Transcript
Page 1: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Y GwanwynMawrth-Mehefin 2013

Digwyddiadau

Dewch i ddathlu

Dydd Gŵyl Dewi gyda

Only Boys Aloud

Sad 2 Mawrth

www.amgueddfacymru.ac.uk0300 111 2 333

Page 2: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd!Bydd rhywbeth at ddant pawb yn rhaglenddigwyddiadau newydd AmgueddfaGenedlaethol y Glannau sy’n llawndigwyddiadau, ffilmiau, sgyrsiau acarddangosfeydd cyffrous.

Dewch i ddathlu’r Pasg gyda’r HetiwrGwallgof mewn diwrnod llawn hwyl i’rteulu cyfan ar thema Alys yng NgwladHud (dydd Gwener 29 Mawrth). Neu betham gael gair o gyngor gan y cyflwynyddteledu James Wong, botanegydd sydd amgychwyn chwyldro yn ein gerddi gyda’isgwrs ddiddorol (dydd Sul 7 Ebrill).

Yn Nhrysorfa ‘Vintage’ a Gwaith LlawMis Mai bydd llond lle o ddillad ac ategolionffasiynol ar werth (dydd Sadwrn 4 Mai) neubeth am ddod i Greu Blwch Offer gydaDad i ddathlu Sul y Tadau (dydd Sadwrn 15a Sul 16 Mehefin).

Rhwng hyn oll a’r dathliadau rygbi, teithiaucerdded o gwmpas y ddinas, sgyrsiau hanes,ffilmiau poblogaidd a llond lle o grefftauymarferol, bydd yn wanwyn i’w chofio!

Trywydd TrydarBydd angen smartphone, iPodtouch neu gyfrifiadur llechen

arnoch chi a chyfrif Twitter byw.

Dilynwch eich trwyn o amgylch yr orielaugan ddatrys cliwiau ar y ffordd! Casglwchfanylion yn y dderbynfa wrth gyrraedd.

Prynwch goffi o unrhyw fath ac fe gewch chi bicen ar y maen neu dafell o fara brith AM DDIM.

Cynnig yn ddilys tan 30 Mehefin 2013.

Llenwch y daleb i hawlio’r cynnig

Cod post: __________

Dathlu’r Gwanwyn yng Nghaffi’r Glannau

Un daleb i bob person ar bob ymweliad.Yn unol â thelerau ac amodau.

Wedi mwynhau’chymweliad?Dywedwch wrth y byd trwy wefan Trip Advisor! Ewch i www.trip.advisor.co.uk neuddefnyddio’r ddolen ar ein gwefan.www.amgueddfacymru.ac.uk/abertawe

2 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Page 3: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Japanese Style:Sustainable DesignTan Sul 10 Mawrth Arddangosfa sy’n dangos sutmae artistiaid a chymunedaudylunio Japaneaidd yngwneud cyfraniad gwerthfawrat ddatblygu cynaliadwytrwy ganolbwyntio ar yberthynas rhwng ytraddodiadol a’r arloesol.Arddangosfa gan GanolfanGrefft Rhuthun a gyflwynirar y cyd â Mission Gallerywww.missiongallery.co.uk

Animeiddio Cymru Tan Sul 17 MawrthYmunwch â chymeriadaubron i 90 mlynedd oanimeiddio yng Nghymru adysgu am y technegau addefnyddir i ddod âdelweddau llonydd yn fyw.Mae’r arddangosfaymarferol yn bartner iarddangosfa yn AmgueddfaGenedlaethol Caerdydd acar-lein, ewch iwww.amgueddfacymru.ac.uk

Babs: y CarCyflymaf ar y Ddaear Sad 23 Mawrth-Sul 19 MaiRhwng 1926 a 1927, J. G.Parry Thomas oedd â recordcyflymder tir y byd a dorroddgyda’i gar 'Babs'. Yn anffodus,bu farw Thomas ymMhentywyn, Sir Gaerfyrddinym 1927, wrth geisio adennilly record. Dewch i weldgweddillion y car a’r replicaa adeiladwyd gan OwenWyn Owen yn y 1970au.

Llafur: Darluniau,Printiau aPhaentiadau ganJosef HermanSad 13 Ebrill-Sul 22 MediDyma ddathliad o’r werinyng Nghymru trwy waithcelf y ffoadur o Wlad Pwyl aymgartrefodd ynYstradgynlais yn ystod yr AilRyfel Byd. ArddangosfaDeithiol gan Sefydliad CelfJosef Herman Cymru.

