7
1 lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru Gaeaf 2011/2012 Gaeaf 2011/2012 Gaeaf 2011/2012 Gaeaf 2011/2012 Un Corff i Gynnal Cymru Fyw Un Corff i Gynnal Cymru Fyw Un Corff i Gynnal Cymru Fyw Un Corff i Gynnal Cymru Fyw Mae’r ffordd o reoli’r amgylchedd a’r adnoddau naturiol yng Nghymru’n wynebu newid sylweddol dros y 24 mis nesaf, yn dilyn cyhoeddiad papur gwyrdd Llywodraeth Cymru’n ddiweddar, sef Cynnal Cymru Fyw. Mae’r ymgynghoriad, a lansiwyd ar 30 Ionawr, yn cynnig bod dulliau rheoli adnoddau naturiol ar hyd a lled Cymru’n mabwysiadu dull rheoli ar lefel yr ecosystem, dull sy’n rheoli ac yn rheoleiddio’r amgylchedd a’i iechyd yn ei gyfanrwydd, yn hytrach na delio â materion unigol ar wahân. Mae’r Llywodraeth yn disgwyl i’r ffordd hon o reoli: Wneud ein hamgylchedd a’r bioamrywiaeth sy’n ei gynnal yn gryfach a mwy amrywiol; Creu prosesau rheoleiddio symlach a mwy cost-effeithiol; Rhoi mwy o sicrwydd i benderfynwyr. Mae’r papur gwyrdd yn cynnwys nifer fwy o gynigion. Bydd rhai cynigion, megis y bwriad i resymoli ac integreiddio meysydd polisi unigol, yn dylanwadu ar ddatblygu polisi’r parciau cenedlaethol yn y dyfodol agos. Bydd cynigion eraill yn ymestyn dros ffrâm amser mwy, ac yn cyfrannu at ddeddfwriaeth Cymru, megis Bil yr Amgylchedd a’r Bil Cynllunio fydd yn cael eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol yn 2015 ac yn 2016 yn ôl eu trefn. Parciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol Parciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol Parciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol Parciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol Aneurin Phillips ac Emyr Williams o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a gynrychiolodd Parciau Cenedlaethol Cymru ym Mhwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol ar 26 Ionawr, a chawsant gyfle i gyflwyno tystiolaeth ar yr achos busnes ar gyfer Un Corff Amgylcheddol. Gellir gweld ymateb ysgrifenedig Parciau Cenedlaethol Cymru drwy’r ddolen hon: http://goo.gl/fN3v9

Lle I Enaid Gael Llonydd: Gaeaf 2011/2012

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Parciau Cenedlaethol Cymru Cylchlythyr Gaeaf 2011/2012

Citation preview

Page 1: Lle I Enaid Gael Llonydd: Gaeaf 2011/2012

1

lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru

Gaeaf 2011/2012Gaeaf 2011/2012Gaeaf 2011/2012Gaeaf 2011/2012

Un Corff i Gynnal Cymru Fyw Un Corff i Gynnal Cymru Fyw Un Corff i Gynnal Cymru Fyw Un Corff i Gynnal Cymru Fyw

Mae’r ffordd o reoli’r amgylchedd a’r

adnoddau naturiol yng Nghymru’n wynebu

newid sylweddol dros y 24 mis nesaf, yn dilyn

cyhoeddiad papur gwyrdd Llywodraeth

Cymru’n ddiweddar, sef Cynnal Cymru Fyw.

Mae’r ymgynghoriad, a lansiwyd ar 30 Ionawr,

yn cynnig bod dulliau rheoli adnoddau naturiol

ar hyd a lled Cymru’n mabwysiadu dull rheoli ar

lefel yr ecosystem, dull sy’n rheoli ac yn

rheoleiddio’r amgylchedd a’i iechyd yn ei

gyfanrwydd, yn hytrach na delio â materion

unigol ar wahân.

Mae’r Llywodraeth yn disgwyl i’r ffordd hon o

reoli:

Wneud ein hamgylchedd a’r

bioamrywiaeth sy’n ei gynnal yn gryfach a

mwy amrywiol;

Creu prosesau rheoleiddio symlach a mwy

cost-effeithiol;

Rhoi mwy o sicrwydd i benderfynwyr.

