85
Sut gallwn ni gysylltu cymunedau ac ymwelwyr ar hyd Llwybr Arfordir Cymru? Crynodeb o’r problemau a ddatryswyd gan y Timau Pow Wows yn Abertawe a Bangor, ynghyd â chwe chyfweliad ffôn. 7 Chwefror Abertawe ac 8 Chwefror Bangor

Wales Coast Path pow wow output final welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Results of the PowWow for Wales Coast Path Challenge - Welsh Language

Citation preview

Page 1: Wales Coast Path pow wow output final welsh

Sut gallwn ni gysylltu cymunedau ac ymwelwyr ar hyd Llwybr Arfordir Cymru?Crynodeb o’r problemau a ddatryswyd gan y Timau Pow Wows yn Abertawe a Bangor, ynghyd â chwe chyfweliad ffôn.7 Chwefror Abertawe ac 8 Chwefror Bangor

Page 2: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 3: Wales Coast Path pow wow output final welsh

Cefnogir her GeoVation gan:

Page 4: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 5: Wales Coast Path pow wow output final welsh

Tîm Pow Wow Abertawe

Page 6: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 7: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 8: Wales Coast Path pow wow output final welsh

Tîm Pow Wow Bangor

Page 9: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 10: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 11: Wales Coast Path pow wow output final welsh

Crynodeb

2 broblem i’r timau Pow Wow

6 chyfweliad ffôn

32 o bobl wedi ymgysylltu

178 o broblemau cychwynnol

9 thema

54 mewnwelediad.

Page 12: Wales Coast Path pow wow output final welsh

1. Adnoddau i bawb2. Cyfleoedd i fusnesau3. Ymrwymiad cymunedol 4. Gwybodaeth hygyrch5. Seilwaith6. Cyllid a gwneud polisïau7. Cynllunio8. Marchnata, cyfathrebu a brandio9. Daearyddiaeth a’r amgylchedd

Page 13: Wales Coast Path pow wow output final welsh

Gofynnom ni:

“Beth sy’n rhwystro mwy o bobl rhag defnyddio Llwybr Arfordir Cymru?”

Page 14: Wales Coast Path pow wow output final welsh

1. Adnoddau i bawb

Problemau allweddol cysylltiedig â darparu adnoddau addas ar hyd llwybr yr arfordir sy’n cwrdd ag anghenion pawb.

Page 15: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 16: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 1. Cyfleusterau cyfleus

Sut gallwn ni ddarparu digon o luniaeth a thai bach ar hyd y llwybr er mwyn sicrhau nad oes cyfaddawdu o ran cyfforddusrwydd pobl?

Mae angen i bobl gynllunio’u teithiau yn ofalus, yn enwedig os oes rhaid ystyried pobl eraill, er enghraifft plant a phobl hŷn. Mae cynnig adnoddau addas yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r profiad.

Page 17: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 2. Picnics ym mhob tywydd

Sut gallwn ni ddarparu adnoddau picnic i bobl, heb orfod poeni am y tywydd?

Pan nad oes adnoddau picnic ar gael: ar y gorau, mae pobl un ai’n eistedd yn eu ceir neu’n ceisio cysgodi o dan ymbarel; ar y gwaethaf, mae pobl yn gadael.

Page 18: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 3. Nid wyf yn gallu parcio

Sut gallwn ni wneud hi’n fwy cyfleus i bobl barcio?

Mae gallu parcio yn agos at lwybr yr arfordir yn bwysig iawn i bobl wrth geisio sicrhau bod eu hymweliad mor hawdd a hwylus â phosibl.

Page 19: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 4. Punnoedd ar gyfer parcio

Sut gallwn ni ddarparu strategaeth cost parcio cyson ar hyd Llwybr Arfordir Cymru?

Mae costau parcio’n amrywio o 50c i £3.50 yr awr. Yn y llefydd drutaf, mae pobl yn tueddu parcio tu allan i’r maes parcio er mwyn osgoi talu, ac mae hynny’n gallu achosi tagfeydd.

Page 20: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 5. Gweithio o 9 i 5

Sut gallwn ni unioni amser agor adnoddau gyda’r tymhorau?

Mewn rhai ardaloedd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru mae tai bach a chaffis yn cau gyda’r nos yn ystod yr haf, er bod nifer o bobl yn parhau i fwynhau’r llwybr gyda’r nos.

