14
Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

Citation preview

Page 1: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

Adroddiad ar Effaith UCM Cymru2012

Page 2: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

YNGLY^N AG UCM CYMRU 3

RHAGAIR 4

CRYFHAU LLAIS DYSGWYR 5

CYLLIDO EIN HUNDEBAU MYFYRWYR 6

ADDYSG ER MWYN CYFLOGADWYEDD 6

CYNRYCHIOLAETH MYMC 6

SESIYNAU HYFFORDDIANT POLISI 7

CYLLIDO MARCIAU CUDD 7

PROSIECT GWEITHWYR YN Y DIWYDIANT RHYW 7

ADFYWIAD 8

EIN HUNDEBAU MYFYRWYR 11

EIN HARWEINYDDIAETH 13

EIN STAFF 14

Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012 UCM Cymru, 2il lawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

ffôn. 02920435390 e-bost. [email protected] www.nus.org.uk/wales

@nuswales www.facebook.com/nuscymru

CYNNWYS

2

Page 3: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM) Cymru yngyd-ffederasiwn o undebau myfyrwyr sy’n cynrychiolidros hanner miliwn o fyfyrwyr yng Nghymru. ‘Rydymyn rhan annatod, ond hunan-reolus, o UndebCenedlaethol Myfyrwyr y DU – sy’n golygu ein bod ni’ngweithio gyda’n gilydd i gynrychioli myfyrwyr ledled ywlad, tra’n gosod ein polisi a’n cyfeiriad ein hunain.

YNGLY^N AG UCM CYMRU GWELEDIGAETHMae UCMC yn fudiad ymgyrchu arloesol ablaengar: llais cenedlaethol myfyrwyr. Byddwn ynymladd yn erbyn rhwystrau i addysg; rhoddi grym ifyfyrwyr lunio profiad dysgu o ansawdd uchel a’rbyd o’u hamgylch; yn ogystal â chynnigcefnogaeth i undebau myfyrwyr dylanwadol,democrataidd sydd wedi eu hariannu’n ddigonol.

GWERTHOEDD A CHRED Gwerthoedd craidd UCMC yw democratiaeth,cydraddoldeb a gweithredu ar y cyd. Credwn ydylai cymdeithasau myfyrwyr gael eu harwain ganfyfyrwyr, a bod addysg o fudd i’r unigolyn ac igymdeithas.

CENHADAETHMae UCMC yn bodoli i hyrwyddo, amddiffyn acymestyn hawliau myfyrwyr, ynghyd â datblygu ahyrwyddo undebau myfyrwyr cryfion.

UndebMyfyrwyrPrifysgol

Aberystwyth

ColegMerthyrTudful

Coleg Pen-y-Bont

ColegCatholig

Dewi SantColeg Penfro

ColegGwyr

Abertawe

Coleg Sir Gar

ColegMorgannwg

ColegCeredigion

ColegCaerdydd a’r

Fro

CastellneddPort Talbot

Coleg IâlColeg Ystrad

Mynach

GrwpLlandrillo

Menai

ColegGlannauDyfrdwy

Coleg Powys

Coleg Gwent

Dirprwy Lywydd

SwyddogionRhyddhad

Bloc o Saith

Llywydd

Dyma ein haelodau

Nhw sy’n gosod ein hagenda

3A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2

UndebMyfyrwyrPrifysgolBangor

Undeb ColegCerdd a

Drama Cymru

UndebMyfyrwyrPrifysgolCaerdydd

UndebMyfyrwyr

FetropolitanAbertawe

UndebPrifysgol y

Drindod DewiSant

UndebMyfyrwyrPrifysgolAbertawe

UndebMyfyrwyrPrifysgol

Casnewydd

UndebMyfyrwyrPrifysgol

Morgannwg

UrddMyfyrwyrPrifysgolGlyndŵr

CE

NE

D

L A E T H O L C

YM

RU

PW

Y

L L G O R G W

AI T

H

Page 4: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

Ni yw Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru. Mae’r

flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o gryfhau llais

myfyrwyr wrth i addysg barhau i newid. O sicrhau fod

undebau myfyrwyr yn derbyn cyllido hanfodol, i wneud

ein hunain yn gymwys i gyflawni ein dyletswyddau, mae

UCMC yn gweithio dros fyfyrwyr.

