62
Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol. 1 1. Aberystwyth (Milltir Sgwâr) CYFLWYNIAD: Trafod Pa eiriau sy’n disgrifio’r ardal lle rydych chi’n byw? gwledig unig anghysbell trefol diwydiannol poblog prysur llawn bwrlwm cyffrous hardd hyfryd glân iach llewyrchus tawel heddychlon marwaidd diflas anniddorol CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen Milltir Sgwâr, rhaglen lle mae pobl ifanc yn cyflwyno’u hardal nhw. GEIRFA ym mhen gogleddol derbyn cyhoeddi at the northern end of (to) receive (to) publish ger y lli rheilffordd drydanol troedfeddi by the sea electric railway feet (length) Gair … geiriau Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn gogledd Felly... de dwyrain gorllewin north south east west gogleddol deheuol dwyreiniol gorllewinol GWYLIO, GWRANDO A DEALL Gwyliwch y darn – edrychwch ar y lluniau’n ofalus. 1. Mae Aberystwyth yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Beth, yn y clip, sy’n awgrymu bod Aberystwyth yn lle da ar gyfer gwyliau? 2. Beth ydy arwyddocâd y ffigurau yma? 1649 21-0 1962 2 flynedd tua blwyddyn 4 milltir yr awr 778 o droedfeddi £2.75 Y CYFRYNGAU Rhaglen ar gyfer pobl ifanc ydy Milltir Sgwâr. Sut mae arddull y rhaglen yn addas ar gyfer pobl ifanc? Meddyliwch am bethau fel: y ffilm y gerddoriaeth y cyflwyno hyd y darnau ac ati

Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

1

1. Aberystwyth (Milltir Sgwâr) CYFLWYNIAD: Trafod Pa eiriau sy’n disgrifio’r ardal lle rydych chi’n byw? gwledig unig anghysbell trefol diwydiannol poblog prysur llawn bwrlwm cyffrous hardd hyfryd glân iach llewyrchus tawel heddychlon marwaidd diflas anniddorol CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen Milltir Sgwâr, rhaglen lle mae pobl ifanc yn cyflwyno’u hardal nhw. GEIRFA ym mhen gogleddol derbyn cyhoeddi

at the northern end of (to) receive (to) publish

ger y lli rheilffordd drydanol troedfeddi

by the sea electric railway feet (length)

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn gogledd Felly...

de dwyrain gorllewin

north south east west

gogleddol deheuol dwyreiniol gorllewinol

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Gwyliwch y darn – edrychwch ar y lluniau’n ofalus. 1. Mae Aberystwyth yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Beth, yn y clip, sy’n awgrymu bod Aberystwyth yn

lle da ar gyfer gwyliau? 2. Beth ydy arwyddocâd y ffigurau yma?

1649 21-0 1962 2 flynedd

tua blwyddyn 4 milltir yr awr 778 o droedfeddi £2.75

Y CYFRYNGAU Rhaglen ar gyfer pobl ifanc ydy Milltir Sgwâr. Sut mae arddull y rhaglen yn addas ar gyfer pobl ifanc? Meddyliwch am bethau fel: • y ffilm • y gerddoriaeth • y cyflwyno • hyd y darnau

ac ati

Page 2: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

2

IAITH Ailysgrifennwch y brawddegau canlynol, gan gywiro’r gwallau sy wedi eu tanlinellu: 1. Mae Aberystwyth ar lân y môr. 2. Roedd y gem yn dda iawn - enillodd Aberystwyth o 9 gôl i 1. 3. Rydw i’n hoffi mynd i Aberystwyth yn y gaeaf, pan fydd y môr yn donau mawr. 4. Roedd fi yn Aberystwyth dros y penwythnos. 5. Roedd John, fy brawd, gyda fi. 6. Mae rhai pobl yn teithio i Aberystwyth yn bws. 7. Mae’n well gen i mynd ar y trên, fy hun. 8. Mae Aberystwyth yn poblogaidd iawn yn yr haf. 9. Mae John wedi anfon cerdyn post ato ni o Aberystwyth. 10. “Wyt ti’n eisiau dod i Aberystwyth?”, gofynnodd Arwel. YSGRIFENNU / TRAFOD 1. Lluniwch holiadur sy’n gofyn i bobl am eu barn nhw am eich ardal chi.

Dylech chi ofyn am bethau fel:

• barn gyffredinol am yr ardal (hoffi / ddim yn hoffi byw yno? pam?) • cyfleusterau hamdden • cyfleusterau ar gyfer plant / pobl ifanc • siopau • teithio yn yr ardal • sut mae gwella’r ardal

ac ati

Defnyddiwch yr holiadur i ofyn am farn y grŵp am yr ardal. 2. Ysgrifennwch erthygl am eich ardal chi ar gyfer cylchgrawn.

Dylech chi ddweud: • ble mae’r ardal • ychydig o hanes yr ardal • sut ardal ydy hi – defnyddiwch rai o’r ansoddeiriau ar ddechrau’r uned • beth sy yn yr ardal • beth sy’n dda am yr ardal • beth sy ddim mor dda am yr ardal • sut mae gwella’r ardal • beth ydy’ch barn chi am yr ardal.

Dylech chi gynnwys map a lluniau, lle mae’n bosib. Rhaid i chi gyfeirio at y map a’r lluniau, e.e.

neu Rydych chi’n mynd i wneud rhaglen am eich ardal chi. Ysgrifennwch sgript ar gyfer y rhaglen. Dylech chi gyflwyno gwybodaeth ddiddorol a mynegi barn am yr ardal. neu Ysgrifennwch sgript rhyngoch chi a rhywun o’r ardal. Yn y sgwrs, rhaid i chi drafod yr ardal.

Mae’r llun yn dangos … … fel mae’r llun yn dangos …

… fel y gwelir o’r map …

Page 3: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

3

2. Trystan Lewis (Wedi 3) CYFLWYNIAD: Trafod Ydych chi’n casglu unrhyw beth? Siaradwch am y diddordeb yma. Os dydych chi ddim yn casglu nawr, oeddech chi’n arfer casglu rhywbeth pan oeddech chi’n iau? Siaradwch am hyn. CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen gylchgrawn Wedi 3. Mae’r cyflwynydd yn mynd i Ddeganwy, ger Llandudno, i sgwrsio â dyn sy’n mwynhau casglu hen geir. GEIRFA llu clasurol cynyddu prin lleta(f) graddfa unigryw

lots of classical (to) increase rare widest scale unique

yn freintiedig iawn bellach estyniad datblygu hynafol caniatáu brwdfrydig

very privileged by now extension (to) develop old (to) allow enthusiastic

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn newydd casglu tawel menter gwybod

new (to) collect silent, quiet venture (to) know

adnewyddu casgliad tawelwch, tawelu, tawelydd mentrus, mentergarwch gwybodus, anwybodus, gwybodaeth, anwybodaeth

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Pa fath o geir mae’r cyflwynydd yn eu hoffi? 2. Pa fath o geir mae Trystan yn eu casglu? 3. Beth mae Trystan yn ei ddweud am yr hen dractor bach? 4. Disgrifiwch y Jaguar mae’r ddau’n teithio ynddo. 5. Pwy sy wedi gyrru’r Rover 90? 6. Pryd agorodd y siop lyfrau yn Llandudno? 7. Beth mae’r siop yn ei werthu nawr? 8. Beth ydy cynlluniau Trystan ar gyfer y dyfodol? Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Beth ydy lliw car y cyflwynydd? 2. Oes rhywun yn y stryd pan mae e’n dod allan o’r car? 3. Ble mae’r hen geir? 4. Pa liw ydy’r hen dractor? 5. Ydyn ni’n gweld injan y tractor? 6. Sawl Jaguar sy gan Trystan? 7. Beth sy’n digwydd i’r drws wrth iddyn nhw deithio i’r siop? 8. Pwy sy’n cerdded i mewn i’r siop gyntaf – Trystan neu’r cyflwynydd? 9. Beth sy ar y grisiau? 10. Beth ydy lliw'r car olaf ar y ffilm?

Page 4: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

4

IAITH a. Newydd …

Mae’r cyflwynydd yn dweud bod Trystan newydd orffen adnewyddu hen dractor bach.

Cywirwch y brawddegau yma: 1. Mae’r dyn newydd gorffen y gwaith. 2. Rydw i newydd wedi clywed y stori. 3. Mae’r plant newydd gadael yr ysgol. 4. Roeddwn i’n newydd gyrraedd yr ystafell. 5. Roedd y dosbarth newydd dechrau gweithio.

Ysgrifennwch 5 brawddeg yn cynnwys: • y presennol + newydd, e.e.

Rydw i newydd …

• yr amherffaith + newydd, e.e. Roeddwn i newydd …

b. Cymharu ansoddeiriau

Y Jaguar Mark 10 oedd y car lleta ar y ffordd ar un adeg: lleta(f) = mwya(f) llydan

Beth ydy ffurfiau eraill yr ansoddeiriau yma?

mwyaf hen mwyaf ifanc mwyaf byr mwyaf hir mwyaf anodd mwyaf hawdd mwyaf uchel mwyaf isel mwyaf agos mwyaf pell

YSGRIFENNU’N BERSONOL Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch eich diddordebau chi. Rhowch gymaint o fanylion â phosib. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Uchelgais Trystan Lewis ydy datblygu’r siop hen lyfrau. Gan ysgrifennu’n bersonol, soniwch am eich uchelgais chi. Rhowch gymaint o fanylion â phosib. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Mae’r siop yn gwerthu llyfrau Cymraeg. Ysgrifennwch adolygiad o unrhyw lyfr Cymraeg rydych chi wedi ei ddarllen.

Page 5: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

5

3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau sy’n gysylltiedig â gwyliau, e.e. berfau: mynd, hedfan, mwynhau enwau: tref, dinas, glan y môr, hufen iâ ansoddeiriau: braf, cynnes, gwych adferfau: yn araf, yn gyffrous Ar ôl 3 munud, cymharwch eich rhestrau. CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yn dod o’r rhaglen Nôl â ni. Yn y rhaglen, mae teulu o Ogledd Cymru’n mynd ar wyliau i Lundain ac maen nhw’n cofio gwyliau yn y gorffennol, a gwyliau yn Llundain yn arbennig. GEIRFA cenhedlaeth pererindod gwirioni ar teganau anhygoel yr un profiadau

generation pilgrimage (to) love, be mad about toys incredible the same experiences

yn ôl y sôn sefydlu hwylus rhoi … ar ben y ffordd traddodiad

apparently (to) establish convenient (to) show … the way tradition

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn teulu perthyn lle

family (to) be related to place

teuluol perthynas, perthnasau lleoedd / llefydd, lleol, lleoliad

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: Mae dwy ar y clip yn cofio gwyliau arbennig yn Llundain, yr Eidal a Weston-Super-Mare. 1. Beth maen nhw’n ei ddweud am …? Llundain

Cofio: .................................................................................................................................

.................................................................................................................................

.................................................................................................................................

Yr Eidal

Cofio: .................................................................................................................................

.................................................................................................................................

.................................................................................................................................

Weston-Super-Mare

Cofio: .................................................................................................................................

Page 6: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

6

2. Gwyliwch a gwrandewch yn ofalus eto. Mae’r darn yn sôn am gwmni bysiau Caelloi. Beth rydych chi’n ei ddysgu am y cwmni?

Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma:

1. Ble mae’r teulu’n byw? 2. Pa fwyd sy ar ddechrau’r darn? 3. Beth mae’r teulu ifanc yn ei wneud ar y dechrau? 4. Beth sy ar y bwrdd yn yr ystafell fyw? 5. Beth ydy enw’r ferch fach? 6. Beth ydy lliw’r bws yn y garej? 7. Beth ydy’r geiriau ar gefn y bws yna? 8. Beth mae’r hen luniau’n dangos? 9. Beth ydy lliw'r bws mae’r teulu’n mynd arno? 10. Ydy’r bws yn llawn? IAITH Y gorffennol I siarad am wyliau neu daith yn y gorffennol, rhaid defnyddio’r amser gorffennol a’r amherffaith. Beth ydy’r amser gorffennol – ffurfiau fi a ni?

Fi Ni Mynd Es i Aethon ni Gadael Teithio Cyrraedd Gweld Gwneud Bwyta Yfed Mwynhau Dychwelyd

I ddisgrifio’r diwrnod, mae’n bosib defnyddio roedd … ac ati, e.e.

Teithion ni ar fws. Roedd y daith yn hir iawn achos roedd y bws yn anghyfforddus. Cyrhaeddon ni’r parc thema. Am siom! Roedd hi’n pistyllio!

Cwmni Caelloi

Dechrau: ………………………………………………………………………… Yn yr 1960au: ………………………………………………………………………… ………………………………………………………………………… …………………………………………………………………………

Page 7: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

7

YSGRIFENNU’N BERSONOL Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch daith arbennig, e.e. ar fws, mewn car, ar y trên. Cofiwch ddisgrifio’n ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Gan ysgrifennu’n bersonol, ysgrifennwch am wyliau hoffech chi eu cael, e.e. ar fws, mewn car, ar y trên. Cofiwch gynnwys cymaint o fanylion â phosib. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen.

TRAFOD Ar ôl gorffen y gwaith ysgrifennu, siaradwch am y daith neu’r gwyliau mewn grŵp. Rhaid i bawb ddefnyddio’r wybodaeth yn y darn i sôn am y daith neu’r gwyliau a rhaid gofyn cwestiynau i aelodau eraill o’r grŵp a rhaid mynegi barn.

Page 8: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

8

4. Mynd yn ôl Mewn Amser (Retro) CYFLWYNIAD: Trafod Siaradwch am eich ffordd chi o fyw, heddiw, e.e. • cartref • addysg • bwyd • dillad • adloniant • gemau • teithio • unrhyw wybodaeth arall CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen Retro. Yn y rhaglen, mae teulu o Dde Cymru yn mynd yn ôl mewn amser i 1914-1918. GEIRFA yn brin rhyfel mynnu teyrnas pleidlais

scarce war (to) insist kingdom vote

bwystfil angylaidd pynciau clasurol yn berchen ar

monster angelic classical subjects (to) be the owner of, (to) own

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn buddugoliaeth triumph, a win buddugol, buddugoliaethus

Enwau lleoedd: Mae nifer o enwau lleoedd yn y darn. Mae map ar ddiwedd yr uned yn dangos ble mae’r lleoedd yma. GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Y teulu

Sut mae’r bobl yma’n perthyn i’w gilydd?