Sioeau GraddauDylunio Sad 25 Mai-Gwe 14 Mehefin Sioeau gradd poblogaiddPrifysgol FetropolitanAbertawe fydd yn arddangosgwaith gorau graddedigioncyrsiau Dylunio Cynnyrch,Dylunio Cerbydau a GwydrPensaernïol.

Arddangosfeydd

3

Bob dydd10am-5pm

Llun: Sefydliad Celf Josef Herman Cymru

Page 4: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Mawrth

4 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Dathliadau GwylDdewi’r PlantosGwe 1 Mawrth, 10.30am-12.30pm Bore o weithgareddau,caneuon a straeon Cymraeg.

Only Boys AloudSad 2 Mawrth, 1pm a 2.30pmDewch i ddathlu Gwyl Dewigyda’r bechgyn uchel eu brisy’n caru canu. Bydd yrAmgueddfa dan ei sang wrthi fechgyn Castell-nedd,Maesteg a Cross Hands ycôr berfformio detholiadarbennig o ganeuon!

Clonc ar y Cei Sad 2 Mawrth, 10.30amTaith arbennig o’r orielau iddysgwyr a phaned am ddim.

Gwneud aThrwsio: CrefftauOelclothSad 2 Mawrth, 1.30pm Dathlu’r defnydd sy’nffasiynol eto drwy greu pwrsneu gasyn iPad. £5 y pen.

Trafod Rygbi gyda Steve FenwickSul 3 Mawrth, 2.30pm Ymunwch â Steve wrth iddoedrych yn ôl ar ei yrfa panoedd tîm Cymru ar ei orau.

Sgiliau RygbiSul 3 Mawrth12pm, 1pm, 2pm a 3.45pmYmunwch â phoblbroffesiynol Undeb RygbiCymru i wella’ch sgiliaurygbi gyda’r technegau a’rdulliau hyfforddidiweddaraf. (1pm a 2pm –sesiynau i blant 3-6 oed).Dibynnol ar y tywydd.

Côr Meibion ClwbRygbi Treforys Sul 3 Mawrth, 2pm a 3.30pm Perfformiadau gan un o hoffgorau rygbi Cymru.

Diwrnod GwneudGwahaniaethSad 9 Mawrth, 11am-4pm I ddathlu pythefnosMasnach Deg, byddstondinau, cyfle i argraffunod llyfr a llun arbennig. Ary cyd ag Oxfam Cymru.

GwyddoniaethStryd: IncAnweladwy Sad 9 Mawrth, 12.30pm a 2.30pm Dewch i ddysgu cyfrinachauysbiwyr ac ysgrifennuneges gudd.

Maldod Sul y Mamau Sad 9 a Sul 10 Mawrth,11am, 1pm a 3pm Ers cyn cof, mae menywodwedi mwynhau sebonau athaclau ymolchi moethus.Dewch i ddysgu mwy achreu eli sgwrio persawruso halen, a chwdyn perlysiauar gyfer y bath.

Wales News Service

oed 7-12

oed 7+

oed 7+

Page 5: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Ffilm Sul y MamauMamma Mia (PG, 2008)

Sul 10 Mawrth, 2.30pm

BLOODHOUNDSSC Iau 14 Mawrth, 6pm Antur beirianyddol iddarganfod hanes y carrasio penigamp all gyrraedd1,000mya.

Darlith gan Goleg PeiriannegPrifysgol Abertawe.

I archebu eich lle ewch i:

www.itwalesbcsbloodhound2013.eventbrite.com

Cadlywyddion yCanol Oesoedd Sad 16 Mawrth, 11am Gwilym Goncwerwr,Rhisiart Lewgalon, Harri V –enwau cyfarwydd, ond bethoedd y rheswm dros euhenwogrwydd?

Trefnwyd gan y GymdeithasHanesyddol.

Animeiddio Fesul Ffrâm:defnyddio clai Sad 16 a Sul 17 Mawrth,11.30am a 2.30pm Cyfle i greu eich cymeriadcartwn eich hun o glai ganddefnyddio’r un dull âWallace and Gromit.

Y SioeWyddoniaeth Sul 17 Mawrth, 2pm Ymunwch â Dr PeterDouglas a Dr Mike Garley(Prifysgol Abertawe) wrthiddynt ddangos sut maecemeg a goleuni yn cymysguyn ein bywydau bob dydd.

