44
Health & Safety | intouch | www.wwha.co.uk | 17 intouch RHIFYN 77 | GAEAF 2013-2014 | AM DDIM Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West Yn y rhifyn hwn... Preswylwyr yn croesawu canolfan newydd Arbed arian wrth siopa Y dreth ar ystafelloedd gwely ac addasiadau i bobl anabl Biliau ynni rhatach

Intouch gaeaf 2013 2014

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Intouch gaeaf 2013 2014

Health & Safety | intouch | www.wwha.co.uk | 17

intouchRHIFYN 77 | GAEAF 2013-2014 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn...

Preswylwyr yn croesawu canolfan newydd

Arbed arian wrth siopa

Y dreth ar ystafelloedd gwely ac addasiadau i bobl anabl

Biliau ynni rhatach

Page 2: Intouch gaeaf 2013 2014

Hoffwch ein tudalen Facebook

Ymunwch a grwp

Postiwch eich cartref

Darganfod Cyfnewidiad

www.houseswapwales.co.ukfacebook.com/houseswapwales

1

3

4

2

Noddwyd gan

Helpu tenantiaid ar draws Cymru i gyfnewid cartrefi gan ddef-nyddio Facebook

Page 3: Intouch gaeaf 2013 2014

Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr y Golygydd Cynnwys

Ieithoedd a fformatau eraillOs hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, er enghraifft, mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein?

Dilynwch ni ar twitter @wwha

Cysylltu â niTai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Ffôn: 0800 052 2526 | Testun: 07788 310420 E-bost: [email protected] | Gwefan: www.wwha.co.ukGallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, [email protected]

Croeso i rifyn y gaeaf InTouch 2013 – 2014, yr ydym yn gobeithio y bydd yn llawn o wybodaeth ddefnyddiol a diddorol i chi. Yn ôl yr arfer, rydym wedi trio’n galed i ddod â chymysgedd o newyddion am Dai Wales & West ei hunan, newyddion gan breswylwyr ac awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar amrywiaeth o faterion gan wahanol gyfranwyr gwadd. Mae gormod i’w crybwyll nhw i gyd, felly dyma ddetholiad bychan.

• Mae newidiadau i’r system fudd-daliadau yn parhau i boeni llawer o bobl, ac yn y rhifyn hwn byddwn yn trafod y Dreth ar Ystafelloedd Gwely a’r effaith mae’n ei chael ar breswylwyr anabl ag eiddo a addaswyd.

• Mae’r Swyddog Lleihau Troseddau ac Anhrefn a’r Ymgynghorydd Troseddau Tactegol, Michael Shears, yn ein cynghori ar sut i gadw ein pethau gwerthfawr yn ddiogel.

• Mae Swyddog Cynaladwyedd WWH, Owen Jones, yn edrych ar sut gallech arbed arian ar eich biliau tanwydd drwy newid eich cyflenwr ynni.

• Ac mae Lowri Griffiths o Gymdeithas Strôc Cymru yn esbonio beth i’w wneud pan fydd perygl bod rhywun yn cael strôc.

• Gan barhau i drafod strociau, os ydych chi neu eich teulu wedi cael eich effeithio gan strôc, cefnogwch y Swyddog Tai Andy Pritchard, sy’n ymarfer yn galed ar gyfer Marathon Llundain Virgin Money eleni. Bydd Andy yn rhedeg ar ran WWH, a bydd yr holl arian y bydd yn ei godi yn mynd at Gymdeithas Strôc Cymru - felly, rhowch beth bynnag y gallwch ei sbario.

Yn olaf, peidiwch ag anghofio y gallwch ddarllen yr holl erthyglau yn y rhifyn hwn o In Touch, a rhifynnau’r gorffennol, unrhyw dro ar ein gwefan www.wwha.co.uk

Cadwch mewn cysylltiad.

Newyddion a gwybodaeth WWH 4Datblygiadau diweddaraf 10Byw’n iach 13Mis Ymwybyddiaeth o Strôc 14Byw’n Wyrdd 15Cymdogaethau sy’n gweithio 18Materion ariannol 20Adroddiad chwarterol 23Cydraddoldeb ac amrywiaeth 29Cyfranogiad preswylwyr 32 Cynnal a chadw wedi’i gynllunio 34Diwrnod ym mywyd... 36Cystadleuaeth 38Y diweddaraf am elusennau 39Newyddion a safbwyntiau 40Pen-blwyddi a dathliadau 42

Page 4: Intouch gaeaf 2013 2014

04 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion WWH

Wyddech chi fod Tai Wales & West wedi cael ein cydnabod fel un o’r 50 darparwr tai cymdeithasol gorau yn y Deyrnas Unedig?Yn ôl system raddio newydd arloesol a barn ffigurau amlwg yn y sector tai, mae Rhestr y 50 Landlord Gorau yn cydnabod rhagoriaeth yn y sector tai cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig.

Yn safle 42 ar y rhestr, Tai Wales & West yw’r darparwr tai uchaf o Gymru i gael lle ar y rhestr, a chaiff ei ddisgrifio fel ‘grym sylweddol yn sector tai Cymru.’

Cyngor Sir Powys, sy’n gweithio mewn partneriaeth â WWH ar dri phrosiect adeiladu newydd ar draws y sir, a fydd yn arwain at fwy na 70 o gartrefi newydd fforddiadwy, yw’r unig ddarparwr tai arall o Gymru i gael lle ar y rhestr, a hwythau yn safle rhif 50.

Mae Rhestr y 50 Landlord Gorau yn fenter newydd ar y cyd rhwng cylchgrawn 24Housing a’r Rhwydwaith Ansawdd Tai.

Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig...

A rhagor o newyddion da…Mae Tai Wales & West wedi dal gafael yn ei achrediad 3 Seren i Gwmnïau Gorau ac wedi cael ei enwi am y bedwaredd flwyddyn yn olynol gan y Sunday Times fel un o’r 100 Sefydliad nid-er-elw gorau ar gyfer ei weithwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran cynllun Cwmnïau Gorau’r Sunday Times: “Mae’r cyflawniad hwn yn dangos lefelau eithriadol o ymgysylltu o fewn eich sefydliad.”

Yn 2013 cydnabuwyd Tai Wales & West gan feirniaid y Sunday Times fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, a chyrhaeddodd y 7fed safle drwy’r Deyrnas Unedig gyfan.

Bydd y marciau cyffredinol ar gyfer 2014 yn cael eu datgelu yn y Sunday Times ar 16 Mawrth.

Page 5: Intouch gaeaf 2013 2014

Newyddion WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Y dreth ar ystafelloedd gwely ac addasiadau i bobl anabl

Rydym yn pryderu am yr effaith y mae’r dreth ar ystafelloedd gwely yn ei chael ar ein holl breswylwyr, ac yn gweithio’n galed i helpu a chynghori lle gallwn. Rydym yn gwybod bod 779 o gartrefi WWH wedi cael eu heffeithio gan y dreth ar ystafelloedd gwely.

Un grŵp o breswylwyr sydd wedi cael eu taro’n galed iawn gan y dreth ar ystafelloedd gwely mae’n cael ei alw’n swyddogol yn ‘gymhorthdal ystafell sbâr’ yw’r rhai sy’n byw mewn eiddo sydd wedi cael eu haddasu’n sylweddol i ddarparu ar gyfer anghenion pobl ag anableddau. Rydym yn gwybod bod 74 o aelwydydd Tai Wales & West yn cynnwys pobl anabl sy’n byw mewn eiddo rydym wedi eu haddasu’n benodol i ddiwallu eu hanghenion.

Un o’r ‘atebion’ y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi eu hawgrymu ar

gyfer pobl y mae’r dreth ar ystafelloedd gwely yn effeithio arnyn nhw ydi symud, gan gynnwys symud i eiddo llai – h.y. un gyda’r nifer ‘cywir’ o ystafelloedd gwely yn ôl eu hanghenion. Ond os ydych yn byw mewn eiddo wedi’i addasu’n arbennig oherwydd anabledd, mae dod o hyd i un arall sydd â’r un math o addasiadau bron yn amhosibl.

Felly, rydym wedi gwneud ein hymchwil ein hunain i’r effaith y mae’r dreth ar ystafelloedd gwely wedi ei gael ar y grŵp hwn o breswylwyr - preswylwyr anabl sy’n byw mewn eiddo a addaswyd yn benodol - ac mae’r canlyniadau yn frawychus.• Os yw ein holl breswylwyr anabl

sydd angen eiddo a addaswyd

Mae un o’n preswylwyr, Judith Parker, sy’n byw mewn llety wedi’i addasu sy’n perthyn i WWH yng Nghaerdydd gyda’i merch Emma, 21 oed, a’i mab Luke, 17 oed, wedi bod yn helpu WWH gyda’n hymchwil.

Page 6: Intouch gaeaf 2013 2014

06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion WWH

yn sylweddol yn cael eu gorfodi i symud, rydym yn amcangyfrif y bydd £575,000 o arian cyhoeddus wedi cael ei wastraffu yn addasu eu heiddo yn y lle cyntaf.

• Os oedd eiddo llai eraill ar gael, rydym yn amcangyfrif y byddai angen gwario £600,000 yn rhagor ar eu haddasu i ddiwallu anghenion ein preswylwyr.

• Rydym yn amcangyfrif y byddai’r gost i bwrs y wlad ymhell dros £1m petai’r 74 o aelwydydd pobl anabl WWH yn gorfod symud.

• Rydym yn amcangyfrif bod tua 3,500 o aelwydydd rhentu cymdeithasol yn cael eu heffeithio yn yr un modd yng Nghymru, a byddai cyfanswm y gost o gael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr ar gyfer pobl anabl yn y tai wedi’u haddasu yn £40m (£25m mewn addasiadau i eiddo sy’n bodoli eisoes, a £15 miliwn o ran newidiadau i addasu cartrefi llai newydd, mewn achos annhebygol y byddai eiddo o’r fath ar gael).

Rydym wedi ysgrifennu at wleidyddion, elusennau, arweinwyr ffydd a’r cyfryngau i roi gwybod iddyn nhw am ein canfyddiadau ac i ofyn iddyn nhw ystyried ymgyrchu dros adfer y cymhorthdal ystafell sbâr i bobl anabl sy’n byw mewn eiddo a addaswyd yn arbennig, er mwyn osgoi’r gwastraff grotesg hwn o arian cyhoeddus, heb sôn am yr ofn a’r ansicrwydd y mae pobl anabl yn ei wynebu gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio byw yn eu cartrefi eu hunain.

Ddydd Iau 6 Chwefror cafodd ein hadroddiad sylw helaeth ar draws gorsafoedd teledu a radio BBC Cymru ac ITV Cymru, gan gynnwys Radio Cymru. Fe wnaeth nifer o bapurau newydd a chylchgronau gyfeirio at ein hymgyrch, hefyd, gan gynnwys y Western Mail, y Daily Post ac Inside Housing.Rydym yn falch iawn o ddweud fod Carl Sargeant, y Gweinidog Tai, wedi galw o’r newydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi’r gorau i dynnu’r cymhorthdal ystafell sbâr oddi ar bobl anabl sy’n byw mewn tai a addaswyd yn arbennig, ac wedi cyhoeddi £1.3m yn rhagor o gyllid i gynghorau lleol wneud Taliadau Tai Dewisol. Digwyddodd hyn ddydd Gwener, 7 Chwefror, o ganlyniad i’n hadroddiad.

Yn olaf, diolch enfawr i Judith, Luke ac Emma Parker o Gaerdydd, a Jo o Wrecsam, ein preswylwyr dewr a gytunodd i fod yn astudiaethau achos ar gyfer y cyfryngau. Drwy gytuno i gael eu cyfweld, maen nhw’n helpu i adrodd hanes gwirioneddol cost ddynol y polisi niweidiol hwn i bobl anabl sy’n byw mewn cartrefi a addaswyd yn arbennig, y bernir eu bod yn eu ‘tan-feddiannu’ oherwydd y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’. Judith, Luke, Emma a Jo - ni fyddem wedi cyflawni’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn heb eich help chi.

Page 7: Intouch gaeaf 2013 2014

Newyddion WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 07

O’r chwith i’r dde: Karen Lewis, Rheolwr Cynllun gyda WWH, Cleide Correia, Tony Graham ac Anne Hinchey

Bwrdd WWH yn cefnogiYmddiriedolaeth Trussell ledled CymruMae Bwrdd Tai Wales & West wedi cyfrannu £5,000 at Ymddiriedolaeth Trussell, y sefydliad y tu ôl i fanciau bwyd ledled Cymru.

Fe wnaeth cynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Trussell a chefnogwyr Banc Bwyd Merthyr Cynon gyfarfod â Phrif Weithredwr WWH, Anne Hinchey, yng nghynllun er ymddeol Tŷ Pontrhun ym Merthyr Tudful, De Cymru, i dderbyn y siec ar 19 Rhagfyr.

“Mae Tai Wales & West yn falch o allu cefnogi achos mor deilwng,” meddai Anne Hinchey. “Rydym yn sicr yn ymwybodol o’r anawsterau ariannol dwys y mae llawer o deuluoedd ac unigolion yn eu hwynebu yn awr, yn ogystal â phwysau ychwanegol y Nadolig. Rydym yn awyddus i helpu i wneud gwahaniaeth i deuluoedd ledled Cymru, ac rwy’n gobeithio y bydd ein cyfraniad yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at helpu.”

