10
Digwyddiadau Arddangosiadau Teithiau a Sgyrsiau Hwyl i’r Teulu Ebrill – Medi 2015 Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 Digwyddiadau M Y N E D I A D A M D D I M M Y N E D I A D A M D D I M

Digwyddiadau: Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Digwyddiadau: Ebrill 2015 - Medi 2015

Citation preview

Page 1: Digwyddiadau: Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru

1

DigwyddiadauArddangosiadauTeithiau a SgyrsiauHwyl i’r Teulu

Ebrill – Medi 2015

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

ww

w.am

gu

edd

facymru

.ac.uk 0300 111 2 333

DigwyddiadauM

YNEDIAD AM DDI

MM

YNEDIAD AM DDIM

Page 2: Digwyddiadau: Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru

2 Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Pob dydd Iau, 2 Ebrill–24 Medi, 2–3pmCyfarfod â’r Garddwr

Dewch i gwrdd ag un o’n garddwyr i ddysgu mwy am y gerddi. Gweler ein gwefan am y lleoliad bob wythnos.

Sul 19 Ebrill, 11am–4pm Ffair Briodas Eternity with Love

Mae gan Sain Ffagan drwydded i gynnal seremonïau sifil a brecwastau priodas - dewch i gynllunio’ch diwrnod mawr gyda thaith o amgylch y lleoliad unigryw hwn.

Mer 27 Mai, 10am–5pm Gŵyl Grefftau Treftadaeth Sain Ffagan

Digwyddiad newydd cyffrous yn arddangos technoleg hynafol a chrefftau traddodiadol.

Pob dydd Sul 10am–4pm Dewch draw i gyfarfod cynhyrchwyr Cymreig yn ein Marchnad Ffermwyr bob dydd Sul.

Gwe 3–Llun 6 Ebrill,11am–2pmHelfa Basg Sain Ffagan

Dilynwch y cliwiau o gwmpas y safle i ddod o hyd i wobr wych! £2 y plentyn. Addas i blant 4-11 oed.

Mai

Marchnad Ffermwyr

11am–1pm a 2–4pmTrwy Dwll Bach y Clo

Dewch i weld un o’n hadeiladau hanesyddol yn dod yn fyw mewn arddangosiad hanes byw.

Maw 7–Gwe 10 Ebrill, Mer 29–Gwe 31 Gorffennaf, Iau 6–Gwe 7 Awst, Mer 19– Gwe 21 Awst,Mer 26–Gwe 28 Awst, Sad 19–Sul 20 Medi

11am, 1pm a 3pmFfefrynnau’r Staff

Beth yw hoff adeiladau ein staff, a pham? Ymunwch ag un o’r criw ar daith o’u hoff adeiladau yn yr Amgueddfa.Sad 11 Ebrill, Sad 9 Mai, Sad 13 Mehefin, Sad 11 Gorffennaf,Sad 8 Awst, Sad 12 Medi

Page 3: Digwyddiadau: Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru

Sad 6–Sul 7 Mehefin, 10am–4pm Noswyl y Frwydr

Wrth i’r tensiwn gynyddu ar Noswyl Ail-greu Brwydr Sain Ffagan, bydd y milwyr yn cyrraedd i wersylla a bydd cyfle i siarad â’r pentrefwyr a’r crefftwyr i glywed eu barn.

Sad 20 Mehefin, 10.30am–4.30pm Ail-greu Llys Llywelyn Fawr

Cyfle i fwynhau darlithoedd a gweld y gwaith adeiladu wrth i ni ail-greu llys Llywelyn Fawr, yn seiliedig ar waith cloddio yn Llys Rhosyr, Ynys Môn.

Tocynnau: Oedolion £10, gostyngiadau £5, o dan 18 am ddim. Ffoniwch (029) 2023 0310 neu ewch i www.ticketlineuk.com.

