14
Ysbrydoliaeth a gwybodaeth i’ch helpu chi i godi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant. Boed eich prosiect yn un mawr neu fach, fe fydd yn gwneud gwahaniaeth. Pecyn Codi Arian Pecyn Codi Arian Pecyn Codi Arian Pecyn Codi Arian yn y Gymuned yn y Gymuned yn y Gymuned yn y Gymuned

St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Comunity Fundraising Pack Welsh

Citation preview

Page 1: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Ysbrydoliaeth a gwybodaeth i’ch helpu chi i godi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant. Boed eich prosiect yn un mawr neu fach, fe fydd yn gwneud gwahaniaeth.

Pecyn Codi Arian Pecyn Codi Arian Pecyn Codi Arian Pecyn Codi Arian yn y Gymunedyn y Gymunedyn y Gymunedyn y Gymuned

Page 2: St David's Hospice - Community Fundraising Pack
Page 3: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Ffordd yr Abaty, Llandudno, Conwy LL30 2EN Ffôn 01492 879058 Ffacs 01492 872081 E-bost [email protected]

www.stdavidshospice.org.uk

Abbey Road, Llandudno, Conwy LL30 2EN Tel 01492 879058 Fax 01492 872081

E-mail [email protected] www.stdavidshospice.org.uk

Llywydd Mygedol / Honorary President: Mr William Roache MBE Cadeirydd / Chairman: Mrs Gladys Harrison Noddwyr / Patrons: Dr Oliver P Galpin FRCP, Lady Aberconwy, Marquess of Anglesey, Hon Christopher Mclaren, Elinor Bennet

Cwmni Rhif Cof / Company Reg: 2922828 Elusen Rhif / Reg Charity No. 1038543

Annwyl Gefnogwr, Diolch am eich diddordeb mewn codi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant. Drwy godi arian i gefnogi ein gwaith, fe fyddwch chi’n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl leol sy’n ymdopi â salwch sy’n cyfyngu ar eu bywyd. Mae eich cefnogaeth yn eithriadol o werthfawr i ni. Ar hyn o bryd mae’r costau cynnal clinigol yn £1.6 miliwn y flwyddyn. Mae dros 75 y cant o hyn yn dod o godi arian a rhoddion gwirfoddol. Pwrpas y Pecyn Codi Arian yma yw eich helpu i gynnal digwyddiad dio-gel a llwyddiannus. Rydym yn gwerthfawrogi na fydd nifer o’r pwyntiau hyn yn berthnasol i’ch digwyddiad chi ond mae’n werth eu hystyried wrth wneud penderfyniadau. Unwaith y bydd gennych chi syniad am y math o godi arian yr hoffech ei wneud, llenwch y ffurflen cofrestru codi arian a’i hanfon i’r cyfeiriad uchod. Fel arall e-bostiwch: [email protected] Heb eich cefnogaeth, ni allai’r Hosbis fodoli, felly diolch i chi am bopeth a wnewch ar ein rhan. Tîm Codi Arian Hosbis Dewi Sant

Page 4: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Pwy ydym niPwy ydym niPwy ydym niPwy ydym ni Elusen gofrestredig yw Hosbis Dewi Sant sy’n gofalu am gleifion sydd yn oedolion â salwch diwedd oes, ledled Gogledd Orllewin Cymru. Daw’r rhan helaethaf o’r arian yr ydym ei angen i gynnal yr Hosbis o gefnogaeth yn y gymuned a gweithgareddau codi arian. Felly, drwy godi arian ar gyfer Dewi Sant, fe fyddwch chi’n helpu i wella ansawdd bywyd i gannoedd o gleifion drwy Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy. Yr hyn wnawn niYr hyn wnawn niYr hyn wnawn niYr hyn wnawn ni

Rydym yn darparu cefnogaeth gorfforol, emosiynol ac ysbrydol ar gyfer y claf, ei deulu a’i ofalwyr yn ein Hosbis i Gleifion Preswyl a Gofal Dydd yn Llandudno. Rydym yn darparu gofal lliniarol neu ‘gysur’ – gan gynnwys rheoli poen a symp-tomau, therapïau, cynghori a chyngor er mwyn cynorthwyo’r claf bob cam o’r ffordd.

