33
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Chapter Gorffennaf 2014

  • Upload
    chapter

  • View
    236

  • Download
    6

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Chapter Gorffennaf 2014

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Chapter Gorffennaf 2014

Croeso i’ch cylchgrawn misol sy’n nodi holl ddigwyddiadau Chapter yn ystod mis Gorffennaf. Mae ein horiel a’n sinema wedi uno i ddod â Bedwyr Williams i’r ganolfan, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at hynny! Yn dilyn derbyniad hynod frwdfrydig yn y Glasgow International, byddwn yn dangos dwy o’i ffilmiau, wedi’u cyfarwyddo gan Casey Raymond ac Ewan Jones Morris, ac fe fydd yna sesiwn holi ac ateb gyda’r dyn ei hun (t7). Bydd ein Horiel yn cyflwyno arddangosfa unigol gyntaf Cristoph Dettmeier yn y DG. Mae hi’n fis prysur yn y theatr hefyd — byddwn yn cychwyn â Robert Zucco (t11). Yn gyfuniad o ddrama dditectif a ffilm gangster Americanaidd, hon yw sioe gyntaf August 012 ers eu cynhyrchiad nodedig o ‘Caligula’ llynedd. A yw eich plant yn mynychu ysgol Gymraeg? Ydych chi’n dysgu Cymraeg gyda nhw? Os felly, sioe Theatr Iolo, Pen-blwydd Poenus Pete, yw’r sioe berffaith i chi (t13). Â Gŵyl Ffilm Cannes yn rhoi sylw i’r ffilmiau y gallwn eu mwynhau dros y misoedd nesaf, weithiau mae hi’n werth cofio mawrion y cyfrwng ac, ym mis Gorffennaf, dyna fyddwn ni’n ei wneud, wrth i ni edrych yn ôl ar yrfa Stanley Baker (tt28-29). Mae hi’n hanner can mlynedd ers rhyddhau Zulu, ac fe fyddwn yn cyflwyno detholiad o yrfa ddisglair un o roddion pennaf Cymru i Hollywood. Ac, â siarad am enwogion Cymru, mae’r mis hwn yn gyfle hefyd i groesawu’r newyddiadurwr Jon Ronson yn ôl i’w ddinas enedigol — fe fydd e’n trafod ei lyfr, Frank, a addaswyd yn ffilm lwyddiannus hefyd yn ddiweddar (t23). Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!

ChapterHeol y Farchnad,Caerdydd CF5 1QE029 2030 4400

[email protected]

Croeso02 chapter.org

Delwedd y clawr: The Young and Prodigious T.S. Spivet

CROESO

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Page 3: Chapter Gorffennaf 2014

chapter.org

Oriel tudalennau 4–7

Bwyta Yfed Llogitudalen 8

Chapter Mix tudalen 9

Theatr tudalennau 10–17

Addysgtudalen 19

Sinematudalennau 20–31

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 32

Cymryd Rhan tudalen 33

Calendr tudalennau 34–35

03Uchafbwyntiau

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/[email protected]

CYMRYD RHAN

Page 4: Chapter Gorffennaf 2014

Oriel04 029 2030 4400

Cris

toph

Det

tmei

er, H

appy

Birt

hday

, 201

4 (m

anyl

yn)

ORIEL

Page 5: Chapter Gorffennaf 2014

Oriel 05chapter.org

Arddangosfa ar agor:Dyddiau Mawrth, Mercher,Sadwrn a Sul 12-6pm;dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm;ar gau ar ddydd Llun

Gall Christoph Dettmeier ddod o hyd i baith y Gorllewin Gwyllt yn Detroit, Berlin neu yn unrhyw le arall lle mae yna ddarn o dir diffaith diwydiannol i gymryd lle tref anghyfannedd. Yn ei waith ffotograffig mwyaf adnabyddus, mae’r mannau diwydiannol diffaith hyn yn gefndir i silwetau o feicwyr unigol a chowbois grotesg ac fe’u darlunnir yn y fath fodd ag i droi’r lleoedd di-ddim hyn yn fannau swreal, oesol a rhyfeddol o hardd. Mae’r arddangosfa aml-gyfrwng hon — ei sioe unigol gyntaf yn y DG — yn cynnwys detholiad o’r tirluniau epig hynny a gynhyrchwyd yn ymateb i leoliadau nodedig yng Nghymru. Maent hefyd yn fyfyrdod ar ddathliadau canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr eleni. Man cychwyn Dettmeier yw trawma cyfunol y rhyfel a datblygiad dilynol genres ffilm arswyd a gêmau cyfrifiadurol cyfoes. Mae e’n gosod y rhain yn y tirweddau epig hyn — ac yn gwneud defnydd trawiadol o ffosydd ymarfer Penalun, sy’n gefnlen i gyfres ffotograffig newydd a ffilm yn dychmygu’r hyn a welid mewn gêm gyfrifiadur am y Rhyfel Byd Cyntaf lle byddai angen i’r chwaraewr groesi’r ffosydd mewn modd gwyllt a di-ildio.

Ynglŷn â’r artistGanwyd Christoph Dettmeier yn Cologne ac mae e’n byw ac yn gweithio yn Berlin. Mae ei arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys ‘Waitin’ Around to Die’, Kunstverein Braunschweig (2010) a Galerie der Stadt Remscheid (2009); ‘Private Land’, rahncontemporary, Zürich, ‘Open Range’, Galerie Schmidt Maczollek, Köln (2009) a ‘Badlands’, o.T. raum für aktuelle Kunst, Luzern (2008). Mae ei arddangosfeydd grŵp a’i berfformiadau yn cynnwys ‘Experimentica12: Born Under A Bad Sign’, Chapter, Caerdydd (2012) a’r ‘2nd International Triennial of Contemporary Art (ITCA)’, Oriel Genedlaethol Prâg (2011), ‘2 Dead_LINES. Todesbilder in Kunst — Medien — Alltag ‘, Amgueddfa Von der Heydt, Wuppertal,’Optical Shift – Illusion und Täuschung’, b-05, Kunst-und Kulturzentrum, Montabaur (y ddwy yn 2010).Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ei we-fan, www.christoph-dettmeier.de

Christoph Dettmeier: Happy BirthdayRhagolwg: Gwe 25 Gorffennaf 6-8pmArddangosfa: Sad 26 Gorffennaf — Sul 21 Medi

Cris

toph

Det

tmei

er, H

appy

Birt

hday

, 201

4

Page 6: Chapter Gorffennaf 2014

Oriel06 029 2030 4400

Nodweddir gwaith Kelly Best gan dechnegau graffeg ac estheteg sy’n awgrymu systemau sydd yn fathemategol ac yn afreolus. Mae hi’n ceisio ysbrydoliaeth yn y profiad o fyw mewn gofodau pensaernïol y mae hi wedyn yn eu datgysylltu, yn eu hail-siapio’n rhannol ac yn eu troi’n haniaethau. Mae ei harbrofion â phersbectif (a’i absenoldeb) yn peri i’r gwaith bendilio rhwng arwyneb y ddelwedd a’r gofod a ddarlunnir; fe’u poblogir â ffurfiau pensaernïol wedi’u haildrefnu — cromenni gwydr, pileri neu agoriadau, er enghraifft.Mae ei gwaith yn Chapter yn adleisio’r haul wrth iddo, yn anuniongyrchol, daflu siapiau hir ar y wal drwy ffenestri’r to uwchben. Yn gweithio â gwyn penodol, mae hi’n ail-greu fersiynau o gysgodion yr haul â phensil lliw. Cryfder y gwaith yw ei gynildeb: mae’r siapiau mor debyg o ran tôn a lliw i’r wal fel y gellir eu hanwybyddu’n rhwydd ond mae maint y gwaith yn golygu y bydd y gwyliwr, pan fydd wedi sylwi arnynt, yn llawer mwy ymwybodol o’u presenoldeb, hyd yn oed wrth eu gwerthfawrogi o bell. Y gydnabyddiaeth hon o graffter gweledol sydd fwyaf diddorol.Mae’r lluniadau yma, felly, yn annog ac yn gwobrwyo sylw. Rydym yn gyfarwydd iawn ag ystyried edrych fel gweithred oddefol ond yn llai hyddysg, efallai, yng nghrefft sylwi. Mae gwaith Best yn ein hannog i edrych ar yr hyn a welwn; chwilfrydedd syml yr hyn y mae hynny’n ei ennyn.Dyfyniadau o destun comisiwn gan Chris Brown.

BywgraffiadGanwyd Kelly Best yng Nghaint ym 1984 a chwblhaodd radd BA Celfyddyd Gain mewn peintio ym Mhrifysgol Kingston, Llundain. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae ei harddangosfeydd diweddar yn cynnwys ‘Preswyliad Unit(e)’, g39, Caerdydd (2014), ‘Y Lle Celf’, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Dinbych, ‘Arddangosfa o Beintiadau’, Stiwdio B, Caerdydd (y ddwy yn 2013), ‘Gwobr Beintio John Moores’, Oriel Gelf Walker, Lerpwl, ‘Cardiff Open 2012’, Caerdydd, Gwobr ‘Door Painting’, Oriel Centrespace, Bryste (pob un yn 2012).

Kelly

Bes

t, O

ut L

ines

, dar

lun

pens

iliau

lliw

, 201

4

CELFYDDYD YN Y BAR Kelly Best: Out LinesGwe 23 Mai — Sul 3 Awst

Page 7: Chapter Gorffennaf 2014

Oriel 07chapter.orgBe

dyw

r Will

iam

s, o

ffilm

Ech

t, 2

014.

