26
Hydref 2011 Rhif 415 50c Gwobr AnrhyDeDDus i GlAin N OS Sul, 25 Medi, cipiodd Glain Dafydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2011 mewn cyngerdd gwefreiddiol a gynhaliwyd yn Stiwdio’r Ddraig, Pencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000 i Glain yn y cyngerdd a oedd yn fyw ar S4C ac yn benllanw gweithgareddau’r Ysgoloriaeth am eleni. Mae Glain, 19 oed, o Bentir, yn gyn-ddisgybl telyn i Alwena Roberts ac Elinor Bennett ac yn gyn-ddisgybl yn ysgolion y Garnedd a Thryfan a Chanolfan Gerdd William Mathias. Mae wedi derbyn nawdd oddi wrth Gyfeillion Cerdd Ieuenctid Gwynedd, Cronfa Ryan Davies. “Mae cefnogaeth fel hyn wedi bod yn gymorth i mi i gyrraedd y safon sydd wedi arwain at yr Ysgoloriaeth sylweddol ddiweddaraf hon." Ar y brig Daeth i’r brig wedi iddi swyno’r chwe beirniad gyda’i dehongliad o Au Matin gan Touriner, La Source Albert Zabel ac Impromptu o waith Reinhold Gilère. Fel rhan o weithgareddau’r Ysgoloriaeth cafodd ddosbarth meistr gan y telynor Ieuan Jones. Mae Glain wedi hen arfer perfformio a chystadlu, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae eisoes wedi ennill Tlws y Telynor, Ysgoloriaeth Simms yr Urdd a’r Rhuban Glas Offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau’r Cymoedd 2010. Llynedd hefyd cyrhaeddodd rownd derfynol adran llinynnau cystadlaethau’r BBC Young Musician a’r Royal Over-Seas League. Cafodd brofiadau gwych fel aelod o Gôr Telynau Gwasanaeth Ysgolion William Mathias a Cherddorfa Ieuenctid Prydain yn y Proms yn Neuadd Albert yn 2009. Astudio ym Mharis Mae hi bellach yn ei hail flwyddyn o astudio yn yr Ecole Normale de Musique de Paris o dan hyfforddiant Isabelle Perrin. Meddai "Mae ennill Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel yn gyrhaeddiad allweddol i mi yn fy ngyrfa hyd yma, heb os. Mae wedi bod yn fraint cael cymryd rhan mewn cystadleuaeth sy’n cael ei chefnogi gan Bryn Terfel ac sy’n cael ei chydnabod fel un o ysgoloriaethau mwyaf blaenllaw Cymru.” Llongyfarchiadau calonnog i Glain a phob lwc iddi yn y dyfodol. Côr y Dyffryn Bydd y Côr yn ailymgynnull nos Sul, 6 Tachwedd, yn festri Capel Jerusalem, am 6.15 pm, i ymarfer ar gyfer Gwasanaeth Nadolig Cymunedol a gynhelir nos Sul, 18 Rhagfyr.

Hydref 2011

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Papur Bro Dyffryn Ogwen

Citation preview

Page 1: Hydref 2011

Hydref 2011 Rhif 415 50c

Gwobr AnrhyDeDDus i GlAin

NOS Sul, 25 Medi, cipiodd Glain Dafydd Ysgoloriaeth Urdd GobaithCymru Bryn Terfel 2011 mewn cyngerdd gwefreiddiol a gynhaliwyd yn

Stiwdio’r Ddraig, Pencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr. Cyflwynwyd yrYsgoloriaeth, gwerth £4,000 i Glain yn y cyngerdd a oedd yn fyw ar S4Cac yn benllanw gweithgareddau’r Ysgoloriaeth am eleni.

Mae Glain, 19 oed, o Bentir, yn gyn-ddisgybl telyn i Alwena Roberts acElinor Bennett ac yn gyn-ddisgybl yn ysgolion y Garnedd a Thryfan aChanolfan Gerdd William Mathias. Mae wedi derbyn nawdd oddi wrthGyfeillion Cerdd Ieuenctid Gwynedd, Cronfa Ryan Davies. “Maecefnogaeth fel hyn wedi bod yn gymorth i mi i gyrraedd y safon sydd wediarwain at yr Ysgoloriaeth sylweddol ddiweddaraf hon."

Ar y brigDaeth i’r brig wedi iddi swyno’r chwebeirniad gyda’i dehongliad o AuMatin gan Touriner, La Source AlbertZabel ac Impromptu o waithReinhold Gilère. Fel rhan oweithgareddau’r Ysgoloriaeth cafoddddosbarth meistr gan y telynor IeuanJones. Mae Glain wedi hen arferperfformio a chystadlu, yng Nghymruac yn rhyngwladol. Mae eisoes wediennill Tlws y Telynor, YsgoloriaethSimms yr Urdd a’r Rhuban GlasOfferynnol yn EisteddfodGenedlaethol Blaenau’r Cymoedd2010. Llynedd hefyd cyrhaeddoddrownd derfynol adran llinynnaucystadlaethau’r BBC Young Musiciana’r Royal Over-Seas League. Cafoddbrofiadau gwych fel aelod o GôrTelynau Gwasanaeth YsgolionWilliam Mathias a CherddorfaIeuenctid Prydain yn y Proms ynNeuadd Albert yn 2009.

Astudio ym MharisMae hi bellach yn ei hail flwyddyn oastudio yn yr Ecole Normale deMusique de Paris o dan hyfforddiantIsabelle Perrin. Meddai "Mae ennillYsgoloriaeth Urdd Gobaith CymruBryn Terfel yn gyrhaeddiad allweddoli mi yn fy ngyrfa hyd yma, heb os.Mae wedi bod yn fraint cael cymrydrhan mewn cystadleuaeth sy’n caelei chefnogi gan Bryn Terfel ac sy’ncael ei chydnabod fel un oysgoloriaethau mwyaf blaenllawCymru.”

Llongyfarchiadau calonnog i Glain aphob lwc iddi yn y dyfodol.

Côr y DyffrynBydd y Côr yn ailymgynnull nos

Sul, 6 Tachwedd, yn festri Capel

Jerusalem, am 6.15 pm, i

ymarfer ar gyfer Gwasanaeth

Nadolig Cymunedol a gynhelir

nos Sul, 18 Rhagfyr.

Page 2: Hydref 2011

Llais Ogwan

Derfel Roberts [email protected]

ieuan Wyn [email protected]

Lowri Roberts [email protected]

Elina Owen [email protected]

fiona Cadwaladr Owen [email protected]

Siân Esmor Rees [email protected]

Emlyn Evans [email protected]

Neville Hughes [email protected]

Dewi a Morgan [email protected]

Dafydd fôn Williams [email protected]

Walter W Williams [email protected]

SWyDDOGiON

Cadeirydd:André Lomozik, Zakopane,7 Rhos-y-Coed, Bethesda, Bangor,Gwynedd LL57 3NW 602117

Trefnydd Hysbysebion:Neville Hughes, 14 Pant, Bethesda LL57 3PA [email protected]

ysgrifennydd:Gareth Llwyd, Talgarnedd, 3 Sgwâr Buddug, Bethesda LL57 3AH [email protected]

Trysorydd: Godfrey Northam, 4 Llwyn Bedw, Rachub,Llanllechid LL57 3EZ 600872

y Llais Drwy’r Post: Owen G Jones, 1 Erw Las, Bethesda,Gwynedd LL57 3NN 600184

PANEL GOLYGYDDOL

£16 Gwledydd Prydain£24 Ewrop£32 Gweddill y Byd

Owen G. Jones, 1 Erw Las,Bethesda, Gwynedd LL57 [email protected]

-

Golygydd y Mis

archebu Llais Ogwan drwy’r Post

DyDDiaDuR y DyffRyN Rhoddion i’r Llais

Llais Ogwan 2

Clwb Cyfeillion Llais Ogwan

Os gwyddoch am rywun sy’n caeltrafferth â’i olwg, ac a hoffai dderbyncopi o’r Llais ar gasét bob mis,cysylltwch ag un o’r canlynol:

Gareth Llwyd 601415Neville Hughes 600853

Llais Ogwan ar Dâp

Cyhoeddir gan Bwyllgor Llais Ogwan

Cysodwyd gan Tasg, Gorffwysfa, Sling,

LL57 4RJ 01248 600627

Argraffwyd gan Wasg Ffrancon, Dôl Ddafydd, Bethesda LL57 3LY

01248 601669

CydnabyddirCefnogaeth

Nid yw pwyllgor Llais Ogwan

na’r panel golygyddol o

angenrheidrwydd yn cytuno âphob barn a fynegir gan ein

cyfranwyr.

Gwobrau Hydref 2011

£30 (12) Martin Warren Dean,

Llanfairfechan

£20 (84) Christina Roberts,

Maes y Garnedd, Bethesda

£10 (132) Iola Williams,

40 Talycae, Tregarth

£5 (15) A. Ray Davies, 9 Heol Ifor,

Caerdydd.

Mis Hydref

21 Cyngerdd gydag Aelwyd yr Ynys. Capel

Abergwyngregyn am 7.30.

22 Bore Coffi Merched y Wawr.

Neuadd Ogwen 10.00 -12.00

25 Cangen Plaid Cymru Dyffryn Ogwen.

Cefnfaes am 7.00

27 Merched y Wawr Bethesda.

Cefnfaes am 7.00

28 Disgo Calan Gaeaf i Blant.

Canolfan Rachub 6.00 – 9.00

29 Bore Coffi Canolfan Tregarth.

Neuadd Ogwen 10.00 – 12.00

Mis Tachwedd

01 Cyfarfod Blynyddol NSPCC

Adran Bethesda. Cefnfaes am 2.00

02 Cyfarfod Blynyddol Llais Ogwan.

Cefnfaes am 7.30.

03 Cyfarfod Blynyddol Neuadd Ogwen

yn y Neuadd am 7.00

04 Bingo at Ymddiriedolaeth Meningitis lleol.

Canolfan Glasinfryn am 7.30.

05 Bore Coffi Capel Shiloh Tregarth.

Neuadd Ogwen 10.00 – 12.00

12 Bore Coffi Llais Ogwan.

Neuadd Ogwen 10.00 – 12.00

12 Marchnad Cynnyrch Lleol.

Festri Fawr Capel Jerusalem. 10.00 – 2.00

14 Merched y Wawr Tregarth.

Festri Shiloh am 7.00

14 Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen.

Festri Jerusalem am 7.00

15 Cangen Plaid Lafur Dyffryn Ogwen.

Cefnfaes am 7.30.

16 Cymdeithas Lenyddol Gofalaeth Bro

Ogwen. Carmel Llanllechid am 7.00

18 Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen.

Neuadd Ogwen am 7.00

19 Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen.

Ysgol Dyffryn Ogwen am 10.00 y.b.

19 Bore Coffi Eglwysi Glanogwen a

Llanllechid. Neuadd Ogwen 10.00 – 12.00

19 Te Nadolig. Ysgoldy Maes y Groes,

Talybont, am 2.30.

26 Bore Coffi Neuadd Talgai.

Neuadd Ogwen 10.00 – 12.00

Mis Rhagfyr

07 Bara Caws yn cyflwyno

C’mon Mid-laiff. Neuadd Ogwen am 7.30.

£20.00 Er cof am Mabel Sturrs oddi

wrth y teulu.

£5.00 Huw Parry Jones Dolgarrog

£5.00 Elfed Evans, Hen Barc,

Bethesda

£5.00 Ernie a Mair Sullivan,

Glan Ogwen, Bethesda

£20.00 Eirlys Ellis, 20 Bro Emrys,

Talybont

£10.00 Er cof am Mrs Eluned

Williams, Allt Penybryn,

Bethesda.

Golygwyd y rhifyn hwn gan FionaCadwaladr Owen.Golygydd mis Tachwedd fydd Dafydd FônWilliams, 14/4 Stryd y Ffynnon, Gerlan.LL57 3TR (01248) [email protected] deunydd i law erbyn dydd Mercher, 2Tachwedd, os gwelwch yn dda. Plygu nosIau, 17 Tachwedd yng NghanolfanCefnfaes am 6.45.

Page 3: Hydref 2011

Llais Ogwan 3

Annwyl Olygydd

Annwyl Olygydd,

Tlws John a Ceridwen HughesDaeth yr amser unwaith eto i ni ystyriedenwau ar gyfer y tlws uchod. Fel y cofiwch,mae’r Urdd wedi derbyn cynnig caredig yteulu i gyflwyno tlws yn flynyddol ynEisteddfod Genedlaethol yr Urdd i unigolionsydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol iieuenctid Cymru.

Hoffwn dynnu eich sylw at y pwyntiaucanlynol:• Gellir ystyried rhywun sydd wedi cyfrannuat waith ieuenctid yn y gorffennol ond syddwedi rhoi’r gorau iddi erbyn hyn, yn ogystal,wrth gwrs, â rhai sydd yn dal i weithio gydaphobl ifanc.• Gofynnir i chi ddefnyddio’r ffurflen enwebubriodol sydd ar gael o Swyddfa’r Urdd.

Dylid ystyried y pwyntiau isod wrth enwebuunigolion:• Dylai’r gwaith fod trwy gyfrwng yGymraeg neu’n ymwneud ag ieuenctid sy’ndysgu’r iaith.• Dylai fod yn waith wyneb yn wyneb âphobl ifanc dros 11 oed a thu allan igyfundrefn addysg ffurfiol.• Gall fod yn ymwneud ag unrhyw agwedd arwaith ieuenctid (diwylliannol, corfforol,dyngarol, cymdeithasol gyda phobl anabl,gyda dysgwyr, rhoi cyfle i ieuenctid gyfrannu,gwaith awyr agored, cyfnewid ac yn y blaen).• Gall fod yn waith gydag unrhyw fudiadieuenctid.

Os am ffurflen enwebu cysylltwch gydagEnfys Davies, Swyddfa’r Urdd, Aberystwyth,ar 01970 613103, neu drwy [email protected]

Yn gywir,

Efa Gruffudd Jones

Prif Weithredwr

Annwyl Olygydd,

Er bod mis wedi mynd heibio ers Pesda Roc

2011, mae'r Pwyllgor Trefnu yn parhau i

gyfri'r arian a ddaeth i mewn dros y

penwythnos. Diolch i'r ffaith fod y rhan fwyaf

o'r rhai a gyfrannodd at yr ŵyl wedi gwneud

hynny o'u gwirfodd, mae Cwmni Tabernacl

wedi gwneud elw eithaf sylweddol. Bydd

cyfran o'r elw hwn yn cael ei defnyddio i

sefydlu cofeb barhaol i Les Morrison yn

Nyffryn Ogwen, er mwyn coffáu ei waith.

Bydd gweddill yr elw yn cael ei ddefnyddio i

sefydlu cronfa yn enw Les, a fydd yn cael ei

defnyddio i barhau â'r gwaith da a wnaeth Les

drwy gydol ei oes. Unwaith y bydd y gronfa

wedi ei sefydlu, bydd yn dyfarnu arian i

gerddorion a pherfformwyr o Ddyffryn Ogwen

sydd yn dymuno datblygu eu gyrfaoedd

cerddorol. Mae teulu Les wedi rhoi eu

cefnogaeth i'r syniad hwn, ac fe fyddant yn

chwarae rhan ganolog yn y gwaith o

ddyfarnu'r arian. Diolch, unwaith eto, i bawb a

fu'n rhan o lwyddiant Pesda Roc 2011.

Dyfrig Jones

Ar ran Cwmni Tabernacl

Annwyl Olygydd,

Cymdeithas Brodwaith Cymru Fe wyddoch mae’n siŵr, fod y Gymdeithashon yn cynnig ysgoloriaeth o hyd at £300 ifyfyriwr Cymraeg sy’n dilyn cwrs tecstilaumewn coleg bob blwyddyn. Eleni yw’r pumedtro i’r Gymdeithas gynnig yr ysgoloriaeth hon.Enillwyd hi yn y pedair blynedd ddiwethaf ganfyfyrwyr dawnus, a phleser oedd arddangos eugwaith ar stondin y Gymdeithas yn yrEisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.

Amcanion y Gymdeithas yw hyrwyddobrodwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, athrefnir cyrsiau, darlithoedd, dosbarthiadau acarddangosfeydd mewn ardaloedd ledledCymru.

I gael ffurflen gais neu ragor o wybodaethcysylltwch â: Gwerfyl Jones, y dyddiad caufydd 30 Ionawr 2012.

Gyda diolch,Gwerfyl Jones Meini Diddos

Prion DinbychLL16 4SA

[email protected]

Gwasanaethau Torri Coed

a Gwrychoedd

GWYN IFORI gael prisiau rhesymol ffoniwch

01248 361457

neu

07525 255383

Ar ddechrau mis Medi aeth nifer oaelodau i gyfarfod o Blaid Lafur Arfon,lle cafwyd cymeradwyaeth i gynnig ygangen am ŵyl banc ychwanegol rhwngmis Awst a’r Nadolig, yn hytrach nachynnig y llywodraeth i gyflwyno hyn ynlle’r ŵyl banc ar ddechrau mis Mai (GŵylBanc Llafur).

Wedyn, cafwyd cyfarfod cangen yngnghanol y mis i drafod dyfodoletholiadau Cynulliad Cymru yn y dyfodolos bydd nifer yr etholaethau ar gyferSan Steffan yn cael eu lleihau o 40 i 30.Penderfynwyd cefnogi cynnig PlaidLafur Arfon i gael dau aelod o’rCynulliad ym mhob sedd seneddol, ynhytrach na 30 aelod etholaethol a 30aelod rhanbarthol. Hefyd penderfynwydy dylai’r ddau aelod gael eu hethol argyfer ardaloedd daearyddol gwahanol(er enghraifft, gogledd a de, neu orllewina dwyrain).

Yn fuan wedyn, aeth rhai o’r aelodau igyfarfod o Blaid Lafur Gwynedd yngNghricieth, i wrando ar araith ganarweinydd y grŵp Llafur (er enghraifftbydd Bwrdd Cyngor Gwynedd yn cael eiddisodli gan Gabinet y flwyddyn nesaf)ac i ofyn cwestiynau iddo. Hefydderbyniwyd cynigion newydd ar gyferstrwythur a phwerau’r Blaid Lafur sirol.

Ar ddiwedd y mis, aeth cynrychiolaethdda o’r gangen i Gaernarfon i gyfarfodDerek Vaughan (aelod Seneddol Ewrop)ac Alun Davies (gweinidog CynulliadCymru dros Ewrop), lle cafwyd areithiaua chyfle i ofyn cwestiynau. Nodwyd bodhawliau newydd ar gyfer gweithwyrasiantaethau wedi cael eumabwysiadu’n ddiweddar oherwyddgweithredoedd y llywodraeth Lafurdiweddaraf.

Mae gwahoddiad i bob aelod o’r gangenfynychu cyfarfod efo Albert Owen (aelodseneddol Ynys Môn) ym Mangor, nosWener, 21 Hydref.

Plaid Lafur Dyffryn Ogwen

Cynhaliwyd Cyfarfod mis Medi ar y 27ainyng Nghanolfan Cefnfaes gyda PaulRowlinson yn y gadair.Llongyfarchwyd y Cynghorydd DafyddOwen ar gael ei anrhydeddu yn yGynhadledd yn Llandudno, am waith hir achlodwiw i’r Blaid dros flynyddoedd lawer.Teimlwyd fod Dafydd yn llwyr deilyngu’ranrhydedd. Diolchodd Dafydd i aelodau’rGangen am anfon ei enw ymlaen.

Y Cynghorydd Dafydd Owen yn cael eianrhydeddu gan Hywel Williams, AS,

yng nghynhadledd y Blaid yn y Venue,Llandudno ym mis Medi

Cafwyd Cynhadledd wych yn Llandudnoyn ôl tystiolaeth y gynrychiolaeth gref oaelodau’r Gangen oedd yn bresennol.

Ar nodyn personol arall dymunwyd yn ddai Arthur ar ei briodas ar 21 Hydref. Byddyn gadael bwlch enfawr ar ei ôl gan ybydd ef a Nerys yn ymgartrefu yngNghefnddwysarn ger y Bala. Mynegwydgwerthfawrogiad o’i holl waith gyda’r Blaidac yn y Dyffryn yn gyffredinol.

Llongyfarchwyd trefnwyr Pesda Roc, sef yCynghorydd Dyfrig Jones a’i gyd-weithwyro Gwmni Tabernacl, ar drefnu gŵyl morllwyddiannus.

Cafwyd adroddiadau gan ein cynghorwyrsir a chymuned. Dyfrig Jones yn sôn amBartneriaeth Ogwen ac Ann Williams yndweud bod ein tri chynghorydd ar Wyneddwedi cefnogi sefydlu ardaloedd di-alcoholyn y Dyffryn.

Treuliwyd rhan helaeth y pwyllgor yntrafod etholiadau’r cynghorau a gynhelirym mis Mai 2012, ac fe symudwyd ymlaengyda’r broses o ddewis ymgeiswyr.

Cangen Plaid Cymru

Dyffryn Ogwen

Page 4: Hydref 2011

BethesdaLlên Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda( 600431

John Wyn Jones, Siop W E Jones (Siop John), Rhes Fictoria(Stryd Fawr), Bethesda ( 600251

Fiona Cadwaladr Owen, Bryn Meurig Bach, Coed y Parc, Bethesda, LL57 4YW ( 601592

Joe Hughes, Awel y Nant, Ffordd Ffrydlas,Bethesda ( 601902

Llais Ogwan 4

Merched y Wawr,Cangen Bethesda

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf ytymor nos Iau, 29 Medi yngNghanolfan Cefnfaes o danlywyddiaeth Margaret Jones.Gwenno Evans oedd y cyfeilydd.Roedd yn ddymunol iawn caelnoson mor braf i ddechrau’rtymor a phawb yn edrych ymlaenat ein Blwyddyn Ruddem.

Croesawodd y Llywydd yr hollaelodau gyda chroeso arbennig iaelod newydd sef Bessie Buckley.Llongyfarchwyd pawb o’r planta’r bobl ifanc oedd wedi llwyddomewn arholiadau mewn ysgol neugoleg a dymunwyd yn dda iddynti’r dyfodol. Cyfarchion arbennig iBeca Roberts, wyres EleanorMorris, ein hysgrifennyddgweithgar, sydd wedi mentro iMalawi i ddysgu am flwyddyncyn dechrau ei chwrs coleg.

Llongyfarchiadau i Eleanor hefydam drefnu plannu’r coed ac amysgrifennu’r hanes i’r Wawr ac iLais Ogwan. Llongyfarchiadau iMuriel ac Albert Williams arddathlu chwe deg mlynedd ofywyd priodasol ac i Jean aGodfrey Northam am ddathlu’rhanner cant. Roedd yn ddiwrnodarbennig i Medi gan ei bod yndathlu ei phen-blwydd y diwrnodhwnnw a chanwyd Pen-blwyddHapus iddi hi. Gobeithio ei bod hia Jean a Gwenno yn cael hwyl ynSbaen a bod Eleanor a Griff ynmwynhau yn yr Amerig. Gan fody swyddogion yn parhau yn euswyddi, fe ddangosodd Margaretei gwerthfawrogiad o’ucydweithrediad drwy gyflwynotusw o flodau bob un i’rysgrifennydd a’r trysorydd,Glenys Clark.

