12
www.amgueddfacymru.ac.uk SAIN FFAGAN YN SICRHAU NAWDD I BARHAU I GREU HANES AMGUEDDFA CYMRU YN ENNILL GRANT HLF MWYAF CYMRU ERIOED ARTES MUNDI 5 04 CERRIG GLEISION CÔR Y CEWRI 11 Ar 20 Gorffennaf 2012 cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri eu bod yn dyfarnu grant o £11.5 miliwn i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Dyma’r grant mwyaf erioed i HLF ei ddyfarnu yng Nghymru. Caiff yr arian ei ddefnyddio ar Creu Hanes – y project cyffrous gwerth £25.5 miliwn i weddnewid ein hamgueddfa hoff. Wrth ddechrau’r gwaith ailddatblygu mawr hwn, ac er mwyn ein helpu i wneud Sain Ffagan yn lle cwbl eithriadol, dyma ni’n gofyn i bobl Cymru ymuno â ni ar ein siwrnai. Yr apêl yn syml oedd i bobl roi £1 yn unig at yr achos. Roedd hyn yn fersiwn gyfoes o apêl un geiniog Iorweth Peate i’r cyhoedd ym 1946, a helpodd i sefydlu’r Amgueddfa Werin wreiddiol – yr hyn gaiff ei adnabod heddiw fel Sain Ffagan. Casglwyd bron i £6,000 mewn saith wythnos dros yr haf – diolch i bawb wnaeth gyfrannu. Bydd yn rhaid codi mwy o arian dros y blynyddoedd nesaf, ond dyma ddechrau gwych. Dysgwch fwy am ein cynlluniau cyffrous i weddnewid Sain Ffagan ar dudalen 2. NEWYDDION AMGUEDDFA CYMRU HYDREF 2012 RHIFYN 02 ANIMEIDDIO CYMRU 06 David Anderson, Huw Lewis (y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth) a Manon Williams (Cadeirydd HLF Cymru).

Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Amgueddfa Cymru yn ennill grant HLF mwyaf Cymru erioed...

Citation preview

Page 1: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

animeiddio Cymru 06

www.amgueddfacymru.ac.uk

Sain FFagan yn SiCrhau nawdd i barhau i greu haneS

AmgueddfA Cymru yn ennill grAnt Hlf mwyAf Cymru erioed arteS mundi 5 04

Cerrig gLeiSion CÔr y Cewri 11Ar 20 Gorffennaf 2012 cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri eu bod yn dyfarnu grant o £11.5 miliwn i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Dyma’r grant mwyaf erioed i HLF ei ddyfarnu yng Nghymru. Caiff yr arian ei ddefnyddio ar Creu Hanes – y project cyffrous gwerth £25.5 miliwn i weddnewid ein hamgueddfa hoff.

Wrth ddechrau’r gwaith ailddatblygu mawr hwn, ac er mwyn ein helpu i wneud Sain Ffagan yn lle cwbl eithriadol, dyma ni’n gofyn i bobl Cymru ymuno â ni ar ein siwrnai. Yr apêl yn syml oedd i bobl roi £1 yn unig at yr achos. Roedd hyn yn fersiwn gyfoes o apêl un geiniog Iorweth Peate i’r cyhoedd ym 1946, a helpodd i sefydlu’r Amgueddfa Werin wreiddiol – yr hyn gaiff ei adnabod heddiw fel Sain Ffagan.

Casglwyd bron i £6,000 mewn saith wythnos dros yr haf – diolch i bawb wnaeth gyfrannu. Bydd yn rhaid codi mwy o arian dros y blynyddoedd nesaf, ond dyma ddechrau gwych.Dysgwch fwy am ein cynlluniau cyffrous i weddnewid Sain Ffagan ar dudalen 2.

newyddion AmgueddfA Cymru

Hydref 2012 rhiFyn 02

animeiddio Cymru 06

David Anderson, Huw Lewis (y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth) a Manon Williams (Cadeirydd HLF Cymru).

Page 2: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

rhiFyn 02

Amgueddfa am bobl Cymru fu Sain Ffagan erioed. Bydd project Creu Hanes yn llywio dyfodol Sain Ffagan gyda phobl Cymru.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys:dros 230,000 o flynyddoedd o fywyd yng nghymru, mewn un safle: o’r bobl gyntaf hyd heddiw.

orielau newydd diddorol: sut, pryd a pham daeth Cymru’n genedl; manylion bywydau bob dydd drwy’r canrifoedd; sgiliau creadigol cenedlaethau o grefftwyr.

