6
Y Gofalydd Rhifyn 78 Haf 2016 Cyfieithwyd i’r Gymraeg gan Angharad Edwards Pob parch i ofalwyr Yn cefnogi oedolion sy’n ofalwyr di-dâl ledled Ynys Môn, Conwy a Gwynedd Wythnos Gofalwyr 2016 6 -12 Mehefin Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn gwybod bod gofalwyr di-dâl yn ffantastig; maen nhw’n cyflawni gweithredoedd anhunanol o garedigrwydd ac ymroddiad bob dydd. Wythnos Gofalwyr yw’r amser i ddathlu’r ymrwymiad hwn ac i roi gwybod i ofalwyr bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi. Y tu mewn i’r rhifyn hwn: Lwfans Gofalwr; manteisio i’r eithaf ar eich apwyntiadau meddyg; y newyddion diweddaraf am y Ddeddf newydd; cyfnodau mewn ysbyty a phobl â dementia; gwyliau teuluol gofalwyr; hysbysfwrdd Rhif Elusen Gofrestredig: 1066262 Pobl gyffredin yw gofalwyr sy’n gwneud gwaith anghyffredin!

-dâl ledled Ynys Môn, Conwy a Gwynedd Y Gofalydd...mewn ysbytai. I gael rhagor o wybodaeth am Ymgyrch John, ewch i: Stori gofalydd Diolch Cynnal Gofalwyr! “ Hoffwn ddiolch fel

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Y Gofalydd

    Rhifyn 78 Haf 2016

    Cyfieithwyd i’r

    Gymraeg gan

    Angharad

    Edwards

    Pob parch i ofalwyr

    Yn cefnogi oedolion sy’n ofalwyr di-dâl ledled Ynys Môn, Conwy a Gwynedd

    Wythnos Gofalwyr 2016 6 -12 Mehefin

    Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn gwybod bod gofalwyr di-dâl yn ffantastig; maen nhw’n cyflawni gweithredoedd anhunanol o garedigrwydd ac ymroddiad bob dydd. Wythnos Gofalwyr yw’r amser i ddathlu’r ymrwymiad hwn ac i roi gwybod i ofalwyr bod eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i werthfawrogi.

    Y tu mewn i’r rhifyn hwn: Lwfans Gofalwr; manteisio i’r eithaf ar eich apwyntiadau meddyg; y newyddion diweddaraf am y Ddeddf newydd; cyfnodau mewn ysbyty a phobl â dementia; gwyliau teuluol gofalwyr; hysbysfwrdd

    Rhif Elusen Gofrestredig: 1066262

    Pobl gyffredin yw gofalwyr sy’n gwneud gwaith anghyffredin!

  • Newyddion Diweddaraf Cynnal Gofalwyr

    Lwfans Gofalwr Mae llawer o oblygiadau dros ddod yn ofalydd i berthynas neu ffrind, gan gynnwys cwymp posibl mewn incwm. Mae rhai gofalwyr yn penderfynu gadael eu swyddi neu leihau’r oriau y maen nhw’n gweithio. Medr y system fudd-daliadau ymddangos yn gymhleth ac nid yw llawer o ofalwyr yn ymwybodol o rai o’r budd-daliadau sylfaenol y medrent fod yn gymwys i’w derbyn.

    Y prif fudd-dal i ofalwyr yw’r Lwfans Gofalwr. Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y budd-dal hwn, rhaid eich bod yn gofalu am rywun sy’n derbyn naill ai’r Lwfans Byw i’r Anabl (anghenion gofal personol, cyfradd ganolig neu uwch) neu Gydran Bywyd Beunyddiol y PIP (Taliad Annibyniaeth Bersonol), neu’r Lwfans Gweini, am 35 awr neu fwy yr wythnos. Os ydych yn gweithio, ni allwch ennill mwy na £110 yr wythnos. Os ydych yn derbyn budd-daliadau eraill, medr ymddangos nad oes unrhyw fudd o hawlio’r Lwfans Gofalwr. Ond, medrech fod â’r hawl i gael yr hyn a elwir yn hawl sylfaenol a fedrai roi’r hawl i chi gael budd-daliadau na fedrwch eu hawlio gyda’r budd-daliadau eraill.