Llys Rhosyr

Mehefin

Ffoniwch i archebu lle

Teuluoedd Oedolion Sgwrs

Ymarferol Cerddoriaeth

Arddangosiad Taith

Codir tâl Siopa

@StFagans_Museum

sainffagan.stfagans 3

Sad 5–Sul 6 Medi 10am–5pm Gŵyl Fwyd Sain Ffagan

Dros 80 o stondinau yn arddangos y bwydydd a’r diodydd Cymreig gorau... bydd digon i dynnu dwr o’r dannedd yn y digwyddiad hynod boblogaidd hwn.

Medi

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Teithiwch yn ôl drwy’r oesau yn un o amgueddfeydd awyr agored gorau’r byd. Mae Sain Ffagan wedi symud ac ailgodi dros 40 adeilad hanesyddol i ddangos sut fyddai pobl Cymru yn byw, gweithio, chwarae ac addoli dros y canrifoedd.

Ar agor Bob dydd 10am–5pm (ac eithrio 24, 25, 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr).

Mynediad am ddim. Parcio – £4

I gael rhagor o wybodaeth, ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan Caerdydd CF5 6XB Ffôn: (029) 2057 3500 neu 0300 111 2 333 (galwadau cyfradd leol)

Manylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Cysylltwch â ni cyn teithio’n unswydd.

MYNEDIAD AM D

DIM

MYN

EDIAD AM DDIM

Page 4: Digwyddiadau: Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru

3 Ebrill, Plannu Tatws

4 Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Ebrill 2015Manylion ar y wefan.

Cyrsiau Newydd yn Sain Ffagan Mae cyrsiau newydd cyffrous ar y gweill yn Sain Ffagan. Cadwch lygad ar ein gwefan am ddyddiadau a manylion.

Llun 30 Mawrth– Iau 2 Ebrill

11am–1pm a 2–4pm

Sgwrs: Bwyd Gwyllt a’r Goedwig Dewch i ddarganfod y bwydydd gwyllt sydd ar gael yr adeg hon o’r flwyddyn.

Llun 30 Mawrth– Iau 2 Ebrill

11am–1pm a 2–4pm

Celf y Rhyfel Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, parhaodd pobl i fod yn greadigol er gwaetha’r amodau anodd. Dyma gyfle i weld enghreifftiau o gasgliad Sain Ffagan, a chreu gwrthrychau eich hun gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau tebyg.

Mer 1 Ebrill 2–3pm Hau Hadau yn y Tŷ Blodau

Iau 2 Ebrill 2–3pm (Saesneg)3–4pm (Cymraeg)

Tu ôl i’r Llenni: Creadigrwydd wedi Cyflafan Cafodd gwrthrychau eu creu yn ystod y rhyfel oedd yn helpu i fynegi teimladau o gariad, colled a chofio. Ymunwch â’r curaduron i weld sut gall cyflafan ysgogi creadigrwydd.

Gwe 3–Llun 6 Ebrill

10am–5pm Cartrefi’r Tuduriaid Galwch draw i Dŷ Hir Hendre’r Ywydd i weld sut beth oedd bywyd i’n cyndeidiau yn yr 16eg ganrif.

Gwe 3– Llun 6 Ebrill

11am–2pm Helfa Basg Sain Ffagan Manylion ar dudalen 2.

Gwe 3 Ebrill 2–3pm Plannu Tatws Treftadaeth yn Rhyd y Car Maw 7– Gwe 10 Ebrill

11am–1pm a 2–4pm

Trochi Rhwydi Ymunwch â ni wrth i ni chwilio am bysgod, madfallod dŵr a mwy!

Maw 7– Gwe 10 Ebrill

11am–1pm a 2–4pm

Trwy Dwll Bach y Clo Manylion ar dudalen 2.

Mer 8 Ebrill 2–3pm Plannu Tatws Treftadaeth yn Nant Wallter Sad 11 Ebrill 11am–1pm Gwau a Gwnïo

Dewch â’ch project eich hun gyda chi, cyfarfod â phobl newydd a rhannu syniadau.