Dywedodd Tony Graham, un o reolwyr Ymddiriedolaeth Trussell Cymru, “Hoffwn ychwanegu ein diolch i Dai Wales & West am eu rhodd hael a fydd yn ein galluogi i wella’r gwaith hanfodol y mae ein banciau bwyd yn ei wneud ledled Cymru. Wrth i bobl yng Nghymru weld bod eu hamgylchiadau yn mynd yn fwy anodd, mae Ymddiriedolaeth Trussell yn croesawu ein partneriaeth gyda Thai Wales & West, ynghyd â’r gydnabyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu llawer o bobl ar draws ein gwlad.”

Mae WWH wedi bod yn gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Trussell a banciau bwyd ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, yn gweithredu mannau casglu Banciau Bwyd yn nifer o’n cynlluniau er ymddeol ledled Cymru, yn ogystal â’n swyddfeydd yng Nghaerdydd a’r Fflint.

Ledled Cymru, mae staff a phreswylwyr WWH wedi cyfrannu mwy na 640kg o fwyd i fanciau bwyd yn Sir y Fflint, Wrecsam, Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â Merthyr Cynon yn ystod y 12 mis diwethaf.

Dywedodd Cleide Correia, Rheolwr Prosiect Banc Bwyd Merthyr Cynon ac un o breswylwyr Tai Wales & West, “Mae newyn yn broblem gymunedol, felly rydym yn ceisio dod â’r gymuned at ei gilydd i helpu a datrys pethau. Mae parsel syml o fwyd yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

Page 8: Intouch gaeaf 2013 2014

08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion WWH

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Chwitffordd yn Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn timau i ddod o hyd i’r cynllun gorau ar gyfer car Fformiwla 1 fel rhan o Gynllun Addysg Peirianneg Cymru STEM Cymru.

Mae’r Her F1 mewn Ysgolion yn gystadleuaeth i ddisgyblion ddylunio ac adeiladu ceir rasio model a yrrir gan C02 gan ddefnyddio sgiliau CAD. Bydd y tîm gorau yn Ysgol Gynradd Chwitffordd yn cystadlu yn erbyn ysgolion eraill mewn rownd derfynol ranbarthol yn Llandudno ar 24 Mawrth.

Fe wnaeth Nigel Parry gyfarfod Megan High, sy’n 10 oed, Megan Edwards, sy’n 9 oed, Jessica Owen, sy’n 10 oed a Iauin Hughes, sy’n 10 oed, i drafod eu cynlluniau, a chytunodd roi siwtiau bwyler, capiau, pinnau ysgrifennu a mints i dîm yr ysgol.

Dywedodd Jessica: “Rydym wedi cynllunio car ar y cyfrifiadur. Bydd yn gar pren a byddwn yn llenwi potel nwy ac yn ei ryddhau i weld pa gar sy’n mynd gyflymaf.”

Dywedodd Lauin: “Mae metel yn rhy drwm, a dyna pam rydym yn defnyddio pren. Rydym yn pwyso botwm a bydd y ceir yn mynd 80 milltir yr awr i lawr y trac!”

Dywedodd Mrs Fiona Roberts, sy’n athrawes yn yr ysgol: “Rydym mor falch o gynnig Cambria. Bydd y tîm buddugol yn cael stondin yn Llandudno ac fe fyddan nhw’n cyflwyno portffolio o’u gwaith. Mae’n brosiect gwych ar gyfer yr ysgol.

Dywedodd Nigel Parry, Pennaeth Cambria yn y gogledd: “Rwyf wrth fy modd yn helpu’r ysgol. Rwy’n edrych ymlaen at weld y car buddugol yn cael ei gynllunio a’i brofi.”

Fe wnaeth Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria helpu i yrru disgyblion i’r gêr uchaf drwy noddi eu gwisgoedd ar gyfer her cystadleuaeth Fformiwla 1.

Cambria yn helpu disgyblion ifynd drwy’r gerau

Nigel Parry, Pennaeth Cambria yn y Gogledd, gyda Fiona Roberts, athrawes, a disgyblion o Ysgol Gynradd Chwitffordd

Page 9: Intouch gaeaf 2013 2014

Newyddion WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Tai Wales & West Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr 2014Bydd ein Harolwg Bodlonrwydd Preswylwyr yn dod drwy ddrysau rhai ohonoch yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae ein Harolwg yn cael ei gynnal yn flynyddol erbyn hyn, gyda thraean o gartrefi (tua 2,700 o gartrefi) yn cael arolwg bob blwyddyn yn hytrach na phob cartref bob 3 blynedd. Byddwch yn derbyn arolwg unwaith mewn cyfnod o 3 blynedd. Rydym eisiau i’ch adborth fod yn gyfredol, ac mae cynnal arolwg bob blwyddyn yn sicrhau ein bod mewn sefyllfa well i ymateb i’r pethau sy’n bwysig i chi.

Pam rydym yn cynnal yr Arolwg? Wel, oherwydd bod eich barn a’ch syniadau yn hynod o bwysig i ni. Rydym yn cymryd yr arolwg hwn o ddifrif.

Dyma eich cyfle i ddweud wrthym beth yw eich barn ar ein gwasanaethau, a sut hwyl rydym yn ei gael ar bethau yn eich barn chi. A ydym yn cyflawni’r hyn sy’n bwysig i chi? Beth allwn ni ei wneud yn well?

Mae gennym ddiddordeb hefyd yn eich barn ar feysydd y busnes rydym yn bwriadu gweithio arnyn nhw, ac rydym eisiau i chi ddweud wrthym pa bethau eraill yr hoffech ein gweld ni’n eu gwneud.

Bydd yr arolwg yn cael ei chynnal gan ein hymgynghorwyr ARP Research, a fydd yn sicrhau bod unrhyw sylw a wnewch yn cael ei gadw’n gyfrinachol.

Fel arwydd o ddiolch, bydd yr holl arolygon a gaiff eu llenwi a’u dychwelyd yn cael eu cynnwys yn awtomatig mewn raffl fawr am ddim, lle gallai 15 munud o’ch amser ennill talebau Argos gwerth £100 (gwobr 1af), £75 (2il wobr) a £50 (3edd wobr).

Dychwelwch eich arolwg wedi’i lenwi yn yr amlen radbost a ddarperir.

Cystadleuaeth E-gerdyn NadoligCawsom lawer o gynigion yn eincystadleuaeth yn rhifyn diwethaf In Touch, ond yr enillydd gyda’i golygfa o eira ym Mharc Bute yng Nghaerdydd oedd Sue Dickinson. Llongyfarchiadau, Sue.

“Rwyf wedi cael fy synnu ac wrth fy modd. Nid oeddwn yn disgwyl gwobr mor wych - daeth ar yr adeg iawn ac mae’n goron ar fy Nadolig” meddai Sue.

Page 10: Intouch gaeaf 2013 2014

10 | www.wwha.co.uk | intouch | Datblygiadau diweddaraf

Preswylwyr yn croesawu canolfan newyddMae preswylwyr wedi croesawu eu canolfan adnoddau cymunedol newydd o’r radd flaenaf yn Hightown, a agorodd ei drysau am y tro cyntaf ychydig cyn y Nadolig.

Mae’r ganolfan, sy’n disodli’r hen ganolfan gymunedol ar Brynycabanau Road, yn rhan o ddatblygiad tai fforddiadwy arloesol enfawr yn Hightown, Wrecsam, sy’n werth £15m.

Y datblygiad hwn yw prosiect adeiladu mwyaf Tai Wales & West ers nifer o flynyddoedd, a bydd yn helpu i ddiwallu’r angen am dai cymdeithasol. Mae 147 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd da sy’n defnyddio ynni yn effeithlon ar draws dau safle ar Kingsmills Road a Rivulet Road gerllaw, gan ddod â hwb gymaint â £50m i’r economi leol yn ôl y rhagamcanion, yn ogystal â darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl leol. Mae WWH wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r ganolfan gymunedol wrth galon cymuned Wrecsam, gan gynnig dosbarthiadau ac ystafelloedd am brisiau fforddiadwy i unigolion, teuluoedd a busnesau lleol eu mwynhau. Mae’r

dosbarthiadau a’r gweithgareddau yn cynnwys dawnsio llinell, bingo, clybiau cinio a chymdeithasol, clwb ieuenctid, clwb Cymraeg, clwb iechyd merched, grŵp teuluol Pwylaidd, capoeira, zumba a chylchoedd chwarae.

Dyma’r cyfleusterau sydd ar gael:

• Neuadd weithgareddau fawr (gyda llawr dawnsio sbring)

• Ystafell gyfarfod y gellir ei rhannu’n ddwy er mwyn cynnal gweithgareddau ar wahân ar yr un pryd

• Cegin (ceir ei defnyddio heb gost ychwanegol wrth hurio ystafell)

Mae’r prisiau yn fforddiadwy iawn, a bydd y rhai sy’n defnyddio’r ganolfan yn rheolaidd yn cael disgownt. Bydd defnyddwyr Wrexham Savers hefyd yn cael 10% o ddisgownt. I archebu lle, ffoniwch 0300 123 2070.

Rhan o ddatblygiad WWH o 147 o dai fforddiadwy newydd yn Hightown, Wrecsam

Page 11: Intouch gaeaf 2013 2014

Datblygiadau diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 11

Lle’r ydym yn datblygu safleoedd, neu ar fin gwneud hynny:

De Cymru

• New Road, Pen-y-bont ar Ogwr• Elm Street, Caerdydd• Maesgwyn, Pen-y-bont ar Ogwr• Mynwent y Crynwyr, Merthyr

Tudful• Townmill Road, Bro Morgannwg• Ysbyty Llanfair-ym-Muallt, Powys

Gogledd Cymru

• Severnside, Powys• Rivulet Road, Wrecsam• Kingsmills Road, Wrecsam• Maelor Place, Rhiwabon,

Wrecsam• Glan y Don, Sir y Fflint• Slaters Yard, Abergele, Conwy• Flint House, Sir y Fflint

Mae tudalen facebook wedi cael ei chreu ar www.facebook.com/hightowncrc sydd wedi bod yn boblogaidd gyda defnyddwyr y ganolfan, ac mae’n cynnig yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yno.

Mae gwefan wedi cael ei chreu hefyd ar www.wwha.co.uk, sy’n rhestru prisiau, amserlen a gwybodaeth am y gwahanol ystafelloedd y gellir eu llogi.

Mae penwythnos dathlu swyddogol yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 15 Chwefror rhwng hanner dydd a 4 o’r gloch, sy’n dechrau gyda ‘chystadleuaeth teisennau’ gyda gwobrau am y gacen a addurnwyd orau. Mae cyfle i ennill gwerth £50 o dalebau’r Stryd Fawr! Ewch i’r dudalen Facebook am fwy o wybodaeth.

Canolfan Adnoddau Cymunedol newydd Hightown

Chwith: Y Gymuned Bwylaidd yn Hightown yn dathlu’r Nadolig yn yr HCRC newydd

Gwaith datblygu’n parhau yn Kingsmills Road, Hightown, Wrecsam

Page 12: Intouch gaeaf 2013 2014

12 | www.wwha.co.uk | intouch | Datblygiadau diweddaraf

Y bennod ddiweddaraf ym mywydadeilad eiconig

Roedd yr hen fragdy, ffowndri haearn a chanolfan gweithgarwch y Siartwyr yn y 19eg ganrif wedi mynd yn adfail nes i WWH ailddatblygu’r safle mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

“Mae Tai Wales & West wedi cymryd adeilad adfeiliedig - un o drysorau hanesyddol Merthyr Tudful - a dod ag ef yn ôl yn fyw er mwyn darparu 15 o gartrefi yr oedd eu hangen yn fawr,” meddai Huw Lewis, AC a Gweinidog dros Addysg.

“Mae’r safle yn hollol wahanol heddiw! Mewn dwy flynedd fer, mae’r safle hwn wedi cael trawsnewidiad radical o fod yn adeilad blêr i fod yn adeilad y gall y gymuned fod yn falch ohono yn gwbl briodol.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Dai Wales & West am eu hymrwymiad diflino, nid yn unig i dai fel y byddech yn ei ddisgwyl, ond i’n cymunedau ehangach.

Nid yw prosiect fel Vulcan Court yn dasg hawdd o gwbl, a gallai sefydliadau llai o faint fod wedi cefnu ar y prosiect yn hytrach nag ymrwymo amser ac adnoddau i’w gwblhau.

“Gyda bron i 500 o deuluoedd angen llety dwy ystafell wely yma ym Merthyr Tudful ar hyn o bryd - llawer o ganlyniad uniongyrchol i’r ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ atgas gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig - mae ailddatblygu Vulcan House yn ychwanegiad i’w groesawu’n fawr yn y gymuned.”

Fe’i cwblhawyd yn 2013, ac fel rhan o’r datblygiad a oedd yn werth £2.2m, gwelwyd gwaith cloddio archaeolegol a barhaodd am 10 wythnos, gyda chymorth plant o Ysgol Iau Cyfarthfa. Roedd y partneriaid allweddol yn cynnwys y contractwyr Wates Living Space, Cadw, ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg a Gwent.

