82
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Yr Uned Cydraddoldeb, Llywodraethu a Chydymffurfio [email protected] Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth Katya Hosking, Swyddog Cwricwlwm Cynhwysol Cefnogi Dysgu ac Addysgu, Y Gofrestrfa [email protected]

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

  • Upload
    renee

  • View
    50

  • Download
    5

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig. Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Yr Uned Cydraddoldeb, Llywodraethu a Chydymffurfio [email protected] 02920 870230. Katya Hosking, Swyddog Cwricwlwm Cynhwysol - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig

Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Yr Uned Cydraddoldeb, Llywodraethu a Chydymffurfio

[email protected]

02920 870230

Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth

Katya Hosking, Swyddog Cwricwlwm Cynhwysol

Cefnogi Dysgu ac Addysgu, Y Gofrestrfa

[email protected]

02920 879218

Dalier sylw:

• Dyma gyflwyniad i rai egwyddorion a gofynion cyfreithiol allweddol o ran cydraddoldeb ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig

• Dylai’r cyflwyniad hwn gymryd tua 30 munud i’w gwblhau yn ogystal â chwis sy’n cymryd 10 munudAm fwy o wybodaeth neu adborth ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltwch â: Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, E-bost: [email protected], Ffôn: 02920 870230

Am fwy o wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â dysgu, addysgu ac asesu, cysylltwch â: Katya Hosking, Swyddog Cwricwlwm Cynhwysol, E-bost: [email protected], Ffôn: 02920 879218

2

• Os oes arnoch chi angen copi o’r wybodaeth hon mewn fformat arall, cysylltwch â Catrin Morgan: [email protected], 02920 870230

3

Amlinelliad o’r Drafodaeth1. Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth

2. Achosion Cyfreithiol, Moesol a Busnes

3. Deddf Cydraddoldeb 2010

4. Diwylliant Cydraddoldeb Prifysgol Caerdydd

5. Gwahaniaethu

6. Stereoteipio a Rhagfarnu

7. Iaith Amrywiaeth

8. Eich rôl fel Myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig

9. Cwis Cydraddoldeb (10 cwestiwn)

4

1. Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth

5

Beth yw Cyfleoedd Cyfartal ac Amrywiaeth?

Cyfleoedd Cyfartal: yn gysylltiedig â dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac annheg yn erbyn grwpiau penodol. Cydraddoldeb = cyflwr o fod yn gyfartal.

Amrywiaeth: yn seiliedig ar y cysyniad o gydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaeth.

Mae cydraddoldeb yn diogelu pawb ohonom…Mae amrywiaeth yn adlewyrchu pawb ohonom…

6

“Nid oes cydraddoldeb mewn ystyried bod pethau gwahanol yn debyg, mae cydraddoldeb mewn ystyried bod pethau gwahanol yn

wahanol.”

Tom Robbins

2. Yr achos cyfreithiol, moesol a busnes dros amrywiaeth a chydraddoldeb

8

Ein DiwylliantNod Prifysgol Caerdydd yw:

– Datblygu a hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac urddas, cwrteisi a pharch ledled y Brifysgol

– Cefnogi’r holl fyfyrwyr a staff, gan gynnwys darparu cefnogaeth berthnasol mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig

– Gweithio i atal mathau o wahaniaethu anghyfreithlon a delio â phob mathau o wahaniaethau’n gyson ac effeithiol

– Sicrhau bod ei holl bolisïau a chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn dylanwadu ar ddiwylliant y Brifysgol ac yn ei hysbysu.

9

Pam fod arnom angen cydraddoldeb ac amrywiaeth

• Yr Achos Cyfreithiol:– Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi amddiffyniad a

hawliau i bobl gan gynnwys myfyrwyr a staff mewn perthynas â gwahaniaethu (triniaeth llai ffafriol), aflonyddwch ac erledigaeth

– Mae deddfwriaeth hawliau dynol yn rhoi cyfres o hawliau a rhyddid sylfaenol y mae gan bob unigolyn hawl iddynt yn seiliedig ar egwyddorion craidd sy’n cynnwys urddas, cydraddoldeb a pharch.

– Mae gan bawb ohonom hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r gyfraith ar gydraddoldeb.

10

Pam fod arnom angen cydraddoldeb ac amrywiaeth

• Yr Achos Busnes:– Denu a chadw myfyrwyr a staff– Gwneud defnydd llawn o dalentau a dysgu pobl o

ystod eang o wybodaeth a phrofiad– Gwella perfformiad a galluogi pobl i berfformio hyd at

eu potensial llawn

• Yr Achos Moesol:– Trin pobl yn deg– Creu amgylchedd cynhwysol

11

“Un o bedwar prif bwrpas addysg uwch yw chwarae rhan fawr mewn ffurfio

cymdeithas ddemocrataidd, wâr, gynhwysol.”

Syr Ron Dearing

Pwyllgor ymchiliad y DU i addysg uwch, 1997

Pwy mae’r gyfraith yn eu hamddiffyn?

‘Nodweddion Gwarchodedig’

Gellir dod o hyd i mwy o wybodaeth ar ein

poster Nodweddion Gwarchodedig

13

Nodweddion GwarchodedigMae Deddf Cydraddoldeb 2011 yn rhoi hawliau a mesurau diogelu mewn perthynas â’r ‘Nodweddion Gwarchodedig’ canlynol:– Oedran– Anabledd– Ailbennu Rhywedd– Priodas a Phartneriaeth Sifil– Beichiogrwydd a Mamolaeth– Hil– Crefydd a Chredo– Rhyw– Cyfeiriadedd Rhywiol

Gellir dod o hyd i mwy o wybodaeth ar ein poster: Nodweddion Gwarchodedig

14

“Cydraddoldeb yw enaid rhyddid; mewn gwirionedd, hebddo, nid oes rhyddid.”

