View
232
Download
0
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Cylchgrawn i ddysgwyr Cymraeg Gwent Magazine for Gwent Welsh learners
Citation preview
Cadwyn Gwent
Cylchgrawn i Ddysgwyr Cymraeg GwentMagazine for Gwent Welsh Learners
Newyddion
Dathlu llwyddiant
Noson Wobrwyo
Beth sydd ymlaen?
a llawer mwy!
NewsCelebrating Success
Awards EveningWhat’s On?
plus much more
Rhifyn Hydref 2014
Newyddion News
Ar ddiwrnod braf yn ngoleuni’r haul cafwyd Parti Haf y Dysgwyr yn nhafarn y Bell yng Nghaerllion. Roedd yr haul yn gwenu y diwrnod hwnnw, a phawb yn y parti yn gwenu hefyd! Fe wnaeth pawb fwynhau’r barbeciw blasus, y band jazz bendigedig, y swynwr syfrdanol a’r melysion mawreddog.
Cafwyd noson lawn hwyl a chwerthin gyda dysgwyr a thiwtoriaid yn mwynhau’r wledd a mwynhau siarad yn Gymraeg. Roedd pawb wedi llenwi eu boliau gyda bwyd blasus y barbeciw, tra’n gwrando ar y band jazz yn perfformio drwy’r nos, ac edrych ar y swynwr Eirian Wynn yn perfformio ei driciau digrif. Roedd Cert Melysion ‘Taylered Sweet Sensations’ yn wag erbyn diwedd y noson!
Roedd y noson mor llwyddiannus cafodd erthygl ei hysgrifennu ym mhapur newydd yr Argus! Rydym yn enwog!
Cofiwch gadw llygaid allan am fwy o’n digwyddiadau ni, ac archebwch eich lle mewn da bryd! Mae ein partïon yn boblogaidd iawn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i’r un nesaf - ein Parti Nadolig ar Ragfyr 2ail yn Sefydliad Llanhilleth Institute.
Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion fe wnaeth yr Arch-dderwydd Dr. Christine James ymweld â Chlwb Clonc y Pŵerdy yng Nghwmbrân. Mae
Dr. Christine James yn fardd adnabyddus iawn, wedi dysgu’r Gymraeg, ac erbyn hyn yn aelod o Orsedd yr Eisteddfod. Christine yw’r fenyw gyntaf erioed i fod yn Arch-dderwydd! Mae hi nawr yn darlithio ym maes Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol yn Abertawe, ac fe wnaethpwyd amser yn ei hamserlen brysur iawn i ddod i siarad gyda rhai o ddysgwyr y Clwb Clonc.
Fe wnaeth pawb fwynhau ei straeon difyr a doniol, o’i phrofiadau yn dysgu’r Gymraeg fel ail-iaith yn yr ysgol, ei gwreiddiau fel bardd, ei gyrfa ym myd llenyddiaeth Gymraeg, ennill y Goron yn yr Eisteddfod a’i hethol yn Arch-dderwydd.
Cafodd dysgwyr y cyfle i ofyn nifer o gwestiynau i Dr. Christine James, ac roedd Christine wedi mwynhau’n fawr cael sgwrsio gyda dysgwyr Gwent yn y Gymraeg.
I weld cyfweliad gyda Dr. Christine James, dilynwch y linc isod:
https://www.youtube.com/watch?v=yzJdZHB5IZ8
Geirfa:Goleuni – LightTafarn – PubGwenu – SmileBlasus – TastyBendigedig – FantasticSwynwr – MagicianSyfrdanol – AmazingMelysion – SweetsMawreddog – GrandPerfformio – PerformingCert Melyson – Sweet CartLlwyddiannus – SuccessfulEnwog – FamousArchebwch – BookPoblogaidd –Popular
PARTI HAFyn y Bell, Caerllion
Sgwrsio gyda
Dr. Christine James
Geirfa:
Arch-dderwydd – Arch-druidYmweld – VisitBardd – PoetAdnabyddus – RenownedDarlithio – To lectureLlenyddiaeth – LiteratureOesoedd Canol – Middle AgesAmserlen – ScheduleDifyr – InterestingDoniol – FunnyProfiadau – ExperiencesGwreiddiau – RootsEthol – ElectCyfweliad – Interview
Dylan Thomas’s trousers
Bob blwyddyn yn ystod y saithdegau roedd fy rhieni, fy chwaer a fi yn arfer mynd ar wyliau i Orllewin Cymru. Roedd fy nhad yn dwlu ar
farddoniaeth Dylan Thomas a phob blwyddyn roedden ni’n ymweld ȃ Thalacharn, cartref Dylan Thomas y bardd. Un diwrnod roedden ni’n cerdded tuag at gartref Dylan ar y llwybr uwchben y Boathouse, pan ddechreuodd fy nhad siarad ȃ hen fenyw. Enw’r hen fenyw hon oedd Dolly Long, y person a oedd yn cadw’r tŷ i Dylan. Gofynnodd fy nhad iddi a oedd eiddo gyda hi yn perthyn i Dylan Thomas roedd hi eisiau ei werthu ac atebodd hi fod hen siwt gyda hi wedi ‘i stwffio i agoriad yr attig i atal y drafft rhag dod i mewn. Dywedodd fy nhad ei fod e eisiau prynu’r trowsus a rhuthrodd hi adre i ȏl y siwt. Cyrhaeddodd Dolly yn ȏl cyn bo hir gyda’r trowsus ond heb y siaced a oedd wedi mynd. Talodd fy nhad bum punt am y trowsus a gofynnodd e sut roedd hi’n gallu profi taw trowsus Dylan oeddynt. Atebodd hi fod rhif golch y Boathouse ar y trowsus, sef M66.