Bu farw un o Siartwyr enwog Merthyr Tudful Matthew John yn Vulcan House yn 1888, ac roedd ei or-ŵyr Lyndon Harris yn westai anrhydeddu yn yr agoriad swyddogol ddydd Gwener.

“Roeddwn yn falch iawn o weld y fenter a ddangosodd WWH wrth gofleidio’r gymuned leol. Mae Merthyr Tudful yn ei dyled i chi am adfer yr adeilad rhestredig Gradd II hwn,” meddai.

Fe wnaeth Huw Lewis, Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni, agor Vulcan Court yn swyddogol i ni ddydd Gwener 24 Ionawr.

Mae Vulcan Court yn cynnig 15 o gartrefi fforddiadwy newydd o safon y mae WWH wedi eu datblygu yn adeilad eiconig Vulcan House ym Merthyr Tudful, adeilad rhestredig Gradd II ger Brecon Road.

Vulcan Court, gyda’r plac glas yn coffau un o’r Siartwyr, Matthew John.

O’r chwith i’r dde: Huw Lewis, Kathy Smart, Cadeirydd WWH, un o’r preswylwyr, Pauline Protheroe a Brenan Toomey, Arweinydd Cyngor Merthyr

Page 13: Intouch gaeaf 2013 2014

Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 13

“Rydw i bellach wedi cyrraedd wythnos 12 o fy hyfforddiant, ac rydw i’n rhedeg 16 milltir. Rydw i wedi bod yn fodlon iawn gyda fy hyfforddiant hyd yn hyn, ond roeddwn i’n ei gweld hi’n anodd iawn hyfforddi dros y Nadolig. Llwyddais i redeg ambell dro, ond cefais drafferth i gymell fy hunan ac fe wnes i fwynhau ychydig yn ormod o siocledi. Roeddwn i’n gwybod fod yn rhaid i mi ailafael yn yr hyfforddiant, felly mi ddechreuais arni eto ar 30 Rhagfyr, ac ers hynny rydw i wedi bod yn rhedeg 5 diwrnod yr wythnos. Mae hi wedi bod yn anodd mynd i redeg yn y tywydd ofnadwy a gawsom, ac rydw i’n tueddu i fynd pan fydd fy mab wedi mynd i’r gwely, felly rydw i’n gadael am 8 o’r gloch yr hwyr, a ddim yn cyrraedd adref tan 9.30, gan yna ymolchi yn y gawod a mynd i’r gwely, a dilyn yr un patrwm y diwrnod dilynol. Dyma’r peth anoddaf i mi ei wneud erioed, ac mae’n llawer mwy heriol nag yr oeddwn wedi ei ragweld. Mae fy nghorff yn brifo drosto, ond dim ond 3 mis arall o hyfforddiant sy’n weddill.

Ambell ddiwrnod rydw i’n yn teimlo fel rhoi’r gorau iddi, ond pan fyddaf yn meddwl am yr achos gwych rydw i’n codi arian tuag ato, a’r nod bersonol rwyf wedi ei gosod i mi fy hun, rydw i’n cael ail wynt. Mae’r gefnogaeth gan fy nheulu, ffrindiau a chydweithwyr wedi fy ngwthio

Y diweddaraf am Farathon Llundain

fi o ddifrif. Mae’r hyfforddiant gymaint anoddach na hyfforddi ar gyfer hanner marathon.

Ar hyn o bryd rydw i’n rhedeg tua 40 milltir yr wythnos, ac ar sail cyfrifiadau’r wythnos ddiwethaf, rydw i’n llosgi tua 6,000 o galorïau, felly rydw i’n llwglyd yn gyson. Rydw i’n mwynhau fy sesiwn redeg hir ar ddydd Sul yn fawr, gan fy mod wedi bod yn lwcus o ran y tywydd pan rydw i wedi bod allan am ddwy awr a hanner, ac rydw i’n rhedeg ar gyflymder arafach na’r sesiynau byrrach yn ystod yr wythnos. Un peth nad yw’n dda yw’r baddonau iâ ar ddiwedd y sesiynau rhedeg hirach.

Rydw i’n edrych ymlaen o ddifrif at y digwyddiad erbyn hyn, gan y bydd yn daith i’r teulu gyda chymaint o’m teulu a’m ffrindiau yn dod i Lundain i’m cefnogi. Bydd y gefnogaeth hon yn fy helpu’n fawr i gyrraedd y llinell derfyn”

Os hoffech chi gefnogi Andrew a gwneud cyfraniad at y Gymdeithas Strôc, gallwch naill ai anfon siec yn daladwy i Dai Wales & West, sydd wedyn yn cael ei hychwanegu at gyfrif elusennol y staff nes trosglwyddir yr arian, neu gallwch gysylltu â’ch Rheolwr Cynllun.

Gallwch hefyd gyfrannu drwy fynd i: http://uk.virginmoneygiving.com a chwilio am Andrew Pritchard, a fydd yn arwain at ei safle codi arian.

Mae’r Swyddog Tai Andrew Pritchard yn bwriadu rhedeg Marathon Llundain 2014 er budd Cymdeithas Strôc Cymru. Dyma’r diweddaraf am ei gynnydd:

Page 14: Intouch gaeaf 2013 2014

14 | www.wwha.co.uk | intouch | Mis Ymwybyddiaeth Strôc

Ymunwch â’r Gymdeithas Strôc ar gyfer Mis Gweithredu ar Strôc

bobl i gymryd rhan.

Rydym yn trefnu teithiau cerdded noddedig, ffeiriau cymunedol, siopau sydyn a phob math o weithgareddau codi arian eraill. Byddem wrth ein bodd pe bai rhagor o bobl yn cymryd rhan ac yn cynnal eu digwyddiadau eu hunain - o foreau coffi a diwrnodau pobi i deithiau beicio a deifio o’r awyr - mae’r cyfan yn helpu i godi ymwybyddiaeth o strôc!

Os hoffech chi gymryd rhan ym mis Gweithredu ar Strôc drwy gynnal digwyddiad, cysylltwch â ni ar 02920 524400 a gofynnwch am Becyn Gweithredu. Os ydych o fewn cyrraedd cyfrifiadur, ewch i’n gwefan: stroke.org.uk/strokemonth lle cewch ragor o wybodaeth a lle gallwch gofrestru ar gyfer ein diweddariad misol.

Mae TIA yn digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i’ch ymennydd yn cael ei darfu am gyfnod byr iawn. Mae’r symptomau yn debyg iawn i strôc, a gall gynnwys gwendid ar un ochr o’ch corff, colli golwg a lleferydd aneglur, ond dros dro fydd yr effeithiau’n para – am ychydig funudau

neu oriau, ac yna diflannu’n gyfan gwbl o fewn 24 awr.

Mae TIA yn arwydd nad yw’r rhan hon o’ch ymennydd yn cael digon o waed, ac y gallech fod mewn perygl o gael strôc fwy difrifol yn y dyfodol. Peidiwch byth ag anwybyddu arwyddion TIA – mynnwch help meddygol ar unwaith.

TIA - Beth ddylech chi ei wybod

Mai 2014 yw Mis Gweithredu ar Strôc, a’r thema yw “TIA - nid dim ond rhywbeth rhyfedd”, fel yr ysgrifenna Lowri Griffiths o Gymdeithas Strôc Cymru.

Bob blwyddyn, mae dros 50,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn cael pwl o isgemia dros dro (TIA – sydd weithiau’n cael ei alw’n strôc fach).

Mae Mis Gweithredu ar Strôc ar ei thrydedd flwyddyn erbyn hyn. Bob blwyddyn mae’n mynd yn fwy ac yn well, ac yn llawer mwy llwyddiannus. Mae’r holl arian ac ymwybyddiaeth rydym yn ei godi yn golygu ein bod yn gallu cefnogi’r gwasanaethau hanfodol ac ymchwil strôc rydym yn ei wneud ar gyfer goroeswyr strôc a’u gofalwyr lawer iawn yn well nag o’r blaen. Ledled Cymru ym mis Mai, byddwn yn codi ymwybyddiaeth o strôc a TIA ac yn gobeithio cael cymaint â phosibl o

Page 15: Intouch gaeaf 2013 2014

Byw’n wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Rydym yn gweithio gyda Greenstream Flooring, siop un stop ar gyfer gosod, glanhau a chyflenwi teils carped newydd ac wedi’u hadfer a lloriau eraill, i gyd er budd y gymuned.

Gall teils carped adferedig o ansawdd da edrych a theimlo’r un mor dda â charpedi newydd sbon, ac maen nhw ar gael i’n preswylwyr am ffracsiwn o’r gost. Mae teils carped ‘Gradd A’ (fel newydd) a adferwyd gan Greenstream yn costio cyn lleied â thraean pris teils carped newydd sbon, ac maen nhw ar gael i breswylwyr WWH am ddisgownt pellach o 20%.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar yr hysbyseb ar glawr cefn y rhifyn hwn o In Touch, ffoniwch Gareth Kitchen ar 02920 414039 neu siaradwch gyda’ch swyddog tai.

Mae modd gweld samplau:

• ar wefan Greenstream: www.findcarpettiles.co.uk

• yn bersonol yn ein swyddfeydd yn y Fflint a Chaerdydd,

• ym mhencadlys Greenstream - yn Uned 3 Stad Ddiwydiannol Rheola, Porth, Rhondda Cynon Taf, CF39 0AD ac

• yng Nghydweithfa Crest, Brierley House, Ferry Farm Road, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9SF

You may have seen us refer to Universal Credit in these pages in the last couple of issues. It is the Government’s new benefit system that combines multiple benefits into one monthly payment.

It was originally announced that a national roll out of UC would begin in October 2013 but this has been put back due to it being such a big project. The Government have since announced that in October 2013 there will be a roll out of UC in six areas. One of these is Shotton in Flintshire so some residents will potentially be affected by this in the next few months. However, the roll out is very limited at this stage so only single people who are making a new claim for Jobseekers Allowance are likely to be affected, with no announcement as yet of when people in a couple and/or with children will be included.

Whilst for the vast majority of residents UC will not affect them in the immediate future, it is worth noting that there are several elements of UC that people will have to prepare for:

Budgeting monthlyUC will be paid monthly which may differ from

Gwnewch ystafell oer yn gysurus neu gosodwch garpedi newydd am bris isel

Gwobrau Cadwch Gymru’n Daclus Caerau Potters Llongyfarchiadau i Caerau Potters o Gaerdydd a gafodd le ar restr fer gwobr fawreddog Tyfu Bwyd Cymunedol Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae’r grŵp wedi bod yn brysur yn tyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain yn y cynllun yng Nghaerdydd, ac maen nhw hefyd wedi plannu basgedi crog deniadol, llawer ohonyn nhw wedi’u rhoi i ysgolion cyfagos erbyn hyn.

Dywedodd y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, Claire Hammond: “Mae’r wobr ar gael i bobl o bob rhan o Gymru, ac nid dim ond landlordiaid cymdeithasol, ond pob grŵp amgylcheddol, felly mae hyn yn gyflawniad mawr iddyn nhw!”

Aeth Debbie Phillips i’r seremoni wobrwyo ar 2 Ionawr gyda’i mab Adam, sy’n 17 oed ac sy’n aelod allweddol o’r grŵp garddio. Mae Adam yn gobeithio y bydd y sgiliau a’r profiad y mae’n eu cael fel aelod o’r grŵp yn ei roi mewn sefyllfa dda pan fydd yn gadael yr ysgol ac yn chwilio am gyflogaeth reolaidd.

Page 16: Intouch gaeaf 2013 2014

16 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Mae newid cyflenwyr ynni yn wirioneddol syml. Mae nifer o wasanaethau cymharu defnyddiol a fydd yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith i chi, ond byddwch angen rhywfaint o wybodaeth yn gyntaf, fel:

• Cyfeiriad a chod post;

• Eich darparwr/darparwyr nwy a thrydan cyfredol a’ch tariff(au) ar hyn o bryd;

• Faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio - bydd eich datganiad blynyddol yn rhoi’r holl wybodaeth i chi mewn un ddogfen hylaw, neu weithiau byddwch yn ei weld ar eich biliau.

• Os oes gennych fesurydd talu ymlaen llaw, yna bydd swm yr arian a wariwyd bob wythnos / mis yn amcangyfrif defnyddiol.

Pan fydd gennych yr wybodaeth hon, dylech gysylltu â gwasanaeth cymharu

tariffau annibynnol fel unrhyw un o’r tri a restrir yma.

www.moneysavingexpert.com/cheapenergyclub – Bydd y ‘clwb ynni rhad’ yn anfon e-bost atoch pryd bynnag y daw tariff ynni newydd ar y farchnad a allai arbed arian i chi. Yn y bôn, mae’n lleihau’r baich i chi ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol BOB AMSER os oes gwell bargeinion ar gael.

www.moneysupermarket.com – mae hwn yn wasanaeth annibynnol gwahanol, ond ni fydd yn anfon e-bost atoch yn y dyfodol fel y clwb ynni rhad pan fydd bargeinion gwell ar gael.

Os nad ydych yn gallu mynd at y rhyngrwyd, yna mae gan www.energyhelpline.com rif rhadffôn - 0800 074 0745 - a fydd yn cymharu’r farchnad i chi. Mae hwn yn un o’r ychydig o wasanaethau y gellir cysylltu â nhw dros y ffôn.