Sad 11 Ebrill 11am, 1pm, 3pm Ffefrynnau’r Staff Manylion ar dudalen 2.

Sad 11– Sul 12 Ebrill

11am–1pm a 2–4pm

Perlysiau a Hylendid y Tuduriaid Helpwch ein doctor dail i greu peli pêr, peli sebon a bagiau persawr.

Mer 15 Ebrill 2–3pm Hau hadau ar gyfer yr haf yn y Tŷ Blodau

Gweithgareddau i’r teulu Sgyrsiau, teithiau, cyngherddau a mwy

7–10 Ebrill, Trochi rhwydi 18–19 Ebrill, Wythnos Genedlaethol Bara

Page 5: Digwyddiadau: Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru

5@StFagans_Museum sainffagan.stfagans

11–12 Ebrill, Perlysiau’r Tuduriaid 2 Mai, Côr y Bore Bach25–26 Ebrill, Cymdeithas Ceffylau Haearn Morgannwg

Gweithgareddau i’r teulu Sgyrsiau, teithiau, cyngherddau a mwy

Sad 18– Sul 19 Ebrill

Manylion ar y wefan

Wythnos Genedlaethol Bara: Cyfarfod â’r Melinydd

Sad 18 Ebrill 1–3pm Gwirfoddoli yn Sain Ffagan Galwch draw am sgwrs gyda’n Cydlynydd Gwirfoddoli i ddarganfod mwy am wirfoddoli, lleoliadau gwaith a fforymau ieuenctid.

Sul 19 Ebrill 11am–4pm Ffair Briodas Eternity with Love Manylion ar dudalen 3.

Mer 22 Ebrill 2–3pm Hau Hadau Llysiau yn Nant Wallter Sad 25– Sul 26 Ebrill

10am–5pm Cymdeithas Ceffylau Haearn Morgannwg Casgliad arbennig o hen beiriannau fferm.

Mer 29 Ebrill 2–3pm Gosod Pyst Planhigion Lluosflwydd Dewch draw i’r Border Ffigys ar y Terasau.

Mai 2015Sad 2 Mai 5.30am Diwrnod Rhyngwladol Côr y Bore Bach

Dewch am dro gyda’r wawr o gwmpas Sain Ffagan, gan orffen gyda brecwast ysgafn a phaned o de. Rhaid archebu ymlaen llaw. £8 y pen yn cynnwys brecwast. Ffoniwch (029) 2023 0310 am docynnau, neu ewch i www.ticketlineuk.com

Sad 2 Mai 2–3pm Hau Hadau Llysiau yn Rhyd y Car

Sad 2 Mai 10am–5pm Fforwm Hanes Cymru Arddangosfa a sgyrsiau anffurfiol gan grwpiau hanes o Gymru.

Sad 2 Mai 10am–5pm Cyfarfod â’r Cerfwyr Pren Sad 2–Llun 4 MaiSad 23–Sul 25 Mai

11am–4pm Hwyl Gŵyl y Banc Penwythnos o hwyl, yn llawn gweithgareddau a gweithdai. Manylion ar y wefan.

Mer 6 Mai 2–3pm Pigo Planhigion Ifanc Allan yn y Tŷ Blodau Sad 9 Mai 11am, 1pm, 3pm Ffefrynnau’r Staff Manylion ar dudalen 2.

Sad 9 Mai 11am–1pm Clwb Cwiltio Addas i gwiltwyr profiadol neu ddechreuwyr.

Sad 9 Mai 11am–4pm Cyfarfod â Gwneuthurwyr Les De Cymru

Sul 10 Mai 10am–5pm Mania Morris Minor! Boed yn dwlu ar y Morris Minor neu’n ymweld â’r Amgueddfa, dewch i fwynhau’r amrywiaeth o geir fydd i’w gweld.