Archaeoleg arbrofol: byddwn yn defnyddio tystiolaeth archaeolegol i ail-greu Llys Rhosyr, un o lysoedd Tywysogion Gwynedd, a lle gall

plant ysgol aros dros nos. Bydd pobl ifanc yn gweithio gyda ni i ail-greu Bryn Eryr, cartref o’r Oes Haearn ar Ynys Môn.

Adnoddau newydd, modern: gofod ymchwil i astudio’r casgliadau; caffi ac ardal chwarae newydd; adeilad eco-gyfeillgar ar gyfer gweithdai crefft a pherfformiadau awyr agored.

Yn ystod y broses, bydd nifer o ddyddiau agored i gyfarfod y tîm adeiladu a thrafod y broses.

Creu HAnes gydA’n gilydd

Creu amgueddFa o Fath gwahanoL yn Sain FFagan

02 newyddion AmgueddfA Cymru

Delwedd artist o’r adeilad eco-gyfeillgar newydd ar gyfer crefftau a sgiliau traddodiadol.

Page 3: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

gwyl At ddAnt pAwb

trydedd gwyL Fwyd Sain FFagan

Daeth bron i 26,000 o bobl i flasu danteithion trydedd gwyl fwyd Sain Ffagan ar benwythnos 8 a 9 Medi. Mae nifer o gynhyrchwyr Cymru yn ystyried yr wyl fel llwyfan pwysig i’w cynnyrch, ac roedd yr ymwelwyr yn ymddangos wedi’u plesio’n fawr â’r arlwy Cymreig.

Roedd yno ddigon i godi dwr i’r dannedd gyda dros 80 o stondinau wedi’u codi yng nghanol yr adeiladau hanesyddol. Pobwyd teisennau gradell yng nghegin Ffermdy Llwyn-yr-Eos, a bu actorion ail-greu yn coginio yn Ffermdy Abernodwydd o’r 17eg ganrif a Thy’r Masnachwr Tuduraidd o Hwlffordd sydd newydd gael ei godi. Roedd staff yr Amgueddfa hefyd yn trin y gerddi hanesyddol, a dathlwyd ffrwyth eu llafur mewn arddangosfa Ddiolchgarwch yng nghapel anghydffurfiol Pen-Rhiw.

03www.amgueddfacymru.ac.uk

Page 4: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

Artes mundi 5: gwobr Celf gyfoes ryngwlAdol Cymru

Tan 13 Ionawr 2013 gall ymwelwyr â’r Amgueddfa Gelf Genedlaethol weld gwaith gan saith artist cyfoes rhyngwladol arloesol.

Mae’r saith wedi’u henwebu am Wobr £40,000 Artes Mundi – y wobr ariannol fwyaf yn y DU. Bydd pob artist yn arddangos o leiaf un prif waith, gyda rhai yn newydd sbon ar gyfer yr arddangosfa neu heb gael eu dangos o’r blaen yn y DU. Drwy’r gweithiau, ymchwilir i destunau amrywiol fel trais cyffuriau ym Mecsico, teledu realaeth, amodau gwaith yn India a natur gymdeithasol a gwleidyddol cynefinoedd byw trefol.

Yr artistiaid a enwebwyd eleni yw Miriam Bäckström (Sweden), Tania Bruguera (Ciwba), Phil Collins (Lloegr), Sheela Gowda (India), Teresa Margolles (Mecsico), Darius Mikšys (Lithwania) ac Apolonija Šušteršic (Slovenia).

Dyma’r tro cyntaf i’r arddangosfa gael ei dangos yn orielau celf gyfoes newydd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol, a agorwyd yng Ngorffennaf 2011. Cyflwynir Gwobr Artes Mundi ar 29 Tachwedd 2012.

arddangoSFa a gwobr ryngwLadoL FLaenLLaw yng nghaerdydd

04 newyddion AmgueddfA Cymru

Y Fro (2011) © sheela gowda

rhiFyn 02

Page 5: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

Mae anghydraddoldeb cyfoeth yn effeithio ar blant yn fwy nag unrhyw grwp demograffig arall, ac mae un o bob tri o blant Cymru yn byw mewn tlodi – y lefel uchaf yn y Deyrnas Unedig.

