25
Exploration Tywi! Cymuned yn archwilio ei gorffennol A community exploring their past Chwilota’r Tywi!

A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Exploration Tywi!

Cymuned yn archwi l io e i gorffennol

A community exploring their past

Chwilota’r Tywi!

Page 2: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

ARIANWYR

Mae Chwilota’r Tywi! yn rhan o brosiect Tywi Afon yr Oesoedd.Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Dreftadaethy Loteri Genedlaethol; a Chynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a ChronfaAmaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae’r prosiect ynbartneriaeth rhwng Cyngor Sir Gaerfyrddin, YmddiriedolaethGenedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Menter Bro Dinefwr.

FUNDERS

Exploration Tywi! forms part of the Tywi Afon yr Oesoedd project.This project has received funding through the National HeritageLottery Fund; and The Rural Development Plan for Wales 2007-2013 which is funded by the Welsh Assembly Government andthe European Agricultural Fund for Rural Development. Theproject is a partnership between Carmarthenshire CountyCouncil, The National Trust, Countryside Council for Wales andMenter Bro Dinefwr.

Cydnabyddiaethau

Ni fyddai Chwilota’r Tywi! wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth a brwdfrydeddllawer o bobl. Rydym yn ddiolchgar i bawb a adawodd i ni fynd ar eu tir fel ygallai’r ymchwiliadau a’r arolygon gael eu gwneud. Roedd llawer o gyrff yncefnogi’r prosiect mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys Asiantaeth yr AmgylcheddCymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Geoparc Fforest Fawra chwaraeodd ran helaeth yn y digwyddiadau a gynhaliwyd yn y Garn Goch.Cyfrannodd llawer o unigolion eu hamser a’u harbenigedd, ac eto heb ymrwymiada brwdfrydedd y gwirfoddolwyr a gymerai ran ac a weithiodd mor galed ni fyddaiChwilota’r Tywi! wedi cyflawni gymaint. Bydded i’w harchwilio barhau!

Acknowledgements

Exploration Tywi! would not have been possible without the support andenthusiasm of many people. We are grateful to everyone who provided access totheir land to allow the investigations and surveys to be carried out. Manyorganisations supported the project in various ways including Environment AgencyWales, the Brecon Beacons National Park Authority and Fforest Fawr Geopark whoplayed a large part in the events held at Carn Goch. Many individuals andorganisations contributed their time and expertise, yet without the dedication andenthusiasm of the volunteers who took part and worked so hard Exploration Tywi!would not have achieved so much. Long may their explorations continue!

Cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed 2011Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Neuadd y Sir, Stryd Caerfyrddin, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6AF

Testun gan Mike Ings, Alice Pypergyda chyfraniad gan Anna JonesMapiau gan Hubert WilsonDylunio gan mopublications.comISBN 978-0-948262-10-4

Published by Dyfed Archaeological Trust 2011Dyfed Archaeological Trust, The Shire Hall, Carmarthen Street, Llandeilo,Carmarthenshire SA19 6AF

Text by Mike Ings, Alice Pyper with contribution by Anna JonesMaps by Hubert WilsonDesign by mopublications.comISBN 978-0-948262-10-4

Page 3: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Exploration Tywi!

Cymuned yn archwilio ei gorffennol

A community exploring their past

Chwilota’r Tywi!

Page 4: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

CYNNWYS

6 Hanes cryno Dyffryn Tywi

8 Deall dyffryn sy’n newid

10 Adolygu’r dystiolaeth

Parcdiroedd Dyffryn Tywi

Teithio drwy amser

16 Casglu tystiolaeth newydd

Cofnodi cloddiau

Arolwg mynwent

Ditectifs Tai

26 Profi’r Damcaniaethau

Gwerthusiadau

Cloddiad Wernfawr

34 Synhwyro’r gorffennol

Ymweliadau ysgolion

Gwyl y Synhwyrau

Rhyfel yn y Dyffryn

Gwyl y Garn Goch

43 Map o’r ardal dan

astudiaeth

CONTENTS

6 A brief history of the Tywi valley

8 Understanding a changing valley

10 Reviewing the evidenceParklands of the Tywi valleyTravelling through time

16 Gathering new evidenceHedgerow recordingChurchyard surveyHouse detectives

26 Testing the theoriesEvaluationsWernfawr excavation

34 Sensing the pastSchool visitsFestival of the SensesValley at warCarn Goch festival

43 Map of the study area

CHWILOTA’R TYWI! 4-5 EXPLORATION TYWI!

Chwilota’r Tywi! – cyflwyniad i’r prosiect

Exploration Tywi! – introduction to the project

Mae Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin, gorllewin Cymru, yn cael ei goleddu feltirwedd hanesyddol bwysig, ac mae’n enwog am ei olygfeydd o safon syddwedi eu ffurfio gan iâ, dwr a dyn. Mae ganddo gyfoeth o drysorau yncynnwys ceyrydd a chestyll, parcdiroedd a gerddi, a threfi a phentrefi llawncymeriad. Roedd y prosiect Tywi Afon yr Oesoedd yn canolbwyntio ar yr ardal rhwngLlangadog a Dryslwyn. Anelai at gryfhau cysylltiadau’r gymuned â’r dirwedddrwy ennill gwell dealltwriaeth a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i edrychar ôl eu tirwedd. Gellir dod o hyd i fwy am y prosiect arwww.tywiafonyroesoedd.co.ukMae’r llyfryn hwn yn dathlu’r hyn a gyflawnwyd gan un thema yn y prosiect,Chwilota’r Tywi! ymchwiliad gan y gymuned i ddechreuadau a hanes ydyffryn. Roedd rhaglen o weithgareddau dan arweiniad YmddiriedolaethArchaeolegol Dyfed yn mynd ag ysgolion, grwpiau diddordeb lleol ac aelodauo’r cyhoedd ar daith o ddarganfyddiadau mewn archaeoleg a daeareg. Nod y llyfryn yw cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan y rhai a gymerai ran ynChwilota’r Tywi! ac ysbrydoli archwilio pellach gan breswylwyr Dyffryn Tywia phobl o bellach draw.

^

The Tywi valley in Carmarthenshire, west Wales, is cherished as an importanthistoric landscape, renowned for its scenic qualities that have been shaped byice, water and man. It boasts a wealth of treasures including forts and castles,parkland and gardens, charismatic towns and villages.The Tywi a River Through Time project focused on the area between Llangadogand Dryslwyn. It aimed to strengthen the community’s links with the landscapeby gaining a better understanding and developing the skills needed to look aftertheir landscape. More about the project can be found at

www.tywiafonyroesoedd.co.uk This booklet celebrates the achievements of one theme ofthis project, Exploration Tywi! an investigation by thecommunity into the origins and history of the valley. Aprogramme of activities, led by the Dyfed ArchaeologicalTrust, took schools, local interest groups and members ofthe public on a journey of archaeological and geologicaldiscovery.The aim of this booklet is to acknowledge theachievements of the Exploration Tywi! participants andto inspire further exploration both by the residents of theTywi valley and people further afield.

^

^

Page 5: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

CynhanesMae rhychwant amser gweithgaredd dyn ynardal astudio Dyffryn Tywi yn ymestyn yn ôl cyndiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf pan oedd poblBalaeolithig yn hela ceirw ar dirwedd debyg idwndra. Cerfiwyd y dyffryn gan y rhewlifoeddwrth iddynt gilio ac wrth i’r hinsawdd gynhesu,roedd coedwigoedd yn codi a dychweloddbodau dynol yn y cyfnod Mesolithig. O tua 6000o flynyddoedd yn ôl nodweddid y cyfnodNeolithig gan amaethu. Yng Nghwmifor maesafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodiyn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, achanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint a golosgyno. Yn y cyfnod hwn y codwyd yr henebionarchaeolegol cynharaf yn cynnwys beddrodsiambr ger Bethlehem, Llangadog.Yn ystod yr Oes Efydd (tua 2000-750CC) o

dipyn i beth aeth y defnydd ar fetel ar led. Ydystiolaeth fwyaf nodedig o weithgaredd dyn ynNyffryn Tywi bryd hynny, eto, yw safleoeddangladdol a defodol. Mae tomenni claddu cerriga phridd i’w gweld ar y gorwel, gydagenghreifftiau da yn Nhrichrug a Thair Cairn Isafac Uchaf, ar y Mynydd Du. Wrth i’r hinsawddwaethygu at ddiwedd yr Oes Efydd symudai’ranheddu o’r tiroedd uchel ac mae’n debyg i’rOes Haearn weld cynnydd yn y boblogaeth ynNyffryn Tywi, gan arwain at wrthdaro o bosib.Codwyd aneddiadau amddiffynedig ar fannauuchel, gan gynnwys bryngeyrydd y Garn Gochuwchben Bethlehem.

PrehistoricThe timespan of human activity within the Tywistudy area stretches back to before the end ofthe last Ice Age when Palaeolithic people hunteddeer on a tundra-like landscape. The valley wascarved out by the retreating glaciers and as theclimate warmed up, forests emerged andhumans returned, in the period referred to asthe Mesolithic. From around 6000 years ago theNeolithic period was characterised by farming.An extensive Neolithic occupation sitecomprising numerous pits and post-holes, withfinds of burnt bone, flints and charcoal, hasbeen recorded at Cwmifor. It is in this periodthat the earliest archaeological monumentsincluding a chambered tomb near Bethlehem,Llangadog were built. During the Bronze Age (c2000-750BC) the

use of metal gradually became widespread. Themost notable evidence for human activity at thistime within the Tywi valley is, again, funeraryand ritual sites. Stone and earth burial moundsmark the skyline, with good examples atTrichrug and Tair Cairn Isaf and Uchaf, on theBlack Mountain. Deteriorating climate towardsthe end of the Bronze Age resulted in settlementmoving away from the uplands and it is likelythat the Iron Age saw an increase of populationin the Tywi valley, possibly leading to conflict.Defended settlements were built on high points,including the Carn Goch hillforts aboveBethlehem.

HistoricThe Romans came, saw and conquered the Tywivalley, establishing forts at Llandovery,Llandeilo and Carmarthen, linked by a networkof roads. Civilian sites in the area include thevilla at Llys Brychan, near Llangadog, and thenative settlement or vicus that grew beyond thegates of Llandeilo fort. The Roman militarypresence in Britain ended by the early 5thcentury and Christian Wales became a distinctpolitical entity, quite separate from paganAnglo-Saxon England. During this earlymedieval period the Tywi valley was within thekingdom of Deheubarth, founded by Hywel Dda. Following the Norman Conquest the Tywi valleywas on the frontline of power between the Welshprinces and the Anglo-Norman invaders formany years. The Welsh castles at Dryslwyn andDinefwr were built early in the 12th century butthe area was under English control by the endof the 13th century. A map from 1578 shows only four towns

within the study area – Llandeilo, Llandovery,Llangadog and Newton – and no new villageswere established following the Anglo-Normaninflux. Settlement on the Tywi floodplain hasalways been minimal, with isolated farms onraised “islands” within the flood prone areas.Large estates developed during the 17th to 19thcenturies, including Dinefwr and Abermarlais,and this unique group of planned parks andgardens provide perhaps the most outstandinghistorical legacy of the valley.

Hanesyddol Daeth y Rhufeiniaid i Ddyffryn Tywi, ei weld a’ioresgyn, gan sefydlu ceyrydd yn Llanymddyfri,Llandeilo a Chaerfyrddin, wedi’u cysylltu ganrwydwaith o ffyrdd. Mae safleoedd sifiliaid yn yrardal yn cynnwys y fila yn Llys Brychan, ar bwysLlangadog, a’r anheddiad brodorol neu’r ficws adyfodd heibio i byrth caer Llandeilo. Roeddpresenoldeb milwrol Rhufain wedi dod i ben erbyndechrau’r 5ed ganrif a daeth Cymru Gristnogol ynendid gwleidyddol pendant, yn hollol ar wahân iLoegr baganaidd yr Eingl-Sacsoniaid. Yn y cyfnodhwn, yr oesoedd canol cynnar, roedd Dyffryn Tywiyn rhan o frenhiniaeth y Deheubarth, a sefydlwyd gan Hywel Dda. Yn dilyn Concwest y Normaniaid roedd Dyffryn

Tywi ar flaen y gad am rym rhwng tywysogionCymru a’r goresgynwyr Eingl-Normanaidd amflynyddoedd maith. Codwyd cestyll gan y Cymry yn y Dryslwyn a Dinefwr yn gynnar yn y 12fedganrif ond roedd yr ardal dan reolaeth y Saesonerbyn diwedd y 13eg ganrif. Dim ond pedair tref a ddangosir yn ardal yr

astudiaeth ar fap o 1578 – Llandeilo, Llanymddyfri,Llangadog a’r Newton – ac ni sefydlwyd dimpentrefi newydd yn dilyn dylifiad yr Eingl-Normaniaid. Prin yw’r anheddu wedi bod erioed ar orlifdir Afon Tywi, gyda ffermydd anghysbellwedi eu codi ar “ynysoedd” yn yr ardaloedd sy’ndueddol o gael eu gorlifo. Datblygodd ystadaumawr rhwng yr 17eg ganrif a’r 19eg ganrif, yncynnwys Dinefwr ac Abermarlais, a’r grwp hwn obarciau a gerddi cynlluniedig mae’n debyg ywtreftadaeth hanesyddol fwya anhygoel y dyffryn.