Frances Wright

Beth yw rhai o’r buddion ar gyfer Myfyrwyr?• Peidio â bod o dan anfantais neu brofi ymddygiad negyddol am

reswm yn ymwneud â’ch nodwedd warchodedig

• Astudio/byw mewn amgylchedd sy’n eich galluogi i fod ‘yn chi’ch hun’ a bod yn agored am eich hunaniaeth ac anghenion

• Cael profiad myfyriwr mwy ‘byd-eang’ ac amrywiol a fydd yn eich helpu i gael ystod ehangach o wybodaeth a phrofiad

• Cael dealltwriaeth well o anghenion pobl mewn perthynas â deunydd pwnc, e.e. myfyrwyr meddygaeth yn deall anghenion cleifion anabl, y gellir defnyddio hyn yn ddiweddarach mewn gwaith ymchwil neu gyflogaeth

• Bod wedi’ch paratoi’n well ar gyfer cyflogaeth (polisïau amrywiaeth a chydraddoldeb cyflogwr)

• Deall tegwch a chynhwysoldeb yn arferion y Brifysgol

• Deall gweithdrefnau ar gyfer mynd i’r afael ag aflonyddwch / bwlio

16

Mae’n bwysig nodi:• Nid yw’r Brifysgol yn goddef aflonyddwch a bwlio gan

gynnwys iaith dramgwyddus

• Mae rhyddid i lefaru ac eithrio o’r cwricwlwm yn caniatáu beirniadaeth gyfreithiol, gyfreithlon, neu ddadl at ddibenion academaidd yn ymwneud â materion, syniadau a deunyddiau. Fodd bynnag, ni ddylai’r rhai sy’n ymarfer rhyddid i lefaru dorri cyfreithiau eraill, er enghraifft yn ymwneud ag aflonyddwch ac annog casineb, yn y ffordd y caiff syniadau eu cyfleu

• Mae gan yr holl fyfyrwyr â staff gyfrifoldeb i gydymffurfio â deddfwriaeth a pholisïau cydraddoldeb

• Mae gan fyfyrwyr a staff gyfrifoldeb i weithredu mewn ffordd nad yw’n gwahaniaethu’n anghyfreithlon (gweler diffiniadau mewn sleidiau i ddod)

• Er mwyn nodi unrhyw anghenion am gymorth, dylai myfyrwyr drafod eu hanghenion penodol gyda’r Brifysgol

17

“Y pwynt yw bod byw gyda’n gilydd yn raslon yn gwneud ein

bywydau’n fwy cyfoethog, diogel a hapus. Mae anghydraddoldeb

yn gwneud bywyd yn fwy anodd, gwael ac annifyr.”

Syr Trevor Phillips

3. Y Ddeddf Cydraddoldeb

19

Deddf Cydraddoldeb 2010• Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn

cynnig ymagwedd wedi’i chysoni tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth (mae’n dod â’r holl ‘nodweddion gwarchodedig’ o dan un gyfraith)

• O dan y Ddeddf, mae dyletswyddau ‘Cyffredinol’ a ‘Phenodol’ gan ‘Gyrff Cyhoeddus’ (e.e. prifysgolion, ysbytai ac ati) sy’n ddyletswyddau ychwanegol i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer y cyrff hyn

Dalier sylw: nid yw popeth wedi’i gynnwys o dan y ddeddf cydraddoldeb, e.e. cefndir cymdeithasol-economaidd, materion ‘tegwch’ nad ydynt yn ymwneud â nodwedd warchodedig ac ati.

20

• Dileu gwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan neu o dan y Ddeddf

• Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu, a

• Meithrin perthynas da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Y Dyletswyddau ‘Cyffredinol’

21

Dyletswyddau ‘Penodol’ (Cymru)

Mae gennym nifer o ddyletswyddau penodol ar waith yng Nghymru sydd â’r nod o sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol i gwrdd â’r dyletswyddau cyffredinol.

Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys:1. Datblygu a gweithredu Cynllun Cydraddoldeb

Strategol ac Amcanion Cydraddoldeb 2. Ymgysylltu â phobl o grwpiau cydraddoldeb

gwahanol

22

3. Monitro data cydraddoldeb

4. Edrych ar y ffordd y mae ein polisïau a gweithdrefnau’n effeithio ar grwpiau gwahanol

5. Cynnal archwiliadau cyflog cyfartal i sicrhau cyflog cyfartal am waith cyfartal rhwng dynion a menywod

6. Adrodd yn flynyddol ar gynnydd a chyhoeddi’r wybodaeth hon.

Dyletswyddau ‘Penodol’ (Cymru)

23

4. Ein Polisïau a Diwylliant Cydraddoldeb

24

Cynllun, Polisïau a Chanllawiau Cydraddoldeb

• Mae’r Brifysgol wedi datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS)

• Mae’r cynllun yn dangos sut y byddwn yn cydymffurfio â’r ddeddf ac yn amlinellu ymrwymiad y Brifysgol i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ar sail Oedran, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Crefydd neu Gredo, a Chyfeiriadedd Rhywiol

• Cafodd yr Iaith Gymraeg ei chynnwys yn ein CCS hefyd i ddangos ein hymrwymiad (mae gan y Brifysgol Gynllun Iaith Gymraeg hefyd sy’n cynnwys ymrwymiadau mwy manwl)

26

Y Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Chwe Amcan CydraddoldebEIN DIWYLLIANT: Diwylliant yn seiliedig ar urddas, cwrteisi a pharch

