20
2018: Blwyyn y Môr yng Nghymru. Canllaw cam wr gam i’ busnes. #GwladGwlad

2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

  • Upload
    others

  • View
    7

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru.

Canllaw cam wrth gam i’ch busnes. #GwladGwlad

Page 2: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Gadewch i ni adrodd ein stori…

‘In every grain of sand there is the story of the land.’

Blwyddyn y Môr.

Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd o amgylch ein glannau, drwy gyfres o ddigwyddiadau ac atyniadau arbennig drwy’r flwyddyn. Dyma Flwyddyn y Môr.

01

04

06

08

10

12

14

18

20

22

34

Pam Blwyddyn y Môr?

Ras Cefnfor Volvo ac atyniadau sy’n haeddu sylw.

Glannau mewndirol.

Beth yw gwerth hyn i gyd?

Dyma ragflas.

Datblygu eich cynnyrch a’ch profiadau.

Adnabod eich marchnad.

Themâu.

Y pethau ymarferol.

I gloi.

Page 3: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Ym Mlwyddyn y Môr 2018 byddwn yn parhau â’r gwaith o herio syniadau hen-ffasiwn am Gymru drwy hyrwyddo cynnyrch, digwyddiadau a phrofiadau o safon uchel, yn ogystal â’n pobl, ein lleoedd a’n harferion — popeth sy’n gwneud Cymru’n lle arbennig i ymweld ag ef. Mae Blwyddyn y Môr yn gyfle gwych i ddangos i’r byd bod Cymru’n gyrchfan arfordirol ddelfrydol yn yr 21ain ganrif, a bydd ein hymgyrchoedd marchnata’n canolbwyntio ar ein cymunedau arfordirol a’n glannau epic (boed yn lannau môr, llynnoedd neu afonydd).

0302 Mae Blwyddyn y Môr 2018 yn adeiladu ar lwyddiant Blwyddyn Antur 2016 a oedd yn canolbwyntio ar antur — antur lle mae’r adrenalin yn llifo, antur llenyddol ac antur yn y gegin — a Blwyddyn Chwedlau 2017 a oedd yn dathlu gorffennol, presennol a dyfodol Cymru. Ar y gorwel mae Blwyddyn Darganfod 2019 a fydd yn adeiladu ar y tair thema flaenorol ac yn pwysleisio bod Cymru’n ‘fyw’ ac yn fwrlwm o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Ond beth mae Blwyddyn y Môr yn ei olygu i chi, y diwydiant yng Nghymru — y darparwyr llety bach a mawr, yr atyniadau, y canolfannau gweithgareddau ac ati? Cewch wybod mwy yn y canllaw hwn.

Page 4: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn unigryw. Y llwybr 870 milltir o hyd, sy’n ymestyn yr holl ffordd o amgylch ein glannau, oedd y llwybr arfordirol di-dor cyntaf yn y byd, ac mae wedi cael ei ganmol gan bobl o bob cwr o’r byd ers ei agor yn 2012. Yn ein barn ni, y llwybr 870 milltir hwn, â’i holl olygfeydd amrywiol, yw’r forlin orau ym Mhrydain.

Mae gennym tua 230 o draethau a 50 o ynysoedd. Rydym yn chwifio’r faner, ac mae gennym fwy o draethau Baner Las y filltir nag unman arall ym Mhrydain A dim ond dechrau yw’r nifer anhygoel o 50 traeth Baner Las. Gyda’i gilydd, mae cyfanswm o 98 o safleoedd wedi bodloni’r safon uchel y mae angen ei chyrraedd er mwyn cael Baner Las, Gwobr Arfordir Glas a Gwobr Glan Môr.

Pam Blwyddyn y Môr?

Mae Cymru’n cael ei throchi gan y môr ar dair o’i phedair ochr. Mae’n nodwedd amlwg, sy’n rhoi siâp a chymeriad i’n gwlad. Mae hynny’n ddigon o reswm ynddo’i hun i wneud 2018 yn Flwyddyn y Môr. Ond mae mwy, llawer iawn mwy, sy’n ein gwneud ni’n wahanol i bawb arall…

0504

Harddwch naturiol.Yn Sir Benfro y mae’r unig Barc Cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain. Penrhyn Gŵyr oedd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf ym Mhrydain. Rhoddwyd yr un dynodiad yn ddiweddarach i Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn.

Antur tonnau.Mae Cymru’n enwog am chwaraeon dŵr cyffrous fel syrffio, padlfyrddio ar eich traed ac arforgampau, gweithgaredd a gychwynnodd yn Sir Benfro. Ac ymhellach oddi wrth yr arfordir mae Surf Snowdonia, y lagŵn syrffio mewndirol cyntaf yn y byd.

Bywyd y ddinas. Ar un adeg, Caerdydd oedd y porthladd allforio glo prysuraf yn y byd. Mae’r brifddinas, ynghyd ag Abertawe a lleoliadau arfordirol eraill, wedi adnewyddu eu cysylltiad â’r môr drwy’r marinas a’r cyfleusterau modern ar y glannau.Adam Burton / Alamy Stock Photo

Page 5: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Ras Cefnfor VolvoBydd Caerdydd, prifddinas chwaraeon Prydain, yn croesawu cymal o Ras Cefnfor Volvo, y ras hwylio fawr o amgylch y byd, ym Mai / Mehefin 2018 (volvooceanracecardiff.com). Mae’n gyfle unigryw i ni roi’r llifoleuadau rhyngwladol ar Gymru a rhoi hwb i’r enw da sydd gennym fel cyrchfan arfordirol. Bydd cyffro mawr ym Mae Caerdydd, felly gwnewch yn siŵr bod eich busnes yn elwa.

‘Ffordd Cymru’Cyfres o dri llwybr twristiaeth newydd o safon uchel:— Ffordd y Môr (A487)— Ffordd y Cambria (A470)— Ffordd y Gogledd (A55) Er bod y rhain yn seiliedig ar rwydweithiau ffyrdd byddant yn llawer mwy na chyfres o ffyrdd i yrru ar eu hyd. Bydd Ffordd Cymru yn dathlu dulliau amrywiol o deithio, gan annog ymwelwyr i ddarganfod trysorau cudd a throchi eu hunain mewn profiadau lleol. Bydd y fenter uchelgeisiol hon yn gyfrwng i ddod ag arlwy dwristiaeth bresennol Cymru at ei gilydd a’i hehangu.