    Os ydych chi’n ofalydd ac yn ansicr a ydych yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych chi’r hawl i’w derbyn, medr Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr drefnu i chi gael gwiriad budd-daliadau a fydd yn edrych ar hawliau’r sawl sy’n derbyn gofal a’ch hawliau chi er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr incwm uchaf posibl.

    Ein siop elusen yng Nghaergybi Llwyddodd y siop yng Nghaergybi i godi £674.40 yn gynharach y flwyddyn hon. Diolch i bawb a roddodd eitemau a/neu helpu yn y siop. Diolch o dîm Cynnal Gofalwyr

    Cysylltwch â ni am fanylion grwpiau cymorth a’n digwyddiadau ar gyfer yr Wythnos Gofalwyr

    Adborth gan yr Hwylusydd Meddygfeydd Mae gan Gynnal Gofalwyr aelod o staff ym mhob Sir sy’n gweithio gyda meddygfeydd cyffredinol i godi ymwybyddiaeth o faterion gofalwyr; maent hefyd yn annog gofalwyr i roi gwybod i’w meddygfa cyffredinol am eu swydd ofalu.

    Mae gan Lynwen Roberts, Hwylusydd Meddygfeydd dros ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd yng Ngwynedd, rai awgrymiadau gan feddygon a Rheolwyr Practisiau:

    Dywedwch wrth eich meddygfa cyffredinol eich bod yn ofalydd. Os yw staff y practis yn ymwybodol o’ch sefyllfa, mae’n bosibl y medrent fod yn fwy hyblyg gydag apwyntiadau os yw’r cyfyngiadau amser a nifer y cleifion yn caniatáu. Mantais arall yw bod gan bob gofalydd di-dâl yr hawl i gael brechiad am ddim rhag y ffliw, waeth beth yw ei oedran neu statws ei iechyd. Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn gofyn i chi am eich swydd ofalu yn ystod ymgynghoriad a medrai gynnig rhai syniadau defnyddiol sy’n berthnasol i’ch amgylchiadau unigol.

    Sicrhewch fod gan y feddygfa eich manylion cyswllt os byddwch yn trefnu apwyntiad neu ymweliad cartref i’r sawl sy’n dibynnu arnoch.

    Ceisiwch fod yn bresennol yn ystod ymweliadau cartref, yn arbennig os oes problemau o ran cofio neu gyfathrebu.

    Sicrhewch fod yr holl wybodaeth am y sawl sy’n dibynnu arnoch yn cael ei diweddaru’n gyson a’i bod yn hygyrch i bob ymwelydd sy’n gysylltiedig â’i ofal. Medr eich swyddfa Cynnal Gofalwyr lleol eich helpu i wneud hyn.

  • Daeth y Ddeddf uchod i rym ym mis Ebrill 2016. Mae’n disodli’r holl ddeddfwriaeth gyfredol i ofalwyr yng Nghymru, felly mae’n bwysig bod gofalwyr yn gwybod eu hawliau dan y Ddeddf newydd.

    Mae’r diffiniad o ofalydd wedi’i ehangu, felly bydd mwy o ofalwyr yn cael eu cynnwys gan y Ddeddf.

    Bydd mwy o ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i fynd ati i gynnig Asesiad Gofalwr i bob gofalydd a bydd cyswllt cyfreithiol rhwng canlyniadau Asesiad Gofalwr a’r ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddiwallu’r angen (os yw’r meini prawf cymhwysedd yn caniatáu).