Mae’r papur gwyrdd yn cynnwys nifer fwy o

gynigion. Bydd rhai cynigion, megis y bwriad i

resymoli ac integreiddio meysydd polisi unigol,

yn dylanwadu ar ddatblygu polisi’r parciau

cenedlaethol yn y dyfodol agos. Bydd cynigion

eraill yn ymestyn dros ffrâm amser mwy, ac yn

cyfrannu at ddeddfwriaeth Cymru, megis Bil yr

Amgylchedd a’r Bil Cynllunio fydd yn cael eu

hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol yn 2015

ac yn 2016 yn ôl eu trefn.

Parciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad CenedlaetholParciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad CenedlaetholParciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad CenedlaetholParciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol

Aneurin Phillips ac Emyr Williams o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a gynrychiolodd Parciau

Cenedlaethol Cymru ym Mhwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol ar 26

Ionawr, a chawsant gyfle i gyflwyno tystiolaeth ar yr achos busnes ar

gyfer Un Corff Amgylcheddol. Gellir gweld ymateb ysgrifenedig Parciau

Cenedlaethol Cymru drwy’r ddolen hon: http://goo.gl/fN3v9

Page 2: Lle I Enaid Gael Llonydd: Gaeaf 2011/2012

2

Yn ystod yr wythnos yn dilyn lansio’r papur

gwyrdd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei

gynigion am Un Corff Amgylcheddol yng

Nghymru. Mae Adnoddau Naturiol Cymru’n

nodi’r trefniadau arfaethedig ar gyfer sefydlu a

llywodraethu’r corff newydd â’r dasg o reoli a

rheoleiddio adnoddau naturiol Cymru mewn

ffordd gynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth hon -

a chenedlaethau’r dyfodol. Disgrifir yr heriau

sy’n wynebu’r corff newydd fel rhai “mawr”. Er

enghraifft, disgwylir iddo wella a symleiddio’r

system o reoli’r amgylchedd yng Nghymru, gan

ddatblygu a gweithredu’r dull rheoli ar lefel yr

ecosystem wrth reoli’r amgylchedd.

Mae’r papur ymgynghori hefyd yn cynnwys cyni-

gion sy’n cyffwrdd ar nodau ac amcanion y

sefydliadau newydd, yn ogystal â ffyrdd o’i lywo-

draethu a chynnwys rhanddeiliaid.

Bydd Parciau Cenedlaethol Cymru’n ymwneud

â’r ddau ymgynghoriad parhaus a fydd yn dod i

ben ym mis Mai 2012. Gellir cyrraedd dogfen

Cynnal Cymru Fyw, sy’n dod i ben ar 31 Mai,

drwy’r ddolen hon:

http://goo.gl/hVbHk

Gellir cyrraedd Adnoddau Naturiol Cymru: Tref-

niadau Arfaethedig ar gyfer Sefydlu a Chyfarw-

yddo Corff Newydd i Reoli Adnoddau Naturiol Cymru, sy’n dod i ben ar 2 Mai, drwy’r ddolen

hon:

http://goo.gl/yj55z

““““We are keepers of a fragment of near-We are keepers of a fragment of near-We are keepers of a fragment of near-We are keepers of a fragment of near-eternity, and a very gentle fragment, not eternity, and a very gentle fragment, not eternity, and a very gentle fragment, not eternity, and a very gentle fragment, not

young and ferocious like the Andes, or young and ferocious like the Andes, or young and ferocious like the Andes, or young and ferocious like the Andes, or towering and edged like the Alps and towering and edged like the Alps and towering and edged like the Alps and towering and edged like the Alps and the Atlas, but rounded, swirled, as kind the Atlas, but rounded, swirled, as kind the Atlas, but rounded, swirled, as kind the Atlas, but rounded, swirled, as kind and smiling as wild mountains can be.”and smiling as wild mountains can be.”and smiling as wild mountains can be.”and smiling as wild mountains can be.”

Mae Horatio Clare, awdur a newyddiadurwr o

Gymru, yn gwybod popeth am rym y gair

ysgrifenedig, ond ei araith ysbrydoledig am ei gariad

at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a aeth â

holl fryd y rhai a oedd yn bresennol yng

nghynhadledd flynyddol Llysgenhadon Parc Bannau

Brycheiniog a gynhaliwyd yn Buckland Hall yr

wythnos ddiwethaf.

