21
Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy Adroddiad Terfynol Chwefror 2014 Cyfoeth Naturiol Cymru Chester Road BWCLE CH7 3AJ

Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy

Adroddiad Terfynol

Chwefror 2014

Cyfoeth Naturiol Cymru Chester Road BWCLE CH7 3AJ

Page 2: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc

Rheolwr Prosiect JBA Chris Smith JBA Consulting Bank Quay House Sankey Street Warrington WA1 1NN

Hanes Adolygu Cyf Adolygu / Dyddiad Cyflwyno

Newidiadau Cyflwynwyd i

Drafft v1 / 31/01/13 Richard Weston/Rob Green

Terfynol / 19/02/13 Richard Weston/Rob Green

Contract Mae'r adroddiad hwn yn disgrifio gwaith a gomisiynwyd gan Richard Weston, ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, drwy lythyr dyddiedig 16eg Mai 2013. Richard Westion oedd cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru o ran y contract hwn. Gwnaed y gwaith gan Julia Hunt a Chris Smith o JBA Consulting.

Paratowyd gan .............................................. Julia Hunt BSc

Uwch Ddadansoddwr

Adolygwyd gan ............................................. Chris Smith BSc PhD CEnv MCIWEM C.WEM MCMI

Prif Ddadansoddwr

Diben Cafodd y ddogfen hon ei pharatoi fel adroddiad cryno ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw JBA Consulting yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhyw ddefnydd a wneir o'r ddogfen hon ac eithrio gan y Cleient i'r dibenion y cafodd ei chomisiynu a'i pharatoi ar eu cyfer yn wreiddiol.

Nid oes gan JBA Consulting unrhyw atebolrwydd o ran defnyddio'r adroddiad hwn ac eithrio i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Page 3: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc

Hawlfraint © Jeremy Benn Associates Limited 2014

Ôl Troed Carbon Bydd copi wedi'i argraffu o brif destun y ddogfen hon yn arwain at ôl troed carbon o 66g os defnyddir papur a wnaed o wastraff defnyddwyr 100% ac 84g os defnyddir papur gwreiddiol. Mae'r ffigurau hyn yn cymryd bod yr adroddiad yn cael ei argraffu'n ddu a gwyn ar ddwy ochr papur A4.

Mae JBA yn ceisio lleihau ei allyriadau carbon y pen.

Page 4: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc

1  Rhagymadrodd ........................................................................................................... 1 

1.1  Trosolwg ....................................................................................................................... 1 1.2  Ffurf yr Adroddiad ......................................................................................................... 1 

2  Arfarniad Opsiynau Tymor Hir .................................................................................. 2 

2.1  Trosolwg ....................................................................................................................... 2 2.2  Modelu Opsiynau Tymor Hir ......................................................................................... 2 2.3  Opsiwn Storio yn Uwch i Fyny'r Afon............................................................................ 8 

3  Arfarniad Economeg .................................................................................................. 11 

3.1  Trosolwg ....................................................................................................................... 11 3.2  Canlyniadau .................................................................................................................. 11 

4  Casgliadau ................................................................................................................... 14 

Rhestr Ffigurau Ffigur 2-1 Canlyniadau AEP 1% Opsiynau L1 ac L2 ................................................................. 4 

Ffigur 2-2 Canlyniadau AEP 1% Opsiynau L3 ac L4 ................................................................. 6 

Ffigur 2-3 Canlyniadau AEP 1% L5 ........................................................................................... 7 

Ffigur 2-4: Cromlin raddio i ddigwyddiad AEP 3.33% ar SA014 ger Parc Roe (SA014) .......... 8 

Ffigur 2-5: Hydrograffau dylunio i amcangyfrif cyfaint storio ..................................................... 9 

Rhestr Tablau Tabl 2-1 Opsiynau Tymor Hir a Fodelwyd ................................................................................. 2 

Tabl 2-2 Cyfaint storio gofynnol ................................................................................................. 9 

Tabl 3.1: Cyfanswm Iawn a'r 20 eiddo uchaf sy'n cyfrannu i'r senario dim trothwy (mae'r iawn i gyd yn £oedd) ................................................................................................ 12 

Tabl 3.2: Cyfanswm Iawn a'r 20 eiddo uchaf sy'n cyfrannu i'r senario trothwy 0.3m (mae'r iawn i gyd yn £oedd) ..................................................................................... 13 

Page 5: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 1

1 Rhagymadrodd

1.1 Trosolwg Yn dilyn o waith a wnaed gan JBA i ddiweddaru'r mapio llifogydd drwy Lanelwy yn dilyn llifogydd Tachwedd 2012 yn y dref, defnyddiwyd y model wedi'i raddnodi a ddatblygwyd i brofi nifer o opsiynau tymor hir posibl er lleihau'r perygl llifogydd i eiddo yn Llanelwy. Gwnaed arfarniad byr hefyd o'r iawn economaidd yn gysylltiedig â pherygl llifogydd yn y dref. O ran yr opsiynau i liniaru'r perygl llifogydd yn y tymor hir sy'n cael eu hystyried ar gyfer Llanelwy, dylid nodi mai dangosol ydynt ar hyn o bryd, er mwyn penderfynu ar opsiynau a allai weithio yn y dalgylch. Yn dilyn y gwaith hwn, caiff opsiynau eu mireinio a'u profi ymhellach cyn y bydd modd dylunio unrhyw gynllun manwl.