Cynhaliwyd Gweithgareddau Celfyn y Ganolfan yn Nhregarthddydd Sadwrn, 8 Hydref o danhyfforddiant Susan Jones,Margaret Jones a Jên Morris.Diolch i’r pwyllgor am y lluniaeth

Cylch MeithrinCefnfaes

Sesiynau Dyddiol

9.15 – 12.15 o’r gloch

Cysylltwch â ni ar

07815 085 323

LlwyddiantMae Christine Roberts, RhesGordon wedi llwyddo i gael graddBSc mewn Troseddeg acAstudiaethau Newyddion ymMhrifysgol Manceinion trwy’rBrifysgol Agored. Cynhaliwyd yseremoni raddio ym Manceinion ar7 Hydref. Hoffai Susan a’r teululongyfarch Christine ar eillwyddiant a dymuno pob lwc iddiyn y dyfodol. Meddai Susan, “Mifasa mam a dad yn falch iawnohonot, Christine. Da iawn ti.”

Pen-blwydd ArbennigRoedd Glenys Lloyd Jones yndathlu pen-blwydd arbennig iawnar 14 Awst. Pen-blwydd hapusiawn iddi a phob dymuniad da.

DiolchMae Dennis Hughes o YstâdCoetmor yn diolch yn fawr am ygalwadau ffôn gan ffrindiau wediiddo gael llawdriniaeth argyfwngyng Nghanolfan Walton, Lerpwl.

Pen-blwyddPen-blwydd hapus iawn i’r rhai addathlodd ben-blwyddi arbennigyn ddiweddar, sef (18/09/11) MrJoe Evans, Glanffrydlas; (1/10/11)Mrs Dilys Edwards, FforddCoetmor; (6/10/11) Dawn Taylor,Gwêl y Mynydd.

CydymdeimloCydymdeimlwn â Mr EddieEvans, Plas Ogwen a Mr a Mrs JoeEvans a’r teulu, Glanffrydlas, yneu profedigaeth o golli eu chwaeryng nghyfraith ym Mangor.

NainLlongyfarchiadau i Mrs RosieOwen, Pant Glas, ar achlysur dodyn nain i ferch fach, Elen a anedddydd Iau, 15 Medi.

YsbytyCofion cynnes a gwellhad buan i’rrhai a fu yn yr ysbyty ynddiweddar,Mr Eddie Evans, Plas Ogwen; MrStan Edwards, Ffordd Coetmor;Mrs Rhiannon Ifans, Ffordd Pant.

Hen NainLlongyfarchiadau i Mrs ReneParry, Maesygarnedd ar ddod ynhen nain i ferch fach ar 5 Hydref.

Hen nain a thaidLlongyfarchiadau i Mr a Mrs T.

Jones, Brynbella, ar yr achlysur oddod yn hen nain a thaid i ferchfach ar 6 Hydref.

Gair o ddiolchDymuna Mrs Blodwen Cavanagh,Maesygarnedd, a phlant ydiweddar Mr William KelvinCavanagh, Lerpwl, ddiolch ynfawr iawn i’r holl deulu, cyfeilliona chymdogion am bob arwydd ogydymdeimlad â hwy yn euprofedigaeth fawr o golli mab athad annwyl. Diolch i’r Ficer yParchedig Nia C. Williams am eigwasanaeth, ac i Mr GarethWilliams am ei drefniadau tawel apharchus.

DiolchDymuna Nerys Owen-Jones,merch Brenda a Selwyn Owen,Ffordd Ffrydlas, ddiolch i bawbam eu cymorth pan fu’n nofiomilltir yn Llyn Windermere igasglu arian tuag at YmchwilCanser y Deyrnas Unedig a GofalCanser y Fron. Y cyfanswm agasglwyd yw £689.00. Diolch ibawb.

DiolchDymuna Edna ac Emyr a theulu’rddiweddar Mrs Eluned Williams,Penybryn, Bethesda, ddiolch ogalon i bawb am bob arwydd ogydymdeimlad a’r cardiau a’rrhoddion o £385 tuag at TŷGobaith. Diolch yn arbennig i’rficer y Parchedig Nia Williams aStephen Jones, trefnydd yrangladd.

DiolchDymuna Ernie a Mair Sullivan, 7Glan Ogwen, ddiolch i’w teulu a’uffrindiau am yr holl gardiau,blodau ac anrhegion adderbyniwyd ganddynt ar achlysureu priodas ddiemwnt ym misMedi.

DiolchDymuna Derrick a Norma, 46Abercaseg, ddiolch i bawb am yrholl gardiau ac anrhegion adderbyniwyd ganddynt ar achlysurdathlu eu Priodas Aur ar 19 Awst.Diolch yn fawr.

DiolchAr ran Eglwys Glanogwen aLlanllechid hoffwn ddiolch ynfawr i bawb a gyfrannodd achefnogodd y Bore Coffi agynhaliwyd yn Neuadd Ogwenfore Sadwrn, 3 Medi 2011. Diolchyn fawr i bawb.

Bernard Jones yn YmddeolMae Bernard Jones, gynt o Faes Coetmor wedi ymddeol ar ôl gweithiofel ymarferydd adran llawfeddygaeth Ysbyty Gwynedd am ddeugainmlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi gweld llawer iawn onewidiadau yn y gwasanaeth iechyd, wedi gweithio yn y gwasanaethambiwlans, Ysbyty Môn ac Arfon ac Ysbyty Gwynedd. Mae deugainmlynedd o waith di-dor yn dipyn o gamp, ac er ei fod yn dweud ei fod ynedrych ymlaen at seibiant, mae’n siŵr y bydd yn colli ei gyfeillion, sef ymeddygon, y gweinyddesau a phawb o fewn yr adran lawfeddygaeth,ond yn bennaf oll y cleifion a fu’n gysylltiedig â nhw.

Dros y blynyddoedd mae Bernard wedi rhoi ymroddiad o gant y cant i’wwaith ac i’w gleifion, ac wedi ceisio gwneud ei orau i’w cysuro pan yncael eu paratoi am lawdriniaeth, bach neu fawr, gan fod llawer iawn ynofn yr anwybod pan yn wynebu llawdriniaeth ac yn cael eu rhoi i gysgutra bo’r driniaeth yn cael ei chyflawni.

Hoffai Buddug Jones, priod Bernard, ddiolch yn gynnes iawn igydweithwyr a chyfeillion Bernard am eu ffyddlondeb a’u cyfeillgarwchdros y deugain mlynedd ddiwethaf. Hoffai Buddug hefyd ddiolch iddoam ei garedigrwydd dros y deugain mlynedd ers eu cyfarfod yn YsbytyMôn ac Arfon.

Pob lwc, Bernard, mae’n amser ymlacio a rhoi traed i fyny rŵan, ar ôlgweithio mor galed. Mwynha dy ymddeoliad a diolch am dy wasanaethgwerthfawr ar hyd y blynyddoedd.

Gorffwysfan

Ar ddydd Mawrth, 13 Medi,aeth 36 o aelodau a chyfeillionar wibdaith i Southport. Cafwyddiwrnod ardderchog a’r tywyddyn weddol. Diolchwyd am ytrefniadau gan y Cadeirydd.

Pwyllgor Fore Gwener, 16 Medi am 11.15y bore gyda Mr Eric Jones(cadeirydd) yn y gadair. Cafwydgair o groeso i bawb gan yCadeirydd. Dyma’r aelodau aoedd yn bresennol: Eric Jones,Jac Evans, Denis Dart, ElfedBullock, O.J. Evans, DafyddPritchard a Joe Hughes,Rhiannon Efans a Vernon Owen.

Cafwyd coffâd am y diweddarMr R. Lloyd Jones a safodd yraelodau i ddangos eu parch.Darllenwyd cofnodion pwyllgorfore Llun, 28 Chwefror 2011, acfe’u cafwyd yn gywir.

Cafwyd sylwadau am y tairgwibdaith. Barn yr aelodau oeddbod y tair wedi bod yndderbyniol iawn a bod yraelodau wedi mwynhau yn fawriawn.

Materion i’w trafod Cinio Nadolig 2011, ar ddyddMawrth, 6 neu 13 Rhagfyr. BaeColwyn yn y bore ac yna iFetws y Coed i ginio, yrysgrifennydd i drefnu’r gwesty.

Bore CoffiWedi trafodaeth ynglŷn âchynnal bore coffi yn 2012,gadael i’r ysgrifennydd drefnudyddiad.

CyllidCafwyd adroddiad ar y sefyllfaariannol gan y Trysorydd Mr JoeEvans. Diolchwyd i’r trysorydda’r ysgrifennydd gan ycadeirydd.

Dymunodd y cadeirydd ben-blwydd hapus i’r trysorydd JoeEvans a fyddai’n dathlu pen-blwydd arbennig ar ddydd Llun,18 Medi, 2011.

Dyddiadau i’w cofioBydd y rhestr cinio Nadolig yngNgorffwysfan ddechrauTachwedd. Dyddiad gwibdaith iLerpwl yw dydd Mawrth, 6Rhagfyr, ac yna cinio Nadolig arddydd Mawrth, 13 Rhagfyr.

Page 5: Hydref 2011

Yr Eglwys UnedigGweinidog: Y Parchedig Geraint Hughes

Cofion at yr holl aelodau ynenwedig y rhai sy’n wael neumewn profedigaeth. Deallwn fodArthur a Nerys wedi caeldamwain ar y ffordd o’r capel nosSul, 2 Hydref. Da deall nachawsant eu brifo. Dymunwn bobbendith ar briodas y ddau ar 21Hydref er ein bod yn gofidio colliArthur o’r ardal lle bu morweithgar mewn llawer cylch.

Peidiwch â chadw’n ddieithr ondgalwch i’n gweld o dro i dro. Fefu’r Haf Bach Mihangel ynanrheg dderbyniol cyn oerni’rgaeaf ond yn awr gyda’r tywyddwedi troi, edrychwn ymlaen atweithgareddau’r gaeaf. Mae’rCwrdd Gweddi Misol a’r Seiateisoes wedi dechrau ac fe fyddemyn falch iawn o gael croesawumwy ohonoch atom. YGweinidog oedd yn gyfrifol amdrefnu Cyfarfod Gweddi misMedi gyda chymorth MenaiWilliams, Eurwen Morris a CeriDart.

Cynhaliwyd oedfa wahanol ar ybore Sul cyntaf o Fedi sef oedfayn cael ei chynnal ym MhlasFfrancon gyda chwaraeon i’rplant ar ôl cyfarfod dechreuol byr.Bore Sul cyntaf mis Hydref, fe fuun o ferched ifanc yr eglwys sefSioned Williams yn cynnal yroedfa gan roi i ni hanescyfarfodydd Soled Out a gynheliryng Ngholeg y Bala bob haf. BuSioned yno ddwywaith achawsom ganddi ei phrofiadau hiyno a blas ar y canu yno.

Diolch yn fawr i Sioned a phobhwyl iddi wrth iddi ddechrau arail flwyddyn ei chwrs ymMhrifysgol Bangor.

Yr Eglwys UnedigGwasanaethau’r Sul

16 Hydref Y Gweinidog23 Hydref Parch. Iorwerth Jones Owen30 Hydref Mr Clifford Owen(10.00) Parch. G. Roberts (5.00)6 Tachwedd Y Gweinidog13 Tachwedd Mr Dafydd Iwan

Llais Ogwan 5

ac i bawb a fu’n gweini’r bwyd.Rhoddwyd Gwobr Lwcus ganGlenys Clark a’r enillydd oeddRita Bullock.

Fe gawsom ein diddanu ganBarti’r Boncathod a fu’n canu euffordd drwy Gymru o Sir Fôn iSir Forgannwg. Roedd pawb wedimwynhau eu canu swynol a’ucwmni diddan. Fel ag o’r blaenroeddent wedi gosodcystadleuaeth sef dyfalu hyd ydaith mewn milltiroedd acenillwyd y bocs o siocled gan einhaelod newydd.

Diolchwyd i bawb am noson morhwyliog gan Ffion Rowlinson. Ytro nesaf, fe fyddwn yn cyfarfodmewn gwesty ar gyfer Cinio’rDathlu.

Cofiwch am ein Bore Coffi boreSadwrn, 22 Hydref yn NeuaddOgwen o ddeg o’r gloch y borehyd hanner dydd.

Pasiant gan aelodau Sefydliad y Merched, Carneddi

yn ystod y pumdegau

Chwith i’r dde: Mrs Maggie Brookes, Mrs Llew Ela Williams, MrsFreddie Ward, Miss Katy R..., Miss Williams (athrawes yn YsgolPenybryn), Mrs Nora Griffith (y Frenhines Victoria, yn eistedd), MissGracie Roberts, Miss Ethel Thomas, Mrs Jones (y Banc Midland), Mrs‘Captain’ Jones. (Diolch i Margaret Jones, Pantglas, Bethesda am anfon y llun atom.)

Capel Bethania

23 Hydref: Miss Eleri Ll. Jones30 Hydref: Parch. E. Trefor Jones6 Tachwedd: Miss Eleri Ll. Jones13 Tachwedd: Parch. TecwynRoberts20 Tachwedd: Parch. GwynforWilliams27 Tachwedd: Mr Glyn Owen.

Oedfaon am 5.30. Croeso cynnes i bawb.

CarneddiDerfel Roberts,

84 Ffordd Carneddi (600965

Priodas

Llongyfarchiadau mawr i Siôn aGwawr ar eu priodas yn Nolgellauar 27 Awst. Mae Siôn gynt oFryneithin, Llanllechid a Gwawr oDdolgellau. Maent yn awr wediymgartrefu yn Llidiart y Gwenyn,Carneddi. Dymuna’r ddau ddiolcho galon am yr arian, y cardiau a’ranrhegion a dderbyniwyd.

GenedigaethLlongyfarchiadau i Meilyr a MariWyn, 21 Stryd Cefnfaes arenedigaeth mab, Deio Emlyn Wyn,ar 4 Hydref, ŵyr i Dei a June,Rhoslan, Ffordd Bangor ac i Ieuana Blodeuwedd, Talgarreg, FforddCarneddi; a gor-ŵyr i Noreen, 12Adwy’r Nant a Mona, Dôl Eilian,Llanberis,Dymuna Meilyr a Mari ddiolch ynfawr i bawb am y cyfarchion, ycardiau a’r anrhegion.

DiolchDymuna teulu y ddiweddar MabelSturrs, 15 Bontuchaf, Carneddiddatgan eu diolch am bob arwyddo gydymdeimlad a ddangoswydtuag atynt yn eu profedigaeth ogolli mam, nain a hen nain.Diolch am y rhoddion tuag at StaffNyrsio Cymunedol. Diolch i’rficer, Nia Williams a’r ParchedigGeraint Hughes am eu gwasanaethar ddiwrnod yr angladd ac am eutrefniadau gofalus. Diolch yn fawriawn i bawb.

Llyfrgell Bethesda

Da iawn chi, y 51 o blant agymerodd ran yn y SialensDdarllen, Sêr y Syrcas,dros yr Haf.Llongyfarchiadauarbennig i’r 31 alwyddodd ei orffen. Mae’rmedalau ar eu fforddiddynt a byddant yn euderbyn yn eu hysgolion arôl yr Hanner Tymor.

Gwahoddiad

i Dendro

Mae Cwmni Tabernacl yn dymuno

penodi Rheolwr Prosiect ar gyfer

cam nesaf eu cais am grant i

uwchraddio Neuadd Ogwen.

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi

diddordeb yw 28 Hydref, 2011.

Dylid cysylltu â Dyfrig Jones ar

07810 874882 neu

[email protected]

am ragor o fanylion.

Page 6: Hydref 2011

Llais Ogwan 6

Rachub a

LlanllechidDilwyn Pritchard, Llais Afon, 2 Bron Arfon,Rachub LL57 3LW ( 601880

Raymond Tugwell, 9 Ffordd Llanllechid ( 601077

Capel Carmel Mis Medi eto a daeth yn bryd dechrau ar weithgareddau o’r newydd.Mae’r Dosbarth Gwau wedi ail-ddechrau ac mae’r Te Bach yn ytebot eto. Penderfynodd y merched fod arian y te i’w rhoi yn gymorthtuag at argyfwng sy’n bodoli oherwydd y sychder mawr yn NwyrainAffrica. Anfonwyd £120 at Apêl Cymorth Cristnogol. Diolch i bawbsydd wedi helpu neu gefnogi’r Te Bach.

Bu aelodau ifanc Clwb Dwylo Prysur yng nghartref yr EsgobWilliam Morgan yn yr Wybrnant gerllaw Penmachno. Maegweithgareddau’r Clwb ar hyn o bryd wedi eu seilio ar thema’r daithi’r Wybrnant. Erbyn diwedd mis Hydref mi fydd arddangosfa o’ugwaith nhw i’w gweld yn y Capel. Bydd croeso i bawb ddod i weld ygwaith bryd hynny.

Dyma’r bobl ifanc yn y Wybrnant.

Canolfan Rachub

Disgo Calan Gaeafi Blant

Nos Wener, 28 Hydref6 yr hwyr – 9 yr hwyr

Mynediad: £1.00

Taith Gerdded LwyddiannusDaeth criw da i gymryd rhan yn ydaith gerdded flynyddol o LynOgwen i lawr yr hen ffordd cyngorffen yn Felin Fawr. Paratowydpicnic gan Ann gyda help ganHeather a chaniatâd parod ganAnti Doris, Fferm Maes Caradog.Codwyd £1,800.58 yn ystod ydaith ac fe rannwyd yr arianrhwng yr achosion a ganlyn:

£750 i Grŵp Asperger acAwtistiaeth£750 i C.L.I.C. (Cancr aLewcemia mewn plentyndod)cronfa Ysbyty Gwynedd£150 at Ysgol Sul Carmel, Rachub£150 at Gylch Ti a Fi, Llanllechid

Mae Raymond a drefnodd y daitham ddiolch am gymorth parodcwmnïau tacsis A1, Penrhyn aCeir Pesda am iddynt gludo’rcerddwyr at Lyn Ogwen, PoptyCae’r Groes, Londis (llwyddoddJoni yn Londis i gasglu £500 eihun) ac Anti Doris, MaesCaradog. Ac wrth gwrs ycerddwyr a’r cyhoedd a noddoddy cerddwyr.

CydymdeimloAnfonwn ein cydymdeimlad atSheila, Rita a Ken a’u teuluoeddar golli mam a nain annwyl, MariaMorgan, Tyddyn Canol yn 86mlwydd oed. Un o gymeriadau’rpentref, bob amser â gwên achyfarchiad i bawb. Daeth i fywi’r ardal o’r Eidal pan briododd ydiweddar Will Morgan.Anfonwn ein cofion hefyd atBruna Williams, a fu’n gyfaillmawr i Maria a’r teulu ar hyd yblynyddoedd.

GwellhadAnfonwn ein cofion at drigolionsydd wedi derbyn triniaethaumewn ysbytai dros yr wythnosaudiwethaf. Yn eu plith mae MrsAnnie Rowena Jones, Hen Barc aMrs Joyce Thomas, Bron Arfon.

GenedigaethLlongyfarchiadau i Danielle aDylan, Stryd Fawr ar enedigaethmerch, Erin Medi, chwaer fach iHanna. Llongyfarchiadau hefyd iAlison a Geraint y Royal Oak arddod yn nain a thaid ac i BetJones, Cae’r Groes ar ddod yn hennain unwaith eto.

DiaconiaidMrs Megan Tomos a Mrs Rhian Roberts a etholwyd yn ddiaconiaid a’usefydlu gan y Gweinidog Geraint Hughes.

HeddwasLlongyfarchiadau a dymuniadaugorau i Marc Lee Griffiths sydd wediymuno â’r heddlu yn yr Alban. Maedau o’r teulu erbyn hyn yn yr heddlu.

Dyma Marc yn ei wisg arbennig.

Cartref NewyddDymuniadau gorau i Jenna a Davidyn eu cartref newydd, Cae Rhosydd,Llwyn Bedw.Hefyd i Einir, (Talysarn) a Stephensydd wedi symud i’w cartref newyddar Lôn Pant Hwfa, Llanllechid.

Y GanolfanMae Ann Tugwell am ddiolch am yblodau a’r anrhegion a dderbynioddar achlysur gorffen ei gwaith felgofalwraig y Ganolfan. Bydd rhaidcysylltu â’r Cynghorydd GodfreyNortham ar 01248 600872 ynglŷn âbusnes y Ganolfan o hyn allan.

Clwb IeuenctidMae’r Clwb sydd yn cyfarfod yn yGanolfan, Rachub bob nos Lun a nosIau rhwng 7 o’r gloch a 9 o’r gloch ynawyddus i gael mwy o aelodau – sefpobl ifanc dros 12 oed. Y gostymaelodi yw 50c. Mae cyfle i gymrydrhan mewn llu o weithgareddau feltenis bwrdd, pŵl, coginio, celf achrefft, trafod pynciau yn ymwneudâ’r ifanc a nifer o gystadlaethau.Gobeithiwn weld llu ohonoch ynodros y gaeaf.

Ar y teleduYm mis Medi ar y rhaglen ddogfen‘Doctor Doctor’ a ddarlledwyd arS4C gwelsom wyneb cyfarwydd sefLlinos Bryn o Fron Arfon. Adroddoddei hanes am fyw gydag epilepsi.Roedd yn siarad yn rhagorol wrthddisgrifio ei hamgylchiadau ac mae’nsicr bod ei siarad plaen ac agoredwedi bod yn symbyliad i eraill gydagepilepsi.Mae Llinos ar hyn o bryd wedicychwyn astudio ym MhrifysgolBangor gan ddilyn cwrs rheolaeth.Llongyfarchiadau Llinos a phobdymuniad da yn y coleg a’r dyfodol.

Capel CarmelTrefn Gwasanaethau

23 Hydref:

Y Parch. Gwynfor Williams 5.30

30 Hydref: Y Gweinidog 2.00 a 5.30

6 Tachwedd: Mr Dafydd Iwan 5.30

13 Tachwedd: Y Gweinidog 2.00 a 5.30

20 Tachwedd: Parch T. Roberts 2.00

Ysgol Sul 10.30 y boreClwb Dwylo Prysur, nos

Wener, 6.30 yr hwyr.

