4
Yn y rhifyn hwn Tudalen 4 GweithgareddauHyfforddiAnimeiddio Tudalen 5 LlwyddiantCynlluniauFfilm Tudalen 6 AilBenwythnosAwduronSgript Derbyniodd unigolion a chynlluniau hyfforddi y cyfeirir atynt yn y rhifyn hwn gymorth ariannol gan y canlynol. Mae Cyfle’n cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth ei arianwyr a’i noddwyr: Cwmni Hyfforddi’r Diwydiannau Teledu, Ffilm, Animeiddio a’r Cyfryngau Rhyngweithiol yng Nghymru 80% o ostyngiad i weithwyr llawrydd yng Nghymru i fynychu cyrsiau byrion Cyfle neu i ariannu hyfforddiant o fewn y DU. 50% o ostyngiad i staff. Yn amodol ar ganllawiau Cronfa Sgiliau Cymru yn  FRAS Statws Pwysig yn Parhau Unwaith yn rhagor, mae Cyfle wedi cael ei gymeradwyo gyda statws Buddsoddwr Mewn Pobl (BMP) am ei arfer da parhaus o fewn y sefydliad. Gwobrwywyd Cyfle am y tro cyntaf ym 1995, ac yn ôl adroddiad BMP mis Mehefin, dyfarnwyd y statws i Cyfle unwaith eto am ‘lwyddo trwy ei bobl.’ Mae Prif Weithredwr y cwmni, Iona Williams yn hapus iawn i dderbyn y wobr. ‘Cyflwynwyd y statws mawreddog Buddsoddwr Mewn Pobl i ni am y pumed tro am ddangos ein ymrwymiad wrth ‘fuddsoddi yn ein staff,’” meddai. “Mae nifer helaeth o bersonél Cyfle wedi bod gyda’r cwmni ers sawl blwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwn, maent wedi gweld cryn newidiadau o fewn y diwydiant maent yn ei wasanaethu. Anogwyd staff i fod yn ymwybodol o’r newidiadau a’r tueddiadau hyn drwy ymrwymiad Cyfle i Ddysgu Gydol Oes a buddsoddiant mewn hyfforddiant,” esbonia. Ac yn wir, mae ffocws Cyfle ar Ddysgu Gydol Oes yn treulio llawer pellach na’r sefydliad ei hun. Adlewyrchir hyn yn ei bortffolio eang o gynlluniau pwrpasol a arweinir gan y diwydiant yn arbennig ar gyfer datblygu trawstoriad o dalent o fewn y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol i gyfarwyddwyr gweithredol cwmnïau cynhyrchu. “Mae Dysgu Gydol Oes yn rhan bwysig o’r hyn mae Cyfle yn ei gyfrannu tuag at y diwydiant trwy gynnig hyfforddiant pwrpasol i gyn ddyfodiaid, newydd ddyfodiaid, a datblygiad proffesiynol parhaus i’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant eisoes,” eglura Iona. Am ragor o wybodaeth am Cyfle a’i weithgareddau hyfforddi, ewch i www.cyfle.co.uk. Yn 2007, cwblhaodd 58 o newydd ddyfodiaid un o wyth o gynlluniau Teledu, Ffilm, Animeiddio neu Gyfryngau Rhyngweithiol Cyfle. Cysylltwch â Nadine Roberts am ragor o fanylion os yn chwilio i gyflogi: nadine@cyfle.co.uk gAeAF 2008 CYRSIAU BYRION CYFLe AR gYFeR IONAwR – MAwRTh 2009 (gweler tudalen 6) CYFLe’N DAThLU 21 MLYNeDD O hYFFORDDIANT Daeth hyd at 200 o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant a chyn hyfforddeion ynghyd i ddathlu 21 mlynedd o hyfforddiant Cyfle yn y diwydiant yng ngwesty’r Parc Thistle, Caerdydd ar 24 hydref. Cafwyd wal fideo o gyn hyfforddeion, cyflwyniad o dystysgrifau Cyfle a cherddoriaeth gan DJ’s huw Stephens a Richard Rees. Roedd siaradwyr gwadd yn cynnwys Prif weithredwr S4C, Iona Jones; gary Townsend, Cyfarwyddwr gweithredol Skillset; huw Jones, Cadeirydd Cyfle ac Iona williams, Prif weithredwr Cyfle (gweler tudalen 3).

Cylchlythyr Cyfle 2008

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Gweithgareddau Cyfle yn ystod 2008

Citation preview

Page 1: Cylchlythyr Cyfle 2008

Yn y rhifyn hwnTudalen 4 �Gweithgareddau�Hyfforddi�Animeiddio�

Tudalen 5Llwyddiant�Cynlluniau�Ffilm

Tudalen 6 Ail�Benwythnos�Awduron�Sgript�

Derbyniodd unigolion a chynlluniau hyfforddi y cyfeirir atynt yn y rhifyn hwn gymorth ariannol gan y canlynol. Mae Cyfle’n cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth ei arianwyr a’i noddwyr:

Cwmni Hyfforddi’r Diwydiannau Teledu, Ffilm, Animeiddio a’r Cyfryngau Rhyngweithiol yng Nghymru

80% o ostyngiad i weithwyr llawrydd yng Nghymru i fynychu cyrsiau byrion Cyfle neu i ariannu hyfforddiant o fewn y DU. 50% o ostyngiad i staff.

