16
Caerdydd Gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Preswylwyr Caerdydd yn fuddugol yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2011 Hefyd yn y rhifyn hwn... Partneriaeth Integredig Newydd ar gyfer Caerdydd Gweinidog yn gweld arferion gorau

Sylw ar adal Caerdydd

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Wales & West Housing Association's newsletter for the Cardiff area (Cymraeg)

Citation preview

Page 1: Sylw ar adal Caerdydd

CaerdyddGwanwyn 2012

Sylw ar ardal

Preswylwyr Caerdydd yn fuddugol yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2011Hefyd yn y rhifyn hwn...

Partneriaeth Integredig Newydd ar gyfer Caerdydd

Gweinidog yn gweld arferion gorau

Page 2: Sylw ar adal Caerdydd

2www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Nid oes angen i mi ddweud fod pawb ohonom yn parhau i wynebu amodau economaidd heriol iawn, ac yn awr yn fwy nag erioed, rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, cefnogi arloesi i gwrdd â galw, ac yn syml, mynd y fi lltir ychwanegol i helpu ein preswylwyr a’u cymunedau i helpu eu hunain.

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd, i helpu ein preswylwyr ymdrin â phroblemau yn ymwneud ag arian, a chael cymaint â phosibl ohonyn nhw i ddefnyddio’r we fyd eang. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol er mwyn helpu pobl i gael gwaith neu hyfforddiant, naill o’r newydd neu ailafael yn yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn fl aenorol.

Yna, mae ein datblygiadau diweddaraf yn y busnes, gan gynnwys newyddion am ein rhaglen ddatblygu £101 miliwn, ein strategaeth newydd ar Gyfranogiad

Preswylwyr, a sut rydym yn mynd ati i hunanasesu. Ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dweud wrthych chi ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru yn rhestr cwmnïau gorau 2012 y Sunday Times.

Felly, rydw i’n gobeithio y gwnewch chi gymryd pum munud i ddarllen y dafl en newyddion hon, ac y bydd yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol yn eich golwg chi.

Yn olaf, rydym y gwerthfawrogi eich adborth bob amser, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni i ddweud wrthym beth yw eich barn ar ‘Sylw ar...’, y newyddion sydd ynddo, neu unrhyw agwedd arall ar ein busnes.

Anne HincheyPrif Weithredwr

Croeso i rifyn gwanwyn 2012 Sylw ar ardal CaerdyddIvor Gittens, Cadeirydd WWHA, ac Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, gyda Roman Villains FC yn eu crysau newydd a noddir gan WWHA

Page 3: Sylw ar adal Caerdydd

3www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Partneriaeth agos a chynhyrchiol

Rydym yn parhau i fwynhau perthynas agos a chynhyrchiol gyda Chaerdydd a’n partneriaid eraill, gan gydweithio i ymdrin â’r heriau niferus sy’n wynebu darparwyr tai cymdeithasol, a’r rhai sydd angen tai ym mhrifddinas Cymru.

Yn fwyaf diweddar, mae hyn wedi ein harwain ni at ddatblygu a goruchwylio Strategaeth Tai Lleol newydd ar gyfer 2012 – 2017, a ddyluniwyd i gefnogi Partneriaeth Integredig newydd Caerdydd. Rydym hefyd yn aelodau gweithgar o’r grŵp sy’n adolygu dyrannu tai

cymdeithasol.

Yn WWHA, rydym wedi newid ein dull o ddyrannu ein cartrefi er 2009, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Cyngor i helpu i ail-ddylunio’r rhestr aros gyffredin, fel ei bod yn fwy effeithlon ac yn canolbwyntio ar y bobl sydd fwyaf angen tai.

Mae hwn yn gyfnod anodd yn economaidd i bawb ohonom, ond drwy bartneriaethau cryf, creadigrwydd a gwaith caled, rydym yn hyderus ein bod ni mewn lle da i fynd i’r afael â’r heriau niferus sydd o’n blaenau.