Page 21: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 6. Profiad bratiog

Sut gallwn ni gyfuno’r holl brofiadau mae cwsmeriaid yn eu cael ar hyd Llwybr Arfordir Cymru?

Mae profiadau gorau’r cwsmeriaid yn deillio o bob cyswllt maen nhw’n ei gael ar hyd y llwybr (y bobl maen nhw’n cwrdd â nhw, gwybodaeth maen nhw’n ei gael, offer maen nhw’n ei ddefnyddio) yn cydweithio’n llyfn.

Page 22: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 7. Llety cyraeddadwy

Sut gall cwsmeriaid ddod o hyd i lety addas mewn ardaloedd lle mae’r dewis yn gyfyngedig neu lle nad yw’r llety sydd ar gael yn cael ei hysbysebu?

Bydd perchnogion gwestai a lleoliadau gwely a brecwast yn colli allan ar incwm posibl, sef eu cyfran nhw o’r 9.6 miliwn o ymwelwyr dros nos i Gymru, a wariodd hyd at £1.8 biliwn yn 2010.

Wales.gov.uk (http://bit.ly/ztoki6)

Page 23: Wales Coast Path pow wow output final welsh

2. Cyfleoedd i fusnesau

Problemau allweddol cysylltiedig â dechrau, datblygu a chynnal busnesau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, 365 diwrnod y flwyddyn.

Page 24: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 25: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 1. Beth yw’r manteision i mi?

Sut gallwn ni gyflwyno achos cryf i fusnesau o Gymru i fuddsoddi yn eu hunain er mwyn cymryd mantais o lwybr yr arfordir?

Er mwyn i unrhyw fusnes un ai ddechrau a/neu dyfu, mae angen tystiolaeth gref o enillion ar fuddsoddiad o lwybr yr arfordir.

Page 26: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 2. Canfod cyfleoedd ar gyfer tyfiant

Sut gallwn ni sbarduno tyfiant ymysg busnesau lleol o ystyried y problemau go iawn sydd angen eu datrys?

Ym mhedwaredd chwarter 2011, roedd y sector teithio a thwristiaeth yng Nghymru’n wynebu twf o 56% o ran problemau ariannol penodol o gymharu â pedwaredd chwarter 2004. Begbies Traynor’s Red Flag Alert (http://bit.ly/z744TE)

Page 27: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 3. Pa botensial?

Sut gall busnesau ddeall y nifer o ymwelwyr posibl yn well?

Yn 2010, denodd Cymru 890,000 o ymwelwyr rhyngwladol a wariodd £333 miliwn, ond un ai nid yw’r wybodaeth hon wedi’i deall gan nifer o bobl neu nid yw wedi cael ei rhoi mewn cyd-destun i fusnesau lleol allu cymryd mantais o’r sefyllfa. Twristiaeth yng Nghymru, Llywodraeth Cymru (http://bit.ly/ztoki6)

Page 28: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 4. Mae’r tymor yn rhy fyr

Sut gall Llwybr Arfordir Cymru ddatblygu i fod yn gyrchfan atyniadol tu allan i’r prif dymor?

Ar hyn o bryd, mae’r tymor twristiaeth yn rhedeg rhwng mis Mawrth a mis Hydref gydag anterth o dri mis yn y canol. Mae hynny’n cynnig y cyfle i ased o ansawdd yng Nghymru elwa’n llawn trwy gydol y flwyddyn.

Page 29: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 5. Cynnal busnes nad yw’n cyrraedd anterth

Sut gallwn ni greu, datblygu a chynnal busnesau sy’n gwneud elw trwy gydol y flwyddyn?

Ar hyn o bryd, nid yw nifer o’r busnesau cyfredol yn gallu gwneud bywoliaeth gydol y flwyddyn trwy ddibynnu’n unig ar ymwelwyr i’r llwybr.

Page 30: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 6. Gweithgareddau i bob tymor

Sut gallwn ni ddatblygu gweithgareddau a rhoi rheswm i bobl defnyddio’r llwybr tu allan i’r tymor arferol?

Mae angen amrywiaeth o resymau cymhellol i ymweld â’r llwybr, beth bynnag yw’r tymor.

