Upload
hoangnhi
View
227
Download
7
Embed Size (px)
Citation preview
UNED 3 (GORCHMYNION)
1. Defnyddiwch ymadroddion o’r bocsys i greu gorchmynion ar gyfer Amser Tacluso.
2
Rhowch y
pensil(iau)
pensil(iau) lliw
creon(au)
papur(au)
llyfr(au)
pin(nau) ffelt
miniwr/minwyr
rwber(i)
glud
siswrn/sisyrnau
brws(ys) paent
pren(nau) mesur
cerdyn/cardiau
gêm (gemau)
tegan(au)
jig-sô(s)
gwaith
yn y
ar y
wrth/wrth ochr y
ar ben y
(o) dan y
tu ôl i’r
o flaen y
yng nghanol y
mewn pentwr ar y
bwrdd
gadair
silff
cwpwrdd
ddesg
llawr
sinc
drôr
wal
drws
ffenest
fasged
bocs
bin
os gwelwch yn dda.
UNED 3 (GORCHMYNION)
2. Gorffennwch y gorchmynion hyn a defnyddiwch nhw ar fuarth eich ysgol chi.
Mae’r gloch wedi canu!
1. Casglwch …………………………………………………………………………
2. Rhowch ………………………………………………………………………….
3. Dewch ……………………………………………………………………. rŵan!
4. Gwnewch linell …………………………………………………………………
5. Sefwch mewn …………………………………………………………………….
6. Dim siarad ……………………………………………………………………….
7. Dilynwch ………………………………………………………………………….
8. Cerddwch i mewn ……………………………………………………………..
3
yn dawel
y teganau
llinell daclus
y beiciau
os gwelwch yn dda
i mewn yn y sied
i gadwy cylchoedd yn y bocsys
yn gyflym
i’r llinell y peli heb siarady rhaffau sgipio
tu ôl i Sara wrth y drws llinell syth fi
heb siarad y batiau Gareth
UNED 5 (DIDDORDEBAU, MEDDIANT A DERBYN)
Cyfieithwch.
1. I have a lovely salad in the fridge.
2. We’re having a lovely salad for supper tonight.
3. Are you (sing.) having new clothes for the wedding?
4. Have you (sing.) got new clothes for the wedding?
5. She’s having two new computers for the classroom.
6. She has two new computers in the classroom.
7. I’ll have twenty children in my class next year.
8. I’ll be having four new children in my class next year.
9. She had too much work to go out.
10. Have you (pl.) had permission to go on holiday?
4
UNED 6 (EISIAU)
1. Dyma’r atebion. Fedrwch chi ysgrifennu’r cwestiynau?
1. Dw i eisiau grawnwin gwyrdd.
2. Roedd Tudur eisiau pysgod a sglodion.
3. Mae’r gath eisiau llefrith.
4. Bydd hi eisiau paned o de.
5. Rydyn ni eisiau hufen iâ fanila.
6. Bydda i eisiau brechdan gaws a salad.
7. Roedden nhw eisiau ffa pob ar dost.
8. Mae o eisiau cinio cyw iâr a sudd oren.
9. Roedden ni eisiau coffi cryf a bisgedi.
10. Maen nhw eisiau siocled poeth.
5
UNED 6 (EISIAU)
2. Cysylltwch y ddau hanner i wneud cymaint o frawddegau â phosib. Yna darllenwch nhw’n uchel.
Dw i eisiau i ti groesi’r ffordd yn ofalus.
Mae’r pennaeth eisiau i’r dosbarth hwn liwio’r llun yn daclus.
Roeddwn i eisiau i chi flasu ei rysáit newydd.
Bydd y ddynes lolipop eisiau i bawb ddysgu geiriau’r gân.
Mae’r gofalwr eisiau i’r bechgyn olchi dy ddwylo.
Bydda i eisiau i blant Blwyddyn 3 gymryd rhan yn y sioe Nadolig.
Roedd Mr Thomas eisiau i chi dynnu eu hesgidiau rygbi tu allan i’r drws.
Mae’r gogyddes eisiau i bawb redeg yn y ras draws gwlad.
Roeddwn i eisiau i ti ddod i’r neuadd amser cinio.
Rydyn ni eisiau i bawb ofalu am y pysgod aur.
Geirfayn uchel - aloudgofalwr - caretakercogyddes - cook (fem.)rysáit - recipe
Rŵan, meddyliwch am frawddegau y gallwch chi ddefnyddio gyda’ch dosbarth chi e.e.Dw i eisiau i chi wneud grwpiau o dri.Dw i eisiau i chi ddewis lliw.Dw i eisiau i bawb weithio gyda phartner.
6
UNED 7 (DYDDIADAU)
Ysgrifennwch y dyddiadau yma mewn geiriau.
1. 23/03/1949
2. 28/05/2013
3. 20/08/1289
4. 01/01/2001
5. 17/07/1989
6. 12/02/1902
7. 15/12/1851
8. 18/11/1763
9. 19/4/2020
10. 11/06/1999
7
UNED 9 (Y DYFODOL)
1. Chi ydy athro/athrawes Blwyddyn 5. Mae hi’n fore dydd Llun. Eglurwch weithgareddau’r wythnos wrth eich cynorthwyydd dysgu.
Wythnos: Mai 15fed-19eg
Dydd LlunBore: Gwasanaeth ysgol, gwersi Cymraeg a mathemategPrynhawn: Gwers nofio, darllen grŵp
Dydd MawrthBore: Gwasanaeth ysgol, gwersi Saesneg a mathemategPrynhawn: Gwersi gwyddoniaeth a hanes
Dydd MercherBore: Mr Jones (sesiwn tyfu llysiau), gwersi Cymraeg a mathemategPrynhawn: Prawf sillafu Saesneg, addysg gorfforol – rownderi neu gymnasteg
Dydd IauBore: Gwersi Saesneg a mathemateg, darllen grŵpPrynhawn: Addysg grefyddol, cyfrifiaduron, gwaith prosiect unigol
Dydd GwenerBore: Gwasanaeth ysgol, gwersi mathemateg (prawf efallai) a SaesnegPrynhawn: Chwaraeon yn Ysgol y Mynydd. Bechgyn – criced, merched – tennis
Cofiwch ddefnyddio ffurfiau’r amser dyfodol: Bydda i, byddi di, bydd o/hi, byddwn ni, byddwch chi, byddan nhw.
Ymestynnwch eich brawddegau drwy ddweud wrth eich cynorthwyydd gyda phwy bydd o’n/hi’n gweithio, a ble.
8
UNED 9 (Y DYFODOL)
2. Rydych chi newydd ddangos cynllun yr wythnos i’ch disgyblion ac maen nhw wedi gofyn nifer o gwestiynau. Ydych chi’n gallu meddwl am atebion posibl?
1. Ble bydd y wers nofio?
2. Sut byddwn ni’n mynd yno?
3. Faint o wersi byddwn ni’n cael?
4. Beth fydd enw prosiect y tymor yma?
5. Am faint o’r gloch bydd Mr Jones yn cyrraedd?
6. Am beth fydd Mr Jones yn siarad?
7. Pa grwpiau fydd yn gwneud gymnasteg?
8. Pryd bydd y bechgyn yn chwarae criced?
9. Pwy fydd yn dod gyda ni i Ysgol y Mynydd?
10. Fyddwch chi’n dod ar y bws hefyd?
9
UNED 9 (Y DYFODOL)
3. Darllenwch am gynlluniau Gwawr a’i ffrindiau ar gyfer gwyliau’r haf.
Ar ddechrau’r gwyliau ysgol, bydda i’n mynd i Gaerdydd gyda fy ffrindiau.
Byddwn ni’n mynd ar y trên achos mae parcio yng Nghaerdydd yn hunllef!
Byddwn ni’n siopa ac yna’n cael bwyd bendigedig mewn tŷ bwyta Eidalaidd cyn
dod adre.
Ym mis Awst, bydda i’n mynd i’r Eisteddfod gyda fy ngŵr a Cadi’r ci a byddwn ni’n aros yno mewn carafán. Bydd hi’n wythnos gyffrous achos byddwn ni’n
cyfarfod â llawer o ffrindiau yno.
Yna, byddwn ni’n mynd i Sir Benfro ac yn cael gwyliau ar lan y môr. Bydda i wrth fy modd yn cerdded ar y traeth yn gynnar bob bore gyda Cadi, ac yna’n
ymlacio gyda llyfr da!
Rŵan, trowch y paragraff i’r trydydd person.Bydd Gwawr yn … Bydd hi’n … Byddan nhw’n …
Beth amdanoch chi? Beth fyddwch chi’n wneud dros yr haf? Ysgrifennwch ddarn byr i’w ddefnyddio gyda’ch dosbarth.Bydda i’n … Byddwn ni’n …
10
UNED 9 (Y DYFODOL)
4. Ymarfer holi ac ateb am gynlluniau yn y dyfodol
Gofynnwch y cwestiynau yma i bartner.
1. Ble byddi di’n mynd?
2. Gyda phwy fyddi di’n mynd?
3. Pryd byddi di’n mynd?
4. Sut byddi di’n mynd?
5. Pam fyddi di’n mynd?
6. Beth fyddi di’n wneud/weld yno?
7. Pa fath o fwydydd/adeiladau/atyniadau fydd yno?
8. Beth fyddi di’n fwyta/yfed?
9. Sut bydd y tywydd?
10. Fyddi di’n ………?
Geirfaadeiladau - buildingsatyniadau - attractions
Bydda i’n … Bydd … Bydda, bydda i’n … / Na fydda, fydda i ddim yn …
Cofiwch ymarfer y ffurfiau lluosog hefyd:Ble byddwch chi’n mynd? Pwy fydd gyda chi? Fyddwch chi’n …? Byddwn ni’n … Bydd … Byddwn, byddwn ni’n … / Na fyddwn, fyddwn ni ddim yn …
11
UNED 9 (Y DYFODOL)
5. Darllenwch y darn yma i’ch partner.
Ddoe, es i i gyfweliad yn Ysgol y Cwm. Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi
dillad achos roeddwn i’n nerfus iawn. Gofynnodd y panel nifer o gwestiynau i mi.
Roedden nhw’n ddigon neis ond doeddwn i ddim yn gallu ymlacio o gwbl. Yr aros
ar y diwedd i glywed pwy gafodd y swydd oedd un o’r pethau gwaetha. Erbyn
amser te, roedd y cyfan drosodd ac roeddwn i’n gallu ymlacio a mwynhau
gwydraid o win yn y dafarn.
Yna, trowch y darn i’r dyfodol. Dechreuwch fel hyn:
Yfory, ...
12
UNED 12 (YR AMSER)
Ysgrifennwch yr amserau mewn geiriau.
1. am 10.30
2. tua 3.00
3. cyn 4.45
4. am 11.40
5. tua 2.00
6. cyn 9.35
7. tua 2.55
8. am 4.25
9. cyn 10.00
10. am 7.05
13
UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)
1. Atebwch y cwestiynau canlynol yn y cadarnhaol (affirmative).
1. Ddest ti i’r ysgol ar y bws y bore ’ma Lowri?
2. Gollaist ti dy gap coch ddoe, Gruff?
3. Wnest ti dy waith cartref i gyd, Ben?
4. Adawaist ti dy fag yn yr ysgol neithiwr, Sali?
5. Gofiaist ti ddod â brechdanau heddiw, Mari?
6. Welaist ti Miss Davies yn y swyddfa, Jac?
7. Ddarllenaist ti dy lyfr darllen neithiwr, Beca?
8. Fwytaist ti dy ginio heddiw, Elin?
9. Yfaist ti dy lefrith i gyd, Elis?
10. Feddyliaist ti cyn rhoi’r ateb, Dewi?
14
UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)
2. Dyma hanes gwyliau Tom. Darllenwch y darn yn ofalus.
Wel, dyna wyliau hanner tymor bendigedig! Aethon ni am wyliau bach i lan y
môr. Arhoson ni mewn fflat gysurus iawn yn Ninbych-y-pysgod. Roedd y fflat
bron ar y traeth! Codon ni’n gynnar bob bore er mwyn cael chwarae gyda’r ci ar
y tywod a chawson ni lawer o hwyl. Er bod y tywydd yn braf, roedd y môr yn oer
ac felly nofion ni ddim.