Gyd

a ch

ania

tâd

yr a

rtis

t a

Glas

gow

Inte

rnat

iona

l

Dangosiadau ffilm wedi’u dilyn gan sesiwn holi-ac-ateb gyda Bedwyr Williams, Casey Raymond a Ewan Jones MorrisIau 17 Gorffennaf 8.30pmMae Echt, ffilm newydd gan Bedwyr Williams, yn ddarlun o ddyfodol dystopaidd lle mae system ffiwdal wedi rhannu’r wlad rhwng penaethiaid newydd. Yn y byd newydd hwn, lle mae statws yn seiliedig ar berchnogaeth amlwg, mae perchnogion yn frenhinoedd. Maent wedi sefydlu llysoedd newydd mewn hen neuaddau dawns a chlybiau, a’r rheiny’n llawn cymeriadau cywrain Bedwyr. Cwblhawyd y gwaith gyda chydweithrediad yr hynod dalentog Casey Raymond ac Ewan Jones-Morris. Roedd Echt yn rhan o osodiad mwy yn Tramway, Glasgow, yn y lle cyntaf, a gyflwynwyd yn rhan o Ŵyl Glasgow International y ddinas.

Ar y cyd â’r dangosiad o Echt, byddwn hefyd yn dangos The Starry Messenger. Comisiynwyd y ffilm honno yn wreiddiol ar gyfer cyflwyniad Pafiliwn Cymru yn Biennale Celf Fenis 2013. The Starry Messenger oedd prosiect ffilm cydweithredol cyntaf Bedwyr, Casey ac Ewan.

DIGwYDDIAD

Bedwyr williams Echt and The Starry Messenger

Page 8: Chapter Gorffennaf 2014

08 029 2030 4400Bwyta Yfed Llogi

LlogiMae nifer o ofodau a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer ohonynt yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan amrywiaeth eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Edrychwch ar ein gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn un cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost [email protected].

Bwyta + YfedBoed law neu hindda, byddwn yn cynnal ein gŵyl fyrgyrs flynyddol yn y Caffi Bar yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf. Byrgyrs cig, llysieuol a fegan blasus a llond lle o salad a sawsys blasus, a’r cyfan wedi’i weini â sglodion a mân-brydau eraill. Ac, i yfed, beth am fwynhau diod oer neu ysgytlaeth arbenigol o’n bar — gwledd ganol-wythnos berffaith!Drwy gydol mis Gorffennaf ac Awst byddwn hefyd yn cynnal picnics dinesig, bob dydd Sul, ac yn cynnig byrbrydau Picnic blasus a phrydau o’n barbeciw poblogaidd.

Cefnogi ChapterR’yn ni wedi ei ddweud o’r blaen, ond mae hi’n wir bob gair: allen ni ddim gwneud yr hyn a wnawn heb y gefnogaeth a dderbyniwn gan gynifer ohonoch. Mae ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysg pwysig yn dibynnu ar gefnogaeth unigolion fel chi ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob ceiniog a dderbyniwn. Os teimlwch y gallwch chi helpu, mae yna nifer o ffyrdd i chi wneud cyfraniad — er mwyn cyfrannu ar-lein, ewch i http://www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni. I gyfrannu â cherdyn credyd, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400 neu gallwch dalu â siec (yn daladwy i ‘Chapter (Caerdydd) Cyf’). Danfonwch hi at Elaina Gray, Chapter, Heol y Farchnad, CF5 1QE (neu gallwch bicio heibio a’i gadael yn y Swyddfa Docynnau).Gallwch hefyd wneud cyfraniadau â’ch ffôn erbyn hyn — tecstiwch ‘Chap14’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei gyfrannu at 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn yn derbyn 100% o’r arian a gyfrannwch.I gael gwybodaeth am y rhannau o’r rhaglen lle mae angen eich cefnogaeth chi fwyaf, neu i gael gwybodaeth gyffredinol am unrhyw un o’n gweithgareddau codi arian, cysylltwch ag Elaina yn y swyddfa ddatblygu — 029 2035 5662 / [email protected].

BWYTA YFED LLOGI

Page 9: Chapter Gorffennaf 2014

Chapter Mix 09chapter.org

Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 6 Gorffennaf 8pmDewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!£4 (wrth y drws)

Carnifal Dros Dro SwICA Gwe 11 Gorffennaf 5.30 — 9.00pmDewch i fwynhau blas o Rio wrth i ni ddathlu lansiad Carnifal Caerdydd 2014!Mae SWICA, arbenigwyr celfyddydau carnifal mwyaf nodedig Cymru, yn cynnig cyfle rhad ac am ddim i drawsnewid eich hun drwy wisgo penwisgoedd trawiadol ar y stondin garnifal dros dro — ffrwydrad o secwinau, gliter a phlu!Bydd 25ain Carnifal Caerdydd yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 9 Awst. Ydych chi eisiau bod yn rhan o’r orymdaith? Dewch i gwrdd â Thîm SWICA yn Chapter neu gallwch e-bostio’r tîm i gael mwy o wybodaeth am y carnifal a’r gweithdai carnifal rhad ac am ddim. RHAD AC AM [email protected] / www.swicacarnival.co.uk www.facebook.com/swicacarnival www.twitter.com/swicacarnival

Clwb Comedi The DronesGwe 4 + Gwe 18 Gorffennaf. Drysau’n agor: 8.30 Sioe’n dechrau: 9pmClint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. Bydd yna rifyn arbennig o The Drones ar ddydd Gwener 18 Gorffennaf: rhagolwg o sioe Caeredin Tom Price (Torchwood a Secret Diary of a Call Girl).£3.50 (wrth y drws)

Capoeira Street Roda Sul 20 Gorffennaf 2 — 3.30pmBydd y grŵp capoeira lleol, Nucleo de Capoeiragem (c-m Claudio Campos), yn cyflwyno’u roda awyr agored misol yng ngardd gymunedol Chapter yn ystod misoedd yr haf. Mae Capoeira yn gamp Affro-Frasilaidd sy’n ymgorffori crefft ymladd chwareus, ‘floreos’ acrobatig ac elfennau o ddawns, cerddoriaeth acwstig fyw a chanu. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIM [email protected]

Clonc yn y CwtshBob dydd Llun 6.30 — 8pmYdych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIMAr y cyd â Menter Caerdydd

Clonc yn y Cwtsh gyda Heather JonesLlun 14 Gorffennaf 6.30 — 8pmEin gwestai arbennig ar gyfer dathliadau Tafwyl fydd y gantores Heather Jones. Wedi’i geni a’i magu yng Nghaerdydd, dysgodd Heather Gymraeg a bu’n un o hoelion wyth sîn cerddoriaeth werin Cymru ers y 70au. Dewch i gael sgwrs gyda Heather am ei phrofiadau fel dysgwr ac i fwynhau set acwstig arbennig yn cynnwys rhai o’i chaneuon mwyaf poblogaidd.

Jazz ar y SulSul 20 Gorffennaf 9pmEin noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com

Music Geek MonthlyIau 31 Gorffennaf 8pmTrafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis.RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

SWIC

A

Page 10: Chapter Gorffennaf 2014

Theatr10 029 2030 4400

Robe

rto

Zucc

o. L

lun:

Jor

ge —

Stu

dioc

ano.

co.u

k. D

ylun

io: M

atth

ew W

right

Page 11: Chapter Gorffennaf 2014

Theatr 11chapter.org

AUGUST 012 YN CYFLwYNO

Roberto Zuccogan Bernard-Marie KoltèsCyfieithiad gan Martin CrimpCyfarwyddo gan Mathilde LópezMer 9 — Sad 19 Gorffennaf 7.30pm(Dim sioe ar ddydd Sul 13 Gorffennaf)Carcharor ar ffo, bardd camddealledig, llofrudd plant, myfyriwr, herwgipiwr neu broffwyd?Mae’r ddrama hon yn gyfuniad o stori dditectif gyffrous, stori athronyddol, antholeg o farddoniaeth a ffilm gangster Americanaidd. Mae gwaith dadleuol Koltès fel petai’n ymchwiliad i fywyd Roberto Zucco, y llofrudd Eidalaidd a ddaeth i sylw rhyngwladol yn y 1980au.Ymunwch ag August 012 ar gyfer yr archwiliad hwn o drais, tynerwch, harddwch a chomedi, i gyfeiliant cerddoriaeth gorawl fyw ac unawdau gitâr drydan. Gallwch ddisgwyl i’ch syniad o foesoldeb gael ei siglo wrth i chi fynd at galon dirgelwch Zucco. Roberto Zucco yw ail gynhyrchiad August 012 ar ôl y fersiwn nodedig o Caligula y llynedd (a enwebwyd ar gyfer gwobr y Cynhyrchiad Gorau yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014). Cyfarwyddo gan Mathilde López (Cyfarwyddwr gwobrwyol Tonypandemonium, National Theatre Wales). Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Chapter a thîm NTW.£15/£12Oed 16+ (iaith gref a themâu sy’n anaddas i bobl iau)August012.co.ukFacebook.com/Aug012theatreco@august0121 #ZuccoPlay

“Mae’n gwneud yr hyn y dylai pob cynhyrchiad theatr byw ei wneud: cyffroi a hoelio sylw’r gynulleidfa.” Cylchgrawn Buzz, yn sôn am ‘Caligula’ August 012

Page 12: Chapter Gorffennaf 2014

Theatr12 029 2030 4400

O’r c

hwit

h i’r

dde

: The

Tig

er a

nd t

he M

oust

ache

, Tim

Bro

mag

e

The Tiger and the MoustacheIau 3 Gorffennaf + Gwe 4 Gorffennaf 7.30pm

“Mae gan bob un ohonom daith i’w chwblhau, yr hurten, ac mae hynny’n dy gynnwys di.”O ble ydym ni’n dod? A beth sy’n ein gwneud ni yr hyn ydym? A yw ein tynged wedi’i ddiffinio gan y sêr neu wedi’i stampio ar basbort?