Page 31: Wales Coast Path pow wow output final welsh

3. Ymrwymiad cymunedol

Problemau allweddol cysylltiedig ag ymrwymo cymunedau a sicrhau busnes i Lwybr Arfordir Cymru.

Page 32: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 33: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 1. Llwybr i dwristiaid yn unig yw e.

Sut gallwn ni wneud mwy ar ran cymunedau lleol er mwyn iddynt gefnogi a defnyddio’r llwybr?

Er mwyn i Lwybr Arfordir Cymru fod yn gynaliadwy trwy gydol y flwyddyn, mae angen i gymunedau lleol deimlo cysylltiad ag ef.

Page 34: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 2. Llwybr i oedolion yn unig yw e.

Sut gallwn ni ymrwymo a grymuso plant i ddefnyddio, dangos mwy o ddiddordeb a bod yn falch o Lwybr Arfordir Cymru?

Mae tystiolaeth yn dangos mai anogaeth yn ystod blynyddoedd cynnar plentyn yw’r ffordd fwyaf effeithiol o wella ei gyfleoedd, torri’r cylchoedd sy’n gallu bodoli ym mywydau rhai o’r plant mwyaf difreintiedig ac agored i niwed, a rhoi cyfle iddynt dyfu, llwyddo a chyflawni.

Cynllun Gweithredu Ymrwymo Ieuenctid a Chyflogaeth 2011 – 2015, Llywodraeth Cymru (http://bit.ly/ADgvtc)

Page 35: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 3. Mae cerdded yn ddiflas…

Sut gallwn annog pobl leol a thwristiaid sydd heb unrhyw ddiddordeb i gerdded y llwybr?

Mae rhai pobl o’r farn bod cerdded yn ddiflas ac mae gwell ganddynt wneud rhywbeth arall gyda’u hamser.

Page 36: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 4. Bom-amser gordewdra

Sut gallwn ddenu mwy o bobl i gymryd sylw o’u hiechyd trwy gerdded?

Mae 57% o oedolion Cymru, 22% o fechgyn 13 oed ac 16% o ferched yn cael eu cyfrif un ai’n rhy drwm neu’n ordew. Erbyn 2019, bydd 85% o oedolion a phlant Cymru yn ordew.

Wales Online (http://bit.ly/2xyKyj)

Page 37: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 5. Neges fawr mewn pwll dŵr bach

Sut gall cyfathrebu gael effaith mor fawr ar lefel leol, fel digwyddodd yn llwyddiannus ar lefel ryngwladol?

Yn ôl rhifyn goreuon 2012 cylchgrawn Lonely Planet, Llwybr Arfordir Cymru yw rhanbarth gorau’r blaned. Beth yw’r neges i bobl leol sy’n codi o’r ffaith hon?

Lonely Planet (http://bit.ly/tKiNBo)

Page 38: Wales Coast Path pow wow output final welsh

4. Gwybodaeth hygyrch

Problemau allweddol cysylltiedig â gwybodaeth a mynediad digidol at Lwybr Arfordir Cymru.

Page 39: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 40: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 1. Dim signal

Sut gallwn ni sicrhau bod defnyddwyr apps a’r rhyngrwyd yn gallu cael mynediad band llydan, wi-fi a 3G 100% ym mhob lleoliad ar hyd y llwybr?

Mae pobl yn dibynnu fwyfwy ar eu ffonau symudol o ran cael mynediad at wybodaeth. Bellach, mae yna 1.2 biliwn o ddefnyddwyr rhyngrwyd symudol ac mae un o bob archwiliad gwe yn cael ei wneud o ffôn symudol.

Mobithinking.com (http://bit.ly/a2f9uO)

Page 41: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 2. Oes yna app ar gyfer hynny?

Sut gall apps wella’r profiad cysylltiedig â Llwybr Arfordir Cymru?

I nifer o bobl, mae apps yn rhan allweddol o fywyd. Mae dros 300,000 o apps ar gyfer ffonau symudol wedi’u datblygu yn ystod y dair blynedd diwethaf. Mae cwmni Apple yn unig wedi gweld yn agos at 25 biliwn o’i apps yn cael eu lawrlwytho.

Mobithinking.com (http://bit.ly/a2f9uO)

Page 42: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 3. Technolegau yn cydweithio

Sut gallwn ni sicrhau bod amrywiaeth o dechnolegau sydd eisoes yn bodoli a thechnolegau newydd yn cydweithio’n ddi-dor ar hyd y llwybr?