Ymwelon ni â sawl lle diddorol yn yr ardal. Gwelon ni Gastell Penfro a dringon ni i ben y tŵr. Aethon ni i Dyddewi ac i’r eglwys gadeiriol. Yna, cerddon ni ar
hyd yr arfordir i weld capel Non. Teithion ni i Ynys Bŷr mewn cwch modur bach
glas a bwyton ni hufen iâ melys yng nghaffi’r mynachod.
Daethon ni adre nos Wener yn flinedig ond wedi ymlacio’n llwyr. Gwyliau gwych!
Rŵan, ailysgrifennwch y darn gan ddefnyddio berfau yn y person cyntaf unigol, e.e. es i …, gwelais i …
Beth am ddefnyddio’r darnau gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 (KS2)? Gallech chi ddefnyddio’r darnau:
fel darnau i ymarfer darllen yn uchel fel darnau darllen a deall fel darnau i’w dysgu a pherfformio yn null Pie Corbett fel model ar gyfer tasg ysgrifennu.
15
UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)
3. Atebwch y cwestiynau canlynol yn y negyddol (negative).
1. Gest ti hufen iâ mefus?
2. Welaist ti dân gwyllt nos Sadwrn?
3. Fwytaist ti gyri neithiwr?
4. Redaist ti yn y ras fawr eleni?
5. Glywaist ti am y sioe Nadolig?
6. Ddarllenaist ti stori i’r dosbarth Meithrin?
7. Dalaist ti am y tocyn raffl?
8. Brynaist ti lyfr yn y ffair lyfrau?
9. Yrraist ti i’r ysgol y bore ’ma?
10. Wisgaist ti wisg ffansi dydd Gwener diwetha?
16
UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)
4. Trowch y brawddegau yma i’r amser gorffennol.
1. Tyfith y llysiau yng ngardd yr ysgol yn dda.
2. Caiff y llysiau ddigon o fwyd a dŵr gan y plant.
3. Dilynan nhw’r cyngor hwn yn ofalus.
4. Llwyddan nhw i dyfu llysiau da.
5. Cewch chi lwyddiant a siom wrth arddio.
6. Bwytith y plant lysiau ffres o’r ardd heb ffys.
7. Gwelwch chi fod gan y plant fwy o ddiddordeb yn yr ardd ar ôl iddyn nhw
flasu’r llysiau.
8. Talwn ni gostau’r ardd drwy werthu’r llysiau yn y siop.
9. Gwerthith y llysiau’n dda yn siop yr ysgol.
10. Pryna i lysiau yn y siop bob wythnos.
17
UNED 18 (WEDI ac WEDI BOD)
1. Beth mae pawb wedi bod yn ei wneud? Dewiswch eitem o bob colofn ac ysgrifennwch frawddegau.
Aled darllen nofel yn yr archfarchnad
Siôn tynnu lluniau yn y caffi
Non gweithio ar y trên
Lowri yfed coffi yn y parc
Owain gwerthu cacennau yn nhŷ ffrind
Henri sgwrsio yn y ffair haf
Beca cael picnic yn y dosbarth nos
Haf gwneud bisgedi wrth yr afon
Dilynwch y patrwm yma:
Mae Dafydd wedi bod yn gwylio drama yn y theatr.
1.________________________________________________________________
2________________________________________________________________
3.________________________________________________________________
4.________________________________________________________________
5.________________________________________________________________
6.________________________________________________________________
7.________________________________________________________________
8.________________________________________________________________
18
UNED 18 (WEDI ac WEDI BOD)
2. Beth mae pawb wedi ei wneud heddiw? Darllenwch y manylion ac yna atebwch y cwestiynau. Defnyddiwch ragenwau yn lle enwau os gallwch chi, e.e. Maen nhw yn lle Mae Ann a Megan.
Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod prysur iawn. Y peth cyntaf y bore yma, aeth
plant Blwyddyn 6 i nofio. Ar ôl amser chwarae, roedd rhaid i Marc a Steffan
wneud mathemateg ac roedd rhaid i Ann a Megan wylio ffilm ar y teledu am
ddiogelwch ar y ffordd. Amser cinio, roedd Sara yn brysur yn garddio ac roedd
Sioned yn ymarfer canu’r piano ar gyfer y cyngerdd wythnos nesa. Ar ôl mynd
adre o’r ysgol, roedd rhaid i Llew baratoi cyri i swper tra oeddwn i yn fy ngwers
jiwdo.
1. Beth dw i wedi ei wneud heddiw?
2. Beth mae Ann a Megan wedi bod yn ei wneud?
3. Beth mae plant Blwyddyn 6 wedi ei wneud?
4. Beth mae Sioned wedi ei wneud?
5. Beth mae Marc a Steffan wedi bod yn ei wneud?
6. Beth mae Sara wedi bod yn ei wneud?
7. Beth mae Llew wedi bod yn ei wneud?
Beth rydych chi wedi bod yn ei wneud heddiw? Gwnewch restr.
19
UNED 20 (GOFYN CWESTIYNAU)
1. Atebwch y cwestiynau canlynol am eich ystafell ddosbarth.
1. Oes gen ti ystafell ddosbarth fawr?
2. Pa liw ydy’r drws?
3. Beth sy ar y drws?
4. Ydy’r ystafell yn olau?
5. Pa siâp ydy’r ystafell?
6. Ble mae’r bwrdd gwyn rhyngweithiol?
7. Pa blant sy yn dy ddosbarth?
8. Oes piano yn yr ystafell?
9. Pa mor fawr ydy’r ffenestri?
10. Pa fath o fyrddau sy gen ti?
11. Oes ffôn yn dy ystafell ddosbarth?
12. Ble mae’r gornel ddarllen?
13. Pwy sy’n eistedd yng nghefn yr ystafell?
14. Pa mor lliwgar ydy’r ystafell?
15. Wyt ti’n hapus gyda’r ystafell ddosbarth? Pam?
20
UNED 20 (GOFYN CWESTIYNAU)
2. Rydyn ni’n defnyddio llawer o gwestiynau yn ein dosbarthiadau bob dydd. Darllenwch yr enghreifftiau hyn a meddyliwch am fwy.
Ble mae ...?
dy got dy fag dy focs cinio
dy waith cartref dy lyfr Saesneg dy siwmper
eich llyfrau prosiect
Beth sy yn ...?
dy law dy lyfr
dy boced dy ddrôr
Ble mae’r ...?
prennau mesur llyfrau mathemateg
brwsys paent pensiliau lliw
Wyt ti’n ...?/ Ydych chi’n ...?
barod deall gwrando
cytuno meddwl siarad
21
Pa fath o ddyn/ddynes/ferch oedd ...?
Harri’r wythfed Caradog Dewi Sant
Owain Glyndŵr Gwenllian Ann Frank
Sut le oedd ...?
Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Cymru yn Oes y Celtiaid
Ble roedd ...?
y castell
y frwydr (the battle)
y pentref
22
UNED 20 (GOFYN CWESTIYNAU)
3. Atebwch y cwestiynau yma.
1. Wyt ti’n gwybod beth ydy enw fy mrawd i?
2. Oedd gen ti gur pen dydd Llun diwetha?
3. Weloch chi ysgol newydd y pentref?
4. Wnei di ofalu am Flwyddyn Pump yfory?
5. Oes rhaid i mi wneud y gwaith yma heno?
6. Est ti i weld dy deulu di ddoe?
7. Faint gostiodd dy got di?
8. Bryni di fferins drosto i?
9. Glywoch chi am y lleidr dorrodd i mewn i fy nhŷ i?
10. Pryd rwyt ti’n bwriadu fy nhalu i?
23
UNED 21 (DARLLEN A THRAFOD LLYFR)
1. Mae’r dosbarth wedi bod yn darllen casgliad o gerddi e.e. Sgram! (Atebol). Darllenwch y sgwrs a llenwch y bylchau.
Athro: Ydych chi wedi mwynhau’r llyfr, blant?
Plant: Ydyn, syr. Rydyn ni wedi mwynhau’r llyfr yn fawr iawn.
Athro: Meddyliwch am eich hoff gerdd. Sam, p’un ydy dy hoff gerdd di?
Sam: Fy hoff gerdd i ydy __________ gan __________ achos mae’n ddiddorol.
Athro: Jac, wyt ti’n cytuno gyda Sam?
Jac: Ydw, syr. Dw i wrth fy modd gyda __________.
Athro: Pam?
Jac: Achos dw i’n hoffi darllen y geiriau sy’n odli.
Athro: Beth amdanat ti, Lowri?
Lowri: Dw i ddim yn cytuno gyda’r bechgyn. Yn fy marn i, mae __________ yn rhy
araf. __________ ydy fy hoff gerdd i.
Athro: Pam, Lowri?
Lowri: Achos fy ewythr i ydy’r bardd!
24
UNED 21 (DARLLEN A THRAFOD LLYFR)
2. Darllenwch hwiangerdd neu gerdd gyda’ch dosbarth. Yna, trafodwch y gerdd.
Beth ydy teitl y gerdd? Teitl y gerdd ydy _____________________________.
Beth ydy enw’r bardd? _______________ ydy enw’r bardd./Enw’r bardd ydy
_______________.
Ydy’r gerdd yn hir neu’n fyr? Mae’r gerdd yn _____.
Oes odl yn y gerdd? Oes, mae odl yn y gerdd./Nac oes, does dim odl yn y
gerdd.
Chwiliwch am yr odl. Beth sy’n odli gyda _____? Mae _____ yn odli gyda
_____.
Sawl pennill sy yn y gerdd? _____ pennill sy yn y gerdd.
Sawl llinell sy mewn pennill? _____ llinell sy mewn pennill.
Am beth mae’r bardd yn ysgrifennu? Mae’r bardd yn ysgrifennu am
____________.
Wyt ti’n hoffi’r gerdd? Ydw, dw i’n hoffi’r gerdd./Nac ydw, dw i ddim yn hoffi’r
gerdd.
Pam? Achos dw i’n hoffi’r _____./Achos dw i ddim yn hoffi’r _____.
Beth ydy dy hoff air di? _____ ydy fy hoff air i./Fy hoff air i ydy _____.
Pa ran o’r gerdd wyt ti’n hoffi orau? Dw i’n hoffi’r dechrau/canol/diwedd orau.
Geirfacerdd/i - poem/s yn ddiddorol - interestinghwiangerdd/i - nursery rhyme/s yn ddoniol - funnycasgliad - a collection yn gyffrous - excitinggair/geiriau - word/s yn hir - longllinell/au - line/s yn fyr - shortpennill/penillion - verse/s yn ddiflas - boring, miserableodl/au - rhyme/s yn drist - sadodli - to rhyme yn araf - slowgeiriau sy’n odli - words that rhyme yn anodd - difficultgan - by yn rhy anodd - too difficult bardd/beirdd - poet/s yn rhy ddiflas - too boring, too miserable
25
UNED 24 (DISGRIFIO POBL)
Gwaith pâr – bwlch gwybodaeth
Gofynnwch gwestiynau i’ch partner er mwyn llenwi’r bylchau.
Partner 1
Enw Oed Gwallt Lliw llygaid Corff Gwybodaeth arall
Gwyn 3 glas tenau
cyrliog
Manon tywyll brown
12 gwyrdd tal doniol
Gwilym moel bywiog
20 byr siapus
Partner 2
Enw Oed Gwallt Lliw llygaid Corff Gwybodaeth arall
syth hapus
Twm 15 tywyll cryf caredig
50 byr rhamantus
Elinor hir
1 gwyrddlas tew
Mair brown golau hardd
26
UNED 26 (IDIOMAU)
Idiomau: ‘gan’
Atebwch y cwestiynau hyn.
