60
Ty ˆ Newydd Cyrsiau a Digwyddiadau 2014

Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Dyma Raglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014. Os hoffech chi gofrestru ar gwrs arlein, ewch i wefan Tŷ Newydd: http://tynewydd.org/

Citation preview

Page 1: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

Ty NewyddCyrsiau a Digwyddiadau2014

Page 2: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

2

“I’r dim” - Gwilym

Page 3: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

1

“Yn ysbrydoliaeth ac yn sbardun. Melys moes mwy!” – Lis

Page 4: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

2

Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW

01766 522811 [email protected]

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Thŷ Newydd a chyrsiau 2014, yn cynnwys ffurflenni archebu a chwestiynau cyffredin, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org

Cysylltwch â ni

Lluniau gan: Richard OutramMae Tŷ Newydd yn rhan o Llenyddiaeth Cymru, y Cwmni Cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru

Page 5: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

3

4. Cyflwyniad11. Cyrsiau14. Ffeithiol18. Chwedlau ac Adrodd Straeon21. Dosbarthiadau Meistr26. Y Dwyrain yn Cwrdd â’r Gorllewin30. Rhyddiaith38. Cyfryngau Newydd 43. Darlunio a Chelf46. Barddoniaeth51. Iechyd a Lles 54. Mwy o wybodaeth

Cynnwys

Page 6: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

4

Croeso i Dŷ Newydd 2014. Dyma dŷ mawr hardd sy’n sefyll yn erbyn cynfas werdd tirlun Eifionydd a golygfeydd godidog Penrhyn Llŷn, ond dyma hefyd fan cychwyn i sawl stori.

Croeso

Mae Llenyddiaeth Cymru yn credu fod llenyddiaeth yn perthyn i bawb ac y gellir ei ganfod ym mhobman. Dyna pam fod rhywbeth i bob un ohonoch yn y rhaglen eleni – yn ddarllenwyr, awduron, beirdd ac anturiaethwyr. Mae rhaglen fywiog newydd sbon wedi ei chreu yn llawn cyrsiau a digwyddiadau. Bydd hefyd gyfle i chi archwilio drwy ddilyn hynt y daith farddoniaeth, a mynd ar eich teithiau creadigol eich hun, o’r Lolfa Lên yn y tŷ i’r gerddi a’r llwybrau tu allan.

Mae gennym gyrsiau ar sgriptio i’r teledu, radio a’r llwyfan, cyrsiau ar greu gemau, blogio, ysgrifennu am fwyd a natur. Bydd cyrsiau ar ddatblygu cerddi sinematig, i gyfansoddwyr caneuon, ac i feirdd haiku. Os ydych yn ymhyfrydu yn y gair ysgrifenedig neu’r gair llafar, rhyddiaith neu farddoniaeth – mae rhywbeth yn y rhaglen i chi.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau ein cynigion ar gyfer 2014 – brysiwch draw i Dŷ Newydd, mae’r drws ar agor.

Lleucu SiencynPrif Weithredwr: Llenyddiaeth Cymru

Page 7: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

5

Page 8: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

6

Tŷ Newydd, lle’r arferai’r Prif Weinidog David Lloyd George fyw a lle bu farw, fydd eich cartref yn ystod eich arhosiad. Cynlluniwyd y gerddi, sy’n edrych dros Fae Ceredigion a thirlun Eifionydd gan yr enwog Syr Clough Williams-Ellis yn y 1940au, ac mae’n lleoliad perffaith i chi gael ysgrifennu mewn tawelwch.

Y Tŷ

Mae ffordd yn arwain dan flanced drwchus o ganghennau coed heibio man gorffwys Lloyd George i bentref bychan Llanystumdwy, lle mae croeso yn eich disgwyl yn Nhafarn y Plu. Gallwch ddal bws o’r pentref, neu gerdded i lawr yr allt o Dŷ Newydd tua’r môr a’r dref agosaf, Cricieth, lle mae digonedd o siopau a chaffis amrywiol.

I nifer, uchafbwynt eu harhosiad yn Nhŷ Newydd yw’r bwyd, a gaiff ei baratoi yn y gegin gyda’ch help chi, gan ddefnyddio cynhwysion gan gyflenwyr lleol. Mae’r ystafell yn ganolbwynt i’r tŷ, yn ofod cymdeithasol lle mae syniadau yn cael eu rhannu wrth basio’r halen.

Page 9: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

7

Yn Nhŷ Newydd rydym yn credu fod profiadau ein cyrsiau yn unigryw. Rydym yn falch iawn o’n lletygarwch a’r awyrgylch anffurfiol. Mewn cydweithrediad agos â’n tiwtoriaid proffesiynol rydym wedi teilwra fformat pob cwrs i wneud y gorau o’ch amser chi yma. Boed chi yn Nhŷ Newydd am benwythnos neu am wythnos, bydd y tiwtoriaid yn arwain gweithdai i’ch helpu i archwilio agweddau penodol o’ch ysgrifennu.

Y Cyrsiau

Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau byddwch yn rhannu’r gofod gyda grŵp o hyd at 12 o ysgrifenwyr eraill. Bydd cyfle i chi fwynhau sesiynau grŵp, gweithdai, sesiynau tiwtoria a darlleniadau. Ond bydd bob amser gyfle i ysgrifennu’n unigol, i gael mynd am dro ac i archwilio. Pan fo’n berthnasol ac os bydd yn bosib, byddwn yn cynnig mentora un-i-un gwerthfawr i edrych ar eich gwaith.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau profiad hollol unigryw gyda ni, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i’ch croesawu atom i Dŷ Newydd.

Page 10: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

8

Pethau Ymarferol

Mae’r cyrsiau ar agor i bawb dros 16, nid oes angen unrhyw gymwysterau. Mae staff Tŷ Newydd bob amser yn barod i gynghori unigolion ar ba mor addas yw’r cyrsiau, ac i roi mwy o wybodaeth am y cyrsiau unigol.

Gofynnir i gyfranogwyr gyrraedd ar noson gyntaf y cwrs rhwng 4.30 pm a 6.00 pm mewn pryd ar gyfer swper sydd am 7.00 pm. Rydym yn arlwyo ar gyfer llysieuwyr a rhai sydd â gofynion deietegol penodol - rhowch wybod i ni am eich gofynion wrth archebu lle ar y cwrs.

Mae cyfranogwyr yn helpu eu hunain i frecwast a chinio. Gofynnwn i chi ddod â thywelion a deunyddiau ysgrifennu eich hunain. Mae cysylltiad diwifr ar gael i’w ddefnyddio yn rhad ac am ddim yn Nhŷ Newydd mewn ambell ystafell a thu mewn i’r tŷ.

Mae lifft yn y tŷ yn rhoi mynediad llawn i’r prif stafelloedd i’r rhai sydd ag anawsterau symud. Mae gennym hefyd ystafell wely addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, sydd iddi ystafell folchi wedi ei haddasu’n bwrpasol.

Rydym yn cydnabod cyfyngiadau ambell un o’n hystafelloedd gwely. Gan fod hwn yn adeilad rhestredig Gradd II rydym ar hyn o bryd yn adolygu’r opsiynau gorau ar sut i wella ein cyfleusterau, gan gymryd i ystyriaeth etifeddiaeth a hanes pensaernïol yr adeilad. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleusterau dros dro.

Am wybodaeth ymarferol fanylach a chwestiynau cyffredin, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org

Page 11: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

9

Sut i archebu

1. Llenwch ffurflen archebu. Gallwch lawrlwytho ffurflen archebu o www.llenyddiaethcymru.org. Fel arall gallwch ffonio Tŷ Newydd ar 01766 522811 i ofyn am un. Gallwch ddychwelyd eich ffurflenni dros e-bost i [email protected] neu drwy’r post i: Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW

2. Gofynnwn i chi ddarparu blaendal o £100 gyda phob ffurflen archebu. Mae botymau PayPal i’w canfod ar dudalen pob cwrs unigol ar y wefan. Fel arall gallwch anfon siec gyda’r ffurflen yn y post.

Ni allwn ad-dalu’r blaendal unwaith bydd yr archeb wedi ei chadarnhau. Mae’r swm llawn yn ddyledus 4 wythnos cyn cychwyn y cwrs. Os ydych yn canslo ar ôl y dyddiad hwn, yr unig adeg y bydd y swm yn cael ei ddychwelyd i chi yw os bydd y cwrs yn cael ei lenwi. Cynghorwn chi i ystyried cymryd yswiriant personol i’ch gwarchod rhag y posibilrwydd hwn.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i ganslo hyd at 3 wythnos cyn cychwyn y cwrs. Yn yr achosion hyn, bydd yr holl arian yn cael ei ddychwelyd. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r rhaglen.

Page 12: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

10

Nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb fyddai’n elwa o fynd ar gwrs i Dŷ Newydd i wneud hynny, beth bynnag fo’r incwm a lefel o brofiad. Ar gyfer unigolion a all fod angen cymorth ariannol, mae gennym fwrsariaethau, ond mae cyfyngiadau ar y gronfa. Er ein bod yn rhoi blaenoriaeth i bobl sydd ag incwm is, ni allwn sicrhau cymorth ariannol bob tro.