Mae defnyddwyr y llwybr eisiau cael profiad cyfun a bydd hynny’n cael ei ddifetha os nad oes modd iddynt gael mynediad at wahanol dechnolegau ar hyd y llwybr.

Page 43: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 4. Dim syrpreisys annisgwyl

Sut gallwn ni ddarparu gwybodaeth hygyrch i helpu pobl i drefnu eu teithiau cerdded yn seiliedig ar eu hanghenion, medrau a disgwyliadau?

Mae pobl yn hoffi trefnu gyda sicrwydd o flaen llaw ac felly mae angen cwrdd â’u hanghenion penodol.

Page 44: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 5. Data lleol cywir

Sut gallwn ni ymrwymo pobl leol i helpu i ddiweddaru a gwella gwybodaeth cysylltiedig â Llwybr Arfordir Cymru?

Mae pobl leol yn gwybod ffeithiau penodol am yr ardal maen nhw’n byw ynddi (e.e. hanes lleol, atyniadau, adnoddau) – ffeithiau nad ydynt yn gyffredin i bawb neu sydd efallai yn anghywir os ydynt ar gronfa ddata.

Page 45: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 6. Gwybodaeth i bawb

Sut gallwn ni arddangos a rhannu gwybodaeth mewn ffordd effeithiol gydag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd gydag anghenion amrywiol gan ddefnyddio hysbysfyrddau cyfyng o ran eu maint?

Daeth 890,000 o ymwelwyr rhyngwladol i Gymru yn 2010, gan wario £333 miliwn. Mae galw am wybodaeth mewn ieithoedd gwahanol, ond does dim digon o le ar yr arwyddion i gynnwys gwybodaeth i gwrdd ag anghenion pawb.

Wales.gov.uk (http://bit.ly/ztoki6)

Page 46: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 7. Prinder gwybodaeth

Sut gallwn ni sicrhau bod pobl yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn gwneud penderfyniadau fydd o bosibl yn arwain atynt yn dewis ymweld â llwybr yr arfordir?

Gall bwlch mewn gwybodaeth arwain at ymwelwyr yn dewis un ardal dros ardal arall, ac arwain at effaith economaidd negyddol.

Page 47: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 8. O’r ffordd i’r llwybr

Sut gallwn ni sicrhau bod arwyddion o’r ffyrdd i’r llwybr yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ynghylch mynediad?

Mae pobl yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau teithio i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ac mae angen cael arwyddion eglur sy’n hysbysu ymwelwyr os yw’r rhan benodol hon o’r llwybr yn addas ar eu cyfer ai peidio.

Page 48: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 9. Arwyddion 100%

Sut gallwn ni sicrhau bod rhwydwaith arwyddion 100% ar hyd 870 milltir Llwybr Arfordir Cymru?

Os yw’r arwyddion yn anghyson ac o ansawdd gwael, mae pobl yn llai tebygol o ddarganfod ardaloedd newydd i’w harchwilio, sy’n effeithio ar fusnesau lleol yn ogystal â llwyddiant cyffredinol y llwybr.

Page 49: Wales Coast Path pow wow output final welsh

5. Seilwaith

Problemau allweddol cysylltiedig â’r seiliwaith teithio a lletyau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.

Page 50: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 51: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 1. Ansawdd y llwybrau mynediad

Sut gallwn ni sicrhau bod rhwydwaith o ffyrdd mynediad a meysydd parcio o ansawdd uchel i’r rheiny sy’n teithio i lwybr yr arfordir mewn car?

Os nad oes modd i bobl gyrraedd llwybr yr arfordir yn hawdd, ni fyddant yn ei ddefnyddio.

Page 52: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 2. Manteisio ar ein llwyddiant

Sut gallwn ni sicrhau dyfodol Llwybr Arfordir Cymru er mwyn sicrhau bod rhinwedd y llwybr yn cynyddu yn unol â llwyddiant y llwybr, heb danseilio’r profiad i ymwelwyr?

Bydd llwyddiant yn arwain at ddenu mwy o ymwelwyr, a fydd yn ei dro yn golygu: llwybrau prysurach, mwy o ysbwriel, mwy o faw ci, mwy o ddamweiniau, mwy o straen ar adnoddau lleol megis tai bach a chaffis, ac erydu’r llwybr yn y pen draw.