18–19 Ebrill, Wythnos Genedlaethol Bara

Page 6: Digwyddiadau: Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru

6 Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

10 Mai, Mania Morris Minor 26, 28, 29 Mai, Bwyd y Rhyfel

© Peter Brabham

Gweithgareddau i’r teulu Sgyrsiau, teithiau, cyngherddau a mwy

9 Mai, Clwb Cwiltio

Mer 13 Mai 2–3pm Gosod Pyst Planhigion Lluosflwydd Dewch draw i’r Border Ffigys ar y Terasau.

Sad 16 Mai 1–3pm Gwirfoddoli yn Sain Ffagan Gweler 18 Ebrill am fanylion.

Sad 16– Sul 17 Mai

10am–4pm Marchnad ‘Boutique’ Busnesau lleol yn gwerthu cynnyrch gwych o bob math.

Mer 20 Mai 2–3pm Gofal Rhosod yn y Gwanwyn Dewch draw i’r Teras Rhosod i ddysgu mwy.

Sad 23 Mai 11am–1pm Clwb Llyfrau Border Country gan Raymond Williams yw llyfr y mis.

Maw 26, Iau 28– Gwe 29 Mai

11am–1pm a 2–4pm

Teganau ar Iard yr Ysgol Dewch draw i’r Ysgoldy Fictoraidd i chwarae gyda theganau ar yr iard.

Maw 26, Iau 28–Mai 29 Mai

11am–1pm a 2–4pm

Bwyd y Rhyfel Dewch i ddysgu am y math o fwyd y byddai pobl yn ei fwyta yn nyddiau’r Rhyfel Byd Cyntaf a rhoi cynnig ar goginio peth ohono eich hun.

Mer 27 Mai 11am–1pm a 2–4pm

Blodau’r Gwanwyn Dewch i weld beth sy’n tyfu yn yr Amgueddfa yn ystod y gwanwyn.

Mer 27 Mai 10am–5pm Gŵyl Grefftau Treftadaeth Sain Ffagan Manylion ar dudalen 3.

Gwe 29 Mai 2–3pm Sgwrs: Pysgota Traddodiadol yng Nghymru Y Curadur Dylan Jones fydd yn eich tywys o gwmpas y casgliad pysgota sydd i’w weld yn y Tŷ Cychod / Tŷ Rhwydi.

Sad 30– Sul 31 Mai

11am–1pm a 2–4pm

Bwyd yr Oes Haearn Golwg ar yr hyn fyddai ein cyndeidiau o’r Oes Haearn yn ei fwyta’r adeg hon o’r flwyddyn.

Mehefin 2015Llun 1– Sul 7 Mehefin

Manylion ar y wefan

Wythnos y GwirfoddolwyrDewch i gwrdd â’n gwirfoddolwyr a staff, a gweld eu projectau diweddaraf.

Sad 6– Sul 7 Mehefin

10am–4pm Noswyl y Frwydr Manylion ar dudalen 2.

Sad 13 Mehefin 10am–5pm Cyfarfod â’r Cerfwyr Pren

Page 7: Digwyddiadau: Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru

7

6–10 Gorffennaf, Lansiad Llwybr y Castell

Gweithgareddau i’r teulu Sgyrsiau, teithiau, cyngherddau a mwy

@StFagans_Museum sainffagan.stfagans

29 Mai, Pysgota Traddodiadol

Sad 13 Mehefin 11am, 1pm, 3pm Ffefrynnau’r Staff Manylion ar dudalen 2.

Sad 13 Mehefin 11am–1pm Gwau a Gwnïo Gweler 11 Ebrill am fanylion. Sad 13 Mehefin 10am–12pm Gŵyl Plant Morgannwg

Bydd plant o bob cwr o siroedd Morgannwg yn mwynhau ein diwylliant unigryw wrth ddawnsio gwerin ar y safle.