Cymorth Ariannol

Er mwyn i ni asesu anghenion a bod yn deg gyda phawb, mae’n hollbwysig nodi cais am gymorth ariannol wrth archebu cwrs. Ni allwn ystyried cais am fwrsariaeth ar ôl cwblhau archeb. Mae canllawiau a ffurflenni cais ar gael ar-lein. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â staff Tŷ Newydd neu e-bostio [email protected]

Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau i dalu am ffioedd cwrs mewn rhandaliadau dros gyfnod o uchafswm o 12 mis, heblaw am y blaendal na ellir ei ddychwelyd (£100 sy’n ddyledus wrth archebu).

Page 13: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

11

Cyrsiau 2014

Page 14: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

12

Mae hi’n gyfnod cyffrous ym myd llenyddiaeth Cymru, wrth i don o feirdd ac awduron fentro canu hen geinciau i gyweiriau newydd.

Cyrsiau Dwyieithog

Bydd cyrsiau dwyieithog newydd yn rhaglen 2014 yn anelu at fagu dealltwriaeth ehangach o ffrydiau llenyddol Cymraeg a Saesneg Cymru, yn ogystal ag annog ysgrifenwyr i arbrofi â geiriau ac ieithoedd gwahanol.

Boed yn rhugl yn y ddwy iaith, yn rhydlyd mewn un, neu’n gwbl ddi-glem, bydd croeso i chi weithio ym mha bynnag iaith yr hoffech. Boed yn ysgrifennu yn eich mamiaith, yn arbrofi drwy gyfansoddi mewn ail iaith, neu yn llamu o un i’r llall.

C

D

Caiff y cwrs hwn ei ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cwrs dwyieithog. Mae croeso i chi weithio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Page 15: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

13

Eleni, bydd Tŷ Newydd yn cynnal amryw o gyrsiau Cymraeg mewn lleoliadau diddorol o amgylch Cymru. Bydd hyn yn cyflwyno gweithgareddau Tŷ Newydd i gynulleidfa ehangach, ac yn mynd ag awduron a themâu penodol i lefydd gyda naws arbennig.

Llên yn Lleol

Yn ystod y flwyddyn, byddwn yn ymweld â phentref Portmeirion yng nghwmni Aled Jones Williams, bydd Bethan Gwanas ac Eurig Salisbury yn ein harwain mewn haid o gychod ar draws Llyn Tegid, a bydd cyfle i ni bori drwy archifau’r Llyfrgell Genedlaethol yng nghwmni Dr John Davies a Jon Gower.

Mae llenyddiaeth yn perthyn i Gymru gyfan, a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r gweithgareddau yn eich darn bach chi o Gymru.

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen lawn o gyrsiau Llên yn Lleol ewch i wefan Llenyddiaeth Cymru:www.llenyddiaethcymru.org

Page 16: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

14

1: Hanes Bro a Bywyd 1 Mawrth

Tiwtoriaid: John Davies a Jon GowerFfi: £55 y pen

Ar y cwrs dydd Gŵyl Ddewi hwn byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu am a chrynhoi hanes lleol. Bydd John Davies a Jon Gower yn eich dysgu lle i ddod o hyd i ffynonellau ac yn rhoi enghreifftiau o sut i greu darnau ystyriol am hanes. Cwrs yw hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes lleol neu bersonol, a chreu gweithiau cofiannol.

Mae John Davies yn hanesydd ac yn awdur sawl llyfr arloesol yn cynnwys Hanes Cymru, ac ef yw golygydd cyffredinol Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2010 gyda Cymru: Y 100 lle i’w Gweld Cyn Marw.

Mae Jon Gower yn awdur, darlledydd a chynhyrchydd radio. Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr, wedi golygu pedwar casgliad, wedi ysgrifennu dwy ddrama ar gyfer y radio ac un ar gyfer y llwyfan. Yn 2012 enillodd ei nofel Y Storïwr wobr Llyfr y Flwyddyn.

C

Page 17: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

15

2: Stori’r Tir 16-21 Mehefin

Tiwtoriaid: Martin Daws a Karen OwenFfi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

D

Ar y cwrs hwn byddwn yn ymweld â rhannau o ogledd Cymru i chwilio am ysbrydoliaeth i ysgrifennu am le. Drwy wrthgyferbynnu tir ôl-ddiwydiannol a chwareli gogledd Cymru gyda harddwch naturiol anhygoel Parc Cenedlaethol Eryri, byddwn yn edrych ar ein perthynas â’r llefydd yr ydym yn byw ynddynt. Sut maent yn dylanwadu arnom? Beth yw eu stori, a pha ran ydym ni’n ei chwarae yn adrodd y straeon hynny?

Mae Martin Daws yn byw ym Methesda ac ef yw Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru. Mae’n fardd perfformiadol clodwiw, ac mae’n arwain gweithdai ieuenctid mewn ysgolion a chymunedau ledled y wlad.

Bardd o Benygroes yw Karen Owen. Mae hi wedi gweithio fel newyddiadurwr i Golwg, BBC Cymru a’r Cymro. Enillodd ei hail gyfrol o farddoniaeth, Siarad Trwy’i Het, gategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2012.

Page 18: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

16

3: Ysgrifennu am Daith a Thaith Bywyd 1-6 Medi

Tiwtoriaid: Jay Griffiths a Rory Maclean Siaradwr Gwadd: Llion IwanFfi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Mae’r cwrs hwn yn archwilio sut mae trawsnewid ein cyfarfyddiadau, teithiau epig, hanes ein teuluoedd a’n anturiaethau dychmygus ni yn straeon a llyfrau. Sut mae troi taith fywyd neu wibdaith fer bersonol yn ddarn o lên?

Jay Griffiths yw awdur gwobrwyog Kith: The Riddle of the Childscape a Wild: An Elemental Journey. Ymysg ei ffuglen y mae A Love Letter from a Stray Moon sydd wedi ei selio’n rhannol ar fywyd Frida Kahlo.

Ysgrifennwr taith yw Rory MacLean. Mae ei ddeg llyfr yn cynnwys Stalin’s Nose ac Under the Dragon. Mae wedi ennill sawl gwobr ac fe’i enwebwyd am wobr lenyddol Ryngwladol IMPAC Dulyn. www.rorymaclean.com

Bu Llion Iwan yn newyddiadurwr i’r BBC ac yn ddarlithydd newyddiaduraeth ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor, gan ennill doethuriaeth ar ddylanwad y cyfarwyddwyr rhaglenni dogfen. Mae’n awdur ac yn Gomisiynydd Rhaglenni Ffeithiol i S4C.

Page 19: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

17

4: Ysgrifennu Ffeithiol Greadigol 24-29 Tachwedd

Tiwtoriaid: Horatio Clare a Laura Barton Siaradwr Gwadd: Janice GallowayFfi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Bydd y cwrs hwn yn edrych ar sut i ysgrifennu’n dda am fywyd, boed o gof, ffynhonnell neu arsyllu. Bydd cyfranogwyr yn edrych ar sut all technegau ffuglen a drama gael eu defnyddio ar gyfer gweithiau ffeithiol. Anelir y cwrs at rai sy’n ymroddedig i gyhoeddi eu gwaith, a bydd y cyfranogwyr yn cael eu tiwtora i greu gwaith o lefel digon safonol i gael ei gyhoeddi.

Mae Laura Barton yn awdur ac yn newyddiadurwr. Mae hi’n cyfrannu yn gyson i The Guardian, The New York Times, Intelligent Life, Q a Radio 4 gydag arbenigedd mewn cerddoriaeth. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Twenty-One Locks yn 2010.

Mae Horatio Clare yn newyddiadurwr ac yn awdur toreithiog. Fe’i cyflwynwyd â gwobr Somerset Maugham

gan y Society of Authors, ac fe enillodd wobr Awdur Taith y Flwyddyn y Foreign Press Association yn 2010.

Mae Janice Galloway yn ysgrifennu nofelau, straeon byrion, libretti opera a barddoniaeth, ac mae wedi cydweithio gydag artistiaid gweledol a theipograffwyr. Mae hi wedi ennill sawl gwobr ac ysgoloriaethau rhyngwladol.

Page 20: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

18

5: A Tale on the Tongue: Adrodd Straeon i Ddechreuwyr 28-30 Mawrth

Tiwtoriaid: Hugh Lupton a Daniel Morden Ffi: £275 y pen (ystafell sengl) / £220 y pen (rhannu ystafell)

Mae A Tale on the Tongue yn gyfle i ddysgu sut i berfformio straeon traddodiadol yng nghwmni dau o arbenigwyr blaenllaw celfyddyd adrodd straeon Prydain. Ein chwedloniaeth, straeon tylwyth teg a straeon gwerin traddodiadol yw’r brics ar gyfer pob stori sydd wedi ei hadrodd ers hynny. Bydd cyfranogwyr yn gadael y cwrs wedi clywed ac adrodd sawl stori dros y penwythnos.

Mae Daniel Morden yn adroddwr stori proffesiynol ers 1989 ac wedi perfformio dros y byd. Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith am ei lyfrau sy’n ail-adrodd straeon traddodiadol.