1.2 Ffurf yr Adroddiad Trafodir yr opsiynau tymor hir a ystyriwyd yn Adran 2 o'r adroddiad hwn, manylir ar yr arfarniad economeg yn Adran 3 ac yn Adran 4 ceir casgliadau'r asesiad hwn.

Page 6: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2

2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir

2.1 Trosolwg Ystyriwyd chwe opsiwn tymor hir i liniaru llifogydd yn Llanelwy. Cafodd pump o'r opsiynau eu profi gan ddefnyddio'r model wedi'i raddnodi o afon Elwy drwy Lanelwy a ddatblygwyd gan JBA ar gyfer y Diweddariad Mapio Llifogydd1; trafodir y rhain yn adran 2.2 isod. Y chweched opsiwn yw defnyddio storfa yn uwch i fyny'r afon i liniaru llifogydd drwy Lanelwy; cafodd hyn ei asesu'n ddamcaniaethol drwy ystyried hydroleg afon Elwy ac fe'i trafodir yn adran 2.3.

Ar sail ddamcaniaethol i ystyried a allent fod yn effeithiol y caiff pob un o'r chwe opsiwn tymor hir eu hystyried. Gwnaed hyn drwy gymhwyso'r modelau a hydroleg. Ni roddir unrhyw awgrym a yw'r opsiynau hyn yn ymarferol ac a fyddai modd eu hadeiladu, ac nid yw'r costau economaidd ac amgylcheddol yn cael eu hystyried o gwbl.

2.2 Modelu Opsiynau Tymor Hir Mae pum opsiwn tymor hir posibl wedi cael eu profi gan ddefnyddio'r model wedi'i raddnodi a ddatblygwyd gan JBA fel rhan o astudiaeth y Diweddariad Mapio Llifogydd. Mae tri digwyddiad dylunio wedi cael eu rhedeg drwy'r model yng nghyswllt pob un o'r opsiynau tymor hir a ystyriwyd; y rhain oedd digwyddiadau AEP 1.33%, 1% a 0.5%.

Mae'r pum opsiwn a ystyriwyd wedi'u rhestru yn Nhabl 2-1.

Tabl 2-1 Opsiynau Tymor Hir a Fodelwyd

Cod Opsiwn Opsiwn Disgrifiad L1 Codi'r argloddiau drwy

Lanelwy a heibio Spring Gardens i lawr yr afon uwchlaw'r lefelau llifogydd

Cafodd yr opsiwn hwn ei fodelu drwy 'gyfyngu cysyniadol' drwy Lanelwy i atal llifogydd yn y dref. Mewn realiti, mae'n annhebygol y câi'r argloddiau eu codi cyn uched ag yn y senario hwn ond mae'r opsiwn hwn yn dangos faint o ddŵr fyddai'n llifo drosodd i lawr yr afon o Lanelwy pe câi'r dŵr ei gyfyngu I'r afon drwy'r dref.

L2 Codi'r argloddiau drwy Lanelwy a heibio Spring Gardens i lawr yr afon uwchlaw'r lefelau llifogydd a thynnu Pont Spring Gardens.

Yr un yw'r opsiwn hwn ag opsiwn L1 yn yr ystyr fod lefel yr argloddiau wedi'i chodi uwchlaw'r lefelau llifogydd ond mae'r senario hwn hefyd yn golygu tynnu Pont Spring Gardens i benderfynu pa effaith a gâi hyn ar berygl llifogydd gyda 'chyfyngu cysyniadol' drwy'r dref.

L3 Gostwng yr argloddiau i lawr yr afon o Bont Spring Gardens.

Mae'r ospiwn hwn yn golygu gostwng yr argloddiau i lawr yr afon o Bont Spring Gardens i lefel y ddaear y tu ôl i'r arglawdd. Y nod yw cynyddu'r cyfaint cludo drwy Lanelwy drwy ganiatau i fwy o ddŵr lifo drosodd i'r gorlifdir i lawr yr afon o Bont Spring Gardens Bridge gan ostwng lefelau'r dŵr yn yr

1 St Asaph Flood Mapping Update, JBA Consulting, 2014

Page 7: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 3

afon.

L4 Gostwng yr argloddiau i lawr yr afon o Bont Spring Gardens a thynnu'r bont.

Yr un yw'r opsiwn hwn ag opsiwn L3 ond mae Pont Spring Gardens wedi cael ei thynnu hefyd i weld pa effaith a gaiff y bont ar lifogydd yn y senario hwn.

