2
Sicrhewch eich bod yn barod y gaeaf hwn… Cysylltwch â ni Cadwch fanylion ein rhifau Argyfwng a Thoriadau yn y Cyflenwad yn ymyl eich ffôn. Swydd Caer, Glannau Mersi, Gogledd Swydd Amwythig a Gogledd Cymru Rhif Ffôn Argyfwng a Thoriadau yn yCyflenwad : 0800 001 5400 Am unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â ni ar: 0330 10 10 444

Sicrhewch eich bod yn barod y gaeaf - SPEnergyNetworks › ... › WinterWelsh4ppWeb.pdf · 2014-11-07 · Sicrhewch eich bod yn barod y gaeaf Cysylltwch â ni hwn… Cadwch fanylion

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Sicrhewch eich bod yn barod y gaeaf - SPEnergyNetworks › ... › WinterWelsh4ppWeb.pdf · 2014-11-07 · Sicrhewch eich bod yn barod y gaeaf Cysylltwch â ni hwn… Cadwch fanylion

Sicrhewch eich bod yn barod y gaeaf hwn…Cysylltwch â ni

Cadwch fanylion ein rhifau Argyfwng a Thoriadau yn y Cyflenwad yn ymyl eich ffôn.

Swydd Caer, Glannau Mersi, Gogledd Swydd Amwythig a Gogledd CymruRhif Ffôn Argyfwng a Thoriadau yn yCyflenwad : 0800 001 5400

Am unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â ni ar: 0330 10 10 444

Page 2: Sicrhewch eich bod yn barod y gaeaf - SPEnergyNetworks › ... › WinterWelsh4ppWeb.pdf · 2014-11-07 · Sicrhewch eich bod yn barod y gaeaf Cysylltwch â ni hwn… Cadwch fanylion

Barod am y Gaeaf?Mae angen i ni oll baratoi at y gaeaf, a thrwy ystyried sut y gallai effeithio ar ein teuluoedd, ein busnesau a’n cymunedau, gallwn gynllunio i baratoi’n well, a thrwy ddilyn rhai camau syml, gallwn fod yn barod am y gaeaf. Gall tywydd garw achosi anhwylustod i lawer o bobl, ac rydym yn awyddus i sicrhau fod ein cwsmeriaid mor barod â phosibl.

Offer Meddygol Sicrhewch fod gan unrhyw offer

meddygol fatris wrth gefn.

Radios Cadwch radio sy’n rhedeg ar fatris a chyflenwad

o fatris newydd yn eich t� , efallai y gallwch gael diweddariadau

am y digwyddiad..

Goleuadau Sicrhewch fod gennych dortsh â batris wedi’u

gwefru neu dortsh dynamo y gellir ei weindio. Cadwch eich

tortsh mewn man hwylus. Gallwch hefyd brynu goleuadau sy’n

rhedeg ar fatris y gellir eu bachu mewn soced trydan ac a

wnaiff oleuo’n awtomatig pan fydd toriad yn y cyflenwad trydan.

Gwresogi Os oes gennych le tân agored, cadwch gyflenwad

digonol o goed tân sych mewn man hwylus. Mae gwresogyddion

symudol yn ddewis da, ond byddwch yn ofalus lle byddwch yn eu

gosod, sicrhewch y bydd unrhyw ffynonellau gwres wrth gefn yn

diwallu’r holl ofynion diogelwch ac wedi’u cymeradwyo i’w ddefnyddio

dan do; peidiwch â gadael plant ar eu pen eu hun gyda’r rhain.

Ffônau Ni wnaiff llawer o ffonau modern weithio os torrir y

cyflenwad trydan, felly sicrhewch fod gennych o leiaf un ffôn

yn eich cartref nad yw’n defnyddio’r prif gyflenwad trydan, h.y.

ffôn analog traddodiadol neu ffôn symudol

Cadeiriau esgyn Os oes gennych gadair esgyn sy’n

defnyddio’r prif gyflenwad trydan, edrychwch a oes handlen

arni y gellir ei defnyddio i ryddhau’r gadair a’i dychwelyd yn

ddiogel i’r llawr gwaelod. Mae gan lawer o gadeiriau esgyn

fatri wrth gefn. Os nad oes gan eich cadair fatri o’r fath,

efallai y gellid gosod un.

Cerbydau Cadwch danc tanwydd eich cerbyd yn hanner

llawn o leiaf, oherwydd ni all llawer o orsafoedd petrol bwmpio

tanwydd yn ystod toriad yn y cyflenwad.

Drysau Garej Sicrhewch eich bod yn gwybod sut i agor â

chau drysau garej a gatiau trydan â llaw.

Defnydd inswleiddio Sicrhewch fod eich cartref wedi’i

inswleiddio’n dda a heb unrhyw ddrafftiau. Bydd hyn yn

sicrhau y gwnaiff eich cartref gadw’n gynnes am gyfnod

pe byddai toriad yn y cyflenwad.

Generaduron Os oes gennych eneradur, sicrhewch ei fod

wedi’i osod yn ddiogel. Os nad yw wedi’i osod yn ddiogel,

gallech ddifrodi eich eiddo a pheryglu bywyd ein gweithwyr,

a all fod yn gweithio ar wifrau trydan gryn bellter o’ch cartref.

Cadwch yn gynnes Sicrhewch fod gennych gyflenwad

o flancedi cynnes wrth law.

Os yw’r cyflenwad trydan yn hanfodol ar gyfer eich iechyd (er enghraifft, os byddwch yn defnyddio offer meddygol gartref)

gofynnwch am gael eich cynnwys ar ein cofrestr gwasanaethau blaenoriaethol. I wneud hyn, gallwch gysylltu â ni trwy ein gwefan

www.spenergynetworks.co.ukneu gallwch gysylltu â ni ar 0330 10 10 444.