6
Digwyddiadau Hwyl i’r Teulu Gweithdai Arddangosfeydd Arddangosiadau Ionawr – Rhagfyr 2015 www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru M Y N E D I A D A M D D I M M Y N E D I A D A M D D I M

Digwyddiadau: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Ionawr - Rhagfyr 2015

Citation preview

Page 1: Digwyddiadau: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

1

DigwyddiadauHwyl i’r TeuluGweithdai ArddangosfeyddArddangosiadau

Ionawr – Rhagfyr 2015

ww

w.am

gu

edd

facymru

.ac.uk 0300 111 2 333

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru M

YNEDIAD AM DDI

MM

YNEDIAD AM DDIM

Page 2: Digwyddiadau: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Gwe 3, Sad 4, Llun 6 Ebrill11am–3pmRhufeiniaid Rhyfeddol!

Dewch i fwynhau penwythnos y Pasg gyda ni! Beth am gael clonc gyda’r milwr Rhufeinig yn y Barics, neu drafod dathlu’r gwanwyn gyda’r offeiriad Rhufeinig?

Sul 5 Ebrill, 2–4pm Helfa Wyau Pasg

Dilynwch gliwiau’r Pasg o gwmpas yr Amgueddfa i gasglu eich anrheg wych! £1 y pen.

Llun 4 Mai, 11am–4pmFloralia

Dewch i groesawu’r gwanwyn gyda gwyl Rufeinig Floralia – bydd bwyd, diod, gemau a brwydro!

2 Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sad 14 Chwefror, 2–4pmGweithdy Cylchau a Chalonnau Helyg

Cyflwyniad i’r grefft o greu cylchau a chalonnau helyg hardd i fynd adre gyda chi. £15 y pen.

Sul 31 Ionawr–Sad 15 Hydref 2015Angau o’r AwyrCipolwg ar ddatblygiad arfau a thaflegrau ymladd o bell, o fwa a saeth yr hen fyd i ddrylliau peiriant a magnelau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Byddwn ni hefyd yn edrych ar effaith seicolegol a chorfforol y math yma o ryfela.

Gwe 16 Hydref 2015– Iau 19 Mai 2016 Rhyfel: Er Gwaeth, Er Gwell?Beth yw diben rhyfela? A oes diben iddo o gwbl? Ac a ydyn ni’n llwyddo i ddysgu gwersi’r gorffennol? Dyma arddangosfa fach sy’n trafod canlyniadau rhyfel – y da a’r drwg – a rhai pethau fyddai ddim wedi digwydd heb ryfel.

Arddangosfeydd

Digwyddiadau

Page 3: Digwyddiadau: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

3

Cyfle i ddysgu sut roedd y Rhufeiniaid yn byw, yn ymladd ac yn marw ar gyrion pellennig yr Ymerodraeth Rufeinig.

Oriau agor Bob dydd: dydd Llun-dydd Sadwrn,10am-5pm a dydd Sul, 2pm-5pm

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk

Amgueddfa Lleng Rufeinig CymruStryd Fawr, Caerllion, Casnewydd NP18 1AE Ffôn: (029) 2057 3550 neu 0300 111 2 333 (galwadau cyfradd leol)

Manylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Cysylltwch â ni cyn teithio’n unswydd.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sad 12 Rhagfyr, 11am–4pmSaturnalia

Cyn dyddiau dathlu’r Nadolig, roedd y Rhufeiniaid yn dathlu Saturnalia, sef yr haul yn dychwelyd. Dewch draw ar gyfer hwyl yr wyl aeafol hon a gweld pa draddodiadau sydd wedi para hyd heddiw. A bydd bwyd, hwyl a brwydr!

Sad 31 Hydref, 6–8pm Calan Gaeaf

Dewch i ddathlu noson orau’r flwyddyn gyda chrefftau, gemau a chystadleuaeth gwisg ffansi. Anhrefn arswydus o dda! £3 y pen.

Sad 22–Sul 23 Awst,10am–5pmY Rhufeiniaid vs Y Celtiaid

Yng ngardd yr Amgueddfa, bydd gwersyll Celtaidd a gwersyll Rhufeinig. Bydd y naill ochr a’r llall yn dweud wrthych pam y dylen nhw ennill, ond pa dîm wnewch chi ddewis? Dewch i weld y gorau o grefftau’r Celtiaid,

gwylio’r meddyg Rhufeinig yn trin clwyfau ffug, gorymdeithio, creu tarian, creu basged a gwisgo paent brwydr fel Celt! £3 y pen, plant dan 3 am ddim.

Gwersyll ar agor 10am–5pm. Dangos doniau’r Celtiaid: 11.30am a 1pm. Dangos doniau’r Rhufeiniaid: 12pm a 1.30pm.Y Frwydr Fawr: 3pm. Pleidleisio: 12.30–2.30pm.

@RomanCaerleon romanlegionmuseum

Dim angen archebu lle Ffoniwch ymlaen llaw i archebu lle

(029) 2057 3550 Teuluoedd Oedolion Sgwrs Ymarferol

Taith Codir tâl Codir tâl bychan am rai gweithgareddau

MYNEDIAD AM D

DIM

MYN

EDIAD AM DDIM

Page 4: Digwyddiadau: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

4 Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Caption 21–22 Maw, Pwy Wnaeth y Sêr Uwchben? 16–20 Chwe, Milwyr Rhufeinig 4 Mai, Floralia

Digwyddiadau

Sad 24 Ion 12pm–3pm Gweithdy Mosaig Dewch i greu mat diod, daliwr pot neu lun gyda darnau o deils. £3 y pen.

Sad 14 Chwe 2pm–4pm Gweithdy Cylchau a Chalonnau Helyg Gweler tud. 2.