Ag yntau’n siarad yng nghynhadledd flynyddol

Llysgenhadon Parc Bannau Brycheiniog, roedd

Horatio Clare, awdur llwyddiannus ‘Running for the

Hills’, ‘A Single Swallow’ a ‘The Princes’ Pen’ a gafodd

glod mawr, wedi llwyddo i hoelio sylw ei gynulleidfa

â’i gyflwyniad sionc yngl n â chlustfeinio mewn tai

tafarn lleol, synfyfyrion doeth beirdd a’i fodryb, ac yn

bwysicach na dim, mor ffodus ydym ni i gael galw

Bannau Brycheiniog yn gartref. Caeodd pen y

mwdwl drwy dalu teyrnged i waith ardderchog

Llysgenhadon y Parc “…i ddod ag unrhyw un yma, i

roi rheswm arall i unrhyw un ddod yn ôl, i wella profiad

unrhyw un mewn ffordd fawr neu fach …”

Ag arian gan brosiect Interreg IVB yr Undeb

Ewropeaidd fel rhan o Collabor8, cafodd

Llysgenhadon y Parc - sy’n cynrychioli mwy na 50 o

fusnesau twristiaeth amrywiol ar hyd a lled y Parc -

gyfle i rwydweithio a sicrhau’r cywair ar gyfer

digwyddiadau Llysgenhadon y Parc yn y dyfodol, a’r

cydweithio rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol

a’i fusnesau twristiaeth.

Ymgynghoriad Ardal Gadwraeth Aberhonddu – croesewir unrhyw sylwadauYmgynghoriad Ardal Gadwraeth Aberhonddu – croesewir unrhyw sylwadauYmgynghoriad Ardal Gadwraeth Aberhonddu – croesewir unrhyw sylwadauYmgynghoriad Ardal Gadwraeth Aberhonddu – croesewir unrhyw sylwadau

Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer Gwerthusiad Ardal Gadwraeth

Aberhonddu a’r Map Ffin yn cael ei gynnal rhwng 7 Chwefror a 27

Mawrth 2012. Gellir gweld y map a’r gwerthusiad drafft drwy’r ddolen

hon: http://goo.gl/cUNou

Page 3: Lle I Enaid Gael Llonydd: Gaeaf 2011/2012

3

Defnyddio technoleg newydd i leihau Defnyddio technoleg newydd i leihau Defnyddio technoleg newydd i leihau Defnyddio technoleg newydd i leihau

damweiniau ar Fynyddoedd Eryridamweiniau ar Fynyddoedd Eryridamweiniau ar Fynyddoedd Eryridamweiniau ar Fynyddoedd Eryri

Mae nifer y galwadau am gymorth i Dimau Achub

Mynydd yn Eryri wedi cynyddu’n sylweddol. Yn

ystod 2011, gwnaed 411 o alwadau am gymorth i

Dimau Achub Mynydd wrth i bobl fentro i Ogledd

Cymru i fwynhau prydferthwch a rhinweddau

arbennig yr ardal. Arweiniodd hyn at dimau

Achub Mynydd yn cael eu hanfon allan 291 o

weithiau.

Ond, dengys ymchwil diweddar fod nifer

sylweddol o alwadau diangen a wnaed, wedi eu

gwneud gan oedolion gwrywaidd ifanc nad

oedd wedi paratoi’n ddigonol neu nad oedd

ganddynt y sgiliau na’r offer angenrheidiol ar

gyfer eu gweithgareddau. Daeth yr arolwg

“Lleihau Damweiniau Mynydd yn Eryri” i’r casgliad

fod oedolion gwrywaidd ifanc o ardaloedd trefol

yn bennaf gyfrifol am y galwadau diangen hyn.

Lansiwyd y Prosiect Gwasanaeth Gwybodaeth

Mynydd yn ffurfiol gan Hywel Williams AS yng

Nghanolfan y Wardeiniaid ym Mhen y Pass, a’i

nod yw targedu’r gynulleidfa benodol hon drwy

ddefnyddio technoleg ffonau symudol fodern

ynghyd â menter i godi ymwybyddiaeth.