Te BachPnawn Llun, 24 Hydref

2.30 i 4 o’r gloch

Croeso cynnes i bawb

Carmel,Llanllechid

Clwb Dwylo Prysur

Arddangosfao waith y bobl ifanc

ar ôl bod yng nghartrefYr Esgob William Morgan

yn Yr WybrnantDydd Gwener, 21 Hydref

(1 - 7.30 o’r gloch)Dydd Sul, 23 Hydref 10.30 i

12.00 o’r gloch a 3 i 4 o’r glochDydd Llun, 24 Hydref

(2 i 4 o’r gloch)Mynediad £1 (yn cynnwys

paned a bisgedi)Yr elw’n mynd at brynu llyfrau

Cristnogol.

Page 7: Hydref 2011

Llais Ogwan 7

GerlanAnn a Dafydd Fôn Williams, 14/4 Stryd y Ffynnon, Gerlan ( 601583

Capel BethelGwasanaethau

23 Hydref: Miss Eleri Lloyd Jones30 Hydref: Mr Merfyn Jones6 Tachwedd: Parch. Elwyn Jones13 Tachwedd: Y Gweinidog20 Tachwedd: Parch. Dafydd Job27 Tachwedd: Parch. HuwPritchard.

Oedfaon am 2.00 o’r gloch. Croeso cynnes i bawb.

CydymdeimloRydym yn cydymdeimlo gydaMartin a Rhiannon Sturrs, Stryd yFfynnon, a Pat a Joan Sturrs,Ffordd Abercaseg, a’r teulu i gydyn eu profedigaeth fawr o gollimam Martin a Pat, sef y ddiweddarMrs Mabel Sturrs, Bont Uchaf.Pob cydymdeimlad â chi yn eichprofedigaeth fawr.

ProfedigaethDaeth newyddion trist iawn i’rpentref yn ddiweddar, gydamarwolaeth sydyn MelvynWilliams, Ciltrefnus. Dim ondcwta flwyddyn sydd ers iddo golliei wraig yn sydyn. Rydym yncydymdeimlo’n fawr gyda’i ddwyferch a’r teulu i gyd yn eu colledfawr.

Hen nain a hen daidLlongyfarchiadau mawr i Richarda Rhiannon Hughes, Stryd yFfynnon, ar ddod yn hen daid ahen nain unwaith eto. Ganedmerch fach, Erin, i’w hŵyr, Dylan,a’i bartner, Danielle. Pob hwyl ichi i gyd fel teulu, a dymuniadaugorau i’r dyfodol.

GeniLlongyfarchiadau mawr i Meth acEmily, Stryd Hir, ar enedigaeth eumerch fach, Cadi Haf. Mae pawbwedi gwirioni ar y fechan. Rydymhefyd yn llongyfarch Gwyndaf aRhian, Ffordd Gerlan ar ddod yndaid a nain. Pob hwyl i chi i gyd.

Y CabanCynhelir Noson Calan Gaeaf yn yCaban ar 31 Hydref. Byddcystadlaethau amrywiol yn ystod ynoson, a bydd cawl a chŵn poethar gael fel lluniaeth. Bydd y nosonyn cychwyn am 6.00. Dewch ynllu i fod yn rhan o’r hwyl!

Diolch i bawb a gefnogodd y BoreCoffi a drefnwyd yn NeuaddOgwen at y Caban, yn arbennig yrheini a gyfrannodd nwyddau at ystondinau a’r raffl. Diolch, hefyd, ibawb a gefnogodd Sioe GlybiauBara Caws, oedd wedi ei threfnu igodi arian at Neuadd y Caban.Diolch i bawb a gyfrannodd at yraffl.

Cyfarfod Blynyddol y CabanCynhelir y cyfarfod blynyddol yny Caban am 7.00, nos Lun, 7Tachwedd. Croeso cynnes i bawb.

LlwyddiantRydym yn llongyfarch Siôn Doyle,Tyddyn Du, Gerlan. Mae Siônwedi graddio mewn TystysgrifGenedlaethol Uwch mewnTechnoleg Drydanol ac Electronig.Llongyfarchiadau mawr oddiwrthym i gyd, ac yn arbennig fellyoddi wrth mam, dad, Dion a’rteulu i gyd.

Siôn Doyle, Tyddyn Du

Hwyl ar yr hwylio

Mae Mari a Iago Davies, Tŷ Dŵr yn cael cryn lwyddiant yn hwylio acwedi bod yn brysur iawn dros yr haf. Dyma ychydig o’u hanes.Mae Iago, 12 oed, yn hwylio cwch Optimist ac yn aelod o garfan Cymru.Mae’n cystadlu mewn dosbarth ar gyfer pobl ifanc dan 16 oed ac wedicystadlu dros Gymru ar ddechrau’r haf yng Ngemau’r Iwerydd yn erbynhwylwyr o Sbaen a Ffrainc a gorffen yn y 5ed safle. Rasiodd ymMhencampwriaeth Prydain ym Mhwllheli yn erbyn dros 400 o hwylwyreraill o bob man yn y byd (America, De Affrica, Seland Newydd ac yn yblaen). Gorffennodd yn safle 35 ac fel y 18fed hwyliwr o Brydain. Ynystod yr wythnos cafodd gamera ei osod ar ei gwch gan gwmni teledu argyfer rhaglenni Digwyddiadau ac Wedi 7. Mae o hefyd wedi hwylio ynystod mis Awst ym mhencampwriaeth Iwerddon yn Howth.

Iago Davies, Tŷ Dŵr

Mae Mari hefyd yn aelod o garfanCymru ac yn hwylio cwch unperson sef y Topper. Mae hi’n 14oed ond yn rasio yn erbyn poblifanc hyd at 19 oed gan fod yTopper hefyd yn gwch ieuenctid.Treuliodd wythnos a hanner ymmis Gorffennaf yn North Berwickyn yr Alban cyn mynd draw i’rIwerddon i gymryd rhan ymMhencampwriaethau Topper yByd yn Dun Laoghaire.

Mari Davies,Tŷ Dŵr

Cafodd wythnos lwyddiannus iawn a llwyddodd i ennill lle yn y fflyd aur ar ôl y gyfres o rasys cychwynnol ahynny yn ei blwyddyn gyntaf yn y cwch. Gorffennodd yn safle 53 a’r 15fed merch o dan 19 oed. Cafoddnewyddion da ychydig o wythnosau yn ôl pan gyhoeddwyd rhestr o ddetholion Prydain ar gyfer y flwyddynhyd yma. Mae hi’n ail yn y rhestr o enethod iau gydag un gystadleuaeth ar ôl i gyfrif. Mae’r ferch sydd yngyntaf ar hyn o bryd hefyd yn Gymraes.

Mae gan Mari a Iago un gystadleuaeth bwysig yr un yn weddill cyn yr Hydref a chyn clywed os bydden nhwwedi llwyddo i ennill llefydd yng ngharfan hwylio Prydain ar gyfer 2011/12. Llongyfarchiadau mawr i’r ddauohonynt ar eu llwyddiant yn y byd hwylio.

Glasinfryn

CaerhunMarred Glynn Jones2 Stryd Fawr, Glasinfryn,Bangor LL57 4UP01248 [email protected]

CydymdeimloBu farw Mrs Margaret MaryJones (Maggie), (gynt o 6Caerhun) yng NghartrefPenisarwaen ar 30 Medi, yn 96oed. Bu’r angladd ym mynwentPentir ar 5 Hydref.Cydymdeimlwn â’i mab Bryn a’ibriod Helen, Kevin ei ŵyr, a’rteulu oll yn eu profedigaeth.

Bingo a Noson GoffiCafwyd noson Bingo lwyddiannus yny Ganolfan ar 30 Medi. Braf iawnoedd gweld cynifer o blant o Gaerhunyno a ddaeth i gefnogi elusen y noson,Ysgol Pendaral. Gwnaed elw o £102.Diolch yn fawr iawn i bawb am bobcyfraniad tuag at y noson. Bydd yBingo nesaf ar 4 Tachwedd am 7.30,a’r elw yn mynd tuag at yrYmddiriedolaeth Meningitis Lleol.

Clwb Cant y Ganolfan – Medi£20 – 148 Joan Lear£10 – 8 – Nesta Parry£5 – 127 – David Thomas£5 – 41 – Alwen Gardner

CofionAnfonwn ein cofion at Mr HefinParry, Tŷ Capel, Caerhun, adderbyniodd lawdriniaeth yn yr ysbytyyn ystod yr haf. Mae Hefin gartreerbyn hyn, a dymunwn yn dda iddowrth iddo barhau i wella.

Sefydliad y MerchedDaeth tymor yr Hydref a dechrau difyri weithgareddau’r gangen. Estynnwydcroeso i bawb gan ein llywydd, MrsIngrid Farrer, cyn cyflwyno’r gŵrgwadd, Mr Nigel Brown o erddiTreborth.Ceidwad y gerddi llysieuol yw MrBrown er y saithdegau ac felly yngwybod am hanes yr ardal yn bur dda.Mae’n ddyn llawn brwdfrydedd sy’nadnabod pob modfedd o’r gerddi, yllwybrau, y planhigion, y coed ac ati.Cafwyd hanes a sleidiau diddorol iawnam y llecyn tawel hyfryd yma ar lan yFenai. Mae llwybr arfordirol wedi eigreu sydd yn werth ei cherdded ifwynhau golygfeydd dros y Fenai iFôn.Diolchwyd i Mr Brown gan Mrs JanetRees, a darparwyd paned gan MrsGrace Mudd a Mrs Cora Fielding.Croeso i Mrs Ann Williams yn aelodnewydd, gan obeithio y cawn fwy oaelodau i fwynhau ein cyfarfodydd.

Page 8: Hydref 2011

Llais Ogwan 8

Blodau Hyfryd7 Rhes Buddug, Bethesda

602112 (gyda’r nos 602767)

Blodau ar gyfer pob achlysur

Priodasau, Angladdau ayybFfres a Sidan

Gwasanaeth ‘Archebu a Danfon’

CAFFI COED Y BRENIN1 Rhes Buddug, Bethesda

Ffôn: 01248 602550

Bwyd cartref blasus

(mewn awyrgylch cyfeillgar)

Cinio arbennig bob dydd Iau

Bwyd i’w gario allan

Gwasanaeth arlwyo ar gyfer

partïon o bob math -

plant, pen-blwydd ac ati

(yn y caffi neu mewn lle o’ch dewis chi)

Cacennau ar gyfer pob achlysur

e.e. priodas neu ben-blwydd

Prisiau rhesymol

Atgyweiriadau teledu a fideo, offer sain, derbynwyr lloeren.

Hefyd gwerthiant a gwasanaeth

38 Stryd Fawr, Bethesda LL57 3ANFfôn/Ffacs 01248 602584

electricalsandrew duggan

Cerbydau PenrhynCabiau a bysiau mini

Ffôn: (01248) 600072

Meysydd awyr PorthladdoeddContractau

Contractwyr i Wasanaeth

Ambiwlans Gogledd Cymru

“j.r.”SGAFFALDWYr

Yr Iard, Ffordd StesionBethesda

Ffôn: (01248) 601754

Dyma ni - sgaffaldwyr o fri

Gorsaf betrol

B E R A ND e i n i o l e n

Ffôn: Llanberis 871521Ar agor 6.00am – 11.00 bob dydd

Petrol • Diesel • Nwy Calor • GloCylchgronau • Papurau newydd Cardiau pen-blwydd • Melysion

Tocynnau loteri Gwasanaeth PAYPOINT ar gyfer

trydan, nwy, ffonau symudol,trwyddedau teledu ayyb

Gwasanaeth Trin

a Thorri Gwallt Ceri1 Bryn Eglwys

Llanllechid

Gwynedd

LL57 3LE

Ffôn: 07796 583 203

MODURON

PANDY

Cyf.

TregarthGwasanaeth Atgyweirio

Canolfan ‘Unipart’

M.O.T.

Ffôn: 01248 600619 (dydd)

Modurdy Central

Ceir ail-law ar werthM.O.T. ar gael

HefydTrwsio a Gwasanaeth

Ar Allt Pen-y-bryn, Bethesda

601031

ConTrACTWYr ToI2 Hen Aelwyd, Bethesda

600633

(symudol) 07702 583765

Arbenigo mewn gwaith ffelt a pitsio.

Hefyd toeau llechi a gwaith yswiriant.

Gadewch i ni gynnig pris rhesymol am

waith diguro.

m.hughes

a’i fab

Sefydlwyd 1969

Y Douglas Arms* Lluniaeth i Bartïon * Te Cynhebrwng *

* Gardd Gwrw * Te a Choffi *Oriau Agor

Llun – Gwener: 5.00 – 11.00

01248 600219 www.douglas-arms-bethesda

Cewch groeso cynnes gan Gwyn, Christine a Geoffrey

BISTRO’R BRENIN

(Bwyty Trwyddedig)Rydym yn croesawu partïon

o bob math – dathlu pen-blwydd

ac achlysuron arbennig eraill.

Beth am eich Parti Nadolig?

Ffoniwch

01248 602250e-bost : [email protected]

MODURDY FFRYDLAS

Perchenogion

I.D.Hughes ac A. Ll. Williams

Stryd Fawr, Bethesda ProFIon M.o.T.

GWASAnAETH ATGYWEIrIoTEIArS A BATrIS

GWASAnAETH TorrI I LAWr

nEU DDAMWAIn

600723 Ffacs: 605068

Profion

M.O.T.

01248 361044 a 07771 634195

Bysus o 25 i 57 sedd ar gael ar gyfereich holl anghenion teithio -

tripiau, priodasau, partïon ac ati.

Gwasanaeth lleol, traddodiadol a dibynadwysefydlwyd 1997 perchennog: derfel owens

Mae

OWENS TREGARTHeisiau

Gyrrwr Profiadola Chydwybodol

(gyda thrwydded PSV a/neudrwydded Cludiant Preifat)

Cysylltwch ar:01248 602260

neu 07761619475e-bost: [email protected]

Page 9: Hydref 2011

Llais Ogwan 9Llais Ogwan 9

Eglwys Sant Tegai

GwaeleddRydym yn anfon ein cofion a’ndymuniadau da at Mrs JaneCouch, Mrs Beryl Edwards, MrGwynne Edwards, Harry Grossa Mrs Sue Matthews. Rydymyn meddwl llawer amdanoch acyn eich colli’n arw.

Taid a NainLlongyfarchiadau i Mr a MrsRaymond Edwards, Hen Dŷ’rYsgol ar ddod yn daid a nainunwaith eto. Ganwyd bachgenbach i Catrin a MichaelEdwards sydd yn byw ymMethel ger Caernarfon. MaeHenri wrth ei fodd yn edrych arôl ei frawd bach a bydd Paulinea Raymond yn brysur iawn ynedrych ar ôl Tomos a Cedic panfo’r angen – bendith Duw ar yddau deulu bach.

Pen-blwyddLlongyfarchiadau a phobdymuniad da i Miss NerysJones fydd yn dathlu ei phen-blwydd ar ddydd Gwener, 21Hydref – gobeithio y cewchddiwrnod wrth eich bodd.Hoffwn ar ran aelodau’r eglwysi gyd, ddiolch i chwi am lafuriomor galed er lles Sant Tegai a’raelodau – mawr yw ein dyled ichwi.

Gŵyl DdiolchgarwchRoedd Eglwys Maes y Groeswedi ei haddurno, fel arfer, ynhyfryd iawn ar gyfer Gŵyl

Ddiolchgarwch am y cynhaeaffore Sul, 18 Medi. CynhaliwydSwper y cynhaeaf ar nos Wener,23 Medi yn yr Ysgoldy a bu’nllwyddiant mawr.Roedd prysurdeb mawr ynEglwys y Santes Fair, Tregarthar Sul, 25 Medi hefyd. RoeddGŵyl y Cynhaeaf yn y bore am9.45 a Gosber y cynhaeaf am5.00 yr hwyr. Diolch i’r ddwyeglwys am eu croeso i’wgwasanaethau undebol.

Gosber y CynhaeafNos Sul, 2 Hydref cynhaliwydGwasanaeth Diolchgarwch danarweiniad y Parchedig JohnMathews a Mr Geraint Gilloedd yr organydd. Roedd yreglwys wedi ei haddurno ynhardd iawn a diolch i Hazel acAnne (Talybont) am nôl yblodau ac i bawb a fu’n helpufore Sadwrn i baratoi yr eglwysar gyfer yr Ŵyl. Croesawydpawb i’r neuadd ar ôl ygwasanaeth i gael coffi, te abisgedi a chael sgwrs gan Ddr.Einir Young am y pentref bachGamoa Abiri yn Ghana sydd yngyfeillgar â ni yn Sant Tegai.Diolch i bawb a gymerodd ranyn y gwasanaeth i’r ficer MrJohn Matthews i Einir Young, iGeraint Gill ac i’r merched fu’ngweini yn y gegin.

DyweddïoLlongyfarchiadau i Mark Jones, 67 BroEmrys, a Becky o Hwlffordd ar eudyweddïad yn ddiweddar. Dymuniadaugorau i’r ddau.

YsbytyGwellhad buan i Thelma Williams, 68Bro Emrys, yn dilyn triniaeth ar ei llawyn Ysbyty Gwynedd yn ystod y mis.

NainLlongyfarchiadau i Nansi Newman,Cartref, Talybont am ddod yn nainunwaith eto. Ganwyd Maxwell Siôn iSarah ei merch a Jason sydd yn byw ymMangor.

DiolchDymuna Eirlys, Bro Emrys, ei chwaerOwena a’i brawd Gwynn ddiolch ynddiffuant i’w perthnasau, ffrindiau a’ucymdogion am bob arwydd ogydymdeimlad - yn alwadau ffôn,ymweliadau, cardiau a rhoddion haeltuag at Gartref Gofal Plas Garnedd,Llanberis ac Ambiwlans Awyr Cymruyn dilyn colli Mam arbennig iawn, Nainannwyl a Nan-Nan hoffus, sef MrsOlwen Jones, Garth, Ceunant, gerLlanrug.Diolch i’r Parch. Geraint Hughes a’rParch. Marcus Robinson am wasanaethclodwiw yng Nghapel y Rhos, Llanrugac i’r organyddes, Mrs Mair Hughes.

TalybontNeville Hughes, 14 Pant, Bethesda ( 600853

Capel Bethlehem

23 Hydref: Parch. Iorwerth Jones-Owen, C’fon;30 Hydref: Parch. Trefor Jones, C’fon;6 Tachwedd: Y Gweinidog;13 Tachwedd: Mr J.O. Roberts, Bethesda;20 Tachwedd: Parch. W.R. Williams, Y Felinheli.

Oedfaon am 2.00.

Croeso cynnes i bawb.

ProfedigaethCydymdeimlodd y gynulleidfa âMrs Eirlys Ellis, 20 Bro Emrys, ynei phrofedigaeth lem o golli mamannwyl iawn ar 10 Medi. Bu Eirlysyn fawr ei gofal o’i mam, MrsOlwen Jones, Garth, Ceunant,Llanrug, a fu farw yn 91 mlwyddoed wedi gwaeledd hir. Mae’ncydymdeimlad yn ymestyn at yteulu i gyd ar yr adeg drist hon yneu hanes.

BwrlwmBu nifer o’r aelodau yn Galeri,Caernarfon ym mis Medi i fwynhau‘Tonic Toc Cyn Cinio’ yngnghwmni’r tenor enwog RhysMeirion ac Annette Bryn Parri. Aedymlaen wedyn i Ganolfan GarddioFrongoch i gael cinio. Pawb wedimwynhau eu hunain.Mae trefniadau’r cinio Nadolig yny Faenol Arms, Pentir, ar nosWener, 9 Rhagfyr, ar y gweill.Cofiwch fod croeso i bawb ddod igyfarfodydd y Bwrlwm bobpythefnos.

Eglwys Maes y Groes

Cynhaliwyd gwasanaethDiolchgarwch undebol ar 18Medi. Arweiniwyd ygwasanaeth o GymunBendigaid gan ein ficer yParchedig John Mathews gydaGeraint Gill yn cyfeilio.Diolch i’r aelodau am addurno’rEglwys mor hardd.

Ar y nos Wener olynol daethnifer o’r aelodau a’u ffrindiau ifwynhau Swper y Cynhaeaf ynyr Ysgoldy wedi ei drefnu ganJohn ein ficer a’i wraig Sue.Roedd pawb wedi mwynhau ywledd flasus a diolch i bawb amy rhoddion a’r help ar y noson.Gwnaed elw o £140 atailadeiladu Eglwys yn Irac.Cofion at Olwen Thomas syddyn Ysbyty Llandudno a GracieGriffiths sydd yn Ysbyty Eryri.Hefyd Miss Vera Hughes ynYsbyty Gwynedd. Gwellhadbuan i chwi i gyd.

Ar y pnawn Sadwrn cyntaf o’rmis er garwed y tywydd daethnifer dda i’r Ysgoldy i fwynhaubarbiciw wedi ei drefnu gan ydynion a’u gwragedd. Diolch ibawb am eu cefnogaeth ac iDavid Pritchard, Glan Môr Isafam drefnu’r achlysur.

Diolch i Cora a Howard, FelinCochwillan am drefnu borecoffi yn eu cartref tuag at GofalMacmillan. Gwnaed elw o £550a hoffant ddiolch i bawb am eucefnogaeth.

Cynhelir Te Nadolig yn yrYsgoldy ar 19 Tachwedd amhanner awr wedi dau yn yprynhawn. Croeso cynnes ibawb.

LlandygáiEthel Davies, Pennard,

Llandygái (353886

Y CleifionRydym yn anfon ein cofion a’ndymuniadau da at gymdogion affrindiau sydd heb fod yn dda euhiechyd yn ddiweddar. Rhai yncwyno ers tro byd, rhai wedi bodyn yr ysbyty neu’n cael gofalannwyl a ffyddlon gartref: MrsJill Bullen, Ernie a NerysColeman, Ieuan a CeinwenEvans, Jim a Beryl Hughes,Bobby Jones, Alwen Latham,Gwen Morsley, Betty Williams aDorothy Proudley Williams.

ProfedigaethTrist iawn yw cofnodimarwolaeth Mrs Ida FrancesCharlton (Peggy) gynt o LilacCottage, Pentre Llandygái yndawel yng Nghartref NyrsioCeris Newydd ar 18 Medi.Roedd wedi cyrraedd yr oedranteg o 91 mlwydd oed. Roedd ynwraig i’r diweddar JohnCharlton, yn fam annwyl i Susana Margaret, yn nain falch i John

Ellis a chwaer deyrngar i Mary.Bu ei hangladd cyhoeddus ynEglwys Sant Plus X a Sir RichardGwyn RC, Bethesda ddydd Llun,26 Medi ac yna yn amlosgfaBangor. Bydd colled i’w theulu a ninnauar ei hôl. Wedi iddi ymddeol oddysgu daeth yma i fyw yn LilacCottage gyda John ei gŵr, ond nifu Peggy yn segur. Daeth ynaelod o Sefydliad y MerchedLlandygái a dechreuodd glwbbychan Te a Sgwrs. Roedd arbwyllgor Neuadd Talgai, ynofalwr y neuadd a bu’n drysoryddhefyd ar un adeg, os buasai borecoffi neu bingo ar dro, roedd ynobob amser i roddi help llaw. Do feddaeth Peggy a bywyd i’r pentrefbach yma – heddwch i’w llwch.