Plantos y Glannau:Te Parti’r HetiwrGwallgofGwe 22 Mawrth, 10.30am-12.30pm a 1.30pm-3.30pmSesiynau galw i mewn –chwarae a dysgu thematig iblant dan 5 mewn orielysbrydoledig.

Sioe DeithiolHanes AnableddSad 23 Mawrth, 10am-4pm Dewch i ddysgu mwy amfywydau caled ein tadau a’nteidiau wrth eu gwaith ymmherfeddion y ddaear ynwyneb perygl, salwch amarwolaeth. Dyma’r pris adalwyd am lo.

Am ddim Teuluoedd Oedolion Ymarferol Sgwrs Rhaid archebu lle

5

MAWRTH

Ffair BriodasSul 24 Mawrth, 11am-4pmDewch i gwrdd agarddangoswyr o safon achael taith o gwmpas einlleoliad cwbl unigryw.Mynediad a phecyn rhoddam ddim. Ar y cyd agEternity with Love.

oed 7+

Llun: www.agatomaszek.com

Page 6: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Ffilm Llun y PasgSingin’ in the Rain(U, 1952)

Llun 1 Ebrill, 2pm

Clonc ar y Cei Sad 6 Ebrill, 10.30am Taith arbennig o’r orielau iddysgwyr a phaned am ddim.

Gwneud aThrwsio: Blodau LledrSad 6 Ebrill, 1.30pm Gweddnewid hen siacedilledr a chreu ategoliongwych fel cyffiau, bathodynblodau neu fwclis. £5 y pen.

GwyddoniaethStryd: Planhigion aBlodau Anhygoel! Sad 6 a Sul 7 Ebrill, 12pm-2.30pm Edrych ar sbesimenau oblanhigion meddyginiaethola bwyd gwyllt anhygoel ogasgliadau LlysieufaAmgueddfa Cymru adarganfod sut mae rhisglhelyg yn gallu achubbywydau gyda gwyddonwyr botaneg!

6 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Ebrill

Pasg gyda’rHetiwr GwallgofGwe 29 Mawrth, 12pm-4pm Ymunwch â’r Hetiwr Gwallgofa’r Sgwarnog Fawrth amddiwrnod llawn hwyl i’r teuluar thema Alys yng NgwladHud. Bydd gweithgareddauanarferol a llwybr drych hudtu ôl tu blaen!

Wyau Cardfwrdd 3DSad 30 a Sul 31 Mawrth12.30pm a 2.30pm Dewch i greu wy Pasg 3Dclyfar i fynd adre gyda chi.

Cerdyn post o’n GwasgArgraffu!Sad 30 Mawrth-Gwe 5Ebrill a Llun 8-Sul 14 Ebrill12pm-3pm Dewch i argraffu cerdynpost unigryw ar wasgargraffu Stanhope 1812 a’ianfon at rywun arbennig.(Un cerdyn post y pen).

Llwybr y Drych HudSad 30 Mawrth-Llun 1 Ebrill, 11am-4pm Dewch i ddilyn ein llwybrPasg arbennig a defnyddio’rdrych hud i ddatrys y cliwiau!

Ffilm Sul y PasgAlice inWonderland (PG, 2010) Sul 31 Mawrth, 2.30pm oed

7+

oed 7-12

Page 7: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

GwasguPlanhigion!Sad 6 a Sul 7 Ebrill, 12pm-2pm Defnyddio hen ddull owneud printiau anhygoel ofyd natur. Trwy wasguplanhigion go iawn ynysgafn ar ddefnydd, caiff eulliwiau naturiol eu rhyddhaugan adael olion hardd.

Dydd Sul Hau a Thyfu Sul 7 Ebrill, 11.30am-4pm Casglwch gyngor agwybodaeth gan staff GarddFotaneg GenedlaetholCymru, rhyfeddu atsbesimenau planhigion,cyfnewid hadau a phrynullyfr neu offer garddio.

Straeon Hanesion HyllSad 13 a Sul 14 Ebrill12.30pm, 1.30pm a 2.30pmHanes gwir ac anhygoelBabs, y car a dorrodd recordcyflymder tir y byd.

Ffilmiau Misol yn yrAmgueddfaCars (PG, 2006)

Sul 14 Ebrill, 2.30pm

Delwau aChofebau Cymru Sad 20 Ebrill, 11am Sgwrs gan Dr RhianyddBiebrach am gofebaucanoloesol Cymru.Trefnwyd gan y GymdeithasHanesyddol.