O’r chwith:Beddrod siambrNeolithig gerBethlehem,bryngaer CarnGoch o’r OesHaearn, niwloeddyn y bore bach odan CastellDryslwyn, ParcDinefwr.

From left:Neolithicchambered tombnear Bethlehem,Carn Goch IronAge hill fort,early morningmists belowDryslwyn castle,Dinefwr Park.

Hanes cryno Dyffryn Tywi – persbectif archaeolegol

A brief history of the Tywi valley –an archaeological perspective

CHWILOTA’R TYWI! 6-7 EXPLORATION TYWI!

^

Page 6: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Afon Tywi yw un o afonydd mwyaf dynamigCymru ac mae archwilio’r gwaddodion a gedwirar lawr ei dyffryn yn datgelu hanes o erydu,dyddodi a gorlifo yn dyddio’n ôl i ddiwedd yrhewlifiant diwethaf. Mae’r archwilio hwn arastudio gwaddodion gorlifdir yn dangos sut maenewid hinsawdd a gorchudd tir wedi effeithio arymddygiad yr afon yn ystod y milenia diwethaf. Wrth i Afon Tywi symud ar draws ei gorlifdir

mae gwaddodion yn cael eu dyddodi gan y dwraraf ei lif. Mae cyfnodau byrrach o lif cyflymach

yn achosi erydu, sy’n torri i waelod y dyffrynmewn proses a elwir yn “dyrchu”. Mae’r broseshon wedi ffurfio grisiau o derasau. Mae’n debygi’r hynaf o’r rhain ffurfio mwy na 12000 oflynyddoedd yn ôl a’r diweddaraf yn y 200mlynedd diwethaf. Mae union oed terasau uchafa hyna’r afon yn anhysbys, ond mae dyddioradiocarbon ar ddeunydd organig a gafwydmewn gwaddodion yn hen sianelau’r afon 1.5metr uwchben gwely’r afon heddiw yn arwyddobod y cyfnod mawr diwethaf o dyrchu’r afonrhwng tua 4700 a 3850 o flynyddoedd yn ôl,rhwng yr Oes Neolithig ddiweddar a’r Oes Efyddgynnar. Yn ystod y tri mileniwm a hanner wedi hynny

roedd yr afon yn erydu ac yn dyddodigwaddodion ar lawr ei dyffryn tan ychydig cyn y18fed ganrif pan dorrwyd hi at ei lefelbresennol. Mae mapiau hanesyddol o’r 19egganrif a lluniau mwy diweddar o’r awyr yncaniatáu i symudiadau’r afon, erydu’r glannaua’r dyddodi graean yn ystod y 150 mlynedddiwethaf gael eu cofnodi’n eithaf manwl. Roedd newidiadau o bwys yn ymddygiad yr

afon yn dylanwadu ar weithgaredd dynion ac arbatrymau anheddu yn Nyffryn Tywi. Er bod rhaisafleoedd archaeolegol wedi eu colli wrth i’rafon symud ar draws y dyffryn, mae rhai o’rterasau hynaf yn diogelu olion byw yn yr OesEfydd.

The river Tywi is one of the most dynamicrivers in Wales and investigation of thesediments stored in its valley floor has revealeda history of erosion, deposition and floodingdating back to the end of the last glaciation.This exploration into the study of floodplainsediments shows how climate and land coverchange have affected river behaviour duringpast millennia. As the river Tywi moves across its floodplain

sediments are deposited by the slow-flowingwater. Shorter episodes of faster flow causeerosion, cutting into the valley bottom in aprocess known as “down-cutting”. This processhas formed a staircase of terraces. The oldest ofthese probably formed more than 12000 yearsago and the most recent in the last 200 years.The exact ages of the highest and oldest riverterraces are unknown, but radiocarbon datingof organic material found in sediments withinold river channels 1.5metres above the modernriver bed indicates that the last major episodeof river down-cutting occurred about 4700 and3850 years ago during the late Neolithic to earlyBronze Age.In the following three and a half millennia

the river eroded and deposited sediments on itsvalley floor until shortly before the 18th centurywhen it cut down to its present level. Historicmaps from the 19th century and more recentaerial photographs allow river movement, bankerosion and gravel deposition over the past 150years to be documented in some detail.Major changes in river behaviour influenced

human activity and settlement patterns in theTywi valley. Although some archaeological siteshave been lost when the river moved across thevalley some of the older terraces preserveremains of Bronze Age occupation.

Tyllu craidd arwaith yngNghwrt Henri(chwith) acAbermarlais (y dde).

Coring beingundertaken atCwrt Henri (left)and Abermarlais(right).

Patrymau yndangos llwybrAfon Tywi ynnewid ble mae’ncwrdd ag AfonyddSawdde a Brân.

Patterns showingthe changingcourse of the Tywiwhere it meets theRivers Sawddeand Brân.

CHWILOTA’R TYWI! 8-9 EXPLORATION TYWI!

Deall dyffryn sy’n newid

Understanding a changing valley

^

Page 7: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

A first step in an exploration into the past is togather together available records and sources.Luckily a wealth of information already existsabout the history and landscape of the Tywivalley. The Historic Environment Record (HER)held by the Dyfed Archaeological Trust includeshistoric maps, aerial photographs and excavationreports – which all contribute to build up apicture of the past in the Tywi valley. Workingalongside professional archaeologists, volunteershave brought together information and put it intoa readily accessible digital format. This includesthe results from excavations conducted inadvance of the 2007 gas pipeline, an assessmentof parklands and the mapping of field patterns.Other repositories of historic documents whichhave been explored include the National Libraryof Wales and National Monuments Record atAberystwyth, and the Carmarthenshire RecordsOffice. With all the available evidence gathered,themed maps of the study area were created tohelp understand the development of the valleyover time.

CHWILOTA’R TYWI! 10-11 EXPLORATION TYWI!

Y cam cyntaf wrth archwilio’r gorffennol ywcasglu’r dystiolaeth ynghyd am y cofnodion a’rffynonellau sydd ar gael. Drwy lwc mae cyfoeth owybodaeth eisoes yn bod am hanes a thirweddDyffryn Tywi. Mae’r Cofnod AmgylcheddHanesyddol (CAH) sydd ym meddiantYmddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cynnwysmapiau hanesyddol, lluniau o’r awyr acadroddiadau cloddiadau – a’r cyfan yn cyfrannu atadeiladu darlun o’r gorffennol yn Nyffryn Tywi.Gan weithio ochr yn ochr ag archaeolegwyrproffesiynol, mae gwirfoddolwyr wedi dod âgwybodaeth at ei gilydd a’i rhoi mewn fformatdigidol hawdd cael gafael arno. Mae’n cynnwys ycanlyniadau o’r cloddiadau a fu cyn gosod y bibellnwy yn 2007, asesiad o barcdiroedd a mapiopatrymau caeau. Mae storfeydd eraill i ddogfennauhanesyddol sydd wedi’u harchwilio yn cynnwysLlyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Cofnod HenebionCenedlaethol yn Aberystwyth, a SwyddfaGofnodion Sir Gaerfyrddin. Gyda’r holl dystiolaethoedd ar gael wedi ei chasglu, cafodd mapiauthematig o ardal yr astudiaeth eu creu igynorthwyo i ddeall sut datblygodd y dyffryn drosamser.

*HOW TO REVIEW THE EVIDENCE

A great number of records and sources exist. Here aresome of the ways that you can go about exploring thepast…

• The Historic Environment Record (HER) holdsinformation on all known archaeological sites fromplace-name evidence and findspots to ancientmonuments and historical buildings. This record isconstantly being updated and is now publicly availablethrough the website www.archwilio.org.uk.• Local and national archives hold extensiverecords, including census returns, electoral registersand local newspapers. There are record offices in eachcounty, as well as museums and libraries. A valuableresource in Wales is the National Library of Wales inAberystwyth that houses a huge collection ofhistorical sources from books and maps tomanuscripts, paintings and photographs(www.llgc.org.uk).The National Monument Record ofWales, also held in Aberystwyth, is a national archive ofphotographs, maps, drawings and other information onthe historic environment of Wales(www.rcahmw.gov.uk).• Historical mapping is a fascinating passport into ourpast. Sources such as 18th and 19th century estatemaps, mid 19th century tithe maps and late 19th toearly 20th century Ordnance Survey maps are usuallyheld at the local archives or county records office andthe HER.

Adolygu’r dystiolaeth

Reviewing the evidence Ers i mi wirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth dw i wedicwrdd ag ystod o bobl o bob oed ac wedi dod yngyfeillgar â nhw. Gwych yw cael cyfnewid syniadau agwrando ar unigolion sy’n gweld safle neu weithgaredd obersbectif gwahanol i mi fy hun. Dw i hefyd wedi cwrddâ mwy o bobl o’r gymuned nad wyf yn credu y byddwnwedi cael cyfle i gwrdd â nhw fel arall.

Matt’s taleSince volunteering with the Trust I have met andbefriended a range of people of all ages. It’s great tolisten to, and swap ideas with, individuals who see asite or activity from a different perspective frommyself. I have also met more people from thecommunity who I don’t think I would’ve had a chanceto meet otherwise.

Stori Matt

Hen lun o flaen siopyn Llandeilo.

Old photograph ofLlandeilo shop front.

Mae cyfoeth o wybodaetheisoes ar gael am yr hanesa’r dirwedd.

A wealth of informationalready exists about thehistory and landscape.

Darn o fap oblasty a pharcAbermarlais.

Extract ofAbermarlaismansion andpark map.

SUT I ADOLYGU’R DYSTIOLAETH

Mae nifer fawr o gofnodion a ffynonellau mewnbodolaeth. Dyma rai o’r ffyrdd y gallwch fynd ati iarchwilio’r gorffennol…

• Mae gan y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol(CAH) wybodaeth am bob safle archaeolegol hysbys odystiolaeth am enwau lleoedd a mannau darganfod ihenebion hynafol ac adeiladau hanesyddol. Mae’r cofnodhwn yn cael ei ddiweddaru’n gyson ac mae bellach argael i’r cyhoedd drwy’r wefanwww.archwilio.org.uk.• Mae gan Archifau Lleol a Chenedlaethol gofnodionhelaeth, gan gynnwys ffurflenni cyfrifiad, cofrestrauetholwyr a phapurau newydd lleol. Mae swyddfeyddcofnodion ym mhob sir, yn ogystal ag amgueddfeydd allyfrgelloedd. Adnodd gwerthfawr yng Nghymru yw’rLlyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth sy’n gartref igasgliad anferth o adnoddau hanesyddol o fapiau ilawysgrifau, paentiadau a lluniau (www.llgc.org.uk). MaeCofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, hefyd ynAberystwyth, yn archif genedlaethol o luniau, mapiau,lluniadau a gwybodaeth arall am amgylcheddhanesyddol Cymru (www.rcahmw.gov.uk).• Mae mapiau hanesyddol yn basbort cyfareddol i’ngorffennol. Mae ffynonellau fel mapiau ystadau o’r 18feda’r 19eg ganrif, mapiau’r degwm o ganol y 19eg ganrif amapiau’r Arolwg Ordnans o ddiwedd y 19eg ganrif iddechrau’r 20fed ganrif fel arfer ar gael yn yr archifdylleol neu swyddfa cofnodion y sir a’r CAH.

Llun

o W

asan

aethau

Archifau Sir Gae

rfyrdd

in / Im

age provided

by Ca

rmarthen

shire

Archive Servic

e

Drw

y garedigrwydd Miss B. E

vans / Cou

rtesy of M

iss B. E

vans

Page 8: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Mae Dyffryn Tywi yn cael ei alw yn “ArddCymru” oherwydd y grwp unigryw o barciau agerddi cynlluniedig sydd ynddo. Maeparcdiroedd yn ardaloedd o dirwedd wedi’udylunio, wedi eu gwella’n artiffisial i greugolygfeydd a fistâu dymunol. Mae gan DdyffrynTywi rai o’r parciau tirwedd pwysicaf yngNghymru gyda Dinefwr, Gelli Aur ac Aberglasne.Beth bynnag mae gwaith ymchwil drwyChwilota’r Tywi! wedi dangos bod parciau agerddi hanesyddol i’w cael yn helaeth ar unadeg drwy’r dyffryn a bod eu hetifeddiaeth yndal yn weladwy yn y dirwedd heddiw.