Preswylwyr gwobredigYn hydref 2011, cynhaliwyd ein pedwaredd seremoni Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth flynyddol, sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo synnwyr o gymuned ymysg ein preswylwyr.

Cafodd saith unigolyn a grŵp o ardal Caerdydd le ar restri byr y categorïau. Y rhain oedd:

• Unity – grŵp o gyffiniau stad Church Road yn y Caerau, Caerdydd. Fe gawson nhw eu henwebu gan Simon Murray o Gymunedau yn Gyntaf Trelái a’r Caerau, a ddywedodd: “Unity yw un o’r grwpiau mwyaf rhagweithiol rydym wedi gweithio

â nhw, ac maen nhw wedi cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd nifer o bobl ar eu stad ac yng nghymunedau ehangach Trelái a’r Caerau.”

• Dave Farah – un o breswylwyr Lord Pontypridd House yn Nhreganna, Caerdydd, sy’n defnyddio hen welyau blodau i dyfu amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau.

• Garddwyr Wilfred Brook House – grŵp yn y cynllun er ymddeol hwn yn Grangetown, a gododd arian i brynu dodrefn gardd, hadau, casgen ddŵr a sied compost.

...parhad.

Page 4: Sylw ar adal Caerdydd

4www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

• Liberty – o’r Caerau yng Nghaerdydd. Wedi ei sefydlu flwyddyn yn unig yn ôl, mae Cymunedau yn Gyntaf Trelái a’r Caerau yn dweud fod y grŵp rhagweithiol sy’n tyfu’n gyflym yn ‘cael effaith enfawr ar yr ardal.’

• St Clements Court – o Bentwyn. Cafodd Clwb Cinio’r Outstretched Hand ei achub

rhag cau gan y cynllun, ac yn awr mae dros 30 o bobl hŷn yn cael budd ohono.

• Cafodd Sally Thomas, dynes garedig o Great Western Court, le ar restr fer categori Cymydog Da’r Flwyddyn.

• Caerau Court Rd Potters – clwb garddio gwirfoddol i’r preswylwyr.

Preswylwyr gwobredig ...parhad.

Unity yn derbyn eu gwobr yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth WWHA 2011

Dave Farah Caerau Court Potters

Page 5: Sylw ar adal Caerdydd

5www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Roman Villains yn edrych yn dda

Fe wnaeth y tîm Roman Villains o Gynghrair y Sul LAZAROU ddechrau’r tymor eleni gyda’u nawdd cyntaf erioed.

Mae WWHA yn noddi’r tîm Roman Villains o Gynghrair y Sul Lazarou.

Wedi ei ffurfi o yn 2008 gan grŵp o ffrindiau a oedd yn arfer chwarae pêl-droed dan 16 yn Nhrelái, maen nhw’n bwriadu cyrraedd Uwchgynghrair y Sul Lazarou y tymor hwn.

Diwrnod amnest sgipiauYn ôl eu harfer yn ystod y blynyddoedd diweddar, cynhaliodd aelodau o Gompact Llaneirwg ddiwrnod Amnest Sgipiau llwyddiannus yn ddiweddar, gyda’r tri landlord cymdeithasol yn darparu pum sgip i breswylwyr ar Newent Road er mwyn eu helpu i gael gwared ag eitemau nad oedden nhw eu hangen, a thacluso’r ardal.

Ivor Gittens, Cadeirydd WWHA, ac Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, gydag aelodau Roman Villains FC

Page 6: Sylw ar adal Caerdydd

6www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Gweinidog yn gweld arferion gorau

Roeddem wrth ein bodd pan ymwelodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt â phreswylwyr o Laneirwg yn ddiweddar. Bu’n gweld rhodfa ac ystafell ymolchi wedi ei haddasu Anne a Brian Dixon.

Mae’r Dixons, sydd ill dau â phroblemau iechyd, wedi cael budd o Grant Addasiadau Corfforol gan Lywodraeth Cymru .