DiolchiadauDymuna teulu y ddiweddar PeggyCharlton ddiolch i bawb am bobarwydd o gydymdeimlad addangoswyd iddynt yn euprofedigaeth o golli mam, nain achwaer annwyl iawn ac am yrhoddion hael tuag at NyrsysMacmillan. Diolch arbennig i’rholl feddygon, nyrsys, gofalwyra’r cymdogion a fu’n gweini arniyn ei gwaeledd. Diolch i bawb agymerodd ran ar ddydd yrangladd ac yn bennaf oll i MrJohn P. Turner, Bryn Hyfryd,Pentir am ei drefniadau trylwyr.

PentirAnwen Thomas,Min yr afon11 Rhydygroes, Pentir( 01248 355686

LlwyddiantYn ddiweddar, aeth Wesyn aCedol Dafydd i Sheffield igystadlu yn y Teaspoon Galamewn pwll 50 metr. CipioddCedol y fedal arian yn y dullbroga a llwyddodd i gyrraeddrasus terfynol yn y dulliau rhydd aphili pala. Llongyfarchiadau iWesyn am gyflawni amseroeddpersonol da. Bu Wesyn yn yrEidal hefyd ym mis Awst gydaBand Symffonig GwasanaethYsgolion Gwynedd a Môn. Ar ôldychwelyd o’r Eidal, cafodd yBand gyfle i berfformio yngNghadeirlan Bangor a rhannulluniau o’r daith gyda’rgynulleidfa.

Parchu PentirNodyn i atgoffa chwi oll bodParchu Pentir yn cynnal cyfarfodar ail nos Fawrth y mis yn nhafarny Faenol, Pentir am 7.30 yr hwyr.Mae materion fel goryrru yn caeleu trafod felly os am leisio eichbarn mae croeso i chwi ddod i’rcyfarfodydd. Byddwn hefyd yntrefnu dyddiadau ar gyfergweithgareddau fel casglusbwriel. Dewch yn llu i gefnogieich cymuned leol!

Parhad dros y dudalen

Page 10: Hydref 2011

Llais Ogwan 10

John Huw Evans, 30 Bro Rhiwen, Rhiwlas(352835

Rhiwlas

Eglwys Sant Cedol

Clwb 100 – mis Medi 20111af rhif 30 Mair Roberts, Rhiwlas2ail rhif 13 Richard Thomas, Llanfairfechan3ydd rhif 26 Catherine Roberts, Rhiwlas

Noson Tân GwylltCynhelir noson tân gwyllt, ynGlyn Cottage, Nant y Garth arnos Wener, 4 Tachwedd am 7yr hwyr. Mynediad yn £5.00 yncynnwys lluniaeth ysgafn.Croeso cynnes i bawb.

Ffair NadoligBydd y Ffair Nadolig eleni yncael ei chynnal yn y Ganolfan,Glasinfryn, brynhawn Sadwrn,3 Rhagfyr am 2 yr hwyr. Byddamrywiol stondinau, raffl alluniaeth. Croeso cynnes ibawb.

Eisteddfod yr Urdd, Eryri 2012Cynhelir EisteddfodGenedlaethol yr Urdd 2012 ymMharc Glynllifon, sydd ar yffordd o Gaernarfon i Bwllheli.Mae felly o fewn cyrraeddhwylus i bobl yr ardaloedd hyn

i’w mynychu. Yn anffodus maecostau cynnal digwyddiad o’rmath yma yn cynyddu o flwyddyni flwyddyn. Yn achos Eisteddfodyr Urdd dibynnir fwyfwy argyfraniadau gan bobl y cylch llecynhelir yr ŵyl. Er mwyn rhannu’rbaich rhoddir nod ariannol i bobardal ei gasglu. Y nod ar gyferPentir a Rhiwlas yw pedair mil obunnau.I roi cychwyn i’r ymgyrch o godi’rswm yma cynhaliwyd cyfarfodcyhoeddus yn y Neuadd ar 27Medi o dan gadeiryddiaeth ycynghorydd cymuned HefinWilliams pryd y trafodwydgwahanol ddulliau o gyrraedd ynod.

Pwyllgor Apêl Rhiwlas a PhentirLleuwen Steffan Taith Tân gydaSteve EavesNos Fawrth, 1 Tachwedd am 7.30yn Neuadd Bentref Rhiwlas£6.00 oedolion, £5.00 plant aphensiynwyrTocynnau ar gael yn: Siop John,Bethesda, Cob Records, Bangor,Hefin William, Rhiwlas (01248352890), neu wrth y drws ar ynoson.

Bydd y noson yn Neuadd BentrefRhiwlas yn rhan o daith Lleuwendrwy Gymru yn perfformiocaneuon o’i chasgliad diweddaraf‘Tân’, a gyhoeddwyd ar labelGwymon.

Mae’r albwm yn cynnwys caneuongwreiddiol yn Gymraeg aLlydaweg. Mae Lleuwen ynadnabyddus am ei llais gwych,teimladwy a’i dull canu sydd wedi

Casglodd dwy o ferched y pentref y swm o £500, i’w rannu ar y cydrhwng yr ysgol leol a’r elusen ymchwil cancr, trwy daith gerddednoddedig. Cerddodd Angela Tatam o Garreg y Gath a TammyHoldsworth, Wern, Waen Pentir, yr holl ffordd o amgylch Sir Fôn ynystod gwyliau’r haf. Cymerasant chwe diwrnod a hanner i gwblhau’rdaith gan gerdded ychydig ar y tro fel yr oedd amser yn caniatáu acwrth gwrs roedd yn rhaid oedi i fwynhau harddwch yr ynys.Mae’r merched yn pwysleisio y buasent yn ddiolchgar am unrhywgyfraniad pellach a bod y gronfa yn parhau yn agored.

Crwydro Môn

Merched y Wawr

Pleser oedd cael dechrau tymornewydd trwy groesawu aelodnewydd. Estynnodd Ann Robertsein cadeirydd groeso cynnes i SallyWhite i’r gangen yn ogystal ag i’raelodau eraill oedd wedi dodynghyd.Gareth Roberts, Fachwen,Dinorwig oedd ein siaradwr gwaddac fe sicrhaodd inni gychwyngwych i’r tymor. Gwyddai amrywohonom amdano fel awdur y mapdiddorol ac addysgiadol ynamlinellu llwybrau cyhoeddusplwyf Llanddeiniolen addosbarthwyd gan y cyngorcymuned oddeutu blwyddyn yn ôl,ond i gyfeiriad arall yr aeth â ni ytro hwn. Sôn wnaeth am ei gefndirac am ei hynt a’i helynt yn ystod yblynyddoedd gan wneud hynnymewn dull eithriadol o hwyliog adiddorol gan adael pawb yn unfrydddiolchgar iddo ar y diwedd.(Mae’r gangen yn cyfarfod yn yneuadd bentref ar yr ail nos Fawrtho bob mis am saith o’r gloch. Maecroeso cynnes yn eich aros os yrhoffech ymuno gyda ni.)

Clwb Rhiwen

Yn y cyfarfod brynhawn Mercher,28 Medi cafwyd sesiwn bingo wediei drefnu gan John Austin, ef hefyda alwai’r rhifau. Er ein bod yncadw at yr arfer o alw ‘llinell’ a ‘tŷllawn’, rhywbeth rhwng difri achwarae yw gemau bingo’r clwb adweud y gwir. Pawb yn awyddus iennill gwobr - rhoddedig gan yraelodau eu hunain - ond yr hwyl a’rtynnu coes yw’r rhan bwysicaf oddigon, ac er bod edrych ymlaen atbaned a bisged ar y diwedd, mae’rcyfle i gael clonc a sgwrs achyfnewid straeon yn bwysicachhyd yn oed na’r baned.Ond nid cael hwyl yw’r cyfan obell ffordd. Ar 12 Hydref erenghraifft byddwn yn ymweld agOriel Ynys Môn i weld gwaithKyffin Williams a CharlesTunnicliffe ac ar 26 Hydrefdisgwyliwn Maldwyn Roberts o‘Age Concern’ Cymru atom isiarad. Yr unig gymhwyster i fodyn aelod o’r clwb yw eich bod droshanner cant oed.

esblygu o’i gwaith cynnar ym mydcerdd yn Llundain a Paris. Maeerbyn hyn yn artist cwbl wreiddiolsydd wedi datblygu’ngyfansoddwraig caneuon treiddgar.

Yn rhannu’r llwyfan gydaLleuwen fydd Vince Guerin, un ogerddorion mwyaf blaengar achyffrous Llydaw a hefyd, un ogyfansoddwyr a cherddorionenwocaf Cymru, Steve Eaves.

Mae’r noson yn croesawuLleuwen yn ôl i’w milltir sgwâr.Mae Lleuwen yn enedigol oRhiwlas, mynychodd YsgolGynradd Rhiwlas ac wedyn myndymlaen i Ysgol Dyffryn Ogwen,Bethesda.

Mynydd

LlandygáiTheta Owen. Gwêl y Môr, Mynydd Llandygai.( 600744

GwellhadAnfonwn ein cofion at Mr MauriceSwitzer sydd wedi caelllawdriniaeth fawr yn YsbytyGwynedd. Dymunwn adferiadbuan a dymuniadau gorau iddo.

DiolchgarwchBu dathliad Swper Diolchgarwchyn yr Eglwys. Cawsom wleddwerth chweil a phawb wedimwynhau eu hunain. Diolchwn ibawb a fu’n gweithio’n galed igoginio a threfnu. Cafwyd elw o£336. Diolch yn fawr iawn i chwi.

Pen-blwyddAnfonwn ein cyfarchion at MrsMary Gwyneth Griffith, FforddHermon. Pen-blwydd hapus iawn ichwi ar ddathliad hapus.

Yn yr YsbytyDrwg oedd clywed nad yw Mrs. B.Thomas, 5 Penrhiw yn rhy dda acyn Ysbyty Gwynedd. Anfonwn eincofion atoch.

Theatr Genedlaethol CymruBydd National Theatre Wales ynteithio i neuaddau pentref ar drawsy wlad gan gynnwys NeuaddBentref Mynydd Llandygái, gydadarn o theatr gerddorol swreal amacabr - The Village Social.

Mae’r sioe hon wedi’i chreu ar ycyd gan y bartneriaeth arobrynDafydd James a Ben Lewis, y ddauoedd yn gyfrifol am sioelwyddiannus cwlt gŵyl FringeCaeredin, My Name is Sue, sefenillydd Gwobr Total Theatr argyfer Cerddoriaeth a Theatre 2009.Bydd danteithion y noson yncynnwys tocyn raffl, diod o’chdewis a gloddest waedlyd, wyllt.

Bydd y sioe yn ymweld â phentrefMynydd Llandygái nos Sadwrn, 5Tachwedd a Cai Dyfan o FynyddLlandygái yw’r dylunydd ar ycynhyrchiad. Bydd plant lleol yncymryd rhan yn y cynhyrchiadhefyd.

Cynhyrchir The Village Social

gyda chefnogaeth Noson AllanCyngor Celfyddydau Cymru aPontio.Mae’r cast yn cynnwys: CarysEleri, Rebecca Harries, DarrenLawrence, Gwydion Rhys, SueRoderick ac Oliver Wood.

Am fwy o wybodaeth ewch i:nationaltheatrewales.orgNeu ffoniwch 01248 605 437 iarchebu tocyn.

Page 11: Hydref 2011

Llais Ogwan 11

Ordeinio

Ordeiniwyd Gwenda Cooper (gynt Hughes), o Fynydd Llandygái onderbyn hyn yn byw yn Llangernyw, yn ddiacon ddydd Sadwrn, 25 Mehefin2011 yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Yn y llun gwelir Gwenda gyda’i thad,Llewelyn, a’i hewythr Tecwyn Hughes, 25 Ffordd Gerlan.

Clwb Ieuenctid Mynydd

Ar ôl egwyl dros yr haf agorodd y clwb ym mis Medi a gwelwyd nifero wynebau newydd. Cyn gwyliau’r haf cafodd y criw hŷn hwyl a sbriyn Alton Towers ar ddiwrnod o wynt a glaw. Yr oedd y tywydd yn fwyffafriol i’r criw iau yn Gulliver’s World.Mae llawer o weithgareddau ar y gweill yn y clwb dros y gaeaf.Cofiwch fod croeso yn y clwb iau i aelodau newydd o 6.30 i 7.30 bobnos Fawrth. Mae’r aelodau hŷn yn cael bargen – yn cael aros o 6.30tan 9.30!Am wybodaeth, cysylltwch â Iola 601739 neu Brian 602545

Anthony, Siân ac Emmayn chwarae pŵl.

Eglwys y Santes Anna’r Santes Fair

18 Hydref: 9.45 Boreol Weddi23 Hydref: 9.45 CymunBendigaid 30 Hydref: 10.00 CymunBendigaid – St. Ann a St. Mair(Yr unig wasanaeth yn y plwyf ySul hwn).6 Tachwedd: 9.45 GwasanaethTeuluol13 Tachwedd: 9.45 CymunTeuluol20 Tachwedd 9.45 Boreol Weddi

Cynhelir y Ffair Nadoligbrynhawn Sadwrn, 26 Tachweddam 2 o’r gloch. Yn ôl yr arferbydd amrywiaeth o nwyddau arwerth. Dewch am baned a minspei!

At bawb sy’n sâl ar hyn o bryd,anfonwn ein cofion cywiraf atochi gyd, a dymunwn adferiad iechydbuan i bawb ohonoch, yn enwedigMaurice Switzer sydd newydddderbyn llawdriniaeth yn YsbytyGwynedd. Brysiwch wella Mo!

TregarthGwenda Davies, Cae Glas, 8 Tal y Cae, Tregarth ( 601062

Olwen Hills (Anti Olwen), 4 Bro Syr Ifor, Tregarth ( 600192

DiolchDymuna Elfrys Jones, 27 Bro SyrIfor, ddiolch o waelod calon i’rplant, wyrion a wyresau, perthnasaua’r ffrindiau am y cardiau, y blodau,y galwadau ffôn a’r anrhegion adderbyniodd ar achlysur ei phen-blwydd yn 80 yn ddiweddar. Diolchyn fawr iawn.

PriodasLlongyfarchiadau i Nia a GaryPage ar achlysur eu priodas ymmis Gorffennaf. Mae Nia yn ferchi Tegryd a Rhian, 2 Godre’r Parc,Sling, Tregarth. Mae’r ddau wediymgartrefu yn Bigglswade,Bedford.

Miri MediDiolch o galon i bawb a ddaeth igefnogi Miri Medi yngNghanolfan GymdeithasolTregarth, bore Sadwrn, 17 Medigyda’r elw yn mynd at Eisteddfodyr Urdd, Eryri 2012. Er gwaethaf ygwynt a’r glaw ddaeth i ddifetha’rdiwrnod, daeth tyrfa dda draw i’rGanolfan i fwynhau achymdeithasu. Roedd myndrhyfeddol ar y cŵn poetheithriadol o flasus a baratôddGerallt ac roedd y Te Sgons jammefus yn werth chweil dan ofalBethan a Christine. Cafwydbyrddau gwerthu niferus yngwerthu diodydd a da-da, gydagEsme ac Ifan, peintio wynebau danofal Sara a pheintio ewinedd yngngofal Catrin. Julie Jones oedd ynddigon lwcus i edrych ar ôl yFfynnon Siocled fendigedig aTomos a Huw ar y Bwrdd Poteli.Gwerthodd Andrea a Iona Rhys yrholl deisennau hyfryd a ddaeth ilaw. Ffion Kervegant a Gwenno abaratôdd y baned ac Elin ofaloddam y raffl. Gwenda a Ffion fu’ngwerthu’r teganau a’r llyfrau.Roedd Hannah yn gofalu am roienw cywir i’r Tedi, sef Lois. BuDelyth, Alwenna, Ffion a Gwen ynhynod brysur yn gwneud gwaithllaw efo’r plant. Daeth Joshua agemau plant ac roedd pawb wrth

eu bodd yn cystadlu. Ash fu ar ydrws gydol y dydd. Diolch owaelod calon i bob un ohonocham roi diwrnod da o waith igasglu arian at yr Eisteddfod ac ibawb a gefnogodd mewn unrhywfodd. Da ydi dweud i’r elw fod yn£540.00.

Enillwyr Gwisg Ffansi -Beirniad - Darren Stokes1. Cerys Elen ac Elliw Gwen2. Nel Mai a Myfi Celyn3. Ela Dafydd

Enillwyr y Raffl CD y Niwl - Huw a Tomos MorrisJones; Bisgedi – Rhys Llwyd;Addurniadau gwallt – EsmeCrowe; Siocledi – Nia Jones; Tedi– Rhys Llwyd; Bocs o Lysiau –Christine Morris Jones; BasgedMolchi – Bethan Crowe; Siocledi– Dafydd Owen, Rachub; SmartMagnets – Marc Gray; BagMolchi – Dilys Parry Williams;Gêm Ddirgelwch – MargaretJones; Enwi’r Tedi – MargaretJonesBore Coffi MacmillanDiolch i Anjela Griffiths, SiopWallt Cyrlan Twt, Tregarth amdrefnu Bore Coffi tuag at waithnyrsys Macmillan, bore Sadwrn,30 Medi. Roedd yn rhan o ForeauCoffi mwyaf y byd a gwnaed elwo £111 tuag at yr achos teilwngyma.

Pen-blwydd ArbennigPen-blwydd hapus iawn i MrsLilian Brocklebank, 1 Bro SyrIfor, Tregarth, a ddathlodd eiphen-blwydd yn 90 mlwydd oedar 30 Medi

CydymdeimloBu farw Maria Morgan, TyddynCanol, Llanllechid ar 17 Medi achydymdeimlwn gyda’r teulu igyd yn eu profedigaeth. Mae eihwyres Mandy yn byw ynNhregarth ac anfonwn ein cofionati hi a’i phriod a’r ddau fachgenbach, sef Morgan a Steffan.

Ennill yn y SioeEnillodd Fronarth Golden Modelsef eboles cob flwydd y safle cyntafac eboles cob orau’r sioe yn sioeLlanbed eleni. Dyma’r tro cyntafers saith mlynedd ar hugain i’rcwpan ddod i Ogledd Cymru.

Aeth yr eboles ymlaen wedyn acennill ei dosbarth yn Sioe FrenhinolCymru Llanelwedd 2011. Eipherchnogion yw Tommy a DianeFlorence, Erw Faen.

Tommy gyda’r eboles

Clwb 100 Canolfan Tregarth

Mis Medi28 Laura Jones £1561 Megan Davies £1011 Merfyn Jones £5

Parhad dros y dudalen

Llongyfarchiadau.Mae mab Tommy a Diane, sefDavid, hefyd wedi ei wobrwyo ynddiweddar ond ym myd bocsio.Enillodd Darian Goffa RichardParry yn ei glwb yng Nghaernarfon.Enillodd David bedair gornest allano bedair a’r cam nesaf fyddcystadlu am bencampwriaethCymru. Da iawn David a phobllwyddiant.

Page 12: Hydref 2011

Llais Ogwan 12

Capel Shiloh

Dyma wasanaethau Shiloh am yrwythnosau nesa.16 Hydref 10.30 OedfaDiolchgarwch yr Ysgol Sul23 Hydref 5.30 Mr J. O Roberts,Bethesda30 Hydref 10.30 Yr Ysgol Sul5.30 Trefniant Lleol6 Tachwedd 10.30 yr Ysgol Sul5.30 Parchedig GwynforWilliams20 Tachwedd 10.30 Yr Ysgol Sul5.30 Parch John Gwilym Jones,Peniel, Caerfyrddin

Yn y gwasanaeth nos Sul, 25Medi, llongyfarchwyd un o’raelodau, sef Mrs LilianBrocklebank ar ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed ar 30 Medi.Roedd y gwasanaeth yng ngofalParchedig W.R. Williams yFelinheli ac ar ddiwedd yr oedfacawsom gyfle i fwynhau paned achacen pen-blwydd i gyfarchLilian.

Cofiwch am Fore Coffi CapelShiloh fydd yn cael ei gynnal ynNeuadd Ogwen, bore Sadwrn, 5Tachwedd am 10 o’r gloch tan12.00 dewch i gefnogi.

Eglwys y Santes Fair

Gwasanaethau DiolchgarwchDathlwyd Diolchgarwch am yCynhaeaf ar 25 Medi gydaGwasanaeth Cymun yn y bore aGosber yn yr hwyr, gyda’rBarchedig Nia Williams,Bethesda yn bregethwraig wadd.Mr James Griffiths oedd yrorganydd i’r ddau wasanaeth. Yroedd yr eglwys yn edrych ynarbennig o hardd wedi eihaddurno gyda blodau o liwiau’rHydref a llysiau o’r gerddi.Diolch yn fawr iawn i bawb ameu cyfraniadau a’u help iaddurno a glanhau’r eglwys.

CyngerddAr 28 Medi mwynhawydcyngerdd yn yr eglwys gan GôrMeibion Dinas Bangor o danarweinyddiaeth James Griffiths,gydag eitemau gan GarethHughes ar yr Ewffoniwm, acunawdau gan Norman Evans,Bob Thomas, David Hughes acAneurin Jones. Canodd y Côrddarn wedi ei drefnu gan yr Is-Arweinydd, Gwilym Lewis, acef hefyd oedd yn arwain y darn.Y cyfeilydd oedd Lowri RobertsWilliams. Mae’r Ficer acaelodau’r eglwys yn hynodddiolchgar i’r Côr am ddod iDregarth a rhoi eu gwasanaetham ddim, gwerthfawrogir ynfawr.

Swper DiolchgarwchMwynhaodd bawb SwperDiolchgarwch ar 4 Hydref yngNghanolfan Glasinfryn wedi eiddarparu gan yr aelodau.Cafwyd adloniant penigamp ganGwilym Lewis, Caergybi yndilyn y swper. Diolch yn fawriawn iddo am roi diweddglo dai’r noson.

Clwb Cant Y Gelli

£20 – 77 – Maldwyn Morris£15 – 48 – Sarah Griffiths£10 – 26 – Fiona Parry£5 – 20 – Mrs Mair Owen

Merched y Wawr, Cangen Tregarth

Cychwynnodd tymor newydd Cangen Tregarth o Ferched y Wawr, nos Lun, 5Medi. Cyflwynodd Mary Jones y noson agoriadol anffurfiol drwy ofyn i raio’r aelodau ddod â thrysor gyda hwy i’r cyfarfod ac i sôn am y gwrthrych a’rrheswm pam ei fod mor annwyl yng ngolwg ei berchennog. Daeth nifer dda oaelodau ynghyd a pharatowyd paned a theisennau ar ddiwedd y cyfarfod.Llongyfarchwyd Jên Margiad Morris am ei gwaith yn trefnu addurno PabellMerched y Wawr yn Sioe Frenhinol Llanelwedd a Margaret Jones am eillwyddiant hithau yn Llanelwedd.