Yn ychwanegol at y gwaith o ddatblygu’r Ap

Gwybodaeth Mynydd newydd sydd ar gael o

iTunes (nododd dechreuwyr yn y cylchgrawn Trail

yn yr hydref 2011 mai dyma’r Ap gorau sydd ar

gael ar gyfer cynllunio diogelwch ar y mynydd),

mae tri adnodd ychwanegol wedi eu datblygu yn

sgil y prosiect Gwasanaethau Gwybodaeth

Mynydd, sy’n cynnwys:

Adroddiad dyddiol gan Wardeiniaid Parc

Cenedlaethol Eryri ar gyflwr o dan draed a

lefelau eira ar y mynyddoedd yn ystod

misoedd y gaeaf. Mae’r rhain yn darparu

gwybodaeth i dudalen rhagolygon ardal

Mynydd y Swyddfa Dywydd, ac ar Twitter trwy

ddilyn @safesnowdonia neu @eryridiogel.

Cyfres o bum clip fideo byr gyda sylwebaeth

gan Sian Lloyd, sy’n dangos y ffordd i baratoi

ar gyfer taith yn y mynyddoedd, gan gynnwys

osgoi perygl a beth i’w wneud mewn

argyfwng. Mae’r rhain ar gael ar wefan y

Swyddfa Dywydd a gwefan YouTube.

Ymgyrch gyhoeddusrwydd a marchnata i roi

cyhoeddusrwydd i’r prosiect, sy’n cynnwys

posteri, baneri, taflenni a chomisiynu erthyglau

mewn cylchgronau a chyfnodolion perthnasol.

Page 4: Lle I Enaid Gael Llonydd: Gaeaf 2011/2012

4

Y Parc Cenedlaethol yn dathlu cyllid ar Y Parc Cenedlaethol yn dathlu cyllid ar Y Parc Cenedlaethol yn dathlu cyllid ar Y Parc Cenedlaethol yn dathlu cyllid ar

gyfer cynhanes Sir Benfrogyfer cynhanes Sir Benfrogyfer cynhanes Sir Benfrogyfer cynhanes Sir Benfro

Mae prosiect i dywys ymwelwyr o amgylch y Sir

Benfro gynhanesyddol wedi cael ei

gymeradwyo diolch i £171,000 o hwb ariannol.

Bydd ‘Origins’ yn cael ei redeg gan Awdurdod

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a’i nod yw

gwella profiad yr ymwelydd sydd am

ddarganfod mwy am orffennol Sir Benfro.

Bydd y prosiect yn cynnwys creu llwybrau,

arweinlyfrau a rhaglenni (neu ‘apps’) ar gyfer

ffonau symudol a fydd yn galluogi ymwelwyr i

fwynhau diwylliant cynhanesyddol y Parc

Cenedlaethol. Bydd canolfan ddehongli hefyd

yn cael ei hadeiladu ym Mryngaer Oes yr Haearn

Castell Henllys, sy’n eiddo i Awdurdod y Parc

Cenedlaethol, ac sy’n cael ei rheoli ganddo.

Cyhoeddwyd y cyllid gan Huw Lewis, Gweinidog

Tai, Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru.

Mae ‘Origins’ yn un o naw prosiect ledled Cymru

sy’n elwa wrth gronfa £2.4 miliwn o Brosiect

Twristiaeth Treftadaeth £19 miliwn Cadw, sy’n

cael ei ategu gan £8.5m o Gronfa Datblygu

Rhanbarthol Ewrop.

Dywedodd Phil Bennett, Rheolwr Diwylliant a

Threftadaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Rydw i wrth fy modd. Rydyn ni’n edrych ymlaen

at y prosiect yn fawr ac at weithio mewn

partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth

Archeolegol Dyfed, PLANED a’r Ymddiriedolaeth

Genedlaethol i alluogi ymwelwyr i archwilio

treftadaeth gyfoethog Sir Benfro.”

Anrhegion i’r Anturus a’r llai Anturus!Anrhegion i’r Anturus a’r llai Anturus!Anrhegion i’r Anturus a’r llai Anturus!Anrhegion i’r Anturus a’r llai Anturus!