Gall llawer o bobl arbed arian drwy newid eu cyflenwr/cyflenwyr ynni - ond ni fydd rhai ohonom fyth yn gwneud hynny. Gallai’r rhai nad ydyn nhw erioed wedi newid arbed cannoedd o bunnoedd. Ond mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd! Mae’r rhai sy’n newid yn weddol reolaidd yn arbed ychydig o arian, neu ddim o gwbl.

£ £££Biliau tanwydd rhatach

Page 17: Intouch gaeaf 2013 2014

Byw’n wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 17

Noder: Preswylwyr sydd â dyledion ynni:

Mae’n rhaid i’r rhai sydd â mesuryddion allwedd / cerdyn / talu ymlaen llaw gael caniatâd i newid, ar yr amod bod eu dyled yn is na £500. Os ydych ar fesurydd credyd safonol a’ch bod chi mewn dyled, dylech siarad gyda’ch cyflenwr ynni. Nid oes unrhyw reol bendant ar gyfer cwsmeriaid ar fesuryddion credyd, er y dylai eich cyflenwr fod yn rhesymol. Os ydych yn trefnu cynllun ad-dalu dyled, efallai y bydd yn gadael i chi newid. Gwnewch yn siŵr y gallwch fforddio’r cynllun ad-dalu dyledion yn ychwanegol at eich defnydd o ynni parhaus!

Dyma’r enillydd lwcus, Ms Jackson o’r Pentre, gyda’i gwobrau. “Dwi erioed wedi ennill unrhyw beth o’r blaen, a dwi ddim yn gallu credu’r peth”

Yr enillydd, Kellie Bowen o Brestatyn, gyda Jane Duckers, Cynorthwyydd Gwasanaethau Eiddo. “Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi ennill £250! Rydw i’n hapus iawn gyda’r gwasanaeth blynyddol mae fy mwyler yn ei gael - nid oes yn rhaid i mi boeni amdano. Rydw i’n mynd i wario’r arian ar wely newydd”

Mae’n bosibl mai archwiliad blynyddol eich bwyler nwy yw’r agwedd bwysicaf ar gynnal a chadw eich cartref, ac fe allech fod yn ENILLYDD hefyd.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud i fod yn gymwys yw caniatáu i ni wasanaethu eich bwyler ar eich apwyntiad cyntaf, neu roi o leiaf 48 awr o rybudd i ni ohirio’r ymweliad.

Trefnwch wasanaeth i’ch bwyler nwy ac fe allech ENNILL £250

Pan fyddwch wedi cysylltu â’ch gwasanaeth cymharu a’ch bod chi wedi dod o hyd i’r tariff gorau sydd ar gael, bydd y gwasanaeth wedyn yn cynnig rheoli’r newid i chi. Cliciwch neu ei dywedwch ‘ie’, ac rydych chi bron yno.

O fewn ychydig o wythnosau, gofynnir i chi am ddarlleniad mesurydd terfynol, ac efallai y bydd eich cwmni ynni presennol yn ysgrifennu atoch gyda chynnig gwell i geisio eich temtio i aros. Ond y pwynt yw eich bod wedi dod o hyd i’r fargen orau ar y farchnad yn barod, ac rydych ar fin newid i honno, felly peidiwch â chael eich temtio!

Page 18: Intouch gaeaf 2013 2014

18| www.wwha.co.uk | intouch | Cymdogaethau sy’n gweithio

Rydym mor ffodus ein bod yn byw yng Nghymru, a gyda lefelau troseddau’n parhau i ostwng, rydym ni, ynghyd â’r holl asiantaethau eraill rydym yn gweithio gyda nhw, yn benderfynol o gadw pethau felly.

Cofrestrwch eich pethau nawr a nodi manylion eich eiddo arnyn nhw

Gallwch gofrestru eich pethau am ddim ar www.immobilise.com

Mae Immobilise yn helpu’r heddlu i ganfod pwy yw perchnogion eiddo a gollwyd ac a gafodd eu dwyn miloedd

o weithiau bob dydd, er mwyn helpu i ddychwelyd yr eitem a dal y sawl oedd yn gyfrifol.

Yn ogystal, defnyddiwch feiros U.V. (uwchfioled) i nodi manylion ar yr eitemau hynny. Maen nhw ar gael mewn siopau offer swyddfa ac ar-lein, neu gofynnwch i’ch Swyddog Cymdogaeth lleol ynghylch marcio eiddo.

Nodwch rif eich tŷ a’ch cod post ar eich eitemau.

Os ydych yn bwriadu symud tŷ yn fuan, ysgrifennwch rywbeth y gellid ei ddefnyddio i nodi mai chi biau’r eitem benodol honno.

Y Blog Atal TroseddauFy enw i ydi Michael Shears ac rydw i’n Ymgynghorydd Tactegol Lleihau Troseddau yn Heddlu De Cymru, ac roeddwn eisiau rhoi cyngor i chi a fydd gobeithio’n lleihau’r tebygrwydd ohonoch yn dioddef trosedd yn eich erbyn.

Page 19: Intouch gaeaf 2013 2014

Cymdogaethau sy’n gweithio | intouch | www.wwha.co.uk | 19

Gartref:Peidiwch â chadw symiau mawr o arian gartref, a pheidiwch â gadael pasbortau, nac unrhyw ddogfen adnabod, mewn man lle gellir eu gweld yn hawdd. Os ydych yn drefnus iawn - yn wahanol i mi fy hun - cuddiwch y ffolder mewn lle y byddai’n anodd dod o hyd iddi, ond peidiwch ag anghofio dweud wrth ffrind y gallwch ymddiried ynddo/ynddi neu aelod o’r teulu rhag ofn y byddwch yn mynd yn sâl.

Peidiwch â gadael unrhyw offer, e.e. rhawiau yn eich gardd, oherwydd gallai ‘gwesteion digroeso’ eu defnyddio i gael mynediad. Os yw eich cartref yn mynd i fod yn wag dros nos, gadewch ychydig o oleuadau ynghynn, ynghyd â radio neu deledu.

Gofalu amdanoch eich hunan:Er bod y risg o fod yn ddioddefwr trosedd dreisgar yn isel iawn, drwy gymryd rhai rhagofalon diogelwch addas, gallwch leihau’r tebygolrwydd a’r perygl o fod yn ddioddefwr.

Mae llawer o wybodaeth wych ar y wefan hon, o gerdded y ci i gerdded ar eich pen ei hun. Mae taflenni gwybodaeth y gellir eu llwytho i lawr ar gyfer pob math o sefyllfaoedd.

Ymddiriedolaeth Suzy Lamplughwww.suzylamplugh.org

Cysylltu â’r Heddlu:Mewn argyfwng, cofiwch ffonio 999 bob amser. Ar gyfer pethau llai pwysig, ffoniwch 101 (y rhif pan nad oes argyfwng). Hefyd, dewch i adnabod eich Swyddog Cymdogaeth lleol. Maen nhw’n cynnal cyfarfodydd yn eich ardal chi, ac os oes unrhyw beth sy’n peri pryder i chi, ewch am sgwrs gyda nhw – maen nhw yma i helpu.

Hwyl Fawr

www.dyfed-powys.police.ukwww.gwent.police.ukwww.north-wales.police.ukwww.south-wales.police.uk

Michael ShearsHeddlu De Cymru: South Wales Police02920 338 [email protected]

Page 20: Intouch gaeaf 2013 2014

20 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

‘Arbed arian wrth siopa’“Un maes cyllid personol lle byddai’r rhan fwyaf ohonom yn debygol o wneud arbedion cymharol hawdd yw ein dewisiadau wrth siopa am fwyd o wythnos i wythnos” meddai Donna Steven, y Swyddog Cefnogi Tenantiaeth.

Faint ydych chi’n ei wario ar eich siopa wythnosol fel arfer? A yw eich cypyrddau yn llawn o eitemau dyblyg, ac a ydych chi’n gwagio’r oergell yn rheolaidd a thaflu bwrdd a aeth heibio ei dyddiad, heb ei ddefnyddio?

Yn ôl y Rhaglen Weithredu ar Wastraff ac Adnoddau, mae’r cartref arferol yn y Deyrnas Unedig yn taflu swm sy’n cyfateb i chwe phryd bwyd bob wythnos, ac eto mae miloedd o bobl eraill yn dibynnu ar fanciau bwyd i oroesi.

Cefais fy herio yn ddiweddar i lunio bwydlen amrywiol ac iach am wythnos gyda dim ond £25.00, ac er nad oedd yn hawdd, llwyddais i wneud hynny.

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar sut i wneud y gorau o bob ceiniog.

1. Cynlluniwch eich bwydlen am o leiaf bythefnos ymlaen llaw, gan weithio fesul pryd bwyd lle’r ydych yn defnyddio cynhwysion tebyg ym mhob pryd bwyd fel nad oes unrhyw wastraff.

2. Lluniwch restr siopa a chadwch ati. Cadwch restr arall ar ddrws eich oergell o’r hyn rydych yn ei ddefnyddio, fel mai dim ond pan fydd angen i chi wneud hynny y byddwch yn prynu eitemau newydd, ac na fydd gennych gwpwrdd yn llawn cynnyrch dyblyg.

3. Peidiwch â chael eich temtio gan gynigion prynu un, cael un am ddim oni bai eich bod yn bwriadu ‘dyblu’ prydau a rhewi dognau ychwanegol.

Page 21: Intouch gaeaf 2013 2014

Materion Ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 21

4. Os ydi eich amser coginio yn gyfyngedig, ewch am brydau bwyd mwy o faint a rhewi’r hyn sydd dros ben er mwyn i chi gael prydau bwyd dros ben yn y rhewgell ar gyfer y nosweithiau hynny pan nad oes amser i baratoi pryd o fwyd.

5. Mae defnyddio cynhwysion ffres a choginio o’r dechrau yn rhatach na phrynu prydau parod.

6. Mae prynu cig wedi’i rewi yn rhatach na chig ffres, a gallwch dynnu’r union nifer cywir o rannau ar gyfer eu dadrewi a’u coginio.

7. Cadwch olwg am gynigion hanner pris ar gymalau cig mwy o faint, a’u rhewi ar gyfer pan fyddwch eu hangen.

8. Siopwch tua diwedd y dydd, pan fyddwch yn gallu manteisio ar yr holl fargeinion ar fwyd ffres y gellir eu rhewi.

Nid oes unrhyw reswm pam y dylai bwyd gael ei wastraffu gan nad yw

wedi cael ei ddefnyddio mewn pryd - drwy brynu beth rydych ei angen yn unig, dylech allu lleihau’r gwastraff o ddifrif.

Gellir rhoi unrhyw fath o lysiau mewn cawl, ynghyd â chigoedd sydd dros ben o ginio rhost. Gellir stwnsio llysiau a goginiwyd yn barod a’u rhewi i wneud ‘bubble and squeak’ ryw dro yn y dyfodol. Os gwelwch eich bod yn aml yn taflu bara, beth am ei gadw yn y rhewgell a chymryd yr ychydig o sleisys sydd eu hangen ar y pryd, neu droi bara sydd ychydig yn hen yn friwsion bara a’i rewi yn barod ar gyfer tarten driog neu stwffin.

Newid brandiau yw’r ffordd orau o arbed arian, gan ddefnyddio cynnyrch ‘brand eu hunain’ yr archfarchnadoedd neu’r dewisiadau ‘gwerth am arian’. Rhowch gynnig ar y dewisiadau rhatach, ac os nad ydych chi a’ch teulu yn gallu sylwi ar y gwahaniaeth, pam ddylech chi dalu mwy na’r hyn sydd ei angen?

Yn olaf, mae llawer o bobl yn dechrau tyfu eu llysiau eu hunain, sydd yn syniad gwych, a gall hyd yn oed lleiniau bychain fod yn ddigon o le ar gyfer bagiau tyfu, gyda thatws neu domatos a pherlysiau. Bydd defnyddio eich cigydd lleol neu’r farchnad ar gyfer cig a llysiau yn lleihau gwastraff a chost, a bydd mynd am y darnau rhatach o gig i’w rhoi mewn stiwiau a phasteiod yn helpu i ymestyn eich arian ymhellach.

Donna StevenSwyddog Cefnogi Tenantiaeth

Page 22: Intouch gaeaf 2013 2014

22 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion Ariannol

Ymdopi ag effaithdiwygio budd-daliadauGyda’r Nadolig drosodd a blwyddyn newydd eisoes wedi dechrau, mae ein Swyddogion Cymorth Tenantiaeth yn parhau i helpu preswylwyr i ymdopi ag effaith diwygio budd-daliadau.

Maen nhw’n cynorthwyo preswylwyr sy’n cael trafferth i fforddio’r diffyg a achoswyd gan y dreth ar ystafelloedd gwely a’r cap ar fudd-daliadau, neu sydd wedi cael eu heffeithio gan newidiadau i’w budd-dal anabledd.