Agorwyd Llwybr Arfordir Cymru yn 2012, y llwybr di-dor cyntaf yn y byd o amgylch arfordir cenedlaethol. Mae Llwybr yr Arfordir yn apelio’n fawr at y farchnad dramor felly gwnewch yn siŵr bod gennych chi a’ch staff ddigon o wybodaeth i gyfeirio pobl at y gwahanol rannau o’r llwybr, a chadwch i fyny â’r digwyddiadau a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal ar hyd y llwybr yn 2018.

Mae mordeithio yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf ym maes twristiaeth. Mae gan Gymru bartneriaethau â brandiau mordeithio ym mhob cwr o’r byd ac mae wedi buddsoddi llawer o arian mewn nifer o borthladdoedd. Yn 2017 daeth 88 o longau mordeithio i Gymru, yn cludo 54,000 o deithwyr (gan gynnwys y criw), a chyfrannwyd tua £5 miliwn i’r economi. Y newyddion da yw bod nifer y llongau sy’n bwriadu galw yn 2018 eisoes yn uwch.

Ras Cefnfor Volvo ac atyniadau sy’n haeddu sylw.

Bydd llawer o bethau’n digwydd yn 2018, a byddant yn amrywio o gystadlaethau codi cestyll tywod syml i ddigwyddiadau mawr. Ond cadwch lygad am ragor o fanylion am yr atyniadau isod sy’n haeddu sylw.

0706

Amory Ross / Team Alvimedica / Volvo Ocean Race

Page 6: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Gallwch ddefnyddio’r themâu hyn i lunio eich rhaglenni eich hun neu i greu eich cynnwys creadigol eich hun.

Glannau mewndirol.

Bydd rhywbeth i bawb ei wneud yn 2018, ar yr arfordir ac ar ddyfroedd mewndirol. Bydd yn gyfle i ddathlu’r glannau epic sydd ym mhob cwr o Gymru — yn lannau llynnoedd ac afonydd yn ogystal â baeau a thraethau. Dyma ychydig o syniadau cychwynnol i chi.

Gwyliau yng nghefn gwlad ac ar lan y môr — Gwlad fach yw Cymru, a chan fod popeth yn agos at ei gilydd mae mewn sefyllfa dda iawn i gynnig profiad o ‘lan y môr a chefn gwlad’. Ble bynnag y byddwch yn aros, fyddwch chi byth fwy nag awr o’r môr a’r profiadau arfordirol epic.

Llwybrau ar lan afonydd’ — sy’n llifo i’r môr mewn aberoedd hardd, fel Tywi, Cleddau, Mawddach a Chonwy.

Camlesi mewndirol — taith hamddenol drwy ardaloedd hardd ar ein dyfrffyrdd a’n camlesi mewndirol.

O’r mynydd i’r môr — dilyn llwybr yr afon o’r mynydd i’r môr — gallech ystyried adrodd storïau am nentydd ac afonydd neu gysylltu â bywyd gwyllt sydd i’w weld ar hyd y llwybr.

Hyrwyddo antur diogelMae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ystyried diogelwch wrth fwynhau’r awyr agored — wrth fynd am dro i’r traeth, cymryd rhan mewn arforgampau neu gerdded yn y mynyddoedd. Dyma pam y mae Croeso Cymru yn cefnogi ymgyrch ddiogelwch genedlaethol gydweithredol ‘Adventure Smart Wales’. Bydd yr ymgyrch yn eich cynorthwyo chi, y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, drwy ddarparu negeseuon clir i gefnogi a hybu ffyrdd diogel o fwynhau’r amgylchedd naturiol. Cadwch lygad am ragor o newyddion am hyn a sut y gallwch chi helpu i hybu diogelwch yn yr awyr agored.

0908

Page 7: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Ond mae heriau. Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr, ein cystadleuydd agosaf, o ran cael ei gweld fel cyrchfan arfordirol, er bod gennym draethau da / rhagorol o safon uchel iawn. Mae Blwyddyn y Môr yn gyfle gwych i ni newid hyn. Dyma ragor o wybodaeth a fydd yn eich helpu i ganolbwyntio ar eich marchnadoedd targed:

Mae’r thema gwyliau ar yr arfordir yn un sy’n cael ei chysylltu â Chymru gan yr ymwelwyr teyrngar presennol a chan bobl sy’n ystyried cymryd gwyliau — mae felly’n derm a ddylai eich helpu i ysgogi ymwelwyr i ddod yn ôl dro ar ôl tro yn ogystal â pherswadio ymwelwyr newydd i ddod yma.

Nid yw’r thema tref glan môr fwy traddodiadol yn cael ei chysylltu gymaint â Chymru gan ymwelwyr newydd ac nid yw’n apelio gymaint.

Yn gyffredinol, y math mwyaf poblogaidd o ymweliad â’r arfordir yw gwyliau byr (tair noson neu lai), er bod gwyliau hwy o hyd at saith noson yn boblogaidd hefyd.

Beth yw gwerth hyn i gyd?

Mae 70 y cant o’r holl ymwelwyr sy’n ymweld â’n harfordir yn dod o Ogledd-orllewin Lloegr / Glannau Mersi, o Orllewin Canolbarth Lloegr ac o Gymru ei hun.

Roedd 19 y cant o’r cyfanswm o 70 y cant yn dod o Gymru, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r farchnad ‘gartref’ i ni. Dim ond 3 y cant oedd yn dod o Lundain, 5 y cant o Dde-ddwyrain Lloegr a 6 y cant o Dde-orllewin Lloegr.

Mae Cymru yn gyfrifol am 17 y cant o’r holl ymweliadau dros nos domestig â’r arfordir yn y Deyrnas Unedig, mwy nag unrhyw ranbarth arall ar wahân i Dde-orllewin Lloegr (lle mae’n 32 y cant).