Rhagor o gartrefi fforddiadwy yng NghaerdyddRydym yn trafod gyda nifer o ddatblygwyr, gyda bwriad o ddarparu tai fforddiadwy y mae angen mawr amdanyn nhw ledled Cymru.

Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried datblygu pedwar safle, gan gynnwys Canolfan Hamdden Western, safle yn Nhrelái gyda photensial i adeiladu 27 cartref teuluol, Pen-y-lan (4 uned), ac 11 uned yn Brython Drive.

Ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Rydym newydd gofrestru â’r Protocol Rhannu Gwybodaeth newydd o’r enw WASPI (Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru) ar gyfer achosion o drais domestig MARAC (cynadleddau asesiad risg aml-asiantaethol).

Ni yw’r ail gymdeithas tai yng Nghymru i gofrestru.

Mae WASPI yn rhoi fframwaith i sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ac sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag iechyd, addysg, diogelwch, atal troseddau a lles cymdeithasol pobl yng Nghymru. Yn neilltuol, mae’n berthnasol i sefydliadau sy’n cadw gwybodaeth am unigolion a allai deimlo ei bod yn briodol neu’n angenrheidiol rhannu’r wybodaeth honno gydag eraill mewn ffordd gyfreithlon a deallus.

Mae fframwaith WASPI yn cael ei gydnabod fel un o elfennau allweddol rhaglen Rhannu Gwybodaeth Bersonol Llywodraeth Cymru, ac yn hwyluso hyn drwy sefydlu gofynion a mecanweithiau y cytunwyd arnyn nhw i gyfnewid gwybodaeth bersonol rhwng sefydliadau gwahanol sy’n bartneriaid, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a sefydliadau preifat ac annibynnol.

Nid oes cyfyngiad ar y sefydliadau a all fod yn aelod o fframwaith WASPI a’i ddefnyddio.

Page 7: Sylw ar adal Caerdydd

7www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Buddsoddiad parhaus yn ein cartrefi

Yn ystod chwe mis diwethaf 2011, fe wnaethom wario £5.7 miliwn ar ailwampio ein cartrefi ledled Cymru, ac rydym yn debyg o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd 2012.

Ledled Cymru, rydym wedi buddsoddi £1.3 miliwn mewn adnewyddu ceginau mewn dros 400 o gartrefi. Mae hyn yn cynnwys £406,000 ar y cynlluniau canlynol yng Nghaerdydd:

• Great Western Court (£62,000)• Wilfred Brooke House (£126,000)• Slocombe Cottages (£30,000)• Haig Place (£15,000)• Tidenham Place (£45,000)• Emblem Close / Cloister Court (£50,000)• Carmel Court (£18,000)• Old School Court (£60,000).

Rydym hefyd wedi gwario dros £600,000 yn ailwampio ystafelloedd

ymolchi, gan gynnwys £143,000 ar gartrefi yng Nghaerdydd, sef yn Carmel Court, Pent Lee a Waun Lee.

Rydym hefyd yn buddsoddi £1.2 miliwn yn rhagor drwy Gymru gyfan fel rhan o raglen fawr i adnewyddu ffenestri, a ddylai wneud ein cartrefi yn fwy cyffyrddus, yn gynhesach, yn rhatach i’w gwresogi ac yn llai tebygol o fod angen gwaith cynnal a chadw drud yn y dyfodol agos.

Bydd sawl cynllun yng Nghaerdydd ar eu hennill yn sgil hyn, gan gynnwys y £550,000 sy’n cael ei wario yn Caerau Court a Church Road yn Nhrelái.

Rydym hefyd wedi gosod system gwres canolog nwy newydd yng nghynllun er ymddeol Great WesternCourt, ac wedi adnewyddu’r gwifrau trydan a’r goleuadau cymunol yn West Lee, y ddau yn ardal Treganna.

