8
Maniffesto CEFNOGI TRYDYDD SECTOR CAERDYDD Hydref/Gaeaf 2015 Rhifyn 10 YN CYNNWYS ADOLYGIAD BLYNYDDOL Yn y rhifyn hwn: • Cefnogi trefn lywodraethu dda • Helpu Cymdeithas Gelfyddydau Adamsdown i sicrhau cyllid • Sut mae Cymdeithas Dai YMCA Caerdydd yn buddsoddi yn ei staff • ... a mwy

Maniffesto' - Cylchlythyr C3SC, Hydref/Gaeaf 2015 - Cymraeg

  • Upload
    c3sc

  • View
    224

  • Download
    3

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Yn y rhifyn hwn - Adolygiad Blynyddol 2014/15 ... Cefnogi trefn lywodraethu dda ... Helpu Cymdeithas Gelfyddydau Adamsdown i sicrhau cyllid ... Sut mae Cymdeithas Dai YMCA Caerdydd yn buddsoddi yn ei staff ... a mwy.

Citation preview

ManiffestoCEFNOGI TRYDYDD SECTOR CAERDYDD

Hydref/Gaeaf 2015 Rhifyn 10

YN CYNNWYS ADOLYGIAD BLYNYDDOL

Yn y rhifyn hwn:• Cefnogi trefn lywodraethu dda

• Helpu Cymdeithas GelfyddydauAdamsdown i sicrhau cyllid

• Sut mae Cymdeithas Dai YMCA Caerdydd yn buddsoddi yn ei staff

• ... a mwy

Adolygiad Blynyddol: Ebrill 2014 – Mawrth 2015

2

Dilynwch ni ar TwitterCadwch mewn cyswllt gydag @C3SC – a darganfod bethsy'n digwydd yn y trydydd sector yng Nghaerdydd. Manylionam newyddion, hyfforddiant a digwyddiadau C3SC hefyd.

Dilynwch ni @C3SC

C3SC ar LinkedInMae C3SC ar LinkedIn. Dilynwch ni i gael ynewyddion diweddaraf a manylion am eingwasanaethau.

Ewch i www.linkedin.com/company/cardiff-third-sector-council

“Croeso iManiffesto”Croeso i’r rhifyn hwn o Maniffesto, sy’ncynnwys adolygiad blynyddol CyngorTrydydd Sector Caerdydd (C3SC) argyfer 2014/15.

Mae’n bleser gennym ni rannu rhai ogyflawniadau C3SC dros y flwyddyn ddiwethaf –ac, wrth gwrs, rydym mor awyddus ag erioed iglywed eich barn ar ein gwaith.

Yn y rhifyn hwn mae mwy o wybodaeth hefyd am:

• sut rydym ni’n cryfhau cysylltiadau gyda’npartneriaid

• sut mae pobl yn cael budd o brosiectau C3SC

• ein gwaith yn hyrwyddo cydweithrediad a gweithiomewn partneriaeth

Rydym yn croesawu adborth gan ein haelodau arsut y gallwn eich cefnogi chi i gydweithio, iddatblygu mewn modd cynaliadwy, iddylanwadu ac i gyflawni canlyniadaucadarnhaol i bobl Caerdydd.

Cofion cynnes

Richard EdwardsCadeirydd, Cyngor Trydydd Sector Caerdydd

O.N. Cewch fanylion am gyrsiau hyfforddi syddar y gweill – y rhan fwyaf ohonynt yn rhad acam ddim i’n haelodau – ar dudalen 8.

Cefnogi Trydydd Sector CaerdyddMae C3SC wedi cael blwyddyn arall gadarnhaol iawn yn helpu, cynrychiolia chefnogi ein haelodau.

YmdrinioddC3SC â thros

2,800 ogeisiadau amgyngor a

gwybodaeth.

O'r 429 ogynrychiolwyr a

fynychodd ein cyrsiauhyfforddi, roedd dros99% ohonynt yn

gweld pob agwedd yn ‘dda’ neu’n‘ardderchog’.

Cefnogodd C3SC amryw o

rwydweithiau polisi-penodol, a hwyluso mwyna 160 o gysylltiadau

gyda grwpiau cynllunio strategol agrwpiau gwaith i'n

haelodau.

Mae C3SC wedi helpu einhaelodau iddatblygu

gwasanaethaunewydd ar draws

Caerdydd.

Cefnogodd Swyddogion Trydydd

Sector C3SC sefydliadaulleol i’w helpu i gael

cyllid o dros £900,000, adosbarthwyd dros£376,000 drwy eincynlluniau grant

a reolir.

Derbyniwyd ac ymatebwyd i 490 o ymholiadau’n

gysylltiedig â chyllid ganSwyddogion y TrydyddSector, a chymerodd227 o bobl ran yn ein digwyddiadau

cyllido.

Ymdriniwyd â thros 500 o

ymholiadau ar drefnlywodraethu’r trydydd

sector, a chymerodd 190o gynrychiolwyr ran ynein digwyddiadau ihyrwyddo a chefnogitrefn lywodraethu

dda.

Ymwelwyd â'n gwefan dros 80,000 oweithiau, ac mae dros

1,300 o bobl yn derbyn ein e-gyhoeddiadau'n rheolaiddgyda manylion am gyfleoedda gwybodaeth sy'n berthnasoli bobl, grwpiau a sefydliadau

yng Nghaerdydd a'r sector elusennol

ehangach.

Ein gweledigaeth ywtrydydd sector cryf,amrywiol ac egnïolyng Nghaerdydd.

Cyngor Trydydd SectorCaerdyddLlawr DaearTy^ Brunel, 2 Heol Fitzalan,Caerdydd CF24 0EB

Rhif ffôn: (029) 2048 5722E-bost: [email protected]: www.c3sc.org.ukTwitter: @C3SCLinkedIn: www.linkedin.com/company/cardiff-third-sector-council

Elusen Gofrestredig 1068623.Cwmni Cyfyngedig drwyWarant yng Nghymru 3336421.Argraffwyd y cyhoeddiadhwn ar bapur cynaliadwy.

