4.1.15 HANES Datblygiad Addysg Gymraeg 1939 Ymlaen (4).rtf

  • Upload
    geoff

  • View
    23

  • Download
    10

Embed Size (px)

Citation preview

HANES Datblygiad Addysg Gymraeg (diweddar 7.1.15)Ers dyddiau'r Deddfau Uno (1536-43) roedd uchelwyr Cymry wedi bod yn troi eu cefnau ar yr iaith Gymraeg wrth ir Saesneg gael ei chydnabod fel iaith swyddogol Cymru. Serch hynny, erbyn 1800 roedd ysgolion cylchredol Griffith Jones Llanddowror ac ysgolion Sul Thomas Charles Y Bala wedi llwyddo i addysgu nifer fawr or werin i ddarllen a thrafod yr Ysgrythurau yn Gymraeg .Gydar datblygiadau diwydiannol, masnachol a threfol yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth y dosbarth canol i gredu bod yr iaith Saesneg oedd yn angenrheidiol iw plant ac iw hunain er mwyn dod ymlaen yn y byd. Ystyriwyd y Gymraeg yn iaith y werin bobl ac felly yn iaith isel ei statws.Cyhoeddodd adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru yn 1847 ,Y Llyfrau Gleision, a oedd yn cadarnhau cyflwr gwael addysg i blant yng Nghymru. Beirniadwyd bywyd moesol y Cymry hefyd yn yr adroddiad ac ystyried bod yr iaith Gymraeg oedd yn rhwystro Cymry uniaith rhag llwyddo yn y byd gan ei bod yn iaith crefydd ac amaethyddiaeth yn unig. Beirniadwyd yr adroddiad ai awduron o Saeson yn llym am ei sylwadau bradwrus am bobl Cymru. Serch hynny, cynyddodd y galw am addysg trwy gyfrwng y Saesneg ymysg y Cymry uchelgeisiol. Yn sgil Deddf Addysg Forster 1870 sefydlwyd rhwydwaith o ysgolion elfennol gydar Saesneg fel y cyfrwng darllen ac ysgrifennu, er dros filiwn o bobl a siaradai Cymraeg yr adeg hynny yn ol Cyfrifiad 1891, hyd at 30% ohonynt uniaith Cymraeg. Cafodd plant eu cosbi am siarad Cymraeg yn yr ysgol au gorfodi i wisgor Welsh Not o gwmpas eu gwyddau. Cefnogodd polisi wrth-Gymraeg y Llywodraeth gan nifer o athrawon a rhieni a oedd yn credu bod yr iaith yn anfantais i addysg y plant.Serch hynny i gyd, roedd cefnogwyr y Gymraeg or 1880 ymlaen, a mudiadau megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a ffurfiwyd yn 1885, yn pwyso ar yr awdurdodau i roi chwarae teg ir iaith yn ysgolion Cymru. O ganlyniad, derbyniwyd Cymraeg fel pwnc yn y dosbarth yn 1893 er nid oedd y rhan fwyaf o reolwyr ysgolion yn barod iw derbyn fel rhan o gwricwlwm yr ysgol. Un o arloeswyr addysg Gymraeg adeg hynny oedd O. M. Edwards a gredai y dylai pob plentyn o aelwyd Cymraeg cael yr hawl i dderbyn ei addysg gynradd ai addysg uwchradd yn ei famiaith. Fel Prif Arolygydd Adran Gymraeg y Bwrdd Addysg yn 1907 ymdrechodd ef i hyrwyddor Gymraeg yn y byd addysg. Ar yr un pryd ,roedd canran poblogaeth Cymru a oedd yn siaradwyr Cymraeg yn parhau i ddisgyn. Credai nifer fawr o rieni mai Saesneg oedd iaith addysg, diwylliant, y byd busnes, diwydiant a masnach ar gyfraith.Gyda datblygiad y rheilffyrdd ar diwydiant glo yn sgil y Chwildro Diwydiannol daeth nifer cynyddol o deuluoedd o Loegr