Page 8: Sylw ar adal Caerdydd

8www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Preswyliwr wedi gwirioni’n lân gyda gwaith gwirfoddolwyr yn gweddnewid ei gardd

Roedd Angela Biston, un o breswylwyr Llaneirwg, wedi gwirioni’n lân pan fu gwirfoddolwyr o Gymdeithasau Tai WWHA, Hafod a Linc-Cymru yn gweddnewid ei gardd.

Dywedodd Mrs Biston wrthym fod ei gardd gefn wedi tyfu’n wyllt gan nad oedd hi’n gallu gofalu amdani, gyda chwyn, mieri a gwair hir yn llenwi darn o dir a oedd unwaith yn hardd iawn.

Fe wnaeth y gwirfoddolwyr (gwelir rhai ohonyn nhw yn y llun), a oedd i gyd yn rhan o is-grŵp Compact Stadau ac Amgylchedd Llaneirwg, beri i Mrs Biston fod yn syfrdan wrth osod patio a llwybrau newydd, plannu llwyni, blodau a llain lysiau newydd, a lleihau maint y plot drwy osod ffens derfyn newydd, fel y bydd yr ardd yn

haws iddi hi ei rheoli. Yn ogystal, fe wnaeth canolfan arddio Blooms roi potyn yn llawn planhigion i ychwanegu at yr arddangosfa liwgar.

“Roeddwn i’n hollol syfrdan ac wedi gwirioni’n lân – nid oedd llanast yn unrhyw le, dim ond gardd wych. Dyna i chi weddnewidiad llwyr!” meddai.

Dywedodd Chris Walton, Rheolwr Tai WWHA, “Mae’r ardd wedi gwella’n fawr, ac yn awr dylai fod yn llawer haws i Mrs Biston ei rheoli. Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n gweddnewid ei gardd.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch gwaith o is-grŵp Compact Stadau ac Amgylchedd Llaneirwg, cysylltwch â Chris Walton ar y rhif rhadffôn 0800 052 2526.

Page 9: Sylw ar adal Caerdydd

9www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Cartrefi i’w perchenogi ar werth yng NghaerdyddMae WWHA yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau o ran tenantiaethau i bobl hŷn sy’n dymuno rhentu neu brynu eu cartref eu hunain.

I’r rhai sy’n dymuno prynu eu cartref, mae’r Gymdeithas yn rheoli 22 cynllun tai ar werth er ymddeol a chynlluniau prydles i bobl hŷn ledled Cymru, gan gynnig amrywiaeth o brisiau a lleoliadau.

Yng Nghaerdydd, mae gennym y cartrefi canlynol ar werth ar hyn o bryd:

Clarendon, Cycoed Avenue, Cyncoed • Pum rhandy• Un byngalo

Cwrt Glas, Llanisien • Tŷ dwy ystafell wely

Meridian Court, North Road • Saith rhandy 1 ystafell wely

Newlands Court, Station Road, Llanisien • Tri rhandy 1 ystafell wely

Oakmeadow Court, Llaneirwg • Tri rhandy 1 ystafell wely

Old Garden Court, Radyr• Pedwar rhandy 2 ystafell wely

Pendyrys House, Mortimer Road, Treganna• Pedwar rhandy 1 ystafell wely

Restway Court, Llandaf• Chwe rhandy 1 ystafell wely

Stephenson Court, Wordsworth Avenue, y Rhath • Pum rhandy 1 ystafell wely a

dau randy 2 ystafell wely

Wentloog Court, Rhymni, • Tri rhandy 1 ystafell wely a

dau randy 2 ystafell wely

Western Court, Treganna, • Rhandy 1 ystafell wely

Am ragor o fanylion ynghylch unrhyw rai o’r cartrefi hyn, ffoniwch yr uned perchnogaeth cartrefi ar y rhif rhadffôn 0800 052 2526 neu ewch i www.wwha.net

Clarendon Pendyrys House

Page 10: Sylw ar adal Caerdydd

10www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Achub morgeisiMae ein cynllun achub morgeisi yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o ddeiliaid sydd mewn perygl o weld eu cartref yn cael ei adfeddiannu.