Ymweliad gan y GweinidogEleni, cawsom y pleser o groesawu ymweliad gan LesleyGriffiths AS, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi,a chawsom gyfle i ‘arddangos’ ein gwasanaethau. Ym misAwst, ymwelodd y Gweinidog ag Ysgol Uwchradd yDwyrain i lansio gweithgareddau Wythnos Pontio argyfer disgyblion newydd a disgyblion presennol a’uteuluoedd. Cafodd gyfle i gwrdd â rhai o'n partneriaid,gan gynnwys y Gwasanaeth Ieuenctid, FforwmTredelerch, Chwaraeon Caerdydd, Theatr Sherman,Cymdeithas Cartrefi Cymunedol Caerdydd, ymysg eraill,a gweld ein gweithgareddau - gan gynnwys cwrs undyddar Gymorth Cyntaf, lle daeth saith o bobl ynGymorthyddion Cyntaf cymwysedig - gwersihunanamddiffyn, dosbarthiadau addurno teisenni,gweithdai celf a chrefft, a recriwtio ar gyfer sioe ffasiynau.

Ar ôl mwynhau gêm o badminton gyda rhai o aelodau’rgymuned, ymunodd y Gweinidog â ni yng Nghanolfan

Bartneriaeth Tredelerch i gwrdd ag unigolion o grwpiaucymunedol lleol, Cymunedau'n Gyntaf DwyrainCaerdydd, Llanedeyrn a Phentwyn, a gwirfoddolwyreraill yn y gymuned, lle cafodd glywed am y gwaith awneir i wella ein cymunedau lleol.

Meddai’r Gweinidog: “Roedd yr ymweliad yn un hynodo werthfawr er mwyn i mi weld drosof fy hun ycanlyniadau cadarnhaol sy’n cael eu cyflawni. Gwnaeth ygwaith partneriaeth a’r brwdfrydedd argraff arbennigarnaf.”

Gweithio mewnPartneriaethRoedd ymweliad y Gweinidog yn ddechrau da i wythnoso weithgareddau yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain;canolbwyntiwyd ar gefnogi disgyblion newydd, a chynnigcyfarwyddyd i’r disgyblion oedd yn gadael yr ysgol arddiwrnod canlyniadau TGAU er mwyn sicrhau eu bod

yn ymwybodol o'u hopsiynau ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod yr wythnos lawn o weithgaredd, cawsom gyfle igynnal diwrnod o hwyl i’r gymuned ar y thema ‘O Dan yDon’ ar y cyd â Chymdeithas Trigolion Roundwood yn yPowerhouse. Cododd yr RNLI ymwybyddiaeth oganlyniadau mentro i ddyfroedd peryglus . . . TanioddGwyddonydd Cymunedol Amgueddfa Caerdyddddiddordeb mewn gwyddoniaeth naturiol gydagamrywiaeth o bryfetach cyffredin . . . Cynhalioddgwirfoddolwyr Cymunedau’n Gyntaf DwyrainCaerdydd, Llanedeyrn a Phentwyn gystadleuaethadeiladu cychod . . . Trefnodd gwirfoddolwyr lleolstondinau crefft gan helpuplant i wneud amrywiaeth oeitemau, o emwaith iberisgopau cardbord . . . amynychodd plant hŷnweithdai drymio a dysgu sut ichwarae drymiau bongo.Roedd y diwrnod ynllwyddiant ysgubol, gydathros 150 o bobl ynmynychu.

Rhoddodd yr wythnos o ddigwyddiadau gyfle inni godiymwybyddiaeth o bwy ydym ni a’r hyn rydym ni'n eiwneud, a pharhau i gryfhau ein perthynas â phartneriaidlleol, gan roi cefnogaeth iddynt yn ogystal ag adnoddauychwanegol.

Am fwy o wybodaeth am waith Cymunedau'nGyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedeyrn aPhentwyn, ewch i www.eclp.org.uk

Cydweithio a phartneriaeth yn y sector

3

Wythnos ym mywyd Cymunedau'n GyntafDwyrain Caerdydd, Llanedeyrn a PhentwynDrwy gydol 2014/15, parhaodd Cymunedau’n Gyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedeyrn a Phentwyn â’i waith mewnpartneriaeth â rhanddeiliaid, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr er mwyn cyflwyno gwasanaethau agweithgareddau ystyrlon o ansawdd uchel. Mae’r rhain yn amrywio o ddigwyddiadau unigryw – megis dyddiaucymunedol llawn difyrrwch – i weithgareddau i gefnogi unigolion drwy gyfnod pontio, e.e. symud o’r YsgolGynradd i’r Ysgol Uwchradd, neu i gyflogaeth, Addysg Uwch neu hyfforddiant.

Mae Dr Ellie Byrne, Cyd-gadeiryddCymdeithas Gelfyddydau Adamsdown (A3),yn adrodd sut yr aethant ati i ennill cyllidgan Gronfa Partneriaeth GymdogaethCyngor Caerdydd. Grŵp celfyddydaugwirfoddol bychan yw A3 yn ardal y Sblot,Tremorfa, Adamsdown a’r Rhath, Caerdydd.

“Ein nod yw sicrhau gwell mynediad i bobl yr ardal atbrofiadau celfyddydol o ansawdd uchel. Credwn yngryf y gall y celfyddydau effeithio’n gadarnhaol argynhwysiad cymdeithasol, balchder dinesig, iechyd alles.

“Y llynedd, roeddem yn awyddus i gyflwyno cais igynllun grantiau’r Bartneriaeth Gymdogaeth am

brosiect adrodd straeon gyda dwy ysgol gynradd leol.Cawsom lawer o help gan Thoria yn Swyddfa C3SC, afu’n edrych dros ein ffurflen gais. Gwnaeth ambellawgrym ynglŷn â sut i wella’r cais, gan ei gysylltu’n fwycryno â blaenoriaethau’r Cynllun Cymdogaeth a’nhannog i nodi ein bwriad yn fwy eglur.”