i Gymru. Fel canlyniad lleihaodd canran siaradwyr Cymraeg rhwng 1891 a 1931 o 54.4% i 36.8%. Ffactor arall yn nirywiad yr iaith oedd i lawer o rieni Cymraeg methu trosglwyddor Gymraeg iw plant gan gredu mai siarad Saesneg oedd ei angen arnynt i ddod ymlaen yn y byd. Roedd datblygiad y cyfryngau torfol Saesneg- papurau newyddion, y sinema, y radio ar teledu- yn cadarnhaur gred hwn . Ar yr un pryd ,gyda lleihad dylanwad y capel ym mywyd pobl Cymru ,a oedd gydar cartref yn gadarnleoedd naturiol yr iaith Gymraeg, dirywiodd cyflwr a statws yr iaith yn y gymdeithas. Cyn y datblygiadau hyn credwyd bod dyfodol yr iaith yn ddiogel er gwaethaf ei diffyg statws yn yr ysgolion, ond gyda lleihad dylanwad y capeli a llai o rienin siarad r iaith gydau plant yn y gartref, daeth sefyllfar Gymraeg yn yr ysgolion yn fater o bwys. Sefydlwyd Adran Gymreig Bwrdd Addysg y Weinyddiaeth y 1907 a gyhoeddodd adroddiad dylanwadol yn 1927 Y Gymraeg mewn addysg a Bywyd gan bwyllgor o Gymry a oedd yn awyddus i roi lle amlwg ir Gymraeg yn yr ysgolion cynradd. Yn sgil y datblygiadau hyn , daeth pwysau cynyddol i ddarparu addysg Gymraeg a daeth nifer o rieni brwd at ei gilydd yn 1939 dan arweiniad Syr Ifan ab Owen Edwards i sefydlur ysgol gyfrwng Gymraeg swyddogol gyntaf yn Aberystwyth.Rhoddodd Deddf Addysg 1944 yr hawl i rieni mynnu bod awdurdodau addysg lleol sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac agorwyd yr ysgol gynradd gyntaf dan y drefn hon yn Llanelli ym 1947 yn dilyn ymgyrch ac arweiniodd gan Dr Matthew Williams ac Olwen Williams. Roedd nifer o ymgyrchoedd tebyg yn cael eu cynnal adeg hynny yng Nghymru ond ar y cyfan roedd ymateb llugoer gan awdurdodau addysg lleol ir syniad o addysg Gymraeg.Anogwyd awdurdodau addysg lleol i agor mwy o ysgolion Cymraeg yn dilyn Adroddiad Cyngor Ymgynghorol ar Addysg 1952, The place of Welsh and English in the Schools of Wales. Yn nodweddiadol, sefydlwyd y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn yr un flwyddyn, sefydliad sydd wedi brwydron ddiflino dros y blynyddoedd i rhoi pwysau ar yr awdurdodau i ddarparu addysg Gymraeg trwy Gymru gyfan. Gwelwyd nifer y disgyblion a nifer yr ysgolion cynradd yn cynyddun sylweddol dros y blynyddoedd a ddilynodd. Yng Nghaerdydd er enghraifft nid oedd dim ond un ysgol Gymraeg yn 1979 ond erbyn 1996 roedd y nifer wedi cod i wyth gydar nifer o ddisgyblion wedi mwy na dyblu. Un factor nodweddiadol or ysgolion hyn yw bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Roedd hyn yn arbennig o amlwg yn yr hen Sir Forgannwg Ganol lle oedd twf yn nifer y disgyblion ysgolion Gymraeg rhwng 1974 a 1996 o tua dwy fil a hanner bron saith mil a hanner. Nodwyd yr angen i ddarparu addysg Gymraeg uwchradd ar gyfer disgyblion hn yn sgil twf ysgolion cynradd Cymraeg gan yr Adroddiad. Mewn ymateb ir galw agorodd Awdurdod Addysg Sir Y Fflint Ysgol Glan Clwyd, y Rhyl yn 1956, yr ysgol