16
Mannau chwareus dros Gymru Chwarae Rhifyn 41 Gaeaf 2013 Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae

Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Mae’r rhifyn Mannau chwareus yn cynnwys: • Erthyglau newyddion amrywiol • Chwarae mewn carchardai • Chwarae mewn ysbytai • Cyfleoedd chwarae i blant Sipsiwn a Theithwyr • Amgueddfa sy’n fwy chwareus • Prosiect Sandy Ground • Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar • Yr hawl i chwarae – ymgyrch fyd-eang • Cyfweliad â Tim Gill • Llysgenhadon Ifanc Mencap Cymru a phrosiect Chwarae ein Ffordd Ni • Fforwm Gweithwyr Chwarae 2013 • Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Chwarae

Citation preview

Page 1: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

Mannau chwareus

dros GymruChwaraeRhifyn 41 Gaeaf 2013

Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae

Page 2: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

2 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013

Ar y 1af o Chwefror 2013 mabwysiadodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Sylw Cyffredinol sy’n egluro ystyr a phwysigrwydd Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) i Bartïon Wladwriaethau (llywodraethau) ar draws y byd.

Wrth i Marianne Mannello a minnau deithio i Enefa ar ddiwedd mis Medi i fod yn rhan o lansiad swyddogol y Sylw Cyffredinol, roedd ymdeimlad cryf ein bod yn teithio i ddathlu rhywbeth arbennig iawn.

Yn wir, roedd awyrgylch dathliad i’r lansiad, ond roedd hyn yn seiliedig ar neges ddifrifol – cydnabyddiaeth fod hyn yn wir yn ddechrau rhywbeth hynod … sef y camau nesaf fydd eu hangen i sicrhau bod yr hawl i chwarae (a hawliau eraill sydd wedi eu corffori yn Erthygl 31) yn troi’n realiti i blant o amgylch y byd. Ac na fyddai Erthygl 31 CCUHP bellach yn ‘Erthygl angof’, fel yr oedd llawer yn ei adnabod.

Denodd y lansiad dros 80 o gynrychiolwyr rhyngwladol, pob un â straeon angerddol i egluro pam eu bod yno ac am y plant a’r bobl ifanc yr oeddent yn eu cynrychioli. Fe wnaeth yr amrywiaeth o fudiadau

a gynrychiolwyd yno ein hatgoffa y bydd chwarae’n digwydd yn unrhyw fan y bydd plant a phobl ifainc yn treulio amser a’i fod yn hynod o bwysig yn y mwyafrif o agweddau o’u bywydau. Felly mae’n bwysig ein bod ni, fel eiriolwyr dros chwarae, yn pwysleisio pwysigrwydd darparu ar gyfer chwarae plant mewn ystod o wahanol fannau.

Pan siaradodd Kirsten Sandberg, Cadeirydd y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, fe fyfyriodd – tra bo gwaith y Pwyllgor yn tueddu i ganolbwyntio ar blant sy’n byw mewn sefyllfaoedd ble y ceir gwrthdaro, camdriniaeth, ecsbloetiaeth a thlodi, bod angen cwbl allweddol i bob un ohonynt allu chwarae a bod chwarae’n eu helpu i ymdopi â’u hamgylchedd; ac yn y dyfodol y bydd y Pwyllgor yn cynyddu ei ffocws ar chwarae.

Yng Ngenefa, roedd cyfeillion o bob cwr o’r byd am wybod am y camau sylweddol y mae Llywodraeth Cymru a darparwyr chwarae yng Nghymru wedi eu cymryd o ran chwarae plant. Mae’n gwbl amlwg bod llawer yn edmygu ein gorchestion, ac i raddau, yn genfigennus ohonom. Ond rhaid inni beidio â gadael i hynny arwain at hunanfodlonrwydd. Mae llygaid gweddill y byd arnom yn awr fwy nag erioed.

Mae cam cyntaf ‘Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae’ Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi cychwyn eisoes, nawr mae’n bryd i Lywodraeth Cymru amlinellu’r amserlen ar gyfer cychwyn ail ran y dyletswydd – sy’n mynnu bod awdurdodau lleol yn sicrhau cyfleoedd chwarae digonol yn eu hardaloedd.

Bydd Cymru, fel rhan o Barti Wladwriaeth y Deyrnas Unedig, yn adrodd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Ngenefa yn 2015. Oni fyddai’n wych pe gallai’r swyddogion adrodd yn ôl am wir dystiolaeth bod camau gweithredu’r llywodraeth wedi galluogi mwy o blant i dderbyn eu hawl i chwarae gyda gwir ymdeimlad bod pob un ohonom wedi llwyddo wrth wneud Cymru’n wlad sy’n fwy chwarae-gyfeillgar?

Fel y dywed y plant wnaeth helpu i ddatblygu’r adnoddau plant a phobl ifainc i gefnogi’r Sylw Cyffredinol, a hynny mor deimladwy, ‘Os y bydd pob un ohonom yn cymryd Erthygl 31 o ddifrif, bydd bywydau pob un ohonom gymaint yn hapusach ac iachach.’

Mike Greenaway, Cyfarwyddwr

2 Golygyddol

3-5 Newyddion

6 ChwaraemewnCarchardai

7 ChwaraemewnYsbytai

8 CyfleoeddchwaraeiblantSipsiwnaTheithwyr

9 Amgueddfachwareus

10 ProsiectSandyGround

11 Cymru–GwladChwarae-Gyfeillgar

12-13 SylwCyffredinol

14 CyfweliadâTimGill

15 RheoliRisgmewnDarpariaethChwaraeLlysgenhadonIfainc

16 FforwmGweithwyrChwaraeSafonauGalwedigaetholCenedlaethol

Diolch o galon i bawb a gyfranodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddim ei wneud heboch chi.

Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnau blaenorol, ar gael i’w lawrlwytho o www.chwaraecymru.org.uk

Diolch yn fawrCynnwys

Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru dair gwaith y flwyddyn.

Cysylltwch â’r Golygydd yn:

Chwarae Cymru, Ty Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH

Rhif ffôn: 029 2048 6050 I Ebost: [email protected]

Elusen Gofrestredig Rhif. 1068926 I ISSN: 1755 9243

Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchgrawn hwn.

Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw rai

o’r cynnyrch na’r digwyddiadau a hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.

Argreffir y cyhoeddiad hwn ar bapur a gynhyrchwyd o goedwigoedd cynaliadwy.

Crewyd gan Carrick | carrickcreative.co.uk

Golygyddol

Page 3: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013 | 3

Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysguMae’r pecyn cymorth hwn wedi ei ddylunio i gynorthwyo penaethiaid, llywodraethwyr a mudiadau lleol i weithio gyda’i gilydd i ystyried sicrhau bod tiroedd ysgol ar gael i blant lleol y tu allan i oriau addysgu.

Mae wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth eglur a chryno ar gyfer cymunedau ysgolion a’u partneriaid, er mwyn asesu ymarferoldeb gwneud yn siŵr bod tiroedd ysgol ar gael ar gyfer chwarae plant y tu allan i oriau addysgu.

Mae’n edrych ar ystod o faterion fydd angen eu hystyried ac mae’n cynnwys dyfyniadau gan benaethiaid ac astudiaethau achos sy’n arddangos amrywiol fodelau. Mae hefyd yn darparu dulliau a thempledi cam-wrth-gam, ymarferol ar gyfer cwblhau gwaith sy’n gysylltiedig ag agor tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu.

Er mwyn datblygu’r pecyn hwn, sefydlodd Chwarae Cymru grŵp ffocws o benaethiaid a rhanddeiliaid allanol, ac ymgynghori â hwy yn ystod y broses ddrafftio gan ddefnyddio eu cwestiynau, eu hymatebion a’u profiadau i fynd i’r afael â’r materion pwysicaf.

Chwarae: cynhwysiant ac anabledd Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn 2006, wedi ei diweddaru gan Di Murray i gynnwys ystyriaethau ymarferol i’w cofio er mwyn sicrhau bod amgylcheddau chwarae’n gynhwysol. Mae hefyd yn cynnwys y deddfwriaethau a’r polisïau diweddaraf sy’n berthnasol i gynhwysiant ac anabledd.

Diogelu plant Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Sue Bradshaw yn 2008, wedi ei diweddaru i amlinellu’n gwbl eglur ffyrdd ymarferol o sicrhau diogelwch plant tra’n chwarae mewn ystod eang o sefyllfaoedd; a bod pawb sydd ynghlwm â’r broses yn deall a gweithredu polisïau a gweithdrefnau i ddiogelu plant yn y modd priodol.

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013 | 3

NewyddionCyhoeddiadau newydd Chwarae Cymru

Dros fisoedd yr haf cyhoeddodd Chwarae Cymru gyfres o daflenni gwybodaeth newydd, a rhai wedi eu diweddaru, yn ogystal â phecyn cymorth sydd wedi ei anelu at gefnogi ysgolion i ddefnyddio tiroedd yr ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu.

Chwarae a risg Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Tim Gill, yn anelu i amlinellu pam fod angen agwedd feddylgar, gytbwys tuag at reoli risg mewn chwarae plant. Mae’n cynnig trosolwg o asesu risg-budd, gaiff ei chydnabod gan y mwyafrif o bobl fel agwedd addas. Mae’n ganllaw defnyddiol ar gyfer ystod eang o bobl sydd â diddordeb mewn chwarae plant.

Chwarae a’r blynyddoedd cynnarMae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Janet Moyles, yn archwilio beth yn union yw chwarae a’i bwysigrwydd i ddatblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar (o enedigaeth i saith mlwydd oed). Mae hefyd yn archwilio pwysigrwydd rolau oedolion, eiriolaeth a hawl y plentyn i chwarae.