Rydym ymysg nifer prin o gymdeithasau sy’n gweithredu cynllun rydym yn ei gyllido ein hunain, nawr bod yr arian grant gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben.

Mae galw sylweddol o hyd am y gwasanaeth, ac rydym yn ymrwymedig i barhau â’r cynllun achub morgeisi er mwyn helpu i leihau digartrefedd.

Hyd yn hyn, rydym wedi buddsoddi dros £2 miliwn yn y cynllun.

Hyd heddiw, mae WWHA wedi:

• Prynu 31 cartref yn gyfan gwbl – lle mae’r preswylwyr wedi dod yn denantiaid i ni. Mae hyn yn cynnwys 3 cartref a brynwyd heb grant fel rhan o gynllun y talwyd amdano gan y Gymdeithas. Mae 4 teulu arall wedi derbyn cynnig o gymorth fel rhan o’r cynllun hwn.

• Cwblhau 26 benthyciad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartrefi fel perchnogion

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynllun achub morgeisi, ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 Neu ewch i: www.wwha.net/OurServicesMortgageRescue/

Mae’r Gymdeithas newydd ddod â blwyddyn arall o berfformiad ariannol cryf i ben.

Yn gyntaf, fel rhan o fframwaith reoleiddio newydd Llywodraeth Cymru, cawsom radd pasio am farn hyfywdra ariannol, sef y radd uchaf sy’n cael ei dyfarnu, ac mae hynny’n dangos bod gennym ddigon o adnoddau i gwrdd ag ymrwymiadau busnes ac ariannol sydd gennym ar hyn o bryd ac a fydd gennym yn y dyfodol.

Yn ail, mae ein canlyniadau am y fl wyddyn yn dangos gwarged a llif arian rhydd a chadarnhaol. Mae hyn wedi ein galluogi i fuddsoddi dros £30 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf yn ein cartrefi presennol i

wella ansawdd ein cartrefi .

Gyda £10 miliwn yn rhagor o fuddsoddiad ar y gweill eleni, rydym yn debyg iawn o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn y dyddiad targed, sef 2012.

Yn barod, mae gennym £35 miliwn o fuddsoddiadau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. A ninnau wedi dechrau rheoli 165 cartref newydd eu datblygu yn ystod eleni yn unig, mae gennym gynlluniau i ddod â 600 yn rhagor i’n portffolio dros y 5 mlynedd nesaf. I wneud hyn, byddwn angen cyllid pellach, ac rydym yn gwneud cynnydd da at y nod, gyda geriad isel a phortffolio mawr o gartrefi o ansawdd uchel sydd heb eu sicrhau ar ein llyfrau.

Perfformiad ariannol cryf gan WWHA

Page 11: Sylw ar adal Caerdydd

11www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Gwobrau yn gryno

Ers ein rhifyn blaenorol o ‘Sylw ar...’, rydym wedi ennill y gwobrau canlynol:

• Cwmnïau Gorau 2012 y Sunday Times. Yn 2012, enwyd WWHA fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, gan gyrraedd yr 8fed safle, i fyny o safle 14 yn 2011.

Yn ogystal, ni oedd yr unig gymdeithas Tai o Gymru i gael gwobr tair seren y Cwmnïau Gorau – gwobr a chwenychir yn fawr.

“Rydw i wedi gwirioni ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, ac ein bod ni ymysg y deg cwmni nid-er-elw gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae cyrraedd y raddfa uchaf o dair seren yn wych,” meddai Anne Hinchey.

“Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gwmni sy’n cael ei yrru gan werthoedd – bod yn deg, agored, cefnogol, effeithlon a chyfrifol – tuag at ein staff, yn ogystal â phawb rydym yn gweithio gyda nhw ac yn gweithio ar eu cyfer.

