Cyfres Nici a Cris

Preview:

DESCRIPTION

Cyfres Nici a Cris. Gwyliau. Mae teulu Nici yn mynd ar wyliau heddiw. Mae teulu Cris yn mynd ar wyliau hefyd. Ar yr awyren i Florida, mae teulu Cris yn gwylio ffilm – ffilm ddiflas iawn!. Ar yr awyren i Ffrainc, mae teulu Nici yn cael bwyd – bwyd da iawn. - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Cyfres Nici a Cris

Gwyliau

Mae teulu Nici yn mynd ar wyliau heddiw.

Mae teulu Cris yn mynd ar wyliau hefyd.

Ar yr awyren i Florida, mae teulu Cris yn gwylio ffilm – ffilm ddiflas iawn!

Ar yr awyren i Ffrainc, mae teulu Nici yn cael bwyd – bwyd da iawn.

Mae teulu Cris yn cyrraedd Florida ac mae pawb wedi blino’n lân.

Mae teulu Nici yn cyrraedd Ffrainc ac mae pawb yn hapus.

Yn Florida, mae teulu Cris ar lan y môr.

Ond pam mae Cris yn eistedd dan y goeden?

Yn Ffrainc, mae teulu Nici wrth y pwll nofio.

Mae pawb yn mwynhau.

Mae Nici’n darllen y ffacs.

Ffacs Cris o Florida.

‘Gwyliau ofnadwy! Mae’n rhy boeth yn Florida,’ medd Nici.

Yn y gwesty, mae Nici a Martin yn ysgrifennu cardiau post.

‘Brysiwch! Rydyn ni’n mynd mewn cwch ar Afon Seine,’ medd Mam.

Rhy boeth! Mae Florida yn rhy boeth.

Dydy teulu Cris ddim yn hapus.

Pacio’r bagiau a mynd adref? Bobol bach!

Dyna wyliau diflas.

Mae teulu Cris ar yr awyren yn mynd … i FFRAINC!

Waw! Mae Tŵr Eiffel yn edrych yn fawr.

‘Edrychwch! Tŵr Eiffel,’ medd Cris.

‘Ie. Rydyn ni yn Ffrainc,’ ebe Mam.

‘Hei, cŵl!’ medd Cris.

‘Mae Ffrainc yn fwy ‘cŵl’ na Florida!’ ebe Dad.

Ac mae pawb yn chwerthin.

Mae teulu Cris wrth y gwesty gyda tad Nici.

Mae Nici, Martin a Mam yn cyrraedd mewn tacsi.

Mae Nici a Cris yn cael gwyliau bendigedig yn Ffrainc.

Dydy hi ddim yn rhy boeth!

Recommended