Wedi’i geni ar y diwrnod cyntaf yn hanes cenedl newydd, magwyd Hashi, y ferch sydd yn gwenu bob amser, yng nghwmni teigrod yn jyngl Sunderban. Yn The Tiger and the Moustache, mae Saikat Ahamed yn olrhain taith Hashi, ei fam, a chenedl ddatblygol Bangladesh. Dewch ar daith yn ei gwmni, wrth iddo lithro i mewn ac allan o amser, o boen y Rhaniad ym 1947 at y presennol, wrth iddo fyrddio cychod pysgota ar Afon Megna a ‘rickshaws’ ar ffyrdd llychlyd Dacca. O ddwyrain Llundain i ddwyrain Bengal, trwy Birmingham, yr Almaen a Glasgow, caiff hanes Bangladesh ei wau at ei gilydd drwy gyfrwng straeon, theatr, cerddoriaeth fyw, dawns a dos iach o hiwmor.Mae’r awdur a’r perfformiwr Saikat Ahamed yn adnabyddus i gynulleidfaoedd teledu o ganlyniad i’w rannau rheolaidd yn Monday Monday (ITV) a Trollied (Sky TV). Mae e hefyd yn gweithio’n gyson gyda’r Bristol Old Vic. Mae e wrth ei fodd yn cael cyflwyno’i sioe un dyn yng Nghaerdydd, ar ôl wythnos hynod lwyddiannus yn y Tobacco Factory Theatres y llynedd.£10/£8 Oed 12+

“Mae Ahamed yn storïwr gwych, llawn egni; mae ei berfformiad yn pefrio.” Bristol Evening Post

JIM DAHL YN CYFLwYNO

Boon Shy no mutley Gyda Tim Bromage a gwesteionSad 5 Gorffennaf 8pmPerfformiad newydd sydd yn gymysgedd go iawn — hud, barddoniaeth a cherddoriaeth o albwm sydd yn fythol ar fin cael ei orffen ... Rhywbeth i bawb — efallai. Rhywbeth i rywun, o leia’.£12/£10/£8Oed 14+

Craig Jones, Prentis TG Y mis yma, dw i’n edrych ymlaen at Ŵyl Gomedi Caerdydd - mae Chapter yn bartner i’r ŵyl am y drydedd flwyddyn yn olynol. Dw i’n siŵr y bydd yn ddiwrnod ardderchog. Yn ogystal â hynny, dw i’n bwriadu mynd i’r Ŵyl Ffilm Fechan - sy’n cyflwyno ffilmiau comedi byrion eleni. Dw i wrth fy modd â ffilmiau byrion ... Dw i ddim am golli Monty Python Live (mostly), chwaith. Hwn fydd y tro olaf i’r pum Python sydd ar ôl ymddangos gyda’i gilydd. Gydag ychydig o lwc, fe fyddan nhw’n perfformio ambell un o’u sgetsys clasurol...

Page 13: Chapter Gorffennaf 2014

Theatr 13chapter.orgO’

r chw

ith

i’r d

de: M

eic

Stev

ens,

Pen

-blw

ydd

Poen

us P

ete

CLwB IFOR BACH YN CYFLwYNO

Meic Stevens Sul 6 Gorffennaf 7.30pmMae Meic Stevens yn un o gewri cerddoriaeth boblogaidd Cymru. Cyfansoddodd gyfoeth o ganeuon ac fe fu’n eu perfformio yn ei arddull ysbrydoledig ac anghyson ei hun ers pedwar degawd. Ac mae e’n dal i ffynnu. Cafodd ei fagu yn Solfach, Sir Benfro, ond mae’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer erbyn hyn. Chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad cerddoriaeth gyfoes Gymraeg ac fe drawsnewidiodd y grefft o recordio yng Nghymru. £10

CwMNI ACTIO TRYDEDD FLwYDDYN COLEG GŵYR YN CYFLwYNO

13Maw 22 — Sad 26 Gorffennaf 7.30pm+ matinee Sad 26 Gorffennaf 2.30pmYn Llundain, mae deuddeg o bobl yn deffro o’r un freuddwyd arswydus. Ar yr un pryd, mae dyn ifanc o’r enw John yn dychwelyd adref ar ôl blynyddoedd i ffwrdd ac yn gweld anobaith economaidd, protestio ofer a Phrif Weinidog sydd ar fin arwain y wlad i ryfel. Ond mae gan John weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Â’r blynyddoedd diwethaf wedi arwain at ddymchwel llywodraethau a miloedd yn y strydoedd i brotestio, mae 13 yn archwilio ystyr cyfrifoldeb personol, gafael y gorffennol ar y dyfodol a natur cred ei hun.Première Cymreig 13, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 2011 yn y Theatr Genedlaethol Frenhinol.Cyfarwyddo gan Catherine Paskell (‘Parallel Lines’ cwmni Dirty Protest, gan Katherine Chandler.)Bydd yna sgwrs cyn y sioe am 6.15pm ar ddydd Iau 24 Gorffennaf, a sgwrs ar ei hôl hefyd am 10.15pm.£10/£5

THEATR IOLO YN CYFLwYNO

Pen-blwydd Poenus PeteIau 10 — Sadwrn 12 Gorffennaf 6.30pm (Gweithgareddau i’r teulu cyn y sioe, bob nos am 6pm) Cynhyrchiad yn Gymraeg.Comedi frathog a phefriog a golwg amharchus ar fywyd teuluol gan y dramodydd nodedig, Gary Owen.Teulu: Mam, Dad, dau o blant a Cadi’r gath. Mae Dad yn dweud nad yw e eisiau iddyn nhw fynd i drafferth ar gyfer ei ben-blwydd. Felly, dyw Mam ddim yn mynd i drafferth; dyw’r plant a hi ddim yn gwneud UNRHYW BETH ar gyfer pen-blwydd Dad.Ond, mae hynny’n gwneud Dad yn gynddeiriog, ac wrth i rwystredigaethau Dad gyfuno â grym direidus y gath, mae anhrefn yn anochel. Mae’r cwmni theatr arobryn, Theatr Iolo (y Ddrama Orau i Blant a Phobl Ifainc: Gwobr Beirniaid Theatr Cymru 2013), yn falch iawn o gyflwyno’r sioe newydd sbon hon ar gyfer teuluoedd ac ysgolion.Mae Pen-blwydd Poenus Pete yn gyfle perffaith i deuluoedd sy’n siarad Cymraeg ac i ddysgwyr o bob lefel rannu noson hwyliog. Dewch draw i’r parti cyn y sioe i fwynhau gweithgareddau i’r teulu cyfan a fydd yn eich helpu i ddeall iaith a stori’r ddrama. Addas i ddysgwyr o bob oed. I gael manylion am berfformiadau mewn ysgolion, cysylltwch â Theatr Iolo — [email protected].£7 (mae cynigion arbennig ar gael hefyd — ffoniwch y swyddfa docynnau am fanylion os gwelwch yn dda — 029 2030 4400.) www.theatriolo.com @theatriolo #partipeteYdych chi’n dysgu Cymraeg? Mae ein noson reolaidd, Clonc yn y Cwtsh, bob nos lun, yn gyfle delfrydol i ymarfer eich Cymraeg ac i gyfarfod â dysgwyr eraill mewn awyrgylch anffurfiol a hwyliog. Gweler y manylion ar dudalen 9.

Page 14: Chapter Gorffennaf 2014

14 029 2030 4400Theatr

Dan ddylanwad y cof, yr amgylchfyd a bywyd bob dydd, mae Aomori Aomori yn gyflwyniad o ddawnsio, canu a synau’n deillio o aeafau Arctig Gogledd Japan; gwaith o gyfyngiant emosiynol, lle mae symudiad, llais, sain a distawrwydd yn cyfuno i greu cyfanwaith aml-ddimensiynol. Trwy gyfrwng ailadrodd, mae symudiadau’n cyfleu synwyrusrwydd tirwedd mewnol, ac yn adlewyrchu enaid Aomori; tawelwch ailadroddus eira.

Sioned Huws Aomori Aomori Iau 31 Gorffennaf + Gwe 1 Awst 7.30pmPerfformiad gan gwmni o ddawnswyr, cerddorion a chanwr, o Japan, Cymru, y DG ac Ewrop.

‘Dawns dwylo’ Tsugaru, manylyn mewn ffocws, o’r fertigol i’r llorweddol, proses goreograffig o gyfieithu a deall, ailadrodd symudiadau. Cyfosodiad o systemau trefnus, wedi’u cydbwyso ar y llinell denau rhwng trefn ac anhrefn, bod a difodedd; symlrwydd trosiannol.Gyda’r dawnsiwr Tsugaru ‘teodori’, Yoshiya Ishikawa, Tsugaru Shamisen — Hasegawa Sangen-kai, y canwr ‘minyo’, Kiyoko Goto (a ddaeth i Chapter ar gyfer Prosiect Aomori yn 2011 a 2013) a’r dawnswyr Sioned Huws, Elena Jacinta, Agnese Lanza a Taz Burns. Mae Prosiect Aomori yn brosiect perfformio parhaus sydd, ers 2008, wedi creu cysylltiadau ar hyd a lled arfordir gogledd-ddwyrain Japan ac wedi teithio i fwy nag ugain o leoliadau a gwyliau rhyngwladol yn Ewrop, Japan a Singapore.£12/£10/£8

“ Mae Prosiect Aomori yn teimlo fel cynhesu ar ôl bod allan yn yr oerfel.” Singapore Business Times 2012

Page 15: Chapter Gorffennaf 2014

Theatr 15chapter.org

Maw 29 Gorffennaf 7pm Noson yng nghwmni Teiko Hinuma, i gyflwyno Artist Preswyl (AIR) Japan a rhwydwaith rhyngwladol Microresidency. Mae Teiko yn Gyfarwyddwr ARTizan, yn Gyfarwyddwr Rhaglen Breswyl Rikuzentakata, yn guradur Canolfan Celfyddydau Cyfoes Aomori (1999-2011) ac yn Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Celf a Dylunio Joshibi.RHAD AC AM DDIM

GYDA‘Aomori’ — ffilm gan Eilir PierceSad 2 Awst, 2.30pm£3 (mynediad am ddim i ddeiliaid tocyn Aomori Aomori)Am fanylion llawn ewch i www.chapter.org

Cynhyrchwyd gan Dance4 a Sioned HuwsCynhyrchiad ar y cyd â: Theatr Harlech, ARTizan, Fondazione Fabbrica Europa / Gŵyl Verticali Orizzonti.Partneriaid: Chapter, aterteater, Galeri Caernarfon, Oriel wrecsam a Rhaglen Breswyl Rikuzentakata.Ariannwyd gan: Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Japan, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.Crëwyd Aomori Aomori yn Chapter, Caerdydd, ac yn Greenwich Dance, Llundain, 2013.