Mae prifysgolion a cholegau yn uno ac mae’r ffordd y cânteu cyllido’n newid. Gydol y broses hon, mae UCMC yngweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau fod myfyrwyr ynbartneriaid yn eu haddysg.

Mae gan yr undebau myfyrwyr sy’n ffurfio ein haelodaeth acyn gosod ein hagenda yr hyn sydd ei angen arnynt i gefnogieu myfyrwyr, yn ogystal â dal eu prifysgolion i gyfrif.

Ni allai unrhyw un fod wedi rhagweld methiant darn odreftadaeth addysgol Cymru: Prifysgol Cymru. Pan aethpethau ar chwâl, dangosodd UCMC wir arweinyddiaeth.Symudwyd y ffocws oddi ar y cecru mewnol ac yn ôl ar ymyfyrwyr.

Llynedd, penderfynodd UCMC ei bod yn amser am newid.‘Roedd angen i ni edrych tuag i mewn er mwyn datblygu ifod yn fudiad sy’n gweithio ac yn ennill ar ran yr undebau

myfyrwyr hynny sydd mewn aelodaeth. Dyna’r union beth‘rydym wedi ei wneud. Drwy adfywio ein strwythurau a’ndigwyddiadau democrataidd, gall UCMC nawr wasanaethumyfyrwyr yn well.

‘Rwyf yn falch dros ben o’r hyn ‘rydym wedi ei gyflawni ar ycyd ar ran myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ondeleni, mae gennym gyfle i helpu llunio addysg yng Nghymruam genedlaethau i ddod. Mae yno angen am newidsylweddol a blaengarwch. Bydd ein gweledigaeth ar gyferaddysg yng Nghymru yn sylfaen i’n gwaith eleni.

‘Rydym yn gyd-ffederasiwn o undebau myfyrwyr sy’n caeleu harwain gan fyfyrwyr. ‘Rydym yn adnabod myfyrwyr.‘Rydym ni’n fyfyrwyr. Ond ‘does dim rhaid i chi fod ynfyfyriwr i sylweddoli beth yw ein gwerth. Ymunwch â ni ynein 39ain blwyddyn o sicrhau fod addysg yng Nghymru yncael ei llunio gan ac yn gweithio er mwyn myfrwyr.

Mewn undod,

Stephanie Lloyd

Llywydd UCM Cymru

RHAGAIR

4 A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2

Page 5: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

5A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2

Undeb Myfyrwyr Coleg Pen-y-Bont, Undeb Myfyrwyr Addysg Bellach y flwyddyn UCMC 2012.

Nid yw UCM Cymru yno ar gyfer myfyrwyr prifysgol ynunig. Mewn gwirionedd, mae dros hanner y sefydliadausydd mewn aelodaeth yn golegau addysg bellach. Dynapam ‘rydym yn gweithio’n ddiflino i helpu’r myfyrwyr hyn igynyddu eu llais.

Yn 2012, ‘roedd yno fwy o gynrychiolwyr o golegau nag obrifysgolion yn ein cynhadledd flynyddol. Nid yw’n syndodfelly fod y gynhadledd wedi pasio polisi i flaenoriaethuaddysg bellach. Ond cyn i hyn gael ei ffurfioli, ‘roedd UCMCwrthi’n sicrhau buddugoliaethau ar ran dysgwyr mewnaddysg bellach. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

• Crewyd swyddog sabathol llawn-amser yng NgholegPen-y-Bont i arwain undeb myfyrwyr sy’n tyfu. Mae hynyn dyblu’r nifer o swyddogion sabathol yng ngholegauCymru.

• Hyfforddwyd dros 400 o gynrychiolwyr dosbarthiadaumewn colegau – ddwywaith gymaint â llynedd. Maeganddynt lawlyfr cenedlaethol i’w helpu i weithredu eudyletswyddau, ynghyd â thystysgrif i ddangos eu bod yngywmys.