• Roeddem wrth ein bodd yn WWHA pan gawsom ein henwi ymysg y 30 Cwmni mwyaf caredig at deuluoedd yn y Deyrnas Unedig gan Working Families, sefydliad sy’n ymgyrchu dros gydbwysedd rhwng bywyd hamdden a gwaith. Roeddem yn un o ddau sefydliad o Gymru a gafodd le ar y rhestr, sy’n llawn cwmnïau o’r radd flaenaf.

• Fe wnaeth ein Prosiect Digartrefedd Rhagor o Ddewisiadau yn Stoneleigh Manor, ar y cyd â Chyngor Sir Powys, ennill Gwobr Comisiynu Da Hyrwyddo

Annibyniaeth 2011 Cymorth Cymru. Cafodd y prosiect hwn le ar restr fer Gwobr Tai Cymru CIH am ‘wneud y defnydd gorau o stoc.”

• Fe wnaeth Fforwm Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, yr ydym yn aelod ohono, ennill Gwobr 2011 Hyrwyddo Annibyniaeth Cynnwys Defnyddwyr y Gwasanaeth am y DVD My Home… ‘Making Every Penny Count’. Ers hynny, mae’r DVD wedi ennill ail wobr – Gwobr MoneyActionNet 2011 gan y darparwyr gwybodaeth am weithredu cymdeithasol, Lemos & Crane.

• Mae preswylwyr WWHA wedi cael dwy wobr gan TPAS Cymru. Fe wnaeth y grwpiau o Gwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, a stad Barracksfield yn Wrecsam, ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref gyda grwpiau landlordiaid cymdeithasol eraill yng Nghymru.

• Cafodd ein Prosiect Adfywio Ecogyfeillgar ar Powell Road yn Sir y Fflint le ar restr fer Gwobr Tai CIH y Deyrnas Unedig am Gyflawniad Eithriadol yng Nghymru.

• Cafodd ein cynllun er ymddeol, Sydney Hall Court yng Nghei Connah, sy’n cael ei redeg gan y rheolwr cynllun Rob Holmes, ei gynnwys ar restr fer Gwobr Cartref Caredig i Anifeiliaid Anwes y Flwyddyn y Cinnamon Trust.

• Rydym wedi cael Safon Aur Ôl Troed Tai RSPCA.

Page 12: Sylw ar adal Caerdydd

12www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Mentrau ecogyfeillgar

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd drwy ein holl sefydliad, ynghyd â chefnogi ein preswylwyr i allu mwynhau manteision niferus bod yn garedig i’r amgylchedd. Rydym hefyd newydd basio archwiliad blynyddol y Ddraig werdd, gan gyrraedd Lefel 2.

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau, dan arweiniad Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

Rydym wedi bod yn gosod Pympiau Gwres o’r Ddaear yng Nghlos Pontganol, Llangynidr, ynghyd â safl eoedd ychwanegol yng Nghrughywel, Llanfair Caereinion a’r Ffl int. Mae’r rhain yn brosiectau arloesol, sy’n mynd i gael effaith fawr ar helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni.

Mae rhai preswylwyr ym Maes yr Onnen, Crughywel, yn talu rhwng

£150 a £200 y mis ar eu biliau trydan, ac maen nhw nawr yn mynd i elwa ar ffenestri newydd, inswleiddio gwell a phympiau gwres o’r ddaear. Bydd camau pellach, fel tynnu eu cawodydd trydan a rhoi cawodydd cymysgu yn eu lle, hefyd yn helpu i leihau eu biliau.

Mae pympiau gwres o’r ddaear ymysg y systemau gwresogi dŵr domestig mwyaf cynaliadwy sydd ar gael ar hyn o bryd, a bydd preswylwyr ar eu hennill drwy gael rheolaeth well ar eu systemau gwresogi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gwneud hynny’n arbed arian iddyn nhw.

Yn y llun gwelir y twll turio cyntaf yng Nghlos Pontganol ar gyfer gosod pympiau gwres o’r ddaear.

Bydd un o’r 10 twll turio yn mynd tua 200 metr i lawr (tua 600 troedfedd).