Gyda’r cloc o’r chwith: Gyda chaniatâd Kym Chang-Kyum & Massimiliano Simbula, Jun Matsuyama, Cathy Boyce

Page 16: Chapter Gorffennaf 2014

Theatr16 029 2030 4400

CCF Stand-up ReviewLlun 21 Gorffennaf, Drysau’n agor 7.30pmNoson gyda rhai o ddigrifwyr mwyaf cyffrous Caerdydd:Leroy Brito: Ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2011, mae’r comedïwr Leroy Brito, o Gaerdydd, wedi ennill enw da fel un o sêr mwyaf addawol byd comedi Cymru. Yn ystod ei flwyddyn gyntaf ar y sîn, cyrhaeddodd rownd gyn-derfynol SYTYF, WUDA 2012 a 2013 ac mae e bellach yn perfformio’n rheolaidd yn Komedia, The Glee Club a nifer o glybiau Jongleurs.Jordan Brookes: Enillydd WUDA 2012. Dywedodd y South Wales Echo bod gwaith Jordan Brookes fel digrifwr yn “bortread ystyrlon o rywun ar gyrion cymdeithas ac wedi’i berfformio’n wych.” + Gareth BrandDan arweiniad Robin Morgan.£6 (wrth y drws)

3 CRATE PRODUCTIONS YN CYFLwYNOHenna NightLlun 21 + Maw 22 Gorffennaf 8pm Cyfarfod lletchwith rhwng Judith a chariad newydd ei chyn gariad. Noson o sylwadau sarhaus a choeglyd, ffug feichiogrwydd a chyfeillgarwch dros de, sigaréts a Henna.£7

‘I Can Heal Your Life’ & Rhagolwg o Sioe Gaeredin East End CabaretMer 23 Gorffennaf 8pm‘I Can Heal Your Life’: Trawsnewidiwch eich bywyd gyda thechnegau Ruby O.Seminar hunan-gymorth na welsoch ei debyg o’r blaen. Dewch yn llu — i gael eich trawsnewid.Crëwyd gan Carri Munn a Gerald Tyler, Perfformiwyd gan Carri Munn, Cyfarwyddo gan Gerald Tyler, Dramayddiaeth gan Kaite O’Reilly.

East End Cabaret: Dyw Bernadette a Vicky ddim yn gwpwl. Ddim fel y cyfryw. Ond maen nhw’n rhannu gwely — ac mae’r ddeuawd gomedi gwlt yn barod i ddiosg y dillad gwely a datgelu eu cyfrinachau mwyaf rhyfedd a bisâr. Â detholiad eang o ganeuon clyfar a direidus, a ffraethineb siarp, bydd y diva gwyrdroëdig a’r cerddor â’r mwstas yn eich hudo â’u comedi unigryw o frwnt. £14

“Fel ‘Flight of The Concords’ ar asid, wedi’i drwytho mewn budreddi.” Crikey

Gŵyl Gomedi CaerdyddLlun 21 — Iau 31 GorffennafMae Chapter yn falch iawn o fod yn un o leoliadau partner Gŵyl Gomedi Caerdydd am y drydedd flwyddyn o’r bron. Mae’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal ledled y ddinas, yn cyfuno digrifwyr, dramâu comedi, gweithdai comedi i bobl ifainc, digwyddiadau rhad ac am ddim, sioeau adrodd straeon a llawer iawn mwy, ac yn cyflwyno talentau o Gymru a phedwar ban byd i’r brifddinas. Dyma’r hyn y gallwch ddisgwyl ei weld.

CARDIFF

gwyl comedi caerdydd

Page 17: Chapter Gorffennaf 2014

Theatr 17chapter.org

ROGUE’Z THEATRE COMPANYThe HomecomingIau 24 Gorffennaf 8pmDrama deuluol wych Pinter, sy’n berwi gan rywioldeb sordid a ffraethineb gwenwynig — sioe berffaith ar gyfer y rheiny sy’n hoffi elfen dywyll fel y fagddu yn eu comedi.£11/£8

RHAGOLwG GALABrendon Burns + Cefnogaeth Gwe 25 Gorffennaf 8pmRhagolwg o sioe Gaeredin Brendon Burns. Nid digrifwr cyffredin mohono. Mae e’n hŷn, yn ddoethach ac yn llai gwyllt (ac ar ôl cael cymorth clywed mae e dipyn yn dawelach) ond mae e’n dal yn llawn egni. Mae ei droadau ymadrodd yn gwrs ond yn rhyfedd o huawdl, ac yn gwbl hygyrch a hynod hoffus. Dyw e byth yn hunan-bwysig ac mae ei natur hunanfychanol yn caniatáu iddo ddweud pethau rhyfeddol. £14

“Mae’r gwir onest yn aml yn hynod ddoniol — a byth yn ddiflas. A dyna’n union gewch chi gan Burns.” The Guardian

SIOE GALA CCF:Ian Cognito Songs for whingeing Lovers + CefnogaethSad 26 Gorffennaf 8pmDros y tri degawd diwethaf, mae Ian Cognito wedi datblygu i fod yn arwr tanddaearol ac yn aelod o reng flaen byd comedi Prydain. Erioed wedi bod ar y teledu, erioed wedi gwneud hysbyseb ... er y byddai’n fodlon gwneud un ar gyfer Guinness, tasen nhw’n fodlon iddo ysgrifennu’r sgript ei hun. Mae Cogs yn dal i fod yn wirioneddol unigryw. Os nad ydych chi wedi ei weld, fydd gyda chi ddim syniad am bwy yr ydym yn sôn. Os ydych chi wedi ei weld, mae hi’n hollol sicr na fyddwch chi wedi anghofio’r enw. £14

Gŵyl Ffilm Fechan Caerdydd: ComediSul 27 Gorffennaf 8pm Byddwn yn dangos deg ffilm gomedi fer gan wneuthurwyr ffilm Cymreig yn bennaf ac yn gwobrwyo’r goreuon yn eu plith. £6 www.cardiffminifilmfestival.co.uk

INFINI PRODUCTIONSHooply GoopsLlun 28 + Maw 29 Gorffennaf 8pmMae David Gilvey yn awdur plant sy’n casáu plant. Ond mae ei gymeriadau twp yn gwrthod gadael llonydd iddo!£10

VELVET TRUMPETToast / Ken & SteveMer 30 + Iau 31 Gorffennaf 8pmMae Velvet Trumpet o Lundain yn cyflwyno dogn ddwbl o theatr gomedi yng Nghaerdydd, sy’n cynnwys cynyrchiadau diweddaraf Toast a Ken & Steve.£8

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h: T

he H

omec

omin

g, B

rend

on B

urns

, Rub

y O

Page 18: Chapter Gorffennaf 2014

18 029 2030 4400

Mae partneriaeth Chapter â’r ŵyl yn blodeuo ac eleni rydym yn croesawu Triawd Michael Wollny, y perfformiwr Prydeinig addawol, Zara McFarlane, a Don Weller a David Newton i’n llwyfan. Byddwn hefyd yn cyflwyno perfformiad cyntaf darn comisiwn Huw Warren i ddathlu Canmlwyddiant Dylan Thomas, ‘Do Not Go Gentle’, ynghyd â’r artistiaid canlynol: Pedwarawd Marius Neset, Pumawd Trish Clowes gyda Gwilym Simcock, perfformiad prin gan Driawd John Taylor a theyrnged Christine Tobin i Leonard Cohen ‘A Thousand Kisses Deep’, a enillodd Wobr yr Herald Angel yng Ngŵyl Caeredin yn 2013.

Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys sioeau amrywiol, gan gynnwys perfformiad gan y chwedlonol Burt Bacharach (Iau 7 Awst, Neuadd y Farchnad), Laura Mvula (Sadwrn 9 Awst, Neuadd y Farchnad), Loose Tubes, sydd newydd ailffurfio (Gwener 8 Awst,

Neuadd y Farchnad), ac enillydd gwobr Grammy, Gregory Porter (Sul 10 Awst, Neuadd y Farchnad). At ei gilydd, bydd Jazz Aberhonddu yn cyflwyno 39 o gyngherddau mewn chwe lleoliad dros gyfnod o bedwar diwrnod.Eleni hefyd, bydd lleoliad awyr-agored poblogaidd y Captain’s Walk yn dychwelyd i ganol tref Aberhonddu (Sad 9 a Sul 10 Awst). Bydd yna ddosbarthiadau meistr, Marchnad Stryd, Man Chwarae Western Power i Blant ac adloniant stryd rhad ac am ddim — y cyfan yn dod at ei gilydd i wneud Jazz Aberhonddu 2014 yn un o’r gwyliau mwyaf yn ei hanes. Codwch lwnc destun i’r 30 mlynedd nesaf!

I brynu tocynnau, ac i weld y rhaglen lawn, ewch i www.breconjazz.com

Iau 7 — Sul 10 AwstYn 2014 bydd Gŵyl Jazz Aberhonddu yn dathlu’i phen-blwydd yn 30 oed ac, â’r ŵyl yn ffynnu unwaith eto, bydd yn cyflwyno cyngherddau gwych mewn gwahanol leoliadau yng nghanol tref Aberhonddu ym mis Awst. Bydd Eglwys Gadeiriol hyfryd y dref yn gartref i Lwyfan Chapter am yr ail flwyddyn yn olynol.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

Mar

ius

Nese

t, Z

ara

McF

arla

ne, C

hris

tine

Tob

in

Chapter yn Jazz aberhonddu

Page 19: Chapter Gorffennaf 2014

Addysg 19chapter.org

Diwrnodau Iaith CBCMaw 1 + Mer 2 Gorffennaf 9.30am-2.30pmAm y drydedd flwyddyn o’r bron, bydd Chapter yn gweithio gyda Ysgol Uwchradd Teilo Sant i ddarparu cymorth ar gyfer uned iaith Bagloriaeth Cymru (CBC).Roedd gan Eleanor Mills, Cyd-gysylltydd CBC, Coleg Chweched Dosbarth Teilo Sant, hyn i’w ddweud am y diwrnodau iaith:“Roeddent yn fodd o danio brwdfrydedd y myfyrwyr a’u hangerdd dros ddysgu iaith — cymaint felly fel bod nifer wedi newid eu hopsiynau i gynnwys ieithoedd y flwyddyn wedyn. Roedd gallu defnyddio canolfan Chapter yn fodd o gyfoethogi profiad dysgu’r myfyrwyr. Denodd uned garwsél ddiwylliannol — a oedd yn cynnwys dawns, ffilm, bwyd a chelfyddyd genedlaethol — sylwadau cadarnhaol gan 90% o’r dysgwyr a oedd yn bresennol.”