• Mae myfyriwr lywodraethwr o bob coleg yng Nghymruwedi cael ei hyfforddi, gan eu darparu â’r sgiliau a’rhyder i gyfranogi mewn cyfarfodydd a chynrychioli eucyd-fyfyrwyr. Mae ganddynt hwythau hefyd lawlyfrcenedlaethol i’w helpu yn eu rôl, a thystysgrif i ddangoseu bod yn gywmys.

• Hyfforddwyd staff colegau sy’n cynorthwyocynrychiolwyr myfyrwyr yng Nghynhadledd flynyddol

UCMC. Ynghyd â digwyddiadau AB wedi eu hanelu atfyfyrwyr, cynhaliwyd hyfforddiant wedi ei gynllunio’narbennig ar gyfer y staff a ddaeth gyda hwy i’rdiwgyddiad. Y canlyniad: staff wedi eu paratoi’n well amwy o fyfyrwyr o golegau nag erioed o’r blaen ynmynychu’r gynhadledd.

• Bydd pob coleg yng Nghymru yn derbyn cefnogaether mwyn datblygu strwythurau cynrychioli myfyrwyrcryfion erbyn diwedd 2013.Bydd pob coleg yngNghymru wedi manteisio o gefnogaeth arbenigol drwy’rprosiect cynrychiolaeth myfyrwyr AB. Ynghyd â hyn, maeyno ddigwyddiadau megis y diwrnod adolygucyfansoddiadol, lle gall undebau a chynghorau myfyrwyrddysgu sut i wella eu strwythurau democrataidd.

• Croesawodd UCMC aelod newydd: Coleg Iâl. Mae hynyn golygu ein bod ni’n cynrychioli 16 allan o’r 17 ogolegau adysg bellach sydd yng Nghymru.

• Y cwrs datblygiad a hyfforddiant arweinwyr undebaumyfyrwyr AB cyntaf yng Nghymru. Daeth digwyddiadArweinyddiaeth AB â mwy na 50 o arweinwyr myfyrwyr ogolegau ledled Cymru at ei gilydd. ‘Roedd y digwyddiadyn ffocysu ar ddatblygu undebau myfyrwyr cryf agweithgar, yn ogystal ag ymgyrchoedd effeithiol. ‘Roeddhefyd yn gyfle i swyddogion rwydweithio.

Mae yno gystwllt uniongyrchol rhwng llawer o’rllwyddiannau hyn â phrosiect tair blynedd a ariennirgan Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect nawr yndechrau ar ei drydedd blwyddyn.

CRYFHAU LLAIS DYSGWYR

Page 6: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

Mae trefniant cenedlaethol unigryw ar gyfer myfyrwyr

nawr yn sicrhau fod disgwyl i bob prifysgol yng

Nghymru fod ag undeb myfyrwyr wedi ei ariannu’n

ddigonol.

Mae UCM Cymru wedi gweithio gyda’r cyngor cyllido(CCAUC) i amlinellu egwyddorion eglur a chanllawiau

cyllido ar gyfer pob prifysgol a’u hundebau myfyrwyr.Golyga hyn y gall holl fyfyrwyr Cymru fanteisio ar effaithundeb myfyrwyr. Mae ein haelodau yn darparucefnogaeth academaidd sylfaenol a chymorth o ran lles,sy’n cadw myfyrwyr mewn addysg. Maent hefyd yncynnig amrediad eang o chwaraeon a gweithgareddau,o wirfoddoli i gystadlaethau mawrion.

CYLLIDO EIN HUNDEBAU MYFYRWYR

Mae llawer o fyfyrwyr yn astudio gyda’r uchelgais o

gael swydd pan y daw’r cwrs i ben. Yn yr hinsawdd

academaidd sydd ohoni, maent angen pob cymorth

posibl i gyrraedd y nod hwn.

Dyna pam fod UCMC wedi cydweithredu â’r CyngorCyllido (CCAUC), llais busnes (CBI Cymru), a llaisprifysgolion (AU Cymru). Gyda’n gilydd, crewydfframwaith i helpu graddedigion adael addysg gyda’rsgiliau maent eu hangen i ganfod swydd.