Mae Dewi Sant yn edrych ar unigolyn fel rhywun byw, nid fel claf sy’n marw ac rydym yn helpu i ychwanegu bywyd at ddyddiau, hyd yn oed os na allwn ni ychwanegu dyddiau at oes.

“Diolch i chi am y gofal ardderchog a dderbyniodd fy ngwraig yn ystod ei harho-siad yn yr Hosbis. Roedd cymaint o bobl broffesiynol o’i chwmpas yn ystod ei dyddiau olaf, a phawb yn gofalu amdani â charedigrwydd, dealltwriaeth ac,

uwchlaw popeth arall, ag urddas. Ymdrech anghymharol ar ran tîm yw’r Hosbis yn bendant a bu’n gysur mawr ar adeg pan roeddem ei angen fwyaf.”

Pam cefnogi Pam cefnogi Pam cefnogi Pam cefnogi Hosbis Dewi Sant ? Hosbis Dewi Sant ? Hosbis Dewi Sant ? Hosbis Dewi Sant ?

Page 5: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

AAAA Abseilio, Aerobeg, Arddangos-feydd, Arwerthiant Blodau, Ar-werthiant Pen Bwrdd, Ar-werthiant Planhigion, Athletau ... BBBB Badminton, Barbeciw, Basâr, Beetle Drive, Beic Un Olwyn, Beicio, Blwch Rhegi, Boreau Coffi, Bowlio,... CCCC Cadw’n Heini, Calan Gaeaf, Caraoce, Cardiau (gwneud/gwerthu), Casgliadau, Cerd-ded, Clirio Wardrob, Criced, Cyfeiriadu, Cyngherddau, Cyngherddau Carolau, Cystad-laethau Tafarn,, Cystadleuaeth Gemau Cyfrifiadurol, Cys-tadleuaeth Golff, Cys-tadleuaeth Tynnu Lluniau... DDDD Da-da yn y Jar, Dartiau, Dawns/Disgo, Dawnsio Llinell, Dig-wyddiad Pedair awr ar Hugain, Digwyddiadau Cerddorol, Dirgelwch Llofruddiaeth, Dringo, Dringo Ysgol, Diwrnod Agored, Diwrnod Gwisgo’n Anffurfiol, Diwrnod Gŵyl Dewi, Diwrnod Iwnifform, Diwrnod heb Iwnifform, Diwrnod Melyn, Diwrnod Môr-ladron, Diwrnod Sant Ffolant, Diwrnod Tân Gwyllt, Diwrnod Tu Chwith, Dringo Mynydd, Dyfalwch y …? EEEE Eillio pen... FFFFFFFF Ffair/Grotos/Lorïau Nadolig; Ffair Bentref, Ffair Deganau, Ffair Sborion, Ffeiriau Ysgol,

GGGG Gemau Bwrdd, Gemau’r Ucheldir, Glanhau Ffenestri, Golchi Ceir, Goresgyn Ffobia, Gorymdaith Bonedi Pasg, Gwau, Gwisg Ffansi, Gwthio Casgen, Gwthio Gwely, Gŵyl

Gynhaeaf ... HHHH Helfa Drysor, Helfa Wyau Pasg, Her Dygnwch, Her Gyrru, Hirdeithio, Hwylio ... IIII Io-io, It’s A Knock Out... JJJJ Jar Newid Mân, Jail Break... LLLL Loncian ... MMMM Marathon, Marchnadoedd, Mastermind, Milltir o Ddarnau Arian, Moes a Phryn ... NNNN Naid Bungee, Nofio, Noson Band, Noson Cabaret, Noson Caws a Gwin, Noson Cwis, Noson Rasio, Noson Rock & Roll, Noson Thema... OOOO Ocsiwn … PPPP Pantomeim, Parasiwtio, Parti Blwyddyn Newydd, Parti Tra-eth, Pêl-droed, Pêl fas, Pêl Foli, Pêl-rwyd, Picnic, Picnic Tedis, Première Ffilm, Pŵl, Pysgota, Pysgota â Gwialen, ...