gyfun Cymraeg gyntaf yng Nghymru. Agorwyd ail ysgol uwchradd yn y sir yn 1962, sef Ysgol Maes Garmon ,Yr Wyddgrug, y ddwy ysgol yn ffrwyth gwaith diflino Dr Haydn Williams ,Cyfarwyddwr Sir Y Fflint. Dangosodd Awdurdod Addysg Morgannwg Ganol ei ymrwymiad i addysg gyfrwng Gymraeg wrth sefydlu ysgol gyfun ddwyieithog yn Rhydyfelin yn 1962. Agorwyd Ysgol Gyfun Morgan Llwyd yn Wrecsam yn 1963. Roedd y datblygiadau hyn yn bwysig iawn ar ran yr iaith Gymraeg yn arbennig wrth ystyried adroddiad a gyhoeddwyd gan CBAC yn 1961 yn dangos bod dim ond 17.6% o blant rhwng 5 a 15 oedd yn medru siarad a deall Cymraeg.Gyda dwyieithrwydd fel nod ar gyfer pob disgybl yng Nghymru ar cynnydd sylweddol yn addysg cyfrwng Cymraeg sefydlwyd Pwyllgor Cymru i hyrwyddo addysg Gymraeg gan y Cyngor Ysgolion yng Nghymru yn y chwedegau. Erbyn dechraur wythdegau roedd y Cyngor , CBAC, ynghyd ag unigolion a sefydliadau ymrwymedig eraill yn gweithion ddiflino dros addysg Gymraeg. Gydag Adroddiad Gittins ar Addysg Gynradd ym 1968 yn hyrwyddor iaith Gymraeg ar adroddiad gan Cyngor yr Iaith Gymraeg 1977 yn argymell sefydlu cyfundrefn addysg ddwyieithog trwy Gymru gyfan roedd y Gymraeg wedii sefydlu ei hun fel cyfrwng addysgu. Erbyn 1984 roedd 63 ysgolion cynradd dwyieithog a 16 ysgolion cyfun dwyieithog yng Nghymru. Gwelwyd hefyd cynnydd yn y nifer o werslyfrau a deunydd Cymraeg ar gyfer athrawon a disgyblion.Cafodd sefydlur ysgolion cyfun Cymraeg cynnar effaith ar ysgolion cyfun eraill yng Nghymru. Er enghraifft, defnyddiwyd Cymraeg fel iaith ddysgu ar gyfer tri phwnc am y tro cyntaf yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda yn y chwedegau, yr ysgol gyntaf mewn ardal Gymraeg i wneud hyn. Mewn gwirionedd, prin iawn oedd y defnydd or Gymraeg fel cyfrwng dysgu yn ysgolion cyfun Gwynedd cyn sefydlur ysgolion cyfun Gymraeg ond gyda llwyddiant yr ysgolion hyn gwelwyd cynnydd mewn darpariaeth addysg Gymraeg mewn ysgolion eraill yn ystod y saithdegau. Unwaith eto roedd galw cryf gan rieni am addysg Gymraeg ar gyfer eu plant yn allweddol i sicrhau ei llwyddiantYn fras, gellir gweld tri cham hanesyddol yn natblygiad addysg Gymraeg o ganlyniad ir galw gan rieni. Ymgyrchoedd rhieni Cymraeg i sicrhau addysg Gymraeg iw plant mewn ardaloedd Saesneg a arweiniodd at sefydlur ysgolion Gymraeg cyntaf . Gyda llwyddiant yr ysgolion hyn, yn sgil ansawdd y ddysgu yn anad dim, daeth pwysau cynyddol gan rieni di-Gymraeg mewn ardaloedd Saesneg am addysg Gymraeg ar gyfer eu plant nhw. Daeth y trydydd cam wrth i rieni Cymraeg galw am sicrhau addysg Gymraeg iw plant mewn ardaloedd Cymraeg, yn arbennig yn sgil mewnlifiad teuluoedd o Loegr i gefn gwlad Cymru .Datganodd yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym 1981 y dylai addysg ddwyieithog fod ar gael i bob disgybl os dyna oedd dymuniad eu rhieni. Dyna oedd prawf o ddylanwad y galw gan rieni am addysg Gymraeg a neges