Nos Lun, 3 Hydref croesawodd Gwenda Davies, Geraint Percy Jones a’ibriod Meira i’r gangen oedd yn cyfarfod yn Festri Capel Shiloh am 7 o’rgloch. Testun ei sgwrs oedd y daith wnaeth Geraint a Meira ar feiciau ganddilyn y bererindod i Sant Ioan Compostela yng Ngogledd Sbaen a hynny yn1997. Drwy gyfrwng sleidiau a disgrifiadau manwl cawsom ein hudo i ddilyny pererinion ar y daith o 17 diwrnod ym mhoethder gwres Gogledd Sbaen arddechrau mis Medi. Diolchwyd i’r ddau gan Nesta Llwyd a oedd yn gyfrifolam drefnu’r noson. Gwnaed paned gan Carys, Beryl, Alwena a Sara. Bucystadleuaeth ar ddiwedd y noson, sef dod â llyfr yn ymwneud ag Ynys Môn.Gwobr 1af - Jên Margiad Morris; 2ail wobr – Angharad Hughes; 3ydd wobr –Iona Rhys Cooke.Cofiwch fod y gangen yn cyfarfod ar y nos Lun cyntaf ym mhob mis yn festriCapel Shiloh am 7 o’r gloch.Bydd y cyfarfod nesaf ar 7 Tachwedd pan ddaw Rhiannon Parry i siarad am“Hynt a helynt y Nodwydd Ddur”. Croeso cynnes iawn i bawb.

BORE COFFIYN NEUADD OGWEN,

BETHESDABORE SADWRN, 5

TACHWEDD10.00 – 12.00

Elw at Gapel Shiloh, Tregarth

Clwb Ieuenctid TregarthBlwyddyn newydd y Clwb Ieuenctid

a digon o bethau cyffrous i’w gwneud!

Llongyfarchiadau i Leia Eleri, Leia, Corina, Dewi, Llinos, Sioned aKatarine, aelodau hŷn y Clwb, ar lwyddo yn eu cwrs NOCN lefel 1 a 2dan ofal Iola. Mae’r Clwb wedi ailagor bellach ar ôl gwyliau’r haf. Maegennym lawer o sesiynau diddorol yn digwydd y tymor yma gangynnwys dyn graffiti yn dod i mewn i addurno ein clwb gyda’n gwaitha’n harlunwaith ni. Bydd gennym sesiynau hip-hop efo dyn proffesiynolyn ein dysgu. Mae digon o gystadlaethau yn ein clwb, ac rydym yncystadlu yn yr ŵyl gelf. Mae cyfle i aelodau hŷn y clwb gymryd rhanmewn cymhwyster OCN Arweinyddion Iau, a hefyd cyfle i wneudllwyth o OCNs gwahanol a chyffrous.

Dewch i ymuno â ni - mae croeso i bawb sy’n 12 oed (blwyddyn 8) ahŷn. Mae’r clwb ar agor yn y Ganolfan ar ddydd Llun a dydd Iau rhwng7.30 -9.30. Cewch gwrdd â phlant gwahanol a chymdeithasu gyda’chffrindiau. Mae llawer o bethau i’w gwneud yma er enghraifft, chwaraesnwcer, chwarae wii a gwrando ar gerddoriaeth. Bydd gan y Clwb‘Facebook’ yn o fuan.

Canolfan TregarthUnwaith eto mae PwyllgorCanolfan Tregarth yn apelio amgefnogaeth i’r Clwb 100. Maenifer yr aelodau wedi gostwngyn sylweddol dros yblynyddoedd, ac rydym angenaelodau newydd. Os am ymunoam £1 y mis cysylltwch â PeterRoberts ar 602123 neu RhysLlwyd ar 601606. Diolch ynfawr. Cofiwch am y Bore Coffiar 29 Hydref yn Neuadd Ogwen.

Gennod Tregarth yn mwynhau yn y Bore Coffi

Penblwydd Mrs Lilian Brocklebank yn 90 oed.

Y dathliad yn festri Capel Shiloh.

Lluniau Tregarth

Page 13: Hydref 2011

Llais Ogwan 13

Ar ôl misoedd o baratoi, aeth Côr Meibion Dinas Bangor i Awstria ar 6 Medigan hedfan o faes awyr Manceinion i Munich ac yna bws i Soll yn y Tirol.Dyma'r drydedd waith i'r Côr ymweld â Soll. Yr oedd y tywydd yn wych arhyd yr wythnos.

Uchafbwynt yr ymweliad oedd ycyngerdd yn yr eglwys ym mhentrefSoll ar nos Sul, 11 Medi - dyddiadhanesyddol iawn. Dyma un o'r eglwysiharddaf yn Awstria ac yn cael eichydnabod fel enghraifft wych obensaernïaeth cyfnod y Baróc. Cyfeirirati hi yn aml fel eglwys gadeirioloherwydd ei harddwch anhygoel.

Union ddeng mlynedd yn ôl ar 11 Medi2001, pan syfrdanwyd y Byd gandrychineb Efrog Newydd yr oedd y Côryn canu yn yr eglwys hon yn Soll. Igofio am y cyd-ddigwyddiad hwngofynnwyd i bawb sefyll am ychydig odawelwch cyn yr eitem olaf.

Cymerwyd rhan yn y cyngerddarbennig hwn gan y Côr gyda Lowri Roberts Williams yn cyfeilio, GarethHughes unawdydd (Ewffoniwm) gyda Gwilym Lewis yn cyfeilio iddo,Kevin Grafton o Gaint yn organydd a James Griffiths yn arwain. Yr oedd yreglwys yn llawn a chafwyd derbyniad gwresog iawn gyda phawb o'rgynulleidfa ar eu traed ar y diwedd yn cymeradwyo.

Ymysg y darnau a ganwyd oedd trefniant arbennig i'r Côr ar gyfer yrachlysur gan Gwilym Lewis, Dirprwy Arweinydd, o'r hen alaw ‘Tros yGarreg’ gyda Gwilym yn arwain.

Yr oedd Kevin Grafton wedi dewis rhaglen o gerddoriaeth organ modern iwrthgyferbynnu â cherddoriaeth fwy traddodiadol y Côr. Dwy eitem gafoddgymeradwyaeth arbennig oedd "American Trilogy" a "Morte Criste" gyda'rorgan yn ymuno i gyfeilio ym mhennill olaf y ddwy gân. Canodd Gareth Hughes ddau ddarn ar yr ewffoniwm fel unawdydd ac yroedd ansawdd y perfformiad yn wych yn yr adeilad hynod hwn. Unwaitheto, daeth y perfformiad hwn â chymeradwyaeth gwresog iawn.

Cyflwynwyd yr eitemau gan Howard Hughes. Yr oedd Howard wedi darparuei gyflwyniadau mewn Almaeneg a hynny yn hollol drwyadl ac effeithiol.

Norman Evans oedd yn gyfrifol am gadw trefn a gosod y Côr, ac unwaith etoyr oedd yr ymddangosiad yn drawiadol a phroffesiynol fel arfer.

Ar ddiwedd y cyngerdd derbyniodd James Griffiths, yr Arweinydd, a LowriRoberts Williams, y Cyfeilydd, gymeradwyaeth arbennig gan y gynulleidfa.

Yn ystod yr wythnos cafwyd ymweliad â Salzburg, tref enedigol Mozartwrth gwrs, a hefyd â Berchtesgaden yn yr Almaen gan ymweld â Nyth yrEryr (Eagle's Nest), cartref Hitler a gafodd ei adeiladu ar ben y mynyddoeddo gwmpas Berchtesgaden.

Dychwelwyd adref ar 13 Medi ar ôl taith lwyddiannus iawn a gafodd eithrefnu gan Hugh Harry Williams, trefnydd teithiau'r Côr. Y mae ein dyledyn fawr i Hugh am ei holl waith a'i drefniadau arbennig unwaith eto.

PrysurdebWedi’r egwyl oddi wrth yr ymarferion a’r cyngherddau dros fisAwst a dechrau Medi, ail-afaelodd y côr unwaith eto yn y gwaithgydag arddeliad pryd cafwyd dau gyngerdd yn Llandudno ac un ymMetws y Coed. Cafodd rhaglen amrywiol a bywiog y côr groesotwymgalon gan y cynulleidfaoedd yn y ddau le ac mae Eglwys SantIoan ger Storfa M&S yn Stryd Mostyn, Llandudno yn ail gartref i nibellach. Mae nifer o swyddogion yr eglwys sydd wedi clywedrhaglenni’r corau eraill a ddaw yno yn barod iawn i ddweud bodcyflwyniad Côr Meibion y Penrhyn ymhlith uchafbwyntiau’rcyngherddau a gynhelir yno.

Yn niwedd Mis Medi ymunodd Cororion â ni, sef côr merchedDyffryn Ogwen a derbyniodd eu rhaglen hwythau gymeradwyaethuchel gan y gynulleidfa niferus a ddaeth ynghyd i wrando ar y nosSadwrn. Rhaid cofio hefyd ein bod yn cystadlu'r noson honno ynerbyn côr arall a oedd yn cynnal eu cyngerdd blynyddol yn VenueCymru gyda neb llai na Hayley Westenra yn gantores waddganddynt.

Cyngerdd Blynyddol a Glain yn disgleirioCawsom gwmni’r delynores ifanc dalentog o Bentir, sef GlainDafydd, yn ein cyngerdd cyntaf yn Llandudno. Mae Glain bellachyn astudio ym Mharis a braint inni fel côr ac fel cynulleidfa oeddgwrando arni yn canu’r delyn mor feistrolgar. Bellach, gwyddomfod Glain wedi ennill ysgoloriaeth Bryn Terfel sydd yn un o’r prifwobrau sydd ar gael i gerddorion ifanc i’w galluogi i ddatblygu eutalent dan arweiniad rhai o feistri cerdd mwya’r byd. Bydd cyflei’w chlywed yn perfformio eto gyda’r côr ynghyd â’r tenor nodedigRhys Meirion a’r pianydd byd-enwog Iwan Llywelyn Jones yngNghyngerdd Blynyddol y côr a gynhelir eleni yn Neuadd PritchardJones, Coleg y Brifysgol, Bangor ar 11 Rhagfyr. Bydd y trwmpedwrifanc addawol o Dregarth, sef Gwyn Owen hefyd yn cadw cwmni ini ar y noson. Gwledd o gerddoriaeth i bawb sy’n mwynhau cerdd achân felly. Bydd y tocynnau sydd o reidrwydd yn £15 ar gael ynfuan a bydd yr elw yn mynd at Eisteddfod Genedlaethol UrddGobaith Cymru, Eryri 2012

Mewn datganiad i’r wasg dywedodd Walter Williams, un o hoelionwyth y côr, “Hyderwn y bydd mynd mawr ar y tocynnau ar gyfernoson mor arbennig ac apeliwn ar holl garedigion y Gymraeg aChymreictod i droi allan i gefnogi artistiaid ifanc addawol fel Glaina Gwyn a chofied pawb bod Rhys Meirion ac Iwan Llywelyn ynwerth mwy na phris y tocyn o £15 eu hunain.”

CD newyddYnghanol prysurdeb y cyngherddau buom yn ymarfer yn galed argyfer gwneud CD newydd o ganeuon poblogaidd sy’n cynnwys henffefrynnau fel ‘Gwahoddiad’ a ‘Myfanwy’. Mae’r CD hefyd yncynnwys caneuon fel ‘Tshotolosa’ o Dde Affrica a ‘Gloria’ ganVivaldi yn ogystal â ‘Bendigedig’, trefniant i gorau meibion ganRobat Arwyn o’r gân Ladin, ‘Benedictus’. Buom yn recordio’rmwyafrif o’r 12 cân fydd ar y CD yn Stiwdio Sain yn Llandwrog arddechrau’r mis hwn a gobeithir ei rhyddhau cyn y Nadolig. MeddaiOwain Arwel yr arweinydd, “Hon fydd yn diffinio Côr y Penrhyndros y pum neu’r ddeng mlynedd nesaf ac felly rwy’n benderfynol oarddangos doniau’r côr ar eu gorau.”

Y Côr yn brysur yn y stiwdio

Teulu’n cynyddu.Llongyfarchwn yn galonnog Garem Jackson, ein hysgrifennyddbywiog a dawnus, ynghyd â’i briod hawddgar ar enedigaeth mabbychan arall. Deallwn fod y baban newydd yn glamp o hogyn ynbarod a da gwybod bod pawb o’r teulu yn dod yn eu blaenau’nardderchog a bod llawenydd mawr ar bob cwr wrth groesawu’rnewydd ddyfodiad i’r byd. Edrychwn ymlaen at weld Garem yndod yn ôl i’n plith i ail afael yn ei ddyletswyddau yn fuan.

Côr Meibion Dinas Bangor

Y côr yn Eglwys Soll yn Awstria

Côr Meibion y Penrhyn

Eglwys

hynafol Soll

Page 14: Hydref 2011

Llais Ogwan 14

Pwy sy’n Cofio Ddoe?© Dr J. Elwyn Hughes

Hapi Dol - Rhan 2

PwyLLGOr APêL BETHEsDA EisTEDDfOD yr UrDD

Eryri 2012Gyda dim ond 9 mis i fynd nes bydd Eisteddfod yr Urdd yn ymweld agEryri mae pethau’n prysuro. Yn ddiweddar cawsom benwythnos prysuryn paratoi swper a brecwast i’r cannoedd o redwyr a ddaeth i’r ardal igymryd rhan yn Ras fynydd Rab a chasglwyd £1300. Diolch yn fawriawn i bawb a fu’n helpu mewn unrhyw fodd. Bellach yr ydym wedi codiyn agos at £10,000 sydd ychydigdros hanner y targed a osodwyd i ni.Felly mae tipyn o ffordd i fynd eto.

Cyhoeddwyd pecynnau o gardiau goarbennig gennym yn ddiweddar igodi arian i’r gronfa. Pecyn o 6cerdyn cyfarch plaen/’notelets’ sy’naddas ar gyfer unrhyw achlysur yw’rpecyn cyntaf. Yr ydym ynddiolchgar iawn i ddau artist lleol -Martin Morley a Brian Griffiths - amroi o’u hamser yn rhad ac am ddim ini eu hatgynhyrchu. Mae 3 llungwahanol wedi eu cynnwys yn ypecyn. Anrheg Nadolig delfrydol irywun efallai ac mae’n ffordd hawddiawn i bobl fedru cefnogi einhymdrechion codi arian.

Yr ydym hefyd wedi argraffu cardiauNadolig deniadol iawn - darlunMartin Morley o Tan y Foel yn yreira sydd ar y rhain gyda’rcyfarchiad ‘Nadolig Llawen’ ar yblaen. Mae 6 cerdyn mewn pecyn.Gwerthir y cardiau am £3 y pecyn.Ffoniwch 01248 602949 / 602032 osam eu prynu.

O’r top i lawr: Tan y foel gan Martin Morley, Gwaun Gwiail ganBrian Griffiths a Moel faban gan Martin Morley

Soniais y tro o’r blaen fel yr oedd angen mymryn o lwc arbob ymchwilydd a dyna’n union a ddigwyddodd o safbwyntdarganfod hanes Hapi Dol.

Lwc!Mae’n rhaid i mi’n gyntaf roi gair bach o gefndir cyn sôn am y ‘lwc’.Ychydig dros ugain mlynedd yn ôl, bûm yn hynod ffodus i gael rhodd oddyddiaduron David D. Evans, Glanrafon, Gerlan, gan ei ferch,Margaret, pan oedd yn gadael ei chartref i fynd i Gartref Preswyl lleol.Mae’r dyddiaduron yn ymestyn o 1894 tan 1956 (pan fu David Evansfarw), ac ymlaen wedyn yn llawysgrifen Miss Evans tan 1982, ac yncynnwys cyfoeth o wybodaeth leol bwysig. Ni fanylaf ar eu cynnwysond rwyf wedi cofnodi’r rhan fwyaf o’r deunydd ar gyfrifiadur sy’nhwyluso dod o hyd i wybodaeth yn gyflym. Wrth fynd drwy’rdyddiaduron, deuthum ar draws y cofnod hollbwysig a ganlyn: ‘Sadwrn,Gorffennaf 4, 1925: Darganfod corff yn Chwarel Pantdreiniog – JaneEllen Morris (Pierce, gynt) (Happy Doll)’. A dyna lwcus oedd bod ydyddiadurwr wedi cofnodi ei henw iawn yn ogystal â’i ffugenw.

Dynes ar goll!Yn syth ar ôl cael hyd i’r cyfeiriad hwn, euthum i’r Archifdy yngNghaernarfon a chael hyd i’r hanes yn Yr Herald Cymraeg, Gorffennaf14, 1925. Dyma fo: Y DDYNES GOLL – Aeth y newydd fel mellten trwy’r ardal prynhawndydd Sadwrn y 4 cyfisol pan ddeallwyd bod corff dynes wedi ei ganfodyng ngwaelod Chwarel Pant Ddreiniog. Ymddengys i rywun sylwi bodadar yn casglu o amgylch rhywbeth a nofiai ar wyneb y dwfr. Aeth yRhingyll Williams, a’r Heddwas Rowlands i lawr a chawsant weddillioncorff yn y dwfr. Cynhaliwyd cwest ar y cyfryw yr un dydd a daethpwydi’r penderfyniad mai gweddillion Mrs Ellis [sic] Jane Morris oeddynt,cymeriad adnabyddus iawn yn yr ardal ac yn byw ar wahân i’w gŵr.Canmolodd y crwner yr heddweision am eu dewrder yn mynd i lawr i’rdyfnder peryglus a chludo’r gweddillion oddi yno. Tybir bod y wraiganffodus ar goll ers oddeutu blwyddyn ac wyth mis ond nid oedd yr unymgais yn cael ei wneuthur er dod o hyd iddi. Mae’r amgylchiad wediachosi llawer o siarad yn yr ardal, a llawer yn gofyn: ‘Paham nawnaethpwyd hyn mewn amser priodol, fel y gwneir â phob un fyddwedi diflannu? Ai ei thlodi, a’i dull rhyfedd o fyw, a barodd i bawb fodyn hollol ddifater o’i habsenoldeb? Onid yw’n ddyletswydd ar yrawdurdodau i chwilio am y tlawd yn gystal â’r cyfoethog mewn achoscyffelyb?’ Dyna natur cwestiynau’r cyhoedd ar ôl yr achos yma, ac obosibl y gall hyn fod yn wers pe digwyddai achos tebyg eto. Claddwyddydd Llun diweddaf yng Nghladdfa’r Eglwys yng Nghoetmor.Does dim carreg ar fedd Hapi Dol druan a phrin yw unrhyw wybodaetharall amdani ar hyn o bryd. Byddwn yn falch o glywed oddi wrthunrhyw un o ddarllenwyr Llais Ogwan sydd â straeon neu wybodaeth aall ychwanegu at ein hadnabyddiaeth ohoni.

Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn OgwenGyda’r ’Steddfod ar y trothwy unwaith eto dyma gyfle i annog acatgoffa pawb sy’n dymuno cystadlu ar y nos Wener neu ar y dyddSadwrn i gofrestru erbyn 1 Tachwedd trwy gysylltu â Lowri Roberts,Ysgrifennydd ar 01248 600 490 neu [email protected]

Hoffai’r Pwyllgor annog pawb sydd â diddordeb i ddod i gefnogi’rachos yn Neuadd Ogwen, nos Wener, 18 Tachwedd lle ceir cyngerddsafonol yn hytrach na ’Steddfod ac yna i Ysgol Dyffryn Ogwenddydd Sadwrn, 19 Tachwedd i gefnogi plant a phobl ifanc yr ardal.Mae’n argoeli’n dda gyda nifer o gystadleuwyr wedi cofrestru’nbarod ar gyfer y nos Wener. Dewch yn llu i gefnogi.

Cafwyd noson werth chweil nos Wener, 16 Medi yn y Clwb Criced aBowlio i godi arian at y Steddfod yng nghwmni’r Tri Gog a Hwntw oardal Llanuwchlyn. Cafwyd llond bol o chwerthin yn gwrando ar eustraeon a’u jôcs a gwledd o ganeuon ysgafn, poblogaidd. Trefnwyd ynoson er budd y Steddfod ond gyda chymorth ariannol Cronfa CEG(Cymraeg Efo’n Gilydd) Arfon dan ofal Mantell Gwynedd. Roedd ynoson yn agored i ddysgwyr yr ardal ddod draw i gymdeithasu ac igael cyfle i ymarfer eu Cymraeg yn ogystal â mwynhau noson oadloniant ysgafn, Cymreig. Diolch i bawb a gefnogodd y noson -gwerthfawrogir eich cefnogaeth.

Clwb Cant Pwyllgor Apêl Bethesda Eisteddfod yr Urdd 2012

Gorffennaf£40.00 Arwyn Oliver, Maes y Garreg, Ffordd Bangor, Bethesda£24.00 Beryl Williams, 1 / 2 Stryd Goronwy, Gerlan£15.50 Emlyn Thomas, Tre Ceiri, 26 Tal-y-Cae, Tregarth

Awst£40.00 Annette Williams, Fferm Crymlyn, Abergwyngregyn£24.00 Sioned Wyn Roberts, 4 Rock Terrace, Bethesda£15.50 Gareth Llwyd, 3 Sgwâr Buddug, Bethesda

Medi£40.00 Gwenlli Elen Sanderson, Bron Llys, Mynydd Llandygái£24.00 Moira Wynn Farnworth, 3 Bryn Eglwys, St Ann’s£15.50 Helen Williams, 4 Penrhiw, Mynydd Llandygái

Hydref£40.00 Catrin Jackson, Braich Tŷ Du, Nant Ffrancon£24.00 Rona Williams, Noddfa, Trefor£15.50 Margaret Jean Jones, Tegfan, 7 Ystâd Coetmor, Bethesda

Os am ffurflen ymaelodi cysylltwch â Dewi Morgan ar 01248 602440neu anfonwch e-bost at [email protected] <mailto:[email protected] gallwn anfon y ffurflen atoch ar yr e-bost. Dim ond £1 y mis yw’raelodaeth ac mae’r Clwb yn bodoli am 8 mis arall, felly 8 cyfle arall iennill y gwobrau.