Mae yno dri cham sylweddol a all helpu myfyrwyr agraddedigion yng Nghymru:• Darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a

lleoli myfyrwyr yn y gweithle.

• Cynyddu’r nifer o gyrsiau a gymeradwyir gangyflogwyr.

• Cynnwys sgiliau cyflogadwyedd fel rhan o gwricwlwmpob cwrs addysg uwch.

ADDYSG ER MWYN CYFLOGADWYEDD

Aeth Menter Ymgysylltu â Myfyrwyr Cymru gam

ymhellach eleni. Ymunodd colegau sy’n darparu

cyrsiau addysg uwch â phrifysgolion yn eu

hymrwymiad i drin myfyrwyr fel partneriaid.

Cred MYMC fod myfyrwyr yn arbenigwyr yn y brosesddysgu, a gosodir gwerth ar eu hadborth. Fel llaismyfyrwyr yng Nghymru, ‘rydym yn rhoi’r gred hon arwaith. Dyna pam fod gennym aelod staff newydd ynUCMC sydd â’r dasg o adeiladu strwythurau cryf ar gyfercynrychiolaeth myfyrwyr, yn ogystal â hyfforddihyfforddwyr i wneud y gorau o effaith eu llais.

Lawnsiodd UCMC gynhadledd cynrychiolwyr cyrsiaugyntaf MYMC ym Mhrifysgol Abertawe ym Mehefin 2012.Mynychwyd y digwyddiad gan dros 30 o fyfyrwyr, staff aswyddogion o bob rhan o’r wlad. Mae digwyddiadaucyffelyb ar y gweill ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

‘Rydym ni a’n partneriaid – y Cyngor Cyllido (CCAUC), yrAsiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA), Addysg UwchCymru (AUC), yr Academi Addysg Uwch (AAU) aCholegau Cymru – wedi ail-lawnsio ein hymrwymiad ar ycyd i FYMC yn 2012.

CYNRYCHIOLAETH MYMC

6 A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2

Page 7: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

Mae prifysgolion a cholegau, mewn partneriaeth ag

undebau myfyrwyr, yn datblygu polisi cynhwysfawr

ar fynd i’r afael â thrais yn erbyn myfyrwragedd.

Mae’r prosiect hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru,yn parhau i weithio tuag at amddiffyn myfyrwyr sy’n

dioddef trais tra’u bod yn astudio. Nod y prosiect ywgosod strwythurau mewn lle i helpu’r myfyrwyr hyn, ynogystal â gweithio tuag at ffyrdd o atal trais yn euherbyn.

CYLLIDO AR GYFER MARCIAU CUDD

Mae’r ymchwil cyntaf o’i fath yng Nghymru i fyfyrwyr

sy’n mynd i mewn i’r diwydiant rhyw ar y gweill.

Drwy gymorth ariannol sylweddol o fwy na £500,000gan Gronfa’r Loteri, mae UCM Cymru yn gweithiogyda Phrifysgol Abertawe i ganfod faint o fyfyrwyr sy’n

gweithio yn y diwydiant hwn, pam eu bod yn gwneudhyn, a pha gefnogaeth maent ei hangen. Bydd yrymchwil hefyd yn datblygu’r wefan gyntaf i ddarparucyngor iechyd ar-lein ac arweiniad i fyfyrwyr yn ydiwydiant rhyw.

PROSIECT MYFYRWYR YN Y DIWYDIANT RHYW

Gyda llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, maeein haelodau angen cyngor unigryw ar y polisi sy’neffeithio arnynt hwy.

Mae’r Sesiynau Hyfforddiant Polisi am ddim ac yn agored i’rundebau myfyrwyr sydd mewn aelodaeth. Mae pob sesiwn

yn rhoddi sylw penodol i bwnc arbennig, wedi ei gyflwynomewn ffordd ymarferol, sydd o ddefnydd uniongyrchol iundebau. Mae sesiynau ar gynlluniau ffioedd a chyllidoundebau myfyrwyr eisoes wedi cael eu cynnal yn y gyrfreshon. Cadwch lygad allan am gyhoeddiadau ynglyn agunrhyw sesiynau eraill sydd ar y gweill.