Curtis ac Andrew Curtis a Connor Curtis a Maddie Jill a Maddie Clive a Curtis Cynthia a Clive

Page 9: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

9

2. Pwy? Pa gyfnod? Pam? Pa gyfnod sy’n apelio neu sy ddim yn apelio at aelodau’r teulu? Pam? Cysylltwch yr enwau, y cyfnodau a’r rheswm

Enw Pryd

Pam

Curtis

y 40au Doedd dim digon o fwyd.

Connor

y 50au – y 60au Dyma gyfnod ei blentyndod.

Andrew / Dad

y 70au Hoffai weld Elvis a’r cantorion eraill.

Jill / Mam

y 70au Roedd hi’n hoffi’r ffasiwn.

Clive / Dad-cu

yr 80au Hoffai weld George Best yn chwarae.

Cynthia / Mam-gu

Ddim yr Ail Ryfel Byd Roedd tîm rygbi Cymru’n chwarae’n dda iawn.

TRAFOD: 1914-1918 Beth rydych chi’n ei ddysgu am y cyfnod 1914-1918? Gwnewch nodiadau a thrafodwch. Beth arall rydych chi’n ei wybod am y cyfnod? Meddyliwch am y ffilm Hedd Wyn, er enghraifft. Beth rydych chi’n ei ddysgu am y cyfnod o’r ffilm yna? Hoffech chi fyw yn y cyfnod yna? Pam? Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Sut mae’r tywydd ar ddechrau’r clip? 2. Faint o ferched sy yn y teulu? 3. Ble maen nhw’n byw? 4. Beth mae Maddie yn hoffi ei wneud? 5. Sut rydych chi’n gwybod bod y bachgen yn anhapus bod y teledu’n mynd? 6. Pwy sy’n dysgu Lladin i’r bechgyn? 7. Ydy’r tad yn canu sol-ffa? 8. Pa gêm mae’r bechgyn yn chwarae? 9. Gyda beth mae’r ferch yn chwarae? 10. Pwy sy’n dechrau’r gramoffon? IAITH a. Hoffwn / Hoffet ac ati

Ysgrifennwch y ffurfiau cywir yn y bylchau: 1. …………………………………… i fyw yn yr wyth degau. 2. …………………………………… chi fyw mewn cyfnod arall? 3. ……………………………………’r disgyblion fynd yn ôl i’r naw degau. 4. …………………………………… Mam fynd yn ôl i gyfnod ei phlentyndod. 5. …………………………………… Dad fyw yn y dyfodol. 6. …………………………………… nhw fynd yn ôl i’r gorffennol. 7. Hoffech chi fyw mewn cyfnod arall? Na ……………………………………, dw i’n hapus yn y presennol. 8. Hoffai’r disgyblion fyw mewn cyfnod arall? …………………………………… ( ) 9. Hoffet ti weld beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol? Na ……………………………………, dim diolch. 10. Hoffai’r athro hanes fynd yn ôl i’r 1920au? …………………………………… ( )

Page 10: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

10

b. Y dyddiad Beth ydy’r canlynol yn Gymraeg?

1914 …………………………………… yn + 1914 …………………………………… 1968 …………………………………… yn + 1968 …………………………………… 2002 …………………………………… yn + 2002 …………………………………… 2010 …………………………………… yn + 2010 ……………………………………

y 90au …………………………………… yn + y 90au …………………………………… Y CYFRYNGAU Sut mae’r ffilm yn llwyddo i: • ail-greu cyfnod 1914-1918 • creu naws arbennig YSGRIFENNU’N BERSONOL Petaech chi’n cael cyfle i fyw mewn cyfnod arall, ym mha gyfnod hoffech chi fyw? Ysgrifennwch ddarn yn egluro pa gyfnod hoffech chi fyw ynddo, gan roi rhesymau dros eich dewis. Cofiwch gynnwys cymaint o fanylion â phosib. neu Weithiau, mae projectau arbennig lle mae pobl yn cofnodi’r presennol ar gyfer pobl y dyfodol. Mae rhai pobl, er enghraifft, yn gwneud capsiwl amser. Maen nhw’n rhoi pethau pwysig, neu luniau ohonyn nhw, mewn bocs plastig cryf ac yn ysgrifennu darn am fywyd heddiw. Yna, maen nhw’n claddu’r bocs. Ysgrifennwch ddarn ar gyfer capsiwl amser. Meddyliwch am 3 pheth sy’n bwysig i ni heddiw i’w rhoi yn y capsiwl. Eglurwch pam maen nhw’n bwysig ac ysgrifennwch am ein cyfnod ni.

Page 11: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

11

5. Dillad (Cwpwrdd Dillad) CYFLWYNIAD: Trafod Ydych chi’n mwynhau gwisgo’n smart, neu ydy hi’n well gyda chi wisgo dillad cyfforddus fel arfer? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen Cwpwrdd Dillad. Yn y rhaglen, mae Nia Parry yn sgwrsio â Beverly Hughes a Craig Evans am eu dillad. Mae’r clip ar y DVD wedi ei rannu’n ddwy ran – gwyliwch un rhan ar y tro. Rhan 1 – Beverly Hughes GEIRFA celf cynhyrchydd dylanwad sîn mynd dramor

art producer influence scene (to) go abroad

chwilboeth mynnu cyffwrdd â achlysur

extremely hot (to) insist (to) touch occasion

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn plentyn cofio

child (to) remember

plentyndod, plentynnaidd cof, cofion, atgof, atgofion

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Gwyliwch y darn ar y dechrau. I ba gyfnod mae’r dillad yn perthyn, ydych chi’n meddwl? Pam rydych chi’n dweud hynny? Atebwch y cwestiynau yma: 1. Ydy Beverly’n meddwl llawer am beth mae hi’n mynd i wisgo? 2. Pryd dechreuodd diddordeb Beverly mewn dillad? 3. Beth roedd hi’n ei wisgo i fynd ar y fordaith? 4. Sut roedd y wisg brynodd ei thad hi’n ddefnyddiol? 5. Sut roedd y tywydd yn Tangiers? IAITH Y lluosog Yn y darn, mae’r gair chwiorydd yn cael ei ddefnyddio. Beth ydy ffurf luosog y geiriau yma?

brawd, mab, merch, gŵr, gwraig, cefnder, cyfnither, perthynas, teulu YSGRIFENNU’N BERSONOL Mae Beverly’n siarad am gael tynnu llun gyda’i chwaer. Dewiswch lun neu ffotograff ohonoch chi mewn digwyddiad arbennig, e.e. taith arbennig, gwyliau, pen-blwydd, parti gwisg ffansi, perfformiad drama ac ati. Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch y digwyddiad yn y llun. Cofiwch ddisgrifio’r profiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen.

TRAFOD Ar ôl gorffen ysgrifennu, trafodwch y digwyddiad mewn grŵp. Rhaid i bawb yn y grŵp siarad a gwrando ar ei gilydd, gofyn ac ateb cwestiynau a mynegi barn.

Page 12: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

12

Rhan 2 – Craig Evans GEIRFA unigryw dylanwadu ar

unique (to) influence

tynnu caniatâd

(to) remove permission

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn croeso edrych

welcome (to) look

croesawu, croesawgar, digroeso edrychiad

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Yn ôl Craig Evans, beth ydy’r steil hip-hop o ddillad? 2. Pa fath o wybodaeth mae e’n ei chael yn y daily dig ar y wefan yn America? 3. Beth mae Nia’n ei ddweud am rai o’r labeli mae Craig yn siarad amdanyn nhw? 4. Faint dalodd e am y treinyrs gwyrdd a chareiau coch gan Nike a faint ydy eu gwerth nhw nawr? 5. Beth oedd y broblem gyda’r treinyrs Blue Ribbons? IAITH Ansoddeiriau Pa eiriau sy’n disgrifio dillad Craig Evans? Rhowch wrth y geiriau.

patrymog tynn llachar streipiog siec llac lliwgar tu hwnt plaen iawn braidd yn hen ffasiwn braidd yn ddiflas ychydig yn dywyll cyffrous iawn gwahanol cyfoes hyfryd dros ben eithaf diflas a dweud y gwir

Ysgrifennwch frawddegau’n cynnwys 10 o’r geiriau a’r ymadroddion yma. Allwch chi feddwl am fwy o eiriau i ddisgrifio dillad? YSGRIFENNU Rydych chi’n mynd i lunio sgript ar gyfer y rhaglen Cwpwrdd Dillad: Mae Nia’n dod i’ch cartref chi i weld rhai o’r pethau sy yn eich cwpwrdd dillad: Chi: Dangos y dillad, disgrifio’r dillad, rhoi ychydig o hanes neu gefndir y dillad, egluro pam maen nhw’n

bwysig i chi. Nia: Gofyn cwestiynau, gwneud sylwadau. neu Ysgrifennwch bortread o berson. Gallwch chi ysgrifennu am un o’r bobl ar y DVD os ydych chi eisiau.

Page 13: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

13

6. Bagiau Plastig (popeth yn wyrdd) CYFLWYNIAD: Trafod Ble fyddwch chi’n siopa fel arfer? Pa fath o siopau sy yno? Beth fyddwch chi’n ei brynu? Sut byddwch chi’n mynd i siopa (e.e. mewn car, ar fws, ar drên)? Sut byddwch chi’n cario’r siopa adre fel arfer? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen popeth yn wyrdd. Mae’r cyflwynydd, Ifor ap Glyn, yn siarad am fagiau plastig. GEIRFA yn bla ar hyd a lled cael gwared ar yn gyfan gwbl yn y cyfamser modd gweithredu ar eu liwt eu hunain gwleidyddion cyhoeddi cymryd y cam cyrraedd y nod

a plague, i.e. a real nuisance all over (to) get rid of completely in the meantime means, way (to) act by themselves politicians (to) announce (to) take the step (to) reach the goal

yn eu plith nhw gwerthfawrogi cael y maen i’r wal yr un bwriad yn ymwybodol o yn gefnogol i symudiad ailgylchu tocyn go lew y gweddill diweddu

among them (to) appreciate (to) succeed each intention aware of supportive of movement (to) recycle quite a large amount the remainder (to) end up

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn cymuned community cymunedau, cymunedol

Enwau lleoedd: Mae’r darn yn cyfeirio at Gastell Newydd Emlyn. Mae’r map ar ddiwedd yn uned yn dangos ble mae Castell Newydd Emlyn. GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Pa leoedd sy ar y clip?

Pam mae’r clip yn dangos y lleoedd yma?

2. Pa rifau sy ar y clip? • • • Beth mae’r rhifau yma’n dangos?

3. Beth mae pobl Castell Newydd Emlyn yn ei ddweud am fagiau plastig?

Page 14: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

14

Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Ble rydych chi’n gweld bagiau plastig reit ar ddechrau’r clip? 2. Ydy Ifor ap Glyn yn bwyta rhywbeth yn y seibr-gaffi? 3. Pa liw ydy’r arwydd “Castell Newydd Emlyn”? 4. Oes beic yn mynd heibio i’r caffi yng Nghastell Newydd Emlyn? 5. Gyda phwy mae Ifor ap Glyn yn siarad yn gyntaf yng Nghastell Newydd Emlyn – dyn, dynes neu deulu? IAITH a. Mae’r darn yn defnyddio’r ymadrodd:

ar eu liwt eu hunain

I siarad am rywun arall, rhaid newid yr eu, e.e. Rydw i’n gweithio ar fy liwt fy hun. Rwyt ti’n gweithio ar dy liwt dy hun. Mae e’n / o’n gweithio ar ei liwt ei hun. Mae hi’n gweithio ar ei liwt ei hun. Rydyn ni’n gweithio ar ein liwt ein hunain. Rydych chi’n gweithio ar eich liwt eich hunain. Maen nhw’n gweithio ar eu liwt eu hunain.

Newidiwch yr idiomau yma i siarad am berson arall, e.e. gwneud ei orau glas Mae e’n gwneud ei orau glas. > fi Rydw i’n gwneud fy ngorau glas.

> ni …………………………………………………… > nhw …………………………………………………… > chi ……………………………………………………

â’i wynt yn ei ddwrn Rhedodd e â’i wynt yn ei ddwrn. > hi ……………………………………………………

> nhw …………………………………………………… > fi …………………………………………………… > ni ……………………………………………………

crynu yn ei sgidiau Mae e’n crynu yn ei sgidiau.

> ni …………………………………………………… > fi …………………………………………………… > nhw …………………………………………………… > ti …………………………………………………… > chi ……………………………………………………

Y CYFRYNGAU Edrychwch ar y darn ar ôl i Ifor ap Glyn adael y seibr-gaffi – y darn am Gastell Newydd Emlyn. Sut mae’r gerddoriaeth a’r ffilm yn gweddu i’r cynnwys? YSGRIFENNU’N BERSONOL Gan ddefnyddio gwybodaeth o’r darn ac unrhyw wybodaeth rydych chi eisiau ei chynnwys, ysgrifennwch naill ai • daflen i geisio perswadio pobl i ddefnyddio llai o fagiau plastig neu • erthygl ar gyfer y papur bro lleol i geisio perswadio pobl i ddefnyddio llai o fagiau plastig.

Page 15: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

15

Page 16: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

16

7. Gwesty Cymru (04 Wal) CYFLWYNIAD: Trafod Oes llawer o westai yn eich ardal chi? Enwch rai. CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen 04 Wal. Mae’r cyflwynydd, Aled Samuel, yn ymweld â gwesty arbennig iawn yn Aberystwyth. GEIRFA cyffyrddus llewyrchus cynllunio moethus adlewyrchu cynnyrch llechi dodrefn / celfi dynodi

comfortable successful (to) design luxurious (to) reflect produce slates furniture (to) denote

undod comisiynu derw graen golygfa gweision carreg haenen

unity (to) commission oak grain view servants stone layer

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn lle cynllun mewn

place design in

lleol, lleoliad cynlluniau, cynllunio, cynllunydd, cynllunwyr i mewn, tu mewn, mewnol

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Enw’r gwesty ar y DVD ydy Gwesty Cymru ac mae’r gwesty’n Gymreig iawn. Gwnewch restr o’r pethau sy’n gwneud y gwesty mor Gymreig. Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma:

1. Ble mae Aled Samuel yn sefyll ar ddechrau’r ffilm? 2. Disgrifiwch leoliad y gwesty. 3. Llun beth sy ar y gwydr ar y plac tu allan i’r gwesty? 4. Ble maen nhw’n eistedd ar ddechrau’r rhaglen? 5. Pa liw ydy’r gwesty ar y tu allan? 6. Pinc oedd lliw'r gwesty cyn i Beth a Huw ei brynu? 7. Beth sy’n ‘borffor’ yn yr ystafell ‘borffor’? 8. Ydy hi’n bosib gweld y môr o’r ystafell wely ‘borffor’? 9. Pa ddodrefn / celfi sy yn yr ystafell olaf? 10. Oes cawod yn yr ystafell ymolchi?