RRRR Rafftio Dŵr Gwyn, Rafflau, Rali Geir, Ras Bramiau, Ras Cwch y Ddraig, Ras Falŵns, Ras Grem-pogau, Ras Hwyaid, Ras Hwyl, Ras Rwystrau, Rasio Ceffylau, Rasio Ceir, Rasio Ceir Gwyllt, Rasys Milgwn, Rasys Mulod, Ras Rafftiau, Regata, Reidio Beic, Rownderi … RHRHRHRH Rhedeg, Rhodd Cymorth, Rhwyfo … SSSS Saethu Colomennod Clai, Saethyddiaeth, Sêl Cist Car, Sêl Garej, Sgipio, Sgitls, Sgle-frio, Sioe Amaethyddol, Sioe Anifeiliaid Anwes, Sioe Brio-das, Sioe Fabanod, Sioe Ffasiwn, Sioe Gathod, Sioe Gŵn, Sioe Hen Greiriau, Sioe Hud, Snwcer, Stondin Nwyddau Bron yn Newydd, Swîp ... TTTT Tawelwch Noddedig, Te Hufen, Teithiau, Tenis, Tombola, Trampolîn, Triathlon, Trochi Diwrnod San Steffan, Tybiau Lwcus, Tyfu Barf, Tynnu Rhaff... YYYY Ymwan...

Mae modd troi unrhyw beth y gallwch chi feddwl amdano sy’n hwyl ac Mae modd troi unrhyw beth y gallwch chi feddwl amdano sy’n hwyl ac Mae modd troi unrhyw beth y gallwch chi feddwl amdano sy’n hwyl ac Mae modd troi unrhyw beth y gallwch chi feddwl amdano sy’n hwyl ac y gellid ei noddi neu y gallai pobl dalu i gymryd rhan ynddo yn y gellid ei noddi neu y gallai pobl dalu i gymryd rhan ynddo yn y gellid ei noddi neu y gallai pobl dalu i gymryd rhan ynddo yn y gellid ei noddi neu y gallai pobl dalu i gymryd rhan ynddo yn

gyfrwng i godi arian. gyfrwng i godi arian. gyfrwng i godi arian. gyfrwng i godi arian.

Syniadau am Syniadau am Syniadau am Syniadau am Godi Arian o A i Y!Godi Arian o A i Y!Godi Arian o A i Y!Godi Arian o A i Y!

Page 6: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Boed hynny’n reidio beic o Land's End i John o' Groats neu’n neidio allan o awyren o uchder o 10,000 troedfedd, dyma rai awgrymiadau hanfodol ar gyfer codi arian nawdd

Dywedwch wrth BawbDywedwch wrth BawbDywedwch wrth BawbDywedwch wrth Bawb Dywedwch wrth eich holl ffrindiau, eich teulu, eich cydweithwyr a’ch cymdogion am yr hyn rydych chi’n ei wneud – fydd dim modd id-dyn nhw eich noddi os nad ydyn nhw’n gwybod amdano! Cofiwch roi eich noddwr mwyaf hael ar frig y dudalen: fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn dilyn ei arweiniad.

Os ydych chi’n cymryd rhan mewn digwyddiad noddedig, mater hawdd yw gosod tudalen codi arian ar-lein yn rhad ac am ddim ar www.justgiving.com/stdavidshospice. Dull o reoli eich trefn o godi arian ar-lein yw Just Giving.

Gall pobl gyfrannu’n gyflym ac yn ddiogel ar-lein â cherdyn credyd neu dde-byd, ac mae’n golygu nad oes raid i chi fynd ar ôl pobl i gael eu harian nawdd! Gall fod yn ffordd wych a gwerthfawr o annog eich noddwyr i dalu’n gyflym, yn dreth-effeithlon ac yn rhwydd. Mae modd i unrhyw un godi arian yn rhwydd drwy ddefnyddio’r offer codi arian ar-lein a ddarperir gan Just Giving.

Mae Rhodd Cymorth yn fodd gwirioneddol hawdd o gynyddu’r arian a godwch chi oherwydd ei fod yn cynyddu’r swm o arian a dderbyniwch chi gan eich noddwyr/ cyfranwyr heb fod yn rhaid iddynt wario’r un geiniog yn ychwanegol. Drwy wneud peth mor

syml â rhoi tic mewn blwch ar ffurflen rodd neu ffurflen nawdd, gall eich cef-nogwyr alluogi Hosbis Dewi Sant i hawlio 25 y cant yn ychwanegol ar eu rhodd gan HMRC. Mae’n werth meddwl am hyn cyn i chi ddechrau gofyn i bobl am arian gan ei bod yn well casglu’r holl fanylion angenrheidiol wrth i chi fynd ymlaen.