Yn amodol ar ganllawiau Cronfa Sgiliau Cymru

yn FRAS

Statws Pwysig yn ParhauUnwaith yn rhagor, mae Cyfle wedi cael ei gymeradwyo gyda statws Buddsoddwr Mewn Pobl (BMP) am ei arfer da parhaus o fewn y sefydliad.

Gwobrwywyd Cyfle am y tro cyntaf ym 1995, ac yn ôl adroddiad BMP mis Mehefin, dyfarnwyd y statws i Cyfle unwaith eto am ‘lwyddo trwy ei bobl.’ Mae Prif Weithredwr y cwmni, Iona Williams yn hapus iawn i dderbyn y wobr. ‘Cyflwynwyd y statws mawreddog Buddsoddwr Mewn Pobl i ni am y pumed tro am ddangos ein ymrwymiad wrth ‘fuddsoddi yn ein staff,’” meddai.

“Mae nifer helaeth o bersonél Cyfle wedi bod gyda’r cwmni ers sawl blwyddyn, ac yn ystod y cyfnod hwn, maent wedi gweld cryn newidiadau o fewn y diwydiant maent yn ei wasanaethu. Anogwyd staff i fod yn ymwybodol o’r newidiadau a’r tueddiadau hyn drwy ymrwymiad Cyfle i Ddysgu Gydol Oes a buddsoddiant mewn hyfforddiant,” esbonia.

Ac yn wir, mae ffocws Cyfle ar Ddysgu Gydol Oes yn treulio llawer pellach na’r sefydliad ei hun. Adlewyrchir hyn yn ei bortffolio

eang o gynlluniau pwrpasol a arweinir gan y diwydiant yn arbennig ar gyfer datblygu trawstoriad o dalent o fewn y diwydiant. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol i gyfarwyddwyr gweithredol cwmnïau cynhyrchu.

“Mae Dysgu Gydol Oes yn rhan bwysig o’r hyn mae Cyfle yn ei gyfrannu tuag at y diwydiant trwy gynnig hyfforddiant pwrpasol i gyn ddyfodiaid, newydd ddyfodiaid, a datblygiad proffesiynol parhaus i’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant eisoes,” eglura Iona.

Am ragor o wybodaeth am Cyfle a’i weithgareddau hyfforddi, ewch i www.cyfle.co.uk.

Yn 2007, cwblhaodd 58 o newydd ddyfodiaid un o wyth o gynlluniau Teledu, Ffilm, Animeiddio neu Gyfryngau Rhyngweithiol Cyfle. Cysylltwch â Nadine Roberts am ragor o fanylion os yn chwilio i gyflogi: [email protected]

gAeAF 2008

CYRSIAU BYRION CYFLe AR gYFeR IONAwR – MAwRTh 2009 (gweler tudalen 6)

CYFLe’N DAThLU 21 MLYNeDD O hYFFORDDIANTDaeth hyd at 200 o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant a chyn hyfforddeion ynghyd i ddathlu 21 mlynedd o hyfforddiant Cyfle yn y diwydiant yng ngwesty’r Parc Thistle, Caerdydd ar 24 hydref. Cafwyd wal fideo o gyn hyfforddeion, cyflwyniad o dystysgrifau Cyfle a cherddoriaeth gan DJ’s huw Stephens a Richard Rees. Roedd siaradwyr gwadd yn cynnwys Prif weithredwr S4C, Iona Jones; gary Townsend, Cyfarwyddwr gweithredol Skillset; huw Jones, Cadeirydd Cyfle ac Iona williams, Prif weithredwr Cyfle (gweler tudalen 3).

Page 2: Cylchlythyr Cyfle 2008

Rich wyn huwshyfforddai Camera Cyfle, 1986 - 1988

Yn rhifyn o Sbec ym 1985, cylchgrawn atodol S4C yn y TV Times rhanbarthol, cyflwynir Richard Wyn Huws fel “yr hogyn ysgol a fu’n holi am gwrs (fel Cyfle) ar Rhaglen Hywel Gwynfryn cyn dechrau’r sianel newydd Gymraeg, S4C”. Yn wir, doedd dim gwadu brwdfrydedd ac angerdd yr hyfforddai camera ifanc o Dalysarn, oedd a’i obeithion o weithio ar ffilmiau Cymreig. “O ardal y chwareli dwi’n dwad,” meddai wrth egluro’i un uchelgais mawr yn ôl yn yr wythdegau “ac mi liciwn i ‘neud Un Nos Ola’ Leuad ar ffilm.”