Page 17: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

17

IAITH a. Cywiro brawddegau

Cywirwch y brawddegau yma: 1. Mae’r ystafell yn porffor. 2. Mae’r olygfa’n bendigedig. 3. Mae’r ystafell yn liwgar. 4. Mae’r dodrefn yn Cymreig. 5. Mae’r ystafell ymolchi’n modern. 6. Mae’r bwyd yn leol. 7. Doedd y gwaith ddim yn rad. 8. Mae’r perchnogion yn bodlon. 9. Roedd y gwesty’n pinc ond nawr mae e’n gwyn. 10. Basai aros yn y gwesty yma’n cyffrous iawn.

b. Llenwi bylchau

Defnyddiwch y geiriau yma yn y bylchau: (Cofiwch dreiglo pan fydd angen!)

Cymreig; Cymry; Cymraeg; Cymreictod; Cymraes; Cymro; Cymru

1. Mae ……’n wlad hardd iawn. 2. Mae ……’n byw ar draws y byd. 3. Mae llawer ohonyn nhw’n falch o’u …… 4. Mae …… yn un o ieithoedd hynaf y byd. 5. Mae John yn …… 6. Mae Siân yn …… 7. Mae’r siop yn gwerthu crefftau …… 8. Pan fyddwn ni’n mynd dramor, byddwn ni’n dweud mai …… ydyn ni. 9. Roedd yr ymwelwyr wrth eu bodd yng …… 10. Mae’r dodrefn yn edrych yn ……

Y CYFRYNGAU Beth ydy bwriad cynhyrchydd y rhaglen yma, tybed? Ydy’r cynhyrchydd yn llwyddo? Pam rydych chi’n dweud hynny? Trafodwch y defnydd o gerddoriaeth gefndirol. Beth ydy’ch barn chi am y darn yma? Pam? YSGRIFENNU’N BERSONOL Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch unrhyw dro pan oeddech chi’n aros oddi cartref, e.e. ar wyliau, yng Nglan-llyn, gyda ffrind, gyda’r teulu ac ati. Cofiwch ddisgrifio’r profiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Dychmygwch eich bod chi wedi bod yn aros yng Ngwesty Cymru. Ysgrifennwch ddarn ar gyfer cylchgrawn gwyliau i ddisgrifio’r profiad.

Page 18: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

18

8. Tir Uchel Cymru (Natur Cymru) CYFLWYNIAD: Trafod Fyddwch chi’n gwneud gweithgareddau yn yr awyr agored weithiau, e.e. cerdded, dringo, canŵio? Beth? Ble? Pryd? Gyda phwy? Pam? Beth yn union fyddwch chi’n ei wneud? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen Natur Cymru. Mae’r cyflwynydd, Iolo Williams, yn edrych ar fyd natur yn ucheldir Cymru. GEIRFA cynefin ucheldir gweddill yn werthfawr yn brin bodoli diffrwyth anghysbell denu

habitat high ground remainder valuable rare (to) exist barren isolated (to) attract

olion Oes yr Iâ allweddol tystiolaeth rhewlif anferth golygfeydd tirlun unigryw

remains the Ice Age key evidence glacier huge scenery landscape unique

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn (o) amgylch arbennig croeso adnabod deall

around special welcome (to) know (to) understand

amgylchynu, amgylchedd, amgylcheddol arbenigo, arbenigol croesawgar, croesawu, digroeso adnabyddus dealltwriaeth, deallus

Enwau lleoedd: Mae nifer o enwau lleoedd yn y darn. Mae map ar ddiwedd yr uned yn dangos ble mae’r lleoedd yma. GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Beth ydy hoff gynefin Iolo? 2. O ble mae Iolo’n dod? 3. Mae Iolo’n dweud bod dim llawer o groeso yng Nghwm Idwal yn y gaeaf. Pam mae Cwm Idwal yn

ddigroeso yn y gaeaf? 4. Pam mae pobl yn dod i Gwm Idwal? 5. Pam daeth Charles Darwin i Gwm Idwal? 6. Sut mae pobl ar draws y byd yn meddwl am Gymru, yn aml iawn? Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Enwch 5 anifail weloch chi reit ar ddechrau’r rhaglen, tra oedd y gerddoriaeth yn chwarae. 2. Ar ddechrau’r ffilm, mae llawer o fynyddoedd. Beth arall sy yno? 3. Pa liwiau ydy’r blodau ar y clip? 4. Mae’r ffilm yn dangos afon yn y gaeaf. Sut rydyn ni’n gwybod bod y tywydd yn oer?

Page 19: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

19

IAITH a. O

Mae Iolo’n sôn am fyd natur ar yr ucheldir ac yn dweud bod “llawer ohono yn brin iawn”. Hefyd, mae llawer o bobl wedi ymweld â Chwm Idwal a’r “enwocaf ohonyn nhw i gyd” oedd Charles Darwin.

Defnyddiwch ffurf gywir o yn y bylchau: 1. Mae Cymru’n hardd. Mae llawer ………… hi’n fynyddig iawn. 2. Mae llawer o drefi yn Ne Cymru. Mae rhai ………… nhw’n fawr iawn. 3. Mae Caerdydd yn ddinas gyffrous. Rydw i’n hoffi iawn ………… hi. 4. Dw i wrth fy modd mewn tref ond mae rhan ………… i’n hoffi’r wlad hefyd. 5. Mae rhan ………… ti’n hoffi’r wlad hefyd, rydw i’n meddwl. 6. Faint ………… chi sy wedi bod i gopa’r Wyddfa? 7. Does dim llawer ………… ni wedi gweld dolffin yn y môr ger Aberaeron. 8. Mae’r mynydd yn hardd iawn – mae grug yn tyfu ar rannau ………… fe. 9. Mae llawer ………… chi’n mwynhau gwylio adar, rydw i’n gwybod. 10. Mae llawer ………… nhw’n byw yn y goedwig.

b. Cywiro

Darllenwch yr hysbyseb yma am y rhaglen Natur Cymru. Mae 10 gwall iaith yn yr hysbyseb. Cywirwch y gwallau sy wedi eu tanlinellu.

Y CYFRYNGAU Sut mae Cymru’n cael ei phortreadu yn y darn? Sut mae’r darn yn gwneud hynny? Meddyliwch am bethau fel:

• y ffilm • y gerddoriaeth • y goleuo

Beth rydych chi’n ei feddwl o’r darn? Rhowch resymau dros eich ateb. YSGRIFENNU’N BERSONOL Mae llawer o bobl yn gwneud gweithgareddau awyr agored ym myd natur. Gan ysgrifennu’n bersonol, soniwch am unrhyw weithgareddau rydych chi’n eu gwneud yn yr awyr agored. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. Cofiwch roi cymaint o fanylion â phosib, e.e.

• beth • ble • pryd • gyda phwy • pam • ers pryd • digwyddiad yn y gorffennol neu yn y dyfodol

neu Gwnewch bamffled i hyrwyddo’ch ardal chi.

Natur Cymru Mae Cymru’n prydferth. Mae Cymru’n llawn bywyd gwyllt ddiddorol. Yn y gyfres Natur Cymru, mae Iolo Williams yn ymweld a rhannau o Gymru ac mae’n siarad am byd natur yn yr ardaloedd yna. Mae e wrth ei bodd yn dangos yr anifeiliaid, yr adar, y blodau, y planhigion a’r tir i ni. Roedd cyfres newydd yn dechrau’r wythnos nesaf, ar nos Fercher. Yn y gyfres, bydda Iolo’n mynd i lan y mor, i’r goedwig, i’r tir uchel ac i lawer o leoedd eraill, wrth gwrs. Os rydych chi’n hoffi bywyd gwyllt, dyma’r gyfres i chi. Cofia: nos Fercher 8.00-9.00

Page 20: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

20

Page 21: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

21

9. Ysbrydion (Wedi 3) CYFLWYNIAD: Trafod Ydych chi’n credu mewn ysbrydion? Pam? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen gylchgrawn Wedi 3. Mae Heddyr, un o’r cyflwynwyr, yn mynd i dŷ yn ardal Y Bala, lle mae ysbrydion - yn ôl y perchennog! GEIRFA ysbrydion diflannu ymddangos trydanol rhyfeddu ymhlith difyr parhaol

ghosts (to) disappear (to) appear electrical (to) be surprised among interesting permanent

digwydd galw heibio rhith llaes golwg wallgo dychryn cecru cega

(to) happen to call by apparition long a mad look (to) frighten (to) quarrel (to) scold, quarrel, nag

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn byd world bydol, arallfydol

Enwau lleoedd: Mae nifer o enwau lleoedd yn y darn. Mae map ar ddiwedd yr uned yn dangos ble mae’r lleoedd yma. GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Pam mae Rhodri Jones yn meddwl bod ysbrydion yn y tŷ? 2. Ydy e’n ofni’r ysbrydion? 3. Beth ydy’ch barn chi am hyn i gyd? Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Beth mae Heddyr yn ei wneud, canu’r gloch neu guro wrth y drws? 2. Ydy hi’n ysgwyd llaw â Rhodri Jones? 3. Faint o’r gloch ydy hi ar y cloc? 4. Ydy Rhodri Jones yn gwisgo rhywbeth ar ei ben? 5. Mae cerflun o ben Hedd Wyn ar y wal. Oes unrhyw beth wedi ei ysgrifennu o dan y pen? 6. Oes enw ar y groes? 7. Ydy Rhodri Jones yn yfed neu’n bwyta rhywbeth yn ystod y clip? 8. Ble mae’r tedi? 9. Beth mae Heddyr yn ei wisgo? 10. Mae Rhodri Jones yn eistedd wrth y bwrdd yn edrych ar luniau. Beth sy yn un o’r lluniau? Y CYFRYNGAU Gwyliwch y darn eto a gwrandewch yn ofalus ar y synau a’r gerddoriaeth. Sut mae’r darn yn creu naws arbennig? Meddyliwch am beth rydych chi’n ei weld a beth rydych chi’n ei glywed.

Page 22: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

22

HEDD WYN 1. Beth mae Rhodri Jones yn ei ddweud am Hedd Wyn? 2. Pa wybodaeth am Hedd Wyn sy yn y darn? 3. Sut mae’r wybodaeth yma’n cymharu gyda beth roeddech chi’n ei wybod cyn gwylio’r darn? 4. Mae golygfa o’r ffilm Hedd Wyn yn y darn. Beth mae’r olygfa’n ei ddangos? 5. Pam mae’r olygfa’n cael ei dangos? 6. Sut mae’r ffilm Hedd Wyn yn creu effeithiau arbennig? Meddyliwch am bethau fel:

• beth rydych chi’n ei weld ar y sgrin • y gerddoriaeth a’r effeithiau sain • y goleuo

IAITH a. Y lluosog

Mae Rhodri Jones yn sôn am synau yn y tŷ a drysau’n bangio. sŵn > synau drws > drysau

Beth ydy lluosog y geiriau yma? bws, bwrdd, cwpwrdd, cyfrwng, mwg (h.y. cwpan), gwn, pwll, twll, pwrs, tŵr

Beth ydy lluosog y geiriau yma?

gŵr, cyfreithiwr, ffermwr, garddwr, siopwr b. Ymadroddion

Mae Rhodri Jones yn dweud bod yr ysbrydion yn dweud y drefn. Beth ydy ystyr dweud y drefn?

Defnyddiwch yr ymadroddion yma mewn brawddegau:

ar bigau’r drain codi ofn ar crynu yn ei sgidiau o ddrwg i waeth o’r golwg yn awr ac yn y man

YSGRIFENNU’N BERSONOL Oes rhywbeth rhyfedd wedi digwydd i chi erioed? neu Oes rhywbeth wedi digwydd i godi ofn arnoch chi? Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch y digwyddiad. Gallwch chi ddychmygu eich bod chi’n byw yn y tŷ yma, os ydych chi eisiau. Cofiwch ddisgrifio’r profiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen.

Page 23: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

23

10. Traethau Cymru (Wedi 7) CYFLWYNIAD: Trafod Pa mor aml fyddwch chi’n mynd i’r traeth? Beth fyddwch chi’n ei wneud yno? Gwnewch restr o eiriau sy’n gysylltiedig â’r traeth – mae gennych chi ddwy funud i wneud rhestr hir! CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yn dod o’r rhaglen gylchgrawn Wedi 7. GEIRFA yn glyd torheulo effeithio ar anhygoel yn berthnasol atyniad nefoedd golygfeydd

cosy (to) sunbathe (to) affect incredible relevant attraction heaven scenery

parchu amgylchfyd nod disglair safon rheolaeth ansawdd

(to) respect environment aim bright standard management quality

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn haf cartref rhaid gwobr gwell elw

summer home must prize better profit, benefit

hafaidd cartrefol rheidrwydd gwobrwyo gwella elwa

Enwau lleoedd: Mae nifer o enwau lleoedd yn y darn. Mae map ar ddiwedd yr uned yn dangos ble mae’r lleoedd yma. Gwyliwch y darn. Faint rydych chi’n ei gofio? Beth mae’r bobl ar y clip yn ei wneud ar y traeth? Enwch gymaint o weithgareddau â phosib. GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Gwyliwch y darn am syrffio a’r darn lle mae’r ferch yn sôn am syrffio yng Nghymru.