Llun 16 Chwe–Gwe 20 Chwe

11am–3pm, mynediad olaf 2.30pm

Hanner Tymor: Milwyr Rhufeinig Sut beth oedd bywyd yn y fyddin Rufeinig? Dewch i glywed y cwbl gan filwyr Rhufeinig, gorymdeithio gyda nhw ac ymarfer brwydro â chleddyf. £2 y plentyn.

Merch 18 Chwe

2pm Siarad Rhufeinig Sgyrsiau i ddysgwyr Cymraeg, beth bynnag fo’ch oed neu’ch gallu!

Sul 1 Maw 2pm–4pm Dydd Gŵyl Dewi I ddathlu nawddsant Cymru, dewch i goginio pice ar y maen a chreu draig o hen drugareddau!

Sul 15 Maw 2pm–4pm Matralia Cyfle i greu cerdyn ar gyfer Sul y Mamau. Fe ddown ni â chardiau, dewch chi â’r cariad.

Sad 21 Maw–Sul 22 Maw

Sad, 11am–3pm, Sul, 2pm–4pm

Penwythnos Cenedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg: Pwy Wnaeth y Sêr Uwchben? Dilynwch ein Llwybr Llaethog o gwmpas yr Amgueddfa a chreu gemwaith gwych gyda’ch arwydd seren. £2 y pen.

Sad 21 Maw– Sul 19 Ebr

10am–5pm Pwy Wnaeth y Sêr Uwchben? Dilynwch ein Llwybr Llaethog o gwmpas yr Amgueddfa am wobr. £1 y pen.

Page 5: Digwyddiadau: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

5

4 Mai, Floralia 25–29 Mai, Bwâu a Ffyn Tafl 25 Gorff, Creu Mosaig

Digwyddiadau

Gwe 3, Sad 4, Llun 6 Ebr

11am–3pm Rhufeiniaid Rhyfeddol! Gweler tud. 2.

Sul 5 Ebr 2pm–4pm Helfa Wyau Pasg Gweler tud. 2.

Llun 4 Mai 11am–4pm Floralia Gweler tud. 2.

Llun 25 Mai–Gwe 29 Mai

11am–3pm,mynediad olaf 2.30pm

Hanner Tymor: Bwâu a Ffyn Tafl Ochr yn ochr â’n harddangosfa, Angau o’r Awyr, dewch i greu model o gatapwlt a rhoi tro ar saethyddiaeth yn yr ardd. £2 y pen.

Merch 27 Mai 2pm Siarad Rhufeinig Sgyrsiau i ddysgwyr Cymraeg, beth bynnag fo’ch oed neu’ch gallu!

Iau 18 Mehefin

4pm Cyfrinachau’r Storfa I ddathlu Wythnos Addysg i Oedolion, dewch tu ôl i’r llenni gyda’n harchaeolegydd, Dr Mark Lewis, i ddyfnderoedd tywyll y storfa.

Sad 25 Gorff 2pm Gŵyl Archaeoleg: Mosaig Ymunwch â Dr Mark Lewis am gip manylach ar fosaig, trin a thrafod mosaig gwreiddiol a chreu eich mosaig eich hun. £5 y pen.

Sad 25 Gorff 10am–12pm a 2pm–4pm

Creu Mosaig Dewch i greu eich mosaig eich hun. £3 y pen.

@RomanCaerleon romanlegionmuseum

18 Mehefin, Cyfrinachau’r Storfa

Page 6: Digwyddiadau: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

6 Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Caption 31 Hydref, Calan Gaeaf1–20 Awst, Y Rhufeiniaid Cyffredin 12 Rhag, Saturnalia

Digwyddiadau

Sad 18 Gorff–Gwe 31 Gorff

11am–4pm Anturiaethau Idaho Evans! Dewch am antur gydag Idaho Evans, ein harchaeolegydd, wrth iddo geisio datrys Dirgelwch yr Adfeilion Rhufeinig. £1 y plentyn.

Sad 1 Awst–Iau 20 Awst

Llun–Sad 10am–5pm, Sul 2-5pm

Llwybr y Llengfilwyr Dewch i ddilyn ein llwybr o gwmpas yr Amgueddfa a’r ardd – bydd gwobr! £1 y pen.

Sad 1 Awst–Iau 20 Awst

12pm–4pm Y Rhufeiniaid Cyffredin Dewch i flasu danteithion ein cogydd Rhufeinig, clywed hanesion maes y gad gan ein milwr a thrafod ffisig ffiaidd yr Ymerodraeth gyda’r meddyg.

Sad 22 Awst–Sul 23 Awst

10am–5pm Y Rhufeiniaid vs Y Celtiaid Gweler tud. 3.

Merch 23 Medi

7pm–9pm Darlith Flynyddol Darlith arbennig gan arbenigwr ar y Rhufeiniaid i ddathlu pen-blwydd yr Ail Leng Augustaidd, a ymgartrefodd yng Nghaerllion yn OC 75. £5 y pen, rhaid archebu ymlaen llaw.

Llun 26 Hydref–Gwe 30 Hydref

11am–3pm,mynediad olaf 2.30pm

Hanner Tymor: Ofergoel Anhygoel

Merch 28 Hydref

2pm Siarad Rhufeinig Sgyrsiau i ddysgwyr Cymraeg, beth bynnag fo’ch oed neu’ch gallu!

Sad 31 Hydref

6pm–8pm Calan Gaeaf Gweler tud. 3.

Sad 12 Rhag 11am–4pm Saturnalia Gweler tud. 3.

Dewch i fyd tywyll hud ac ofergoeledd Rhufeinig, yn barod ar gyfer Calan Gaeaf! £2 y plentyn.