Mae Hugh Lupton wedi bod yn ffigwr canolog i’r adfywiad adrodd straeon ym Mhrydain ers deng mlynedd ar hugain. Mae’n adrodd chwedlau a straeon o sawl diwylliant, ac mae wedi ysgrifennu sawl casgliad o straeon gwerin ac un nofel.

Page 21: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

19

6: Datblygu Chwedlau Personol o Draddodiadau Brodorol 14-19 Gorffennaf

Tiwtoriaid: Pascale Petit ac Armand Garnet Ruffo Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Drwy edrych ar y cyfoeth o chwedlau brodorol traddodiadol Canada a phobl yr Amazon, byddwch yn cael eich annog i ysgrifennu cerddi neu ddarnau o ryddiaith sy’n trawsnewid profiadau bywyd cyffredin mewn i chwedlau personol. Bydd gwersi unigol ar gael, a bydd sesiynau fin nos yn cynnwys sgwrs gan Armand am y peintiwr poblogaidd o Ganada Norval Morrisseau.

Mae llyfrau Pascale Petit wedi cael eu dylanwadu gan ei theithiau yn yr Amazon a Mecsico. Cafodd ei chasgliad diwethaf, What the Water Gave Me: Poems after Frida Kahlo ei gynnwys ar restr fer Gwobr T S Eliot a Gwobr Llyfr y Flwyddyn, ac fe’i rhestrwyd fel Llyfr y Flwyddyn gan The Observer. www.pascalepetit.co.uk

Mae treftadaeth Ojibway y bardd Canadaidd Armand Garnet Ruffo yn dylanwadu’n gryf ar ei ysgrifennu a’i ffilmiau. Mae ei waith wedi ennill sawl gwobr, yn cynnwys Ffilm Orau yn yr American Indian Film Festival 2010 yn San Francisco. Mae’n dysgu Llenyddiaeth Frodorol ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Carleton yn Ottawa.

Page 22: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

20

Tiwtoriaid: Hugh Lupton ac Eric Maddern Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Ers cannoedd o flynyddoedd mae straeon wedi teithio ar hyd llwybrau pererinion, yn addasu ac yn newid. Yn y cwrs olaf hwn o’n saith blynedd o archwilio chwedlau Prydain byddwn yn edrych ar y straeon allai fod wedi cael eu hadrodd ar bererindodau, gyda phwyslais ar The Canterbury Tales, straeon a ysbrydolodd Shakespeare a’r straeon tylwyth teg pan-Ewropeaidd. Mae’n rhaid i gyfranogwyr fod â phrofiad o adrodd straeon, fod wedi gwneud darllen cefndirol, a pharatoi stori o flaen llaw.

Mae Hugh Lupton wedi bod yn ffigwr canolog i’r adfywiad adrodd straeon ym Mhrydain ers deng mlynedd ar hugain. Mae’n adrodd chwedlau a straeon o sawl diwylliant, ac mae wedi ysgrifennu sawl casgliad o straeon gwerin ac un nofel.

Mae Eric Maddern yn adroddwr straeon sy’n arbenigo ar dirwedd hanesyddol a naturiol. Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr lluniau i blant ac wedi cynhyrchu dwy CD o’i ganeuon. Mae wrthi’n ysgrifennu Snowdonia Folktales i gyfres The History Press. www.ericmaddern.co.uk

7: Encil Adrodd Straeon: Chwedlau’r Pererin 6-11 Hydref

Page 23: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

21

Dosbarthiadau Meistr

O ganlyniad i’r galw uchel a’u llwyddiant ysgubol bydd mwy o ddosbarthiadau meistr nag erioed ar gael yn 2014. Mae’r dosbarthiadau cywrain hyn wedi eu strwythuro yn arbennig ar gyfer beirdd profiadol.

Eleni hefyd byddwn yn cynnig cyrsiau sy’n datblygu proffesiynoldeb mewn meysydd eraill. Mae’n bleser gennym gynnwys cwrs ysgrifennu ar gyfer radio a theledu, a chwrs preswyl wythnos o hyd i ysgrifennu ar gyfer gemau.

Guardian Masterclasses

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gael cynnwys digwyddiadau newydd yn Nhŷ Newydd mewn partneriaeth â The Guardian Masterclasses.

Yn 2014 byddwn yn nodi diwedd blwyddyn canmlwyddiant y bardd o Gymru, R. S. Thomas a chychwyn dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas gydag enciliadau ysgrifennu yn ymateb i’w barddoniaeth yn Nhŷ Newydd.

Ac i’r rhai hynny ohonoch sydd eisiau dysgu mwy am ysgrifennu am fwyd, samplo a chynaeafu gwyllt, mae penwythnos arbennig yn cael ei drefnu. Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Tŷ Newydd ac yn The Guardian a The Observer yn haf 2014.

Page 24: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

22

Tiwtoriaid: Gillian Clarke a Robert Minhinnick Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Dyma gyfle i feirdd proffesiynol roi sglein ychwanegol ar eu hysgrifennu. Bydd y dosbarthiadau meistr yn canolbwyntio ar saith gweithdy grŵp, cyfarfodydd grŵp bychain ar gyfer cefnogaeth a thrafodaeth, a digon o gyfle i ysgrifennu yn unigol. Bydd gweithdai dyddiol yn meithrin cerddi newydd ac yn annog trafodaeth ar y gwaith sydd ar y gweill. Yn ystod yr wythnos bydd y tiwtoriaid a’r siaradwr gwadd yn rhoi darlleniad o’u gwaith. Bydd y cyfranogwyr yn golygu ac yn cyfrannu at flodeugerdd, ac yn dathlu gorffen y cwrs gyda darlleniad ar y nos Wener.

8: Dosbarth Meistr Barddoniaeth 1 14-19 Ebrill

Tiwtoriaid: Gillian Clarke ac Imtiaz Dharker Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

9: Dosbarth Meistr Barddoniaeth 2 13-18 Hydref

Page 25: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

23

Gillian Clarke yw Bardd Cenedlaethol Cymru ers 2008, a Llywydd Tŷ Newydd. Yn 2010, derbyniodd Fedal Aur y Frenhines am ei Barddoniaeth ac yn 2012 Wobr Wilfred Owen. Gosodwyd ei chasgliad diweddaraf, Ice ar restr fer Gwobr T S Eliot yn 2012.www.gillianclarke.co.uk / www.sheerpoetry.co.uk

Cyhoeddodd Robert Minhinnick New Selected Poems yn 2012. Mae ei lyfrau rhyddiaith yn cynnwys Island of Lightning a The Keys of Babylon. Mae wedi ennill y Forward Prize am gerdd unigol orau ddwywaith, a Llyfr y Flwyddyn ddwywaith am ei ryddiaith. www.robertminhinnick.com

Bardd, artist a gwneuthurwr ffilmiau dogfen yw Imtiaz Dharker. Mae hi wedi cael deg arddangosfa o ddarluniau yn India, Llundain, Efrog Newydd a Hong Kong. Mae hi’n sgriptio a chyfarwyddo ffilmiau, nifer ohonynt i sefydliadau anllywodraethol yn India, yn gweithio ym meysydd lloches, addysg ac iechyd i fenywod a phlant.

Er mwyn sicrhau y bydd pawb yn elwa o gyfranogiad a thrafodaeth feirniadol o’r safon uchaf, bydd beirdd yn cael eu dewis ar gyfer y cwrs hwn. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i gyfranogwyr newydd.

Page 26: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

24

Tiwtoriaid: Gillian Clarke a Damian Walford Davies Archebu: Ewch i wefan The Guardian Masterclasses: www.theguardian.com/guardian-masterclasses

Canmlwyddiant genedigaeth y bardd mawr o Gymru, R. S. Thomas yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer yr encil tridiau hwn o ysgrifennu ac ymateb i farddoniaeth. Bydd y tiwtoriaid yn cynnig dosbarthiadau unigol, gweithdai grŵp ac ymdrwythiad ym mywyd a gwaith R. S. Thomas yn nhirlun anhygoel Pen Llŷn a ysgogodd beth o’i waith enwocaf.

Gillian Clarke yw Bardd Cenedlaethol Cymru ers 2008, a Llywydd Tŷ Newydd. Yn 2010, derbyniodd Fedal Aur y Frenhines am ei Barddoniaeth ac yn 2012 Wobr Wilfred Owen. Gosodwyd ei chasgliad diweddaraf, Ice ar restr fer Gwobr T S Eliot yn 2012.www.gillianclarke.co.uk / www.sheerpoetry.co.uk

Mae’r bardd, y beirniad llenyddol a’r libretydd Damian Walford Davies yn awdur sawl casgliad o farddoniaeth yn cynnwys Suit of Lights a Witch. Bu’n Bennaeth Adran Saesneg ag Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, ac mae bellach yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Guardian Masterclass Sgwrs Barddoniaeth: Ymateb i gerddi R. S. Thomas 24-28 Ionawr

Page 27: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

25

Tiwtoriaid: Robert Minhinnick Archebu: Ewch i wefan The Guardian Masterclasses: www.theguardian.com/guardian-masterclasses

Dyma gyfle i chwilio am ysbrydoliaeth yng ngeiriau a thirwedd Dylan Thomas, ym mlwyddyn dathlu ei ganmlwyddiant, ac i greu darnau newydd o waith yn ysbryd ei awen. Bydd cyfle hefyd i gyfranogwyr ymuno â’r Full Moon Walk, sydd ar agor i’r cyhoedd, nos Wener 7 Tachwedd gyda Victoria Field, taith fydd yn archwilio themâu salwch meddwl yng ngwaith Dylan Thomas.