Amcan 1: Sefydlu cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy hyfforddiant, ymwybyddiaeth a chyfathrebu

Amcan 2: Gwella’r broses o fonitro a datgelu nodweddion gwarchodedig

EIN MYFYRWYR A STAFF: Profiad addysgol a phrofiad o weithio sy’n ysbrydoli a chyfoethogi myfyrwyr a staff

Amcan 3: Adolygu, datblygu a gweithredu polisïau, gweithdrefnau, cwricwlwm ac amgylchedd ffisegol sy’n gefnogol a chynhwysol

Amcan 4: Adolygu a mynd i’r afael â thangynrychiolaeth mewn recriwtio, cadw a datblygiad/cyrhaeddiad staff a myfyrwyr

Amcan 5: Adolygu a mynd i’r afael â chydraddoldeb o ran cyflog staff a strwythurau cysylltiedig

EIN CYMUNEDAU: Annog a chefnogi cydlyniant cymunedol

Amcan 6: Hyrwyddo cydweithio allanol, ehangu mynediad a chyfathrebu, meithrin perthnasoedd da a chynnal ymgysylltiad yn fewnol ac allanol

27

Y Siarter Myfyrwyr• Cyflwynodd y Brifysgol ei Siarter Myfyrwyr ym mis Awst

2012 a mae’n amlinellu disgwyliadau’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a Myfyrwyr am gymuned urddasol ac egwyddorol, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth a deddfwriaeth o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth a roddir yn y pecyn hwn.

• Mae’r Siarter yn diffinio cymuned urddasol ac egwyddorol fel un lle hybir cydraddoldeb, lle gwerthfawrogir amrywiaeth a chynwysoldeb a lle perchir unigolion; lle mae ymddygiad yn cael ei lywio gan godau’n ymwneud ag uniondeb academaidd, moeseg ac ymddygiad da; lle mae pawb yn derbyn cyfrifoldeb tuag at ei gilydd; a lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal.

Y Siarter MyfyrwyrYng Nghaerdydd, gallwch ddisgwyl i’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr:

- eich trin ag urddas, cwrteisi a pharch bob amser;

- meithrin a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chyhoeddi gwybodaeth am ein cynnydd bob blwyddyn;

- gweithredu’n brydlon ac effeithiol i fynd i’r afael â chwynion yn ymwneud â gwahaniaethu neu aflonyddwch;

- fod wedi’u hymrwymo i gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg;

- fod wedi’u hymrwymo i wella hygyrchedd ein cwricwlwm, cyfleusterau a gwasanaethau, i gwrdd â gofynion pob defnyddiwr posibl.

Y Siarter MyfyrwyrMae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn disgwyl i chi:

- ymddwyn yn briodol, gan drin cyd-fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol ag urddas, cwrteisi a pharch bob amser;

- rhoi gwybod i ni os yw eich profiad yng Nghaerdydd yn cael ei effeithio’n andwyol gan ymddygiad cyd-fyfyrwyr neu staff;

- datblygu eich dealltwriaeth o broffesiynoldeb ac uniondeb academaidd yn gynnar a rhoi hyn ar waith trwy gydol eich cyfnod yma a thu hwnt.

Mae’r Siarter Myfyrwyr llawn ar gael yma –

www.caerdydd.ac.uk/studentcharter

Rhai Ffeithiau/Gwybodaeth am Brifysgol Caerdydd

• Gellir dod o hyd i Wybodaeth

Cydraddoldeb am staff a

myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

ar ein

poster ‘Ffeithiau a Ffigyrau’

31

5. Gwahaniaethu

32

“Mae ein bywydau’n dechrau dod i ben pan

fyddwn yn cadw’n dawel am bethau sydd o bwys.”

Martin Luther King

Gwahaniaethu uniongyrchol (1)Gwahaniaethu uniongyrchol yw pan gaiff rhywun ei drin yn llai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig.

Enghraifft: Mae gan ddau fyfyriwr ôl-raddedig mewn peirianneg gymwysterau cyfartal. Mae’r adran yn cynnig swydd cynorthwyydd addysgu i’r dyn, ac nid i’r fenyw, oherwydd mai dynion yw’r rhan fwyaf o’r gyfadran ac maen nhw’n meddwl y bydd dyn yn fwy addas.

Enghraifft: Mae prifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr anabl gael archwiliad meddygol ond nid yw’n gwneud hyn yn ofynnol i fyfyrwyr nad ydynt yn anabl.

Enghraifft: Nid yw adran gwleidyddiaeth yn cynnig swydd cynorthwyydd addysgu i fyfyriwr ôl-raddedig Iddewig oherwydd bod dosbarthiadau tiwtorial yn cael eu cynnal ar nos Wener ac mae’r Cadeirydd yn tybio y bydd y myfyriwr eisiau gadael yn gynnar ar ddydd Gwener er mwyn nodi’r Saboth.

34

Gwahaniaethu Uniongyrchol (2)Mae gwahaniaethu uniongyrchol hefyd yn cynnwys sefyllfaoedd ble mae rhywun yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei bod yn ymddangos bod ganddynt nodwedd warchodedig neu eu bod yn gysylltiedig â rhywun sydd â nodwedd warchodedig:

Enghraifft: Mae cydgysylltydd lleoliadau’n meddwl bod athro-fyfyriwr yn hoyw, er nad ydyw mewn gwirionedd. Mae’n penderfynu peidio â chynnig lleoliad iddo mewn ysgol Gatholig oherwydd nid yw’n meddwl y bydd yr ysgol yn lle cefnogol i fyfyriwr hoyw.