Llenwch y bylchau yn yr hysbyseb yma:

DE CYMRU – LLE ARDDERCHOG I SYRFFIO achos:

• mae

• mae

• mae

Page 24: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

24

2. Nawr, gwyliwch a gwrandewch yn ofalus ar y darn am draeth Cefn Sidan. Defnyddiwch y wybodaeth i wneud hysbyseb am y traeth.

3. Gwyliwch y darn olaf. Pa wybodaeth sy yn y darn yma am draethau Cymru? Y CYFRYNGAU Pa mor effeithiol ydy’r gerddoriaeth a’r effeithiau sain yn y darn yma? IAITH Mae’r cyflwynydd yn sôn am y tywydd: “yn berffaith ar gyfer barbeciw” Mae’r ferch ifanc yn sôn am y môr: “Mae’r dŵr yn lân.” Mae ansoddeiriau – ac enwau – yn treiglo’n feddal ar ôl yn fel arfer. Ond mae’r ferch ifanc yn dweud hefyd: “Mae’n lle anhygoel i syrffio.” Dydy ll a rh ddim yn treiglo ar ôl yn. Treiglwch yr ansoddeiriau a’r enwau isod – os oes angen: 1. Mae traethau Cymru’n ……………………………………… (gwych) 2. Mae’r tywod yn ……………………………………… (melyn) 3. Mae’r tywydd yn ……………………………………… (gwlyb) weithiau. 4. Mae’r traethau’n ……………………………………… (poblogaidd) 5. Weithiau, maen nhw’n ……………………………………… (llawn) iawn. 6. Fel arfer, mae diwrnod ar y traeth yn ……………………………………… (rhad) iawn achos does dim rhaid i chi

brynu pethau yno. 7. Mae hwn yn ……………………………………… (traeth) da. 8. Mae Aberystwyth yn ……………………………………… (tref) ar lan y môr. 9. Mae Tyddewi’n ……………………………………… (dinas) ger y môr. 10. Mae’n ……………………………………… (lle) bendigedig. CHWARAE RÔL Partner A: Rydych chi’n gweithio i Croeso Cymru. Mae’ch partner chi’n ffonio o America. Mae e/o / hi eisiau

mynd ar wyliau i wlad lle mae traethau da. Ceisiwch berswadio’ch partner i ddod i Gymru.

Partner B: Rydych chi’n byw yn America ac rydych chi’n chwilio am wyliau mewn gwlad lle mae traethau da. Gofynnwch am draethau Cymru.

YSGRIFENNU Mae’r cyflwynydd yn mynd i’r traeth ar ddiwrnod gwlyb, diflas, ond dydy e ddim wedi ei siomi. Mae’r un peth yn wir am y teulu ifanc sy’n mynd i draeth Cefn Sidan. Sut rydych chi’n teimlo ar ddiwrnod gwlyb? Gan ysgrifennu’n bersonol, ysgrifennwch am ddiwrnod gwlyb iawn. Disgrifiwch y diwrnod a beth ddigwyddodd yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Rydych chi newydd fod i un o’r traethau ar y DVD. Ysgrifennwch ddarn am y traeth yma ar gyfer cylchgrawn gwyliau. Gallech chi berswadio pobl i ddod i’r traeth, neu gallech chi ysgrifennu darn sy’n beirniadu’r traeth, ond rhaid i chi roi rhesymau.

Page 25: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

25

Page 26: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

26

11. Gwastraffu Bwyd (Newyddion) CYFLWYNIAD: Trafod Beth ydy’ch hoff fwyd chi? Beth ydy’ch cas fwyd chi? Ydych chi’n coginio weithiau? Beth rydych chi’n ei wneud? Sut rydych chi’n gwneud y bwyd yma? Faint o fwyd sy’n cael ei wastraffu yn eich tŷ chi fel arfer? Ychydig? Dim llawer? Dim o gwbl? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen Newyddion ac mae’n cyfeirio at wastraffu bwyd. Cafodd y rhaglen ei darlledu adeg cynhadledd y G8, pan oedd arweinwyr y byd yn trafod bwyd. GEIRFA anorfod osgoi lluchio cynhadledd cynnyrch

inevitable (to) avoid (to) throw conference produce

cnydau biodanwydd cyflenwad dyrys

crops bio fuel supply complicated

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn gwastraff llai dwbl

waste less double

gwastraffu, gwastraffus lleihau dyblu

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Gwyliwch y darn. Ble rydych chi’n gweld bwyd yn y darn? Pa fath o fwyd? Ysgrifennwch eich syniadau yng Ngholofn 1 a 2.

Colofn 1: Ble?

Colofn 2: Beth?

Colofn 3: Pam?

Pam mae’r clip yn dangos y bwyd yma? Ysgrifennwch eich syniadau yng Ngholofn 3.

Page 27: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

27

Gwyliwch eto ac atebwch y cwestiynau yma: 1. Beth mae Anwen Jones yn ei ddweud am y merched? 2. Sut, yn ôl Gordon Brown, mae gwastraffu bwyd yn effeithio ar bawb? 3. Ble mae arweinwyr y byd yn cyfarfod i drafod bwyd? 4. Beth, yn ôl yr arbenigwr, sy’n gallu bod yn broblem gyda chael oergell fawr? 5. Ar ddiwedd y darn, mae’r cyflwynydd yn sôn am ddefnyddio bwyd mewn ffordd arall – yn lle ei fwyta. Am

beth mae e’n sôn? Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Faint o bobl sy wrth y bwrdd ar ddechrau’r rhaglen? 2. Beth sy ar y silffoedd yn yr archfarchnad? 3. Ydy’r awyren yn symud? 4. Beth sy ar blatiau’r arweinwyr yn y wledd? 5. Sut mae’r tad yn ymateb i beth mae’r bachgen bach yn ei ddweud yn y darn? IAITH a. Gormod o …

Mae’r darn yn sôn am ‘gormod o fwyd’.

Defnyddiwch yr ymadroddion yma mewn brawddegau: ychydig o tamaid bach o digon o dim digon o llawer o dim llawer o tipyn o tipyn go lew o gormod o dim gormod o

b. On’d … Wrth siarad â’i fab, mae’r tad ifanc yn defnyddio’r cwestiwn on’d wyt ti? Mae cwestiynau bach fel on’d ydy hi?, on’d ydych chi? ac ati’n cael eu defnyddio’n aml ar ddiwedd brawddeg yn Gymraeg. Beth ydy’r cwestiynau bach sy i fod ar ddiwedd y brawddegau yma? e.e. Mae hi’n oer. Mae hi’n oer, on’d ydy hi. 1. Mae hi’n braf. 2. Mae John yn mynd. 3. Mae’r plant yn dod. 4. Rydw i’n iawn. 5. Rydyn ni’n gywir. 6. Rydych chi’n hapus. 7. Mae’r athro’n dda. 8. Mae’r bobl wrth eu bodd. 9. Rwyt ti’n gwybod hyn. 10. Rydych chi’n gweithio bob nos.

11. Roedd hi’n braf. 12. Roedd hi’n oer. 13. Roedd y plant yn dda. 14. Roeddwn i’n iawn. 15. Roedden ni’n hapus yno. 16. Roedd pawb wrth eu bodd. 17. Roedden nhw’n gweithio. 18. Roeddet ti’n gynnar. 19. Roeddech chi’n iawn. 20. Roeddwn i’n gwybod.

Cofiwch: “on’d” NID “ond”

Cofiwch: mae treiglad meddal ar ôl o.

Page 28: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

28

CHWARAE RÔL Partner A: Rydych chi’n gweld rhywun yn gwastraffu bwyd, e.e. yn yr ystafell fwyta yn yr ysgol / coleg, ar

y buarth, gartref. Rhaid i chi: • stopio’r person • dangos ei fod e’n / o’n / hi’n gwastraffu bwyd • egluro bod gwastraffu bwyd yn beth drwg i’w wneud • rhoi cyngor ar sut i beidio gwastraffu bwyd yn y dyfodol.

Partner B: Chi sy’n gwastraffu bwyd:

Rhaid i chi ddweud pam rydych chi’n gwastraffu’r bwyd. Rhaid i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau. Cyn dechrau, cynlluniwch gyda’ch gilydd: • beth rydych chi’n mynd i ddweud • sut rydych chi’n mynd i ddweud hyn (e.e. cwestiynau / gorchmynion / dylet ti / ddylet ti

ddim ac ati). Peidiwch ag ysgrifennu sgript!

YSGRIFENNU Ysgrifennwch daflen i geisio perswadio pobl i beidio â gwastraffu bwyd. Dylech chi • roi ffeithiau am wastraffu bwyd, e.e. sut mae pobl yn gwastraffu bwyd, faint mae’n gostio ac ati • awgrymu sut mae osgoi gwastraffu bwyd neu Gan ysgrifennu’n bersonol, ysgrifennwch lythyr yn mynegi’ch barn am wastraffu bwyd. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen.

Page 29: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

29

12. Tŷ Eco (Y Tŷ Cymreig) CYFLWYNIAD: Trafod Ble yn union rydych chi’n byw? Disgrifiwch eich cartref chi. Pa fath o dai sy yn yr ardal? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yn dod o’r rhaglen Y Tŷ Cymreig. Mae e’n sôn am dŷ arbennig yng Nghwm Einion, ger Machynlleth. Mae’r perchnogion wedi addasu hen dŷ, lle roedd hen bobl yn arfer byw, yn gartref “gwyrdd” iddyn nhw eu hunain. Mae’r tŷ yma’n dŷ eco. GEIRFA strwythur lloriau anghysbell ymgynghorydd amgylcheddol trafnidiaeth gyhoeddus safle elfennau

structure floors isolated adviser environmental public transport site elements

gwenwynig ynni ynysiad gwydro triphlyg llechi unigryw cyfoes ffynnon

poisonous energy insulation triple glazing slates unique contemporary well

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn addas defnyddio

suitable (to) use

addasu, addasiad, addasiadau defnydd / deunydd, defnyddiau, defnyddiol, deunyddiau

Enwau lleoedd: Mae’r tŷ yma yng Nghwm Einion. Mae’r map ar ddiwedd yr uned yn dangos ble mae Cwm Einion. GWYLIO, GWRANDO A DEALL Gwyliwch y darn a gwnewch nodiadau am y pethau “gwyrdd” yn y tŷ. Edrychwch yn ofalus ar y lluniau yn ogystal â gwrando ar beth mae’r bobl yn ei ddweud. Mewn grŵp, trafodwch beth sy’n gwneud y tŷ yma’n “wyrdd”. Faint rydych chi’n ei gofio? 1. Pa ystafell rydyn ni’n ei gweld yn gyntaf? 2. Beth sy’n hongian ar y wal yn yr ystafell yma? 3. Ble mae’r ddau ddyn yn siarad reit ar ddechrau’r darn? 4. Sut mae Ian a Lyn yn cyrraedd y tŷ? 5. Pa fwyd sy yn y fasged wrth y soffa? 6. Sawl stôl sy wrth y bar brecwast? 7. Pa fath o lawr sy yn y tŷ? 8. Pa lysiau sy yn y fasged yn y gegin? 9. Oes dŵr yn y toiled? 10. Beth sy yn yr ardd?

Page 30: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

30

IAITH a. Faint?

e.e. 2 + drws = dau ddrws 2 + ffenest = dwy ffenest 2 + bwrdd 2 + cadair 3 + drws 3 + ffenest 4 + cwpwrdd 4 + wal 6 + potel 8 gwely

10 + jar 15 + person 20 + punt 25 + potel 30 + ffenest 50 + llyfr 74 + llythyr 80 + ffeil 100 + pobl

b. Sy… Oedd … Fydd

Mae Greg yn dweud bod Ian a Lyn yn “byw bywyd sydd yn wahanol, bywyd sydd yn wyrdd.” Mae Ian yn dweud eu bod nhw eisiau “tŷ sy’n defnyddio ynni sy’n dod o’r haul”.

Defnyddiwch sy, oedd neu fydd i gysylltu’r brawddegau yma: 1. Rydw i’n byw mewn bwthyn. Mae’n wyrdd iawn. 2. Yn yr ardd mae paneli solar. Maen nhw’n cynhesu’r dŵr. 3. Mae gwres o dan y lloriau. Mae’n cadw’r tŷ’n gynnes iawn. 4. Mae gwydro dwbl yn y tŷ. Mae’n wych. 5. Roeddwn i’n byw mewn hen dŷ. Roedd e yn y wlad. 6. Roedd carreg yn y wal. Roedd hi’n dweud ‘Adeiladwyd yn 1803’. 7. Roeddwn i wrth fy modd yn chwarae yn yr ardd. Roedd hi’n llawn coed a blodau. 8. Ryw ddiwrnod, bydda i’n byw mewn tŷ eco. Bydd e’n helpu i warchod yr amgylchedd.

YSGRIFENNU Rydych chi’n paratoi gwybodaeth er mwyn ceisio gwerthu’ch cartref chi. Rhaid i chi ddisgrifio’ch cartref chi’n fanwl. neu Ysgrifennwch ddarn i geisio gwerthu’r cartref yn y clip. Rhaid i chi ddisgrifio’r cartref yn fanwl.

Page 31: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

31

13. Garddio (Byw yn yr Ardd) CYFLWYNIAD: Trafod Oes gennych chi ardd? Beth sy’n tyfu yn yr ardd? Pwy sy’n garddio yn eich tŷ chi? Beth fyddwch chi’n ei wneud yn yr ardd fel arfer? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yn dod o’r rhaglen Byw yn yr Ardd. Yn y darn yma, mae pobl Ysbyty Ifan yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth Cymru yn ei Blodau. GEIRFA cynnwrf crwydro clipfwrdd cesail profiadol yn eiddgar beirniad pwyllgor ansawdd

excitement (to) wander clipboard armpit experienced eagerly judge committee quality

cyfuno ailgylchu elfen gwobrwy (llwgrwobrwy, llwgrwobr)tlws trigolion ymdrech unigryw destlus

(to) combine (to) recycle element bribe trophy inhabitants effort unique tidy

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn cofio taclus cynnes

(to) remember tidy warm

cof, coffa, coffáu, anghofio, angof tacluso cynhesrwydd

Enwau lleoedd: Mae’r darn yma wedi ei leoli yn Ysbyty Ifan. Mae map ar ddiwedd yr uned yn dangos ble mae Ysbyty Ifan. GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Pam mae’r merched yn paratoi te arbennig ar y dechrau? 2. Beth yn union ydy “Cymru yn ei Blodau”? 3. Pan fydd e’n beirniadu, mae’r beirniad yn canolbwyntio ar 7 peth. Beth ydy’r 7 peth yma? 4. Enillodd Ysbyty Ifan y llynedd?

Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Sut le ydy Ysbyty Ifan? 2. Sut mae’r tywydd pan fydd y criw yn cerdded o gwmpas y pentref? 3. Tua faint o bobl sy’n mynd o gwmpas y pentref?

i. Llai na 5 ii. Rhwng 5 a 15 iii. Mwy na 15

4. Pa anifail rydych chi’n gallu ei weld ar ddiwedd y rhan gyntaf? 5. Beth mae Gwyn Ellis yn arbennig o hoff ohonyn nhw?

Page 32: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

32

6. Beth sy yng ngardd Llinos Jones? i. iii. ii. iv.

7. Oes llysiau’n tyfu yng ngardd Gruff Ellis? Y CYFRYNGAU Gwyliwch a gwrandewch unwaith eto a sylwch yn arbennig ar:

• y tyndra: sut mae’n cael ei greu? • y ffilm: pa dechnegau sy’n cael eu defnyddio? • y gerddoriaeth: pa fath o gerddoriaeth sy yn y darn? Pa mor effeithiol ydy hi?

Trafodwch hyn. IAITH a. ar fy mhen fy hun … Mae Bethan Gwanas yn gofyn i’r beirniad: “Dych chi’n mynd o gwmpas ar eich pen eich hun?”

Newidiwch y cwestiwn yma i siarad am rywun arall, e.e. > fi Ydw i’n mynd o gwmpas ar fy mhen fy hun? > ni …………………………………………………… > hi …………………………………………………… > ti …………………………………………………… > nhw …………………………………………………… > fo ……………………………………………………

Nawr, newidiwch y frawddeg yma: Roeddech chi yn y tŷ ar eich pen eich hun.

> fi …………………………………………………… > ni …………………………………………………… > hi …………………………………………………… > ti …………………………………………………… > nhw ……………………………………………………

b. Gofyn cwestiynau

Ar ddechrau’r darn, mae Bethan Gwanas yn gofyn, “Am bwy maen nhw’n sôn?” Defnyddiwch y geiriau yma i ffurfio cwestiynau:

o ble i ble ar bwy ar beth am beth am bwy i bwy at bwy

c. Ymadroddion amser

Mae llawer o ymadroddion amser yn y darn, e.e. heddiw, ers rhai blynyddoedd, bob blwyddyn, eleni, (y) llynedd Beth ydy ystyr yr ymadroddion yma? Cysylltwch y geiriau yn A. gyda’r geiriau sy’n golygu’r un fath yn B.

A. B. ddoe neithiwr echnos echdoe heno yfory y llynedd eleni y flwyddyn nesaf y penwythnos

dydd Sadwrn a dydd Sul y diwrnod cyn heddiw y noson cyn heddiw y noson cyn neithiwr y flwyddyn yma y diwrnod cyn ddoe y flwyddyn ddiwethaf y diwrnod ar ôl heddiw y flwyddyn ar ôl eleni y noson sy’n dilyn heddiw

Page 33: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

33

TRAFOD Ar y clip ar y DVD, mae’r beirniad yn ystyried y pethau yma wrth feirniadu:

• ansawdd y blodau • coed a llwyni • ydy pobl yn ailgylchu • oes sbwriel • oes baw cŵn

Meddyliwch mai chi ydy’r beirniaid. Rydych chi’n beirniadu tir yr ysgol. Ystyriwch y pwyntiau yma a rhowch farc allan o 20 i’r ysgol am bob pwynt – cyfanswm o 100 o farciau am eich ysgol chi. YSGRIFENNU Darllenwch yr hysbyseb yma: Ysgrifennwch at gyngor yr ysgol yn awgrymu bod yr ysgol yn cystadlu yn y gystadleuaeth yma. Rhaid i chi ddweud: • pam rydych chi’n meddwl dylai’r ysgol gystadlu • sut mae gwneud yr ysgol yn fwy deniadol – rhaid i chi feddwl am y pwyntiau uchod.

CYSTADLEUAETH YSGOLION DENIADOL

GWOBR O £5,000!

Rydyn ni’n chwilio am ysgol fwya deniadol Cymru. Rydyn ni’n chwilio’n arbennig am:

• caeau chwarae glân • tir deniadol (coed, planhigion, blodau ac ati) • meysydd parcio trefnus • gardd • cyfleusterau ailgylchu

Cysylltwch â ni: ysgoliondeniadol.org

Page 34: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

34

Page 35: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

35

14. Jazz Aberhonddu (Jazz Aberhonddu: Dathlu 25) CYFLWYNIAD: Trafod Pa fath o gerddoriaeth rydych chi’n ei hoffi? Pwy ydy’ch hoff ganwr / hoff fand? Pam? Beth ydy jazz? Beth ydy’ch barn chi am jazz? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yn dod o’r rhaglen Jazz Aberhonddu: Dathlu 25, rhaglen sy’n dathlu bod 25 o wyliau jazz wedi cael eu cynnal yn Aberhonddu. GEIRFA delwedd rhyddid ogof awyrgylch cyfeillgar

image freedom cave atmosphere friendly

ymddangos cwlt proffwydo safon statws

(to) appear cult (to) prophesy standard status

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn dilyn cartref piano gitâr cerdd ysbrydoliaeth

(to) follow home piano guitar music inspiration

dilynwyr cartrefol pianydd gitarydd cerddoriaeth, cerddorol, cerddor, cerddorion ysbrydoli

Enwau lleoedd: Mae’r clip yn sôn am Ŵyl Jazz Aberhonddu. Mae map ar ddiwedd yr uned yn dangos lleoliad Aberhonddu. GWYLIO, GWRANDO A DEALL Gwyliwch y darn a gwnewch nodiadau am: • pryd dechreuodd yr ŵyl • beth sy’n digwydd yn yr ŵyl (gwyliwch yn ogystal â gwrando!) • pwy sy wedi perfformio yno • pa offeryn mae Slim Gaillard yn ei ganu • pa offeryn mae Catrin Finch yn ei ganu • pam mae’r ŵyl yn bwysig i Catrin Finch. TRAFOD Cymharwch eich nodiadau.

Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Sut mae’r ŵyl yn effeithio ar y dref? 2. Mae dau gyfeiriad at y tywydd yn y darn – pa fath o dywydd? 3. Ydy Slim Gaillard yn gwisgo rhywbeth ar ei ben wrth ganu’r piano? 4. Pa offerynnau eraill sy’n cael eu dangos fel rhan o berfformiad Slim Gaillard? 5. Beth ydy’r gwahaniaethau rhwng y ddwy delyn mae Catrin Finch yn eu canu ar y clip?

Page 36: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

36

IAITH Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu’n cael ei chynnal bob blwyddyn. Mewn geiriau eraill, Cynhelir Gŵyl Jazz Aberhonddu bob blwyddyn. Beth ydy ffurf gryno’r berfau sy wedi eu tanlinellu? 1. Mae’r dref yn cael ei haddurno. 2. Mae baneri’n cael eu rhoi o gwmpas y strydoedd. 3. Mae’r ŵyl yn cael ei hagor yn swyddogol. 4. Mae seremoni’n cael ei chynnal. 5. Mae perfformwyr yn cael eu gwahodd. 6. Mae gwahoddiadau’n cael eu hanfon. 7. Mae rhai’n cael eu derbyn. 8. Mae rhai’n cael eu gwrthod. 9. Mae’r ŵyl yn cael ei hysbysebu. 10. Mae tocynnau’n cael eu gwerthu. 11. Mae posteri’n cael eu paratoi. 12. Mae bysiau arbennig yn cael eu trefnu. TRAFOD Mae llawer o wyliau yng Nghymru bob blwyddyn, e.e. gwyliau bwyd, gwyliau amaethyddol, gwyliau cerddorol, gwyliau ffilm. Rydych chi a’r grŵp yn mynd i drefnu gŵyl arbennig yn eich ardal chi. Trafodwch:

• beth – pa fath o ŵyl hoffech chi ei chael yn yr ardal • pam • ble • pryd • y manylion

Wrth drafod, rhaid i chi feddwl am syniadau gwahanol, ond rhaid i chi ddod i benderfyniad ar bob un o’r pwyntiau uchod. YSGRIFENNU Gan ysgrifennu’n bersonol, ysgrifennwch am gyngerdd, gig neu ŵyl arbennig. Disgrifiwch y digwyddiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Ysgrifennwch ddarn am ŵyl arbennig ar gyfer llyfryn ar Gymru. Gallwch chi ddefnyddio’r wybodaeth yn y clip, neu gallwch chi ysgrifennu am unrhyw ŵyl arall. Rhaid i chi gynnwys cymaint o fanylion â phosib.

Page 37: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

37

15. UFOs (Y Byd ar Bedwar) CYFLWYNIAD: Trafod Ydych chi wedi gweld rhywbeth ‘rhyfedd’ erioed? Beth? Ble? Pryd? Ydych chi wedi clywed straeon am UFOs erioed? Beth oedd y straeon yma? Ydych chi’n credu mewn UFOs? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yn dod o’r rhaglen Y Byd ar Bedwar, rhaglen materion cyfoes, ac mae’n sôn am weld UFOs yng Nghymru. GEIRFA estroniaid synnwyr cyffredin honni bydysawd anghyffredin y llu awyr cyson dôm llachar gwahanu rhyferthwy ffrwydrad

foreigners common sense (to) maintain universe strange the air force regular dome bright (to) separate roar explosion

daeargryn amheuaeth arallfydol ymdeimlad braw timau achub canfod dirgelwch adroddiadau sgleinio oglau (arogleuon)

earthquake doubt extraterrestrial feeling fear rescue teams (to) find mystery reports (to) shine smells

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn ymchwil bod deg esbonio ongl golau dydd egluro

research (to) be, being ten (to) explain angle light day (to) explain

ymchwilio, ymchwiliad, ymchwilydd bodau, bodoli degawd, degawdau, degolion esboniadwy, anesboniadwy ongli goleuo, goleuadau dyddiad, dyddio eglur, eglurhad

Enwau lleoedd: Mae nifer o enwau lleoedd yn y darn. Mae map ar ddiwedd yr uned yn dangos ble mae’r lleoedd yma. GWYLIO, GWRANDO A DEALL Ar y clip, mae pobl yn dweud iddyn nhw weld rhywbeth rhyfedd iawn – UFO efallai. Gwyliwch a gwrandewch ar y darn fesul adran ac yna atebwch y cwestiynau yma: 1. Beth welodd Richard Foxhall yn 1996? 2. Beth welodd y plant ysgol yn 1977? 3. Beth glywodd y bobl yn ardal Mynyddoedd y Berwyn yn 1974? 4. Beth welodd Alwyn Roberts yn 2008? 5. Beth oedd profiad Ernie Edwards yn 1970? TRAFOD Beth ydych chi’n ei feddwl o hyn i gyd?

Page 38: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

38

Y CYFRYNGAU Sut mae’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno yn y darn? Sut mae’r darn yn creu awyrgylch arbennig? Pa gerddoriaeth fyddech chi’n ei rhoi ar ffilm am UFOs? IAITH a. Atebwch y cwestiynau yma:

1. Oes UFOs wedi bod yn ymweld â Chymru, yn eich barn chi? 2. Ydych chi’n credu mewn UFOs? 3. Oes rhywun wedi gweld UFO yn eich ardal chi? 4. Ydy’ch rhieni chi neu’ch ffrindiau chi wedi gweld UFO erioed? 5. Hoffech chi gael profiad tebyg i brofiad y bobl ar y DVD? 6. Fasech chi’n ofnus? 7. Fyddwch chi’n mynd am dro yn y tywyllwch weithiau? 8. Weloch chi’r rhaglen yma am UFOs ar y teledu? 9. Oedd y clip yn ddiddorol? 10. Oedd y bobl wedi gweld UFO?

b. i + treiglad meddal; o + treiglad meddal

Cywirwch y brawddegau yma:

1. Roedd llawer o golau yn yr awyr. 2. Es i i gweld beth oedd yn digwydd. 3. Aethon ni ati i tynnu llun. 4. Aethon ni i Caerdydd i siarad â’r cyfryngau. 5. Roedd pobl o pob rhan o Cymru yn y stiwdio deledu. 6. Penderfynodd pobl y cyfryngau fynd i Gogledd Cymru i gwneud rhaglen am yr UFOs. 7. Dw i’n mynd i gwylio’r rhaglen. 8. Does dim digon o rhaglenni am bethau fel hyn ar y teledu, yn fy marn i. 9. Ydych chi’n mynd i cael cyfweliad am beth weloch chi? 10. Faint o pobl sy wedi gweld UFO, tybed?

TRAFOD Chwarae rôl Partner 1: Rydych chi’n ohebydd papur newydd. Rhaid i chi gyfweld un o’r bobl ar y clip. Partner 2: Chi ydy un o’r bobl ar y clip sy wedi gweld UFO. Rhaid i chi egluro beth rydych chi wedi ei weld a beth rydych chi’n meddwl oedd y peth. YSGRIFENNU Gan ysgrifennu’n bersonol, ysgrifennwch am ddigwyddiad rhyfedd. Disgrifiwch y digwyddiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Ysgrifennwch adroddiad ar gyfer y papur newydd yn sôn am UFOs yng Nghymru. Gallwch chi ddefnyddio gwybodaeth o’r darn neu unrhyw wybodaeth arall. neu Ysgrifennwch adolygiad o ffilm am UFOs neu ffilm ffuglen wyddonol arall rydych chi wedi ei gweld.

Page 39: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

39

Page 40: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

40

16. Cyfweliad (Pobol y Cwm) CYFLWYNIAD: Trafod Ydych chi wedi cael cyfweliad? Cyfweliad am beth? Ble? Pryd? Sut roeddech chi’n teimlo? Sut mae paratoi ar gyfer cyfweliad? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen Pobol y Cwm. Mae dwy ran i’r rhaglen: Rhan 1, lle mae merch ifanc yn gadael am gyfweliad Rhan 2, y cyfweliad ei hun GEIRFA blew yn awyddus i

hair eager to

bob whip-stitch

all the time

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Ble mae’r tair merch ar ddechrau’r clip? 2. Beth maen nhw’n ei drafod? 3. Beth ydy perthynas y merched yma, yn eich barn chi? 4. Mae un ferch yn mynd am gyfweliad.

i. Beth mae hi’n ei wisgo? ii. Beth ydy’ch barn chi am y dillad yma – o gofio ble mae hi’n mynd?

