23
POWYS RHIFYN 6 | HAF 2014 SYLW AR ARDAL

Sylw ar ardal powys haf 2014

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Sylw ar ardal powys haf 2014

POWYSRHIFYN 6 | HAF 2014

SYLW AR ARDAL

Page 2: Sylw ar ardal powys haf 2014

2 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Cyflwyniad Anne Croeso i rifyn Haf 2014 Sylw ar ardal Powys. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion am ein gwaith ym Mhowys, yn ogystal ag ar draws Cymru.

Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn hynod o brysur yn WWH. Rydym yn cyflawni ein rhaglen adeiladu newydd fwyaf ers sawl degawd, ac mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i lawer o ddiwygiadau lles gael eu cyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r economi yn troi’r gornel ac mae 2014 yn argoeli i fod yn flwyddyn lawer mwy cadarnhaol na’r rhai diweddar.

Rydym wedi helpu ein preswylwyr i ymdopi â’r newidiadau i fudd-daliadau, ac osgoi ein hofnau gwaethaf y byddai llawer o bobl mynd i ddyled. Rydym wedi ategu nifer y staff rheng flaen i allu cynnig rhagor o gymorth i breswylwyr, ac mae ein harolwg diweddaraf o fodlonrwydd preswylwyr yn dangos bod hyn wedi cael derbyniad da. Mae ein gwasanaethau amrywiol yn parhau i ddatblygu, gan gynnwys cyngor ar ddyledion ac arian, help gyda biliau ynni, a chiniawau poeth wedi’u darparu

gan Castell Catering. Rydym yn gwrando ar ein preswylwyr fel eu bod yn llunio’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud.

Mae ein busnes wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf, felly rydym nawr yn Grŵp o gwmnïau gyda thri is-gwmni yn canolbwyntio ar gynnal a chadw, datblygu a menter gymdeithasol a chyflogaeth. Rydym wedi newid i wneud ein hunain yn fwy effeithlon a defnyddio’r arian rydym wedi ei arbed i adeiladu cartrefi sydd hyd yn oed yn fwy fforddiadwy. Rydym wedi cynyddu maint ac amrywiaeth ein rhaglen adeiladu newydd mewn ymateb i’r angen cynyddol am gartrefi o ansawdd da, wedi’u dylunio’n dda a fforddiadwy i’w prynu a’u rhentu.

Page 3: Sylw ar ardal powys haf 2014

3 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

I gloi, rwy’n gobeithio y bydd y briffi ad hwn yn helpu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith yn eich ardal chi a thu hwnt. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni unrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau am unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywir

Anne Hinchey, Prif Weithredwr, Grŵp Tai Wales & West

Yn olaf, rwy’n falch iawn o ddweud ein bod nid yn unig wedi cadw ein statws fel y prif sefydliad nid-er-elw yng Nghymru ar restr y Sunday Times o Gwmnïau Gorau, ond hefyd wedi symud dau le i fyny’r rhestr i fod yn rhif 5 ledled y Deyrnas Unedig. Gyda thros 800 o sefydliadau nid-er-elw yn cymryd rhan ym mhroses achredu Cwmnïau Gorau y Sunday Times, rydym yn falch iawn o’n llwyddiant parhaus, sy’n tysti olaethu i’n staff ymroddedig sy’n gweithio’n galed.

Wales & West HousingGroup Structure

Page 4: Sylw ar ardal powys haf 2014

4 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Ledled Cymru, cafodd 213 o gartrefi eu darparu ar rent cymdeithasol a thri ar werth fel dewisiadau ‘cartref-berchnogaeth cost isel’. Nikki Cole yw Pennaeth Datblygu WWH, ac wrth gydnabod bod anghenion tai ar lefelau critigol, dywedodd bod ystod ehangach o bobl nag erioed o’r blaen yn gofyn am dai. Hyd yn oed gyda marchnata tai ar gynnydd, mae llawer o bobl yn dal yn methu prynu na fforddio rhentu. Bydd ein strategaeth ddatblygu yn golygu y bydd WWH yn adeiladu cartrefi ar rent cymdeithasol, rhent fforddiadwy, ar werth a pherchentyaeth cost isel.

Rydym yn chwilio am safleoedd i’w datblygu ac mae ein Bwrdd wedi cymeradwyo rhaglen adeiladu £150

Ein rhaglen adeiladu £150m yn parhau ar garlam

miliwn dros bum mlynedd i ddarparu mwy na 1,000 o gartrefi.