O ran ymwelwyr tramor, mae ymchwil yn dangos bod 53 y cant wedi ymweld â lleoliad arfordirol, a bod 38 y cant wedi mynd i gerdded ger yr arfordir. Mae’r rhain yn gyfrannau uwch nag ar gyfer unrhyw ran arall o Brydain.

1110 Arfordir Cymru yw ein cyrchfan fwyaf poblogaidd i ymwelwyr yn gyson. Yn 2015 denodd ein harfordir dros 4 miliwn yn braf o ymweliadau dros nos ac £800 miliwn o wariant. Yn ychwanegol at hyn, yn 2016 ymwelodd 25 miliwn o ymwelwyr undydd â’n harfordir, a gwario £897 miliwn. Mae hyn yn 24 y cant o’r holl ymwelwyr undydd â Chymru a 30 y cant o’r gwariant, sy’n llawer uwch na’r gyfran ar gyfer Prydain gyfan, â dim ond 11 y cant o’r holl ymweliadau undydd ym Mhrydain yn ymweliadau â chyrchfannau glan y môr / arfordirol.

Page 8: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

O safbwynt ymarferol, mae cant a mil o bethau y gallwch eu gwneud er mwyn bod yn rhan o Flwyddyn y Môr — mae’r darlun cyflawn i’w weld yn y rhan o’r canllaw hwn sy’n trafod ‘Y pethau ymarferol’. Dyma ambell beth, i roi rhagflas i chi.

Dyma ragflas.

12 13

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i greu profiadau epic ym mhob cwr o Gymru — profiadau sy’n ddigon mawr ac amlwg i ddal sylw pobl, a denu ymwelwyr i Gymru. Ond does dim rhaid i bopeth fod yn fawr. Rydym eisiau ysbrydoli’r diwydiant cyfan i ddatblygu syniadau a chynlluniau llai, mwy lleol sy’n gwella profiad ein cwsmeriaid. Defnyddiwch eich dychymyg i gyflwyno eich argraff chi o Flwyddyn y Môr — mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw.

Chwiliwch am deithiau cerdded lleol ar yr arfordir— a rhowch wybodaeth i westeion.

Cynigiwch ychydig o flas y môr — wystrys afon Menai, halen Môn, cimychiaid o Lŷn, cocos Gŵyr, sewin o’n hafonydd. Heb anghofio bara lawr, wrth gwrs.

Lledaenwch y gair. Defnyddiwch hashnod yr ymgyrch, #FindYourEpic #GwladGwlad, ac ychwanegwch gynnwys a delweddau o leoedd syrffio da a gweithgareddau chwaraeon dŵr eraill.

Chwifiwch y faner. Ydych chi’n agos at draeth Baner Las? Yna gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod amdano.

Ymunwch â darparwyr gweithgareddau chwaraeon dŵr lleol a chynigiwch becynnau cynhwysol.

Page 9: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Mae ymwelwyr heddiw’n gofyn llawer, ac mae teithwyr gwybodus yn chwilio am brofiadau:

Mae angen i ni fanteisio ar y cryfderau a’r asedau naturiol sy’n uno pobl a lleoedd gwych Cymru drwy ddulliau digidol, ffisegol a diwylliannol. Felly dyma ychydig o gwestiynau i’ch helpu i ddechrau meddwl am y profiadau y gallech eu cynnig i’ch gwesteion.

Dily

s. Mae Cymru’n gwbl ddilys. Mae’n agored ac yn onest — mae’n gwlad wedi’i hadeiladu ar sylfeini hanes a threftadaeth falch, ac wedi’i ffurfio gan dirwedd hardd a thrawiadol. Mae cymuned a diwylliant yn bwysig iawn i ni. Ein dilysrwydd yw’r allwedd i’n dyfodol.

Cwestiynau i’w gofyn i chi eich hun:— A yw eich cynnyrch yn cynnig profiad sydd â Naws am Le (sy’n arbennig i Gymru) sy’n golygu rhywbeth ac sydd o safon uchel?— Ydych chi’n arddangos cynnyrch lleol?— Pa mor ddilys yw eich profiad i’ch ardal leol ac i Gymru? — Byddwch yn driw i’ch cynnyrch a chadwch nhw’n real. — Ydy ymwelwyr yn dod i ‘deimlo’ ble maen nhw?— Ydy eich lluniau a’ch fideos yn dangos y dirwedd, cynhesrwydd y bobl a gonestrwydd eich busnes?

Datblygu eich cynnyrch a’ch profiadau.

Dilys Creadigol Byw

14 15

Page 10: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Cre

adig

ol.

Byw

.Mae creadigrwydd yn rhan greiddiol o’n cenedl. Mae ein diwylliant cyfoethog a pharhaus yn ffynnu: mewn cerddoriaeth, llenyddiaeth, celf, ffilm a theatr. Ond mae’n llawer mwy na hynny. Ble bynnag rydych yn edrych yng Nghymru, mae syniadau newydd disglair yn cael eu rhoi ar waith. Nid breuddwydio yn unig yr ydym, ond gwneud i bethau ddigwydd.

Mae Cymru newydd yn dod i’r amlwg. Un sydd wedi cael ei hysbrydoli gan ein gorffennol ond sy’n edrych i’r dyfodol â chyfrifoldeb a chreadigrwydd. Mae natur ac antur yn fyw yn ein tirweddau. Mae ein diwylliant yn fyw, yn llawn dychymyg, ac yn llawn bywyd.

Dyma enghreifftiau o fideos sy’n cwmpasu pob un o’r tri gwerth — Dilys, Creadigol a Byw.

— Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru visitwales.com/dolphins

— Gogledd-ddwyrain Cymru yn arddangos technoleg newydd a rhoi golwg newydd ar Gymru visitwales.com/ne-legends

‘Mae teithio’n ymwneud â chyrchfannau, ond mae hefyd yn ymwneud â’n hagwedd gymdeithasol a seicolegol at wyliau.’