5. Beth, yn ôl y ddynes, sy’n bwysig mewn cyfweliad? i. ii. iii. iv. v.

TRAFOD Beth, yn eich barn chi, ydy dillad addas ar gyfer cyfweliad? Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n mynd am gyfweliad? Rhan 2 GWYLIO, GWRANDO A DEALL Gwyliwch yr ail ran yn ofalus. Gwnewch nodiadau am:

• beth mae’r ferch ifanc, Carys, yn ei wneud yn ystod y ‘cyfweliad’ • beth mae hi’n ei ddweud

Defnyddiwch eich nodiadau i drafod: Pa fath o gymeriad ydy’r ferch ifanc, Carys? Nawr, ysgrifennwch ateb llawn i’r cwestiwn yma, e.e.

Carys

Mae hi’n … achos yn ystod y cyfweliad mae hi’n … Yn ogystal, mae hi’n … achos mae hi’n dweud … Mae’r ffaith ei bod hi’n … yn dangos ei bod hi’n gymeriad …

Page 41: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

41

TRAFOD Gwyliwch y clip eto. Ar ddarn o bapur, nodwch y pwyntiau da a’r pwyntiau drwg am Carys. Cymharwch eich syniadau fel grŵp. Fel grŵp, penderfynwch fasech chi’n rhoi swydd iddi hi. Pam? IAITH Ateb cwestiynau Mae Carys yn gofyn, “Ga i fenthyg hwn?” Mae’r ferch arall yn ateb, “Ie.” Beth ydy’r ateb cywir i gwestiynau sy’n dechrau gyda “Ga i …?” Rhowch yr atebion cywir i’r cwestiynau yma: 1. Ga i weld y darn eto, os gwelwch yn dda? 2. Gawn ni weld y darn eto, os gwelwch yn dda? 3. Oes rhywun arall wedi cael cyfweliad? 4. Ydy Carys yn mynd i gael y swydd? 5. Fydd hi’n llwyddo? 6. Fasech chi’n hoffi gweithio yn y salon? 7. Fyddwch chi’n cael cyfweliad cyn bo hir? 8. Ydy Brandon a Sheryl yn rhoi cyfweliad da? 9. Oedd Gwen yn hapus gyda’r gwallt? 10. Frwsiodd Carys y llawr? Ti a Chi Ar y clip, mae’r ferch yn defnyddio ti gyda’r bobl sy’n ei chyfweld hi. Dydy hyn ddim yn addas. Cywirwch y brawddegau yma – os oes angen. 1. “Gofynna unrhyw beth rwyt ti eisiau,” dywedodd y bachgen wrth y dyn yn y cyfweliad. 2. “Rwyt ti’n edrych yn grêt,” dywedodd y ferch ifanc wrth y cwsmer newydd yn y salon. 3. “Wyt ti eisiau pwdin?” gofynnodd y gweinydd ifanc i’r hen ddyn yn y tŷ bwyta. 4. “Pryd wyt ti eisiau gweld ein dosbarth ni?” gofynnodd y ferch i’r Pennaeth. 5. “Wyt ti eisiau gweld fy ngwaith cartref?” gofynnodd y bachgen i’r athro Cymraeg. 6. “Wyt ti eisiau mynd allan?” gofynnodd Chloe i’w ffrind hi. 7. “Mae hwn i ti,” dywedodd John wrth yr athrawes. 8. “Tyrd i mewn,” dywedodd y ferch fach wrth ei ffrindiau. 9. “Wyt ti’n nabod rhywun yn y stryd?” gofynnodd Mr Jones i’r dyn oedd yn symud i mewn drws nesaf. 10. “Wyt ti eisiau i fi wneud unrhyw beth arall?” gofynnodd y ferch ysgol i’r rheolwr pan oedd hi ar brofiad

gwaith. YSGRIFENNU’N BERSONOL Ysgrifennwch lythyr cais am swydd hoffech chi ei chael. TRAFOD Rhaid i bawb yn y grŵp ddarllen llythyr cais pawb arall. Yna, rhaid i’r grŵp gyfweld pawb yn eu tro.

Page 42: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

42

17. Chwilio am Gariad (Rownd a Rownd) CYFLWYNIAD: Trafod Oes gennych chi gariad? / Oes cariad gyda chi? Os oes, ble wnaethoch chi gyfarfod? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen Rownd a Rownd, opera sebon ar gyfer pobl ifanc. Yn y clip yma, mae bachgen ifanc wedi dod i ddeall bod ei fam wedi rhoi gwybodaeth amdani hi ei hun ar wefan chwilio am gariad. GEIRFA cynt mynd i drafferth cywilydd

before, previous (to) go to great lengths shame

cwmpeini (cwmni) cyfaddef cyfrinach

company (to) admit secret

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Pa gymeriadau sy yn y darn? (Peidiwch â phoeni os dydych chi ddim yn gwybod eu henwau nhw!) Beth ydy perthynas y cymeriadau yma â’i gilydd? Pa fath o gymeriadau ydy:

• y fam • y mab

Pam rydych chi’n dweud hynny? Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Beth mae’r ferch ifanc yn ei wneud ar ddechrau’r clip? 2. Sut mae’r ddynes mewn dillad streipiog yn teimlo pan fydd y fam yn dweud wrthi ei bod yn disgwyl

cwmni? 3. Beth mae’r fam yn ei fwyta yn y caffi? 4. Ble mae’r plant ifanc yn siarad ar ddiwedd y clip? 5. Faint o ferched sy ar ddiwedd y clip? Y CYFRYNGAU Gwyliwch y darn eto a sylwch yn arbennig ar beth mae Liam a’i fam yn ei wneud. Sut maen nhw’n cyfleu teimladau arbennig? IAITH a. Mae mam Liam yn dweud wrth ei merch, “Gad o i fod”. Mae hi’n dweud wrth Liam, “Tyd, Liam wir, neu

fyddi di’n hwyr am dy rownd.”

Beth ydy’r ffurfiau gorchmynnol (ti)? e.e. Cerdded Cerdda

1. bwyta 2. yfed 3. rhedeg 4. gweithio 5. darllen

6. ysgrifennu 7. siarad 8. mynd 9. gwneud 10. bod

Page 43: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

43

b. Tafodiaith Mae rhai o’r bobl ar y clip yn defnyddio ffurfiau gogleddol.

Cysylltwch y ffurfiau gogleddol gyda’r ffurfiau mwy deheuol neu ‘safonol’ ar y dde.

’ta

tyd

ddrwg gen i

cwmpeini

dallt

heno ’ma

hogyn

efo

geneth

yli

dere

heno

neu

deall

cwmni

mae’n flin gyda fi

gyda

edrycha

merch

bachgen

TRAFOD Oes gennych chi ddigon o amser i edrych ar y teledu yn y bore neu i wneud eich gwaith cartref chi? Disgrifiwch beth sy’n digwydd yn eich tŷ chi rhwng amser codi a mynd i’r ysgol / coleg, gan gynnwys amserau. Pa mor aml byddwch chi’n defnyddio’r cyfrifiadur? Ar gyfer beth byddwch chi’n ei ddefnyddio? Beth ydy’ch barn chi am wefannau sy’n cynnig cyfleoedd i ddod o hyd i gariad? YSGRIFENNU’N BERSONOL Ysgrifennwch ddarn am “Fy mhartner delfrydol”. Rhaid i chi ddisgrifio:

• sut basai’r person yma’n edrych • pa fath o berson fasai’r person yma • beth fasai’r person yma’n ei wneud • pam fasech chi’n hoffi’r person yma • unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

neu Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch gyfarfod â rhywun am y tro cyntaf. Cofiwch ddisgrifio’r profiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen.

Page 44: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

44

18. Sŵn (Hacio) CYFLWYNIAD: Trafod Ydych chi’n mwynhau mynd am noson allan gyda ffrindiau? I ble? Pam? Ydych chi’n mwynhau mynd i gigs neu i ddisgos? Ble? Pam? Pa fath o gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae yno? Beth ydy’ch barn chi am y gerddoriaeth yna? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen materion cyfoes ar gyfer pobl ifanc, Hacio. Mae’n trafod effeithiau sŵn uchel. GEIRFA ymwybyddiaeth elusennau cerdded yn gam trafferth

awareness charities (to) be unable to walk straight trouble

amddiffyn amau hyrwyddo ymgyrch

(to) defend (to) doubt (to) promote campaign

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn clywed parhau niwed

(to) hear (to) continue, last (to) damage, harm

clyw parhaol niweidio

GWYLIO, GWRANDO A DEALL 1. Beth mae’r RNID yn ceisio ei wneud? 2. Ydy Aron Elias yn mwynhau cerddoriaeth uchel? 3. Sut mae cerddoriaeth uchel wedi effeithio ar Aron Elias? 4. Sut mae aelodau’r band yn amddiffyn eu clyw? 5. Pa fath o broblem roedd Owen Weeks yn ei gael? TRAFOD Mae un o’r band yn dweud bod angen i bobl ifanc wisgo plygiau clustiau, neu bling plugs. Beth, yn ôl y band, ydy’r broblem gyda hyn? Beth rydych chi’n ei feddwl o’r syniad? Pam? Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Ble mae’r cyflwynydd ar ddechrau’r darn? 2. Beth mae e’n wisgo? 3. Pa offeryn mae Aron Elias yn ei chwarae? 4. Pa offeryn arall sy’n cael ei ddangos ar y clip? 5. Beth ydy glasenw Rhys Jones? Y CYFRYNGAU - TRAFOD Rhaglen ar gyfer pobl ifanc ydy Hacio. Sut mae’r tîm cynhyrchu wedi gwneud yn siŵr bod y rhaglen yn mynd i apelio at bobl ifanc?

Page 45: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

45

IAITH Cywirwch y dan yma sy’n dod o gylchgrawn i bobl ifanc. Mae un camgymeriad ym mhob llinell – 10 i gyd.

SŴN UCHEL

Ydych chi’n mynd allan ar nos Gwener neu nos Sadwrn? Wel, mae llawer o pobl ifanc yn mwynhau mynd allan, wrth gwrs. Mae rhai’n mynd i gigs a rhai’n mynd i glybiau nos lle mae cerddoriaeth uchel yn cael eu chwarae. Dydy llawer o nhw ddim yn sylweddoli un peth pwysig iawn …

… mae sŵn uchel yn gallu bod yn peryglus!

• Mae naw deg a cant (90%) o bobl ifanc sy’n mynd i glybiau nos wedi cael problemau gyda’u clyw.

• Mae risg bod pobl ifanc yn mynd i golli eu clyw pan roedden nhw’n hŷn.

• Mae rhai chwaraewr mewn bandiau wedi cael problemau mawr.

Mae’n bwysig eich bod chi’n wybod hyn.

TRAFOD Partner 1: Rydych chi mewn gig ac rydych chi’n ceisio siarad gyda’ch partner chi, ond mae gormod o sŵn

yno ac mae e/o / hi’n cael problemau wrth geisio’ch deall chi. Gallwch chi siarad am unrhyw beth ond rhaid i chi siarad yn uchel, ail-ddweud ac ailadrodd

drwy’r amser. Partner 2: Rydych chi mewn gig gyda’ch partner chi. Rydych chi’n ceisio clywed a deall beth mae’ch

partner chi’n ei ddweud, ond mae gormod o sŵn yno i chi ei ddeall yn iawn. Rhaid i chi ofyn cwestiynau, gofyn iddo / iddi egluro eto beth mae’n ceisio’i ddweud ac ati. YSGRIFENNU’N BERSONOL Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch ryw noson pan aethoch chi allan gyda ffrindiau. Cofiwch ddisgrifio’r profiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Gan ddefnyddio gwybodaeth o’r darn ac unrhyw wybodaeth gyffredinol arall, ysgrifennwch daflen sy’n rhybuddio pobl ifanc am effeithiau sŵn uchel. Ceisiwch roi cyngor iddyn nhw.

Page 46: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

46

19. Byw yng Nghymru (Newyddion) CYFLWYNIAD: Trafod Pa mor aml rydych chi’n mynd i’r …?

• parc • pwll nofio • llyfrgell

Ydych chi’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn aml? Pryd? I ble rydych chi’n mynd? Ydy’ch teulu chi’n ailgylchu? Sut? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen Newyddion ac mae’n sôn am arolwg o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn 2008, sef ‘Byw yng Nghymru’. Gwasanaethau cyhoeddus = mae’r Llywodraeth neu’r Cyngor yn trefnu’r gwasanaethau yma, e.e.

• ysgolion • ysbytai • llyfrgelloedd • trafnidiaeth gyhoeddus • y ffyrdd

• casglu sbwriel ac ailgylchu • glanhau strydoedd • canolfannau hamdden (y Sir) • parciau (cyhoeddus)

ac ati GEIRFA trafnidiaeth gyhoeddus arolwg canlyniadau dylanwad ar cyfleusterau ailgylchu ystadegau gwasanaethau cyhoeddus clod blaenoriaeth

public transport survey results influence on recycling facilities statistics public services praise priority

meithrinfeydd mynychu safle safbwyntiau trin parch urddas meysydd polisi

nurseries (to) attend site points of view (to) treat respect dignity policy areas

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn bodlon un

content, happy one

bodlonrwydd, anfodlon, anfodlonrwydd unig, unigol, unigolion, unigryw

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Am ba wasanaethau cyhoeddus mae’r darn yn sôn?

2. Mae’r lleoedd yma’n cael eu dangos ar y ffilm:

• cartref teulu ifanc • swyddfa • stiwdio deledu

• canolfan ailgylchu • stryd • capel

Gosodwch y lleoedd yma yn y drefn maen nhw ar y ffilm. Pam mae’r ffilm yn dangos y lleoedd yma?

Page 47: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

47

3. Mae’r ffigurau yma yn y darn. 7,500 ¾ 94% 27% 75% 44% Sut mae dweud y ffigurau yma yn Gymraeg? Pam mae’r ffigurau yma’n cael eu defnyddio yn y darn?

Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto – mor bell â diwedd y darn am y teulu ifanc. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Faint o bobl sy yn y stiwdio ar ddechrau’r clip? 2. Beth ydy lliw siaced y cyflwynydd yn y stiwdio? 3. Pryd mae Owain Clarke yn siarad â'r teulu ifanc – pa adeg o’r dydd? 4. Faint ydy oed y plant bach? 5. Pa fwyd mae’r fam yn ei gario wrth ddod yn ôl o’r oergell? 6. Beth ydy enw’r fam? 7. Pwy sy’n eistedd yn ymyl Mam ar y soffa? 8. Mae’r fam yn gwneud diod boeth. Sawl mwg sy wrth y tegell? 9. Beth sy ar ddrws yr oergell? 10. Beth ydy lliw’r biniau ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu? IAITH a. Rhifau a ffigurau

Sut mae dweud y ffigurau yma? 2,000 2,009 2,012 3,000 3,800 4,750

¼ ½ ¾

10% 15% 17.5% 20% 50% 100%

b. Y ferf Mae’r darn yn defnyddio ffurfiau cryno’r ferf weithiau, e.e.

‘fel y gŵyr’ ‘gall amser brecwast fod yn waith caled’ Beth ydy ffurfiau cryno’r berfau hyn?

1. Dydw i ddim yn gwybod. 2. Rydw i’n gwybod. 3. Rydw i’n gweld. 4. Bydda i’n eich gweld chi. 5. Fel rydych chi’n gweld.

6. Rydyn ni’n mynd ’te. 7. Bydd e’n mynd yfory. 8. Mae’r darn yn dod o’r rhaglen Newyddion. 9. Mae’r bardd yn ysgrifennu am gariad. 10. Mae’r map yn dangos Awstralia.

TRAFOD Mewn grŵp, trafodwch y gwasanaethau cyhoeddus rydych chi a’ch teulu chi’n eu defnyddio bob dydd. Rhowch gymaint o fanylion â phosib, e.e.

• beth • pryd • pam • barn am y gwasanaeth

ac ati YSGRIFENNU Meddyliwch am wasanaeth cyhoeddus rydych chi’n ei ddefnyddio. Ydych chi’n hapus gyda’r gwasanaeth yma? Pam? Ysgrifennwch lythyr at eich papur bro naill ai’n canmol neu’n cwyno am y gwasanaeth yma. Cofiwch roi cymaint o wybodaeth â phosib.

Page 48: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

48

20. Ysmygu (Hacio) CYFLWYNIAD: Trafod Faint o bobl rydych chi’n eu nabod sy’n ysmygu? Pwy ydyn nhw? Ydyn nhw’n ysmygu llawer? Beth ydy’ch barn chi am ysmygu? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen materion cyfoes, Hacio. Mae’r rhaglen yn sôn am y ddeddf sy’n rhwystro siopau rhag gwerthu tybaco i bobl ifanc o dan 18 oed ond mae’r clip yma’n sôn yn gyffredinol am bobl ifanc yn ysmygu. GEIRFA tebygol arddegau yn fodlon prif nod

likely teens willing main aim

deddf safonau iechyd Gwasanaeth Iechyd trin

law health standards Health Service (to) treat

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn addysg iechyd

education health

addysgu iach / iachus; afiechyd, afiechydon, afiach

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Pam dechreuodd y bobl ifanc ar y clip ysmygu? 2. Faint ydy oed Rowena? 3. Pryd dechreuodd Rowena ysmygu? 4. Ble roedd hi’n cael sigaréts i ddechrau? 5. Faint o sigaréts mae Rowena’n eu hysmygu bob dydd? 6. Faint o arian mae hi’n ei wario bob wythnos ar sigaréts? 7. O ble mae hi’n cael arian? 8. Sut mae gyrrwr tacsi wedi ei helpu hi yn y gorffennol? 9. Beth ydy enw ei brawd hi? 10. Faint ydy oed ei brawd hi? TRAFOD Gwyliwch y darn eto. Mae Rowena’n dweud ei bod hi’n ‘gaeth’ i ysmygu. Beth ar y clip sy’n cefnogi’r syniad yna? Agwedd Beth ydy agwedd y bobl yma at ysmygu? • ei rhieni hi • ei brawd hi Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Sawl person ifanc sy’n siarad ar ddechrau’r darn? 2. Beth maen nhw’n ei wisgo? 3. Ble mae’r bobl ifanc yma’n siarad â’r cyflwynydd? 4. Beth sy ar wal ystafell wely Rowena? 5. Beth mae Rowena a’i brawd yn ei wneud yn y darn?

Page 49: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

49

IAITH a. Iaith y de Mae Rowena a’r bobl ifanc yn defnyddio iaith y de yn aml. Cysylltwch y geiriau ar y chwith gyda’r geiriau gogleddol neu ‘safonol’ ar y dde:

ma’s

mam-gu

tad-cu

tu fa’s

gwynto

lan

i fyny

tu allan

allan

arogli

nain

taid

b. Mae Rowena a’i ffrindiau’n defnyddio’r ffurfiau yma:

rhoi lan fi’n codi yn y bore os fi gyda deg punt fi angen pac o ffags mae e’n ridiculous

Beth ydy’r ffurfiau mwy safonol? Y CYFRYNGAU Gwyliwch yr hysbyseb yn erbyn ysmygu unwaith eto. Beth ydy bwriad cynhyrchydd yr hysbyseb? Pa mor effeithiol, yn eich barn chi, ydy’r hysbyseb? Pam? Beth sy’n gwneud yr hysbyseb yn effeithiol / aneffeithiol? YSGRIFENNU’N BERSONOL Mae rhai o’r bobl ifanc ar y clip yn dweud eu bod nhw wedi dechrau ysmygu achos bod eu ffrindiau nhw’n ysmygu, e.e. pan oedden nhw’n mynd allan yn ystod y penwythnos. Ysgrifennwch am fynd allan gyda’ch ffrindiau chi yn ystod y penwythnos. Cofiwch ddisgrifio’r profiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Ysgrifennwch sgript neu daflen i geisio perswadio pobl ifanc i beidio ag ysmygu.

Page 50: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

50

21. Camerâu Cyflymder (Y Byd ar Bedwar) CYFLWYNIAD: Trafod Pa fath o gar sy gennych chi? Pa mor aml rydych chi’n defnyddio’r car? I ble rydych chi’n mynd? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yn dod o’r rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar ac mae’n sôn am gamerâu cyflymder yr heddlu – ydyn nhw’n gywir bob amser? GEIRFA haeriad cael bai ar gam cynhadledd goryrru euog tyst mynnu gollwng rhyddhad

assertion to be blamed wrongly conference (to) drive too fast guilty witness (to) insist (to) drop relief

herio llys dryswch gohirio croesholi achos Gwasanaeth Erlyn y Goron dan-dîn

(to) challenge court confusion (to) postpone (to) cross-examine case the Crown Prosecution Service underhand

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn amau cywir cyflym

(to) doubt, suspect correct fast, quick

amheus, amheuaeth cywirdeb cyflymdra / cyflymder

Enwau lleoedd: Mae nifer o enwau lleoedd yn y darn. Mae map ar ddiwedd yr uned yn dangos ble mae’r lleoedd yma. GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Yn ôl yr heddlu, pryd roedd Sue Roberts yn goryrru? 2. Ble roedd hi ar y pryd? 3. Roedd llun gan yr heddlu’n dangos car Sue Roberts. Oedd rhif y car ar y llun? 4. Beth ddigwyddodd i’r achos? 5. Yn ôl yr heddlu, pa mor gyflym roedd Huw Williams yn teithio? 6. Oedd e’n cytuno gyda’r heddlu? 7. Welodd e’r rhaglen am Sue Roberts ar y teledu? 8. Beth roedd e’n ei feddwl am gamerâu’r heddlu? 9. Pam doedd Vivian Williams ddim yn gallu gweld bod Cyngor Sir Gwynedd wedi newid y cyflymder o 40

milltir yr awr i 30 milltir yr awr? 10. Roedd rhaid gollwng yr achos yn erbyn llawer o bobl – faint o bobl? Gwyliwch ddechrau’r darn eto. Pa arwyddion ffordd sy ar ddechrau’r darn?

Page 51: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

51

IAITH a. Gor Yn y darn, rydych chi’n clywed y gair goryrru, sef gor (gormod) + gyrru. Defnyddiwch y gair gor o flaen y geiriau yma:

bwyta, yfed, gyrru, blino, ymateb, defnyddio

Beth ydy ystyr y geiriau newydd yma? b. Pa mor … Yn y darn, rydych chi’n clywed yr ymadroddion:

pa mor hen, pa mor gywir

Defnyddiwch pa mor + ansoddair yn y brawddegau yma: 1. Wn i ddim … ydy’r car yma. 2. Ydych chi’n gwybod ... ydy’r tŷ newydd? 3. Gawn ni fenthyg arian gan y dyn? Mae’n dibynnu … ydy e! 4. Doeddwn i ddim yn gwybod … oedd y lle cyn mynd yno. 5. Roeddwn i’n rhyfeddu i weld … oedd y wlad. 6. Doeddwn i ddim yn gwybod … oedd y bwyd yn y tŷ bwyta nes i mi fynd yno. 7. Cyn mynd i’r sinema, doedd gen i ddim syniad … oedd y ffilm. 8. Roeddwn i’n rhyfeddu at … oedd y perfformiwr. 9. Ces i sioc i weld … oedd yr hen ddyn. 10. Wyt ti’n gwybod … ydw i?

c. Geiriau tebyg a phriod-ddulliau Lluniwch frawddegau (un frawddeg yr un) i ddangos yn eglur ystyr y geiriau tebyg a’r priod-ddulliau canlynol:

1. bai 2. bae 3. ffôn 4. ffon 5. pa 6. pwy 7. cyn bo hir 8. mae hi ar ben 9. rhoi’r gorau i 10. yma ac acw

TRAFOD Ble mae’r camerâu cyflymder yn eich ardal chi? Pam maen nhw yn y lleoedd yna? Beth ydy’ch barn chi am gamerâu cyflymder? YSGRIFENNU’N BERSONOL Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch eich profiadau’n dysgu gyrru. Cofiwch ddisgrifio’r profiadau’n ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch ryw ddigwyddiad pan gawsoch chi gam. Gallwch chi ysgrifennu o safbwynt Sue Roberts os ydych chi eisiau. Cofiwch ddisgrifio’r profiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen.

Cofiwch – mae treiglad ar ôl mor fel arfer OND

dydy ll a rh ddim yn treiglo ar ôl mor.

Cofiwch: Bydd treiglad meddal yn digwydd!

Page 52: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

52

Page 53: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

53

22. Llwybr yr Arfordir (Taro 9) CYFLWYNIAD: Trafod Oes lleoedd da i gerdded yn eich ardal chi? Ble? Pa mor aml byddwch chi’n mynd allan i gerdded? Ble? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yn dod o’r rhaglen materion cyfoes Taro 9 ac mae’n sôn am gynllun i wneud llwybr cerdded o gwmpas arfordir Cymru. Mae rhai pobl yn hoffi’r syniad ond dydy pobl eraill ddim. GEIRFA buddsoddi atyniadau mantais creigiau cwm serth Cymdeithas y Cerddwyr tirlun

(to) invest attractions advantage rocks valley steep the Ramblers’ Association landscape

gogoneddus blaenoriaeth hwb pererinion hawl rhimyn cyfreithiol awdurdodau lleol

wonderful, marvellous priority boost pilgrims right band, strip legal local authorities

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn cerdded croeso derbyn cyngor ymyl

(to) walk welcome (to) accept council edge

cerddwyr croesawu, croesawgar, digroeso derbyniol, annerbyniol cynghorydd, cynghorwyr, cynghori ymylu

Enwau lleoedd: Mae nifer o enwau lleoedd yn y darn. Mae map ar ddiwedd yr uned yn dangos ble mae’r lleoedd yma. GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Beth mae Lyn Jenkins wedi ei ddatblygu ger Aberteifi? 2. Pwy arall sy wedi bod yn gweithio ar y cynllun yma? 3. Faint o arian maen nhw wedi ei wario ar y cynllun? 4. Beth mae’n bosib ei weld yn y môr? 5. Pam mae Lyn Jenkins yn ddig? 6. Sut mae’r cynllun yn beryglus, ym marn Lyn Jenkins? 7. Beth ydy barn y Cyngor? 8. Beth mae’r Cynulliad eisiau ei greu? 9. Beth mae Cymdeithas y Cerddwyr eisiau? 10. Ydy llwybr cul o gwmpas yr arfordir yn ddigon, yn eu barn nhw? Gwyliwch ddechrau’r darn eto. Beth gallwch chi ei wneud ar y parc fferm?

Page 54: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

54

IAITH a. Arian

Mae sôn am arian yn y darn, e.e. £750,000. Sut mae’r darn yn cyfeirio at y swm yma?

Beth ydy’r symiau yma o arian yn Gymraeg? £20,000; £25,000; £98,000; £300,000; £350,000

b. Ers Yn y darn, rydych chi’n clywed yr ymadrodd: ers pymtheg mlynedd

Beth ydy …? ers 2 + blynedd ers 3 + blynedd ers 4 + blynedd ers 5 + blynedd ers 6 + blynedd ers 10 + blynedd ers 20 + blynedd ers 100 + blynedd

c. Dod â / Mynd â Yn ôl y darn, mae Cyngor Ceredigion yn dod â llwybr arfordir drwy dir Mr Jenkins. Beth ydy ystyr dod â? Beth ydy ystyr mynd â?

Newidiwch y geiriau sy wedi eu tanlinellu’n orchmynion.

1. Rhaid i ti ddod â hwnna i’r ysgol yfory. 2. Rhaid i ti ddod â’r bwyd i fi o’r siop. 3. Rhaid i chi ddod â’r ffurflen i’r swyddfa cyn gynted â phosib. 4. Rhaid i chi ddod â’r DVD yn ôl o fewn yr wythnos os gwelwch yn dda. 5. Rhaid i ti fynd â’r llyfr i’r ysgol. 6. Rhaid i ti fynd â’r llythyr yma i’r post. 7. Rhaid i chi fynd â digon o arian ar y trip. 8. Rhaid i chi fynd â’r llyfr yma’n ôl i’r llyfrgell. 9. Rhaid i chi fynd â’r gwaith i’r athrawes yfory. 10. Rhaid i ti fynd â brechdanau i ginio.

