156
Quotations throughout are taken from artists’ feedback contentscynnwys Cyflwyniad 16 Nodiadau 24 Artistiaid 30 Introduction 4 Notes 12 Artists 30 "Aberystwyth had a significant impact on my practice...and I'm still working on ideas that were planted whilst there. It was an inspiring place to be"

66 Residents at Creative Units

Embed Size (px)

DESCRIPTION

This publication features the 66 artists who took part in the "Artists in Residence" programme.

Citation preview

Page 1: 66 Residents at Creative Units

Quotations throughout are taken from artists’ feedback

contentscynnwysCyflwyniad 16 Nodiadau 24 Artistiaid 30

Introduction 4 Notes 12 Artists 30

"Aberystwyth had a significant impact on my practice...and I'm still working on ideas that were planted whilst there. It was an inspiring place to be"

Page 2: 66 Residents at Creative Units

INTRODUCTION

Eve Ropek exhibitions curator at

Aberystwyth Arts Centre & Residencies

programme director

Aberystwyth Arts Centre

Artists’ Residencies In 2009 Aberystwyth Arts Centre, a department of

Aberystwyth University, opened an award winning

complex of eighteen Creative Studios, designed by

Thomas Heatherwick, for artists and creative

businesses; three of these distinctive units have been

reserved for use in a rolling programme of temporary

Artists in Residence. Since the Studios opened there

have been either two or three visual artists at a time,

from both the UK and elsewhere in the world, spending

three months 'in residence' in Aberystwyth. This

publication features the first 34 artists to take part in

the programme, which has been made possible by

funding from: Esmée Fairbairn Foundation, which

enabled the project to be first launched; Garfield

Weston Foundation; Wales Arts International, Laura

The residencyat Aberystwythgave me threemonths ofuninterruptedtime toconcentrate onmy art practice,which is anamazing thing

4

Page 3: 66 Residents at Creative Units

Ashley Foundation, Meduse Quebec, Finnish Arts

Studio, Umbrella Arts Australia and Charles Wallace

Foundation (Pakistan); Aberystwyth Arts Centre

provided further financial and 'in kind' support.

Some moments from the past 3 years: an artist

making huge sculptures out of plastic bags and using

individual bags as the subjects of her films - ethereal,

unexpectedly beautiful; another blacking out his studio

windows, working long hours making a film by drawing

with torchlight; another involving new local friends and

contacts in his performances and films which pay

tribute to arcane folk practices. Yet others have

painted, drawn, made ceramics and researched

throughout their time in Aberystwyth, made

installations and performances and installed

permanent sculptures. Each artist gives a free public

talk about their work and holds Open Studio towards

the end of their stay, and many have made lasting

friends and connections.

So what are visual artists' residencies for? Most visual

artists tend to work in relative isolation, often with a

'portfolio career' to keep the books balanced; over

time an artist's career has fewer official milestones

Such aresidencyshould be amandatoryevent for allartists

5

Page 4: 66 Residents at Creative Units

than many professions. A residency is part award,

part 'time out', part stimulus to the imagination. There

are many different models of residencies, but the aim

of Aberystwyth Arts Centre's programme has been to

offer artists the opportunity for supported, self-directed

time in which to research and develop individual

artistic practice, and the chance to exchange ideas in

a creative atmosphere. As an artist commented:

'Artists' residencies are invaluable. They provide not

only space and time but a complete mental break

from routine.'

The communities of Aberystwyth and the Arts Centre

also benefit from residencies, which offer an engaging

and immediate insight into artists' working practices.

The public talks and Open Studio sessions, which all

artists in residence deliver, act as a bridge between

the artists and local people. More directly, some of the

residencies have included participatory sessions for

the public; although these need additional fund-raising

in order to cover professional fees for the artists, they

have proved to be effective both for the participants

and for the resident artists who become rooted in the

community more quickly.

I will mentionthe ArtsResidency inglowing termsto any futureaudiences Ihave whengiving talks and classes.

6

Page 5: 66 Residents at Creative Units

An independent evaluation of the Artists' Residency

programme in 2010 and 2011 was commissioned;

this proved overwhelmingly positive, and offered

suggestions for future development. Extracts from the

report follow:

Evaluation of Residencies programme at

Aberystwyth Arts Centre (extract)

by Clare Thomas Arts Consultant

It is clear from this evaluation of the first complete

cycle of the Artists' Residencies Programme at

Aberystwyth Arts Centre that the programme has

fulfilled, indeed has exceeded its aims. The artists'

views, which are mirrored by those of staff, indicate

that the programme is well thought out, well managed,

with good systems and support mechanisms in place.

It meets the needs of the artists extremely well.

Mutual benefits

In common with many other such schemes, the Arts Centre

Programme and its associated local, regional and even

national communities (of artists, visitors, participants etc.) have

benefitted from residencies as much if not more than the

It was anhonour to bechosen for thisresidency.Thank you forthe excellentexperience.

7

Page 6: 66 Residents at Creative Units

artists. The positive impact the residency programme has

already had on the Arts Centre, such as raising profile, status,

increased community engagement, greater access to

international networks, the creation of and access to new

work, and the development and re-invigoration of audiences,

provides powerful arguments for the further development of

the programme.

The Artists' Residencies Programme, the only one of its kind

in Wales, therefore, can already demonstrate the contribution

it makes to the local community, and to the arts at regional

and in some cases, at national level.

A powerful means of creative innovation

The injection of fresh creative ideas and energy

through the diverse range of artists who visit

Aberystwyth cannot be underestimated, bearing in

mind Aberystwyth's rural location. The contribution the

programme makes to the overall development of

partnerships, creative output, bodies of work, profile

and status, is perhaps difficult to quantify, but is

significant in its impact on the work and development

of the Arts Centre at all levels.

The contribution to the arts regionally and nationally

The very many interactions between artists, local

communities, visitors and local people provided

Simply tohave the timeand space towork as anartist in asupportiveenvironmentis incrediblyimportant

8

Page 7: 66 Residents at Creative Units

evidence of a substantial contribution to the region, for

example through links with the National Library of

Wales, and the events organised by the Arts Centre,

including the International Ceramics Festival. Activities

in which the artists were involved included:

o resident artist talks

o end of residency shows

o activities at the National Library of Wales and

other local venues

o workshops, studio openings and local

exhibitions

o social contact with local and other

visiting artists

In terms of the impact on the arts in Wales, artists felt

that the programme is stimulating new work which will

raise the reputation of Aberystwyth in a national

context. One artist stated:

I think the whole programme is making Aberystwyth

a richer and more innovative artistic hub.

The accumulation of artists from different cultures

and practices has [made this happen].

another said:

I am currently making work resulting from research

Most beautifulstudio I haveever workedin… Lightingwas excellent,natural lightprovided bythe skylightsand windowswas perfect.

9

Page 8: 66 Residents at Creative Units

undertaken whilst at Aberystwyth and I believe that

this body of work contributes to the arts in Wales.

...I foresee that as the international element of the

residencies develop, so too will the relationships with

international arts organisations. Aberystwyth is

geographically remote and so I see this as a real

positive. New philosophies on making art, diverse

practices…

In summary the scheme:

o Exceeded expectations of the resident artists

o Benefitted their creative development

o Provided beautiful studios, accessible 24/7,

in which to take time out

o Benefitted the Arts Centre in a number of

important ways: raising its profile and status,

bringing in new ideas and creative energy,

developing new audiences and stimulating

local artistic communities

o Provided opportunities for artists to visit other

places and people in Wales, and become

familiar with Wales as a place to work

o Provided welcome and essential financial

support for artists

I was reallywell lookedafter and had loads offun… I have itin mind toreturn toAberystwyth…

10

Page 9: 66 Residents at Creative Units

It has the potential to:

o Develop an international profile

o Make stronger links with the arts

communities in Wales.

o Provide more professional development

for artists.

o Develop in other ways such as through

themed programmes, e.g. print making,

sculpture.

o Build through alumni the potential for

future festivals (real and virtual),

mentoring and collaboration.

Gallery andartists' visitsgave me adeeperunderstandingof where I amin terms ofprofessionaldevelopmentand where Iwant to go.

11

Page 10: 66 Residents at Creative Units

Notes: Aberystwyth (population c. 25,000) is a

town at the edge of Cardigan Bay, surrounded by sea

and the beautiful landscape of Wales. Though small

and relatively isolated it punches above its weight as

it is home to institutions including Aberystwyth

University, the National Library of Wales, the National

Screen and Sound Archive of Wales, the Royal

Commission on the Ancient and Historical Monuments

of Wales among other organisations which have

provided fruitful seams to mine for some artists in

residence, and supply a great mix of expertise and

interest for those who are inclined to follow it up.

“The latest theories of economic development, for

example those forwarded by Manuel Castells, stress

the importance of place, culture and identity in

economic prospects. Aberystwyth Arts Centre

provides both the 'bread' of jobs and incomes in the

locality, and the 'circus' of high quality arts

performance and cultural space that protects and

develops the uniqueness of its local place.”

Economic Impact Study, Cardiff Business school

"I was

completely

charmed by

Aberystwyth

and Wales."

12

Page 11: 66 Residents at Creative Units

Aberystwyth Arts Centre is a department of

Aberystwyth University and a vibrant, award winning

arts facility; it is the largest arts centre in Wales,

including 2 galleries, theatre, concert hall, cinema and

more, with a wide-ranging programme of events and

activities across all art forms as well as a thriving

community arts education programme. In 2000, the

Arts Centre completed a major £4.3 million

redevelopment project largely funded by the National

Lottery, and has facilities unrivalled throughout much

of the UK; leading it to be recognised as a national

centre for arts development and described as a

'national flagship for the arts.' Over 700,000 visitors

a year are welcomed.

"Staff at the Arts

Centre…went out of

their way to assist with

any problem that I faced

technically, or in terms

of needing promotional

materials, etc."

13

Page 12: 66 Residents at Creative Units

The award winning Creative Studios in

which the resident artists are based were designed by

the award winning Thomas Heatherwick studio and

their construction was supported by the Welsh

Development Agency and the Arts Council of Wales.

With their crinkled stainless steel cladding they look

very distinctive but the interiors are practical,

accessible to the disabled and easily adaptable to

many needs. The Studios are occupied long term by

artists and creative businesses, apart from the three

reserved for residencies. Funding for residencies to

date has been generously given by various charitable

bodies including Esmee Fairbairn Foundation - without

whose generous support it would not have been

possible to launch the programme. Other support has

been forthcoming from: Garfield Weston Foundation;

Wales Arts International, Laura Ashley Foundation,

Meduse Quebec, Finnish Arts Studio, Umbrella Arts

Australia and Charles Wallace Foundation (Pakistan).

Aberystwyth Arts Centre provides further financial and

'in kind' support.

"Most beautiful studio

I have ever worked in...

Lighting was excellent,

natural light provided by

the skylights & windows

was perfect."

14

Page 13: 66 Residents at Creative Units
Page 14: 66 Residents at Creative Units

CYFLWYNIAD

Eve Ropek Curadur arddangosfeydd yng

Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac

Arweinydd y rhaglen Breswyl.

Cyfnodau Preswyl i Artistiaid yngNghanolfan y CelfyddydauAberystwythBu Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, rhai

blynyddoedd yn ôl, yn agor cyfres o 16 o Stiwdios

Creadigol, a ddylunwyd gan gwmni Thomas

Heatherwick, ar gyfer artistiaid a busnesau creadigol.

Clustnodwyd tair o'r unedau hyn ar gyfer cynnal

rhaglen o Artistiaid Preswyl dros dro. Ers i'r Stiwdios

agor ym mis Medi 2008, bu dau neu dri artist gweledol

ar y tro, o'r DU ac o rannau eraill o'r byd, yn treulio

cyfnod preswyl o dri mis yma yn Aberystwyth.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn nodweddu'r 34 artist cyntaf i

gymryd rhan yn y rhaglen, a wnaethpwyd yn bosibl yn

sgil nawdd oddi wrth: Sefydliad Esmee Fairbairn, a

alluogwyd lansio'r prosiect; Sefydliad Garfield Weston;

Celfyddydau Cymru Rhyngwladol; Sefydliad Laura

Ashley; Meduse Quebec; Stiwdio Gelf y Ffindir,

Rhoddodd ycyfnod preswylyn Aberystwythdri mis o amserdi-dor i mi iganolbwyntio arf’ymarfer celf,sydd ynrhywbethanhygoel.

16

Page 15: 66 Residents at Creative Units

Umbrella Arts Awstralia a Sefydliad Charles Wallace

(Pacistan). Mae Canolfan y Celfyddydau yn cyfrannu

rhagor o gefnogaeth ariannol ac ymarferol.

Rhai fomentau cofiadwy o'r tair blynedd diwethaf: Artist

yn creu cerfluniau enfawr allan o fagiau plastig ac yn

defnyddio bagiau unigol fel gwrthrychau ei ffilmiau -

etheraidd, yn annisgwyl o brydferth; artist arall yn

gorchuddio ffenestri'r stiwdio, yn gweithio oriau hir yn

gwneud ffilm trwy arlunio gyda golau torch; un arall yn

cynnwys ffrindiau a chysylltiadau newydd lleol yn ei

berfformiadau a ffilmiau, yn talu teyrnged i ymarferion

gwerin dirgel. Bu eraill wedyn yn paentio, arlunio, creu

serameg ac ymchwilio yn ystod eu hamser yn

Aberystwyth, yn creu gosodweithiau a pherfformiadau

ac yn gadael cerfluniau parhaol.

Bu pob artist yn rhoi anerchiad cyhoeddus yn rhad

ac am ddim am eu gwaith ac yn cynnal sesiwn

Stiwdio Agored tua therfyn eu harhosiad ac mae llawer

ohonynt wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau

gwerthfawr.

Felly beth yw pwrpas cyfnodau preswyl i artistiaid

gweledol? Mae'r rhan fwyaf o artistiaid gweledol yn

tueddu i weithio ar eu pennau eu hunain, yn aml gyda

rhyw fath o waith arall i dalu'r biliau; dros amser mae

Dylai cyfnodpreswyl o’rmath fod ynbrofiad gorfodol i bob artist.

17

Page 16: 66 Residents at Creative Units

'na lai o gerrig milltir swyddogol mewn gyrfa artist nag

sydd mewn meysydd proffesiynol eraill. Mae cyfnod

preswyl yn rhannol yn wobr, yn 'amser allan' ac yn

rhywbeth i symbylu'r dychymyg. Mae 'na lawer o

wahanol fathau o gyfnodau preswyl, ond bwriad rhaglen

Canolfan y Celfyddydau oedd i gynnig i artistiaid y cyfle i

fanteisio ar amser noddedig, hunan-gyfeiriol i ymchwilio

a datblygu ymarfer artistig unigol, a'r cyfle i gyfnewid

syniadau mewn awyrgylch creadigol. Fel y dywedodd un

o'r artistiaid:

''Mae cyfnodau preswyl i artistiaid yn hynod werthfawr.

Maent yn darparu nid yn unig gofod ac amser ond

seibiant meddyliol llwyr.”

Mae cymuned Aberystwyth a'r Ganolfan hefyd ar eu

hennill yn sgil y rhaglen, sy'n cynnig cipolwg diddorol ar

ymarferion gwaith yr artistiaid. Mae'r anerchiadau

cyhoeddus a'r sesiynau Stiwdio Agored yn gweithredu fel

pont rhwng yr artistiaid a phobl leol. Yn fwy uniongyrchol,

bu rhai o'r cyfnodau preswyl yn cynnwys sesiynau lle

'roedd aelodau o'r cyhoedd yn gallu cymryd rhan, er bod

angen nawdd ychwanegol ar y rhain i dalu costau

proffesiynol yr artistiaid. Bu'r sesiynau hyn yn hynod

effeithiol i'r cyfranogwyr - yn ogystal ag i'r artistiaid

preswyl a ddaeth yn rhan o'r gymuned yn fwy cyflym.

Byddaf yn sônam y CyfnodPreswyl mewntermau brwdiawn i unrhywgynulleidfa yn ydyfodol pan‘rwyf yn rhoianerchiadau acyn cymryddosbarthiadau.

18

Page 17: 66 Residents at Creative Units

Comisiynwyd Clare Thomas i baratoi gwerthusiad

annibynnol o'r Rhaglen Artistiaid Preswyl yn ystod 2010

a 2011; bu'r adroddiad yn un positif drosben, gan gynnig

awgrymiadau ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Gwelir

dyfyniadau o'r adroddiad isod.

Gwerthusiad o raglen Artistiaid Preswyl Canolfan

y Celfyddydau Aberystwyth (Dyfyniadau)

by Clare Thomas

Mae'n glir o'r gwerthusiad cyntaf hwn o Raglen

Cyfnodau Preswyl Canolfan y Celfyddydau

Aberystwyth bod y rhaglen wedi cyflawni, ac yn wir

wedi rhagori ar yr amcanion gwreiddiol. Mae sylwadau'r

artistiaid, sy'n cydfynd â rhai'r staff, yn dynodi bod y

rhaglen yn un gynhwysfawr sy'n cael ei rheoli'n dda ac

sydd â systemau effeithiol a chefnogaeth frwd yn perthyn

iddi. Mae'n cyfarfod ag anghenion yr artistiaid yn

arbennig o dda.

Cyd fanteision

Fel llawer o gynlluniau eraill o'r math, mae Rhaglen y

Ganolfan wedi bod o fudd i'r Ganolfan ei hun a'i

chymunedau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol

(o artistiaid, ymwelwyr, cyfranogwyr ayyb), yn ogystal ag

i'r artistiaid. Mae'r effaith bositif y mae'r rhaglen breswyl

wedi cael ar y Ganolfan eisoes, o safbwynt codi proffil,

‘Roedd yn frainti gael fy newisar gyfer ycyfnod preswylhwn. Diolch amy profiadardderchog.

19

Page 18: 66 Residents at Creative Units

statws, rhagor o gysylltiad â'r gymuned, mynediad i

rwydweithiau rhyngwladol, creu gwaith newydd a datblygu

ac ehangu cynulleidfaoedd, yn ddadl gref o blaid datblygu'r

rhaglen ymhellach.

Felly, gall y Rhaglen Artistiaid Preswyl, yr unig un o'i math

yng Nghymru, ddangos eisoes y cyfraniad y mae'n gwneud

i'r gymuned leol, ac i'r celfyddydau ar lefel ranbarthol, ac

mewn rhai achosion, ar lefel genedlaethol.

Cyfrwng pwerus ar gyfer dyfeisgarwch creadigol

Mae'r syniadau a'r egni ffres, creadigol a ddaw gyda'r

artistiaid sy'n ymweld ag Aberystwyth yn hynod bwysig, o

ystyried lleoliad gwledig y dref. Efallai ni ellir mesur yn

union y cyfraniad a wneir gan y rhaglen tuag at ddatblygu

partneriaid, gweithgarwch creadigol, darnau o waith, proffil

a statws, ond yn sicr mae'n arwyddocaol iawn yn nhermau

yr effaith ar waith a datblygiad y Ganolfan ar bob lefel.

Y cyfraniad i'r celfyddydau'n rhanbarthol ac yn genedlaethol

Bu'r ymadweithiau niferus iawn rhwng artistiaid,

cymunedau lleol, ymwelwyr a phobl leol yn dystiolaeth o'r

cyfraniad sylweddol i'r rhanbarth, er enghraifft trwy

gysylltiadau gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r

gweithgareddau a gynhaliwyd yng Nghanolfan y

Celfyddydau gan gynnwys yr ^yl Serameg Ryngwladol.

Ymysg y gweithgareddau y bu'r artistiaid yn rhan

ohonynt oedd:

Mae jyst caelyr amser a’rlle i weithio fel artist mewnamgylcheddcefnogol ynbwysigdrosben

20

Page 19: 66 Residents at Creative Units

o anerchiadau gan yr artistiaid preswyl

o sioeau ar ddiwedd y cyfnod

o gweithgareddau yn Llyfrgell Genedlaethol

Cymru a safleoedd lleol eraill

o gweithdai, sesiynau stiwdio agored ac

arddangosfeydd lleol

o cymdeithasu gydag artistiaid lleol ac eraill

sy'n ymweld â'r ardal

o Yn nhermau'r effaith ar y celfyddydau yng

Nghymru, teimlodd yr artistiaid fod y rhaglen yn symbylu

gwaith newydd a fydd yn cyfrannu at enw da

Aberystwyth mewn cyd-destun cenedlaethol.

Dywedodd un artist:

Credaf fod y rhaglen yn ei chyfanrwydd yn gwneud

Aberystwyth yn ganolfan artistig fwy cyfoethog a

dyfeisgar. Mae hyn yn digwydd yn sgil ymweliaau gan

artistiaid o wahanol ddiwylliannau a chefndir.

a dywedodd un arall:

'Rwy'n creu gwaith ar hyn o bryd sy'n ganlyniad i ymchwil

a wnaethpwyd tra 'roeddwn yn Aberystwyth a chredaf

fod y corff hwn o waith yn cyfrannu tuag at y celfyddydau

yng Nghymru.

Wrth i'r rhaglen breswyl ehangu, dylid gwneud

ymdrechion i gryfhau cysylltiadau gyda mudiadau eraill,

yn codi proffil yr artistiaid sy'n cymryd rhan a'u heffaith ar

Y stiwdio fwyafprydferth yr wyferioed wedigweithio ynddi …‘Roedd y goleuoyn rhagorol,‘roedd y golaunaturiol addarparwyd gany ffenestri, gangynnwys y rhaiyn y to, ynberffaith.

21

Page 20: 66 Residents at Creative Units

y celfyddydau, o fewn y rhanbarth a ledled Cymru a'r

DU yn gyffredinol.

'Rwy'n rhagweld, wrth i elfen ryngwladol y rhaglen

ddatblygu, fe welir datblygiad hefyd yn y perthnasau

gyda mudiadau celf rhyngwladol. Yn ddaearyddol mae

Aberystwyth yn ddiarffordd felly credaf fod hyn yn beth

hynod positif. Athroniaethau newydd ar greu celf,

gwahanol ymarferion …

I grynhoi, mae'r cynllun:

o Yn cyrraedd y tu hwnt i ddisgwyliadau'r

artistiaid preswyl

o Yn cyfrannu tuag at eu datblygiad creadigol

o Yn darparu stiwdios hyfryd, sydd ar gael bob

awr o'r dydd a'r nos, lle y gellir cael 'amser

allan'

o O fudd i Ganolfan y Celfyddydau mewn nifer o

ffyrdd pwysig: Yn codi ei phroffil a'i statws, yn

denu syniadau newydd ac egni creadigol, yn

datblygu cynulleifaoedd newydd ac yn symbylu

cymunedau artistig lleol

o Yn rhoi cyfleoedd i artistiaid i ymweld â llefydd

eraill, i ddod i 'nabod pobl Cymru, ac i ddod yn

gyfarwydd â Chymru fel lle i weithio

o Yn darparu cefnogaeth ariannol hanfodol i

artistiaid

‘Roedd pawbyn gofaluamdanaf achefais lot ohwyl … maegennyf awydddychwelyd iAberystwyth...