Llwyddiant“Buom yn gweithio gyda Michael Harvey, y storïwr a’rperfformiwr rhyngwladol, a fu’n helpu’r disgyblion iddyfeisio, ysgrifennu a golygu eu stori eu hunain feldosbarth. Yna daethom â’r cwmni animeiddio TurnipStarfish i weithio gyda’r disgyblion er mwyn dod â’rstraeon yn fyw ac animeiddio eu ffilm eu hunain o bobstori. Casglwyd y stori a’r darluniau at ei gilydd i greu

e-lyfr, a chyflwynwyd y ffilmiauyn seremoni wobrwyo’r ArwyrLleol yn Adamsdown ym misRhagfyr 2014.

“Roedd y prosiect ynllwyddiannus dros ben; roeddymateb yr athrawon yn ardderchog,a chafodd y disgyblion gyfle i weithio gydag artistiaidproffesiynol i greu rhywbeth i’w gadw am byth.Cyrhaeddodd un o’r animeiddiadau y rhestr fer ar gyferGwobrau Ffilm Zoom Cymru 2014, hyd yn oed.

Mae’r ddau animeiddiad byr a mwy owybodaeth am A3 ar gael ynwww.a3arts.co.uk/star-stories.html

Llwyddiant Cymdeithas Gelfyddydau Adamsdown

Adolygiad Blynyddol: Ebrill 2014 – Mawrth 2015

4

Adolygiad Ariannol: Ebrill 2014 – Mawrth 2015

“Diolch”Diolch o galon i'n holl gyllidwyr.Ni fyddai ein gwaith yn bosiblheb eich cefnogaeth.

GwerthfawrogiadDiolch i bob un o’nhymddiriedolwyr a fu’n eingwasanaethu mor ffyddlonyn 2014/15…Roger Bone, Althea Collymore,Richard Edwards, Michael Flynn,Judith John, Terry Price, GeraldPuttock, Reynette Roberts aSujatha Thaladi

…ac iRebecca Ball, Nick Corrigan a KarenJones sydd bellach wedi ein gadael.

Diolch hefyd i bob aelod o'nstaff a’n gwirfoddolwyr, gangynnwys y rhai sydd wediein gadael yn ystod yflwyddyn ddiwethaf.

Daw’r ffigurau isod o ddatganiadau gweithredol drafft heb eu harchwilio Gweithgaredd Ariannol CyngorTrydydd Sector Caerdydd (Cyfyngedig drwy Warant) ar gyfer y Flwyddyn sy’n Diweddu 31 Mawrth 2015.

Bydd y cyfrifon llawn, adroddiad yr archwilwyr ar y cyfrifon hyn, ac adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr, argael cyn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Rhagfyr 2015. Bydd copïau ar gael gan Gyngor Trydydd SectorCaerdydd, y Llawr Isaf, Tŷ Brunel, 2 Heol Fitzalan, Caerdydd CF24 0EB.

2015 2014 2013

CYFANSWM YR ADNODDAU ADDERBYNIWYD

1,441,303 1,483,047 822,926

CYFANSWM YR ADNODDAU A WARIWYD 1,361,737 1,474,140 746,278

ADNODDAU NET A DDERBYNIWYD 79,566 8,907 76,648

Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (Cyfyngedig drwy Warant)Mantolen 31 Mawrth 2015 – Rhif Elusen: 1068623 Rhif Cwmni: 3336421

2015 2014 2013

ASEDAU SEFYDLOG:

Asedau diriaethol 25,199 6,165 8,784

ASEDAU PRESENNOL:

Dyledwyr 223,468 105,334 39,551

Arian parod yn y banc 240,680 296,247 549,154

464,148 401,581 588,705

CREDYDWYR:

Symiau sy'n daladwy o fewn un flwyddyn 107,234 105,199 303,849

CYFANSWM ASEDAU AR ÔL TYNNU'RRHWYMEDIGAETHAU PRESENNOL

382,113 302,547 293,639

CYLLID 382,113 302,547 293,639

ASEDAU NET 382,113 302,547 293,639

Cefnogaeth, dylanwad a chynrychiolaeth sector

5

Digwyddiad rhwydweithio ac ymgynghori cymunedol ‘New Year, New You – Healthy Change’

Hwb i’rGynghrairMae Cynghrair Cyflyrau Tymor HirCaerdydd a’r Fro wedi prysuro’n sylweddolyn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Nod y gynghrair yw rhoi un llais i bobl sy’n bywgyda chyflwr cronig yng Nghaerdydd a’r Fro, a bodyn bwynt ymgysylltu lle gall sefydliadau aphartneriaid ddod at ei gilydd a rhannu syniadau ermwyn gwella gwasanaethau sy’n effeithio’nuniongyrchol ar ddefnyddwyr eu gwasanaeth.

Mae aelodau’r gynghrair wedi gweithio gyda ThîmIechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro er mwyncynyddu nifer y bobl a chanddynt gyflwr iechydtymor hir, a’u gofalwyr, sy’n dewis cael brechiad rhagy ffliw. Maent wedi gweithio gyda Bwrdd IechydPrifysgol Caerdydd a’r Fro ar strategaethau megis yCynllun Cyflwyno Niwrolegol, Siapio ein Lles yn yDyfodol, a Fframwaith Strategol Gweithio gyda’rTrydydd Sector. Mae aelodau hefyd wedi ymateb i’rymgynghoriad ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) acmaent yn rhan o Bartneriaeth CymdogaethCaerdydd. Mae yna gyffro gwirioneddol ynghylch yrhyn sy’n cael ei gyflawni.

