 2010 bu NIACE DysguCymru, gyda chefnogaeth yr RSC, yn annog darparwyr aphartneriaid i ddefnyddio Twitter i godi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau, rhannu profiadau dysgu ac yn gyffredinol ysgogi presenoldeb Twitter ar-lein. Lluniwyd ‘Dalen Drydar’ ddwyieithog sylfaenol iawn gyda gwybodaeth ar sut i gofrestru am Twitter, sut i anfon neges a syniadau ar gyfer lleoedd eraill i fynd iddynt am help. Cylchredwyd hyn i bob grŵp Gŵyl Ddysgu, partneriaid gyda digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal ar Ddiwrnod Digidol, ei ddodi ar wefan NDC a’i anfon. Roedd angen defnyddio tag penodol - #alw10 ar gyfer casglu’r negeseuon. Cadwch eich llygad ar agor am #alw 11 fydd yn dod yn fuan ...

Sylw ar y Cyfryngau DarlleduRadio

18

Page 20: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Unwaith eto tarodd Wythnos Addysg Oedolion y tonfeddi gydag ymgyrch a dargedwyd at ardaloedd pob un o 22 awdurdod lleol Cymru. Cafodd hysbysebion 30-eiliad eu hysgrifennu’n arbennig a’u cynhyrchu gan Town and Country Broadcasting yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer anghenion pob Grŵp Gŵyl Ddysgu. Cafodd yr hysbysebion eu darlledu dros ddwy wythnos, gyda’r wythnos gyntaf yn dweud wrth wrandawyr am y digwyddiadau oedd ar y gweill, gyda’r ail wythnos yn eu hatgoffa am yr Ŵyl.

Gyda mewnbwn gan y Grwpiau Gwyliau Dysgu roedd y gorsafoedd a ddefnyddiwyd yn benodol i’w targed gyda’r gynulleidfa yn cyrraedd cyfanswm cynulleidfa o 588,000!

Darllediadau AllanolBu Town and Country Broadcast hefyd yn cyflwyno nifer o ddarllediadau allanol o wahanol ddigwyddiadau yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion. Cafodd pob un o’r gweithgareddau hyn ei gefnogi gan ‘fotwm’ ar y gorsafoedd radio unigol a arweiniodd yn ôl at wefan Wythnos Addysg Oedolion NDC.

Daeth Darllediadau Allanol o:

Radio Ceredigion 

Radio Sir Benfro

Radio Sir Gaerfyrddin  

Scarlet FM 

Castell-nedd/Port Talbot – Gweithgareddau ar Bay

Radio  

Pen-y-bont ar Ogwr – Gweithgaredd ar Bridge FM

Nation Radio

19

Page 21: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

GWYLIAU DYSGU

Os ydych yn ddarparydd ac yr hoffech gysylltu â’ch Grŵp Dysgu Lleol yna cysylltwch ag Essex Havard yn NIACE Dysgu Cymru ar 029 2037 0900 neu drwy e-bost at: [email protected]

Gogledd Cymru - Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Ynys Môn a Gogledd Powys Rachel JonesFfôn: 07717 303644E-bost: [email protected]

Gorllewin Cymru – Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, Clare SouthardFfôn: 07880 724058E-bost: [email protected]

Canol De Cymru – Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon TafEssex HavardFfôn: 07795 456664E-bost: [email protected]

De Ddwyrain Cymru – Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen a De PowysKay SmithFfôn: 07880 724053E-bost: [email protected]

Sefydliadau PartnerYnys MônIOACCColeg MenaiColeg Harlech WEAMORLO (Communities First)Porthyfelin (Communities First)Amlwch Regeneration Partnership (Communities First)Plas Cybi (Communities First)Welsh for Adults CentreAge Concern, Age Well CentresBangor University

Blaenau GwentBlaenau Gwent CBC Adult EdcationBlaenau Gwent CBC Library ServiceBlaenau Gwent CBC Bridges into WorkBlaenau Gwent CBC Leisure ServicesColeg Gwent, Ebbw Vale CampusWelsh for Adults Centre, Coleg Gwent

Community University of the Valleys East

Pen-y-bont ar OgwrBridgend CollegeBridgend CBC Library & Information ServiceBridgend CBC Adult Community LearningBridgend CBC Older Persons’ Strategy Bridgend CBC Sports & Leisure ServiceWelsh for Adults CentreMenter Bro OgwrDLT TrainingChwarae TegPrime CymruCareers WalesWEAMilestone ActivitiesBridges into WorkTSW Training Ltd