Dw i’n cadw trowsus Dylan Thomas mewn ffram enfawr yn fy nhŷ bach lawr staer ac maen nhw wedi bod yno am bron bedwar deg pump o flynyddoedd!
Ym Mis Mehefin es i i’r Antiques Road Show gyda’r trowsus. Daeth Fiona Bruce draw yn syth ac roedd hi wedi cyffroi. Dywedodd hi ei bod hi eisiau fy ffilmio i. Felly bydd trowsus Dylan Thomas ar yr Antiques Road Show ym mis Tachwedd.
Every year in the 1970’s my parents, sister and I used to go on holidays to West Wales. My father
was mad on the poetry of Dylan Thomas and every year we visited Laugharne, the home of Dylan Thomas the poet. One day we were walking towards Dylan’s home on the path above the boathouse, when my father started talking to an old lady. This lady was Dolly Long, Dylan Thomas’s housekeeper. My father asked if she had any possessions belonging to Dylan Thomas that she wanted to sell and she replied that she had an old suit stuffed into the attic door to stop the draft coming in. My father said he would buy it and she rushed home to find the suit. Dolly Long soon returned with the trousers but the jacket had gone. My father paid five pounds for them and asked how she could prove they were Dylan Thomas’s trousers. She replied that they had the boat house laundry number printed on them – M66.
I keep Dylan Thomas’s trousers in a big frame in my downstairs toilet and we have had them for about 45 years!
In June I went to the Antiques Road Show with the trousers. Fiona Bruce came straight over and she was very excited. She said that she wanted me to be filmed. Therefore, Dylan Thomas’s trousers will be on the Antiques Road Show in November.
Liz a throwsus ‘Dylan’
Dylan Thomas’s trousers
Bore Coffi MacMillan yng Nglyn Ebwy
Gaethon ni amser gwych yn y Bore Coffi yng Nglyn Ebwy er mwyn codi arian i "Macmillan Cancer Support". Diolch enfawr i'r dysgwyr Cymraeg, staff Blaenau Gwent a'r dysgwyr Addysg Gymunedol am ein helpu i godi £198.05!! Ffantastig!!!!
Gwnaeth llawer o ddysgwyr deisennau i ni werthu yn ogystal â chyfrannu gwobrau ar gyfer y raffl. Diolch yn fawr, hefyd, i Amanda Smith am wneud balŵns i bawb.Diolch unwaith eto i bawb am eu cefnogaeth ac am wneud y
We had a great time in the Coffee Morning in Ebbw Vale in order to raise money for "Macmillan Cancer Support". A huge thanks to the Welsh learners, Blaenau Gwent staff and the Adult Education learners for helping us to raise £198.05!! Fantastic!!!!
Lots of learners made cakes for us to sell as well as contributing prizes for the raffle. Many thanks to Amanda Smith for making balloons for everyone.Thank you once again to everyone for their support and for making the Coffee Morning a huge success!
Llais y Dysgwr Learners VoiceDywedoch chi – Gwnaethon ni!
Rhagor o gyfarfodydd Llais y Dysgwr dros ardal Gwent
Rhagor o adnoddau i’w defnyddio y tu allan i’r dosbarth
Mwy o foreau coffi
Eisiau gwersi ar gyfrifiadur
Copïau Caled o ddeunyddiau
Angen rhagor o farchnata
Cynhaliwyd cyfarfodydd yn Nhrefynwy, Torfaen, Caerffili, Blaenau Gwent a Chasnewydd. Ymwelwyd â dosbarthiadau Cymraeg i’r Teulu a Chymraeg yn y Gweithle. Cysylltwyd â dysgwyr dros y ffôn a thrwy e-bost hefyd.
