Transcript
Page 1: Digwyddiadau Amgueddfa Llechi Cymru

1

ww

w.am

gu

edd

facymru

.ac.uk 0300 111 2 333

DigwyddiadauArddangosfeydd Hwyl i’r Teulu Sgyrsiau a Theithiau

Ebrill – Medi 2014

Amgueddfa Lechi Cymru

ArddangosfaParhad17 Mawrth – 29 Mehefin 2014

The Launder Stones gan Ian Warwick

MYNEDIAD AM D

DIM

MYN

EDIAD AM DDIM

Page 2: Digwyddiadau Amgueddfa Llechi Cymru

21 Gorffennaf 2014 –28 Mehefin 2015Cychwyn CofioSut ydyn ni’n cofio rhyfel, a sut y dylem ni ei goffáu? O weithredoedd personol megis gosod blodau wrth fedd neu lun ar y wal, i gofebion cyhoeddus megis cofgolofn pentref neu wasanaeth mewn Eglwys – mae’r weithred o gofio’n ein cyffwrdd ni oll. Wrth i ni baratoi ar gyfer arddangosfa fawr yn 2016 am gofeb

unigryw i chwarelwyr o Ddyffryn Nantlle fu farw yn y Rhyfel Mawr, dymuna Amgueddfa Lechi Cymru eich gwahodd i rannu’ch atgofion a’ch syniadau chi am sut, a pham, y dylem gofio a choffáu. Bydd digwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan yn ystod y flwyddyn.

Llun 17 Mawrth – Sul 29 Mehefin 2014Parhad Arddangosfa o ffotograffau gan Ian Warwick ac Annie Williams o hen chwarelau llechi segur, sy’n archwilio sut mae natur yn hawlio rhai o’r tirweddau hynod hyn yn ôl.

Arddangosfeydd

Dewch i’n Diwrnodau Agored dros yr haf a chreu eich pabi eich hun ar 23 Gorffennaf a 30 Awst, 1–3pm.

2 Amgueddfa Lechi Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Amgueddfa Lechi Cymru

Page 3: Digwyddiadau Amgueddfa Llechi Cymru

3 Teuluoedd Ymarferol. Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol

Digwyddiadau RheolaiddSgyrsiau a TheithiauDewch i fwynhau un o’n teithiau cerdded, sgyrsiau neu arddangosiadau. Cewch weld llechen yn cael ei hollti, dysgu pam oedd coed yn bwysig yn hanes llechi, mwynhau sgyrsiau tu ôl i’r llenni gyda’n curaduron a chyfarfod ag injan y chwarel, UNA! Ffoniwch yr Amgueddfa neu ewch i’r wefan am ddyddiadau ac amseroedd.

MYNEDIAD AM D

DIM

MYN

EDIAD AM DDIM

Camwch yn ôl mewn amser i ganfod cyfrinachau’r llechi a’r chwarelwyr a fu’n eu cloddio.

Oriau agor Y Pasg – Hydref 10am – 5pm bob dydd.

Tachwedd – y Pasg 10am – 4pm (ar gau bob dydd Sadwrn).

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk

Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, Gwynedd LL55 4TY Ffôn: (029) 2057 3700 neu 0300 111 2 333 (galwadau cyfradd leol).

Manylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Cysylltwch â ni cyn teithio’n unswydd.

Amgueddfa Lechi Cymru

Dyl

un

io g

illad

vert

isin

g.c

om

facebook.com/amgueddfalechi

@AmgueddfaLechi

Page 4: Digwyddiadau Amgueddfa Llechi Cymru

Digwyddiadau i’r Teulu

Teuluoedd Ymarferol. Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol

Llun 14 – Llun 21 Ebrill 10am – 4pm Helfa’r Pasg

Dewch i roi tro ar y llwybr arbennig trwy weithdai’r Amgueddfa – bydd gwobr i’r sawl sy’n dod o hyd i’r holl wyau!

Llun 28 Gorffennaf – Gwe 29 Awst, 1pm – 4pm Haf o Lechi!

Ymunwch â ni am lond lle o lechi dros yr haf! Cewch addurno llechen, lliwio’ch llinell amser ddaearegol eich hun, tanio’ch creadigrwydd gyda’r Cert Celf, rhoi tro ar wneud patrymau perffaith ym mhwll tywod y ffowndri neu wisgo ffasiynau’r oes a fu yn nhai’r chwarelwyr. Bydd rhywbeth at ddant pawb!

4 Amgueddfa Lechi Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Amgueddfa Lechi Cymru


Recommended