CaerffiliPontlottyn Communities First Partnership

Welsh for Adults

20

Page 22: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

White Rose Integrated Children’s CentreGwent Welsh for Adults Centre  / Menter Iaith Caerffili

University of Wales Newport COVCaerphilly Library ServiceCaerphilly CBCGroundwork CaerphillyYstrad Mynach College (at Rhymney)Cefn Hengoed & Hengoed PartnershipWhite Rose Information and Resource centreNew Tredegar Communities First PartnershipSmart Money Credit Union LtdRhymney, Abertysswg and Pontlottyn PartnershipsBTCVWEATir y Berth Partnership

CaerdyddSouth Riverside DCOpen UniversitySt Fagans: National History MuseumColeg Glan HafrenUWICCardiff UniversityCardiff CBCBarry CollegeNational Museum CardiffVACMenter CaerdyddCommunities FirstMENFA – Mentoring for AllWelsh for AdultsCardiff People FirstTaff HousingBay ARTDyslexia ActionPenylan HouseAfro Caribbean SocietyBVSNWACE Women Group (African – Caribbean Elder Women)ITECWEAThe Cardiff StoryBAWSOPeartree LanguagesCeltic Learners NetworkULearn CollegeCardiff School of BeautyHMRC

Sir GârCarmarthenshire CBCCarmarthenshire Basic Skills TeamJobforce WalesColeg Sir GarSwansea University DACEHafan CymruLlanelli Rural CouncilSpace2CreateWEA

CeredigionMenter AberteifiAberystwyth UniversityCeredigion CBCCoppicewood CollegeU3ASmall World TheatreCareers Wales West

Hanes LlandochGlan y Nant / Tir y Berth Partnership

WEACardigan CABLampeter University

ConwyCVSCClybiau Plant CymruConwy LibrariesNorth Wales TrainingColeg LlandrilloConwy CBCAmgueddfa syr Henry Jones

Sir DdinbychLlys Nant Activity centreHoreb Chapel DyserthDenbighshire Heritage ServiceRuthin Art GroupPositive Action for StrokesColeg LlysfasiColeg Llandrillo, DenbighDolwen Day Centre

Sir y FflintWEA (N) Coleg HarlechFCC LibrariesFlintshire U3AAbakhan Fabrics, Hobby and Home

GwyneddCanolfan Cymraeg i Oedolion AberCanolfan Cymraeg i Oedolion BangorColeg Meirion DwyforColeg MenaiCommunities FirstDeudraeth CyfGwynedd ArchivesGwynedd Library ServiceOpen UniversityPrifysgol Cymru Bangor

Merthyr TudfulCareers Wales Mid Gam & PowysMerthyr Tydfil CBCWAG (Merthyr Office)WEAGlamorgan GatesTown and Park Communities FirstDowlais LibraryCwm Taf LH Trust3GsCyfarthfa Museum and GalleriesChanolfan Gymraeg i Oedolion MorgannwgTaff Bargoed Communities First

Sir FynwyLearn ITBridgesMonmouthshire ACE ServiceSaville Theatre

Castell-nedd Port Talbot Neath Port Talbot Lifelong Learning ServiceNeath Port Talbot CollegeSwansea University, DACENeath Port Talbot Library & Cultural Services

21

Page 23: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

CommunitasWEANew Sandfields AberavonJobcentre PlusCanolfan MaerdyUpper Afan ForumNeath Port Talbot CVSNPT Older Persons’ Strategy

AbertaweSwansea University, DACEGower CollegeCity & County of Swansea CBCCity & County of Swansea Library ServicesPlantasiaNational Waterfont MuseumClybiau Plant CymruWEASwansea MuseumAfrican Community CentreBPP Trust

CasnewyddNewport CBCCY TrustGAVOWEAOffice of National StatisticsPill MillDuffryn Community LinkSolas CymruMuseum Wales

Sir BenfroLearning PembrokeshirePembrokeshire College – STEP ProjectCareers Wales WestPAVSPembrokeshire WIGuild of Spinners, Weavers & DyersScrapyardGenesis SpringboardSwansea UniversityProvidence TrainingOpen UniversityWEAPembrokeshire Library ServiceU3APembrokeshire Coast National Park

PowysColeg Powys (North Division)Coleg Powys (South Division)Careers WalesOpen UniversityCanolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth CymruPowys Local Health BoardColeg Harlech WEA Aberystwyth UniversityOldford Communities First