Mae preswylwyr sydd wedi gweithio gyda’r Swyddogion Cymorth Tenantiaeth nid yn unig wedi bod yn fodlon ar y cyngor a’r cymorth

a roddwyd iddyn nhw, ond hefyd wedi gweld gwelliant yn eu sefyllfa ariannol oherwydd yr arian a gafwyd neu a gadwyd. Ar gyfartaledd, mae preswylwyr wedi gweld eu sefyllfa ariannol yn gwella gymaint â £780 y flwyddyn. Mae hyn wedi dod yn sgil mynediad at gynlluniau fel y disgownt cartrefi cynnes, gwneud cais am grantiau ar gyfer nwyddau’r cartref, gwneud cais am help gyda biliau dŵr, cynorthwyo preswylwyr i drafod gyda’u credydwyr a gwneud cais am Daliadau Tai Dewisol (DHPs). Maen nhw hefyd wedi cynghori preswylwyr ar wneud y defnydd gorau o’u harian, cael y fargen orau beth bynnag maen nhw’n gwario eu harian arno, ac ymestyn eu harian mor bell ag y bo modd.

Gyda mwy a mwy o bobl yn cael eu heffeithio gan newidiadau i’r system fudd-daliadau, rydym yn awyddus i sicrhau bod trigolion yn cael yr help a’r cyngor y maen nhw ei angen. Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech gael unrhyw wybodaeth am unrhyw beth a grybwyllir yn yr erthygl.

Mandy Collins a Natalie Davies, Swyddogion Cymorth Tenantiaeth

Page 23: Intouch gaeaf 2013 2014

Adroddiad Chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 23

Beth sy’n bwysig i chi?

Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn clywed beth arall hoffech chi ei wybod - a oes unrhyw faes arall y byddech yn hoffi gwybod amdano er mwyn i ni ganolbwyntio arno yn y dyfodol?

Oes gennych chi ddiddordeb penodol mewn maes o’n gwaith? Rhowch wybod i ni a byddwn yn fwy na pharod i ddweud amdano wrthych!

Dyma rifyn diweddaraf ein herthyglau nodwedd rheolaidd ar berfformiad ledled yr holl feysydd darparu gwasanaethau yn Nhai Wales & West. Fe wnawn ni roi gwybod y diweddaraf i chi am ein perfformiad bob tri mis, felly rydym yn gobeithio y bydd hyn mor ddefnyddiol â phosibl i chi.

Felly, pa mor dda rydym yn ei wneud ar draws holl feysydd gwaith y busnes? ((Mae’r holl wybodaeth yn ymwneud ag Ionawr - Rhagfyr 2013)

Rhent2398Nifer y cyfrifon rhent

ag ôl-ddyledion

Rydym yn parhau i gefnogi ein preswylwyr gyda’r heriau a ddaw yn sgil y newidiadau i fudd-daliadau.

Mae nifer y tenantiaethau sy’n cael eu heffeithio gan y dreth ar ystafelloedd gwely yn parhau i ostwng o fis i fis, gyda chyngor a chymorth yn cael ei ddarparu i’r rhai sy’n chwilio am eiddo mwy addas.

Mae’r rhan fwyaf o aelwydydd sydd mewn cartrefi ‘rhy fawr’ dan y rheolau newydd yn parhau i dalu’r diffyg yn eu rhent, tra bod y rhai sy’n cael trafferth yn cael cefnogaeth wyneb yn wyneb gan ein Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth. Mae’r gwasanaeth a gynigir gan ein Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth wedi cael derbyniad da iawn gan y preswylwyr hyn, gan wneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau, ac ystyried eu dymuniadau hefyd a’r anawsterau maen nhw’n eu hwynebu.

Troi allan

16

Page 24: Intouch gaeaf 2013 2014

24 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad Chwarterol

Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria bellach yn gwasanaethu Cymru gyfan, ac sy’n parhau i gynnal lefelau uchel o fodlonrwydd ymysg preswylwyr, gyda pherfformiad cryf parhaus o ran yr amser a gymerwyd i gwblhau tasgau ac atgyweirio yn llwyddo ar y cynnig cyntaf.

Mae gwasanaethu cyfarpar nwy yn parhau i fod yn faes pwysig i ni ganolbwyntio arno, ac mae’n braf iawn gweld bod 99.5% o’n cartrefi yn cydymffurfio. Byddwn yn parhau i geisio mynediad i’r 35 cartref lle mae angen gwasanaethu’r cyfarpar nwy o hyd.

Atgyweiriadau

64%

95.9%

99.5%Atgyweiriadau a gwblhawyd

mewn un ymweliad

Atgyweiriadau llwyddiannus y tro cyntaf

14Nifer cyfartalog y dyddiau i

gwblhau atgyweiriad Bodlonrwydd preswylwyr

Cydymffurfio â diogelwch nwy

(35 o gartrefi lle mae angen gwasanaethu’r

cyfarpar nwy)

9.3 10

/

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid / Larwm mewn

argyfwngNifer y galwadau a atebwyd o fewn 30

eiliad

Cyfanswm nifer y galwadau a

atebwyd

284,499Ffonau

160,977

97.1%

Amser cyfartalog ateb galwadau mewn

eiliadau

5

Larwm mewn argyfwng

123,522

Page 25: Intouch gaeaf 2013 2014

Adroddiad Chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 25

Cynnal a chadw wedi’i

gynllunio

Ceginau

Ystafelloedd ymolchi

Adnewyddu bwyleri hyd yn hyn (ynghyd â gosod 138 uned arall

dan y rhaglen newid i nwy)

194

96% wedi’u cwblhau hyd yn hyn

91% wedi’u cwblhau hyd yn hyn

1364/1503

354/3699.1 10

/Bodlonrwydd preswylwyr

Ar ddiwedd 2013 roedd cyfanswm o 354 o geginau ac 1,364 o ystafelloedd ymolchi wedi cael eu hadnewyddu mewn cynlluniau ledled Cymru. Roedd nifer yr ystafelloedd ymolchi a cheginau a gwblhawyd ychydig yn is na’r hyn a gynlluniwyd - mae hyn yn adlewyrchiad o natur y gwaith a gafwyd, yn enwedig o ran ystafelloedd ymolchi. Parhaodd y rhaglen adnewyddu ffenestri a drysau drwy gydol y flwyddyn, ond roedd angen rhai newidiadau i’r cynllun i ymateb i amgylchiadau newidiol mewn cynlluniau penodol.

Dechreuwyd gweithio mewn dau gynllun mawr iawn yn ystod 2013, - un yn yr adeiladau aml-lawr yn West Lee yng Nghaerdydd, lle mae ffenestri newydd wedi cael eu gosod ynghyd â drysau tân yn ôl y gofyn, atgyweiriadau i’r gwaith concrid, ailaddurno, systemau mynediad newydd ar y drysau a gwaith uwchraddio cyffredinol arall. Mae’r cynllun arall yn Caerau Court, lle mae gwaith inswleiddio waliau allanol yn cael ei wneud, ynghyd â ffenestri newydd a gwaith arall i wella perfformiad thermol yr adeiladau a darparu cartrefi sy’n fwy cyfforddus ac yn defnyddio ynni yn effeithlon.

Yn ystod 2013 fe wnaethom barhau i dynnu’r hen reiddiaduron storio trydan o gartrefi, a chyfnewid y dull gwresogi hwnnw am systemau nwy newydd i 138 o gartrefi. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn 2014.

Atgyweiriadau a gwblhawyd

mewn un ymweliad

Page 26: Intouch gaeaf 2013 2014

26 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad Chwarterol

Cymdogaethau sy’n gweithio

321

Gosod ac adeiladu

eiddo

838Gosodiadau

517Anghenion cyffredinol

Bodlonrwydd preswylwyr newydd

9.2 10

/

224Eiddo newydd

120Fflatiau

104 Tai

O’r 224 o dai newydd y gwnaethom eu caffael, mae 216 wedi eu hadeiladu o’r newydd ac 8 tŷ wedi dod drwy ein cynllun achub morgeisi, lle gwnaethom helpu pobl ag anawsterau ariannol i allu aros yn eu cartrefi eu hunain.

Byddwn yn parhau i roi gwybod i chi beth yw’r diweddaraf am ein cynnydd ar y nifer fawr o eiddo rydym yn eu hadeiladu ledled Cymru.

Unwaith eto, mae bodlonrwydd cwsmeriaid ymysg preswylwyr newydd yn parhau’n gryf, ac rydym yn parhau i ddysgu o’r hyn y mae preswylwyr yn ei ddweud wrthym. Fel bob amser, rydym yn dibynnu arnoch chi i roi adborth i ni fel y gallwn wella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Er ymddeol

Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal adolygiad o’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Er mwyn gwneud pethau’n iawn, fe wnaethom wrando ar ein preswylwyr mewn ymgais i ddeall beth oedd yn bwysig iddyn nhw.

Fe wnaethom sylweddoli eu bod eisiau:

• Siarad gyda’r unigolyn priodol• Ymateb cyflym • Cael gwybod y diweddaraf • I ni wneud y peth iawn ar eu cyfer

yn eu hamgylchiadau • Teimlo’n ddiogel a bod yn ddiogel

yn eu cartrefi a’u bro • I’r broblem stopio a pheidio â

digwydd eto

Page 27: Intouch gaeaf 2013 2014

Adroddiad Chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 27

Bodlonrwydd preswylwyr

9.2/10

100%

85%

84% 79%

88%

73%

85%

88%

yn dweud eu bod wedi siarad gyda’r unigolyn priodol

yn dweud eu bod wedi cael ymateb

cyflym

yn dweud eu bod yn cael gwybod y diweddaraf

yn dweud fod y broblem wedi dod

i ben yn dweud fod WWH wedi gwneud y peth iawn iddyn nhw

yn dweud eu bod yn credu eu bod yn chwarae rhan mor

fawr ag y gallen nhw i ddatrys y mater

yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel

yn dweud eu bod yn ymwybodol o’r hyn y gallai WWH ei wneud

a’r hyn na allai ei wneud i ddatrys

problemau

Erbyn hyn mae gennym well dealltwriaeth o sut mae angen i ni ddarparu’r gwasanaeth. Fe wnaethom hefyd ddysgu ei bod yn bwysig gweithio gyda’n preswylwyr i’w helpu i ddod o hyd i atebion tymor hir, a phan na fyddwn yn gallu cymryd camau ein hunain, sut gallem helpu preswylwyr i reoli sefyllfaoedd i lefel mwy goddefol. Lle bo’n briodol, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid a all fod mewn sefyllfa well i ddelio â materion penodol fel niwsans sŵn a gweithgarwch troseddol.

Ein nod yw creu cymdogaethau diogel, saff, a lle bydd hynny’n bosibl, byddwn yn defnyddio’r holl fesurau ataliol sydd ar gael i ni, cyn troi at gamau gorfodi.

Rydym bellach yn cynnal arolygon bodlonrwydd drwy gydol y broses o ymchwilio achosion, ac rydym wedi gweld cynnydd sydyn mewn lefelau bodlonrwydd ers i’r system newydd gael ei mabwysiadu.

Yn ystod Hydref 2013, fe wnaethom ddechrau gweithio yn y ffordd newydd hon ym mhob maes lle’r ydym yn gweithredu. Mae’r adborth rydym wedi bod yn ei gael gan drigolion yn galonogol iawn, ac mae’n cael ei adlewyrchu yn y ffigurau a ddangosir.

Page 28: Intouch gaeaf 2013 2014

28 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad Chwarterol

Os oes gennych unrhyw sylw neu adborth ar unrhyw beth rydym wedi ei ddweud wrthych, rhowch wybod i ni. Gallwch gysylltu â ni am hyn neu unrhyw fater arall ar unrhyw adeg. Gellir rhoi adborth mewn amrywiaeth o ffyrdd - ar-lein trwy ein gwefan, e-bost, llythyr, ffôn, drwy neges destun, neu, wyneb yn wyneb wrth aelod o staff neu yn ein swyddfeydd.

Felly, beth yw eich barn ar ein Perfformiad ac unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth?

• Rydym bob amser yn falch o glywed gennych, pa un ai a ydych eisiau gofyn cwestiwn, dweud rhywbeth wrthym, gwneud awgrym, canmol neu gwyno.

• Mae’r adborth hwn yn ein helpu i wneud penderfyniadau am ein cynlluniau a gwelliannau i’n gwasanaethau yn y dyfodol.

Diolch!Bywyd newydd Aura - diolch i SandyPan aeth Sandy Thomas ar wyliau i Albufeira ym Mhortiwgal yn 2103, pwy allai fod wedi rhagweld y byddai ei bywyd yn cael ei newid yn llwyr pan gyrhaeddodd yn ôl i’w fflat yng nghynllun er ymddeol Oak Court WWH ym Mhenarth?

Wrth gerdded o amgylch Albufeira, fe welodd hi gi yn crwydro o amgylch arhosfa fysiau ger ei gwesty. Roedd y ci’n llawn chwain ac yn denau ofnadwy, ac yn ddiarwybod i Sandy, roedd yn profi camau cyntaf cyflwr llyngyr y galon - llyngyr parasitig sy’n lledaenu o frathiad mosgito, a all fod yn angheuol.

Denwyd Sandy at y bwndel hwn o esgyrn oherwydd ei natur gariadus, a dechreuodd fwydo’r ci pryd bynnag roedden nhw’n gweld ei gilydd. Roedd y gwyliau ar fin dod i ben, ond ni allai Sandy adael i’r ci ddioddef, felly dechreuodd feddwl am ffyrdd i ddod â hi adref.