1. Beth sy’n well gen ti – brechdan gaws neu frechdan wy?
2. Beth sy’n well gan Dafydd – cawl neu gyri?
3. Beth sy’n well gan Elen – cig neu bysgod?
4. Beth sy’n well gan y merched – canu neu ddawnsio?
5. Beth sy’n well gan y bechgyn – rygbi neu bêl-droed?
6. Beth sy’n well gan y gath – dŵr neu lefrith?
7. Beth sy’n well gen i – garddio neu waith tŷ?
8. Beth sy’n well gennych chi – gwyddoniaeth neu fathemateg?
27
UNED 29 (GOFYN CWESTIYNAU)
1. Dyma atebion Huw ond beth oedd cwestiynau Mrs Jones?
1. Fy mag gwyliau i ydy hwnna.
2. Dillad tywydd poeth sy yn y bag.
3. Oes, mae gen i ddigon o eli haul, diolch.
4. Fy nghariad i fydd yn mynd gyda fi.
5. Byddwn ni’n mynd yfory.
6. Byddwn ni’n mynd ar fordaith i Fôr y Canoldir.
7. Byddwn ni’n teithio mor bell â Groeg.
8. Bydd hi’n boeth iawn, gobeithio.
9. Byddwn ni’n dod adre mewn pythefnos.
10. Ydw, dw i’n gyffrous iawn!
28
UNED 29 (GOFYN CWESTIYNAU)
2. Atebwch y cwestiynau yma.
1. Pryd anfoni di’r cerdyn ata i?
2. Oedd hi’n meddwl dy fod ti’n iawn?
3. Pam hoffech chi gael y swydd yma?
4. Sawl plentyn oedd yn dy ddosbarth di cyn y Pasg?
5. Ddylwn i ofyn iddo fo am dystlythyr?
6. Oeddet ti’n gwybod fy mod i wedi cael cynnig swydd dirprwy?
7. Hoffech chi weld ein hystafell ddosbarth newydd ni?
8. Est ti i Lundain yn dy gar bach coch?
9. Ble gwelaist ti fy mrawd-yng-nghyfraith?
10. Beth fydd yn dy hosan di bore Nadolig?
29
UNED 30 (HOFFWN)
1. Darllenwch y negeseuon e-bost hyn yn ofalus.
30
Dafydd a Harri,Hoffech chi ddod i’r ganolfan hamdden nos yfory? Hoffwn i godi pwysau yn y gampfa newydd a bydd sesiwn hyfforddi yn dechrau am 7.15y.h. Beth amdani?Guto
Bore da, Siôn,Hoffet ti ddod i’r traeth dydd Sadwrn nesa? Hoffwn i ymarfer rhedeg ar gyfer y marathon. Mae dyn y tywydd yn addo tywydd bendigedig. Hoffwn i fynd i’r Rhyl neu Brestatyn achos bod y traethau’n hir. Hwyl,Deian
Haia, Ffion,Sut wyt ti? Hoffet ti ddod i Gaer i siopa rywbryd yr wythnos yma? Hoffwn i brynu ffrog haf newydd. Hoffet ti fynd ar y trên neu yn y car? Dw i ddim eisiau mynd ar y bws achos mae’n gwneud i mi deimlo’n sâl.Cariad, Siwan
Helo, Lowri,Hoffet ti ddod i fy mharti pen-blwydd yn y ganolfan bowlio deg? Bydda i’n dri deg oed ar y degfed o Fai a hoffwn i ddathlu gyda fy ffrindiau. Hwyl,Marged
Geirfasesiwn hyfforddi - training sessionyn ôl - according torhagolygon y tywydd - the weather forecast
Rŵan, atebwch y cwestiynau hyn.
1. Pwy hoffai fynd i’r Rhyl neu Brestatyn? Pam?
2. Ble hoffai Betsan a Gwyn fynd? Beth hoffen nhw wneud yno?
3. Pam hoffai Guto fynd i’r ganolfan hamdden? Pryd hoffai o fynd?
4. Ble hoffai Siwan fynd? Beth hoffai hi brynu yno?
5. Pwy hoffai ddathlu gyda’i ffrindiau? Faint fydd ei hoed hi ar y degfed o Fai?
31
Helo, Alys a Rhys,Hoffech chi ddod am dro gyda Gwyn a fi yfory? Hoffen ni fynd i Lyn Brenig i dynnu lluniau ar gyfer prosiect Blwyddyn 4. Bydd y tywydd yn braf yn ôl y rhagolygon.Hwyl am y tro,Betsan
UNED 30 (HOFFWN)
2. Ysgrifennwch ymateb i un o’r negeseuon e-bost. Defnyddiwch rai o’r ymadroddion hyn:
Diolch yn fawr am dy neges …
Diolch am y gwahoddiad i/i’r …
Hoffwn i ddod …
Syniad ardderchog ydy …
Mae’n ddrwg gen i …
Yn anffodus …
Fedra i ddim dod i/i’r …
… achos …
32
…………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………
UNED 30 (HOFFWN)
3. Gwnewch frawddegau gan ddefnyddio’r wybodaeth yn y tabl. Dilynwch batrwm rhif 1.
Person Cadarnhaol Negyddol
1. Gareth mynd i’r gampfa defnyddio’r peiriant rhwyfo
2. fi bwyta allan cael bwyd Tsieineaidd
3. Mari cael gwyliau ym Mharis teithio ar y fferi
4. Dewi pysgota yn y môr mynd ar ei ben ei hun
5. Henri medru canu’r piano gorfod ymarfer bob dydd
6. ni gweld y gêm rygbi fawr talu gormod am docynnau
7. Disgyblion Blwyddyn 9 dringo’r Wyddfa cerdded yn y glaw
8. chi cystadlu yn yr eisteddfod dawnsio
9. ni prynu tŷ newydd gadael y pentref
1. Hoffai Gareth fynd i’r gampfa ond hoffai o ddim defnyddio’r peiriant rhwyfo.
2.
3.
4.
5.
6.
7.
8.
9.
33
UNED 30 (HOFFWN)
4. Meddyliwch am frawddegau y gallech chi ddefnyddio gyda’ch dosbarth. e.e.
1. Hoffwn i weld dy waith di.
2. Hoffwn i ddweud stori wrthoch chi.
3. Hoffwn i glywed y gân unwaith eto.
4. Hoffwn i weithio gyda’r Grŵp Coch rŵan.
5.
6.
7.
8.
34
UNED 30 (HOFFWN)
5. Gorffennwch y cwestiynau hyn gan ddefnyddio’r geiriau yn y grid.Cofiwch y treiglad meddal!
1. Hoffet ti fynd i’r ____________________ ?
2. Hoffet ti ddewis ____________________ ?
3. Hoffet ti fod yn ____________________ ?
4. Hoffet ti gael ____________________ ?
5. Ble hoffet ti ____________________ ?
6. Beth hoffet ti ____________________ ?
7. Beth hoffech chi ____________________ ?
8. Hoffech chi ____________________ rŵan ?
llyfr darllen stori cân gêm ffrwyth
capten Helpwr y Dydd swyddog tywysoges môr-leidr
afal llefrith help eistedd chwarae
darllen gwneud mynd allan tacluso lliwio
llyfrgell tŷ bach bwrdd crefft cornel ddarllen twb tywod
35
UNED 33 (CYN ac AR ÔL)
1. Gorffennwch y gorchmynion hyn, gan ddefnyddio’r geiriau yn y grid isod i greu nifer o frawddegau. Yna, defnyddiwch nhw gyda’ch dosbarth.
1. Gwisgwch ffedog
2. Golchwch eich dwylo
3. Tynnwch eich welis/esgidiau rygbi
4. Rhowch eich pensiliau i lawr
5. Darllenwch y cwestiwn
6. Casglwch eich bagiau
7. Darllenwch yn dawel
8. Trafodwch gyda’ch grŵp
9. Tacluswch eich bwrdd
10. Gwisgwch eich cotiau
cyn dod i mewn i’r dosbarth ar ôl gorffen eich gwaith
cyn mynd adre ar ôl chwarae yn y tywod
cyn penderfynu ar yr ateb ar ôl ysgrifennu’r dyddiad
cyn bwyta ffrwyth ar ôl dewis llyfr newydd
cyn mynd i nofio ar ôl darllen y gerdd
cyn mynd allan yn y glaw ar ôl tacluso eich bwrdd
cyn chwarae yn y dŵr ar ôl gorffen peintio
cyn ysgrifennu’r ateb ar ôl cerdded drwy’r mwd
cyn mynd allan i chwarae ar ôl gwylio’r ffilm
cyn trafod gyda’ch partner ar ôl bwyta eich cinio
36
UNED 33 (CYN ac AR ÔL)
2. Llenwch y bylchau isod. Cofiwch y treiglad meddal.
1. Cyn i mi ____________ fy mrechdanau. (bwyta)
2. Ar ôl i ti ____________ dy got. (gwisgo)
3. Wrth i ni ____________ ar y thema. (penderfynu)
4. Cyn iddyn nhw ____________ am y tocyn. (talu)
5. Rhag ofn i chi ____________ ar yr iâ. (llithro)
6. Erbyn iddo fo ____________ ’r gwaith. (dechrau)
7. Rhag ofn i ti ____________’r bws. (colli)
8. Ar ôl iddi hi ____________ adre. (rhuthro)
9. Cyn i’r bechgyn ____________ i chwarae rygbi. (mynd)
10. Erbyn i Mr Jones ____________ ’nôl. (dod)
Geirfarhuthro - to rush
37
UNED 35 (ANSODDEIRIAU AFREOLAIDD)
Cywirwch y brawddegau yma.
1. Doeddwn i ddim mor dda â fo.
2. Roedd y bachgen yn fwy bach na’r ferch.
3. Mae gwyliau ym Mhrydain yn costio mor gymaint â gwyliau yn Ffrainc.
4. Mae o’n fyrach na fi.
5. Hi ydy’r gorau yn y dosbarth.
6. Mae Everest yn fwy uchel na’r Wyddfa.
7. Mae hi’n rhedeg yn cyflymach na fi.
8. Mae dawnsio yn fwy o hwyl na cerdded.
9. Oedd y tŷ yma’n drutach na’r hen dŷ?
10. Fo oedd y bachgen gryfaf.
38
UNED 39 (ARDDODIAID CYFANSAWDD)
1. Ailysgrifennwch y brawddegau gan roi’r rhagenw yn lle’r enw bob tro.
1. Gwnewch hyn er mwyn Marged.
2. Bydd rhaid i chi chwarae criced yn erbyn y merched.
3. Wnewch chi eistedd wrth ochr Mrs Jones?
4. Brysiwch! Rhedwch ar ôl y papurau!
5. Peidiwch chwerthin am ben Dafydd.
6. Ddylech chi ddim torri ar draws y ficer.
7. Beth am ddod ar ôl Mari a fi?
8. Cadi fydd yn cystadlu yn erbyn Sara.
39
UNED 39 (ARDDODIAID CYFANSAWDD)
2. Cysylltwch y ddau hanner i wneud brawddegau synhwyrol.
Roedd y plant bach am fy mhen pan syrthiais i.
Fyddi di’n aros adre ar ei hyd hi am bum milltir.
Chwarddon nhw ar ei ôl o.
Bydd rhaid i chi deithio yn fy lle i heno?
Chwaraeoch chi’n dda iawn wrth eu bodd gyda’r fferins.
Mae coeden fawr yng nghanol y lawnt yn eu herbyn nhw dydd Sadwrn.
Wyt ti’n gallu mynd i’r cyfarfod ar dy ben dy hun heno?
Dywedodd pawb y geiriau a blodau’n tyfu o’i chwmpas.
40
UNED 43 (Y CYMAL ENWOL)
Cyfieithwch.
1. I heard that ten new children started in the school last Monday.
2. She knows that I’m going out tonight.
3. Did you (sing.) know that the head teacher is leaving?
4. I believe that she will be going to London next week.
5. I know that you (sing.) would prefer to leave early.
6. She thinks they’ll be very good.
7. They would always think she was right.
8. He knew I was ill.
9. I didn’t say that she was in the accident.
10. They didn’t know we were married.
41
UNED 44 (PWYSLEISIO)
Newidiwch y brawddegau yma i bwysleisio’r geiriau sy mewn print bras.
1. Mae Gwyn yn byw ym Mangor.
2. Mae Non yn byw yng Nghaerdydd.
3. Gwelodd y plant ‘Cyw’ ar y teledu.
4. Gwelodd yr athrawon y rhaglen ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol.5. Gwelais i ‘Pobol y Cwm’ ar y teledu.