Mae llawer o ddeunyddiau adolygu ar fformat fideo wedi’i lanlwytho i wefan Y Bont. Mae pob uned adolygu y cyrsiau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd bellach ar gael yno.
Mae llawer o’r rhain yn cael eu cynnal ledled Gwent. Edrychwch ar Y BONT neu gofynnwch i’ch tiwtor/canolfan am ragor o wybodaeth.
Mae gwersi drwy Skype ar gael. Cysylltwch â Steffan Webb am ragor o wybodaeth (01495 333735 neu [email protected])
Os nad ydych chi’n derbyn copïau caled o daflenni hysbysebu neu Gadwyn Gwent, ac yn dymuno ei wneud, gofynnwch i’ch tiwtor neu cysylltwch â Lowri Morgan (01495 333300 neu [email protected])
Cynhaliwyd 6 sesiwn marchnata mewn archfarchnadoedd dros yr haf eleni. Dyn ni wedi ymweld â Sioe Brynbuga, Sioe Mynwy a’r Ffiliffest (Caerffili). Cynhaliwyd sesiwn farchnata gyda Thîm Rygbi y Dreigiau y llynedd, hefyd. Dosbarthwyd ein brochures i gynifer o fannau cyhoeddus â phosibl dros yr haf. Hefyd, dosbarthwyd 20,000 o daflenni o ddrws i ddrws yn ardal Casnewydd, a thargedwyd siopau yng nghanol y ddinas hefyd.
Eleni gwnaethpwyd camau breision o ran Llais y Dysgwr wrth dderbyn nifer helaeth o sylwadau oddi wrth gynrychiolwyr dosbarth yn ogystal â dosbarthiadau yn y Gymuned, yn y Gweithle a Chymraeg i’r Teulu. Dyma ychydig o’ch argymhellion ac yr hyn ‘rydyn ni’n wneud er mwyn dangos ein bod yn gwrando’n astud arnoch chi a cheisio gwella’n gwasanaethau.
Gofynnoch chi… Gwnaethon ni…
This year, great strides were made with the Learners Voice after we received a considerable number of comments from class representa-tives as well as Community, Welsh in the Workplace and Welsh for Family classes.Here are some of your suggestions, and the steps we have taken to address these issues, which show that we listen carefully to you while attempting to improve our services.
You asked - We did!
More Learner Voice meetings throughout the Gwent area.
More resources for use outside of the classroom
More coffee mornings
Computer based courses
Hard Copies of materials
More marketing needed
Meetings were held in Monmouthshire, Torfaen, Caerphilly, Blaenau Gwent and Newport. Visits arranged to Welsh for Family and Welsh in the Workplace classes. Learners were also contacted over the telephone and by e-mail too.
A considerable amount of revision material in video format has now been uploaded to Y BONT website. Every revision unit in the Mynediad, Sylfaen and Canolradd courses are now available there.
Many are now held throughout Gwent. Please look on Y BONT or ask your tutor/centre for more information.
Lessons are now available through Skype. Please contact Steffan Webb for more information (01495 333735 or [email protected])
If you don’t receive hard copies of advertising materials or Cadwyn Gwent, but wish to do so, please ask your tutor or speak to Lowri Morgan (01495 333300 neu [email protected])
6 marketing sessions were organised in supermarkets over the summer. Centre staff have distributed brochures all over Gwent, and attended Usk Show, Monmouth Show, and the Filifest (Caerphilly). A marketing event was held in partnership with the Dragons Rugby Team last year, too. Our course brochures were distributed to as many public places as possible over the summer. In Newport, 20,000 leaflets were distributed from door to door, and shops in city were also targeted.
You asked.... We did…
Dathlu Llwyddiant Celebrating Success
Ym mis Medi, am y tro cyntaf cynhaliwyd Noson Wobrwyo i ddysgwyr Gwent a oedd yn llwyddiannus yn arholiadau CBAC eleni a’r dysgwyr oedd wedi cwblhau’r Cwrs Sabothol. Agorwyd y Seremoni gyda Chôr y Dreigiau ac roedd dros 70 o ddysgwyr a thiwtoriaid yn dathlu ar gampws Pont-y-pŵl, Coleg Gwent. Roedd Emyr Davies, Swyddog Arholiadau CBAC ac Ann Farmer yn cyflwyno tystysgrifau i’r dysgwyr. Roedd ffrwd fyw gyda ni ar y noson, ac roedd #nwgwent yn trendio!!!