Parcdiroedd Dyffryn Tywi Parklands of the Tywi valley

GELLI AUR

Un o’r ystadau sy’n agored i’r cyhoedd yw’r Gelli Aursydd ar un o lethrau Dyffryn Tywi sy’n wynebu’rgogledd, ryw 3km i’r gorllewin o Landeilo. Ty o OesElisabeth oedd yr un gwreiddiol ond fe’i ddinistriwydgan dân ym 1792 a chafodd yr un a godwyd igymryd ei le ei chwalu yn gynnar yn y 19eg ganrifpan adeiladwyd plasty newydd ar safle mwydyrchafedig. Mae terasau a gerddi ffurfiol ynamgylchynu’r plasty presennol, sydd â gardd goed apharc ceirw eithriadol. Drwy wneud yr asesiad hwn ar barcdiroedd ar hyd alled y dyffryn roedd yn bosibl amlygu’r ardaloedd blemae cymeriad pendant y parcdir wedi ei golli ac maeffyrdd wedi eu nodi i allu eu hadfer i’w hen ogoniant.

GOLDEN GROVE

One of the estates open to the public is Gelli Aur,or Golden Grove, set on the north facing bluff ofthe Tywi valley, some 3km west of Llandeilo. Theoriginal Elizabethan house was destroyed by fire in1729 and its replacement was demolished in theearly 19th century when a new mansion was builton a more elevated position. Formal terraces andgardens surround the present mansion, with anoutstanding arboretum and a deer park. By doing this assessment of parklands through thevalley it has been possible to highlight areas wherethe distinctive parkland character has been lost andways have been identified in which they could berestored to their former glory.

Chwith: Un o’r darluniau cynharaf oDdyffryn Tywi, o Fryn Grongar at Ddinefwr.Engrafiad gan Wenceslaus Hollar yn dyddioo 1657, ar glawr llyfr y Parchedig JeremyTaylor, Golden Grove - The Guide of Infant-Devotion. Ar y dde: Map o’r ystad yn dangosparcdir yn Gelli Aur.

Left: One of the earliest depictions of the Tywivalley, from Grongar Hill towards Dinefwr. Anengraving by Wenceslaus Hollar dating from1657, on the cover of Rev. Jeremy Taylor’sGolden Grove - The Guide of Infant-Devotion.Right: An estate map showing parkland atGolden Grove.

CHWILOTA’R TYWI! 12-13 EXPLORATION TYWI!

The Tywi valley has been labelled the “Gardenof Wales” after its unique group of plannedparks and gardens. Parklands are areas ofdesigned landscape, artificially enhanced tocreate pleasing views and vistas. The Tywi valleyboasts some of the most important landscapeparks in Wales with Dinefwr, Golden Grove andAberglasney. However research throughExploration Tywi! has shown that historicparks and gardens were once widespreadthroughout the valley and that their legacy isstill visible in the landscape today.

Drw

y garedigrwydd Iarlles Caw

dor, Llun

o W

asan

aethau

Archifau Sir Gae

rfyrdd

inCo

urtesy of Co

untess Caw

dor, Im

age provided

by Ca

rmarthen

shire

Archive Servic

e

Llun

drw

y garedigrwydd Tom Lloyd / Im

age provided

cou

rtesy of To

m Lloyd

^

^

Page 9: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Dyffryn Tywi oedd y prif lwybr hanesyddol iorllewin Cymru ac adeiladwyd y ffordd Rufeinigo Lanymddyfri i Gaerfyrddin wrth droedllethrau’r dyffryn ar ochr ogleddol yr afon. Er nad yw’n dilyn union linell y ffordd

Rufeinig, mae’r llwybr wedi parhau yndramwyfa bwysig. Ym 1763 anfonwyd deiseb iDy’r Cyffredin i ddod â mesur i drin y “BrifFfordd”, yr A40 heddiw, drwy Sir Gaerfyrddin.Roedd y Ddeddf a ddaeth yn sgîl hynny ynsefydlu’r awdurdod tollbyrth cyntaf yn NeCymru. Y bwriad gwreiddiol oedd gwella’rffyrdd oedd yn bod ond roedd llawer o’rymddiriedolaethau yn codi tollau eithafol.Arweiniodd y baich ariannol ychwanegol hwn ar

The Tywi valley was the major historic routeinto west Wales and the Roman road fromLlandovery to Carmarthen was constructedalong the foot of the valley slopes on the northside of the Tywi.

Although not following the exact line of theRoman road, this route has remained animportant thoroughfare. In 1763 a petition wassent to the House of Commons to bring a Bill torepair the “High Road”, the modern A40,through Carmarthenshire. The subsequent Actestablished the first turnpike authority to be setup in South Wales. The original intention was toimprove the existing roads but many trustscharged extortionate tolls. This additionalfinancial burden imposed on poor farmingcommunities led to the uprising by the MerchedBeca – Rebecca’s Daughters (men disguised inwomen’s clothes so as not to be recognised bythe authorities) – to destroy the tollgates.

Among their many targets was a smalltollhouse to the northwest of Llandeilo. It wasdestroyed in 1843, as a detachment ofDragoons, sent to protect the local tollgates, satoblivious in their billets in the Cawdor Armsand George Hotel.

A further communication link wasestablished along the length of the valley whenthe LNWR main West Wales railway opened asthe ‘Vale of Towy Line’, by the Llanelly Railwayand Dock Company, in 1858.

Teithio drwy amser

TAITH GERDDED CELIA

Heb ddim Tardis neu De Lorean wedi’i drin ynarbennig, y ffordd fwyaf effeithiol i deithio drwyamser yw ar droed… Mae Dyffryn Tywi yngyfoethog o safleoedd hanesyddol ac mae llawero emau cudd yn aros i gael eu darganfod. MaeCelia Parsons yn cymryd rhan yn y prosiect adyma hi’n eich tywys ar daith gerdded o bentrefBethlehem i’r Garn Goch, gan fynd â chi’n ôlmewn amser i gynhanes.

CELIA’S WALK

In the absence of a Tardis or souped-up DeLorean, the most effective way to travelthrough time is on foot… The Tywi is rich inhistorical sites and many hidden gems awaitdiscovery. Project participant Celia Parsonsguides you on a walk from Bethlehem villageto Carn Goch, taking you back in time toprehistory.

AC A FENDITHIASANT REBECA…

Credir i gyfeiriad Beiblaidd (Genesis 24:60) arwain atffenomenon eithriadol – dynion wedi gwisgo lan felmerched yn gollwng eu dicter a’u rhwystredigaeth ardollbyrth, symbolau mwyaf cyffyrddadwy trethi uchel.Cafwyd yr ymosodiadau rhwng 1839 a 1843, gyda’rprotestiadau cyntaf yn Sir Gaerfyrddin.

AND THEY BLESSED REBEKAH…

A biblical reference (Genesis 24:60) thought to have givenrise to an extraordinary phenomenon – men dressed aswomen venting their anger and frustration on tollgates,the most tangible symbols of high taxes. The attacksoccurred between 1839 and 1843, with the first protestsin Carmarthenshire.

gymunedau amaethyddol tlawd at wrthryfelMerched Beca – (dynion wedi gwisgo lan mewn dillad merched fel na fyddai’rawdurdodau yn eu hadnabod) – a oedd yndinistrio’r tollbyrth. Ymysg eu targedau lu roedd tollborth bychan

i’r gogledd orllewin o Landeilo. Dinistriwyd hwnym 1843, pan oedd mintai o’r Dragwns a oeddwedi’u hanfon i warchod y tollbyrth lleol, yneistedd yn ddiarwybod yn eu llety yn y CawdorArms a Gwesty’r George. Sefydlwyd cyswllt cyfathrebu pellach ar hyd y

dyffryn pan agorwyd prif reilffordd GorllewinCymru yr LNWR fel “Llinell Dyffryn Tywi” ganGwmni Rheilffordd a Dociau Llanelli ym 1858.

Travelling through time

Mae prosiect Chwilota’rTywi wedi agor fy llygaid i’ramgylchedd o’m cwmpas.Mae gweithio argloddfeydd ac arolygonarchaeolegol wedi datgelustraeon am hen ffyrdd ofyw yn agosach at y tir - odai y gallech ddychmygubyw ynddynt, sy’n dyddioyn ôl i afaelioncynhanesyddol Garn Goch a phopeth rhwng y ddaugyfnod. Mae wedi dod â phobl at ei gilydd i gyfrannuagweddau gwahanol at y stori. Yn bersonol, mae wedify helpu i ddechrau dehongli fy nhy fy hun, ac wedi rhoii mi barch newydd amdano.

Celia’s taleThe Exploration Tywi project has opened my eyes tomy surroundings. Working on archaeological digs andsurveys has revealed stories of old ways of living closerto the land - from houses you could imagine living in,going back to the great prehistoric remains of CarnGoch and everything in-between. It has got peopletogether to contribute different aspects of the story.On a personal note it has helped me start to interpretmy own house and given me a new respect for it.

Stori Celia

CHWILOTA’R TYWI! 14-15 EXPLORATION TYWI!

“…ac etifedded dy had borthei gaseion”

“…let thy seed possess thegate of those which hate us”

Llun

iau gan Mike Ings / Pho

tos by M

ike Ings

Ysgubor o’r 19egganrif, CapelBethlehem, MelinGlan Geidrych,corlan, CarregGwynfor Evans a rhagolwg oer.

19th centurybarn, CapelBethlehem, GlanGeidrych Mill,sheepfold,Gwynfor EvansStone and a chilly outlook.

^ ^

^

1

2

3

5 64

Page 10: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Casglu tystiolaeth newydd Gathering new evidence

Er mor oleuedig y gall ymchwil wrth ddesgfod, does dim yn cymharu â mynd ma’s yna iweld pethau drosoch chi’ch hunan. Unwaith ybydd asesiadau wedi’u gwneud o’r ffynonellauhanesyddol, y cam nesaf yw mentro i’r maes iarchwilio’r tirweddau a’r nodweddionhanesyddol hyn a’u cofnodi. Mae gwrthrychauamrywiol fel gwrychoedd, cerrig beddau,adfeilion ac adeiladau sy’n sefyll yn bynciaudiddorol i ymchwilio iddynt. Gall y wybodaethhon ychwanegu at ein gwybodaeth gyffredinolam yr ardal…

As enlightening as desk-based researchcan be, nothing compares with getting outthere to see things for yourself. Onceassessments of the historic sources havebeen made the next stage is venturing outinto the field to explore and record thesehistoric landscapes and features. Diversesubjects such as hedgerows, gravestones,ruins and standing buildings are allinteresting subjects for investigation. This information can then be added to ouroverall knowledge of the area.

Mae patrymau’r caeau a’r cloddiau yn rhoicymeriad pendant i Ddyffryn Tywi, ond pammaent yn amrywio gymaint ar draws ydirwedd? Ac a allwn ddysgu pa mor hen ydyntwrth edrych ar yr adeiladwaith a’rrhywogaethau sy’n tyfu ynddynt? Dyma dim onddau o’r cwestiynau a oedd yn cael eu holi gan yrarolwg cofnodi cloddiau. Ymysg y nodweddion igadw llygad amdanynt oedd coed a llwyniffrwythau neu rai addurnol, a allai nodi garddneu dir caeedig i fwthyn. Efallai y bydd y gwaithadeiladu ar gloddiau a ffosydd yn cynnig cliwiauam eu dyddiad a’u diben. Gellir dod o hyd igliwiau eraill o ran dyddio cloddiau mewnenwau lleoedd ar fapiau’r degwm, nifer yrhywogaethau sydd ynddynt a’u perthynas ânodweddion eraill ar y dirwedd. Mae pobl a gymerai ran yn Chwilota’r Tywi!

wedi cynnal arolwg o’r cloddiau o amgylchFelindre ar bwys Llangadog. Yno mae’r caeaustribedi agored nodweddiadol o’r OesoeddCanol wedi cael eu cadw ble mae’r stribedi yncael eu cyfuno a’u hamgáu gan ffin i gadw’r dabyw mewn.