Mynychodd dros 140 o bobl gynhadledd yn Amgueddfa Cymru ar 17 Gorffennaf i drafod sut y gall sefydliadau diwylliannol gefnogi Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi plant. Ymhlith y sefydliadau oedd y bresennol roedd y Theatr Genedlaethol, Asiantaeth Ffilm Cymru, Cadw ac elusennau blaenllaw gan gynnwys Achub y Plant a Barnado’s Cymru. Roedd y siaradwyr ar y diwrnod yn cynnwys Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae Amgueddfa Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid sy’n cefnogi plant a theuluoedd mewn tlodi i’w galluogi i ymgysylltu â diwylliant. Yn ddiweddar dyma ni’n lansio Gweddnewid Bywydau Plant, ein strategaeth tlodi plant ein hunain sy’n amlinellu sut y gallwn adeiladu ar y projectau yma.

Sefydliadau celfyddydol yw darparwyr addysg anffurfiol mwyaf Cymru, gyda dros filiwn o ymweliadau bob blwyddyn gan deuluoedd i’r amgueddfeydd cenedlaethol yn unig. Drwy greu mwy o gyfleon i blant a phobl ifanc, gallwn ni wneud gwahaniaeth.

gweddnewid bywydAu plAnt

y gynhadLedd tLodi PLant

05www.amgueddfacymru.ac.uk

Celf sy’n ffrwyth gwaith yr Amgueddfa gyda phlant a theuluoedd sydd mewn tlodi.

Page 6: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

o superted i sAm tân

LLwyFan i waith animeiddio Cymru

O ddydd Sadwrn 13 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a 27 Chwefror yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bydd gan ymwelwyr gyfle i ddod i adnabod eu hoff gymeriadau o fyd animeiddio Cymru.

Curadwyd Animeiddio Cymru gan Amgueddfa Cymru a’r cwmni teledu Calon, ac mae’n canolbwyntio ar hanes animeiddio yng Nghymru a datblygiad technegau o bapur a phensil i bicseli.

Byth er creu Jerry the Troublesome Tyke ym 1926 gan Sid Griffiths, tafluniwr sinema o Gaerdydd, mae gwaith Animeiddio Cymru wedi bod yn enwog ar draws y byd a dyma adain gryfaf y

diwydiant cynhyrchu ffilmiau yng Nghymru heddiw. Datblygodd y diwydiant yng Nghymru gyda lansio S4C ym 1982 ac mae nifer o’r rhaglenni a gynhyrchwyd wedi ennill gwobrau.

Bydd yr arddangosfa yn gyfle i weld gwaith celf, modelau a fideos dan yr un to. Gobeithiwn y bydd hefyd yn tanio diddordeb plant yn y byd animeiddio drwy gyfrwng arddangosiadau rhyngweithiol yn dangos sut y caiff lluniau eu hanimeiddio a sut y bu’n gymaint o lwyddiant yng Nghymru.

06 newyddion AmgueddfA Cymru

Ivor The Engine 1975–1977

rhiFyn 02

Page 7: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

07

All ymwelwyr ag oriel Cymru 1500-1800 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddim methu’r ddwy olygfa banoramig fawr o Blasty Margam, Morgannwg, a baentiwyd tua 1700. Mae’r ddau lun yn dangos blaen a chefn y ty, sydd bellach wedi’i ddymchwel, ac mae’r ddau yn llawn manylion hanesyddol a sylwgar.

Roedden ni am astudio’r manylion yma a dyma ni’n mynd ati i ddatblygu adnodd digidol rhyngweithiol i’w osod ger y paentiadau yn yr oriel. Mae’r adnodd yn galluogi i bobl symud a

mwyhau’r ddelwedd er mwyn astudio’r cyfoeth o fanylion mewn manylder uwch.