    Mae’r rheoliadau ar gyfer y Ddeddf yn gosod meini prawf cymhwysedd cenedlaethol newydd; golyga hyn y bydd pennu a yw person yn gymwys i gael cynllun gofal gan yr Awdurdod Lleol yn dibynnu bellach ar a oes ganddo rywun neu beidio, h.y. gofalydd, sy’n fodlon diwallu ei anghenion gofal. Felly, bydd yn hanfodol bod gofalwyr yn glir iawn ynghylch yr hyn y maen nhw’n fodlon eu darparu ac yn medru eu darparu gan y bydd hyn yn effeithio’n fawr ar b’un ai y bydd y sawl y maen nhw’n gofalu amdano’n gymwys i gael cymorth gan eu Hawdurdod Lleol trwy gynllun gofal. Bydd hefyd angen i Awdurdodau Lleol sicrhau eu bod yn medru dangos eu bod wedi gofyn ac wedi cofnodi’n glir yr hyn y mae gofalydd yn medru ac yn fodlon ei wneud.

    Bydd y Ddeddf newydd yn golygu y bydd llai o bobl yn derbyn cynllun gofal ffurfiol gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r Ddeddf yn cynrychioli symudiad clir tuag at ofal a ddarperir gan wasanaethau ataliol yn y gymuned.

    Mae Cynnal Gofalwyr yn parhau i fonitro’r Ddeddf newydd a bydd yn rhannu’r newyddion diweddaraf gyda gofalwyr yn rheolaidd.

    Sut i gysylltu â ni

    Anfonwch e-bost neu lythyr atom neu ffoniwch ni.

    Oriau swyddfa arferol: Dydd Llun – Dydd Gwener 10 - 4

    : [email protected] Nodwch ym mha sir rydych chi’n byw wrth anfon e-bost.

    Swyddfa Bangor 01248 370797 Uned 6, Mentec, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2UP

    Swyddfa Penrhyndeudraeth 01766 772956 Llys Deudraeth, Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth, LL48 6BL

    Swyddfa Llangefni 01248 722828 Neuadd y Dref, Llangefni LL77 7LR

    Swyddfa Bae Colwyn 01492 533714 Swyddfeydd Islawr y Metropole, Ffordd Penrhyn, Bae Colwyn LL29 8LG

    www.cynnalgofalwyr.org.uk

    Cysylltwch â ni gydag unrhyw broblem ofalu sydd gennych. Medrwch ofyn cwestiynau neu fwrw’ch baich am eich rôl gofalu; neu ofyn am ymweliad gan swyddog maes i drafod datrysiadau.

    Mae ein gwasanaeth yn gyfrinachol ac am ddim.

    Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

    Mae’r ffrwyth melyn crwm yn llawn maeth. Mae’r ffibr, y potasiwm, y fitamin C a’r B6 mewn bananas yn cadw’r galon yn iach.

    ~ medicalnewstoday.com

  • Slot Atebion

    C: Mae fy nhad yn ymdopi’n dda ers iddo gael gwybod bod ganddo Alzheimer’s y llynedd. Mae fy mrawd a minnau’n aros yn ei dŷ am yn ail er mwyn sicrhau gofal cyson. Mae ganddo drefn reolaidd, mae’n bwyta deiet iach ac, yn bwysicach oll, mae’n mwynhau bywyd.

    Mae angen i dad fynd i’r ysbyty am driniaeth a bydd rhaid iddo aros yno am rai diwrnodau. Rwy’n poeni’n arw am sut bydd hyn yn effeithio arno – mae angen ei atgoffa i fwyta ac yfed ac mae’n cynhyrfu yng nghwmni dieithriaid. A: Mae un o wardiau Ysbyty Gwynedd, Glaslyn, wedi mabwysiadu ‘Ymgyrch John’ yn ffurfiol, trwy gyflwyno Pasbort Gofalydd sy’n rhoi’r hawl i ofalwyr cleifion â dementia neu ddeliriwm ymweld â’r sawl sy’n dibynnu arnynt y tu allan i’r oriau ymweld.