6. Gweloch chi’r ffilm newydd yn y sinema.
7. Y rhedwr gorau yn yr ysgol ydy Dafydd.
8. Cafodd Siân sglodion i de.
9. Cafodd Siân sglodion i de.
10. Cafodd Siân sglodion i de.
42
UNED 49 (DWEUD BLE MAE PETHAU)
1. Darllenwch y disgrifiad hwn o lun ‘Yr Ysgol’ yn Y Geiriadur Lliwgar (Y Dref Wen).
Mae’r ystafell yn fawr ac yn llawn. Ar y waliau mae lluniau lliwgar a map o’r byd.
Dan y map mae silffoedd ac ar y silffoedd mae llawer o lyfrau diddorol. Mae tri
bwrdd mawr ac un ddesg yn yr ystafell ddosbarth. Ar y ddesg mae glôb mawr,
lamp goch, llyfr nodiadau Mrs Owen, yr athrawes, a phensiliau. Tu ôl i ’r ddesg
mae bwrdd gwyn, a rhwng y bwrdd gwyn a’r ffenest mae tanc pysgod. Mae
llawer o bysgod bach yn nofio yn y dŵr. Uwchben y tanc pysgod mae siart abiéc
ar y wal ac wrth ochr y tanc mae planhigyn. O flaen y ffenest mae cyfrifiadur ac
îsl. Mae’r drws yn y gornel gyferbyn â’r ffenest ac mae o’n goch. Mae’r llawr a’r
nenfwd yn wyn ac mae’r waliau’n felyn.
Rŵan, ysgrifennwch baragraff yn disgrifio eich ystafell ddosbarth chi. Defnyddiwch ymadroddion o’r grid i’ch helpu chi.
yn y ... wrth y ... uwchben y …
dan y ... rhwng y … a’r …
o flaen y …
ar y ... wrth ochr y …
mewn ... ar sil y ffenest
gyferbyn â’r …
tu ôl i’r …
43
Fy ystafell ddosbarth………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………
BERFAU
1a. Newidiwch y ffurfiau cadarnhaol i’r negyddol.
1. Roedden nhw wedi mynd i’r neuadd.
2. Byddwn ni’n gadael yr ysgol am ddeg o’r gloch.
3. Rwyt ti’n hwyr heddiw, Marc.
4. Dylwn i fynd â’r plant allan o’r ysgol yn aml.
5. Gwelais i fochyn ar y buarth.
1b. Newidiwch y ffurfiau negyddol i’r cadarnhaol.
1. Ddylen ni ddim bod wedi gofyn am yr arian.
2. Fydda i ddim yn cael cinio ysgol bob dydd.
3. Doeddech chi ddim wedi gadael y drws ar agor.
4. Wnaethoch chi ddim llawer o sŵn.
5. Dydy hi ddim wedi prynu’r anrheg.
44
CYFFREDINOL
1. Dyma ran o adroddiad plentyn. Mae gwallau ynddo fo ac mae’r pennaeth wedi gofyn i chi ei gywiro fo.
Mae John yn bachgen hapus iawn yn yr ysgol. Mae on cymysgu’n dda gyda plant
arall y dosbarth ac mae o wrth ei bodd yn chwarae pêl-droed amser chwarae. Yn
anffodus, mae o ddim yn gwrando i’r staff bob amser ac mae o’n siarad rhy
gormod yn y wersi. Nesa blwyddyn, bydd rhaid i fo canolbwyntio mewn pob
gwers.
45
CYFFREDINOL
2. Gwaith pâr – chwarae rôl person sy’n ffonio’r ysgol ac athrawes/athro sy’n cymryd neges
Mae person yn ffonio’r ysgol. Mae’n rhaid i’r athro/athrawes lenwi’r ffurflen
negeseuon.
Sefyllfa 1Partner 1 – Y person sy’n ffonioChi ydy Tom Huws, tad Meleri o Ddosbarth 3. Rydych chi eisiau siarad ag athro
dosbarth Meleri. Rydych chi eisiau dod i’r ysgol i siarad â fo amser cinio dydd
Mawrth. Rydych chi eisiau i’r athro dosbarth anfon neges destun atoch chi ar
07883093554 i ddweud ydy hyn yn gyfleus.
Partner 2 – Athro/athrawesLlenwch y ffurflen.
Ysgol Maesllan Ffurflen negeseuonNeges oddi wrth: (Rôl/Swydd):
Neges i:
Y neges:
Llofnod:
46
Sefyllfa 2
Partner 2 - Y person sy’n ffonioChi ydy John Lloyd. Gweithiwr cymdeithasol ydych chi. Rydych chi’n gweithio
gyda theulu sy newydd symud i’r ardal. Mae’r rhieni eisiau i’r plant fynd i Ysgol
Maesllan ond mae problemau. Rydych chi eisiau siarad â’r pennaeth am y mater.
Rydych chi eisiau i’r pennaeth eich ffonio chi ar 01776 359842 am 3.30 i weld beth
sy’n bosibl.
Partner 1 – Athro/athrawesLlenwch y ffurflen.
Ysgol Maesllan Ffurflen negeseuonNeges oddi wrth: (Rôl/Swydd):
Neges i:
Y neges:
Llofnod:
47
CYFFREDINOL
3. Gweithgaredd darllen
Darllenwch lythyr Alys ac atebwch y cwestiynau.
Llythyr Alys
13 Stryd y Bont
Llangollen
20 Ebrill
Annwyl Elin,
Dw i’n ysgrifennu i ddweud diolch yn fawr am helpu fy merch fach i wythnos
diwetha. Roedd Mali wedi cael ofn ofnadwy pan welodd hi’r ceffyl yn neidio i fyny
wrth y car. Roedd y sŵn yn y car yn ofnadwy – y ceffyl yn gweryru ac yn taro yn
erbyn drws a ffenest y car a Mali’n sgrechian nerth ei phen. Doedd hi ddim yn
gwrando arna i o gwbl. Ond roeddech chi’n wych gyda’r ceffyl. Doedd dim panig
yn eich llais wrth i chi gerdded ymlaen ato fo’n araf ac yn dawel.
Unwaith eto, diolch yn fawr. Bydd Mali a fi’n ddiolchgar am byth.
Yn gywir
Alys Thompson
Geirfagweryru - to neighyn sgrechian nerth ei phen - screaming at the top of her voice
1. Ym mha fis roedd y ddamwain?
2. Beth ydy enw merch Alys?
3. Pwy oedd wedi cael ofn?
4. Pam roedd y sŵn yn ofnadwy?
5. Sut cerddodd Elin ymlaen at y ceffyl?
48
CYFFREDINOL
4. Gweithgaredd darllen
Darllenwch stori Tom Williams ac atebwch y cwestiynau isod.
Geirfatraed ôl – hind feet
1. Am faint o’r gloch roedd Tom yn marchogaeth?
2. Beth ydy enw ceffyl Tom?
3. Faint o geir oedd ar y ffordd?
4. Pam cafodd Aur ofn?
5. Ble roedd Tom pan ddeffrodd o?
49
Stori Tom Williams
Tua deg o’r gloch y bore, roeddwn i’n marchogaeth fy ngheffyl, Aur. Roedd y tywydd yn fendigedig ac roedd y wlad yn hardd iawn. Doedd dim llawer o geir ar y ffordd, dim ond un car bach coch. Yna, yn sydyn, clywais i sŵn ofnadwy. Cafodd Aur a fi ofn. Cododd Aur ar ei draed ôl a syrthiais i i’r llawr. Dw i ddim yn cofio dim byd wedyn nes i mi ddeffro yn yr ambiwlans.
CYFFREDINOL
5. Gweithgaredd darllen
Darllenwch adroddiad PC John ac atebwch y cwestiynau isod.
Adroddiad PC John
Am bum munud wedi deg y bore, cawson ni alwad 999 i ddweud bod damwain
rhwng car a cheffyl wedi digwydd ar y ffordd rhwng Nant y Garth a Llangollen.
Cyrhaeddon ni yno am chwarter wedi deg. Roedd dyn yn gorwedd ar ochr y
ffordd yn anymwybodol. Roedd car coch wedi stopio ac roedd mam a merch fach
yn y car. Roedd car llwyd, fan a lori hefyd wedi stopio. Roedd y ceffyl yn wyllt ac
roedd o’n neidio ac yn cicio’r car drwy’r amser. Roedd y ffrwyn wedi mynd yn
sownd yn y car, felly doedd o ddim yn gallu rhedeg i ffwrdd.
Es i ymlaen at y ceffyl i dynnu’r ffrwyn yn rhydd ond ciciodd o fi. Torrais i fy
nghoes ac roedd rhaid i mi fynd i’r ysbyty.
Geirfaanymwybodol - unconsciousgwyllt - wildffrwyn - bridleyn sownd - attached
1. Am faint o’r gloch cafodd PC John yr alwad 999?
2. Ble roedd y ddamwain wedi digwydd?
3. Am faint o’r gloch cyrhaeddodd PC John y ddamwain?
4. Pwy oedd yn y car?
5. Beth roedd y ceffyl yn wneud?
Gwaith pârGallai partner 1 chwarae rôl PC John a defnyddio’r wybodaeth yn yr adroddiad i ateb cwestiynau partner 2, sef y sarsiant, e.e. Beth oedd lliw’r ceir?
50
CYFFREDINOL
6. Gweithgaredd darllen
Darllenwch ddyddiadur Elin ac atebwch y cwestiynau isod.
Dyddiadur Elin
Dydd Mercher 19 Ebrill
Diwrnod rhyfedd heddiw. Roeddwn i ar fy ffordd i Langollen i siopa y bore ’ma.
Gadawais i Lanfair am ddeg munud wedi deg. Doeddwn i ddim wedi mynd yn bell
pan welais i fod y ffordd ar gau. Roedd y gwasanaethau brys i gyd yno – yr
ambiwlans, yr heddlu a’r frigâd dân. Roedd y paramedics yn gofalu am y plismon
a’r dyn oedd wedi brifo. Roedd ceffyl yn gweryru, yn neidio ac yn cicio yn erbyn
car coch. Roedd pobl ar ochr y ffordd yn siarad – doedden nhw ddim yn gwybod
beth i’w wneud – roedd ofn arnyn nhw. Ond, mae anifeiliaid yn fy hoffi i, felly es i i
ddal y ceffyl. Mewn pum munud roedd y ceffyl gwyllt, y fam a’r plentyn yn ddiogel.
Geirfagofalu am - to look afterwedi brifo - hurt/injured
1. Pa ddiwrnod oedd hi?
2. O ble roedd Elin yn teithio?
3. Am faint o’r gloch gadawodd hi i fynd i Langollen?
4. Pa wasanaethau brys welodd Elin?
5. Sut roedd y bobl ar ochr y ffordd yn teimlo?
Gwaith pârGallai partner 1 ddarllen y darn i bartner 2. Tasg partner 2 fyddai ateb y cwestiynau.
51
CYFFREDINOL
7. Gweithgaredd darllen
Darllenwch ddarnau CYFFREDINOL 3-6 uchod. Dewiswch yr ateb cywir o’r golofn ar y dde i orffen y brawddegau isod.
1. Mali oedd merch ... Elin/PC John/Alys/Tom Williams.
2. Enw’r ceffyl oedd ... Elin/Aur/Tom/Alys.
3. Roedd Alys yn teithio yn y ... fan/lori/car llwyd/car coch.
4. Doedd dim ofn ar ... Mali/gyrrwr y car llwyd/Elin/gyrrwr y lori.
5. Roedd Tom yn marchogaeth ...
tua deg o’r gloch/ am bum munud wedi deg/ddeg munud wedi deg/am chwarter wedi deg.
6. Mae Alys yn byw yn ... Llangollen/Rhuthun/Llanfair/Nant y Garth.
7. Roedd damwain rhwng ... car a cheffyl/ceffyl a lori/car a lori/ceffyl a fan.
52
CYFFREDINOL
8. Gweithgaredd darllen
Darllenwch ddarnau CYFFREDINOL 3-6 uchod. Yna, rhowch y brawddegau isod yn y drefn gywir.
1. Helpodd y paramedics PC John.
2. Clywodd Aur sŵn.
3. Roedd Tom yn marchogaeth.
4. Ysgrifennodd Alys lythyr.
5. Cafodd PC John neges 999.
6. Cyrhaeddodd Elin y ddamwain.
7. Aeth PC John at y ceffyl.
53
CYFFREDINOL
9. Gweithgaredd darllen
Darllenwch ddarnau CYFFREDINOL 3-6 uchod ac atebwch y cwestiynau isod.