SESIYNAU HYFFORDDIANT POLISI

7A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2

Page 8: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

8 A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2

Bywyd newydd yn UCMCymru. Yn 2011, anfonodd ein haelodau neges glir i ni:

mae UCMC wedi torri; gadewch i ni ei drwsio.

Dyna’r union beth ‘rydym ni wedi ei wneud.

Yn dilyn Cynhadledd UCMC 2011, aethom ati iadolygu ein strwythurau a’n digwyddiadaudemocrataidd. Y nod oedd creu mwy o amser iweithio’n effeithiol ar ddatblygiad polisi; ffocysu’n wellar yr aelodaeth; ac ymateb yn well i’r cyfleoedd agrewyd gan lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru.

Flwyddyn yn diweddarach, cytunodd ein 26 oundebau myfyrwyr i’r newid. Dyma oedd y canlyniad:

• Mae Cynhadledd UCM Cymru yn parhau i fod yn

gorff goruchaf y mudiad. Mae’r cynigion a gaiff eupasio yn y gynhadledd flynyddol yn bwydo’nuniongyrchol i mewn i’r Cynllun Gwaith. Caiffpedwar aelod o Bwyllgor Gwaith CenedlaetholCymru (PGCC) eu hethol. Bydd y gynhadleddhefyd yn gwahodd staff undebau myfyrwyr ifynychu’r digwyddiad fel sylwedyddion.

• Bydd y Cynllun Gwaith yn casglu ynghyd y

blaenoriaethau a osodwyd gan UCMC ar gyfer y

flwyddyn. Bydd hon yn ddogfen fyw, a fydd ynamlinellu’r ffocws ar gyfer pob blwyddyn, gan roddiystyriaeth i’r polisïau a fabwysiadwyd yn ygynhadledd, maniffestos y swyddogion acadnoddau’r mudiad.

• Bydd y Talwrn yn disodli’r Un Mawr Cymreig.

Mae’r Talwrn yn ychwanegiad newydd at raglenddigwyddiadau UCMC. Estynnir gwahoddiad iweithredwyr, swyddogion a staff undebau sy’n perthyn iUCMC i gyfranogi. Mae’r digwyddiad yn cynnwyshyfforddiant sy’n benodol i Gymru sy’n cyd-fynd ârhaglen ddatblygu swyddogion UCM DU, yn ogystal âchyfleoedd ar gyfer rhwydweithio rhwng undebau,mudiadau sy’n bartneriaid i ni a sector addysg Cymru.Bydd y PGCC newydd yn cyflwyno drafft o’r CynllunGwaith er mwyn i’r aelodaeth gael cyfle i wneudsylwadau, trafod a gwella’r ddogfen.

• Digwyddiadau addysg bellach rhanbarthol i’w

cynnal yn ystod yr hydref. Oherwydd amseru’rTalwrn yn yr haf, bydd gan fyfyrwyr a staff addysgbellach gyfleoedd eraill i feithrin sgiliau a chyfrannuat y Cynllun Gwaith. Bydd y digwyddiadau hyn yndebyg i’r digwyddiad Arweinyddiaeth AB agynhaliwyd gan UCM DU.

• Newid Cyngor y Gaeaf i Gynhadledd Maes

UCMC. Gellir datblygu polisi ac addasu’r CynllunGwaith; hefyd etholir tair swydd ar Bwyllgor GwaithCenedlaethol Cymru.