22

Page 21: 66 Residents at Creative Units

Mae gan y cynllun y potensial:

o I ddatblygu proffil rhyngwladol.

o I greu dolenni cryfach gyda'r cymunedau celf

yng Nghymru.

o I ddarparu datblygiad mwy proffesiynol ar

gyfer artistiaid.

o I ddatblygu mewn ffyrdd eraill megis trwy

raglenni penodol e.e. gwneud printiau,

cerflunwaith.

o Yn sgil gwaith yr artistiaid preswyl, i anelu

at ddatblygu ambell i ^yl yn y dyfodol (real a

rhithwir), mentora a chydweithredu.

Bu’r oriel acymweliadau ganartistiaid yn rhoii middealltwriaethddyfnach o le yrydwyf mewntermaudatblygiadproffesiynol a lle‘rwyf yndymuno mynd.

23

Page 22: 66 Residents at Creative Units

Nodiadau: Lleolir tref Aberystwyth(poblogaeth tua 25,000) ar Fae Ceredigion, gyda'r

môr a thirwedd hyfryd Cymru o'i chwmpas. Er ei

bod yn dref fechan ac yn gymharol anghysbell,

mae'n cynnig llawer o gyfleusterau ac mae'n gartref

i sefydliadau megis Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell

Genedlaethol Cymru, Archif Sgrîn a Sain

Genedlaethol Cymru, Y Comisiwn Brenhinol ar

Gofebau Hynafol ac Hanesyddol Cymru ymysg

mudiadau eraill sydd wedi darparu ffynonellau

ffrwythlon i rai o'r artistiaid preswyl, gan gynnig

dewis gwych o arbinegedd a gwybodaeth i'r sawl

sydd am ei dilyn i fyny.

“Mae'r theorïau diweddaraf ar ddatblygiad

economaidd, er enghraifft theori Manuel Castells,

yn pwysleisio pwysigrwydd lle, diwylliant ac

hunaniaeth yng nghyd-destun yr economi. Mae

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn darparu ar

yr un llaw swyddi ac incwm yn y rhanbarth ac ar y

llaw arall gweithgareddau a pherfformiadau celf o

ansawdd uchel a gofod diwylliannol sy'n amddiffyn

ac yn datblygu'r ganolfan fel lle unigryw yn yr ardal.”

Astudiaeth Effaith Economaidd,

Ysgol Fusnes Caerdydd 2004

'Roeddwn

wrth fy modd

efo Aberystwyth

a Chymru."

24

Page 23: 66 Residents at Creative Units

Mae Canolfan y CelfyddydauAberystwyth yn ganolfan gelf flaenllaw; y

ganolfan fwyaf a phrysuraf yng Nghymru, yn

cynnwys 2 oriel, theatr, neuadd gyngerdd, sinema a

llawer mwy, gyda rhaglen helaeth o weithgareddau a

digwyddiadau ar draws yr holl ffurfiau celf yn ogystal

â rhaglen addysg lewyrchus ym maes y celfyddydau

cymunedol. Yn 2000, cwblhawyd prosiect ail-

ddatblygiad gwerth £4.3 miliwn gyda nawdd yn

bennaf oddi wrth y Loteri Genedlethol ac erbyn hyn

mae gan y Ganolfan gyfleusterau sydd heb eu hail

ledled y DU. Fe'i cydnabyddir fel canolfan

genedlaethol ar gyfer datblygu'r celfyddydau ac fe'i

disgrifir fel 'banerlong genedlaethol y celfyddydau.'

Mae'n adran o Brifysgol Aberystwyth a chroesewir

dros 700,000 o ymwelwyr trwy'r drysau bob

blwyddyn.

"Bu staff y Ganolfan ...

yn mynd allan o'u ffordd

i helpu efo unrhyw

broblem dechnegol, neu

efo darparu deunyddiau

hyrwyddo ayyb."

25

Page 24: 66 Residents at Creative Units

Dylunwyd Y Stiwdios Creadigol lle mae'r

artistiaid preswyl yn gweithio gan gwmni blaenllaw

Thomas Heatherwick a noddwyd y gwaith adeiladu

gan Asiantaeth Ddatblygu Cymru a Chyngor

Celfyddydau Cymru. Gyda'u gorffeniad dur-gloyw

crychlyd, maent yn anghyffredin iawn o'r tu allan ond

tu mewn maent yn ymarferol, yn addas ar gyfer yr

anabl ac yn gwbl hyblyg. Gosodir y stiwdios ar les

dymor-hir i artistiaid a busnesau creadigol, ar wahân

i'r tair a glustnodir ar gyfer yr artistiaid preswyl.

Cafwyd nawdd hael ar gyfer yr artistiaid preswyl hyd

yma gan Sefydliad Esmee Fairbairn - ac ni fyddai'r

rhaglen wedi'i lansio o gwbl heb gefnogaeth sylweddol

y sefydliad hwnnw.

Noddwyd y prosiect hefyd gan Sefydliad Garfield

Weston; Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Sefydliad

Laura Ashley, Meduse Quebec, Stiwdio Gelf y Ffindir,

Umbrella Arts Awstralia a Sefydliad Charles Wallace

(Pacistan). Mae Canolfan y Celfyddydau yn darparu

rhagor o gefnogaeth ariannol ac ymarferol.

"Roedd y cyfleusterau'n

wych ac 'roedd pawb y bu

i mi gyfarfod â nhw yn

ystod fy nghyfnod yn y

stiwdio yn hynod gyfeillgar

ac yn barod iawn i helpu."

26

Page 25: 66 Residents at Creative Units
Page 26: 66 Residents at Creative Units
Page 27: 66 Residents at Creative Units

"It wakes up the rest of Wales!"

Page 28: 66 Residents at Creative Units

Elen Bonner's work questions the current

cultural geography of rural Wales using as

content the customs she witnesses in

order to understand her own identity and

that of those around her. By using text,

poetry and drama alongside film and

installation, her work questions who is most

powerful in assigning a place its character

and values. Is it the inhabitants themselves

who are ultimately responsible for their own

cultural demarcation; or could it be the

outside world and its projections that are

most influential in determining how Wales

is understood?

The film which resulted from Elen's

residency at Aberystwyth won the Ifor

Davies Award at the National Eisteddfod

for Wales and has been exhibited

extensively. Elen Bonner lives and work in

Ruthin, Wales, where she is currently

Education Officer at Ruthin Craft Centre.

Mae gwaith Elen Bonner yn cwestiynu

daearyddiaeth ddiwylliannol bresennol y

Gymru wledig - yn defnyddio fel cynnwys

yr arferion y mae hi'n dyst iddynt - er mwyn

deall ei hunaniaeth ei hun a hunaniaeth y

sawl o'i chwmpas. Trwy ddefnyddio testun,

barddoniaeth a drama ochr yn ochr â ffilm

a gosodwaith, mae ei gwaith yn gofyn pwy

yw'r mwyaf pwerus wrth roi i le ei gymeriad

a'i werthoedd. Ai'r trigolion eu hunain sy'n

gyfrifol yn y pendraw am eu diffiniad

diwylliannol nhw eu hunain; neu a yw'n

bosibl mai'r byd tu allan a'i estyniadau sydd

mwyaf dylanwadol wrth ddiffinio sut mae

Cymru yn cael ei deall?

Bu'r ffilm a wnaethpwyd gan Elen yn ystod

ei chyfnod preswyl yn Aberystwyth yn

ennill Gwobr Ifor Davies yn yr Eisteddfod

Genedlaethol ac mae wedi cael ei

harddangos yn eang. Mae Elen Bonner yn

byw ac yn gweithio yn Rhuthun lle mae hi

ar hyn o bryd yn Swyddog Addysg yng

Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Elen Bonner

"it only goes to show

what can be achieved

when given the creative

time and space required

to make new work. The

film that resulted from

the residency won the

Ifor Davies Award at the

National Eisteddfod for

Wales . It has been

exhibited extensively

and is also held in the

National Screen and

Sound Archive."

30

Page 29: 66 Residents at Creative Units
Page 30: 66 Residents at Creative Units

“My artificial temporary landscapes are

the material result of an ongoing

observation, questioning as to how the

man made and the natural realms interact

with one another and come to create new,

ephemeral orders.

Plastic bags have become my main

medium; they epitomize the perfect and

quintessential discarded object. To me,

plastic bags are symbolic embryos that

contain our lifestyles and are also the

vessels that take them forward in their

journey. Their contradictory qualities

mirror the neurotic course of our life:

plastic bags are in-fact both worthless

and useful, disposable and recyclable,

flimsy and strong.

I like to lure the viewers into a virtual

extension of modern life that substitutes

the old idealised concept of nature and

landscape with a romanticised

contemporary one. A dreamlike floating

vision: drifting from the tangible to the

intangible.”

During her residency at Aberystwyth

Claudia made new film work and sculpture

which has been shown in the USA.

WWW.CLAUDIABORGNA.KEEPFREE.DE

“Mae fy nhirweddau artiffisial dros-dro yn

ganlyniad i broses o wylio, sy'n cwestiynu

sut mae'r hyn a wnaethpwyd gan ddyn a'r

naturiol yn cydymweithio er mwyn creu

trefnau effemeral newydd.

Bagiau plastig yw fy mhrif gyfrwng; maent

yn cynrychioli'n berffaith yr hyn sydd wedi

cael ei fwrw o'r neilltu. I mi, mae'r bag

plastig yn symbol o'n ffordd o fyw ac hefyd

yn cynrychioli'r cyfrwng sy'n ein cludo ar

hyd y daith trwy fywyd. Mae eu

nodweddion gwrthgyferbyniol yn

adlewyrchu cwrs niwrotig ein bywyd: mae

bagiau plastig ar yr un amser yn ddi-werth

ac yn ddefnyddiol, gellir eu taflu neu eu

hailgylchu, maent yn fregus ac yn gryf.

'Rwy'n mwynhau denu'r gwyliwr i mewn i

estyniad rhithwir o fywyd modern sy'n

gosod cysyniad cyfoes, rhamantaidd yn

lle'r hen gysyniad idealistig o natur a

thirwedd. Gweledigaeth arnofiol

freuddwydiol: yn drifftio o'r cyffyrddadwy i'r

anghyffyrddadwy.”

Claudia Borgna

"I see residencies as

particularly precious

opportunities to

experiment and take

new risks in a

supportive

environment. They are

also a vital source of

inspiration and a way to

inform my work through

new landscapes and

people."

32

Page 31: 66 Residents at Creative Units
Page 32: 66 Residents at Creative Units

Zoe Childerley's lens-based work explores

new environments. It is developed by

interaction with different communities and

inspired by the discovery of intertwining

and lost histories. Her photography also

examines our relationship with the natural

world, our imagination and the power of

narrative; creating otherworldly images

inspired by folk tales from around the

world, crossing cultures and generations.

She has continued with the work she

began in Wales, looking at the way in

which myth and story are memorialised in

Welsh culture; the project will be exhibited

in Aberystwyth Arts Centre in late 2012.

Zoe Childerley has exhibited nationally and

internationally and undertaken numerous

commissions and residencies, working in

the Caribbean, the Middle East, South

East Asia, the US and across the UK. She

is currently a lecturer in Photography and

Video at De Montfort University.

Mae gwaith Zoe Childerley, sy'n seiliedig ar

lens, yn archwilio amylcheddau newydd.

Datblygir y gwaith trwy gydymweithio gyda

gwahanol gymunedau ac fe'i ysbrydolir

gan ddarganfod hanesion plethol a

cholledig. Mae ei ffotograffiaeth hefyd yn

archwilio'n perthynas gyda'r byd naturiol,

ein dychymyg a ph ^wer naratif; yn creu

delweddau arall-fydol a ysbrydolwyd gan

straeon gwerin o bob rhan o'r byd, yn torri

ar draws diwylliannau a chenedlaethau.

Bu Zoe Childerley yn arddangos ei gwaith

yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae

wedi ymgymryd â llawer o gomisiynau a

chyfnodau preswyl, yn gweithio yn y Caribî,

Y Dwyrain Canol, De Ddwyrain Asia, yr

UD a ledled y DU. Ar hyd o bryd mae'n

darlithio mewn Ffotograffiaeth a Fideo ym

Mhrifysgol De Montfort.

Zoe Childerley

"Residencies have

provided invaluable

opportunity to spend time

developing my practice

when it is difficult to find

financial and professional

support as an artist. The

Aberystwyth residency

led to productive

collaboration with other

artists both on the

programme and locally."

34

Page 33: 66 Residents at Creative Units

35

Page 34: 66 Residents at Creative Units

“My practice grows organically out of a

playful and intense experimentation with

material. I create process-intensive works,

building up delicate and often ephemeral

surfaces. Graphite has become a core

material to my practice, both physically and

conceptually. My non-image based work

remains highly descriptive; moon-like

surfaces pulsate next to scratchy grounds

and traditional techniques are implemented

to unpredictable effect.

I concurrently work on several ideas in the

studio and so, as a result, the works inform

each other and relationships develop

between them: visually, through organic

marks and the works' physicality, as well

as in the way they relate to my ideas about

mark-making and the expanded idea of

sculpture as drawing. I make works, which,

as individual objects are small and intimate

- together they create a rich, dense

assemblage.”

Priya Chohan's works have been

included in the exhibition ' 5' at Aberystwyth

Arts Centre in 2010; the catalogue can be

viewed on the Arts Centre;'s website. Priya

is currently teaching in London and

working towards an exhibition at Parfitt

Gallery, Croydon.

“Mae f'ymarfer yn tyfu mewn modd organig

allan o arbrofi chwareus a dwys gyda

deunyddiau. 'Rwy'n creu gweithiau trwy

brosesu dwys, yn adeiladu darnau cain,

effemeral. Graffit yw prif ddeunydd

f'ymarfer, yn gorfforol ac yn gysyniadol.

Mae'r gwaith nad yw'n seiliedig ar

ddelweddau, yn ddisgrifiadol; mae

arwynebau llyfn yn ymddangos ochr yn

ochr â gofod craflyd a defnyddir technegau

traddodiadol i gyflawni effeithiau annisgwyl.

Yn y stiwdio 'rwy'n gweithio ar nifer o

syniadau ar yr un pryd ac felly, mewn

canlyniad, mae'r gweithiau yn effeithio ar ei

gilydd ac mae perthnasau yn datblygu

rhyngddynt: yn weledol, trwy farciau

organig a chorfforoldeb y gwaith, yn

ogystal â'r ffordd y maent yn adlewyrchu fy

syniadau i ynglyn â gwneud marciau a'r

syniad estyniedig o gerflun fel arlunio.

'Rwy'n creu gweithiau sydd, fel darnau

unigol, yn fach ac yn ddirgel - efo'i gilydd

maent yn ffurfio cydosodiad dwys,

cyfoethog.”

Mae Prtiya Chohan yn darlithio yn Llundain

ar hyn o bryd ac yn gweithio tuag at

arddangosfa yn Oriel Parfitt, Croydon.

Priya Chohan

"Aberystwyth had a

significant impact

on my practice...and

I'm still working on

ideas that were

planted whilst there.

It was an inspiring

place to be."

36

Page 35: 66 Residents at Creative Units
Page 36: 66 Residents at Creative Units

Ralph Colmar is a film and animation artist

who specialises in working with

artificial light and long exposure

photography. He started experimenting

with nocturnal long exposure images in the

1980s; by 1997 he had completed an M.A.

in European Fine Art and was creating site

specific installations featuring long

exposure photographs of nocturnal

landscapes, or 'Lightscapes'. He also

developed a technique of drawing with

light, using a hand held torch, which he

used to great effect in several films. During

his stay in Aberystwyth, he created a film

animation of Rutland Boughton's opera

'The Immortal Hour', using light drawing;

this has become one of his four most-

screened works. This work was included in

the exhibition ' 5' at Aberystwyth Arts

Centre in 2010; the catalogue can be

viewed on the Arts Centre's website.

Mae Ralph Colmar yn artist animeiddiad

a ffilm sy'n arbenigo mewn gweithio gyda

golau artiffisial a ffotograffiaeth hir-

ddadleniad.

Dechreuodd arbrofi gyda delweddau

hir-ddadleniad nosol yn y 1980au;

erbyn1997 'roedd wedi cwblhau M.A.

mewn Celfyddyd Gain Ewropeaidd ac

'roedd yn creu gosodweithiau safle-

penodol yn nodweddu ffotograffau hir-

ddadleniad o dirweddau nosol, neu

'Olauluniau'. Hefyd datblygodd dechneg

o arlunio gyda golau, yn defnyddio torch

yn ei law, a ddefnyddiwyd yn hynod

effeithiol mewn nifer o ffilmiau. Yn ystod

ei arhosiad yn Aberystwyth, cynhyrchodd

animeiddiad o opera Rutland Boughton

'The Immortal Hour', yn defnyddio

arlunio gyda golau; mae'r ffilm hon

wedi'i harddangos yn gyhoeddus sawl

tro ers hynny.

Ralph Colmar

" I had a

fabulous time..."

38

Page 37: 66 Residents at Creative Units
Page 38: 66 Residents at Creative Units

“My practice is in the realm of traditional

British and European customs. I make

works that are photographs, videos,

installations and performances, which play

with the strangeness of long established

folk customs in a modern world.

These works can be viewed as mock folk

performances in themselves, playing with

the elements of folk rituals that give people

a link to the past. In contemporary

European societies, people have a peculiar

relationship with their folk traditions that is

part uneasiness about their past, and part

fascination with spectacle and long

established ritual.

At Aberystwyth I worked on a performance

piece inspired by the tales of the devil in

Wales, described by the eighteenth

century clergyman Edmund Jones, as well

as some new portraits involving Welsh folk

costume.”

www.matthewcowan.net

“Mae f'ymarfer yn digwydd ym maes

arferion Prydeinig ac Ewropeaidd

traddodiadol. 'Rwy'n creu gweithiau sydd

yn ffotograffau, fideos, gosodweithiau a

pherfformiadau, sy'n chwarae gyda

dieithrwch arferion gwerin hir-sefydledig

mewn byd modern.

Gellir ystyried y gweithiau hyn fel

perfformiadau gwerin ffug, sy'n chwarae

gyda'r elfennau o ddefodau gwerin sy'n

rhoi i bobl gysylltiad gyda'r gorffennol.

Mewn cymdeithas Ewropeaidd gyfoes,

mae gan bobl berthynas rhyfedd gyda'u

traddodiadau gwerin sy'n rhannol yn

anesmwythder ynglyn â'u gorffennol ac yn

rhannol yn wir ddiddordeb yn y defodau

hir-sefydledig hyn.

Yn Aberystwyth bum yn gweithio ar ddarn

perfformio a ysbrydolwyd gan straeon am

y diafol yng Nghymru, a ddisgrifiwyd gan y

clerigwr o'r ddeunawfed ganrif Edmund

Jones, yn ogystal â nifer o bortreadau

newydd yn seiliedig ar wisgoedd gwerin

Cymreig.”

Matthew Cowan

"...the period of time

allocated at

Aberystwyth for simply

getting on with your

practice without the

thought of a specific

deadline or project

outcome in mind was

very precious and rare.

It allows you to

experiment in ways that

are very important for

growing your approach

to new work, and also

to take notice of all the

other artists working

around you."

40

Page 39: 66 Residents at Creative Units
Page 40: 66 Residents at Creative Units

Dave Cushley was trained in art at

Manchester, Falmouth and Cardiff.

Primarily a sculptor both in training and

practice, he also works with installation,

performance, and drawing. He describes

his work as 'an irreverent fusion of the

absurd, post-structuralism, and an

unhealthy obsession with the nature of

craft ' and indeed an examination of the

nature of making or craft is usually central

to his work. He experiments with materials

which are often recycled, with techniques

and with their meanings and associations;

allowing both artist and viewer free play in

creating anew. His work in Aberystwyth

resulted in a group of multi media

sculptures.

Dave Cushley has recently completed a

residency and solo exhibition in Madrid; he

lives and works in Cardiff.

Derbyniodd Dave Cushley ei hyfforddiant

celf ym Manceinion, Falmouth a

Chaerdydd. Yn gweithio'n bennaf fel

cerfluniwr, mae ef hefyd yn gweithio gyda

gosodwaith, perfformiad ac arlunio.

Disgrifia ei waith fel 'cyfuniad amharchus

o'r gwirion, ôl-strwythuraeth, ac obsesiwn

afiach gyda natur crefft' ac yn wir yn aml

iawn y mae archwiliad o natur creu crefft

yn ganolog i'w waith. Mae'n arbrofi gyda

deunyddiau sydd yn aml wedi cael eu

hailgylchu; gyda thechnegau a'u hystyron a

'u cysylltiadau; yn caniatau i'r artist a'r

gwyliwr ryddid i greu o'r newydd.

Mae Dave Cushley wedi cwblhau'n

ddiweddar gyfnod preswyl ac arddangosfa

unigol ym Madrid; mae'n byw ac yn

gweithio yng Nghaerdydd.

Dave Cushley

"The residency was

great for me. It gave me

the chance I needed to

get going, and was the

first time I'd had where I

was able to focus on

developing my work

since university."

42

Page 41: 66 Residents at Creative Units
Page 42: 66 Residents at Creative Units

David Cushway's practice draws on craft

techniques, drawing, performance, film and

installation. His use of clay and his

understanding of its place in human history

renders it a particularly potent medium for

his expressive works. During his

Aberystwyth residency he concentrated on

drawing.

“My work is underpinned by a fascination

with clay as a medium; the history of clay

use is the history of humanity; it is the

material that binds us to the earth that we

inhabit. The constant cycle of life and death

is a recurring theme within my practice,

and the use of my own body within a

figurative narrative reflects this... My

practice operates in the arenas between

art and craft and is often a direct comment

upon the difference and indeed common

ground between the two. “

David Cushway lives and works in Cardiff

www.davidcushway.co.uk

Mae ymarfer David Cushway yn tynnu ar

dechnegau crefft, arlunio, perfformiad, ffilm

a gosodwaith. Mae ei ddefnydd o glai a'i

ddealltwriaeth o arwyddocad clai yn hanes

dyn yn ei wneud yn gyfrwng arbennig o

gryf ar gyfer ei waith creadigol.