1. Pwy oedd yn y car coch?
2. Sut roedd y tywydd ar Ebrill 19?
3. Pam syrthiodd Tom?
4. Pam doedd y ceffyl ddim yn rhedeg i ffwrdd?
5. Pam roedd rhaid i PC John fynd i’r ysbyty?
6. I ble roedd Elin yn mynd? Pam roedd hi’n mynd yno?
7. Beth roedd y paramedics yn wneud pan gyrhaeddodd Elin?
8. Beth roedd Mali’n wneud?
9. Sut clywodd PC John am y ddamwain?
10. Sawl fan oedd wedi stopio wrth y ddamwain?
54
CYFFREDINOL
10. Gweithgaredd llafar mewn grŵp
Darllenwch ddarnau CYFFREDINOL 3-6. Yna, trafodwch y cwestiynau yma yn eich grŵp. Cofiwch roi digon o resymau dros eich barn bob tro.
1. Pa fath o bobl oedd ...?
PC John
Elin
Alys
2. Aeth PC John ac Elin ymlaen at y ceffyl gwyllt. Oedden nhw’n ffôl neu’n
ddewr? Cofiwch roi rhesymau dros eich barn a chofiwch geisio
perswadio aelodau eraill eich grŵp mai chi sy’n iawn.
3. Dywedodd gyrrwr y lori ‘Bai Tom oedd y ddamwain.’ Ydych chi’n
cytuno?
4. Beth ydych chi’n meddwl oedd y sŵn glywodd Aur a Tom?
5. Ydy marchogaeth ar y ffordd fawr yn beryglus?
6. Oes arwr yn y stori hon? Pam rydych chi’n dweud hyn?
55
CYFFREDINOL
11. Gweithgaredd ysgrifennu
Rydych chi wedi darllen stori Alys, Tom, PC John ac Elin. Rŵan, mae rhaid i chi ysgrifennu adroddiad i ddweud beth ddigwyddodd yn y ddamwain. Dewiswch ffurf yr adroddiad ond dyma rai syniadau i chi feddwl amdanyn nhw cyn dechrau ar y gwaith:
Adroddiad papur newydd, teledu, radio neu wefan? Oes angen lluniau, dyfyniad, map ac ati?
56
CYFFREDINOL
12. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu
Darllenwch y darn yma i’ch partner.
Paratowch gwestiynau ar y darn i’w gofyn i’ch partner.
Trowch y darn yma i’r lluosog.
Penderfynais i adael fy ngwaith marcio am dipyn a chanolbwyntio ar y rhaglen
deledu. Roedd drama dda yn cael ei dangos o wyth o’r gloch ymlaen ac yna
roedd perfformiad gan blant ysgol gynradd leol. Baswn i wrth fy modd tasai plant
fy nosbarth i’n gallu perfformio fel hyn.
57
CYFFREDINOL
13. Gweithgaredd ysgrifennu/trafod
Dyma waith plentyn. Cywirwch y darn. Yna, siaradwch gyda’ch partner i benderfynu pa adborth byddwch chi’n ei roi i’r plentyn.
16 College Road
New Village
Wrexham
26th Mawrth
Anwyl Bob
Dw in bwy yn argos i’r Coleg. Dw in mynd i Ysgol Gynradd Pentre Newydd.
Dw in hoffi ysgol achos mea’r athros yn wych. Es i mynd i’r cinema gyda
frinddiau dydd Sadwrn. Dw in hoffi gwneud chwarae peldroed. Mean wych.
Tom
58
CYFFREDINOL
14. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu
Darllenwch y darn yma i’ch partner. Paratowch gwestiynau ar y darn i’w gofyn i’ch partner. Trowch y darn yma i’r benywaidd. Byddwch chi’n siarad am Ms Jones a
Siân.
Cerddodd Mr Jones yn araf at ei gar. Roedd o wedi blino’n lân ar ôl diwrnod
anodd yn yr ysgol. Roedd bachgen wedi dweud ei fod o wedi gweiddi arno fo yn y
wers hanes. Roedd hyn yn wir ond roedd Jac wedi bod yn fachgen drwg iawn
drwy’r wers. Taflodd o a’i bartner awyrennau papur ar draws yr ystafell ddosbarth
a chreu llanast. Roedd o wedi cael llond bol ar y ddau ohonyn nhw, felly doedd
dim rhyfedd iddo weiddi ar y bechgyn.
59
CYFFREDINOL
15. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu
Darllenwch y darn yma i’ch partner. Paratowch gwestiynau ar y darn i’w gofyn i’ch partner. Trowch y darn yma i’r gwrywaidd. Byddwch chi’n siarad am Mr Jones.
Roedd tair merch yn chwarae ar fuarth yr ysgol. Daeth ci i mewn i’r buarth ac
roedd dwy o’r merched yn ofnus iawn. Rhedon nhw i’r ystafell athrawon i ddweud
wrth eu hathrawes ar unwaith. Yn anffodus, doedd hi ddim yno. Roedd Ms Jones
wedi mynd i siopa yn ystod ei hawr ginio. Roedd hi’n mynd i fynydda gyda’i
chariad dros y penwythnos ac roedd angen trowsus dringo newydd arni hi.
60
CYFFREDINOL
16. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu
Darllenwch y darn yma i’ch partner. Paratowch gwestiynau ar y darn i’w gofyn i’ch partner. Trowch y darn yma i’r unigol.
Clywon ni eich bod chi wedi ennill y cwpanau yn yr eisteddfodau eleni.
Llongyfarchiadau mawr i chi ac i’r dysgwyr roeddech chi wedi eu paratoi. Rydych
chi wrth eich bodd ac yn edrych ymlaen at y cyngherddau, mae’n siwr.
61
CYFFREDINOL
17. Gwaith pâr – bwlch gwybodaeth
Gofynnwch gwestiynau i’ch partner er mwyn llenwi’r bylchau.
Partner 1
Enw Byw – ble? Sut dŷ? Ble’n union mae’r tŷ?
Pwy arall sy’n byw
yno?
Byw yno – sawl
blwyddyn?
Gwyn Llangollen yn ymyl y parc
gwraig, tad a mam-yng-nghyfraith
tŷ semi
Manon tŷ terasgyferbyn â swyddfa’r
postRhosgadfa
nyng nghanol
y wladpartner a 2
o blant 20
Gwilym tŷ ar wahân 5
Abertawe fflat neb
Partner 2
Enw Byw – ble? Sut dŷ? Ble’n union
mae’r tŷ?Pwy arall sy’n byw
yno?
Byw yno – sawl
blwyddyn?
byngalo 12
Twm Llundain tu ôl i’r orsaf gwraig a 2 ferch 3
Trimsaran partner 4
Elinor bwthyn
Caeredin rownd y gornel i’r ysgol
gwraig a 2 fachgen
Mair uwchben siop sglodion 1
62
CYFFREDINOL
18a. Gwaith pâr – dod o hyd i wahaniaethau
Bydd un partner yn gweld sgript Wil yn unig a’r llall yn gweld sgript Gwen. Mae ambell beth yn wahanol yn y ddau adroddiad.
Darllenwch y darnau yma i’ch partner. Siaradwch â’ch gilydd i ddod o hyd i’r pethau sy’n wahanol. Paratowch gwestiynau ar y darnau i ofyn i’ch partner.
Partner 1
Roedd Wil a Gwen yn cerdded adre o’r ysgol pan welon nhw ddamwain ffordd. Mae’r plismon yn gofyn iddyn nhw beth ddigwyddodd. Dyma beth maen nhw’n ei ddweud.
Wil
Roeddwn i’n cerdded adre o’r ysgol prynhawn ddoe. Roedd hi’n bwrw glaw yn drwm, felly doedd dim llawer o bobl o gwmpas. Pan oeddwn i wrth y siop esgidiau, clywais i sgrech ofnadwy. Codais i fy mhen a gwelais i’r ci mawr brown yn gorwedd yn llonydd ar ganol y ffordd. Roedd merch tua deg oed yn plygu drosto fo ac yn crio’n uchel. Doedd y ci ddim yn symud o gwbl. Daeth dyn ifanc allan o’r car oedd wedi taro’r ci a cherdded tuag atyn nhw. Daeth mam y ferch o rywle hefyd. Ffoniodd hi’r heddlu cyn mynd i siarad â’r dyn. Arhosais i ddim i weld beth ddigwyddodd wedyn achos roeddwn i mor oer a gwlyb.
63
CYFFREDINOL
18b. Gwaith pâr – dod o hyd i wahaniaethau
Bydd un partner yn gweld sgript Wil yn unig a’r llall yn gweld sgript Gwen. Yn anffodus, mae ambell beth yn wahanol yn y ddau adroddiad.
Darllenwch y darnau yma i’ch partner. Siaradwch â’ch gilydd i ddod o hyd i’r pethau sy’n wahanol. Paratowch gwestiynau ar y darnau i ofyn i’ch partner.
Partner 2
Roedd Wil a Gwen yn cerdded adre o’r ysgol pan welon nhw ddamwain ffordd. Mae’r plismon yn gofyn iddyn nhw beth ddigwyddodd. Dyma beth maen nhw’n ei ddweud.
Gwen
Tua hanner awr wedi tri ddoe, roeddwn i’n cerdded ar hyd y Stryd Fawr. Roedd hi’n arllwys y glaw, felly roeddwn i wedi agor f’ymbarél, er ei bod hi’n wyntog iawn. Doeddwn i ddim yn gallu gweld llawer achos roedd rhaid i mi gadw’r ymbarél yn isel. Roeddwn i newydd fynd heibio’r siop esgidiau pan glywais i sŵn corn car a bang bach. Pan edrychais i, gwelais i fod y car wedi taro ci bach brown a gwyn ac roedd merch fach a’i mam yn rhedeg ato fo. Ar yr un pryd, daeth dyn canol oed allan o’r car. Aethon nhw at y ci a, diolch byth, gwelon nhw ei fod e’n anadlu. Ffoniodd y dyn yr heddlu. Arhosais i ddim i weld beth ddigwyddodd wedyn achos roeddwn i mor oer a gwlyb.
64
CYFFREDINOL
19. Ad-drefnwch y brawddegau i wneud sgwrs synhwyrol.
1. Llun Siôn Corn ar y sled.
1. Fi, Miss, dw i eisiau dewis llyfr.
2. Diolch, Gwen. Rŵan ’te, llun beth sy ar y clawr?
3. Pwy sy eisiau dewis llyfr stori heddiw?
4. Oes, mae dau garw yn y llun.
5. Dyma’r llyfr, Miss.
6. Gadewch i ni agor y llyfr i weld beth sy’n digwydd.
7. Ie, llun Siôn Corn. Oes carw yn y llun hefyd?
8. Iawn, Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant.
65
CYFFREDINOL
20. Rhowch ffurf gywir y gair mewn cromfachau.
1. Roedd y pensiliau ar goll. Chwiliodd y plant (am) nhw ym mhob man.
2. (Hoffi) i fynd i Sbaen ar fy ngwyliau.
3. Mae Jon yn (da) na fi mewn mathemateg.
4. Bydd hi’n (3) oed fory.
5. (Roedd) nhw’n ddrwg iawn Amser Cylch.
6. (Bydd) ni’n cael cawl i ginio dydd Iau.
7. (Cael) nhw wisg ysgol newydd y llynedd.
8. Roedd llawer o (plentyn) yn absennol ddoe.
9. (Dod) â’r lluniau yma os gwelwch yn dda.
10.Bydd hi’n mynd i’r pwll nofio (heb) ti.
66
CYFFREDINOL
21. Cysylltwch y ddau hanner i wneud brawddegau.
1. Wyt ti’n meddwl â’r plentyn i’r ysbyty.
2. Hoffwn i cysgu yn y dosbarth.
3. Bydda i’n bod Ben ar Lefel pedwar?
4. Dw i’n siwr bydd yn y gwasanaeth.
5. Clywais i i’r ysgol.
6. Ddylen nhw ddim gael swydd yn Llundain.
7. Es i at y prif weinidog.
8. Ysgrifennon ni fod pawb wedi talu am y trip.
9. Cerddodd hi pawb yn yr ysgol fory.
10.Ddarllenais i ddim mynd i’r dre fory.