ADFYWIAD

Arweinwyr myfyrwyr tu allan i’r Senedd

Page 9: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

9A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2

Cynhadledd MaesUCMC• cynhadledd fwy anffurfiol

ar gyfer hyfforddiant agweithdai

• datblygu polisi

• arolygu’r Cynllun Gwaith

Gweithdai Addysg BellachGweithredwyr, cynrychiolwyr,swyddogion a staff colegau

• yn derbyn hyfforddiant arfaterion addysg bellach sy’nbenodol i Gymru

• yn trafod a llunio’r CynllunGwaith

Pwyllgor GwaithCenedlaethol Cymru • yn ymgymryd â’u swyddi ar 1

Gorffennaf

• yn datblygu Cynllun Gwaithdrafft gyda chymorth y staff

Y TalwrnGweithredwyr, swyddogion astaff undebau

• yn derbyn hyfforddiant arfaterion addysg uwch sy’nbenodol i Gymru

• yn trafod a llunio’r CynllunGwaith

Cynhadledd UCM Cymru• gosodir polisi gan

gynrychiolwyr sy’n pleidleisioo’r undebau myfyrwyr hynnysydd mewn aelodaeth

• etholir arweinyddiaeth newydd

CynadleddauRhyddhad UCMCymru• gosodir polisi penodol ym

mhob cynhadledd annibynnol

• etholir arweinyddiaeth newyddar gyfer pob ymgyrch

CYNLLUNGWAITH

GWAN

WYN

H

AF

HYDREF

GAEAF

Page 10: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

Cynhadledd UCM Cymru 2012 yn Neuadd Gregynog

Cynhadledd MaesUCM Cymru14 Tachwedd 2012

Cynhadledd UCM Cymru13-14 Mawrth 2013

CynadleddauRhyddhad UCM Cymru29 Ebrill - 3 Mai 2013

10 A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2

Page 11: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

Addysg Uwch

Undeb Myfyrwyr

Prifysgol Aberystwyth

Llywydd: Ben [email protected]

Undeb Myfyrwyr

Prifysgol Bangor

Llywydd: Antony [email protected]

Undeb Myfyrwyr

Prifysgol Caerdydd

Llywydd: Harry [email protected]

Undeb Myfyrwyr

Prifysgol Morgannwg

Llywydd: Ashley [email protected]

Urdd Myfyrwyr

Prifysgol Glyndŵr

Llywydd: Adam [email protected]

Undeb Myfyrwyr

Prifysgol Cymru, Casnewydd

Llywydd: Pablo [email protected]

Undeb Myfyrwyr Coleg Cerdd a

Drama Cymru

Llywydd: Luke [email protected]

Undeb Myfyrwyr

Prifysgol Abertawe

Llywydd: Tom [email protected]

Undeb Myfyrwyr Prifysgol

Fetropolitan Abertawe

Llywydd: John St. Clare [email protected]

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru,

y Drindod Dewi Sant

Llywydd: Mattias [email protected]

Addysg Bellach

Coleg Pen-y-Bont

Llywydd: Hailey [email protected]

Coleg Caerdydd a’r Fro

Coleg Ceredigion

Coleg Gwent

Llywydd: Adam [email protected]

Coleg Morgannwg

Coleg Powys

Coleg Sir Gar

Coleg Glannau Dyfrdwy

Coleg Gŵyr Abertawe

Grŵp Llandrillo Menai

Coleg Merthyr Tudful

Coleg Castellnedd Port Talbot

Coleg Penfro

Coleg Catholig Dewi Sant

Coleg Iâl

Coleg Ystrad Mynach

Mae UCM Cymru’n gyd-ffederasiwn o undebau myfyrwyr. Mae pob undeb yn annibynnol, ond gyda’i gilydd

maent yn uno i ffurfio llais ar y cyd sy’n gweithio ar ran myfyrwyr. Dyma’r undebau myfyrwyr ’rydym yn falch

o’u cynrychioli:

EIN HUNDEBAU MYFYRWYR

11A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2

Page 12: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

12 A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2

Page 13: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

LlywyddStephanie Lloyd

Prifysgol Fetropolitan [email protected]

Dirprwy LywyddRaechel Mattey

Prifysgol [email protected]

Swyddog y MenywodRhiannon Hedge

Prifysgol [email protected]

Swyddog Myfyrwyr CroendduAbdul-Azim Ahmed

Prifysgol [email protected]

Swyddog LHDTIan Morgan

Prifysgol [email protected]

Swyddog Myfyrwyr ag AnableddauStephen Marshall

Prifysgol [email protected]

Swyddog yr Iaith GymraegAdam Jones

Prifysgol [email protected]