Amddifadedd chwarae: ei effaith, y canlyniadau a photensial gwaith chwaraeMae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Yr Athro Fraser Brown, yn archwilio’r dystiolaeth ddiweddaraf am bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant ac awgrymiadau ymarferol ar gyfer goresgyn amddifadedd chwarae.

Rôl oedolion mewn chwarae plant Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnig cymorth i oedolion sydd ynghlwm â chwarae plant i ddeall sut y gallant ddarparu’r amodau gorau o ran gofod, lle, amser, adnoddau ac agweddau er mwyn i blant chwarae. Mae’n cefnogi oedolion, mewn ystod eang o sefyllfaoedd, i ddeall eu amrywiol rolau wrth ddarparu ar gyfer cyfleoedd chwarae o safon uchel i blant.

Ysbrydoli dysgwyr: sut i fod yn hyfforddwr mwy effeithiolMae’r daflen wybodaeth hon yn darparu gwybodaeth ar sut y gall hyfforddwyr ac aseswyr gwaith chwarae gynnig y gefnogaeth orau i ddysgwyr a chynyddu effeithlonrwydd hyfforddiant gwaith chwarae.

Mae’r holl gyhoeddiadau hyn ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/taflennigwybodaeth

Page 4: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

4 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013

Yn ein CCB diweddar ymddeolodd Margaret Jervis MBE DL a fu’n Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru ers ei sefydlu ym 1998. Hoffai’r staff a’r Bwrdd ddiolch o galon i Margaret am ei holl amser, brwdfrydedd, ymroddiad a chefnogaeth i’r mudiad ac i hawl plant i chwarae yng Nghymru; bu’n anrhydedd gweithio gyda hi.

Mae Margaret wedi chwarae rhan allweddol ar lefel genedlaethol ers canol yr 80au ac yn ystod taith gyffrous Chwarae Cymru dros y 15 mlynedd diwethaf – o Bolisi Chwarae Cenedlaethol Llywodraeth Cymru (2002), i gael ei phenodi’n gadeirydd Grŵp Gweithredu’r Polisi Chwarae gan Jane Hutt, y Gweinidog Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar y

pryd, i lunio argymhellion ar gyfer strategaeth chwarae i’r llywodraeth, i ddatblygu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae (2005), i sefydlu’r Ganolfan Genedlaethol dros Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae – Gwaith Chwarae Cymru (2007), i gynnal cynhadledd fyd-eang yr International Play Association (2011) a chychwyn y Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae fel rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Ac, i gamu i’w hesgidiau sylweddol fel Cadeirydd newydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru, mae’n bleser croesawu’r Dr Mike Shooter CBE, Seiciatrydd Ymgynghorol wedi ymddeol.

www.chwaraecymru.org.uk/ cym/llywodraethu

Yma yn Chwarae Cymru rydym yn credu’n gryf mewn cael plant i chwarae’r tu allan. Dyma pam ein bod yn cefnogi Project Wild Thing. Mae’n ymgyrch fawr sydd yn anelu i ail-gysylltu plant â natur, gaiff ei chefnogi gan fwy na 300 o sefydliadau – gan gynnwys Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB a Chwarae Cymru.

Lansiwyd yr ymgyrch ym mis Hydref gyda rhyddhau ffilm ddogfen wych, Project Wild Thing, sy’n cymryd cipolwg llawn hiwmor ar broblem sy’n prysur dyfu: diffyg cysylltiad plant Prydain â natur. Gwelir David Bond, sy’n dad a chreawdwr y ffilm, yn herio’r brandiau sy’n llanw traean o fywyd ei ferch trwy benodi ei hun yn Gyfarwyddwr Marchnata dros Natur. Wedi ei argyhoeddi mai’r awyr agored yw’r man chwarae gorau ar gyfer plant, mae’n cychwyn ar ymgyrch farchnata genedlaethol i ‘werthu’ natur i deuluoedd Prydain.

Gwyliwch y clip ar:

www.projectwildthing.com/film

I lawrlwytho’r ffilm, prynu’r DVD, neu i ddod o hyd i ddangosiad cymunedol arbennig yn eich hardal chi, ymwelwch â:

www.projectwildthing.com

Tyngwch lw Wild Time a chyfnewid rhywfaint o ‘amser sgrîn’ am ‘amser gwyllt’. Byddwch yn Gyfarwyddwr Marchnata dros Natur y gaeaf yma: heriwch yr oerfel a chael eich plant i fynd allan!

www.projectwildthing.com

Cyfnodolyn gwaith chwarae newyddMae’r Journal of Playwork Practice yn gyfnodolyn academaidd rhyngddisgyblaethol newydd sy’n anelu i ddatblygu astudio ac arfer ymarfer gwaith chwarae. Wedi ei gyhoeddi gan Policy Press, mewn cydweithrediad â Common Threads, bydd y Journal of Playwork Practice yn cynnwys papurau a adolygir gan gyfoedion gan academyddion o ystod eang o ddisgyblaethau sy’n berthnasol i arfer gwaith chwarae. Bydd hefyd yn cynnwys traethodau myfyriol gan ymarferwyr sy’n defnyddio arfer gwaith chwarae mewn ystod amrywiol iawn o sefyllfaoedd rhyngwladol.

Bydd rhifyn cyntaf y cyfnodolyn ar gael – mewn print ac arlein – ym mis Ebrill 2014.

www.policypress.co.uk/journals_jpp.asp

Bil Teithio Llesol (Cymru) 2013Mae’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, wedi pasio Bil Teithio Llesol (Cymru), fydd yn gwneud cerdded a seiclo’n fwy diogel yng Nghymru. O ganlyniad i Fil Llywodraeth Cymru – y credir sydd y cyntaf o’i fath yn y byd – gosodir dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio rhwydwaith o lwybrau cerdded a seiclo ac yna gweithio i sicrhau ei fod yn digwydd.

Yr elusen teithio cynaliadwy Sustrans Cymru fu’n arwain yr ymgyrch oedd yn galw am ddeddfu ar deithio llesol yng Nghymru dros y chwe blynedd diwethaf. Meddai’r Gyfarwyddwraig Genedlaethol, Jane Lorimer:

‘Mae pasio’r ddeddfwriaeth yma’n arddangos bod arweinyddion Cymru o ddifrif ynghylch gwneud cerdded a seiclo’n ddewis arferol ar gyfer mwy o’n siwrneiau bob dydd byr … ni ddaw’r newid yma dros nos, ond bellach mae’r fframwaith yn ei le i’n gwneud yn genedl sy’n seiclo.’

www.cymru.gov.uk

Diolch i Margaret

Project Wild Thing

Page 5: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013 | 5

Abertawe yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Pleidleisiodd y Cynghorwyr yn unfrydol i fabwysiadu CCUHP, sy’n golygu y gosodir dyletswydd ar y Cyngor i roi sylw dyledus i hawliau plant a phobl ifainc fel rhan o’i holl fusnes.

Cyhoeddir Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifainc yn flynyddol er mwyn rhoi gwybod i bobl Abertawe beth y mae’r Cyngor yn ei wneud i

sicrhau sylw dyledus a hawliau plant. Bydd yr awdurdod

yn cydweithio’n agos â Phrifysgol Abertawe i sicrhau bod yr hyn y mae’n ei wneud yn gweithio yn ogystal â bod yn dryloyw.

www.abertawe.gov.uk

Aeth dros 850,000 o blant a theuluoedd allan i chwarae mewn cannoedd o ddigwyddiadau Diwrnod Chwarae ar draws Cymru a gweddill y DU ym mis Awst.

Canfyddodd canlyniadau arolwg a ryddhawyd ar gyfer Diwrnod Chwarae 2013 bod dros 50% o oedolion yn adrodd iddynt chwarae allan o leiaf saith gwaith yr wythnos pan oeddent yn tyfu i fyny, o’i gymharu â llai na chwarter o blant (23%) heddiw.

Gan fod 40% o blant yn dweud eu bod am chwarae’r tu allan yn amlach, mae’n gwbl amlwg na fu amser gwell i fynd allan i chwarae! Mae angen inni gefnogi

plant a chydnabod, er budd eu hiechyd, eu lles a’u datblygiad tymor hir, eu bod angen mannau chwareus a chyfleoedd i chwarae’r tu allan trwy gydol y flwyddyn.

Yn ystod ei ymweliad â digwyddiad Diwrnod Chwarae a gynhaliwyd ym Mharc Morgan Jones yng Nghaerffili, dywedodd Vaughan Gething AC, Y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi:

Cynhelir Diwrnod Chwarae 2014 ar Ddydd Mercher 6 Awst.

www.playday.org.uk

Abertawe: awdurdod lleol cyntaf Cymru i fabwysiadu CCUHP

14/15 Mai 2014Holiday Inn, CaerdyddYsbryd 2014

Am y wybodaeth ddiweddaraf ac i archebu lle, ymwelwch â:

www.chwaraecymru.org.uk/cym/ysbryd2014

Yn dilyn pedair blynedd fel Cydlynydd Cymwysterau Chwarae Cymru, yn ddiweddar penodwyd Maria Worley i swydd Ysgrifenyddes Coleg Cymunedol Yr YMCA. Maria fu’n gyfrifol am y gwaith gweinyddol oedd ynghlwm â darparu ein cymwysterau Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3). Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â Maria a Choleg Yr YMCA i ddarparu cymwysterau P3. Pob lwc yn dy swydd newydd Maria.