Un mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae Rich Wyn yn ddyn camera hunangynhaliol, gyda’i offer a’i gwmni ei hun (cameracymru.co.uk). Yn 2007, fe’i enwebwyd am wobr Bafta-Cymru fel Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth Gorau ar ail gyfres y ddrama gyfoes, Caerdydd. Ac er iddo golli’r cwch gydag Un Nos Ola’ Leuad, mae wedi llwyddo i weithio ar rai o ffilmiau mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys gwaith Focus Puller ar Hedd Wyn, a enwebwyd am Wobr Oscar, a Chynorthwyydd Person Camera ar ffilm Karl Francis: Angry Earth. Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o weithio fel person camera ar gyfresi dramâu poblogaidd y sianel

fel C’mon Midff îld, Pengelli, Iechyd Da, Porc Peis Bach, Talcen Caled, Amdani, Dirgelwch yr Ogof, Traed Mewn Cyffion, Jabas, Dihirod Dyfed, Mela a ‘Stafell Ddirgel. Yn ddiweddar, Rich Wyn fu’n gyfrifol am y gwaith camera trawiadol ar gyfresi’r ddrama gyfoes Caerdydd (Cyfres 2, 3, 4, 5) yn ogystal â’r ffilm nodwedd Cwcw - enillodd wobr Ffilm Nodwedd Ryngwladol Orau yng Ngwyl Ffilm Ryngwladol De Affrica. Bydd addasiad o’r nofel Martha, Jac a Sianco i ffilm, gan gwmni cynhyrchu Apollo, hefyd yn arddangos doniau camera crefftus Rich Wyn.

A hyd yn oed gydag amser, does dim diwedd ar uchelgais hyfforddai camera cyntaf Cyfle:

“Mae yna lawer o dalent yng Nghymru. Mae gan y technegwyr, y tîm cynhyrchu a’r ysgrifenwyr oriau maith o ffilmio tu cefn iddyn nhw erbyn hyn. Rydan ni’n haeddu ac angen cael ffilm nodwedd lwyddiannus a gobeithio cael ein gwobrwyo gyda’r wobr am y Ffilm Dramor Orau yn yr Oscars (i ddilyn llwybr Hedd Wyn),” eglura Rich Wyn.

“Ugain mlynedd yn ôl, roedd cael criw technegol Cymreig yn amhosibl, ond erbyn hyn, trwy Cyfle, S4C a TAC, mae’r breuddwyd bellach yn fwy na realiti efo’r holl dalent sydd wedi cael ei feithrin yma yng Nghymru. Ac i mi, be fasa’n hufen ar gacen penblwydd Cyfle fasa gwireddu’r freuddwyd

yma’n fuan iawn iawn er mwyn lles y diwydiant ffilm yng Nghymru... ac er mwyn ein gosod ar fap y byd.”

hyfforddai Camera cyntaf Cyfle yn parhau i ragori:

gwOBR FFReSh AM gÊM RYNgweIThIOL D10Llongyfarchiadau i bump o hyfforddeion Dimensiwn 10 2007 Cyfle am ennill gwobr y Cyfryngau Rhyngweithiol am eu prosiect ‘Orball’ yn Ffresh 2008, sef gwyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru yn Aberystwyth ym mis Chwefror.

Cwblhawyd y gêm ryngweithiol fel rhan o friff i gwmni rhyngwladol Mygo Solutions o Kuala Lumpur yn ystod y chwe mis. Fe enwebwyd prosiect Dimensiwn 10 ‘The House’ hefyd yn yr un categori. Yn wir, llongyfarchiadau calonogol i bob un o’r 10 hyfforddai am dderbyn cydnabyddiaeth bellach am eu gwaith ynghyd â chymhwyster Diploma

Ôl Radd (Prifysgol Cymru Llanbed) yn y Cyfryngau Rhyngweithiol. Ac wedi’i selio ar fodel dysgu Dimensiwn 10, bydd Cyfle yn recriwtio ar gyfer y cynllun Datblygiad Aml-lwyfan ar gyfer Teledu yn Ionawr / Chwefror 2009.

CYFLe 21: CANMOLIAeTh AM ‘ROI hwB I LeFeLAU SgILIAU YN Y SeCTOR’Nodwyd 21 mlynedd o hyfforddiant Cyfle gyda digwyddiad arwyddocaol yng ngwesty’r Parc Thistle yng Nghaerdydd. Daeth hyd at 200 o gyn hyfforddeion a phartneriaid o’r diwydiant ynghyd i ddathlu eu cyfraniad tuag at feithrin talent yn y diwydiant yng Nghymru dros y blynyddoed ddiwethaf.

Yn ystod y noson, roedd y siaradwyr gwadd llawn canmoliaeth i Cyfle am gyrraedd y garreg filltir holl bwysig hon ac yn edrych ymlaen at ddatblygu eu perthnasau ymhellach yn y dyfodol:

“Mae rôl Cyfle, fel darparwr hyfforddiant dwyieithog, yn ganolog i ddatblygiad gweithlu effeithiol ar gyfer S4C a’r diwydiant yn gyffredinol yng Nghymru. Mae Cyfle wedi llwyddo i roi hwb i lefelau’r sgiliau yn y sector, drwy gynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus i unigolion. Rwyf yn sicr y bydd y gallu i ddarparu hyfforddiant arloesol ac atebion teilwredig yn parhau i fod yn ddilysnod Cyfle o dan arweiniad Huw ac Iona - ac fe fydd yn sicrhau y byddwn oll wedi ein paratoi’n well i wynebu sialensiau’r dyfodol.”Iona Jones, Prif Weithredwr S4C