Tyd am Dro Co’Da chi’n chwilio am rywbeth gwahanol i’ch Cymdeithas,

Clwb neu sefydliad i wneud? Beth felly am ddod am ‘Dro

Co’? – teithiau cerdded o amgylch hen dref gaerog

Caernarfon efo Emrys Llewelyn, dyn lleol sydd yn arwain

teithiau gwahanol ers blynyddoedd. Ewch i’r wefan

www.drodre.co am fwy o fanylion am y tair taith sydd ar gael.

Page 15: Hydref 2011

Llais Ogwan 15

DAFYDD CADWALADRDAFYDD CADWALADR

Cynhyrchion Coedlannol

Coed Tân - Llwythi bach a mawr

Ysglodion pren i’r ardd

Ffensio a thorri coed

Asiant system gwresogi trwy

losgi coed

01248 605207

Adrian Stokes

Peintiwr

ac

Addurnwr

Rhif Ffôn: 601 575Symudol 07765127704

D. E. HUGHESa’i fe ib ion cyf

YMGYMERWYR ADEILADAUN.H.B.C.

Gardd Eden, Stryd Fawr,Rachub, LL57 3HF

Ffôn a Ffacs 01248 602010

L. Sturrsa’i feibion

sefydlwyd yn 1965

ADEILADWYR

Ffôn: 600953Ffacs: 602571

Pob math o waith trydanol

Huw JonesYmgymerwr TrydanolTrydanwr cymwysedig gyda

phrofiad diwydiannol

Y Wern, Gerlan, Bethesda

Gwynedd LL57 3ST

Ffôn: 01248 602480

Symudol 078184 10640 01248 601 466

OWEN’S TREGARTH

Cerbydau 6 ac 16 seddFfoniwch am bris diguro

Cludiant Preifat a Bws Mini

01248 602260

Oriel CwmCwm y Glo, Caernarfon

Gwasanaeth fframio lluniau obob math ar gael ar y safle

Prisiau rhesymolArddangosfaganartistiaidl lleol

Ffôn / Ffacs 01286 870882

RICHARD S. HUMPHREYS

Contractwyr Trydanol

Jones & Whitehead Cyf

Swyddfa Gofrestredig

Penrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU

Ffôn: 01248 601257

Ffacs: 01248 601982

E-bost: [email protected]

GwasanaethauDigidol Cymru

Erials Digidol aGwasanaeth Lloeren

Erials teledu digidol - i un ystafellneu i’r tŷ i gyd

Systemau SKY - cytundebau ar gaelBBC FREESAT ar gael

Gwaith cywiro erial neu loerengalwch John ar

601 045 neu 0791 440 5373

www.gwadicym.com

FREEVIEW, SKY A FREESAT

Aelod o’r IDSC ac wedi ei gofrestru ar RDI

[email protected]

DEWCH I WELDEICH

CYFREITHIWRLLEOL

SGWâR BUDDUGSTRYD FAWR

BETHESDAGWYNEDDLL57 3AG

BETHESDA01248 600171

[email protected]

CyfreithwyrY CYNGOR CYNTAF

AM DDIM

EWYLLYSIAU APHROFIANT

SYMUD TŶ

Tudur Owen, Roberts, Glynnea’u cwmni

Plymio a GwresogiTŷ Capel Peniel, Llanllechid

Rhif Corgi 190913

Tony Davies

Page 16: Hydref 2011

Llais Ogwan 16

Hywel Williams

Aelod Seneddol

Etholaeth Arfon

CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei

drafod gyda’ch AS mewn cymhorthfa,

yna cysylltwch af ef yn ei swyddfa

yng Nghaernarfon neu ym Mangor:

Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948

Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076

[email protected]

CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei

drafod gyda’ch AC mewn cymhorthfa,

yna cysylltwch ag o yn ei swyddfa ym

Mangor neu yng Nghaernarfon

Alun Ffred Jones

Aelod Cynulliad

Etholaeth Arfon

Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948

Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076

[email protected]

Gŵyl Afon Ogwen BlodeuweddCelf a DramaAmgylcheddol yny Goedwig.…Ym MharcMeurig, ‘roeddhaul isel mis Media chysgodion hir yprynhawn ynymestyn drwy’rcoed yn gefndirhudolus iberfformiad o henchwedl‘Blodeuwedd’ o’rMabinogi.

Roedd y perfformiad yn rhan gyffrous o Ŵyl Afon Ogwen, a gynhaliwyd ddyddSadwrn a dydd Sul, 24 a 25 o Fedi. Cath Aran o Gaerberllan, y chwedleuwraigdalentog a oedd yn arwain y perfformiad, ac roedd ei llais atseiniol a’i wynebllawn mynegiant yn creu cynnwrf ac ystyr newydd i’r hen stori sydd yn rhan offabrig Chwedloniaeth Cymru. Rhys Trimble, o Fethesda, oedd y Gwydion hollgredadwy - dewin a meistr swyn a dirgel. Yn ategu’r ddau oedd y cerddor lleol,Tim Cumine, a oedd wedi cyfansoddi ac addasu amryw o donau lledrithiol.Cyn y perfformiadau, cynhaliodd Tim weithdai i’r plant i ddangos a chwaraeamryw o offerynnaucerdd syml awnaethpwyd oddefnyddiau naturiol.Roedd y perfformwyr a’rgynulleidfa’n gwaudrwy’r parc (ganddefnyddio’r llwybrnewydd heibio glan yrafon) i gyfeiliantofferynnau taro rythmiggan Tim, Freya, LisaHudson a Rhys, mabCath Aran.

Rozzy Dawes oedd ynchwarae rhan Blodeuwedd - yn ddiniwed a rhithiol yr un pryd, a chyflwynoddMartin Dawes gerdd alarus yn cyfeirio at dristwch Blodeuwedd - merch wedi eigwneud o flodau gwyllt a oedd yn gaeth i waith tŷ.

Ar y ddau brynhawn, cymerodd amryw o blant lleol ran yn y gwahanololygfeydd, ac ‘roeddynt wedi cael blas ar yr olygfa hela cyn i Gronwymddangos – gyda’r plant yn gwisgo mygydau o geirw, baeddod gwyllt, cŵn acheffylau a wnaethpwyd yn gynharach dan arweiniad Christine Roberts a LindaCampbell.

Gwnaeth Christine Roberts a Lisa Hudson gerflun gwiail o Flodeuwedd i’waddurno â blodau, a hefyd gwnaeth Lisa eryr gwych ar gyfer gweddnewidiadLleu. Yn arbennig, gwnaeth Christina Phillips ddelweddau ‘Blackcutwitch’,mwgwd tylluan godidog i Blodeuwedd ei wisgo yn dilyn ei chosb derfynol ogael ei throi’n dylluan, a hefyd pen yr arf a oedd yn rhan o swyn Gwydion.

Yn amlwg, ‘roedd y perfformwyr a’r gynulleidfa i gyd wedi mwynhau’r profiadarbennig. Meddai Joy Ostle, o Plas Penisarnant, “Mae Bethesda yn gartref inifer o bersonau talentog a chreadigol. ‘Roedd yn fraint a phleser bod yngyfarwyddwr ac yn rhan o ddigwyddiad mor arbennig.

Ymweliad Cyn-Ddisgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen

Ddechrau mis Medi daeth pum cyn-ddisgybl yn ôl i ymweld â’r ysgol.Cychwynnodd y pump yn Ysgol Dyffryn Ogwen yn 1961, ac er i’wllwybrau wahanu cryn dipyn wedi iddynt adael yr ysgol, maent wedicadw mewn cysylltiad â’i gilydd ac yn dal i gyfarfod yn flynyddol. Ganfod 2011 yn union hanner can mlynedd ers iddynt gychwyn feldisgyblion yn Ysgol Dyffryn Ogwen, penderfynwyd cyfarfod yn ôl yn ydyffryn y tro hwn ac ymweld â’r hen ysgol.

Yn y llun gwelir y pump gyda phennaeth Ysgol Dyffryn Ogwen, MrAlun Llwyd (ar y chwith). Dyma ychydig o fanylion am y pump – o’rchwith i’r dde :

William Iorwerth Hughes - yn wreiddiol o Cororion Tregarth, yn bywyn Rugby ers 1966, ac yn gweithio fel swyddog atal twyll i AdranGwaith a Phensiynau’r Llywodraeth.

Colin Jones - yn wreiddiol o Lanllechid ond Tregarth hefyd ynddiweddarach. Yn byw yn Plymouth ac yn gweithio fel RheolwrAnsawdd mewn ffatri’n gwneud ‘silicon chips’. Mae gan Colin dri oblant yn byw yn Llundain, Melbourne a Las Vegas, a naill ai’n briod neuwedi dyweddïo gyda rhywun o India, China neu’r Unol Daleithiau.Colin yn gweld ei hun wedi ei eni mewn pentref bach yng Nghymru abellach yn aelod o gymuned fyd-eang!

Dr Anthony (Tony) Lynas-Gray - byw ym Mraichmelyn o 1961 i 1971.Bellach yn byw yn Llundain ond yn gweithio ers 1988 ym MhrifysgolRhydychen fel Cynorthwyydd Ymchwil yn yr Adran Ffiseg. Cyn hynnywedi bod yn gweithio yn yr Adran Ffiseg ac Astronomeg yng NgholegPrifysgol Llundain.

Linda Elesdy (Linda Austin cyn priodi) - yn wreiddiol o Goetmor, ondsymudodd y teulu i Ormskirk yn Swydd Gaerhirfryn yn 1963 lle maeLinda’n dal i fyw gyda’i theulu ei hun. Mae Linda’n ArbenigwrBlynyddoedd Cynnar mewn Canolfan i Blant ar Lannau Merswy. Fefydd llawer o ddarllenwyr y Llais yn cofio fod teulu Austin’s yn cadwsiop sglodion a ‘London House’ yn y stryd fawr.

Eluned Perry (Ivy Eluned Roberts cyn priodi) - yn wreiddiol oGlanffrydlas, a’i thad oedd Bob Bwtsiar. Aeth i fyw i Lundain, priodi asetlo ym mhentref Bricket Wood yn swydd Hertfordshire, a sefydlu eibusnes ei hun, sef ‘Lyn Roberts Accountancy Services’. Ers ychydigwythnosau mae wedi dod yn ôl i fyw i Glanffrydlas ac yn awyddus igael aduniad yno o hen gyfeillion.

Mae’r pump yn falch iawn o’u gwreiddiau yn Nyffryn Ogwen ac o’raddysg a gawsant yn Ysgol Dyffryn Ogwen, ac mi fyddan nhw wrth eubodd yn clywed gan unrhyw un a fyddai’n hoffi eu cyfarfod i gyd eto yny dyfodol.

Agoriad Gŵyl Afon Ogwen yn

Neuadd Ogwen ar 23 Medi

Page 17: Hydref 2011

Llais Ogwan 17

Blodau Racca

PENISARWAUNPlanhigion gardd a basgedi crog o’r

ansawdd gorau - gan hogan o Rachub

Ffôn: 01286 870605

Hefyd ymgymryd â gwaith cerrig beddi:

adnewyddu neu o’r newydd

Gweithdy Pen-y-bryn

Cefn-y-bryn, Bethesda

Ffôn: gweithdy 600455gartref 602455personol 07770 265976Bangor 360001

Gwasanaeth personol ddydd a nos

STEPHEN

JONES

†TREFNYDD

ANGLADDAU

Gareth WilliamsTrefnydd Angladdau

Crud yr Awel1 Ffordd Garneddwen

Bethesda

Ffôn: (01248) 600763 a 602707

GWASANAETH DYDD A NOS

01248 605566Archfarchnad hwylus

Gwasanaeth personol

gyda’r pwyslais ar y cwsmer

Tocynnau Loteri, cardiau a biliau trydan a nwy

Ar agor 7.00 y bore tan 10.00 yr hwyr

7 diwrnod yr wythnos

LONDISBETHESDA

Hysbysebwch yn yHysbysebwch yn y

Llais: Cysylltwch â:Llais: Cysylltwch â:

Neville HughesNeville Hughes

600853600853

JOHN ROBERTS

Teilsiwr

Symudol: 07747 628650

Paentiwr

Papurwr

Ffôn: 01248 600995

Arbenigwr mewn lloriau coed caled

Arbenigwr mewn gosod aselio lloriau coed caled,

adnewyddu lloriaugwreiddiol a chyweiriolloriau sydd wedi eu

difrodi.

Andrew G. Lomozik B.A.Ffôn: 01248 602117 Symudol: 07835487909

Posh PawsTacluso Cŵn

Busnes lleol

Prynhawniau neu Nosweithiau4.00 - 10.00

Dydd Sul 8.00 a.m - 4.00 p.m.Gwasanaeth casglu a danfon

Ty’n Llan Uchaf, Llanddeiniolen

01248 671382 neu 07935324193Ebost: [email protected]

Vivien, Amanda, Jenny a NicolaGemwAith BO-weN

GwAsANAeth tyllu ClustiAu

601888

Siswrn ArianTrin Gwallt Merched,

dynion a Phlant

AUR

Gostyngiad o20%

Os nad mewn sêl eisoes

Ymgymerwr adeiladu a

gwaith saer

Ronald JonesBron Arfon, Llanllechid

Bethesda

01248 601052

SIOP BARBWR

MR TOM78 Stryd Fawr

Bethesda

Torri gwallt Dynion a Phlant

gan Helen (hogan leol)

Hefyd Gwelyau Haul

Page 18: Hydref 2011

Llais Ogwan 18

NEUADD OGWENBETHESDA

GYRFA CHWIST25 Hydref

8, 22, 29 Tachwedd

am 7 o’r gloch

Dewch i fwynhau nosweithiau difyr

Beth sydd ymlaen yn y Dyffryn?

NEUADD OGWEN,BETHESDA

22 Hydref Merched y Wawr

29 Hydref Canolfan Tregarth

05 Tachwedd Shiloh, Tregarth

12 Tachwedd Llais Ogwan

19 Tachwedd Eglwysi Glan-

ogwen a Llanllechid

26 Tachwedd Neuadd Talgai

(Bob bore Sadwrn am 10.00 o’r gloch)

BOREAUCOFFI

Cylch Ti a Fi

Bob Bore Mawrth

9.15 - 10.45 am.

Canolfan Cefnfaes, Bethesda

Dewch am baned a sgwrs, stori a chân

Ffôn: 602032

Sesiynau Siarad i Ddysgwyr

Paned a SgwrsCaffi Fitzpatrick 11.00 – 12.00

Dydd Sadwrn cyntaf pob mis

Peint a Sgwrs Douglas Arms Bethesda

20.00 – 21.00

Trydydd Nos Lun pob mis

EGLWYS UNEDIGBETHESDA

yng Nghapel Jerusalem

Estynnir croeso cynnes i bawb ioedfaon Sul

Bore: Gwasanaeth ac Ysgol Sul am 10 o’r gloch

Hwyr: Gwasanaeth am 5.00 o’r gloch

EGLWYS UNEDIG BETHESDA

‘LLENWI’R CWPAN’Dewch am sgwrs a phaned

Bob bore dydd Iau

rhwng 10.00 o’r gloch a hanner dydd

Un sesiwn am ddim os dewchâ’r hysbyseb hwn hefo chi

Croeso i bawb, yn arbennig dysgwyr

Manylion gan Jake neu ElenaFitzpatrick - 01248 602416

neu galwch heibio’r dosbarth

Dosbarthiadau

yng Nghanolfan

Gymdeithasol

Tregarth bob

nos Fercher

7.00 tan 9.00

WU SHU KWANBocsio Cic Tsieineaidd (Kung Fu)

Llais Ogwan 18

GŴYL FAWR Y DYFFRYNGŴYL FAWR Y DYFFRYNEisteddfod Gadeiriol

Dyffryn Ogwen

Nos Wener, 18 Tachweddyn Neuadd Ogwen

am 7.00 o’r gloch yr hwyr

Unawd Lleisiol, UnawdOfferynnol, Llefaru Unigol, Côr,

Rhaglen o Adloniant gan grŵp o 4 neu fwy

(oedran uwchradd)a Seremoni’r Cadeirio

Enwau cystadleuwyr llwyfan i’r ysgrifennydd

erbyn dydd Llun, 4 Tachwedd

DALIER SYLWNi dderbynnir enwau ar y nos

Wener

Dydd Sadwrn19 Tachweddyn Neuadd

Ysgol Dyffryn Ogwenam 10.00 o’r gloch y bore

Eisteddfod y Plant fel ArferLluniaeth ysgafn ar gael.Arddangosfa Gwaith Llaw

yn y Ffreutur.Dawnsio Disgo yn y Gampfa

o 10.30 ymlaen.Dewch i gystadlu neu i fwynhau’r ddwy wledd

Ysgrifennydd Cyffredinol:Lowri Watcyn Roberts, Tregarth

01248 600490

YSGOLORIAETH YSGOLORIAETH CELF A CHREFFTCELF A CHREFFTEisteddfod Gadeiriol

Dyffryn OgwenCynigir ysgoloriaeth o £75

a chwpani fyfyrwyr ifanc 21 oed ac iauDarn o Waith Celf, unrhywgyfrwng, wedi ei gyflwynoyn safonol a gorffenedig

Rhaid cyflwyno’r gwaith i’wfeirniadu

rhwng 4 a 5 o’r gloch yr hwyr yngnghyntedd Ysgol Dyffryn Ogwen

ddydd Gwener, 11 Tachwedd a’i gasglu erbyn 6.30

y noson honno.Caiff y gwaith buddugol ei

arddangos yn ystod cyflwyniadarbennig ar lwyfan yr

Eisteddfod nos Wener, 18Tachwedd 2011.

Cist Gymunedol chwaraeon cymru

Awydd £1,500 tuag at eich prosiect

chwaraeon cymunedol?

Mae’r Gist Gymunedol yn cynnig grant o hyd at£1,500 i gefnogi cynlluniau chwaraeon agweithgareddau egnïol newydd neu ychwanegolyn y gymuned.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Rhian Dobson Swyddog Datblygu Chwaraeon

Rhif Ffôn: 01758 04 057

ebost:[email protected]

www.gwynedd.gov.uk

HYSBYSEBU YNRHAD AC AM DDIM

YN Y LLAISi gymdeithasau a mudiadau yn

Nyffryn Ogwen

Hyd at y maint yma

(3” (750mm) X 1 golofn)

Cysylltwch â’r TrefnyddHysbysebion

Neville Hughes (01248) 600853

Page 19: Hydref 2011

Llais Ogwan 19

Cymdeithas Glòs y Rhos, Cwmtawe(yn dilyn trychineb glofa TarenniGleision, Medi 2011)

O’r baw aeth pedwar bywyd â’i gilydd,

O’r golwg fe’n boddwyd;

Brawd wrth frawd, y gryfaf rwyd

Yno’n dynn, gadarn dynnwyd.

Y cloddwyr gadd eu claddu, ac nid rhad

Fu taliad y teulu;

Suro’r dewr wnaeth trysor du

A hwythau sy’n hiraethu.

Cwymp y DailDeilien ’r ôl deilen sy’n dod, hanner marw

Am oriau’n eu cryndod;

Cefnu ar ddiwedd cyfnod

Yw yn awr eu tristaf nod.

Hen ŴrHir achwyn a fu’r rhychau o edrych

Ar hydref ei ddyddiau,

A’r awydd dweud storïau

Llawen a hen yn lleihau.

Blodau’r Grug(o’u gweld eleni a chofio

englyn Eifion Wyn)Yn y grug cyd-ganu gawn, yno clywch

Y clychau amryddawn;

Eifion Wyn a fu yn iawn,

Ei ddarlun ef oedd orlawn.

Y Grug mewn Dau DymorEi wasgod borffor wisga, a hi’n deg

Ar daen dros y creigiau;

Ei datod hi, wyt ti, iâ,

Yn awr â’th garthen eira.

Y GwyntHeno mae ym mrig y dderwen

Dan y sêr a’r lloer

Yn gorfodi’r dail i ddawnsio,

Hithau’n noson oer.

Fe gaiff fynd i ble y mynno

Unrhyw awr o’r dydd

Ac mae’n cludo ers blynyddoedd

Sawl gyfrinach gudd.

Daw i’r drws i wylo weithiau,

Yno dwêd ei gŵyn

A dychwelyd draw i chwarae

Efo’r grug a’r brwyn.

Blin yw ef pan ddaw i’r simdde,

Dicter sy’n ei gân;

Ni chaiff heno fawr o groeso

Gan y mwg a’r tân.

Cwestiwn Drwy berlan mân y bore bach

Cyd-gerdded mae â’i gŵn

Hyd wyneb tir y gwyrddlas goed

I fyd y lleiaf sŵn.

Ond deffro’n ara’ deg mae’r wawr

I’r gŵr sydd ar ei daith,

A mynd i rywle, pwy a ŵyr,

Wna’r myrdd o berlau llaith.

Dafydd Morris

Nyth y G�nCYMDEITHAS HANES

DYFFRYN OGWEN7.00 o’r gloch

yn Festri Capel Jerusalem,Bethesda

Nos Lun, 14 TachweddBob Morris

“Twristiaeth yn Eryri”£1.50 wrth y drws neu

am ddim i aelodau

NEUADD OGWEN, BETHESDA7 RHAGFYR

am 7.30THEATR BARA CAWS

yn cyflwyno‘C’MÔN MID-LAIFF’

gan Bryn Fôn

Yr actorion:Bryn Fôn, Gwenno Ellis

Hodgkins a Llion WilliamsY cyfarwyddwr:

Bryn FônCynllunydd:

Emyr Morris-Jones

Mae hi bron yn ’ddolig ac maeGeorge a Sandra yn disgwyl yrefeilliaid adra o’r coleg. Maeblynyddoedd wedi pasio ersdyddiau disglair George felstreicar i Fryn Coch ac mae eupriodas, fel hen sgida pêl droedGeorge, wedi mynd braidd ynsych a disglein. Mae hi’n dipyn ogreisis canol oed ar y ddau, ondwrth i Ŵyl y Baban nesáu oes naobaith i betha wella?

Bryn Fôn yw awdur y comedinewydd hwyliog yma fydd ynteithio Cymru yn ystod Tachwedda Rhagfyr eleni.

Llion Williams a Gwenno EllisHodgkins fydd unwaith eto ynchwarae’r cwpwl hoffus o ‘C’monMidffild’. Cyfle gwych i weld dauwyneb cyfarwydd yn wynebuproblemau canol oed a hynny yneich pentra chi! Gwyliwch y wefanyn y dyfodol agos:

www.theatrbaracaws.coma’r papurau lleol am fwy ofanylion – mi fydd y tocynnau felaur!

Tocynnau ar gael gan Fflur(01248 602032) neu Siop John

(01248 600251)

CANOLFAN CEFNFAESCYFARFOD BLYNYDDOL

NSPCC(Adran Bethesda)

DYDD MERCHER,

1 TACHWEDD

am 2.00 y pnawn

CROESO I BAWB

Cyrsiau Canolfan Amgylcheddol

MoelyciDydd Iau a Dydd Gwener,

27 a 28 Hydref, 9.30am – 4pmArolwg Dosbarthiad Llystyfiant

Cenedlaethol (DLlC/NVC):

Mae DLlC yn arf ar gyfer adnabod a

dosbarthu cynefinoedd mewn modd

ecolegol. Mae’r dull pwysig hwn o

gynnal arolwg yn edrych ar

rywogaethau planhigion a’u perth-

nasoedd.