Moviemaker Iau Sad 5 Gorffennaf 10.30am-12pmOs ydych chi rhwng 9 ac 16 oed ac yn gyfarwyddwr brwdfrydig, dewch i weld yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Byddwn yn gwylio ac yn trafod ffilmiau byrion ac yn dangos eich ffilmiau chi hefyd. Fe all y ffilmiau byrion a ddangosir yn ystod dangosiadau’r MovieMaker Iau gynnwys golygfeydd sy’n cyfateb â thystysgrif PG y BBFC. Dylai rhieni fod yn ymwybodol o hyn.£1.50

DIwRNOD GwEITHGAREDDAU FFILMTarzanLlun 28 Gorffennaf 9.30am-3.30pm9-12 oedDewch i wylio Tarzan ac i fwynhau diwrnod llawn hwyl a gweithgareddau creadigol yn seiliedig ar fyd ffilm. £15 (Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, dylid archebu lle ymlaen llaw.)

Gweithdai ‘Sewcial’ ChapterDewch i gymryd rhan! Sesiynau gwnïo i bobl ifainc rhwng 7 a 12 oed.

7 — 9 oedMaw 29 Gorffennaf 10am-2pmGweithdy hwyliog a hawdd i blant sydd eisiau dysgu sgiliau gwnïo er mwyn creu bagiau i ddal eu holl stwff — teganau, llyfrau, dyfeisiau ac ati. Bydd cyfranogwyr yn dysgu am dechnegau gwnïo ac yn mynd i’r afael â phwythau gwahanol, gwnïo botymau a rhubanau. Bydd angen pecyn bwyd.

10-12 oedMaw 5 Awst 10am-2pmEisiau rhywbeth unigryw i ddal eich arian, clustffonau, dyfeisiau ac ati? Dewch draw i’r gweithdy hwn i ddysgu sut i wnïo’r ‘cwdyn perffaith’! Byddwn yn edrych ar dechnegau gwnïo sylfaenol, o bwythau â llaw i fesuriadau a thorri. Bydd angen pecyn bwyd.Bydd pob cyfranogwr yn gadael ar ddiwedd y diwrnod ag eitem arbennig ac unigryw — a llawer iawn mwy.£7.50 y pen. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.

I DDOD YN FUAN!The Summer Game QuestLlun 4 — Gwe 8 Awst12-16 oedGêmau fideo yw’r ffurf gyfryngol fwyaf newydd, a’r ffurf sy’n tyfu gyflymaf, ar y blaned. Mae gêmau’n cyfuno holl rym straeon, medr a steil weledol ffilmiau poblogaidd a ffyrdd o ryngweithio a fyddai wedi bod yn anodd eu dychmygu ddim ond ychydig flynyddoedd yn ôl. Ymunwch â datblygwyr gêmau fideo proffesiynol a, thros gyfnod o bum niwrnod, cewch ddysgu sut i ddylunio a chreu gêm fideo, yn seiliedig ar eich posau eich hun. I gael mwy o wybodaeth, ac i gadw lle, e-bostiwch [email protected].£250

I gael gwybodaeth fanylach am unrhyw un o’r digwyddiadau hyn neu i drafod datblygu eich digwyddiadau addysgol / gweithdai pwrpasol eich hun, ar y cyd â Chapter, cysylltwch â [email protected].

ADDYSG

Page 20: Chapter Gorffennaf 2014

Sinema20 029 2030 4400

Belle

SINEMA

Page 21: Chapter Gorffennaf 2014

Sinema 21chapter.org

Under the Skin Gwe 27 Mehefin — Iau 3 Gorffennaf DG/2013/108mun/15. Cyf: Jonathan Glazer. Gyda: Scarlett Johansson.

Ar ôl glanio ar y Ddaear a’i chael ei hun yng nghroen gwraig ddynol, mae creadur o’r gofod yn gyrru o gwmpas yr Alban yn hudo dynion ifainc cyn i un ohonynt beri iddi sylwi ar agweddau eraill ar y natur ddynol. Ffilm haniaethol, hynod ddifyr sy’n dad-adeiladu pŵer rhywiol a hynny i gyfeiliant sgôr gerddorol hypnotig. Profiad sinematig hudolus.+ Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilmiau a’r ffan pybyr o ffilmiau arswyd, Ben Ewart-Dean, ar ôl y dangosiad ar ddydd Mercher 2 Gorffennaf am ddarlith anffurfiol a thrafodaeth o themâu’r ffilm a’r genre arswyd.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad, Is-deitlau Meddal ar ddydd Iau 3 Gorffennaf, 6.10pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Before the winter ChillGwe 27 Mehefin — Iau 3 GorffennafFfrainc/2013/103mun/is-deitlau/15. Cyf: Philippe Claudel. Gyda: Daniel Auteil, Kristin Scott Thomas.

 chyn-glaf yn dangos diddordeb ynddo, mae llawfeddyg llwyddiannus o’r enw Paul yn mwynhau’r sylw — cyn dechrau teimlo’n dra annifyr. Mae ei wraig Lucie yn gefnogol ar y cychwyn ond yn dod yn fwyfwy amheus o’i gŵr wrth i graciau yn eu priodas ddod i’r wyneb.  chymeriadu manwl, ymwybyddiaeth gymdeithasol a thriniaeth gynnil o densiwn, mae hon yn ffilm gyffro sy’n mudlosgi’n araf ac yn ffurfio portread treiddgar o briodas.

BelleGwe 27 Mehefin — Iau 10 Gorffennaf DG/2013/104mun/12A. Cyf: Amma Asante. Gyda: Emily Watson, GuGu Mbatha-Raw, Matthew Goode.

Ffilm yn seiliedig ar stori wir Dido Elizabeth Belle, merch anghyfreithlon yr Admiral John Lindsay a fagwyd gan ei hen ewythr aristocrataidd, yr Arglwydd Mansfield. Mae llinach Belle yn sicrhau rhai breintiau iddi, ond mae ei statws – a’i thras cymysg – yn golygu na chaiff fanteisio ar draddodiadau a statws cymdeithas fonheddig. Ond ar ôl cyfarfod â mab delfrydgar i ficer, dyn sydd â’i fryd ar newid cymdeithas, mae Belle a’r gŵr ifanc yn helpu i siapio rôl yr Arglwydd Mansfield fel Arglwydd Brif Ustus er mwyn rhoi terfyn, yn y pen draw, ar gaethwasiaeth yn Lloegr.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1 a Is-deitlau Meddal ar ddydd Mawrth 1 Gorffennaf, 6pm a dydd Gwener 4 Gorffennaf, 8.20pm (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Chinese PuzzleGwe 27 Mehefin — Iau 10 GorffennafFfrainc/2013/117mun/is-deitlau/15. Cyf: Cedric Klapisch. Gyda: Romain Duris, Audrey Tatou.

Ar ôl i fam ei blant symud i Efrog Newydd, mae Xavier yn symud i Chinatown, ac i ganol byd o anhrefn hwyliog — teuluoedd estynedig, rhieni hoyw, mewnfudo a globaleiddio. Y ffilm gomedi-ddrama swynol hon yw trydedd ran – a rhan olaf — cyfres Klpaisch sydd hefyd yn cynnwys The Spanish Apartment a Russian Dolls.

O’r t

op i’

r gw

aelo

d: U

nder

the

Skin

, Bef

ore

the

Win

ter C

hill

Page 22: Chapter Gorffennaf 2014

Sinema22 029 2030 4400

Supermensch: The Legend of Shep GordonGwe 18 — Iau 24 Gorffennaf UDA/2014/85mun/15arf. Cyf: Mike Myers.

Daeth Shep Gordon i fod yn rheolwr cerddorol ar hap yn sgil ei gyfeillgarwch â Janis Joplin a Jimi Hendrix ac aeth yn ei flaen i reoli sêr mor amrywiol â Raquel Welsh, Luther Vandross, Alice Cooper a’r cogydd, Emeril Lagasse. Yn ei ffilm gyntaf fel cyfarwyddwr, mae’r digrifwr, Mike Myers, yn adrodd stori ddifyr Shep â chyfoeth o ddeunydd archif a chyfweliadau gyda’i ffrindiau enwog, sy’n cynnwys Willie Nelson, Sylvester Stallone a Michael Douglas. Mae pob un ohonynt yn cofio un o ddynion mwyaf caredig byd ‘showbiz’.

American InteriorMaw 22 — Iau 24 GorffennafCymru/2014/90mun/12A. Cyf: Dylan Goch. Gyda: Gruff Rhys.

Ym 1792, teithiodd gwas fferm o Eryri o’r enw John Evans i America i geisio dod o hyd i lwyth o Americanwyr Brodorol ar y Gwastadeddau Mawrion y tybid eu bod yn siarad Cymraeg. Dros ddau gan mlynedd yn ddiweddarach, dilynodd Gruff Rhys, sy’n perthyn o bell i Evans, ôl ei draed, dros y cyfandir, ar Daith Gyngerdd Ymchwiliol. Mae hwn yn brosiect unigryw sy’n chwalu’r ffiniau rhwng cerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm ac yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd go iawn yng nghalon y byd newydd.