Arian Cyfatebol. Holwch eich cwmni a oes ganddo gynllun ariannu cyfatebol. Fe fydd nifer o gwmnïau’n cyfateb £1 am £1 i weithwyr sy’n cymryd rhan mewn cynllun codi arian ar gyfer elusen. Mae’n ffordd wych o roi hwb i’r arian y gwnaethoch ei godi ac mae’n sbardun ychwanegol i’ch holl ffrindiau a’ch cydweithwyr.

Codi Arian Nawdd Codi Arian Nawdd Codi Arian Nawdd Codi Arian Nawdd

Page 7: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Gwarchod eich hun a’r cyhoedd Gwarchod eich hun a’r cyhoedd Gwarchod eich hun a’r cyhoedd Gwarchod eich hun a’r cyhoedd Os ydych chi’n trefnu eich digwyddiad eich hun, dyma ambell awgrym defnyddiol a rhai pethau pwysig y bydd gofyn i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Sicrhewch ei fod yn gyfreithlonSicrhewch ei fod yn gyfreithlonSicrhewch ei fod yn gyfreithlonSicrhewch ei fod yn gyfreithlon Rheolir codi arian ar gyfer elusen gan y gyfraith. Am ragor o wybodaeth ewch i www.how2fundraise.org. Dyma adnodd defnyddiol gan y Sefydliad Codi Arian (Institute of Fundraising.) Dyma restr wirio ddefnyddiol: • Dylai unrhyw gyhoeddusrwydd ddatgan y canlynol yn eglur: ‘Trefnwyd gan dry-

dydd parti er mwyn codi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant, rhif elusen cofrestre-dig 1038543’

• Trefnwch eich bod yn cael yr holl drwyddedau, hawlenni a chydsyniadau

angenrheidiol ar gyfer eich digwyddiad neu’ch gweithgaredd h.y. Rhybudd Digwyddiadau Dros Dro, Trwydded Casglu ar y Stryd

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael cyngor. • Dilynwch drefnau hylendid bwyd da a chydymffurfiwch â rheoliadau diogelwch

bwyd www.food.gov.uk • Cydymffurfiwch ag unrhyw Godau Ymarfer gan y Sefydliad Codi Arian sy’n

berthn sol i’ch digwyddiad chi (h.y. rafflau a loteris). Am ragor o wybodaeth ewch i www.institute-of-fundraising.org.uk

Sicrhewch ei fod yn ddiogelSicrhewch ei fod yn ddiogelSicrhewch ei fod yn ddiogelSicrhewch ei fod yn ddiogel • Cynhaliwch asesiad risg cyn eich digwyddiad neu weithgaredd. Gallwch gael

rhagor o wybodaeth ar www.hse.gov.uk • Efallai y bydd angen i chi feddwl am gael yswiriant ar gyfer rhai digwyddiadau.

Gwnewch yn siŵr fod gan unrhyw fan cyfarfod y byddwch chi’n ei ddefnyddio’r yswiriant a’r tystysgrifau iechyd a diogelwch priodol.

• • Cymorth Cyntaf – Gwnewch yn siŵr fod cefnogaeth ddigonol ar gael ar gyfer di

wyddiadau mwy. Y darparwyr yw Ambiwlans Sant Ioan a’r Groes Goch Brydeinig.

Trefnu eich Trefnu eich Trefnu eich Trefnu eich digwyddiad eich hundigwyddiad eich hundigwyddiad eich hundigwyddiad eich hun

Page 8: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Po fwyaf o bobl sy’n gwybod am eich digwyddiad codi arian - sut y gallan nhw gyfrannu a gwybodaeth am Hosbis Dewi Sant - cyntaf yn y byd y gwnewch chi gyrraedd eich targed. Dyma rai awgrymiadau syml i’ch rhoi chi ar ben ffordd …

Swyddog Cyfathrebu’r HosbisSwyddog Cyfathrebu’r HosbisSwyddog Cyfathrebu’r HosbisSwyddog Cyfathrebu’r Hosbis Os am gyngor a chymorth ynghylch cyhoeddusrwydd, cysylltwch â Swyddog Cyfathrebu’r Hosbis, Rachel Owen, drwy ffonio (01492) 879058 est. 313, e-bostio [email protected] neu galwch heibio’r Hosbis yn ystod oriau swyddfa.