Cofnodi cloddiau Hedgerow recording

Field patterns and hedgerows give the Tywivalley a distinct character, but why do they varyso much across the landscape? And can wediscover what age they are by looking at thestructure and species growing in them? Theseare just two of the questions that wereaddressed by the hedgerow recording survey.Features to look out for include fruit or

ornamental trees and shrubs, which mightindicate a garden or cottage enclosure. Theconstruction of banks and ditches and repeatedplanting patterns of hedgerow species mayprovide clues to its date and purpose. Otherclues to dating hedgerows can be found in fieldnames on tithe maps, the number of speciesthey contain and its relationship with otherfeatures in the landscape.

Exploration Tywi! participants have carriedout surveys of the hedgerows around Felindrenear Llangadog. Here the characteristic openMedieval strip fields have been preserved whenthe strips became amalgamated and enclosedby a stock proof boundary.

CHWILOTA’R TYWI! 16-17 EXPLORATION TYWI!

Rhai a gymerairan yn troi’ndditectifs tai.

Participantsbecome housedetectives.

Am dros 30 mlynedddw i wedi gwylioarchaeoleg ar y teledu acymchwilio i hanes fynheulu. Er does dimgwreiddiau gyda fi yn yr ardal roeddChwilota’r Tywi! yncynnig cyfle i fi fyndymhellach gyda’r ddauddiddordeb, i ddechraugyda’r arolwg ymmynwent eglwys Llandeilo, ac yna gydagychydig o archaeoleg ymarferol. Mae awyr iach, cwmnida a’r cyfle i ddysgu rhai o’r technegau a ddefnyddir ynogystal â pheth o hanes yr ardal wedi rhoi pleser mawr ifi ac wedi dangos meysydd i fi eu harchwilio fy hun.

Tony’s taleFor over 30 years I have watched television archaeologyand researched my family history. Although I have noroots in the area Exploration Tywi offered me anopportunity to further both interests, initially through thegraveyard survey at Llandeilo church, and then some“hands on” archaeology. Fresh air, good company and thechance to learn some of the techniques involved as well assome of the history of the area has given me greatpleasure and pointed out areas for my own exploration.

Stori Tony

Page 11: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

CHWILOTA’R TYWI! 18-19 EXPLORATION TYWI!

BETH SYDD MEWN CLAWDD?

Mae cloddiau wedi eu cynllunio i amgáu tir, gan roiffiniau i gadw da byw mewn neu ffiniau tiriogaeth.Mae ffurf y ffiniau hyn yn rhoi cliwiau i ni ynghylch eudechreuadau; sut, pam a phryd y cawsant eu creu.Mae amgaead darn yn narn fel arfer yn arwain atffurfiau afreolaidd ar gaeau ond mae amgaead arraddfa eang, fel yr amgaead seneddol yn yr 17eg a’r18fed ganrif yn aml yn cael ei nodweddu gan ffiniausyth a chaeau sgwariog. Mae ffiniau caeau o’r OesEfydd yn aml yn cael eu hadnabod drwy furiau cerrigisel ac roedd caeau’r Rhufeiniaid yn cael eu gosodmewn unedau mesur rheolaidd iawn (Canwriadu).Roedd caeau’r Oesoedd Canol yn agored ac yn caeleu hamaethu gan deuluoedd unigol, ond roeddamgaead wedi hynny yn aml yn unol a systematig.

WHAT’S IN A HEDGE?

Hedges are designed to enclose land, providing stockproof boundaries or territorial boundaries. The formof these boundaries provide clues to their origins;how, why and when they were created. Piecemealenclosure usually results in irregular field shapeswhereas wholesale enclosure, such as theparliamentary enclosure of the 17th-18th century isoften characterised by straight boundaries andsquared fields. Bronze Age field boundaries are oftenrecognised as low stone walls and Roman fields werelaid out in very regular units of measurement(Centuriation). Medieval fields were open and farmedin strips by individual families, while post-medievalenclosure was often unified and systematic.

SUT I GAEL HELFA CLODDIAU

Gall cloddiau a ffiniau caeau ddweud llawer iawn wrthymam y dirwedd a sut mae wedi esblygu dros amser. Osydych am astudio cloddiau sicrhewch yn gyntaf fod gydachi ganiatâd perchennog y tir a llwythwch i lawr eintaflenni cofnodi a’n nodiadau canllaw sydd ar gael arwww.dyfedarchaeology.org.uk

Cliwiau i’w gweld• Goed ffrwythau fel afalau, eirin neu eirin hir neu gallrhywogaethau addurnol fel coed prifet, bocs neu dresiaur arwyddo gardd neu amgaead ar gyfer bwthyn.

• Gall rhywogaethau neilltuol sy’n cael eu hailadrodd yn yclawdd fod yn arwydd o batrwm plannu.

• A yw ffyrdd/rheilffyrdd yn ymddangos eu bod yn ‘torriar draws’ ffiniau caeau? Gall dyddiadau ffyrdd tyrpeg arheilffyrdd gynnig cronoleg.

• Gall enwau caeau ar fap y degwm ddangos y defnydd ardir a chynnig cliwiau eraill am ddyddiad patrwm y cae.

• A yw ffiniau caeau eraill yn parchu neu’n dod i ben arffin? Gall hyn fod yn arwydd o ffin o gryn arwyddocâd ahynafiaeth.

• A oes coed safonol yno? Coed yw’r rhain a adewir idyfu’n naturiol am 80 – 100 mlynedd tan y gellir eucynaeafu a’u defnyddio ar gyfer pren. Roedd pren ynwerthfawr dros ben. Cyn y 19eg ganrif efallai y byddentwedi eu tocio – eu torri ar uchder o tua 2-3 metr. Gallcoed wedi’u tocio roi cnwd porthiant pwysig – ‘gwairdeiliog’.

• Beth yw adeiladwaith y ffin gorfforol (h.y. clawdd neuffos) a sut mae’n cymharu â’r rhai cyfagos?

Peidiwch ag anghofio rhoi copi o’ch cofnodion yn y CAHlleol, gan y byddant yn ychwanegu at y corff o wybodaethar gyfer eich ardal leol.

* HOW TO HAVE A HEDGEROW HUNT

Hedgerows and field boundaries can tell us a great dealabout the landscape and how it has evolved over time. If you would like to study hedgerows first check thatyou have the landowner’s permission and download ourrecording sheets and guidance notes available atwww.dyfedarchaeology.org.uk

Clues to look for • Fruiting trees such as apple, plum or damson orornamental varieties such as privet, box or laburnummay indicate a garden or enclosure for a cottage.

• Particular species may repeat in the hedgerowindicating a planting pattern.

• Do roads/railways appear to ‘cut across’ fieldboundaries? Dates of turnpike roads and railways canprovide a chronology.

• Field names on the Tithe map may indicate land useand offer clues to the date of the field pattern.

• Do other field boundaries respect or butt up to aboundary? This may indicate a boundary of somesignificance and antiquity.

• Are standard trees present? Standards are trees leftto grow naturally for 80 – 100 years when they couldbe harvested and used for timber. Timber was a veryvaluable commodity. Prior to the 19th century theycould have been pollarded – cut at a height of around2-3 metres. Pollards might provide an importantfodder crop – ‘leafy hay’.

• What is the construction of the physical boundary(i.e. a bank or ditch) and how does it compare tothose adjacent?

Don’t forget to deposit your records at the local HER,as these will add to the body of knowledge for yourlocal area.

Uchod: Edrych dros y gwrych – Cofnodigwrychoedd ynFelindre. Chwith:Caeau stribedi o’rOesoedd Canol ynFelindre. Y dde:Mwsglys – rhywogaetha all fod yn arwydd ogoetir hynafol. Isod:Hen goesynnau wedi’uplygu mewn clawddyn dangos y cyfeiriady cafodd ei “osod”.

Top: Looking over thehedge - hedgerowrecording at Felindre.Far left: Medieval stripfields at Felindre.Above: Moschatel – aspecies that mayindicate ancientwoodland. Left: Oldbent stems in a hedgeindicate the directionit was “laid”.

Page 12: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

The dead still have tales to tell. Gravestones inone part of Llandeilo Churchyard wererecorded by the Women’s Institute during the1980s. However the northern section of thegraveyard remained untouched.So it was that an army of enthusiastic local

volunteers braved the brambles and nettles tocarefully scrutinize each of the individualgravestones and record their details.Fascinating tales have been told and burial plotshave been explored to reveal local familyhistories. Some of the gravestones areweathering badly so our survey will be avaluable record of the epitaphs before they arelost completely.

“To the memory of Samuel Enderby,Captain late H M 16th Lancers.Died Feb. 5th 1873, aged 84”

BYWYD LLAI CYFFREDIN

Arysgrif i godi chwilfrydedd. Pwy oedd hwn? Roeddbywyd diddorol dros ben ar fin cael ei ddatgelu. Yn 16 oed, roedd Samuel ym mrwydr Trafalgar, ynganol-longwr ar fwrdd The Defence. Fel Ffonwaywrymladdodd yn Waterloo cyn teithio gyda’i gatrawd iIndia.Roedd ei dad-cu, Samuel Enderby arall, wedi sefydlubusnes hela morfilod ym 1773 ac roedd y SamuelEnderby y daeth Capten Ahab ar ei thraws yn MobyDick yn llong go iawn yng nghwmni Enderby. Mae naiSamuel, Charles Gordon, yn fwy adnabyddus felGordon o Khartoum.Priododd Samuel dair gwaith,a’r tro olaf – pan oedd yn 79oed – gydag Emma JemimaCleaver a oedd yn 26 oed, yroedd ei thad yn baentiwr agwydrwr yn Stryd Rhosmaen,Llandeilo. Ym 1873, dim ondpedwar mis ar ôl marw Samuel,roedd ei weddw wedi ailbriodierbyn diwedd Mehefin.

A LIFE LESSORDINARY

An intriguing inscription. Whowas he? A most interesting lifewas soon to be exposed. At 16, Samuel was at Trafalgar,as midshipman onboard TheDefence. As a Lancer he foughtat Waterloo before travellingwith his regiment to India. His grandfather, anotherSamuel Enderby, established a whaling business in 1773and the Samuel Enderby encountered by Captain Ahabin Moby Dick was a real ship in Enderby’s company.Samuel’s nephew, Charles Gordon, is better known asGordon of Khartoum. Samuel was married three times, the last - when hewas 79 – to the 26 year old Emma Jemima Cleaver,whose father was a painter and glazier in RhosmaenStreet, Llandeilo. In 1873, only four months afterSamuel’s death, his widow was remarried.

CHWILOTA’R TYWI! 20-21 EXPLORATION TYWI!

Churchyard survey

Mae gan y meirw straeon i’w dweud wrthym ohyd. Cafodd cerrig beddau mewn un rhan ofynwent eglwys Llandeilo eu cofnodi gan Sefydliady Merched yn ystod y 1980au. Beth bynnag roeddrhan ogleddol y fynwent yn dal heb ei chyffwrdd. Ac felly y bu i fyddin o wirfoddolwyr lleol brwd

fentro drwy’r mieri a’r danadl poethion i graffu’nofalus ar bob carreg fedd unigol a chofnodi’rmanylion oedd arnynt. Mae chwedlau rhyfeddolwedi cael eu dweud ac mae claddfeydd wedi euharchwilio i ddatgelu hanesion teuluoedd lleol.Mae ôl y tywydd yn gwaethygu ar rai o’r cerrigbeddau ac felly bydd ein harolwg yn gofnodgwerthfawr o’r beddargraffiadau hyn cyn iddyntgael eu colli’n llwyr.

Arolwg mynwent

Bras

lun

gan

Mik

e In

gs /

Ske

tch

by M

ike

Ings

SUT I WNEUD AROLWG O FYNWENT

Mae mynwentydd yn cynnig llwybr hygyrch dros ben i’rgorffennol; anaml y bydd ein hynafiaid yn llefaru moruniongyrchol â phan wnânt drwy eu cofebau i’r meirw.Os byddwch am astudio’ch mynwent leol, holwch amganiatâd perchennog y tir yn gyntaf a gweld a oes unrhywgofnodion wedi’u gwneud yn barod. • Lluniwch gynllun bras o’r fynwent a phlotio’n frassafleoedd y cerrig beddau.

• Llwythwch i lawr daflenni cofnodi a nodiadau canllawoddi ar www.dyfedarchaeology.org.uk

• Rhowch rif unigryw ar bob cofeb, gan groesgyfeirio ateich cynllun.

• Os gallwch, cymerwch lun neu gwnewch fraslun o bobcofeb i gydfynd â’ch taflenni cofnodi ar ôl eu llenwi.