Bydd y Gynghrair Cyflyrau Tymor Hir yn parhau iweithio gyda phartneriaid prosiect, sefydliadau agrwpiau cefnogi fel rhan o fenter Cyd-greu NewidIach y Loteri Fawr er mwyn sicrhau bod gan bobl laisar faterion iechyd a lles.

Os yw eich sefydliad neu eich grŵpcefnogi’n gweithio gyda phobl mwy anoddeu cyrraedd, a chanddynt gyflyrau tymorhir, ffoniwch Jacqueline Jones ar (029) 20485722 neu e-bostio [email protected] ddod yn rhan o Gynghrair Cyflyrau TymorHir Caerdydd a’r Fro.

Mae’r Gynghrair Cyflyrau Tymor Hir yncyfarfod bedair gwaith y flwyddyn

Ariennir Friendly AdvantAGE gan Gronfa’rLoteri Fawr, a bu’r prosiect yn cyflwynoamrywiaeth o weithgareddau cyfeillio er 2011.Nod pob prosiect yw lleihau unigrwydd achynyddu hyder mewn pobl 50+ oed sy'n bywyng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Yn ystod oes y prosiect, nod Friendly AdvantAGEoedd cyrraedd at 815 o fuddiolwyr. Mewn ychydig

dros 3 blynedd, mae wedi derbyn dros 1,200 oatgyfeiriadau, a chynnal gweithgareddau cyfeillio un-i-un a gweithgareddau grŵp ar gyfer dros 800 ofuddiolwyr.

Dywedodd 50% o’r buddiolwyr eu bod yn llai unig erscymryd rhan yn y prosiect, a dywedodd 64% eu bodyn fwy hyderus. Ni fyddai’r un o’r canlyniadau hynwedi eu cyflawni heb dîm o wirfoddolwyr ymroddedig.

Cyfrannwyd 11,000 awr o amser gwirfoddolwyr, sy’ngyfystyr â thros £120,000 mewn cyfraniadau ariannol.

I gael mwy o wybodaeth am FriendlyAdvantAGE, anfonwch e-bost at SandraRoberts ar [email protected] neu ei ffonioar (01446) 741706.

Lleihau unigrwydd

Cyd-greu Newid Iach – helpupobl i ddweud eu dweud

Nod portffolio prosiectau Cyd-greu Newid Iachyw cefnogi pobl yng Nghaerdydd a BroMorgannwg i ddylanwadu ar benderfyniadauynglŷn â gwasanaethau iechyd a lles, a chyd-greu newid yn y modd y cyflwynir iechyd a gofalcymdeithasol i’r cyhoedd. Mae’r portffolio’ncysylltu cymunedau mwy anodd eu cyrraedd –nad yw eu llais bob amser yn cael ei glywed –â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Mae portffolio Cyd-greu Newid Iach wedi gwneudcynnydd sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, ganadeiladu ar ei nod o ddod yn fecanwaith hanfodol oymgysylltu â’r gymdeithas i ddarparwyr gwasanaeth achyrff statudol.

Mae effaith cynnydd y prosiect i’w gweld ar ystod eang ofuddiolwyr a rhanddeiliaid, gan gynnwys rhieni sengl agefnogwyd gan Gingerbread i ddilyn hyfforddiant ffurfiolmegis ‘Hyfforddi'r Hyfforddwr’, ac sydd bellach mewnsefyllfa i gyflwyno cyrsiau i rieni eraill drwy fentoracyfoedion . . . Ffoaduriaid a cheiswyr lloches a fu’n rhan oddatblygu Fframwaith yn erbyn Troseddau Casineb, acsydd wedi cynhyrchu ffilm ar y cyd â Chyngor FfoaduriaidCymru er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o’u problemaua’u profiadau . . . Roedd modd i ddefnyddwyrgwasanaethau sy’n gofalu am bobl sydd ag afiechydmeddwl gael llawlyfr a gynlluniwyd gan Hafal mewnpartneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Ymateb cadarnhaolDigwyddiad allweddol a llwyddiannus arall oedd ‘NewYear, New You – Healthy Change’, a gynhaliwyd ym mis

Ionawr 2015. Gweithiodd pob un o’r 10 prosiect portffoliomewn partneriaeth er mwyn codi gwell ymwybyddiaeth oymgyrch Cyd-greu Newid Iach yn y gymuned, a dathluein llwyddiant gyda’r diwrnod difyr hwn. Roedd ynachlysur ardderchog i’r teulu cyfan, gyda’r plant ynmwynhau gweithgareddau bwyta’n iach a pheintiowynebau.

Cafwyd ymateb gwych i’r diwrnod, gan gynnwys y negesganlynol: “. . . Rwy’n gofalu am fy ngŵr sydd â Dementia,ac roedd y stondin clefyd Alzheimer’s a’r stondin i Ofalwyryn hynod ddefnyddiol. Roedd pawb yn groesawgar ac ynbarod i helpu. Roedd y sesiynau tylino’r corff yn hyfryd –roedd fy ngŵr yn teimlo fel dyn newydd. Diolch i bawboedd yn rhan o'r digwyddiad.”

Mewn gwerthusiad allanol o’n prosiect gan Brifysgol yDrindod Dewi Sant, daethpwyd i’r casgliad fod rhwng50% a 100% o ganlyniadau cyffredinol y portffolio wedieu cyflawni erbyn diwedd yr ail flwyddyn. Bydd yportffolio’n edrych ar sut i adeiladu ar y llwyddiant hwn asicrhau cyllid fel bod modd i bobl a chymunedau barhau ielwa o’r gwaith.

Ewch i flog Cyd-greu Newid Iach ynco-creatinghealthychange.tumblr.com/ acmae’r rhestr lawn o brosiectau ar gael ynhttp://goo.gl/OCw3m9

Nod Cyd-greu Newid Iach oedd ymgysylltu â735 aelod o’r gymuned erbyn 2016/17. Maedros 700 o bobl (96%) eisoes wedi bod ynrhan o’r prosiect ac wedi cynyddu eu sgiliau.