“Mae fy niddordeb mewn clai fel cyfrwng

yn ganolog i'm gwaith; hanes defnyddio

clai yw hanes y bod dynol; clai yw'r

deunydd sy'n ein clymu i'r byd yr ydym yn

byw ynddo. Mae cylch cyson bywyd a

marwolaeth yn thema gyfarwydd o fewn

f'ymarfer, ac mae defnyddio fy nghorff fy

hun o fewn naratif ffigurol yn adlewyrchu

hyn ... Mae f'ymarfer yn gweithio yn yr

arena rhwng celf a chrefft ac yn aml mae fy

ngwaith yn gwneud sylwadau uniongyrchol

ar y gwahaniaeth, ac hefyd y tir cyffredin,

rhwng y ddau. “

Mae David Cushway yn byw ac yn

gweithio yng Nghaerdydd.

David Cushway

"in terms of residences,

I have completed many

over the years and all

have them have marked

a sea change in my

practice, it may be a

cliché but just simply to

have the time and

space to work as an

artist in a supportive

environment is

incredibly important,

and if not for the

residency at Aber I

would not have been

able to complete the

two works ..."

44

Page 43: 66 Residents at Creative Units
Page 44: 66 Residents at Creative Units

Hannah Downing is an artist from Wales

whose practice includes painting, drawing

and collage, centred on an interest in

pictorial realism.

“I make work that explores the relationship

between pictorial convention and that

which we consider to be reality. I consider

my subject matter to be the language of

things like the out of focus bits in a

photograph; the elevated viewpoint of a

CCTV image; perspective and

panoramas.”

Hannah spent her time in Aberystwyth

developing her painting practice. Having

recently worked as part of the invigilation

team for Wales' pavilion at the Venice

Biennale, Hannah is making works from

imagery and observations gathered there.

She currently lives and works in Swansea.

www.hannahdowning.co.uk

Artist o Gymru yw Hannah Downing ac

mae ei hymarfer yn cynnwys paentio,

arlunio a gludwaith sy'n seiliedig ar

ddiddordeb mewn realaeth ddarluniadol.

“'Rwy'n creu gwaith sy'n archwilio'r

perthynas rhwng confensiwn darluniadol

a'r hyn a ystyrir gennym i fod yn realiti.

'Rwy'n gweithio gyda'r anghyffredin fel y

darnau sydd allan o ffocws mewn

ffotograff; y safbwynt aruchel mewn

delwedd CCTV; perspectif a

phanoramâu.”

Bu Hannah yn gweithio'n ddiweddar fel

aelod o'r tîm goruwchwylio ar gyfer

pafiliwn Cymru yn y Biennale yn Fenis,

ac erbyn hyn mae'n creu gweithiau'n

seiliedig ar y delweddau a'r wybodaeth

a gasglwyd yno. Ar hyn o bryd mae'n

byw ac yn gweithio yn Abertawe.

Hannah Downing

"Not only was it an

intense period of

concentration to

explore and develop

new ideas, but it also

became a time when I

thought a lot about

what being an artist

meant to me."

46

Page 45: 66 Residents at Creative Units
Page 46: 66 Residents at Creative Units

FAO was a three person collaborative

group, founded in Swansea by graduates

from the Fine Art course at Oxford Brookes

University: Fern Thomas, Adele Vye and

Owen Griffiths. Although their individual

practices differed, their eclectic

collaboration focused on interactive and

participatory art, often with an emphasis on

environmental concerns. Their work took

the form of interactive actions and live

events, to film through to drawing and

photographically documented actions.

Their work in Aberystwyth resulted in film

and installation.

Since their residency, each has been

actively exhibiting and researching; Owen

Griffiths received an MA from Wimbledon

College of Art in 2010; Fern Thomas is

currently studying for an MA

Interdisciplinary Arts at Oxford Brookes

University, Oxford.

Gr ^wp o dri artist yn gweithio gyda'i gilydd

oedd FAO, a sefydlwyd yn Abertawe gan

raddedigion o'r cwrs Celfyddyd Gain yn

Mhrifysgol Brookes Rhydychen: Fern

Thomas, Adele Vye ac Owen Griffiths. Er

bod eu hymarfer unigol yn gwahaniaethu,

bu eu cydweithrediad eclectig yn ffocysu ar

gelf ryngweithiol a chyfranogol, yn aml

gyda'r pwyslais ar themâu amgylcheddol.

'Roedd eu gwaith ar ffurf gweithrediadau

rhyngweithiol a gweithgareddau byw, gan

gynnwys ffilm, arlunio a gweithrediadau a

gofnodwyd trwy ffotograffiaeth.

Ers eu cyfnod preswyl, bu'r tri yn

arddangos ac yn ymchwilio; derbyniodd

Owen Griffiths radd MA oddi wrth Goleg

Celf Wimbledon yn 2010; mae Fern

Thomas ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer

gradd MA mewn Celfyddydau Rhyng-

ddisgyblaethol ym Mhrifysgol Brookes

Rhydychen.

Fern Thomas; Owen Griffiths; Adele Vye: FAO

"...space to develop

ideas and experiment

without the pressure of

creating a finished

piece."

48

Page 47: 66 Residents at Creative Units
Page 48: 66 Residents at Creative Units

Dafydd Fortt is drawn to the act of walking

to navigate both real and imagined places.

The source of his work springs and

radiates from his journeys through his

native Welsh landscape; his walks around

mid Wales during his residency resulted in

large scale paintings.

For Dafydd the principles of Haiku are

instructive and his work aims to be simple

and limited. Like one step after another

and armed with the symmetries in

countless natural structures he slowly

builds something greater than its individual

parts, something with meaning and

purpose. The work functions less as an art

object and more as an articulation of

space, bringing the outdoors in; it gives the

gallery an energy force and in true

Huckleberry spirit reaches back to the

romance of the natural and the allure of the

moment.

Dafydd Fortt lives and works in Cardiff,

Wales.

Mae Dafydd Fortt yn mwynhau cerdded er

mwyn cyrraedd llefydd real a rhai

dychmygol. Mae'r ysbrydoliaeth ar gyfer ei

waith yn hannu o'i deithiau cerdded trwy'r

dirwedd Gymreig gynhenid sydd mor

gyfarwydd iddo.

I Dafydd mae egwyddorion Haiku yn

addysgiadol ac mae ei waith yn anelu at

fod yn syml ac yn gyfyng. Fel un cam ar ôl

y llall ac wedi'i arfogi gyda'r cymesureddau

mewn strwythurau naturiol di-rif mae'n

adeiladu'n ara' deg rhywbeth sy'n fwy na'i

rannau unigol, rhywbeth gydag ystyr a

phwrpas. Mae'r gwaith yn gweithio llai fel

darn o gelf a mwy fel mynegiad o ofod, yn

dod â'r tu allan i mewn; mae'n rhoi teimlad

o egni i'r oriel ac yng ngwir ysbryd

Huckleberry mae'n ymestyn yn ôl i ramant

y naturiol ac atyniad y foment.

Mae Dafydd Fortt yn byw ac yn gweithio

yng Nghaerdydd.

Dafydd Fortt

"Studios are great!

The space is

accessible, the light is

good and it’s a nice

space to spend time in."

50

Page 49: 66 Residents at Creative Units
Page 50: 66 Residents at Creative Units

Evelyn Grant is a graduate of both the

University of Calgary, and Alberta College

of Art fine arts programmes and she has

been a practicing artist since 1976.

Although she works primarily in the

ceramic medium, she has also worked on

several large-scale mixed media pieces

Her ceramic work is created using a

combination of hand building techniques

and slip cast forms, with a strong focus on

the narrative, while working within the

parameters of functional ceramic objects. .

She often casts found objects to

incorporate into her work, and includes

vintage imagery; the markets and

museums which she visited in the UK were

a great source of materials and inspiration.

Graddiodd Evelyn Grant o Brifysgol

Calgary a rhaglen gelfyddydau cain Coleg

Celf Alberta. Mae hi wedi bod yn gweithio

fel artist ers 1976. Er y bu'n gweithio'n

bennaf trwy gyfrwng serameg, mae hi wedi

gweithio hefyd ar nifer o ddarnau cyfrwng

cymysg ar raddfa fawr.

Cyflawnir ei gwaith serameg trwy

ddefnyddio cyfuniad o dechnegau adeiladu

â'r llaw a ffurfiau cast slip, gyda ffocws cryf

ar y naratif, tra'n gweithio o fewn ffiniau

darnau serameg ymarferol. Mae hi'n aml

yn castio eitemau naturiol i'w cynnwys yn

ei gwaith, ac mae'n defnyddio delweddau

o'r gorffennol. 'Roedd y marchnadoedd a'r

amgueddfeydd y bu'n ymweld â nhw yn y

DU yn ffynhonnell wych o ddeunyddiau ac

ysbrydoliaeth.

Evelyn Grant

52

Page 51: 66 Residents at Creative Units
Page 52: 66 Residents at Creative Units

Rabab Ghazoul is a visual artist who draws

on a range of media to explore the

nuances of social relations, and the shifting

nature of personal and political affiliation.

Working with video, installation, site and

text as well as interventions within the

public realm, her work often takes the form

of process-based investigations into

community, language, and identity, but

often at their point of fragmentation or

transition. Born and part raised in the

Middle East, her experience of dual

cultures informs her approach as a social

observer and commentator, and underpins

her ongoing interest in our negotiations and

constructions of the political.

She is currently composing a six-part

choral work to mark the10th anniversary

2013 of the Iraq invasion, and is also

developing a new video work which seeks

to restage and film, with members of the

public, extracts from the Chilcot Inquiry

testmonials. She is also applying for a

Leverhulme award to further the research

begun during her Aberystwyth residency.

Born in Mosul, Iraq, Rabab Ghazoul lives

and works in Cardiff, Wales.

Artist gweledol yw Rabab Ghazoul sy'n

tynnu ar amrediad o gyfryngau i archwilio

arlliwiau perthnasau cymdeithasol a natur

newidiol cysylltiadau personol a

gwleidyddol. Yn gweithio gyda fideo,

gosodwaith, safle a thestun yn ogystal ag

ymyriadau o fewn y byd cyhoeddus, mae

ei gwaith yn aml yn cymryd ffurf

ymchwiliadau i mewn i gymuned, iaith ac

hunaniaeth. Wedi'i geni a'i magu'n rhannol

yn y Dwyrain Canol mae ei phrofiad o

wahanol ddiwylliannau yn dylanwadu ar ei

rôl fel gwylwraig a sylwebydd

cymdeithasol, ac mae'n allweddol i'w

diddordeb mewn materion a thrafodaethau

gwleidyddol.

Ar hyn o bryd mae'n creu gwaith corawl

mewn chwe darn i ddynodi'r 10fed

benblwydd yn 2013 o'r ymosodiad ar Irac,

ac hefyd mae'n datblygu gwaith fideo

newydd sy'n ceisio ail-lwyfannu a ffilmio,

gydag aelodau o'r cyhoedd, darnau allan o

dystlythyron Ymchwiliad Chilcot.

Wedi'i geni ym Mosul, Irac, mae Rabab

Ghazoul yn byw ac yn gweithio yng

Nghaerdydd.

Rabab Ghazoul

"Residencies can be great

opportunities to reflect and

explore one's practice

without the pressure to

produce finished work - I

feel I was really given free

reign to do that at

Aberystwyth. I ended up

making work I couldn't

possibly have made

without being in that

particular place at that

time, and that's a

wonderful benefit - to really

open up your practice to

the unexpected."

54

Page 53: 66 Residents at Creative Units
Page 54: 66 Residents at Creative Units

Haider Ali is an artist from Pakistan, who

spent three months in Aberystwyth thanks

to a grant from Charles Wallace Trust.

During his residency in a culture very

different to any he had visited before, he

made animated films on political themes.

“I was brought up in Lahore's inner or old

city, known for among other things, its

celebration of Muharram. One of the

rituals of Muharram is for men to beat

themselves with knives. As a child I used

to dream of the day I would become a

part of the community, earning the respect

of my elders. My work is inquisitive;

through it, I try to make sense of the world

around me….”

Artist o Bacistan yw Haider Ali, a dreuliodd

dri mis yn Aberystwyth yn sgil cymorthdal

oddi wrth Ymddiriedolaeth Charles

Wallace.

“Cefais fy magu yn hen ddinas, neu ddinas

fewnol Lahore, sy'n adnabyddus, ymysg

pethau eraill, am ei dathliad o Muharram.

Un o ddefodau Muharram yw bod y dynion

yn curo eu hunain gyda chyllyll. Fel plentyn

'roeddwn yn breuddwydio am y diwrnod y

buaswn yn dod yn rhan o'r gymuned, yn

ennill parch fy hynafiaid. Mae fy ngwaith yn

chwilfrydig; trwyddo, 'rwy'n ceisio gwneud

synnwyr o'r byd o'm cwmpas … “

Haider Ali

56

Page 55: 66 Residents at Creative Units
Page 56: 66 Residents at Creative Units

Lucy Harvey regards herself as a

'conceptual metalsmith', using craft

processes and assemblage to make

jewellery and small scale sculpture. By

changing or subverting the usual function

of an object, she creates ambiguous

sculptures which explore our anxieties and

desires.

“ (I am an) artist, museum geek and

jeweller. I make disconcerting things in

metal, collect old things...”

Lucy Harvey's works have been included

in the exhibition ' 5' at Aberystwyth Arts

Centre in 2010; the catalogue can be

viewed on the Arts Centre;'s website. She

was trained in Silversmithing and Jewellery

in Manchester and Birmingham; she

exhibits regularly and is currently teaching

at Manchester Art School and Lincoln

College of Art and design.

Mae Lucy Harvey yn gweld ei hun fel

'gweithwraig gysyniadol mewn metel', yn

defnyddio prosesau a thechnegau crefft i

greu gemwaith a cherfluniau ar raddfa

fach. Trwy newid neu addasu defnydd

arferol eitem benodol, mae hi'n creu

cerfluniau amwys sy'n archwilio ein

pryderon a'n dyheuadau.

“ ('Rwy'n) artist, yn hoff o amgueddfeydd ac

yn creu gemwaith. 'Rwy'n creu pethau

annisgwyl mewn metel, yn casglu hen

bethau ...”

Hyfforddwyd Lucy Harvey mewn Gwaith

Arian a Gemwaith ym Manceinion a

Birmingham; mae'n arddangos ei gwaith

yn rheolaidd ac yn darlithio ar hyn o bryd

yn Ysgol Gelf Manceinion a Choleg Celf a

Dylunio Lincoln.

Lucy Harvey

"I feel I am in a much

stronger position in my

creative career thanks

to the residency."

58

Page 57: 66 Residents at Creative Units
Page 58: 66 Residents at Creative Units

Michel Huneault is a photographer whose

work as an international development

expert was often in conflict areas. In the

midst of dramatic political events he was

nevertheless continually struck by

mundane moments in the troubled areas

he visited; the beautiful, stoic moments of

everyday life which constitute human

history. In 2004, he was apprenticed to

Gilles Peress at Magnum Photo in New

York City and this became an important

turning point for his photographic work,

which he now pursues professionally-

seeking the extraordinary in everyday

moments of life, particularly in challenging

circumstances

Michel Huneault had a solo exhibition

'Histoires Normales' at Aberystwyth Arts

Centre in 2011. He lives and works in

Canada.

Ffotograffydd yw Michel Huneault ac mae

ei waith fel arbenigwr mewn datblygiad

rhyngwladol wedi mynd ag ef i lawer o

lefydd lle ceir gwrthdaro a brwydro. Ac eto

yng nghanol digwyddiadau gwleidyddol

dramatig, cafodd ei daro'n gyson gan

fomentau dinod er gwaetha'r anghydfod; y

momentau stoic, hyfryd hynny mewn

bywyd bob-dydd sydd mor bwysig yn

hanes y bod dynol. Yn 2004, cafodd

brentisiaeth gyda Gilles Peress, Magnum

Photo yn Ninas Efrog Newydd ac 'roedd

hyn yn drobwynt pwysig o safbwynt ei

waith ffotograffig. Erbyn hyn mae'n

gweithio fel ffotograffydd proffesiynol - yn

chwilio am yr hyn sy'n eithriadol mewn

momentau bob-dydd bywyd, yn arbennig o

dan amgylchiadau heriol.

Mae MichelHuneault yn byw ac yn

gweithio yng Nghanada.

Michel Huneault

"I truly appreciated the

informal relationship

with the centre’s staff

and leadership, a

perceived genuine

commitment to both

acknowledged

established and

emerging artists..."

60

Page 59: 66 Residents at Creative Units
Page 60: 66 Residents at Creative Units

Richard Ibghy's work uses the allusive and

deconstructive features of language 'to

interrogate knowledge-formations,

institutional contexts, and social and

political entanglements.' His work typically

exhibits a minimalist approach to form and

construction of the art object. His recent

projects explore how desire and belief

influence economic discourse and

practices, sustain current economies, but

also carry the potential for inciting new

forms of 'doing economy'.

During his residency in Aberystwyth he

worked on Sceptics Will Be Entertained but

Perhaps Unimpressed, a multi-channel

video installation exploring the possibilities

of economic observation, which

incorporates original video footage filmed in

and around Aberystwyth along with

archival materials sourced in the National

Library of Wales.

Richard Ibghy lives and works in Canada;

he often works collaboratively with artist

Marilou Lemmens.

Mae gwaith Richard Ibghy yn defnyddio

nodweddion awgrymiadol a dadadeiladol

iaith 'er mwyn cwestiynu ffurfiannau-

gwybodaeth, cyd-destunau sefydliadol a

dryswch cymdeithasol a gwleidyddol.' Fel

arfer yn ei waith mae'n defnyddio

technegau syml yng nghyd-destun ffurf ac

adeiladwaith y gwrthrych.Bu ei brosiectau

diweddar yn archwilio sut mae dyhead a

chred yn dylanwadu ar drafodaethau ac

ymarferion economaidd, yn cynnal

economiau cyfoes, ond hefyd yn meddu ar

y potensial i symbylu ffurfiau newydd o

'wneud economi'.

Yn ystod ei gyfnod preswyl yn Aberystwyth

gweithiodd ar Sceptics Will Be Entertained

but Perhaps Unimpressed, gosodwaith

fideo aml-sianel yn archwilio posibiliadau

sylwebaeth economaidd, sy'n cynnwys

deunydd fideo gwreiddiol a gafodd ei ffilmio

yn ardal Aberystwyth ynghyd â

deunyddiau archifol y daethpwyd o hyd

iddynt yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Richard Ibghy yn byw ac yn gweithio

yng Nghanada; mae'n cydweithio'n aml

gyda'r artist Marilou Lenmmens.

Richard Ibghy

"I was able to conduct

research with excellent

facilities very close by -

National Library of

Wales and the

University Library."

62

Page 61: 66 Residents at Creative Units
Page 62: 66 Residents at Creative Units

Vicki Kerr is studying for a PhD in Fine Art

at Goldsmiths University, London. Her

recent work draws on her past experiences

as an air traffic controller, in a project

examining questions around airspace;

using as a focus an aeroplane crash from

the 1970s and the eruption of an Icelandic

volcano in 2010.

'As an artist, I have a strong theoretical

interest in the past event and its document.

I am interested in the unregulated dispersal

of images distributed through mass media

and the way it converges upon empirically

grounded monolithic systems that aspire

towards comprehensive totality and stability

through their own set of formal logics and

structural parameters.'

Vicki Kerr exhibited the work she began to

work on during her residency in Wales at

Aberystwyth Arts Centre in 2011. She was

born in New Zealand; she now lives and

works in London.

Mae Vicki Kerr yn astudio ar gyfer gradd

PhD yn y Celfyddydau Cain ym Mhrifysgol

Goldsmiths yn Llundain. Mae ei gwaith

diweddar yn tynnu ar ei phrofiad blaenorol

fel rheolwraig traffig maes awyr, mewn

prosiect sy'n archwilio cwestiynau'n

gysylltiedig â gofod awyr; yn defnyddio

fel ffocws damwain awyren o'r 1970au a

ffrwydriad llosgfynydd yng Ngwlad yr

Iâ yn 2010.

'Fel artist, y mae gennyf ddiddordeb

damcaniaethol cryf mewn digwyddiadau'r

gorffennol a'r proses o'u cofnodi. 'Rwy'n

ymddiddori yn y ffordd y mae delweddau

yn cael eu dosbarthu'n ddireol trwy'r

cyfryngau a'r ffordd y mae hyn yn

cydgyfeirio at systemau monolithig

empiraidd sy'n anelu at gyflawni

cyfanrwydd a sefydlogrwydd llwyr trwy

eu set nhw o resymegau ffurfiol a

pharamedrau strwythurol .'

Ganwyd Vicki Kerr yn Seland Newydd;

mae hi 'nawr yn byw ac yn gweithio yn

Llundain.

Vicki Kerr

"Very successful!

Extremely helpful, kind

and pleasant

technicians and staff."

64

Page 63: 66 Residents at Creative Units
Page 64: 66 Residents at Creative Units

Sai Hua Kuan was born in Singapore and

graduated from Slade School of Fine Art,

London; he now lives and works both in

the United Kingdom and Singapore. His art

is realised in a diverse and often

unconventional range of media, including

installation, sculpture, film, photography

and performance. Recent works include an

interactive performance sculpture for an

exhibition at Jendela, Esplanade

Singapore, a tongue-in-cheek critique of

the economic and productive relationship

between animals and people; and a solo

exhibition at Yavuz Fine Art, Singapore.

“I play with materials, enjoying the process

of transforming forms, shapes, or even

smells and humidity. Form is a very

important process in my idea gestation. I

enjoy very much the ways in dismantling,

deconstructing and reconstructing

materials and objects, as my thoughts

often come to me spontaneously during

the playful process.”

www.saihuakuan.com

Ganwyd Sai Hua Kuan yn Singapore a

graddiodd o Ysgol Slade ar gyfer y

Celfyddydau Cain yn Llundain; erbyn hyn

mae'n byw ac yn gweithio yn y DU a

Singapore. Mae ei ymarfer celf yn cynnwys

amrediad eang, ac yn aml

anghonfensiynol, o gyfryngau, megis

gosodwaith, cerflunwaith, ffilm,

ffotograffiaeth a pherfformiad. Ymysg ei

waith diweddar oedd cerflunwaith

perfformiad rhyngweithiol ar gyfer

arddangosfa yn Jendela, Esplanade

Singapore, dadansoddiad eironig o'r

perthynas economaidd a chynhyrchiol

rhwng anifeiliaid a phobl; ac arddangosfa

solo yn Yavuz, Singapore.