Darperir gwybodaeth hefyd am ffeithiau pensaernïol a’r tirwedd, gyrr Ceirw enwog Margam a hen bentrefi Margam a Notais. Gwelwn nifer o gymeriadau yn y paentiadau hefyd – trigolion yr ardal wrth eu gwaith dri chan mlynedd yn ôl.

gwAitH o’r ddeunAwfed gAnrif, trwy lygAid Heddiw

arChwiLio Paentiadau PLaSty margam o 1700 yn ddigidoL

www.amgueddfacymru.ac.uk

Page 8: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

diwrnod mArCHnAd yn AmgueddfA wlân Cymru

Dathlwyd arddangosfa barhaol newydd sbon yn Amgueddfa Wlân Cymru ar Ddydd Mercher, 12 Medi. Nod yr arddangosfa newydd yw olrhain stori deunyddiau gwlân tu hwnt i’r felin ac i fewn i’r siopau.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys ailgread o hen siop ddefnydd Emlyn Davies. Gwlanen fyddai’n ei werthu’n bennaf a byddai’n prynu’r rhan fwyaf o’i stoc gan David Lewis, perchennog Ffatri Cambrian – cartref yr Amgueddfa Wlân heddiw. Alan Owen, wyr Emlyn Davies, a rannodd ei atgofion a’i ymchwil i fusnes y teulu gyda ni. Y canlyniad yw arddangosfa sydd ag iddi naws bersonol.

Hefyd yn yr arddangosfa mae ailgread o stondin ym Marchnad Caerfyrddin tua 1950, a grëwyd

drwy ddefnyddio hen ffotograffau o gasgliad yr Amgueddfa. Wedi’r Ail Ryfel Byd dechreuodd melinau werthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd, gan gynnwys stondinau marchnad yn gwerthu pob math o nwyddau gwlân fel blancedi, gwisgoedd Cymreig i blant, edau gweu, sanau a dillad.

Mae elfen arall o’r arddangosfa yn adrodd hanes Craftcentre Cymru. Sefydlwyd y busnes llwyddiannus hwn gan Dafydd Bowen Lewis wrth i dwristiaeth dyfu yng nghanolbarth a gogledd Cymru yn y 1960au. Yn Llangurig yr agorwyd siop gyntaf Craftcentre Cymru, a dros y blynyddoedd nesaf agorwyd rhagor o siopau ledled gogledd Cymru ac mewn rhai trefi yn Lloegr. Gweithiodd Dafydd hefyd gyda dylunwyr blaenllaw o Gymru a bu’n comisiynu brethyn a ffabrig prydferth o felinau gwlân Cymru.

08

arddangoSFa newydd yn mynd â’r haneS tu hwnt i’r FeLin

1

newyddion AmgueddfA Cymru rhiFyn 02

Page 9: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

09

2

3

Meddai’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, David Anderson, ‘Rydw i wrth fy modd â’r datblygiadau pellach yma yn Amgueddfa Wlân Cymru – amgueddfa sydd wedi gweld newid mawr ers ailagor yn 2004 ac sydd bellach yn denu tua 30,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Bu’r Amgueddfa’n ffodus iawn i Alan Owen ... roi copi i ni o’i waith ymchwil am fusnes y teulu... Diolch hefyd i Dafydd a Christine Bowen Lewis am archif Craftcentre Cymru a’u rhodd hael tuag at brynu casyn arddangos.’

www.amgueddfacymru.ac.uk

1 David Anderson gyda Dafydd a Christine Bowen Lewis.

2 a 3 Mae’r arddangosfa newydd yn dangos sut a ble cai nwyddau gwlân eu gwerthu.

Page 10: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

yn yr adran hon cewch gyfle i gyfarfod â rhai o’r unigolion sy’n gyfrifol am gasgliadau cenedlaethol Cymru.—bethan lewis, pennaeth sain ffagan, sy’n ateb y cwestiynau y tro hwn.

tu ôl i’r llenni yn yr Amgueddfeydd

10

gol: Ers pryd wyt ti’n gweithio yn yr Amgueddfa, ac ym mha swyddi?

bl: Ymunais i ag Amgueddfa Cymru ym 1994. Am ddwy flynedd roeddwn i’n dysgu plant i ddefnyddio mangl a golchbren – roedd hi’n anodd gan Mam gredu hyn achos allwn i ddim defnyddio’r peiriant golchi! Dyma fi’n symud i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a dod yn Reolwr yno yn y pen draw, cyn dod ‘adref’ i fod yn Bennaeth Sain Ffagan.

gol: Yw bod yn Bennaeth Sain Ffagan wedi bodloni dy ddisgwyliadau?

bl: Mae’n heriol, yn rhwystredig ac yn rhoi boddhad. Roeddwn i wrth fy modd pan enillon ni radd Buddsoddwyr mewn Pobl – mae’n brawf o waith caled y staff sy’n gwneud Sain Ffagan yn amgueddfa o safon ryngwladol.