Fel ymddiriedolwr, gallwch osod rhai rheolau syml er mwynsicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar reoli elusen, gangefnogi eich sefydliad i fod yn iach ac yn addas i’w ddiben:

Bod yn gyfrifol am weinyddueich sefydliad mewn moddpriodolMae hyn yn golygu sicrhau bod asedau ac adnoddau’relusen yn cael eu defnyddio i ddiben yr elusen yn unig; abod y sefydliad yn cael ei redeg yn unol â’i ddogfenlywodraethu, cyfraith elusennau, a rheoliadau eraill sy’neffeithio ar ei weithgareddau.

Ysgwyddo cyfrifoldeb sylfaenolMae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am weledigaeth,cenhadaeth a rheolaeth strategol yr elusen. Er y bydd rhaitasgau’n cael eu dirprwyo fel y caniateir yn y ddogfenlywodraethu, yr ymddiriedolwyr sydd â’r cyfrifoldebsylfaenol dros yr elusen.

Gweithredu'n rhesymol ac ynddoeth ym mhopethFel ymddiriedolwr elusen, bydd yn ddyletswydd gyfreithiolarnoch “i arfer y fath ofal a sgìl ag sy’n rhesymol yn yramgylchiadau” (y Comisiwn Elusennau). Cyn belled â bodymddiriedolwyr yn gallu dangos eu bod yn gweithredu'nrhesymol, ac mewn ffordd sy’n hyrwyddo amcanioncyfreithiol yr elusen, mae’n annhebygol y cânt eu beirniadudan gyfraith elusennau. Disgwylir i chi dderbyn cyngorpriodol os bydd ar y Bwrdd angen dealltwriaeth neu brofiadarbennig o faterion penodol na ellir ymdrin â hwy o fewnsgiliau aelodau’r Bwrdd.

Diogelu ac amddiffyn asedaueich elusenMae asedau elusen yn cynnwys ei fuddsoddiadau, arianparod, tir, eiddo deallusol, staff ac enw da. Argymhellir yn

gryf eich bod yn gofyn cyngor arbenigol yn hyn o beth, osnad yw ar gael o fewn yr elusen.

Sylweddoli bod ganymddiriedolwyr ddyletswydd iweithredu ar y cydCaiff penderfyniadau a chyfrifoldebau eu rhannu, felly dylaipob ymddiriedolwr gymryd rhan weithredol. Felymddiriedolwr, byddwch yn rhannu cyfrifoldeb cyfunoldros benderfyniadau gyda’ch cyd-ymddiriedolwyr. Ar ôlgwneud penderfyniad, rhaid i bob ymddiriedolwr eigefnogi. Bydd gan rai ymddiriedolwyr swyddogaethbenodol. Er enghraifft, bydd y trysorydd yn gyfrifol amegluro’r sefyllfa ariannol i’r ymddiriedolwyr eraill. Foddbynnag, y Bwrdd cyfan sy’n parhau i fod â chyfrifoldeb droswneud penderfyniadau.

Gweithio er lles yr elusenMae lles yr elusen yn hollbwysig. Fel ymddiriedolwr, byddangen i chi arfer barn annibynnol, ac ni ddylech ganiatáu ifuddiannau na safbwyntiau personol gael blaenoriaeth droshyn.

Osgoi unrhyw wrthdaro rhwngbuddiannau personol abuddiannau'r elusenDisgwylir i ymddiriedolwyr ymdrin yn briodol ag unrhywwrthdaro sy’n codi rhwng buddiannau personol abuddiannau’r elusen, a dylid rhoi gwybod i’r Prif Swyddogos cyfyd posibilrwydd o wrthdaro.

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol yngysylltiedig â threfn lywodraethu, a bod ynymddiriedolwr, i’w chael ar wefan yComisiwn Elusennau:www.gov.uk/government/organisations/charity-commission

Gall bod yn ymddiriedolwr roi boddhad mawr. Fodd bynnag, mae straeon diweddar yn y cyfryngau wedi ein hatgoffa’n amserol o bwysigrwydd trefnlywodraethu dda, a pha mor anhepgor yw trefn o’r fath yn y gwaith o redeg sefydliad y trydydd sector yn llwyddiannus.

www.c3sc.org.uk

6

Cefnogi trefn lywodraethu dda

Sganiwch y cod hwn gydadarllenydd QR eich ffôn er mwyn

mynd yn syth i'n gwefan.

Ein gweledigaeth ywcael trydydd sector

cryf, amrywiol apherthnasol yng

Nghaerdydd

Dan arolwgMae Fframwaith Strategol Bwrdd IechydPrifysgol Caerdydd a’r Fro ar gyfer Gweithiogyda'r Trydydd Sector yn hyrwyddogweithgareddau partneriaeth sy’n rhoi pwyslaisar bedair thema: hyrwyddo a gwella iechyd alles, ymgysylltiad gyda’r trydydd sector, cyflenwiac ailgynllunio gwasanaethau, a gwirfoddoli.Ers dechrau’r Fframwaith yn 2013, gwelwyd cynnydd ymmhob un o’r themâu, ond rydym yn sylweddoli bodmwy eto o waith i’w wneud.

Mae’r fframwaith strategol yn cael ei harolygu ar hyn obryd, gyda bwriad i’w hadnewyddu erbyn mis Ebrill2016. Ym mis Hydref cynhaliwyd arolwg a nifer ogyfweliadau unigol, ac mae digwyddiad i randdeiliaid ar ygweill. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw’r themâu’n dalyn berthnasol ai peidio.

Er mwyn cymryd rhan, anfonwch e-bost [email protected] ffonio (029) 2048 5722.

Cwrdd â Sarah CapstickYmunodd Sarah Capstick– Hwylusydd Iechyd aGofal Cymdeithasol C3SC– â’r sefydliad ar ddechraumis Gorffennaf.