    Medrech siarad â staff yr ysbyty ymlaen llaw ac egluro’ch pryderon. Rhowch wybod iddynt os oes gennych amser i fynd i mewn i helpu’ch tad gyda’i brydau bwyd ac ati.

    Mae rhai wardiau’n elwa o gael help Gwirfoddolwyr Ward, ‘Robins’, sy’n cynnig gwasanaethau amrywiol fel tawelu meddwl cleifion trwy siarad â nhw neu wneud gweithgareddau syml fel croeseiriau.

    Ar wahân i Ward Glaslyn, medr staff wardiau unigol ddefnyddio’u disgresiwn ar hyn o bryd i bennu a gaiff gofalwyr ymweld y tu allan i’r oriau ymweld.

    Os yw eich tad yn mynd i fod yn glaf mewnol yn Ysbyty Gwynedd, medrwch gysylltu â’n Swyddog Cymorth Gofalwyr, Tina Williams, sy’n gweithio yn yr ysbyty. Gwaith Tina yw cefnogi gofalwyr di-dâl yn yr ysbyty ac mae ar gael i drafod hyn ac unrhyw bryderon eraill posibl sydd gennych.

    07775280366

    Ynys Mae hon am y môr â mi- yn unig annynol yn gweiddi yn ei nos, ac ni wn i, sut, sut mae croesi ati ~Ifor ap Glyn Bardd Cenedlaethol Cymru

    Ymgyrch John: i gael yr hawl i aros gyda phobl â dementia yn yr ysbyty

    Lansiwyd yr ymgyrch gan Nicci Gerrard yn 2014 wedi marwolaeth ei thad, Dr John Gerrard.

    Roedd Dr Gerrard wedi cael diagnosis o Alzheimer’s ac roedd yn byw’n dda tan iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty i gael triniaeth ar wlser ar y goes. Yn ystod ei bum wythnos yn yr ysbyty, roedd yr oriau ymweld i’r teulu’n gyfyngedig dros ben a chafodd hyn effaith drychinebus. Dywedodd Ms Gerrard, “Roedd fy nhad yn medru ynganu ac roedd yn abl iawn pan aeth i mewn i’r ysbyty. Daeth allan yn ddyn wedi’i dorri.”

    Mae Ymgyrch John yn gofyn am fynediad a chydnabyddiaeth i ofalwyr ac yn credu y dylent nid yn unig cael caniatâd i fod ar y wardiau, ond y dylent gael eu croesawu.

    Mae Cynnal Gofalwyr yn cefnogi Ymgyrch John yn llwyr ac yn gobeithio y bydd yn cael ei dderbyn yn eang mewn ysbytai. I gael rhagor o wybodaeth am Ymgyrch John, ewch i: www.johnscampaign.org.uk

  • Stori gofalydd

    Diolch Cynnal Gofalwyr! “ Hoffwn ddiolch fel teulu i chi a’r Family Holiday Association am roi’r gwyliau arbennig yma i ni yn Haven, Pwllheli ym mis Gorffennaf. Cawsom amser ffantastig a gwnaethom fwynhau pob munud. Roedd yn union beth oedd ei angen arnom ar ôl cyfnod mor ingol a gofidus yn ymdopi â’m salwch. Roedd yr wythnos yn un llawn gweithgareddau - nofio, go-certio, marchogaeth asynnod, chwarae golff, teithiau cwch, diwrnodau ar y traeth a gwnaethom hyd yn oed chwarae Bingo, er i ni fethu ag ennill yr un wobr, ha ha! Dyma rai atgofion o’n gwyliau i chi eu mwynhau. Diolch unwaith eto am bopeth. Rydym yn ddiolchgar dros ben.”

    ~ Teulu Hughes

    Grantiau i ofalwyr Mae ein staff maes yn helpu gofalwyr i ddod o hyd i grantiau tuag at eitemau hanfodol fel nwyddau gwyn a dodrefn ac i wneud cais amdanynt. Weithiau, fel yn yr achos hwn, medrwn gael gafael ar grantiau sy’n fuddiol i’r teulu cyfan, ac nid y gofalydd yn unig.