Nick Trend Arbenigwr teithio ‘The Daily Telegraph’

Cwestiynau i’w gofyn i chi eich hun:— Ydych chi’n cadw llygad bob amser am syniadau newydd disglair?— Ydych chi’n ceisio cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i’ch ymwelwyr? Cyffyrddiad neu brofiad annisgwyl a allai fod yn goron ar eu diwrnod?— Ydych chi’n arddangos eich cynnyrch fel rhywbeth dynamig a blaengar? — Gallwch ddangos pa mor greadigol rydych chi drwy’r ffordd rydych yn mynd ati i werthu’ch cynnyrch. — Ydy’ch gwaith marchnata’n ysbrydoli pobl i ymweld?— Ydy’ch gwaith marchnata’n dangos eich cynnyrch ar ei orau ac yn ennyn diddordeb pobl?

Cwestiynau i’w gofyn i chi eich hun:— A yw eich profiad yn caniatáu i ymwelwyr fod yn rhan o’ch busnes?— Allwch chi helpu i greu atgofion hapus?— Allwch chi ddweud storïau diddorol sy’n ennyn pobl i wrando?— Mae’r cynnyrch yn rhan bwysig o deithio, ond mae’r bobl hefyd yn bwysig. — Ydy eich staff yn helpu ymwelwyr i ymlacio ac i deimlo’n fyw? — Ydy’ch delweddau a’ch ffilmiau’n dod â’ch cynnyrch yn fyw?— Oes gennych chi neu’ch staff wybodaeth leol dda i’w rhannu am gerddoriaeth, cynnyrch lleol, bywyd gwyllt, tirluniau lleol a threftadaeth?

16 17

Page 11: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Adnabod eich marchnad.

Mae’n hanfodol eich bod yn gwybod rhywbeth am eich darpar ymwelwyr er mwyn i chi allu targedu eich ymgyrch farchnata’n effeithiol. Mae hyn yn eich galluogi i fod yn siŵr bod eich cynnig chi’n addas ar gyfer gwahanol fathau o ymwelwyr. Dyma ychydig o ganllawiau.

Archwilwyr teuluol egnïol

Dosbarth canol gan mwyaf â phlant dan 15. Teithwyr anturus sy’n hoffi dysgu am y lleoedd maen nhw’n ymweld â nhw a’r ffordd leol o fyw.

Am beth maen nhw’n chwilio? Lleoedd â llawer o bethau i blant eu gwneud ym mhob tywydd. Mae rhoi profiadau newydd i blant yn bwysig iawn. Yn y farchnad hon, mae Blwyddyn y Môr yn cynnig cyfleoedd i roi hwb i’r enw da sydd gan Gymru am gynnig profiad arfordirol o safon uchel. Mae teuluoedd yn chwilio am weithgareddau hwyliog, wedi eu trefnu’n dda, mewn awyrgylch cartrefol a gwybodaeth am atyniadau (am ddim ac am dâl).

Enghreifftiau o ffyrdd o’u denu:— Sôn wrth ddarpar ymwelwyr am atyniadau dŵr newydd Cymru e.e. Surf Snowdonia. — Paratoi rhestrau o deithiau cerdded seiliedig ar thema ar yr arfordir sy’n cael eu cynnig gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Parciau Cenedlaethol, ac yn y blaen.— Hyrwyddo atyniadau pob

tywydd lleol.— Sôn am ddigwyddiadau lleol fel gweithgareddau teuluol.

Archwilwyr cyn teulu

Y rhan fwyaf dan 35 oed a heb blant. Maen nhw’n mynd ar wyliau neu wyliau byr yn aml; yn poeni llai am werth am arian, cynigion a digwyddiadau hyrwyddo.

Am beth maen nhw’n chwilio? Profiadau a lleoedd newydd yng Nghymru, beth bynnag yw’r tywydd. Mae Cymru fel maes chwarae awyr agored yn ddeniadol iawn iddyn nhw — dyma’r grŵp mwyaf egnïol yn y farchnad rydym yn ei thargedu. Enghreifftiau o ffyrdd o’u denu:— Darparu gwybodaeth am yr holl wahanol fathau

o chwaraeon dŵr sydd ar gael yn lleol.

— Awgrymu teithiau cerdded ileoedd mwy diarffordd fel Ynys Lochtyn (Arfordir Treftadaeth Ceredigion) a Mynydd Mawr (Arfordir Treftadaeth Llŷn).

— Sôn wrth eich gwesteion am ddigwyddiadau hwyliog sy’n cael eu trefnu ac am weithgareddau fel partïon traeth trefol.

18 19

Archwilwyr diwylliannol

Cyplau, 40+ yn bennaf. Y rhan fwyaf yn perthyn i’r dosbarth canol ac ar incwm uwch.

Am beth maen nhw’n chwilio? Amrywiaeth da o atyniadau hanesyddol, trefi a dinasoedd diddorol, llety o safon a golygfeydd hardd. Diddordeb yn niwylliant a ffordd o fyw y bobl leol, ac mewn darganfod profiadau a lleoedd newydd ym Mhrydain. Newyddion da: maen nhw’n cysylltu Cymru â gwyliau ar yr arfordir. Enghreifftiau o ffyrdd o’u denu: — Cynnig gwyliau byr mewn

dinas a theithiau i drefi bywiog. — Tynnu sylw at dreftadaeth

forwrol leol, mannauprydferth a thai bwyta sy’ncynnig bwyd môr da.

— Hyrwyddo gwyliau adigwyddiadau fel GwleddConwy lle gall ymwelwyrgwrdd â’r bobl leol.

— Sôn wrth westeion am rôlstrategol y môr yn lleoliad ycestyll sydd ar ein harfordir —

Biwmares, Harlech, ac ati.

Archwilwyr golygfeydd

Cyplau, 40+ yn bennaf.

Am beth maen nhw’n chwilio?Morweddau a thirweddau hardd, bywyd gwyllt, cynigion llety da (yn debygol o fod yn deithwyr annibynnol), gwyliau gwahanol i’r arfer. Maen nhw’n cysylltu Cymru â gwyliau ar yr arfordir. Enghreifftiau o ffyrdd o’u denu: — Awgrymu teithiau cerdded

lleol ar yr arfordir a lleoeddmwy diarffordd.

— Darparu gwybodaeth am adar y môr, a ble i fynd i weld morloi a dolffiniaid.