Swydd newydd

DiwrnodChwarae2013 – mannau chwareus

‘Mae chwarae’n rhan mor bwysig o fywyd ein plant, sy’n eu helpu i dyfu’n gorfforol yn ogystal ag yn emosiynol. Mae’r digwyddiad hwn yn fodd unigryw o ddathlu hyn. Mae’n bwysig bod pob un ohonom yn cofio bod chwarae’n allweddol i ddatblygiad plentyn ac mae rhaid i bob un ohonom sicrhau ein bod yn rhoi pob cyfle posibl iddynt wneud hynny.’

twitter.com/ChwaraeCymru

Cyfryngau Cymdeithasol

www.facebook.com/ChwaraeCymru

Page 6: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

6 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013

Felly, os ydych chi’n ymweld â charchar byddwch yn mynd trwy’r gatiau, yn cael eich archwilio, bydd y cŵn yn eich ffroeni cyn ichi gerdded trwy gyfres o gatiau eraill ac i mewn i neuadd anferth sydd unai â byrddau a chadeiriau wedi eu gosod yn sownd i’r llawr neu grwpiau o bedair o gadeiriau, gydag un ohonynt yn lliw gwahanol i’r gweddill. Bydd y carcharorion yn dod i mewn i’r neuadd gan wisgo rhuban lliw neu siaced a bydd rhaid iddynt eistedd mewn man penodol a pheidio â symud. I blant sy’n ymweld â’r carchar bydd hyn yn wahanol iawn i weld y person gartref, all deimlo’n rhwystredig iawn.

Bydd y rhan fwyaf o ymweliadau cymdeithasol yn para am ddwyawr a bydd eistedd cyhyd yn anodd i blant. Dyma pam fod darparu chwarae mewn carchardai mor bwysig – mae’n helpu’r plant i gael rhywbeth arall i’w wneud.

Yn y carchar rwy’n gweithio ynddo, ceir dau weithiwr chwarae mewn ardal chwarae benodedig fechan yn un pen o’r Neuadd Ymweld. Ceir digon o adnoddau yma fel deunyddiau chwarae, gemau, deunydd celf, doliau a dillad gwisgo i fyny. Bydd y plant yn mynd a dod o’r ardal chwarae a bydd llawer yn creu cardiau neu luniau i’w mamau fynd yn ôl i’w celloedd. Bydd rhai yn mynd â phosau neu gardiau at y bwrdd i chwarae â’u mam, ond mae llawer yn ei chael yn anodd i ail-sefydlu perthnasau mewn sefyllfa mor rwystredig. Yn ogystal, bydd symudiad parhaus y swyddogion carchar o amgylch y neuadd yn codi ofn ar rai plant.

Mae chwarae’n bwysig ar gyfer pob plentyn ond trwy ddarparu cyfleoedd chwarae mewn carchar

bydd yn helpu i leddfu’r straen y gall plant ei brofi ac mae’n cynnig rhywfaint o normalrwydd iddynt. Yn yr ardal chwarae bydd plant yn cwrdd â phlant eraill sydd yn yr un sefyllfa.

Mae’r carchar yn pennu pob math o reoliadau. Mae rhaid i’r holl deunyddiau gael eu cymeradwyo gan y gwasanaethau diogelwch – ’does dim modd dod â sisyrnau, play dough na gwrthrychau miniog i mewn i’r carchar. Mae oedrannau’r plant a’r bobl ifainc yn amrywio o ychydig ddyddiau oed i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n 15 ac 16 mlwydd oed.

Amcangyfrifir y bydd 150,000 o blant y flwyddyn â rhiant yn y carchar. Mae hyn yn effeithio’n sylweddol ar eu bywyd ond mae’n bosibl iawn nad yw athrawon, gweithwyr chwarae a gweithwyr gofal plant yn ymwybodol o’r newidiadau fu ym mywyd y plentyn. Pan fo mam yn mynd i’r carchar bydd perthnasau’n gofalu am y plant neu caiff y plant eu gosod mewn cartref gofal maeth, sy’n arwain at nifer o newidiadau.

Mae’n swydd hynod o ddiddorol a boddhaus ond mae rhaid i weithwyr chwarae fod yn hyblyg iawn er mwyn ateb yr amrywiol anghenion. Mae pob carchar angen gweithwyr chwarae cymwysedig ond nid ydynt i’w cael ym mhob carchar. Mae SkillsActive wedi creu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio mewn carchardai fydd yn atgyfnerthu sgiliau a statws y bobl hynny sy’n gweithio ym maes chwarae mewn sefyllfaoedd fel hyn (gweler yr erthygl Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Chwarae ar dudalen 16).

Mae Christine Andrews yn weithwraig chwarae wirfoddol ac Ymddiriedolwraig mewn carchar i fenywod. Mewn cydweithrediad â’r Gwasanaethau Cymdeithasol bu’n gyfrifol am sefydlu prosiect chwarae ar gyfer plant oedd yn ymweld â’u mamau. Ar y dechrau roedd un llywodraethwr carchar yn pryderu am y sŵn yr oedd y plant yn ei wneud yn ystod y cyfnod ymweld ac roedd eisiau agor crèche. Eglurwyd mai’r hyn oedd ei eisiau oedd prosiect chwarae, a gafodd ei sefydlu ac a ehangwyd i gynnwys canolfan i ymwelwyr. Fel Ymddiriedolwraig, mae Christine (ynghyd â’i chyd-Ymddiriedolwyr) yn gyfrifol am reoli’r staff a’r prosiect chwarae. Yma mae Christine yn sôn wrthym am y prosiect chwarae sy’n darparu cyfleoedd chwarae yn ystod ymweliadau cymdeithasol a diwrnodau hwyl i’r teulu.

Ydych chi wedi ymweld a charchar erioed? Mae nhw’n fannau bygythiol ac, i blant yn arbennig, maent yn fannau hynod o arswydus. Ond os y caiff rhiant, brawd neu chwaer neu berthynas arall ei garcharu, yn aml iawn bydd plant am ymweld â nhw er mwyn sicrhau eu bod yn iawn ac oherwydd eu bod yn gweld eisiau’r person hwnnw neu honno.

Page 7: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013 | 7

Sue Reardon, cydlynydd chwarae, adran chwarae Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd sy’n sôn wrthym am bwysigrwydd chwarae mewn ysbytai. Dechreuodd Sue weithio fel gweinyddes feithrin yn Ysbyty Llandochau ym 1989 ac fe gymhwysodd fel arbenigwraig chwarae ym 1992.

I blentyn, mae chwarae’n naturiol, yn reddfol. Gan fod chwarae’n hanfodol ar gyfer twf a datblygiad iach plentyn cydnabyddir bod sicrhau bod mynediad i chwarae’n cael ei gynnal pan fo plant yn derbyn triniaethau meddygol a llawfeddygol, yn bwysicach fyth. Mae chwarae’n pontio’r gagendor rhwng y cartref a’r ysbyty.

Mae chwarae’n caniatáu i blentyn ddod i delerau â, ac i weithio trwy, brofiadau dieithr; amgylchiadau dieithr; gwahanu; pryderon; ofn a phoen. Bydd yr arbenigwr/wraig chwarae’n darparu ystod eang o deganau a gweithgareddau chwarae cyfarwydd, all alluogi plentyn i fynegi ei emosiynau (er enghraifft, ofn, pryder neu ddicter). Yn ogystal, mae’r defnydd o chwarae mewn ysbytai’n tawelu meddyliau’r plentyn bregus a’i rieni; mae’n hybu cyfathrebu da ac yn creu ymddiriedaeth gydag aelodau o’r staff.

Gall chwarae mewn ysbyty daflu goleuni ar unrhyw bryderon cudd ar gyfer plant o bob oedran ac o bob cyfnod datblygiad. Gall arsylwadau a gwerthusiadau arbenigwr/wraig chwarae gynnig safbwynt gwerthfawr a galluogi aelodau eraill o’r tîm aml-ddisgyblaeth i fod â gwell dealltwriaeth o anghenion y plentyn.

Mae chwarae’n yr ysbyty’n rhoi amser i’r plentyn ddeall triniaethau amhleserus. Trwy ddefnyddio doliau, er enghraifft, gellir gwyrdroi rolau gan helpu’r plentyn i ennill rheolaeth a hyder, lleihau pryderon a datblygu sgiliau ymdopi.

Bydd rhaid i lawer o gleifion ddioddef triniaethau poenus. Nod yr arbenigwr/wraig chwarae yw lleihau trawma’r triniaethau hyn trwy asesu gwybodaeth y plentyn am ei gyflwr meddygol a pha driniaeth fydd ei angen.

Mae paratoi plant ar gyfer triniaethau’n rhan sylweddol o rôl yr arbenigwr chwarae. Mae’n galluogi’r plentyn i ddeall yr hyn fydd yn digwydd iddo/iddi yn ystod y driniaeth ac mae’n caniatáu i’r arbenigwr chwarae ddynodi a chywiro unrhyw gamsyniadau sydd gan y plentyn. Mae hefyd yn galluogi’r arbenigwr/wraig chwarae i gyflwyno gwybodaeth cyn y driniaeth mewn modd tawel, hyderus gan gynnig tawelwch meddwl i’r plentyn a’r rhieni. Mae defnyddio doliau, llyfrau â lluniau a, ble fo’n briodol, offer go iawn yn gymorth defnyddiol ac ymarferol wrth baratoi ar gyfer triniaethau.

Bydd y mwyafrif o blant yn elwa o dechnegau diddanu ac mae’n allweddol fod gan yr arbenigwr chwarae amrywiaeth o deganau diddanu wrth law pan fo angen. Mae esiamplau ar gyfer plant bach yn cynnwys: pypedau, swigod, ffyn gliter, teganau fel Jac yn y bocs a llyfrau. Gyda plant hŷn gall yr arbenigwr chwarae ddefnyddio delweddaeth tywysedig, technegau ymlacio neu sgwrsio â nhw am eu hoff raglen deledu, cerddoriaeth neu ffasiwn.