Posteri a ThaflenniPosteri a ThaflenniPosteri a ThaflenniPosteri a Thaflenni

Crëwch bosteri a thaflenni syml a deniadol i’w dosbarthu i’r cyhoedd ac i’w harddangos ar fyrddau arddangos siopau, canolfannau cymunedol, tafarnau a mannau cyfarfod poblogaidd eraill. Cofiwch roi eich manylion cyswllt, y dyddiad, amser a lleoliad eich digwyddiad. Gallwch gael templedi posteri Hosbis Dewi Sant (copïau digidol neu galed) o’r Adran Codi Arian. Ffoniwch 01492 873664 i gael rhagor o wybodaeth.

Rhwydweithio CymdeithasolRhwydweithio CymdeithasolRhwydweithio CymdeithasolRhwydweithio Cymdeithasol Mae rhwydweithio cymdeithasol yn ddull cyflym ac effeithiol o le-daenu’r gair. Os oes gennych chi gyfrif Twitter, cyhoeddwch fanylion eich digwyddiad a gofynnwch i’ch ffrindiau ail-drydar. Os oes gennych chi eich cyfrif Facebook eich hun, crëwch ddig-wyddiad, gwahoddwch eich ffrindiau a gofynnwch iddyn nhw ei aw-grymu i eraill. Mae’r We’n ffordd wych o hysbysu pobl am eich apêl codi arian – beth am bostio blog am eich paratoadau a lluniau o’r diwrnod mawr? A chofiwch ddiolch i’r rhai hynny sydd wedi cy-

frannu drwy adael iddyn nhw wybod beth oedd y cyfanswm a godwyd. Fel arall, mae gan yr Hosbis ei gyfrifon Twitter a Facebook ei hun a byddai’n falch o’ch helpu i roi cyhoeddusrwydd i’ch digwyddiadau i’w ddilynwyr.

Papurau newydd a Gorsafoedd Radio lleol Papurau newydd a Gorsafoedd Radio lleol Papurau newydd a Gorsafoedd Radio lleol Papurau newydd a Gorsafoedd Radio lleol Paratowch ddatganiad syml i’r wasg a chysylltwch â’ch papur newydd a’ch gorsaf radio lleol i ddweud wrthyn nhw am eich digwyddiad. Mae tudalennau ‘beth sydd ymlaen’ a bwletinau’r gymuned yn cyrraedd llawer iawn o bobl ac maen nhw’n ffynhonnell gyhoeddusrwydd werthfawr iawn.

Lledaenwch y gairLledaenwch y gairLledaenwch y gairLledaenwch y gair Ac yn olaf, ond nid y lleiaf, lledaenwch y gair! Dywedwch wrth eich holl ffrin-diau a’ch teulu am eich digwyddiad a gofynnwch iddyn nhw wneud yr un peth.

Hyrwyddo Hyrwyddo Hyrwyddo Hyrwyddo eich digwyddiadeich digwyddiadeich digwyddiadeich digwyddiad

Dywedwch wrth bobl amdano!Dywedwch wrth bobl amdano!Dywedwch wrth bobl amdano!Dywedwch wrth bobl amdano!

Page 9: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Tîm bychan ydym ni ond er mwyn cynyddu llwyddiant eich digwyddiad, ry-dym yn falch o’ch helpu lle gallwn ni. Gall yr Hosbis ddarparu’r canlynol: • Baneri/ standiau arddangos yr Hosbis • Blychau/bwcedi casglu • Ffurflenni Nawdd • Amlenni Cyfraniadau Rhodd Cymorth – dull hawdd ac effeithiol o ofyn i’ch cy-

frawneud datganiad rhodd cymorth. Y cyfan sy’n rhaid iddyn nhw ei wneud yw rhoi eu siec neu arian parod yn yr amlen a nodi eu manylion ar y blaen.