Cyhoeddodd Robert Minhinnick New Selected Poems yn 2012. Mae ei lyfrau rhyddiaith yn cynnwys Island of Lightning a The Keys of Babylon. Mae wedi ennill y Forward Prize am gerdd unigol orau ddwywaith, a Llyfr y Flwyddyn ddwywaith am ei ryddiaith. www.robertminhinnick.com

Mae Victoria Field yn Therapydd Barddoniaeth, ac wedi gweithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol. Arferai fod yn gyfarwyddwr i Survivors Poetry ac mae hi wedi cadeirio Lapidus, sefydliad y DU dros ysgrifennu er iechyd a lles.

Guardian Masterclass Sgwrs Barddoniaeth: Ymateb i gerddi Dylan Thomas 3-8 Tachwedd

Mae’r Full Moon Walk yn rhan o Odyssey Dylan, cyfres unigryw o deithiau llenyddol wedi eu hysbrydoli gan Dylan Thomas ac a drefnir gan Llenyddiaeth Cymru.

Page 28: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

26

Cynnig: Pe dymunech fynychu’r tri chwrs, cynigir pecyn arbennig: £750 y pen (ystafell sengl) / £600 y pen (rhannu ystafell)

Y Dwyrain yn Cwrdd â’r Gorllewin

Mae Tŷ Newydd wedi trefnu tri chwrs penwythnos sy’n dod â blas o’r dwyrain i’r gorllewin. Byddwn yn archwilio ffiniau a chanfyddiadau, yn pontio gwahaniaethau diwylliannol ac yn edrych ar ddylanwadau. Yn ystod y tri chwrs byddwn yn edrych ar yr haiku, dylanwadau o Japan, India a Tsieina, a sut mae’r rhain yn gweu i mewn i wahanol ffurfiau celfyddydol, darluniau a cherddoriaeth.

Page 29: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

27

Tiwtoriaid: Nigel Jenkins a Lynne Rees Ffi: £275 y pen (ystafell sengl) / £220 y pen (rhannu ystafell)

Bydd y penwythnos hwn yn cynnwys gweithdy ymarferol, trafodaethau grŵp a ‘ginko’ – sef taith fechan i ysgogi ysgrifennu’r haiku: epiffanis bychain, galarganeuon pitw, golygfeydd byrion o’n bywydau bob dydd.

Mae Lynne Rees yn nofelydd, bardd, tiwtor ysgrifennu creadigol a chyd-olygydd Another Country: Haiku Poetry from Wales. Mae ganddi gasgliad haibun o’r enw Forgiving the Rain sy’n llawn atgofion personol ar ffurfiau haiku. www.lynnerees.com.

Mae Nigel Jenkins yn dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Enillodd ei lyfr Gwalia in Khasia Lyfr y Flwyddyn yn 1996. Mae’n gyd-olygydd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, a’i gyfrol ddiwethaf o farddoniaeth yw’r casgliad haiku O For a Gun.

10: Haiku: Ysgrifennu am Fywyd a’r Tir 9-11 Mai

Page 30: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

28

Tiwtoriaid: Imtiaz Dharker a Moniza Alvi Ffi: £275 y pen (ystafell sengl) / £220 y pen (rhannu ystafell)

Sut mae delweddau ac idiomau’r Dwyrain a’r Gorllewin yn siarad â’i gilydd, mewn barddoniaeth a chelf? Penwythnos o ddarlleniadau, gweithdai ac archwilio gydag Imtiaz Dharker a Moniza Alvi.

Ganwyd Moniza Alvi ym Mhacistan, ac fe’i magwyd yn Hertfordshire. Mae tri o’i chasgliadau wedi eu cynnwys ar restr fer Gwobr T S Eliot. Mae hi’n dysgu yn y Poetry School yn Llundain.

Bardd, artist a gwneuthurwr ffilmiau dogfen yw Imtiaz Dharker. Mae hi wedi cael deg arddangosfa o ddarluniau yn India, Llundain, Efrog Newydd a Hong Kong. Mae hi’n sgriptio a chyfarwyddo ffilmiau, nifer ohonynt i sefydliadau anllywodraethol yn India, yn gweithio ym meysydd lloches, addysg ac iechyd i fenywod a phlant.

11: Tiffin Box Talks: Sgwrs rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin 11-13 Gorffennaf

Page 31: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

29

Tiwtoriaid: Gareth Bonello, Georgia Ruth a Gwyneth Glyn Ffi: £275 y pen (ystafell sengl) / £220 y pen (rhannu ystafell)

Ymunwch â thri o hoff gyfansoddwyr a chantorion Cymru i fynd tu hwnt i’r ffiniau rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin gyda cherddoriaeth a barddoniaeth. Mae croeso i feirdd, cantorion, cerddorion a’r chwilfrydig.

Mae Gareth Bonello yn gyfansoddwr ac yn gitarydd o Gaerdydd. Ar gyfer ei albwm diweddaraf, Y Bardd Anfarwol, fe deithiodd i Tsieina i gydweithio â cherddorion o Chengdu.

Cantores, telynores a chyfansoddwraig o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013 gyda’i albwm gyntaf Week of Pines. Ym mis Chwefror 2013 aeth Georgia i Kolkata, India i gymryd rhan mewn prosiect preswyl gyda cherddorion gwerin o India, Pacistan a Bangladesh.

Cantores a chyfansoddwraig werin ydi Gwyneth Glyn. Fe’i magwyd yn Llanarmon, dafliad carreg o Dŷ Newydd. Mae Gwyneth yn mwynhau cyweithiau cerddorol amrywiol, a’r mwyaf diweddar o’r rhain yw Ghazalaw, sy’n asio hen benillion ac alawon gwerin Cymraeg â thraddodiad barddol Ghazal India.

12: Barddoniaeth a Cherddoriaeth 24-26 Hydref

D

Page 32: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

30

Tiwtoriaid: Lucy Christopher a Julia Green Siaradwr Gwadd: Nicola Davies Ffi: £450 y pen (ystafell sengl) / £400 y pen (rhannu ystafell)

Darganfyddwch sut mae ysgrifennu am y gwyllt yn bwysig wrth ysgrifennu i bobl ifainc. Mae mannau gwyllt yn fan cychwyn i sawl stori: dyma lecynnau pell oddi wrth rieni lle mae dychymyg plant yn crwydro. Drwy gerdded, ysgrifennu ac archwilio’r gofodau gwyllt o amgylch Tŷ Newydd, bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i ddod o hyd i’w mannau gwyllt eu hunain fel man cychwyn i’w ffuglen.

Ganwyd Lucy Christopher yng Nghymru, ond fe’i magwyd yn Awstralia. Mae hi’n awdur tair nofel i bobl ifainc, Stolen, Flyaway a The Killing Woods. Mae Lucy yn Uwch-Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa, ac mae hi hefyd yn gweithio ar addasiad i’r sgrin o Stolen.

Mae Julia Green yn awdur dros ddeuddeg nofel i bobl ifainc, yn cynnwys This Northern Sky a Tilly’s Moonlight Fox. Hi yw cyfarwyddwr y cwrs MA ar Ysgrifennu i Bobl Ifainc ym Mhrifysgol Bath Spa.

Mae Nicola Davies yn awdur ar dros bedwar deg o lyfrau, yn ffuglen, ffeithiol, llyfrau lluniau a barddoniaeth, oll yn archwilio perthynas pobl â’r byd natur.

13: Ysgrifennu’r Gwyllt mewn Ffuglen i Bobl Ifainc 28 Ebrill – 2 Mai

Page 33: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

31

Tiwtoriaid: Lucy Christopher a Ken White Ffi: £450 y pen (ystafell sengl) / £400 y pen (rhannu ystafell)

Ymunwch â Ken White a Lucy Christopher i drafod eu cydweithio ar addasu Stolen, nofel i bobl ifainc gan Lucy sydd wedi eu gosod mewn anialwch yn Awstralia, i’r sgrin. Dyma stori sydd â man gwyllt yn ganolbwynt iddi, a bydd y cwrs yn annog cyfranogwyr i ddod o hyd i gefndir gwyllt sy’n bwysig iddyn nhw fel cychwyn i stori newydd. Yn defnyddio’r strwythur tair golygfa fel sail, bydd gofyn i’r cyfranogwyr greu sgript eu hunain wedi ei gosod mewn man gwyllt.

Mae Ken White yn fardd ac yn sgriptiwr ffilmiau, ac yn dysgu yn Sefydliad American Indian Arts yn Santa Fe. Mae wedi cyhoeddi un gyfrol o farddoniaeth, Eidolon.