Roedd cynnyrch newydd sbon APCE ar gael o

Ganolfannau Croeso Parc Cenedlaethol Eryri

dros wyliau’r Nadolig. Mae’r DVD, Ehediad Dros Eryri, yn dilyn taith hebog tramor, Gwydion, dros

bentrefi, mynyddoedd a llynnoedd, a chewch

weld golygfeydd rhai o fannau anghysbell Eryri.

Paratowyd y DVD, sydd â sylwebaeth Gymraeg

a Saesneg, yn wreiddiol i’w ddangos yn Theatr

Canolfan Groeso’r Stablau ym Metws y Coed.

Ond cymaint fu’r galw am y DVD, bu’n rhaid

mynd ati i gynhyrchu mwy o gopïau.

Yn newydd hefyd ar gyfer y Nadolig oedd pecyn

o daflenni, “6 Llwybr yr Wyddfa – Y Casgliad

Cyfan”, ac mae’n cynnwys yr wybodaeth

ddiweddaraf am Lwybrau Rhyd Ddu, Cwellyn,

Llanberis, PYG, Mwynwyr a’r Watkin. Maent yn

cynnwys gwybodaeth fanwl ar fwynhau’r

mynyddoedd yn ddiogel, manylion am yr hyn a

fyddwch chi’n debygol o’i weld ar y llwybrau,

ynghyd â gweithgareddau i blant, posau a’r

Cod Cefn Gwlad. Mae’r taflenni hyn yn disodli’r

Page 5: Lle I Enaid Gael Llonydd: Gaeaf 2011/2012

5

hen daflenni ar lwybrau’r Wyddfa a

gyhoeddwyd ar ddiwedd y 1990au.

Pris y DVD yw £4.99 ac mae’r pecyn o daflenni

Llwybrau’r Wyddfa ar werth am £3.00 neu 75c yr

un. Mae’n bosibl eu prynu dros y ffôn gyda

cherdyn credyd trwy Ganolfan Groeso Betws y

Coed (01690 710426) wrth dalu £1 yn

ychwanegol tuag at gludiant trwy’r post.

Sain clychau eglwys yn ail-greu Sain clychau eglwys yn ail-greu Sain clychau eglwys yn ail-greu Sain clychau eglwys yn ail-greu

dathliadau dau gan mlwyddiant y dathliadau dau gan mlwyddiant y dathliadau dau gan mlwyddiant y dathliadau dau gan mlwyddiant y

Gamlas!Gamlas!Gamlas!Gamlas!

I ddathlu dau gan mlwyddiant Camlas Mynwy

ac Aberhonddu, roedd mwy na 30 o eglwysi ym

Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a De

Cymru wedi cymryd rhan mewn sesiwn ‘canu’r

clychau’ am hanner dydd, ddydd Gwener 10

Chwefror, i ail-greu seremoni agoriadol Camlas

Mynwy ac Aberhonddu a gynhaliwyd yn union

200 mlynedd yn ôl.

Mae clychau eglwys yn ffordd draddodiadol o

dynnu sylw pobl at ddigwyddiadau pwysig, a

pha ffordd well o dynnu sylw Parc Cenedlaethol

Bannau Brycheiniog a De Cymru na chynnig sain

clychau eglwys yr holl ffordd o Fasn Pontymoel i

Aberhonddu i Gasnewydd i’r Gelli!

Mae’r gamlas yn ymdroelli 35 milltir o dde

Aberhonddu i Gwmbrân, gan fynd trwy Barc

Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Safle

Treftadaeth y Byd sy’n cydnabod gorffennol

diwydiannol pwysig yr ardal. Mae’r gamlas yn

gamp beirianyddol 200 mlwydd oed, a

adeiladwyd fel coridor ar gyfer glo a haearn yn

wreiddiol; erbyn hyn, mae’n cynnal diwydiant

hamdden ffyniannus, ac mae’n lloches wrth

fodd calon pobl a byd natur.