Mae rôl yr arbenigwr chwarae mewn ysbyty’n allweddol i iechyd a lles pob claf dan eu gofal.

(Paediatric Nursing 2000: cyfrol 12, rhif 7)

www.chwaraecymru.org.uk /cym/chwaraeysbyty

Am fwy o wybodaeth am chwarae mewn ysbytai a hyfforddiant i arbenigwyr chwarae, ymwelwch â:

National Association of Health Play Specialists: www.nahps.org.uk

Hospital Play Staff Education Trust: www.hpset.org.uk

Chwarae

‘Gellir cynorthwyo â llawer o’r teimladau y bydd plant sydd yn yr ysbyty’n eu profi trwy ymyrraeth priodol gan yr arbenigwr chwarae, sydd wedi ei hyfforddi i ddeall effeithiau penodol gorfod mynd i’r ysbyty a salwch ar anghenion datblygiadol newidiol y plentyn.’

Clown-Feddygon Mae Clown-Feddygon yn berfformwyr proffesiynol sydd wedi eu hyfforddi i weithio mewn ysbytai a hosbisau. Maent yn gweithio gyda staff meddygol ac arbenigwyr chwarae mewn amrywiol ysbytai a hosbisau ar draws y DU ac o amgylch y byd i ddod â chwerthin a hwyl i blant a’u teuluoedd. Bydd Clown-Feddygon yn defnyddio adrodd straeon, cerddoriaeth, byrfyfyrio a chlownio i ymgysylltu â’r plant ac i’w helpu i ddod i delerau â’u sefyllfa trwy ddefnyddio hiwmor a chwarae.

mewn

Page 8: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

8 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013

Mae Chwarae Cymru’n gweithio gyda phrosiect Y Daith Ymlaen – Achub y Plant Cymru a Chylch Chwarae Shirenewton (Tîm Gofal Plant Caerdydd) i gynhyrchu canllaw er mwyn helpu awdurdodau lleol i ystyried a chynnwys darpariaeth chwarae a’r blynyddoedd cynnar wrth ddatblygu safleoedd newydd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n diweddaru’r canllaw arfer da ar Ddylunio Safleoedd (sy’n cynnwys cyfeiriadau at ardaloedd chwarae) o dan Amcan 5 Teithio at Ddyfodol Gwell – Fframwaith Gweithredu a Chynllun Cyflenwi, sy’n nodi y ‘Bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu a mireinio’r Canllaw Arfer Da ar Ddylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru.’

Ein gobaith yw y bydd y canllaw newydd yn hysbysu arweiniad Llywodraeth Cymru, neu’n sefyll ochr yn ochr ag e.

Ar wahanol adegau daeth darparwyr chwarae, gofal plant a’r blynyddoedd cynnar at Chwarae Cymru a phrosiect Y Daith Ymlaen i leisio eu pryderon bod llawer o blant Sipsiwn a Theithwyr, sy’n byw ar safleoedd, â mynediad annigonol i fannau chwarae diogel ac i gyfleusterau pwrpasol ar y safle fydd yn caniatáu i wasanaethau blynyddoedd cynnar a chefnogi teuluoedd gael eu datblygu a’u trosglwyddo yno.

Mae plant Sipsiwn a Theithwyr wedi sôn y byddant yn wynebu hiliaeth difrifol yn aml, gan ei gwneud hi’n anos iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Dywedodd plant Sipsiwn a Theithwyr wrth ymchwiliad Darparu Mannau Diogel i Chwarae a Chymdeithasu (2010) Pwyllgor Plant a Phobl Ifainc Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn aml iawn yn ei chael yn anodd i fynychu gweithgareddau chwarae wedi eu trefnu oherwydd eu bod yn bell o’u cartrefi. Roeddent yn teimlo hefyd bod lleoliad eu cartrefi’n cyfyngu ar eu mynediad i fannau diogel i chwarae a’u bod yn aml iawn ond yn gallu gwneud ffrindiau â theithwyr eraill gan eu bod wedi eu hynysu oddi wrth amgylchedd mwy cymysg.

Bydd y canllaw’n cydnabod bod yr amgylchedd awyr agored o bwys penodol i blant Sipsiwn a Theithwyr oherwydd diffyg lleoliadau dan do. Bydd yn cynnwys arweiniad arfer da ar gyfer datblygu, dylunio a rheoli gofod awyr agored. Bydd hefyd yn tynnu sylw at sut y gall buddsoddi mewn darpariaeth chwarae a’r blynyddoedd cynnar ar safleoedd gynyddu cydlyniad

cymunedol a chymdeithasol, helpu plant i setlo i lawr mewn amgylcheddau newydd a lleddfu pryderon rhieni. Bydd hefyd yn cynnwys nodweddion allweddol darpariaeth blynyddoedd cynnar llwyddiannus, darpariaeth chwarae maes wedi ei staffio ar safleoedd, a chael eu cynnwys mewn darpariaeth sy’n bodoli eisoes.

Caiff ei gynllunio i gefnogi arfer cynhwysol a datblygiad ardaloedd i blant a phobl ifainc chwarae ac ymgasglu, yn enwedig os nad oes darpariaeth addas ar gael o fewn pellter cerdded ar hyd lwybr diogel.

Bydd y canllaw yn cefnogi’r syniad o ddwyn ynghyd y cyfleoedd sy’n cyflwyno eu hunain trwy’r Bil Tai newydd, fydd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ble fo angen cwbl eglur wedi ei ddynodi, a’r dyletswyddau Digonolrwydd Chwarae a amlinellir ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Bydd y canllaw ar gael yn y flwyddyn newydd.

www.travellingahead.org.uk

Cyfleoedd

Sipsiwn a Theithwyri blant

Page 9: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013 | 9

Stuart Lester, Uwch-ddarlithydd mewn chwarae a gwaith chwarae / astudiaethau proffesiynol mewn chwarae plant ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw, sy’n adrodd am arbrawf chwareus yn Amgueddfa Manceinion.

Mae Cynorthwyydd Gwasanaethau Ymwelwyr (CGY) yn Amgueddfa Manceinion yn mynd at dri plentyn yn y fynedfa ac yn cyflwyno wy deinosor gwerthfawr, bregus iddynt (wy gwydd wedi ei chwythu). Mae’n gofyn iddynt os y byddent yn fodlon ei gario i’r CGY mewn oriel arall. Mae’r plant yn gwenu wrth i un ohonynt afael yn yr wy a, gyda’i ffrindiau bob ochr iddi, mae’n dringo’r grisiau’n ofalus, gan sibrwd a chwerthin â’r lleill. Maent yn dod o hyd i’r CGY ac yn cyflwyno’r wy iddi.

Dyma un o amryw o enydau chwareus a sbardunwyd gan y tîm o GGY yn dilyn eu cyfranogaeth brwdfrydig mewn prosiect ymchwil gweithredu ar y cyd, gyda chefnogaeth y rhaglen Happy Museum, a ddyluniwyd i brofi a gwneud y gorau o’r berthynas rhwng chwarae a lles o fewn amgueddfeydd.

Bwriad y prosiect oedd agor y gofod o fewn amgueddfeydd at ddefnydd mwy chwareus gan blant. Yn hytrach na chanolbwyntio ar fannau wedi eu gwahanu a gweithgareddau wedi eu dylunio gan oedolion, fe wnaeth Amgueddfa Manceinion

gydnabod potensial yr amgueddfa gyfan fel amgylchedd ble y gallai chwarae plant ymddangos. Er mwyn sbarduno’r newid safbwynt yma, lluniwyd rhaglen ddatblygu a chefnogaeth staff oedd yn gwahodd y CGY i ystyried presenoldeb plant mewn orielau, a hynny trwy lens chwareus. Roedd yr agwedd yma’n cydnabod y posibilrwydd y gallai’r CGY gael eu heffeithio, a’u cyfareddu, gan enydau chwareus, ac y byddent, gyda rhywfaint o ymarfer a thrafod, yn gallu sylwi ac adnabod symudiadau a mân-nodweddion sy’n gysylltiedig â chael plant i gyd-greu mannau chwarae.

Yn dilyn y cyfnod cychwynnol hwn, rhoddwyd ystyriaeth i ffyrdd y gallai’r CGY ddatblygu ciwiau gofodol er mwyn cyfoethogi’r llu o enydau chwareus. Y bwriad oedd dylunio ar gyfer creadigedd er mwyn, yn syml iawn, gweld ‘beth allai ddigwydd pe bae …?’, a gynrychiolir gan y dywediad ‘syrpreisys chwareus’. Er enghraifft, gosododd CGY stribed o bapur cegin i lawr ar hyd canol llawr yr oriel ac yna sefyll yn ôl i weld beth fyddai’n digwydd. Mentrodd un plentyn at ymyl y papur a holi i’w Dad ‘Be ’di pwrpas hwn?’ a chael ateb ‘Dwn i ddim’. Yn fuan wedyn, dechreuodd plentyn arall gerdded ar hyd y papur, gan gymryd gofal i gadw ar y papur ac hefyd i beidio â’i rwygo. Dilynwyd hwn gan ragor o blant, ac wedi iddynt gyrraedd y diwedd fe wnaethant droi’n ôl a cherdded yn ôl i’r dechrau.

Creodd hyn her newydd, gan fod rhaid i’r plant oedd yn cerdded

mewn dau wahanol gyfeiriad lwyddo i basio ei gilydd.

Yn bwysicaf oll, arweiniodd hyder cynyddol y CGY i arbrofi i weld beth allai ddigwydd at fwriad greddfol i agor y gofod ar gyfer posibiliadau mwy chwareus, y dechreuodd rhai ohonynt gydberthyn i’r ymdeimlad o ryfeddod a greëir gan yr arddangosfeydd a’r gofodau yn yr oriel. Efallai’n fwy pwysig fyth, cyfeiriodd y CGY at newid mewn agweddau tuag at bresenoldeb chwareus plant a chynnydd yn eu lefelau personol hwythau o fwynhad, cyfaredd a’u gallu i ymlacio.