Byddwn yn defnyddio cynefinoedd

syml yn enghreifftiau ar gyfer ein

hastudiaeth, ond byddai gwybodaeth

sylfaenol o fotaneg o fantais.

Gyda John Harold. £90. Mae’nrhaid archebu lle.

Cysylltwch â: Ffon: 01248 602793,www.moelyci.org

CYFARFOD BLYNYDDOLLLAIS OGWAN

YNG NGHANOLFAN CEFNFAES

NOS FERCHER, 2 TACHWEDD

AM 7.30 yr hwyr

CROESO CYNNES I BAWB

NEUADD OGWEN BETHESDA

CYFARFOD BLYNYDDOLNEUADD OGWEN

Nos Iau, 3 Tachwedd

am 7 o’r gloch

Croeso cynnes i bawb

Page 20: Hydref 2011

llais ogwan 20

C H W I L A I R M I S   M e d I

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

yn y chwilair hwn mae un o’r atebion wedi ei ddangos yn barod. a oes modd i chwi ddod o hyd i’r gweddill? (gwyddom fod ll, Ch, dd, th ac

yn y blaen yn un llythyren yn y gymraeg, ond i bwrpas y chwilair dangosir hwy fel dwy lythyren ar wahân.) atebion, gyda’r enw a’r cyfeiriad,

os gwelwch yn dda, i andré lomozik, zakopane, 7 rhos-y-Coed, bethesda, bangor, gwynedd ll57 3nw, erbyn 5 Tachwedd. bydd gwobr o

£5.00 i’r enw cyntaf allan o’r het. os na fydd neb wedi cael y 12 yn gywir rhoddir y wobr i’r sawl fydd wedi cael y nifer fwyaf yn gywir.

a a w f h r i E j l C m b v b h x j u i

s v s h E i m g b v h m d w h u z m x v

a g o i n i t s E f f u a n E a l b d d

n a h p a u q u t s o f r p y q l z g r

h C a y u m w n w o d y r i a n a s z u

t f r n d x u p s w r E h C o q n h w E

h o l y y E E g y E o m g n h E b p t t

C b E s b C u u C j p l n a t m E i v v

d C C w b b f r o f o y g j n v d i i r

r d h E x i m h E t f t o n s w r k o p

w E r n C m k C d f b o r r C x y v r y

h o s t m E r f y y j a d z h b C w o s

g g r a i x n t i l s x j j m b w t E x

m r d x k f n u p n C q y o i n l f E r

z a q r o a C t E d g w s l E z E b E a

j b k j p C l p A b e R n w l r v o g j

p w p g s o w j j q u l o f s v t x E u

g h l l a n g a d o g b s l z E a f x i

w t z h k v a g b n o k a d s i k o g d

h b s i u r o x a g g x r a E E k k d a

AR DRAWS

1. Ust ! Dim smic ! Mae o’n

gyfforddus mewn clog ar ei gadair

freichiau. (7)

5. Esau, Aaron, Abel, Andreas.

Roedd gan bob un o’r rhain un

enwog iawn. (5)

8. Plasdy teulu’r Yorke ger

Wrecsam. (5)

9. Yr hen Bantycelyn, merch

Dolwar Fach ac Elfed. (7)

10. Dos i lid. Mae o wedi cymryd

dy le di. (7)

11. “Ac wrth eu traed roedd -----

goch / Hefyd yn dawnsio foch wrth

foch.” I.D.Hooson (5)

12. Bu Aled yn un cu erioed. Rhaid

ei wneud yn fwy garw a gwydn. (6)

14. Da mod i am ei wneud heb

unrhyw delerau nac ymrwymiad.

(6)

17. Mae’r gath yma’n wan am ei

bod yn dychwelyd heb ei chynffon.

(5)

19. Yr hyn ddigwyddodd i

Napoleon Bonaparte, y Dalai Lama

a Sant Ioan. (7)

22. Dechrau siarad ar ôl troi’n stêm

sy’n troi’n aflednais iawn. (7)

23. Llythyren olaf yr wyddor

Roegaidd. (5)

24. O’r gwaelod i’r top. (5)

25. Dywedir fod rhai Glyndŵr yn

llosgi a rhai Dwyfor yn canu. (7)

I LAWR

1. ‘Bydd ddistaw !’ Gofyn iddo roi

----- ar ei biser. (5)

2. Erstalwm, rhaid oedd bod yn

barchus ac yn dda o’r Sul. (7)

3. Yn ôl yr arbenigwyr, y dŵr

yma yw unig gartref y gwyniad

yng Nghymru. (5)

4. Beth sydd y tu ôl i’r dorth, y

blawd a’r felin ? (6)

5. Budreddi yn y de a

chreulondeb yn y gogledd ! (7)

6. Gwroniaid. (5)

7. Llond llaw. (7)

12. Yr ha’ yn ein gwlad ni. Rhaid

canfod os oes unrhyw le cyffelyb.

(7)

13. Hwyr yn marw ! (7)

15. 2.54cm x 3 i taid ! Llawer

ohonynt. (7)

16. “Wele ------ y Meseia...” (6)

18. Mae o’n troi i chi gael hwn ar

ôl talu gormod. (5)

20. Sgorio cais mewn iaith arall ?

(5)

21. Roedd llaw un yn goch a’r llall

yn byw yn Sycharth. (5)

ATEBION CROESAIR MEDI

2011

AR DRAWS

1. Mwyn; 3. Esop; 9. Letys; 10.

Patagonia; 11. Dileu; 12. Ras

filltir; 15. Ymosod; 17. Iselwr;

19. Naddu’n llyfn; 21. Cobra; 23.

Drwgdybio; 24. Pydew; 25. Yn dy;

26. Swrth.

I LAWR

1. Map o’r byd; 2. Y Stesion; 4.

Sonata; 5. Pladres; 6. Stol; 7.

Esau; 8. Egni;13. Glöyn byw;

14. Drannoeth; 16. Ofnadwy; 18.

Addewid; 20. Nedw; 21. Copi; 22.

Bodo.

Croesair Hydref 2011

Enw:

Cyfeiriad:

Y gair ‘bodo’ (modryb) oedd y maen

tramgwydd y tro hwn. Cafwyd ‘boda’

(aderyn) a ‘bedw’ (coed) yn atebion.

Ond roedd y rhan fwyaf ohonoch yn

hollol gywir. Yr enw ddaeth gyntaf

o’r het am y wobr oedd Huw Parry

Jones, 26 Ffordd Graham, Dolgarrog,

Conwy. Da iawn chi.

Cafwyd atebion cywir hefyd gan y

canlynol : Donna Coleby,

Penwortham, Preston; Gwyndaf

Jones, Caerllion-ar-Wysg; Doris

Shaw, Bangor; Menai Thomas,

Porthaethwy; Karen Williams, Elfed

Evans, Llanllechid; Jean Vaughan

Jones, Dilys Parry, Heulwen Evans,

Linda Jones, Rhiwlas; Ann Ifans,

Penisarwaun; Elizabeth Buckley,

Sara a Gareth Oliver, Rosemary

C H W I L A I R M I S   H y d R e f

Gorsafoedd Teithwyr

Williams, Tregarth; Rita Bullock,

Bethesda; Jean Hughes, Talybont; Dilys

A. Pritchard-Jones, Abererch.

Atebion erbyn 5 Tachwedd i

‘Croesair Hydref’, Bron Eryri, 12

Garneddwen, Bethesda LL57 3PD.

Dyma atebion Medi, Aberdeunant, Castell Penrhyn,

Castell Powys, Castell y Waun, Erddig, Gerddi Bodnant,

Llanerchaeron, Plas Newydd, Plas yn Rhiw, Segontium, Tŷ

Isaf, Tŷ Mawr Wybrnant.

Dyma enwau’r rhai a gafodd yr atebion cywir. Alun

Wyn Morris Gerlan; Gwenda Bowen, Gerlan; Mrs G.

Clark, Tregarth; Elizabeth Buckley, Tregarth; Merfyn a

Laura Jones, Tregarth; Barbara Owen, Rhos y Nant,

Bethesda; Elfed Bullock, Maes y Garnedd, Bethesda;

Rosemary Williams, Tregarth; Eirwen Owen, Erw Las,

Bethesda; Eirlys Edwards, Bethesda; Doris Shaw, Bangor;

Huw Parry Jones, Dolgarrog; Marilyn Jones, Glanffrydlas,

Bethesda; Mair Jones, Bethesda; Herbert Griffiths,

Tregarth.

Enillydd Medi oedd: Marilyn Jones, 1 Glanffrydlas,

Bethesda.

Page 21: Hydref 2011

Llais Ogwan 21

Ysgol Dyffryn Ogwen

Gair o’r dosbarth

Cafwyd y canlyniadau lefel A gorau gan Hayley Jones, Hannah Taylor,Gwen Siôn, Beca Roberts, Chloe Ward ac Angharad Jones. EnillyddYsgoloriaeth Dafydd Orwig eleni oedd Shân Miriam Pritchard syddbellach yn astudio Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym MhrifysgolBangor. Un nodwedd arbennig o’r canlyniadau lefel A eleni oedd bodpob un disgybl wedi cael eu derbyn i’w dewis cyntaf neu ail o ran coleg.Ni fu’n rhaid i’r un disgybl o Ysgol Dyffryn Ogwen fynd drwy’r system‘clirio’ i gael eu derbyn i’r brifysgol.

Enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Cymuned Bethesda i gofio am y StreicFawr oedd Lilly Bailey-McDonald, sydd bellach yn dilyn cwrs mewnffasiwn ym Mhrifysgol Manceinion. Diolch i Mr Griff Charles Morris,Cadeirydd y Cyngor Cymuned, am gyflwyno’r wobr.

Dyma brif ddisgyblion yr ysgol am y flwyddyn:

Rhiannon O’Marah a Gwion Williams (prif ddisgyblion),

Mali Parry-Owen (absennol), Gethin Sherrington a Gareth Walker

(dirprwy brif ddisgyblion).

Enillydd Ysgoloriaeth DafyddOrwig, Shân Miriam Pritchardgyda’r wraig wadd Gwen Elis.

Y canlyniadau Lefel A gorau: Gwen Siôn, AngharadJones, Hayley Jones a Choe Ward.

Cyfarfod Gwobrwyo 2011

Cynhaliwyd Cyfarfod Gwobrwyo blynyddol yr ysgol nos Iau, 15 Medi.Mae’r cyfarfod yn gyfle i ddathlu llwyddiannau ein disgyblion a’n poblifanc yn academaidd, yn allgyrsiol ac o ran ymdrech gyda gwaith ysgol.

Y wraig wadd eleni oedd Gwen Ellis, actores a chwnselydd, sydd wedibod a chysylltiad agos â’r ysgol ers sawl blwyddyn fel rhiant,llywodraethwraig, ac yn fwy diweddar, fel cyfarwyddwr y sioe gerdd, YSiop Arswyd, ar y cyd gyda’i gŵr, Wyn Bowen Harris. Cafwydanerchiad difyr a pherthnasol ganddi.

Braf unwaith eto oedd cydnabod llwyddiant ein disgyblion. Cafwydcanlyniadau TGAU ardderchog eleni - y gorau erioed yn hanes yr ysgol- gyda dros 80% o ddisgyblion blwyddyn 11 llynedd yn ennill yr hynsy’n cyfateb i 5 gradd A* - C. Roedd y rhain yn ganlyniadau syfrdanol.Y chwe disgybl a dderbyniodd wobrau am y perfformiadau TGAUgorau eleni oedd Mari Gwyn, Lois Angharad Jones, Catrin Roberts,Kainat Jones, Siân Mererid Jones a Gethin Williams.

Y disgyblion a dderbyniodd y gwobrau am y perfformiad gorau ymmlwyddyn 7 oedd Iago Davies, Bryn Harris, Math Owen, Luke Crowe,Rhiannon Llwyd, Manon Hughes, Rhiannon Hughes, Samantha Lewis aCeri Hulme.

Gwobr arbennig bob blwyddyn yw Tarian Carwyn Thomas a gyflwynirgan ei rieni, Mr a Mrs Emlyn Thomas, er cof amdano. Mae’r darian yncael ei chyflwyno i ddisgybl sydd yn gwneud cyfraniad arbennig ymmaes chwaraeon, a’r enillydd eleni oedd Chloe Hughes, sydd yn barodyn cynrychioli timau gogledd Cymru mewn pêl-droed a rygbi.

Page 22: Hydref 2011

Llais Ogwan 22

CroesoCroeso i ddisgyblion dosbarth Traed Bach sef y Dosbarth Meithrin.Maent wedi ymgartrefu erbyn hyn ac yn mwynhau pob eiliad yngnghwmni Miss Jones a Miss Heather.

Ysgol Llandygái

CroesoCroeso’n ôl i bawb ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd! Mae dechraublwyddyn ysgol yn amser cyffrous i blant ein hysgol, yn arbennig iblant y dosbarth Meithrin a’r dosbarth Derbyn. Hoffem estyn croesocynnes i bob plentyn sydd wedi dechrau yn yr ysgol yn rhan amser ynogystal â’r rhai sydd yn dechrau’n llawn amser yn y dosbarth Derbyn.Gobeithio y byddant i gyd yn hapus gyda ni.

Plant y Dosbarth Meithrin

Staff newydd Croeso cynnes i Mrs Sioned Owen, athrawes newydd dosbarth Tryfan achroeso cynnes i Mrs Mai Jones, cymhorthydd newydd i’r ysgol. Dwi’nsiŵr y byddwch yn hapus iawn yn ein plith.

Gwellhad BuanGwellhad buan i Mrs Yvonne Griffiths, Dirprwy Bennaeth, sydd hebfod yn dda ei hiechyd yn ddiweddar. Cofio’n gynnes atoch gan bawb ynyr ysgol.

Llwyddiant CystadleuaethAr ddiwedd tymor yr hafcawsom gystadleuaeth i ddyluniologo i hysbysu ein hysgol felysgol werdd. Hoffem ddiolch ibawb a gymerodd ran yn ygystadleuaeth a llongyfarchiadaumawr i Luned (Blwyddyn 2) addyluniodd y logo buddugol yn ygystadleuaeth.

Ysgol WerddRydym wedi cyflawni gwaith yWobr Arian ar gyfer YsgolionGwyrdd Gwynedd a Môn ac ynedrych ymlaen yn eiddgar i weldos ydym wedi bod ynllwyddiannus!

Gardd YsgolHoffem ddiolch i bawb a gefnogodd fenter yr ysgol i werthu llysiau affrwythau a dyfodd y plant yn ein gardd. Blasus iawn!

Cynllun Carbon Isel a ‘Bysedd Gwyrdd’Rydym yn cymryd rhan yn y Cynllun Carbon isel eleni. Diolchwn iMrs Mariel Edwards, Swyddog Cynllun Carbon Isel, am alw draw asiarad gyda phlant yr ysgol a’r grŵp ‘Bysedd Gwyrdd’ ynglŷn â’rcynllun a’i bwrpas. Mae aelodau’r grŵp ‘Bysedd Gwyrdd’ wedi bod ynbrysur yn cofnodi ein defnydd o ynni yn ystod yr wythnosau diweddarer mwyn sicrhau ein bod yn lleihau ein defnydd o ynni a diogelu’ramgylchfyd yn y broses.

RecordersUnwaith eto eleni, bu plant Blwyddyn 2 yn cael gwersi recorders. Brafcael gweld llawer o blant yn cymryd y cyfle i ddysgu chwarae offeryn adangos mwynhad.

Ysgol Abercaseg

Luned gyda’r logo buddugol

Dyddiadau pwysig4/10/11 – Cynllun Rhifedd Teulu yn cychwyn6/10/11 – Casglu bagiau ailgylchu Antur Waunfawr10/10/11 – Diwrnod hyfforddiant mewn swydd (dim ysgol i’rdisgyblion)18/10/11 – Ffair Iechyd yn yr ysgol am 2.45pm20/10/11 – Disgo Gwisg Ffansi am 6pm24/10/11 – Gwyliau hanner tymor

Dosbarth Traed Bach

Gweithdy GwyddoniaethCafodd yr Adran Fabanod brynhawn arbennig yn ymchwilio ac arbrofigyda nifer o deganau wrth ddysgu am rymoedd – gwthio, tynnu a throi– a hynny drwy weithgareddau ymarferol a chyffrous. Roedd ygweithdy yng ngofal Shell ar y cyd â Gyrfa Cymru.

Yr UrddMae nifer helaeth o’r disgyblion wedi ymaelodi â’r Urdd eleni –newyddion da. Maent yn mynychu clwb ar ôl ysgol bob nos Lun ynogystal â chael cyfle i gystadlu mewn amrywiol gystadlaethau yn yrEisteddfod.

Ymweliad â’r GoedwigBu disgyblion blwyddyn dosbarth Traed Bach a dosbarth Enfys yngnghoedwig y castell yn mwynhau holl elfennau’r hydref. Roedd eucoronau dail yn werth eu gweld ac roedd hi’n braf eu gweld yn gweithiogyda’i gilydd i gasglu trysorau amryliw ac yn meddwl am fannau addasyn y goedwig i’r saith cysgadur gael swatio dros y gaeaf.

Wigwam StoriDaeth tad Mali a Cai Smith atom i adeiladu wigwam gyda’r plantieuengaf - diolch iddo am ei amser. Bydd y plant yn cael gwrando arstori gan Catherine Arran yn y wigwam yn ystod y dyddiau nesaf.

DiolchBu Mr Robert Williams yn siarad gyda disgyblion dosbarth Gwawr aHeulwen – yn trafod ei waith fel gofalwr yr ysgol. Diolch iddo am eigyfraniad unwaith eto.

Tymor NewyddMae blwyddyn ysgol newydd wedi hen ddechrau a’r plant i gyd yn dod iarfer â’r drefn newydd. Mae rhai o blant yr ysgol wedi symud ymlaen iysgolion uwchradd yr ardal, eraill yn dechrau ar eu bywyd addysgol ynyr ysgol gynradd. Pob lwc iddynt i gyd a gobeithio y mwynhewch eichysgol newydd.

AilgylchuMae’r ysgol wedi dechrau cynllun gyda Warws Werdd, Antur Waunfawri ailgylchu hen ddillad, cyrtans, esgidiau neu unrhyw decstilau eraill ermwyn codi arian i goffrau’r ysgol. Felly, pan rydych yn penderfynu body cypyrddau dillad yn rhy llawn ac angen eu clirio, dillad haf wedi myndallan o ffasiwn, neu’r plant newydd fynd ffwrdd i’r coleg ac angenclirio’r llofft, yna dewch â nhw i’r ysgol ac fe wnawn ni’r gweddill.

Ysgol Rhiwlas

Page 23: Hydref 2011

Llais Ogwan 23

Croesawu plant newyddDaeth llu o blant newydd i Ysgol Llanllechid ar ddechrau mis Medi.Mae’r plantos wedi setlo’n arbennig o dda, a hynny mewn amser byriawn - pob un yn mwynhau gweithgareddau difyr y dosbarth.

Ffair HydrefDiolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd ein Ffair Hydref yn ddiweddar.Roedd yn ddiwrnod prysur tu hwnt, - yr ysgol a’r buarth yn llawnstondinau, gemau a phob math o bethau diddorol. Agorwyd y ffair ganneb llai na Peppa Pinc, y cymeriad hoffus o fyd teledu’r plant lleiaf, acroedd ymddangosiad y Frigad Dân yn hynod boblogaidd. Roedd pawbwedi mwynhau y cacennau, hufen iâ, byrgyrs o’r barbeciw, a sglodion aphaned gan griw’r gegin! Rhaid diolch yn fawr i’r holl blant, rhieni, staffa chyfeillion yr ysgol am gefnogi’r cyfan ac yn arbennig i’r Pwyllgorgweithgar (dan arweiniad Mrs Lowri Roberts a Mrs Iona Robinson) amdrefnu’r cyfan mor gampus! Llwyddwyd i godi dros £1,700! Gwych!Diolch i bawb.

Gwersi Cymraeg i RieniMae`r gwersi wythnosol yn mynd o nerth i nerth o dan hyfforddiant CathAran – diolch iddi am ysbrydoli pawb.

Clybiau’r ysgolMae nifer o glybiau’n cael eu cynnal [ar ôl ysgol] eto eleni. Eisoes,dechreuodd ‘Campau’r Ddraig’, ‘Dreigiau Bach’, Clwb Gitârs, ClwbRecorders a’r Clwb Darllen.

Taith Bl 3 a 4Aeth dosbarthiadau Mrs Rona Williams a Mr Stephen Jones (bl 3 a 4) ardaith i warchodfa natur Gors Goch ar Ynys Môn o dan arweiniad MrBen Stammers. Cafwyd modd i fyw yn astudio`r gors a`i hanifeiliaid.Uchafbwynt y daith i’r plant oedd cael cerdded drwy ddŵr y gors yn eusi-bwts, a gweld y nifer helaeth o bryfetach e.e. gwas y neidr

Yn y prynhawn roedd cyfle i ymweld a Din Lligwy ble a gwelwyd oliono dri chyfnod gwahanol: y siambr gladdu o’r cyfnod Neolithig; tai crwno gyfnod y Rhufeiniaid a Chapel Lligwy o’r oesoedd canol.Diolch yn fawr iawn i Mr Ben Stammers am daith fythgofiadwy.

Chwaraeon buarthCafwyd sbort a sbri ar fuarth yr ysgol yn ddiweddar, pan ddaeth dwy oswyddogion ‘Menter Conwy’ draw i’r ysgol i ddysgu rhywfaint o gemaubuarth i’r plant. Yn ystod rhai o ddiwrnodau braf ein Ha’ BachMihangel, cafodd dosbarthiadau’r Babanod fwynhau gemau’r ‘llwynogcoch’, ‘Bendigeidfran’, ’Lan y môr’ ymysg nifer o rai eraill. Diolch iEsyllt a Non am y profiadau hwyliog!

Mr Saynor a’r Grŵp GwyrddDiolch i Mr Saynor o`r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am eincynorthwyo fel arfer gyda`n garddio.

Gwasanaethau BoreolBu’r ysgol yn ddigon ffodus i gael sawl person gwâdd i arwain eingwasanaethau torfol yn ddiweddar. Diolch yn fawr i’r Parchedig GeraintHughes, Mrs Helen Williams a’r Ciwrat Jenny Hood am eu cyfarnaidaugwerth chweil.