— Hyrwyddo atyniadau lleol a lleoedd bwyd perthnasol, fel Halen Môn a thai bwyta ar yr arfordir.

Page 12: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Themâu.

Yn 2018, bydd ymgyrch farchnata Croeso Cymru yn canolbwyntio ar y themâu tymhorol a ganlyn. Dyma ychydig o wybodaeth gychwynnol am ddigwyddiadau, gwyliau a beth sy’n digwydd.

Byddem wrth ein bodd yn clywed am ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r themâu tymhorol hyn. Gadewch i ni wybod amdanyn nhw drwy anfon eich newyddion i: [email protected] Yn ogystal, i gael manylion eich digwyddiadau ar dudalen digwyddiadau croeso.cymru, cysylltwch â [email protected]

Morweddau Epic

Ionawr– Mawrth

Y brifddinas a Chymunedau’r Arordir

Ebrill–Mehefin

Arfordiroedd Byw

Gorffennaf–Medi

Arfordir Cysylltiedig

Hydref–Rhagfyr

Enghreifftiau o bethau sy’n digwydd: — Mentro i’r môr ar Ddydd Calan mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru. Prosiectau sbwriel morol — glanhau traethau.

Enghreifftiau o bethau sy’n digwydd: — Ymgyrch Pasg Epic.— ‘The Man-Engine’. Bydd

y cawr mecanyddol yncychwyn ar ei Daith yngNghymru ym Mlaenafonac yn mynd ymlaen iAmgueddfa Genedlaetholy Glannau, Abertawe.

— Digwyddiadau’r brifddinas, gan gynnwys Ras Cefnfor

Volvo, un o ddigwyddiadau mawr y byd chwaraeon. — Digwyddiad diwylliannol — Gŵyl y Llais.

Enghreifftiau o bethau sy’n digwydd: — Sioe Awyr Cymru,

Abertawe. — Wythnos Bysgod

Sir Benfro. — Yr Eisteddfod

Genedlaethol ym Mae Caerdydd.

— Gŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion.

Enghreifftiau o bethau sy’n digwydd: — Rali Cymru GB.— Gwledd Conwy.

20 21 Os hoffech gael sylw i’ch digwyddiadau chi ar dudalennau digwyddiadau visitwales.com cysylltwch â: @VisitWalesBiz

Syniadau: — Cyflwyniad i’r flwyddyn

sydd i ddod. — Cerdded y traethau

yn y gaeaf gydag anifeiliaid anwes.

— Gwyliau llesol byr dros y Flwyddyn Newydd

Tafarndai’r arfordir.

Syniadau: — Mynediad rhwydd

i’n prifddinas. — Gwyliau byr mewn

dinas. — Trefi a chymunedau

lliwgar. — Bywyd gwyllt.

Syniadau: — Digwyddiadau a gwyliau.— Gwyliau byr i’r teulu.— Strydoedd siopa del.— Adrodd storïau ar

lan y môr.

Syniadau: — Cynllun llwybrau ‘Ffordd Cymru’. — Cysylltiadau

rhwydd rhwng cefngwlad a’r arfordir.

— Llwybrau beicio.

Page 13: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

23 Y pethau ymarferol:

Camau cyntaf.

22

Os oes gennych gwestiynau cyffredinol cysylltwch â thîm Blwyddyn y Môr: [email protected]

Ewch amdani nawr! Dechreuwch weithio nawr er mwyn bod yn rhan o Flwyddyn y Môr a gwneud yn siŵr bod eich busnes yn creu argraff fawr.

Casglwch wybodaeth. Holwch pa ddigwyddiadau Blwyddyn y Môr fydd yn cael eu cynnal yn eich ardal chi er mwyn i chi allu cynllunio digwyddiadau hyrwyddo a chynigion o’u cwmpas. Dechreuwch gasglu gwybodaeth am ddarparwyr gweithgareddau perthnasol fel ysgolion bordhwylio a chyrsiau chwaraeon dŵr.

Byddwch yn barod. Meddyliwch sut y gall eich busnes fod yn rhan o Flwyddyn y Môr. Allech chi gynnal digwyddiadau hyrwyddo ar thema’r môr, cynnig bwydlen ag elfen arfordirol iddi neu gynllunio eich digwyddiad eich hun?

Cysylltwch. Cysylltwch â chwsmeriaid blaenorol ar eich rhestr bostio i ddweud wrthynt beth sy’n digwydd er mwyn iddyn nhw allu gwneud cynlluniau ac archebu lle mewn da bryd.

Gwnewch eich ymchwil. Addaswch syniadau o wledydd a chyrchfannau arfordirol eraill, e.e. stives-cornwall.co.uk inspiredbyiceland.com

Y pethau ymarferol.

Rydyn ni’n gwybod beth sy’n digwydd a phwy yw ein cwsmeriaid, felly mae’n amser i ni droi at y pethau gwirioneddol bwysig. Mae’r rhan hon yn llawn awgrymiadau defnyddiol a fydd yn eich helpu i gael y budd mwyaf o Flwyddyn y Môr.

Page 14: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Er mwyn y plant. Os ydych yn gobeithio denu teuluoedd, rhowch rywbeth i’r plant ei wneud. Lluniwch gornel i’r plant ar thema’r môr â rhwydi pysgota, bwcedi a rhawiau a bocs gwisgo-i-fyny yn llawn dillad morwrol (mae môr-ladron yn boblogaidd bob amser). Tynnwch sylw at storïau am longddrylliadau, môr-ladron a smyglwyr lleol a threfnwch dripiau a gweithgareddau sy’n addas i blant.

Bod yn real. Mae’r teithiwr modern yn chwilio am brofiadau unigryw a dilys. Defnyddiwch eich gwybodaeth leol i wneud eich cynigion Blwyddyn y Môr yn unigryw i Gymru ac i’ch ardal chi. Gall hyn gynnwys chwilota am wahanol bethau ar lan y môr, neu gasglu broc môr ar gyfer prosiectau celf, er enghraifft. Rhowch gynnig ar y gweithgareddau drosoch eich hun er mwyn i chi allu siarad o brofiad amdanyn nhw; dysgwch ragor am dirwedd, treftadaeth a bywyd gwyllt yr arfordir yn eich ardal chi er mwyn i chi allu rhoi cyngor gonest a chywir.