67
CYFFREDINOL
22. Ad-drefnwch yr ymadroddion i greu brawddegau. Cofiwch atalnodi ar y diwedd.
1. prynu Clywais i fy anrheg i amdanoch chi’n
2. gwybod arni hi bod ofn cathod Oeddet ti’n
3. talu am y gwyliau dechrau Bydd hi’n ym mis Mai
4. roedd hi’n arfer Yn yr ysgol gyfun cyn dod yma gweithio
5. os bydd hi’n byddan nhw’n byw cael y swydd Ble
68
CYFFREDINOL
23. Llenwch y bylchau gyda’r gair cywir. Mae mwy o eiriau nag o fylchau ac mae’n bosib defnyddio’r un gair fwy nag unwaith.
at blwydd amdanyn ar mewn
am amdano ag i blwyddyn
â llythyr blynedd yn llythyrau
1. Gofynnwch …… bennaeth yr ysgol …… ganiatâd i adael yn gynnar.
2. Roedd hi wedi bod yn yr ysgol am dair .......
3. Peidiwch …… anghofio dod …… chot law a phecyn bwyd gyda chi.
4. Mae Rhys wedi ysgrifennu sawl …… at y Pennaeth.
5. Wyt ti wedi clywed ....... nhw’n mynd i weld y pantomeim?
6. Bydd y bws yn gadael ....... hanner awr.
7. Mae hi wedi mynd ....... llyfrau Blwyddyn 6 i’r storfa.
8. Maen nhw wedi bod ....... y dosbarth drwy’r dydd.
69
UNED 5 (DIDDORDEBAU, MEDDIANT A DERBYN)
Cyfieithwch.
Atebion enghreifftiol
1. Mae gen i salad hyfryd yn yr oergell.
2. Rydyn ni’n cael salad hyfryd i swper heno.
3. Wyt ti’n cael dillad newydd i’r briodas?
4. Oes gen ti ddillad newydd i’r briodas?
5. Mae hi’n cael dau gyfrifiadur newydd i’r ystafell ddosbarth.
6. Mae ganddi hi ddau gyfrifiadur newydd yn yr ystafell ddosbarth.
7. Bydd gen i ddau ddeg o blant yn fy nosbarth y flwyddyn nesa.
8. Bydda i’n cael pedwar plentyn newydd yn fy nosbarth y flwyddyn nesa.
9. Roedd ganddi hi ormod o waith i fynd allan.
10. Ydych chi wedi cael caniatâd i fynd ar wyliau?
71
UNED 6 (EISIAU)
1. Dyma’r atebion. Fedrwch chi ysgrifennu’r cwestiynau?
Atebion enghreifftiol
1. Beth rwyt ti eisiau?
2. Beth roedd Tudur eisiau?
3. Beth mae’r gath eisiau?
4. Beth fydd hi/ Mrs Jones eisiau?
5. Beth rydych chi eisiau?
6. Beth fyddi di eisiau?
7. Beth roedden nhw/roedd y plant eisiau?
8. Beth mae o/mae’r pennaeth eisiau?
9. Beth roeddech chi eisiau?
10. Beth maen nhw/mae’r merched eisiau?
72
UNED 7 (DYDDIADAU)
Ysgrifennwch y dyddiadau mewn geiriau.
1. Y trydydd ar hugain o Fawrth un naw pedwar naw
2. Yr wythfed ar hugain o Fai dwy fil ac un deg tri
3. Yr ugeinfed o Awst un dau wyth naw
4. Y cyntaf o Ionawr dwy fil ac un
5. Yr ail ar bymtheg o Orffennaf un naw wyth naw
6. Y deuddegfed o Chwefror un naw dim dau
7. Y pymthegfed o Ragfyr un wyth pump un
8. Y deunawfed o Dachwedd un saith chwech tri
9. Y pedwerydd ar bymtheg o Ebrill dwy fil a dau ddeg/dwy fil ac ugain
10. Yr unfed ar ddeg o Fehefin un naw naw naw
73
UNED 9 (Y DYFODOL)
2. Rydych chi newydd ddangos cynllun yr wythnos i’ch disgyblion ac maen nhw wedi gofyn nifer o gwestiynau. Ydych chi’n gallu meddwl am atebion posibl?
Atebion enghreifftiol
1. Bydd y wers nofio yn y pwll nofio yn y dref.
2. Byddwn ni’n cerdded yno.
3. Byddwch chi’n cael [14] gwers.
4. Bwyd, bwyd, bwyd! fydd enw prosiect y tymor yma.
5. Bydd Mr Jones yn cyrraedd erbyn 9.15y.b.
6. Bydd o’n siarad am dyfu llysiau.
7. Y grwpiau coch a melyn fydd yn gwneud gymnasteg yr wythnos hon.
8. Bydd y bechgyn yn chwarae criced dydd Gwener nesa.
9. Mr Jenkins a phlant Blwyddyn 6 fydd yn dod gyda ni.
10. Bydda, bydda i’n dod ar y bws.
74
UNED 9 (Y DYFODOL)
3. Darllenwch am gynlluniau Gwawr a’i ffrindiau ar gyfer gwyliau’r haf. Trowch y paragraff i’r trydydd person.
Ar ddechrau’r gwyliau ysgol, bydd hi’n mynd i Gaerdydd gyda’i ffrindiau. Byddan nhw’n mynd ar y trên achos mae parcio yng Nghaerdydd yn hunllef! Byddan nhw’n siopa ac yna’n cael bwyd bendigedig mewn tŷ bwyta Eidalaidd cyn dod
adre.
Ym mis Awst, bydd hi’n mynd i’r Eisteddfod gyda’i gŵr a Cadi’r ci a byddan nhw’n aros yno mewn carafán. Bydd hi’n wythnos gyffrous achos byddan nhw’n
cyfarfod â llawer o ffrindiau yno.
Yna, byddan nhw’n mynd i Sir Benfro ac yn cael gwyliau ar lan y môr. Bydd hi wrth ei bodd yn cerdded ar y traeth yn gynnar bob bore gyda Cadi, ac yna’n
ymlacio gyda llyfr da!
75
UNED 9 (Y DYFODOL)
5. Trowch y darn i’r dyfodol.
Yfory, bydda i’n mynd i gyfweliad yn Ysgol y Cwm. Bydd fy stumog i’n troi fel
peiriant golchi dillad achos bydda i’n nerfus iawn. Bydd y panel yn gofyn nifer o
gwestiynau i mi. Byddan nhw’n ddigon neis ond fydda i ddim yn gallu ymlacio o
gwbl. Yr aros ar y diwedd i glywed pwy fydd yn cael y swydd fydd un o’r pethau
gwaetha. Erbyn amser te, bydd y cyfan drosodd a bydda i’n gallu ymlacio a
mwynhau gwydraid o win yn y dafarn.
76
UNED 12 (YR AMSER)
Ysgrifennwch yr amserau mewn geiriau.
1. am hanner awr wedi deg
2. tua thri o’r gloch
3. cyn chwarter i bump
4. am ugain munud i ddeuddeg
5. tua dau o’r gloch
6. cyn pum munud ar hugain i ddeg
7. tua phum munud i dri
8. am bum munud ar hugain wedi pedwar
9. cyn deg o’r gloch
10. am bum munud wedi saith
77
UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)
1. Atebwch y cwestiynau yn y cadarnhaol (affirmative).
Atebion enghreifftiol
1. Do, des i ar y bws y bore ’ma.
2. Do, collais i fy nghap coch ddoe.
3. Do, gwnes i fy ngwaith cartref i gyd.
4. Do, gadawais i fy mag yn yr ystafell gotiau.
5. Do, cofiais i ddod â brechdanau./Do, des i â brechdanau ham a sôs coch.
6. Do, gwelais i Miss Davies.
7. Do, darllenais i wyth tudalen neithiwr.
8. Do, bwytais i’r cinio a’r pwdin.
9. Do, yfais i fy llefrith i gyd heddiw.
10. Do, meddyliais i cyn rhoi’r ateb.
78
UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)
2. Ailysgrifennwch y darn gan ddefnyddio berfau yn y person cyntaf unigol.
Wel, dyna wyliau hanner tymor bendigedig! Es i am wyliau bach i lan y môr.
Arhosais i mewn fflat gysurus iawn yn Ninbych-y-pysgod. Roedd y fflat bron ar y
traeth! Codais i’n gynnar bob bore er mwyn cael chwarae gyda’r ci ar y tywod a
ches i lawer o hwyl. Er bod y tywydd yn braf, roedd y môr yn oer ac felly nofiais i ddim.
Ymwelais i â sawl lle diddorol yn yr ardal. Gwelais i Gastell Penfro a dringais i i ben y tŵr. Es i i Dyddewi ac i’r eglwys gadeiriol. Yna, cerddais i ar hyd yr arfordir
i weld capel Non. Teithiais i i Ynys Bŷr mewn cwch modur bach glas a bwytais i hufen iâ melys yng nghaffi’r mynachod.
Des i adre nos Wener yn flinedig ond wedi ymlacio’n llwyr. Gwyliau gwych!
79
UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)
3. Atebwch y cwestiynau yn y negyddol (negative).
Atebion enghreifftiol
1. Naddo, ches i ddim hufen iâ mefus.
2. Naddo, welais i ddim tân gwyllt nos Sadwrn.
3. Naddo, fwytais i ddim cyri neithiwr.
4. Naddo, redais i ddim yn y ras fawr eleni.
5. Naddo, chlywais i ddim am y sioe Nadolig.
6. Naddo, ddarllenais i ddim stori i’r dosbarth Meithrin.
7. Naddo, thalais i ddim am y tocyn raffl.
8. Naddo, phrynais i ddim llyfr yn y ffair lyfrau.
9. Naddo, yrrais i ddim i’r ysgol y bore ’ma.
10. Naddo, wisgais i ddim gwisg ffansi dydd Gwener diwetha.
80
UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)
4. Trowch y brawddegau i’r amser gorffennol.
Atebion enghreifftiol
1. Tyfodd y llysiau yng ngardd yr ysgol yn dda.
2. Cafodd y llysiau ddigon o fwyd a dŵr gan y plant.
3. Dilynon nhw’r cyngor hwn yn ofalus.
4. Llwyddon nhw i dyfu llysiau da.
5. Cawsoch chi lwyddiant a siom wrth arddio.
6. Bwytodd y plant lysiau ffres o’r ardd heb ffys.
7. Gweloch chi fod gan y plant fwy o ddiddordeb yn yr ardd ar ôl iddyn nhw
flasu’r llysiau.
8. Talon ni gostau’r ardd drwy werthu’r llysiau yn y siop.
9. Gwerthodd y llysiau’n dda yn siop yr ysgol.
10. Prynais i lysiau yn y siop bob wythnos.
81
UNED 18 (WEDI ac WEDI BOD)
2. Darllenwch y manylion ac yna atebwch y cwestiynau. Defnyddiwch ragenwau yn lle enwau os gallwch chi, e.e. Maen nhw yn lle Mae Ann a Megan.