“Mae wedi bod yn bleser cael gweithio mor agos gyda Cyfle dros nifer o flynyddoedd gan eu bod yn gyfystyr â hyfforddiant o ansawdd yn niwydiant y cyfryngau creadigol yng Nghymru. Dros y blynyddoedd rydym wedi adeiladu partneriaeth wych yn nhermau cefnogi eu cyrsiau ffantastig. Y peth da am gynlluniau hyfforddi Cyfle ydy’r agwedd nad yw un datrysiad yn cyd fynd i bawb - mae wedi creu atebion creadigol i sialensiau hyfforddiant

unigol, er enghraifft, defnyddio technegau dysgu gwahanol drwy fentora, hyfforddiant oddi ar y swydd ac ar leoliad, yn ôl y galw. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda Cyfle dros yr 21 mlynedd nesaf, ac eisoes mae yna brosiectau newydd arloesol a chynhyrfus ar y gorwel.”Gary Townsend, Cyfarwyddwr Gweithredol Skillset

At sylw gyn hyfforddeion CyfleYn dilyn llwyddiant digwyddiad Cyfle 21 mae Cyfle’n bwriadu creu rhwydwaith gymdeithasol ar-lein fel modd o gadw mewn cysylltiad â phawb. Mae Cyfle hefyd yn gobeithio cynnal cyfarfodydd rhwydweithio yn y dyfodol yn y Gogledd a’r De. “Roedd hi’n hyfryd gweld cymaint o gyn hyfforddeion ac i ddal fyny gyda be’ mae pawb yn ei wneud,” medda Iona Williams, Prif Weithredwr Cyfle. “Rydym yn bendant yn gobeithio dod a’n rhwydwaith o gyn hyfforddeion ynghyd eto yn y dyfodol.”

Yn wir, ceisiodd staff Cyfle gysylltu â hyd at 500 o gyn hyfforddeion o gronfeydd data oedd yn mynd mor bell nol a 1986…ymhell cyn cyfnod y ffôn symudol a negeseuon e-bost! Mae Cyfle’n annog unrhyw gyn hyfforddai na lwyddom i gysylltu â nhw i ebostio [email protected] er mwyn diweddaru’u manylion.

CYNLLUN LLeOLIADAU CwMNI CYFLe 2008 - 2009Ym mis Medi, cwblhaodd wyth o newydd ddyfodiaid i’r diwydiant cwrs rhagarweiniol ail gynllun Lleoliadau Cwmni Cyfle. Mae’r hyfforddeion bellach wedi symud ymlaen i weithio dan hyfforddiant yn y meysydd canlynol (clocwedd o’r chwith):

Iestyn Hampson-Jones - Ymchwilydd�dan�Hyfforddiant�gyda�PresentableSteven King - Ymchwilydd�dan�Hyfforddiant�gyda�TelesgopDafydd Evans - Cynorthwyydd�Golygu�a�Gweithredwr�Ôl-gynhyrchu�gyda�BoomerangRhian Nash - Ymchwilydd�dan�Hyfforddiant�gyda GreenbayNia Young - Ymchwilydd�dan�Hyfforddiant�gyda�Rondo�MediaLowri Jones - Cydlynydd�Cynhyrchu�dan�Hyfforddiant�gyda�Indus�FilmsLowri Evans - Ymchwilydd�dan�Hyfforddiant�gyda�Cwmni�Da�Carol Hughes - Gweinyddwraig�Cynhyrchu�dan�Hyfforddiant,�hefyd gyda�Cwmni�Da

Hefyd, yn absennol o’r llun, mae Tudur Evans - Ymchwilydd�dan�Hyfforddiant gyda�Rondo�Media�-�fu’n cychwyn ym mis Ionawr 2009.

1987: Yr Hyfforddai

2008: Y Dyn Camera Proffesiynol

Y siaradwyr gwadd yn ystod dathliadau Cyfle 21 (clocwedd o’r chwith): Huw Jones, Cadeirydd Cyfle; Iona Williams, Prif Weithredwr Cyfle; Gary Townsend, Cyfarwyddwr Gweithredol Skillset; ac Iona Jones, Prif Weithredwr S4C.

Criw buddugol Dimensiwn 10 Rob Lloyd a Tom Garne (yn absennol o’r llun: Gareth Gwyther, Carol Wilkins a Nic Finch)

Ariennir Cynllun Lleoliadau Cwmni Cyfle gan: Ariennir y Cynllun Dimensiwn 10 uchod gan:

Cwblhaodd yr hyfforddeion newydd y cwrs rhagarweiniol o dan ofal y cynhyrchydd profiadol Sue Jeffries a Nadine Roberts, Cyfle (rhes gefn, ochr dde)

2 www.cyfle.co.uk 3www.cyfle.co.uk

NewYDDIONTeLeDU

Page 3: Cylchlythyr Cyfle 2008

gweIThDY CYFLe A’R NSPCC

Ail Lab Animeiddio Digidol Fe raddiodd chwe hyfforddai o’r cynllun llawn amser ‘Lab Animeiddio Digidol’ ym mis Mehefin eleni, gan gyflawni safon uchel o lwyddiant animeiddio. Egwyddor y cynllun oedd cyfuno talentau chwe animeiddiwr newydd raddedig a phobl broffesiynol mewn stiwdio hyfforddi. Byddai’r amgylchedd gwaith yma wedyn yn eu hysgogi’n greadigol i gydweithio ar gynhyrchiad ffilm pum munud arloesol a fyddai’n marchnata’n fasnachol, ac i arddangos eu sgiliau caffaeledig newydd ar gyfer y sector animeiddio Gymraeg.