Cysylltu. Y dyddiau hyn mae Wi-Fi am ddim yn rhywbeth y mae gwesteion yn ei gymryd yn ganiataol er mwyn iddyn nhw allu mynd ar-lein 24/7, felly gwnewch yn siŵr bod y cyfarpar priodol gennych yn eich busnes.

Blas y môr. Paratowch fwydlenni â thema bwyd môr a byrddau yn arddangos prydau arbennig yn defnyddio pysgod sydd wedi eu dal y diwrnod hwnnw a physgod cregyn gan ddarparwyr lleol. Does dim angen dim byd ffansi — mae pawb yn hoffi pysgod a sglodion hen ffasiwn wedi eu coginio’n dda.

Ewch amdani. Bydd gweithgareddau arfordirol fel syrffio, padlfyrddio, cerdded a beicio yn rhan fawr o Flwyddyn y Môr. Meddyliwch sut y gall eich busnes chi gynnig croeso arbennig o gynnes i bobl sy’n mwynhau’r awyr agored a chwaraeon dŵr.

Casglu data. Rhowch wybodaeth ddefnyddiol i’ch gwesteion. Gosodwch hysbysfwrdd i ddangos amseroedd y llanw, adroddiadau syrffio a gwybodaeth am y tywydd. Ceisiwch ddod i adnabod eich ardal leol er mwyn i chi allu rhoi cyngor am y lleoedd pysgota a’r lleoliadau chwaraeon dŵr gorau.

Ysbrydoli. Paratowch raglenni sy’n seiliedig ar thema i’ch gwesteion, pecynnau croesawu, taflenni, toriadau o bapurau newydd a llyfrau lloffion yn cynnwys gwybodaeth am bethau i’w gwneud.

Bod yn hyblyg. Paratowch frecwast yn gynnar i syrffwyr sydd eisiau dal tonnau gorau’r bore neu cynigiwch brydau bwyd hwyrach gyda’r nos i gerddwyr a beicwyr sydd wedi bod allan drwy’r dydd.

Byddwch yn barod. Cadwch bâr wrth gefn o welingtons a dillad glaw i’w gwneud hi’n haws i’ch gwesteion fynd allan beth bynnag yw’r tywydd. Darparwch le diogel i bobl storio cyfarpar awyr agored fel byrddau syrffio ac offer pysgota.

Briffiwch eich staff. Gwnewch yn siŵr bod pawb yn eich busnes yn gwybod am Flwyddyn y Môr. Ydyn nhw’n gwybod am y prif ddigwyddiadau? Allan nhw ddarparu gwybodaeth leol ac arweiniad?

Croesawch gerddwyr a beicwyr. Rydyn ni’n lwcus yng Nghymru i gael rhai o’r llwybrau arfordirol a’r llwybrau beicio gorau yn y byd. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn aelod o’n cynllun Croesawu Cerddwyr a Beicwyr drwy ddarparu cyfleusterau defnyddiol fel lle cadw beics, ystafelloedd sychu ac yn y blaen.

Ewch ychydig bach pellach. Darparwch wasanaeth gollwng a chodi, sy’n ddefnyddiol iawn i gerddwyr — ac i feicwyr a all drefnu bod cyfarpar maen nhw’n ei logi’n cael ei ddanfon i’w llety. I gefnogi hyn, gallwch hefyd roi gwybodaeth am gludiant cyhoeddus.

Peidiwch â bod yn swil. Oes gennych chi brofiad Blwyddyn y Môr arbennig o dda ar stepen eich drws? Oes gan eich traeth lleol Faner Las neu Wobr Glan Môr? Os oes, rhowch wybod i bawb.

24 25 Y pethau ymarferol:

Ewch yr ail filltir.

Gall cyffyrddiadau bach wneud gwahaniaeth mawr. Rhowch gynnig ar rai o’r canlynol i greu profiad cofiadwy i’ch gwesteion.

Y pethau ymarferol:

Barod i fynd.

Page 15: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Ceisiwch ddarganfod pa fusnesau eraill mae eich gwesteion yn ymweld â nhw pan maen nhw yn yr ardal. Ydyn nhw’n defnyddio tywysydd neu hyfforddwr syrffio lleol? Oes ganddyn nhw hoff atyniad? Mae eich cwsmeriaid yn gyswllt rhyngoch chi’n barod, felly mae’n debyg y bydd gennych bethau eraill yn gyffredin hefyd, ac efallai y gallwch weithio gyda’ch gilydd mewn rhyw ffordd.

Os ydych yn darparu llety, datblygwch berthynas â darparwyr gweithgareddau er mwyn creu pecynnau aros a chwarae ar thema Blwyddyn y Môr.

Dewch i adnabod busnesau lleol sy’n rhannu’r un priodweddau a gwerthoedd â chi — ‘Naws am Le’ sy’n seiliedig ar yr arfordir efallai — er mwyn i chi allu argymell gweithgareddau ac ati i’ch gwesteion a’ch ymwelwyr.

Cydweithiwch â busnesau eraill yn eich ardal er mwyn creu eich digwyddiadau Blwyddyn y Môr eich hun, yn seiliedig ar anturiaethau, treftadaeth neu fwyd a diod yr arfordir. Trefnwch eich digwyddiadau i gyd-fynd â dyddiadau mawr yn y calendr Cymreig (darllenwch y rhan ‘Beth sy’n digwydd’ yn y canllaw hwn i gael ysbrydoliaeth).

26 27Y pethau ymarferol:

Cydweithio.

Mae cydweithio’n elfen bwysig o lwyddiant Blwyddyn y Môr. Drwy weithio gyda darparwyr eraill gallwch hyrwyddo eich ardal (a Chymru gyfan) yn fwy effeithiol, gan ei helpu i sefyll allan mewn marchnad dwristiaeth brysur a chystadleuol. Gweithiwch gyda darparwyr eraill i gynnig profiadau cydgysylltiedig.