Enghraifft: Mae’r cydgysylltydd lleoliadau’n gwybod nad yw athro-fyfyriwr yn hoyw, ond mae’n penderfynu peidio â chynnig lleoliad iddo mewn ysgol Gatholig oherwydd bod y myfyriwr wedi ymddangos yn y wasg leol yn ymgyrchu dros hawliau pobl hoyw, ac felly nid yw’n meddwl y bydd yr ysgol yn rhoi cefnogaeth iddo.

35

Gwahaniaethu anuniongyrcholGwahaniaethu anuniongyrchol yw lle mae rheol neu ymarfer sy’n ymddangos yn niwtral yn berthnasol i bawb, ond mae’n rhoi pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig o dan anfantais benodol.

Enghraifft: Nid yw prifysgol yn caniatáu cŵn yn ei hadeiladau. Byddai hyn yn anfanteisio pobl sydd â nam ar eu golwg sy’n defnyddio cŵn tywys.

Enghraifft: Mae adran yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod wedi cyflawni graddau AAB mewn arholiadau Safon Uwch a safwyd ar yr un pryd. Mae menywod â phlant ifanc yn fwy tebygol o fod yn brif ofalwr na dynion â phlant ifanc, ac felly’n fwy tebygol i astudio’n rhan-amser dros nifer o flynyddoedd. Byddai’r gofyniad hwn yn anfanteisio menywod â phlant ifanc.

36

Cyfiawnhad gwrthrycholNid oes unrhyw amddiffyniad i gyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau mewn perthynas ag oedran.

Gellir cyfiawnhau gwahaniaethu anuniongyrchol dim ond os– mabwysiedir y rheol neu’r ymarfer er mwyn ceisio cyflawni

nod cyfreithlon;– mae’r rheol neu’r ymarfer yn ddull priodol o gyflawni’r nod, ac– nad oes ffordd arall llai gwahaniaethol o gyflawni’r nod.

Gelwir hyn yn gyfiawnhad gwrthrychol.

Enghraifft: Ni chaniateir cŵn yng nghyfleuster gweithgynhyrchu glân yr Ysgol Fferylliaeth. Ni fyddai hyn yn wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn person sy’n defnyddio ci tywys, oherwydd bod cadw’r cyfleuster yn ddi-haint yn nod cyfreithlon, a gwahardd cŵn yw’r unig ffordd y gellir cyflawni hyn.

37

AnableddO dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae person yn anabl os oes ganddynt nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar eu gallu i ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae pobl sydd â chyflyrau megis y canlynol yn debygol o gael eu hamddiffyn gan y Ddeddf:

– Nam ar y golwg a’r clyw

– Anawsterau iechyd meddwl hirdymor neu fynych

– Anffurfiadau difrifol

– Anawsterau dysgu penodol (e.e. dyslecsia)

– Cyflyrau corfforol (e.e. parlys yr ymennydd, arthritis)

– Cyflyrau meddygol hirdymor (e.e. epilepsi, diabetes, canser, HIV, sglerosis ymledol)

Maen nhw’n warchodedig hyd yn oed os yw meddyginiaeth neu driniaeth yn rheoli eu cyflwr neu’n cyfyngu ei effeithiau.

38

Gwahaniaethu sy’n deillio o anableddGwahaniaethu sy’n deillio o anabledd yw trin rhywun yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n deillio o’u hanabledd (ond nid oherwydd yr anabledd ei hun).

Enghraifft: Mae gan fyfyriwr gyflwr meddygol sy’n achosi blinder difrifol ac mae’n syrthio i gysgu yn ystod darlith. Mae’r darlithydd yn dweud ei bod yn amlwg nad yw’r myfyriwr yn cymryd sylw, ac mae’n gofyn iddo adael.

Bydd hyn yn anghyfreithlon dim ond os oedd y darlithydd yn gwybod am anabledd y myfyriwr, neu pe dylai fod yn gwybod amdano. Hefyd gall y darlithydd amddiffyn ei hun drwy roi cyfiawnhad gwrthrychol dros y driniaeth.

39

Anabledd: Addasiadau Rhesymol

Mae’n rhaid i brifysgolion wneud ‘addasiadau rhesymol’ i sicrhau nad yw pobl anabl yn cael eu hanfanteisio o ganlyniad i anabledd.

Enghraifft: Mae darlithydd hanes yn rhoi taflenni wedi’u hargraffu i fyfyrwyr yn y ddarlith, a darparu fersiwn electronig wedi hynny’n unig. Byddai’n addasiad rhesymol i roi copi electronig i fyfyriwr dall o flaen llaw, fel y bydd ganddo amser i ddefnyddio meddalwedd testun-i-lais i’w ddarllen cyn y dosbarth.

Enghraifft: Mae’n angenrheidiol i fyfyriwr Byddar sy’n darllen gwefusau allu gwylio wynebau pobl pan maen nhw’n siarad. Byddai’n addasiad rhesymol i’w thiwtor drefnu’r cadeiriau mewn cylch a gofyn i fyfyrwyr siarad un ar y tro.

40

Erledigaeth ac AflonyddwchAflonyddwch yw ymddygiad di-groeso sy’n troseddu yn erbyn urddas rhywun neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu ymosodol. Mae’n cynnwys ymddygiad y mae unigolyn yn ei gael yn ymosodol, hyd yn oed os nad yw’r ymddygiad wedi’i gyfeirio atyn nhw.Mae aflonyddwch mewn perthynas â nodwedd warchodedig yn anghyfreithlon.