Atebion enghreifftiol
1. Dw i/Rwyt ti/Rydych chi wedi gwneud jiwdo.
2. Mae Ann a Megan/Maen nhw wedi bod yn gwylio ffilm ar y teledu.
3. Maen nhw wedi nofio.
4. Mae hi wedi ymarfer canu’r piano.
5. Maen nhw wedi bod yn gwneud mathemateg.
6. Mae hi wedi bod yn garddio.
7. Mae o wedi bod yn paratoi cyri poeth.
82
UNED 20 (GOFYN CWESTIYNAU)
1. Atebwch y cwestiynau am eich ystafell ddosbarth.
Atebion enghreifftiol
1. Oes, mae gen i ystafell ddosbarth eitha mawr.
2. Mae’r drws yn borffor.
3. Mae arwydd sy’n dweud ‘Croeso. Dewch i mewn’ ar y drws.
4. Ydy, mae’r ystafell yn olau braf achos mae’n wynebu’r de.
5. Mae’r ystafell yn sgwâr.
6. Mae o ar y wal sy’n wynebu’r drws.
7. Plant Blwyddyn Dau sy yn fy nosbarth.
8. Oes, mae gen i hen biano ond mae o’n gweithio’n dda.
9. Mae’r ffenestri’n fawr./Mae gen i ddwy ffenest fawr.
10. Byrddau coch siâp octagon sy gen i.
11. Nac oes, yn anffodus, does gen i ddim ffôn.
12. Mae hi yn y gornel bella, rhwng yr ardal adeiladu a’r cwpwrdd.
13. Y Grŵp Coch sy’n eistedd yng nghefn yr ystafell.
14. Mae’r ystafell yn lliwgar iawn./Mae’n ystafell liwgar dros ben.
15. Ydw, dw i wrth fy modd gyda’r ystafell achos mae’n fawr ac yn olau.
83
UNED 20 (GOFYN CWESTIYNAU)
3. Atebwch y cwestiynau yma.
Atebion enghreifftiol
1. Ydw, dw i’n/Nac ydw, dw i ddim yn gwybod beth ydy enw dy frawd di.
2. Oedd, roedd gen i gur pen dydd Llun diwetha./Nac oedd, doedd gen i ddim cur pen dydd Llun diwetha.
3. Do, gwelais i/gwelon ni/Naddo, welais i ddim/welon ni ddim ysgol
newydd y pentref.
4. Gwnaf, gofala i/Na wnaf, ofala i ddim am Flwyddyn Pump yfory.
5. Oes, mae /Nac oes, does dim rhaid i ti/chi wneud y gwaith yma heno.
6. Do, es i/ Naddo es i ddim i weld fy nheulu i ddoe.7. Costiodd fy nghot i ...8. Gwnaf, pryna i/Na wnaf, phryna i ddim fferins drosot ti.9. Do, clywais i/Do, clywon ni/Naddo, chlywais i ddim/Naddo, chlywon ni
ddim am y lleidr dorrodd i mewn i dy dŷ di/i’ch tŷ chi.10. Dw i’n bwriadu dy dalu di/eich talu chi wythnos nesa.
84
UNED 26 (IDIOMAU)
Idiomau: ‘gyda’
Atebwch y cwestiynau hyn. Atebion enghreifftiol
1. Mae’n well gen i frechdan wy na brechdan gaws.
2. Mae’n well gan Dafydd gyri na chawl.
3. Mae’n well gan Elen gig na physgod.
4. Mae’n well gan y merched ddawnsio na chanu.
5. Mae’n well gan y bechgyn bêl-droed na rygbi.
6. Mae’n well gan y gath ddŵr na llefrith.
7. Mae’n well gen ti arddio na gwaith tŷ.
8. Mae’n well gennyn ni wyddoniaeth na mathemateg.
85
UNED 29 (GOFYN CWESTIYNAU)
1. Dyma atebion Huw ond beth oedd cwestiynau Mrs Jones?
Atebion enghreifftiol
1. Bag gwyliau pwy ydy hwnna?
2. Beth sy yn y bag?
3. Oes gen ti ddigon o eli haul?
4. Pwy fydd yn mynd gyda ti?
5. Pryd byddwch chi’n mynd?
6. I ble byddwch chi’n mynd?
7. Pa mor bell byddwch chi’n teithio?
8. Sut bydd y tywydd yno?
9. Pryd byddwch chi’n dod adre?
10. Wyt ti’n edrych ymlaen?
86
UNED 29 (GOFYN CWESTIYNAU)
2. Atebwch y cwestiynau.
Atebion enghreifftiol
1. Anfona i’r cerdyn atat ti yfory/wythnos nesa.
2. Oedd, roedd hi’n/Nac oedd, doedd hi ddim yn meddwl fy mod i’n iawn.3. Hoffwn i gael y swydd yma achos dw i eisiau her newydd.
4. Roedd ugain o blant yn fy nosbarth i cyn y Pasg.
5. Dylet, dylet ti ofyn/Dylech, dylech chi ofyn/Na ddylet, ddylet ti ddim gofyn/Na ddylech, ddylech chi ddim gofyn iddo fo am dystlythyr.
6. Oeddwn, roeddwn i’n/Nac oeddwn, doeddwn i ddim yn gwybod dy fod ti wedi cael cynnig swydd dirprwy.
7. Hoffwn, hoffwn i weld/Hoffen, hoffen ni weld/Na hoffwn, hoffwn i ddim gweld/Na hoffen, hoffen ni ddim gweld eich ystafell ddosbarth newydd
chi.
8. Do, es i/Naddo, es i ddim i Lundain yn fy nghar bach coch.
9. Gwelais i dy frawd-yng-nghyfraith yn y dre.
10. Bydd llawer o anrhegion yn fy hosan i bore Nadolig.
87
UNED 30 (HOFFWN)
1. Atebwch y cwestiynau hyn.
Atebion enghreifftiol
1. Deian hoffai fynd i’r Rhyl neu Brestatyn achos bod y traethau’n hir.
1. Hoffai Betsan a Gwyn fynd i Lyn Brenig. Hoffen nhw dynnu lluniau ar gyfer
prosiect Blwyddyn 4.
2. Hoffai Guto fynd i’r ganolfan hamdden achos mae o eisiau codi pwysau
yno. Hoffai o fynd am chwarter wedi saith yr hwyr.
3. Hoffai Siwan fynd i Gaer. Hoffai hi brynu ffrog haf newydd.
4. Marged hoffai ddathlu gyda’i ffrindiau. Bydd hi’n dri deg oed ar y degfed o
Fai.
88
UNED 30 (HOFFWN)
3. Gwnewch frawddegau gan ddefnyddio’r wybodaeth yn y tabl.
1. Hoffwn i fwyta allan ond hoffwn i ddim cael bwyd Tsieineaidd.
2. Hoffai Mari gael gwyliau ym Mharis ond hoffai hi ddim teithio ar y fferi
3. Hoffai Dewi bysgota yn y môr ond hoffai o ddim mynd ar ei ben ei hun.
4. Hoffai Henri fedru canu’r piano ond hoffai o ddim gorfod ymarfer bob dydd.
5. Hoffen ni weld y gêm rygbi fawr ond hoffen ni ddim talu gormod am docynnau.
6. Hoffai disgyblion Blwyddyn 9 ddringo’r Wyddfa ond hoffen nhw ddim cerdded yn y
glaw.
7. Hoffech chi gystadlu yn yr eisteddfod ond hoffech chi ddim dawnsio.
8. Hoffen ni brynu tŷ newydd ond hoffen ni ddim gadael y pentref.
89
UNED 33 (CYN ac AR ÔL)
2. Llenwch y bylchau. Cofiwch y treiglad meddal.
1. Cyn i mi fwyta fy mrechdanau.
2. Ar ôl i ti wisgo dy got.
3. Wrth i ni benderfynu ar y thema.
4. Cyn iddyn nhw dalu am y tocyn.
5. Rhag ofn i chi lithro ar yr iâ.
6. Erbyn iddo fo ddechrau’r gwaith.
7. Rhag ofn i ti golli’r bws.
8. Ar ôl iddi hi ruthro adre.
9. Cyn i’r bechgyn fynd i chwarae rygbi.
10. Erbyn i Mr Jones ddod ’nôl.
90
UNED 35 (ANSODDEIRIAU AFREOLAIDD)
Cywirwch y brawddegau yma.
1. Doeddwn i ddim cystal â fo.
2. Roedd y bachgen yn llai na’r ferch.
3. Mae gwyliau ym Mhrydain yn costio cymaint â gwyliau yn Ffrainc.
4. Mae o’n fyrrach na fi.
5. Hi ydy’r orau yn y dosbarth.
6. Mae Everest yn uwch na’r Wyddfa.
7. Mae hi’n rhedeg yn gyflymach/gynt na fi.
8. Mae dawnsio yn fwy o hwyl na cherdded.
9. Oedd y tŷ yma’n ddrutach na’r hen dŷ?
10. Fo oedd y bachgen cryfaf.
91
UNED 39 (ARDDODIAID CYFANSAWDD)
1. Ailysgrifennwch y brawddegau gan roi’r rhagenw yn lle’r enw bob tro.
Atebion enghreifftiol
1. Gwnewch hyn er ei mwyn hi.2. Bydd rhaid i chi chwarae criced yn eu herbyn nhw.3. Wnewch chi eistedd wrth ei hochr hi?4. Brysiwch! Rhedwch ar eu hôl nhw!
5. Peidiwch chwerthin am ei ben o.
6. Ddylech chi ddim torri ar ei draws o.
7. Beth am ddod ar ein hôl ni?8. Cadi fydd yn cystadlu yn ei herbyn hi.
92
UNED 39 (ARDDODIAID CYFANSAWDD)
2. Cysylltwch y ddau hanner i wneud brawddegau synhwyrol.
Roedd y plant bach wrth eu bodd gyda’r fferins.
Fyddi di’n aros adre ar dy ben dy hun heno?
Chwarddon nhw ar fy mhen pan syrthiais i.
Bydd rhaid i chi deithio ar ei hyd hi am bum milltir.
Chwaraeoch chi’n dda iawn yn eu herbyn nhw dydd Sadwrn.
Mae coeden fawr yng nghanol y lawnt a blodau’n tyfu o’i chwmpas.
Wyt ti’n gallu mynd i’r cyfarfod yn fy lle i heno?
Dywedodd pawb y geiriau ar ei ôl o.
93
UNED 43 (Y CYMAL ENWOL)
Cyfieithwch.
Atebion enghreifftiol
1. Clywais i fod deg plentyn newydd wedi dechrau yn yr ysgol dydd Llun diwetha.
2. Mae hi’n gwybod fy mod i’n mynd allan heno.
3. Oeddet ti’n gwybod bod y pennaeth yn gadael?
4. Dw i’n credu bydd hi’n mynd i Lundain wythnos nesa.
5. Dw i’n gwybod basai’n well gen ti adael yn gynnar.
6. Mae hi’n meddwl byddan nhw’n dda iawn.
7. Basen nhw bob amser yn meddwl ei bod hi’n iawn.
8. Roedd o’n gwybod fy mod i’n sâl.
9. Ddywedais i ddim ei bod hi yn y ddamwain.
10. Doedden nhw ddim yn gwybod ein bod ni’n briod.
94
UNED 44 (PWYSLEISIO)
Newidiwch y brawddegau yma i bwysleisio’r geiriau sy mewn print bras.
1. Gwyn sy’n byw ym Mangor.
2. Yng Nghaerdydd mae Non yn byw.
3. Y plant welodd ‘Cyw’ ar y teledu.
4. Ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol gwelodd yr athrawon y rhaglen.
5. Fi welodd ‘Pobol y Cwm’ ar y teledu.
6. Y ffilm newydd weloch chi yn y sinema.
7. Dafydd ydy’r rhedwr gorau yn yr ysgol.
8. Sglodion gafodd Siân i de.
9. I de cafodd Siân sglodion.
10. Siân gafodd sglodion i de.
95
BERFAU
1a. Newidiwch y ffurfiau cadarnhaol i’r negyddol.
1. Doedden nhw ddim wedi mynd i’r neuadd.
2. Fyddwn ni ddim yn gadael yr ysgol am ddeg o’r gloch.
3. Dwyt ti ddim yn hwyr heddiw, Marc.
4. Ddylwn i ddim mynd â’r plant allan o’r ysgol yn aml.
5. Welais i ddim mochyn ar y buarth.
1b. Newidiwch y ffurfiau negyddol i’r cadarnhaol.
6. Dylen ni fod wedi gofyn am yr arian.
7. Bydda i’n cael cinio ysgol bob dydd.
8. Roeddech chi wedi gadael y drws ar agor.
9. Gwnaethoch chi lawer o sŵn.
10. Mae hi wedi prynu’r anrheg.
96
CYFFREDINOL
1. Dyma ran o adroddiad plentyn. Mae gwallau ynddo fo ac mae’r pennaeth wedi gofyn i chi ei gywiro fo.
Mae John yn fachgen hapus iawn yn yr ysgol. Mae o’n cymysgu’n dda gyda
phlant eraill y dosbarth ac mae o wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed amser
chwarae. Yn anffodus, dydy o ddim yn gwrando ar y staff bob amser ac mae o’n
siarad gormod yn y gwersi. Y flwyddyn nesa, bydd rhaid iddo fo ganolbwyntio ym mhob gwers.