Maw 16 Mehefin 8.30pm–11pm Wythnos Bioamrywiaeth Cymru: Cyfri Ystlumod Does dim angen profiad. Dewch â dillad cynnes, fflachlamp ac esgidiau addas. Ar gyfer oed 14+ yn unig. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Rhaid archebu ymlaen llaw: (029) 2057 3424.

Mer 17 Mehefin 2–3pm Tocio Coed Ffrwythau Dysgwch sut i docio coed ffrwythau yng Ngardd Kennixton.

Sad 20 Mehefin 10.30am– 4.30pm

Ail-greu Llys Llywelyn Fawr Manylion ar dudalen 3.

Sad 20 Mehefin 11am–1pm a 2–4pm

Gweithdy Gwneud Cardiau Sul y Tadau

Sul 21 Mehefin 11am–3pm Hwyl Sul y Tadau Dewch â Dad draw am ddiwrnod llawn hwyl – gyrru tractor, heboga, saethyddiaeth a bar Tomos a Lilford.

Gorffennaf 2015Sad 4 Gorffennaf 11am–1pm Clwb Cwiltio Gweler 9 Mai am fanylion.

Sad 4– Sul 5 Gorffennaf

10am–4pm Sioe Flynyddol Cymdeithas Rhosod y Rhondda Cyfle i weld y rhosod a dyfwyd gan rai o arddangoswyr rhosod gorau’r DU.

Sad 4– Sul 5 Gorffennaf

11am–3pm Môr-ladron Amser Helpwch i drwsio llong ofod ein Môr-leidr yn yr helfa drysor hon. Bydd gwobr! £1 y pen.

Llun 6– Gwe 10 Gorffennaf

Manylion ar y wefan

Lansiad Llwybr y Castell Dewch i gerdded y llwybr hanesyddol newydd hwn o amgylch tiroedd y Castell.

Maw 7 Gorffennaf Manylion ar y wefan

Make an Aria Cyfle prin i glywed arias, a ysbrydolwyd gan gasgliadau Rhyfel Byd Cyntaf yr Amgueddfa, yn cael eu perfformio ar diroedd y Castell. Mae Make an Aria yn broject ar y cyd rhwng Music Theatre Wales, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a Grant Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog.

6–7 Mehefin, Noswyl y Frwydr

Page 8: Digwyddiadau: Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru

8 Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

15 Gorffennaf, Gofal Rhosod yn yr Haf

Gweithgareddau i’r teulu Sgyrsiau, teithiau, cyngherddau a mwy

Sad 11 Gorffennaf 11am, 1pm, 3pm Ffefrynnau’r Staff Manylion ar dudalen 2.

Sul 12 Gorffennaf 2–3pm (Saesneg) a 3–4pm (Cymraeg)

Tu ôl i’r Llenni: Ystafelloedd y Gweision Ymunwch â’r curadur Mared McAleavey am daith o amgylch ystafelloedd y gweision yng Nghastell Sain Ffagan.

Mer 15 Gorffennaf 2–3pm Gofal Rhosod yn yr Haf

Sad 18 Gorffennaf 11am–1pm Clwb Llyfrau Among Others gan Jo Walton.

Sul 19 Gorffennaf 10am–4pm Sioe Geir Flynyddol Sir Forgannwg Bydd ceir o’r 1930au hyd y 1980au i’w gweld.

Llun 20– Gwe 24 Gorffennaf

11am–1pm a 2–4pm

5 Diwrnod o Fwyndoddi Dewch i weld y ffwrnais newydd yn cael ei hadeiladu a’i thanio i greu ein haearn ein hun.

Mer 22 Gorffennaf 10am–4pm Diwrnod Darganfod – Gŵyl Archaeoleg Dewch i gwrdd â’r curaduron, y cadwraethwyr a’r darlunwyr sy’n gofalu am gasgliadau archaeoleg yr Amgueddfa.