Page 53: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 3. Allan o gyrraedd

Sut gallwn ni ddarparu system trafnidiaeth gyhoeddus gyfun ledled Llwybr Arfordir Cymru?

Nid oes gan bawb fynediad at gar, felly bydd rhaid iddynt ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i ymweld â lleoliadau ar hyd y llwybr.

Page 54: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 4. Costau cyson ac isel

Sut gallwn ni ddarparu trafnidiaeth a llety fforddiadwy i gwrdd ag anghenion ariannol pawb?

Bydd costau yn rhwystro pobl rhag ynmweld â llwybr yr arfordir os ydynt yn cael eu hystyried yn rhy ddrud.

Page 55: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 5. Cerddwyr a beicwyr

Sut gall cerddwyr a beicwyr ddefnyddio’r llwybr heb lesteirio’u gilydd?

Gall beicwyr gael effaith negyddol ar brofiadau cerddwyr, fel arall bydd beicwyr yn chwilio am lwybrau gwahanol os yw llwybr yr arfordir yn orlawn.

Page 56: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 6. Celfi ar hyd y llwybr

Sut mae modd cynnal a chadw’r celfi ar hyd y llwybr, er enghraifft meinciau a mynedfeydd?

Gall celfi pydredig neu ansafonol achosi damweiniau ac effeithio ar iechyd a diogelwch defnyddwyr. Mae enghreifftiau sydd wedi’u cofnodi yn cynnwys camfeydd a chlwydi colledig neu wedi’u torri, pontydd wedi’u difrodi ac arwyddion colledig neu wedi’u torri.

Ramblers Cymru (http://bit.ly/y9eT5s)

Page 57: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 7. Mynediad perthnasol

Sut gall mynedfeydd perthnasol i’r llwybr fod yn fwy hygyrch i bobl sydd ag anghenion mynediad arbennig?

Bydd “rhai rhannau o’r llwybr yn addas i bobl ag anableddau, teuluoedd gyda phramiau, marchogion ceffylau a beicwyr”, ond mae angen i bobl wybod ble.

Llywodraeth Cymru (http://bit.ly/xhsiQy)

Page 58: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 8. Yn addas i bawb?

Sut gall llwybr yr arfordir wasanaethu amrywiaeth o anghenion a gofynion defnyddwyr: ydyn ni’n gwybod beth ydyn nhw?

Heb ddealltwriaeth eglur o bawb fydd eisiau defnyddio’r llwybr, mae’n bosibl datblygu atebion na fydd yn cwrdd ag anghenion y defnyddwyr.

Page 59: Wales Coast Path pow wow output final welsh

6. Ariannu a chreu polisïau

Problemau allweddol cysylltiedig â chreu polisïau ac ariannu Llwybr Arfordir Cymru

Page 60: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 61: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 1. Bom-amser ariannu

Sut gallwn ddatblygu a magu partneriaethau i ddod o hyd a sicrhau cymorth ariannol ar gyfer cynhaliaeth a datblygiad hirdymor y llwybr?

Ar ôl i’r £3.9 miliwn gael ei wario i gwblhau Llwybr Arfordir Cymru yn 2012, rydym yn disgwyl gweld 100,000 o ymwelwyr/defnyddwyr pellach a fydd yn arwain at angen parhaus am gymorth ariannol ar gyfer gwaith cynnal a chadw.

Llywodraeth Cymru (http://bit.ly/yosGgk)

Page 62: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 2. Newid safbwyntiau’r gwrthwynebwyr

Sut gallwn newid safbwyntiau’r bobl sy’n gwrthwynebu’r llwybr?

Mae’r gofynion cyllido’n gostwng os yw cymunedau lleol yn chwarae rôl gyfranogol o ran gwaith cynnal a chadw y llwybr a’r ardal leol.

Arfordir Sir Benfro (http://bit.ly/yPP3VM)

Page 63: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 3. Polisïau gwrthgyferbyniol

Sut gall un awdurdod lleol ar bymtheg a dau barc cenedlaethol gyd-drefnu a chyflawni amcanion polisïau gwahanol?

Gall blaenoriaethau gwahanol (e.g. llifogydd arfordiriol a materion gwledig a diwydiannol) arwain at anghysondebau o ran cynlluniau ariannu.