Enghraifft: Mewn seminar, mae dau fyfyriwr yn cwyno’n uchel bod myfyrwyr anabl sy’n cael amser ychwanegol mewn arholiadau’n cael mantais annheg, ac mai dim ond myfyrwyr anneallus ydynt sy’n gwneud esgus ac nad ydynt mewn gwirionedd yn haeddu’r graddau a ddyfernir iddynt. Mae hyn yn creu amgylchedd gelyniaethus a llawn cywilydd i fyfyriwr anabl yn y grŵp seminar.

Erledigaeth yw trin pobl yn llai ffafriol oherwydd eu bod wedi ceisio ymarfer eu hawliau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, neu oherwydd eu bod wedi helpu rhywun i ymarfer eu hawliau. 41

Gweithredu CadarnhaolMae gweithredu cadarnhaol yn gallu golygu trin pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig yn fwy ffafriol, ac mae’n gyfreithlon dim ond os yw’n golygu cymryd camau cymesur

• i’w galluogi i oresgyn anfantais;

• i gwrdd â’u hanghenion arbennig; neu

• eu hannog neu eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd lle maen nhw wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd.

Enghraifft: Er mwyn annog dynion i ystyried gyrfa mewn nyrsio, mae prifysgol yn trefnu rhaglen fentora ar gyfer bechgyn yn eu harddegau sy’n cynnwys profiad gwaith mewn ysbytai.

Dalier sylw: yn wahanol i’r nodweddion gwarchodedig eraill, nid yw anabledd yn gymesur – nid yw trin rhywun yn fwy ffafriol oherwydd eu hanabledd yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithlon yn erbyn person nad yw’n anabl.

42

6. Stereoteipiau a Rhagfarn

43

Stereoteipiau a Rhagfarn

• Stereoteipio: cyffredinoli rhagfarnllyd ynghylch grŵp cymdeithasol – tybio neu briodoli nodweddion gor-gyffredinol i grŵp

• Rhagfarn: "syniad rhagdybiedig sy‘n seiliedig ar ychydig iawn o ffeithiau neu ddim"

• Yn aml rydym yn tybio ynghylch pobl eraill, a’u galluoedd, sgiliau a phriodweddau, heb wybod llawer amdanynt

• Mae tueddiad i weld gwahaniaethau fel gwendidau.

44

Yr hyn rydym yn ei weld:

• Ymddangosiad, rhyw, lliw croen, oedran... Yr hyn nad ydym yn ei weld:

• Gwerthoedd / Credoau

• Profiadau / hanes

• Cyfeiriadedd Rhywiol

• Crefydd / Ffydd

• Anableddau nad ydynt yn amlwg...

45

Peryglon Stereoteipio• Atgyfnerthu rhagfarnau a chanfyddiadau

negyddol am rai grwpiau penodol

• Mae‘n gallu arwain at allgáu a/neu wahaniaethu

• Mae coleddu rhagdybiaethau ynghylch anghenion unigolyn yn gallu arwain at fethiant i fynd i’r afael ag anghenion pobl mewn modd priodol ac effeithiol.

46

“Ni yw’r holl bobl sydd fel ni a Nhw yw pawb

arall.”

Rudyard Kipling, 1865-1936

47

1. Cwestiynwch eich rhagfarnau, normau, arferion a ffyrdd o ryngweithio ag eraill

2. Gwnewch ymrwymiad i gadw meddwl agored a pharchu "eraill"

3. Peidiwch byth â goddef gwahaniaethu, allgáu, ymddygiad nawddoglyd neu ymddygiad rhagfarnllyd arall

4. Peidiwch â thrin pobl yn y ffordd yr hoffech chi gael eich trin ond yn hytrach yn y ffordd yr hoffen nhw gael eu trin

5. Datblygwch werthoedd personol i wrthsefyll stereoteipio a mynd i’r afael â gwahaniaethu mewn dysgu.

Ffyrdd o osgoi stereoteipio

48

• Agweddau negyddol• Diffyg dealltwriaeth • Ffyrdd gwael (ac amhriodol) o roi gwybodaeth/

cyfathrebu gwael• Dim prosesau ymgynghori• Diffyg cyfleoedd wrth astudio ac mewn gwaith• Mynediad ffisegol gwael• Amgylchedd astudio gwael

Enghreifftiau o Rwystrau i Gynhwysiant

49

“Credaf fod gan bob bod dynol y

potensial i newid, i drawsnewid eu hagweddau eu hunain, ni

waeth pa mor anodd yw’r sefyllfa.”

Dalai Lama

7. Iaith Amrywiaeth

51

Iaith• Mae defnyddio iaith gadarnhaol yn bwysig oherwydd bod

defnyddio iaith negyddol yn gallu cyfrannu at ragfarn, stereoteipio a gwahaniaethu ac mae’n gallu tramgwyddo unigolion

• Gall ystyr a defnydd iaith newid dros amser ac mae gwirio terminoleg ddewisol gydag unigolion yn gallu helpu i osgoi tramgwyddo.