Page 13: Sylw ar adal Caerdydd

13www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Mae prosiectau eraill yn cynnwys:

• Newid tanwydd• Parhau i dreialu dyfeisiau

optimeiddio foltedd • Gweithio gydag Asiantaeth

yr Amgylchedd i ddatblygu cynlluniau llifogydd ar gyfer y cartrefi sydd gennym a allai gael eu heffeithio.

Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £15,000 o’n Cronfa Amgylcheddol mewn 29 prosiect ledled Cymru. Mae’r rhain i gyd yn brosiectau dan arweiniad preswylwyr, sydd wedi gwneud cais am gyllid ar lawr gwlad.

Mae prosiectau yn cynnwys datblygu gerddi bioamrywiaeth, gosod gwelyau wedi’u codi ar gyfer plannu hygyrch, prynu hadau,

cyfarpar, tai gwydr a chyfarpar arall.

Rydym yn gweithio’n galed yn barhaus i sicrhau ein bod ni’n defnyddio ac yn ymgorffori technolegau sy’n garedig i’r amgylchedd lle bynnag y medrwn ni ym mhob agwedd ar ein datblygiadau newydd, ynghyd â’n rhaglenni ailwampio.

Er hynny, yn anffodus, mae ansicrwydd ynghylch cyllid wedi arwain at orfod oedi ein cynlluniau i osod paneli PV solar ar doeau ein cartrefi addas. Digwyddodd hyn yn sgil ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac rydym ymysg nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol eraill yn y Deyrnas Unedig sydd yn yr un sefyllfa.

Yn y llun, gwelir yr hen storfa fi niau yn Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cael ei thrawsffurfi o erbyn hyn yn dŷ gwydr, diolch i gyfraniad o £200 gan Gronfa Amgylcheddol WWHA.

Page 14: Sylw ar adal Caerdydd

14www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Uwchraddio sgiliau gyda Cymunedau 2.0 a Take Ctrl

Rydym hefyd yn cydweithio â nifer o bartneriaid i uwchraddio sgiliau unrhyw un o’n preswylwyr, beth bynnag fo eu hoedran neu eu profiad blaenorol, fel eu bod nhw’n gallu mwynhau manteision technoleg ddigidol.

Ym Merthyr Tudful, rydym yn gweithio gyda Cymunedau 2.0 ar brosiect Connect Merthyr. Mae hwn yn cefnogi pobl hŷn sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys e-bost, Skype, peiriannau chwilio, Twitter a YouTube. Mae hefyd

yn eu helpu i ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar digidol arall, gan gynnwys ffonau symudol, camerâu a chamerâu fideo.

Daeth Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ar ymweliad â’r prosiect yn ddiweddar, i weld dros ei hunan yr effaith anhygoel o gadarnhaol y mae’n ei gael ar ei gyfranogwyr hŷn. Yn ogystal, yng ngogledd Cymru, rydym yn cyflogi Jen Bailey, cydlynydd Prosiect Take Ctrl. Mae hon yn bartneriaeth rhwng saith cymdeithas tai, gan gynnwys WWHA. Am ragor o fanylion, ewch i: www.takectrl.org

Mynediad band eang Wi-fi i breswylwyr hŷn

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad band eang WiFi ym mhob un o’n 100 o gynlluniau i bobl hŷn ledled Cymru o fewn y ddwy flynedd nesaf, gan fuddsoddi £1 miliwn yn y prosiect.

Rydym eisoes yn gweithio ar gynllun peilot yn Nhŷ Pontrhun, un o’n cynlluniau er ymddeol ym Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â’r darparwr o Gymru, Boynes. Bydd pedair llinell, llwybryddion a chyfnerthyddion ar waith yn y cynllun o fis Mawrth 2012 ymlaen, gan alluogi pob preswyliwr i lwytho i lawr 1MG yr un. Bydd y gost i’r preswylwyr yn swm fforddiadwy iawn, sef £1 y cartref fesul wythnos.