“'Rwy'n chwarae gyda deunyddiau, gan

fwynhau'r proses o drawsffurfio ffurfiau,

siapiau, neu hyd yn oed arogleuon a

lleithder. Mae ffurf yn broses hynod bwysig

wrth i mi ddatblygu fy syniadau. 'Rwyf wrth

fy modd yn datgymalu, yn dadadeiladu ac

yn ailadeiladu deunyddiau ac eitemau, gan

fy mod yn aml yn cael syniadau newydd

yn ystod y proses chwareus hwn.”

Sai Hua Kuan

"I greatly appreciate

the valuable and

quality experience

that the residency has

provided to me.

The period of quiet

time has greatly

facilitated me in

developing my art

practice and

generating ideas.

A group of ideas

conceived in

Aberystwyth has been

just presented in a

show..."

66

Page 65: 66 Residents at Creative Units
Page 66: 66 Residents at Creative Units

“The basis of my artistic working is cultural,

but my approach is physical and material.

Through my practice, I seek alternative

ways of being, thinking and living in our

society. My perspective is distinctly

Scandinavian, and, specifically, that of a

married woman who had children at a

younger age than the national average.

There are many agreed, cultural

references in our day-to-day living, and art

is one of these. Yet everything is in flux.

The experience of living cannot be frozen

into two dimensions. That's why I'm a

sculptor.

For me, both the choice of material and the

ways in which it is manipulated are

significant; both have cultural implications.

As such, my use of media is wide-ranging -

from the traditional materials of sculpture to

the basic substances of everyday life.

Tactile engagement with these materials is

paramount. I enjoy working by hand,

responding to the bodily interaction as my

pieces evolve.”

Riikka Makikoskela produced several

sculptural works during her Welsh

residency, including some made from

coloured liquorice laces. She lives and

works in Finland.

“Mae sail fy ngwaith artistig yn

ddiwylliannol, ond mae f'agwedd yn

gorfforol ac yn faterol.Trwy f'ymarfer, 'rwy'n

edrych am ffyrdd gwahanol o fodoli,

meddwl a byw yn ein cymdeithas. Mae'm

perspectif yn sicr yn Sgandinafaidd ac, yn

benodol, yn perthyn i ddynes briod a

gafodd blant yn iau na'r cyfartaledd

gwladol. Mae 'na lawer o bethau

diwylliannol yn ein bywyd dyddiol yr ydym

yn gytun amdanynt a chelf yw un o'r rhain.

Ac eto mae popeth yn newid. Ni ellir rhewi'r

profiad o fyw mewn dau ddimensiwn.

Dyna paham 'rwy'n gerflunwraig.

I mi, mae'r dewis o ddeunydd a'r ffordd y

mae'n cael ei drin, yn arwyddocaol; mae

gan y ddau beth oblygiadau diwylliannol.

O'r herwydd, mae fy nefnydd o gyfrwng yn

eang - yn amrywio o ddeunyddiau

traddodiadol cerflunwaith i hanfodion

sylfaenol bywyd bob-dydd. Mae cyffwrdd y

deunyddiau hyn yn holl-bwysig. 'Rwy'n

mwynhau gweithio gyda'r llaw, yn ymateb

i'r ymadwaith corfforol wrth i'r darnau

ddatblygu.”

Mae Riikka Makikoskela yn byw ac yn

gweithio yn y Ffindir.

Riikka Makikoskela

"I was able to

experiment with new

materials and media

(clay and ceramics). I

am very glad about the

co-operation with Roger

in Ceramic Workshop,

he was so helpful."

68

Page 67: 66 Residents at Creative Units
Page 68: 66 Residents at Creative Units

Heather Phillipson works with moving

image, sound, text and voice. Her current

practice uses HD video in single-screen

and live formats, the latter in conjunction

with live voice-off. She exhibits nationally

and internationally, and has received

awards, commissions and residencies. In

2011, she showed work at the South

London Gallery, Auto Italia LIVE, the ICA,

the Serpentine Gallery, Hackney Film

Festival (with LUX), Vitrine Gallery,

Hollybush Gardens, Eastside Projects

(Birmingham), KG52 (Stockholm) and g39

at Halle 14 (Leipzig). She is also an award-

winning poet, published by Faber and

Faber in the Faber New Poets series. Her

work was exhibited in Aberystwyth Arts

Centre in 2011.

The artist's current and forthcoming

exhibitions and projects include 'Seeing in

the Dark', CIRCA (Newcastle), 'An

Observer's Guide to the Garden Marathon',

Serpentine Gallery (London) and an

exhibition at Flat Time House (London) in

2012. She has also been awarded a place

on the LUX Associate Artists Programme

2011-12.

Mae Heather Phillipson yn gweithio gyda

delweddau symudol, sain, testun a llais.

Mae ei hymarfer presennol yn defnyddio

fideo HD mewn fformat sgrîn-sengl a

fformat byw, yr ail mewn cysylltiad â llais

byw. Mae hi'n arddangos ei gwaith yn

genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae

wedi derbyn gwobrau, comisiynau a

chyfleodd preswyl. Yn 2011, dangosodd ei

gwaith yn Oriel De Llundain, Auto Italia

LIVE, yr ICA, Oriel y Serpentine, G ^wyl

Ffilm Hackney (gyda LUX), Oriel Vitrine,

Gerddi Hollybush, Prosiectau Eastside

(Birmingham), KG52 (Stockholm) a g39 yn

Halle 14 (Leipzig). Mae hi hefyd yn fardd

llwyddiannus a chyhoeddwyd ei gwaith

gan Faber a Faber yng nghyfres Beirdd

Newydd Faber.

Mae arddangosfeydd a phrosiectau

presennol yr artist yn cynnwys 'Seeing in

the Dark', CIRCA (Castellnewydd), 'An

Observer's Guide to the Garden Marathon',

Oriel y Serpentine (Llundain) ac

arddangosfa yn Flat Time House

(Llundain) yn 2012. Hefyd bu'n rhan o

Raglen Artistiaid Cyswllt LUX 2011-12.

Heather Phillipson

"The residency at

Aberystwyth Arts Centre

was, for me, a crucial

breathing-space which

enabled me to re-negotiate

my approach and establish

new points of departure for

my work."

70

Page 69: 66 Residents at Creative Units
Page 70: 66 Residents at Creative Units

Ellie Rees works in performance video, often

exploring the contradictory ideas embedded in

contemporary culture: Among the works she

created while in Aberystwyth were 'Beyond

Narcissus' and 'Pretty Eyed Pirate Smile'.

“Through my work I aim to explore the

contradictory attractions of emancipated

female roles and the romantic dreams

proposed by popular and traditional culture.

The use of humour and irony as a subtext is

an essential part of most of the work as I

investigate what it means to be female and an

artist. My work manifests as performance

video, most often made in response to my

immediate surroundings. I am interested in

taking narratives - specific to a place and its

culture (particularly romantic stories involving

heroines), and creating performances inspired

by themes from these narratives. “

Ellie Rees lives in London where she is

currently an Associate Lecturer at Byam

Shaw School of Art, Central St. Martins

College of Art and Design. She has exhibited

and performed internationally at galleries and

museums including: Tate Modern, London,

The Institute for Contemporary Art (ICA)

London; El Museo de Arte Contemporaneo,

Caracas,Venezuela,

Mae Ellie Rees yn gweithio ym maes fideo

perfformio, yn archwilio'n aml y syniadau

cyferbyniol sy'n bodoli mewn diwylliant

cyfoes:

“Trwy fy ngwaith anelaf at archwilio syniadau

cyferbyniol megis rôl y fenyw rydd a'r

breuddwydion rhamantus a bortreadir gan

ddiwylliant poblogaidd a thraddodiadol. Mae'r

defnydd o hiwmor ac eironi fel is-destun yn

rhan hanfodol o'r rhan fwyaf o'r gwaith wrth i

mi archwilio beth mae'n golygu i fod yn fenyw

ac yn artist. Mae fy ngwaith yn cymryd ffurf

fideo perfformio, a wneir rhan amlaf mewn

ymateb i'r hyn sydd o'm cwmpas. 'Rwy'n

ymddiddori mewn cymryd naratif - sy'n

gysylltiedig â lle a'i ddiwylliant (yn arbennig

straeon rhamantus sy'n cynnwys arwresau) ,

ac yn creu perfformidau sy'n cael eu

hysbrydoli gan themâu o'r naratifau hyn.”

Mae Ellie yn byw yn Llundain lle me hi ar hyn

o bryd yn Ddarlithydd yn Ysgol Gelf Byam

Shaw, Coleg Celf a Dylunio San Martin

Canolog. Mae hi wedi arddangos a

pherfformio'n rhyngwladol mewn orielau ac

amgueddfeydd gan gynnwys: Y Tate

Modern, Llundain, Yr Institiwt ar gyfer Celf

Gyfoes (ICA) Llundain; El Museo de Arte

Contemporaneo, Caracas,Venesuela,

Ellie Rees

72

Page 71: 66 Residents at Creative Units
Page 72: 66 Residents at Creative Units

Soozy Roberts uses performance, film and

installation to explore the mysteries of

every day life, often in a darkly humorous

way. She uses her own body to address

questions about femaleness and femininity,

while acknowledging a wider environment

saturated in provocative and glamorous

female imagery. She grew up on a farm 'in

the middle of nowhere Wales, milking

cows, making silage....' and her work often

gives a nostalgic nod towards the ideas of

family, domesticity, sometimes Welshness.

During her stay in Aberystwyth, and

despite the challenges of having a young

baby, Soozy Roberts created

performances at different venues in town

and in her Studio. She is currently living

and performing regularly in Stroud, as well

as curating performance arts events and

running a young person's contemporary

arts group at Stroud Valley Artspace. She

also continues to work on interaction and

outreach projects at Arnolfini, Bristol.

Mae Soozy Roberts yn defnyddio

perfformiad, ffilm a gosodwaith i archwilio

dirgelion bywyd bob dydd, yn aml mewn

ffordd ddoniol-dywyll. Mae'n defnyddio'i

chorff ei hun i godi cwestiynau am

fenyweidd-dra a ffeminyddiaeth, tra'n

cydnabod bodolaeth amgylchedd

ehangach sy'n llawn delweddau

benywaidd pryfoclyd a glamoraidd. Cafodd

ei magu ar ffarm anghysbell yng Nghymru

'yn godro gwartheg, yn gwneud silwair ....'

ac mae ei gwaith yn aml yn cyfeirio at

syniadau ynglyn â theulu, bywyd cartref,

weithiau Cymreictod.

Ar hyn o bryd mae hi'n byw ac yn

perfformio'n rheolaidd, yn ogystal â

churadu gweithgareddau ym maes y

celfyddydau perfformio ac yn rhedeg gr ^wp

celf cyfoes ar gyfer pobl ifanc yn ardal

Stroud. Mae hi hefyd yn dal i weithio ar

prosectiau rhyngweithiol a chymunedol

yn Arnolfini, Bryste.

Soozy Roberts

"I was really pleased to

have been given the

opportunity and felt

very lucky to undertake

the residency."

74

Page 73: 66 Residents at Creative Units
Page 74: 66 Residents at Creative Units

Michelle Sank's photography reflects her

intense interest in the human condition and

to this end can be viewed as social

documentary. Most of her work

encompasses issues around social and

cultural diversity. The project she

completed during her residency in

Aberystwyth, 'The Submerged', has been

published in book form by Schilt. The

Independent commented: 'Sank's work

...exists in a hinterland between landscape

photography, portraiture and social

documentary. "Sociological landscapes",

she calls them; pictures about how people

are products of their environment. (In the

accompanying essay), Liz Wells considers

Sank's evocative, "ordinary yet compulsive"

pictures in terms of their narrative

content."What brought the middle-aged

woman in the yellow shalwar kameez ...

to this part of the country? Why is one boy

leaping over tufts of grass?" These

mysteries are a part of the pleasure of The

Submerged.'

Michelle Sank is currently working on 2

projects - one around the death of her

father and the other about a gypsy

community. She was born in Cape Town,

South Africa and has been living in

England since the late 1980s.

Mae ffotograffau Michelle Sank yn

adlewyrchu ei diddordeb dwys yn y cyflwr

dynol a gellir eu hystyried felly fel dogfeniad

cymdeithasol.

Mae'r rhan fwyaf o'i gwaith yn gysylltiedig â

themâu amrywioldeb cymdeithasol a

diwylliannol. Cyhoeddwyd y prosiect a

gwblhawyd ganddi yn ystod ei chyfnod

preswyl yn Aberystwyth, 'The Submerged',

ar ffurf llyfr gan Schilt. Yn ôl yr

Independent: 'Mae gwaith Sank ... yn

digwydd mewn lle rhwng ffotograffiaeth

dirwedd, portreadaeth a dogfeniad

cymdeithasol. Mae hi'n eu galw nhw'n

“Dirluniau Cymdeithasegol"; lluniau am sut

y mae amgylchedd yn dylanwadu ar bobl.

(Yn y traethawd atodol), mae Liz Wells yn

ystyried lluniau “cyffredin ac eto gorfodol”

Sank mewn termau eu cynnwys naratif.

"Paham y daeth y ddynes ganol-oed yn y

shalwar kameez melyn i'r rhan yma o'r

wlad? Pam ydi un bachgen yn neidio dros

dalp o laswellt?” Mae'r dirgelion hyn yn

rhan o bleser 'The Submerged.'”

Mae Michelle Sank yn gweithio ar 2

brosiect ar hyn o bryd - un yn ymwneud â

marwolaeth ei thad a'r llall am gymuned o

sipsiwn. Fe'i ganwyd yn Cape Town, De

Affrica a bu'n byw yn Lloegr ers y 1980au

hwyr.

Michelle Sank

".. residencies are

really important in

providing artists with

the time and space to

develop new work,

something that is

often difficult to

balance in one's

normal daily life."

76

Page 75: 66 Residents at Creative Units
Page 76: 66 Residents at Creative Units

Mae ymarfer Pamela Schilderman yn

cynnwys arlunio, paentio a ffotograffiaeth

yn ogystal â gwaith tri-dimensiwn. Mae'r

rhain yn rhannu nodweddion allweddol

megis y ffurf gron yn ogystal â syniadau

am newid, ailadrodd a'r ymadwaith rhwng

gwybodaeth a deallusrwydd.

“Dymunaf i'm celf ymddangos yn organig

ond ar yr un pryd i beidio ag edrych yn

debyg i unrhyw beth neu ffurf mewn natur

... 'Rwy'n ceisio annog y gwyliwr i roi'r

gorau i'r arwyddocâd pwysedig yr ydym yn

cysylltu ag esboniadau ac ystyr lythrennol.

(Yn 'Allusions')... mae'r darn yn gwahodd y

gwyliwr i golli ei synnwyr ef neu hi o amser,

i ymddiddori gymaint yn y darn nes bod y

'sut' neu'r 'pam' yn cael eu hanghofio.”

Mae hi'n gweithio ar hyn o bryd ar ddarlun

tri-dimensiwn ar radddfa-fawr sy'n 'anelu at

archwilio beth sy'n gwneud darlun yn ei

hanfod; gwneud marciau.'

Mae Pamela Schilderman yn byw ac yn

gweithio yn Rugby.

Pamela Schilderman's practice

encompasses drawing, painting and

photography as well as three-dimensional

work. These share key motifs such as the

circular form as well as ideas of change, of

repetition and of the interaction between

knowledge and intelligence. She is

currently working on a large-scale three-

dimensional drawing which ' aims to

explore what essentially makes a drawing;

mark making.'

“I wish my art to appear organic but

simultaneously bear no resemblance to a

specific thing or form in nature... I strive to

encourage the viewer to abandon the

weighted significance we attach to

explanations and literal meaning. (In

Allusions)... the art invites the viewer to lose

his or her sense of time, to become so

involved that in the first instance 'how' or

'why' is forgotten.”

Pamela Schilderman is based in Rugby,

West Midlands

Pamela Schilderman

"Residencies have

enabled me to complete

challenging artwork I

would not otherwise

have had the chance to

do. They provided much

needed time, space and

support and I still keep

in touch with contacts

made through

residencies.

Aberystwyth was

unique in that I received

invaluable professional

expertise for my project

from university staff."

78

Page 77: 66 Residents at Creative Units
Page 78: 66 Residents at Creative Units

Annabelle Shelton is a painter whose usual

and distinctive medium is paint on large

aluminium panels. Her work usually

explores the patterns and shapes made by

people in an urban setting or landscape;

her scenes include streets, road crossings,

events, parks and popular beach settings

from which she eradicates all architecture,

skies, street furniture and evidence of

nature - leaving individual human figures

making patterns in relation to each other.

“The unfinished look of the work is

deliberate, as the white negative space is

like a void of nothingness but also gives

the viewer a visual resting space. White

space is often present in my work and

signifies that which does not need to be

said. The intention of my work is subtle and

necessary in its rendering, for the

quietness. “

http://www.annabelleshelton.com

Paentwraig yw Annabelle Shelton sy'n

arbenigo mewn paentio ar baneli

alwminiwm mawr. Fel rheol mae ei gwaith

yn archwilio'r patrymau a'r siapiau a wneir

gan bobl mewn lleoliad trefol neu dirwedd;

mae ei golygfeydd yn cynnwys strydoedd,

croesfannau, digwyddiadau, parciau a

glannau môr poblogaidd. Mae hi'n dileu'r

holl bensaerniaeth, yr awyr, celfi stryd ac

unrhyw dystiolaeth o natur - gan adael

ffigyrau dynol yn ffurfio patrymau mewn

perthynas â'i gilydd.

“Mae golwg anorffenedig y gwaith yn

fwriadol, gan fod y gofod negyddol gwyn

fel gwagle enfawr - ond mae hefyd yn rhoi

i'r gwyliwr fan gorffwys gweledol. Mae

gofod gwyn yn aml yn bresennol yn fy

ngwaith ac mae'n dynodi'r hyn nad oes

angen ei ddweud. Mae bwriad fy ngwaith

yn gynnil gan fod y teimlad o dawelwch yn

hanfodol. “

Annabelle Shelton

"The studio space

was my delight."

80

Page 79: 66 Residents at Creative Units
Page 80: 66 Residents at Creative Units

Kate Street's practice encompasses

painting, drawing, sculpture and film. She

has used proverbs and myth as a starting

point for assemblages, while a series of

botanically themed drawings create

strange new hybrid forms.

The attractive beauty and delicacy of

technique in many of Street's works belies

a sombre or even macabre undertone.

She is currently exploring “the feminine

within witchcraft, more specifically the body

as a vessel for the unexplained and

fabricated.” Among the works she

completed in Aberystwyth was a series of

short films ' Mererid's Duty'.

Kate Street is based in London. Her

showreel 'From Slapstick to Horror' recently

toured various festivals including Latitude;

she will be exhibiting 'The Future is Now' at

the Torrance Art Museum in California and

'She Devil - MACRO' at the Museum of

Contemporary Art in Rome.

Mae ymarfer Kate Street yn cynnwys

paentio, arlunio, cerflunwaith a ffilm. Mae hi

wedi defnyddio diarhebion a mythau fel

man cychwyn ar gyfer cydosodiadau, tra

bod cyfres o ddarluniau ar themâu

botanegol yn creu ffurfiau hybrid newydd

rhyfedd.

Mae'r prydferthwch deniadol a'r dechneg

ysgafn a welir mewn llawer o weithiau

Street yn tynnu sylw oddi wrth yr islais

trwm neu hyd yn oed macâbr. Ar hyn o

bryd mae'n archwilio'r “fenyw o fewn

dewiniaeth, neu'n fwy penodol, y corff fel

rhywbeth i gartrefu'r anesboniadwy a'r

ffugiedig.”

Mae Kate Street yn byw yn Llundain.

Arddangoswyd ei ffilm 'From Slapstick to

Horror' yn ddiweddar mewn nifer o wyliau

yn cynnwys G ^wyl Latitude; arddangosir

'The Future is Now' yn Amgueddfa Gelf

Torrance yn California a 'She Devil -

MACRO' yn yr Amgueddfa ar gyfer Celf

Gyfoes yn Rhufain.

Kate Street

"Aber made me

reconsider the way in

which I was making

drawings. I had

developed quite fixed

studio habits, and it

gave me the chance to

try new ways of

working "

82

Page 81: 66 Residents at Creative Units
Page 82: 66 Residents at Creative Units

Katherine Sullivan is a sculptor, who began

her creative career as a costume-maker.

Her sculptures relate to the human body

and its relationship with architecture;

she also works with photomontage.

She exhibited both her sculptures and

the photomontages created during her

residency at Aberystwyth Arts Centre

in 2011.

“My work inhabits the common ground

between clothing and architecture. I see

them both as metaphors for the body. The

crafts involved in clothing and building often

overlap in my work and I share the views

of the great architects of modernism that

the very nature of architecture can be

identified with textile. To these architects, a

building is 'worn' and not occupied. Their

understanding of body, clothes, structure

and ornament as one, underpins the

perceptual framework for my sculpture.”

Mae Katherine Sullivan yn gerflunwraig, a

ddechreuodd ar ei gyrfa greadigol yn

gwneud gwisgoedd. Mae ei cherfluniau yn

ymwneud â'r corff dynol a'i gysylltiad gyda

phensaerniaeth; mae hi hefyd yn gweithio

gyda ffotogyfosodiad.

“Mae fy ngwaith yn digwydd ar y tir

cyffredin rhwng dillad a phensaerniaeth.

'Rwy'n gweld y ddau beth fel metafforau ar

gyfer y corff. Mae'r sgiliau crefft sy'n

ymwneud â chreu dillad ac adeiladu yn

gorgyffwrdd yn aml yn fy ngwaith ac 'rwy'n

rhannu barn penseiri gwych moderniaeth y

gellir adnabod natur gynhenid

pensaerniaeth mewn tecstiliau. I'r penseiri

hyn, mae adeilad yn cael ei 'wisgo' yn

hytrach na bod pobl yn llochesu ynddo.

Mae eu dealltwriaeth nhw o gorff, dillad,

strwythur ac addurniad fel un, yn sylfaenol

i'r fframwaith sy'n cynnal fy ngherflunwaith.