Ganwyd Lucy Christopher yng Nghymru, ond fe’i magwyd yn Awstralia. Mae hi’n awdur tair nofel i bobl ifainc, Stolen, Flyaway a The Killing Woods. Mae Lucy yn Uwch-Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa, ac mae hi hefyd yn gweithio ar addasiad i’r sgrin o Stolen.

14: Ysgrifennu’r Gwyllt mewn Sgript a Llun 3-7 Mai

Page 34: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

32

Tiwtoriaid: Siân Melangell Dafydd ac Angharad Elen Ffi: £175 y pen

Dyma gwrs sydd wedi’i anelu at awduron newydd yn ogystal â rhai mwy profiadol sy’n arbrofi â genre a chrefft. Cewch fanteisio ar brofiad ac arbenigedd golygyddion y wefan greadigol Y Neuadd (www.yneuadd.com) wrth iddynt ddarparu cyngor a chyfarwyddyd ar eich gwaith, a’ch cynorthwyo i wireddu eich gweledigaeth yn y ffordd orau bosib. Croesawn feirdd, perfformwyr, awduron genre, ffuglen, ffeithiol ac adolygwyr i ddatblygu eu gwaith a chael y cyfle i gyhoeddi darn ar Y Neuadd.

Enillodd Siân Melangell Dafydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala yn 2009 gyda’i nofel gyntaf, Y Trydydd Peth. Mae Siân yn gyd-olygydd cylchgrawn Taliesin ac Y Neuadd, yn athrawes yoga, ac mae’n mwynhau cydweithio ag artistiaid a dawnswyr i greu gwaith newydd.

Mae Angharad Elen yn gweithio gyda Cwmni Da fel cynhyrchydd ac yn gyd-olygydd cylchgrawn Taliesin ac Y Neuadd. Yn 2013 enillodd Bafta Cymru am ei gwaith cynhyrchu ar y rhaglen ddogfen Gerallt. Mae Angharad yn sgriptio, ac wedi cyhoeddi straeon byrion mewn amryw gyhoeddiadau.

15: Ysgrifennu ar gyfer Y Neuadd 31 Ionawr – 2 Chwefror

C

Page 35: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

33

Tiwtoriaid: Jean McNeil a Julia Bell Siaradwr Gwadd: James Friel Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Mae gan bawb ei stori - ond sut allwn ei hadrodd yn ddifyr? Ar y cwrs hwn cewch ddysgu sut i drosi eich straeon yn rhyddiaith, boed yn stori fer, nofel neu ddarn ffeithiol. Dyma gwrs ar dechneg naratif, sut i ysgrifennu yn berswadiol ac yn graff gyda thiwtoriaid dau o brif gyrsiau MA yn y DU. Bydd y cwrs hwn yn addas ar gyfer unigolion o bob gallu a bydd y cyfranogwyr yn gadael gyda stori fer gyflawn, neu efallai gychwyn i brosiect hwy.

Mae Jean McNeil wedi cyhoeddi deg llyfr, ac mae ei gwaith wedi ei enwebu sawl gwaith am wobrau rhyngwladol. Mae hi’n Uwch-Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia.

Mae Julia Bell yn Uwch-Ddarlithydd ar gwrs MA Ysgrifennu Creadigol yn Birkbeck, Prifysgol Llundain. Mae hi’n awdur tair nofel

ac yn gyd-olygydd ar Creative Writing Coursebook a’r flodeugerdd ddiweddar o straeon The Sea in Birmingham. www.juliabell.net

Nofel ddiweddaraf James Friel yw The Posthumous Affair. Ef sy’n arwain rhaglen MA mewn ysgrifennu yng Nghanolfan Ysgrifennu Prifysgol John Moores Lerpwl.

16: Ffuglen Fer: Oes Gen ti Stori? 19-24 Mai

Page 36: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

34

Tiwtoriaid: Mavis Cheek a Francesca Rhydderch Siaradwr Gwadd: Cynan Jones Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Boed chi’n cychwyn ysgrifennu ffuglen, neu’n gweithio ar brosiect ar hyn o bryd, mae’r cwrs dwys ond hwyliog hwn yn gaddo dos o greadigrwydd. Gyda gweithdai grŵp bob bore a gwersi un-i-un yn y prynhawniau byddwn yn archwilio agweddau allweddol o focs tŵls yr awdur ffuglen yn cynnwys cymeriadu, gosodiad, datblygu’r stori, tôn a dialog. Erbyn di-wedd y cwrs byddwch un ai’n gallu parhau â’r prosiect eich hun gyda hyder neu wedi cychwyn syniad newydd sbon.

Mae Mavis Cheek yn awdur pymtheg nofel. Cychwynnodd ysgrifennu gyda straeon byrion ac enillodd ei nofel Pause Between Acts wobr nofel gyntaf She/John Menzies. Mae hi wedi dysgu ysgrifennu creadigol ers 1990.

Mae straeon byrion Francesca Rhydderch wedi cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau, blodeugerddi

ac wedi eu darlledu ar Radio 4. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf The Rice Paper Diaries yn 2013. Bu’n olygydd y New Welsh Review am chwe mlynedd, ac mae hi nawr yn gweithio fel golygydd llawrydd.

Mae Cynan Jones yn awdur The Long Dry, Everything I Found on the Beach, Bird, Blood, Snow, a The Dig, oll yn nofelau byrion.

17: Ffuglen: Ble Mae Dechrau? 4-9 Awst

Page 37: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

35

Tiwtoriaid: Aly Monroe ac Andrew Williams Siaradwr Gwadd: Hanna Jameson Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Boed chi eisoes wedi cychwyn ysgrifennu stori, neu eisiau cyngor ar sut i gychwyn, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r dechneg o blotio’r nofel drosedd berffaith. Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu sut i ddatblygu cymeriadau sy’n argyhoeddiadol, a defnyddio gosodiad mewn modd effeithiol. Y nod yw gorffen y cwrs gyda syniad clir o’ch prif gymeriadau, y plot a’r tŵls i’ch helpu i barhau â’r stori.

Cyrhaeddodd Aly Monroe, awdur cyfres Peter Cotton, restr fer Gwobr Ellis Peters yn 2010, ac fe enillodd wobr yr Historical Dagger yn 2012. Mae hi’n dysgu gweithdai ysgrifennu, ac yn ymgynghorydd ysgrifennu yn y Brifysgol Agored.

Bu Andrew Williams yn gweithio fel uwch-gynhyrchydd yn ysgrifennu a chyfarwyddo rhaglenni dogfen hanesyddol i’r BBC. Mae wedi ysgrifennu

dwy gyfrol hanesyddol a phedair nofel ias a chyffro hanesyddol. Caiff y diweddaraf, The Suicide Club, ei chyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn. www.andrewwilliams.tv

Ysgrifennodd Hanna Jameson Something You Are pan oedd ond yn 17, ac erbyn iddi droi’n 21 roedd hi wedi ysgrifennu dwy nofel dditectif lwyddiannus arall i’w dilyn.

18: Ysgrifennu Straeon Ditectif 11-16 Awst

Page 38: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

36

Tiwtoriaid: Manon Steffan Ros a Bethan Gwanas Siaradwr Gwadd: Jac Jones Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Dewch â’ch hoff lyfrau plant gyda chi, a syniad am stori, a thrwy weithdai grŵp a sesiynau un-i-un, bydd Manon a Bethan yn eich helpu i ddechrau arni. Bydd yr arlunydd adnabyddus Jac Jones yn ymuno â ni hefyd. Byddwch yn gadael y cwrs gyda stori fer neu ddechrau nofel – a hyder a gwên.

Mae nofelau Bethan Gwanas ar gyfer oedolion, plant a dysgwyr yn hynod boblogaidd. Enillodd wobr Tir na n-Og ddwyaith am Llinyn Trôns a Sgôr. Mae hi’n aml i’w gweld ar S4C yn cyflwyno rhaglenni am fyd natur a bod yn wyrdd.

Mae Manon Steffan Ros yn ysgrifennu nofelau i blant ac oedolion. Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith, ac yn 2013 enillodd wobr categori

ffuglen Llyfr y Flwyddyn gyda’i nofel Blasu. Mae Manon hefyd yn ysgrifennu caneuon ac yn canu dan yr enw Blodau Gwylltion.

Mae Jac Jones wedi bod yn darlunio llyfrau ers canol y 1970au. Enillodd Wobr Tir na n–Og yn 1989, 1990 a 1998. Yn 2012, cyflwynwyd Tlws Mary Vaughan Jones iddo i gydnabod ei gyfraniad anhygoel i fyd llenyddiaeth plant yng Nghymru.

19: Ysgrifennu i Blant 8-13 Medi

D

Page 39: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

37

Page 40: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

38

Tiwtoriaid: Zillah Bowes, Asher Tlalim a Jane Corbett Siaradwr Gwadd: Chris Pow Ffi: £1,750 y pen - Caiff cyfranogwyr eu dewis. Cysylltwch â ni i dderbyn y manylion llawn am sut i wneud cais.