Page 16: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Cael eich enw ar y rhestrau. Rheolwch eich proffil ac adolygiadau cwsmeriaid am gyrchfannau a rhestrau cynnyrch yn rhagweithiol. Mae’r rhain yn cynnwys Tudalen Busnes Facebook, Rhestr Busnesau Google a TripAdvisor, ac mae llawer o restrau eraill y gallech gael eich enw arnyn nhw. A chofiwch ddiweddaru eich rhestrau gyda Croeso Cymru.

Cymryd rhan. Ydych chi’n defnyddio hashnodau trendio ac ymgyrchoedd? Byddwn yn dal i ddefnyddio #FindYourEpic a #GwladGwlad eleni, ond bydd hashnodau trendio eraill ar gyfer digwyddiadau a lleoliadau y mae pobl yn eu defnyddio i rannu cynnwys. Yn ychwanegol at hyn, chwiliwch am gyfleoedd i geotagio eich cynnwys er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i’ch cynnwys wrth chwilio am gyrchfannau.

A pheidiwch ag anghofio…Dilyn @VisitWalesBiz i gadw i fyny â phopeth sy’n digwydd drwy’r flwyddyn. Dilyn @VisitWales a thagio eich pyst cyfryngau cymdeithasol â #FindYourEpic #GwladGwlad.

Pum awgrym i’ch helpu i feddwl am bethau i’w gwneud.

2

4

5

Cyhoeddi. Diweddarwch eich gwefan gan gyfeirio at Flwyddyn y Môr a defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd ebost i’w hyrwyddo. Cofiwch ddefnyddio ein copi hyrwyddo Blwyddyn y Môr (ar ddiwedd yr adran ddigidol hon) a delweddau rydym wedi eu paratoi ar eich cyfer (ewch i walesonview.com). Chwiliwch hefyd am y baneri Cymru Wales y gallwch eu llwytho i lawr o’n gwefan, ac ar Twitter a Facebook. Fel arfer, cadwch lygad am newyddlen Croeso Cymru i gael diweddariadau rheolaidd am Flwyddyn y Môr.

1

Bod yn greadigol. Mae llawer o fusnesau’n cael ymateb da i gynnwys fideo, fideos 360 a ffyrdd gweledol eraill o rannu eich cynnig â’r cwsmeriaid cyn iddyn nhw archebu. Oes yna gyfle i chi greu eich fideo eich hun neu rannu cynnwys busnes lleol neu ranbarthol i ddangos beth sy’n digwydd yn eich ardal chi? Cofiwch y dylai fideos fod o safon uchel ac yn fyr. Fel canllaw, cyfyngwch hyd fideos ar gyfer sianeli cymdeithasol i 1 munud neu lai a fideos ar gyfer gwefannau i 2–3 munud, gan ddibynnu ar y cynnwys.

3

Bod yn gymdeithasol. Meddyliwch sut y gall eich cynnwys weithio yn y gwahanol sianeli cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio gan eich cynulleidfa (Facebook, Instagram, Twitter a Snapchat).

Beth yw marchnata cynnwys? Mae marchnata cynnwys yn canolbwyntio ar greu a dosbarthu cynnwys gwerthfawr a gwirioneddol berthnasol er mwyn denu a chadw ymwelwyr — ac yn y pen draw, er mwyn ysgogi cwsmeriaid i weithredu mewn ffordd broffidiol.

28 29

Marchnata digidol.

Dyma ychydig o awgrymiadau marchnata i chi. Os hoffech gael rhagor o fanylion ewch i:businesswales.marketinginfohub.co.uk/ topics/online-marketing

Y pethau ymarferol:

Ein Glannau Epic.Our Epic Shores.

Ein Glannau Epic.Our Epic Shores.

Page 17: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Copi 70 gair Dewch i ddarganfod profiadau epic newydd o amgylch ein glannau yn 2018. Blwyddyn y Môr yw hon. Ar Lwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir o hyd, mae golygfeydd ysblennydd o bob math, cannoedd o draethau, harbwrs, cilfachau ac ynysoedd. Neu dilynwch yr afonydd at lannau ein llynnoedd a’n cronfeydd dŵr. Croeso cynnes Cymreig, diwylliant unigryw, bwyd a diod o safon… cewch brofi arfordir Cymru ar ei orau yn 2018. Croeso i’n glannau epic. #GwladGwlad

Copi 20 gair Yn 2018 helpwch ni i ddathlu arfordir godidog Cymru gyda phrofiadau epic ein glannau. Hon fydd Blwyddyn y Môr!#GwladGwlad

Rydym yn croesawu’r cyfleoedd y mae Blwyddyn y Môr yn eu cynnig i weithio gyda busnesau twristiaeth er mwyn datblygu cynnyrch, ymgyrchoedd a phrofiadau newydd a chyffrous a digwyddiadau sy’n gynaliadwy yn y tymor hir. Rydym yn awyddus i weld digwyddiadau a phrofiadau mwy a gwell, rhai o safon uchel iawn, ond bod llai ohonyn nhw, digwyddiadau a phrofiadau sy’n cael eu cefnogi gan gyfoeth o atyniadau ategol ar lawr gwlad, drwy gydol y flwyddyn ac ym mhob rhan o’r wlad. Ein prif gronfeydd buddsoddi yw:— Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (TISS) ar gyfer prosiectau cyfalaf;— Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF) a’r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF), sydd ill dwy’n cefnogi prosiectau refeniw.

I gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau ariannu ewch i:businesswales.gov.wales/cy/zones/tourism/cyllid

Neu i drafod eich syniadau prosiect cysylltwch â:

Tîm TISS (prosiectau cyfalaf) 0845 010 8020 [email protected]

Prosiectau refeniw Bydd y cynllun yn ailagor ar gyfer ceisiadau yn Hydref 2017.Cysylltwch â’ch swyddog rhanbarthol:

De-orllewin [email protected] 0300 025 4528

De-ddwyrain [email protected] 0300 025 7785

Canolbarth Cymru [email protected] 0300 025 7424

Gogledd [email protected] 062 5837

30 31

Copi hyrwyddo Blwyddyn y Môr.