Katherine Sullivan

"very grateful for the

opportunity, enjoyed

the brilliant facilities at

the Arts Centre."

84

Page 83: 66 Residents at Creative Units
Page 84: 66 Residents at Creative Units

Clare Thornton collects stories and

curiosities to inspire the sculptures, textile

pieces, costumes and live social events

which make up her practice; drawing on

performance, fine art and craft techniques.

She is curious about the memories and

stories we attach to personal objects, and

plays with everyday materials to create

installations and 'scenes' which reflect the

people and places where she works.

Clare's Aberystwyth residency, thanks to

additional funding from Laura Ashley,

included participatory workshops for local

groups and subsequently an installation in

the Arts Centre gallery. A seamstress for

20 years, she studied for an MA in Theatre

Studies & Literature at the University of

Glasgow. She lives & works in Bristol .

Mae Clare Thornton yn casglu straeon ac

hynodion i ysbrydoli'r cerfluniau, darnau

tectstil, gwisgoedd a gweithgareddau

cymdeithasol byw sy'n ffurfio'i hymarfer; yn

tynnu ar berfformiad, celf gain a

thechnegau crefft .. . Mae hi'n ymddiddori

yn yr atgofion a'r straeon sy'n gysylltiedig

ag eitemau personol, ac yn chwarae gyda

deunyddiau bob-dydd i greu gosodweithiau

a 'golygfeydd' sy'n adlewyrchu'r bobl a'r

llefydd lle mae hi'n gweithio.

Bu'n arbenigo mewn gwaith gwnio am 20

mlynedd, ac astudiodd am MA mewn

Astudiaethau Theatr a Llenyddiaeth ym

Mhrifysgol Glasgow. Mae hi'n byw ac yn

gweithio ym Mryste.

Clare Thornton

86

Page 85: 66 Residents at Creative Units
Page 86: 66 Residents at Creative Units

“I was born in the Magdalen Islands on the

east coast of Canada. Over the years I

translated my attachment to the maritime

world into a body of work that includes

sculptures, installations, drawings,

photographs and videos. During my

residency in Aberystwyth, I spent a lot of

time exploring the magnificent coastline of

Wales, culminating in a trip to the mythical

Bardsey Island. I came to the realisation

that only a mirror can tell the objective

beauty of the sea and that words of the

Welsh language could become poetic

landscapes.

Sentinel is a simple optical device inspired

by the camera obscura that, since 1880,

has drawn many visitors to Aberystwyth,

Wales. This in-situ sculpture, with its large

convex mirror, was installed on top of

Constitution Hill, Aberystwyth: it offers a

new point of view of the town's spectacular

seascape and was created in the spring of

2009 at part of my residency.

Jean Yves Vigneau lives & works in

Canada.

“Fe'm ganwyd ar Ynysoedd Magdalen ar

arfordir dwyreiniol Canada. Ar hyd y

blynyddoedd bu fy niddordeb yn y byd

morol yn dylanwadu ar fy ngwaith sy'n

cynnwys cerfluniau, gosodweithiau,

darluniau, ffotograffau a fideos. Yn ystod fy

nghyfnod preswyl yn Aberystwyth, treuliais

lawer o amser yn crwydro arfordir

anhygoel Cymru, gan gynnwys ymweliad

â'r Ynys Enlli hyfryd. Deuais i'r casgliad mai

dim ond drych sy'n medru adrodd

prydferthwch gwrthrychol y môr a gallai

geiriau o'r iaith Gymraeg ddod yn dirluniau

barddonol.

Dyfais optegol syml yw Sentinel a

ysbrydolwyd gan y camera obscura sydd,

ers 1880, wedi denu llawer o ymwelwyr i

Aberystwyth. Sefydlwyd y cerflun parhaol

hwn, gyda'i ddrych amgrwm mawr, ar

gopa Pen Glais, Aberystwyth: mae'n

cynnig safbwynt newydd o forlun

ysblennydd y dref ac fe'i crewyd yn ystod y

gwanwyn 2009 fel rhan o'm cyfnod

preswyl.

Mae Jean Yves Vigneau yn byw ac yn

gweithio yng Nghanada.

Jean Yves Vigneau

88

Page 87: 66 Residents at Creative Units
Page 88: 66 Residents at Creative Units

Petri Virtanen is an accomplished Finnish

photographer and musician, whose works

are influenced by imagery from fantasy

and horror genres.

“My artistic work is in different media:

photography, music, painting, drawing,

video, poems. My photos mainly evolve

around staged images of horror, surrealism

and fantasy, I try to create another world

far away from the normal everyday life.

They are like still pictures of a strange

movie, or moments in a performance

piece. As for painting and drawing, when I

was a kid, I went wild over horror comic

books, and I wanted to become a comic

book artist. Sometimes I still do, and I keep

on drawing these subconscious pictures

that come from nowhere and make their

own way out. But whatever the medium, I

usually try to fill the frames with maximum

dynamics, wide angles and action, or

restless and mostly blackish still life.”

Mae Petri Virtanen yn ffotograffydd a

cherddor talentog o'r Ffindir. Mae ei waith

yn cael ei ddylanwadu gan ddelweddau o'r

genres ffantasi ac arswyd.

“Mae fy ngwaith artistig yn digwydd mewn

gwahanol gyfryngau: ffotograffiaeth,

cerddoriaeth, paentio, arlunio, fideo,

barddoniaeth. Mae fy ffotograffau yn

datblygu allan o ddelweddau o arswyd,

swrrealaeth a ffantasi, 'rwy'n ceisio creu

byd arall sydd ymhell i ffwrdd oddi wrth

fywyd normal, bob-dydd. Maent fel lluniau

llonydd mewn ffilm ddieithr, neu eiliadau

mewn darn o berfformiad. O safbwynt

paentio ac arlunio, pan 'roeddwn yn

blentyn 'roeddwn wrth fy modd efo llyfrau

comig arswyd ac 'roeddwn am fod yn artist

llyfrau comig. Weithiau 'rwyf dal yn teimlo'r

un modd ac 'rwy'n dal i arlunio'r lluniau

isymwybodol hyn sy'n dod o unlle ac sydd

rhywsut yn dod i'r wyneb. Ond beth

bynnag yw'r cyfrwng, 'ryw'n ceisio llenwi'r

fframiau gyda delweddau deinamig,

onglau llydan a chynnwrf, neu fywyd

llonydd anesmwyth, sy'n dueddol i fod yn

ddu rhan amlaf”

Petri Virtanen

"Aberystwyth has

been a very rewarding

place, and it has

sparked so many

ideas, themes and new

directions, that

sometimes I feel quite

exhausted, I wish there

were three more

months to go, to get

the ball really rolling!"

90

Page 89: 66 Residents at Creative Units
Page 90: 66 Residents at Creative Units

Pete Williams is an artist who primarily

works with print and sculpture; he is known

for his alternative approach to printmaking

and in particular for his large scale wood

cuts. He founded the Print Market

Workshop in Cardiff in 1997, which

recently re-launched in new premises as

the Print Market Project. His work with the

Project helps and advises artists to develop

their work through a range of print making

techniques, promoting the diversity of

possibilities available through the medium

of fine art print.

During his stay in Aberystwyth Pete

Williams produced many works including

sculptures and large sale prints. He

recently opened his first solo exhibition

of prints in New York and has established

an exchange for artists between the

Print Market Project Cardiff and the Robert

Blackburn Printmaking Workshop New

York.

Mae Pete Williams yn artist sy'n gweithio'n

bennaf gyda phrint a cherflunwaith; mae'n

adnabyddus am ei waith nodweddiadol ym

maes gwneud printiau ac yn benodol am

ei dorluniau pren enfawr. Sefydlodd y

Gweithdy Marchnad Print yng Nghaerdydd

ym 1997, a gafodd ei ail-lansio'n ddiweddar

ar safle newydd fel y Prosiect Marchnad

Print. Mae ei waith gyda'r Prosiect yn

cynorthwyo ac yn cynghori aritstiaid i

ddatblygu eu gwaith trwy ddefnyddio

amrediad o dechnegau gwneud printiau,

gan hyrwyddo amrywiaeth y posibiliadau

sydd ar gael trwy gyfrwng y celfyddydau

cain. Bu Pete Williams yn agor ei

arddangosfa solo gyntaf o brintiau yn

ddiweddar yn Efrog Newydd ac mae wedi

sefydlu cynllun cyfnewid ar gyfer artistiaid

rhwng Prosiect Marchnad Print Caerdydd

a Gweithdy Print Robert Blackburn yn

Efrog Newydd.

Pete Williams

"It gave me time out

to allow me to catch

up with my own work

and ideas but also to

revaluate. Having

people to come and

see me here has also

helped as I feel they

do look at your work

in a more favourable

way. In short, it helps

one to progress."

92

Page 91: 66 Residents at Creative Units
Page 92: 66 Residents at Creative Units

"Artists' residencies are invaluable.

They provide not only space and time to

produce but also initiate a complete mental

break from routine: the opportunity to view

practice and positions afresh. The residency

at Aberystwyth Arts Centre was, for me, a

crucial breathing-space which enabled me to

re-negotiate my approach and establish new

points of departure for my work." Heather Phillipson

Page 93: 66 Residents at Creative Units

95

“It really did feed in to all my current

successes, thank you” Jennifer Price

“I loved having all the arts at my fingertips

and access to the cinema, theatre and opera

and access to both libraries” Alison McDonald

Artists Artistiaid December Rhagfyr 2011 – September Medi 2014

Page 94: 66 Residents at Creative Units

Dave Ball has a wide practice which has

often critically reflected on the arbitrariness

of individual reality. During his residency he

worked on ‘The Mountains of Wales', a

project of “observational drawings of hills

observed during my own ‘tours’ of Wales

which I undertook ‘in search of the Welsh

landscape’; accompanied by texts taken

from my own oral recollections of these

tours. They consist of banal anecdotes

about encounters with sheep, cows and

farmers, information about the weather,

descriptions of my moods, and stuttering

and inarticulate attempts to describe the

landscape around me.

Although I was born and brought up on the

side of a hill in the Swansea Valley, I had

never really focussed before on the Welsh

landscape as a subject. My residency in

Aberystwyth therefore represented

something of a “homecoming” for my

practice. Beginning with the notion that

national identity subsists in the landscape

of a particular region, the project explores

the connection between “Welshness”

and the hills and mountains of Wales.”

Dave Ball lives and works in Wales

and Berlin.

Mae gan Dave Ball ymarfer eang sydd yn aml

yn synfyfyrio’n feirniadol ar fympwyoldeb

realiti unigol. Yn ystod ei gyfnod preswyl

gweithiodd ar ‘Mynyddoedd Cymru’, prosiect

oedd yn cynnwys “lluniau sylwadol o fryniau a

welais yn ystod fy nheithiau fy hun o gwmpas

Cymru, yr ymgymerais â nhw ‘wrth chwilio am

y dirwedd Gymreig’;

ochr yn ochr â thestunau a gymerwyd o’m

hatgofion llafar fy hun o’r teithiau hyn. Maent

yn cynnwys hanesion ystrydebol am ddod ar

draws defaid, gwartheg a ffermwyr,

gwybodaeth am y tywydd, disgrifiadau o’r

hwyliau oedd arnaf ar y pryd, ac ymdrechion

ceclyd a bratiog i ddisgrifio’r dirwedd o’m

cwmpas.

Er i mi gael fy ngeni a’m magu ar ochr

bryn yng Nghwm Tawe, ‘doeddwn erioed

wedi ffocysu o’r blaen ar y dirwedd Gymreig

fel gwrthrych. Bu fy nghyfnod yn Aberystwyth

felly yn cynrychioli rhyw fath o “ddychwelyd

adref” i’m hymarfer. Yn dechrau gyda’r syniad

bod hunaniaeth genedlaethol yn bodoli yn

nhirwedd ardal benodol, mae’r prosiect yn

archwilio’r cysylltiad rhwng “Cymreictod” a

bryniau a mynyddoedd Cymru.”

Mae Dave Ball yn byw ac yn gweithio yng

Nghymru a Berlin.

Dave Ball

“something of a

‘homecoming’ for my

practice...in search of

the Welsh landscape”

www.daveballartist.co.uk

96

Page 95: 66 Residents at Creative Units
Page 96: 66 Residents at Creative Units

David and Kelda's itinerant practice sees

them working site specifically, negotiating

the complex relationships that constitute

‘site’. They examine associations between

a location’s social, economic, political and

institutional dimensions and their personal

histories, working methodologies and

artistic autonomy. Seeking tensions within

these relationships, they employ a variety

of social forms and gestures in order to

interrogate and re-imagine the systems

and spaces they occupy.

Their work has been supported by

organisations that include Arts Council

England, Arcus Japan, Khoj International

Artists’ Association India, NAVA Australia

and California College of the Arts.

Mae ymarfer grwydrol David a Kelda yn eu

gweld yn gweithio mewn lleoliadau

penodol, yn trafod y perthnasau cymhleth

sy’n ffurfio ‘safle’. Maent yn archwilio

cysylltiadau rhwng dimensiynau

cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a

sefydliadol lleoliad a’u hanesion personol,

eu methodoleg a’u hannibyniaeth artistig.

Gan chwilio am densiynau o fewn y

perthnasau hyn, maent yn defnyddio

amrywiaeth o ffurfiau ac arwyddion

cymdeithasol er mwyn cwestiynu ac

ail-ddychmygu’r systemau a’r llecynnau a

gynhwysir ynddynt.

Cefnogwyd eu gwaith gan fudiadau sy’n

cynnwys Cyngor Celfyddydau Lloegr,

Arcus Siapan, Cymdeithas Artistiaid

Rhyngwladol Khoj yn India, NAVA

Awstralia a Choleg Celfyddydau California.

David Brazier & Kelda Free

“This is a unique

programme in that

you’re given time,

space and freedom

to research and

concentrate, without

an emphasis on

producing and

exhibiting work.

It has been

invaluable.”

www.brazierfree.com

98

Page 97: 66 Residents at Creative Units
Page 98: 66 Residents at Creative Units

Originally from Liverpool and Tregaron, Catrin

Davies and Lewis Wright work as an artist

duo. Their collaborative work often references

the narratives found within the history of

painting; the battle for power is a key theme as

they examine human nature’s need to control.

Still life and installation is a focal point of their

practice, their inspiration the ever-changing

relationship between each other and with the

immediate world around them.

Catrin and Lewis’ practice reflects on current

ideologies and related human insecurities

within a media and information- saturated

world; they create changeable installations

using symbolic references with unpredictable

outcomes.

In many of their works, including those

completed on their residency in Aberystwyth,

they refer to the Classical painting tradition of

the still life where the objects symbolise the

larger narrative. The contrast of light and dark

found within classic still lives is explored

visually and conceptually. There are struggles,

pressures and tensions as well as moments of

unity, clarity and precision; ‘the painted surface

becomes a code for the viewer to crack’.

Both artists graduated from Kingston

University, London; they live in Wales.

O Lerpwl a Thregaron yn wreiddiol, mae Catrin

Davies a Lewis Wright yn artistiaid sy’n gweithio

fel deuawd. Mae eu gwaith ar y cyd yn aml yn

cyfeirio at y naratifau a ganfyddir o fewn hanes

paentio; mae’r frwydr am bŵer yn thema

allweddol wrth iddynt archwilio angen y natur

ddynol i reoli. Mae bywyd llonydd a gosodwaith

yn ganolbwynt i’w hymarfer, eu hysbrydoliaeth

yw’r berthynas newidiol rhwng y ddau ohonynt

a’u perthynas gyda’r byd o’u cwmpas.

Mae ymarfer Catrin a Lewis yn myfyrio ar

ideoleg gyfoes a’r ansicrwydd dynol cysylltiedig o

fewn byd sy’n seiliedig ar y cyfryngau a gormod

o wybodaeth; maent yn creu gosodweithiau

anwadal yn defnyddio cyfeiriadau symbolaidd

gyda chanlyniadau anrhagweladwy.

Mewn llawer o’u darnau, gan gynnwys y rhai a

gwblhawyd yn ystod eu cyfnod preswyl yn

Aberystwyth, maent yn cyfeirio at y traddodiad

paentio Clasurol sef bywyd llonydd, lle mae’r

eitemau yn symboleiddio’r naratif mwy. Archwilir

y cyferbyniad o olau a chysgod a welir mewn

bywyd llonydd yn weledol ac yn gysyniadol. Ceir

brwydrau, pwysau a thensiynau yn ogystal ag

eiliadau o undod, eglurder a manyldra; ‘daw’r

arwyneb paentiedig yn gôd i’r gwyliwr ei ddatrys’.

Graddiodd y ddau artist o Brifysgol Kingston,

Llundain; maent yn byw yng Nghymru.

Catrin Davies & Lewis Wright

“We both loved our

time in Aberystwyth”

www.catrinandlewis.com

100

Page 99: 66 Residents at Creative Units
Page 100: 66 Residents at Creative Units

This 3 month writer residency was set up

by the Arts Centre’s Performing Arts and

Literature Department, funded by Literature

Wales, HAUL and Aberystwyth University.

Rhian led a series of creative workshops

with local writers and community groups,

gave performances, set up open mike

evenings and wrote poems inspired by her

stay in Aberystwyth. This is one of them.

Trefnwyd y cyfnod preswyl 3 mis hwn i

ysgrifenwyr gan Adran Llenyddiaeth a

Chelfyddydau Perfformio Canolfan y

Celfyddydau, gyda chefnogaeth ariannol

oddi wrth Lenyddiaeth Cymru, HAUL a

Phrifysgol Aberystwyth. Bu Rhian yn

arwain cyfres o weithdai creadigol gydag

ysgrifenwyr a grwpiau cymunedol lleol;

rhoddodd berfformiadau; trefnodd

nosweithiau meic agored ac ysgrifennodd

gerddi a ysbrydolwyd gan ei harhosiad yn

Aberystwyth. Dyma un ohonynt.

Rhian Edwards

102

www.rhianedwards.co.uk

Page 101: 66 Residents at Creative Units

A scattering corralled, lassoed into the universal doodle of birds, a mutable speech bubble

of pondering ‘m’s. This is the bombast of starlings as they corkscrew the sky.Each twist and fold summarises them

to a simile, like iron filings, flocked and flung across the sky by the metaphorical whims

of a magnet. Can you hear the patheticfallacy, the siren song of a metal’s hum crooning behind clouds, a bit like a God.

The Universal Doodle

Page 102: 66 Residents at Creative Units

Anna Falcini used her residency at Aberystwyth

to become more familiar with the area and to

explore “the treasures that are situated in

Aberystwyth from the beautiful & historic

landscape to the National Library of Wales…

My work is often concerned with the in-between

spaces, the ephemeral and the less prominent

aspects of a place. During my residency, I hope

to find interesting starting points in these lesser-

observed places. I use video, text, drawing and

audio amongst other processes to realise my

ideas visually.

These are the tools of my trade where a dialo-

gue between discovery and experimentation

happen.

I have always had a particular interest in estuary

landscapes and shorelines so coming to this part

of the Welsh coastline is going to be fascinating

for me. The Thames and Severn estuaries are

both familiar places of artistic investigation.

They have inspired continual engagement with

these territories.”

Defnyddiodd Anna Falcini ei chyfnod

preswyl yn Aberystwyth i ddod yn fwy

cyfarwydd â’r ardal ac i archwilio’r “trysorau

a leolir yn Aberystwyth, o’r tirlun hyfryd ac

hanesyddol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ...

Mae fy ngwaith yn ymwneud yn aml gyda’r

llecynnau llai gweladwy, agweddau

byrhoedlog a llai amlwg y lle. Yn ystod fy

nghyfnod preswyl gobeithiaf ddod o hyd i

fannau cychwyn diddorol yn y llefydd llai

amlwg hyn. ‘Rwy’n defnyddio fideo, testun,

arlunio a sain ymysg prosesau eraill i

wireddu fy syniadau yn weledol.

Dyma arfau fy nghrefft lle mae diaolog

rhwng darganfod ac arbrofi yn digwydd.

‘Rwyf wedi ymddiddori erioed mewn tirluniau

aberoedd ac ymylon traethau felly mae dod

i’r rhan hon o arfordir Cymru yn arbennig o

ddiddorol i mi. Mae aberoedd y Dafwys a’r

Hafren yn llefydd cyfarwydd o safbwynt

f’ymchwiliad artistig. Maent wedi ysbrydoli

ymrwymiad parhaol gyda’r tiriogaethau hyn.”

Anna Falcini

“to explore the

treasures that are

situated in

Aberystwyth”

estuarydialogue.wordpress.com

104

Page 103: 66 Residents at Creative Units
Page 104: 66 Residents at Creative Units

“ I would like viewers to experience my

work as an abstract arrangement of form

and marks that is expressed mainly

through the medium of clay."

Anne Gibbs lives and works in Cardiff. She

uses collections of man-made and natural,

found objects as inspiration for her delicate

sculptures, working mainly in bone china.

Her process begins by sourcing materials

from local woodlands, antique shops and

market places which are then cast, stitched

or altered to transform them in to

something intricately unique.

The composition of each piece is integral

to the work, and the placement of every

component is highly considered. Such

precision reflects her interest in the

sensitivity, beauty and unrest inherent in

her surroundings and the resulting work

exudes these sensory qualities.

“In particular, I have found the irregular

land formations at Cwmystwyth to be truly

inspirational as well as the coastal areas of

Borth and Ynyslas.”

“ Hoffwn i wylwyr brofi fy ngwaith fel

trefniant haniaethol o ffurfiau a marciau a

fynegir rhan fwyaf trwy gyfrwng clai."

Mae Anne Gibbs yn byw ac yn gweithio

yng Nghaerdydd. Mae hi’n defnyddio

casgliadau o eitemau naturiol, a rhai a

wneir gan ddyn, fel ysbrydoliaeth ar gyfer ei

cherfluniau cywrain, gan weithio’n bennaf

mewn tsieni esgyrn. Mae ei phroses yn

dechrau gyda dod o hyd i ddeunyddiau

mewn coetiroedd lleol, siopau hynafolion a

stondinau marchnad, ac wedyn eu castio,

eu pwytho neu eu haddasu er mwyn eu

trawsffurfio i fewn i rywbeth gwbl unigryw.

Mae cyfansoddiad pob darn yn hanfodol i’r

gwaith ac ystyrir gosodiad pob elfen yn

ofalus. Mae manyldra o’r math yn

adlewyrchu ei diddordeb yn y

sensitifrwydd, prydferthwch ac aflonyddwch

sydd o’i chwmpas ac mae’r gwaith dilynol

yn cyfleu’r nodweddion synhwyraidd hyn.