Bydd y cwrs ymarferol hwn yn eich helpu i ddatblygu eich creadigrwydd a dod o hyd i syniadau newydd yn eich gwaith. Yn ystod y cwrs byddwch yn gwneud ymarfer byr barddoniaeth ffilm yn ymateb i gerdd ysgrifenedig o’ch dewis chi. Mewn cyfres o weithdai byddwn yn canolbwyntio ar sut i feddwl am sŵn a darlun ochr yn ochr. Yn yr wythnos gyntaf bydd dosbarthiadau yn canolbwyntio ar ddatblygu eich syniad a saethu eich ffilm fer ac yna yn yr ail wythnos ar ei golygu.

Mae Zillah Bowes yn wneuthurwr ffilm a bardd. Hyfforddodd yn y National Film and Television School lle mae hi nawr yn dysgu. www.zillahbowes.com

Yn enillydd gwobr gan yr Israeli Film Academy mae Asher Tlalim wedi rhedeg gweithdai niferus am farddoniaeth ffilm. Mae wedi sgriptio, golygu a chyfarwyddo nifer o’i

ffilmiau sydd wedi cael eu dangos dros y byd.

Mae Jane Corbett yn sgriptiwr a nofelydd, sydd wedi ennill gwobrau am ei sgriptiau ar gyfer ffilm a theledu. Mae’n dysgu yn y National Film and Television School. www.janecorbett-writer.com

Mae Chris Pow yn uwch diwtor mewn cynllunio a chymysgu sain yn y National Film and Television School.

20: Iaith Barddoniaeth Ffilm 31 Mawrth – 12 Ebrill

Page 41: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

39

Tiwtoriaid: Kate McAll a Lynne Truss Ffi: £600 y pen (ystafell sengl) / £500 y pen (rhannu ystafell) - Caiff cyfranogwyr eu dewis. Cysylltwch â ni i dderbyn y manylion llawn am sut i wneud cais.

Mae ysgrifennu ar gyfer y glust yn cynnig perthynas agos rhwng sgriptiwr a’i gynulleidfa. Mae’r cwrs yn cynnig cipolwg ar y diwydiant, yn cynnwys dod o hyd i - a chydweithio â chynhyrchydd, y broses gomisiynu a phitsio am gynigion radio, yn ogystal â chynnig profiadau ymarferol o ddatblygu syniadau a chymeriadau, ac ysgrifennu golygfeydd. Yn ystod yr wythnos bydd y cyfranogwyr yn ysgrifennu darn o radio fydd yn cael ei recordio gydag actorion, a’i gymysgu gydag effeithiau sain a cherddoriaeth i safon darlledu.

Yn gyn-Uwch-Gynhyrchydd i’r BBC, mae Kate McAll wedi cynhyrchu nifer amrywiol o raglenni dogfen a dramâu i Radio 3 a 4, yn cynnwys Torchwood, a’r gyfres hir The Diary of Samuel Pepys. Mae hi wedi ennill sawl gwobr yn cynnwys y Sony Gold Award a’r Mind Media Award.

Mae Lynne Truss yn golofnydd papur newydd, darlledwr a dramodydd sydd wedi ysgrifennu i’r sgrîn a’r radio. Mae hi wedi ysgrifennu yn eang i’r BBC yn cynnwys A Certain Age, Westwood, Cold Calling, a’i chyfres hir, Inspector Steine.

21: Ysgrifennu Dramâu Radio 2-8 Mehefin

Page 42: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

40

Cyflwyniad i gyrsiau newydd

Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â S4C, yn falch o gyhoeddi rhaglen newydd i ddatblygu sgiliau ysgrifenwyr Cymru. Drwy ddau gwrs preswyl yn Nhŷ Newydd a chyfleoedd mentora pellach, bydd cefnogaeth ar gael i ysgrifenwyr i ddatblygu’r tŵls a’r sgiliau sydd eu hangen yn benodol i addasu rhyddiaith ar gyfer y teledu a naratif ar gyfer gemau.

Drwy gyflwyniadau, sesiynau tiwtora, mentora a thips ymarferol, bydd cyfranogwyr yn ennill y sgiliau a’r arbenigedd i ysgrifennu addasiadau a chyflwyno ceisiadau.

Mae S4C yn ymroddedig i ddatblygu talentau ysgrifennu cyfoes Cymraeg o safon uchel, a bydd sgiliau a enillir ar y cyrsiau hyn o fudd i gyfranogwyr wrth geisio am gomisiynau.

Bydd yr holl fanylion, yn cynnwys siaradwyr gwadd, mentorwyr a thiwtoriaid yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn ar wefannau Llenyddiaeth Cymru a S4C.

Mewn partneriaeth â Creative Skillset a S4C

Page 43: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

41

Ffi: £600 y pen (ystafell sengl) / £500 y pen (rhannu ystafell)Caiff cyfranogwyr eu dewis. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais.

Gyda phoblogrwydd addasiadau nofelau fel Game of Thrones, The Hunger Games, Martha, Jac a Sianco a Submarine yn cynyddu ac yn ennill clod, mae S4C yn awyddus i annog datblygiad yn y maes hwn, gyda’r bwriad o gomisiynu addasiadau uchelgeisiol ar gyfer creu cyfresi teledu a ffilmiau.

Caiff tiwtoriaid, gwesteion a mwy o wybodaeth eu cyhoeddi’n fuan ar wefannau Llenyddiaeth Cymru ac S4C.

Mewn partneriaeth â S4C a Skillset Cymru

22: Addasu’r Nofel ar gyfer y Sgrîn 15-21 Medi

Page 44: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

42

Ffi: £600 y pen (ystafell sengl) / £500 y pen (rhannu ystafell)Caiff cyfranogwyr eu dewis. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais.

Erbyn heddiw mae’r diwydiant gemau yn cynrychioli dros 50% o’r farchnad lawrlwytho, yn creu mwy o incwm na’r diwydiannau ffilm, cerddoriaeth a theledu gyda’i gilydd. Sut all awduron profiadol Cymraeg agor cil y drws ar y maes creadigol newydd hwn a throsglwyddo eu sgiliau i faes newydd a chyffrous?

Caiff tiwtoriaid, gwesteion a mwy o wybodaeth eu cyhoeddi’n fuan ar wefannau Llenyddiaeth Cymru ac S4C.

Mewn partneriaeth â S4C a Skillset Cymru

23: Gwirioni ar y Gêm 17-21 Tachwedd

Page 45: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

43

Tiwtoriaid: Huw Aaron a Matt Sewell Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Ymunwch â Matt a Huw ar daith i’r man lle mae geiriau a llun yn cwrdd. Nid oes angen paratoi, dim ond cariad tuag at ddarlunio, ychydig o ddychymyg a synnwyr digrifwch. Bydd y prosiectau yn cynnwys creu straeon graffigol, sgetsio natur, darlunio geiriau, cartŵnio a chreu byrddau stori i gyd dan arweiniad y ddau hwyluswr â phensiliau yn eu llaw. Bydd cyfranogwyr yn gadael y cwrs gyda llyfrau sgetsio llawnion, printiau sgrîn, comics, a llond berfa o ysbrydoliaeth i barhau â’r darlunio.

Cartwnydd a darlunydd sy’n byw yng Nghaerdydd yw Huw Aaron. Mae’n cyfrannu’n gyson i Private Eye, The Oldie, a The Spectator, ac yn darlunio llyfrau plant ac yn creu straeon stribed. Ef yw awdur y llyfr comic i blant Llyfr Hwyl y Lolfa.

Mae’r artist Matt Sewell yn adaregydd brwd, yn gyfrannwr cyson i wefan Caught By The River ac yn awdur y llyfrau poblogaidd Our Garden Birds ac Our Songbirds. Mae wedi darlunio ar gyfer Barbour, The Guardian, The V&A, Levis ac wedi peintio waliau i Helly Hansen, Puma a’r RSPB.

24: Darlunio Naratif 18-23 Awst

D

Page 46: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

44

Tiwtoriaid: Philip Gross a Carole Burns Siaradwyr Gwadd: Huw Vaughan Williams a Paul Edwards Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Bydd yr wythnos hon o feirdd, cerddorion a chydweithio rhwng artistiaid yn datgelu pa broses greadigol all ddigwydd wrth i eiriau gwrdd â chelfyddydau eraill. Sut allwn ni ei wthio dros yr ymyl i le all pethau rhyfeddol ddigwydd? Bydd artist a cherddor gwadd yn ymuno â ni ar gyfer y cwrs hwn.

Mae Philip Gross wedi cyhoeddi 10 nofel i bobl ifainc, wedi cydweithio ag artistiaid, cerddorion a dawnswyr ac mae’n Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru. www.philipgross.co.uk

Carole Burns yw un o sefydlwyr prosiect Imagistic sy’n dod â llenyddiaeth a darluniau byd-enwog ynghyd mewn perfformiadau ac ar y dudalen. www.caroleburns.com

Mae Huw Vaughan Williams yn chwarae’r bas dwbl ac yn gerddor jazz sydd wedi astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd.

Mae Paul Edwards yn uwch ddarlithydd mewn celf gywrain ym Mhrifysgol Lincoln. Mae ei waith wedi cael ei arddangos dros y byd i gyd.