Bellach mae gwell dealltwriaeth o chwarae wedi ei wreiddio yma ynghyd ag agwedd fwy chwareus i’w gweld yn y gweithgareddau ffurfiol ac anffurfiol a drefnir gan yr amgueddfa. Fel gyda’r plant wnaeth gario’r wy, nid oes modd inni ddychwelyd i ble roedden ni. Mae ffyrdd arferol o ystyried plant a threfnu gofod yr amgueddfa wedi eu ail-gyflunio, gan adael lle ar gyfer rhagor o darfu chwareus.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cysyllter â:

Stuart Lester: [email protected]

Anna Bunney, Curadur Rhaglenni Cyhoeddus Amgueddfa Manceinion: [email protected]

Charlotte Derry: [email protected]

www.happymuseumproject.org

Amgueddfasy’n fwy

Page 10: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

10 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013

Mae pob un ohonom sydd ynghlwm â gwaith chwarae a darpariaeth chwarae’n gwybod yn iawn am rôl pwysig mannau chwarae wrth gynorthwyo plant i deimlo’n rhan o’u cymuned eu hunain ac wrth leihau ynysu cymdeithasol. O dro i dro, fe glywn am bobl eraill sy’n deall y pwysigrwydd yma ac sy’n ymdrechu i wella bywydau plant trwy ddarparu ar gyfer eu chwarae. Cawsom air â Bill Lavin, sylfaenydd prosiect The Sandy Ground yn yr Unol Daleithiau.

Mae stori Bill yn cychwyn ar adeg yr ymosodiadau ar Ganolfan Fasnachu’r Byd ym mis Medi 2001. Fel capten tân yn New Jersey, galwyd arno ef a’i gydweithwyr i ymateb i’r argyfyngau yma. Yn fuan

wedyn, cyrhaeddodd pentyrrau o lythyrau a chardiau, oedd i fod i ‘godi calonnau’r dynion tân’, oddi wrth ddosbarth o blant ysgol ym Mississippi, yr oedd eu hathrawes yn nith i un o gydweithwyr Bill.

Bedair blynedd yn ddiweddarach rhuodd Corwynt Katrina ar hyd arfordir Mississippi a, gan gofio caredigrwydd y dosbarth hwnnw o blant, aeth Cymdeithas Les Elusennol Ymladdwyr Tân New Jersey ati i godi arian i gynorthwyo’r plant oedd wedi eu heffeithio gan y corwynt. Pan ymwelodd Bill ag un o’r ysgolion i weld ar beth wariwyd yr arian, sylweddolodd fod y plant yn daer am gael man chwarae ac felly aeth e ac ugain o ddynion tân eraill ati i adeiladu tri man chwarae hygyrch ar arfordir Mississippi.

Yr hydref diwethaf bwrodd Corwynt Sandy arfordir Dwyreiniol America gan achosi difrod difrifol i rannau o New Jersey, Efrog Newydd a Connecticut. Roedd dynion tân New Jersey wrthi’n brysur yn cynorthwyo gyda’r ymdrechion i ail-adeiladu glannau New Jersey pan glywyd y newydd am y saethu trychinebus yn Ysgol Elfennol Sandy Hook yn Newton, Connecticut. Yn fuan wedyn, derbyniodd Bill ebost gan ferch naw mlwydd oed o Mississippi yn diolch iddo am adeiladu’r man chwarae ar ei chyfer hi a’i ffrindiau bum mlynedd yn ôl. Cafodd Bill ei

atgoffa bod y meysydd chwarae’n llawer mwy na dim ond strwythurau a’u bod yn helpu plant i osgoi cael eu ‘llethu’ gan broblemau oedolion, megis hawliadau yswiriant. Meddyliodd am y syniad o ail-adeiladu’r arfordir yn enw’r plant a’r athrawon a laddwyd yn Newtown trwy adeiladu meysydd chwarae er cof amdanynt.

Mae Prosiect Sandy Ground yn anelu i adeiladu 26 o feysydd chwarae, fydd yn gofeb i’r rhai a saethwyd. Mae 26 teulu Newtown yn cefnogi’r prosiect ac maent wedi cael cyfrannu at gynlluniau’r meysydd chwarae fydd yn gofeb i’w perthynas arbennig nhw.

Dywedodd Jen Hubbard, yr oedd ei merch Catherine yn un o’r rhai a saethwyd,

Prosiect

‘Roedd torri’r dywarchen gyntaf a sylweddoli y bydd plant yn chwarae yma’n fuan iawn yn golygu bod gobaith y byddwn ni’n iawn – oherwydd fe fydd y plant yn chwerthin ac yn rhedeg o gwmpas yma ac fe fyddan nhw’n chwarae. I ni fel cymuned, dyma ble y gallwn ddysgu i fod yn hapus unwaith eto.’

‘Rwy’n credu y bydd y meysydd chwarae hyn yn helpu pobl i deimlo’n llai unig. Ein neges fawr ni yw bod angen inni gynorthwyo plant i chwarae’n ddigymell, i’w cefnogi i fod yn blant unwaith eto ac i ailgipio a dathlu plentyndod.’

Mae’r meysydd chwarae’n cael eu hadeiladu trwy gyfranogaeth cymunedol, gwirfoddoli a chodi arian. Meddai Patti Dickens, sylfaenydd y RAINE Foundation, wnaeth ariannu un o’r meysydd chwarae, ‘Dinistr, distryw ac anobaith yw’r geiriau y mae’r Sefydliad wedi bod yn eu clywed ers Hydref 29, 2012… Cafodd llawer o gartrefi eu golchi i ffwrdd. Ond mae pawb yn sylweddoli nad yw hyn yn ddim o’i gymharu â cholli plentyn. Mae maes chwarae’r Sandy Ground yn symbol o obaith – gobaith i deulu a loriwyd trwy golli plentyn, a gobaith i gymuned a gollodd gymaint.’

Wrth fyfyrio ar y profiad hwn, meddai Bill,

www.thesandygroundproject.org

Page 11: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013 | 11

Mae Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar yn ymgyrch gan Chwarae Cymru i helpu i greu rhwydwaith o gefnogaeth ar gyfer chwarae ar draws Cymru. Rhannwch yr hyn sy’n digwydd yn lleol, sydd unai’n gwarchod neu’n gwahardd hawl plant i chwarae, ar dudalen yr ymgyrch ar Facebook. Dyma enghraifft o brosiect sy’n cyfrannu tuag at ddatblygu mannau cyfeillgar ar gyfer plant sy’n chwarae.

Agorodd cylch chwarae Shirenewton, Caerdydd ym mis Chwefror 2006 ac ers hynny mae wedi datblygu i fod yn ddarpariaeth gofal plant gwerthfawr sy’n darparu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant dwy i bedair oed ar safle Sipsiwn a Theithwyr.

Mae pwysigrwydd chwarae’n y gymuned hon yn uchel iawn, ac mae’r gefnogaeth y gall teuluoedd gael mynediad iddo trwy’r ddarpariaeth yma’n hynod o werthfawr wrth ateb anghenion y lleiafrif ethnig bregus yma.

Mae cael profiadau blynyddoedd cynnar o safon yn cynorthwyo plant i setlo i lawr mewn amgylcheddau newydd. Bydd hyn yn cynorthwyo gyda’r cyfnod pontio i’r ysgol, gan ganiatáu i’r plant ddeall y ‘rheolau’ cymdeithasol pan fyddant y tu allan i’r uned deuluol ac i lunio perthnasau â’u cyfoedion ac oedolion newydd.

Mae’r cylch chwarae’n darparu cyfleoedd i’r plant fwynhau profiadau heriol yn ymchwilio a darganfod drostynt eu hunain, a thrwy hynny dyfu’n ddysgwyr annibynnol. Mae’r sefyllfa’n helpu plant i gynyddu eu hyder a’u hunan-barch; caiff y chwarae ei gyfarwyddo’n bersonol ac annogir y plant i gymryd rhan

mewn ystod o weithgareddau a ysgogir yn reddfol.

Caiff y plant sy’n mynychu eu hannog i gymryd rhan ac i ddatblygu awydd i ddysgu.

Oherwydd natur cartrefi Sipsiwn a Theithwyr mae lle i storio’n brin ac nid oes modd bob amser i deuluoedd ddarparu ystod eang o adnoddau i gefnogi chwarae’r plant. Mae gallu cael mynediad i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar o safon o fudd mawr iawn i blant.

Bu datblygu ardal awyr agored ar gyfer y cylch chwarae’n fuddiol dros ben – mae aelodau o’r staff wedi arsylwi’r effaith cadarnhaol y mae’n ei gael ar ymddygiad y plant yn y lleoliad. Mae’r cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu a’r cynnydd mewn chwarae corfforol wedi lleihau achosion o ymddygiad negyddol yn fawr, yn arbennig ymysg y bechgyn.

Mae cegin fwdlyd, buarth adeiladu a man cyfeillgar (cuddfan) yn ymddangos fel rhan o’r ardal awyr agored yn rheolaidd. Mae adnoddau adeiladu a deunyddiau byd bychan, yn ogystal â phaent, glud a defnyddiau ar gael hefyd yn yr amgylchedd dan do a’r awyr agored fel ei gilydd. Caiff y plant eu hannog i fod yn ddysgwyr gweithredol trwy eu chwarae, gyda chefnogaeth y staff.