Pan fyddwch wedi cwblhau’ch arolwg, sicrhewch eich bodyn gadael copi o’ch cofnodion gyda’r eglwys neu’r capel,eich swyddfa gofnodion leol neu gyda’r CofnodAmgylchedd Hanesyddol lleol.

HOW TO SURVEY A GRAVEYARD

Graveyards provide a readily accessible route into thepast; rarely do our ancestors speak so directly thanthrough their memorials to the dead. If you would like to study your local graveyard orcemetery, first check with the landowner for permissionand to establish if any records have been made already.• Draw a sketch plan of the graveyard and plot roughlythe positions of the gravestones.

• Download recording sheets and guidance notes fromwww.dyfedarchaeology.org.uk

• Number each memorial with a unique number, cross-referencing with your plan.

• If you can, take a photograph or make a sketch ofeach memorial to accompany your completed recordsheets.

When you have carried out your survey, make sure youdeposit a copy of your records with the church orchapel, your local records office or at the local HER.

*

Page 13: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Pa mor aml y byddwch yn edrych ar yradeiladau o’ch amgylch? Hynny yw, edrych oddifrif? Cânt eu hanwybyddu mor aml, yn ddimond cefnlen i’n bywydau prysur, yn gyfarwydd,yn gyson ond prin yn cael ail edrychiad. Ondcymerwch eiliad i gael golwg fanylach ac efallai ycewch eich synnu. Uwchben wyneb amhersonoly siop gall fod adeilad o gymeriad. Byddmanylion pensaernïol diddorol yn dod yn amlwgi’r llygad chwilfrydig. Gellir gweld newid o randefnydd, arddull a hynt a helynt. Gall adeiladau gynnig cyfoeth o wybodaeth

am eu bod yn ddrych i’r gymdeithas a’u cododdac a’u defnyddiodd. Maent yn dweud wrthymam y bobl oedd yn byw, gweithio ac addoliynddynt – am eu blaenoriaethau a’u dyheadau. Casglwyd cofnodion gwerthfawr gan ein

ditectifs tai wrth iddynt fynd drwy’r strydoeddyn nodi’r manylion am adeiladau hen a newydd,fel math o gyfrifiad adeiladau.

Roedd London House yn StrydRhosmaen, Llandeilo, ym mherchnogaethJohn Stephens erbyn diwedd y 19eg ganrif adywedodd ei wyres, Miss Aileen Stephens,wrthym am ei hanes. Gwerthai’r siopbopeth bron “roedden nhw’n arfer dweudo’ch geni tan ar ôl i chi farw am eu bodnhw’n ymgymerwyr hefyd”. Codwyd yswyddfa bost wreiddiol, gyda briciau coch amelyn, gan John Stephens ym 1897. Becwsyw erbyn hyn, ac mae’r swyddfa bost wedisymud i ran o London House ochr yn ochrâ Heavenly Chocolates.

London House in Rhosmaen Street,Llandeilo, was owned by John Stephens atthe end of the 19th century and hisgranddaughter, Miss Aileen Stephens toldus of its history. This shop sold prettymuch everything “they used to say frombirth to after death because they wereundertakers as well”. The original postoffice, with red and yellow bricks, was builtby John Stephens in 1897. It is now abakery, while the post office has movedinto part of London House alongsideHeavenly Chocolates.

Ditectifs tai

How often do you look at the buildings aroundyou? That is, really look? So often they areignored, a backdrop to our busy lives, familiar,constant and rarely given a second glance. Buttake a moment for a closer look and you mightbe surprised. Above the impersonal shopfrontage may be a building of character,interesting architectural details will revealthemselves to the enquiring eye, changes in use,style and fortune may be detected.Buildings can provide a wealth of

information as they hold up a mirror to thesociety that built and used them. They tell usabout the people who lived, worked andworshipped in them - their priorities andaspirations. Valuable records were collected by our house

detectives as they took to the streets to notedown details of buildings old and new, like astructural census.

House detectives SUT I FOD YN DDITECTIF TAI

Dim ond llyfr nodiadau a phensil sydd eisau i ddechrau,er bod camera’n ddefnyddiol os oes gyda chi un. Dechreuwch drwy edrych ar y lle rydych chi’n bywynddo – beth allwch chi ei ganfod am sut codwyd ef yny lle cyntaf ac a ydyw wedi newid gydag amser?Cofiwch ofyn am ganiatâd perchennog y tir neu’r ty osbyddwch yn mynd ar eiddo preifat. Llwythwch i lawr ein taflenni cofnodi a’n nodiadaucanllaw sydd ar gael ar www.dyfedarchaeology.org.uk

• Deunyddiau adeiladu – a allwch weld o beth maewedi cael ei adeiladu? A yw’r deunyddiau yn lleol neua ydynt wedi eu cludo o bell?

• A oes ganddo nodweddion tebyg i adeiladau eraillgerllaw?

• Gall edrych ar ffynonellau hanesyddol helpu i sefydluei oedran – a yw’n ymddangos ar argraffiad cyntafmap yr Arolwg Ordnans?

• A allwch ei adnabod ar ffurflenni’r cyfrifiad neu mewncyfeirlyfr masnachwyr?

• Drwy wneud arolwg allanol cyflym ar nifer oadeiladau mewn ardal fechan byddwch yn dechraucael teimlad ynghylch yr arddulliau a’r dulliau adeiladugwahanol.

Peidiwch ag anghofio rhoi copi o’ch cofnodion yn yCAH lleol, gan y byddant yn ychwanegu at y corff owybodaeth am eich ardal leol.

HOW TO BE A HOUSE DETECTIVE

Simply a notebook and pencil is all you need to start,though a camera is useful if you have one. Start by looking at the place were you live – what canyou find out about how it was originally built and has itchanged over time?Remember to ask for the landowner’s, or householder’spermission, if you go onto private property.Download our recording sheets and guidance notesavailable at www.dyfedarchaeology.org.uk

• Building materials – can you detect what it isconstructed from? Are the materials local or havethey been brought in from afar?

• Does it show characteristics similar to other buildingsnearby?

• Looking at historic sources may help to establish itsage – does it appear on the 1st edition OrdnanceSurvey map?

• Can you identify it on the census returns or in atrade directory?

• By carrying out a rapid external survey of a numberof buildings in a small area you will get a feel for thedifferent styles and construction methods.

Don’t forget to deposit your records at the local HER,as these will add to the body of knowledge for yourlocal area.

*Yr hen ysgoldy yn Llandeilo agofnodwyd yn ystod yr arolwg.

The old schoolhouse in Llandeilorecorded during the survey.

^

CHWILOTA’R TYWI! 22-23 EXPLORATION TYWI!

Cefais fod cymryd rhanyn yr arolwg adeiladau ynbleser pur. Gwnaeth i fiedrych yn fanylach ar yradeiladau yn Llandeilo, asylweddolais gymaint oamrywiaeth o oedrannauac arddulliau sydd yna.Cymerais ran mewn sawlcloddiad hefyd, a oeddyn gyffrous am nadoeddwn wedi gwneudhynny o’r blaen. Roeddyn gyfle gwych i dreulio’r diwr

nod mewn cefn gwlad hardd

yn ymchwilio i hanes gyda phobl eraill oedd â diddordeb,

ac i ddysgu rhai sgiliau newydd.

Nicola’s taleI found taking part in the buil

ding survey thoroughly

enjoyable. It made me look more closely at the buildings in

Llandeilo, and I realised what an interesting variety of

ages and styles there are. I also participated in several

digs, which was exciting as I’d never done that before. It

was a wonderful opportunity to spend the day in beautiful

countryside investigating history with other interested

people, and to learn some new skills.

Stori Nicola

Page 14: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Roedd yr adeilad hwn o’r 19eg ganrif o’r golwgyng nghornel hen berllan, ar fferm ar bwys yDryslwyn, wedi gweld dyddiau gwell. Er cael einewid a’i drin bron y tu hwnt i gael ei adnabod,roedd yn dal ar ei draed ac achubwyd ar y cyfledrwy brosiect Tywi Afon yr Oesoedd i’w adferi’w hen ogoniant. Roedd llawer o’r nodweddion gwreiddiol wedi

goroesi, yn cynnwys muriau clom neu bridd achorneli crynion sy’n nodweddu’r rhanbarth.Awgryma ei leoliad yn y berllan a’i faint maistorfa afalau ydoedd. Arweiniodd arolwgarchaeolegol at luniadau manwl, cofnodysgrifenedig a lluniau o’r adeilad. Roedd y rhainyn cynnig gwell dealltwriaeth o sut codwyd ef acroeddent felly o gymorth gyda’r gwaith adfer. Yny gwaith hwnnw rhoddwyd to gwellt yn lle’r tohaearn rhychiog, datgelwyd y llawr coblog acailosodwyd y muriau cerrig a chlom. Mae’rpaent coch trawiadol yn eich atgoffa am ffermdyKennixton, o Benrhyn Gwyr yn wreiddiol ondbellach yn Sain Ffagan, y credid ei fod ynamddiffyn yn erbyn ysbrydion drwg.

^

Cofnodi adeiladau

This 19th century building tucked away in thecorner of an historic orchard, on a farm nearDryslwyn, had seen better days. Although alteredand repaired beyond almost all recognition, itstill stood and the opportunity was taken,through the Tywi River through Time project, torestore it to its former glory. Many original features survived including

clom, or earth, walling and regionally distinctiverounded corners. Its location in the orchard andits size suggests that it was an apple store. Anarchaeological survey produced detaileddrawings, a written record and photographs ofthe building. These provided a betterunderstanding of how it was built and therebyhelped with the restoration.The restoration replaced the corrugated-iron

roof with thatch, revealed the internal cobbledfloor and reinstated the stone and clom walls.The eye-catching red paint is reminiscent of thaton Kennixton farmhouse, originally from Gowerand now in St Fagans, which was thought toprotect against evil spirits.

Building recording

CHWILOTA’R TYWI! 24-25 EXPLORATION TYWI!

Aethom i’r Berllan roeddy storfa afalau ynddi.Yna cynorthwyodd ygrwp staffYmddiriedolaethArchaeolegol Dyfed igofnodi’r adeilad yn eigyflwr presennol. Roeddhyn yn cynnwys mesuryr adeilad a thynnulluniau â llaw ac âchamera ohono. Roeddy diwrnod yn llwyddiantgan iddo gyflawni’r nodau cychwynnol a chaniatáui’r gwirfoddolwyr ennill profiad a sgiliau newydd mewnarchifo a chofnodi adeilweithiau hanesyddol. Roedd ydigwyddiad yn brofiad diddorol a difyr ac ni allaf arostan yr un nesaf!

^

Ian’s taleWe went to the Orchard in which the apple store waslocated. The group then helped the Dyfed ArchaeologicalTrust staff to document the building in its present state.This involved assisting the measuring, drawing, andphotographing of the building. The day was successful inachieving its initial aims and allowed the volunteers’ togain experience and new skills in archiving and recordinghistoric structures. The event was an interesting andenjoyable experience and I can’t wait for the next one!

Stori Ian

Prosiect adfer:Cynt ac wedyn.

Restorationproject: Beforeand after.

Uchod, chwith: Rhan o’r cofnodarchaeolegol a wnaed. Isod, chwith:Argraffiad cyntaf map yr Arolwg Ordnans.

Left, above: Part of the archaeologicalrecord made. Left, below: 1st editionOrdnance Survey map.

Page 15: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Mae ein tirwedd gyfan yn ddogfenhanesyddol enfawr, sydd angen ei datrysa’i dehongli. Mae cloddio yn cael gafael ardystiolaeth archaeolegol nad oes modd eichael mewn unrhyw ffordd arall ac yn wiryn achos ein gorffennol cynhanes doesdim hanes ysgrifenedig. Cloddiad yn amlyw’r profiad cyntaf mae rhywun yn ei gaelo fyd anhygoel archaeoleg – safleoeddpoeth a llychlyd, crafu cyson y trywelisyncronedig a’r awyr ddisgwylgar oddarganfyddiad ar fin cael ei wneud.