I’ch helpu i ddefnyddio negeseuon Blwyddyn y Môr ar-lein neu mewn deunydd rydych yn ei argraffu, efallai y byddech yn hoffi defnyddio’r copi isod. I gael rhagor o awgrymiadau testun ewch i’r tudalennau Blwyddyn y Môr ar businesswales.gov.wales/cy/twristiaeth

Buddsoddi yn eich cynnyrch.

Mae angen i ni newid y ffordd y mae pobl yn gweld Cymru, ac mae’n amlwg bod angen rhywbeth arall ar wahân i draethau a llwybrau hardd yr arfordir i gadarnhau apêl Cymru fel cyrchfan arfordirol. Mae angen arloesi a defnyddio dulliau newydd o gynyddu a gwella cynnyrch, digwyddiadau a phrofiadau.

Y pethau ymarferol:Y pethau ymarferol:

Page 18: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Gallwch fod yn rhan o’r farchnad ryngwladol drwy fanteisio ar y cyfleoedd a ganlyn:

Cofrestrwch eich cynnyrch ar ein gwefan busnes-i-fusnes sy’n cael ei hyrwyddo’n fyd-eang, traveltrade.visitwales.com

Ymaelodwch â UKinbound (ukinbound.org) a Chymdeithas Gweithredwyr Teithiau Ewrop (etoa.org), ac ewch i weithdai busnes-i-fusnes, seminarau a digwyddiadau rhwydweithio.

Ewch i ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal ym Mhrydain neu dramor. Cadwch lygad am wybodaeth yn ein e-newyddlen am ddigwyddiadau yn y dyfodol.

Manteisiwch ar yr amrywiaeth eang o opsiynau sydd ar gael drwy VisitBritain.org i farchnata eich cynnyrch yn rhyngwladol. Dyma ambell un i’ch helpu i ddechrau:

Gwerthwch gynnyrch y gellir ei archebu mewn dros 90 o wledydd drwy visitbritainshop.com

Rhestrwch eich cynnyrch ar wefan masnach rydd VisitBritain, trade.visitbritain.com

Dewch i adnabod eich marchnad. Edrychwch ar dudalen ‘insights’ VisitBritain i gael gwybodaeth benodol am y farchnad a fydd yn gwella eich dealltwriaeth o ymwelwyr rhyngwladol.

Chwiliwch am ragor o wybodaeth am baratoi eich busnes ar gyfer ymwelwyr rhyngwladol yn visitbritain.org/ preparing-your-business

Cymru ar lwyfan y byd.

Os ydych wedi sefydlu eich hun yn y farchnad gartref ac yn awyddus i gyrraedd cynulleidfaoedd tramor drwy’r diwydiant teithio, rydym yma i’ch helpu i dyfu eich cynnyrch. Mae’r farchnad ryngwladol yn fusnes mawr i Gymru — yn naw mis cyntaf 2016, er enghraifft, croesawodd Cymru 856,000 o ymwelwyr tramor, cynnydd o 12% o gymharu â ffigurau 2015.

Sail ein brand yw dywediad sy’n cael ei briodoli i Patrick Geddes, yr ymgyrchydd cymdeithasol — ‘Meddwl yn fyd-eang, a gweithredu’n lleol’. Credwn mewn cydbwysedd rhwng y lleol a’r byd-eang — ‘Bro a byd’. Mae’n ddull gweithredu sydd â’i wreiddiau yn ein cymunedau, sy’n cael ei siapio gan ein tirwedd ac sydd â gwir bwrpas cymdeithasol (ein bro). Yr un pryd, mae’n edrych yn fwriadol tuag at allan, yn agored i syniadau a chyfleoedd newydd, ac yn barod i gystadlu ar lwyfan byd-eang (y byd). Y gorau o ddau fyd, mewn gwirionedd.

Defnyddiwch y brand.

Mae’r brand yn cyfleu Cymru fel gwlad hyderus, falch lle gall ymwelwyr ddarganfod eu profiadau epic eu hunain. #FindYourEpic #GwladGwlad.

32 33

Ein nod yw adeiladu ac atgyfnerthu hunaniaeth newydd i Gymru sy’n gyfoes, yn ysgogi ac yn ymgysylltu, gan gyfleu Cymru fel gwlad uniongyrchol, hyderus a chartrefol a dangos ein bod yn falch o bwy ydyn ni. Helpwch ni i adrodd y stori newydd hon yn 2018. I gael rhagor o wybodaeth ewch i:walesthebrand.com

Y pethau ymarferol:Y pethau ymarferol:

Page 19: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

34 35I gloi.

Os gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd byddwn yn gadael etifeddiaeth barhaol, nid atgofion yn unig, o Flwyddyn y Môr. Cofiwch, dim ond dechrau’r gwaith o ddathlu arfordir epic Cymru yw 2018.

I wneud i Gymru sefyll allan fel cyrchfan o’r radd flaenaf ym Mhrydain rydym hefyd eisiau:

Mynd i’r afael â syniadau negyddol drwy godi proffil Cymru fel cyrchfan arfordirol.

Gwella hunaniaeth y wlad yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Denu ymwelwyr newydd.

Cyfoethogi’r profiad i’n cwsmeriaid presennol.

Ysbrydoli cynnyrch ac atyniadau newydd ledled Cymru.

Cyfleu Cymru fel cyrchfan ragorol ar gyfer gweithgareddau awyr agored a diwylliannol, ac o ran treftadaeth ac antur.

Dyma ein Blwyddyn y Môr.

Page 20: 2018: Blwyddyn y Môr yng Nghymru. · 2017. 9. 28. · Blwyddyn y Môr. Yn 2018 byddwn yn dathlu arfordir bendigedig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epic newydd

Nodiadau.36

Caiff 2018: Blwyddyn y Môr ei gyhoeddi gan Croeso Cymru, is-adran Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru 2017. ISBN Print: 978-1-78859-680-0ISBN Digidol: 978-1-78859-678-7

Croeso Cymru, Llywodraeth Cymru, Canolfan QED Y Brif Rodfa, Ystad Ddiwydiannol Trefforest Trefforest, Pontypridd CF37 5YR.

Ffotograffiaeth: Hawlfraint y Goron (2017) Croeso Cymru.WG32762 Hawlfraint y Goron 2017, Croeso Cymru

croesocymru.com