Roedd mentora gan aelodau o’r diwydiant yn anhepgor i lwyddiant y cynllun, gydag animeiddwyr proffesiynol lleol yn darparu hyfforddiant mewn mannau allweddol y ddwy ochr o animeiddio, sef y grefft a’r sgiliau technoleg. Gyda graddfa amser o ddeuddeg wythnos, roedd pob hyfforddai yn chwarae rhan ganolog yn trosglwyddo amrywiol elfennau o lif gwaith yr animeiddio, fel ysgrifennu’r stori wreiddiol a chysyniad o gymeriadau drwodd i’r cynhyrchiad terfynol. Bydd y cartwn dwyieithog i blant, sef ‘Lloer Leidr’ yn cael ei gyflwyno i wyliau ffilmiau byrion.

“Mae cyrsiau Cyfle wedi bod yn amhrisiadwy i’r diwydiant animeiddio yng Nghymru drwy roi hyfforddiant ychwanegol a phrofiad ymarferol i raddedigion. Rydym bellach wedi cyflogi un o hyfforddeion Cyfle gyda Dinamo ac rydym yn bwriadu cyflogi mwy yn y dyfodol,” eglura Owen Stickler, Cyfarwyddwr Dinamo.

Mae’r cynllun Lab wedi cael ei ddatblygu fel estyniad i gynllun Stiwdio Hyfforddi Animeiddio Digidol Cyfle yng Nghaerdydd. Cynlluniwyd y cynllun deuddeg mis i baratoi hyfforddiant galwedigaethol a oedd yn darparu hyfforddiant o safon uchel o animeiddio gyda chydweithrediad y diwydiant, gan gwmnïau animeiddio a gomisiynwyd gan S4C, sef Calon, Dinamo a Griffilms.

Mae’r hyfforddeion diweddaraf ar gyfer ‘Lab 2’ (ariennir gan S4C a WAG) newydd gychwyn eu hyfforddiant ym mis Tachwedd eleni. Datblygiad cyffroes yn y cynllun ydy cynnwys briff cleient ‘byd real’ gan Awtistiaeth Cymru, sydd wedi gofyn i’r hyfforddeion gynhyrchu ffilm fer fydd yn cynorthwyo eu helusen i hyrwyddo ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yng Nghymru.

gweIThDAI CYFLe YN DeNU ANIMeIDDwYR FYD eNwOgFe gynhaliwyd dau ddigwyddiad dosbarth meistr animeiddio llwyddiannus Cyfle yn yr ATRIuM yng Nghaerdydd yn ystod mis Mai a Mehefin 2008.

Fe wahoddwyd Nickson Fong, animeiddiwr o Singapore, fel prif siaradwr y digwyddiad cyntaf. Wedi’i enwebu i dderbyn Gwobr Academi, Nickson oedd hefyd yn un o’r athrylithoedd technegol y tu ôl i fasnachfraint The Matrix, ac fe lwyddodd yn ystod ei sesiwn i gyfareddu’r diwydiant a’r myfyrwyr: “Roedd Nickson Fong yn ysbrydoledig,” medda Robin Lyons, Cyfarwyddwr Reolwr i gwmni animeiddio Calon yng Nghaerdydd. “Mae ei stori’n adlewyrchu’r manteision o anelu’n uchel a gweithio i gyflawni rhywbeth eithriadol,” eglura.

Un o uchafbwyntiau’r ail ddigwyddiad oedd dosbarth feistr mewn sgiliau arsylwi cymeriadau gan yr enwog Richard Williams, enillodd Oscar am ei waith ar Who Framed Roger Rabbit. Yn ogystal â hyn, cafwyd trosolwg egniol o waith cymeradwyol Joanna Quinn, Beryl Productions, gan gynnwys Wife of Bath a thrafodaeth agored gan grëwr/ysgrifenwr/cyfarwyddwr GEEKBOY – JAKe. Mae JAKe yn animeiddiwr a dylunydd llawrydd o Lundain ac roedd yn trafod ei brofiad o gyfarwyddo ei ffilm animeiddio fer. Cafwyd hefyd drafodaeth ddiddorol gan artist stori fwrdd Marvel Comics a Ffilmiau Nodwedd Hollywood Mike Ploog, mewn ‘Sgwrs gyda…’ Mike Collins o gwmni animeiddio Calon.

hYFFORDDeION Y STIwDIO YN LLwYDDO

Ar ôl graddio o Stiwdio Hyfforddi Animeiddio Digidol deuddeg mis Cyfle ym Mehefin eleni, mae nifer o hyfforddeion wedi sicrhau swyddi llawn amser yn y diwydiant animeiddio. Mae cyn hyfforddai Mike Day wedi ei gyflogi gan gwmni Bait yng Nghaerdydd fel Cynllunydd Graffeg Symudol. “Roedden ni’n hapus iawn efo’r ffordd yr oedd wedi cyfuno’r sgiliau cynllunio graffeg, a ddatblygodd yn ei swyddi blaenorol, gyda’r sgiliau animeiddio a gafodd ar y cwrs er mwyn datblygu technegau amlochrog,” eglura Owain Elidir, Cyfarwyddwr Bait. Mae Jenny Clements nawr yn gweithio’n llawn amser gyda Dinamo yng Nghaerdydd fel Animeiddiwr 2D ac mae Kei Phillips yn gweithio fel Animeiddiwr 2D Flash i Player Three, cwmni gemau yn Llundain.