Bloc o Saith, Lle i DdynesCharlotte Britton

Prifysgol [email protected]

Bloc o Saith, Lle i Ddynes o Addysg BellachCarleigh Connolly

Coleg [email protected]

Bloc o Saith, Lle i DdynesJessica Leigh

Aberystwyth [email protected]

Bloc o Saith, Lle AgoredJohn McGann

Prifysgol [email protected]

Bloc o Saith, Lle AgoredZahid Raja

Prifysgol [email protected]

Bloc o Saith, Lle AgoredJohn St Clare Williams

Prifysgol Fetropolitan [email protected]

Bloc o Saith, Lle i Gynrychiolydd o Addysg BellachHailey Townsend

Coleg [email protected]

Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Cymru yw’r tîm o swyddogion myfyrwyr a etholir gan yr undebau sydd mewn

aelodaeth i osod yr agenda ar gyfer UCM Cymru.

EIN HARWEINYDDIAETH

13A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2

Page 14: Adroddiad ar Effaith UCM Cymru 2012

CyfarwyddwrMae HannahPudner yndarparucefnogaeth i’rstaff a PhwyllgorGwaithCenedlaetholCymru; mae’n

cydlynu ag amrediad o randdeiliaid, ynsicrhau cydymffurfiad â gofynionllywodraethu ac yn rheoli’r cyllid. [email protected]

Pennaeth Datblygiad yrAelodaeth (cyfnod mamolaeth)

Emily Cannonyw’r pwynt cyswlltcyntaf i bobundeb addysguwch yngNghymru. Mae’ndarparu

hyfforddiant, cymorth gydagetholiadau, arweiniad ar faterionllywodraethu a democratiaeth, ac ynhelpu undebau i [email protected]

Swyddog Prosiect Addysg Bellach

Stuart Jones yw’rpwynt cyswlltcyntaf ar gyferpob undebaddysg bellach.Mae’n darparuhyfforddiant ac yn

datblygu strwythurau democrataidd ofewn i golegau fel rhan o brosiect tair-blynedd a ariennir gan LywodraethCymru. [email protected]

Swyddog Ymgyrchoedd a Chyfathrebu

Joni Alexanderyw’r pwyntcyswllt cyntaf argyfer ycyfryngau. Maehi’n cydlynucyfathrebu, yngweithio gyda’r

arweinyddiaeth i gynllunio agweithredu ymgyrchoedd drosnewid, yn ogystal â darparuhyfforddiant yn y meysydd [email protected]

Swyddog Cynrychiolaeth a Pholisi

Mae KieronRees yndarparuhyfforddiant achymorth iddatblygustrwythurau

cynrychiolaeth myfyrwyr ac arferiongorau mewn addysg uwch. Maehefyd yn gweithio i ddatblygu polisiaddysg drydyddol UCM Cymru. [email protected]

CyfieithyddMae GeoffJones yncyfieithu holldogfennau achyhoeddiadauUCMC er mwynsicrhau eu bod

ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.Mae hefyd yn darparu gwasanaethcyfieithu mewn [email protected]

Swyddog ProsiectMae RachelBrown ynrhedeg prosiectsy’n dwyn sylwat y materionhynny sy’nperthyn i

alcohol ymysg myfyrwyr, ac ynhyrwyddo amcanion mudiadDrinkaware. Mae hi hefyd ynarwain ar brosiect Marciau Cudd,gan ddatblygu polisi i fynd i’r afaelâ thrais yn erbyn myfyrwragedd. [email protected]

Swyddog GweinyddolMae HilaryAkerman yndarparucefnogaethweinyddol i hollstaff aswyddogion

UCMC. Mae’n gofalu amdrefniadau teithio a threuliau, ac ynsicrhau fod adnoddau’r swyddfa’ncael eu cyflenwi. [email protected]

Mae staff UCM Cymru yn cynorthwyo’r swyddogion myfyrwyr i droi eu polisi’n weithredu. Mae’r aelodau staff

yn gweithio allan o swyddfa ym Mae Caerdydd.

EIN STAFF

14 A D R O D D I A D A R E F F A I T H U C M C Y M R U 2 0 1 2