bethan LewiS Pennaeth Sain FFagan

gol: Mae’n gyfnod cyffrous i fod yng ngofal y safle. Beth fydd yn newid dros y blynyddoedd nesaf?

bl: Amgueddfa am bobl Cymru fu Sain Ffagan erioed, bydd project Creu Hanes yn llywio dyfodol Sain Ffagan gyda phobl Cymru. Rydyn ni am waredu’r hyn sy’n rhwystro pobl rhag ymweld ag amgueddfeydd a chreu newid parhaol i dreftadaeth ac unigolion.

gol: Unrhyw sylwadau eraill?

bl: Mae Sain Ffagan wedi bod yn lle arbennig iawn i fi erioed. Mae gen i lun o’r 1970au o fy chwaer a finnau yn Ffermdy Kennixton, mae’n rhyfedd meddwl bod y ferch fach honno bellach yng ngofal yr holl safle!

newyddion AmgueddfA Cymru rhiFyn 02

Page 11: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

11

tyStioLaeth newydd o’r CySwLLt Cymreig

daw meini hir mawr Côr y Cewri, y sarsenau, o wastadeddau marlborough, tua 30km i’r gogledd. fodd bynnag, mae’r rhai llai, y Cerrig gleision, yn estron i’r ardal.

mae sawl brigiad carreg ar fynyddoedd y preseli wedi cael eu henwi fel tarddiad y Cerrig gleision. mae gwaith ymchwil pellach gan dr richard bevins, Ceidwad daeareg Amgueddfa Cymru, a thîm o brifysgolion Caerlyr, Aberystwyth a’r brifysgol Agored, yn cysylltu rhai ohonynt â brigiad Craig rhos-y-felin ger pont saeson, i’r gogledd o’r preseli.

At hyn, mae gwaith cloddio yng nghraig rhos-y-felin gan dîm o goleg prifysgol llundain wedi datgelu tystiolaeth o weithgarwch dynol ar y safle. Cymharodd dr bevins a’i gydweithwyr sbesimenau teilchion cerrig wedi’u trin o’r safle newydd ac o gôr y Cewri, gan atgyfnerthu’r dystiolaeth ddaearegol taw Craig rhos-y-felin oedd tarddiad rhai o’r Cerrig gleision.

Cyfyd yr ymchwil gwestiynau newydd am y gred gyffredin i’r cerrig gael eu cludo i Aberdaugleddau, ar hyd Culfor Hafren ac ar draws gwlad i wastadeddau Caersallog. mae’n rhaid i ni bellach ystyried taith hollol wahanol.

Cerrig gleision Côr y Cewri

www.amgueddfacymru.ac.uk

Page 12: Cylchlythyr Amgueddfa Cymru - Rhifyn 2

digwyddiAdAu i ddod…

gweitHgAreddAu nAdoligAidd i’r teulu CyfAn, ym mHob un o’n HAmgueddfeydd Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei gosod ar y wefan. www.amgueddfacymru.ac.uk

strAeon Codi AriAn llwyddiAnnus

Mae Amgueddfa Cymru yn parhau yn llwyddiannus wrth ddenu nawdd allanol. Yn ddiweddar derbyniwyd £19k tuag at archaeoleg cymunedol gan Gyngor Archaeoleg Prydain; grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston tuag at yr orielau celf gyfoes; nawdd

am ail flwyddyn gan Noddwr hirdymor i gynhadledd Cymru Anhysbys, sy’n ddathliad o fywyd gwyllt Cymru; cynydd yng ngrant HLF ar gyfer Cynllun Sgiliau Garddwriaeth Treftadaeth a £5k gan Ymddiriedolaeth Derek Williams tuag at brynu Fossil Piece gan Steffan Dam.

o blitH y bleiddiAid – eiCH Ci Anwes! Arddangosfa i bawb sy’n hoff o gwn, yn cymharu genynnau cwn a bleiddiaid. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, o 13 Hydref 2012.

osweitHiAu CAlAn gAeAf yn sAin ffAgAn. 30 Hydref–1 tachwedd. Dylid archebu i osgoi cael eich siomi.

dilynwch ni at twitter – @AmgueddfaCymru

12

Hoffwch ni ar facebook

newyddion AmgueddfA Cymru rhiFyn 02