CYNLLUN FFILM LLAwN AMSeRYm mis Medi 2007, cwblhaodd pedwar o hyfforddeion addawol Cyfle ‘Gynllun Hyfforddi Diwydiant Ffilm Cymru ar gyfer Newydd Ddyfodiaid’ wedi’i ariannu gan Film Skills Fund Skillset. Ac yn sgil ei lwyddiant, mae dilyniant i’r cynllun arloesol, deuddeg mis hwn ym mis Rhagfyr. Bydd y cynllun hwn hefyd yn lleoli’r hyfforddeion ar amryw o gynyrchiadau cyffrous.

Mae Matt Redd, Cydlynydd Cynhyrchiad dan Hyfforddiant Cyfle, eisoes wedi sicrhau gwaith fydd yn ei alluogi i ddatblygu fel cynhyrchydd gyda Boom Films. A llwyddodd Elen Williams, Hyfforddai’r Adran Gelf a Glyn Hamer, Gweithredwr Bwm dan Hyfforddiant, hefyd i ddiogelu cytundebau, ar gynhyrchiad Skellig, tra mae Hyfforddai 3ydd i’r Cyfarwyddwr, Ryan Hooper, yn gweithio’n llawrydd ar hyn o bryd.

Mae llwyddiant y cynllun yn nodedig am ei fod yn darparu hyfforddiant ar leoliad sydd wedi’i

ganolbwyntio ar ddiwydiant ynghyd â chyrsiau byrion arbenigol a mentora gan ymarferwyr o’r diwydiant a rhaglen cloi. Yn ogystal â hyn, cynllun ffilm 2006 - 2007 oedd cynllun cyntaf Cyfle i gyflwyno’r Dystysgrif Ragarweiniol City & Guilds ar gyfer y Diwydiannau Clyweled sydd wedi’i gymeradwyo gan Skillset.

Yn seiliedig ar y cynllun cyntaf, mae cynllun ffilm ddiweddaraf Cyfle yn cynnig hyfforddiant cyffrous ar gyfer wyth o unigolion brwdfrydig yn y meysydd canlynol: Hyfforddai Cynhyrchu, Hyfforddai Archifo, Golygydd Sgript dan Hyfforddiant, Cynorthwyydd Golygu dan Hyfforddiant, Cynorthwyydd Gwisgoedd dan Hyfforddiant a Chynorthwyydd Colur a Gwallt dan Hyfforddiant. Os oes diddordeb gennych mewn bod yn fentor diwydiannol ar y cynllun, neu os hoffech gynnig lleoliad ar gynhyrchiad ffilm i hyfforddai, cysylltwch â Nadine Roberts ar 029 2046 55 33 neu [email protected].

BACHGEN I GARETH! Llongyfarchiadau mawr i Reolwr Animeiddio a Chyfryngau Newydd Cyfle, Gareth Ioan Davies, ar enedigaeth ei fab Macsen Cybi Davies ar 6ed o Fawrth 2008. Dymuniadau gorau i’r teulu newydd!

Cynllun hyfforddi Boom Films

Cynllun unigryw, 10 mis o hyd yw cynllun hyfforddi Boom Films ar gyfer pedwar o gynhyrchwyr y dyfodol, mewn cydweithrediad â braich ffilm Grwp Boomerang. Ac yn wir, mae’r hyfforddeion wedi cael profiadau arbennig iawn. Maent oll wedi dechrau datblygu eu prosiectau eu hunain, wedi mynychu dosbarthiadau meistr ar feysydd arbenigol yn ogystal â chymryd rhan mewn rhaglen dysgu ac addysgu. Maent hefyd wedi cyflwyno syniadau i arianwyr a chymryd rhan mewn amryw o weithgareddau cynhyrchu er mwyn rhoi sail gadarn iddynt mewn materion ymarferol o greu ffilm.

“Mae’r pedwar hyfforddai Boom Films wedi gweithio’n ddiwyd ar ddatblygu eu prosiectau eu hunain. Un o’r prif amcanion oedd annog hyder ac uchelgais o fewn yr hyfforddeion ond yn bwysicach oll annog synnwyr entrepreneuriaeth. Dyma, yn y bôn, yw’r allwedd i gynhyrchu,” eglura Antony Smith, Uwch Gynhyrchydd, Boom Films.

“Roedd y Prosiect Dysgu ac Addysgu yn un modd o ddysgu a gwasgaru gwybodaeth. Yn y rhaglen yma rydym wedi annog yr hyfforddeion i ymchwilio i ardal benodol o’r diwydiant ffilm, gan amlaf yn yr ardal maent wanaf ynddi. Mae hyn fel rheol yn cymryd rhyw bythefnos, yna maent yn cyflwyno’r hyn maent wedi’i ddarganfod i weddill y grwp. Rydym wedi galw hyn yn ddysgu cymar i gymar. Mae’n sicrhau eu bod nhw’n ymchwilio’u gwaith yn drwyadl ac mae hefyd yn rhoi elfen o awdurdod iddyn nhw yn y maes penodol hwnnw, ac yn sgil hyn yr hyder i siarad amdano,” eglura Antony.

Daeth y cynllun arloesol hwn i ben ym mis Tachwedd ac mae Cyfle yn dymuno blwyddyn newydd llewyrchus i Iwan Benneyworth, Ceri Elen Morris, Vivien Muller-Rommel a Quirine Robbins! Cysylltwch â [email protected] os am gopi o’u CV.