glir i awdurdodau addysg lleol am eu cyfrifoldebau nhw wrth baratoi addysg ddwyieithog. Gyda mewnlifiad teuluoedd o Loegr i Cefn Gwlad Cymru dechraur wythdegau daeth pwysau ar yr iaith Gymraeg yn y cymunedau hyn. Ymgyrchodd Cymdeithas yr Iaith dros sefydlu Corff Datblygu Addysg Gymraeg yn sgil y datblygiadau hyn. Arweiniodd hyn at sefydlu Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg ym 1986 i gydlynu datblygiadau yn y maes, gwaith a drosglwyddwyd gan Deddfau Diwygio Addysg 1988 a 1993 i gyrff statudol megis Awdurdod Cwricwlwm ac Asesu Cymru. Roedd y nod i hyrwyddor iaith Gymraeg yn effeithiol ac mewn ffordd gyson ym mhob sector or gyfundrefn addysg.Maer prif amcan wedi bod i gydnabod dymuniadau rhieni wrth ddarparu addysg Gymraeg ar gyfer plant Cymru. Mae arwyddion cynyddol bod rhieni yn dod yn fwyfwy ymwybodol o bwysigrwydd yr iaith fel cyfrwng addysg a'i rl allweddol wrth ddiffinio hunaniaeth pobl Cymru.Un sefydliad sydd wedi bod yn allweddol yn nhwf addysg Gymraeg ers ei sefydlu yn 1971 yw Mudiad Ysgolion Meithrin. Mae addysg feithrin yn gosod sylfaen ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac addysgol plant ifainc sydd yn parhau ar gyfer gweddill eu bywydau ac maer Mudiad yn rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Ers ei sefydlu mae r Mudiad wedi tyfun sylweddol. Roedd 120 o gylchoedd meithrin a 160 Cylchoedd Mam a Phlentyn yn 1984 yng Nghymru. Yn l adroddiad blynyddol 2012-13 y Mudiad mae nifer o gylchoedd meithrin yn 550 ar nifer o gylchoedd Ti a Fi yn 450, gyda 200 staff cyflogedig a 1500 staff yn gweithio yn y cylchoedd meithrin. Er gwaethaf y siom yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad 2011 , mae nifer o blant tair a phedair oed syn medrur Gymraeg wedi codi yn yr un cyfnod o 18.8% i 23.6%. Dyma dystiolaeth o lwyddiant parhaol Mudiad Ysgolion Meithrin wrth hyrwyddo addysg feithrin Cymraeg ledled Cymru. Mudiad Meithrin adroddiad blynyddol 2012-13http://www.meithrin.co.uk/creo_files/upload/downloads/adrodiad_blynyddol_2012-2013.pdfSefydliad arall a gafodd ddylanwad ar addysg Gymraeg oedd Bwrdd Yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Prif nod y Bwrdd oedd hyrwyddor defnydd or iaith ac yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithredur egwyddor o drin y Gymraeg a Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau ir cyhoedd. Fel rhan ou dyletswyddau hyn roedd rhaid ir cyrff hyn baratoi cynllun iaith i ddangos sut y bwriadwn wneud hyn ac roedd rhaid ir cynlluniau hyn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd.Roedd dau brif gyfrifoldebau gan y Bwrdd yn y maes addysg Gymraeg : gor-uwchwilio cynlluniau addysg Gymraeg yr awdurdodau addysg lleol; arolygu pob agwedd o addysg Gymraeg ym mhob sector ,o addysg feithrin i Gymraeg i Oedolion. Yn sgil y swyddogaeth gyntaf pwysleisiodd y Bwrdd y dylai addysg ddwyieithog neu addysg Gymraeg fod ar gael i bob plentyn y maeu rhienin dymuno iddynt gael addysg or fath. Wrth gyd-weithio r Mudiad Ysgolion Meithrin roedd y Bwrdd yn weithgar wrth farchnata addysg feithrin Cymraeg i sicrhau gwybodaeth lawn i rieni wrth iddynt ddewis yr addysg gynnar briodol ar gyfer eu plant ac i hyrwyddo pobl ifanc i ddefnyddior iaith ym mhob agwedd ou bywydau gan gynnwys hyfforddiant, cyrsiau galwedigaethol a NVQau cyfrwng Cymraeg. Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2012 o ganlyniad i Fesur Y Gymraeg (Cymru) 2011 gydau cyfrifoldebau yn y maes addysg yn cael eu trosglwyddo ir Gweinidog dros Addysg Llywodraeth Cymru. Datblygiad Gwahanol Fathau o Ysgolion yng NghymruFel y gwelwyd, cafodd datblygiad addysg Gymraeg yng Nghymru ei llywio yn y dyddiau cynnar gan alw rhieni ac ymroddiad unigolion yn bennaf. Serch hynny, mae deddfwriaeth llywodraeth leol ac addysg Llywodraeth San Steffan wedi cael effaith pellgyrhaeddol ar bolisau addysg Gymraeg awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn ogystal datblygiad y gwahanol fathau or ysgolion yng Nghymru. Mae newidiadau cymdeithasol ac ieithyddol, yn arbennig mewn ardaloedd traddodiadol Cymraeg ers yr 1980au ,hefyd wedi effeithio ar ddarpariaeth addysg Gymraeg gan ysgolion yr adaloedd hyn.O 1944 a Deddf Addysg Butler ir saithdegau roedd awdurdodau lleol yn gyfrifol am addysg mewn ysgolion ac roedd yr athrawon yn trefnur dysgu . Fel y gwelwyd, sefydlwyd ysgolion Cymraeg i ran helaeth mewn ymateb ir galw o rieni, yn y lle cyntaf or dosbarth canol Cymraeg mewn ardaloedd Seisnigaidd er erbyn diwedd y chwedegau roedd y galw yn amlwg ymysg pob dosbarth cymdeithasol.Rhwng 1970 a chanol y nawdegau gwelwyd dau newid sylfaenol gyda gwleidyddion yn cymryd mwy o reolaeth dros addysg gydar Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn sefydlur Cwricwlwm Cenedlaethol. Dan y Ddeddf roedd mwy o gyfrifoldeb am redeg ysgolion yn mynd i lywodraethwyr oedd yn derbyn cyllid -yn ddibynnol ar nifer ac oedran y disgyblion yn bennaf -gan yr awdurdod lleol i ddarparu addysg ir disgyblion a chynnal a chadwr adeilad. Fel canlyniad, mae rl yr awdurdodau lleol wedi lleihau. Un nod honedig y ddeddfwriaeth hon oedd ehangu dewis a rheolaeth rhieni dros addysg eu plant a chynyddur nifer o ysgolion llwyddiannus. Serch hynny, nid yw'r nod hon yn cael ei gwireddun aml yng Nghymru .Er enghraifft , anaml yw dewis rhwng ysgolion ar gael i rieni yng nghefn gwlad Cymru neu roedd costau cludor plant yn rhy ddrud.Yn y cyd-destun addysg Gymraeg roedd her arbennig er mwyn diogelu a datblygu ar y llwyddiant yn y maes dros yr hanner canrif ddiwethaf yn sgil y datblygiadau hyn ynghyd newidiadau natur ieithyddol a chymdeithasol cymunedau cefn gwlad Cymru . Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996 roedd amrywiaeth mawr yn narpariaeth addysg Gymraeg. Yn y sector uwchradd ym Mhowys ,er enghraifft, gyda maint y sir ai phoblogaeth fach, wasgaredig nid oedd ysgol uwchradd Gymraeg a dysgid addysg Gymraeg mewn wyth o ysgolion traddodiadol y sir gyda chryn amrywiaeth yn y ddarpariaeth rhwng yr ysgolion.Gydar mewnlifiad pobl uniaith Saesneg i mewn i ardaloedd Cymraeg yng Ngwynedd a Dyfed yn yr 1980au roedd ysgolion cynradd Cymraeg yn wynebu problemau arbennig wrth ddarparu addysg gynradd Gymraeg i blant y mewnfudwyr. Sefydlwyd canolfannau iaith yng Ngwynedd i integreiddior disgyblion newydd trwy eu trochi yn yr iaith am dri mis.Sefydlwyd canolfannau iaith yn Nyfed hefyd yn ogystal rhoi pob ysgol gynradd mewn category yn l natur ieithyddol ei chymuned . Byddair Gymraeg iaith swyddogol a phrif gyfrwng dysgu mewn ysgolion mewn ardaloedd traddodiadol Cymraeg. Mewn ardaloedd wediu Seisnigeiddio byddair Gymraeg yn gyfrwng addysg feithrin ac addysg plant bach er mwyn cryfhaui defnydd yn yr adran iau. Roedd ysgolion mewn ardaloedd ieithyddol cymysg yn gweithredu dwy ffrwd, un yn dilyn y polisi cyntaf ar llall yn dilyn yr ail bolisi. Nod yr ysgolion i gyd oedd sicrhau bod disgyblion yn rhugl yn y ddwy iaith erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol uwchradd,Yn sgil Sefydlur Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru dan y Ddeddf Diwygio Addysg 1988 daeth y Gymraeg yn bwnc gorfodol fel iaith gyntaf neu fel ail iaith yn ysgolion Cymru a ariannwyd gan awdurdodau lleol. Yn 1990 daeth gofynion ar gyfer Cymraeg fel ail iaith yn y Cwricwlwm Cenedlaethol I rym yn ysgolion cynradd ac uwchradd. Roedd disgwyl I bob disgybl o oedrannau 5, 7,a 11 lle addysgwyd Cymraeg yn barod, dysgur iaith 0 1993 ymlaen. Roedd pob disgybl 14 oed i ddysgur iaith o 1993 ymlaen. O 1992 ymlaen roedd amserlen wedi ei pharatoi iw chyflwyno fel ail iaith i bob disgybl mewn ysgolion lle nad oedd Cymraeg yn rhan or cwricwlwm yr ysgol yn barod. Daeth yn bwnc gorfodol i bob disgybl hyd at 16 oed erbyn 1999.Roedd sialens fawr yn wynebu ysgolion cynradd yn arbennig, gydar rhan fwyaf or staff yn ddi-Gymraeg. Roedd angen hyfforddi a chefnogir athrawon hyn, gydag ymgynghorwyr Cymraeg yr awdurdodau lleol yn cymryd rl allweddol yn y cyswllt hwn. Yn y dyddiau cynnar roedd gwaith pwysig wedii wneud gan athrawon bro wrth drefnu cyrsiau hyfforddi a chefnogi athrawon yn y dosbarth. Roeddent hefyd yn amlwg wrth ddysgu plant uniaith Saesneg mewn canolfannau Cymraeg mewn ardaloedd lle mai Cymraeg oedd iaith ddysgu naturiol yr ysgol.Yn yr ysgolion uwchradd roedd y pwyslais ar gyrsiau byr yn canolbwyntio ar anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol megis gwaith lafar mewn grwpiau, sgiliau darllen ac asesiad cyraeddiadau disgyblion. Er bod gwaith da wedii wneud yn y maes hwn mae nifer o heriau i wella safonau. Gyda nifer o athrawon ysgolion cynradd yn ddysgwyr eu hunain mae angen datblygu eu sgiliau yn yr iaith yn arbennig ymysg y rheini syn dysgur oedran 9-11. Mae angen sicrhau