    The Family Holiday Association Elusen genedlaethol yw hon sy’n ymroddedig i ddarparu gwyliau a theithiau undydd i lannau môr ym Mhrydain i deuluoedd sy’n wynebu rhai o heriau anoddaf eu bywydau.

    Mae’r elusen yn helpu teuluoedd na allai fforddio mynd ar wyliau fel arall. Y llynedd, helpodd yr elusen fwy na 1,400 o deuluoedd i gael gwyliau yng ngwersylloedd gwyliau Haven a Butlin’s neu i gael grant uniongyrchol tuag at wyliau yn rhywle arall. Y sawl sy’n gymwys i gael gwyliau yw teuluoedd ar incwm isel nad ydynt wedi bod ar wyliau yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, sydd ag o leiaf un plentyn tair oed neu’n hynach.

    www.familyholidayassociation.org.uk

    Sut fedra i gael grant? I wneud cais am wyliau, caiff teuluoedd eu hatgyfeirio gan weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio gyda nhw, fel Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, ymwelwyr iechyd ac ati.

  • Hysbysfwrdd

    Hyd y gwyddom, roedd y wybodaeth a geir yn y cylchlythyr hwn yn gywir pan gafodd ei argraffu. Ni all Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr fod yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau, esgeulustod nac ansawdd y wybodaeth a ddarperir gan fudiadau eraill, ac ni fedrwn argymell unrhyw gynnyrch na gwasanaeth.

    Papurau newydd a chylchgronau sain

    Mae gan Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru dîm recordio sy’n dosbarthu detholiad o lyfrau, cylchgronau a phapurau newydd wythnosol lleol ar lafar. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim.

    01248 353604

    I bwy mae PwyntTeulu Cymru?

    Mae PwyntTeulu Cymru i rieni, gofalwyr ac unrhyw un sy’n gyfrifol am blant a phobl ifanc. Mae teuluoedd ledled Cymru yn rhoi gwybod i ni am bethau y medrwn ni eu gwneud i wneud PwyntTeulu Cymru yn berthnasol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Os hoffech chi helpu i wella PwyntTeulu Cymru, byddwn yn croesawu eich barn – rhowch wybod i ni!

    Mae PwyntTeulu Cymru yn eich cysylltu chi â’r gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal leol. Os oes gyda chi rywbeth yr hoffech chi ei rannu gyda theuluoedd trwy PwyntTeulu Cymru, medrwch gyflwyno erthygl. Neges destun: 07860 052 905

    : 0300 222 57 57

    : [email protected]

    : https://pwyntteulu.cymru/

    Ffurflenni adnewyddu’r taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) Mae gofalwyr wedi dweud wrthym eu bod yn poeni am fod angen i’w ffurflenni adnewyddu gael eu dychwelyd erbyn dyddiad arbennig, ond mae yna restr aros am rywun i helpu i lenwi’r ffurflenni.

    Medrwch ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau a gofyn am estyniad i’r dyddiad y mae angen i’r ffurflenni gael eu dychwelyd.

    Mae gan Gofal Arthritis linell cymorth rhadffôn i bobl sy’n byw gyda phob math o arthritis. Peidiwch â dioddef yn dawel. Ffoniwch nawr am sgwrs gyfrinachol, cymorth a gwybodaeth. 0808 800 4050

    Banciau Bwyd A ydych chi’n cael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd? A ydych chi’n gorfod dewis rhwng talu biliau a phrynu bwyd? Cysylltwch â’ch swyddfa Cynnal Gofalwyr lleol a gofynnwch i’n staff a fedrant eich atgyfeirio i’r Banc Bwyd agosaf. Os byddwch yn bodloni’r meini prawf, byddwch yn gymwys i dderbyn parsel fwyd.

    https://pwyntteulu.cymru/