Cyfnewid LlyfrauSad 20 a Sul 21 Ebrill11am-4pm Dewch i gael gwared ar henlyfrau a’u cyfnewid amgasgliad newydd sbon.

Rhaid i bob llyfr fod mewncyflwr darllenadwy a byddsystem o docyn am lyfr yncael ei gweithredu. Gellircyfnewid crynoddisgiau arecordiau hefyd.

Ar y cyd ag Oxfam.

Plantos y Glannau:Yn yr ArddGwe 26 Ebrill10.30am-12.30pm a1.30pm-3.30pmSesiynau galw i mewn –chwarae a dysgu thematig iblant dan 5 oed mewn orielysbrydoledig. Rhaid i bobplentyn fod yng nghwmnioedolyn.

James Wong – Chwyldro yn ein Gerddi!Sul 7 Ebrill, 2.30pm Ymunwch â James, botanegydd a hyfforddwyd yngngerddi Kew, cyflwynydd teledu'r BBC a thyfwr toreithiogi drafod unrhyw bwnc botanegol dan haul.Bydd cyfle hefyd i brynu llyfr James, HomegrownRevolution o siop yr Amgueddfa yn barod ar gyfer sesiwnlofnodi o 3.30pm ymlaen.

Am ddim Teuluoedd Oedolion Ymarferol Sgwrs Rhaid archebu lle Digwyddiadau'r Pasg

7

Page 8: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Helfa GlocsiauGwyl y BancSad 4-Llun 6 Mai, 11am-4pm Dewch i chwilio am yclocsiau Cymreig o gwmpasyr Amgueddfa – allwch chiddod o hyd i bob un adatrys y pos?

Clonc ar y Cei Sad 4 Mai, 10.30am Taith arbennig o’r orielau iddysgwyr a phaned am ddim.

Gwneud aThrwsio: Blychau Storio aChambrenniSad 4 Mai, 1.30pm Defnyddio hen bapur wal adeunyddiau i weddnewidhen flychau’n drysorau daldillad ac addurno cambrennipren i arddangos eich hoffffrogiau. £5 y pen.

Trysorfa ‘Vintage’a Gwaith LlawMis Mai Sad 4 Mai, 10am-4pmTrysorfa o ddillad acategolion o’r oes a fu, o’r1930au i’r 1980au, ynogystal â llond lle o eitemaua wnaed â llaw gan bobl leoltalentog.

Bydd cerddoriaeth a dawnsy 1940au i’w mwynhauhefyd diolch i Kitsch n SyncCollective.

Calan MaiSul 5 Mai, 1pm-4pm Prynhawn o gerddoriaethfyw, bandiau apherfformwyr o bob cwr oGymru – a bydd cyfle i roitro ar glocsio!

Mewn partneriaeth â Trac Cymru.

Ffilm Gwyl y BancChitty ChittyBang Bang (U, 1968)

Llun 6 Mai, 2pm Llwydda dyfeisiwr o athroecsentrig i adeiladu cararbennig sy’n gallu hedfan,ond mae unben o wladdramor eisiau’r car i’w huna does dim dal beth awnaiff i gael gafael arno.

GwyddoniaethStryd: Rap y GofodSad 11 Mai, 12.30pm a 2.30pm Ymunwch â’r rapiwrgwyddoniaeth Jon Chasewrth iddo archwilioperthynas y Ddaear a’rgofod. Bydd yn cyflwynopob syniad drwy ei rapiauenwog, gan gyflwynosyniadau newydd mewnffordd newydd.

8

Mai

oed 7-12

Page 9: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Ffilmiau Misol yn yrAmgueddfa Genevieve (U, 1953)

Sul 12 Mai, 2.30pm Hanes dau gwpwl ifanc sy’ncymryd rhan yn rali hen geiro Lundain i Brighton ac ynbetio am y cyntaf i groesi’rllinell derfyn. Mae’r cyfan yndipyn o hwyl i ddechrau,ond wrth i’r ras ddatblygumae’r cyplau’n troi’n fwy amwy cystadleuol.

Noson yn yrAmgueddfa –Uwcharwyr!Gwe 17 Mai, 6pm Gwisgwch i fyny fel eichhoff arwr am gyfle prin iymweld â’r Amgueddfawedi i bawb arall adael.Cymrwch ran mewngweithgareddau ymarferolcyn gwylio

The Incredibles (U, 2004).

£2 y pen

Cerbydau Cymru Sad 18 Mai, 11am-4pm Addysg ac adloniant i’r teulucyfan a drefnwyd ganGymdeithas Hanes Ffyrdd aChludiant Ffyrdd.