Cysylltodd aelod o’r teulu â S.O.S. - Elusen anifeiliaid lleol sy’n helpu anifeiliaid a adawyd yn yr Algarve i ddod o hyd i gartrefi newydd

a hapus. Roedd Sandy yn benderfynol o roi cartref hapus yn ôl yn Ne Cymru i’r ci ifanc hwn, oedd yn 18 mis oed yn unig.

Fe aeth gwirfoddolwr o’r elusen ag Aura’rci at y milfeddyg i gael archwiliad iechyd cyflawn, yn ogystal â’i ysbaddu a’i imiwneiddio yn erbyn y gynddaredd.

“Cyrhaeddodd y ci ym mis Tachwedd ar ôl teithio ar dros ddeuddydd ar y ffordd. Ond nid ydw i’n difaru, gan fod Aura wedi dod â’r fath hapusrwydd a chariad diamod i mewn i fy mywyd eto. Hi yw’r 7fed ci i mi eu hachub. Rydym yn mynd at lynnoedd Cosmeston, ac mae hi wrth ei bodd iddo, i gyfarfod cŵn eraill a rhedeg fel y gwynt. Mae hi werth yr holl arian rydw i wedi ei wario ar ddod â hi yma. Mae hi braidd yn denau o hyd, ond mae ei dyddiau o fyw ar y strydoedd a brwydro am ddarnau o fwyd yn angof erbyn hyn. Rydw i’n ei charu’n fawr iawn” meddai Sandy.

Page 29: Intouch gaeaf 2013 2014

Cydraddoldeb ac amrywiaeth | intouch | www.wwha.co.uk | 29

Cyfeiriadedd

rhywiolDyma’r erthygl olaf sy’n egluro Deddf Cydraddoldeb 2010, fel yr ysgrifenna Claire Bryant.

Mae’r Ddeddf yn cwmpasu 9 ‘nodwedd warchodedig’ - oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, ethnigrwydd a chrefydd neu gred. Rydym wedi ymdrin â phob un o’r nodweddion hyn mewn rhifynnau blaenorol, ac yn yr erthygl olaf hon, rydym yn rhoi sylw i gyfeiriadedd rhywiol.

Cyfeiriadedd rhywiol yw atyniad rhywiol person tuag at: bobl o’r un rhyw (h.y. dyn hoyw neu ddynes lesbiaidd); pobl o’r rhyw arall (h.y. rhywun heterorywiol) pobl o naill ryw a’r llall (h.y. rhywun deurywiol)

Mae Stonewall, yr elusen dros bobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) yn dweud fod rhwng 5-7% o’r boblogaeth yn LHD. Fodd bynnag, nid oes data pendant ar nifer y bobl LHD yn y Deyrnas Unedig gan nad oes cyfrifiad cenedlaethol erioed wedi gofyn i bobl ddiffinio eu rhywioldeb.

Mae cynnydd gwirioneddol wedi cael ei wneud o ran cydraddoldeb pobl LHD yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dyma linell amser gyflym o hanes hawliau pobl hoyw yn y Deyrnas Unedig:

1895 - achos llys Oscar Wilde, a ddedfrydwyd i 2 flynedd o lafur called mewn carchar

1954 - Penodi Pwyllgor Wolfenden i ystyried y gyfraith ynghylch troseddau cyfunrywiol.

1961 - Rhyddhau’r ffilm Victim, y ffilm bwysicaf o Brydain ar thema hoyw, a oedd yn pledio goddefgarwch.

1967- Daeth y Ddeddf Troseddau Rhywiol i rym yng Nghymru a Lloegr a ddad-droseddoli gweithredoedd rhywiol rhwng dau ddyn

1970 - Arddangosiad hoyw cyntaf y Deyrnas Unedig yng Nghaeau Highbury yn Islington. Ymosododd lesbiaid ar lwyfan Cynhadledd Rhyddhau Merched yn Skegness, gan fynnu cydnabyddiaeth.

- Lansiwyd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, a enwyd ar ôl y dyn hoyw cyntaf y credir iddo farw o ganlyniad i AIDS yn y Deyrnas Unedig

Page 30: Intouch gaeaf 2013 2014

30 | www.wwha.co.uk | intouch | Cydraddoldeb ac amrywiaeth

- Ymunodd glowyr De Cymru â’r orymdaith Balchder i ddiolch i lesbiaid a dynion hoyw a ddangosodd gefnogaeth tuag atyn nhw yn ystod y streic glowyr. 1987 - Cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig daflen ar AIDS, gyda rhif ffôn Switsfwrdd Lesbiaid a Hoywon Llundain, i bob cartref. Cafodd llinellau ffôn y switsfwrdd eu gorlwytho gyda’r ymateb.

1988 - Daeth Adran 28, a oedd yn atal ‘hyrwyddo’ cyfunrhywiaeth gan awdurdodau lleol, i rym gyda chefnogaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol Michael Howard. Bu 10,000 yn protestio yn Llundain a 15,000 ym Manceinion.

- Tŷ’r Cyffredin yn pleidleisio i leihau oedran cydsynio i ddynion hoyw i 18 oed.

- Cyhoeddodd Cyllid y Wlad ganllawiau newydd yn cydnabod partneriaid o’r un rhyw mewn cynlluniau pensiwn. 1999 - Dyfarnodd Tŷ’r Arglwyddi Dylai y dylid trin partneriaid o’r un rhyw fel teulu, a bod ganddyn nhw hawliau i etifeddu tenantiaeth. Lansiodd yr Heddlu Metropolitan fenter yn erbyn troseddau casineb a throseddau homoffobig. Y Llywodraeth yn codi gwaharddiad ar lesbiaid a dynion hoyw yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

2002 - Rhoddwyd hawliau cyfartal i gyplau o’r un rhyw i wneud ceisiadau mabwysiadu.

2003 - Diddymu Adran 28. Daeth Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) yn gyfraith, gan ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol yn y gweithle.

2004 - Pasio Deddf Partneriaeth Sifil, gan roi’r un hawliau a chyfrifoldebau â chyplau heterorywiol priod i gyplau o’r un rhyw. Cynhaliwyd y seremonïau partneriaethau sifil cyntaf yng Ngogledd Iwerddon ym mis Rhagfyr 2005. Y Llywodraeth yn diwygio’r Mesur Cydraddoldeb, gan gynnwys ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn lesbiaid a dynion hoyw wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau - o ofal y GIG i westai a bwytai.

2010 – Pasio Deddf Cydraddoldeb 2010 yn llwyddiannus, gan gynnwys ymestyn y Ddyletswydd Cydraddoldeb cyhoeddus unigol ar gyfer pobl LHD. Yn sgil yr Etholiad Cyffredinol, cafodd mwy o ASau lesbiaidd a hoyw agored eu hethol i Dŷ’r Cyffredin nag erioed o’r blaen.

2011 - Y Swyddfa Gartref yn cyrraedd brig restr Stonewall o gyflogwyr hoyw-gyfeillgar. Y partneriaid sifil

Page 31: Intouch gaeaf 2013 2014

Cydraddoldeb ac amrywiaeth| intouch | www.wwha.co.uk | 31

Gallech ennill

£100 dim ond drwy dalu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol

ENNILL

Yn syml, talwch eich rhent trwy Ddebyd Uniongyrchol, ac rydych yn gymwys yn syth ar gyfer y gystadleuaeth. Mae’n hawdd iawn sefydlu hyn - cysylltwch naill ai â’ch Swyddog Tai neu ffoniwch ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526.

Yr enillydd ar gyfer y chwarter diwethaf oedd Kate Grimster o Gei Connah. Meddai “Pan glywais fy mod wedi ennill, roedd yn brofiad braf iawn. Mae debyd uniongyrchol yn syniad da gan ei fod yn mynd o’ch cyfrif heb i chi orfod poeni am y peth. Byddaf yn gwario fy ngwobr ar fy mhedair merch - Emily, Lucy, Lily a Frankie.”

Martyn Hall a Steven Preddy yn llwyddiannus yn eu hachos yn erbyn y perchnogion llety gwely a brecwast Peter a Hazelmary Bull. Gwrthodwyd ystafell ddwbl i Hall a Preddy yn y gwesty gwely a brecwast ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol

2014 - Daw priodasau cyfunrhywiol i rym yng Nghymru a Lloegr yng nghanol 2014.

Er gwaethaf yr holl gynnydd gwych mewn hawliau pobl hoyw, mae’n bwlio homoffobig a throseddau casineb yn dal i ddigwydd yn rhy gyffredin – mae gormod o bobl LHD yn wynebu rhag-farn ar sail tueddfryd rhywiol ym mhob cam o’u bywydau.

Mae elusennau fel Stonewall wedi gweithio’n galed dros y degawdau diwethaf i gael gwared ar y rhwystrau y gall pobl LHD eu hwynebu a chyny-ddu eu cyfleoedd ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys teulu, gwaith ac ysgolion.

Mae llawer mwy o waith i’w wneud, ond yma yn WWH ein nod yw trin pawb yn deg a chyda pharch.

Rwy’n gobeithio bod yr erthyglau wedi bod o ddiddordeb i ddarllenwyr!

Claire BryantSwyddog Polisi ac Amrywiaeth

Page 32: Intouch gaeaf 2013 2014

32 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad preswylwyr

Aeth wyth aelod o’n Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr a’n Bwrdd i gynhadledd flynyddol TPAS Cymru (Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid) yng Ngwesty Holland House, Caerdydd, ym mis Tachwedd i ddysgu mwy am gyfranogiad preswylwyr (defnyddio eich barn i wella ein gwasanaethau).

Mae’r gynhadledd yn dwyn ynghyd breswylwyr tai cymdeithasol o bob rhan o Gymru i drafod cyfranogiad preswylwyr a dysgu oddi wrth ei gilydd. Aeth y preswylwyr i weithdai ar faterion fel sut y gallai’r dreth ar ystafelloedd gwely effeithio ar gyfranogiad, sut gallem ddefnyddio eich barn pan fyddwn yn adeiladu tai newydd, a sut mae cyfranogiad preswylwyr yn gweithio yn Lloegr.

Dywedodd Sian, un o aelodau ein Grŵp Llywio: “Roedd yn wych, yn drefnus ac roedd y gweithdai yn amrywiol ac yn addysgiadol iawn, gyda rhywbeth i

bawb. Fe ddes i oddi yno gyda llawer o awgrymiadau i’w rhannu gyda phreswylwyr eraill a Chymdeithasau Tenantiaid. Roedd y ddau ddiwrnod yn brofiad gwych. Cawsom gyfle hefyd i rannu stondin WWH a chyfarfod cyd-aelodau.”

Mae ein Grŵp Llywio yn ein helpu i gynllunio a gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio eich barn i wella ein gwasanaethau. Rydym yn dal i fod angen mwy o aelodau, yn enwedig o dde Cymru, gan fod gennym fwy o aelodau o’r gogledd ar hyn o bryd. Cynhelir cyfarfodydd bob chwe wythnos (yng ngogledd a de Cymru bob yn ail), a byddwch yn cael y cyfle i fynd i sesiynau hyfforddi a chynadleddau fel cynhadledd TPAS. Cysylltwch â’n Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, Claire Hammond, os hoffech ragor o wybodaeth [email protected] neu ffoniwch 07766 832692.

Cynhadledd TPAS 2013Aelodau’r Bwrdd a’r Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr gyda Claire Hammond yn y Gynhadledd

Page 33: Intouch gaeaf 2013 2014

Cyfranogiad preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 33

Y llynedd, fe wnaeth 11 grŵp o breswylwyr WWH derbyn grantiau Gwneud iddo Ddigwydd i’w helpu gydag amrywiaeth o weithgareddau cymunedol yn eu cynlluniau neu eu hystadau.

Cafodd Clwb Garddio Oak Court, Penarth, grant Gwneud iddo Ddigwydd tuag at feinciau / byrddau trosi anhygoel fel rhan o’u prosiect garddio. Mae’r meinciau wedi cael eu gwneud gan Sefydliad Merthyr Tudful ar gyfer y Deillion, ac maen nhw’n ddyfeisiadau gwych ar gyfer arbed lle, gan y gellir eu defnyddio fel byrddau picnic ac fel meinciau gardd.

Y grant Gwneud iddo Ddigwydd yw ein grant bach o hyd at £500. Nid oes yn rhaid i chi fod yn grŵp preswylwyr ffurfiol i wneud cais - dim ond criw o gymdogion brwdfrydig sydd â syniad da!

Os oes gennych chi syniad i ddod â’ch cymuned at ei gilydd, gallwn helpu -

siaradwch gyda’ch Rheolwr Cynllun, Swyddog Tai neu gyda mi (manylion cyswllt isod) am y grant Gwneud iddo Ddigwydd.

Yn ogystal â’r grant ei hun gallwn hefyd eich helpu chi:

• darganfod pa weithgareddau sydd o ddiddordeb i breswylwyr lle’r ydych yn byw.

• cael hyfforddiant i’ch helpu i wneud eich gweithgaredd newydd, fel Cymorth Cyntaf neu dystysgrifau Hylendid Bwyd Lefel 2, fel y gallwch baratoi bwyd yn ddiogel ar gyfer clwb cinio.

• dechrau prosiectau garddio newydd ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau gyda’n grant Amgylcheddol, fel y Oak Court (chwith).

• dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiaduron - gallwn helpu drwy ddod â thiwtoriaid i’ch dysgu chi yn eich cynllun neu ar eich stad.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y cymorth neu’r gweithgareddau a grybwyllir yma, ffoniwch fi, Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, ar 0800 052 2526 neu e-bostiwch [email protected]

Claire HammondResident Participation Strategy Officer

Fyddech chi’n hoffi ‘gwneud iddo ddigwydd’

yn eich cymuned?

Sandy Thomas, Paul Clarke a Dave Brigham – rhai o aelodau Grŵp Garddio Oak Court – yn ymlacio ar y meinciau newydd

Page 34: Intouch gaeaf 2013 2014

34 | www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Bydd darllenwyr rheolaidd In Touch yn ymwybodol ein bod wedi buddsoddi ychydig dros £45m i wneud yn siŵr bod ein holl eiddo yn cydymffurfio â gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae llawer o’n gwariant cynnal a chadw a gynlluniwyd dros y 5-6 mlynedd ddiwethaf wedi cael ei bennu gan hyn.Yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf rydym wedi gosod:

• 3,302 cegin newydd• 4,177 ystafell ymolchi newydd• 1,805 system wresogi newydd

(naill ai drwy newid tanwydd neu osod system draddodiadol)

• ffenestri newydd mewn 2,298 o gartrefi

Sut rydym yn penderfynu ymhle byddwn ni’n gweithio?Rydym wedi bod yn cynnal arolygon o gyflwr stoc ac yn parhau i wneud hynny, lle rydym yn gwirio cyflwr holl brif gydrannau eich eiddo, ac yn defnyddio hyn i greu rhaglen ar gyfer gosod eitemau newydd yn eu lle. Gyda nifer fawr o eiddo ledled Cymru, weithiau gall fod yn her gwneud yn

siŵr ein bod yn cyrraedd y cynlluniau rydym yn dymuno eu cyrraedd mor gyflym ag y byddem yn hoffi, ac mor gyflym ag y byddech yn hoffi i ni wneud hynny. Weithiau rydym wedi dewis cwblhau cynlluniau yn gynnar oherwydd bod gwaith arall yn galw - er enghraifft, dod â gwaith ar geginau ymlaen i gyd-fynd â gwaith newid tanwydd. Mae hyn yn ein helpu i wneud y defnydd gorau o adnoddau ac yn golygu llai o darfu arnoch chi.

Ble nesaf

Bydd ein rhaglen a gynlluniwyd yn canolbwyntio ar gynnal ein cydymffurfiad â Safon Ansawdd Tai Cymru. Fodd bynnag, yn y cyfamser, rydym hefyd yn ystyried sut bydd ein strategaeth fuddsoddi yn edrych dros y blynyddoedd nesaf.

Er mwyn parhau i gydymffurfio, fodd bynnag, y gwaith a nodwyd ar gyfer chwarter cyntaf eleni yw:

CeginauVictory Court, yr Wyddgrug

Ystafelloedd ymolchiChurch Road, CaerdyddHillfort Close, Caerdydd

Rydym wedi cwrdd â’r safon

Page 35: Intouch gaeaf 2013 2014

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 35

“Dwi’n caru fy ystafell wlyb”

Ffenestri/drysau ac ymylon toeauLavender Court, ShottonQueens Court, y Drenewydd

Newid tanwyddDan y Mynydd, BlaengarwHope Court, Caerdydd

Roedd Sian Hope, sy’n 58 oed ac sy’n byw yn Wrecsam, mor falch o’r gwaith a wnaed ar ei hystafell ymolchi gan Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, fel ei bod wedi anfon cerdyn diolch arbennig atyn nhw.

Mae Sian yn dioddef o Chondromalacia patellae, sef niwed i’r cartilag yng nghefn y pen-glin, ac mae ganddi arthritis yn ei chlun hefyd, sydd wedi arwain at anhawster dringo i’w baddon.

“Roedd yr ystafell ymolchi yn arfer bod ar siâp L, a oedd yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy lletchwith i mi ddringo dros ochr y bath i gael cawod,” meddai Sian. “Diolch i’r gwasanaethau cymdeithasol, a asesodd fy anghenion a chytuno fy mod i angen ystafell wlyb, fe wnaeth Tai Wales & West lwyddo i gael grant i addasu fy ystafell ymolchi.”

Fe wnaeth Cambria fwrw wal i lawr fel nad oedd y toiled ar wahân i’r ystafell ymolchi, gan dynnu’r baddon oddi yno, gosod cawod yn ei le, a drysau bach arno i wneud mynediad yn haws. Gosodwyd sinc a thoiled newydd yno hefyd.

“Er ei bod wedi cymryd wythnos i wneud y gwaith, roedd yn werth aros

amdano,” meddai Sian. “Roedd bechgyn Cambria yn dda iawn – fe wnaethon nhw egluro popeth i mi wrth iddyn nhw wneud y gwaith. Roedd ganddyn nhw brentis ifanc o’r enw Tom gyda nhw. Bu’n gweithio’n ddiflino, chwarae teg. Rwy’n hapus iawn gydag ansawdd y gwaith, ac rwyf wrth fy modd gyda’m hystafell wlyb. Roeddwn i eisiau diolch iddyn nhw, felly fe wnes i anfon cerdyn.”

Dywedodd Nigel Parry, Pennaeth Cambria yn y gogledd: “Rydym wrth ein bodd fod Sian yn hapus gyda’i hystafell ymolchi newydd. Mae’n dda gallu rhoi adborth cadarnhaol i’r tîm, yn enwedig y prentisiaid, gan eu bod i gyd yn ymfalchïo yn eu gwaith.”

Drysau yn unigChorley Close, CaerdyddMonkton Close, CaerdyddTatem Drive, Caerdydd

Page 36: Intouch gaeaf 2013 2014

36 | www.wwha.co.uk | intouch | Diwrnod ym mywyd…

Diwrnod ym mywyd…

swyddog taiMae Cath Marland, sy’n 41 oed, wedi bod yn Swyddog Tai gyda Thai Wales & West Housing ers 10 mlynedd. Mae Cath yn gyfrifol am Gei Connah, Shotton, Queensferry a Mancot yn y gogledd. Dyma hi’n disgrifio ei gwaith:“Nid oes y fath beth â diwrnod nodweddiadol yn achos swyddog tai. Dyna beth rydw i’n ei hoffi am y swydd - mae’n amrywiol, a dim un diwrnod yr un fath â’i gilydd.

“Heddiw, dydd Llun, rydw i’n tueddu i dreulio’r diwrnod yn swyddfa’r Fflint, gan ganolbwyntio ar gyfrifon rhent, edrych ar gofnodion preswylwyr a threfnu apwyntiadau ar gyfer yr

Page 37: Intouch gaeaf 2013 2014

Diwrnod ym mywyd… | intouch | www.wwha.co.uk | 37

wythnos. Rydw i hefyd yn cynllunio unrhyw gytundebau i breswylwyr eu llenwi cyn symud i mewn i eiddo tua diwedd yr wythnos. Mae eiddo gwag (cartrefi gwag) yn fater pwysig i ni, gan ein bod am eu llenwi cyn gynted ag y gallwn. Mae angen i mi ddod o hyd i rywun ar gyfer eiddo gwag yng Nghei Connah yr wythnos hon.

“Unwaith y byddaf yn gwybod pwy mae angen i mi ymweld â nhw, gallaf gynllunio fy llwybrau. Yr wythnos hon, rydw i’n cyfarfod gwraig sydd eisiau symud i dŷ llai, oherwydd y Cymhorthdal Ystafell Sbâr (y dreth ar ystafelloedd gwely). Mae hi mewn cartref â 3 ystafell wely, felly mae hi’n gorfod talu 25% o’r rhent sy’n ddyledus gan mai dim ond un ystafell wely mae hi ei hangen. Rydw i’n gweithio gyda Will Brooks, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth, i weld sut gallwn ei helpu hi, a’i chynghori i ddefnyddio House Swap Wales.

“Fe wnaethom yn siŵr bod ein preswylwyr yn deall oblygiadau’r Dreth ar Ystafelloedd Gwely cyn iddi ddod i rym. Rydw i’n helpu un preswyliwr i weld a fydd hi’n gymwys i gael Taliad Tai Dewisol. Mae hi’n cael anhawster talu ei rhent a’i biliau dŵr. Rydw i wedi trefnu i’w chyfarfod gyda Will i weld sut gallwn helpu i’w chefnogi.

“Nid rhent yw popeth yn y swydd. Rydym hefyd yno i helpu preswylwyr i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydw i’n eithaf lwcus yn fy ardal i - yn ddiweddar,

ffoniodd cymydog ein canolfan alwadau i gwyno am breswyliwr swnllyd. Roeddwn ar fin cysylltu â’r cymydog i ymchwilio ymhellach, ond nid oedd angen, gan eu bod wedi derbyn ymddiheuriad, felly roedd y broblem wedi cael ei datrys.

“Mewn achosion difrifol iawn, byddai’n rhaid i swyddog tai weithio gyda phreswylwyr i’w helpu i gasglu tystiolaeth, paratoi datganiadau gan dystion a mynd i’r llys, pe bai angen hynny.

“Rwyf hefyd yn mynd i MARAC (Cynhadledd Asesu Risg Aml-asiantaeth) yn Sir y Fflint ar gam-drin domestig. Rydym yn ceisio cefnogi dioddefwyr i deimlo’n fwy diogel yn eu cartref neu i chwilio am atebion amgen.

“Mae swyddogion tai yn gweithio gydag ymgeiswyr cyn iddyn nhw symud i mewn i gartref er mwyn datrys unrhyw fater sy’n codi - mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau preswylwyr.

“Ddydd Gwener byddaf yn gwneud archwiliad safle gyda Dave Hughes, y Swyddog Rheoli Asedau, yng Nghwrt Leighton, gan edrych ar unrhyw sbwriel y mae angen ei glirio, gwteri, mwsogl gwyrdd, a chyflwr y stad yn gyffredinol. Yna, byddaf yn trosglwyddo siec am £100 i enillydd y wobr debyd uniongyrchol, Kate Grimster, am dalu’n rheolaidd. Dyna ffordd wych i gloi’r wythnos.”

Page 38: Intouch gaeaf 2013 2014

38 | www.wwha.co.uk | intouch | Cystadleuaeth darllenwyr

Mae’r gwanwyn ar ei ffordd, ac mae gennym 3 gwobr ar gael. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw anfon eich awgrymiadau ar arbed arian wrth arddio er mwyn cael cyfle i ennill un o ddetholiad o eitemau garddio dan do.

Y wobr gyntaf yw ffrâm brifiant 7 hambwrdd sy’n dyfrhau ei hunan, gyda detholiad o hadau Perlysiau, sy’n eistedd yn gyfforddus ar silff ffenestr ac sy’n cynnwys saith o fframiau prifio bychan. Mae’r planhigion yn tynnu dŵr yn naturiol o’r matiau capilari yn yr hambwrdd gwaelod.

Yn ogystal, mae yna ddwy ail wobr, sef pecyn perlysiau ar gyfer silff

ffenestr, sy’n cynnwys hadau rhosmari, saets a theim mewn tri phot sinc ar hambwrdd ar yr un patrwm, a phecyn planhigion tŷ, sydd â detholiad o offer garddio dur di-staen â handlenni pren gyda chwistrellwr llaw - i gyd mewn cas cario cynfas a neilon. Anfonwch eich cynghorion ar arbed arian wrth arddio naill ai ar gerdyn post at: Keri Jones, Tai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd. CF24 2UD neu drwy e-bost: [email protected] cyn 7 Ebrill 2014.

Pob lwc!

Cystadleuaethy gwanwyn

Page 39: Intouch gaeaf 2013 2014

Y diweddaraf am elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 39

Mae’r Nadolig yn gyfnod o roi, ac mae staff, preswylwyr, ffrindiau a theuluoedd WWH wedi bod yn hael iawn tuag at ein hymgyrchoedd elusennol amrywiol:

• Rhoddwyd £837.66 at Blant mewn Angen, gyda WWH yn rhoi arian cyfatebol at y swm a gasglwyd

• Cafodd Operation Christmas Child £125.75, gyda WWH yn rhoi arian cyfatebol yn ogystal â llenwi 102 o flychau gyda theganau, dillad a nwyddau hyfryd ar gyfer plant mewn gwledydd lle bu rhyfela.

• Ymgyrch ‘Gwisgwch Binc’ Canser y Fron - £122.06

Mae tîm elusen WWH wedi cynnal nifer o rafflau yn ogystal â gwerthu cynnyrch harddwch, diwrnodau gwisg anffurfiol a chyfraniadau o gyflogau staff. Mae preswylwyr yng nghynlluniau er ymddeol amrywiol WWH ledled Cymru bob amser yn cynnal casgliadau a digwyddiadau, ac mae eu haelioni di-ffael yn ein syfrdanu ni o hyd.

Mae cyfraniadau at elusen ein staff, Cymdeithas Strôc Cymru, bron â chyrraedd £18,000 ar hyn o bryd. Ni fydd gennym ddarlun cywir o’r cyfanswm tan ddiwedd mis Rhagfyr 2014, pan fydd elusen staff arall yn cael ei henwebu.