Cyflogir gweithwyr proffesiynol brwdfrydig, cymwysedig sy’n

llawn arddeliad ac maent yn hanfodol er mwyn sicrhau bod darpariaeth o safon ar gael yn y lleoliad. Mae aelodau’r staff yn deall yr angen i feithrin a chefnogi anghenion pob plentyn. Caiff pob sesiwn ei gwerthuso ac annogir y staff i fyfyrio ar eu harfer personol ac fe’u cefnogir gyda’u datblygiad proffesiynol personol.

on.fb.me/gwladchwaraegyfeillgar

Gwlad Chwarae-Gyfeillgar

Page 12: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

12 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013

Ar 30 Medi 2013 lansiodd yr International Play Association (IPA) ymgyrch fyd-eang i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch pwysigrwydd chwarae ym mywyd pob plentyn. Mae’n anelu i chwalu’r rhwystrau cynyddol yn amodau byw plant sy’n cael effaith negyddol ar le ac amser plant i chwarae.

Y catalydd ar gyfer yr ymgyrch yma yw gweld Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn mabwysiadu Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mewn symposiwm lansio arbennig a gynhaliwyd yng Ngenefa, Y Swisdir (cartref symbolaidd y Cenhedloedd Unedig) ymunodd arbenigwyr ac eiriolwyr dros hawliau plant, cynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol a chynrychiolwyr arobryn o 18 o wledydd o bob cwr o’r byd â’r IPA, Sefydliad Bernard van Leer ac aelodau o Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig. Ymhlith y siaradwyr roedd Cadeirydd Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn, Kirsten Sandberg, a groesawodd y Sylw Cyffredinol ac a sicrhaodd y symposiwm y byddai’r Pwyllgor yn ystyried sut y byddai’n defnyddio’r argymhellion a geir ynddo mewn Sylwadau Clo i lywodraethau ar draws y byd er mwyn hyrwyddo ac amddiffyn yr hawl i chwarae.

Mae Erthygl 31 o GCUHP yn cwmpasu hawl y plentyn i chwarae, i orffwys a hamdden ac i gymryd rhan yn y celfyddydau a diwylliant.

Yn siarad yng Ngenefa, meddai Theresa Casey, Llywydd yr IPA:

Adnoddau plant a phobl ifanc

Er mwyn cefnogi’r ymgyrch hon, gofynnodd yr IPA i Chwarae Cymru gynhyrchu adnoddau i blant i hyrwyddo Erthygl 31 fydd yn eu helpu hwy (ac oedolion) i ddeall y negeseuon allweddol a geir yn y Sylw Cyffredinol. Fe wnaethom gwrdd â grwpiau o blant a phobl ifainc i ddatblygu adnoddau sy’n disgrifio cyrhaeddiad Erthygl 31. Fel rhan o’r adnoddau yma creodd y cartwnydd Les Evans symbol rhyngwladol i hybu’r hawl i chwarae. Mae’r adnoddau

hefyd yn cynnwys cerdyn post, poster A3 a phoster A4 â’r negeseuon allweddol arnynt.

Wrth ymgymryd â’r gwaith yma fe wnaethom gyfeirio at Safonau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifainc. Mae’r saith safon yma’n anelu i wella proses cyfranogaeth plant a phobl ifainc wrth lunio penderfyniadau. Maent yn hybu cyfranogaeth plant a phobl ifainc wrth lunio penderfyniadau, cynllunio ac adolygu unrhyw gamau fydd yn effeithio arnynt.

Yn gryno, dyma sut y gwnaethom ymateb i Safonau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifainc.

Gwybodaeth – gan ddefnyddio testun a ddatblygwyd gan yr IPA yn ystod y broses o ddrafftio’r Sylw Cyffredinol, fe wnaethom weithio gyda grŵp bychan o bobl ifainc er mwyn ei wneud yn hygyrch. Fe ddefnyddiom y testun yma â phob grŵp a’i addasu wrth fynd ymlaen, gan ddileu geiriau oedd yn anodd i’w deall.

Dewis – y man cychwyn ar gyfer pob trafodaeth oedd delwedd y symbol rhyngwladol, fyddai’n cael ei ddefnyddio fel ‘logo’ ar gyfer yr ymgyrch. Fe wnaeth pob grŵp y bu inni weithio â nhw ofyn am eiriau fel rhan o’r adnoddau.

Pan ofynnwyd iddynt am yr angen am destun, dywedodd un ddynes ifanc, ‘Rydw i angen geiriau a lluniau deniadol. Weithiau mae hi’n anodd imi ddod o hyd i’r geiriau rydw i eu hangen pan fydda’ i’n siarad ag oedolion ynghylch sut y gallai pethau fod yn rhwyddach imi.’

Ymgyrch fyd-eang

‘Heb chwarae, gorffwys a chyfranogaeth, ni fydd modd cyflawni hawliau eraill plant yn llwyr. Ein gobaith mawr yw mai heddiw fydd y diwrnod pryd y byddwn yn peidio enwi Erthygl 31 fel erthygl mwyaf angof, esgeulusedig, camddealledig CCUHP. Yn hytrach, heddiw fydd y diwrnod pryd y byddwn yn cychwyn ymgyrch fyd-eang dros hawl plant i chwarae.’

yr

i

Page 13: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013 | 13

Peidio â gwahaniaethu – gan fod y prosiect hwn yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau’r ysgol roeddem yn gwbl glir o’r dechrau cyntaf fod perffaith ryddid gan y cyfranogwyr i ymuno â neu i adael y broses fel y dymunant. Fe wnaethom hefyd sicrhau ein bod yn ymgysylltu â grwpiau oedd ynghlwm â gweithgareddau a ddisgrifir ym mhob adran o Erthygl 31, nid dim ond y rheini fyddai’n mynychu sesiynau chwarae. Fe wnaethom sicrhau, cyn belled â bo’n bosibl, bod y testun a’r lluniau’n briodol ac yn rhwydd i’w deall mewn gwahanol rannau o’r byd ac i blant mewn gwahanol amgylchiadau. Fe gymerom ofal i osgoi iaith a delweddau sy’n rhy fyrhoedlog neu’n rhy ewropeaidd/orllewinol.

Parch – roeddem am sicrhau bod yr hyn y byddem yn ei gynhyrchu’n gwneud synnwyr ac yn cael ei werthfaworgi gan blant a phobl ifainc. Dadansoddwyd yr holl adborth a dderbyniwyd gan y grwpiau a gwnaethpwyd newidiadau rhesymol i’r adnoddau a ddarparwyd i’r International Play Association.

Gofynnodd y plant a’r bobl ifainc yn gwbl bendant am i’r negeseuon allweddol yn y testun i gael eu hysgrifennu o’u safbwynt hwy. Mae’n sicr bod y newid hwn yn golygu bod yr adnoddau’n gryfach, yn fwy ystyrlon ac anodd i’w anwybyddu. Un o’r negeseuon mwyaf grymus yw’r alwad ar i lywodraethau weithredu:

‘Mae rhaid i lywodraethau ddod o hyd i ffyrdd i gael gwared â

phethau sy’n tarfu ar chwarae. Os y bydd llywodraethau’n cymryd hyn i gyd o ddifrif bydd ein bywydau’n hapusach ac yn iachach.’

Bod plant a phobl ifainc yn cael rhywbeth o’r broses – ac yn ogystal â chwarae rhan weithredol yn natblygiad adnoddau o bwys rhyngwladol, â chysylltiadau allweddol i GCUHP, derbyniodd y cyfranogwyr gopïau o’n poster ‘Chwarae yn dy Gymuned’ a breichledi ‘Mae gen i hawl i chwarae’ – breichledi a gomisiynwyd yn arbennig i ddathlu hawl y plentyn i chwarae.

Adborth – Dywedodd Cynthia Gentry, Swyddog Cyfathrebiadau IPA, ‘MAE’N WYCH! Mae’n cynnwys y cydbwysedd perffaith o destun a lluniau. Cofiwch ddweud wrth y plant iddyn nhw wneud gwaith gwych.’ Bydd Chwarae Cymru’n rhannu’r adborth a dderbyniwyd yn ystod ymweliadau â’r grwpiau wnaeth gais am adborth ynghylch y broses. Yn ogystal, cyflwynir tystysgrif o ddiolch i’r cyfranogwyr i gyd.

Gwella’r modd y byddwn yn gweithio – mae’n arfer da i barhau i wella’r modd y byddwn yn gweithio â phlant a phobl ifainc trwy ofyn iddynt werthuso ein gwaith. Bydd Chwarae Cymru’n rheoli hyn trwy hoff ddull y grwpiau, unai’n uniongyrchol yn ystod sesiynau adborth neu trwy arolwg arlein.

Bydd adnoddau’r plant a’r bobl ifainc ar gael i’w lawrlwytho o: www.ipaworld.org

www.chwaraecymru.org.uk /cym/sylwcyffredinol

Er mwyn cynhyrchu’r adnoddau plant a phobl ifainc fe weithiodd Chwarae Cymru gyda’r grwpiau canlynol: Artworks – prosiect celfyddydau ieuenctid Plant y Cymoedd; Cynllun Chwarae Llandeilo Ferwallt; Fforwm Ieuenctid Caerffili; Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion; Prosiect ‘Chwarae ein Ffordd Ni’ Llysgenhadon Ifanc Mencap Cymru; a gwirfoddolwyr rhyngwladol Cyfnewidfa UNA.

Am fwy o wybodaeth am y grwpiau ymwelwch â:

www.chwaraecymru.org.uk /cym/adnoddauerthygl31

*Bydd fersiwn Gymraeg o’r adnoddau ar gael yn y dyfodol agos

Page 14: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

14 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013

Yn ddiweddar cawsom sgwrs â Tim Gill, arbenigwr ar blentyndod a chyd-awdur Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu, am ddiogelwch chwarae, cymdeithas sydd ofn risg ac asesu risg-budd mewn chwarae.