Bu Sarah yn gweithio yn ytrydydd sector am 10mlynedd cyn treulio cyfnodbyr yn Ysgol FusnesCaerdydd. Wedi hynnygweithiodd gyda sefydliadau partner ar draws Caerdydd aBro Morgannwg ar y Rhaglen Cefnogi Pobl.

Meddai Sarah: “Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio fymhrofiad a gwneud defnydd da ohono i gefnogi eingrwpiau a’n cymdeithasau iechyd a gofal cymdeithasolhanfodol.”

Am restr lawn o staff C3SC, ewch iwww.c3sc.org.uk/about/c3sc-staff

Sarah Capstick

Cefnogaeth C3SCMae C3SC yma i roi cefnogaeth a chyfarwyddyd ardrefn lywodraethu eich sefydliad.

• Gellir lawrlwytho taflenni gwybodaeth yn rhad acam ddim: ‘Cychwyn Arni’, ‘Rhedeg EichSefydliad’ ac ‘Ymddiriedolwyr a Llywodraethu’ ynwww.c3sc.org.uk/group-support-info-sheets

• Rydym ni’n cynnal cyrsiau hyfforddi rheolaidd,perthnasol ar gyfer ymddiriedolwyr. Cadwchlygad ar dudalen hyfforddiant C3SC arwww.c3sc.org.uk/training-events/c3sc-trainingneu ffoniwch ni i ofyn am daflen hyfforddiant.

• Siaradwch ag un o’n swyddogion trydydd sector igael cyfarwyddyd a chyngor ar lywodraethu.

• Ymunwch â Rhwydwaith Ymddiriedolwyrnewydd Caerdydd a’r Fro.

RhwydwaithYmddiriedolwyrCaerdydd a’r FroMae C3SC a GVS yn ffurfio rhwydwaith penodol ermwyn dod ag ymddiriedolwyr ynghyd i drafodmaterion cyfredol a rhannu arferion da. Cadwch lygadar ein gwefan yn www.c3sc.org.uk i gael dyddiadau amanylion am ddigwyddiadau’r rhwydwaith.

Diddordeb mewn ymuno â’r rhwydwaithnewydd? Anfonwch e-bost at David Poole,Rheolwr Gweithrediadau,[email protected] neu ffoniwch ef ar(029) 2048 5722.

Newydd

LinkedIn yn www.linkedin.com/company/cardiff-third-sector-council

7

Mae Cymdeithas Dai YMCA Caerdydd yn falchiawn o fod wedi cyflawni statws Safon AurIechyd a Lles Buddsoddwyr Mewn Pobl eleni.Yma, mae Corina Churchlow, RheolwrGweithrediadau, yn rhannu rhai o’r arferion syddwedi cyfrannu at lwyddiant y sefydliad.

“Mae llinell gyntaf ein Datganiad o Werthoedd yn nodi:‘Rydym ni eisiau gwneud gwahaniaeth oherwydd fod poblyn bwysig’. Mae arnom eisiau gwneud gwahaniaeth iddefnyddwyr ein gwasanaeth – pobl ddigartref – ondrydym hefyd yn awyddus i wneud gwahaniaeth er lles einstaff.

“Ein staff yw ein buddsoddiad mwyaf, ac rydym ynawyddus i ddal ein gafael ar y tîm gorau posibl; felly,byddwn yn canolbwyntio ar dair prif ffordd o sicrhau bodhynny’n digwydd: Datblygiad Proffesiynol, Cefnogaeth aGrymuso.

“Mae Datblygiad Proffesiynol yn ymwneud â’r ffordd ybyddwn yn meithrin sgiliau a gwybodaeth pob aelod o staffo’r amser y byddant yn ymuno â ni. Byddwn yn dechrautrwy ddarparu proses gynhwysfawr o sefydlu cyfundrefnolac adrannol, gydag adolygiadau ar ddiwedd cyfnodauprawf o dri a chwe mis. Caiff anghenion datblygiad ahyfforddiant eu trafod mewn sesiynau un-i-un gyda’urheolwyr ac yn ystod eu hadolygiad gwaith blynyddol.”

Mae barn y staff ynhollbwysigMae gennym ni fel sefydliad raglen hyfforddi sy’n cael eillunio gan grŵp o gynrychiolwyr y staff. Hwy sy'n gyfrifolam asesu, bodloni a gwerthuso anghenion hyfforddisefydliadol y staff bob blwyddyn. Mae barn y staff ynhollbwysig yn y gwaith o ffurfio a siapio'r rhaglenhyfforddi.

“Mae gan y sefydliad ymrwymiad i ddatblygu aelodau o’rstaff fel rheolwyr, a chomisiynwyd cyrsiau ILM ar gyfer yraelodau hynny o’r staff sy’n rheolwyr newydd neu sy’nawyddus i gyrraedd statws rheolwyr. O'r 15 aelod o’r staffsydd â chyfrifoldeb rheolwyr llinell, dim ond dau addechreuodd yn y swydd ar y lefel honno. Mae’r 13 arallwedi eu dyrchafu i'r swydd, sy’n profi bod datblygu’r staffsydd gennym eisoes yn gwneud synnwyr busnes da.

“Yn 2013, cyflwynwyd i ni Wobr HyrwyddoAnnibyniaeth Cymorth Cymru yn y categori Buddsoddimewn Staff, a chyn i ni ennill Gwobr Aur BuddsoddwyrMewn Pobl roeddem yn falch o dderbyn Gwobr ArianBuddsoddwyr Mewn Pobl am Arweinyddiaeth aRheolaeth.”

Cefnogi'r person cyfan“Rydym ni’n credu bod cefnogi’r person cyfan lawn cynbwysiced â meithrin datblygiad proffesiynol. Byddwn yndarparu amrywiaeth o ddulliau cefnogi, o oruchwyliaeth amentora i weithgareddau iach, yn ogystal â ChynllunIechyd.