“Yn benodol, ‘rwyf wedi ffeindio’r

ffurfiannau tir unigryw yng Nghwmystwyth i

fod yn gwbl ysbrydoledig yn ogystal ag

ardaloedd arfordirol Borth ac Ynyslas.”

Anne Gibbs

“I...found the irregular

land formations at

Cwmystwyth to be

truly inspirational”

www.annegibbs.co.uk

106

Page 105: 66 Residents at Creative Units
Page 106: 66 Residents at Creative Units

“My practice relies upon a process of

implementing order and chaos, effectively

within random sequences, in order to drive

a progression from a single moment and

mark to a vast crescendo of massing

marks and movements that collectively

represent something simple that is visually

riddled with complexity.”

Alan Goulbourne is a sculptor whose work

is a response to observations and

perspectives of his surroundings; he often

utilises offcuts of natural materials such as

wood or paper. Influenced by the

relationship between science and nature,

the resulting constructions are often

physically overwhelming in scale; he

explores the visual complexity of things that

may at first glance appear simple.

“I'm mainly influenced by relationships that

emerge visually between science and

nature, but I've been slowly aiming to shift

the direction on to observations of the

human condition. I imagine this transition

will take some time, but the residency has

given me some much needed down time

to consider this.”

“Mae f’ymarfer yn dibynnu ar broses o

weithredu trefn ac anhrefn, o fewn cyfresi ar

hap, er mwyn gyrru symudiad ymlaen o

ennyd neu farc unigol i gresendo anferth o

farciau a symudiadau sydd, ar y cyd, yn

cynrychioli rhywbeth syml sydd yn weledol

yn llawn cymhlethdod.”

Cerflunydd yw Alan Goulbourne ac mae ei

waith yn ymateb i sylwadau a phersbectifau

o beth sydd o’i gwmpas; mae ef yn

defnyddio’n aml torion o ddeunyddiau

naturiol megis pren neu bapur. Yn cael eu

dylanwadu gan y berthynas rhwng

gwyddoniaeth a natur, mae’r lluniadau

canlyniadol yn aml ar raddfa enfawr yn

gorfforol; mae ef yn archwilio cymhlethdod

gweledol pethau sy’n ymddangos yn syml

ar y golwg cyntaf.

“’Rwy’n cael fy nylanwadu’n bennaf gan y

cysylltiadau sy’n ymddangos yn weledol

rhwng gwyddoniaeth a natur, ond ‘rwyf wedi

bod yn anelu’n raddol at symud ymlaen at

sylwadau ar y cyflwr dynol. Tybiaf y bydd y

newid hwn yn cymryd peth amser, ond

mae’r cyfnod preswyl wedi rhoi amser

ychwanegol i fy ngalluogi i ystyried hyn.”

Alan Goulbourne

“(my) practice is in a

general shift and the

residency has given

me some much

needed down time to

consider this”

resonance-art.co.uk

108

Page 107: 66 Residents at Creative Units
Page 108: 66 Residents at Creative Units

Eeva-Mari Haikala is a Finnish artist working

mainly with performance, video and

photography. In recent years she has

focused on incorporating the painterly into

live performance and the moving image; as

well as in the relationship between text and

visual art works. She performs live, using her

own body and drawing on her memories as

a part of the composition.

One of the works created during her

residency was ‘I Was Waiting for You (My

Heart Will Go On)’, a video performance

which references the famous romantic scene

in ‘Titanic’. Haikala says about this work:

“There are many elements in it that occur

frequently in my work: the passage of time,

waiting, and an apparent absence of events.

.. The woman expects something to happen.

The situation in itself is absurd, perhaps even

sad: something or someone must be

missing, because she is alone. At the

moment of shooting, I created a performative

situation and a gesture: theoretically,

something could have happened –

someone could have come up from behind

me to support me. For a long time, I had an

alternative title to the work, ‘I waited here for

you seven minutes but you never arrived’.”

Artist o’r Ffindir yw Eeva-Mari Haikala sy’n

gweithio’n bennaf gyda pherfformiad, fideo a

ffotograffiaeth. Dros y blynyddoedd diwethaf

mae wedi ffocysu ar ymgorffori paentio o

fewn perfformiad byw a’r ddelwedd symudol;

yn ogystal ag yn y berthynas rhwng testun a

gweithiau celf gweledol. Mae hi’n

perfformio’n fyw, yn defnyddio’i chorff ei hun

ac yn tynnu ar ei hatgofion fel rhan o’r

cyfansoddiad.

Un o’r darnau a greuwyd yn ystod ei chyfnod

preswyl oedd ‘I Was Waiting for You (My

Heart Will Go On)’, perfformiad fideo sy’n

seiliedig ar yr olygfa ramantus enwog yn

‘Titanic’. Dywed Haikala am y darn: “Mae ‘na

nifer o elfennau ynddo sy’n digwydd yn aml

yn fy ngwaith: treigl amser, aros, a diffyg

weithredu. .. Mae’r ddynes yn disgwyl i

rywbeth ddigwydd. Mae’r sefyllfa yn ei hun

yn wirion, efallai’n drist hyd yn oed: rhaid bod

rhywbeth neu rywun ar goll, oherwydd mae

hi ar ei phen ei hun. Wrth ffilmio, creuais

sefyllfa berfformiadol ac arwydd: mewn

theori, gall fod rhywbeth wedi digwydd - gall

fod rhywun wedi dod i fyny y tu ôl imi i’m

cynnal. Am gyfnod hir, ‘roedd gennyf deitl

arall i’r darn, ‘I waited here for you seven

minutes but you never arrived’.”

Eeva-Mari Haikala

“I collaborated and

made friends with

the local

choreographer

and artist Siriol

Joyner”

www.eeva-mari.net

Finnish Artists’ Studio

110

‘I Was Waiting For You (My Heart

will go On)’ Aberystwyth Arts Centre,

Finnish Artists' Studio Foundation,

Arts Promotion Centre Finland, Ian

Stonehouse (sound editing).

‘I Was Waiting For You (My Heart will

go On)’ Canolfan y Celfyddydau

Aberystwyth, Sefydliad Stiwdio Artistiaid

y Ffindir, Canolfan Hybu’r Celfyddydau,

y Ffindir, Ian Stonehouse (golygu sain).

Page 109: 66 Residents at Creative Units
Page 110: 66 Residents at Creative Units

Doug Jones’ sculptures and installations

invite us to reflect on personal and

collective desires, in the context of mass

consumerism and its global impact. His

work is often triggered by observation of

cultural phenomena: of various

commodities with their relative perceived

value/status within consumer culture,

events of historic and social significance,

the ‘production’ of heritage. Working on

different scales, from the impressively large

to more intimate, often utilising domestic

craft and consumable goods, Jones’

sculptures and installations challenge the

viewer to reconsider their expectations and

reflect on how once-innocent belief

systems can become corrupt. His works

have drawn on sources including

European ecclesiastical imagery as well as

shocking media images such as Mugabe's

rebels wreaking havoc in Toyotas. His

works offer insights into belief systems and

the shadowy narratives of concealed

worlds - whether that be the church or

British holidaymaker traditions.

Doug Jones lives and works in London.

Mae cerfluniau a gosodweithiau Doug

Jones yn ein gwahodd i fyfyrio ar

ddyheadau personol a chyfunol, yng nghyd-

destun prynwriaeth torfol a’i effaith byd-eang.

Ysbrydolir ei waith yn aml trwy sylwi ar

ffenomena diwylliannol: ar wahanol eitemau

gyda’u gwerth/statws cydnabyddedig

cymharol o fewn diwylliant prynwriaeth,

digwyddiadau o arwyddocâd hanesyddol a

chymdeithasol, ‘cynhyrchiad’ treftadaeth.

Yn gweithio ar wahanol raddfeydd, o’r

enfawr i’r cynnil, gan ddefnyddio’n aml

eitemau teuluol a nwyddau traul, mae

cerfluniau a gosodweithiau Jones yn herio’r

gwyliwr i ailystyried ei ddisgwyliadau ac i

feddwl am sut y gall systemau cred oedd

unwaith yn ddiniwed gael eu llygru. Mae ei

waith wedi tynnu ar ffynonellau yn cynnwys

delweddaeth eglwysig Ewropeaidd yn

ogystal â delweddau brawychus o’r

cyfryngau megis rebeliaid Mugabe yn

creu llanastr yn y Toyotas. Mae ei

ddarnau yn cynnig cipolwg ar systemau

cred a naratifau aneglur bydoedd

cuddiedig - a gall hynny fod yr eglwys neu

draddodiadau’r twrist Prydeinig.

Mae Doug Jones yn byw ac yn gweithio

yn Llundain.

Doug Jones

“to reflect on personal

and collective desire

in the context of mass

consumerism”

www.cerihand.co.uk/artists/3/doug-jones

112

Page 111: 66 Residents at Creative Units
Page 112: 66 Residents at Creative Units

Kim Kielhofner is a Montreal- based artist

best known for her videos, books, and

drawings; her work often centres on how

stories are told and how we understand

ourselves within them. She uses familiar

forms from cinema, literature and graphic

design and plays with our expectations

about what they will deliver.

“My work is rooted in an everyday process,

which allows my work not to be pinned

down before it is created but rather is

generated through the trajectories and

strategies of everyday living… Through

the repetitive practices of projecting the

self into an overriding narrative, the self

performs in a space that cannot be clearly

identified. Collecting images every day and

letting the narrative elements collect is part

of this process which allows for ambiguity

and fluidity, allowing a collapse between

self and other. I work with books,

installation, sound, performance and video

- all which are shaped by the materiality of

the everyday. In my artistic practice I am

interested in an aesthetic of intimacy and

the potential of multisensory experience.”

Artist o Montreal yw Kim Kielhofner sydd

mwyaf adnabyddus am ei fideos, llyfrau a

darluniau; mae ei gwaith yn aml yn

canolbwyntio ar sut yr adroddir straeon a

sut ‘rydym yn deall ein gilydd o fewn y stori.

Mae’n defnyddio ffurfiau cyfarwydd o’r

sinema, llenyddiaeth a dyluniad graffig ac

yn chwarae gyda’n disgwyliadau ynglyn â’r

canlyniadau.

“Mae gwreiddiau fy ngwaith yn gorwedd

mewn proses bob dydd, sy’n caniatau iddo

ddatblygu trwy ddigwyddiadau bywyd

beunyddiol yn hytrach na chael ei ddiffinio

cyn iddo gael ei greu … Trwy’r ymarfer

ailadroddus o osod yr hunan mewn prif

naratif , mae’r hunan yn perfformio mewn

lle na fedrir ei adnabod yn glir. Mae casglu

delweddau bob dydd a chaniatau i

elfennau’r naratif ymgynnull yn rhan o’r

proses hwn sy’n cynnwys amwysedd a

llyfndra, yn arwain at ddymchweliad rhwng

yr hunan a’r arall. ‘Rwy’n gweithio gyda

llyfrau, gosodwaith, sain, perfformiad a

fideo - y cyfan yn cael eu siapio gan

fateroldeb bywyd beunyddiol. Yn f’ymarfer

artistig ‘rwy’n ymddiddori mewn estheteg

cyfathrach a’r potensial ar gyfer profiad

aml-synhwyraidd”

Kim Kielkhofner

“It's been great to

have the time to focus

on my work and have

the space to make

connections between

ideas that I've been

thinking about; I'm

very excited about the

work I've done here”

This residency was supported by Wales Arts

International and the Conseil des Artes, Quebec

Cefnogwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol

Cymru a’r Conseil des Artes, Quebec

www.giantpixie.com

114

Page 113: 66 Residents at Creative Units
Page 114: 66 Residents at Creative Units

Matthew Macaulay makes paintings that

are unorthodox in their approach to

‘composition’; his approach could be called

an anti-composition, approaching a

cataloguing of visual statements, that

resists, at least for a few moments, forming

into a picture. The paintings are made to

be meditated on rather than reasoned with,

more to be “enjoyed” and “felt with the eye”

than “understood”.

The practice of painting seems to be

subject in itself, each painting is a visual

essay of an exploration that extends

Macaulay's intellectual and emotional

understanding of what painting could be.

There is an attempt to create new imagery

by using intuitive decision making, and not

being restricted to a prescriptive idea of

what the painting has to look like. Born

in Lerwick, Shetland Matthew Macaulay is

a graduate of Coventry University. and

Director of the artist-run Pluspace Gallery.

Mae Matthew Macaulay yn creu

paentiadau sy’n anghyffredin o safbwynt

‘cyfansoddiad’; gellir ystyried ei ddull i fod

yn wrth-gyfansoddiad, yn catalogio

datganiadau gweledol sy’n gwrthod, o leiaf

am ychydig o eiliadau, ffurfio darlun.

Gwneir y paentiadau gyda’r bwriad o fyfyrio

arnynt yn hytrach na rhesymu gyda nhw, y

bwriad yw eu “mwynhau” a’u “teimlo gyda’r

llygad” yn hytrach nag eu “deall”.

Ymddengys bod yr ymarfer o baentio yn

wrthrych ynddo ei hun, mae pob paentiad

yn draethawd gweledol o archwiliad sy’n

ymestyn dehongliad deallusol ac

emosiynol Macaulay o beth y gall

paentiad fod. Mae ‘na ymdrech i greu

delweddaeth newydd trwy ddefnyddio

penderfyniadau greddfol, heb gadw at

syniad rhagysgrifiadol o sut y mae’r

paentiad yn gorfod edrych. Wedi’i eni yn

Lerwick, Shetland graddiodd Matthew

Macaulay o Brifysgol Cofentri ac mae’n

Gyfarwyddwr yr Oriel Pluspace a reolir

gan artistiaid.

Matthew Macaulay

“each painting is

a visual essay of

an exploration”

www.matthewmacaulay.net

116

Page 115: 66 Residents at Creative Units
Page 116: 66 Residents at Creative Units

Valerian Mazataud is a French born

documentary photographer based in

Montreal, Canada. In his work he seeks the

“lost instant”, when bodies, looks, or facial

expressions tell more than they should;

issues around immigration, memory, loss

and community identities are his main

sources of inspirations. Orignally trained in

agricultural engineering, with a master's

degree in aquaculture, he is now a

freelance photo-journalist based in

Montreal, working with several newspapers

and magazines in Quebec and abroad.

During his residency in Aberystwyth,

Valerian experimented with abstract pinhole

sea landscapes- a long way from his usual

documentary photography work. He also

used the time to produce two books, Eigion,

a giant 1 meter long book and jours# a

small vertical book issued in only 2 copies.

“I remember my residency in Aberystwyth

as a real breath of fresh air, as much in my

artistic, professional and personal life. The

creative environment and the artistic

freedom I was given were like no others to

me. While in Aber, I had the opportunity to

challenge myself and use time to give a

new path to my career.”

Ffotograffydd dogfennol a anwyd yn Ffrainc yw

Valerian Mazataud sydd bellach yn gweithio

ym Montreal, Canada. Yn ei waith mae’n

chwilio am yr “ennyd coll”, pan mae cyrff,

edrychiadau neu wynebau yn adrodd mwy nag

y dylent; prif ffynonellau ei ysbrydoliaeth yw

materion megis mewnfudiad, cof, colled a

chymuned. Wedi’i hyfforddi’n wreiddiol mewn

peirianneg amaethyddol, gyda gradd meistr

mewn aquaculture, mae ef bellach yn gweithio

fel newyddiadurwr lluniau ar ei liwt ei hun ym

Montreal, yn gweithio gyda nifer o bapurau

newydd a chylchgronau yn Quebec a thramor.

Yn ystod ei gyfnod preswyl yn Aberystwyth,

arbrofodd Valerian gyda morluniau twll-pin

haniaethol - rhywbeth gwbl wahanol i’w waith

ffotograffiaeth ddogfennol arferol. Defnyddiodd

yr amser hefyd i gynhyrchu dau lyfr, Eigion, llyfr

anferth medr o hyd a jours# llyfr fertigol bychan

a gyhoeddwyd mewn 2 gopi yn unig.

“’Rwy’n cofio fy nghyfnod yn Aberystwyth fel

anadliad o awyr iach, yn fy mywyd artistig,

proffesiynol a phersonol. ‘Roedd yr

amgylchedd creadigol a’r rhyddid artistig a

roddwyd i mi yn unigryw. Tra yn Aber, cefais y

cyfle i herio fy hun ac i ddefnyddio’r amser i roi

llwybr newydd i’m gyrfa.”

Valerian Mazataud

“The creative

environment and the

artistic freedom I was

given were like no

others to me”

This residency was supported by Wales Arts

International and the Conseil des Artes, Quebec

Cefnogwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru

a’r Conseil des Artes, Quebec

118

Page 117: 66 Residents at Creative Units
Page 118: 66 Residents at Creative Units

Australian artist Alison McDonald’s

artworks form an intersection of sculpture,

consumer culture and environmental

concerns. The use of recycled materials

plays a critical role in conveying the

intended connotations.

“This residency was a particularly precious

opportunity with crucial breathing space that

enabled me to experiment and take new

risks, establish new points of departure for

my work whilst in a supportive environment.

From the bottom of Penglais Hill at the

beach, where I was able to discover the

wondrous array and abundance of Welsh

seaweeds, to the top of Penglais Hill where

I could access massive amounts of

recycled materials for my creations, Wales

was vital source of inspiration and avenue

to inform my work. I am still working

through ideas that were instilled and still

emerging from my time in Wales. Many

days I worked 10-12 hours a day in the

studio, often due to cold weather, it was

warmer and more comfortable to stay in my

studio where I was able to become very

absorbed in my work without any

interruptions, and for three months, it was

bliss. I will always treasure my time there.”

Mae gwaith celf yr artist Alison McDonald

o Awstralia yn ffurfio croesdoriad o

gerflunwaith, diwylliant prynwraeth a

materion amgylcheddol. Mae defnyddio

deunydd sydd wedi cael ei ail-gylchu yn

hanfodol bwysig i’w hymarfer artistig.

“’Roedd y cyfnod preswyl hwn yn gyfle

hynod werthfawr i mi gan fy ngalluogi i

gymryd amser allan, i arbrofi a chymryd

risgiau newydd yn fy ngwaith mewn

amgylchedd cefnogol ac ysbrydoledig.

O waelod Rhiw Penglais ar y traeth, lle

deuais o hyn i amrywiaeth anhygoel o

wymonydd y môr Cymreig, i dop Penglais

lle ‘roeddwn yn medru casglu pob math

o ddeunyddiau ailgylchedig, ‘roedd Cymru

yn ffynhonnell hanfodol o ysbrydoliaeth.

‘Rwy’n dal i weithio ar y syniadau a gefais

yn ystod fy nghyfnod yng Nghymru. Yn

aml gweithiais rhwng 10-12 awr y diwrnod

yn y stiwdio, weithiau oherwydd y tywydd

oer, ‘roedd yn gynhesach ac yn fwy

cyfforddus i aros yn fy stiwdio lle ’roeddwn

yn gallu canolbwyntio ar fy ngwaith heb

unrhyw ymyrraeth, ac am dri mis, ‘roedd yn

wynfyd llwyr. Byddaf yn trysori f’amser yno

am byth.”

Alison McDonald

“It was fantastic to

experience Wales, and

Welsh culture, as a

resident… I will always

treasure my time there”

http://www.alisonmcdonald.com.au/

Umbrella Studios, Townsville

120

Page 119: 66 Residents at Creative Units
Page 120: 66 Residents at Creative Units

Rizwan Mirza received his BA in Photographic

Studies from Derby University, studying under

British landscape artist John Blakemore, and

his MA in Documentary Film from Goldsmiths

College, London. During his residency he

produced the body of work ‘From Dust to

Dust (again)’.

“I arrived in mid-Wales during a sudden

summer storm and discovered uprooted trees

violently dislodged from nearby forests which

were then abandoned downriver on a pebble

beach. The driftwood somehow seemed so

out of place in its new but temporary resting

place. It was during this time, I came across

several books published over a span of three

centuries: William Dalrymple’s The Last

Mughal, The Gathering Storm by Winston

Churchill and Sir Alexander Burns’sTravels

into Bukhara. …Each publication captured a

unique juncture in our shared history where

cultures have crossed paths and have often

faced insurmountable challenges, telling us a

great deal about our perception of the other.”

“Cyrhaeddais ganolbarth Cymru yn ystod

storm haf annisgwyl a deuais ar draws

coed a ddiwreiddwyd yn ffyrnig o

fforestydd cyfagos ac a daflwyd i lawr yr

afon, ar draeth caregog. ‘Roedd y coed

rhywfodd yn edrych yn gwbl estron yn eu

lleoliad newydd, dros dro.

Yn ystod y cyfnod hwn, deuais ar draws

nifer o lyfrau a gyhoeddwyd dros gyfnod o

dair canrif: The Last Mughal gan William

Dalrymple, The Gathering Storm gan

Winston Churchill a into Bukhara gan Sir

Alexander Burns. … ‘Roedd y tri llyfr yn

cynnig cipolwg unigryw ar ein hanes

cyfrannol lle mae diwylliannau wedi croesi

llwybrau ac yn aml wedi wynebu

anawsterau anorchfygol, gan ddweud

llawer iawn wrthym am ein hagwedd tuag

at ein gilydd. “

Rizwan Mirza

“I am not the light of

anyone's eye,

I give no solace to

another's heart.

Of no use to anyone,

I am but a fistful of

dust.”

Bahadur Shah Zafar, c1860

“a particularly

precious opportunity

with crucial

breathing space”

cargocollective.com/mirzar

122

Page 121: 66 Residents at Creative Units
Page 122: 66 Residents at Creative Units

Jenny Mulcahy lives and works on Magnetic

Island, just off the northern coast of

Queensland, Australia. She primarily

works with ceramics, but often incorporates

found objects and printmaking techniques

in to her art.

Australia’s history of social injustice and

environmental issues feature thematically in

her work, as she tackles subjects such as

uranium mining, the plight of refugees from

war zones and the impact of natural

disasters. Whilst in Wales, however, an

entirely different environment to the arid

deserts of Queensland, she found time to

contemplate our human relationship with

place on a broader scale. In response she

created a series of small scale ceramic

pieces that formed a narrative of her stay.

“Being able to demonstrate my work to a

wider audience has opened up a range of

opportunities for me. An invitation to be

involved in the upcoming exhibition at the

Aberystwyth Arts Centre, having work

accepted for the Button Project and an

invitation to apply for a residency program in

France came about through other

professionals visiting my temporary studio at

Aberystwyth and seeing what I was doing.”