AllwchchiddweudrhywfaintwrthymamyrhynwnaetharwainatweldyrAwdurdodGweithredolIechydaDiogelwch(HSE)yncynhyrchu’rdatganiadlefeluchelarchwarae,a’chrhanchiynybroses?

Yr hanes y tu ôl i ddatganiad yr HSE yw bod y syniad o asesu risg-budd wedi bod o gwmpas ym maes chwarae ers tua pedair neu bum mlynedd ac fe gododd eto trwy Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu. Yna pan ddaeth y llywodraeth newydd i rym cafwyd addewid o adolygiad eang o iechyd a diogelwch. Roedd y rheini ohonom sydd ynghlwm â diogelwch chwarae’n teimlo ei bod hi’n bryd inni dderbyn mwy o gefnogaeth a chymorth eglur gan y llywodraeth newydd ar gyfer agwedd fwy cytbwys a meddylgar tuag at risg.

Aeth Play England, Chwarae Cymru ac eraill ati i lobïo llywodraeth y glymblaid trwy Adolygiad Young er mwyn sicrhau ymrwymiad i hyrwyddo asesiadau risg-budd. Cyflwynodd Adolygiad Young gam gweithredu cwbl eglur gafodd ei basio ymlaen i’r HSE. Yr HSE dderbyniodd y dasg o hyrwyddo asesu risg-budd a dyna sut y cododd y datganiad.

Pamoeddangenydatganiadlefeluchelabethfwriediriddoeiwneud?

Fe allech chi ddweud bod y canllaw Rheoli Risg gennym eisoes a bod yr HSE wedi cymeradwyo’r canllaw yma – ceir paragraff hyfryd yn y canllaw gan yr HSE sy’n dweud eu bod yn ein cefnogi. Ond mae’n fater arall i gael dogfen â logo’r Awdurdod

Gweithredol Iechyd a Diogelwch arni. Mae swyddogion Iechyd a Diogelwch yn ymwybodol iawn o’r gwahaniaeth rhwng datganiadau gan yr HSE â’u clywed yn dweud pethau caredig am ddatganiad rhywun arall. Felly, yn gryno, mae’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud yn golygu fod ganddo fwy o ddylanwad oherwydd ei fod wedi ei gyhoeddi gan yr heddlu iechyd a diogelwch yn hytrach na gan grŵp o fudiadau.

YneichcyflwyniadallweddolyngnghynhadleddYsbryd2013fesiaradochamddatblygiadaupolisidiweddaracarweiniadfelRheoli Risga’rdatganiadlefeluchel.Pawahaniaethgafoddyrhainarlawrgwladaci’rboblfyddynlluniopenderfyniadau?

Pan ofynnais i faint o bobl yn yr ystafell gynadledda oedd wedi dod ar draws Rheoli Risg dywedodd rhwng 60 a 70 y cant o’r gynulleidfa eu bod wedi clywed amdano. Yna fe ofynnais i’r cyfranogwyr am asesu risg-budd a faint ohonynt oedd yn ei ddefnyddio. Unwaith eto, dywedodd cyfran dda eu bod. Felly mae pobl yn defnyddio’r broses yma, yn arbennig ym maes gwaith chwarae, ac yn fy marn i mae pobl yn teimlo ei bod yn broses well a’i bod yn helpu pobl i lunio barn well ar lawr gwlad. Mae gennym rai enghreifftiau o wasanaethau sy’n sicrhau cynigion mwy anturus; maent yn cynnig cyfleoedd i’r plant ddringo coed neu maent yn mabwysiadu agwedd fwy digyffro tuag at weld plant yn trefnu gweithgareddau drostynt eu hunain ac o ddylunwyr meysydd chwarae’n bod yn fwy creadigol ac yn cynhyrchu amgylcheddau mwy anturus. Felly mae’n bosibl ichi fynd i weld y pethau hyn ar waith drosoch eich hun.

YneichllyfrNo Fearrydychyncyfeirioatgymdeithassyddofnrisg.Ydychchi’ncredubodhynwedicyrraeddeibenllanwbellachabethwnaethachosineuddylanwaduarhyn?

Rwy’n credu ei bod wedi cyrraedd ei benllanw. Rwy’n credu ein bod yn

gweld hyn mewn nifer o feysydd. Fe allen ni hefyd edrych ar y ffaith bod llywodraeth y DU bellach yn cwtogi’r biwrocratiaeth sydd ynghlwm â fetio a diogelu; roedd llawer o bobl yn bryderus iawn ynghylch y systemau a’r data-bas enfawr oedd yn cael eu cynnig ac rydym wedi tynnu’n ôl oddi wrth hynny, felly rwy’n credu ein bod wedi cyrraedd penllanw’r pryder ynghylch risg.

Tydw i ddim yn gwbl siŵr pam fod hyn wedi digwydd, efallai mai’r rheswm oedd nad oedd modd i bethau fynd yn waeth neu efallai ei fod yn syml iawn yn un o’r pethau hynny sy’n troi mewn cylchoedd. Fe hoffwn i gredu bod fy ngwaith eiriol i ac eiriolaeth Chwarae Cymru, ac yn wir gwaith grŵp cynyddol o awduron, artistiaid, sêr o fyd chwaraeon, gwleidyddion a hyd yn oed y cyfryngau, i gyd wedi chwarae rôl. Mewn gwirionedd, mae’r cyfryngau’n ddiddorol iawn; mae’n wynebu’r ddwy ffordd ar risg bellach.

Byddwn yn dal i glywed straeon arswydus a chodi bwganod ond ceir hefyd lawer o sylw yn y cyfryngau ble y maent yn rhoi amser caled i awdurdodau lleol, cynghorau ac ysgolion sydd ofn risg. Mae’r rhain i gyd yn arwyddion calonogol iawn.

FewnaethymoddygwnaethycyfryngauymdrinagachosAprilJonesymMachynllethargraffarnom–wnaethycyfryngauddimbeioeirhieniamadaeliddichwarae’rtuallan.

Rwy’n credu bod hynny’n wir ac mae’n enghraifft dda, ond dewch inni obeithio bod hyn yn sgîl y ffaith bod pobl wedi sylweddoli’r hyn y byddwn yn ei golli os fyddwn ni’n gwbl paranoiaidd am ‘yr hyn allai ddigwydd pe bae …’ a’r holl bethau drwg. Bydd plant yn dioddef plentyndod gwaeth ac mae hyn i gyd yn dibynnu ar ein gweledigaeth o’r hyn sy’n blentyndod digon da ac mae’n un sy’n caniatáu ar gyfer ansicrwydd, sy’n caniatáu ar gyfer antur ac sy’n caniatáu ar gyfer her, sy’n golygu caniatáu ar gyfer risg.

Cyfweliad â Tim Gill

Page 15: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013 | 15

Llysgenhadon IfaincYn ei chyflwyniad clo ysbrydoledig i gynhadledd Chwarae Cymru’n ddiweddar, galwodd Ally John, hyfforddwraig ac eiriolwraig dros gynhwysiant a herio anablaeth, am fwy o weithgareddau anturus ar gyfer plant anabl fyddai’n caniatáu iddynt gymryd risg ac asesu risg drostynt eu hunain.

Mae hyn yn adleisio’r hyn ddywedodd Llysgenhadon Ifainc Mencap Cymru wrthym yn ein cyfarfod â hwy yn ystod yr haf. Roedd y Llysgenhadon yn rhan o Chwarae ein Ffordd Ni, prosiect Mencap Cymru a arianwyd gan Plant mewn Angen, oedd yn cefnogi pobl ifainc ag anabledd dysgu i gymdeithasu’n annibynnol o’u teuluoedd – sy’n bleser anodd iawn i lawer o bobl ifainc anabl ei fwynhau.

‘Mewn gwirionedd, beth rydw i ei eisiau yw i wneud ffrindiau a chymryd rhan yn yr hyn sy’n mynd ymlaen ble rwy’n byw.’

‘Fe wnes i wir fwynhau cael cyfle i redeg yn rhydd a mynd i rafftio. Fel arfer dwi’n cael fy lapio mewn gwlân cotwm ac roedd yn dda i wneud rhywbeth oedd yn teimlo fel ei fod yn hollol ddi-reolaeth.’

‘Rwy’n mwynhau cael amser i ffwrdd oddi wrth fy nheulu, roeddwn yn teimlo fel fy mod wedi tyfu i fyny.’

‘Rwy’n hoffi gwneud pethau sy’n codi ofn arna’ i (rafftio dŵr gwyn), mae’n ddychrynllyd ond wedyn rwy’n teimlo gollyngdod mawr.’

Yn aml iawn bydd disgyblion sy’n mynychu ysgolion

arbennig yn sôn am eu hoffter o’r ysgol – mae’r ysgol yn cynnig mynediad i ffrindiau tra bo’r penwythnosau a gwyliau’r ysgol, yn aml iawn, yn gallu bod yn unig.

Yn aml bydd darparwyr cyfleoedd chwarae ac adloniant yn cyfeirio at broblemau: yswiriant, darpariaeth, staff profiadol. Mae’r rhain i gyd yn resymau dealladwy ond y cyfan y maent yn ei wneud yw celu’r gwir rwystr i gynhwysiant – sef ofn. Mae llawer yn pryderu y bydd cynhwysiant yn effeithio ar y grŵp, mae eraill yn pryderu ynghylch eu gallu i gynnig cymorth digonol i blentyn anabl i gymryd rhan, ac mae eraill yn dal i boeni am bryderon rhieni; ac yn olaf, ofn cael eu dwyn i gyfraith os aiff rhywbeth o le.