dilyniant ieithyddol trwy gydweithredu rhwng ysgolion wrth i ddisgyblion symud or ysgol gynradd ir ysgol uwchradd. Mae her arbennig wrth ddarparu gwersi Cymraeg fel ail iaith i bob disgybl hyd at 16 oed.Fel mae adroddiad diweddar dan yr athro Sioned Davies ar ddysgu Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion uwchradd yn dadlau, mae angen newidiadau ir ffordd tua 80% o ddisgyblion Cymru yn derbyn eu haddysg Gymraeg :Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith... mae cyrhaeddiad iselmewn Cymraeg ail iaith wedi cael ei dderbyn fel y norm. Os ydym o ddifrifyngln datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newidcyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr... Adolygiad o Gymraeg ailiaith yng NghyfnodauAllweddol 3 a 4Adroddiad ac argymhellionMedi 2013http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/130926-review-of-welsh-second-lan-cy.pdfYmysg argymhellion yr adroddiad yw : sicrhau mwy o ddysgu cyfwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg; cynyddur nifer o oriau dysgur Gymraeg mewn ysgolion; gwellar hyfforddiant i athrawon syn dysgu Cymraeg fel ail iaith; sicrhau dilyniant ieithyddol clir wrth i ddisgyblion trosglwyddo or ysgol gynradd ir ysgol uwchradd ; rhoi statws cydradd ir Gymraeg ail iaith phynciau craidd y Cwricwlwm Cenedlaethol; datblygu TGAU Gymraeg Ail iaith llawn newydd; sicrhau bod digon o athrawon chymwysterau a sgiliau ieithyddol i ddysgur iaith mewn ysgolion; cynyddur cyfleoedd yn yr ysgol i ddisgyblion defnyddior Gymraeg yn anffurfiol y tu allan ir dosbarth;Datblygiadau diweddar Erbyn 2012 roedd 461 ysgolion cynradd Cymraeg gyda 62,446 o ddisgyblion, a 56 ysgolion cyfun gyda 41,262 o ddisgyblion trwy Gymru gyfan. Mae addysg Gymraeg wedi sefydlu ei hunan yng Nghymru mewn cyfnod cymharol fyr felly, ac yn ddiau un or prif resymau am hyn oedd ansawdd uchel addysg yn yr ysgolion yn ogystal chefnogaeth ac ymgyrchu frwd gan y rhieni.Mae rhan helaeth o ysgolion yng Nghymrun cael eu hariannu gan awdurdodau addysg lleol .Ymysg ysgolion cynradd mae pedwar categorau yn l eu defnydd or Gymraeg ers 2008. Mewn ysgolion cynradd Categori 1 mai Cymraeg ywr prif gyfrwng dysgu ar iaith gyfathrebu o ddydd i ddydd yn yr ysgol gydar Saesneg yn cael ei chyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 2 . Maer ddwy iaith yn cael eu darparu mewn Ysgolion Cynradd Dwy Ffrwdd category 2, ac mae rhieni/disgyblion yn dewis y Gymraeg neur Saesneg fel prif iaith ddysgu. Mae Ysgolion Cynradd Trawsnewidiol yw category 3, lle Cymraeg ywr iaith ddysgun bennaf gyda defnydd sylweddol or Saesneg. Mewn category 4 mae ysgolion yn dysgu trwy gyfrwng Saesneg yn bennaf ond defnydd sylweddol or Gymraeg. Ysgol cyfrwng Saesneg yn bennaf yw category 5 gyda llai na 20% or dysgu trwyr Gymraeg.Mae pedwar categorau ysgolion uwchradd. Addysgir pob pwnc heblaw am Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgybl yn Ysgolion Uwchradd Cyfrwng Gymraeg, sef y category cyntaf. Yn yr ail gategori, Ysgolion Uwchradd Dwyieithog, mae pedwar isadran : 2A lle addysgir o leiaf 80% o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg; 2B lle addysgir o leiaf 80% o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg; 2C lle addysgir rhwng 50-79% o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg ; 2CH lle addysgir pob pwnc i bob disgybl gan ddefnyddior naill iath neur llall. Mae category 3 yn gynnwys Ysgolion Uwchradd Cyfrwng Saesneg yn bennaf gyda defnydd sylweddol or Gymraeg (20-49% o bynciau). Mewn Ysgolion category 4 ,Saesneg ywr brif iaith dysgu, gyda Chymraeg yn cael ei dysgu fel ail iaith hyd at Cyfnod Allweddol 4.Fel mae datblygiadau'r gwahanol ysgolion yn dangos, darpariaeth ddwyieithog yn cyfeirio at amrywiaeth eang o leoliadau addysgu lle y defnyddir y Gymraeg ar raddfa wahanol iawn fel cyfwng dysgu.Er bod canlyniadau'r Cyfrifiad 2011 yn siomedig wrth ddangos gostyngiad yn y nifer o siaradwyr Cymraeg ers 2001 ,dangosodd fod y nifer o blant dan bump syn siarad Cymraeg wedi cynyddu. Mae nifer y plant rhwng 5-14 syn siarad Cymraeg wedi aros yn ei unman mwy neu lai at tua 40%.Gweledigaeth Llywodreath Cymru yn y dogfen Iaith Pawb yn 2003 oedd creu Cymru ddwyieithog : lle y gall pobl ddewis byw eu bywydau naill aidrwy gyfrwng y Gymraeg neur Saesneg neur ddwy iaith Iaith PawbMae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi ei hymrwymiad i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn ei dogfen Strategaeth Addysg Cyfwng Cymraeg 2010. Ffocws allweddol y Strategaeth yw cynorthwyo dysgwyr i fod yn rhugl yn y Gymraeg ar Saesneg drwy addysg cyfrwngCymraeg, or blynyddoedd cynnar ymlaen. Maen datgan ei gweledigaeth i :Cael system addysg a hyfforddiant syn ymateb mewn ffordd wedii chynllunio ir galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/100420welshmediumstrategycy.pdf" http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/100420welshmediumstrategycy.pdfWrth nodir galw cynyddol am addysg cyfwng Cymraeg maer ddogfen yn tanlinellu maint y cynnydd diweddar yn y nifer o ysgolion Gymraeg, gyda 29% o ysgolion cynradd (438) yn ysgolion cyfrwng Cymraeg a 21% o ddysgwyr oedran cynradd yn derbyn eu haddysg yn bennaf trwyr Gymraeg erbyn 2009 cynnydd o 17.7% yn 1999 pan ddechreuodd y Cynulliad. Mae nifer ysgolion uwchradd syn darparu gwersi trwyr Gymraeg mewn mwy na hanner pynciaur cwricwlwm wedi cynyddu i 55 neu 25% o holl ysgolion uwchradd. Wrth gydnabod llwyddiant y twf mewn addysg Gymraeg dros yr hanner can mlynedd ddiweddar maer llywodraeth yn cydnabod rl allweddol a pharhaol rhieni /gofalwyr wrth bwyso ar awdurdodau addysg lleol i ddarparu addysg gyfrwng Cymraeg ac i roi gwybodaeth glir am natur ieithyddol y gwahanol ysgolion. Cydnabyddir bod y ddarpariaeth yn annigonol i gwrdd r galw mewn sawl ardal o hyd.