Crickhowell Tennis ClubCYPP Brecknock MuseumNewtown LibraryBrecon LibraryBrecon Volunteer CentreOxfam BreconCrickhowell Primary SchoolArts Alive

Rhondda Cynon TafGlyncoch Communities FirstRCT CBC Adult EducationRCT People Development (HR)Bryncynon Communities FirstTonyrefail Communities First Cwmbach Communities FirstGarth Olwg Lifelong LearningPenrhys Partnership

TorfaenCroesyceiliog CEC (Torfaen CBC ACL)The LIFE Station (Torfaen CBC ACL)Torfaen Voluntary AllianceTorfaen Textile ArtistsWEACommunities FirstTorfaen Libraries (Torfaen CBC)Basic Skills Torfaen (Torfaen CBC)Green Meadow Community Farm (Torfaen CBC)Pontypool MuseumBridges into Work (Torfaen CBC)

Bro MorgannwgVale of Glamorgan CBC ACLCareers Wales Cardiff and ValeYouth Service (Vale of Glamorgan CBC)South Wales PoliceLibrary Service (Vale of Glamorgan CBC)Genesis 2Cardiff University Welsh for AdultsCardiff University Lifelong Learning ServiceSoutherndown Surf SchoolVale Volunteer BureauA4EVale Open Learning Centre (Vale of Glamorgan CBC)Family Information serviceWestern Vale Integrated Childrens’ CentreCommunity Enterprise Centre

WrecsamWrexham CBCWrexham LibrariesYale CollegeGlyndwr UniversityWrexham TrainingWrexham ITECWest Wrexham Community PartnershipCommunities First (Caia Park and Hightown)AVOWColeg Llysfasi / Deeside College

22

Page 24: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Wythnos Addysg Oedolion 2011 14 - 21 MaiDyddiadau Cau:Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion:

Dyddiad cau enwebiadau Gwobrau Dysgwyr: 25/02/11

Panel Gwobrau Dysgwyr: 18/03/11

Seremoni Wobrwyo Dysgwyr: 12/05/11

Cyfryngau: I gael yr wybodaeth ddiweddar ar hyrwyddiadau Addysg Oedolion a NIACE Dysgu Cymru medrwch ein dilyn ar-lein trwy’r wefan www.niacedc.org.uk neu mewn amrywiaeth o ffyrdd:

ddod yn ffrind ar Facebook, chwiliwch am NIACE Dysgu Cymru

Anfonwch neges ‘drydar’ atom ar Borthiant Twitter NIACE Dysgu Cymru www.twitter.com/niacedc

Sianel YouTube NIACE Dysgu Cymru - caiff fideos newydd eu hychwanegu’n rheolaidd! Chwiliwch am NIACEDC ar y rhestr sianeli!www.youtube.com/niacedc

Cyrsiau yn eich ardal:I gael gwybodaeth bellach ar Cyngor Dysgu a Gyrfaoedd ffoniwch am ddim ar 0800 100 900www.yourfuturechoiceaction.org.uk

Cysylltu â ni

23

Page 25: Bwrw golwg yn ôl ar wythnos ysbrydoledig

Ein Noddwyr 2010

Mae tîm Ymgyrchoedd a Hyrwyddiadau NIACE Dysgu Cymru wrthi’n cynllunio Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid Oedolion (Chwefror) a Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion (12 Mai) ar gyfer 2011. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau proffil uchel arbennig iawn, a chredwn eu bod yn gyfleoedd i gydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu a hefyd i randdeiliaid allweddol ddangos eu cefnogaeth i diwtoriaid a dysgwyr yng Nghymru.

Mae’n nod gennym gynyddu nawdd i’n seremonïau gwobrwyo i sicrhau eu bod yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Rydym wedi datblygu pecynnau nawdd penodol ar gyfer 2011 er mwyn rhoi cyfle i ystod mwy o sefydliadau i gefnogi’r gwobrau hyn.

Am ymholiadau am noddi (seremoni gwobrwyo, addysg oedolion) cysylltwch ag Essex Havard ar 029 2037 0900 neu e-bost [email protected]

I gael newyddion am Addysg Oedolion a NIACE Dysgu Cymru medrwch ein dilyn ar-lein drwy ein gwefan www.niacedc.org.uk neu ein ffonio yn y swyddfa ar 029 2037 0900.

24