“Rydym yn cynnal sesiynau misol ar gyngor ariannol, ynaelod o Undeb Gredyd Caerdydd, ac yn cynnig cynllun

pensiwn anghyfrannol i aelodau staff sydd ar gyflog is.

“Rydym yn annog byw bywyd iach, a lleihau straen, drwygynnal gweithdai iechyd i staff (gweithdy chwerthin,gweithdy canu, côr, cerdded yng nghefn gwlad, ac eraill).

“Bob haf, byddwn yn defnyddio arolwg straen yrAwdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gael syniad olefelau straen cyffredinol y staff ac er mwyn nodi unrhywbroblemau posib. Yn 2014, cyflwynwyd i ni Wobr ArianIechyd yn y Gwaith a Gwobr Arian Bwyta’n Iach.”

Staff hapus, effeithiol“Y trydydd cynhwysyn ar gyfer staff da, sydd yr un morbwysig, yw grymuso.

“Byddwn yn cynnal grŵp Gwybodaeth ac YmgynghoriGweithwyr misol, lle mae’r Prif Swyddog Gweithredol, yCyfarwyddwr Gweithrediadau a chynrychiolydd y staff ynrhoi ystyriaeth i unrhyw fater sy’n effeithio ar gyflogaeth

staff. Gallai hyn fod mor allweddol ag ysgrifennu acadolygu’r polisi diswyddo, neu mor syml â chais gan staffam osod agorwr tuniau ar wal y gegin.

“Byddwn hefyd yn annog staff i gynhyrchu a chyflwynogweithdai i aelodau eraill o’r staff; er enghraifft, mae rhai o’rstaff domestig yn cynnal gweithdy ar fynd i’r afael â LlauGwely, a staff arlwyo’n cynnal gweithdy ar beryglon yn ygegin; mae aelodau o’r staff cefnogi a thai yn cynnig nifer obynciau, gan gynnwys Asesu Risg, a Thrais ac YmddygiadYmosodol. Drwy wneud hyn, mae’r staff eu hunain yngyfrifol am hyfforddi cydweithwyr a rhannu sgiliau ardraws y timau.

“Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r hyn mae eincydweithwyr yn ei wneud, mae gennym broses o gyfnewidswyddi sy’n rhoi cyfle i aelodau o’r staff gysgodi aelod arallam y dydd. Mae staff ar bob lefel wedi cymryd rhan, hydyn oed aelodau’r Bwrdd, ac nid oes un dim y mae aelodauo’n tîm cynnal a chadw’n edrych ymlaen ato’n fwy na'r‘gwirfoddolwr’ nesaf sy’n gorfod dadflocio’r tŷ bach!“Rydym ni’n credu bod gennym dîm o staff hapus aceffeithiol. Gallwn ddefnyddio dyfyniadau o’r brosesBuddsoddi Mewn Pobl, gan gynnwys: “Mae’r hyfforddiantyma’n anhygoel’ . . . ‘Rydym ni'n ymdrechu i fod yn well,ac mae pawb yn cyfrannu at hyn’ . . . ‘Rydym yncyflwyno'r arferion gorau’

. . . ‘Mae ein gwerthoedd craidd yn rhan o’r hyn rydym ynei wneud – maent yn rhan o’n diwylliant’

. . . ‘Mae’r YMCA yn lle gwych i weithio’.”

Am fwy o wybodaeth am Gymdeithas DaiCaerdydd YMCA, ewch iwww.cardiffymcaha.co.uk/

Sut mae un o’n sefydliadau'n datblygu,cefnogi a galluogi ei staff

Aelodau o staff Cymdeithas Dai YMCA Caerdydd yn amlwg yn mwynhau eu hunain!

Y staff yn mwynhau mynd am dro – ergwaethaf y tywydd gwlyb!

Dilynwch ni ar Twitter @C3SC

8

Hyfforddiant C3SC – rhoi i chi’r sgiliau mae ar eich sefydliad eu hangenPan fyddwch yn mynychu cwrs hyfforddiC3SC, gallwch ddisgwyl:

• Hyfforddiant o ansawdd uchel am bris isel

• Ymarferion i’ch helpu i ymgorffori eich hyfforddiant

• Adnoddau hyfforddi ymarferol a deunyddiau i fyndgyda chi

• Y cyfle i rwydweithio a rhannu profiadau

Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant wedi ei deilwra’narbennig, lle byddwn yn gweithio gyda chi a’ch cefnogimewn modd hyblyg i gwrdd â’ch anghenion penodol.

Cyrsiau sydd ar y gweill

Asedau ar Waith Dydd Iau 14 Ionawr, 10am – 4pmManteision ac anfanteision datblygiad sy’n seiliedig arasedau ... Archwilio i ffynonellau ariannu a chyllid argyfer asedau ... a mwy.

Cadw Cofnodion Dydd Iau 21 Ionawr, 9.30am – 1.30pmGan gynnwys pam bod angen cyfarfodydd a’r hyn sy’ngwneud cyfarfod da ... yr angen am gadw cofnodion achywirdeb cofnodi ... awgrymiadau ymarferol a geiriaudefnyddiol i’ch helpu i gynhyrchu cofnodion da.

Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith

Dydd Mercher 3 Chwefror, 9.15am – 4pmSwyddogaeth a chyfrifoldeb cymhorthydd cyntaf ...Sut i asesu digwyddiad ... Sut i drin rhywun sydd wedicael anaf ... a mwy.

Sgiliau Cadeirio Dydd Mawrth 9 Chwefror, 9.30am – 1.30pmSwyddogaeth y Cadeirydd, a’r wybodaeth a’r sgiliausy’n angenrheidiol ... Y paratoi a’r cynllunio sy’nangenrheidiol er mwyn llwyddo ... Elfennau sy’nsicrhau cyfarfod llwyddiannus.