25: Where Words Meet Music and Silent Image 25-30 Awst

Page 47: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

45

Page 48: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

46

Tiwtoriaid: Damian Walford Davies a Richard Marggraf Turley Siaradwr Gwadd: Kathryn Simmonds Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Mae’r cwrs hwn ar gyfer beirdd newydd a phrofiadol yn edrych ar sut i greu lleisiau grymus drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o ddeunyddiau, technegau a ffurfiau. O ffynonellau hanesyddol i dafodiaith, o ysgogiadau gweledol i ysbrydoliaeth gofod a lle, caiff cyfranogwyr eu cyflwyno i farddoniaeth sy’n taflu llais a fydd yn llawn adlais o’u profiadau nhw eu hunain.

Mae’r bardd, y beirniad llenyddol a’r libretydd Damian Walford Davies yn awdur sawl casgliad o farddoniaeth yn cynnwys Suit of Lights a Witch. Mae bellach yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Enillodd Richard Marggraf Turley wobr Barn y Bobl yn Llyfr y Flwyddyn 2010. Yn 2007, enillodd y Keats-Shelley Prize

am farddoniaeth. Mae’n dysgu yn Adran Saesneg ag Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth.

Mae Kathryn Simmonds wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, Sunday at the Skin Launderette ac enillodd y Forward Prize am y casgliad cyntaf gorau, a The Visitations.

26: Throwing Voices: Writing Beyond the Self 21-26 Gorffennaf

Page 49: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

47

Tiwtoriaid: Rhian Edwards a Luke Wright Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Dysgwch sut i fynd â’ch barddoniaeth o’r dudalen i’r llwyfan gyda dau o hoff feirdd perfformio’r DU. Drwy gyfres o weithdai a sesiynau un-i-un byddwn yn edrych ar stori, perseinedd, delweddau, ffurf a thechnegau perfformio i’ch helpu i greu barddoniaeth sy’n cyfareddu cynulleidfaoedd o bob math.

Rhoddwyd casgliad cyntaf o gerddi Rhian Edwards Clueless Dogs ar restr fer y Forward Prize am y casgliad cyntaf gorau yn 2012, ac fe enillodd Lyfr y Flwyddyn yn 2013. Enillodd Rhian bleidlais y beirniaid a’r gynulleidfa yng nghystadleuaeth Perfformio Barddoniaeth John Tripp 2011-2012.

Bardd a darlledydd yw Luke Wright sydd i’w weld a’i glywed yn aml ar y teledu a’r radio. Mae wedi ysgrifennu saith sioe farddoniaeth, ac ef yw curadur Arena Farddoniaeth gŵyl Latitude, un o ddigwyddiadau barddonol mwyaf Ewrop. Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf, Mondeo Man yn 2013.

27: Poetry Aloud! 28 Gorffennaf – 2 Awst

Page 50: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

48

Bydd mwy o wybodaeth am y cwrs hwn ar gael yn fuan ar wefan Llenyddiaeth Cymru. Ffi: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

I gyd-fynd â chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, bydd digwyddiadau a darlleniadau o farddoniaeth yn ymwneud â’r rhyfel yn digwydd drwy gydol y pedair blynedd nesaf. Hwn oedd y rhyfel oedd am ddiweddu pob rhyfel, y frwydr fawr olaf. Ond mae hanes yn adrodd stori wahanol.

Bob hydref am y pedair blynedd nesaf byddwn yn gwahodd awduron ac artistiaid i Dŷ Newydd i ymateb i atgofion torfol am ryfel a gwrthdaro.

Drwy gyrsiau preswyl yn Nhŷ Newydd, sgyrsiau ac atgofion yn Yr Ysgwrn - cartref Hedd Wyn, a digwyddiadau amrywiol eraill byddwn yn gwahodd lleisiau newydd i ddatblygu ymateb.

Mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Eryri a Cadw

28: Barddoniaeth Rhyfel a Gwrthdaro 10-15 Tachwedd

Page 51: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

49

Tiwtoriaid: Ed Holden ac Aneirin Karadog Ffi: £450 y pen (ystafell sengl) / £375 y pen (rhannu ystafell)

Wythnos o arbrofi a herio’r ffurf draddodiadol o gyflwyno barddoniaeth. Datgymalwch gerdd i eiriau unigol, adeiladwch gerddi o eiriau strae o restrau siopa. Bydd y cwrs hwn yn archwilio ystyr awen, ac yn edrych am ffyrdd cyffrous newydd o greu a pherfformio barddoniaeth. Byddwch barod am hip-hop uchel-ael, salmau’n cynnwys geiriau Justin Bieber a chynganeddu Saesneg.

Aneirin Karadog yw Bardd Plant Cymru. Enillodd gategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn am ei gasgliad cyntaf, O Annwn i Geltia. Mae’n berfformiwr profiadol gyda chefndir hip-hop, ac mae hefyd yn wyneb cyfarwydd ar S4C fel cyflwynydd ar Heno a Sam ar y Sgrîn.

Mae Ed Holden wedi perfformio i gynulleidfaoedd dros y byd i gyd, a rhoddwyd sylw iddo’n ddiweddar ar raglen Charlie Sloth, UK Rap Anthems a’r rhaglen ddogfen Rap Britannia ar Radio 1. Mae Ed yn cynnal gweithdai hip-hop a bît-bocsio ac yn ceisio ysbrydoli myfyrwyr o bob oed a gallu i arbrofi gyda geiriau.

29: Datgymalu’r Gerdd 1-6 Rhagfyr

D

Page 52: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

50

Tiwtoriaid: Aneirin Karadog a Martin Daws Ffi: £275 y pen (ystafell sengl) / £220 y pen (rhannu ystafell)

Cwrs arbennig ar gyfer addysgwyr. Yn Hydref 2013 aeth Martin Daws, Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru ac Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru i Efrog Newydd i gynhadledd Preemptive Education a gynhaliwyd gan Urban Word NYC ar gyfer addysgwyr barddoniaeth a’r gair llafar. Yn y gynhadledd fe edrychwyd ar faterion difrifol sy’n effeithio ar ieuenctid heddiw, ac adnoddau creadigol ac ymarferol y gellid eu defnyddio i daclo’r problemau. Bydd Martin ac Aneirin yn rhannu eu profiadau o Efrog Newydd a’r cannoedd o weithdai maent wedi eu cynnal dros Gymru.

Aneirin Karadog yw Bardd Plant Cymru. Enillodd gategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn am ei gasgliad cyntaf, O Annwn i Geltia. Mae’n berfformiwr profiadol gyda chefndir hip-hop, ac mae hefyd yn wyneb cyfarwydd ar S4C fel cyflwynydd ar Heno a Sam ar y Sgrîn.

Martin Daws yw Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru. Mae’n fardd perfformiadol clodwiw sydd wedi perfformio dros y byd, yn cynnwys yn y Nuyorican Poets Cafe Slam yn Efrog Newydd. Mae’n arwain gweithdai ieuenctid mewn ysgolion a chymunedau ledled y wlad.

30: Golwg Newydd ar Farddoniaeth mewn Addysg 13-15 Mehefin

BD

Page 53: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

51

Ysgrifennu er Iechyd a Lles

Mae llên yn gallu cynnig llais i bobl, a chyfrwng o hunanfynegiant. Gall ysgrifennu a darllen yn greadigol wella lles meddyliol.

Mae Tŷ Newydd yn parhau i weithio yn y gymuned gyda grwpiau difreintiedig neu anodd eu cyrraedd gan gynnwys pobl â dementia, pobl ag anawsterau iechyd meddwl, gofalwyr ifanc, pobl o ardaloedd difreintiedig, pobl ddi-waith ac awduron hŷn newydd. Nod y prosiectau dan sylw yw dymchwel y clwydi sy’n bodoli rhwng y grwpiau hyn a’r cyfle i fynegi eu hunain yn greadigol.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi darparu gweithdai a phrosiectau mewn ystod eang o leoliadau yn cynnwys canolfannau iechyd meddwl, siopau gwag, cartrefi gofal a nyrsio, ysbytai, ysgolion a chanolfannau ieuenctid eraill, gan gydweithio â phartneriaid sy’n cynnwys Age Cymru, Prifysgol Bangor, Barnardos, Gwasanaethau Ieuenctid, Gwasanaeth y Llyfrgell, The Reader, Cerdd Gymunedol Cymru ac Action for Children.

Mae datblygu dealltwriaeth ac arbenigedd yn y maes hwn yn gynyddol bwysig, ac am nifer o flynyddoedd mae Tŷ Newydd wedi cynnal cyrsiau arloesol Ysgrifennu Mewn Iechyd a Gofal, ac yn fwy diweddar cyrsiau mewn meysydd arbenigol megis Ysgrifennu â Dementia, Ysgrifennu ac Ymwybyddiaeth Ofalgar (Mindfulness) a Darllen ar y Cyd. Dros y blynyddoedd nesaf byddwn yn creu mwy o gyfleoedd hyfforddi ac yn gweithio i ddatblygu systemau achredu.

Nod Llenyddiaeth Cymru yw sefydlu Tŷ Newydd yn Ganolfan Rhagoriaeth Mewn Llenyddiaeth er Iechyd a Lles.