“ R’yn ni’n siarad am y byd mawr twp yma ac yn dal i chwerthin ar y diwedd, ha ha. D’yn ni byth yn gwneud unrhyw fath o synnwyr [ohono] ond, diawl, beth yw’r ots am hynny?” Alice Cooper

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Sup

erm

ensc

h: T

he L

egen

d of

She

p Go

rdon

, Am

eric

an In

terio

r

SINEFFONIG

Page 23: Chapter Gorffennaf 2014

23chapter.org Sinema

Jon Ronson, Stori Frank Sad 19 GorffennafAm dair blynedd yn y 1980au, roedd Jon Ronson yn allweddellwr gyda’r Frank Sidebottom Oh Blimey Big Band. Roedd Frank yn gwisgo pen papier mâché a doedd neb y tu allan i’w gylch mewnol yn gwybod pwy oedd yn cuddio dan y masg. Fe deithion nhw ledled y DG, a chwarae i neuaddau llawnion. Roedden nhw ar ben eu digon. Cyn i bopeth fynd o’i le ... Mae Jon yn cyflwyno sioe un-dyn sy’n adrodd y stori wir y tu ôl i’r ffilm ffuglennol. Yn gyfuniad o gofiant doniol a dyddiadur fideo, mae’r sioe yn deyrnged i’r artistiaid ymylol hynny sy’n rhy rhyfedd i lwyddo yn y brif ffrwd.£12/£10

FrankGwe 18 + Sad 19 GorffennafIwerddon/2013/95mun/15. Cyf: Lenny Abrahamson. Gyda: Domhnall Gleeson, Michael Fassbender, Maggie Gyllenhaal.

Mae cerddor ifanc o’r enw Jon yn ei gael ei hun allan o’i ddyfnder ar ôl iddo ymuno â band pop ecsentrig dan arweiniad dyn dirgel ac enigmatig o’r enw Frank. Wedi’i seilio’n fras ar gyfnod yr awdur, Jon Ronson, ym mand yr eicon cwlt, Frank Sidebottom, ac ar straeon am artistiaid anghonfensiynol fel Daniel Johnston, mae hon yn ffilm gomedi dywyll a disglair.

Noys R UsMae Sinema Chapter, ar y cyd â The Full Moon, yn cyflwyno nosweithiau ffilm Noys R Us. Unwaith y mis, byddwn yn dangos y ffilmiau alt / roc / metel / pync gorau. Yfwch, ymlaciwch a mwynhewch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.

The Devil and Daniel JohnstonLlun 28 Gorffennaf. Drysau’n agor: 7pm Ffilm: 8pm.UDA/2005/110mun/12. Cyf: Jeff Feuerzeig

Mae The Devil and Daniel Johnston yn adrodd hanes, chwedlonol bellach, y cerddor Daniel Johnston. Mae’n gronicl o’i fywyd, ei gerddoriaeth a’i gelfyddyd, ynghyd â’i frwydr barhaus ag anhwylder deubegynol, sy’n ei amlygu ei hun ar ffurf hunan-obsesiwn diafolaidd. Yn enwog am ei recordiadau ‘lo-fi’ toreithiog, mae edmygwyr ei gerddoriaeth yn cynnwys Beck, Wilco, Nirvana, Sonic Youth a Pearl Jam. Yn ogystal â bod yn gerddor unigryw a dawnus, y mae hefyd yn artist y dangoswyd ei luniau ledled y byd ac mae eu hedmygwyr nhw’n cynnwys Johnny Depp a chrëwr The Simpsons, Matt Groening. Caiff newidiadau gwyllt Johnston, ei iselder a’i ysbeidiau heulog eu croniclo yn y ffilm drwy gyfrwng cyfweliadau, ffilmiau cartref, tapiau a delweddau o’i berfformiadau.Mae tocynnau yn £5 a gellir eu prynu drwy www.chapter.org a The Full Moon.

Fran

k

Page 24: Chapter Gorffennaf 2014

Sinema24 029 2030 4400

RSC YN CYFLwYNO:

Henry IV Part IICyflwyniadau Encore: Llun 7 Gorffennaf + Mer 16 GorffennafCyf: Gregory Doran. Gyda: Anthony Sher, Jasper Britton, Alex Hassell.

Mae iechyd y Brenin Harri yn fregus wrth i ail wrthryfel fygwth ei deyrnas. Â’i fryd ar sicrhau ei etifeddiaeth, nid yw’n hollol siŵr bod Hal yn etifedd teilwng iddo ac, yn y cyfamser, caiff Falstaff ei anfon i gefn gwlad i recriwtio milwyr newydd. Ond wrth i iechyd y Brenin ddirywio, rhaid i Hal ddewis rhwng ei ddyletswydd at y goron a’i deyrngarwch at ei hen ffrind. Daw’r pâr hwn o ddramâu Shakespeare i uchafbwynt ingol.Mae tocynnau i’r dangosiadau encore wedi’u recordio ymlaen llaw yn £13/£11/£10

Monty Python Live (mostly)Yn fyw: Sul 20 Gorffennaf. Encore: Sul 3 Awst.DG/2014/210mun/12A. Gyda: Michael Palin, Terry Jones, John Cleese, Eric Idle, Terry Gilliam ac ysbryd Graham Chapman.

Yng nghwmni’r pum Python sy’n dal ar dir y byw a phresenoldeb rhithwir y chweched, gallwch ddisgwyl ychydig o gomedi, llawer o pathos a cherddoriaeth ac ychydig bach o ryw hynafol a chroeswisgo ym mherfformiad olaf y Pythons gyda’i gilydd, a ddarlledir yn fyw o’r 02 Arena. £15/£12

NT LIVE:

SkylightDangosiadau Encore: Llun 21 Gorffennaf, Sul 10 Awst, Llun 25 Awst.DG/2014/180mun/12A Cyf: Stephen Daldry. Gyda: Bill Nighy, Carey Mulligan.

Ar noson oer yn Llundain, mae athro ysgol, Kyra Hollis, yn derbyn ymweliad annisgwyl gan ei chyn gariad, Tom Sergeant, perchennog bwyty llwyddiannus a charismataidd y mae ei wraig wedi marw yn ddiweddar. Wrth i’r noson fynd yn ei blaen, mae’r ddau’n ceisio ailgynnau perthynas a oedd ar un adeg yn angerddol ond yn eu cael eu hunain mewn brwydr beryglus o ideolegau cyferbyniol a dyheadau cyfun.Mae tocynnau i’r dangosiadau encore wedi’u recordio ymlaen llaw yn £13/£11/£10

Clwb Ffilmiau Gwael BaitSul 6 GorffennafUDA/2012/93mun/15. Cyf: Kimble Rendall.Ein ffilm olaf cyn gwyliau’r haf — ac mae hi’n un dda. Yn un wael, hynny yw. Pan gaiff siopwyr eu dal mewn archfarchnad yn Awstralia ar ôl tswnami, rhaid iddynt frwydro yn erbyn ei gilydd, yr elfennau a siarc gwyn 12 troedfedd o faint! Galwch y glanhawyr!

Mon

ty P

ytho

n Li

ve (m

ostl

y)

Page 25: Chapter Gorffennaf 2014

25chapter.org Sinema

Moviemaker Chapter Llun 7 GorffennafSesiwn reolaidd sy’n galluogi i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch [email protected]. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

Pantani: The Accidental Death of a CyclistGwe 4 – Iau 10 GorffennafDG/2014/94mun/15. Cyf: James Erskine.

Roedd y beiciwr lliwgar, Marco ‘Y Môr-leidr’ Pantani, yn arwr i filiynau â’i arddull rasio ffwrdd-â-hi a’i allu anhygoel i ddringo. Ond, lai na chwe blynedd ar ôl ennill y Tour de France a’r Giro d’Italia, bu farw ar ei ben ei hun, mewn ystafell mewn gwesty rhad yn yr Eidal. Yn gyfuniad o ddeunydd archif rhyfeddol a chyfweliadau gyda ffrindiau, teulu, cydweithwyr, a chyd-gystadleuwyr Pantani, gan gynnwys Syr Bradley Wiggins, mae hon yn ffilm hynod ddiddorol am lwyddo — a phlymio’r dyfnderoedd — ym myd rasio beics proffesiynol.

The Young and Prodigious T.S. SpivetGwe 4 – Iau 10 GorffennafFfrainc/2014/105mun/12A. Cyf: Jean-Pierre Jeunet. Gyda: Helena Bonham Carter, Callum Keith Rennie, Kyle Catlett.

Mae cartograffydd 10-mlwydd-oed yn gadael y ranch yn Montana lle mae’n byw gyda’i gowboi o dad a’i wyddonydd o fam ac yn teithio ar hyd y wlad ar drên nwyddau i dderbyn gwobr yn Sefydliad y Smithsonian.

BastardsGwe 11 — Mer 16 GorffennafCymru/2014/83mun/is-deitlau/12A. Cyf: Deborah Perkin.

Ym Moroco, mae rhyw rhwng cyplau dibriod yn anghyfreithlon ac fe gaiff mamau sengl eu condemnio i fywyd o arwahanrwydd. Dilynwn y fenyw ifanc, Rabha El Haimer, wrth iddi frwydro i gyfreithloni ei phriodas orfod a sicrhau hawliau i’w merch dan y system farnwrol. Portread grymus o gymdeithas gyfoes Moroco a’i hagweddau esblygol at fenywod.+ Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr Deborah Perkin ar ddydd Llun 14 Gorffennaf.

The

Youn

g an

d Pr

odig

ious

T.S

. Spi

vet

Page 26: Chapter Gorffennaf 2014

Sinema26 029 2030 4400

Camille Claudel 1915Gwe 11 — Iau 17 GorffennafFfrainc/2014/83mun/PG. Cyf: Brumo Dumont. Gyda: Juliette Binoche.

Cafodd y cerflunydd enwog, a chariad gwrthryfelgar Rodin, Camille Claudel, ei danfon i ysbyty meddwl gan ei theulu ceidwadol ym 1913. Ac fe arhosodd hi yn y fan honno tan iddi farw 30 mlynedd yn ddiweddarach. Yn y ffilm lem hon, caiff Camille ei phortreadu’n rymus gan Binoche ac fe’i gwelwn yn disgwyl ymweliad gan ei brawd Paul. Gyda chast o gleifion go iawn a’u gofalwyr a deialog wedi’i thynnu o lythyrau rhwng Camille a’i brawd, mae’r ffilm yn gofyn cwestiynau pwysig am gelfyddyd a gwallgofrwydd a’r modd y deliwn â merched “trafferthus”.+ Trafodaeth Come Along Do gyda Gill Nicol ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 15 Gorffennaf. Mae tocynnau’n £2.50 ac maent ar gael yn ein swyddfa docynnau ac ar-lein.