Drwy gyfres o weithgareddau a digwyddiadau,

bydd sefydliadau, grwpiau lleol a chyrff

cenedlaethol yn dathlu hanes y gamlas, yn

mwynhau ei harddwch ac yn edrych ymlaen at

ei datblygu wedi 2012 fel ased annwyl i’r

cymunedau y mae’n mynd trwyddynt ac yn eu

cysylltu. Am fwy o wybodaeth, ewch i

www.canalrivertrust.org.uk/monandbrec200

Yr Amgylchedd Naturiol yw Prif Ased Twristiaeth Cymru – Ffaith!Yr Amgylchedd Naturiol yw Prif Ased Twristiaeth Cymru – Ffaith!Yr Amgylchedd Naturiol yw Prif Ased Twristiaeth Cymru – Ffaith!Yr Amgylchedd Naturiol yw Prif Ased Twristiaeth Cymru – Ffaith!

Yn ddiweddar, cadarnhaodd Arolwg o Fodlonrwydd Ymwelwyr 2011 ar gyfer Croeso Cymru

rywbeth a wyddai pob un ohonom, sef bod yr amgylchedd naturiol o safon yng Nghymru yn

atyniad pwysig i dwristiaid yn ei rinwedd ei hun. Yn yr arolwg cyntaf i fesur bodlonrwydd gydag

ansawdd yr amgylchedd naturiol, sicrhaodd y sgoriau uchaf mewn

dau o’r tri arolwg (cafodd ei raddio’n ail yn y trydydd arolwg). Mwy

yma:

http://goo.gl/Uxwui

Page 6: Lle I Enaid Gael Llonydd: Gaeaf 2011/2012

6

Y Parc Cenedlaethol yn derbyn gwobr Y Parc Cenedlaethol yn derbyn gwobr Y Parc Cenedlaethol yn derbyn gwobr Y Parc Cenedlaethol yn derbyn gwobr

mynediad marchogaethmynediad marchogaethmynediad marchogaethmynediad marchogaeth

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

wedi derbyn gwobr genedlaethol gan

Gymdeithas Ceffylau Prydain am ei waith yn agor

llwybrau marchogaeth. Bob blwyddyn, mae

Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cynnal seremoni

wobrwyo i gydnabod sefydliadau ac unigolion

sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i’r byd

marchogaeth. Derbyniodd yr Awdurdod y wobr

gan fod ‘Y Parc Cenedlaethol yn weithredol iawn

yn agor llwybrau marchogaeth’.

Yn gynharach eleni, roedd Awdurdod y Parc

Cenedlaethol wedi agor wyth milltir o lwybrau oddi

ar y ffordd gydag arwyddion ffordd arnynt ar gyfer

marchogwyr, cerddwyr a beicwyr yng Nghoedwig

Pantmaenog yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd

Awdurdod y Parc wedi adeiladu maes parcio

newydd ym mynedfa’r goedwig gyda llefydd ar

gyfer bocsys ceffylau, a bydd yn rheoli’r llwybrau

trwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd un o Gyfarwyddwyr yr Awdurdod,

Jane Gibson, wrth dderbyn y wobr: “Rydyn ni wrth

ein bodd i dderbyn y wobr hon a mawr yw ein

dyled i’n tirfeddianwyr - Mr a Mrs Holding a’r

Weinyddiaeth Amddiffyn – a alluogodd ni i agor y

llwybrau hyn yn y Parc Cenedlaethol.”

“Wrth agor y llwybrau hyn rydyn ni’n gwireddu

potensial y Parc ar gyfer marchogwyr – ynghyd â

cherddwyr a beicwyr – fel eu bod yn gallu

mwynhau rhannau o’r Parc Cenedlaethol lle’r

oedd mynediad prin at lwybrau marchogaeth

ynghynt.” 

Ariannwyd prosiect Pantmaenog yn rhannol gyda

grant gan Lywodraeth Cymru o dan raglen gyllidol

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, ac agorwyd y

llwybrau o ganlyniad i gytundeb gyda’r

tirfeddianwyr, Mr a Mrs Holding

Trydar DiogelwchTrydar DiogelwchTrydar DiogelwchTrydar Diogelwch

Yn ogystal â chynllunio eich taith yn ofalus o

flaen llaw, cofio defnyddio cyfarpar addas

megis bwyell rew a chramponau, gwisgo

esgidiau cryfion a dillad cynnes i’ch cadw’n

sych, mae’n bwysig gwybod beth yw

rhagolygon y tywydd. Eleni, am y tro cyntaf, mae

gwasanaeth dwyieithog newydd ar gael i

gerddwyr fydd yn darparu’r wybodaeth

ddiweddaraf am gyflwr yr amodau dan draed ar

fynyddoedd Eryri.