Page 64: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 4. Buddsoddi amser ac arian

Sut gall buddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw’r llwybr arwain at greu uchafswm refeniw?

Yn ne-orllewin Cymru mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn creu £52 am bod £1 sy’n cael ei gwario ar waith cynnal a chadw. Mae angen model cynaliadwy hirdymor ar Lwybr Arfordir Cymru er mwyn sicrhau polisïau a datblygiad cadarnhaol.

Ramblers (http://bit.ly/AB64Ph)

Page 65: Wales Coast Path pow wow output final welsh

7. Cynllunio

Problemau allweddol cysylltiedig â threfnu ymweliad â Llwybr Arfordir Cymru

Page 66: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 67: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 1. Teithiau cerdded wedi’u teilwra’n arbennig

Sut gall pobl drefnu teithiau cerdded yn seiliedig ar allu, anawsterau, hyd ac amser?

Gall hwyluso’r broses drefnu a gwybod faint o amser bydd y daith gerdded yn cymryd, ynghyd â rhyw syniad o ba mor anodd yw’r daith, gynyddu defnydd dyddiol ac ail-ymweliadau ymysg cerddwyr.

Page 68: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 2. Cerdded y ci

Sut gall cerddwyr cŵn a’u teuluoedd wneud y defnydd gorau o’r llwybr o gofio bod cŵn yn cael eu gwahardd o’r traethau rhwng mis Mai a mis Medi?

Gall dieithrio pobl leol ac ymwelwyr gael effaith negyddol ar yr economi e.e. “ni fydda i’n mynd ar wyliau i Gymru eto oherwydd bod cŵn yn cael eu gwahardd o’r traethau”.

BBC News (http://bbc.in/zfUduA)

Page 69: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 3. Ymwelwyr newydd i lwybr yr arfordir

Sut gall cerddwyr newydd fod yn hyderus eu bod yn meddu ar yr holl wybodaeth ddaearyddol sydd ei hangen arnynt i gwblhau’r daith gerdded maen nhw wedi’i dewis?

Bydd sicrhau mai Llwybr Arfordir Cymru yw prif ddewis y rheiny sy’n mynd ar wyliau cerdded neu daith diwrnod am y tro cyntaf yn canfod marchnad newydd ac yn arwain at fusnes ailadroddol.

Page 70: Wales Coast Path pow wow output final welsh

8. Marchnata, cyfathrebu a brandio

Problemau allweddol cysylltiedig â chyfathrebu’r neges gywir trwy’r sianeli cywir

Page 71: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 72: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 1. Nid llwybr yn unig

Sut mae’r llwybr yn hwyluso gweithgareddau eraill i grwpiau demograffig gwahanol, er enghraifft ffotograffiaeth, ysgrifennu, chwaraeon dŵr a gwylio adar?

Nid cerdded yw prif ddiddordeb pob un sy’n bwriadu ymweld â’r llwybr, ac mae modd cynyddu nifer yr ymwelwyr trwy sicrhau bod croeso i grwpiau demograffig gwahanol.Pecyn Cyfryngau Llwybr Arfordir Cymru (http://bit.ly/wuAENq)

Page 73: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 2. Adrodd Straeon

Sut gall straeon cysylltiedig â llwybr yr arfordir gael eu hadrodd a’u hailadrodd mewn ffordd ystyrlon?

Mae straeon da yn gallu ysbrydoli pobl. Mae yna nifer o straeon i’w hadrodd, yn amrywio o straeon cysylltiedig â’r llwybr ei hun i chwedlau o ardaloedd cyfagos.

Walking Stories (http://bit.ly/x1Troj)

Page 74: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 3. Perchnogaeth

Sut gall pob uno Gymru fod yn rhanddeiliad o lwybr yr arfordir?

Os caiff y llwybr ei ystyried fel “ein llwybr, llwybr Cymru a llwybr y gymuned”, gall hynny arwain at y llwybr yn cael ei ystyried yn yr un ffordd â Wal Hadrian neu Wal Fawr Tsieina.

Page 75: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 4. Beth yw llwybr yr arfordir?

Sut gall poblogaeth Cymru ddarganfod llwybr yr arfordir?

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu nad yw rhan helaeth o boblogaeth Cymru yn ymwybodol o lwybr yr arfordir.