Y SioeWyddoniaeth: Car UwchsonigBloodhound!Sul 19 Mai, 2pm Taith wyddoniaeth gyffrous,gyflym a rhyngweithiolarbennig! Darperir ganEngineering Explained.

Y SioeWyddoniaeth:GwyddoniaethChwaraeonSul 19 Mai, 3.30pm Mae’r sioe gyffrous arhyngweithiol hon yn gofyni’r gynulleidfa gymryd rhan agweld chwaraeon mewngoleuni gwbl newydd.Byddwch yn barod i gymryd rhan!

Darperir gan Science made Simple.

Noson Blasu GwinGwe 24 Mai, 7pm Paratowch ar gyfer yr hafgyda detholiad o winoeddCalifornia.Noson arbennig i oedolion oflasu gwinoedd gydacherddoriaeth yr ardal yn ycefndir a mapiau.£10 y pen/£8 â gostyngiad

Plantos yGlannau:UwcharwyrGwe 31 Mai10.30am-12.30pm a1.30pm-3.30pm Sesiynau galw i mewn –chwarae a dysgu thematig iblant dan 5 oed mewn orielysbrydoledig.

Rhaid i bob plentyn fod yngnghwmni oedolyn.

Car HwylioSad 25-Merch 29 Mai,12pm-3.30pm Dewch i greu eich carhwylio bach eich hun ynachwythu’r hwyl i’w weld ynhedfan ymlaen.

Robot o Sbarion a SborionIau 30 Mai-Sul 2 Mehefin,12pm-3.30pm Gwisgwch eich hetgreadigol a chreu robot obob math o fân drysorau o’npentwr pethau sbâr.

Am ddim Teuluoedd Oedolion Ymarferol Sgwrs Rhaid archebu lle 9

hannertymor

hannertymor

Page 10: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Clonc ar y CeiSad 1 Mehefin, 10.30am Taith arbennig o’r orielau iddysgwyr a phaned am ddim.

Taith Gerdded:Tref Hardd a HyllSad 1 Mehefin, 11am Ymunwch â’r hanesydd lleol athywysydd bathodyn gwyrdd,Alun Jones, am gipolwgdiddorol ar hanes canol dinasAbertawe gan gynnwys einmarchnad enwog.

Taith: hawdd

Man cyfarfod: desgwybodaeth yr Amgueddfa

Gwisgwch esgidiau addas achofiwch y gall y llawr fodyn wlyb, llithrig acanwastad.

O gymryd rhan, byddwchyn gwneud hynny ar eichrisg eich hun. Y bwriad ywcynnal y daith boed law neuhindda ond, os ydych ynansicr, ffoniwch 0300 111 2 333.

Gwneud aThrwsio: Blychau,Clymau, Bagiau aLabeli RhoddSad 1 Mehefin, 1.30pm Defnyddio hen bapuraunewydd, llyfrau, mapiau aphapur wal â thechnegauargraffu a phlygu papur igreu casgliad hardd onwyddau lapio anrhegion.£5 y pen.

GwyddoniaethStryd: G êmWeiren GlochSad 8 Mehefin, 12.30pm a 2.30pm Dewch i greu eich gêmweiren swnllyd eich hun ynein gweithdy trydanol.

Ffilm i’rArddegwyr yn yrAmgueddfa Twilight (12, 2008)

Sul 9 Mehefin, 2pm Ffilm arbennig i’r arddegwyryn seiliedig ar y nofelboblogaidd gan StephenieMeyer am gariadgwaharddedig rhwng fampira pherson.

Cystennin,Cristnogaeth a’rEfengyl GollSad 15 Mehefin, 11am 1,700 o flynyddoedd yn ôl,bu chwyldro crefyddol achanddo oblygiadau iweddill y byd – trodd yrYmerawdwr RhufeinigCystennin yn Gristion arhoddodd ei gefnogaeth i’rEglwys. Sgwrs gan yr AthroMark Humphries (PrifysgolAbertawe) fydd ynarchwilio’r goblygiadau iddiwylliant a chrefydd yGorllewin.

Trefnwyd gan y GymdeithasHanesyddol.

10 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Mehefin

oed 7-12

Page 11: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

Taith Gerdded:Mynydd CilfáiSad 15 Mehefin, 11am Dringwch Fynydd Cilfái iweld golygfeydd gwych oFae Abertawe gyda’rhanesydd lleol a thywysyddbathodyn gwyrdd, Alun Jones.