• Mae’n bwysig nad yw pryderon mewn perthynas â therminoleg yn atal trafodaeth agored ynghylch materion cydraddoldeb. Mae rhestr termau wedi’i chynnwys yn Atodiad G y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac mae canllawiau defnyddiol yn open.ac.uk/equality-diversity/pics/d101215.pdf

8. Eich rôl fel Myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig

53

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth wrth Addysgu (1)

• Peidiwch â thybio bod eich myfyrwyr yn deall confensiynau ynghylch ymddygiad a chyfranogiad: gwnewch eich disgwyliadau’n eglur

• Defnyddiwch destunau neu ddeunyddiau gweledol i atodi darpariaeth lafar (a dosbarthwch y deunyddiau hyn o flaen llaw, os oes modd)

• Rhowch strwythur eglur i sesiynau a gweithgareddau, a defnyddiwch ‘arwyddbyst’ i’r strwythur hwnnw wrth fynd ymlaen

• Rhowch gyfarwyddiadau ysgrifenedig eglur ar gyfer gwaith mewn grwpiau bach a gwaith labordy

• Ysgrifennwch sillafiadau anodd, neu rhowch daflen sy’n cynnwys talfyriadau a thermau technegol neu benodol i bwnc

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth wrth Addysgu (2)

• Gwnewch yn siŵr bod cynnwys ysgrifenedig mewn sleidiau neu daflenni’n cael eu llefaru’n uchel hefyd

• Dylid lleihau copïo o fyrddau a siartiau troi, a gadael i sleidiau aros ar y sgrin am ddigon o amser ar gyfer darllenwyr/ysgrifenwyr mwy araf

• Trowch eich wyneb at y myfyrwyr wrth siarad, a cheisiwch gyfyngu ar symud o gwmpas yr ystafell

• Ailadroddwch gwestiynau/sylwadau gan fyfyrwyr cyn ymateb

• Os oes modd, trefnwch y cadeiriau fel y gall pobl weld ei gilydd wrth siarad, a bod un person yn unig yn siarad ar y tro

• Cymerwch egwyliau byr, neu newidiwch y math o weithgaredd

Canllawiau ar gyfer argraffu’n eglur• Defnyddiwch ffont sans serif megis Arial, Trebuchet

neu Verdana• Defnyddiwch ffont o leiaf 12 pwynt ar gyfer testun wedi’i

argraffu a 24 pwynt mewn sleidiau PowerPoint• Gwnewch yn siŵr bod y testun wedi’i alinio i’r chwith, ac nad

yw wedi’i unioni• Rhannwch ddarnau hir gan ddefnyddio penawdau neu

bwyntiau bwled• Defnyddiwch lythrennau trwm ar gyfer pwysleisio yn hytrach

na llythrennau italig neu danlinellu, a pheidiwch â defnyddio PRIFLYTHRENNAU ar gyfer mwy nag ychydig eirau

• Defnyddiwch gefndir plaen ar gyfer sleidiau PowerPoint a gwnewch yn siŵr bod lliw’r testun yn cyferbynnu’n dda

• Cadwch ddeunyddiau mewn fformat electronig syml, megis Word; gellir llunio fformatau gwahanol yn gyflym os bydd angen!

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Gwaith Ymchwil

• Yn aml mae gwaith ymchwil yn rhoi cyfle gwych i ystyried profiadau ac anghenion unigol grwpiau gwahanol fel mater penodol neu o fewn cyd-destun y gwaith ymchwil ehangach.

• Wrth gynnal gwaith ymchwil, mae’n bosibl y bydd gan unigolion sy’n cymryd rhan anghenion penodol, e.e. addasiadau rhesymol

• Wrth ystyried ymgysylltu â grwpiau penodol, e.e. grwpiau ag anabledd penodol, dylid ceisio cyngor ar sicrhau bod y gweithgareddau ymchwil yn hygyrch

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Gwaith Ymchwil

• Wrth fonitro cydraddoldeb fel rhan o'ch gwaith ymchwil, dylech fod yn ystyried defnyddio cwestiynau priodol, ac ystyried yr ymrwymiadau o ran diogelu data yn ymwneud â data personol sensitif (cysylltwch ag Adran Llywodraethu a Chydymffurfio Prifysgol Caerdydd am gyngor)

Mae cydraddoldeb yn bwysig…..Ystyriwch beth mae cydraddoldeb yn ei olygu i chi;

Ceisiwch drin pawb yn deg a byddwch yn anfeirniadol a pharchus;

Gweithio gyda’n gilydd, gan rannuperchnogaeth a chyfrifoldeb drosgyflawni cydraddoldeb. 59

9. Cwis Cydraddoldeb

60

Cadwch gyfrif o’r cwestiynau a atebwch yn gywir

Cwestiwn 1

Mae “Cyfleoedd Cyfartal” yn golygu trin pawb yr un fath.

A: Gwir

B: Anwir

61

Cwestiwn 1

Mae “Cyfleoedd Cyfartal” yn golygu trin pawb yr un fath.

A: Gwir B: Anwir

Mae Cyfleoedd Cyfartal yn golygu trin pawb yn ôl eu hanghenion a gofynion penodol. Er enghraifft, bydd rhai myfyrwyr anabl angen ‘addasiadau rhesymol’ i gael mynediad cyfartal (‘ar yr un lefel’).

62

Cwestiwn 2

Beth yw nifer y nodweddion gwarchodedig?

A: 12

B: 9

C: 6

63

Cwestiwn 2

Beth yw nifer y nodweddion gwarchodedig?

A: 12B: 9C: 6

Mae naw nodwedd warchodedig.Sef: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chredo, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.

64

Cwestiwn 3

Mae myfyriwr yn teimlo eu bod angen amser ychwanegol i gwblhau eu harholiadau oherwydd eu hanabledd. A oes ganddynt hawl i hyn?

A: Nid oes ganddynt hawl i hyn oherwydd ni fyddai’n deg i fyfyrwyr eraillB: Dylent ofyn am hyn (drwy’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia) fel ‘addasiad rhesymol’C: Ni ddylent ddweud wrth y Brifysgol eu bod yn

anabl

65

Cwestiwn 3

Mae myfyriwr yn teimlo eu bod angen amser ychwanegol i gwblhau eu harholiadau oherwydd eu hanabledd. A oes ganddynt hawl i hyn?