Mae Jenny Mulcahy yn byw ac yn gweithio

ar Ynys Magnetic, oddi ar arfordir gogleddol

Queensland, Awstralia. Mae’n gweithio’n

bennaf mewn serameg, ond yn aml mae’n

cynnwys eitemau naturiol a thechnegau

argraffu yn ei gwaith celf.

Mae hanes anhegwch cymdeithasol a

phryderon amgylcheddol yn Awstralia yn

nodweddu yn ei gwaith, wrth iddi gyfeirio at

faterion megis cloddio wraniwm, helynt

ffoaduriaid o ardaloedd rhyfel ac effaith

trychinebau naturiol. Tra yng Nghymru fodd

bynnag, amgylchedd gwbl wahanol i

ddiffeithdiroedd sychion Queensland,

ffeindiodd amser i fyfyrio ar ein perthynas

ddynol gyda lle ar raddfa ehangach. Mewn

ymateb, creodd gyfres o ddarnau serameg

bychain a ffurfiodd naratif o’i harhosiad.

“’Roedd medru arddangos fy ngwaith i

gynulleidfa ehangach yn agor i fyny

amrediad o gyfleoedd i mi. Yn dilyn fy

nghyfnod yn Aberystwyth, pan fu artistiaid

proffesiynol eraill yn ymweld â’m stiwdio dros

dro yno, derbyniais wahoddiad i gymryd rhan

mewn arddangosfa yng Nghanolfan y

Celfyddydau; derbyniwyd fy ngwaith ar gyfer

y Prosiect Button ac fe’m gwahoddwyd i

geisio am raglan breswyl yn Ffrainc.”

Jenny Mulcahy

“Being able to

demonstrate my work

to a wider audience

has opened up a

range of opportunities

for me”

www.visualartist.info/jennymulcahy

Umbrella Studios Townsville

124

Page 123: 66 Residents at Creative Units
Page 124: 66 Residents at Creative Units

I am an inter-disciplinary artist with collaborative

work at the core of my practice and research,

with a strong focus on time-based and

situational, event-orientated works. My current

practice is concerned with the deconstruction

of cultural texts through disparate entertainment

and media formats as event-based installations

and participatory performances.

On graduating from Crawford College of Art

& Design, I became co-founder of arts

collective Cork Contemporary Projects and

co-director of project gallery The Space where

I developed the curatorial extension of my

practice. This core experience in self-initiated,

project based work which was responsive and

situational in nature, became deeply embedded

in my methodology of practice; leading to

positions with international platforms including

Frieze London, Boers-Li Gallery, Beijing and

Templebar Gallery + Studios Dublin. These

further informed my current work which

examines the shift within the cultural sector

towards more corporate, industrial and

entertainment based models and how this

affects both the artists and artist-audience

dynamic.

Edel took part in Aberystwyth Arts Centre’s

digital project ‘Only Connect’ in 2012.

‘Rwyf yn artist rhyng-ddisgyblaethol gyda

gwaith cydweithrediadol wrth wraidd

f’ymarfer a’m ymchwil, gyda ffocws cryf ar

weithiau a osodir mewn amser a lle. Mae

f’ymarfer presennol yn ymwneud â

dadadeiladu testunau diwylliannol trwy

wahanol fformatau adloniant a chyfryngol, ar

ffurf gosodweithiau sy’n seiliedig ar

ddigwyddiadau a pherfformiadau cyfranogol.

Ar ôl graddio o Goleg Celf a Dylunio

Crawford, ‘roeddwn yn gyd-sefydlydd

cymuned gelf Prosiectau Cyfoes Cork a

chyd-gyfarwyddwraig oriel The Space lle

datblygais estyniad curadurol f’ymarfer.

Cafodd y profiad sylfaenol hwn effaith

sylweddol ar fethodoleg f’ymarfer gan arwain

at swyddi gyda mudiadau rhyngwladol

megis Frieze Llundain, Oriel Boers-Li, Oriel

Beijing a Templebar + Studios Dublin. Bu’r

profiadau hyn eto yn cael effaith ar fy ngwaith

presennol sy’n archwilio’r symudiad o fewn y

sector diwylliannol tuag at fodelau mwy

corfforedig, diwydiannol ac adloniadol, a sut

mae hyn yn effeithio ar artistiaid a’r cysylltiad

rhwng yr artist a’r gynulleidfa.

Cymerodd Edel ran ym mhrosiect digidol

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ‘Only

Connect’ yn 2012.

Edel O’Reilly

“collaborative work (is)

at the core of my

practice and research”

www.edeloreilly.com

126

Page 125: 66 Residents at Creative Units
Page 126: 66 Residents at Creative Units

Jill O’Sullivan is an Australian artist who works

mainly in printmaking and drawing. For many

years she was interested in interpreting the

human condition and the domestic world but

through PhD research she turned to the art of

chorography - subjectively mapping place as

defined by Ptolemy. (According to Ptolemy,

chorography is a visual narrative that

characterises regional commonalites.)

“My present practice engages with the

chorographic mapping of place and results

from an on-going engagement with the

juxtaposition of theory, history of chorographic

practice and its application into contemporary

practice... It’s everything you ever wanted to

say about a place. The closer you are to a

place, the more the symbology of the stories

will reach you.”

During her residency, Jill experimented with

collages built up from old local ordinance maps,

worked on grisaille vignettes towards producing

a visual journal of her travels, on large charcoal

drawings, wood engravings and some digital

experimentation. The works ranged across

interpretations of the land, architecture and

human activity and most were a direct and

conceptual response to Aberystwyth, recording

local land, sea forms and historical architecture.

Artist o Awstralia yw Jill O’Sullivan sy’n

gweithio’n bennaf ym maes gwneud printiau ac

arlunio. Am flynyddoedd lawer ymddiddorodd

mewn dehongli’r cyflwr dynol a’r byd teuluol

ond trwy ei hymchwil PhD trodd at y ddawn o

gorograffi - yn mapio lleoliad yn wrthrychol fel y’i

diffinwyd gan Ptolemy yn 149 AC. (Yn ôl

Ptolemy, naratif gweledol yw corograffi sy’n

nodweddu cyffredinedd rhanbarthol.)

“Mae f’ymarfer presennol yn ymwneud â mapio

corograffig o leoliad ac mae’n dilyn astudiaeth o

gyfosodiad theori, hanes ymarfer gorograffig a’i

defnydd mewn ymarfer gyfoes ... Mae’n

bopeth yr oeddech erioed wedi dymuno dweud

am le. Y mwyaf agos yr ydych at leoliad, y

mwyaf yw’r tebygrwydd y bydd symboleg y

straeon yn eich cyrraedd.”

Yn ystod ei chyfnod preswyl, arbrofodd Jill gyda

collages a greuwyd o hen fapiau ordnans lleol,

wedi eu gweithio fel portreadau bychain tuag at

gynhyrchu dyddlyfr gweledol o’i theithiau;

arbrofodd hefyd gyda darluniau siarcol mawr,

engrafiadau mewn pren a deunydd digidol.

‘Roedd y gwaith yn cynnwys dehongliadau o’r

tir, pensaernïaeth a gweithgarwch dynol ac

‘roedd y rhan fwyaf yn ymateb uniongyrchol a

chysyniadol i Aberystwyth, yn cofnodi tir lleol,

ffurfiau’r môr a phensaernïaeth hanesyddol.

Jill O’Sullivan

“the residency

undeniably has

been quite a catalyst

for my work, and a

great opportunity

that I do deeply

appreciate far more

than I can say. (and

of course for getting

really fit climbing the

hill each day )”

www.jillosullivanprintmaker.com

Umbrella Studios Townsville

128

Page 127: 66 Residents at Creative Units
Page 128: 66 Residents at Creative Units

Jennifer Price is a Fine Art Printmaker

living in London, studying her Masters in

Printmaking at the Royal College of Art

supported by a QEST scholarship.

Price’s artwork harnesses both basic and

traditional printmaking methods, then

stands them on their head, such that the

results cross artform. The work addresses

complex layers of material culture and the

role of the visual artist.

Price is drawn towards psychiatric inkblots,

which are open to interpretation and

invites the viewer to look beyond the

obvious. The links between psychiatric

inkblots and mental health issues are of

key importance to the artist; she aims to

raise awareness of mental health disorders

and draw our attention to the prejudice that

still surrounds those who suffer from them.

To create the artworks, the artist inks up

objects that we use in our society - such as

cars, shopping trolleys and post boxes.

‘The object is given eminence while

stripping it of its function. It is this oxymoron

of giving and taking at the same time that

sum up the warring sides of many mental

health conditions, such as mood and

personality disorders.’

Gwneuthurwraig Print yn y Celfyddydau Cain

yw Jennifer Price sy’n gweithio yn Llundain, yn

astudio ar gyfer gradd uwch mewn Gwneuthur

Print yn y Coleg Celf Brenhinol gyda

chefnogaeth ysgoloriaeth QEST.

Mae gwaith celf Price yn cyfuno dulliau

sylfaenol a thraddodiadol gwneud printiau, cyn

eu sefyll ar eu pennau, fel bod y canlyniadau

yn croesi ffurf gelf. Mae’r gwaith yn ymwneud

ag haenau cymhleth o ddiwylliant materol a rôl

yr artist gweledol.

Mae Price yn cael ei denu at flotiau inc

seiciatrig, sy’n agored i ddehongliad ac sy’n

gwahodd y gwyliwr i edrych y tu hwnt i’r

amlwg. Mae’r cysylltiad rhwng blotiau inc

seiciatrig a materion iechyd meddyliol yn

allweddol bwysig i’r artist; mae’n anelu at godi

ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddyliol

ac i dynnu’n sylw at y rhagfarn sy’n dal yn

perthyn iddynt. Er mwyn creu’r gweithiau celf,

mae’r artist yn arlunio eitemau a ddefnyddir

gennym yn ein cymdeithas - megis ceir, trolïau

siopa a blychau post. ‘Rhoddir amlygrwydd i’r

eitem tra’n tynnu ei defnydd oddi wrthi. Yr

ocsimoron hwn o roddi a derbyn ar yr un pryd

sy’n crynhoi’r ddwy ochr sy’n nodweddiadol o

lawer o broblemau iechyd meddyliol, megis

anhrefn tymer a phersonoliaeth.’

Jennifer Price

“ It was an invaluable

experience… a life-

changing experience

and I now have friends

for life from it. Really

spectacular programme.

The work I produced got

me on to the Royal

College of Art's Masters

course in Printmaking”

jenniferpriceart.com

130

Page 129: 66 Residents at Creative Units
Page 130: 66 Residents at Creative Units

Natasha Rosling lives and works in

London. Her large scale installations and

performances are underpinned by a

fascination with how the human body

negotiates the world – its mysterious

entwining of a present physical space

with personal and culturally mediated

memories. Throughout her thinking, there

is a constant attempt to come to terms with

the realities of embodiment, and the

impossibility of representing this

experience. Toying with themes such as

hypnotism, ventriloquism and the circus,

each work seeks new ways of fusing sub-

human, non-human or super-human

realities into everyday places and

situations. Here, site specific installations,

performed conversations and sonic

landscapes are placed side by side -

together unravelling the boundaries

between the outside world and the inner

voices of the imagination.

Rosling is represented by Hidde van

Seggelen Gallery London, and is a

member of the pan-European research

group OuUnPo.

Mae Natasha Rosling yn byw ac yn

gweithio yn Llundain. Seilir ei

gosodweithiau a’i pherfformiadau ar

ddiddordeb mewn sut mae’r corff dynol yn

ffeindio’i ffordd o gwmpas y byd - y ffordd

ddirgel y mae’n plethu’r lleoliad corfforol

presennol gydag atgofion personol a

diwylliannol. Yn ei meddylfryd, gwelir

ymdrech gyson i ddod i dermau gyda

realaeth ymgorfforiad, a’r ffaith ei bod yn

amhosibl i gynrychioli’r profiad hwn. Gan

chwarae gyda themâu megis hypnotiaeth,

tafleisiaeth a’r syrcas, mae pob darn o

waith yn chwilio am ffyrdd newydd o asio

realaeth is-ddynol, an-ddynol neu oruwch-

ddynol i fewn i lefydd a sefyllfaoedd bob

dydd. Yma, gosodir gosodweithiau,

sgyrsiau a berfformir a thirluniau sonig ochr

yn ochr - gyda’i gilydd yn datod y ffiniau

rhwng y byd allanol a lleisiau mewnol y

dychymyg.

Cynrychiolir Rosling gan Oriel Hidde van

Seggelen yn Llundain, ac mae’n aelod o’r

grŵp ymchwil holl-Ewropeaidd OuUnPo.

Natasha Rosling

“I speak very highly

of the Arts Centre to

others in my field

after completing this

residency... there

was a mutually

enriching experience

and offering alternative

perspectives on ideas

and their development”

natasharosling.com

132

Page 131: 66 Residents at Creative Units
Page 132: 66 Residents at Creative Units

Nastja Säde Rönkkö is a Finnish artist,

who trained at the State Academy Art

Institute in Moscow before studying at

Central St Martins and the Slade in

London. Her work centres on performance,

exploring intimacy, empathy and belonging

across human interactions and social

rituals, from the everyday to the profound.

She has used video, text, installation,

photography and the internet as

extensions and outcomes of the

performances. She also shares a

collaborative practice with Shia LaBeouf

and Luke Turner. Rönkkö has performed

and exhibited internationally in venues

such as CCA Andratx Kunsthalle, Mallorca,

Spain, Galeria Tanja Wagner, Berlin,

Germany and Kiasma Museum of

Contemporary Art, Helsinki, Finland.

During her residency at Aberystwyth, she

worked on the performance and film

‘Till the Morning Comes’, in collaboration

with Luke Turner.

Artist o’r Ffindir yw Nastja Säde Rönkkö a

hyfforddwyd yn Sefydliad Celf Academi’r

Wlad ym Moscow cyn astudio yng

ngholegau Central St Martins a’r Slade yn

Llundain. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar

berfformiad, gan archwilio agosrwydd,

empathi a pherthyn ar draws ymadweithiau

dynol a defodau cymdeithasol, o’r cyffredin

i’r dwfn. Mae hi wedi defnyddio fideo,

testun, gosodwaith, ffotograffiaeth a’r

rhyngrwyd fel estyniadau a chanlyniadau i’r

perfformiadau. Mae hi hefyd yn rhannu

ymarfer gydweithrediadol gyda Shia

LaBeouf a Luke Turner. Mae Rönkkö wedi

perfformio ac arddangos yn rhyngwladol

mewn canolfannau megis CCA Andratx

Kunsthalle, Mallorca, Sbaen, Galeria Tanja

Wagner, Berlin, yr Almaen ac Amgueddfa

Gelf Gyfoes Kiasma, Helsinki, y Ffindir.

Yn ystod ei chyfnod preswyl yn

Aberystwyth, gweithiodd ar y perfformiad

a’r ffilm ‘Till the Morning Comes’, mewn

cydweithrediad â Luke Turner.

Nastja Säde Rönkkö

“Exploring intimacy,

empathy and

belonging across

human interactions

and social rituals…”

www.nastjar.com

Finnish Art Studios

134

Page 133: 66 Residents at Creative Units
Page 134: 66 Residents at Creative Units

Ingrid Schildermans’ paintings are formed

of intense colours and lyrical brushstrokes,

simultaneously evocative of an archetypal

untamed land and a surrealist dreamlike

landscape. Driven by a curiosity towards

original and uncultivated nature, through

her practice she endeavours to discover

unknown places and lifestyles. “In Wales I

found more than I could hope for on my

quest for a contemporary wild and

dangerous natural environment,” she says.

“The necessity and drive to start my quest

there originates from the deafening

contrast with the Belgian landscape.”

The resulting work is entrenched in an

exploration of Welsh culture: spoken

mythological stories, intuitive impressions

and an engagement with the romanticised

elements.

“In Wales I discovered the freedom to think

in a mythological way in which the division

between fact and fiction is essential.

The spoken word has retained the right

to exist in Wales, and in this way, stories

obtain their own life in which fact and

fiction are intertwined. “

Ingrid Schildermans lives and works in

Belgium.

Mae paentiadau Ingrid Schildermans yn

nodweddu lliwiau dwys a gwaith brwsh cynnil,

sy’n atgoffa un ar yr un pryd am dir gwyllt

archdeipaidd ac am dirlun breuddwydiol

swrrealaidd. Yn cael ei gyrru gan chwilfrydedd

tuag at natur gynhenid sydd heb ei thrin, mae’r

artist yn ceisio, trwy ei hymarfer, darganfod

llefydd a dulliau byw anhysbys. Dywed: “Yng

Nghymru ffeindiais fwy nag yr oeddwn wedi

medru gobeithio amdano wrth chwilio am

amgylchedd naturiol gwyllt a pheryglus cyfoes.

‘Roedd yr angenrheidrwydd a’r awydd i

ddechrau f’ymchwil yno yn deillio o’r cyferbyniad

llwyr gyda’r dirwedd Felgaidd.”

Mae’r gwaith dilynol yn seiliedig ar archwiliad

trylwyr o’r diwylliant Cymreig: straeon

mytholegol ar lafar, argraffiadau greddfol a

chysylltiad gyda’r elfennau sydd wedi eu

rhamanteiddio.

“Yng Nghymru darganfyddais y rhyddid i feddwl

mewn ffordd fytholegol lle mae’r rhaniad rhwng

ffaith a’r ffug yn hanfodol. Mae’r gair ar lafar wedi

cadw’r hawl i fodoli yng Nghymru, ac yn y modd

hwn, mae straeon yn ffeindio eu bywyd eu

hunain lle mae ffaith a’r ffug yn cael eu plethu.”

Mae Ingrid Schildermans yn byw ac yn gweithio

yng Ngwlad Belg.

Ingrid Schildermans

“In Wales I discovered

the freedom to think in

a mythological way”

imperiumingridschildermans.com

136

Page 135: 66 Residents at Creative Units
Page 136: 66 Residents at Creative Units

“Whatever one’s calling in life, a lawyer, an

actress, a teacher, a fashion designer, a

mother, husband or wife or an artist, I

believe commitment & self-expression are

very important. In my work so far, I use an

amalgamation of imagery. I build

characters through observation of traits

and behaviour as portrayed in the media,

in relationships and in focused study of

everyday situations. In this way I have

explored the hidden interactions between

children, adults and animals. I continue to

explore ideas proposed by Schiller about

naivety. I chose to paint in a naïve style.

Painting in this style allows more scope for

interpretation and imagination by the

viewer. You are able to find your own

definitions more easily. I am beginning to

learn that naivety expressed in painting can

lead to originality.”

Sabrina Shah studied painting at Brighton

University, scenic art at the

Royal Academy of Dramatic Arts London

and attended The Prince's Drawing School

London as a postgraduate.

“Beth bynnag yw swydd un mewn bywyd,

yn gyfreithiwr, yn actores, yn athrawes, yn

ddylunydd ffasiwn, yn fam, yn ŵr neu’n wraig

i artist, credaf fod ymroddiad ac hunan-

fynegiant yn bwysig iawn. Yn fy ngwaith hyd

yma, ‘rwy’n defnyddio cyfuniad o

ddelweddaeth. ‘Rwy’n adeiladu cymeriadau

trwy wylio nodweddion ac ymddygiadau fel y

maent yn cael eu portreadu yn y cyfryngau,

mewn perthnasau a thrwy astudiaeth fanwl o

sefyllfaoedd bob dydd. Yn y modd hwn ‘rwyf

wedi archwilio’r ymadweithiau cudd rhwng

plant, oedolion ac anifeiliaid. ‘Rwy’n parhau i

archwilio syniadau a gynigir gan Schiller

ynglyn â naïfrwydd. ‘Rwy’n dewis paentio

mewn dull naïf. Mae paentio yn y dull hwn

yn caniatau mwy o gyfle i’r gwyliwr ddehongli

a dychmygu. ‘Rydych yn medru dod o hyd

i’ch diffiniadau yn fwy rhwydd. ‘Rwy’n

dechrau sylweddoli y gall naïfrwydd a

fynegir mewn paentio arwain at

wreiddioldeb.”

Astudiodd Sabrina Shah baentio ym

Mhrifysgol Brighton, celf olygfaol yn

Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig

yn Llundain, a mynychodd Ysgol Arlunio’r

Tywysog yn Llundain fel myfyrwraig ôl-

raddedig.

Sabrina Shah

“commitment

& self-expression

are very important”

www.sabrinashah.com

138

Page 137: 66 Residents at Creative Units
Page 138: 66 Residents at Creative Units

Elise Simard has animated her way

through a dozen film productions, lending

her art to various documentary features

and animated shorts, and expanding her

own body of work through experimental

and exploratory filmmaking. Since

graduating from Concordia University in

2004, Simard has directed 7 shorts,

including the animated children's tale La

Traversée (2010), the tiny, lyrical musical

Breakfast (produced at the Aberystwyth Art

Centre in Wales in the fall of 2012), and

two National Film Board of Canada

productions; My Little Underground(2012)

and Sober (2014). Mixing the traditional

with the unconventional, her practice

borrows from a wide array of artistic

disciplines, from digital video to pinhole

photography, traditional and digital painting

and drawing, collage, time-lapse

photography and stop-motion animation.

Her films concern themselves with the

ordinary, the sublime and the imperceptible

affairs of our human states. Elise was born

and raised in Montreal.

Mae Elise Simard wedi animeiddio’i ffordd

trwy ddwsin o gynyrchiadau ffilm, gan

fenthyg ei chelf i wahanol ffilmiau nodwedd

dogfennol a ffilmiau byrion animeiddiedig,

a gan ymestyn ei hystod gwaith ei hun trwy

ffilmio arbrofol ac archwiliol. Ers graddio o

Brifysgol Concordia yn 2004, mae Simard

wedi cyfarwyddo 7 ffilm fer, gan gynnwys y

stori animeiddiedig i blant La Traversée

(2010), y ffilm fer gerddorol Breakfast (a

gynhyrchwyd yng Nghanolfan y

Celfyddydau Aberystwyth yn yr hydref

2012), a dau gynhyrchiad Bwrdd Ffilm

Cenedlaethol Canada; My Little

Underground(2012) a Sober (2014).