Beth bynnag, mae cloddio safle archaeolegol ynarbrawf na ellir ei ailadrodd gan fod yr unionbroses sydd yn ein galluogi i’w ddarllen hefydyn ei ddinistrio. O’r herwydd mae’n rhaidcymryd gofal mawr i ddehongli’r dystiolaeth agloddiwyd yn fanwl gywir. Wrth gwrs nid yw dinistrio ein gorffennolmaterol drwy gloddio ddim yn rhywbeth i’wgymryd yn ysgafn ac mae’n rhaid bod rhesymaudilys dros ei wneud. Cadwraeth yw’r arwyddair,ac felly os oes modd gadael llonydd i safle dylidgwneud hynny. Wedi dweud hynny, mae cloddio wrth galonarchaeoleg. Yn wir, dyna sy’n ei gosod ar wahâni astudio hanes. Treillio drwy falurion ein

hynafiaid ydyw yn ei hanfod a mynd i’r afael âphethau a baeddu’u dwylo yw’r hyn sydd at eigilydd yn denu pobl at y pwnc yn y lle cyntaf. Mae gwerthusiadau fel gweithrediadauarchwilio yn gyfle i brofi’r dyfroedd ac ennillgymaint o wybodaeth am y safle â phosiblgyda’r lleiaf posibl o amharu arno.

Profi’r damcaniaethau: cloddio archaeolegol

Testing the theories:

archaeological excavation

Y Parchedig H.R.Lloyd (perchennog ystadDan yr Allt yn hanner cyntaf y 19egganrif, yndyfynnu o Cicero, De Officiis, I, 39, 139 ‘O dŷ hynafol! Och mai meistr morwahanol sy’n rheoli drosot (bellach)’)

Y GWERTHUSIADAU

THE EVALUATIONS

The whole of our landscape is a vast

historical document, which needs

deciphering and interpreting. Excavation

recovers archaeological evidence that is

not obtainable in any other way and

indeed in the case of our prehistoric past

there is no written history. An excavation

is often the first experience anyone has

of the wonderful world of archaeology –

hot, dusty sites, the steady scrape of

synchronised trowels and the ever-

expectant air of imminent discovery.

However, excavating an archaeologica

l site is an

unrepeatable experiment as the very

process

that enables us to read it, destroys it

. Great

care must therefore be taken to inter

pret the

excavated evidence accurately.

Of course the destruction of our phy

sical

past through excavation isn’t somethi

ng to be

taken lightly and there needs to be v

alid

reasons for doing so. The watchword

has to be

preservation, so if a site can be left in

peace it

should be.

That said, excavation is at the heart o

f

archaeology, indeed it is what sets it

apart from

the study of history. Trawling throug

h the

debris of our ancestors is what it’s a

ll about

and getting down and dirty is what ge

nerally

attracts people to the subject in the f

irst place.

Evaluations are like an exploratory o

peration

an opportunity to test the waters and

gain as

much information about the site with

the least

amount of disturbance.

O domus antiqua! Plasty Dan yr Allt o’r 16eg ganrif

Ymchwiliwyd i safle plasty o oes Elisabeth aoedd wedi cael ei ddymchwel ac a leolid yngnghalon Dyffryn Tywi. Mae’r parcdir o amgylch yplasty yn dal yn hawdd iawn ei weld, er nad oesdim o’r plasty ei hun ar ôl uwchben lefel yddaear. Roedd arolwg geoffisegol o’r ardal heb ddod iddim casgliadau oherwydd sbwriel y gwaithdymchwel ac adeiladu llwybr fferm. Beth bynnag, darganfu’r cloddiad ffos a allai fod ynhyn na’r plasty. Roedd hi’n anodd cael tystiolaetham yr hen dy, gyda dim ond ymyl wynebpalmentog ac ychydig o rwbel y dymchwel yn dodi’r amlwg mewn un ffos. Cofnodwyd tair wal areu sefyll yn ffurfio tair ystafell gyda tho arnynt arderfyn gorllewinol y safle. Ymddangosai eu bodyn perthyn i’r ffermdy o’r 19eg ganrif a godwydar ôl chwalu’r plasty.

“In the Winter of 1840-1841 the whole of the ancient mansion house ofDanyrallt was razed to the ground by John William Lloyd Esquire of thatplace. O domus antiqua! Heu quarn dispari dominare domino!”

O domus antiqua! Dan yr Allt 16th century mansion house

The site of a demolished Elizabethan mansionlocated in the heart of the Tywi valley wasinvestigated. The parkland surrounding themansion is still very visible, though nothing ofthe mansion itself survives above ground level. A geophysical survey of the area provedinconclusive due to demolition rubbish andthe construction of a farm track. However, theexcavation discovered a ditch which might pre-date the mansion. Evidence for the formerhouse unfortunately proved elusive, with onlythe edge of a paved surface and a small spreadof demolition rubble being revealed in onetrench. Upstanding walls forming three roofedrooms were recorded on the western boundaryof the site. They appeared to be associatedwith the 19th century farmhouse built after thedemolition of the mansion.

Revd H.R.Lloyd (owner of Dan yr Alltestate in 1st half of 19th century, quotingfrom Cicero, De Officiis, I, 39, 139 ‘O ancient house! Alas by how different amaster thou art (now) ruled’)

Yr Hen Danyrallt, o’r llun gwreiddiolgan HR Lloyd (1839), atgynhyrchwyd oArchaeologia Cambrensis.

Old Danyallt, from the original drawingby HR Lloyd (1839), reproduced fromArchaeologia Cambrensis.

^

^

Page 16: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Cartref o Rufain: Fila Rufeinig Llys Brychan

Brychan oedd arweinydd teyrnas ganoloesolgynnar Brycheiniog, sy’n cyfateb yn fras i ardalSir Frycheiniog, gyda thiroedd yn ymestyn ilawr at Ddyffryn Tywi.Bu i gloddiadau yn y 1960au cynnarddatgelu Fila Rufeinig, plasty helaeth amawreddog, wedi ei leoli uwchben gorlifdir AfonTywi ryw ddwy filltir i’r dde o Langadog. Roeddarolwg geoffisegol yn 2009 nid yn unig yncadarnhau olion y fila ond hefyd yn datgelucyfres o ffosydd yn ffurfio tir caeedig o’ihamgylch. Cloddiwyd tair ffos i werthuso maint,ansawdd a chymeriad y nodweddion hyn. Roedd prif ffos y tir caeedig o siâp V ac o oesy Rhufeiniaid, a chafwyd tri darn ogrochenwaith Rhufeinig yn ei llenwad. Efallaibod y cerrig niferus a gafwyd yn llenwad uchaf yffos yn cynrychioli clawdd wedi cwympo.Datgelwyd tystiolaeth am iard bosibl yn ogystalag arwyddion o weithgaredd diwydiannol yn ytir caeedig.

Home from Rome: Llys Brychan Roman Villa

Brychan was the leader of the early medievalkingdom of Brycheiniog, which equates roughlyto the region of Brecknockshire, with landstretching down to the Tywi.Excavations in the early 1960s revealed aRoman villa, a large and imposing mansion,located above the floodplain of the Tywi sometwo miles south of Llangadog. A geophysicalsurvey in 2009 not only confirmed the villaremains but also revealed a series of ditchesforming an enclosure around it. Three trencheswere excavated to evaluate the extent, qualityand character of these features.The main enclosure ditch was found to be V-shaped and of Roman date, with three sherds ofRoman pottery retrieved from its fill. Numerousstones found in the upper fill of the ditch mayrepresent a slumped bank. Evidence of apossible courtyard as well as indications ofindustrial activity were uncovered within theenclosure.

Tai i’r byw a’r meirw yn Nyffryn Ceidrych

Yn agos i’r Garn Goch, ar gwr y Mynydd Du,

ymchwilwyd i weddillion ty hir o’r oesoedd

canol a siambr gladdu Neolithig gyfagos o’r enw

Cae’r Ganfa neu Gil y Ganfa.

Roedd y ty hir yn adeilad cerrig sych, neu

wedi’u cau â chlai, ac ynddo dair ystafell wedi ei

godi ar lwyfan wedi’i lefelu. Mae crochenwaith

o’r ffosydd gwerthuso yn awgrymu dyddiad o

ddiwedd yr oesoedd canol. Mae’r rhan fwyaf o’r

cerrig gwreiddiol wedi eu symud o’r safle i’w

hailddefnyddio yn rhywle arall, mae’n

ymddangos.Pan gliriwyd y llystyfiant

oddi ar y beddrod

siambr roedd yn amlwg mai siambr betryal

ydoedd, wedi ei ffurfio o gerrig culion hirion, ac

wedi ei lleoli ar ochr ddwyreiniol tomen o gerrig

rwbel dan dywarch. Cofnodwyd llinellau

cyfochrog o gerrig i’r gogledd ogledd orllewin a’r

gorllewin de orllewin o’r siambr.

Houses for both the living and the dead

at Dyffryn Ceidrych

Close to Carn Goch, on the edge of the Black

Mountain, the remains of a medieval longhouse

and a nearby Neolithic chambered tomb, known

as Cae’r Ganfa or Cil y Ganfa, were investigated.

The longhouse was a drystone, or clay-

bonded, structure of three rooms built on a

levelled platform. Pottery retrieved from the

evaluation trenches suggest a late-medieval

date. Most of the original stone walls have been

removed from the site apparently for re-use

elsewhere.When the chambered tom

b was cleared of

vegetation it was evident that a rectangular

chamber, formed from long narrow stones, was

located on the eastern side of a mound of turf-

covered rubble stone. Parallel lines of stones

were recorded both to the northnorthwest and

westsouthwest of the chamber.

Y GWERTHUSIADAU

THE EVALUATIONS

CHWILOTA’R TYWI! 28-29 EXPLORATION TYWI!

Yn glocwedd o’r

uchod: Cynllun y

ty hir,gwirfoddolwyr yn

datgelu’r beddrod

siambr, arolwg o’r

beddrod siambr.

Clockwise from top:

Plan of longhouse,

volunteers expose

chambered tomb,

survey ofchambered tomb.

^

Uchod: Fila Rufeinig, tywyddCymreig. Isod: Lluniau o dan ypridd, roedd arolwg geoffisegolyn datgelu ffiniau a gollwyd.

Above: Roman villa, Welshweather. Below: Pictures beneaththe soil, a geophysical surveyreveals lost boundaries.

^

^

Page 17: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Dechreuwyd ar ein hymchwiliad pythefnos yn Wernfawr, fferm anghyfannedd gerPenybanc y tu allan i Landeilo, yn ystod y gwanwyn. Daeth y safle i’n sylwgyntaf pan ddatgelwyd pâr o ffyrnau sychu yd gan gloddiadau o flaen gosod ybibell nwy yn 2007. Roedd adeilweithiau fel hyn yn gyffredin yn ymyl ffermyddar un adeg, ond anaml y’u gwelir bellach. Bu i gloddiad bychan yn 2009 ganfodtystiolaeth am y tân trychinebus a arweiniodd at adael y ffermdy’n wag. A fyddy cloddiad hwn yn bwrw golau ar fywyd ar fferm yng nghefn gwlad?

Dyddiadur cloddio Phil

Diwrnod 1 - Dydd Mawrth Ebrill 13 Dyma ddechrau ar ygorchwyl llafurus o dynnu’r tywarch a’r pridd sydd wedi casglu uwchbengweddillion y ffermdy ond mae’r heulwen odidog yn cadw pawb yn gwenu.

Diwrnod 2 - Dydd Mercher Mae profiad garddio Gwilym yngaffaeliad wrth i ni geisio clirio mynedfa at y waliau sy’n sefyll, er, wrthi’r portalws fethu â chyrraedd, rydym yn dechrau edifaru i ni dynnugymaint o lwyni cyfleus.

Diwrnod 3 - Dydd Iau Mae llawr llechen trawiadol eisoes ynymddangos ar un pen – wedi ei lanhau’n ofalus gan Ken a’i blant, a’ilanhau’n llai gofalus gan Gwilym a’i gaib.

Diwrnod 4 - Dydd Gwener Anthony a Celia yn dechrau dadorchuddiowaliau’r ffermdy ym mhen deheuol yr adeilad.

We began our two-week investigation at Wernfawr, a deserted farmsteadnear Penybanc outside Llandeilo, during the spring. The site first came toour attention when excavations ahead of the construction of the gaspipeline in 2007, revealed a couple of corn drying ovens. These structures,which were once common near farmsteads, are now rarely seen. A smallexcavation in 2009 discovered evidence of the catastrophic fire that led tothe abandonment of the farmhouse. Will this dig shed light on life on arural farmstead?

Day 1 - Tuesday 13th April We begin the arduous task ofremoving the turf and soil build-up over the remains of the farmhousebut the glorious sunshine keeps everyone smiling.

Day 2 - Wednesday Gwilym’s gardening experience comes in handy aswe try to clear access to the standing walls, although, as the portaloosfail to arrive, we begin to regret removing so many convenient bushes.

Day 3 - Thursday Already an impressive slate floor is showing upat one end - carefully cleaned by Tony and Ken with his kids, lesscarefully cleaned by Gwilym and his pick.