Ar ôl y seremoni, roedd cyfle i bawb gymdeithasu a chloncian dros bwffe ac roedd y cacennau’n flasus iawn!
Dyn ni wrthi’n trefnu’r Noson Wobrwyo y flwyddyn nesaf, felly gobeithio y byddwch chi’n gallu ymuno â ni.
I weld fideo bach o’r noson, dilynwch y linc: http://goo.gl/4cKgmJ
Da iawn chi.
In September, for the first time we held our very own Awards Evening to celebrate the success of our learners
in this years WJEC examinations and those who successfully completed the Sabbatical
Course. The Côr y Dreigiau opened the evening and there were over
70 learners and tutors celebrating
at Pontypool Campus, Coleg Gwent.
Emyr Davies, WJEC Welsh for Adults Examinations Officer and Ann Farmer were presenting the certificates to the learners. We also had a live twitter feed, and #nwgwent was ‘trending’ on
the evening!
After the ceremony, there was an opportunity for everyone to ‘catch up’ and have a ‘chat’ over a buffet and there were delicious cakes!
We are already making arrangements for next years Ceremony and we hope that you will be able to join us.
To watch a short video of the evening, go to the following link: http://goo.gl/4cKgmJ
Da iawn chi!
Roedd nosweithiau gwobrwyo wedi eu cynnal yng Ngwent dros yr haf. Roedd nifer o ddosbarthiadau, tiwtoriaid a dysgwyr Gwent wedi ennill gwobrau. Dyma’r canlyniadau:
Over the summer, there were several award evenings held in Gwent. A number of our learners, tutors and learners from the Gwent centre received awards. Here are the results:
Tlws Dosbarth Cymraeg y Flwyddyn (Class of the Year)
Mynediad 1 – Y Pŵerdy Tiwtor - Michaela Johnson
Peter Blagojevic | Julie Burchell | Jacqueline CareyAndrea Crockett | Catherine Cullen | Philippa Greaves
Brian Greaves | Patricia Inger | Natalie KersleyChristopher Neye | Melanie Phillips | Emma Simons
Graham Squire | Samantha Squire | Rhiannon Sullivan Rhiannon Walding | Susan Warren | David Wood
Tlws Cyflawniad Arbennig (Special Achievement Award)
Dosbarth Pontio - Tŷ Rhydychen Tiwtor - Sarah Meek
Merryl Francis | Terry Hayward | Lisa Ryall Craig Griffiths | Amanda Sanders | Kathryn Morton Christine
Strong | Nicholas Ashworth | Sue Hayward
Tlws Dysgwyr Cymraeg(Welsh Learners)
Dosbarth Uwch 3 (drwy fideo) Y Parth Ddysgu, Glyn Ebwy
Tiwtor - Steffan Webb
Rose Dentus | Deborah Howells Amanda Smith | Simon Large
Jeff Smith | Lynne Sefton Nigel Gaen | Susan Hitchings
Charmayne Jones
Tlws Tiwtor y Flwyddyn
Cymeradwyaeth (Commended)
Torfaen
Michaela JohnsonJames Eul
Eleri Hodder Jonathan Perry
Tlws Tiwtor y Flwyddyn(Tutor of the Year)
Blaenau Gwent
Delyth Rees
Cymeradwyaeth Uchel (Highly Commended)Tiwtor - Steffan Webb
Blaenau Gwent
Amanda Smith
Noson Wobrwyo | Awards Evening
Casnewydd06.12.14
City of Newport CampusNash RoadCasnewyddNP19 4TS
01495 333710
Abertyleri08.11.14
Abertillery Learning Action CentreComprehensive School SiteAlma StAbertillery NP13 1YL
01495 355895
Campws Pont-y-pŵlColeg GwentHeol BlaendârPont-y-pŵl, NP4 5YE
22-23.11.14
£10 — bargen / bargain!Lessons, tea and coffee included
Archebwch NAWR / Book your place NOW!
01495 333710
Cwrs Penywthnos Weekend Course (£10.00)
Ysgolion Undydd Day Schools (£15.00)
Beth sydd ymlaen What’s on....
CanolfanCymraegiOedolionGwent
gwent.ybont.org.uk
@learnwelshgwent@cymraeggwent
www.learnwelsh.org.uk
Cysylltwch â ni!Contact us!
Parti’r dysgwyr!Learners’ party!