Defnyddiwch y ffurf gryno yn lle’r geiriau sy wedi eu tanlinellu:

Dod â – y gorffennol a’r dyfodol 1. Wnes i ddod â’r llyfr yn ôl yr wythnos diwethaf. 2. Wnaeth o ddod â’r gwaith cartref i mewn ddoe. 3. Wnaethon ni ddod â bwyd Tsieineaidd yn ôl i’r fflat. 4. Wnaethoch chi ddod â’r llyfrau yna? 5. Wnaethon nhw ddod ag anrhegion i ni.

6. Byddan nhw’n dod â hi nos yfory. 7. Byddwn ni’n dod â’r car newydd i’ch tŷ chi nos yfory. 8. Byddan nhw’n dod â bwyd gyda nhw ar y daith. 9. Mae hi’n mynd i ddod â fo i’ch tŷ chi nos yfory. 10. Bydda i’n dod â nhw yfory.

Page 55: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

55

Mynd â – y gorffennol a’r dyfodol 1. Wnes i fynd â deg punt i’r ffair haf. 2. Wnaeth e fynd â llond lori o fwyd i Affrica. 3. Wnaeth fy ngwraig fynd â’r ferch i’r ysbyty. 4. Wnaethon nhw fynd â’r dyn i’r ddalfa. 5. Wnaethon ni fynd â’r cerdyn i’w thŷ neithiwr. 6. Bydda i’n mynd â ti i’r orsaf yfory. 7. Bydd John yn mynd â’r plant i’r gêm ddydd Sadwrn. 8. Byddwn ni’n mynd â chi ar daith o gwmpas Cymru. 9. Fyddi di’n mynd â’r bagiau trwm? 10. Byddan nhw’n mynd â’r plant i Ffrainc yn yr haf. TAFODIAITH Mae Lyn Jenkins yn defnyddio tafodiaith de-orllewin Cymru. Cysylltwch y geiriau ar y chwith gyda’r geiriau mwy ‘safonol’ neu ogleddol ar y dde.

mo’yn

claw

ffaelu

y cyfan sy ’da ni

gweud

y ffordd hyn

so nhw’n …

gwrych / clawdd

methu

dweud

dydyn nhw ddim yn …

eisiau

yma

popeth sy gennyn ni

TRAFOD Chwarae rôl Partner 1: Rydych chi’n gweithio i bapur newydd. Rhaid i chi gyfweld Lyn Jones. Partner 2: Chi ydy Lyn Jones. Rydych chi’n cael eich cyfweld gan ohebydd papur newydd. YSGRIFENNU’N BERSONOL Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch rywbryd pan aethoch chi i gerdded yn rhywle. Cofiwch ddisgrifio’r profiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch rywbryd pan oeddech chi’n flin neu’n grac iawn. Cofiwch ddisgrifio’r profiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen. neu Ysgrifennwch sgript rhwng ffermwr a cherddwr sy’n cerdded ar draws tir y ffermwr.

Page 56: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

56

Page 57: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

57

23. Sefydlu S4C (Teledu’r Cymry) CYFLWYNIAD: Trafod Beth ydy’ch hoff raglenni chi ar y teledu? Pam rydych chi’n mwynhau’r rhaglenni yma? Beth ydy’ch barn chi am raglenni teledu yn gyffredinol? Pa mor bwysig ydy’r teledu yn eich bywyd chi? Pam rydych chi’n dweud hynny? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yn dod o’r rhaglen Teledu’r Cymry ac mae’n sôn am ddechrau S4C. GEIRFA herio gwrthdystwyr gorymdeithio anelu archifau ffynnu amheus ymprydio treftadaeth

(to) challenge protestors (to) march (to) aim archives (to) prosper doubtful (to) fast heritage

ysgytwol gweithred anhrefn Ysgrifennydd Cartref mesur darlledu Tŷ’r Arglwyddi tyngedfennol ildio

shocking, quite a shock act disorder Home Secretary bill (in parliament) (to) broadcast The House of Lords fateful (to) give in

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn cyhoeddi addo disgwyl credu

(to) announce (to) promise (to) expect (to) believe

cyhoeddiad addewid, addawol annisgwyl credadwy, anghredadwy

GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: 1. Pam roedd y Cymry’n protestio yn erbyn y teledu yn yr 1960au?

a. b.

2. Ble roedd Cymdeithas yr Iaith yn protestio yn 1968? 3. Roedd dwy farn wahanol iawn am y rhaglenni ar y teledu yng Nghymru ar y pryd. Beth oedd y ddwy farn

yma? 4. Ar beth roedd y Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol yn cytuno yn 1979? 5. Beth ddigwyddodd i’r sianel Gymraeg ar ôl i’r Blaid Geidwadol ennill yr etholiad? 6. Beth benderfynodd Gwynfor Evans ei wneud? 7. Beth ddigwyddodd wedyn? 8. Pryd dechreuodd S4C? Edrychwch yn ofalus ar y darn eto. Wrth ffilmio’r rhaglen yma, mae Dewi Llwyd wedi bod i nifer o wahanol leoedd. Rhestrwch y lleoedd yma. Beth ydy arwyddocâd y lleoedd yma, tybed?

Page 58: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

58

IAITH a. I

Mae Dewi Llwyd yn defnyddio’r patrwm yma: Wrth i bobl ifanc brotestio …

Mae cyn ac ar ôl yn dilyn yr un patrwm, e.e. Cyn i bobl ifanc brotestio …

Ar ôl i bobl ifanc brotestio …

Gorffennwch y brawddegau yma: 1. Des i adref cyn i ………… 2. Mae’n well i chi fynd cyn i ………… 3. Peidiwch â mynd cyn i ………… 4. Brysiwch, cyn i ………… 5. Daeth e adre cyn i …………

6. Oeddech chi yno ar ôl i …………? 7. Roedd pawb yn y dosbarth Cymraeg wrth eu bodd ar ôl i ………… 8. Cafodd e dipyn o sioc ar ôl i ………… 9. Rydyn ni’n bwriadu mynd ar ôl i ………… 10. Doedd y dyn ddim yn hapus iawn ar ôl i ………

b. Cywiro brawddegau

Ailysgrifennwch y brawddegau canlynol, gan gywiro’r gwallau sy wedi eu tanlinellu.

1. Roedd ni’n gwylio’r teledu neithiwr. 2. Dylen i wylio llai o’r teledu. 3. Gwylion y plant y teledu drwy’r nos. 4. Hoffech chi weld y newyddion? Hoffai. 5. Pob nos, rydw i’n gorffen fy ngwaith cartref cyn gwylio’r teledu. 6. Rydw i’n gwneud ei orau glas i orffen fy ngwaith cartref bob nos. 7. Roedd e wedi cae’r llenni cyn eistedd i lawr i wylio’r ffilm arswyd. 8. Rydw i wrth fy modd yn gwylio ffilmiau â’r y teledu. 9. Wyt ti’n mynd i wylio’r gem rygbi ar y teledu brynhawn Sadwrn? 10. Rydw i’n byw yn Awstralia nawr ac mae hiraeth arno i am Gymru – ac am S4C!

TRAFOD Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael sianel Gymraeg. Ydych chi’n cytuno? Beth ydy’ch barn chi am raglenni S4C? Sut, yn eich barn chi, basai’n bosib gwella’r rhaglenni? YSGRIFENNU Ysgrifennwch adolygiad o unrhyw raglen ar S4C rydych chi wedi ei gweld yn ddiweddar. neu Gan ysgrifennu’n bersonol, disgrifiwch rywbryd pan oeddech chi’n teimlo’n gryf dros rywbeth. Gallwch chi ysgrifennu am bethau fel bwlian, creulondeb at anifeiliaid, ac ati. Cofiwch ddisgrifio’r profiad yn ofalus. Ysgrifennwch tuag un ochr tudalen.

Page 59: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

59

24. Deddf Iaith (Taro 9) CYFLWYNIAD: Trafod Ydych chi’n gweld ac yn clywed llawer o Gymraeg yn eich ardal chi? Ble yn union? CYD-DESTUN Y DARN AR Y DVD Mae’r darn yma’n dod o’r rhaglen materion cyfoes Taro 9. Mae’n trafod y syniad o orfodi’r sector preifat i ddefnyddio’r Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. O dan y Ddeddf Iaith bresennol, rhaid i’r sector cyhoeddus ddefnyddio Cymraeg a Saesneg – does dim rhaid i’r sector preifat. Ar ddechrau’r darn, mae cyfeiriad at ‘y gweinidog’, sef Rhodri Glyn Thomas A.C., y Gweinidog dros Dreftadaeth adeg gwneud y rhaglen. GEIRFA ffurfiol grym chwyldroadol y gyfraith y boblogaeth gweinidog

formal power revolutionary the law the population minister

hyrwyddo argyhoeddi deddfwriaeth atgoffa argraffu rhagweld

(to) promote (to) convince legislation (to) remind (to) print (to) foresee

Gair … geiriau

Gair Cymraeg Gair Saesneg Geiriau sy’n perthyn deg addas galw deddf hawl ysgogi amau cyfoethog gorfod

ten suitable (to) call law right (to) inspire (to) doubt rich (to) have to

degau, degawd, degolion addasu, addasrwydd, addasiad, anaddas galwad (yr alwad), galwadau deddfu, deddfwriaeth hawliau, hawlio ysgogaeth, ysgogol amheuaeth, amheuon, amheus cyfoethogi gorfodi, gorfodaeth

Enwau lleoedd: Mae’r darn yn cyfeirio at Gaerfyrddin. Mae’r map ar ddiwedd yr uned yn dangos ble mae’r dref yma. GWYLIO, GWRANDO A DEALL Atebwch y cwestiynau yma: Beth ydy barn y bobl ar y clip am ddefnyddio Cymraeg a Saesneg mewn siopau yng Nghymru? Meddyliwch am:

• y bobl ar y stryd • perchennog Siop y Pentan, Caerfyrddin • Marian Ritson • John Nash

Beth ydy’ch barn chi?

Page 60: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

60

Faint rydych chi’n ei gofio? Gwyliwch y darn eto. Yna, atebwch y cwestiynau yma: 1. Beth sy’n digwydd reit ar ddechrau’r darn? 2. Pa arwyddion Cymraeg / dwyieithog sy ar y ffilm? 3. Beth ydy enw’r siop Gymraeg yn Sgwâr y Farchnad? 4. Ble mae Marian Ritson yn gweithio? IAITH a. Dylwn / Dylet / Dylai / Dylen / Dylech / Dylen

Mae dyn ar y ffilm yn dweud: “Dylen nhw wneud pethau i Gymru.”

Defnyddiwch y ffurfiau cywir yn y bylchau yma: 1. …………… i siarad Cymraeg. 2. …………… ni ofyn am bethau yn Gymraeg. 3. …………… nhw ddangos hysbysebion Cymraeg. 4. …………… pawb ddechrau siarad yn Gymraeg. 5. ……………’r derbynnydd ateb y ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Trowch y brawddegau yma’n negyddol: 6. Dylwn i fynd i’r dref. 7. Dylen ni brynu mwy o bethau i’r parti. 8. Dylech chi roi arian i fi. 9. Dylai’r banc roi benthyg arian i bawb. 10. Dylet ti brynu car newydd. Cywirwch y brawddegau yma: 11. Dylwn i dal y bws i’r dref. 12. Dylen ni cyrraedd cyn naw o’r gloch. 13. Dylen ni bod yn gynnar. 14. Dylai pawb gyrru llai. 15. Dylen nhw cerdded mwy.

b. Eisiau / eisiau i

Beth sy’n gywir yn y bylchau – eisiau neu eisiau i? 1. Dw i …………… siarad Cymraeg mewn siopau. 2. Dw i …………… siopau gynnig gwasanaeth Cymraeg. 3. Mae’r siopau …………… ni brynu pethau yn eu siopau nhw, felly rydyn ni ……………’r siopau gynnig

gwasanaeth dwyieithog. 4. Wyt ti …………… siarad â’r rheolwr? 5. Wyt ti …………… fi siarad â’r rheolwr? 6. Ydych chi …………… help? 7. Ydych chi …………… fi helpu? 8. Maen nhw …………… mwy o wybodaeth. 9. Maen nhw …………… ni roi mwy o wybodaeth iddyn nhw. 10. Dw i ddim …………… chi boeni am hyn.

Page 61: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

61

TRAFOD Pa siopau, gwestai neu dai bwyta sy’n defnyddio Cymraeg a Saesneg yn eich ardal chi? Oes eisiau gwella’r sefyllfa? Sut? Mae’r ferch ar y DVD yn dweud basai hi’n hoffi i rai siopau aros yn ‘normal’, sef, yn ei barn hi, defnyddio Saesneg yn unig. Yng Nghymru, ddylen ni fedru cael gwasanaeth dwyieithog ym mhob man? Beth ydy’ch barn chi am hyn? YSGRIFENNU Rydych chi’n mynd i ysgrifennu llythyr i’r papur bro lleol yn sôn am sefyllfa’r Gymraeg yn eich ardal chi. Rydych chi’n mynd i ganmol neu i gwyno am y sefyllfa. Cyn gwneud hyn, rhaid i chi wneud ychydig o ymchwil er mwyn gweld faint o Gymraeg sy mewn gwestai, tai bwyta, siopau yn yr ardal. Gallech chi ddweud sut i wella’r sefyllfa hefyd. neu Lluniwch holiadur i ofyn i bobl am eu barn ynglŷn â chael gwasanaeth dwyieithog mewn siopau a busnesau. TRAFOD Beth am ddefnyddio’r holiadur i gasglu barn pobl?

Page 62: Aberystwyth (Milltir Sgwâr)resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2008-09/wsl/cip_ar_glip... · 2014. 5. 20. · 3. Gwyliau yn y Gorffennol (Nôl â ni) CYFLWYNIAD: Gwnewch restr o eiriau

Cafodd y gwaith yma ei greu fel rhan o’r project Cip ar Glip. Nid yw’r cyhoeddwr yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r gwaith gwreiddiol.

62