Gan gymysgu’r traddodiadol gyda’r

anghonfensiynol, mae ei hymarfer yn

menthyg oddi wrth amrywiaeth eang o

ddisgyblaethau artistig, o fideo digidol i

ffotograffiaeth dwll-pin, paentio ac arlunio

traddodiadol a digidol, collage,

ffotograffiaeth dreigl-amser ac animeiddiad

stop-symud. Mae ei ffilmiau’n ymwneud

â’r cyffredin, yr aruchel a chyflwr cymhleth

y bod dynol.

Ganwyd a magwyd Elise ym Montreal.

Elise Simard

“the ordinary, the

sublime and the

imperceptible affairs

of our human states”

This residency was supported by Wales Arts

International and the Conseil des Artes, Quebec

Cefnogwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru

a’r Conseil des Artes, Quebec

http://elisesimard.com/

140

Page 139: 66 Residents at Creative Units

Still from Breakfast, 2012 Video, cyanotype print, marker pen Delwedd o Breakfast, 2012 Fideo, print cyanotype, pin marcio

Page 140: 66 Residents at Creative Units

“My work incorporates drawing, writing,

sculptural objects, gesture, and sound,

which are combined to form site-

responsive installations and performances.

At the core of my practice is an

improvisational approach, which places

value on the contingencies of each

situation (such as architecture, season,

and social context). While my work is

visually-based, I try to create situations that

undo representation, through integrating

the viewer’s participation, obscuring

visibility, or revealing processes that are

normally kept “behind the scenes.” Linking

all aspects of my practice is a passion for

drawing, especially for its child-like

immediacy and capacity to intertwine

imagination with the present moment.

Working in this wonderful tin pod (light,

space, time) has allowed me to develop

diverging threads and themes

simultaneously – all under the umbrella of

Noah’s Flood. I have collected seaweed,

experimented with sheep’s wool, made

watercolours, drawn storyboards, played

with video, and devised new measurement

systems and forms of currency.”

Vida Simon works in Montreal

“Mae fy ngwaith yn cynnwys arlunio,

ysgrifennu, cerflunio, ystum a sain, a gyfunir

i ffurfio gosodweithiau a pherfformiadau sy’n

ymateb i leoliadau penodol. Mae ‘na ddull

byrfyfyr wrth wraidd f’ymarfer, sy’n gosod

gwerth ar bosibiliadau pob sefyllfa (megis

pensaernïaeth, tymor a chyd-destun

cymdeithasol). Tra bod fy ngwaith yn

weledol yn y bôn, ‘rwy’n ceisio creu

sefyllfaoedd sy’n dadwneud cynrychiolaeth,

trwy integreiddio cyfranogaeth y gwyliwr, yn

cymylu gweledigrwydd, neu’n datgelu

prosesau a gedwir fel arfer “y tu ôl i’r llenni.”

Mae cariad tuag at arlunio yn cysylltu holl

agweddau f’ymarfer, oherwydd ei

uniongyrchedd diniwed a’i allu i blethu

dychymyg gyda’r ennyd presennol.

Bu gweithio yn y stiwdio unigryw hon

(golau, lle, amser) yn caniatau i mi

ddatblygu gwahanol syniadau a themâu ar

yr un pryd - i gyd o dan ambarel ‘Noah’s

Flood’. ‘Rwyf wedi casglu gwymon y môr,

arbrofi gyda gwlân dafad, creu dyfrliwiau,

arlunio byrddau straeon, chwarae gyda

fideo a dyfeisio systemau mesur a ffurfiau

arian newydd.”

Mae Vida Simon yn gweithio ym Montreal

Vida Simon

“I really loved the

landscape and met

some great people

…Working in this

wonderful tin pod

(light, space, time) has

allowed me to develop

diverging threads and

themes

simultaneously”

This residency was supported by Wales Arts

International and the Conseil des Artes, Quebec

Cefnogwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol

Cymru a’r Conseil des Artes, Quebec

www.vidasimon.net/

142

Page 141: 66 Residents at Creative Units
Page 142: 66 Residents at Creative Units

Tim Skinner’s work examines and explores

the potential of video as an expressionistic,

textural, organic medium.

“ 'Your work is very textural' remarked an AV

technician in the summer of 2011. This one

simple comment was a revelation and sent

me on a completely new visual enquiry,

questioning the textural possibilities and

versatility of the digital video medium. I wanted

to question the medium's relationship to

painting, exploring both its very materiality and

its ability to truly 'represent'.”

While working in Aberystwyth Tim set out to

“both visually and sonically embrace the

repetitive rhythmical make-up of the

surrounding local landscapes, with a view to

creating a collection of video work that

illustrates emotional attachment.” The resulting

work ‘Llosi Gwynt’ reflects today’s wind farms

and the legacy of coal mining; it was included

in the exhibition ‘I Like this place’ at

Aberystwyth Arts Centre in 2014 and is being

developed further. Tim Skinner was educated

at Colchester; he is based at Cuckoo Farm

Studios, Colchester.

Mae gwaith Tim Skinner yn astudio ac yn

archwilio potensial fideo fel cyfrwng organig,

gweadol a mynegiadol. “ 'Mae dy waith yn

weadol iawn’ meddai technegydd AV yn yr haf

2011. ‘Roedd yr un sylw syml hwn yn agoriad

llygad i mi gan fy nghyrru ar daith weledol gwbl

newydd, yn cwestiynu posibiliadau ac

amlochredd gweadol cyfrwng y fideo digidol.

‘Roeddwn am gwestiynu perthynas y cyfrwng

gyda phaentio, gan archwilio ei fateroldeb

cynhenid a’i allu i 'gynrychioli' go iawn.”

Tra’n gweithio yn Aberystwyth bwriad Tim oedd

astudio cyfansoddiad rhythmig y tirweddau o’i

gwmpas, yn weledol ac o safbwynt sonig, er

mwyn creu casgliad o waith fideo sy’n darlunio

cysylltiad emosiynol. Mae’r gwaith dilynol ‘Llosi

Gwynt’ yn adlewyrchu’r ffermydd gwynt cyfoes

ac etifeddiaeth y pyllau glo; cynhwyswyd y

gwaith yn yr arddangosfa ‘I Like this place’ yng

Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn

2014 ac mae’n cael ei ddatblygu ymhellach.

Cafodd Tim Skinner ei addysg yn Colchester;

bellach mae’n gweithio yn Cuckoo Farm

Studios, Colchester.

Tim Skinner

“(to) visually and

sonically embrace the

repetitive rhythmical

make-up of the

surrounding local

landscapes”

www.timskinner.co.uk

144

Page 143: 66 Residents at Creative Units
Page 144: 66 Residents at Creative Units

“Conceptually, my work is about ways of

being in the world and what it is to be

human. My artistic practice is predicated on

drawing, not just as a practice but as a

psychological and philosophical imperative

to see the world as it really is. Not as it

should or could be, but what is really there

in front of us.

This is not intrinsic to humans and for most

us must be learned. This is the true and

profound benefit of learning to draw and of

drawing the world.

My project at Aberystwyth, after Borges’

story of the cartographer, was to draw a

one to one scale map of the world.”

Gerald’s art work has always explored the

political from a very personal and

philosophical perspective and he engages

with social and environmental influences in

both his work and personal life; he has sat

on the board of the North Queensland

Conservation Council and been actively

involved in renewable energy and anti

fossil fuel campaigns.

“Yn gysyniadol, mae fy ngwaith yn

ymwneud â ffyrdd o fodoli yn y byd a beth

mae’n golygu i fod yn ddynol. Mae

f’ymarfer artistig yn seiliedig ar arlunio, nid

yn unig fel ymarfer ond fel rheidrwydd

seicolegol ac athronyddol i weld y byd fel y

mae o ddifrif. Nid fel y dylai fod neu y gall

fod, ond beth sydd yno o’n blaen ni. Nid yw

hyn yn gynhenid i ddynion ac yn achos y

rhan fwyaf ohonom, rhaid ei ddysgu.

Dyma fudd gwir a phwysig dysgu arlunio,

ac arlunio’r byd.

Fy mhrosiect yn Aberystwyth, yn dilyn stori

Borges am y cartograffydd, yw i arlunio

map graddfa un i un o’r byd.” Artist o

Awstralia yw Gerald Soworka sy’n

archwilio’r gwleidyddol yn ei waith celf o

berspectif hynod bersonol ac athronyddol

ac mae’n ymateb i ddylanwadau

cymdeithasol ac amgylcheddol yn ei waith

ac yn ei fywyd personol; bu’n eistedd ar

fwrdd Cyngor Cadwraeth Gogledd

Queensland a chymerodd ran amlwg

mewn ymgyrchoedd egni adnewyddadwy

a gwrth danwydd ffosil.

Gerald Soworka

Umbrella Studios Townsville

canetoadhunter.wix.com/canetoadhunter

146

“my work is

about ways of

being in the world”

www.timskinner.co.uk

Page 145: 66 Residents at Creative Units
Page 146: 66 Residents at Creative Units

Mathew Weir has become known for his

intricately observed and painstakingly created

oil paintings. Often simultaneously dark and

disturbing as well as aesthetically beautiful

and compelling, these paintings deal variously

with ideas of violence, race, sexuality, of death

and mortality; referencing a wide range of

visual, cultural and literary sources.

“The often politically incorrect nature of the

objects I choose to paint is highlighted and

exploited through my appropriation and

painterly manipulations. My paintings draw

attention to how the meaning of objects

changes when rendered in paint and re-

interpreted within a contemporary context. I

want to create paintings that appear both

seductive and grotesque, which are

menacing yet still and calm. The paintings

shift between a subtle dark humour and

extreme violence…

A lineage of themes runs through the work,

weaving together ideas of oppression and

domination, mental and physical suffering and

their possible opposites; emancipation,

escape and death.”

Mathew Weir lives and works in London

where he is represented by Alison Jacques

Gallery .

Mae Mathew Weir yn adnabyddus am ei

baentiadau olew manwl a chywrain. Yn aml yn

dywyll ac yn aflonydd, yn brydferth ac yn

gymhellol ar yr un pryd, mae’r paentiadau hyn

yn delio gyda nifer o themâu gan gynnwys

trais, hil, rhywioldeb, angau a marwoldeb;

cyfeirir at amrediad eang o ffynonellau

gweledol, diwylliannol a llenyddol.

“Mae natur y gwrthrychau yr wyf yn dewis eu

paentio yn aml yn anghywir yn wleidyddol ac

amlygir hyn trwy’r ffordd yr wyf yn trin y paent.

Mae’r paentiadau yn denu sylw at sut mae

ystyr y gwrthrych yn newid wrth iddo gael ei

gyflwyno mewn paent a’i ail-ddehongli o fewn

cyd-destun cyfoes. ‘’Rwy’n dymuno creu

paentiadau sy’n ymddangos yn ddengar ac

eto’n grotésg, sy’n fygythiol ac eto’n llonydd ac

yn ddigyffro. Mae’r paentiadau yn symud

rhwng hiwmor tywyll cynnil a thrais eithriadol …

Gwelir llinach o themâu yn rhedeg trwy’r

gwaith, yn gwau at ei gilydd syniadau o

orthrymder a rheolaeth, dioddef meddyliol a

chorfforol a’u gwrthwyneb posibl; rhyddfreiniad,

dianc a marwolaeth.”

Mae Mathew Weir yn byw ac yn gweithio yn

Llundain lle fe’i gynrychiolir gan Oriel Alison

Jacques.

Matthew Weir

“the location has been

a big difference and

very inspiring”

www.alisonjacquesgallery.com

148

Page 147: 66 Residents at Creative Units

Swan Song, 2014, Mathew Weir. Oil on canvas, mounted on board. 57 x 40 cm.

Courtesy the Artist and Alison Jacques Gallery.

Page 148: 66 Residents at Creative Units

Lucy Watts gives us visual and annotated

diaries from her travels where she

observes the everyday things we all take

for granted in our little parts of the world;

she serves up our idiosyncracies,

absurdities and prejudices and, gently

mocking, challenges our perceptions. She

lets us view our environment through her

eyes, both affectionate and quizzical; her

fluid draughtsmanship is totally convincing.

There is an anarchic quality to her

observations - like life, her visual and verbal

stories tend to be meandering and more

than slightly unhinged.

During her residency in Aberystwyth, Lucy

engaged with the everyday life around her,

sought out the odd little corners and drew

and wrote about her observations. Her

central focus was on the great British

institution of Fish & Chips … Her Fish &

Chip Review storyboard sees her

distinctive scratchy drawings beautifully

conveying the quirky human goings on in a

rural area of Wales, ending with a scene in

the ’best fish & chip shop in town.’

From ‘The Fish & Chip Review’ 2012; E.R.

Mae Lucy Watts yn rhoi i ni ddyddiaduron

gweledol ac anodiadol yn seiliedig ar ei

theithiau lle mae’n sylwi ar y pethau bob

dydd yr ydym i gyd yn cymryd yn ganiataol

yn ein rhannau bach ni o’r byd; mae’n tynnu

sylw at ein mympwyon, ein gwiriondeb a’n

rhagfarnau a thryw wneud sbort am ein

pennau, yn herio’n canfyddiadau. Mae’n

gadael i ni edrych ar ein hamgylchedd trwy

ei llygaid hi, mewn modd serchog a

chellweirus; mae ei dawn dylunio llithrig yn

gwbl argyhoeddiedig. Mae ‘na elfen

anarchaidd i’w sylwadau - fel bywyd, mae ei

straeon gweledol a llafar yn tueddu i fod yn

grwydrol a mwy nag ychydig yn ddryslyd.

Yn ystod ei chyfnod preswyl yn Aberystwyth,

bu Lucy yn ymddiddori yn y bywyd bob dydd

o’i chwmpas, gan chwilio am y corneli bach

anghyffredin ac yn arlunio ac yn ysgrifennu

am ei sylwadau. Ei ffocws canolog oedd ar y

Traddodiad Prydeinig gwych, Pysgod a

Sglodion. … mae ei bwrdd stori Adolygiad

Pysgod a Sglodion yn gweld ei lluniau

ysgrifflyd nodweddiadol yn cyfleu’n hyfryd y

pethau od sy’n mynd ymlaen yn y Gymru

wledig, yn gorffen gyda golygfa yn y ‘siop

bysgod a sglodion orau yn y dref.’

‘Yr Adolygiad Pysgod a Sglodion 2012 E.R.

Lucy Watts

“Fish and chips

became my main field

of research during my

residency period in

Aberystwyth.

I decided to bring the

popular institution in

the exhibition space”

lucywatts.com

150

Page 149: 66 Residents at Creative Units
Page 150: 66 Residents at Creative Units

Miranda Whall works in video, text, audio,

animation, drawing and installation. During

her residency she concentrated on part of

a series of new projects under the

collective title ‘The Quests’. An Arts Council

Wales Creative Wales Award gave her the

opportunity to develop the Quests during

2012/13 in countries including France,

Spain, Wales, Turkey, Mexico, Thailand

and Germany. All the ‘quests’ projects

include a place, a geographical landscape,

a subject/object, a human emotion, the

vocalization of a text as an audio recording

and video footage. The projects have

developed according to location-specific

responses and the dynamics that occur

within collaboration and participation.

Miranda Whall lives in Aberystwyth where

she is lecturer at the School of Art,

Aberystwyth University.

Mae Miranda Whall yn gweithio mewn

fideo, testun, sain, animeiddiad, arlunio a

gosodwaith. Yn ystod ei chyfnod preswyl

canolbwyntiodd ar ran o gyfres o

brosiectau newydd o dan y teitl ‘The

Quests’. Yn sgil Gwobr Cymru Greadigol

gan Gyngor Celfyddydau Cymru cafodd y

cyfle i ddatblygu’r prosiect yn ystod

2012/13 mewn gwledydd yn cynnwys

Ffrainc, Sbaen, Cymru, Twrci, Mecsico,

Gwlad y Tai a’r Almaen. Mae holl

brosiectau’r ‘Quests’ yn cynnwys lle,

tirwedd ddaearyddol, gwrthrych/eitem,

emosiwn dynol, llefaru testun fel recordiad

clywedol a darn o fideo. Mae’r prosiectau

wedi datblygu yn ôl ymatebion i leoliadau

a’r ddeinameg sy’n digwydd o fewn

cydweithrediad a chyfranogaeth.

Mae Miranda Whall yn byw yn

Aberystwyth lle mae’n darlithio yn Ysgol

Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Miranda Whall

www.mirandawhall.com

152

Page 151: 66 Residents at Creative Units
Page 152: 66 Residents at Creative Units

“My paintings evolve out of a process of

layering, removing, reworking and pushing

paint to find an inevitable form. The initial

chaos of poured paint and expressive

brushmarks that dominate the early stages of

the work are simplified and the uncomfortable

and disjointed shapes are dissolved - at least

partly, to create stillness. It is a slow process

and the results remain indeterminate as the

multi layering of muted tones reveal traces

and imprints of the origins of the paintings,

often submerged in a veiled light. I am not

concerned with the monumental or grand but

in the detail of a moment, curious shadows,

abstract movements, depths and recessions,

textures, memories and allowing the unknown

to resurface. Boundaries and borders intrigue

me, and how chance encounters can

interrupt and allow the fragile and unfamiliar to

emerge. Although these paintings are not

about place, subtle shifts of tone and a

restricted palette may refer to the diffused light

and intervals of landscape and its potential as

a space of transition and transformation.”

Clare Wilson was born in Northumberland;

she lives and works in London;

she completed an MA in Fine Art at the

University of Leeds

“Mae fy mhaentiadau yn datblygu allan o broses

o haenu, dileu, ailweithio a gwthio paent i ddod o

hyd i ffurf anochel. Mae’r llanast dechreuol o

baent yn cael ei arllwys a marciau brws

mynegiannol, sy’n rheoli datblygiad cynnar y

gwaith, yn cael ei symleiddio ac mae’r siapiau

anesmwyth a digyswllt yn cael eu diddymu - o

leiaf yn rhannol, i greu llonyddwch. Mae’n broses

araf ac mae’r canlyniadau yn aros yn amhendant

wrth i aml-haenu’r arlliwiau aneglur ddatgelu olion

dechreuad y paentiadau, yn aml wedi’i suddo

mewn golau cuddiedig. Nid oes gennyf

ddiddordeb yn yr anferthol neu’r trawiadol ond yn

hytrach ym manyldra y foment, cysgodion

chwilgar, symudiadau haniaethol, dyfnderoedd

ac enciliadau, gweadeddau, atgofion a

chaniatau i’r anhysbys ailymddangos. Mae

terfynau a ffiniau yn ennyn fy niddordeb, a’r ffordd

y gall digwyddiadau ar hap ymyrryd a chaniatau

i’r bregus a’r anghyfarwydd ailymddangos. Er

nad yw’r paentiadau hyn yn ymwneud â lle, gall

newidiadau cynnil mewn lliw a chysgod gyfeirio

at y golau ymledol a darnau o’r tirlun, a’u

potensial fel man newid a thrawsffurfiad.

Ganwyd Clare Wilson yn Northumberland;

mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain;

cwblhaodd radd MA yn y Celfyddydau Cain ym

Mhrifysgol Leeds.

Clare Wilson

“I enjoyed spreading

the word about your

brilliant residency”

www.clare-wilson.com

154

Page 153: 66 Residents at Creative Units
Page 154: 66 Residents at Creative Units

“The photographic medium is for me tightly

bound to representing reality, and I often find

my practice to be largely influenced by my

whereabouts. I often travel as I find it easier to

conceive new works while in unfamiliar

environments and confronted with new

people and places.”

Photographer Tereza Zelenkova produces

monochromatic images that invoke the occult,

mortality and mysticism. Inspired by travel and

her experiences of unfamiliar environments,

she documents mysterious artefacts from

nature. By beginning her process intuitively,

collecting images of objects and places she

feels drawn to, she later regains control

through editing and contemplation. The

resulting work is personal and reflective and

these mysterious artefacts begin to take on a

supernatural aura. Although the medium is

clearly grounded in representing reality, her

photographs deliberately lack ties with any

particular place or event. “They usually refer to

imaginary spaces or the world as a whole”,

she says. “Perhaps if there were a genre of

the ‘metaphysical document’, my photos

could belong to it.”

Born in Ostrava, Czech Republic, Tereza

now lives and works in London.

“I mi mae’r cyfrwng ffotograffig yn ymwneud â

chynrychioli realiti, ac yn aml ‘rwy’n ffeindio bod

f’ymarfer yn cael ei dylanwadu’n sylweddol gan

yr hyn sydd o’m cwmpas. ‘Rwy’n teithio’n aml

gan fy mod yn cael fy syniadau pan ‘rwyf mewn

llefydd anghyfarwydd gyda phobl a lleoliadau

newydd.”

Mae’r ffotograffydd Tereza Zelenkova yn creu

delweddau monocromatig sy’n dwyn i’r cof yr

ocwlt, marwoldeb a chyfriniaeth. Yn cael ei

hysbrydoli gan deithio a’i phrofiadau o

amgylcheddau anghyfarwydd, mae’n dogfennu

arteffactau dirgel o fyd natur. Trwy ddechrau ar ei

phroses yn reddfol, yn casglu delweddau o

eitemau a llefydd sy’n ei denu, mae hi wedyn yn

adennill rheolaeth trwy olygu a myfyrdod. Mae’r

gwaith dilynol yn bersonol ac yn fyfyriol ac mae’r

arteffactau dirgel hyn yn dechrau ymgymryd â

naws oruwchnaturiol. Er bod y cyfrwng yn amlwg

yn seiliedig ar gynrychioli realiti, nid yw ei

ffotograffau, yn fwriadol , yn gysylltiedig ag

unrhyw le neu ddigwyddiad penodol. Dywed:

“maent fel arfer yn cyfeirio at lecynnau dychmygol

neu’r byd yn ei gyfanrwydd. Efallai pe bai genre y

‘ddogfen fetaffisegol’ yn bodoli, byddai fy

ffotograffau yn perthyn iddi.” Wedi’i geni yn

Ostrava, y Weriniaeth Dsiecaidd, mae Tereza

bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain.

Tereza Zelenkova

“if there were a genre

of the ‘metaphysical

document’, my photos

could belong to it”

www.terezazelenkova.com

156

Page 155: 66 Residents at Creative Units
Page 156: 66 Residents at Creative Units

158

"... programmes such as this are

extremely beneficial to the local arts

community in terms of keeping them

vibrant, and from becoming too insular.

I was amazed at the level of

participation from the community to

events at the Centre."

"...the whole programme is making

Aberystwyth a richer and more

innovative artistic hub. The accumulation

of artists from different cultures and

practices has [made this happen]."