Day 4 - Friday Anthony and Celia begin to uncover the farmhousewalls at the southern end of the building.

WERNFAWR EVALUATION AND EXCAVATION

Phil’s dig diary

Gyd

a ch

ania

tâd

Llyf

rgel

l Gen

edla

etho

l Cym

ru /

By

perm

issio

n of

The

Nat

iona

l Lib

rary

of W

ales

Llun

drw

y ha

elio

ni T

he C

arm

arth

en Jo

urna

l / P

hoto

cou

rtes

y of

The

Car

mar

then

Jour

nal

3

41

Left: Phil poses forthe press. Centre:bottles melted intoDali-esque shapes bythe devastating fire.Right: burnt remainsof a 19th centuryCarmarthenshirefarmhouse, believedto be Wernfawr.

Chwith: Phil yngwenu i’r papurau.Uchod: Poteli wedi’utoddi’n siapiau Dali-ésg gan y tân difaol.Y dde: Gweddillionllosg ffermdy o’r19eg ganrif yn SirGaerfyrddin,Wernfawr fe gredir.

GWERTHUSO A CHLODDIO WERNFAWR

^

^

Page 18: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Diwrnod 5 - Dydd Sadwrn Mor benderfynol ynghylch yrarchaeoleg, mae Kieran yn cael ei gloddio o ‘na.

Diwrnod 6 - Dydd Sul Ar ddiwedd yr wythnos gyntaf mae’rffermdy yn dechrau dod i’r golwg a datgelir nifer o ystafelloeddgwahanol. Un o ganfyddiadau mwy annisgwyl y penwythnos oeddmadfall dwr fechan yn cysgodi ymysg rhai o’r cerrig rhydd.

Diwrnod 7 - Dydd Mawrth Mae Mike yn brwydro drwybridd llawn gwreiddiau i ddadorchuddio mwy ar ben domestig y tya’r llawr llechen hyfryd.

.Diwrnod 8 - Dydd Mercher Mae coridor coblog yn cael eilanhau’n dda ar ben ‘busnes’ y ffermdy, a oedd yn fynedfa ac yndraen mewn darn a ddefnyddid mae’n debyg fel llaethdy a stalauanifeiliaid.

Diwrnod 9 - Dydd Iau Dau weithiwr prydeinig go iawn, Matt a Tony yn edmygu techneg cloddio Simon.

Diwrnod 11 - Dydd Sadwrn Yr ystafell olaf yn y ffermdy yndod i’r golwg gyda’i llawr coblog. Gweddillion stabl efallai wedi eiychwanegu o dan stalau’r anifeiliaid, neu a yw’r pen hwn i’r adeiladmewn gwirionedd yn ffermdy hyn?

Day 5 - Saturday So intent on the archaeology, Kieran getsshovelled away

Day 6 - Sunday At the end of the first week the farmhousebegins to take shape and several different rooms are revealed. Oneof the more unexpected finds of the weekend, a small newt shelteringamong some of the loose stones.

Day 7 - Tuesday Mike battles through root-encrusted soil touncover more of the comfy domestic end of the house with its niceslate-slab floor.

Day 8 - Wednesday A cobbled corridor is cleaned up nicely at the‘business’ end of the farmhouse, acting as an entranceway and drainin an area presumably used as a dairy and animal stalls.

Day 9 - Thursday True British workmen, Matt and Tonyadmire Simon’s shovelling technique.

Day 11 - Saturday The last room in the farmhouse is revealed withits cobbled floor. Perhaps the remains of a stable tagged on below theanimal stalls, or is this end of the building actually an olderfarmhouse?

Diwrnod 13 - Dydd Mawrth Yr wythnos olaf a chofnodir llawr llechendeniadol y gegin/parlwr. Trafodaethau ar y safle yn parhau wrth i’r tîmgeisio gwneud synnwyr o’r amrywiaeth o fathau gwahanol o godi waliau sy’ngwneud y ffermdy.

Diwrnod 14 - Dydd Mercher Cyfres o ymweliadau gan ysgolion â’r safle,wrth i fwy o ddarpar Indiana Joneses ddod i wybod am hanes Wernfawr.

Diwrnod 16 - Dydd Gwener Gwneir cynllun gofalus o’r ffermdy, gandynnu llun pob carreg a phost-dwll i gael cofnod llawn o’r hyn addatguddiwyd gennym.

Diwrnod 18 - Dydd Sul Ar y diwrnod olaf ond un datguddir pydewmawr yn Ffos 2, a gwelwn faint o wirfoddolwyr sy’n gallu ffitio tu fewniddo. Gwaetha’r modd, nid oedd yn cynnwys trysor y teulu. Ymddengys iddogael ei gloddio i ddim ond codi’r siâl.

Diwrnod 19 - Dydd Llun 3ydd Mai Mae ymwelwyr â’r safle ar ydiwrnod olaf yn cael eu tywys ar deithiau ac mae’r rhuthr munud olaf arferolyn golygu nad yw oed ddim yn rhwystr i roi cymorth. Dyma Lwsi ynbaeddu’i dwylo yn enw archaeoleg.

Day13 - Tuesday The final week and the finely laid slate-slab floor of the kitchen / parlour is recorded. On site discussions continue as the team try to make sense of the variety of different types of wallconstruction that make up the farmhouse.

Day 14 - Wednesday A series of school visits to the site, as more budding Indiana Joneses find out about the history of Wernfawr.

Day 16 - Friday The farmhouse is carefully planned, each stone andposthole drawn, to get a full record of what we’ve uncovered.

Day 18 - Sunday On the penultimate day a large pit is uncovered inTrench 2, we see how many volunteers can fit inside it. Unfortunately it did not contain the family treasure, appearing to have been dug just to extract the shale.

Day 19 - Monday 3rd May Visitors to the site on the final day aregiven guided tours and the usual last minute rush means age is no barrier tohelping out. Lwsi gets her hands dirty in the name of archaeology.

6

5

7

9

19

13

14

16

^

^

^

Page 19: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

CHWILOTA’R TYWI! 34-35 EXPLORATION TYWI!

Ymweliadau ysgolion

Torrwyd ar dawelwch heddychlon y Garn Goch ganluoedd sgrechlyd o Geltiaid bychain yn ystod yrhaf. Drwy gydol yr wythnos dringwyd eihamddiffynfeydd serth gan don ar ôl ton o blantysgol yn gwisgo paent rhyfel. Yn gynharach yn ydydd roeddent yn dod wyneb yn wyneb â’rcanwriad Rhufeinig ‘Maximus’, a gyfarthai arnyntyn Lladin. Yn wir roedd rhaid iddo dawelu dipynarni am fod plant yr oes hon yn amlwg yn cael dynmewn het ryfedd a sgert yn gweiddi arnynt mewniaith ddieithr yn dipyn o ofid! Roedd cyfres oddigwyddiadau yn cael eu cynnig yn neuadd bentrefBethlehem, gan gynnwys gwneud crochenwaith,dweud straeon ac ysgrifennu ar lechi cwyr, cyn bodpethau yn symud i’r awyr agored. Wedi archwiliostrategol, rhannodd y plant yn grwpiau i ddyfeisio’rffyrdd gorau i ymosod neu amddiffyn y gaer ar ybryn – gan blotio’u strategaethau ar gynlluniaubrwydrau a ddarparwyd iddynt. Roedd pawb ynddidrugaredd!

Fedrai paciau gwybodaeth addysg ar gyfer athrawona rhieni, mwy o luniau o’r digwyddiadau ysgol achopiau o’r cynlluniau brwydr cael eu gweld a’udadlwytho arlein ar www.dyfedarchaeology.org.uka www.tywiafonyroesoedd.co.uk

School visits

The peaceful tranquility of Carn Goch wasinvaded by screaming hordes of mini Celtsduring summer 2010. Throughout the weekwave after wave of war-painted schoolkidsscaled its steep defences. Earlier in the daythey’d come face to face with Roman centurion‘Maximus’, who’d barked at them in Latin.Indeed he’d had to tone it down as modernchildren obviously found a man in a funny hatand skirt shouting in a strange tongue ratherdistressing! A series of activities was on offer inBethlehem village hall, including pot-making,story-telling and wax tablet-writing, beforethings moved outside. Having reconnoitred, thekids split into groups to devise the best ways ofattacking or defending the hillfort – plottingtheir strategies on provided battle plans. Noquarter given or asked!

Educational information packs for teachersand parents, further photographs from theschools’ events and copies of the battle planscan can be seen and downloaded online atwww.dyfedarchaeology.org.uk andwww.tywiafonyoesoedd.co.uk

Synhwyro’r gorffennol

“Mae gan yr hyn a wnawn mewn bywyd eiadlais mewn tragwyddoldeb” (o Gladiator)neu, efallai’n llai ymhonnus, “Ni ydywHanes” (Marcus Brigstocke).

Mae’r gorffennol yn dal i adleisio yn einpresennol. Nid gwrthrych disymud a phellar gyfer astudiaeth academaidd mohono ondrhywbeth sy’n fyw ym mhawb ohonom ni,yn dylanwadu ar ein canfyddiad o’r byd arhywbeth sy’n cael ei ailddehongli byth ahefyd.

Mae Chwilota’r Tywi! wedi ymwneud âhanes y dyffryn mewn ffyrdd uniongyrcholiawn, o blant ysgol yn cysylltu â gorffennol cynhanes at bobl mewn oed ynhel atgofion am adeg y rhyfel a phobl trefLlandeilo yn adfywio hen draddodiadauadeg y Nadolig yn ystod Gwyl y Synhwyrau.Dathlwyd Gwyl Genedlaethol ArchaeolegPrydain 2010 gyda deuddydd o ddigwyddiadauym Methlehem a’r cyffiniau a bryngaerysblennydd y Garn Goch o’r Oes Haearn.Ydy, mae hanes yn gallu bod yn hwyl!

^

^

Sensing the past

“What we do in life echoes in eternity”.(from Gladiator) or, perhaps lesspretentiously, “We are History” (MarcusBrigstocke)

The past does still echo in our present.It’s not a static, remote object foracademic study but lives on in all of us,influencing our perception of the worldand is forever being reinterpreted. Exploration Tywi! has engaged with the

history of the valley in very direct ways,from schoolchildren connecting with aprehistoric past to the elderly reminicingabout wartime memories and thetownsfolk of Llandeilo reviving ancientyuletide traditions during the Festival ofthe Senses. The 2010 National Festival ofBritish Archaeology was marked by twodays of events held in and aroundBethlehem and the spectacular Carn GochIron Age hillfort. Yes, history can be fun!Ll

unia

u ga

n M

ike

Ings

/ P

hoto

s by

Mik

e In

gs

Llun

iau

gan

Mik

e In

gs /

Pho

tos

by M

ike

Ings

Uchod a’r dde bellaf:Henffych Gesar!Maximus yn dangospwy sy’n rheoli. Y dde: Y cynlluniaugorau – y plant ynparatoi i greu uffern!

Above and far right:Hail Caesar! Maximusshows who’s incharge. Right: The best laid plans –the kids prepare tounleash hell!

Page 20: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Wrth gwrs, nid oes rhaid i’r gorffennol fodymhell yn ôl iddo fod yn ddiddorol dros ben.Mae digwyddiadau’r gorffennol agos iawn lawnmor afaelgar ac mae eu huniongyrchedd ynychwanegu at eu dwyster. Mae clywed hanesiongan y bobl oedd yn eu byw yn fraint arbennig,gan eu bod yn rhoi synnwyr gwirioneddol o’rgorffennol.

Yn Llandeilo mae Miss Elizabeth AileenStephens yn byw a bu mor garedig â chytuno irannu ei hatgofion â ni am fywyd yn y dref asoniodd wrthym am ddewrder ei thad yn yffosydd yn y rhyfel byd cyntaf.

Yn ei ddyddiadur rhyfeddol, cawn wybod fody Sarsiant W.O.Stephens wedi cael ei anafu ym1915 ym Mrwydr Loos yng Ngogledd Ffrainc.Mae Miss Stephens yn dweud yr hanes -“Cafodd ei anafu wrth achub swyddog yn Loosyng nghanol yr holl fwd a’r gwaed, er ei fodwedi ei anafu ei hun, ac o ganlyniad dyfarnwydiddo’r Fedal Ymddygiad Rhagorol.” Daeth yn ôlar long i Brydain i’w nyrsio ym Mirminghamcyn dychwelyd i Landeilo. Mae’r dyfyniad argyfer y Fedal yn darllen “Am ddewrder amlwg.Er cael ei anafu yn ystod yr ymosodiad, daliodd

ati i arwain ei ddynion tan y bu’n rhaid iddoroi’r gorau iddi oherwydd blinder, wedi cael eianafu eto yn ffos ail linell y gelyn”.