B: Dylent ofyn am hyn (drwy’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia) fel ‘addasiad rhesymol’

Gall myfyrwyr ofyn am addasiadau rhesymol i gwrdd â’u hanghenion mewn perthynas ag anabledd. Gall hyn gynnwys amser ychwanegol ar gyfer arholiadau.

66

Cwestiwn 4

Mae myfyriwr wedi newid eu hunaniaeth o ran rhywedd o fod yn ddyn i fod yn fenyw, ac yn dymuno defnyddio toiledau menywod. A oes ganddynt hawl i wneud hyn?

A: Nac oes – mae’n rhaid iddynt ddefnyddio toiledau dynion B: Nac oes – dylent ddefnyddio toiled hygyrch

(‘anabl’)C: Oes – gallan nhw ddefnyddio toiledau menywod

67

Cwestiwn 4

Mae myfyriwr wedi newid eu hunaniaeth o ran rhywedd o fod yn ddyn i fod yn fenyw, ac yn dymuno defnyddio toiledau menywod. A oes ganddynt hawl i wneud hyn?

C: Oes – gallan nhw ddefnyddio toiledau menywod

O’r amser y maen nhw’n cyflwyno’u hunain fel menyw (e.e. wrth wisgo fel menyw, cyfeirio at eu hunain fel menyw ac ati) gall myfyriwr ddefnyddio toiledau ac ystafelloedd newid menywod ac ati. Nid oes rhaid i fyfyrwyr dderbyn triniaethau meddygol (e.e. llawdriniaeth, triniaeth hormon) i gael eu cydnabod yn eu rhyw newydd. Myfyrwyr anabl yn unig a ddylai ddefnyddio toiledau hygyrch ‘anabl’ ac ni ddylid cyfeirio pobl nad ydynt yn anabl i ddefnyddio’r rhain fel toiledau niwtral o ran rhyw. 68

Cwestiwn 5

Mae myfyriwr yn teimlo eu bod yn cael eu ‘bwlio’ gan fyfyriwr arall trwy safleoedd cyfryngau cymdeithasol. A allan nhw ofyn i’r Brifysgol gymryd unrhyw gamau?

A: Na, mater allanol yw hwn

B: Gallant, byddai hyn yn dod o dan bolisi Urddas yn y Gwaith ac Astudio’r Brifysgol

C: Gallant, ond dim ond os yw’n ymwneud â nodwedd warchodedig

69

Cwestiwn 5

Mae myfyriwr yn teimlo eu bod yn cael eu ‘bwlio’ gan fyfyriwr arall trwy safleoedd cyfryngau cymdeithasol. A allan nhw ofyn i’r Brifysgol gymryd unrhyw gamau?

B: Gallant, byddai hyn yn dod o dan bolisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio’r Brifysgol

Mae Polisi Urddas yn y Gwaith ac Astudio’r Brifysgol yn berthnasol i bob ymddygiad a allai fod yn gyfystyr ag aflonyddu a bwlio. Os yw’r ymddygiad yn ymwneud â nodwedd warchodedig, e.e. defnyddio iaith rywiaethol neu hiliol, gall hyn fod yn ‘aflonyddwch’. Fodd bynnag, nid oes rhaid i ‘fwlio’ fod mewn perthynas â nodwedd warchodedig. Os yw’r ymddygiad yn gyfysytyr â throseddu, e.e. ‘stelcio’, gellir delio â hyn yn allanol hefyd.

70

Cwestiwn 6

Beth yw ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol?

A: Mae’n ddogfen sy’n amlinellu ymrwymiad y Brifysgol i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac i Ddeddf Cydraddoldeb 2010B: Mae’n ddogfen ddyheadol nad oes ei hangen o dan unrhyw ddeddfwriaethC: Mae’n ddogfen sy’n ymwneud â thrin rhai grwpiau’n fwy ffafriol

71

Cwestiwn 6

Beth yw ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol?

A: Mae’n ddogfen sy’n amlinellu ymrwymiad y Brifysgol i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac i Ddeddf Cydraddoldeb 2010B: Mae’n ddogfen ddyheadol nad oes ei hangen o dan unrhyw ddeddfwriaethC: Mae’n ddogfen yn ymwneud â thrin rhai grwpiau’n fwy ffafriol

72

Cwestiwn 7

Mae myfyriwr yn mynnu defnyddio’r term ‘mae hynny mor hoyw’ gan olygu ‘mae hynny mor ddwl’. Pan mae rhywun yn gwrthwynebu hyn, mae’n dweud mai dim ond jôc ydyw ac nad yw’n homoffobig. A yw hyn yn dderbyniol?

A: Ydy – mae’n cael ei ddweud fel jôcB: Nac ydy – gellir gweld hyn fel ffordd o aflonyddu/bwlioC: Mae hyn yn aflonyddwch/bwlio dim ond os yw’r person sy’n cwyno’n hoyw

73

Cwestiwn 7

Mae myfyriwr yn mynnu defnyddio’r term ‘mae hynny mor hoyw’ gan olygu ‘mae hynny mor ddwl’. Pan mae rhywun yn gwrthwynebu hyn, mae’n dweud mai dim ond jôc ydyw ac nad yw’n homoffobig. A yw hyn yn dderbyniol?