• Llythyr o Awdurdod i godi arian ar ran Hosbis Dewi Sant • Taflenni Gwybodaeth a Chylchlythyron yr Hosbis • Ffurflenni Asesu Risg • Cyhoeddusrwydd drwy ein gwefan, ein cylchlythyr ac e-byst yn ogystal â sylw a chyhoeddusrwydd arall yn y wasg lle bo’n briodol. • Os oes angen, cymorth ymarferol o ran posteri, tocynnau ac ati • Posibilrwydd o gael cynrychiolydd a siaradwr o Hosbis Dewi Sant

Mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Codi Arian ar unrhyw adeg ar 01492 873665

[email protected]

Sut gall Dewi SantSut gall Dewi SantSut gall Dewi SantSut gall Dewi Sant eich helpu chi eich helpu chi eich helpu chi eich helpu chi

Page 10: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Os hoffech chi barhau i gymryd rhan yng ngwaith Hosbis Dewi Sant, gallwch chi ein cefnogi mewn sawl modd. RhoddionRhoddionRhoddionRhoddion Anfonwch rodd i’r hosbis, sieciau’n daladwy i “Hosbis Dewi Sant”. Os ydych chi’n talu treth, ystyriwch Rhodd Cymorth sy’n cynyddu gwerth eich rhodd yn sylweddol.

Rhoddion RheolaiddRhoddion RheolaiddRhoddion RheolaiddRhoddion Rheolaidd Mae rhodd reolaidd i Hosbis Dewi Sant, waeth pa mor fychan, yn ddull gwych o ddangos eich bod yn malio. Dros gyfnod o 12 mis gallai hyn gael effaith sylweddol ar fywyd unigolyn lleol sydd â salwch terfynol a’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr.

CymynroddionCymynroddionCymynroddionCymynroddion Cynhwyswch yr Hosbis yn gymyndderbyniwr yn eich ewyllys – does dim angen talu Treth Etifeddu.

GwirfoddoliGwirfoddoliGwirfoddoliGwirfoddoli Rhowch ambell awr i helpu yn yr Hosbis drwy ofalu, cludo cleifion, gweithio yn y dderbynfa, gosod blodau, gwneud dyletswyddau garddio, ac ati.

Helpu yn ein SiopauHelpu yn ein SiopauHelpu yn ein SiopauHelpu yn ein Siopau Gwirfoddolwch am ychydig oriau yn un o siopau elusen yr hosbis ym Mae Colwyn, Conwy, Craig-y-Don, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Porthmadog, Llandrillo -yn - Rhos, Llanrwst neu yn y Ganolfan Ddos-barthu yn Llandudno.

LotriLotriLotriLotri Dewch yn aelod a/neu cyflwynwch eraill i’r cyfle i ennill hyd at £5,000 yn raffl wythnosol Lotri’r hosbis. Ystyriwch ymuno â’r tîm o Gasglwyr Lotri a derbyniwch daliad comisiwn bychan. 0800 9706242

Lledaenwch y gair Lledaenwch y gair Lledaenwch y gair Lledaenwch y gair – Chwiliwch amdanom ni ar Facebook (tudalen dilynwyr a grŵp) a Twitter (@stdavidshospice) a helpwch ni i ledaenu’r gair.

Y newyddion diweddaraf Y newyddion diweddaraf Y newyddion diweddaraf Y newyddion diweddaraf — Cofrestrwch i dderbyn y newyddion diwed-daraf yn rheolaidd am ein gwaith a sut i gymryd rhan. E-bost: [email protected]

Dulliau eraill Dulliau eraill Dulliau eraill Dulliau eraill o gefnogi Hosbis Dewi Sant o gefnogi Hosbis Dewi Sant o gefnogi Hosbis Dewi Sant o gefnogi Hosbis Dewi Sant

Page 11: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Diolch yn fawr iawn i chi am gynnig cefnogi Hosbis Dewi Sant. Treuliwch ychydig funudau’n llenwi’r ffurflen hon a’i dychwelyd gan ddef-nyddio naill ai’r cyfeiriad ar waelod y dudalen hon neu ei ffacsio i 01492 872081. Fe fydd hyn yn ein helpu ni i nodi’r dulliau y gallwn eu defnyddio i wneud eich proses o godi arian yn llwyddiant ysgubol.

Eich manylion Eich manylion Eich manylion Eich manylion Eich enw Cyfeiriad Cod Post Ffôn Eich cyfeiriad e-bost Ar gyfer digwyddiadau corfforaethol rhowch enw eich cwmni Oes gennych chi unrhyw reswm penodol dros gefnogi Hosbis Dewi Sant?