Mewn blog diweddar yn myfyrio ar farn y bobl ifainc sy’n rhan o brosiect Chwarae ein Ffordd Ni, ysgrifennodd Sian Davies o Mencap Cymru:

‘Mae agweddau’n broblem, ond byddai’n anonest inni honi bod hyn yn ymwneud yn unig â darparwyr hamdden. Y gwirionedd yw, bod pobl sydd ag anableddau dysgu’n cael eu hamddiffyn yn barhaus, gan

weithwyr proffesiynol yn ogystal â rhieni. Mae hyn yn ddealladwy, ond mae angen inni fod yn gwbl onest y gall y canlyniadau, weithiau, arwain at arwahanu.

‘Ac mae hyn yn dod â ni yn ôl at ofn. Mae hyfforddwyr yn ofnus oherwydd bod ganddynt fawr ddim dealltwriaeth neu brofiad, mae rhieni’n ofnus oherwydd eu bod yn ansicr os yw’r hyfforddwyr yn meddu ar wir ddealltwriaeth ac mae’r bobl ifainc eu hunain yn ofnus oherwydd eu bod yn teimlo nad ydynt wedi eu paratoi i ddelio â sefyllfaoedd newydd yn annibynnol.

‘Mae cynnwys pobl [anabl] yn gofyn am rywfaint o ddychymyg, hyblygrwydd, a hunan-hyder; pur anaml y bydd cyrsiau hyfforddiant unigol yn ddigonol. Mae angen i hyfforddwyr dreulio amser gydag unigolion er mwyn deall eu anghenion; mae hyn yn wir os oes gennych anabledd neu beidio. Mae angen inni fod yn barod i dderbyn pobl anabl mewn gweithgareddau prif ffrwd. Ac mae angen iddynt hwythau, a’u rhieni a’n clybiau a’n canolfannau hamdden i fod yn barod i gymryd risgiau.’

www.mencap.org.uk/wales/projects/play-our-way

Mae’r Play Safety Forum wedi cynhyrchu argraffiad newydd o Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Canllaw Gweithredu er mwyn helpu i daro cydbwysedd rhwng y risgiau a’r buddiannau o gynnig cyfleoedd chwarae heriol i blant.

Mae’n dangos sut y gall darparwyr chwarae wneud i ffwrdd â dulliau asesu risg cyfredol a mabwysiadu agwedd sy’n rhoi llwyr ystyriaeth

i fuddiannau profiadau chwarae heriol i blant a phobl ifainc.

Mae’r canllaw wedi ei anelu at y rheini sy’n gyfrifol am reoli darpariaeth chwarae, a bydd yn ddefnyddiol ar gyfer pobl sy’n rheoli mannau a lleoliadau ble y bydd plant yn chwarae, ac i’r bobl hynny sy’n rhan o’r broses o’u dylunio a’u cynnal a’u cadw.

www.chwaraecymru.org.uk /cym/rheolirisg

RheoliRisgmewnDarpariaethChwarae:CanllawGweithreduYsgrifennwyd gan David Ball, Tim Gill a Bernard Spiegal

Page 16: Chwarae dros gymru rhifyn 41 gaeaf 2013

16 | Chwarae dros Gymru | Gaeaf 2013

Tua’r gogledd yr anelodd y Fforwm Gweithwyr Chwarae eleni, i faes gwersylla hyfryd Gladstone, ger Penarlâg yn Sir y Fflint, ble y daeth dros 40 o weithwyr chwarae o bob cwr o Gymru ynghyd.

Agorodd y diwrnod cyntaf â sgwrs ysbrydoledig gan Fraser Brown, Athro Gwaith Chwarae Prifysgol Fetropolitan Leeds, ar hanes a gwreiddiau gwaith chwarae gan ddod â’r cyfan yn fyw gydag esiamplau trawiadol o’r modd y mae’r agwedd gwaith chwarae wedi effeithio mewn modd cadarnhaol ar rai o blant mwyaf bregus a difreintiedig y cartrefi plant amddifaid y gweithiodd ynddynt yn Rwmania.

Cymerodd y cyfranogwyr ran mewn tri gweithdy a gynlluniwyd i ystyried yn fanwl ein rolau a’n cyfrifoldebau fel gweithwyr chwarae, waeth os ydym yn gweithio’n uniongyrchol â’r plant yn rheolaidd neu os oes gennym rôl fwy strategol neu ddatblygiadol a’r

modd y mae hyn i gyd yn cydberthyn â’r Egwyddorion Gwaith Chwarae.

Sicrhaodd yr ail ddiwrnod bod y dysgwyr yn barod am ddechrau bywiog gyda gemau grŵp i ddechrau cyn rhannu’n ddau weithdy. Arweiniodd Ben Greenaway sesiwn fanwl aeth ati i ddatod yr Egwyddorion Gwaith Chwarae, gan edrych arnynt o safbwynt newydd tra yr aeth y cyfranogwyr eraill ati i herio’r tywydd gwael er mwyn mireinio eu sgiliau ymarferol wrth adeiladu strwythurau chwarae dros dro gyda Dafydd Myrddin Hughes.

Mae’r Fforwm Gweithwyr Chwarae’n parhau i brofi bod cyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn allweddol i weithwyr chwarae a bod rhwydweithio a myfyrio fel grŵp yn seiliau allweddol i ddigwyddiad fel hwn. Fe wnaeth y cyfranogwyr ganmol strwythur a thempo’r digwyddiad, ond yn bwysicaf oll oedd y cyfle i gwrdd â gweithwyr chwarae o brosiectau eraill ac o rannau eraill o’r wlad a rhannu profiadau ac arfer da â hwy.

Fyddai gennych chi ddiddordeb cyfrannu at y Fforwm Gweithwyr Chwarae?

Caiff y Fforwm Gweithwyr Chwarae ei threfnu gan grŵp llywio sy’n cynrychioli nifer o sefydliadau o bob cwr o Gymru a bob blwyddyn bydd y grŵp yn anelu i ateb anghenion y sector.

Ar gyfer Fforwm Gweithwyr Chwarae 2014 mae’r grŵp llywio’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â phrofiad o drosglwyddo gweithdai hyfforddi / hwyluso gwaith chwarae hoffai ddatblygu gweithdy fyddai’n addas ar gyfer y digwyddiad hwn.

Os oes gennych ddiddordeb trosglwyddo gweithdy yn Fforwm Gweithwyr Chwarae 2014, cysylltwch â Ben Greenaway i holi am ffurflen mynegi diddordeb – [email protected]

Y flwyddyn nesaf bydd y Fforwm yn dychwelyd i Dde Cymru; cyhoeddir manylion pellach yn nes i’r amser.

Fforwm Gweithwyr Chwarae 2013

Y llynedd, mewn ymateb i geisiadau gan gyflogwyr, derbyniodd SkillsActive (y cyngor sgiliau sector dros waith chwarae) ariannu i ddatblygu safonau galwedigaethol cenedlaethol (SGC) ychwanegol i gwmpasu gwaith chwarae yn rhai o’r lleoliadau llai traddodiadol ble y bydd chwarae’n digwydd: llochesi menywod, carchardai a lleoliadau chwarae dan do.

Mae’r SGC yn disgrifio’r hyn y dylai person cymwys ei wybod, ei ddeall a gallu ei wneud ar gyfer rôl swydd penodol. Er y caiff y rhain eu defnyddio gan sefydliadau dyfarnu a chynghorau sgiliau sector fel sail ar gyfer cymwysterau, ac efallai mai dyma sut y maent yn fwyaf adnabyddus, mae ganddynt nifer o swyddogaethau defnyddiol eraill hefyd. Felly, tra bo SkillsActive yn gweithio tuag at sicrhau eu

bod yn cael eu cymeradwyo er mwyn i gyrff dyfarnu allu eu cynnwys yn eu cymwysterau, dyma rywfaint o syniadau ar sut i roi’r safonau hyn ar waith.

Mae Cyflawni chwarae mewn lloches i fenywod yn cydnabod y gwaith tra-arbenigol a wneir gan weithwyr chwarae yn y math yma o leoliad, gan gynnig cefnogaeth emosiynol i blant a gweithio gydag oedolion mewn llochesi i gydnabod anghenion y plant, a chynnig cymorth iddynt. Gellid defnyddio’r uned hon i lunio amlinelliad o swydd ddisgrifiad a manyleb personol ar gyfer recriwtio staff chwarae mewn lloches, neu fel sail ar gyfer proses oruchwylio a gwerthuso ar gyfer staff chwarae presennol y lleoliad.

Mae Cyflawni gwaith chwarae mewn carchardai yn cwmpasu rôl gweithwyr chwarae wrth gynllunio a gweithredu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant a phobl ifainc sy’n ymweld

â rhiant neu â pherthynas yn y carchar. Mae’n cynnwys dealltwriaeth o weithio mewn amgylchedd cyfyngedig a llawn straen, tra’n sicrhau y glynir at reolau a rheoliadau’r carchar. Gellid defnyddio’r uned yma, a anelir at y prif-weithiwr chwarae, i ddatblygu hyfforddiant sefydlu neu hyd yn oed rhestr wirio cyfnod sefydlu.

Mae Cyfrannu at redeg canolfan chwarae dan do yn berthnasol i waith mewn ystod o wahanol leoliadau chwarae dan do, yn cynnwys canolfannau adloniant i deuluoedd a lleoliadau chwarae caeëdig. Ymysg elfennau eraill, mae’n cwmpasu hwyluso partïon i blant ac ymwneud â rhieni, a gellid ei ddefnyddio i hysbysu swydd ddisgrifiad ar gyfer gwaith yn y maes hwn neu gellid ei ddefnyddio fel meincnod ar gyfer y broses adolygu perfformiad.

www.skillsactive.com/our-sectors/playwork

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Chwarae