Ariennir Cynllun Hyfforddi Boom Films gan Boomerang a’r Skillset Film Skills Fund.

Nod y cyrsiau Amddiffyn Plant, sy’n cael eu trefnu gan Cyfle mewn partneriaeth â’r NSPCC, yw hyfforddi, datblygu a galluogi unigolion dynodedig ar gyfer amddiffyn plant i gyflawni eu rôl o fewn y cwmni.

Mae’r cyrsiau hyfforddi proffesiynol yn galluogi’r cyfranogwyr i ymateb mewn modd addas i bryderon ynglyn â diogelwch a lles plentyn neu berson ifanc, ac i gyfrannu tuag at amgylchedd ffilmio amddiffynnol. Bydd mynychwyr y cwrs hefyd yn derbyn tystysgrif cymhwysedd yr NSPCC ar gwblhau’r hyfforddiant.

“Mae’r NSPCC yn falch iawn o fod yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Cyfle yn 2009. Bydd y cyrsiau hyn yn galluogi cwmnïau ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i ddiogelu plant a phobl ifanc maent mewn cysylltiad â hwy mewn modd effeithiol,” eglura Tom Narducci o’r NSPCC.

Mae’r bartneriaeth gyda’r NSPCC yn pwysleisio ymhellach ymrwymiad Cyfle tuag at annog ymarfer da o fewn y diwydiant.

Mae’r Gweithdy Amddiffyn Plant nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 10 Chwefror 2009 yng Nghaerdydd. Cysylltwch â [email protected] i deilwra cwrs ar gyfer anghenion eich cwmni chi.

Cyfle RhyngwladolMae perthynas Cyfle gyda FINAS, Corfforaeth Datblygu Ffilm Genedlaethol Malaysia, yn parhau i ffynnu o dan ei changen fasnachol newydd, Cyfle Rhyngwladol. Bellach mae tri o ddosbarthiadau meistr wythnos o hyd wedi cael eu cynnal yn stiwdios FINAS yn Kuala Lumpur ar gyfer hyd at 60 o ymarferwyr o’r diwydiant. Mae’r rhain yn cynnwys dau Ddosbarth Meistr Datblygu Sgript ar gyfer Ffilm Nodwedd gan Barbara Slade; a Dosbarth Meistr mewn Actio ar gyfer Ffilm gan y cyfarwyddwr a’r actor hynod lwyddiannus Rufus Norris. Bydd rhagor o gyrsiau’n cael eu trefnu ar gyfer FINAS yn 2009, gan gynnwys Sinematograffi, Dylunio Cynhyrchiad a Chyfarwyddo. Am ragor o wybodaeth ynglyn â Cyfle Rhyngwladol, cysylltwch â [email protected]. Mae’r cynlluniau hyfforddi hyn yn dod o dan brosiectau Cyfle Rhyngwladol ac yn hunangynhaliol.

Animeiddwyr Lab 1 (clocwedd o’r cefn): James White, Ben Morgan, Matthew Partridge, Sarah Davies, Phillip Page ac Allyn Thomas

Lleoliad gwaith rhyngwladol gyda Stiwdios Imagimax, Bangkok

Nickson Fong, Egg Story Productions, yn siarad yng Nghaerdydd

Hyfforddeion Boom Films Cyfle yng Ngwyl Ffilm Cannes, ynghyd â chyn hyfforddai Cyfle a Chydlynydd Ffilm Boom Films, Germaine Campbell ac Antony Smith

Mynychwyr cwrs Cyfle Rhyngwladol yn Kuala Lumpur

Ariennir Cynlluniau Animeiddio Cyfle, o’n i nodir yn wahanol, gan: Ariennir Cynlluniau Ffilm Cyfle, o’n ni nodir yn wahanol, gan:

4 5www.cyfle.co.uk

ANIMeIDDIO FFILM

Page 4: Cylchlythyr Cyfle 2008

CaernarfonCyfle Cyf., Gronant, Penrallt Isaf, Caernarfon, Gwynedd, UK LL55 1NSffôn +44 (0)1286 671 000ffacs +44 (0)1286 678 831

CaerdyddCyfle Cyf., 33 – 35 West Bute StreetCaerdydd, UK CF10 5LHffôn +44 (0)29 2046 55 33ffacs +44 (0)29 2046 33 44

www.cyfle.co.uk

Des

igne

d at

Des

ign

Stag

e w

ww

.des

igns

tage

.co.

uk

Oes gennych chi stori ddiddorol ar gyfer y cylchlythyr? e-bostiwch [email protected]

Cynhyrchydd / Cyfarwyddwr o hollywood yn ymuno â’r Ail Benwythnos!

Cefnogaeth ariannol ar gyfer pobl broffesiynolgolygydd Cymraeg blaengar, Mali evans, yn chwilio am gefnogaeth Cronfa Sgiliau Cymru Cyfle i ddatblygu fel golygydd Sgript.