Mae 2014 yn argoeli i fod yn flwyddyn hyd yn oed yn fwy. Mae WWH ar y safle neu ar fin dechrau gweithio mewn 9 lleoliad, ac yn gobeithio cwblhau dros 550 o gartrefi – nifer drwy fenter arloesol Grant HF Llywodraeth Cymru. Rydym wedi datblygu arbenigedd credadwy fel sefydliad datblygu tai arbenigol ar gyfer pobl sy’n agored i niwed, tai cymdeithasol yn ogystal â thai gofal ychwanegol.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.wwha.co.uk

Ehangodd WWH ei rhaglen ddatblygu sawl blwyddyn yn ôl, ac yn 2013 gwelwyd cynnydd pellach yn nifer y cartrefi a gafodd eu cwblhau

Llun wedi’i gynhyrchu gan gyfrifiadur o’r datblygiad newydd yn New Road, Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr

Page 5: Sylw ar ardal powys haf 2014

5 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Dyma ddadansoddiad o brosiectau a gyflawnwyd gan WWH fesul awdurdod lleol yn 2013:

Coed y Castell, Pen-y-bont arOgwr

cynllun 23 ar rent cymdeithasol

Brython Drive, Caerdydd a Thŷ Gwyn,Caerdydd

9 ar rent canolradd a 3 Perchnogaeth Cartref Cost Isel a 4 ar rent canolradd

West Shore, Conwy

12 ar rent cymdeithasol

Sir Ddinbych 0

Llys Jasmine, Sir y Fflint

63 gofal ychwanegol

Vulcan House, Merthyr Tudful

15 ar rent cymdeithasol

Cwmfalldau, Powys

9 ar rent cymdeithasol

Rivulet Road a Kingsmills Road, Wrecsam

78 ar rent cymdeithasol a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown

Bro Morgannwg 0

Nifer y tai oedd yn cael eu datblygu ar 31 Rhagfyr 2013:

• Maesgwyn & New Road, Pen-y-bont ar Ogwr – 28 ar rent cymdeithasol a 40 ar rent cymdeithasol

• Elm Street, Caerdydd – 10 tŷ er ymddeol

• Flint House a Glan y Don, Sir y Fflint – tŷ er ymddeol a 58 ar rent cymdeithasol

• Mynwent y Crynwyr, Merthyr Tudful – 17 ar rent cymdeithasol

• Kingsmills Road a Rivulet Road, Wrecsam – 50 ar rent cymdeithasol ac 20 ar rent cymdeithasol

• Townmills Road, Bro Morgannwg – 5 ar rent canolradd

Staff Datblygu WWH y tu allan i Gynllun Gofal Ychwanegol/Gofal Dementia Llys Jasmine, Sir y Fflint

Page 6: Sylw ar ardal powys haf 2014

6 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Y ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a diwygio budd-daliadau Yn Ebrill 2014 roedd hi’n flwyddyn ers cyflwyno’r ‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a gweithrediad parhaus nifer o ddiwygiadau lles eraill. Mae’r newidiadau wedi cael effaith fawr ar lawer o’n preswylwyr, ac mae ein strategaeth i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau wedi bod yn effeithiol iawn.

Cafodd dros 800 o breswylwyr WWH ostyngiad yn eu budd-dal tai yn Ebrill 2013, a chafodd budd-daliadau 12 o deuluoedd eu capio erbyn diwedd mis Medi 2013. Er gwaethaf llawer o lythyrau ac erthyglau yn ein cylchgrawn i breswylwyr, In Touch, ac ar ein gwefan, nid oedd pobl yn barod ar gyfer y newidiadau. Fe wnaethom ymweld â phawb yr oeddem yn meddwl y gallai’r newidiadau effeithio arnyn nhw, sef cyfanswm o dros 1,000 o breswylwyr. Roedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda phawb yn rhan hanfodol o’n llwyddiant o ran helpu pobl i ymdopi.

Eglurodd Shayne Hembrow, y Dirprwy Brif Weithredwr: “Rydym wedi ceisio taro ar gydbwysedd rhwng cefnogi preswylwyr a sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu. Mae wedi bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng y rhai sydd ‘ddim eisiau talu’ a’r rhai sydd ‘ddim yn gallu talu’. Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i helpu’r rhai sy’n cydweithio â ni ac yn gwneud yr ymdrech.

Mae WWH wedi gwneud hyn:

• Buddsoddi dros £180,000 y flwyddyn mewn Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth. Crëwyd saith swydd newydd a recriwtiwyd swyddogion i helpu preswylwyr yn uniongyrchol.

• Mae WWH wedi helpu pobl i gynyddu eu hincwm gymaint â £780 y flwyddyn drwy gael budd-daliadau a grantiau, ail-drafod dyledion a gwella rheolaeth ariannol.

• Mae dros 100 o bobl wedi symud i gartref mwy addas, lle’r oedd un ar gael.

• Mae 85% o bobl yn awr yn talu eu rhent yn llawn, sy’n gynnydd o’r 50% oedd yn gwneud hynny ym mis Mai 2013.

Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi dewis aros yn eu cartrefi. Mae rhai wedi gwneud hynny gan mai yn y gymuned

Page 7: Sylw ar ardal powys haf 2014

7 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

honno maen nhw wedi byw erioed, ac nid ydyn nhw’n dymuno symud plant i ysgolion gwahanol, neu eu bod yn agos at lle maen nhw’n gweithio. Yn achos eraill, maen nhw’n methu symud oherwydd nad oes unrhyw gartref llai i symud iddo.

Yn achos rhai o’n preswylwyr, mae’r tebygolrwydd hyd yn oed yn fwy anodd. Ni all preswylwyr anabl sy’n byw mewn cartrefi sydd wedi’u haddasu’n gynaliadwy ar gyfer eu hanghenion symud yn hawdd, ac nid oes gwarant o gael addasiadau mewn eiddo arall yn y dyfodol.

Fe wnaethom hefyd gyhoeddi papur ymchwil ar y broblem hon a lobïo’r Llywodraeth i newid y rheolau ac eithrio preswylwyr anabl mewn cartrefi a addaswyd.

Roedd ein canfyddiadau yn arswydus, gyda chost bosibl o £40m i’r pwrs cyhoeddus yng Nghymru, ac rydym ni a’n partneriaid yn Tai Cymunedol Cymru wedi bod wrthi’n lobïo Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad a rhanddeiliaid eraill i ymgyrchu i berswadio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid y polisi hwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.wwha.co.uk/About-Us/News/Pages/Public-money-set-to-be-wasted.aspx

Cymaint fu effaith y data yn ein hadroddiad fel ei fod wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth gan y rhai sy’n ymgyrchu yn erbyn ac adrodd ar effaith diwygio lles yng Nghymru, gan gynnwys y Pwyllgor Dethol ar Faterion Seneddol Cymreig, a sesiynau llawn yn y Senedd.

Mae un o’n preswylwyr, Judith Parker, yn byw gyda’i merch Emma, sy’n 21 oed, a’i mab Luke, sy’n 17 oed, mewn byngalo wedi ei adeiladu’n bwrpasol yn Caerau, Caerdydd

Page 8: Sylw ar ardal powys haf 2014

8 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Ym mis Chwefror cyrhaeddodd y cwmni safle uchaf y gynghrair o gwmnïau nid-er-elw yng Nghymru am y drydedd flwyddyn yn olynol ym mhroses Cwmnïau Gorau’r Sunday Times, a oedd yn gosod Tai Wales & West yn y 5ed safle ledled y Deyrnas Unedig. Dan yr un broses, fe wnaeth WWH hefyd gadw safon aur gwobr achrediad tair seren y Cwmnïau Gorau.

Yn ystod yr hydref y llynedd, cafodd WWH ei enwi yn rhestr agoriadol Housing 24 o’r 50 Landlord Tai Fforddiadwy gorau yn y Deyrnas Unedig, gan gyrraedd safle 42.

Mae Vulcan Court, cynllun ailddatblygu Bragdy hanesyddol Vulcan ym Merthyr Tudful, wedi ennill gwobr Datblygiad Bach

y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai mawreddog y Deyrnas Unedig 2014, a hefyd wedi cael ei enwi fel un o’r 50 Datblygiad Tai Fforddiadwy Gorau yn rhestr gyntaf Inside Housing.

Cafodd Llys Jasmine, datblygiad gofal ychwanegol a gofal dementia arloesol WWH yn yr Wyddgrug, gogledd Cymru, le ar restr fer categori’r Cynllun Datblygiad Mawr y Flwyddyn Gwobrau Tai’r Deyrnas Unedig.

Yn olaf, cawsom y wobr gyntaf yn y categori Arloesi gydag Ynni Adnewyddadwy yng Ngwobrau Ynni a’r Amgylchedd y Deyrnas Unedig 2014.

Ni yw’r cwmni nid-er-elw gorau yng Nghymru - eto!Y mae wedi bod yn chwe mis arbennig o lwyddiannus i WWH o ran dyfarniadau ac achrediadau.

Page 9: Sylw ar ardal powys haf 2014

9 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Twf Connect24

Ers 2004 rydym wedi bod yn darparu’r gwasanaethau hyn ar gyfer cymdeithasau tai eraill ledled Cymru, a’r llynedd fe wnaethom groesi’r ffi n i Loegr.

Ers 2012, gan weithio dan is-frand y Grŵp, sef Connect24, rydym yn falch iawn o allu adrodd twf dramati g yn y rhan hon o’n busnes dros y chwe mis diwethaf, wrth i ni ennill dim llai nag wyth contract newydd gyda saith sefydliad gwahanol.

Mae ein gwasanaeth Connect24 bellach yn monitro Larymau mewn Argyfwng mewn mwy na 7,700 o gartrefi ledled Cymru, ac yn ateb galwadau ff ôn y tu allan i oriau i 50,000 o gartrefi . Er bod y cynnydd hwn yn ein busnes yn destun

Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn ymateb i alwadau larwm mewn argyfwng ein preswylwyr ein hunain a darparu gwasanaeth ff ôn 24 awr / 7 diwrnod yr wythnos sy’n delio â’r amrywiaeth lawn o faterion rheoli tai.

boddhad, rydym yn ymwybodol o’r angen i ddarparu’r un gwasanaeth o safon a pharhau ein perthynas waith ymatebol dda gyda’n holl gleienti aid.

Yn ddiweddar rydym wedi prynu system fonitro gwaith unigol, felly yn fuan byddwn yn gallu cynnig y gwasanaeth newydd hwn i gleienti aid hen a newydd, eto dan is-frand Connect24 WWH.

Page 10: Sylw ar ardal powys haf 2014

10 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Isod gwelir crynodeb o gontractau Connect24:

Sefydliad Gwasanaeth a ddarperir gan Connect24 WWH

Cymdeithas Tai Abbey field Cymru Larwm mewn argyfwng / TeleofalTai Cymunedol Bron Afon Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Charter Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Derwen Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Elim Ffôn y tu allan i oriauGrwp Gwalia Ffôn y tu allan i oriauHafal Ffôn y tu allan i oriauHafan Cymru Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai’r Canolbarth Larwm mewn argyfwng / TeleofalCartrefi Dinas Casnewydd Larwm mewn argyfwng / Teleofal a

Ffôn y tu allan i oriauCymdeithas Tai Newydd Larwm mewn argyfwng / TeleofalGrŵp Tai Pennaf Larwm mewn argyfwng / TeleofalTai Calon Larwm mewn argyfwng / Teleofal a

Ffôn y tu allan i oriauTemp2Perm Ffôn y tu allan i oriauTai Cymoedd i’r Arfordir Larwm mewn argyfwng / TeleofalWates Ffôn y tu allan i oriauUnigolion preifat Larwm mewn argyfwng / Teleofal

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarparwn, cysylltwch â:

Cate Dooher, Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi ar 02920 415386 neu [email protected]

Christine Bowns, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 02920 415341 neu [email protected]

Page 11: Sylw ar ardal powys haf 2014

11 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Castell Ventures- menter gymdeithasol newyddMae Castell Ventures yn gwmni newydd, sy’n rhan o Grŵp Tai Wales & West, ac sy’n ymroddedig i greu rhagor o fuddsoddiad cymdeithasol a menter mewn cymunedau ledled Cymru. Eglura Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp WWH a Chadeirydd Castell Ventures, pam y cafodd ei greu.

“Mae Cymunedau angen cwmnïau moesegol cryf a chyfrifol, sy’n barod i roi blaenoriaeth i gwsmeriaid a gwasanaethu, a gofalu am y cymunedau lle maen nhw’n gweithredu. Maen nhw angen cwmnïau sy’n prynu’n lleol, yn gweithio’n lleol ac yn cyfl ogi’n lleol fel bod buddsoddiadau ac elw yn aros yn y gymuned.”

Dywed Anne: “Bydd gan Castell Ventures lawer o ddimensiynau, a bydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a chynnyrch y mae ein preswylwyr a’n cymunedau yn dweud wrthym eu bod nhw eu hangen. Bydd yn creu cyfl eoedd cyfl ogaeth a hyff orddiant, ac yn cefnogi preswylwyr i gyrraedd eu potensial llawn.”

Yr adran gyntaf yw Castell Catering. Fe’i sefydlwyd ym mis Hydref y llynedd i ddarparu prydau poeth i bobl hŷn yn ein cynlluniau gofal ychwanegol a’r gymuned ehangach. Mae ein gwaith gydag Age Connect Gogledd Ddwyrain

Cymru a’n cynlluniau gofal ychwanegol newydd wedi amlygu’r angen am wasanaethau prydau bwyd poeth, ac roedd Cyngor Sir y Ffl int hefyd yn awyddus i ymchwilio i’r posibilrwydd o greu menter gymdeithasol i greu rhagor o gyfl eoedd cyfl ogaeth a hyff orddiant.

Mae Castell Catering wedi sicrhau swyddi i 15 o bobl, ac erbyn hyn mae’n gweini dros 1,000 o brydau poeth blasus yr wythnos. Lle bynnag y bo modd, mae’r cynhwysion yn lleol ac mae’r adborth gan gwsmeriaid wedi bod yn wych.

Am ragor o wybodaeth am Castell Catering, ff oniwch 0800 052 2526. Gallwch hefyd fynd i’r wefan www.wwha.co.uk

Page 12: Sylw ar ardal powys haf 2014

12 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Adroddiad Blynyddol 2013- cryf, cynaliadwy ac yma ar gyfer y tymor hir

Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gyfer 2013 wedi cael eu cyhoeddi erbyn hyn, a gwelwyd bod 2013 wedi bod yn flwyddyn wych i’r grŵp.

Gyda throsiant o £40 miliwn, fe wnaeth y Grŵp warged o £8.5m a ail-fuddsoddwyd i gefnogi gwariant o £27m ar welliannau fel ceginau, ystafelloedd ymolchi a 213 o gartrefi newydd.

Fel busnes cymdeithasol nid-er-elw, ni thalwyd difidendau cyfranddaliadau ac ni ddyfarnwyd taliadau bonws, oherwydd yn lle hynny aeth yr holl arian tuag at wasanaethau ar gyfer preswylwyr ac i gefnogi cymunedau. Mae cyflawni gwerth am arian i breswylwyr a phartneriaid wrth wraidd y ffordd rydym yn rhedeg ein busnes.

Eglura Tony Wilson, y Cyfarwyddwr Cyllid: “Mae ein strategaeth i ddod â mwy o wasanaethau dan ein gofal ni, rheoli costau’n well a chael gwared ar wastraff wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rydym wedi ailgynllunio gwasanaethau’n radical i ganolbwyntio’n well ar gyflawni gwerth am arian i breswylwyr, ac mae hyn

wedi ein gwneud ni’n fwy effeithlon, gan allu ail-fuddsoddi rhagor o adnoddau er budd ein cymunedau.”

I weld copi o’r adroddiad :http://www.wwha.co.uk/About-Us/Corporate-Information/Pages/Corporate-reports.aspx

Page 13: Sylw ar ardal powys haf 2014

13 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Cambria Maintenance ServicesMae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac erbyn hyn y mae wedi treblu mewn maint bron â bod ers i ni ei sefydlu yn 2010

Ar ddechrau 2013, fe wnaethom ymestyn ein gwasanaethau i ogledd Cymru, sy’n golygu bod Cambria bellach yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw adweithiol i’n holl eiddo ledled Cymru. Rydym yn hynod falch o’r llwyddiant hwn, a’r ffaith bod Cambria yn cyflogi dros 100 o staff ac yn hyfforddi nifer o brentisiaid.

Ein gweledigaeth yw i Cambria barhau i dyfu a chynyddu ei lwyth gwaith. Heb

os, mae Cambria wedi ein helpu i wneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol, gydag arbedion o £1.1 miliwn ers ei sefydlu yn 2010. Mae hyn yn cyfateb i 330 o geginau, 380 o ystafelloedd ymolchi neu 21 o gartrefi newydd wedi’u cyllido gan grant. Gallwn adrodd hefyd fod Cambria wedi cynnal 24,500 o atgyweiriadau yn 2013 yn unig, yn ogystal ag adnewyddu 228 o geginau a 466 o ystafelloedd ymolchi.

Page 14: Sylw ar ardal powys haf 2014

14 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014| www.wwha.co.uk

Cefnogi cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant

Drwy gydol 2013, fe wnaeth WWH gefnogi 58 o brentisiaethau, cyflawni mwy na 13,500 awr o hyfforddiant a chynnal cyfartaledd o 83.75% o ran y defnydd o lafur a chadwynau cyflenwi lleol.

Rydym hefyd wedi llwyddo nid yn unig i ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant drwy raglen Go Wales, y mae un o gyfranogwyr y cynllun - Libby Price - wedi mynd ymlaen i gael gwaith llawn amser fel rheolwr ein canolfan adnoddau cymunedol newydd yn Hightown, Wrecsam.

Enghraifft arall o leoliad gwaith llwyddiannus oedd myfyriwr Rheoli Digwyddiadau o Brifysgol Morgannwg, Lisa Williams, yn gweithio’n wirfoddol gyda’r tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata. Fe wnaeth Lisa helpu i godi dros £9,000 mewn nawdd ar gyfer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blaenllaw WWH ym mis Hydref 2013.

Yn olaf, mae Jack Donald, myfyriwr adeiladu, dylunio a rheoli o Brifysgol Leeds, a gafodd leoliad gwaith gwirfoddol gyda’n tîm datblygu yng Ngogledd Cymru, erbyn hyn yn cael ei dalu am ei gyfraniad ar sail ansawdd ei waith.

‘Gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau’ yw ein bwriad, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiannau 2013 gyda chymorth sylweddol pellach ar gyfer cyfleoedd gwaith, cyflogaeth a hyfforddiant ledled Cymru.

Mae Grŵp WWH yn ymrwymedig i gefnogi cymaint â phosibl o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant drwy ei wahanol feysydd busnes.

Yn y llun gwelir y myfyriwr Jack Donald (ar y chwith) gyda Craig Sparrow, Rheolwr Datblygu WWH

Page 15: Sylw ar ardal powys haf 2014

15 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Gostyngiad o 50% yn yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a nodwyd Yn 2013 fe wnaethom adolygu’r ffordd rydym yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ers hynny rydym wedi cwblhau ailwampiad radical o’n system.

Mae ein dull newydd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer wedi arwain at gwymp enfawr o 50% mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad niwsans a nodwyd - o 1260 o ddigwyddiadau a nodwyd yn 2012 i 625 yn 2013. Roedd grymuso preswylwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, gan annog a chynorthwyo preswylwyr i ddod o hyd i atebion parhaol, a chynorthwyo preswylwyr i gynnal eu tenantiaethau drwy roi cymorth perthnasol ar waith yn sylfaen i’n llwyddiant hyd yn hyn.

Mynd yn groes i’r duedd o ran troi pobl allan Datblygiad arall rydym yn hynod falch ohono yw’r gostyngiad yn ein ffigurau ar gyfer troi pobl allan.

Yn ddiweddar, mae’r cyfryngau wedi cyfeirio at gynnydd yn nifer yr achosion o droi tenantiaid allan o dai cymdeithasol, yn enwedig ar ôl cyflwyno’r diwygiadau lles. Fodd bynnag, mewn cyferbyniad llwyr, mae WWH yn mynd yn groes i’r tueddiad penodol hwn.

Yn 2006 fe wnaethom droi allan 3 o deuluoedd oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a 46 oherwydd ôl-ddyledion rhent, sef cyfanswm o 49 achos o droi allan.

Yn 2013 fe wnaethom droi allan 6 o deuluoedd oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a 10 oherwydd ôl-ddyledion rhent, sef cyfanswm o 16 achos o

droi allan. Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli gostyngiad o 67% dros gyfnod o saith blynedd.

Mae Lynnette Glover, Pennaeth Tai yn WWH, yn priodoli’r gostyngiad hwn i ‘newid llwyr yn ein diwylliant, sydd wedi ein gweld ni’n rhoi anghenion ein cwsmeriaid yn gyntaf. Rydym yn gweithio’n galed i helpu pobl i gadw eu tenantiaethau, gan ddefnyddio troi allan fel y dewis olaf. Mae ein dull newydd yn cynnwys paneli rhent arloesol, lle mae’r rhai nad ydyn nhw’n talu’n barhaus yn cael cyfle olaf sylweddol i fynd i’r afael â’u problemau a gwneud trefniant parhaol a fydd yn mynd i’r afael â’u hôl-ddyledion, ac mae’r rhain wedi cael eu canmol gan y drefn farnwrol yng Nghymru.’

Page 16: Sylw ar ardal powys haf 2014

16 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Safon Ansawdd Tai Cymru a mynd i’r afael â thlodi tanwydd

Yn Tai Wales & West rydym yn ymrwymedig i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn ogystal â gwneud ein heiddo mor ecogyfeillgar ag y bo modd. Dyma gipolwg ar rywfaint o’r gwaith rydym wedi’i wneud yn ystod y misoedd diwethaf i’r dibenion hyn:

• Mae’r mwyafrif helaeth o eiddo WWH wedi cael eu hinsiwleiddio (waliau ceudod a llofft)

• Rydym wedi gwneud dros 600 o newidiadau tanwydd i nwy gwres canolog ar gost o tua £1.5 - £2 miliwn

• Rydym wedi gwario tua £1.3 miliwn ar y stoc presennol, gan gwblhau:

34 o osodiadau pympiau gwres o’r ddaear

49 o osodiadau pympiau gwres o’r awyr gyda monitorau a rheolyddion o bell

• Byddwn yn gosod 4 system ynni deallus mewn tai cyfan (gwaith a gynlluniwyd ar gyfer Mai 2014 mewn partneriaeth â Phrifysgolion Caerdydd a Glyndŵr - rhan o’r prosiect SOLCER)

• Roeddem yn enillwyr yng nghategori Arloesi mewn Ynni Adnewyddadwy yng Ngwobrau 2014 Ynni a’r Amgylchedd y Deyrnas Unedig

• Fe wnaeth ein preswylwyr yng nghynllun er ymddeol Western Court ym Mhen-y-bont Ogwr ennill Gwobr Tenantiaid Cynaliadwy’r Flwyddyn 2014 yn y Deyrnas Unedig.

Rydym wedi cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn hyn, ac mae ein sylw parhaus yn parhau i fod ar fynd i’r afael â thlodi tanwydd, gan helpu i wneud cartrefi’n gynhesach a lleihau biliau.

Page 17: Sylw ar ardal powys haf 2014

17 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Ymddiriedolaeth Trussell Cymru, “Hoffwn ychwanegu ein diolch i Tai Wales & West am eu rhodd hael, a fydd yn ein galluogi i wella’r gwaith hanfodol y mae ein banciau bwyd yn ei wneud ledled Cymru. Wrth i bobl yng Nghymru weld bod eu hamgylchiadau yn mynd yn fwy anodd, mae Ymddiriedolaeth Trussell yn croesawu ein partneriaeth gyda Tai Wales & West, a’u cydnabyddiaeth o’r heriau y mae llawer o bobl ledled ein gwlad yn eu hwynebu.”

O’r chwith i’r dde: Karen Lewis, Rheolwr Cynl-lun WWH, Cleide Correia, Tony Graham ac Anne

Hinchey

Cefnogi Ymddiriedolaeth Trussell a banciau bwyd ledled Cymru

Fe wnaeth cynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Trussell a chefnogwyr Banc Bwyd Merthyr Cynon gyfarfod â Phrif Weithredwr WWH Anne Hinchey yng nghynllun er ymddeol Tŷ Pontrhun ym Merthyr Tudful, de Cymru, i dderbyn y siec.

Mae WWH, sy’n rheoli dros 9,500 o dai fforddiadwy mewn 12 ardal awdurdod lleol ledled gogledd, canolbarth a de Cymru, wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth a banciau bwyd ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae WWH yn gweithredu mannau casglu ar gyfer Banciau Bwyd mewn llawer o’i gynlluniau er ymddeol ledled Cymru, yn ogystal ag yn ei swyddfeydd yng Nghaerdydd a’r Fflint.

Ledled Cymru mae staff a phreswylwyr WWH wedi cyfrannu dros 640kg o fwyd i fanciau bwyd yn Sir y Fflint, Wrecsam, Caerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Merthyr Cynon yn ystod y 12 mis diwethaf.

Dywedodd Tony Graham, un o reolwyr

Yn gynharach eleni, rhoddodd Bwrdd Tai Wales & West £5,000 i Ymddiriedolaeth Trussell, y sefydliad sy’n gyfrifol am fanciau bwyd ledled Cymru.

Page 18: Sylw ar ardal powys haf 2014

18 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014| www.wwha.co.uk

The new Hightown Community Resource Centre

Left: The Polish community in Hightown celebrate Christmas at the new HCRC

Ongoing development works at Kingsmills Road, Hightown, Wrexham

Rhedeg Marathon Llundain dros Gymdeithas Strôc CymruFe wnaeth Andrew Pritchard, Swyddog Tai gyda WWH, redeg Marathon Llundain mewn pedair awr, tri munud a 26 eiliad, gan godi mwy na £3,000 er budd Cymdeithas Strôc Cymru.

Cafodd Andy, sy’n gweithio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ei ysgogi pan welodd drosto’i hunan effeithiau dinistriol strôc pan ddioddefodd ei nain gyfres o ymosodiadau.

Llongyfarchiadau i Andy ar redeg ei farathon gyntaf, ac os hoffech gyfrannu arian, gallwch barhau i wneud hynny, ar ôl y digwyddiad, ar ei dudalen Virgin Money Giving:

www.virginmoneygiving.com/AndrewPritchardLondonMarathon2014

Page 19: Sylw ar ardal powys haf 2014

19 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Datblygu cartrefi newydd ym Mhowys

Datblygiad tai â chymorth newydd i bobl hŷn yn y Drenewydd

Mae adeiladu rhagor o gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol ym Mhowys yn bwysig iawn i ni, ac ar ôl digwyddiad ymgynghori cymunedol llwyddiannus iawn yn ystod yr hydref y llynedd rydym bellach wedi cael caniatâd cynllunio manwl ar gyfer ein cynllun gofal ychwanegol yng Nglan Hafren, y Drenewydd.

Anwyl Construction, contractwr o ogledd Cymru, a benodwyd ac mae’r gwaith newydd ddechrau ar y safle. Bydd y gwaith adeiladu sy’n werth £7.14 miliwn yn cynnwys 48 uned i gyd, 39 o randai gofal ychwanegol i bobl hŷn a naw ar gyfer pobl ag anableddau dysgu / corfforol.

Llanbedr

Mae ein datblygiad arloesol yn Llanbedr - lle bydd pedwar cartref yn cael eu hadeiladu i’w gwerthu’n breifat i dalu am y gwaith o adeiladu dau gartref ychwanegol ar gyfer rhent cymdeithasol - yn awr yn cyrraedd cyfnod newydd cyffrous.

Rydym ar fin mynd allan i dendr am bartner contractio ar gyfer adeiladu, ac rydym yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda Chyngor Cymuned Bro Grwyne o ran darparu rhandiroedd. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad hwn ym Mehefin 2013, a’r gobaith yn awr yw y bydd gwaith yn dechrau ar y safle yn gynnar yn hydref 2014.

Mae disgwyl i’r datblygiad 6 chartref ar rent fforddiadwy (4 cartref dwy ystafell wely, a 2 gartref tair ystafell wely), ynghyd â dau gartref tair ystafell wely ar gyfer eu gwerthu’n breifat gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2015.

Mae WWH yn rheoli dros 800 o gartrefi ym Mhowys, ac wrthi’n adeiladu 70 yn rhagor o gartrefi fforddiadwy newydd yn y sir.

Page 20: Sylw ar ardal powys haf 2014

20 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Ar ôl digwyddiad ymgynghori prysur ac agored ym mis Ionawr, lle galwodd dros 100 o bobl i’n gweld, rydym wedi gwrando ar yr hyn a ddywedwyd ac addasu ein cynigion ar gyfer y safle pwysig hwn. Yn benodol:

• Mewn ymateb i’r galw a amlygwyd yn ein digwyddiad ymgynghori â’r gymuned, rydym wedi newid ein cynlluniau i newid 2 uned dwy ystafell

Cyn ysbyty cymunedol Llanfair-ym-Muallt - diweddariad

Noddi Clwb Pêl-droed Iau Tref AberhondduRydym yn hynod falch o allu helpu pobl ifanc o Glwb Pêl-droed Iau Tref Aberhonddu i ymdopi â thywydd garw’r gaeaf diolch i nawdd gwerth £600.

Dewisodd y garfan 22 aelod wario’r arian ar dopiau tywydd gwlyb newydd. Cafodd y bechgyn eu gêr newydd gan Faer Aberhonddu, Matthew Dorrance, a Phrif Weithredwr WWH, Anne Hinchey, sydd ei hun yn gefnogwr pêl-droed brwd ac yn un o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

“Mae Clwb Pêl-droed Iau Tref Aberhonddu yn darparu cymaint i’r bobl ifanc hyn,” meddai’r Maer. “Mae’n ymwneud ag iechyd, lles,

disgyblaeth, gweithgarwch corfforol yn ogystal â ffordd wych o gymryd rhan yn y gymuned leol. Mae nawdd fel hyn gan Tai Wales & West yn achubiaeth i’r clwb hwn, oherwydd hebddo, ni fyddai’n gallu fforddio eitemau fel y cotiau tywydd gwlyb hyn, y mae eu hangen yn fawr.”

wely yn 2 uned tair ystafell wely• Rydym hefyd wedi symud lleoliad

arfaethedig byngalo i atal eiddo cyfagos presennol rhag gallu edrych dros ein hunedau newydd arfaethedig

Rydym wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer 17 o dai fforddiadwy newydd, ac rydym yn aros am benderfyniad gan y swyddog priodol.

Page 21: Sylw ar ardal powys haf 2014

21 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Wedi ei ffurfio’n wreiddiol ar ddiwedd 2012, mae’r grŵp wedi cefnogi ehangu banciau bwyd ar draws y sir yn ddiweddar, ac mae’n edrych ar ffyrdd i breswylwyr gael budd-daliadau a ddarperir gan y tri undeb credyd. Mae’r grŵp yn gweithio ar strategaeth ar draws y sir erbyn hyn i ddelio â diwygio lles.

Yn ogystal, mae ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth sy’n gweithio ym Mhowys, Donna Steven, wedi bod yn gweithio’n ddwys gyda rhai o’n preswylwyr

Diwygio lles – y camau nesaf

mwyaf agored i niwed yn y sir. Yn y flwyddyn ddiwethaf mae hi wedi darparu cefnogaeth un-i-un ar gyfer dros 100 o gartrefi ym Mhowys, ac mae hi wedi bod yn llwyddiannus wrth helpu tua 20 o’r rhain i gael dros £20,000 mewn Taliadau Tai Dewisol.

Mae Donna hefyd yn ysgrifennu colofn boblogaidd iawn dan y pennawd ‘Money Matters’ ar gyfer y Brecon and Radnor Express, gan rannu ei harbenigedd gyda darllenwyr ledled y sir.

Mae Mike Halloran, ein Rheolwr Cefnogi Tenantiaeth, yn parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Sir Powys, landlordiaid cymdeithasol eraill yn yr ardal ac asiantaethau partner, gan gynnwys PAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys) er mwyn ceisio lliniaru effeithiau diwygio lles ar rai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed ym Mhowys.

£ £££

Page 22: Sylw ar ardal powys haf 2014

22 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Mae un fenter o’r fath yn cynnwys tynnu gwres storio trydan bloc, a gosod pympiau gwres ffynhonnell aer yn ein heiddo yn Hywi yn y Canolbarth.

Ymwelodd Carl Sargeant, Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru â Mill View Close yn gynnar ym mis Ebrill i weld y prosiect, sydd wedi ennill Gwobr yr Amgylchedd ac Ynni o fri yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar. Treuliodd y Gweinidog amser gyda

phreswylwyr, staff a phartneriaid contractio WWH, Thermal Earth, i weld y system wresogi adnewyddadwy yr ydym wedi ei gosod i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ymhlith ein preswylwyr yng nghefn gwlad nad ydyn nhw’n gallu manteisio ar gyflenwadau nwy prif gyflenwad.

Cafodd pympiau gwres ffynhonnell aer, ar y cyd â phaneli solar thermol, eu gosod yn gyntaf gan Thermal

Mynd i’r afael â thlodi tanwydd Un o’n blaenoriaethau strategol allweddol yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd, ac rydym yn gweithio ar nifer o brosiectau arloesol ledled Cymru er mwyn gwneud hyn.

Page 23: Sylw ar ardal powys haf 2014

23 | Sylw ar ardal POWYS | Haf 2014 | www.wwha.co.uk

Earth, arbenigwyr gwresogi adnewyddadwy yng Nghymru, mewn 15 eiddo yng Nghlos Llwynbrain gerllaw Mill View Close y llynedd, gan ddisodli’r gwresogyddion storio trydan dros nos oedd yn hen-ffasiwn ac yn ddrud i’w cynnal.

Mae gwaith yn cael ei gwblhau ar 26 eiddo arall ym Melin View Close, Hywi, diolch i grant o £162,000 gan yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd (DECC) a buddsoddiad o £240,000 gan WWH.

Mae Brian a Joyce Bibb, sydd wedi byw yn Mill View Close am 30 mlynedd, wedi dweud wrthym eu bod “ar ben eu digon” gyda’r system wresogi newydd.

“Mae’n ddyddiau cynnar eto o ran yr arbedion posibl yr ydym wedi eu gwneud ar ein biliau tanwydd,” meddai Joyce, sy’n 65 oed, “ond rydym yn fodlon iawn gyda’r pympiau gwres ffynhonnell aer hyd yn hyn.”

Ar ôl yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog wrthym, “Mae’n wych gweld yr enghraifft wych hon o sut gellir gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yng Nghymru. Diolch i’r dechnoleg ddiweddaraf, mae’r cartrefi hyn lawer mwy caredig i’r amgylchedd erbyn hyn, ac mae’r buddsoddiad yn golygu y gall y tenantiaid eu hunain edrych ymlaen at leihau biliau ynni a chartrefi cynhesach.”