Taith: caregog â llethrau

Man cyfarfod: maes parcio White Rock

Gwisgwch esgidiau addas achofiwch y gall y llawr fod ynwlyb, llithrig ac anwastad. O gymryd rhan, byddwchyn gwneud hynny ar eichrisg eich hun. Y bwriad ywcynnal y daith boed law neu hindda ond, os ydychyn ansicr, ffoniwch 0300 111 2 333.

Creu Blwch Offer gyda Dad Sad 15 a Sul 16 Mehefin12pm a 2.30pm Ymunwch â’r saer lleol Gerald King i greu blwch offer syml gan ddefnyddio offersyml, morthwyl a hoelion.

Ffilm Sul y TadauIndiana Jonesand the LastCrusade(PG, 1989)

Sul 16 Mehefin, 2pm Antur llawn cyffro gyda SeanConnery a Harrison Ford.

Plantos yGlannau: Darlunio a Dwdlo Gwe 28 Mehefin 10.30am-12.30pm a1.30pm-3.30pm Sesiynau galw i mewn –chwarae a dysgu thematig iblant dan 5 oed mewn orielysbrydoledig.

Rhaid i bob plentyn fod yngnghwmni oedolyn.

Taith Gerdded: O Gwmpas yMarinaSad 29 Mehefin, 11am Ymunwch â’r hanesydd lleola thywysydd bathodyngwyrdd, Alun Jones, amgipolwg diddorol ar hanes adatblygiad MarinaAbertawe.

Taith: hawdd

Man cyfarfod: desgwybodaeth yr Amgueddfa

Gwisgwch esgidiau addas achofiwch y gall y llawr fodyn wlyb, llithrig acanwastad. O gymryd rhan,byddwch yn gwneud hynnyar eich risg eich hun. Ybwriad yw cynnal y daithboed law neu hindda ond,os ydych yn ansicr,ffoniwch 0300 111 2 333.

Am ddim Teuluoedd Oedolion Ymarferol Sgwrs Rhaid archebu lle 11

oed 8+

Page 12: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau Gwanwyn 2013

• Siop roddion• Caffi a man chwarae i blant• Mynediad a pharcio i’r anabl• Cadeiriau olwyn ar gael drwy ofyn• Cyfleusterau newid cewyn • Ty bach Lleoedd Newid• Dolen sain ar gael• Loceri• Maes parcio talu ac arddangos

(ar bwys LC, Ffordd Ystumllwynarth)

Ymweliadau GrwpDiwrnod delfrydol ar gyfer grwpiau.Archebwch ymlaen llaw i gael:

• Taith dywys am ddim• Gostyngiad o 10% yn y caffi

(o wario o leiaf £5 y pen)• Gostyngiad o 10% yn y siop

(o wario o leiaf £5 y pen)• Lluniaeth am ddim i yrwyr bysiau

Dweud eich dweud!Cofiwch lenwi Taflen Adborth yn y dderbynfa er mwyn cael dweud eich dweud am ein gwasanaeth.

I gael fersiwn print bras, ffoniwch 0300 111 2 333Mae’r holl fanylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Ffoniwch cyn teithio’n unswydd.

12 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Defnyddio WiFi am ddim Llenwch Ffurflen Cyfrif Ymwelydd wrth y dderbynfa!

Ble ydyn ni?Dafliad carreg o arfordir arbennig BaeAbertawe, a phum munud ar droed oganol y ddinas, mae’r Amgueddfa yn yrArdal Forwrol sy’n llawn atyniadaudiddorol a hanesyddol. Ewch iwww.amgueddfacymru.ac.uk ilawrlwytho Llwybr y Marina a dechraucynllunio’ch diwrnod.

Ar y bws Ewch i www.cymraeg.traveline-cymru.info am amserlenni ac arosfannau.

Ar y fforddO’r tu allan i Abertawe, gadewch yr M4wrth gyffordd 42 a dilyn yr arwyddionbrown. O’r tu mewn i Abertawe, mae’rAmgueddfa ar Ffordd Ystumllwynarth,drws nesaf i Ganolfan Hamdden Abertawe(LC). Ar gyfer teclyn llywio â lloeren,defnyddiwch y cod post SA1 3ST.

Ar y trên Mae Abertawe ar brif lein PaddingtonLlundain. Mae cysylltiadau gwych hefyd iGaerfyrddin a'r gorllewin, ac i orsafoedd ycanolbarth ar lein Calon Cymru.

Gwybodaeth ddefnyddiol