Hylendid Bwyd Lefel 2

Dydd Mercher, 24 Chwefror 10am – 4pmPwysigrwydd hylendid bwyd ... Peryglon bwydcysylltiedig ... Sut i gynnal arferion da wrth drin,prosesu a pharatoi bwyd diogel.

Gweithio gyda'r Cyfryngau Dydd Mercher 2 Mawrth, 10am – 4pmBeth sydd o ddiddordeb i newyddiadurwyr, a sut i’whannog i rannu eich hanes ... Sut i ysgrifennu datganiadi’r wasg ... a mwy.

Sut i Ymgorffori Dydd Llun 7 Mawrth, 5.00pm – 8.00pmEdrych ar y gwahanol strwythurau corfforedig ... Bodyn ymwybodol o’r goblygiadau wrth sefydlu a rhedegsefydliad corfforedig ... a mwy.

Eich barn chi am hyfforddiant C3SC:• @DiverseCymru: “Diolch i @C3SC a

@FreshTies am hyfforddiant yn y cyfryngauddoe. Rwy’n gobeithio tarfu ar ambellnewyddiadurwr yn fuan iawn!”

• “Trosolwg ardderchog o sgiliau cadeirio”

• “... diolch am sesiwn hyfforddi ardderchog ynswyddfa C3SC heddiw”

I sicrhau eich lle ac i ddysgumwy:

• Ewch i www.c3sc.org.uk/training-events/c3sc-training

• E-bost [email protected]• Ffoniwch (029) 2048 5722

Cwrs Achrededig

Cwrs Achrededig

Cyfleoedd iRwydweithioMae C3SC yn rhoi cyfleoedd i aelodaurwydweithio er mwyn cefnogi partneriaeth achydweithio yn y trydydd sector, hyrwyddodatblygiad cymunedol ac annog newid drwygydweithredu.

Yn ddiweddar, rydym wedi adolygu’r rhwydweithiautrydydd sector a gefnogir gennym er mwyn sicrhau eubod yn canolbwyntio ar y meysydd polisi a ddynodir felblaenoriaethau sy'n hanfodol i wella ansawdd bywyd poblyng Nghaerdydd.

Y rhwydweithiau y byddwn yn eu hwyluso o fis Ionawr2016 yw:

• Rhwydwaith Cyd-gysylltwyr Gwirfoddoli Caerdydd

• Rhwydwaith Iechyd a Gofal CymdeithasolCaerdydd

• Rhwydwaith Addysg Gynaliadwy Caerdydd

• Rhwydwaith Cymunedau mwy Diogel a ChydlynolCaerdydd

• Rhwydwaith Dysgu a Menter Trydydd SectorCaerdydd

• Rhwydwaith Plant, Pobl Ifanc a TheuluoeddCaerdydd

• Rhwydwaith Ymddiriedolwyr Caerdydd

• Rhwydwaith Cydraddoldeb a Hawliau DynolCaerdydd

• Fforwm Trydydd Sector Caerdydd

• Cyngor Partneriaeth Trydydd Sector Caerdydd

Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfodydd rhwydwaithpenodol ar themâu polisi arbennig pan fydd grwpiau asefydliadau sy’n aelodau yn cytuno i hynny.

Cylch GorchwylByddwn yn ymgynghori â’n haelodau ar Gylch Gorchwylgenerig ar gyfer y rhwydweithiau a’n strategaethgyfathrebu i sicrhau bod rhwydweithiau'n cysylltu’neffeithiol â’n Cyngor Partneriaeth Trydydd Sector. Byddpob rhwydwaith yn rhoi cyfle i wneud y canlynol:

• Recriwtio aelodau i’r rhwydwaith i sicrhau ei fod yncynrychioli trawstoriad eang o grwpiau a sefydliadauyn y Ddinas, er mwyn adlewyrchu ei amrywiaeth.

• Dysgu am waith sefydliadau eraill y trydydd sector yngNghaerdydd, rhannu gwybodaeth ac arferion gorau, achyfnewid syniadau gyda chydweithwyr o fewn ysector ac mewn sectorau eraill.

• Datblygu cynllun blynyddol o flaenoriaethau i

ymgyrchu drostynt a dylanwadu ar ddatblygu gwellgwasanaethau, nodi a mynd i’r afael â bylchau mewngwasanaethau, a gweithredu ar gyfleoedd i ddylanwaduar bolisi lleol, cenedlaethol a rhanbarthol.

• Dadansoddi a symud ymlaen gyda’r materionallweddol a godir gan aelodau, gan gynnwyscynrychiolwyr y trydydd sector, er mwyn gwella’r dull olunio polisïau yn lleol fel rhan o lais cyfunol ar gyfer ytrydydd sector yng Nghaerdydd.

• Ystyried data pellach ac adroddiadau eraill er mwyncreu sylfaen gadarn o dystiolaeth i ddylanwadu ar ygwaith o lunio polisïau lleol.

• Ystyried y problemau i sefydliadau’r trydydd sector agodir gan aelodau a’u dwyn i sylw Cyngor TrydyddSector Caerdydd, fel bod modd i’r Cyngor weithreduarnynt lle bo hynny’n briodol.

• Comisiynu ymchwil yn ôl yr angen i ddatblyguymatebion sector-gyfan neu sefydliadol iflaenoriaethau’r gwasanaeth a pholisi cymdeithasol.

Bydd y Cylch Gorchwyl a’r strategaethaucysylltiedig ar gael ar ein gwefan cyn bo hir:www.c3sc.org.uk/networks/what-we-do. Anfonwch eich adborth at DavidPoole, Rheolwr Gweithrediadau, [email protected] neu ffoniwch (029) 2048 5722.

Beth yw eich anghenionhyfforddi?Helpwch ni i sicrhau bod ein hyfforddiant yn atebeich anghenion drwy lenwi holiadur byr ar-lein arhttp://c3sc.polldaddy.com/s/c3sc-training-survey-autumn-2015. Os nad oes gennychfynediad i’r we, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ynsiŵr eich bod yn cael cyfle i ymateb.