For No Good ReasonGwe 18 — Iau 24 GorffennafDG/2014/89mun/TiCh. Cyf: Charlie Paul.

Mae Johnny Depp yn ymweld â stiwdio’r artist Ralph Steadman, sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru erbyn hyn. Bu Steadman yn gydweithredwr cyson ag awduron fel Hunter S Thompson, Will Self a Ted Hughes ac mae Depp yn archwilio’i arddull nodweddiadol a’i ddetholiad o grotesques cofiadwy a gorffwyll mewn ffilm ddogfen hoffus ac annwyl.

Finding Vivian MaierGwe 25 — Iau 31 GorffennafUDA/2014/95mun/15arf. Cyf: John Maloof, Charlie Siskel.

Roedd Vivian Maier yn nani ym maestrefi Chicago. Fe’i hystyrir erbyn hyn yn un o ffotograffwyr stryd mwyaf yr 20fed ganrif — cymerodd dros 100,000 o ffotograffau, nas dangoswyd yn ystod ei hoes. Ar ôl dod o hyd i’w negatifau mewn arwerthiant, ceisiodd John Maloof ddysgu mwy am y fenyw ddiddorol, feudwyaidd hon drwy gyf-weld â’i chyflogwyr a’r plant — bellach yn oedolion — y gofalodd amdanynt. Mae yna sgwrs ag ambell un hefyd a oedd yn meddwl ei fod yn eu hadnabod hi...+ Cyflwyniad o Cardiff Before Cardiff gan y ffotograffydd stryd, Jon Pountney, ar ddydd Mawrth 29 Gorffennaf.

Bedwyr williamsIau 17 Gorffennaf

Starry MessengerCymru/2013/18mun/12Aarf.

Ysgrifennwyd a Pherfformiwyd gan Bedwyr Williams.Cyfarwyddwyd gan Casey Raymond ac Ewan Jones Morris. Anturiaethau seicedelig deintydd wedi’i wneud o fosaig terrazzo.

+ EchtCymru/2014/26mun/12Aarf. Ysgrifennwyd a Perfformiwyd gan Bedwyr Williams.Cyfarwyddwyd gan Casey Raymond ac Ewan Jones Morris.

Yn y byd newydd hwn, lle mae statws yn seiliedig ar berchnogaeth amlwg, mae perchnogion yn frenhinoedd. Maent wedi sefydlu llysoedd newydd mewn hen neuaddau dawns a chlybiau, a’r rheiny’n llawn o gymeriadau cywrain Bedwyr.+ Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda Bedwyr Williams, Ewan Jones-Morris a Casey Raymond.Gweler tudalen 7 am fanylion pellach ynglŷn â’r digwyddiad arbennig hwn.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Cam

ille

Clau

del 1

915,

Fin

ding

Viv

ian

Mai

er

Celfyddyd a ffilm

Page 27: Chapter Gorffennaf 2014

27chapter.org Sinema

The 100-Year-Old Man who Climbed out the window and DisappearedGwe 11 — Iau 24 GorffennafSweden/2013/114mun/is-deitlau/15. Cyf: Felix Herngren. Gyda: Robert Gustafsson, Iwar Wiklander.

Yn seiliedig ar y nofel rhyngwladol-lwyddiannus gan Jonas Jonasson, mae’r ffilm hon yn adrodd stori annhebygol dyn 100-mlwydd-oed sy’n penderfynu nad yw hi’n rhy hwyr i ddechrau o’r dechrau. I’r rhan fwyaf o bobl, byddai un antur fawr yn ddigon mewn bywyd, ond nid hon yw taith annisgwyl gyntaf Allan Karlsson. Ers canrif, bu’n ceisio gwneud y byd yn lle mwy ansicr, ac mae e wrthi eto yn awr...

Cold in JulyGwe 11 — Iau 17 Gorffennaf + Gwe 25 — Iau 31 GorffennafUDA/2014/109mun/15. Cyf: Jim Mickle. Gyda: Michael C. Hall, Don Johnson, Sam Shepard.

Tra’n ymchwilio i synau yn ei dŷ un noson braf, mae Richard Dane yn saethu ac — yn anfwriadol — yn lladd lleidr. Er bod trigolion y dref yn canmol ei arwriaeth, mae Dane yn ei gael ei hun mewn cyfyng-gyngor pan ddaw Ben, tad y lleidr, a chyn-droseddwr ei hun, i’r dref. Mae angen i’r ddau newid cyfeiriad a chyn hir maent ar eu pennau mewn byd o gelwydd a thrais wrth iddyn nhw orfod brwydro eu diafoliaid mewnol.

CalvaryGwe 25 — Iau 31 GorffennafIwerddon/2013/101mun/15. Cyf: John Michael McDonagh. Gyda: Brendan Gleeson, Kelly Reilly, Chris O’Dowd, Dylan Moran.

Yn ddyn da â’i fryd ar wneud y byd yn lle gwell, mae’r Tad James yn cael ei siomi a’i ddadrithio gan drigolion sbeitlyd ac ymosodol ei dref fechan yn Sir Sligo. Ar ôl iddo gael ei fygwth yn ei gyffesgell, rhaid iddo frwydro yn erbyn y grymoedd tywyll sy’n ei amgylchynu.

Grand CentralGwe 25 — Iau 31 GorffennafFfrainc/2013/94mun/is-deitlau/15. Cyf: Rebecca Zlotowski. Gyda: Tahar Rahim, Lea Seydoux.

Mae Gary yn mynd i weithio mewn pwerdy niwclear ac yn dysgu nad yw ymbelydredd yn risg achlysurol — mae’n un o beryglon bywyd bob dydd. Caiff ei gyflwyno i’r gweithlu gan y goruchwyliwr Gilles a’r gweithiwr profiadol, Toni, y mae ei wraig yn swyno Gary. Mae’r ddrama rymus hon am fyd a fydd yn anghyfarwydd i lawer ohonom yn cynnwys perfformiadau bachog.

The

100-

Year

-Old

Man

who

Clim

bed

out

the

Win

dow

and

Dis

appe

ared

Page 28: Chapter Gorffennaf 2014

Sinema28 029 2030 4400

Hell DriversSul 13 + Maw 15 GorffennafDG/1957/106mun/PG. Cyf: C. Raker Endfield. Gyda: Stanley Baker, Peggy Cummings, Patrick McGoohan, Herbert Lom, William Hartnell, Sidney James, Sean Connery.

Newydd adael y carchar, mae Tom yn derbyn swydd fel ‘Hell Driver’ — gyrrwr lori sy’n gweithio bob awr o’r dydd. Ond buan y sylweddola taw’r gyrru yw’r peth hawsaf — mae’r gyrwyr lori eraill — eu casineb, eu hyfed a’u hymladd — yn llawer mwy peryglus. Ffilm gyffro effeithiol ac egnïol â chast rhagorol, gan gynnwys un o berfformiadau cynnar y Sean Connery ifanc.

Stanley Baker: As Good as BreadSul 6 GorffennafRoedd Stanley Baker yn un o gewri sinema Cymru. Gallai chwarae arwyr a dihirod yn ddidrafferth. Ond yr oedd yn ‘tough guy’ tyner a ddaliodd afael ar ei wreiddiau Cymreig ac a anwybyddodd y llwybr Hollywoodaidd a ddenodd gymaint o’i gyfoeswyr. Yn y sgwrs hon, bydd yr awdur a’r darlledwr, Tony Earnshaw, yn dwyn i gof fywyd a gyrfa yr actor a’r cynhyrchydd Cymreig.Rhad ac am ddim (archebwch eich tocyn o’n Swyddfa Docynnau, os gwelwch yn dda)

Arolwg o Yrfa Stanley BakerDathlu 50 mlynedd ers rhyddhau ZuluWedi’i eni yng nghymuned lofaol Glynrhedynog, aeth Stanley Baker, ar y cyd â’i ffrind mynwesol, Richard Burton, yn ei flaen i ennill enwogrwydd yn Hollywood — fel actor cymeriadau yn hytrach na gŵr blaenllaw. Yn actor arhosol a grymus, ac wedi hynny fel cynhyrchydd, roedd yn gyfrifol am rai o ffilmiau mawr ei gyfnod. Dros yr haf, byddwn yn dathlu pen-blwydd y ffilm Zulu yn 50 oed ac yn talu gwrogaeth i eicon Cymreig.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

Hell

Driv

ers

(pob

llun

)

Page 29: Chapter Gorffennaf 2014

29chapter.org Sinema

ZuluSul 6 + Maw 8 GorffennafDG/1963/113mun/PG. Cyf: Cy Endfield. Gyda: Stanley Baker, Michael Caine, Ulla Jacobsson.

22 Ionawr, 1879. Mae byddin o 4,000 o ryfelwyr Zulu eisoes wedi darn ladd garsiwn Prydeinig enfawr ac erbyn hyn maent ar eu ffordd i Rorke’s Drift, sydd yn cael ei warchod gan gatrawd o Gymru. Mae un o swyddogion y Peirianwyr Brenhinol yn benderfynol o ddal ei dir, er nad oes ganddo garsiwn cyfan ar ôl. Mae ei dactegau’n mynd yn groes i rai’r is-gapten, sy’n teimlo y dylid ildio’r tir. Ond buan y gwêl taw doeth fyddai iddo dalu sylw os yw’r garsiwn am oroesi. Mae Baker yn rhoi perfformiad gorau ei yrfa — roedd hefyd yn gyd-gynhyrchydd y ffilm. Gwelwn Michael Caine hefyd, yn ei rôl gyntaf mewn ffilm. Mae Zulu mor rymus heddiw bob tamaid ag yr oedd 50 mlynedd yn ôl.+ Cyflwyniad gan Robert Shail, awdur Stanley Baker: A Life in Film ar ddydd Sul 6 Gorffennaf.

Violent PlaygroundSul 20 + Maw 22 GorffennafDG/1957/105mun/PG. Cyf: Basil Dearden. Gyda: Stanley Baker, Peter Cushing, Anne Heywood, David McCallum.