Eich digwyddiad

Dyddiad y digwyddiad Amser Lle Cyfeiriad Hoffech chi roi cyhoeddusrwydd i’ch digwyddiad ar ein gwefan? Hoffwn / Na hoffwn

Rhowch ddisgrifiad byr o’r digwyddiad sydd gennych chi ar y gweill.

Danfonwch y ffurflen hon, os gwelwch yn dda, i: Adran Codi Arian, Hosbis Dewi Sant,

Ffordd yr Abaty, Llandudno, Conwy LL30 2EN. Tel: 01492 873665 Ffacs: 01492 872081

Ffurflen Gofrestru Ffurflen Gofrestru Ffurflen Gofrestru Ffurflen Gofrestru Codi Arian Codi Arian Codi Arian Codi Arian

Page 12: St David's Hospice - Community Fundraising Pack
Page 13: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Enw Cyfeiriad

E-bost Teitl y digwyddiad: Y Swm a Godwyd: Hoffem eich hysbysu am y gwaith gwerthfawr yr ydym yn ei wneud; os nad ydych chi eisiau derbyn yr wybodaeth hon gadewch inni wybod drwy roi tic yma:

Unwaith y byddwch chi wedi llenwi’r ffurflen hon, byddem yn ddiolchgar pe gallech chi roi’r canlynol i ni:

Siec (iau) am yr arian a godwyd yn daladwy i ‘Hosbis Dewi Sant’ Yr holl ffurflenni nawdd (heb y rhain allwn ni ddim hawlio Rhodd Cymorth) Eich Ffurflen Talu i Mewn wedi’i llenwi (y ddalen hon) a’u hanfon i :- Yr Adran Codi Arian, Hosbis Dewi Sant, Ffordd yr Abaty, Llandudno, Conwy LL30 2EN Os hoffech chi gyfrannu eich arian mewn arian parod, gallwch ddod ag ef i’r Swyddfa Codi Arian yn yr Hosbis rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ar ran yr holl dîm yn Hosbis Dewi Sant …… DIOLCH!

Ni fyddem yn gallu darparu gofal a chymorth i bobl leol heb y gefnogaeth wych a gawn ni gan y gymuned.

Llongyfarchiadau ! Llongyfarchiadau ! Llongyfarchiadau ! Llongyfarchiadau ! Unwaith y byddwch chi wedi casglu’r arian a godwyd, llenwch y Unwaith y byddwch chi wedi casglu’r arian a godwyd, llenwch y Unwaith y byddwch chi wedi casglu’r arian a godwyd, llenwch y Unwaith y byddwch chi wedi casglu’r arian a godwyd, llenwch y Ffurflen Talu i Mewn yma:Ffurflen Talu i Mewn yma:Ffurflen Talu i Mewn yma:Ffurflen Talu i Mewn yma:

Talu arian i’r hosbisTalu arian i’r hosbisTalu arian i’r hosbisTalu arian i’r hosbis

Page 14: St David's Hospice - Community Fundraising Pack

Hosbis Dewi SantHosbis Dewi SantHosbis Dewi SantHosbis Dewi Sant Ffordd yr Abaty Llandudno Conwy LL30 2EN

Ymholiadau Cyffredinol: 01492 879058

Codi Arian : 01492 873665

Swyddog Cyfathrebu: 01492 879058 est 263 Loteri Hosbis Dewi Sant: 0800 9706242

Canolfan Ddosbarthu Siopau’r Hosbis: 01492 878935

www.stdavidshospice.org.ukwww.stdavidshospice.org.ukwww.stdavidshospice.org.ukwww.stdavidshospice.org.uk

Cysylltiadau DefnyddiolCysylltiadau DefnyddiolCysylltiadau DefnyddiolCysylltiadau Defnyddiol

How 2 Fundraise www.how2fundraise.org

Y Sefydliad Codi Arian www.institute-of-fundraising.org.uk

Adran Weithredol Iechyd a Diogelwch www.hse.gov.uk

Asiantaeth Safonau Bwyd www.food.gov.uk

Justgiving www.justgiving.com/stdavidshospice

Rhodd Cymorth www.tax-effectivegiving.org.uk

Cyswllt â’r Hosbis Cyswllt â’r Hosbis Cyswllt â’r Hosbis Cyswllt â’r Hosbis a Chysylltiadau Defnyddiol a Chysylltiadau Defnyddiol a Chysylltiadau Defnyddiol a Chysylltiadau Defnyddiol