Hunanasesu a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Fel cymaint o gymdeithasau tai eraill, rydym yn cynnal ymarferion hunanasesu trylwyr i weld pa mor dda rydym yn perfformio, ac i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydym bob amser yn croesawu adborth adeiladol ynghylch unrhyw agwedd ar ein busnes, ein heiddo, neu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau a’n proses hunanasesu, ewch i: www.wwha.net/AboutUs/CorporateInformation/Performance/InspectionInformation

Page 15: Sylw ar adal Caerdydd

15www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012

Cyfl eoedd cyfl ogaeth a hyfforddiantRydym yn parhau i gydweithio â’n contractwyr ac eraill i ddarparu gwaith a hyfforddiant i bobl yn nifer o’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio.

Mae Donna Samuel yn un o ddau sydd wedi dychwelyd i weithio a gafodd swyddi parhaol gyda WWHA diolch i JobMatch, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Donna gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (yn y llun isod) mewndigwyddiad Iechyd a Lles lleol, a manteisiodd ar y cyfl e i egluro sut roedd dod o hyd i waith llawn amser wedi trawsnewid ei bywyd.

Mae nifer o’n contractwyr wedi cyfl ogi prentisiaid o ganlyniad i’r gwaith rydym yn ei gomisiynu. Mae enghreifftiau eraill o’r modd rydym yn cefnogi pobl i ddychwelyd i weithio yn cynnwys:

• Gweithio gyda JobMatch i hyfforddi dau Ymgynghorydd Ynni pwrpasol, a fydd yn lledaenu’r gair ymysg preswylwyr am sut i gael y bargeinion gorau ar danwydd a’r ffordd orau i dorri costau.

• Cefnogi ein contractwyr a chyfl enwyr i greu prentisiaethau mewn gwaith trydanol a gosod ffenestri.

• Creu lleoliadau gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith a Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau.

• Ac rydym yn ymchwilio i’r cyfl eoedd y gallem eu creu drwy ailgylchu.

Strategaeth Newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr Rydym wedi diweddaru ein strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.wwha.net/NR/rdonlyres/6C6733C0-FA83-4302-912C-F846D2D3C68F/0/InTouchWinter20112.pdf

Neu, gallwch ddarllen y strategaeth lawn yn: www.wwha.net/NR/rdonlyres/10FD0DC5-E4DD-4B9C-9FC0-EF0F5A83AA1B/0/WHALTPS2011.pdf

Page 16: Sylw ar adal Caerdydd

16www.wwha.net

Sylw ar ardal Caerdydd – Gwanwyn 2012 Cysylltiadauallweddol

Chris Walton, Rheolwr Tai (Anghenion Cyffredinol) 029 2041 [email protected]

Jackie Bloxham, Rheolwr Tai (Tai er Ymddeol / Tai â Chymorth)029 2041 4083

[email protected]

Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi ei chofrestru fel cymdeithas elusennol dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965, Rhif 21114R

D AT B LY G U G WASA N A E T H AU E I D D O

STRATEGOL

TAI

Prif Swyddfa3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam,

Tremorfa, CaerdyddCF24 2UD

Ffôn: 0800 052 2526Ffacs: 029 2041 5380

Gwefan: www.wwha.net

Swyddfa’r FflintUned 2 Parc Busnes AcornAber Road, Y Fflint, Sir y FflintCH6 5YN

E-bost: [email protected]: 0800 052 5205Dilynwch ni ar @WWHA

Anne Hinchey, Prif Weithredwr029 2041 5335

[email protected]

Tony Wilson, Cyfarwyddwr Cyllid029 2041 [email protected]

Shayne Hembrow, Cyfarwyddwr Gweithrediadau029 2041 5362

[email protected]

Lynnette Glover, Pennaeth Tai029 2041 5365

[email protected]

Nikki Cole, Pennaeth Datblygu029 2041 4093

[email protected]

Steve Porter, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo 029 2041 [email protected]