Ar ôl ymchwilio i fyd troseddwyr ifainc, mae’r Ditectif Jack Truman yn dod i gysylltiad â theulu’r Murphys. Ac wrth iddo ymwneud fwyfwy â nhw, mae e’n dechrau amau bod Johnny, y brawd hynaf, yn euog o gynnau tân yn fwriadol — ond dyw Jack ddim yn sylweddoli ba mor benderfynol fydd Johnny o osgoi cael ei ddal.

CheckpointSul 27 + Maw 29 GorffennafDG/1956/PG. Cyf: Ralph Thomas. Gyda: Stanley Baker, Anthony Steel, Odile Versois, James Robertson Justice.

Mae dyn dirgel yn torri i mewn i ffatri ceir rasio yn yr Eidal ac yn ceisio dwyn cynlluniau a dyluniadau ar gyfer y ras nesaf. Ond mae pethau’n mynd ar chwâl, caiff ergydion eu tanio, mae’r heddlu’n cyrraedd ac mae yna fwy o saethu — sy’n arwain at dân yn y ffatri. Wrth i gyflogwyr y dyn geisio claddu’r sgandal, mae’r pwysau’n cynyddu. Mae delweddau gwych yr Eidalwr, Mille Miglia, a dicter ffrwydrol Stanley Baker yn ychwanegu at y tensiwn yn y ffilm gyffro nodedig hon.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Zul

u, V

iole

nt P

layg

roun

d

Page 30: Chapter Gorffennaf 2014

Sinema30 029 2030 4400

Gŵyl Ffilmiau Gwyrdd y DG Bydd yr ŵyl Brydeinig hon yn dychwelyd i Chapter ac yn tynnu sylw unwaith yn rhagor at gyfrifoldeb corfforaethol, llygredd yn ein cefnforoedd ac effeithiau’r ddinas ar ein lles. Am y tro cyntaf, byddwn yn dangos pob un o ffilmiau’r ŵyl yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf er mwyn sicrhau ein bod yn gweld y darlun cyfan. I gael mwy o wybodaeth am yr ŵyl, ewch i www.ukgreenfilmfestival.org.

The Last Catch Maw 1 GorffennafYr Almaen/2012/84mun/is-deitlau/15. Cyf: Markus CM Schmidt. Gyda: Raphael Scannapieco.

Mae brwydr anobeithiol pysgotwyr Môr y Canoldir i oroesi yn cyrraedd ei hanterth wrth i ni wynebu’r posibilrwydd real o dranc y tiwna asgell las. Mae The Last Catch yn adrodd hanes am obaith, dadrithiad ac anobaith ac yn amlygu mecanweithiau cadwyn sy’n seiliedig ar drachwant byr-ddall. Yn y pen draw, mae pysgod a phobl fel ei gilydd yn colli. Erys un cwestiwn: beth allwn ni ei wneud i atal y broses?

Lost RiversMaw 8 Gorffennaf Canada/2012/72mun/PG. Cyf: Caroline Bacle.

Teithiwch dan y ddaear gyda darganfyddwyr dinesig wrth iddynt chwilio am afonydd diflanedig — y Riviere St Pierre ym Montréal, Garrison Creek yn Toronto, Afon Tyburn yn Llundain ac Afon Bova Celato yn Brescia, Yr Eidal. Drwy ddychmygu dinas arloesol yn y dyfodol sydd, yn baradocsaidd ddigon, yn symud ymlaen drwy

gloddio drwy’r gorffennol, mae’r ffilm hon yn edrych ar ffyrdd nid yn unig o reoli ein dŵr ond, hefyd, o’i ddathlu. Mae’r gwaith yn gydnabyddiaeth o’r angen i greu mannau gwyrdd trefol a sicrhau bioamrywiaeth wrth i effeithiau newid hinsoddol ddod i’r amlwg.

Bay of All Saints Maw 15 Gorffennaf UDA/2012/74mun/is-deitlau/15. Cyf: Annie Eastman. Gyda: Norato Moraes Trindad.

Yn Bahia, Brasil, mae cenedlaethau o deuluoedd tlawd yn byw mewn palafitas, cartrefi bregus wedi’u hadeiladu ar stiltiau ar y môr. Ar ôl i’r llywodraeth fygwth adennill y bae yn enw ecoleg, mae cannoedd o deuluoedd yn wynebu colli’u cartrefi. Portread telynegol o dair mam sengl sy’n byw yn y slymiau dŵr yn ystod yr argyfwng hwn. Gwelwn eu straeon yn datblygu drwy gyfrwng ymweliadau gan Norato, dyn trwsio oergelloedd â chanddo galon fawr. Wrth i’r menywod frwydro i amddiffyn eu cartrefi, maent yn cael golwg wahanol ar y bae.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Los

t Ri

vers

, The

Las

t Ca

tch

Page 31: Chapter Gorffennaf 2014

31chapter.org Sinema

Legends of Oz: Dorothy’s ReturnGwe 18 — Iau 24 GorffennafUDA/2014/92mun/advU. Cyf: Will Finn, Dan St Pierre. Gyda: Lea Michele, Kelsey Gammer, Dan Aykroyd.

Mae Dorothy yn deffro yn Kansas, ar ôl y tornado mawr, ond yn cael ei chludo yn ôl i Oz i geisio achub ei hen gyfeillion y Bwgan Brain, y Llew, y Dyn Tun a Glinda o afael dihiryn newydd cyfrwys, o’r enw The Jester.

Tarzan (2D)Gwe 25 — Iau 31 GorffennafUDA/2013/99mun/PG. Cyf: Reinhard Klooss. Gyda: Kellan Lutz, Robert Capron, Spencer Locke.

Mae Tarzan a Jane Porter yn wynebu byddin o filwyr tâl wedi’u hanfon gan Brif Weithredwr maleisus Greystoke Energies. Dechreuodd hwnnw reoli’r cwmni ar ôl i rieni Tarzan farw mewn damwain awyren.

Carry on Screaming!Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry on Screaming yn rhoi cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn ar gyfer pobl â babanod dan flwydd oed.

The Young and Prodigious T.S. SpivetSad 5 + Sul 6 GorffennafFfrainc/2014/105mun/12A. Cyf: Jean-Pierre Jeunet. Gyda: Helena Bonham Carter, Callum Keith Rennie, Kyle Catlett.

Mae cartograffydd 10-mlwydd-oed yn gadael y ranch yn Montana lle mae’n byw gyda’i gowboi o dad a’i wyddonydd o fam ac yn teithio ar hyd y wlad ar drên nwyddau i dderbyn gwobr yn Sefydliad y Smithsonian.

Frozen SingalongSad 12 + Sul 13 GorffennafUDA/2013/108mun/PG. Cyf: Jennifer Lee, Chris Buck. Gyda: Kristen Bell, Josh Gad, Idina Menzel.

Mae Anna’n cychwyn allan ar daith epig drwy’r eira a’r oerfel ac yn dod ar draws dyn eira doniol o’r enw Olaf. Mae Anna’n ceisio dod o hyd i’w chwaer, Elsa, y mae ei phwerau rhewllyd wedi sicrhau bod y deyrnas yn bodoli mewn gaeaf tragwyddol...

Tarz

an (2

D)

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm a dydd Sul am 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

FFilmiau i’r Teulu CyFan

Page 32: Chapter Gorffennaf 2014

Archebu / Gwybodaeth32 029 2030 4400

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaenLlawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20)Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10)Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50)DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddango-siadau — £4.40

Sut i Archebu TocynnauDros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd.Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm.Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nosConsesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter.Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol.Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM.Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad.Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

GwybodaethCwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd ChapterFe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.

Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.

Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad.

Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

GWYBODAETH

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.

Heol y Farchnad

Heol Ddwyreiniol y Bont Faen

Chur

ch R

d.

Llandaff Road

Leckwith Road

Albert St.

Wellington Street

Severn Road

Glynne St.

Springfield Pl.

Orchard Pl.

Gray St.

Gray St.

Gray Lane

King’s Road

Market Pl. Library St.

Penl

lyn

Rd.

Major Road

Earle Pl.

Hamilton St

Talbot St

Wyndham

Crescent

Har

ve

y Street

I Ganol Dinas Caerdydd

Treganna

o 6pm

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — arhosfan bysus — rac feics

Page 33: Chapter Gorffennaf 2014

33chapter.org Cymryd Rhan

CYMRYD RHAN

Landfill Community FundEsmée Fairbairn FoundationEU Culture ProgrammeThe Baring FoundationGarfield Weston FoundationFoyle Foundation Biffa AwardColwinston Charitable TrustAdmiral Group plcMoondance FoundationFoundation for Sport and the ArtsTrusthouse Charitable FoundationCommunity Foundation in WalesBBC Children in Need The Waterloo FoundationScottishPower Green Energy TrustThe Welsh Broadcasting TrustSEWTA

Richer SoundsThe Clothworkers’ Foundation MomentumWRAPThe Henry Moore FoundationGoogleThe PrincipalityJane Hodge FoundationSimon Gibson Charitable TrustPeople’s Postcode TrustDunhill Medical TrustLegal & GeneralInstitut für Auslandsbeziehungen e.VMillennium Stadium Charitable TrustThe Ernest Cook Trust Lloyds TSBMorgan SignsGarrick Charitable Trust

BarclaysArts & Business CymruPenderynThe Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International FoundationPuma Hotels Collection: Cardiff Angel HotelCardiff AirportWales Arts InternationalGibbs Charitable TrustCeredigion Community SchemeThe Steel Charitable TrustThe Boshier-Hinton FoundationTaylor Wimpey 1st OfficeOakdale TrustDipec PlasticsNelmes Design

The Coutts Charitable TrustBruce Wake CharityFunky Monkey FeetFinnis Scott FoundationUnity Trust BankHugh JamesContemporary Art Society for WalesThe Dot FoundryJVHGidden & ReesWestern Power DistributionFollett TrustArts & Kids CymruCanton High School Girl’s ReunionCo-operative GroupRenault CardiffEmbassy of BelgiumQueensland Government

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Cynllun Myfyrwyr ChapterYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — [email protected]/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter