12
1 Pobl a Phethe tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Ble yn y byd? Holi Awdur Chwaraeon Ebrill 2009 Rhif 348 Gweler stori tud.12 Dyna braf oedd gweld gweithwyr y Cyngor Sir yn glanhau’r sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn i Dal-y-bont ddechrau mis Mawrth. Yr oedd yr holl bapur a chardfwrdd a phlastig yn gywilydd i’w weld. Wrth gerdded ar hyd ffyrdd a llwybrau’r fro, un peth sy’n syfrdanu dyn yn aml yw cymaint o sbwriel a deflir yn gwbl anghyfrifol. Ychydig iawn o barch sydd gan rai pobl tuag at yr amgylchedd a’u cymuned. Gobeithio’n fawr y bydd pawb sy’n dymuno cadw ein pentrefi’n daclus yn casglu sbwriel y gwanwyn hwn fel mai’r unig beth a fydd yn addurno’r perthi a’r llwybrau fydd blodau gwyllt. Casglu sbwriel Dau Awdur Lleol A oes ardal mor denau ei phoblogaeth â’n hardal ni lle y mae cymaint o feirdd a nofelwyr ac awduron a chyhoeddwyr yn byw? Mae gennym wasg Y Lolfa sy’n darparu cyflogaeth yn lleol, mae gennym gwmni Atebol yn y Fagwyr sy’n gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg, ac mae gennym sawl dylunydd proffesiynol, golygydd a chyfieithydd yn byw yn ein plith. Cafwyd cyfle i ddathlu cyfraniad yr ardal fel un o ganolfannau’r byd cyhoeddi Cymraeg mewn noson arbennig yn y Llew Du ddiwedd Mawrth pan lansiwyd dau lyfr newydd gan Y Lolfa, sef casgliad o gerddi gan Robat Gruffudd, Gymri Di Gymru?, a nofel gyntaf Geraint Evans, Y Llwybr. Mae nofel dditectif Geraint yn torri tir newydd gan mai dyma’r llyfr cyntaf yn y Gymraeg y gellir ei lawrlwytho ar ffurf e-lyfr ar ddarllenydd electronig. Gellwch ddarllen adolygiad ar gyfrol Robat Gruffudd ar dudalen 5 a chyfweliad arbennig â Geraint Evans ar dudalen 10.

tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

  • Upload
    others

  • View
    58

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

1

Pobl a Phethetud 3 tud 6 tud 10 tud 12

Ble yn y byd? Holi Awdur Chwaraeon

Ebrill 2009 Rhif 348Gweler stori tud.12

Dyna braf oedd gweld gweithwyr y Cyngor Sir yn glanhau’rsbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn i Dal-y-bontddechrau mis Mawrth. Yr oedd yr holl bapur a chardfwrdd aphlastig yn gywilydd i’w weld. Wrth gerdded ar hyd ffyrdd allwybrau’r fro, un peth sy’n syfrdanu dyn yn aml yw cymainto sbwriel a deflir yn gwbl anghyfrifol. Ychydig iawn o barchsydd gan rai pobl tuag at yr amgylchedd a’u cymuned.Gobeithio’n fawr y bydd pawb sy’n dymuno cadw einpentrefi’n daclus yn casglu sbwriel y gwanwyn hwn fel mai’runig beth a fydd yn addurno’r perthi a’r llwybrau fydd blodaugwyllt.

Casglu sbwrielDau Awdur Lleol

A oes ardal mor denau eiphoblogaeth â’n hardal ni lley mae cymaint o feirdd anofelwyr ac awduron achyhoeddwyr yn byw? Maegennym wasg Y Lolfa sy’ndarparu cyflogaeth yn lleol,mae gennym gwmni Atebolyn y Fagwyr sy’n gyhoeddwyrllyfrau ac adnoddau addysg,ac mae gennym sawldylunydd proffesiynol,golygydd a chyfieithydd ynbyw yn ein plith. Cafwydcyfle i ddathlu cyfraniad yrardal fel un o ganolfannau’rbyd cyhoeddi Cymraegmewn noson arbennig yn y

Llew Du ddiwedd Mawrthpan lansiwyd dau lyfrnewydd gan Y Lolfa, sefcasgliad o gerddi gan RobatGruffudd, Gymri DiGymru?, a nofel gyntafGeraint Evans, Y Llwybr.Mae nofel dditectif Geraintyn torri tir newydd gan maidyma’r llyfr cyntaf yn yGymraeg y gellir eilawrlwytho ar ffurf e-lyfr arddarllenydd electronig.

Gellwch ddarllenadolygiad ar gyfrol RobatGruffudd ar dudalen 5 achyfweliad arbennig âGeraint Evans ar dudalen 10.

Page 2: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

2

Golygydd y rhifyn hwnoedd Bleddyn Huws gyda

Iolo yn dylunio.Golygyddion y rhifyn nesaf

fydd Geraint([email protected]

832473), Geraint a Sian.Dylai’r deunydd fod yn

llaw’r golygydd erbyn dyddGwener Mai 1af a bydd y

papur ar werth ddyddGwener Mai 8fed.

PPPPPaaaaapur Ppur Ppur Ppur Ppur PaaaaawbwbwbwbwbGolygydd Cyffredinol: Geraint Evans (01970) 832473

Garnwen, Tal-y-bont [email protected] lluniau: Cysyllter â golygyddion y mis.Teipyddes: Carys Briddon

GOHEBYDDION LLEOLBont-goch: Richard Huws, Pantgwyn, Bont-goch 832566Parsel Henllys: Dilys Morgan, Alltgoch 832498Eglwysfach: Wendy Fuller, Pandy, Ffwrnais (01654) 781312Taliesin: Mai Leeding, Glannant, Taliesin 832672Tal-y-bont: Aileen Williams, Maesmeillion 832438

Kathleen Richards, Y Bryn 832201Tre'r Ddôl Susan Lewis, Maesgwyn, Tre’r Ddôl 832429

Janet Evans, Cefngweiriog (01654) 781260Maes y Deri Eirlys Jones, 91 Maes y Deri 832483

CYMDEITHAS PAPUR PAWBCadeirydd: Bleddyn Huws, Henllan, Tal-y-bont 832448Is-gaderydd Geraint Pugh, Dôl Pistyll 832433Ysgrifennydd: Megan Mai, Gwynionydd, Tal-y-bont 832384Trysorydd: Gwyn Jenkins, Maesgwyn, Tal-y-bont 832560Aelodaeth: Aileen Williams, Maesmeillion, Tal-y-bont 832438Hysbysebion: Wendy Fuller, Pandy, Ffwrnais (01654) 781312Plygu: Gwenllian Parry-Jones, Lyn HammondsDosbarthwyr: Enid Gruffudd, Susan Lewis, Gwenllian Parry-Jones,

Eurlys Jones (Tanysgrifiadau)

Cyhoeddir gan Gymdeithas Papur Pawb gyda chymorthCyngor Celfyddydau Cymru - Bwrdd Gorllewin a Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Awduron o Dal-y-bont yn y Fedwen LyfrauYdy, mae’r Fedwen, sef gãyl lyfrau Gymraeg fywiocaf

Cymru, yn dod i Aberystwyth eleni, pan gynhelirdigwyddiadau yn y Llyfrgell Genedlaethol ar nos Wener, 1Mai, ac yng Nghanolfan Arad Goch gydol dydd Sadwrn, 2

Mai. Am 10.15 ar fore dydd Sadwrn yr ãyl bydd RobatGruffudd yn trafod ‘A Gymri Di Gymru?’ fel rhan o sesiwn

‘Barddoniaeth a Baneri’ gyda Dafydd Morgan Lewis a HywelGriffiths, ac yna am 11.00 bydd Geraint Evans yn cymrydrhan mewn trafodaeth ar lenyddiaeth Aberystwyth, ‘Aber:Lle’n ein llên’. Bydd rhestr gyflawn o’r digwyddiadau ar

wefan www.ylolfa.com cyn hir. Mae gweithgareddau’r ãyl igyd am ddim ac mae croeso cynnes i bawb.

Parcio am ddim yn Ynyslasi drigolion lleol

Mae’r CyngorCefn Gwlad,sy’n rheolitwyni athraeth

Ynyslas fel rhan o WarchodfaNatur Genedlaethol Dyfi, yncynnig tocynnau parcio rhadac am ddim i drigolion lleol.Gan fod gwyliau’r Pasg ar ygorwel, y gobaith yw y bydd ytocyn am ddim yn annognifer o drigolion lleol i wneudyn fawr o’r arfordirysblennydd sydd ar garreg eudrws.

Mae’r ardaloedd sy’ngymwys i gael y tocynnau’ncynnwys codau post DyffrynDyfi ac Aberystwyth – SY19,

SY20, SY23, SY24 ac LL36.Os ydych yn byw yn un o’r

ardaloedd yma, mae croesoichi ddod i GanolfanYmwelwyr Ynyslas i nôl eichtocyn. Bydd y Ganolfan aragor o Ddydd Gwener 3Ebrill tan ddiwedd mis Medi,a’r cyfan sydd raid ichi’i eiwneud yw dod â bil gydachi’n dangos eich cod post.

Yn ôl Lucy Swannell,Swyddog Rheoli Ymwelwyr yCyngor Cefn Gwlad: ‘Rydymeisiau i drigolion lleolddefnyddio a mwynhau’rsafle, gan ddysgu mwy am ynodweddion naturiolarbennig sydd ar garreg eudrws. Mae trigolion lleol ynhollbwysig o ran ein helpu ireoli’r warchodfa a chynnal ybywyd gwyllt gwych.’

Yn ystod misoedd yr haf,bydd y Cyngor Cefn Gwladyn cynnal digwyddiadau i’rholl deulu gan gynnwysarwain teithiau cerdded ynrhad ac am ddim. Dymaffordd wych o annog pobl ifynd am dro drwy’rwarchodfa ac ymddiddori ynei bywyd gwyllt a’i hanes.Gallwch gael mwy owybodaeth trwy ffonioCanolfan YmwelwyrYnyslas, 01970 872900.

Ebrill10Bethel, 10.00, GweinidogRehoboth, 10.00, OedfaDydd Gwener y Groglith12Bethel, 10.00, 2.00, 5.00 -Cyrddau’r Pasg, Tom DefisNasareth, 10.00, 2.00, 5.00 -Tom Defis, C.P. BethelRehoboth, 10.00, Oedfa’rPasg yn Y GarnEglwys Dewi Sant – Gweleryr hysbysfwrddEglwys St. Pedr, Bont-goch –Cymun Bendigaid Sul y Pasg,2.3014C.Ff.I. Tal-y-bont16Sefydliad y Merched, Tal-y-bont, 7.15pm, KateO’Sullivan MVB, MSc, CertSAS, MRCVS19Bethel, 5.00, Parch JudithMorrisRehoboth, 10.00, GlynMorganEglwys Dewi Sant – Gweleryr hysbysfwrddEglwys St. Pedr, Bont-goch –Cymun Bendigaid 2.30pm20Merched y Wawr Tal-y-bonta’r Cylch, Coginio gydaHelen ac Eleri21C.Ff.I. Tal-y-bont22Theatr Bara Caws,‘Halibalw’, Neuadd GoffaTal-y-bont, 7.30pm24Clwb Nos Wener - NosonGomedi26Bethel, 2.00, Parch AndrewLenny

Rehoboth, 5.00, Bugail (C)Eglwys Dewi Sant – Gweleryr hysbysfwrdd28C.Ff.I. Tal-y-bont

Mai3Bethel, 10.00, Uno ynNasarethNasareth, 10.00, R.H. LewisRehoboth, 10.00, GordonMacDonaldEglwys Dewi Sant – Gweleryr hysbysfwrddEglwys St. Pedr, Bont-goch,2.30, Hwyrol Weddi4Merched y Wawr, Tal-y-bonta’r Cylch, Taith gerdded yngngofal John a Mai LeedingPwyllgor Sioe Tal-y-bont,8.00pm5C.Ff.I. Tal-y-bont10Bethel,10.00 a 5.00,Cymanfa GanuNasareth, 10.00 a 5.00,Cymanfa GanuRehoboth, 10.00 a 5.00,Cymanfa GanuEglwys Dewi Sant – Gweleryr hysbysfwrdd10-16Wythnos CymorthCristnogol13Pwyllgor y Neuadd, 8.00pm12C.Ff.I. Tal-y-bont16Clwb Nos Wener – TaithGerdded

Dyddiadur

Page 3: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

3

Pobl aPhethe

GenedigaethLlongyfarchiadau i PollyStills a Dafydd Jones, TñMawr, Eglwys-fach sydd wedicael merch, Lisa Glas ar 17 oFawrth.

Dathlu’r deunawDau a fu’n dathlu eu pen-blwydd yn ddeunaw oed ar yrun diwrnod ym mis Ebrilloedd Helygen Crowther, TñCoets, a Steffan Nutting, TñHen Henllys. Pob dymuniadda i’r ddau ohonynt.

Dathliadau pen-blwyddLlongyfarchiadau i Beti WynDavies a John Leeding syddwedi dathlu pen-blwyddarbennig yn ddiweddar.Llongyfarchiadau hefyd i JoyNeal, Llwyncelyn, Glandyfiar ôl dathlu pen-blwyddarbennig yn ddiweddar.

TaithMae William Bamford, mabVick a Roy Bamford, Felin yCwm, Ffwrnias ar ei ffordd iSeland Newydd ganddefnyddio cerbydaucyhoeddus yn unig am nadyw am hedfan yno. Mae wedibod yn byw ym Moscow,Azerbajan, Mongolia aBeijing. Fe arhosodd amychydig amser yn Japan yngnghwmni Tom Cairnes (gynto Daliesin) sydd yn byw yno.Ar hyn o bryd mae Williamyn Awstralia. Bydd ganddostraeon diddorol i’w hadroddpan fydd yn dychwelydymhen blwyddyn.

Codwn ein baneri!Bydd ein darllenwyr yn falcho glywed fod enwau’r sawl aladrataodd faner y DdraigGoch oddi ar y polyn y tuallan i’r Neuadd Goffaddechrau Mawrth bellachwedi cael eu cyflwyno i’rheddlu. Yn ôl a ddeallwn, yroedd hynny o dystiolaeth aoedd ei hangen ar yr heddluar gael ar wefan Facebook.Trwy gymwynas sydyn apharod dau o aelodau diwydPwyllgor y Neuadd,llwyddwyd i osod banerDraig Goch arall yn lle’r un agipiwyd ymaith fel nad oeddfawr neb wedi sylwi fod yfaner wreiddiol wedidiflannu. Da iawn nhw.

Llwynogod yn blaA’r tymor wyna bellach yn eianterth yn ucheldir gogleddCeredigion, clywsom fodnifer o ffermwyr lleol yncwyno eleni oherwydd fodllwynogod yn lladd yr ãyn.Bu’n rhaid cynnal sawl helfaar frys yng nghyffiniauLletylwydyn er mwyn ceisiodal y llwynogod rhag creurhagor o lanast a cholled.

Brysiwch wellaDymunwn wellhad buan iIdris Jones, Llysynyr, syddwedi treulio cyfnod yn yrysbyty, ac i Margaret MyrtleWilliams, Maesmwyn, syddwedi cael damwain ddrwg athorri ei choes.

CydymdeimladCydymdeimlwn â theulu affrindiau y ddiweddar MrsDoris Pierce, 78 Maesyderi,sef Eleri a’i gãr Charles, aRobert a’i wraig Llinos a’rplant, William, Gareth acElin, a’i chwiorydd BeatriceLewis a Louisa Phillips. Byddteyrnged yn y rhifyn nesaf.

Colli mam-guEstynnir cydymdeimlad âChristine a John Evans, BrynEleri a’r teulu, ar farwolaethmam-gu Christine ynFfrainc.

Cyfarfod y ChwioryddRehoboth

Daeth ein tymor i ben ar Fawrth y 10fed pan gafwydy pleser o gwmni Iolo apEurfyl a Buddug oLwyngwril. Mae’r ddau ynmwynhau teithio dramor achawsom hanes eu taith iBatagonia, Chile a Rio.Rhoddodd Eurfyl fraslun ohanes y llefydd y bu’nymweld â hwy ymMhatagonia a disgrifiadmanwl o daith yr ymfudwyrcyntaf o Gymru.

Cytunodd Eirlys a Non ibarhau gyda’u swyddi amdymor arall.

Mwynhawyd lluniaethysgafn wedi ei pharatoi ganMargaret Jones a CarysBriddon. Diolchwyd i bawb afu yng ngofal y te yn ystod ytymor.

Gwellhad BuanDymunwn wellhad buan iMr John Davies, Dolcletwrsydd mewn ysbyty yn yGogledd, gan ei fod yn arosar y pryd gyda’i ferch Kit yny Ffôr, Pwllheli. Hefyd i MrsAvril Bond a gafoddddamwain fach yn eichartref.

Chwarae rhan mewnopera

Llongyfarchiadau i JennyFothergill, Tal-y-bont, ar gaelei dewis yn un o brifgymeriadau opera ddychanolfywiog Offenbach, ‘Orpheusin the Underworld’. MaeJenny wedi bod ynperfformio’n gyson gyda’r‘Aberystwyth ShowtimeSingers’ ers deunaw mlyneddac mae hefyd yn aelod oGymdeithas Gorawl yBrifysgol a ChymdeithasGorawl Aberystwyth.

Eglwys St. Pedr, ElerchCynhaliwyd Festri’r Pasg arSul y Blodau, 5 Ebrill.Cytunodd Emyr Davies,Llety Ifan Hen i weithreduam dymor arall fel Warden yFicer, ac ailetholwyd DewiEvans, Pen-y-graig,fel Warden y Bobl acystlyswr. Yn ogystal,ailetholwyd RichardHuws, Pantgwyn ynysgrifennydd y CyngorPlwyfol Eglwysig,gydag Emyr Davies ynDrysorydd. Diolchodd y Ficeri bawb am eu cydweithrediadcaredig yn ystod blwyddyn afu’n un adeiladol iawn i’rEglwys. Edrychir ymlaen atwasanaeth Sul y Pasg, acmae’r gwaith o gynllunio’rnoson flynyddol o gaws,gwin a chân a gynhelir eleniar nos Wener, 26Mehefin wedi cychwyn.

Ar ddydd Sul 15 Mawrth, yn Eglwys Babyddol y SantesGwenfrewi, Aberystwyth, bedyddiwyd Caoimhe Melangell,chwaer fach Oisin Lludd, ac ail blentyn Siôn Pennant aHelena, Pen-y-gro, Bont-goch. Mewn gwasanaeth hyfrydgweinyddwyd y bedydd gan y Tad Paul. Yn ddiweddarach,mwynhaodd y gwahoddedigion bryd hyfryd o fwyd ynNeuadd Goffa, Tal-y-bont a baratowyd gan y teulu.

Page 4: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

4

NABODY Bras Melyn

Cafodd yr aderyn Bras Melyn(Yellowhammer) gryn sylw ar raglen bydnatur Radio Cymru, ‘Galwad Cynnar’,yn ddiweddar. Mynegodd gãr oLanfairfechan ei bryder nad oedd yn dodar draws yr aderyn hardd hwn hannermor aml ag yr arferai wneud, ac apelioddam wybodaeth gan wrandawyr eraill er

mwyn gweld a oedd hyn yn ddarlun cyffredinol mewnardaloedd eraill o Gymru. Cadarnhaodd Iolo Williams acarbenigwyr eraill fod newid mewn dulliau amaethu wediachosi cwymp sylweddol yn niferoedd y rhywogaeth, adaethpwyd i’r casgliad nad yw’r bras melyn bellach ymhlithein hadar mwyaf cyffredin. Un a ymatebodd i alwad y rhaglenam wybodaeth leol oedd Richard Huws o Bont-goch, agadarnhaodd mewn e-bost a ddarllenwyd ar y rhaglen ei fodyntau yn bryderus fod y niferoedd wedi gostwng ynsylweddol, tra oedd yn cyfaddef ei fod yn ffodus medru dweudei fod yn gweld yr aderyn (pâr ohonynt), bron yn foreol, wrthfynd â’i gi am dro ar hyd y ffordd o’r pentref ar hyd CwmEleri i gyfeiriad Tal-y-bont. Byddai’n ddiddorol clywed ganddarllenwyr eraill Papur Pawb, yn enwedig o blith y rhai sy’nbwydo adar â hadau blodyn yr haul, pa mor aml mae’r brasmelyn yn ymweld â’u gerddi.

Dechreuodd y mis yma mewn modd annaturiol iawn...gydachyfarfod! Ond, ’roedd rhaid cael ein pennau at ein gilydd igael gwneud paratoadau tuag at Ddiwrnod Maes y Sir.Penderfynwyd ar y cystadlaethau y byddwn yn cynnig arnynt,pwy fyddai’n cystadlu a phwy fyddai’n ein cynorthwyo. Felmae’r mis wedi mynd heibio, cawsom gyfle i fynd draw iGerrigtaranau i gael hyfforddiant da godro gyda Martin, iGaergywydd, Bow Street am hyfforddiant ãyn tew gydagAlun ac i Dy’n Graig am hyfforddiant barnu moch. Diolchyn fawr i deuluoedd Jenkins, Jones a Jenkins am eu hamsera’u croeso.

Nos Wener y 13eg, targedwyd cyn-aelodau’r Mudiad drwydrefnu Noson Rhowch Gynnig Arni i lawr yng NgwestyLlanina, Llanarth. Llwyddwyd i gael tîm at ei gilydd ergwaetha’r ‘maternities’ wyna. Cafwyd lot o sbort a bwriedircynnal noson debyg yn y dyfodol i gyn-aelodau eto.

Tro Elgan a Morfudd, Tynant i ddweud eu hanesion amSeland Newydd oedd nos Fawrth, 17eg o’r mis. Anghredadwyoedd gweld cae oedd yn gant o aceri! Ond yn hela niwerthfawrogi’n fawr fod y ddau wedi dod nôl adre.

Serch mai dim ond criw bychan ohonom ddaeth at eingilydd ar y 24ain, trosglwyddwyd neges bwysig gan Ywain apDylan, sef Swyddog Prosiect Diogelwch y Ffyrdd SirCeredigion, am beryglon cyflymder a chyflwr ffyrdd. Er bod ypwnc yn un difrifol, mwynhawyd y noson yn fawr gan yraelodau.

Dydw i ddim ond ar baragraff pedwar, ac yn sydyn iawn,mae’n amser Diwrnod Maes y Sir! Cynhaliwyd ycystadlaethau i lawr ym mart Tregaron ar y 4ydd o Ebrill.Cystadlodd sawl aelod o Glwb Tal-y-bont yn y barnu stoc,ffensio, hyrwyddo clwb, sialens natur, sialens diogelwch a’rher ATV. Llwyddodd Elgan, Rhydian a Geraint i gipio’r wobram y ffens orau a daeth tîm barnu stoc hñn yn 3ydd. Daeth

clod hefyd i Dewi Jenkins, Ty’n Graig a ddaeth yn 4ydd ynbarnu stoc iau.

Bydd y tîm ffensio a Dewi’n mynd trwyddo i gynrychioliCeredigion yn niwrnod maes Cymru a gynhelir yn Ynys Mônar y 25ain o Ebrill. Dymunwn bob lwc iddyn nhw.

Rhaid nodi hefyd bod rhai o’r merched hñn wrthi’n paratoidrwy ymarfer tynnu’r gelyn. Bydd rhai o’r aelodau mewn tîmo glybiau mwngrel, hynny yw aelodau o sawl clwb!

Gala Nofio, Chwaraeon y Sir a’r Rali yw’r cystadlaethausy’n dod lan yn fuan, felly bydd lot o waith yn mynd mewn ibaratoi ar gyfer y rheini. Ond dwi’n siãr y byddwn yn medruffitio lot o weithgareddau ychwanegol i mewn rhyngddynnhw i gyd. Fel dwi wastad yn dweud, tarwch heibio arnosweithiau Mawrth os y’ch chi awydd cymryd rhan neugyfrannu tuag at ein gweithgareddau.

Eleri James

C.Ff.I. Tal-y-bont

Aelodau o Bwyllgor Merched y Wawr Tal-y-bont yn dathluGãyl Ddewi yng nghwmni Emyr Puw Evans a’r teulu yngNghlwb Golff y Borth.

Merched y Wawr Tal-y-bont

Swyddogion newydd y Sir, yn cynnwys Eleri James (Morwyn ySir), Hedydd Davies (wyres Gwilym ac Ann Jenkins, Llety’rBugail), a’r Frenhines Manon Richards o Glwb Llanwenog.

Tri ffensiwr o fri, Rhydian, Geraint ac Elgan.

Page 5: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

5

A GYMRI DI GYMRU? - Adolygiad

Pleser oedd pori trwy gyfrolnewydd o farddoniaeth RobatGruffudd. Na, nid nofel sylwer,ond cyfrol o gerddi. Wrthgyflwyno’r llyfr i Enid maeRobat yn nodi bod Enid ‘wastadwedi dweud bod fy ngherddi ynwell na fy nofelau’. Well i mibeidio ag ymuno â’r ddadlhonno, ond wrth ddarllen ycerddi does dim amheuaethnad yw Robat yn cael andros ohwyl ar gyfansoddi.

O ddyfynnu’r broliant, yrhyn a geir yn A Gymri DiGymru yw ‘dros drigain ogerddi syml, swynol, dwys adoniol am Gymru ac am fyw’.

Fel patholegydd yn pwyso dros gorff y genedl mae Robat ynllwyddo i ddadansoddi cyflwr Cymru i’r dim. Weithiau byddei gyllell braidd yn agos at yr asgwrn gan wneud i chi wingo,a thro arall bydd gordd yn disodli’r scalpel yn ei law. Trwy’rcyfan, fodd bynnag, dyma ddarlun didwyll o’n gwlad ac amfywyd, y medrwch chi uniaethu ag ef, ac ar eich gwaethafbyddwch yn cytuno gyda thrwch yr hyn a fynegir yn y cerddi.

Dyma enghraifft o’r gyllell finiog, sy’n adlais o sylwdirdynnol yr athronydd J.R. Jones a deimlai’n alltud yn eiwlad ei hunan:

Beth y’ch chi’n neudYn niwedd eich bydA’ch muriau ’di syrthio,A phawb yn fud?Oes ’na linell argyfwngNeu wydr i’w faluPan mae’ch gwlad wedi’ch gadaelA’ch byd wedi chwalu?

Mae’n siãr taw’r rhai fydd yn gwingo fwyaf wrth ddarllen ycerddi fydd cefnogwyr digwestiwn Plaid Cymru. Yr hyn maeRobat yn ei brofi, wrth gwrs, yw fod i feirniadaeth ddychanola choegni le pwysig mewn trafodaeth wleidyddol. Darllenwchy gân i Dafydd Êl a byddwch yn siwr o chwerthin yn uchel.

Cawn ein hatgoffa hefyd o gerdd Robat a roddodd i ni uno’n hoff sloganau:

melys yw bod yn Gymroa chael peintio’r byd yn wyrdd.

O safbwynt lleol gwelir ambell gyffyrddiad a fydd yn taronodyn gyda darllenwyr Papur Pawb:

Dei Ritsh a ChefngweiriogHuw Bryngwyn a John BalaGwesyn a’r ddau goedwigwr;Ble aethoch chi mor smala?

Y cerddi a wnaeth fy nghyffwrdd i fwyaf, fodd bynnag, oedd yrhai personol, gan gynnwys y rhai i’w gyfaill Eirug Wyn a honer cof am ei fam:

ti, a’th wareiddiad ceinachti, a’th ymennydd chwimti, a gwestiynai bopethti, na phoenai am ddimti, a ddyfynnai Goetheac eraill, dyn a ãyr,ti, a’th gred yn y teuluti, a’m deallai yn llwyr.

Rhyfedd hefyd oedd y pwl o hiraeth wnaeth fy nharo wrthddarllen y gerdd Tsheco (nos Wener, Talybont):

tsheco bod ’na lwybr rownd y Bloctsheco bod ’na lyfrau yn ein stoctsheco’n gyffredinol, er ein pechu,nad yw’r Saeson eto wedi’n trechu.

a dyma nhw, yr hen dafarnau,i groesawu ein rhagfarnautsheco bod cadeiriau rownd y bwrddtsheco bod y bois yn dal i gwrdd.

Yn y noson lansio a drefnwyd yn y Llew Du (ar y cyd â nofelGeraint Evans, Y Llwybr) clywyd Robat yn cyfeirio at y beirdda fu’n cosi’r awen yn Nhal-y-bont ers talwm. Mae’n siãr fodgwên ar wynebau’r cwmwl tystion hyn wrth wrando ar Robatyn cyflwyno’i gerddi yn y lansiad, a braf yw cydnabod fod ytraddodiad barddol yn parhau yn yr ardal.

D.Ph.D.

TeiarsAliniad Olwyn

EcsôstsBatrisBrêcs

HongiadBar tynnu

Gwasanaeth

Am y pris gorau a dewis eang o deiars cysylltwch â nidrwy’r wefan neu galwch heibio am gyngor

Am docyn disgownt ar gyfer alinio eich car ewch i’n gwefanALIGNMYCAR.CO.UK

Glanyrafon Rhodfa’r Parc

HUWLEWISTYRES.COM

Ffôn 01970 636774

Page 6: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

6

Cyngor Cymuned Ceulanamaesmawr

Estynnwyd croeso i’r aelodau i gyfarfod mis Mawrth gan yCadeirydd, y Cynghorydd Nest Jenkins. Gyda’r CynghoryddGlenys Edwards yn cynnig a’r Cynghorydd Gerwyn Jones yneilio, cadarnhawyd cofnodion cyfarfod Chwefror fel rhaicywir. Adroddodd y Clerc iddo lythyru gyda swyddogperthnasol yn y Cyngor Sir ar y camau y cytunwyd arnynt igeisio lleihau problemau baw cãn o fewn y gymdogaeth, ondnad oedd wedi derbyn ateb mor belled. Cytunwyd nad yw’rarwyddion presennol yn gwahardd cãn ger y ddwy fynedfa i’rCae Bach yn ddigon clir, a bod angen rhai mwy o faint. Maellawer iawn o’r trigolion wedi arfer defnyddio’r Cae Bach felllwybr troed, a byddai’n anodd iawn felly cau’r fynedfa iffordd yr Hen Ysgol yn gyfan gwbl. Cytunwyd i holi amgostau codi gatiau pwrpasol ger y ddwy fynedfa i’r Cae Bach iatal cãn rhag crwydro yno.

Cafwyd adroddiad llafar gan y Cadeirydd o’r digwyddiad afynychodd lle cyflwynwyd y cysyniad o Bwerdy i hyrwyddoCymreictod o fewn cymunedau lleol. Amlinellwyd yr hyn agyflawnwyd gan Bwerdai a sefydlwyd mewn ardaloedd eraillyng Ngheredigion. Cytunwyd nad oedd galw ar hyn o bryd isefydlu Pwerdy o’r fath o fewn y gymuned gan fodamrywiaeth dda o weithgareddau eisoes yn bodoli, ond byddyr wybodaeth am brofiadau ardaloedd eraill yn rhywbeth i’wgadw mewn cof petai’r amgylchiadau’n newid.

Cafwyd adroddiad o’r cyfarfod adeiladol a drefnwyd gydaswyddog o’r Adran Stadau ar broblemau parcio ym Maes-y-deri. Ymhlith y materion a drafodwyd roedd sicrhau rhagor odir addas i barcio ceir o fewn y stad, gofalu nad oes moddgyrru i mewn iddi drwy’r fynedfa gyferbyn â’r Cae Bach, allenwi hen dwll carthffosiaeth y tu ôl i’r tai ar yr ochr ogledd-orllewinol. Mae’r Cyngor Sir am baratoi amcangyfrifon o’rgost o uwchraddio’r cyfleusterau parcio, a bydd y gwaith olenwi’r twll yn mynd rhagddo dros yr wythnosau nesaf.Croesawyd y datblygiadau hyn gan yr aelodau.

Darllenwyd llythyr oddi wrth drigolion Penrhiw yn cwynoam gyflwr y llain galed gyferbyn â Salon Leri. Eglurwyd bod eigyflwr mor wael fel y gorfodir plant ysgol a’r henoed i gerddedar ochr ddwyreiniol y ffordd fawr o Lys Etna nes cyrraedd yBont Fawr. Awgryma’r llythyr y dylid mynd ati i dacluso’r

llain, codi palmant ar yr ochr fewnol a gosod rhwystrau mwycadarn na’r rhai plastig presennol i atal modurwyr rhagparcio yno. Cytunodd y Cyngor i anfon at yr AsiantaethPriffyrdd yn tynnu sylw at y perygl. Hefyd derbyniwyd llythyroddi wrth un o drigolion y pentref yn tynnu sylw’r Cyngor atgyflwr peryglus rhannau o’r llwybr rhwng yr Hen Felin aMaes-y-llan. Cytunwyd i anfon at Uned Llwybrau’r CyngorSir yn tynnu sylw at y mater ac yn gofyn iddynt drefnu i’wwella fel mater o frys.

Derbyniwyd gwahoddiad gan Gwmni Airtricity yn gofyn i’rCyngor awgrymu pa weithgareddau y dymunai roiblaenoriaeth iddynt pan ddosrennir yr arian budd cymunedolos cymeradwyir y cais cynllunio i godi Fferm Wynt Nant-y-moch. Bydd y Cynghorwyr yn penderfynu ar eu dewis oflaenoriaethau yng nghyfarfod mis Ebrill.

Adroddodd y Clerc iddo gwrdd gyda swyddog o AdranParciau a Gerddi’r Cyngor Sir, parthed cyflwr y lloriau o dan ysiglenni yn y Cae Bach. Gall y Cyngor Sir wneud gwaithtrwsio dros-dro, ond pwysleisiodd y swyddog mai ateb tymorbyr fyddai hyn. Pan ddaw’r amser i osod lloriau newydd, eigyngor yw y dylid codi siglenni newydd ar yr un pryd.Cytunwyd i drefnu i’r Cyngor Sir osod teils ail-law yn lle yrhai gwaethaf, a llenwi’r bylchau rhyngddynt. Cytunwydhefyd y dylid dechrau gwneud ymholiadau am GrantCymunedol er mwyn rhoi cychwyn ar welliannau tymor hir.

Tynnwyd sylw’r Cynghorwyr at y gwaith cymhennu awnaed gan weithwyr y Cyngor Sir o amgylch y toiledaucyhoeddus fel rhan o’r prosiect ‘Trefi Taclus’. Bellachplannwyd blodau a llwyni yno, a gosodwyd llwyfan i’wgwneud yn haws i ddarllen y bwrdd gwybodaeth ar Ysbryd yMwynwyr. Croesawyd y gwelliannau gan aelodau’r Cyngor.

Cafodd baner y Ddraig Goch sydd i’w gweld fel arfer o flaeny Neuadd Goffa ei chyfnewid gan rai di-enw am faner SanSiôr yn gynnar fore Gwener 27 Chwefror. Trefnodd rhai oswyddogion glew y Neuadd i godi baner Draig Goch wrth-gefn yn ei lle, fodd bynnag, a hynny mewn da bryd ar gyferEisteddfod yr Ysgol a gynhaliwyd yn y Neuadd y bore hwnnw.Adroddwyd bod y drosedd o ddwyn y faner bellach yn nwylo’rheddlu.

Ble yn y byd?Sut i chwaraeBle yn nalgylch Papur Pawb mae’r llun yma wedi caelei dynnu?Ateb

Enw

Cyfeiriad

Cod Post

Rhif Ffôn

Atebion: i Geraint Evans, Garnwen, Tal-y-bont erbyn Mai 1af

Gwobr: Tocyn Llyfr £10i’r ateb cywir cyntaf allan o’r het

Enillydd ‘Ble yn y Byd?’ Mis MawrthIanto Hammond Pennant, Bont-goch

Page 7: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

7

8.00am – 6.00pm Llun - Gwener

Rydym yn cynnig gofal ac addysg o ansawdd i blant o chwe

wythnos oed hyd at oed ysgol. Mae clwb gwyliau bywiog yn

cael ei gynnal i blant cynradd yn ystod gwyliau’r ysgol hefyd.

Caiff pob plentyn gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o

weithgareddau fydd yn hybu pob agwedd o’i ddatblygiad.

Mae gan y feithrinfa amrywiaeth eang o deganau,

deunyddiau crefft ac arlunio, ynghyd â llawer o offer sy’n

annog chwarae dychmygus.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd eich plentyn yn

cael y gofal gorau gan y tîm o staff profiadol a chymwys, a

hynny mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar

a Chymreig.

Camau Bach yw’r unig feithrinfa ddydd cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth.

www.mym.co.uk 01970 639655

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Sioe nos Lun, 2 Mawrth,yn y Neuadd Goffa. Adroddodd y Cadeirydd, Evan Jenkins,mai siom fawr oedd gorfod canslo’r sioe y llynedd oherwyddtywydd gwlyb, ond edrychir ymlaen at gynnal y sioe eleni,gan obeithio’n fawr y bydd y tywydd yn garedicach.Diolchodd i’r Llywyddion, y Swyddogion ac i bawb arall ameu cefnogaeth drwy’r flwyddyn.

Llywyddion y sioe eleni yw Dr a Mrs Gareth Hughes,Coetmor, Tal-y-bont.

Etholwyd y swyddogion canlynol am 2009:Cadeirydd: Evan Jenkins, Carregcadwgan; Is-gadeirydd: DewiEvans, 93 Bryncastell, Bow Street; Trysorydd: Howard Ovens,Frondirion; Ysgrifenyddes Gyffredinol: Janet Jones,Llwynglas; Ysgrifenyddes y Babell: Dilys Morgan, Alltgoch;Cyfarwyddwyr y Sioe: Teulu Bryngwynmawr; Rheolwr yMaes: Emyr Davies, Llety Ifan Hen.

Bydd y sioe eleni yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 29Awst, ar gaeau’r Llew Du, trwy ganiatâd caredig TeuluRichards, Glanleri.

Mae croeso i unrhyw un ymuno â ni yn ein pwyllgorau,sy’n cael eu cynnal ar y nos Lun gyntaf o bob mis yn yNeuadd Goffa am 8.00 o’r gloch.Janet Jones

Fe gysylltodd Erwyd Howells â golygydd y mis i roi gwybodam olygfa drawiadol o’r domen anferthol o goed a dorrwydgan y Comisiwn Coedwigaeth ger hen safle Capel Tabor ynNant y Moch. Ar fore braf o wanwyn ddechrau Ebrill, a’r haulcynnar yn disgleirio, roedd gweld y tunelli o goed wedi eugosod yn bentyrrau uwchlaw’r ffordd yn olygfa gofiadwyiawn. Mae Gwilym Jenkins, Llety’r Bugail, yn cofio’r coed yncael eu planu yn ystod y chwedegau, ac am y sôn a oedd yradeg honno y byddai eu planu yn creu llawer o swyddi yn yrardal. Erbyn heddiw mae un dyn sy’n gweithio peiriant ar eiben ei hun yn gallu torri erwau lawer o goed mewn dim o dro,eu torri i hyd arbennig, cyn eu gosod yn bentyrrau yn barodi’w cludo oddi yno ar gefn lori. Gwaith i ychydig iawn oddynion yw symud cymaint o goed erbyn hyn. Ble mae’r hollswyddi lleol a addawyd ddeugain mlynedd yn ôl pan oedd yComisiwn yn meddiannu’r lluestydd ac yn planu’r coed ar yfath raddfa, tybed?

Y Cynhaeaf Coed

Cymdeithas Sioe Tal-y-bont

Page 8: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

8

Mae’r ysgol wedi bod ynbrysur iawn yn ddiweddarefo llawer o weithgareddau iategu ac atgyfnerthu addysgdda y plant.

Cerddorfa LinynnolFe aeth disgyblion CA2 iweld y gerddorfa linynnol ynchwarae yng Nghanolfan yCelfyddydau. Cafwyd amserda yn gweld pobl ifanc y Siryn chwarae mor dda. Traoeddem yno, roedddisgyblion y Cyfnod Sylfaenyn cael gwersi Celf yngnghwmni Ruth Jên, athrawesgelf brofiadol iawn.Mwynhaodd y plant bach ygweithdy yn fawr iawn.

Diwrnod Cymreig

Cynhaliwyd diwrnodCymreig ar ddechrau misMawrth i ddathlu GãylDdewi. Cafwyd prynhawn oddawnsio danarweinyddiaeth ErwydHowells, coginio pice mângyda Mrs Nelmes a chelfgyda Mrs Daniell. Dysgodd yplant lawer am draddodiadauCymreig yn ystod y diwrnodhwylus hwn.

Bonansa Banana

Cymerodd yr ysgol ranmewn ymgyrch MasnachDeg. Roedd pobl ar draws ywlad yn dathlu BonansaBanana trwy geisio bwyta ynifer mwyaf o fananasMasnach Deg mewn 24awr.Er mwyn dathlu, bwytaoddpawb yn yr ysgol fanana adaethant i’r ysgol wedigwisgo mewn melyn.

Ymweliad PC LloydDaeth PC Gwyndaf Lloyd i’rysgol i drafod diogelwch y wea bwlian gyda phlant yrysgol. Ymatebodd y plant yndda iawn i’r gweithdy pwysig

yma yn ymwneud â’udiogelwch personol.

Plant yn y Cwrt!Bu plant blynyddoedd 5 a 6yn ymweld â llysAberystwyth yn ddiweddar.Buont yno yn dysgu am sutmae’r llys yn gweithio abuont yn rhan o dreial ffug.Cawsant eu cau mewncelloedd a gwelwyd tu mewni fan Securicor. Triparbennig o dda.Pêl Rwyd a Rygbi yn Nhal-

y-bontBu disgyblion blynyddoedd 5a 6 yn ysgol Tal-y-bont yndysgu sgiliau rygbi a phêlrwyd. Cafwyd amser daiawn yn cymysgu efo’r planta gwneud ffrindiau newyddtrwy ddysgu sgiliau newydd.

Noson gwisCafwyd noson gwislwyddiannus iawn ynnhafarn y Wildfowler ynddiweddar. Ymgasglodd nifero ffrindiau a rhieni’r ysgolynghyd â’r staff i gael nosondda o gasglu arian i’r ysgol.Diolch i’r Wildfowler am eingadael i gymryd drosodd amnoson.

Bygiau Baco

Aeth yr holl ysgol i FwlchNant yr Arian yn ddiweddari ddysgu am ddiogelwch tânac am beryglon ysmygu. Mioedd y gweithdai ar gyferdisgyblion 4, 5 a 6. Traoeddent yno mi oedd yCyfnod Sylfaen hydblwyddyn 3 yn cael gwersigwyddoniaeth trwy edrych argynefinoedd gwahanol.

Earth HourAr ddydd Gwener 27Mawrth fe aeth yr ysgoltrwy’r dydd heb ddefnyddiotrydan! Gwnaethom hyn ermwyn torri i lawr ar einallyriant carbon. Mi oeddhyn yn cyd-fynd ag ymgyrchdros y byd gan y WWF i nigael meddwl faint o drydanrydym yn ei ddefnyddio oddydd i ddydd.

Newyddion Ysgol LlangynfelynRygbi’r Urdd

Fe gymerodd tîm rygbi’rysgol ran yn nhwrnamentrygbi’r Urdd yng nghlwbrygbi Aberaeron ynddiweddar. Cafwyd diwrnodda iawn. Er i’r tîm golli ynerbyn Ysgol Aberteifi, YrYsgol Gymraeg a CharregHirfaen, enillon nhw ynerbyn Ysgol Comins Coch.Da iawn fechgyn amchwarae mor dda.

CyfeiriannuMae disgyblion blynyddoedd5 a 6 wedi bod yn dysgusgiliau mapio a chyfeiriannuyn ddiweddar. Mae MrsJenny Dingle wedi bod yndod i’r ysgol i ddysgu’r planta diolch iddi am ei hamsera’i hymroddiad i fywyd yrysgol. Yn dilyn sesiynaumapio yn yr ysgol mae’rplant yn rhoi eu sgiliau i’reithaf trwy fynd allan i’r cefngwlad o gwmpas y pentref iddilyn llwybr cerddedarbennig. Mae datblygu’r sgil

yma yn hollbwysig ac o fuddi’r holl blant sy’n cymrydrhan.

Llwyddiant yr Urdd

Mae’r ysgol wedi adeiladu arein llwyddiant yn Eisteddfodyr Urdd y llynedd trwy gael 2gystadleuaeth trwodd i’rEisteddfod Genedlaethol yngNghaerdydd eleni. Fe fydd ygrãp dawnsio creadigol yndawnsio ar y dydd Llun ac fefydd Arran Clarke (Blwyddyn

6) yn cynrychioli’r ysgol ynyr Unawd Pres i flwyddyn 6ac iau ar y dydd Mawrth.Dymunwn bob llwyddiantiddynt yn yr EisteddfodGenedlaethol ym mis Mai.

Wedi Ystyried Gweithio ymMaes Ymchwil y Farchnad?

Mae Beaufort Research, cwmni blaenllawymchwil cymdeithasol yng Nghymru,

yn chwilio am siaradwyr Cymraegi hyfforddi fel cyfwelwyr.

Nid oes angen profiad ond mae mwynhau cwrddâ phobl, defnydd o gar a sgiliau cyfathrebu da

yn allweddol.Dim gwerthu o gwbwl. Oriau hyblyg.

Cysylltwch â Isobel Cooperar 01874 636416 am fwy o wybodaeth

Page 9: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

9

Gweithdy BarddoniaethAethom ni i gael gweithdybarddoniaeth gyda Ifor ApGlyn yng Nghanolfan yMorlan. Roedd yn rhan oarddangosfa oedd yn teithioo gwmpas y byd yn sôn amhawliau pobl.

Erychom ni ar lythyron,barddoniaeth a lluniau planto wledydd fel Mali, Brasil,Bolivia a Chymru ac roeddyn rhaid i ni ysgrifennucredd am y wybodaeth oeddarnyn nhw. Enw’rarddangosfa oedd ‘Samedifference’.

Buodd bechgyn Blwyddyn5 yn cael hwyl gyda DewiPws yn Llyfrgell y Dref hefydyn ystod y mis.

Gan MariTrip i Bentre Bach

Aeth y plant lleiaf i gyd arwibdaith i Bentre Bach arddechrau mis Mawrth iddathlu Diwrnod y Llyfr.Roedd hi’n achlysur arbenniggan ein bod wedi gwisgo felcymeridadau o nofelau T.Llew Jones er mwyn dathluei fywyd a’i waith. Cawsomgwrdd â nifer o gymeriadaudiddorol o Twm Siôn Cati iBarti Ddu.

Dysgu am Batagonia

Yn ddiweddar fe ddaeth MrJohn o Ysgol Llangynfelyni’r ysgol i siarad â ni am yCymry a wnaeth ymfudo iBatagonia. Roedd gan MrJohn ddiod o’r enw matte i

ni ac roedd rhai pobl wedibod yn ddigon dewr i’w yfed!Hefyd roedd ganddo ddauponcho gafodd yn anrheg oBatagonia. Dysgom lawer o

bethau am fywyd ymMhatagonia ac fefwynheuom yr ymweliad ynfawr iawn. Diolch Mr. John.

Gan Rachael a MediGweithdy Dewi Pws

Yn ystod y mis aeth bechgynbl.5 i weithdy barddoniaethyn Llyfrgell y Dref gyda DewiPws. Chwaraeom ni lawer ogemau fel anagrams pêl-droed a cwisiau pa dîm.Roeddem yn ceisio chwilioam dri llyfr gan T. Llew Jonesa thri llyfr gan Roald Dahl.Roedd Alex a Callum yn fyngrãp i, ac roeddem ni bronâ gorffen y dasg, uncwestiwn ar ôl gyda ni.Mwyheais yn fawr iawn acrwy’n meddwl bod pawbarall o’r bechgyn wedimwynhau hefyd.

Gan BenEisteddfod yr Urdd

Llongyfarchiadau mawr ibawb sydd wedi ennill clodyn Eisteddfod yr Urdd dros ymis diwethaf. Da iawn tiNiamh am ddod yn ail yn ygystadleuaeth dawnsio disgoac mae’n hyfryd dweud ybydd Medi, Esther, Zoë,Bethan a Catrin (aelodau’rensemble telyn), Seren(unawd chwythbrennau) aMedi (dawnsio gwerin iferched) yn cystadlu yn

Dysgu am einhamgylchedd

Cafodd Blwyddyn 5 a 6brynhawn arbennig yngnghwmni Hywel Griffiths oAdran DdaearyddiaethPrifysgol Aberystwyth ynddiweddar. Fe fuodd e’ndysgu ni am ddaearyddiaethyr ardal o gwmpas CwmLeri. Roedd e’n hwylenfawr i fesur cyflymder yrafon a mesur dyfnder y dãr.

Gan EstherCefyn Burgess

Bu’r ysgol yn hynod o ffodusi dderbyn nawdd hael ganGronfa Eleri a ChwmniAmgen i’n galluogi i wahodd

Cynhaliwyd Disgo Pasg ar y3ydd o Ebrill yn NeuaddGoffa Tal-y-bont gyda DjDai, a chynhaliwyd ycystadlaethau canlynol:Addurno wy

1af Ffion Nelmes2ail Glain Llwyd Davies3ydd Miriam Llwyd Davies

Llongyfarchiadau mawr iRachael, Tara, Ffion a Jamesam gyrraedd yr ail rownd oGwis Llyfrau LlyfrgellAberystwyth. Maent wedimwynhau’r her o ddarllen acateb cwestiynau am y ddaulyfr dan sylw yn fawr iawn.

CYMDEITHAS RHIENI AC ATHRAWONYSGOL TAL-Y-BONT

Newyddion Ysgol Tal-y-Bont

Cystadleuaeth parêd het wy

1af Billy Swanson2ail Sion Nelmes3ydd Louisa Williams

Cafwyd noson dda iawn allwyddwyd i gasglu £300tuag at yr ysgol.

Eisteddfod Caerdydd arddiwedd mis Mai. Diolch ibawb sydd wedi eincynorthwyo i hyfforddi’rplant.

Pêl-rwydDiolch o galon i Rhiannon aHannah o’r Brifysgol amddod i’r ysgol i roihyfforddiant pêl-rwyd i ni amerched Ysgol Llangynfelyn.Fe wnaethom ddysgu llawero dactegau newydd!

Gan Ffion

yr artist Cefyn Burgess iweithio gyda phob dosbarth.Tecstiliau yw maes Cefyn acmae’r disgyblion wedi bod ynbrysur yn lluniadu, torri aphwytho adeiladau’r pentrefar gyfer creu murlun ar ythema ‘Ein Pentref ’.

Page 10: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

10

Ac yntau newydd gyhoeddiei nofel gyntaf, Y Llwybr, sy’nnofel dditectif, aeth golygyddy mis draw i Garnwen iholi’r awdur, Geraint Evans:

Gol: Beth a’ch ysgogodd ifynd ati i sgrifennu nofel?GE: Ar ôl imi ymddeolroeddwn yn benderfynol owneud rhywbeth gwahanol.Does gen i ddim llawer ohobïau, ond mi rydw i wedidarllen nofelau ditectif rif ygwlith. Gweld yr oeddwn inad oes cymaint o nofelaufelly yn cael eu cyhoeddi’nGymraeg. Yr oedd gen i frassyniad am stori yn fy mhenac fe drafodes i hynny gydaLefi Gruffudd yn y Lolfa, adechrau sgrifennu 5-6phennod i ddechrau. Ar ôlcael ymateb ffafriol gan Lefi,dyma gychwyn ar y gwaithyn ddisgybledig a gweithiowrth y cyfrifiadur gan osodtarged i mi fy hun o hyn-a-hyn o eiriau y mis. Y nod

oedd sgrifennu 70,000 oeiriau i gyd. Yn y diweddrown i’n teimlo braidd yneuog os na fyddwn ynsgrifennu.

Gol: Pwy yw eich hoffawdur ditectif?GE: Rwy’n hoff o waith IanRankin, P. D. James a ColinDexter. Mae’r rhain ynsgrifennu’n dda. Mae’n rhaid

i nofel gael elfennau fel storisy’n datblygu’n weddolgyflym, a chymeriadaucredadwy wrth gwrs, ondmae’n rhaid i’r sgrifennu fodyn dda hefyd. Rwy’n edmygucymeriad y plismon sy’nganolog i’r stori, felInspector Morse a Rebus. Yrhyn sy’n apelio ataf i yngnghymeriad Morse yw’rplismon diwylliedig allengar.

Gol: Pa waith ymchwil awnaethoch cyn sgrifennu’rnofel?GE: Siaradais gyda phlismynac mae gen i gopi o’r Policeand Criminal Evidence Actwrth y cyfrifiadur nawr!Rhaid gwneud ymchwil,achos bod y darllenydd yndisgwyl i nofel fod yngredadwy. Nid math owerslyfr ar waith ymchwil yrheddlu yw nofel dditectif,ond mae’n rhaid wrth yrymchwil os ych chi amgyflwyno’r cyfan yngredadwy.

Gol: A oes gennychddilyniant i’r nofel hon ar ygweill?GE: Oes, rwy’n bwriadusgrifennu nofel arall gyda’run plismyn ynddi wedi eilleoli yng Ngheredigion. Arôl sefydlu’r prif gymeriadaugellwch wedyn ddod â nhwi’r darllenydd am yr eildroa’u llenwi nhw mas fel petai.Bydd y cefndir yn y nesaf ynhollol wahanol, er ei bodwedi ei lleoli yngNgheredigion. Ffermyddgwynt fydd y cefndir, gan fodpobl yng ngyddfau’i gilyddpan fyddan nhw’n trafodsefydlu ffermydd gwynt, maellawer o wrthdaro a

thensiwn. Er nad oes gen iddim dyddiad cyhoeddi eto,mae angen gwneud llawermwy o waith ymchwil i’rcefndir.

Gol: Sut brofiad oeddgollwng y gwaith o’chgafael a’i gyflwyno i’rgolygydd ac yna i’rdarllenydd maes o law?GE: Wedi byw gyda’r babana’i fagu a’i nyrsio amfisoedd, roedd yn brofiadmawr ei roi i rywun arall, eiroi i’r byd fel petai. Rhaidmagu croen, ond rown idamed bach yn boenus.

Gol: Ond mae’r ymateb i’rnofel wedi bod yngalonogol iawn.GE: O, ydy. Rwy wedi caelgwahoddiad i fynd i siarad agaelodau clwb llyfrau, a chi’ngorffod bod yn ddigonaeddfed i dderbynbeirniadaeth, ac mae cael ycyfle i drafod y gwaith ynhelp. Mae pobl wedi bod yngaredig. Rwy wedi cael poblyn croesi’r stryd yn dweudeu bod wedi mwynhaudarllen y nofel, ac mae’nneis bod pobl yn ymatebfelly. Y mae un dyn o DdeAffrica sy’n dysgu Cymraegwedi darllen y llyfr ac wediymateb yn gadarnhaol arwefan gwales.com, ar ôllawrlwytho’r llyfr dros y we.

Gol: A yw cyhoeddi e-lyfrauyn eich barn chi ynfygythiad i ddyfodol y llyfrprint?GE: Nagyw, yw’r ateb.Mae’n ymestyn cyfleoeddarbennig i iaith a diwylliantlleiafrifol fel y Gymraeg. Nifydd yr e-lyfr yn disodli’rllyfr print, ond bydd yn creucyfleoedd newydd.

Holi awdur

Page 11: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

11

STORFACANOLBARTH CYMRU

Mid Wales Self Storage Centre

• STORIWCH E’ • RHOWCH DAN GLO •• CADWCH Y GORIAD •

STORFAGARTREF

STORFA FUSNES

STORFA IFYFYRWYR

PACEDU

• DIOGELWCHBT REDCARE24 AWR

• CCTV

• WEDI’I GYNHESU

• CIWBICLAU £10 yrwythnos (250ciwb)

• ARCHIFAU

01654 703592Heol y Doll, Machynlleth, SY20 8BQ

www.midwalesstorage.co.uk

Gyda braw a thristwch y clywyd am farwolaeth Helen Jenkinso Fferm y Moc, Ffostrasol, gynt o Bengelli, Taliesin, trwyddamwain drasig ar 21ain o Fawrth. Bydd pawb a oedd yn eihadnabod yn cofio ei phersonoliaeth gyfeillgar a siriol, ac yncofio amdani fel mam a oedd yn fawr ei gofal am ei phlant.Yr ydym yn cydymdeimlo’n ddwys â’i gãr, Aled, a’r plant,Dylan, Reian a Megan, a hefyd â’r teulu agos i gyd sydd yn yrardal.

Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol cyhoeddus yngNghapel Penllwyn, Capel Bangor, a thraddodwyd teyrngediddi gan Beti Griffiths, Llanilar. Yr ydym yn ddiolchgar i MissGriffiths am gael dyfynnu o’r deyrnged:

‘Cafodd Helen ei dwyn i fyny yn nyffryn hardd CwmRheidol ar fferm Aberffrwd. Hi oedd merch ieuengafEmrys a Jean Davies a bu farw ei thad yn ddifrifol osydyn rhyw 10 mlynedd yn ôl. Mynychodd YsgolGynradd Penllwyn ac Ysgol Gyfun Penweddig. RoeddHelen bob amser yn mwynhau bywyd i’r eithaf, bywydllawn. ‘Life is for living’, dyna ei harwyddair mewnbywyd. Ymhen amser dyma briodi Aled a setlo i lawr.Yna ganwyd eu tri phlentyn, Dylan, Megan a Reian.Roedd wrth ei bodd yn chwarae’r rôl o fod y fam. Er bodeu cyntafanedig yn dioddef o anabledd, ni chwynodderioed ond teimlai hi’n fraint cael edrych ar ei ôl. Nanid yw bywyd ddim yn deg. Rwy’n digwydd credu einbod ni wedi cael ein gosod ar y ddaear i gynnal eingilydd ac mae achlysur fel hwn yn gwneud innisylweddoli beth yw ein blaenoriaethau a’n cyfrifoldebaumewn bywyd. Ond mae un peth na all neb ei ddwynoddi arnom a hwnnw yw atgofion. Atgofion am briodarbennig a gweithgar, atgofion am fam ofalus am ferchac am chwaer annwyl.’

Dyma deyrnged bersonol i Helen gan un o’i ffrindiau yn yrardal hon, sef Lisa Tomos, Awelon, Pentrebach:

‘Blonde bombshell o ddynes, wastad yn barod ichwerthin a chael hwyl oedd Helen ac roeddwn wrth fymodd yn ei chwmni. Hoffai dynnu ar fy nhafodiaithogleddol a ‘Lisa-paid-â-mwydro’ fyddai hi a Megan ynfy ngalw’n aml.Mae Megan a Reian yr un oed â mhlant i ac felly roeddHelen yn gwybod popeth a oedd angen arnynt ar gyfer yllu o weithgareddau’n yr ysgol. A minnau a Morgan yngweithio, roedd Helen yn aml yn fy ffonio i fy atgoffa

Helen Mair Jenkins 1965-2009bod nofio, chwaraeon neu ymweliad ymlaen gan y planta bod angen rhywbeth arbennig arnynt. Yn aml buaswni wedi anghofio hebddi, dwi’n siãr.

Roedd Helen bob amser yn barod iawn eichymwynas a phan gefais ddamwain car a thorri pontfy ysgwydd, Helen a ffoniais i ofalu am Robin a Carwyna hwytha wrth eu bodd efo hi. Un wych yn y gegin oeddhi hefyd â bara brith neu gacs bach yn barod bob amser.Byddai Helen bob tro yn mynnu ein bod yn aros amswper, a rhywsut roedd digonedd o fwyd ar gael. Ei‘chicken dinner’ sydd yn aros yn fy nghof i fwyaf.

Gofalu am ei phlant ac Aled oedd canolbwynt eibywyd. Un ffordd fach roedd Morgan a minnau’nmedru ei helpu oedd wrth fynd i nofio. Byddai Megan aReian, Robin a Carwyn efo ni tra oedd Helen yncanolbwyntio ar Dylan ac am hyn roedd hi’n ddiolchgardros ben. Rydwi’n gwisgo’r freichled brynodd hi feldiolch i mi hyd heddiw.

Rydym yn gweld Pengelli yn glir o’n tñ, a phanbrynodd Helen deledu newydd anferth y jôc oedd einbod ni’n gallu ei wylio o fan hyn. “Ffonia fi pan wyt timoyn newid y sianel!” fyddai’n dweud. Wrth gwrs, felCardi go-iawn roedd hi hefyd yn tynnu arna i amgyfraniad at gost y drwydded!

Golygfa gyfarwydd i bobl y cylch oedd gweld Helenyn ei Galaxy glas ar hyd y ffordd. Byddai’r plant yngweiddi wrth weld ‘HMJ’ yn dod. Mae’n ergyd fawr eicholli. Mae’n gadael bwlch anferth ar ei hôl: un serenddisglair yn llai yn y Galaxy; Helen, fy ffrind annwyl.’

(Y llun trwy garedigrwydd Janet Evans, Cefngweiriog.)

Page 12: tud 3 tud 6 tud 10 tud 12 Pobl a Phethe Ble yn y byd? Holi Awdur …papurpawb.com/ol-rifynnau/2009/PP-Ebrill-2009.pdf · 2017. 3. 4. · sbwriel ar ochr y ffordd sy’n arwain i mewn

12

Chwaraeon

Dyma 2 lond bws o gefnogwyr yr ardal tu allan i Ewood Park, statium Blackburn Rovers ar 29 Ebrill 2008. Trip blynyddolClwb Pêl-droed Ieuenctid Tal-y-bont i weld Blackburn yn chwarae yn erbyn Manchester Utd. Cafwyd diwrnod gwych asiawns i’r chwaraewyr ifanc weld sêr mwyaf cyngrhair ‘Premier‘. Y sgôr terfynnol oedd 1-1 gyda Roque Santa Cruz yn rhoiBlackburn ar y blaen ar ôl 20 munud a Tevez o UTD yn sgorio i wneud y gêm yn gyfartal a dim ond 2 funud yn weddil, gêm

Deffrais yn gynnar yn llawncyffro. Roeddwn yn gobeithiobod Cymru yn mynd i guro yFfindir ac y byddai’n gêmarddechog!

Roedd Hefin Hopkins wedidod draw am ‘sleep over’.Paratoais i fynd. Roedd rhaid ini wisgo dillad ymarfer Tal-y-bont, sef siacedi du a logo Tal-y-bont. Roedd y clwb wedi rhoibenthyg trowsus i ni gyda logoTal-y-bont arnynt hefyd.Erbyn hyn roeddwn i yn barod ifynd ac yn edrych ymlaen igwrdd a thîm Cymru, ondroedd siwrnai hir ar y bws o’nblaenau.

Doedd hi ddim yn ddechrauda i’r diwrnod pan ddechreuoddhi fwrw! Felly bu raid i ni redegi ddal y bws.

Roedd y rhan fwyaf o’r boblar y bws yn barod. Eisteddais ia Hef ar bwys Gruffydd Jones acymunodd Dafydd Southgate âni yn Bow Street. Roedd pawbyn mwynhau ar y bws, ynedrych ymlaen at y diwrnodmawr. Roedd llawer o chwaraear ein ffonau symudol a llawero chwerthin ar y siwrne.

Aeth y siwrne yn gyflymiawn gyda Dylan Wyn yn eindiddanu a hoe fach i fynd i’r tñbach. Roedd tua hanner awr o’rsiwrne ar ôl. Rhoddodd gyrrwry bws CD Queen arno.

O’r diwedd cyrhaeddomGaerdydd. Ar ôl bod tua thairawr ar y bws, roeddwn i ynfalch o gyrraedd. Cerddom iStadiwm y Mileniwm, i ymarferbod yn ‘ball boys’, i sefyll yn y

llefydd cywir i gario’r baneri ary cae a.y.y.b.

Ar ôl gwneud hyn aethom atein stafelloedd newid, llecawsom becyn bwyd gan staff yStadiwm. Erbyn hyn doedd dimond tua hanner awr tan y gêm.Roedd rhaid i ni ymddwyn yndda iawn achos roedd ydyfarnwyr yn y stafell nesaf.

Daeth yr amser mawr.Roeddwn i yn mynd i gariobaner Cymru i’r cae yn fyw ar yteledu, gyda tua 20,000 o boblyn y stadiwm a llawer yn gwylioadref. Cefais i’r ciw i fynd arno.Felly dyna ni yn cerdded lawr ytwnel a chwaraewyr Cymru ynein dilyn. Roeddwn yn teimlo’nbwysig iawn. Roedd fy nghalonyn curo ac roeddwn yn nerfushefyd. Roedd hwn yn fwy nerfusna bod ar lwyfan Canolfan yCelfyddydau. Roeddwn yngweld golau dydd y stadiwm yndod yn agosach, ac yn agosachgyda phob cam.

“Wwwww hwwwwww” pawbyn bloeddio. Sãn anferthol.Roedd pawb yn y stadiwm yndechrau curo’u dwylo a gwaeddiwrth i ni ddod allan o’r twnel.Roedd hyn yn deimladardderchog. Roedd pawb yn eingwylio ni yn cario’r faner ar ycae. Y peth ddaliodd fy sylwoedd y dyn sain yn paratoi ymeic. Sylweddolais bod CerysMatthews yn canu’r anthemgenedlaethol reit wrth fy ochr.Roedd e’n wych clywed pawb yncanu’r anthem, ac roedd hi’ndda gallu clywed anthem tîm yFfindir. Sylweddolais fod Sami

Hyypiä a Mikael Forssell ynchwarae i’r Ffindir. Doeddwnerioed wedi meddwl y byddwnyn sefyll tua deg metr i ffwrddo’r ddau yma. Roedd hyn ynddechrau da.

Ar ôl canu’r ddwy anthemrhedais oddi ar y cae i baratoi ifod yn ‘ball boy’. Roeddwn i ynsefyll wrth ymyl cefnogwyr yFfindir. Aeth chwiban ydyfarnwr, ac roeddwn yn barodi fynd ac yn edrych ymlaen.Roedd Cymru’n chwarae’nardderchog, tan sgoriodd yFfindir. Dydw i ddim yn siwrpwy oedd y person yma ondroedd e’n gwisgo rhif 16 ar eigrys. Suddodd fy nghalon panddechreuodd cefnogwyr yFfindir ddathlu wrth waeddi,dawnsio a chanu.

Aeth chwiban hanner amser,ac roedd Cymru yn colli 1-0!Aethom yn ôl i’r stafell newid achael diod ac ymlacio, tra bodToshack yn gwaeddi ar dîmCymru.

Wrth i ni adael ein stafellnewid i fynd i’r cae, daeth ydyfarnwr draw ata i a dweud,“So, you come from Tal-I-Bont?” Roedd en dod o Sbaen.“yes I do.” Atebais.“Are you having good time?”“Yes thank you.”“Your uniform looks good!”“Gracias” dywedais, a rhedaisyn ôl i fy lle, ac at gefnogwyr yFfindir a oedd yn swnllyd iawnerbyn hyn.

Aeth y chwiban unwaith eto,ac roeddwn i yn barod i weldCymru yn ennill y gêm. Ondmae’n amlwg nad oedd tactegauJohn Toshack ddim digon dahanner amser, achos roeddCymru’n chwarae yn waeliawn.

O’r diwedd gwnaeth JohnToshack y dewis cywir wrthddod ag Aaron Ramsey i’r cae.Mae e’n chwaraewr ardderchog,ac mae ganddo fôr o dalentau.

Roedd Cymru yn chwarae ynwell ond yn anffodus dal ddimdigon da. Newidiodd Toshack ytîm eto ond wnaeth hyn ddimgwahaniaeth, felly roedd rhaididdo defnyddio’i newid olaf.Daeth Earnshaw arno. Roedd hidal yn 1-0 i’r Ffindir. Daeth yFfindir yn agos at sgorio sawlgwaith gydag ergyd Forssell yncael ei harbed gan gôl-geidwadCymru, Wayne Hennessey; acyn syth ar ôl hynny Joe Ledleyyn penio’r bêl i ffwrdd o’r llinellgôl. Ond roedd y Ffindir ynhaeddu sgorio gôl arall, a dymaa ddigwyddodd yn yr amserychwanegol. Rhif 18 sgorioddac roedd y gêm drosodd. Aethchwiban y dyfarnwr: Cymru 0Y Ffindir 2.

Es i i gwrdd â’r timau wrth ytwnel, ac ysgwyd llaw gydanhw. Aeth Bellamy heibio, JoeLedley, Aaron Ramsey.Ysgwydais i law â nhw. Ond ypeth gorau am y diwrnod oeddfy mod i wedi ysgwyd llaw gydadau chwaraewr anhygoel yFfindir sef Sami Hyypiä, syddwedi ennill llawer o fedalau iLiverpool a Mikael Forssell aoedd yn arfer chwarae iBirmingham yn y Premiership.Roedd Hef yn lwcus iawn,achos cafodd ef gerdyn melyn ydyfarnwr.

Cawsom hwyl. Aethomadref, a phawb wedi blino’n lânar ôl y diwrnod bythgofiadwy.

Sam Ebenezer

Fel yr adroddwyd yn Papur Pawb mis Mawrth, cafodd aelodau ClwbPêl-droed Ieuenctid Tal-y-bont y fraint o fod yn ‘ball boys’ yn ystody gêm ryngwladol rhwng Cymru a’r Ffindir yn Stadiwm yMileniwm ar ddydd Sadwrn olaf Mawrth. Cawsont fwy o hwyl arnina’r tîm cenedlaethol a dyma adroddiad gan un a fu ymhlith y rhaibreintiedig hynny a gafodd ddiwrnod i’r brenin:

Mae Papur Pawb ynawyddus i gynnwysnewyddion am hynt ahelynt unigolion neu dimauo’r ardal sy’n cystadlu yn ybyd chwaraeon. Anfonwchyr hanesion at GwynJenkins drwy e-bost([email protected])neu ffoniwch ef ar 832560.