“Rydw i wedi bod yn gweithio fel Golygydd ar gynyrchiadau Drama am nifer o flynyddoedd a theimlo roeddwn i y buaswn yn hoffi cyrraedd yr un lefel gyda golygu sgriptiau. Roeddwn o’r farn bod y sgiliau sy’n gaffaeledig fel Golygydd yn gydnaws â rhai Golygydd Sgript. Drwy gefnogaeth ariannol Cronfa Sgiliau Cymru Cyfle, roeddwn yn gallu mynychu cyrsiau ymarferol o ansawdd uchel mewn Golygu Sgript yn y BBC. Mae’r cyrsiau wedi magu hyder a rhoi’r wybodaeth gywir i mi ddilyn fy ngyrfa newydd. Ar hyn o bryd rwy’n golygu sgript ffilm ‘Gododdin’ Rhodri Smith, sy’n gyfle ffantastig i mi fel Golygydd Sgript newydd.”

Dau ddiwrnod, wyth siaradwr, un lleoliad…ac un penwythnos a hanner! Yn dilyn llwyddiant ysgubol y Penwythnos Awduron Sgript a gynhaliwyd ym mis Ebrill, anodd oedd meddwl y buasai’n bosib cyrraedd yr un safon eto y tro hyn. Ond, fe lwyddodd Cyfle, mewn cydweithrediad â S4C, wahodd nifer o enwau adnabyddus y byd Animeiddio, Ffilm a Theledu gan gynnwys neb llai na’r cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr enwog o Hollywood, David Semel!

“O’r sesiwn cyntaf gyda Barbara Slade bore Sadwrn trwodd i sgwrs Ashley Pharaoh ar p’nawn Sul ges i fy ysbrydoli i fynd ati i ysgrifennu o ddifri unwaith eto,” eglura Huw Marshall, Cynhyrchydd / Cyfarwyddwr llawrydd. “Fel cyn hyfforddai Cyfle o’r 80au

roedd yn braf cael derbyn hyfforddiant pellach ugain mlynedd yn ddiweddarach. Nes i ddysgu llawer o bethau newydd fydd yn sicr o gyfrannu tuag at fy ngwaith o ddydd i ddydd,” meddai.

Profodd y ‘Dragon’s Pitch’ hefyd yn boblogaidd iawn, lle cafodd oddeutu 23 allan o 80 o fynychwyr lwcus gyfle i bitsio syniadau o flaen panel o arbenigwyr cyn derbyn cyngor ac adborth amhrisiadwy.

Ariennir Penwythnos Awduron Sgript, yn ogystal â holl weithgareddau Cronfa Sgiliau Cymru a sonnir amdanynt ar y dudalen hon, gan S4C, The Skillset TV Freelance Fund, TAC a WAG. Dymuna Cyfle hefyd gydnabod cefnogaeth Skillset Cymru yn ystod y ddau Benwythnos Awduron Sgript.

CYRSIAU BYRION DIweDDARAF CYFLeGall Cronfa Sgiliau Cymru Cyfle ddarparu gweithwyr llawrydd yng Nghymru gyda hyd at 80% o ostyngiad tuag at gyrsiau byrion Cyfle a hyfforddiant arall o fewn y DU, a hyd at 50% i staff (yn amodol ar ganllawiau’r gronfa). Cysylltwch â [email protected] i weld os ydych chi’n gymwys am arian o’r gronfa ac am ragor o fanylion am y cyrsiau byrion isod:

7 - 8 Ionawr Cyllido ac Amserlennu Movie Magic

5 Chwefror Rheoli Cynhyrchiad Ffeithiol

10 Chwefror gweithdy Amddiffyn Plant yr NSPCC

16 - 17 Chwefror golygu Final Cut Pro

18 Chwefror Cyfraith Cyflogaeth

25 Chwefror Cyfrifeg Cynhyrchiad

25 - 26 Chwefror gweithdy Datblygu

27 Chwefror Pen gwag, Tudalen wag – Be’ wna i?!

9 - 10 Mawrth golygu Final Cut Pro

10 Mawrth gweithdy Amddiffyn Plant yr NSPCC

Hefyd ar y gweill: gweithdy Rheoli Twf • Pitsio gyda hyderYsgrifennu Aml-Blatfform

Mali Evans (ar y chwith) gyda Shân Gwenfron Hughes Cyfle

CYFLe 21: gwOBR FLIP VIDeO!Llongyfarchiadau i Hyfforddwr Cyfle, Neil Sinclair, am ennill Camera Flip Video am ei neges fideo ar gyfer digwyddiad Cyfle 21. Hoffa Cyfle hefyd ddiolch yn galonogol i holl noddwyr a chefnogwyr digwyddiad Cyfle 21 o’r diwydiannau creadigol a’r sector addysg yng Nghymru- ni fyddai’r digwyddiad wedi bod yn bosib heb eu cyfraniad hael. Ewch i adran Cyfle 21 ar www.cyfle.co.uk am restr gyflawn o’r noddwyr ac i weld rhai o’r negeseuon gan staff Cyfle, hyfforddwyr a chyn hyfforddeion.

Ariennir cynlluniau hyfforddi Cronfa Sgiliau Cymru Cyfle gan:

David Semel (ar y dde) gyda Nia Haf Jones, Cyfle (yn y canol) a Dewi Wyn Williams o S4C.

Huw Marshall, Cynhyrchydd / Cyfarwyddwr Llawrydd (ar y chwith) yn rhwydweithio gyda Niall Mathews.

6 www.cyfle.co.uk

DATBLYgIAD PROFFeSIYNOL PARhAUS