Page 76: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 5. Hyrwyddo’r llwybr

Sut mae modd sicrhau addewidion marchnata a hyrwyddo ar ôl i bobl brofi llwybr yr arfodir eu hunain?

Os yw profiad ymwelwyr o lwybr yr arfordir yn wahanol i’r ymgyrch farchnata, mae’n bosibl torri addewid y brand e.e. mae’n bosibl y bydd cymunedau o deithwyr sy’n gwrthwynebu’r llwybr yn achosi bylchau yn y gylchdaith gyflawn o amgylch yr arfordir.

Newyddion y BBC (http://bbc.in/vPs38D)

Page 77: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 6. Cyfuno i greu profiad cynhwysfawr

Sut mae modd sicrhau cysondeb o ran ansawdd pob rhan o’r llwybr, a chynnig pwynt gwerthu unigryw i ddenu ymwelwyr?

Bydd nodweddion a phwyntiau gwerthu unigryw yn cyfuno i greu profiad cynhwysfawr. Nododd cylchgrawn Lonely Planet y bywyd gwyllt, mannau syrffio ardderchog, cestyll a lleoliadau bythgofiadwy megis Bae Barafundle a Thyddewi.

Page 78: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 7. Cylchdeithiau diddorol

Sut mae modd cynnwys y cylchdeithiau cerdded/beicio sy’n arwain at lefydd o ddiddordeb oddi ar y llwybr?

Mae’r cylchdeithiau yn ychwanegu rhywbeth ychwanegol at brofiad Llwybr Arfordir Cymru, gan gynnig cyfle i bobl ymweld â mannau o ddiddordeb eithriadol, er enghraifft Caer Mynydd Tre’r Ceiri.

Newyddion y BBC (http://bbc.in/9V6kBD)

Page 79: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 8. Mynedfeydd anhysbys

Sut mae modd gwneud mynedfeydd anhysbys mae pobl leol yn ymwybodol ohonynt yn fwy amlwg?

Mewn mannau penodol mae yna rai lleoliadau anghysbell gyda mynedfeydd sy’n anodd dod o hyd iddynt ond sy’n werth eu gweld i ymwelwyr.

Llwybr Arfordir Ceredigion (http://bit.ly/xntP5E)

Page 80: Wales Coast Path pow wow output final welsh

9. Daearyddiaeth a’r Amgylchedd

Problemau allweddol cysylltiedig â daearyddiaeth, yr hinsawdd a’r amgylchedd leol

Page 81: Wales Coast Path pow wow output final welsh
Page 82: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 1. Glaw neu hindda

Sut gallwn gymryd mantais o’r fath ddywediadau â “does dim y fath beth â thywydd gwael, dim ond y dillad anghywir” er mwyn sicrhau bod y tywydd yn ased i lwybr yr arfordir?

Gyda gwell gwybodaeth am y tywydd ar gael i bawb, mae’r posibilrwydd o dywydd gwael yn fwy o ataliad na’r tywydd gwael ei hun.

Hinsawdd Cymru (http://bit.ly/kQ1ZIS)

Page 83: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 2. Darnau diflas

Sut gallwn hyrwyddo mannau llai hygyrch a deniadol llwybr yr arfordir, er enghraifft ardaloedd diwydiannol, mewn ffordd gadarnhaol?

Nid yw pob rhan o llwybr yr arfordir yn ddeniadol ac felly mae’n bwysig ein bod yn rheoli disgwyliadau yn effeithiol er mwyn osgoi profiadau negyddol ymysg ymwelwyr.

Page 84: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 3. Gwastraff

Sut gallwn reoli gwastraff, sbwriel a baw cŵn wrth i nifer y defnyddwyr gynyddu?

Bydd llwybr brwnt yn arwain at brofiadau gwael. Bydd annog cerdded cyfrifol ar hyd y llwybr yn lleihau gwastraff, sbwriel a baw cŵn.

Cyngor Gwynedd(http://bit.ly/opMudA)

Page 85: Wales Coast Path pow wow output final welsh

# 4. Llwybr traed cyson

Sut gall llwybr yr arfordir gynnig profiad cerdded cyson i ddefnyddwyr?

Mae’n bosibl y bydd llwybr troed anghyson yn atal defnyddwyr os yw’r llwybr yn newid o fod yn llwybr o ansawdd uchel i lwybr brwnt sy’n anodd cerdded arno.