Y diweddaraf gan gynlluniau eraill WWH

Yn Oldwell Court yng Nghaerdydd, fe wnaeth y preswylwyr gasglu £170 tuag at Plant mewn Angen gyda chinio selsig a thatws stwnsh, pawb yn gwisgo dillad nos, a rafflau. Yn y wisg gwningen gwelir Roy Preece, ein Swyddog Rheoli Asedau, gyda rhai o’r preswylwyr a rheolwr y cynllun, Sandy Houdmont.

Fe wnaeth Preswylwyr yng Nghwrt Anghorfa yn y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr, ddod at ei gilydd i gynnal ffair, gan godi’r swm anhygoel o £900. Aeth £500 o’u casgliad tuag at elusen Clefyd Motor Niwron, gyda’r gweddill yn mynd at gronfa eu Grŵp Cymdeithasol.

Roedd Wilfred Brook House yng Nghaerdydd hefyd yn llawn hwyl gyda thrigolion trefnu parti dillad nos a diwrnod hwyl yn ogystal â Pharti Calan Gaeaf gwisg ffansi a gododd £153.09 tuag at Plant mewn Angen.

Y diweddaraf am elusennau

Preswylwyr Oldwell Court gyda Roy Preece, y Swyddog Rheoli Asedau, a Sandy Houdmont

Page 40: Intouch gaeaf 2013 2014

40 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a safbwyntiau

Clwb y Cywennod yn mwynhau eu Cinio NadoligYn y llun isod gwelir aelodau Clwb Cywennod Oldwell Court, Caerdydd, yn mwynhau eu Cinio Nadolig yn Nine Giants, Thornhill. Fe gawson nhw amser gwych, a hoffwn ddiolch i VEST am ddarparu’r cludiant.

Mae Cludiant Gwasanaethau Brys Gwirfoddol yn darparu cludiant o ddrws i ddrws i drigolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sy’n cael anhawster symud. Ffôn 02920 490 335

Raffl Nadolig Fawr preswylwyr Oak Meadow Court Mae gan breswylwyr Oak Meadow Court yn Llaneirwg, Caerdydd, fywyd cymdeithasol prysur iawn, gyda nosweithiau Bingo, boreau coffi a dosbarthiadau crefft yn ogystal â mynd am ginio a nosweithiau cymdeithasol fel ‘Blynyddoedd y Rhyfel’ a ‘Diwrnod y Merched yn Oak Meadow’ yn ystod Gŵyl Ascot. Mae oedran y trigolion yn amrywio o 60+ i 90+ ac maen nhw’n hoffi byw bywyd i’r eithaf.

Cafodd yr wyth deg naw o wobrau yn eu Raffl Nadolig eu prynu gan ddefnyddio’r holl arian a gasglwyd yn ystod y flwyddyn, ac roedd yr enillwyr lwcus wrth eu boddau gyda’u gwobrau.

Y Cyngh. A. Wood, Maer Abergele, yn ymweld â Thŷ Gwyn Jones, AbergeleAr 21 Ionawr, fe wnaeth y preswylwyr fwynhau noson gaws a gwin gyda’r Cynghorydd Wood, Maer Abergele. Fe wnaeth o fwynhau ei hun yn fawr iawn – yn gymaint felly fel ei fod wedi gofyn am restr o’r gweithgareddau cymdeithasol, fel y gallai eu nodi yn ei ddyddiadur.

Diolch yn FAWR i Ole ConstantineGweithiodd Ole Constantine o Ystad Goffa yn y Fflint yn galed i sicrhau grant dathlu’r gaeaf, a derbyniodd £150 gan Age Cymru tuag at ginio Nadolig eu preswylwyr. Byddai Alison Moody, y Rheolwr Cynllun, yn hoffi mynegi ei diolch i Ole am ei gefnogaeth. “Mae o bob amser yn barod i fynd y filltir ychwanegol er budd y cynllun, yn ogystal â gwirfoddoli gyda’r prosiect cynhwysiant digidol yng Nghynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn” meddai Alison.

Page 41: Intouch gaeaf 2013 2014

Newyddion a safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 41

Corryn anferth ar gyfer Parti Calan GaeafJean Wathen, un o’r preswylwyr yn Oldwell Court, sy’n gofalu am y clwb coffi yno, ac fe drefnodd barti Calan Gaeaf ar gyfer y preswylwyr. Yn ogystal â dychryn y preswylwyr gyda’i chorynod, llwyddodd i werthu 25 llyfr o docynnau raffl i gefnogi trafnidiaeth VEST.

Jean Wathen gyda’r corryn anferth

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed ble mae eich sbwriel yn mynd a sut mae deunydd i’w ailgylchu yn cael ei ddidoli? Neu beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn ailgylchu? Dyna oedd ar feddwl preswylwyr Constantine Court yn y Rhondda, felly fe wnaeth eu Rheolwr Cynllun, Maria Mulford, drefnu iddyn nhw fynd i Ganolfan Ymwelwyr Amgen-Cymru a safle Tirlenwi Bryn Pica, Llwydcoed, Aberdâr i weld drostyn nhw eu hunain pa mor bwysig yw lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Yn ystod eu hymweliad fe wnaethon nhw ddarganfod llawer o gyfrinachau am ailgylchu, ymweld â safle tirlenwi gweithredol, gweld sut mae nwyon gwastraff yn cael eu troi’n ynni a sut mae modd defnyddio eitemau wedi’u hailgylchu i greu pethau newydd gwych.

Mae modd i drigolion Rhondda Cynon Taf ymweld yn rhad ac am ddim. I drefnu ymweliad, ffoniwch 01685 372904 neu anfonwch e-bost: [email protected]

Preswylwyr Pendyrys House yng Nghaerdydd yn mwynhau eu cinio NadoligFore Nadolig fe wnaeth y preswylwyr gynnal bore coffi, gyda gwin cynnes a lluniaeth ysgafn cyn iddyn nhw adael am y Conway ym Mhontcanna ar gyfer y parti cinio Nadolig gorau erioed (yn y llun isod). Roedd pawb wrth eu bodd.

Preswylwyr Danymynydd yn mwynhau eu cinio Nadolig

Page 42: Intouch gaeaf 2013 2014

Penblwyddi a dathliadau

Fe wnaeth preswylwyr ym Maes y Ffynnon, cynllun er ymddeol WWH yng Nghrucywel, ddathlu pen-blwydd y safle yn 25 oed ar 25 Hydref drwy gynnal parti mawreddog yn eu lolfa gymunol (gweler y llun isod). Rhoddodd WWH £100 tuag at drefniadau’r parti.

Trefnwyd y bwffe trawiadol, gan gynnwys teisen ben-blwydd arbennig, gan reolwyr y cynllun, Lyn Margrett a Rob Llewellyn, gydag adloniant yn cael ei ddarparu gan berfformiwr lleol. Codwyd arian ar gyfer cronfa gymdeithasol y preswylwyr drwy gyfrwng gwobrau raffl a roddwyd, hefyd.

“Rwy’n hoffi byw yma - mae’n adeilad braf, mewn lleoliad braf, mae yma ysbryd cymunedol da, mae’n saff a diogel, ac mae’r holl staff yn wych” meddai Mr John Powell, sy’n 84 mlwydd oed ac sydd wedi byw yn y cynllun ers ugain mlynedd.

Dywedodd Mrs Jean Colman, sy’n 92 mlwydd oed: “Symudais i Faes y Ffynnon i fod yn agosach at fy nheulu - mae’n lle gwych i fyw, a gallaf fyw’n annibynnol yma gyda chymorth gan deulu a staff.”

Maes y Ffynnon yn dathlu 25 mlynedd

Pen-blwydd hapus Vida yn 103 oedFe wnaeth Vida Price o Ystad Goffa Court yn y Fflint fwynhau ei phen-blwydd yn 103 oed gyda theimladau cymysg, oherwydd y diwrnod ar ôl hynny, roedd hi’n symud i gartref preswyl cyfagos.

Gwelir Vida yn y llun gyda ffrindiau o’i heglwys.

Mae Margaret Thomas (i’r chwith o Ida) a’i gŵr Chris wedi bod yn gefn mawr i Vida ac i’r cynllun. Fe wnaeth Margaret, a oedd yn arfer gwirfoddoli yn y clwb cinio, goginio cinio Nadolig gwych i’r preswylwyr eleni. “Rydym yn dymuno’r gorau Vida yn ei chartref newydd; bydd pawb yn gweld colled fawr ar ei hôl “ meddai Alison Moody, y Rheolwr Cynllun.

Pen-blwydd hapus yn 70 oed i Mrs Wendy Richards o Danymynydd, Pen-y-bont ar Ogwr, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 70 oed ar 13 Ionawr.

Llongyfarchiadau hefyd i Mrs Lena Charles o Danymynydd ar enedigaeth ei gor, gor, gor wyres – y 5ed cenhedlaeth o ferched hyfryd.

42 | www.wwha.co.uk | intouch | Penblwyddi a dathliadau

Page 43: Intouch gaeaf 2013 2014

Ar hyn o bryd mae gennym nifer cyfyngedig ogartrefi ledled y sir, felly os ydych chi, neurywun rydych chi’n eu hadnabod, yn chwilioam gartref fforddiadwy o ansawdd uchel ymMhowys, siaradwch gyda ni heddiw. Os ydych angen tŷ, cysylltwch â'n TîmDewisiadau Tai:Rhadffôn 0800 052 [email protected]

Twitter @wwha

Gwneud gwahaniaeth ym Mhowys

Mae ein holl restrau aros yn agored– am ragor o wybodaeth, ewch i

www.wwha.co.uk

Symudodd Sophie, sy’n 22 oed, a’i merch Isabella, sy’n 2 oed, (sydd i’w gweld yn y llunuchod gyda’r Swyddog Tai Wendy Fryzer) i’wcartref newydd gan Dai Wales & West yn Llysyr Arad, Aberhonddu, ym mis Hydref 2013. "Dwi wrth fy modd - mae’n wych cael fy lle fyhunan o’r diwedd," meddai Sophie, sydd ar hyn obryd yn fam llawn amser ac yn ddarpar therapyddcelf.

"Ac roedd hi mor hawdd cael cartref gyda Wales &West. Fe wnes i’n siŵr fy mod i’n edrych ar ywefan Tai Wales & West bob dydd, a chyn gyntedag y gwelais fod y rhestr ar gyfer yr ardal hon ynagored, dyna ddechrau’r cyfan, ac roeddwn i ar yffôn gyda nhw yn syth.

"Roedd y ddynes yn y Tîm Dewisiadau Tai ynhyfryd, a dim ond am tua deg munud fues i ar yffôn gyda hi, gan roi fy manylion iddi hi, ac roeddpopeth wedi ei drefnu. Roeddwn i ar restr TaiWales & West. Yna, pan glywais fod cartref ar gaelyn Llys yr Arad, fe wnes i fachu’r cyfle ar unwaith.

"Mae'n hyfryd yma – mae hi’n wirioneddol dawel,yn wych ar gyfer plant, dwi wedi gwneud ffrindiauyn gyflym iawn ac mae fy nghartref o fewncyrraedd hawdd i’r holl siopau, ysgolion lleol, yfeddygfa - popeth.

"Mae Wales & West wedi bod yn wych, a byddwnyn bendant yn eu hargymell i unrhyw un sy'nchwilio am rywle fforddiadwy i fyw ym Mhowys."

‘Dwi’n caru fy nghartref newydd -

mae’n wych!’

Mae Tai Wales & West yn gweithio'n galedym Mhowys i adeiladu mwy o dai fforddiadwy o ansawdd da i ddiwalluanghenion lleol. Yn ein holl ddatblygiadau, rydym yn defnyddio labrwyr lleol, arbenigedd lleol a deunyddiau offynonellau lleol pryd bynnag y bydd hynny'nbosibl.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys ar gynlluniau argyfer cynllun gofal ychwanegol newydd yn YDrenewydd, ac wrth wraidd ein cynigion mae’rymrwymiad i gefnogi'r economi leol drwy greuswyddi, gwaith a chyfleoedd hyfforddi. Dyma’rffordd y byddwn yn ymgymryd â’n holl raglenniadeiladu newydd ledled y sir, a ledled Cymruhefyd.

Yn y llun uchod ac i'r chwith fe welir Llys yr Aradyn Aberhonddu, un o'n datblygiadau mwyaf diweddar, lle mae pob rhandy a thŷ ar rent fforddiadwy. Cwblhawyd Llys yr Arad ym misRhagfyr 2011, ac mae wedi darparu 26 o gartrefifforddiadwy newydd yr oedd eu hangen yn fawr,a hynny ar safle tir llwyd, ac mae’r cartrefi ecogyfeillgar i gyd yn defnyddio ynni yn effeithlon, gan eu gwneud yn rhatach i'w gwresogi a goleuo.

a5 welsh Brecon_Layout 1 18/02/2014 11:31 Page 1

Page 44: Intouch gaeaf 2013 2014

Ffoniwch ni nawr ar

Nawr ar gael yn lleol

carpedwch eich ystafell am

lai na £50(cyflenwi yn unig)

Cysylltwch â’ch tîm tai am daflen disgownt

Teils carped o safon, sy’n para’n hir,

yn ymarferol ac ar gael am

bris isel

Disgowntarbennig i denantiaid

Disgownt ar loriau