· Web viewRhaid cwblhau'r ffurflen hon, hyd yn oed pan nad oes unrhyw beth i'w ddatgan....

Preview:

Citation preview

Datganiad o Fuddiannau Allanol

Dylai aelodau o staff gwblhau'r ffurflen hon gan gyfeirio at y canllawiau isod a'r dogfennau canlynol:

Polisi Prifysgol Abertawe ar Wrthdaro Buddiannau o ran Gweithgarwch Ymchwil, Ymgynghori, a Masnacheiddio Eiddo Deallusol.

Gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer Rheoli Gwrthdaro Buddiannau o ran Gweithgarwch Ymchwil, Ymgynghori a Masnacheiddio Prifysgol Abertawe.

Diffiniad o Fuddiannau AllanolYn gyffredinol, gellir diffinio buddiannau allanol fel gweithgareddau yr ymgymerir â nhw’n llawn neu'n rhannol y tu allan i gyflogaeth y Brifysgol (yn hytrach na fel rhan o ddyletswyddau cytundebol arferol, gan gynnwys unrhyw ddyletswydd gytundebol i ymgymryd ag ymchwil a'i chyhoeddi), waeth y derbynnir tâl amdanynt ai peidio, a allai arwain at wrthdaro rhwng buddiannau'r Brifysgol a rhai’r unigolyn dan sylw.

Datganiad Cynnar Pan fydd aelod o staff, wrth ymgymryd â'i ddyletswyddau yn y Brifysgol, yn dechrau bod yn rhan o drafodion neu negodiadau y mae ganddynt ddiddordeb personol ynddynt, mae'n enwedig o bwysig y caiff buddiant o'r fath ei ddatgan i'r Brifysgol ar ddechrau'r ymwneud hwn.

Cwblhau'r Ffurflen DdatganRhaid cwblhau'r ffurflen hon, hyd yn oed pan nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Bydd Tîm Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol yn anfon hyn at bob aelod newydd o staff a benodir yn ystod y flwyddyn ynghyd â'r llythyr penodi. Rhaid adrodd am unrhyw newidiadau a geir yn ystod y flwyddyn wrth y Cofrestrydd a'r Prif Swyddog Gweithredol. O bryd i'w gilydd, gellir gofyn i aelodau presennol o staff gwblhau ffurflen newydd ar gyfer y gofrestr.

Cofrestr o DdiddordebauCaiff rhestr o ddiddordebau ei llunio gan y Cofrestrydd a'r Prif Swyddog Gweithredol, a bydd ar gael i'w gweld ar gais.

EsgeulustodNi fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw ganlyniad esgeulus sy'n deillio o weithgareddau personol aelod o staff y rhoddwyd caniatâd iddynt, waeth y derbyniwyd tâl amdanynt ai peidio, dan unrhyw amgylchiadau. Ceir ymwadiad i'r perwyl hwn ar y ffurflen.

Defnyddio enw a chyfeiriad y BrifysgolAtgoffir unigolion bod y defnydd o enw neu gyfeiriad y Brifysgol mewn unrhyw ddogfennau a ddefnyddir mewn perthynas â gweithgareddau allanol yn gwbl waharddedig heb gymeradwyaeth ysgrifenedig o flaen llawn gan y Cofrestrydd a'r Prif Swyddog Gweithredol.

Gwaith Allanol â ThâlAtgoffir aelod o staff academaidd am reoliadau ariannol D10 ynghylch gofyn am ganiatâd ysgrifenedig gan Bennaeth y Coleg, neu yn achos staff uwch, yr Is-ganghellor, os ydynt am ymgymryd â gwaith ymgynghori preifat neu waith arall â thâl. Pan geir caniatâd am weithgareddau o'r fath, dylai aelod o staff sicrhau y caiff ymrwymiadau o'r fath eu nodi ar ei ffurflen datganiad o fuddiannau allanol.

ADNODDAU DYNOL 1/5

Datganiad o Fuddiannau Allanol – Ffurflen

Defnyddir y ffurflen hon i hysbysu am wrthdaro buddiannau posib. Caiff hysbysiadau eu diweddaru ar system ABW y Brifysgol ar gofnodion staff a byddant yn parhau'n fyw oni chaiff y Brifysgol ei hysbysu nad yw'r cysylltiad yn parhau

mwyach. Dylid anfon y ffurflen at y Tîm Partneriaeth Busnes pan fydd wedi'i chwblhau

Enw: Coleg/Uned Gwasanaethau Proffesiynol:

Rhif Staff: Teitl Swydd:

Staff Gŵr/Gwraig/Partner, Plant neu Berthnasau eraill Dyddiau (O/I)

1. Cyflogaeth neu FusnesEnw'r cyflogwr neu’r busnes a natur y gwaith neu’r busnes.

2. Cyfarwyddiaethau, PartneriaethauEnw'r cyflogwr neu’r busnes a natur y gwaith neu’r busnes.

3. CyfranddaliadauEnw'r cwmni a natur ei fusnes, ac eithrio lle delir llai nag 1% o gyfranddaliadau'r cwmni neu ddaliadau mewn Cwmni Buddsoddi.Sylwer: Nid oes angen nodi swm y daliadau.