Sad 25– Sul 26 Gorffennaf

11am–1pm a 2–4pm

Cert Celf Dewch i gymryd rhan mewn gweithgareddau celf i’r teulu cyfan!

Sad 25– Sul 26 Gorffennaf

10am–4pm Penwythnos Pysgota O bysgota â phlu a rhwydi lâf, i drochi rhwydi a chwrw gwymon, bydd digon i’w wneud.

Llun 27– Maw 28 Gorffennaf

O 11am Gweithgareddau Natur Dewch i gael golwg fanylach ar yr amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt yn Sain Ffagan. Dilynwch @Nature_StFagans ar Twitter i ddarganfod pa weithgareddau fydd yn digwydd ar ddiwrnod eich ymweliad.

Mer 29– Gwe 31 Gorffennaf

11am–1pm a 2–4pm

Trwy Dwll Bach y Clo Manylion ar dudalen 2.

Awst 20151–2, 8–9, 15–16,22–23 Awst

11am–1pm a 2–4pm

Cert Celf Dewch i gymryd rhan mewn gweithgareddau celf i’r teulu cyfan!

Llun 3– Sul 16 Awst

10am–4pm Marchnad ‘Boutique’ Busnesau lleol yn gwerthu pob math o gynnyrch gwych.

Llun 3– Mer 5 Awst

11am–1pm a 2–4pm

Cardiau Post a Phropaganda Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd cardiau post yn gyfrwng pwysig i filwyr gysylltu â’u teuluoedd – dewch i ddysgu mwy yn yr Amgueddfa.

20–24 Gorffennaf, 5 Diwrnod o Fwyndoddi

Gorffennaf ac Awst, Gweithgareddau Natur

Page 9: Digwyddiadau: Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru

9

Awst, Taith yr Ystlumod

Gweithgareddau i’r teulu Sgyrsiau, teithiau, cyngherddau a mwy

@StFagans_Museum sainffagan.stfagans

Awst, Cert Celf

Saesneg: Mer 5, 12, 19, 26Cymraeg:Llun 10, 17Awst

8.45pm (gall amseroedd amrywio – edrychwch ar y wefan)

Taith yr Ystlumod Ymunwch â ni am daith gyffrous i ddod o hyd i ystlumod yr Amgueddfa wrth iddi nosi. Gwisgwch ddillad addas a dewch â fflachlamp. Hyd: 1½ awr. Ar gyfer oed 8+, £5 y pen, parcio am ddim. Rhaid archebu ymlaen llaw: ffoniwch (029) 2023 0310 neu ewch i www.ticketlineuk.com

Iau 6–Gwe 7,Mer 19–Gwe 21,Mer 26–Gwe 28 Awst

11am–1pm a 2–4pm

Trwy Dwll Bach y Clo Manylion ar dudalen 2.

Sad 8 Awst 11am, 1pm, 3pm Ffefrynnau’r Staff Manylion ar dudalen 2.

Sad 8– Sul 9 Awst

10am–5pm Cyfarfod â’r Muzzleloaders Saethu colomennod clai yn Sain Ffagan. Dewch draw i’w gweld, a rhoi cynnig arni eich hun.

Llun 10–Maw 11,Llun 17– Maw 18 Awst

O 11am Gweithgareddau Natur Dewch i gael golwg fanylach ar yr amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt yn Sain Ffagan. Dilynwch @Nature_StFagans ar Twitter i ddarganfod pa weithgareddau fydd yn digwydd ar ddiwrnod eich ymweliad.

Maw 11– Gwe 14 Awst

11am–1pm a 2–4pm

Cerddoriaeth a Rhyfel Dewch i ddarganfod sut y byddai cerddoriaeth yn codi ysbryd pobl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a rhoi cynnig ar greu offerynnau eich hun.