Wrth gwrs, nid yw hanes bob amser ynghylchcampau dewr ac arwriaeth. Weithiau manylionmwy rhyfedd y gorffennol sy’n dal y sylw.Dywedodd Miss Stephens y chwedl annisgwylbraidd hon wrthym am brofiad GwarthegGwynion Parc Dinefwr yn yr Ail Ryfel Byd; “Maefy mrawd yn cofio i’r gwartheg gael eu paentio…am y bydden nhw wedi cael eu gweld yn wyn, ynsefyll ma’s yn y tywyllwch, ac felly dyna eucuddliwio. Yna roedden nhw’n ymosod ar eigilydd … doedden nhw ddim yn adnabod eigilydd!”

Ymysg yr atgofion eraill am Landeilo yn yr AilRyfel Byd yr oedd defnyddio Ty Newton felysbyty, ble oedd mam Miss Stephens yn nyrsgyda’r Groes Goch yn gofalu am filwyr wedi’uhanafu. Roedd cytiau Nissen duon wedi eu codigan yr Americaniaid, ac er na chawsant eudefnyddio erioed fel ysbytai, buont yn llety drosdro i deuluoedd a gollodd eu cartrefi yn ystod ycyrchoedd bomio ar Abertawe.

Rhyfel yn y Dyffryn

Of course the past doesn’t have to be distant tobe fascinating. Events of the very recent past arejust as gripping and their immediacy lendsthem an added poignancy. To hear tales fromthose who actually lived them is a real privilege,imparting a tangible sense of the past.

Llandeilo resident Miss Elizabeth AileenStephens kindly agreed to share her memoriesof life in the town and told us of her father’sbravery in the trenches of the 1st World War.

From his remarkable diary, we learn thatSergeant W.O.Stephens, was injured at the 1915Battle of Loos in Northern France. MissStephens tells the tale - “He was injuredrescuing an officer at Loos amongst all the mudand gore, although he was wounded himselfand as a result he was awarded theDistinguished Conduct Medal”. He was shippedback to Britain to be nursed in Birminghambefore returning to Llandeilo. The citation forthe DCM reads “For conspicuous gallantry.Although wounded during the attack, hecontinued to lead his men until he was obligedto give in from exhaustion, having been again

wounded in the enemy’s second line trench”.Of course, not all history is about courageous

acts and derring-do. Sometimes it is thequirkier details of the past that catch the eye.Miss Stephens told us this rather unexpectedtale about the 2nd World War experience ofDinefwr’s White Park Cattle; “My brotherremembers the cows being painted…becausethey would have been seen as white, stand outin the dark you see, so they were camouflaged.Then they quarrelled …they didn’t recogniseeach other!”

Other memories of Llandeilo in the2nd World War included the use ofNewton House as a hospital, whereMiss Stephens’s mother was a RedCross nurse attending to injuredsoldiers. Black Nissen huts werebuilt by the Americans, although theynever actually got used as hospitals,they became temporaryaccommodation for families madehomeless during the bombing raidson Swansea.

The valley at war

Llun

iau

gan

Mik

e In

gs /

Pho

tos

by M

ike

Ings

Llun

drw

y ga

redi

grw

ydd

Gw

enei

ra D

avie

s ac

Dav

id To

m R

ees

/Im

age

prov

ided

by

Gw

enei

ra D

avie

s an

d D

avid

Tom

Ree

s

O’r chwith pellaf: Y Sarsiant W.O.Stephens. Miss AileenStephens yn darllendyddiadur ei thad, yn manylu ar ei amseryn y ffosydd yn ystody Rhyfel Byd Cyntaf.

From far left: SergeantW.O. Stephens. MissAileen Stephens readsher father’s diary,detailing his time inthe trenches duringthe 1st World War,Llangathen HomeGuard.

CHWILOTA’R TYWI! 36-37 EXPLORATION TYWI!

^

Page 21: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Mae Gwyl y Synhwyrau yn ddigwyddiadblynyddol yn Llandeilo, sy’n cael pobl yn yrhwyliau ar gyfer cyfnod y Nadolig gydacherddoriaeth, tân gwyllt a siopa hwyr. DrwyChwilota’r Tywi! mae YmddiriedolaethArchaeolegol Dyfed wedi croesawu dathlwyrdrwy’r drysau i alw’n ôl ysbryd Nadoligau a fu.

Roedd traddodiad erchyll braidd Hela’r Drywa’r Fari Lwyd ddychrynllyd yn arferionpoblogaidd yng Nghymru. Roedd a wnelo’r ddaua mynd o dy i dy, yn ceisio lluniaeth a rhoddion.Dyma arferion cymunedol du eu hiwmor aroddai ryw lun o wefr yn y dathliadau.Rhannodd pobl eu traddodiadau eu hunaindrwy lynu eu meddyliau ar fwrdd atgofion.Roedd y rhain yn cynnwys rhywun yn cofio dynglanhau simnai yn cerdded drwy’r ty ar NosGalan ac yn gadael drwy’r drws cefn, gan fyndâ’r hen flwyddyn i’w ganlyn, a phan ddechreuai’rcloc daro hanner nos, roedd y plentyn ieuengafwedi gwisgo lan yn cerdded drwy’r drws blaen iddod â’r flwyddyn newydd i mewn. Mae’r sawlsy’n ysgrifennu yn cofio mai ef oedd y plentynhwnnw ym 1947. Amrywiai’r atgofion eraill oblant yn ymweld â phob cartref yn y pentref i‘ganu’ y flwyddyn newydd i mewn a chynnigdarn mân a gloyw o lo, at draddodiadau mwydiweddar fel cinio gyda’r teulu a gwylio TheGreat Escape neu Gremlins.

Gwyl y Synhwyrau

The Festival of the Senses is an annual event inLlandeilo, getting people geared up for thefestive period with music, fireworks and late-night shopping. Through Exploration Tywi!,The Dyfed Archaeological Trust has welcomedrevellers through its doors to evoke the spirit ofChristmas past.

The rather macabre tradition of Hunting theWren and the gruesome Mari Llwyd werepopular customs in Wales. Each involved goingfrom house to house, in search of refreshmentand reward. Community-based, black-humoured customs that lent a certain frissonto the festivities.

People shared their own traditions bysticking their thoughts to a memory board.These included someone remembering achimney sweep walking through the house onNew Year’s Eve and leaving via the backdoor,taking the old year out while, at the first strikeof midnight, the youngest child dressed up andwalked through the front door to bring in thenew year. The writer recalls being this child in1947. Other memories ranged from childrenvisiting every home in the village to ‘sing in’ thenew year and offer a small, bright piece of coal,to more recent traditions like family dinnersand watching The Great Escape or Gremlins.

.

Festival of the Senses

Byddai’r Fari Llwyd, neu’r gaseg lwyd, yn clepian eidannedd ac yn mynd ar ôl pobl wrth iddi gael eithywys o amgylch y pentref adeg y Calan. Roedd hiwedi ei gwneud fel arfer o benglog ceffyl, gyda’r ênisaf yn gweithio gyda sbring, wedi ei gosod ar bolyna dyn wedi’i guddio o dan gynfas wen yn ei gweithio.Wrth bob ty byddai yna gystadleuaeth rigymu tanbyddai’r gaseg a’i gweision yn cael mynd i mewn, ganfynnu rhywbeth i fwyta!

The Mari Llwyd, or grey mare, would snap itsteeth and chase people as it was led around thevillage at New Year. It was usually made from ahorse skull, with a spring-operated lower jaw,mounted on a pole and worked by a man hiddenbeneath a white sheet. At each house there wouldbe a rhyming contest until the horse and itsattendants were allowed to enter, demandingsomething to eat!

CHWILOTA’R TYWI! 38-39 EXPLORATION TYWI!

Llun

iau

gan

Mik

e In

gs /

Pho

tos

by M

ike

Ings

^

^

^

^

^

^

Page 22: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

CHWILOTA’R TYWI! 40-41 EXPLORATION TYWI!

Clockwise from left: Careful, bread sticks! Woad youbelieve it - Iron Age make-up, shopping for dinnerIron-Age style, stick together, Paula, Toby and OllyCelt it up, wattle before daub, don’t point that thingat me, reconstruction drawing of Carn Goch hill fort.

Carn Goch Festival

“For many, the chance to get dressed

up in Celtic clothes, get their faces

painted with weird and wonderful

designs and throw a spear at a wild

boar proved irresistible -.and not

just for the kids!At the turn of the month Carn

Goch Iron Age hill fort, above

Bethlehem, paid host to a free event

held as part of the National Festival

of British Archaeology, run by the

Dyfed Archaeological Trust and

Brecon Beacons National Park.

Also on offer were archaeological

and geological tours around the

monument, demonstrations of

hurdle making and flour milling and

the chance to create a pottery

masterpiece. A hog-roast kept

hunger pangs at bay. Yarns were

spun in a yurt, both in wool and

words, as storytellers wove tales of

Celtic mythology while spinners

teased their threads.”

The Carmarthen Journal 18/08/2010

.

Gwyl y Garn Goch “I lawer roedd y cyfle i wisgo lan ynnillad y Celtiaid, cael eu hwynebauwedi’u paentio gyda chynlluniaurhyfedd a rhyfeddol a chael taflugwaywffon at faedd gwyllt yn ormod odemtasiwn – ac nid i’r plant yn unig! Ar ddechrau‘r mis roedd y GarnGoch, bryngaer o’r Oes Haearn,uwchben Bethlehem, yn fangre ar gyferachlysur rhad ac am ddim fel rhan oWyl Genedlaethol Archaeoleg Prydain,a gynhaliwyd gan YmddiriedolaethArchaeolegol Dyfed a PharcCenedlaethol Bannau Brycheiniog. Hefyd ar gael oedd teithiauarchaeolegol a daearegol o amgylch yrheneb ei hun, arddangosiadau gwneudclwydi a malu blawd a chyfle i greucampwaith mewn crochenwaith.Rhostiwyd mochyn i gadw drawpoenau moyn bwyd. Troellwyd edafeddmewn pabell groen, mewn geiriau agwlân, wrth i chwedleuwyr weustraeon o fytholeg y Celtiaid ac wrth inyddwyr dynnu eu hedeifion.”

The Carmarthen Journal 18/08/2010.

Llun

iau

gan

Mik

e In

gs /

Pho

tos

by M

ike

Ings

Dra

win

g by

Nei

l Lud

low

^

^

Yn glocwedd o’r chwith: Gofal, ffyn bara! Pwy se’n meddwl – colur yr Oes Haearn, siopaam ginio yn yr Oes Haearn, yn glynu gyda’igilydd, Paula, Toby ac Olly fel Celtiaid, plethucyn rhoi’r clai, paid â phwyntio hwnna ata’ i,llun adlunio bryngaer y Garn Goch.

Page 23: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Exploration Tywi! lives on, the results of the investigations carried out by thecommunity are held in the Historic Environment Record at the Dyfed ArchaeologicalTrust and much is available to view or download either through the websiteswww.tywiafonyroesoedd.co.uk and www.dyfedarchaeology.org.uk or throughwww.archwilio.org.uk where it will be maintained and built on through futureprojects and research. This increased knowledge and understanding of the valley’spast will help us all to cherish and protect its special qualities for the future. This is the legacy of Exploration Tywi!

Mae Chwilota’r Tywi! yn dal yn fyw, ac mae canlyniadau’r archwiliadau a wnaed gan ygymuned yn cael eu cadw yng Nghofnod Hanesyddol yr Amgylchedd yn YmddiriedolaethArchaeolegol Dyfed ac mae llawer ohonynt ar gael i’w gweld neu lwytho i lawr naill aidrwy’r gwefanau www.tywiafonyroesoedd.co.uk a www.dyfedarchaeology.org.uk neudrwy www.archwilio.org.uk lle cânt eu cynnal a bydd adeiladu arnynt drwy brosiectau a gwaith ymchwil yn y dyfodol. Mae hyn yn cynyddu’r wybodaeth a’r ddealltwriaethynghylch gorffennol y dyffryn a bydd yn ein cynorthwyo i goleddu a gwarchod einodweddion arbennig ar gyfer y dyfodol. Dyma gymynrodd Chwilota’r Tywi!

Page 24: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint

Map o’r ardal dan astudiaeth Map of the study area

Page 25: A community exploring their past - Home | Tywi Centresafle anheddu Neolithig helaeth wedi ei gofnodi yn cynnwys nifer o bydewau a thyllau pyst, a chanfuwyd esgyrn llosg, cerrig fflint