Blwyddyn NewyddAr ddechrau blwyddyn ysgol newydd, hoffem groesawu disgyblion yrysgol i gyd yn ôl am flwyddyn arall. Estynnwn groeso arbennig i’r saitho blant sydd wedi dechrau yn y dosbarth meithrin ac i’r un ar ddeg oddisgyblion sydd wedi dechrau yn llawn amser yn y dosbarth derbyn.Croeso mawr iddyn nhw i gyd!

Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd – Hola!Fel rhan o’n gwaith dinasyddiaeth fe ddathlodd yr ysgol ddiwrnodieithoedd Ewropeaidd ddiwedd mis Medi. Edrychom yn benodol arSbaen gan ddysgu am y wlad, dysgu siarad yr iaith a blasu’r bwyd!Daeth llawer o’r disgyblion i’r ysgol wedi gwisgo mewn dilladtraddodiadol a dillad melyn a choch. Cawsom ddiwrnod gwych yn llawnhwyl!

Cyngerdd DiolchgarwchByddwn yn cynnal cyngerdd diolchgarwch yn neuadd yr ysgol ar foreIau, 20 Hydref am 10.15am. Mae croeso mawr i bawb ymuno â ni!

Ysgol LlanllechidYsgol Bodfeurig

Page 24: Hydref 2011

Llais Ogwan 24

Taith i Gae’r GorsAr ddechrau’r tymor bu disgyblion dosbarth Carnedd ar ymweliad âChae’r Gors yn Rhosgadfan. Cafwyd gwybodaeth hynod o ddiddorol ameffaith yr Ail Ryfel Byd ar fywyd bob dydd y gymuned leol. Dysgwydam blant a ddaeth i fyw i ardaloedd gwledig o ddinasoedd fel Lerpwl.Gwelwyd y rhestr ddogni, y diffygion yn yr amrywiaeth o fwyd, a sutroedd pobl yn dygymod â’r tywyllwch, y seiren a’r gysgodfa Anderson.Diolch i Dewi Thomas, Dawn ac yn arbennig i Margaret Eaglestone amei hatgofion plentyndod yn Birmingham yn ystod y Rhyfel ac i IeuanThomas am ei atgofion yntau yng Ngharmel a’r Cilgwyn.

Llwyddiant MabolgampauAr ddiwedd tymor yr haf, bu tri o ddisgyblion yr Ysgol yn llwyddiannusiawn ym Mabolgampau’r Urdd. Yn dilyn buddugoliaeth yn y rowndiauCylch a Rhanbarth, aeth Cerys Thomas (pêl), Jac Oliver ac AdrianRoberts (gwaywffon) i’r rownd derfynol sef cyfarfod rhanbarth ygogledd yng Nghei Cona. Yno eto cafwyd perfformiadau ardderchog ganddynt. Daeth Cerys acAdrian yn bedwerydd yn eu cystadlaethau hwy a chipiodd Jac y trydyddsafle yn ei gystadleuaeth ef. Da iawn chi eich tri a daliwch i daflu!

Taith CaerdyddYn y bore bach mae’i dal hi yn ôl yr hen ddywediad, a dyna’n union awnaethom ni fore Mercher, 28 Medi pan heidiodd 31 ohonom iGaerdydd. Roedd pawb yn llawn cyffro ac yn edrych ymlaen at y daithhir-ddisgwyliedig.Pwll Mawr ym Mlaenafon oedd yr ymweliad cyntaf. Diddorol oedd caelteithio dan ddaear a gweld pa mor anodd oedd amodau gwaith y glowyra fu. Anelom yn syth wedyn at Wersyll yr Urdd ble cawsom groesopenigamp. Pryd o fwyd blasus, ac yna gêm o fowlio deg. Wel sôn amgystadleuol - heb sôn am yr athrawon!Y diwrnod canlynol bûm yn ymweld â’r Senedd. Bu dadlau brwd yn yCynulliad am gostau bagiau plastig a phawb am y gorau yn lleisio eubarn. Yna ymweld â phentref canoloesol Cosmeston yn y prynhawn asinema gyda’r nos.Uchafbwynt y daith heb os oedd ymweld â Stadiwm y Mileniwm.Gwych oedd clywed y dorf yn bloeddio pan wnaethom gamu ar y cae.Profiad gwefreiddiol.Fel y gallwch ddychmygu cafwyd taith lwyddiannus a blinedig eto eleni.Profiadau amhrisiadwy i’r disgyblion. Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’ngofalu am y plant, a diolch o galon i’r plant am roi enw da unwaith eto iddisgyblion Penybryn.

Ysgol Pen-y-bryn

Dyma’r criw o flaen adeilad y Cynulliad

CroesoCroeso i bawb yn ôl i’r ysgol.Mae pawb wedi setlo yn eudosbarthiadau newydd erbynhyn. Croeso mawr i blantnewydd y dosbarth meithrin ahefyd i Mrs Cerys Roberts ar ôlcyfnod mamolaeth ac i MrsAlison Halliday ar ôl cyfnod osalwch.

EphaphaCroesawyd Ephapha i’r ysgol ynddiweddar. Cafwyd gwasanaethhwyliog iawn gyda phawb ynmwynhau stori a chân.

Toiledau NewyddMae plant yr adran iau wrth euboddau gyda’u toiledau newyddsbon crand! Bu gweithwyr ynbrysur drwy’r gwyliau yngwneud gwelliannau hir-ddisgwyliedig iddynt. Bydd rhaidgofalu amdanynt rŵan.

Ysgol Tregarth

Gwobr Ysgolion RhyngwladolLlongyfarchiadau mawr i holl staff adisgyblion yr ysgol am ennill ailachrediad y Wobr YsgolionRhyngwladol am dair blynedd arall.Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth oholl waith yr ysgol yn hyrwyddo’rdimensiwn rhyngwladol yn eu dysguac am eu cysylltiadau gyda’uhysgolion partner yn Ghana, Japan aTsieina. Da iawn pawb!

Ymweliad Pili PalasCafodd Blwyddyn 1 a 2 ddiwrnodbendigedig ym Mhili Palas ynddiweddar fel rhan o’u gwaith arlindys a gloÿnnod byw. Dysgodd yplant lwyth o ffeithiau diddorol amwynhau gweld yr holl greaduriaidyno. Diolch i Edward ac Ifor am eintywys o amgylch ac am y sgyrsiaudifyr.

Gwasanaeth DiolchgarwchCynhelir Gwasanaeth Diolchgarwchyr ysgol yn Eglwys y Gelli ar 20Hydref am 1.30 y pnawn. Croeso ibawb.

Croeso i dair aelod newydd o staff i Gylch Meithrin Cefnfaes. Mae AntiKerry, Anti Shân ac Anti Sara yn brysur ymgartrefu ym mwrlwm ycylch.

Cylch Meithrin Cefnfaes

Dyma blant bach ysgol feithrin Cefnfaes yn dysgu am frwsio’u dannedd gyda Dewi’r Ddraig.

Croeso i blant bach newydd y cylch sydd wedi cychwyn ers mis Medi.Mae’r plant i gyd yn setlo’n dda erbyn hyn.

Plas Ffrancon yn Llys Dafydd

Mae staff Plas Ffrancon wedi mynd ati ihyrwyddo eu pecynnau ffitrwydd newyddyn Llys Dafydd. Mae’r staff hefyd wedigwneud arddangosfa o rai o’r pethau agynhelir yn y Neuadd Chwaraeon fel‘cheerleading’, profi ffitrwydd a gwersisboncen.

Yn anffodus roedd yn bwrw glaw trwy’rdydd yn Llys Dafydd ac roedd hyn wedirhwystro pobl rhag galw draw i’w gweld.Serch hynny, hoffai Bethan Moore,rheolwraig y ganolfan ddiolch i bawb aalwodd heibio, i enethod ‘TeigarsFfrancon’ a’r staff i gyd am em eu gwaithcaled.

Page 25: Hydref 2011

Llais Ogwan 25

O’r CyngorSioe Amaethyddol. Wedi'r cwblmeddai, mae'r Sioe yn ddigwyddiadblynyddol ac fe ddylid fod weditrefnu yn well nag agor ar ddyddGwener.

Blwch Postio Caerhun Derbyniodd y Cyng. JamesGriffiths gwyn ynglŷn â'r ffaith fody blwch wedi ei dynnu o'i safle.Adroddodd y Clerc ei fod wedisiarad â Mr Gareth Jones o'rSwyddfa Bost a oedd yn sicrhau ybydd y blwch yn cael ei ail leoli ynardal Stad Caerhun. Eglurodd fodfan neu lori wedi taro'r blwchgwreiddiol a bu rhaid ei dynnuoherwydd Iechyd a Diogelwch ycyhoedd.

Ffordd Heibio'r Vaynol ArmsGofynnodd y Cyng. Lowri James afyddai'r Cyngor yn darganfod bethyw statws y ffordd yma sy’n rhedegwrth ochor y dafarn ac yn dod allanar y ffordd fawr yn nes at Lôn BachAwyr.

Cyngor Cymuned

Llandygái

Cynhaliwyd cyfarfod Medi ynNeuadd Goffa Mynydd Llandygáigyda’r Cynghorydd Mrs. MairOwen Pierce yn y Gadair.

Roedd yr aelodau’n falch o gaelllongyfarch y Cynghorydd DafyddOwen ar gael ei anrhydeddu yngNghynhadledd Flynyddol PlaidCymru yn Llandudno am wasanaethclodwiw dros gyfnod maith.

Yn dilyn gohebiaeth gyda’r CyngorCymuned mae Cartrefi CymunedolGwynedd wedi cysylltu ag AdranBriffyrdd y Cyngor Sir ynglŷn âpharcio a gobeithio y gallant ddod igytundeb.

Cafodd y Cynghorydd DafyddOwen ar ddeall gan y Cyngor Sir eubod yn bwriadu gwella’r sefyllfaynglŷn â dŵr ar y ffordd ger Waeny Pandy cyn y gaeaf. Maetrefniadau hefyd wedi’u gwneud idrin Lôn Las Ogwen ac mae’rCyngor Sir yn asesu gwaith torrityfiant ar ochrau’r ffyrdd. Tynnwydsylw’r Cyngor Sir at y broblemddŵr gerllaw Tanybwlch, MynyddLlandygái.

Bu’r Cynghorydd Rhys M. Llwydmewn cyfarfod o bwyllgorCanolfan Tregarth a’r CynghoryddArthur W. Rowlands mewncyfarfod ynglŷn â Lôn Las Ogwen.

Gwnaethpwyd cais i’r Cyngor Siram ragor o lochesi bws.

Cyngor Cymuned

Pentir

Cynhaliwyd cyfarfod mis Medi o'rCyngor yng NghanolfanPenrhosgarnedd gyda'r Cyng.Marred Jones yn cadeirio.

W.R.V.S Datganodd y Cyng. R.G. Robertsei siom ynglŷn â phenderfyniad yMudiad i ddefnyddio cyflenwyrbwyd o du allan i'r ardal yn eu caffiyn Ysbyty Gwynedd. Er ei fod yncefnogi'r Mudiad yn gryf, teimlaifod y byd busnes/ariannol wedicymryd drosodd o gyflwynogwasanaeth unwaith eto. Gyda'rMudiad yn ddibynnol arwirfoddolwyr lleol, teimlai'r Cyng.Roberts y dylai’r Mudiad fod yncefnogi busnesau lleol.Penderfynwyd anfon at y W.R.V.Si ddatgan siom y Cyngor.

Materion Cynllunio Cafwyd gwybodaeth fod y cais i godi10 o unedau gwyliau yn Nhŷ Coch,Glasinfryn wedi ei dynnu yn ôl.

Cyflymdra A4244 Drwy Bentir Holodd y Cyng. Lowri James aoedd unrhyw wybodaeth wedi eidderbyn yn dilyn cyfarfod rhwngAdrian Williams o'r Cyngor Sir, yCyng. J.W. Williams,cynrychiolaeth o fudiad ParchuPentir a’r Cyngor Cymuned. Aethymlaen i sôn fod nifer oargymhellion wedi eu gwneud igeisio lleddfu problem gyrru ar yffordd yma. Credai'n gryf y dylidfod wedi gweithredu rhai o'rargymhellion. 'Roedd y Cyngor Sira'r heddlu yn dal i wrthwynebugostwng y cyflymder i 50mya, ahynny er mawr siom i drigolion yrardal yma.

Yr HeddluPenderfynwyd llythyru â HeddluGogledd Cymru i holi am eu polisiynglŷn â'r amser maent yn eigymryd i ymweld â safleoedd llemae'r cyhoedd wedi cysylltu â hwyynglŷn ag unrhyw achosion lleol.Gwnaethpwyd hyn yn dilyn cwyngan y Cyng. James Griffiths yndilyn nifer o ddigwyddiadau ynardal Waen Wen.

GwyliauHolodd y Cyng. D.H. James pamna allai'r Adran Addysg fod wedicanfod diwrnod arall yn ystod ytymor i adennill y diwrnodau aenillwyd drwy gau yn fuan adeggwyliau'r Haf, oherwydd amseru'r

Cymorth i rai â Phroblem Alcohol

Dathlodd y mudiad sydd yn cynnigcymorth i rai sydd â phroblem alcohol achyffuriau eraill yng Ngwynedd a Môn,ei ben-blwydd cyntaf yn ddiweddar.Sefydlwyd Mudiad Adfer Gwynedd aMôn (AGRO) yn unswydd igynorthwyo dioddefwyr yn y ddwy Sir.Cynhelir cyfarfodydd wythnosol argyfer unigolion mewn adferiad, euteuluoedd a’u gofalwyr. Trefnir teithiaucerdded, pysgota a garddio yn ogystal âchwaraeon fel badminton a bowlio.

Yn dilyn lansiad gwefan a thaflennewydd, disgwylir y gellir denu rhagoro bobl i’r cyfarfodydd yn Amlwch,Caergybi a Llangefni ar Ynys Môn ac iGaernarfon a Bangor yng Ngwynedd.

Balchder Bro OgwenBagiau Baw Cŵn

Mae baw cŵn wedi bod yn broblem sy’n poeni llawer o

drigolion y Dyffryn ac yn ystod yr haf bu aelodau Balchder Bro

allan gyda dau o swyddogion Cyngor Gwynedd yn rhannu

bagiau arbennig i berchnogion cŵn ar gyfer glanhau ar ôl eu

hanifeiliaid anwes.

Roedd hyn yn rhan o ymgyrch genedlaethol Rhaw Faw.

Does neb yn hoffi gweld baw cŵn. Yn ogystal â bod yn annifyr,

gall achosi tocsocariasis sydd yn medru achosi dallineb. Er

bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn glanhau

ar ôl eu cŵn, mae nifer bach o bobl yn dal i anwybyddu’r

rheolau.

Os bydd ci yn baeddu mewn man cyhoeddus, cyfrifoldeb y

perchennog (neu’r sawl sy’n mynd â fo am dro ar y pryd) yw

clirio ei faw. Fel arall, mae hyn yn cael ei ystyried yn drosedd

amgylcheddol a gall perchnogion anghyfrifol wynebu

Hysbysiad Cosb Benodol o hyd at £150 neu fynd i’r llys lle

mae uchafswm y ddirwy’n £1000.

Y ffordd orau o lanhau ar ôl ci yw defnyddio bag, ei selio a’i roi

yn un o’r biniau baw cŵn pwrpasol. Os nad oes bin baw cŵn

yn agos, dylid mynd â’r bag adref i gael gwared arno neu ei roi

yn ofalus mewn bin sbwriel cyhoeddus arferol.

Mae cyflenwad o fagiau ar gael am ddim i berchnogion cŵn o

swyddfeydd Cyngor Gwynedd, gan eich Cynghorydd neu gan

Paul Rowlinson, Ysgrifennydd Balchder Bro Ogwen ar y rhif

(01248) 605365.

Yn ôl Huw Harries, cyn sefydlydd ymudiad, daw’r rhai sydd mewnadferiad ar hyn o bryd o amrywiolgefndiroedd. Rhai wedi ymddeol, ynrhedeg eu busnesau eu hunain; yngyflogedig; gwragedd tŷ; mewnprifysgolion a cholegau; yn gyn-droseddwyr ac yn gyn aelodau o’rlluoedd arfog sydd â phroblemaualcohol, cyffuriau neu iechyd meddwl,yn ogystal â’u teuluoedd. Y nod ywcreu rhagor o gyfleoedd ar gyferadferiad gan gynnig cyfeillgarwch agobaith newydd i’r dyfodol.

I gael cymorth gan y mudiad AGRO,cysylltwch â Huw ar y rhif 07775872254 (rhwng 9-5) neu 07549956002 (ar ôl 5pm) neu anfonwchebost at [email protected]

Ann Williams a Pearl Evans, Balchder Bro Ogwen, yn rhoi

bagiau i Mary Jones, sydd bob amser yn glanhau ar ôl ei chi.

Page 26: Hydref 2011

Llais Ogwan 26

ChwaraeonGemau Ieuenctid

Bethesda v Llangefni, 11 Medi, 2011

Daeth criw mawr lawr i Ddôl Dafydd ar bnawn Sul gwyntog ergwaethaf colled agos Cymru yn erbyn y Springboks ac feroddodd y plant wledd o gemau i’r dyrfa fawr;

Dan 14Bethesda 43 – Llangefni 14Tymor arall gyda Ashley yn arwain o’r blaen, ond Kyle gafodd ycais cyntaf mewn gêm a rannwyd yn dair sesiwn er mwyn rhoicyfle i bob un o garfan enfawr Cefni. Braf nodi hefyd bod criw obron i 20 o hogia Besda ar gael ar gyfer y gêm hon. Talodd gwaithy pac ar ei ganfed i’r tîm gydag Osian yn rhwygo drwy amddiffynCefni am ddau gais a Cairon fel llew yn y canol. ChwaraeoddMathew ei gêm orau eto (2 gais) ond Ashley gyda dau gais a 4trosiad mewn gwynt cryf sy’n arwain y sgorio y tymor yma! BuLlangefni’n cystadlu’n frwd gan groesi ddwywaith ac oni bai amdaclo cadarn buasai’r sgôr wedi bod dipyn yn nes. Mae’n rhaidbod y sesiynau ymarfer ychwanegol efo Siôn a Nige ar nosWener yn talu!

Dan 12Bethesda 12 – Llangefni 7Gêm arall gyffrous, a gyda gêm y tîm hŷn ar y cae gyferbyn roeddmwy nag un o’r dorf yn trio gwylio dwy gêm ar yr un pryd!Dengys y sgôr fod y gêm hon wedi bod yn gystadleuol tu hwnt adycnwch Besda’n mynd â hi yn y diwedd. Cafwyd cais bob ungan Mathew a Siôn Thomas a bu hynny’n ddigon i gipio’rfuddugoliaeth.

Dan 10Bethesda 25 – Llangefni 10Safon uchel o chwarae gan y criw dan 10 a 5 cais yn erbyn 2 yrymwelwyr. Yr hogia’n trio’n galed i redeg y bêl ar bob cyfle a hynyn dod â cheisiau i Siôn Buchanan (2), Cai, Dafydd Lloyd acOsian Hughes.

Bethesda 4 – Llangefni 9, Bethesda 9 – Llangefni 6Cymaint oedd y brwdfrydedd a’r awch am chwarae roedd y plantlleiaf yn dal i chwarae ar ôl i’r tri thîm arall orffen! Roedd Lee yrHyfforddwr wrth ei fodd gweld cymaint o blant wedi troi allan, ac ilawer ohonynt dyma’u profiad cyntaf o gêm gystadleuol - da iawnchi! Gyda gemau mor gyflym (a chymaint o sŵn!) anodd oeddcadw cyfrif o’r sgorwyr i gyd, ond llongyfarchiadau mawr i bawb.

Gêm Bethesda v Llangefni, 18 Medi, 2011

Taith i ffwrdd i wlad y Cofis oedd ail gêm tîm Dan 14 Bethesda ergwaetha’r glaw trwm fu’n bygwth y cynlluniau.

Caernarfon 26 – Bethesda 15 Bu hon yn gêm galed i’r hogia gan eu bod yn colli dau o sêr yrwythnos gynt – Cairon Jones a Mathew Parry Griffiths. Ergwaethaf colli nerth y ddau chwaraewr doedd Besda byth yn bell iffwrdd yn y gêm hon. Arweiniodd Ashley Rowlands y pac ynrymus eto ac roedd yn braf cael Steffan Owain yn ôl ar wedi anaf– roedd ei dacl driphlyg ar dri chwaraewr gwahanol mewn unsymudiad werth ei gweld! Sgoriodd Iwan Roberts ei gais cyntaf i’rtîm ac ‘roedd Osian eto’n bob man yn y chwarae rhydd. RoeddCai Jones yn croesi’r llinell fantais yn rheolaidd a chafodd Ashleyddau gais eto yn ogystal â bwrw’r postyn gyda throsiad. Dalioddyr hogia ati reit at y diwedd a buasai cais i Iago Davies wedi bodyn haeddiant am ei waith caled drwy’r bore. Daliwch ati hogia!

Ar ôl tymor cymysg o ran canlyniadau mae timau Dydd Mawrth

wedi rhoi’r gorau iddi dros y gaeaf ond yma gwelir llywydd y clwb,

Mr Elfed Evans yn cadw llygaid barcud ar gêm yn ystod yr haf pan

oedd ei gyfaill, Denzil Wyn Jones sy’n chwarae gyda thîm B yn

brwydro i roi buddugoliaeth i Fethesda.

Hwb i Chwaraeon LleolMae clwb pêl-droed Teigrod Mynydd wedi llwyddo i gael cymorth

ariannol o gronfa Cist Gymunedol Gwynedd.

Mae’r gronfa’n ceisio annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn

gweithgareddau corfforol. Gall clybiau a sefydliadau chwaraeon

hawlio hyd at £1,500 trwy gronfa Cist Gymunedol Gwynedd gyda

chymorth ar gael i brynu offer newydd ac i dalu am gymwysterau

ar gyfer hyfforddwyr.

Ymysg y clybiau a’r sefydliadau chwaraeon llwyddiannus

diweddaraf mae Clwb Pêl-droed Mynydd Tigers – bydd yr arian

yn mynd tuag at offer a dillad ar gyfer y tîm dan 14 yn ardal

Bethesda.

Dywedodd Sally Lloyd-Davies, cadeirydd Panel Cist Gymunedol

Gwynedd:

“Rydw i’n falch iawn bod Cyngor Gwynedd wedi gallu dyrannu

£9,330 i ystod eang o sefydliadau chwaraeon trwy’r sir. Mae’r

grwpiau yma sy’n gweithio ar lefel leol yn gwneud cyfraniad go

iawn yn y gwaith o annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn

chwaraeon a chadw’n heini.

Am ffurflen gais am gronfa Cist Gymunedol Gwynedd cysylltwch

â Gwasanaeth Datblygu Chwaraeon Cyngor Gwynedd ar

(01758) 704010.

Bowlio

Teigrod Ffrancon yn codi hwyliau - gweler t24