Mae’r Warden, Gruff Owen, a’i gydweithwyr

eisoes yn darparu gwybodaeth i wefan y

Swyddfa Dywydd,

www.metoffice.gov.uk/loutdoor/mountainsafet

y/snowdonia/snowdonia_latest_pressure. Gruff

sydd hefyd yn gyfrifol am y gwasanaeth newydd

dwyieithog o drydar, sef @eryridiogel yn

Gymraeg a @safesnowdonia yn Saesneg. Pan

Page 7: Lle I Enaid Gael Llonydd: Gaeaf 2011/2012

7

fydd amodau dan draed ar y mynyddoedd yn

newid yn sgil y tywydd, bydd @eryridiogel a

@safesnowdonia yn trydar hynny. Ond yn

ogystal â thrydar am y tywydd, bydd hefyd yn

trydar cyngor cyffredinol ar fynydda ac yn tynnu

sylw at arferion da o fynydda.

Bydd trydariadau Cymraeg @eryridiogel yn cael

eu hail-drydar gan @croesoeryri, sef cyfrif trydar

Cymraeg Parc Cenedlaethol Eryri, ynghyd ag

ymddangos ar dudalen Facebook y Parc. Bydd

trydariadau Saesneg @safesnowdonia yn cael

eu hail-drydar gan @visitsnowdonia, cyfrif trydar

Saesneg y Parc Cenedlaethol, a thudalen

Facebook y Parc, Snowdonia National Park-Parc

Cenedlaethol Eryri.

Chwarter miliwn i helpu pobl i fwynhau’r Chwarter miliwn i helpu pobl i fwynhau’r Chwarter miliwn i helpu pobl i fwynhau’r Chwarter miliwn i helpu pobl i fwynhau’r

Parc CenedlaetholParc CenedlaetholParc CenedlaetholParc Cenedlaethol

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir

Penfro yn dathlu ar ôl derbyn chwarter miliwn o

bunnoedd gan Gronfa’r Loteri Fawr. Bydd

prosiect yr Awdurdod, ‘Your Park, Your Future’,

yn derbyn £249,864 yn rownd ddiweddaraf

rhaglen Pawb a’i Le Cronfa’r Loteri FawrPawb a’i Le Cronfa’r Loteri FawrPawb a’i Le Cronfa’r Loteri FawrPawb a’i Le Cronfa’r Loteri Fawr.

Dros dair blynedd, bydd y prosiect yn sefydlu

rhaglen o weithgareddau i hyrwyddo’r defnydd

o’r Parc Cenedlaethol, yn enwedig pobl sy’n ei

chael yn anodd cael mynediad i’r amgylchedd

naturiol. Mae Phil Roach, Pennaeth Darganfod

Awdurdod y Parc Cenedlaethol, wrth ei fodd

gyda’r newyddion. Dywedodd:

“Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol bob am-

ser wedi rhedeg rhaglen estyn allan er mwyn

annog pobl i fanteisio ar ein maes chwarae a’n

dosbarth naturiol gwych, sef y Parc Cenedlae-

thol.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi

ymestyn y rhaglen er mwyn galluogi pobl sydd yn

ôl traddodiad heb gael mynediad hawdd i’r

amgylchedd naturiol i fwynhau’r cyfleoedd o’r

radd flaenaf sydd ar gael yma. Mae rhwystrau

megis anabledd, iechyd gwael, caledi ariannol

neu hyd yn oed eich bod yn ifanc yn gallu arbed

pobl rhag cyrraedd y Parc, ac rydyn ni wedi

gweithio gydag ystod eang o sefydliadau sy’n

cefnogi pobl leol er mwyn gwella eu bywydau.

“Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi ni i deilwra ein

gwaith ymhellach er mwyn sicrhau bod pobl o

bob oed a chefndir ar draws Sir Benfro yn gallu

cael mynediad i nodweddion arbennig y Parc

Cenedlaethol ac yn elwa wrthynt.”