Gwe 14– Sad 15 Awst

2–3pm a 3–4pm Sut i Greu Gardd Flodau Taith o gwmpas yr Amgueddfa a syniadau am sut i greu gardd flodau gwylltion.

Iau 13 Awst 11am–1pm a 2–4pm

Trwy Gerdyn Post, Telegram neu Lythyr: cyfathrebu yn ystod y Rhyfel Byd CyntafCyfle i ddylunio eich cerdyn post eich hun a dychmygu ysgrifennu o’r ffosydd neu o gartref at filwr.

Gwe 14– Sad 15 Awst

11am–1pm a 2– 4pm

Llinynnau Pwrs a Phwyntiau Galwch draw i Dŷ’r Masnachwr Tuduraidd i weld ein Plethwyr yn gweithio eitemau fyddai’n cael eu masnachu i bedwar ban.

Sad 15– Sul 16 Awst

11am–1pm a 2–4pm

Cyfarfod â’r Bostfeistres Galwch draw i swyddfa bost leiaf Cymru a chwrdd â’r Bostfeistres.

25–26 Gorffennaf, Penwythnos Pysgota

Page 10: Digwyddiadau: Sain Fagan Amgueddfa Werin Cymru

10 Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Gweithgareddau i’r teulu Sgyrsiau, teithiau, cyngherddau a mwy

Iau 20– Sul 23 Awst

10am–4pm Cymdeithas y Seiri Arddangosiadau o dechnegau gwaith coed traddodiadol megis naddu, a fframio derw gwyrdd.

Llun 24– Maw 25 Awst

11am–3pm Môr-ladron Amser Helpwch i drwsio llong ofod ein Môr-leidr yn yr helfa drysor hon. Bydd gwobr! £1 y pen.

Sad 29– Llun 31 Awst

11am–4pm Hwyl Gŵyl y Banc Penwythnos o hwyl, yn llawn gweithgareddau a gweithdai. Manylion ar y wefan.

Medi 2015Gwe 4 Medi 11am–1pm Addurno’r Capel

Galwch draw i Gapel Pen-rhiw i weld ein tîm garddio yn addurno’r addoldy gyda chynnyrch a blodau’r ystâd ar gyfer y Diolchgarwch.

Sad 5– Sul 6 Medi

10am–5pm Gŵyl Fwyd Sain Ffagan Dros 80 o stondinau yn arddangos y bwydydd a’r diodydd Cymreig gorau... bydd digon i dynnu dŵr o’r dannedd yn y digwyddiad hynod boblogaidd hwn.

Sad 12 Medi 11am, 1pm, 3pm Ffefrynnau’r Staff Manylion ar dudalen 2.

Sad 12 Medi 2–3pm Sgwrs: Owain Glyndŵr Hanes y tywysog gwrthryfelgar a’i frwydr dros Gymru annibynnol

Sad 12– Sul 13 Medi

10am–4pm Marchnad ‘Boutique’ Busnesau lleol yn gwerthu pob math o gynnyrch gwych.

Sul 13 Medi 10am–5pm Cyfarfod â’r Cerfwyr Pren Sad 19 Medi 1–3pm Gwirfoddoli yn Sain Ffagan

Gweler Sad 16 Mai.Sad 19 Medi 11am–1pm Clwb Llyfrau

Gold gan Dan Rhodes yw llyfr y mis.

Sad 19– Sul 20 Medi

11am–1pm a 2–4pm

Trwy Dwll Bach y Clo Manylion ar dudalen 2.

Sad 26 Medi 11am–1pm a 2–4pm

Dail Difyr Dewch i ddysgu pam bod dail yn newid eu lliw yn yr hydref.

Sad 26– Sul 27 Medi

10am–5pm Cyfarfod â’r Muzzleloaders Gweler 8–9 Awst am fanylion.

13 Awst, Trwy Gerdyn Post, Telegram neu Lythyr 5–6 Medi, Gŵyl Fwyd 26 Medi, Dail Difyr