97
CYFFREDINOL
3. Llenwi’r ffurflen negeseuon
Atebion enghreifftiol
Sefyllfa 1
Ysgol Maesllan Ffurflen negeseuonNeges oddi wrth: Tom Huws (Rôl/Swydd): Tad Meleri, Dosbarth 3Neges i: Athro dosbarth MeleriY neges: Mae Mr Huws eisiau dod i’r ysgol i siarad â chi amser cinio dydd Mawrth. Mae o eisiau i chi anfon neges destun ato fo ar 07883093554 i ddweud ydy hyn yn gyfleus.Llofnod:
Sefyllfa 2
Ysgol Maesllan Ffurflen negeseuonNeges oddi wrth: John Lloyd (Rôl/Swydd): Gweithiwr cymdeithasolNeges i: Y pennaethY neges: Mae teulu wedi symud i’r ardal ac mae’r rhieni eisiau i’r plant fynd i’r ysgol. Mae problemau felly hoffai Mr Lloyd siarad â chi. Ffoniwch o ar 01776 359842 am hanner awr wedi tri i weld beth sy’n bosibl os gwelwch yn dda.Llofnod:
98
CYFFREDINOL
3. Gweithgaredd darllen
Darllenwch lythyr Alys ac atebwch y cwestiynau.
Atebion enghreifftiol
1. Roedd y ddamwain ym mis Ebrill.2. Mali ydy enw merch Alys.
3. Mali oedd wedi cael ofn.
4. Roedd y sŵn yn ofnadwy achos roedd Mali’n sgrechian ac roedd y ceffyl yn gweryru ac yn taro yn erbyn y car.
5. Cerddodd Elin ymlaen at y ceffyl yn araf ac yn dawel.
99
CYFFREDINOL
4. Gweithgaredd darllen
Darllenwch stori Tom Williams ac atebwch y cwestiynau.
Atebion enghreifftiol
1. Roedd Tom yn marchogaeth tua deg o’r gloch y bore.2. Aur ydy enw ceffyl Tom.
3. Dim ond un car oedd ar y ffordd.
4. Cafodd Aur ofn achos clywodd o sŵn ofnadwy.5. Roedd Tom yn yr ambiwlans pan ddeffrodd o.
100
CYFFREDINOL
5. Gweithgaredd darllen
Darllenwch adroddiad PC John ac atebwch y cwestiynau.
Atebion enghreifftiol
1. Cafodd PC John yr alwad 999 am bum munud wedi deg.2. Roedd y ddamwain wedi digwydd ar y ffordd rhwng Nant y Garth a
Llangollen.3. Cyrhaeddodd PC John y ddamwain am chwarter wedi deg.4. Roedd mam a merch fach yn y car.
5. Roedd y ceffyl yn neidio ac yn cicio’r car.
101
CYFFREDINOL
6. Gweithgaredd darllen
Darllenwch ddyddiadur Elin ac atebwch y cwestiynau.
Atebion enghreifftiol
1. Dydd Mercher oedd hi.
2. Roedd Elin yn teithio o Lanfair.3. Gadawodd hi am ddeg/ddeng munud wedi deg.4. Gwelodd Elin yr ambiwlans, yr heddlu a’r frigâd dân.5. Roedd ofn ar y bobl ar ochr y ffordd.
102
CYFFREDINOL
7. Gweithgaredd darllen
Dewiswch yr ateb cywir o’r golofn ar y dde i orffen y brawddegau.
1. Mali oedd merch ... Alys.
2. Enw’r ceffyl oedd ... Aur.
3. Roedd Alys yn teithio yn y ... car coch.
4. Doedd dim ofn ar ... Elin.
5. Roedd Tom yn marchogaeth ... tua deg o’r gloch.
6. Mae Alys yn byw yn ... Llangollen.
7. Roedd damwain rhwng ... car a cheffyl.
103
CYFFREDINOL
8. Gweithgaredd darllen
Rhowch y brawddegau yn y drefn gywir.
1. Roedd Tom yn marchogaeth.
2. Clywodd Aur sŵn.
3. Cafodd PC John neges 999.
4. Aeth PC John at y ceffyl.
5. Helpodd y paramedics PC John.
6. Cyrhaeddodd Elin y ddamwain.
7. Ysgrifennodd Alys lythyr.
104
CYFFREDINOL
9. Gweithgaredd darllen
Atebwch y cwestiynau.
Atebion enghreifftiol
1. Alys a Mali oedd yn y car coch.
2. Roedd y tywydd yn fendigedig.3. Syrthiodd Tom achos cafodd Aur ofn.
4. Doedd y ceffyl ddim yn rhedeg i ffwrdd achos roedd y ffrwyn yn sownd yn y car.
5. Roedd rhaid i PC John fynd i’r ysbyty achos roedd o wedi torri ei goes.6. Roedd Elin yn mynd i Langollen i siopa.7. Roedd y paramedics yn gofalu am y plismon a Tom pan gyrhaeddodd
Elin.
8. Roedd Mali’n sgrechian.
9. Cafodd PC John alwad ffôn.
10. Un fan oedd wedi stopio wrth y ddamwain.
105
CYFFREDINOL
12. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu
Trowch y darn i’r lluosog. Penderfynon ni adael ein gwaith marcio am dipyn a chanolbwyntio ar y
rhaglenni teledu. Roedd dramâu da yn cael eu dangos o wyth o’r gloch ymlaen
ac yna roedd perfformiadau gan blant ysgolion cynradd lleol. Basen ni wrth
ein bodd tasai plant ein dosbarthiadau ni’n gallu perfformio fel hyn.
106
CYFFREDINOL
13. Gweithgaredd ysgrifennu/trafod
Cywirwch y darn.
16 Heol y ColegPentre Newydd
Wrecsam26ain Mawrth
Annwyl Bob
Dw i’n byw yn agos i’r Coleg. Dw i’n mynd i Ysgol Gynradd Pentre
Newydd. Dw i’n hoffi’r ysgol achos mae’r athrawon yn wych. Es i i’r sinema gyda ffrindiau dydd Sadwrn. Dw i’n hoffi chwarae pêl-droed. Mae’n wych.
Tom
107
CYFFREDINOL
14. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu
Trowch y darn i’r benywaidd. Byddwch chi’n siarad am Ms Jones a Siân.
Cerddodd Ms Jones yn araf at ei char. Roedd hi wedi blino’n lân ar ôl diwrnod
anodd yn yr ysgol. Roedd merch wedi dweud ei bod hi wedi gweiddi arni hi yn y
wers hanes. Roedd hyn yn wir ond roedd Siân wedi bod yn ferch ddrwg iawn
drwy’r wers. Taflodd hi a’i phartner awyrennau papur ar draws yr ystafell
ddosbarth a chreu llanast. Roedd hi wedi cael llond bol ar y ddwy ohonyn nhw,
felly doedd dim rhyfedd iddi weiddi ar y merched.
108
CYFFREDINOL
15. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu
Trowch y darn i’r gwrywaidd. Byddwch chi’n siarad am Mr Jones.
Roedd tri bachgen yn chwarae ar fuarth yr ysgol. Daeth ci i mewn i’r buarth ac
roedd dau o’r bechgyn yn ofnus iawn. Rhedon nhw i’r ystafell athrawon i ddweud
wrth eu hathro ar unwaith. Yn anffodus, doedd o ddim yno. Roedd Mr Jones
wedi mynd i siopa yn ystod ei awr ginio. Roedd o’n mynd i fynydda gyda’i gariad
dros y penwythnos ac roedd angen trowsus dringo newydd arno fo.
109
CYFFREDINOL
16. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu
Trowch y darn i’r unigol.
Clywais i dy fod ti wedi ennill y cwpan yn yr eisteddfod eleni. Llongyfarchiadau
mawr i ti ac i’r dysgwr roeddet ti wedi ei baratoi. Rwyt ti wrth dy fodd ac yn
edrych ymlaen at y cyngerdd, mae’n siwr.
110
CYFFREDINOL
18. Dod o hyd i wahaniaethau
Wil Gwen
bwrw glaw bwrw glaw a gwyntog
wrth y siop esgidiau newydd fynd heibio’r siop esgidiau
clywed sgrech ofnadwy clywed sŵn corn car a bang bach
ci mawr brown ci bach brown a gwyn
merch yn plygu dros y ci merch a’i mam yn rhedeg at y ci
dyn ifanc yn dod allan o’r car dyn canol oed yn dod allan o’r car
ffoniodd mam y ferch yr heddlu ffoniodd y dyn yr heddlu
y ci’n gorwedd yn llonydd y ci’n anadlu
111
CYFFREDINOL
19. Ad-drefnwch y brawddegau i wneud sgwrs synhwyrol.
1. Pwy sy eisiau dewis llyfr stori heddiw?
2. Fi, Miss, dw i eisiau dewis llyfr.
3. Iawn, Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant.
4. Dyma’r llyfr, Miss.
5. Diolch, Gwen. Rŵan ’te, llun beth sy ar y clawr?
6. Llun Siôn Corn ar y sled.
7. Ie, llun Siôn Corn. Oes carw yn y llun hefyd?
8. Oes, mae dau garw yn y llun.
9. Gadewch i ni agor y llyfr i weld beth sy’n digwydd.
112
CYFFREDINOL
20. Rhowch ffurf gywir y gair mewn cromfachau.
1. Roedd y pensiliau ar goll. Chwiliodd y plant amdanyn nhw ym mhob man.
2. Hoffwn i fynd i Sbaen ar fy ngwyliau.
3. Mae Jon yn well na fi mewn mathemateg.
4. Bydd hi’n dair oed fory.
5. Roedden nhw’n ddrwg iawn Amser Cylch.
6. Byddwn ni’n cael cawl i ginio dydd Iau.
7. Cawson nhw wisg ysgol newydd y llynedd.
8. Roedd llawer o blant yn absennol ddoe.
9. Dewch â’r lluniau yma os gwelwch yn dda.
10. Bydd hi’n mynd i’r pwll nofio hebddot ti.
113
CYFFREDINOL
21. Cysylltwch y ddau hanner i wneud brawddegau.
1. Wyt ti’n meddwl bod Ben ar Lefel pedwar?
2. Hoffwn i gael swydd yn Llundain.
3. Bydda i’n mynd i’r dre fory.
4. Dw i’n siwr bydd pawb yn yr ysgol fory.
5. Clywais i fod pawb wedi talu am y trip.
6. Ddylen nhw ddim cysgu yn y dosbarth.
7. Es i â’r plentyn i’r ysbyty.
8. Ysgrifennon ni at y prif weinidog.
9. Cerddodd hi i’r ysgol.
10.Ddarllenais i ddim yn y gwasanaeth.
114
CYFFREDINOL
22. Ad-drefnwch yr ymadroddion i greu brawddegau. Cofiwch atalnodi ar y diwedd.
1. Clywais i amdanoch chi’n prynu fy anrheg i.
2. Oeddet ti’n gwybod bod ofn cathod arni hi?
3. Bydd hi’n dechrau talu am y gwyliau ym mis Mai.
4. Yn yr ysgol gyfun roedd hi’n arfer gweithio cyn dod yma.
5. Ble byddan nhw’n byw os bydd hi’n cael y swydd?
115
CYFFREDINOL
23. Llenwch y bylchau gyda’r gair cywir. Mae mwy o eiriau nag o fylchau ac mae’n bosib defnyddio’r un gair fwy nag unwaith.
1. Gofynnwch i bennaeth yr ysgol am ganiatâd i adael yn gynnar.
2. Roedd hi wedi bod yn yr ysgol am dair blynedd.
3. Peidiwch ag anghofio dod â chot law a phecyn bwyd gyda chi.
4. Mae Rhys wedi ysgrifennu sawl llythyr at y Pennaeth.
5. Wyt ti wedi clywed amdanyn nhw’n mynd i weld y pantomeim?
6. Bydd y bws yn gadael mewn hanner awr.
7. Mae hi wedi mynd â llyfrau Blwyddyn 6 i’r storfa.
8. Maen nhw wedi bod yn y dosbarth drwy’r dydd.
116