Page 54: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

52

Tiwtoriaid: Jill Teague a Mariel Jones Ffi: £435 y pen (ystafell sengl) / £380 y pen (rhannu ystafell)

Bydd y cwrs arbrofol hwn yn cynnig cyfle i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) ac amrywiaeth o ymdriniaethau therapiwtig drwy ddefnydd rhyngweithiol o farddoniaeth, rhyddiaith a myfyrio. Byddwn yn edrych ar ffyrdd o gyfuno ymwybyddiaeth ofalgar ac ysgrifennu gyda bywyd bob dydd mewn awyrgylch gefnogol, ysbrydoledig a di-feirniadaeth. Y bwriad yw hybu creadigrwydd personol, hunan barch a lles.

Mae Mariel Jones yn athro gyda’r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Ymchwil ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi’n aelod achrededig o’r British Association of Counsellors and Psychotherapists, ac yn cynnig therapi unigol un-i-un i gleientiaid.

Mae Jill Teague yn fardd, awdur ac yn Therapydd Barddoniaeth Ardystiedig. Mae hi’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol i’r International Academy for Poetry Therapy yn Efrog Newydd, ac mae’n gweithio yn hyfforddi ymarferwyr therapi barddoniaeth. Mae wedi derbyn sawl gwobr am waith arloesol ym myd therapi barddoniaeth.

31: Ymwybyddiaeth Ofalgar ac Ysgrifennu Therapiwtig 9-13 Mehefin

Page 55: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

53

Tiwtoriaid ar gyfer y ddau gwrs: Victoria Field a Graham Hartill Siaradwr Gwadd ar gyfer y cwrs llawn: Larry Butler Ffi am y cwrs blasu: £220 y pen (ystafell sengl) / £180 y pen (rhannu ystafell)Ffi am y cwrs llawn: £550 y pen (ystafell sengl) / £450 y pen (rhannu ystafell)

Mae’r dystiolaeth fod ysgrifennu creadigol a darllen yn hybu iechyd a lles yn gynyddol dyfu. Ar y cwrs hwn bydd cyfranogwyr yn defnyddio eu profiadau eu hunain i archwilio’r dulliau gwahanol y gallwn ddefnyddio ysgrifennu er iechyd a lles.

Mae Victoria Field yn Therapydd Barddoniaeth, ac wedi gweithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hi’n gyn-gyfarwyddwr Survivors Poetry, a bu hi’n cadeirio Lapidus, sefydliad y DU dros ysgrifennu er iechyd a lles.

Mae Graham Hartill yn gyd-sefydlydd Lapidus. Mae’n awdur preswyl yng Ngharchar EM y Parc ers saith mlynedd, ac mae’n

dysgu Ysgrifennu Creadigol at Bwrpas Therapiwtig i Sefydliad Metanoia. Mae wedi cyhoeddi cerddi, cyfieithiadau a phapurau, yn fwyaf diweddar ar drawsgrifiad tystiolaeth goroeswyr yr holocost.

Cydsefydlodd Larry Butler y Poetry Healing Project a Survivors’ Poetry Scotland. Cyhoeddwyd ei gasgliad o farddoniaeth, Butterfly Bones yn 2008.

32 & 33: Ysgrifennu mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cwrs Blasu: 4-6 Mawrth Cwrs Llawn: 22-27 Medi

Page 56: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

54

Mae Tŷ Newydd yn trefnu cyrsiau i ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â phrifysgolion. Y bwriad yw rhoi hyder i blant a phobl ifainc i ddatblygu eu talent ysgrifennu.

Mae Tŷ Newydd yn fan lle mae pobl ifainc yn derbyn:

- Yr amser, y gofod a’r hyder i archwilio eu potensial fel ysgrifenwyr mewn awyrgylch ysbrydoledig.

- Sylw personol a chraff gan awduron proffesiynol.- Anogaeth i ddatblygu creadigrwydd yn eu dull unigryw

eu hunain.- Profiadau cyffrous, hapusrwydd a chariad at eiriau wedi

ei ysbrydoli gan swyn Tŷ Newydd a’i amgylchedd.- Y cyfle i archwilio teimladau, i ymateb i’r byd a rhannu

profiadau drwy ysgrifennu.

Mae treulio amser yn yr awyrgylch creadigol hwn i ganolbwyntio ar ysgrifennu yn brofiad amhrisiadwy i ehangu sgiliau ysgrifennu disgyblion, i feithrin y gallu i fynegi eu hunain, ac i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol.

Cysylltwch â Thŷ Newydd ar 01766 522811 am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyrsiau i grwpiau o blant a phobl ifainc.

Ysgolion

Page 57: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

55

Bydd y digwyddiadau’n cynnwys sesiynau cwrdd â’r awdur, gweithdai i ysgolion, a pherfformiadau unigryw. Bydd y Lolfa Lên hefyd ar gael i grwpiau ysgrifennu, darllen a barddoniaeth lleol fel man cwrdd. Cychwynnodd taith y Lolfa Lên yn 2011 fel siop dros-dro yng Nghaerdydd, ac mae wedi teithio o amgylch siopau gwag eraill ers hynny, yn mynd â llenyddiaeth i gymunedau dros Gymru mewn ffordd hwyliog ac agored i bawb.

Rydym ni’n gobeithio dod â fersiwn symudol o’r Lolfa Lên i ganol trefi a phentrefi, ysgolion a gwyliau dros Gymru yn fuan.

Os ydych chi’n perthyn i grŵp darllen neu grŵp ysgrifennu lleol, neu eisiau dod â grŵp o bobl ifainc i weithio yn y Lolfa Lên, cysylltwch â Thŷ Newydd am fwy o wybodaeth.

Y Lolfa Lên

Croeso i’r Lolfa Lên, ystafell gyffyrddus hyblyg ar eich cyfer yn Nhŷ Newydd. Chwaer-ystafell i’r Lolfa Lên sy’n cael ei chreu ar hyn o bryd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Bydd y ddau ofod yn perthyn yn agos iawn o ran steil a chynnwys, ac yn gartref i raglen amrywiol o ddigwyddiadau er mwyn ysbrydoli ac annog pobl o bob oed i ddarllen a mwynhau llenyddiaeth.

Page 58: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

56

Mae Tŷ Newydd yn ofod creadigol i ysgrifenwyr, ond mae hefyd yn fan i ymwelwyr o’r gymuned leol ac ymhellach i ffwrdd.

Rydym wedi comisiynu cyfres o feinciau cywrain sy’n dathlu llenyddiaeth Cymru, ac rydym yn gwahodd cerddwyr ac anturiaethwyr i ddod i’w defnyddio. Bydd y meinciau’n cael eu henwi ar ôl, ac er cof am rai o’n ffigyrau llenyddol mwyaf dylanwadol. Ymysg y rhai cyntaf y bydd Iwan Llwyd, Wil Sam, Dylan Thomas ac R.S. Thomas, a bydd mwy i ddilyn.

I deuluoedd, rydym yn datblygu helfa drysor yn Nhŷ Newydd. Llwybr i’w ddilyn, pethau i’w darganfod ac i’w dehongli, cysylltiadau i’w datrys wrth fwynhau’r gerddi a’r golygfeydd bendigedig. Bydd hyn oll ar gael i bawb yng ngwanwyn 2014.

Rydym hefyd yn credu y dylem ddathlu llenyddiaeth, a dod ag ysbryd y Nadolig i Dŷ Newydd. Byddwn yn cynnal marchnad Nadolig - stondinau a masnachwyr, beirdd a pherfformiadau a gweithdai, a cheirw Siôn Corn. Tra byddwch yn ymweld â’r farchnad Nadolig bydd llenorion a cherddorion o bedair ardal Geltaidd yn datblygu darn o waith ar y cyd yn y tŷ. Rhywbeth cwbl unigryw mewn partneriaeth â chanolfan newydd Pontio ym Mangor. Bydd mwy o fanylion ar gael yn yr haf.

Darganfod

Page 59: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

57

Eleni eto bydd dwy ŵyl unigryw yn dod i Dŷ Newydd. Bydd Gŵyl Ddrama Wil Sam yn dychwelyd yn y gwanwyn i ddathlu bywyd y cymeriad annwyl lleol, Wil Sam. Trwy ei arddull naturiol, ffraeth ac unigryw, llwyddodd ei ddramâu i gyrraedd cynulleidfaoedd niferus, a hynny ar lwyfan, ar y sgrin a thros donfeddi’r radio.

Gwyliau â gwreiddiau

Yna ddiwedd yr hydref bydd yr Ŵyl Farddoniaeth flynyddol yn dod â gwledd o gynghanedd a digwyddiadau barddonol eraill i Lanystumdwy. Dyma’r unig ŵyl Gymraeg o’i math, ac yn gyfle i wylio a gwrando ar rai o feirdd blaenllaw Cymru yn trafod eu gwaith a’n perfformio’n fyw i gynulleidfa.

Am fwy o wybodaeth am y gwyliau hyn a dathliadau tymhorol eraill, bydd gwybodaeth ar gael yn y man ar: www.llenyddiaethcymru.org

Page 60: Rhaglen Cyrsiau a Digwyddiadau Tŷ Newydd 2014

58