B: Nac ydy – gellir gweld hyn fel ffordd o aflonyddu/bwlio

Pan mae rhywun yn cwyno ynghylch aflonyddwch, effaith yr ymddygiad ac nid bwriad y tramgwyddwr sy’n bwysig. Ymddygiad sy’n tramgwyddo urddas person neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu ymosodol yw aflonyddwch

74

Cwestiwn 8

Mae’r adran beirianneg eisiau annog mwy o fenywod i astudio’r pwnc oherwydd bod menywod wedi’u tangynrychioli ar y cyrsiau. Beth all yr adran ei wneud?A: Cynnal ymgyrch o weithredu cadarnhaol gan

gynnwys anelu sesiynau mewn diwrnodau agored at fenywod a chynnal gweithdai ar gyfer merched mewn ysgolion (ehangu mynediad)B: Dim – byddai’n rhaid i’r adran drin dynion a menywod yn gyfartalC: Cynnig lle i bob menyw sy’n gwneud cais beth bynnag yw eu cymwysterau mynediad

75

Cwestiwn 8

Mae’r adran beirianneg eisiau annog mwy o fenywod i astudio’r pwnc oherwydd bod menywod wedi’u tangynrychioli ar y cyrsiau. Beth all yr adran ei wneud?

A: Cynnal ymgyrch o weithredu cadarnhaol gan gynnwys anelu sesiynau mewn diwrnodau agored at fenywod a chynnal gweithdai ar gyfer merched mewn ysgolion (ehangu mynediad)Mae’n debygol y gellir cyfiawnhau ymgyrch o weithredu cadarnhaol yn y sefyllfa hon oherwydd bod mewnywod wedi’u tangynrychioli o ran astudio peirianneg. Fodd bynnag, byddai cynnig lleoedd heb ystyried cymhwyster yn annhebygol o fod yn ‘ffordd gymesur o gyflawni nod dilys’ a byddai’n gwahaniaethu yn erbyn dynion.

76

Cwestiwn 9

Mae myfyriwr yn cwyno bod eu holl ddarlithoedd yn cael eu cynnal gyda’r nos pan mae’n anodd trefnu gofal plant. Nid oedd y wybodaeth a oedd ar gael wrth wneud cais ar gyfer y cwrs yn hysbysebu bod y cwrs yn cynnwys darlithoedd gyda’r nos. A ellir gwneud unrhyw beth ynghylch hyn?

A: Na ellir – mae’n rhaid i’r myfyriwr wneud ymdrech i fynychu pob darlithB: Gellir – dylai’r myfyriwr drafod eu hanghenion gyda’r Brifysgol a lle mae hynny’n rhesymol ymarferol dylai’r Brifysgol geisio cynnig dewis amgenC: Gellir – mae gan y myfyriwr hawl i newid yr amser oherwydd byddai hyn yn wahaniaethu ar sail rhyw

77

Cwestiwn 9

Mae myfyriwr yn cwyno bod eu holl ddarlithoedd yn cael eu cynnal gyda’r nos pan mae’n anodd trefnu gofal plant. Nid oedd y wybodaeth a oedd ar gael wrth wneud cais ar gyfer y cwrs yn hysbysebu bod y cwrs yn cynnwys darlithoedd gyda’r nos. A ellir gwneud unrhyw beth ynghylch hyn? B: Gellir – dylai’r myfyriwr drafod eu hanghenion gyda’r

Brifysgol a lle mae hynny’n rhesymol ymarferol dylai’r Brifysgol geisio cynnig dewis amgen

Gall yr arfer o gynnal pob darlith gyda’r nos fod yn wahaniaethu anuniongyrchol os na ellir cyfiawnhau hyn fel arfer cymesur a dilys. Dylai’r Brifysgol ystyried cynnig amseroedd gwahanol os yw hyn yn bosibl.(Dalier sylw: mae’r gofyniad cyfreithiol i weithredu ‘addasiadau rhesymol’ yn berthnasol yn achos anabledd yn unig ac mae’n ofyniad mwy cadarn nag ystyried trefniadau gwahanol ar gyfer grwpiau eraill)

78

Cwestiwn 10

Mae myfyriwr sy’n mynychu gweithgareddau cymdeithasol yn cwyno bod yr holl weithgareddau’n ymwneud ag alcohol a bod hyn yn broblematig o ran eu credo crefyddol. Beth allan nhw ei wneud? A: Dylent siarad ag Undeb y Myfyrwyr (neu drefnydd y gweithgaredd) i drafod eu pryderonB: Dylent beidio â mynychu’r digwyddiadau hyn a chymdeithasu â myfyrwyr sydd â chredoau tebyg

79

Cwestiwn 10Mae myfyriwr sy’n mynychu gweithgareddau cymdeithasol yn cwyno bod yr holl weithgareddau’n ymwneud ag alcohol a bod hyn yn broblematig o ran eu credo crefyddol. Beth allan nhw ei wneud?

A: Dylent siarad ag Undeb y Myfyrwyr (neu drefnydd y gweithgaredd) i drafod eu pryderonMae gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i ystyried anghenion myfyrwyr ac i hyrwyddo perthynas dda rhwng myfyrwyr sydd â nodweddion gwarchodedig gwahanol. Ni ddylai gweithgareddau atal rhai grwpiau’n anuniongyrchol rhag cymryd rhan a dylid darparu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys rhai gweithgareddau di-alcohol.

80

Sut gwnaethoch chi…..

Os ateboch chi lai na chwe chwestiwnyn gywir, efallai y byddwch chi eisiau ail-ddarllen y sleidiau i sicrhau eich bod wedi deall y wybodaeth a gynigiwyd neu gallwch gysylltu â’r Uned Cydraddoldeb am eglurhad ynghylch unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y sleidiau.

81

Am fwy o wybodaeth neu adborth ynghylch y modiwl hwn, cysylltwch â Catrin Morgan: [email protected], Ffôn: 02920 870230

82