4. ARHOLWR ALLANOL A THREFNIADAU CYTBWYSManylion am ddyletswyddau Arholwr Allanol a dyletswyddau eraill yr ymgymerir â nhw ar ran Sefydliadau eraill.

5. YMGYNGHORI PERSONOL

ADNODDAU DYNOL 2/5

Cyfanswm nifer y dyddiau a dreuliwyd ar wasanaethau ymgynghori.

6. Cwmni Deillio o'r BrifysgolEnw’r Cwmni Deillio, natur y gwaith neu’r busnes a manylion y rôl/Cyfranddaliad.

7. Diddordebau Tir neu EiddoCyfeiriad neu ddisgrifiad o'r eiddo neu’r tir o fewn hanner milltir i unrhyw eiddo sy'n perthyn i Brifysgol Abertawe a'r natur neu ddiddordeb, gan gynnwys diddordeb fel rhydd-ddeiliad neu lesddeiliad (am gyfnod o flwyddyn neu hwy) tir neu eiddo fel daliwr opsiwn neu brynwr posib, ond ac eithrio tir neu eiddo a ddefnyddir fel cartref yn unig i'r aelod.

8. ArallManylion unrhyw ddiddordebau eraill y teimlir eu bod yn berthnasol e.e. aelodaeth o gymdeithasau; mudiadau cydweithredol neu undebau llafur; ymddiriedolaethau neu berthynas arbennig debyg arall; carennydd neu berthynas deulu ag unrhyw un sy'n debygol o fod â diddordeb uniongyrchol o fewn maes Prifysgol Abertawe, a daliedyddion, ymgyngoriaethau a nawdd ar ran unrhyw gorff neu unigolyn/unigolion.

Llofnod(Aelod o staff): Dyddiad:

ADNODDAU DYNOL 3/5

Penderfyniad Rheolwr Llinell/Cymeradwywr:

☐ Dim gwrthdaro. Caniateir i’r unigolyn barhau â’r gweithgaredd ☐ Mae’r gweithgaredd yn parhau ond caiff partïon eraill eu hysbysu am y gwrthdaro posib (gweler y nodiadau)

☐ Addasir y gweithgaredd i osgoi gwrthdaro buddiannau posib(gweler y nodiadau)

☐ Cynghorir yr unigolyn i dynnu’n ôl o’r gweithgaredd (gweler nodiadau)

Cymeradwywr (Rheolwr Llinell): Rôl: Dyddiad:

Nodiadau’r Cyfarfod (lle bo angen):

Dyddiad:

Y rhai a oedd yn bresennol:

Amlinelliad o’r Gwrthdaro Buddiannau Posib:

A oes modd negyddu/lliniaru’r gwrthdaro: OES / NAC OES

Os “OES”, sut:

Crynodeb o'r camau gweithredu cytunedig:

ADNODDAU DYNOL 4/5

Llofnod(Aelod o staff): Dyddiad:

Llofnod(Rheolwr Llinell): Dyddiad:

Gweithdrefn:

Dylid dychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i gyswllt y Partner Busnes AD perthnasol , a fydd yn gwneud asesiad cychwynnol. Os nad oes gwrthdaro buddiannau neu os caiff y ffurflen ei dychwelyd heb weithgareddau allanol, bydd y tîm Partneriaid Busnes yn lanlwytho’r datganiad i gofnod

ABW y ddarpar aelod o staff. Os nodir pryderon neu ymholiadau am unrhyw wrthdaro posib, bydd y Partner Busnes AD (neu’r unigolyn dynodedig) yn cyfeirio’r datganiad at reolwr llinell y darpar

aelod o staff, a bydd yn rhaid i’r rheolwr drafod y datganid â’r darpar aelod o staff i nodi a oes gwrthdaro gwirioneddol, canfyddedig neu bosib.

Pan fydd gwrthdaro posib, mae sawl canlyniad posib:

Addasu’r gweithgaredd i fynd i’r afael â’r gwrthdaro posib Mae’r aelod o staff yn rhoi’r gorau i’r gweithgareddau allanol Tynnir y cynnig swydd yn ôl/cychwynnir Gweithdrefn Ymddygid y Brifysgol i ystyried yr achos a’r opsiynau i’w datrys.

ADNODDAU DYNOL 5/5

Recommended