L5 Tynnu coed o Hen Bont Llanelwy cyn belled â Chroesfan Elwy.

Mae tynnu'r gorchudd coed trwchus ar lannau afon Elwy o Hen Bont Llanelwy cyn belled â Chroesfan Elwy wedi cael ei gynnwys fel opsiwn tymor hir gan na fyddai modd tynnu'r coed ar hyd y darn hwn yn ei gyfanrwydd yn y tymor byr.

Trafodir canlyniadau profi'r opsiynau tymor hir yn yr adrannau isod, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ganlyniadau digwyddiad AEP 1%. Roedd yr haenau GIS yn cynnwys amlinelliad llifogydd ac mae gridiau dyfnder wedi cael eu darparu gyda'r adroddiad hwn ar gyfer pob senario a fodelwyd.

2.2.1 Profi Opsiynau L1 ac L2

Mae 'cyfyngu cysyniadol' ar afon Elwy drwy ardal drefol Llanelwy yn codi lefel y dŵr yn y sianel yn sylweddol drwy'r dref, fel y byddid yn disgwyl, pa un a gaiff Pont Spring Gardens ei chadw ai peidio. Wrth brofi'r senario hwn heb Bont Spring Gardens (L2) gwelir y byddai'r bont yn effeithio ar hyd a lled y llifogydd ymhellach i lawr yr afon o Lanelwy. Ceid mwy o lifogydd ymhellach i lawr yr afon o Lanelwy heb y bont yn ei lle gan na fyddai pwysau dŵr yn cael ei golli ar draws y strwythur. Byddai hynny'n caniatáu i ragor o ddŵr lifo i lawr yr afon a byddai ychydig mwy yn llifo drosodd, gan arwain at yr amlinellliad llifogydd mwy a welir yn Ffigur 2-1 yng nghyswllt digwyddiad AEP 1%. Er gwaethaf y 'cyfyngu cysyniadol' a ddefnyddiwyd yn senarios L1 ac L2, mae hyd a lled y llifogydd sy'n cael eu rhagweld ymhellach i lawr yr afon nag ardal y 'cyfyngu cysyniadol' yn llai yn y ddau opsiwn o'i gymharu â digwyddiad dylunio AEP 1%. Y rheswm am hyn yw bod llifo drosodd ym Mharc Roe yn cael ei atal yn senarios L1 ac L2 ac mae hyn yn lleihau cyfaint y dŵr ar y gorlifdir ar lan chwith afon River Elwy, gan leihau hyd a lled y llifogydd yn yr ardal hon yn sylweddol.

O ran digwyddiad AEP 0.5%, mae'r amlinelliadau llifogydd a gynhyrchwyd ar gyfer opsiynau L1 ac L2 yn debyg o ran eu hyd a'u lled, gyda senario L2 yn cynhyrchu llifogydd ychydig ehangach i lawr yr afon o Lanelwy. Ceir llifogydd arwyddocaol drwy Lanelwy hyd yn oed gyda 'chyfyngu cysyniadol' yn ystod digwyddiad AEP 0.5% wrth i ddŵr lifo dros lannau afon Elwy yn uwch i fyny na'r amddiffynfeydd drwy'r dref, gan lifo ar draws y gorlifdir yn gyfochrog â'r afon. Ni ragwelir unrhyw lifogydd i eiddo yn Llanelwy yn y senarios 'cyfyngu cysyniadol' (L1 ac L2) mewn digwyddiad AEP 1.33%. Megis yn y digwyddiad AEP 1%, mae hyd a lled llifogydd L2 yn ehangach i lawr yr afon o Lanelwy na hyd a lled llifogydd L1.

Page 8: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 4

Ffigur 2-1 Canlyniadau AEP 1% Opsiynau L1 ac L2

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Page 9: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 5

2.2.2 Profi Opsiynau L3 ac L4

Ar ei ben ei hun, nid yw gostwng yr argloddiau ymhellach i lawr yr afon na Phont Spring Gardens i gynyddu cyfaint cludo'r sianel yn uwch i fyny yn lleihau'r perygl llifogydd drwy Lanelwy yn arwyddocaol. Roedd senario L3, lle mae'r argloddiau wedi cael eu tynnu ymhellach i lawr yr afon na Phont Spring Gardens ond fod y bont yn dal yn ei lle, yn rhagweld llifogydd tebyg i fyny'r afon o'r A55 i ddigwyddiad dylunio AEP 1%. I lawr yr afon o'r A55, mae opsiwn L3 yn rhagweld y byddai hyd a lled y llifogydd ym Mharc Roe ychydig yn llai ac ni ragwelir y byddai'r gwaith trin carthion yn cael llifogydd yn y model hwn fel y byddai yn nigwyddiad dylunio AEP 1%.

Mae senario L4, sy'n golygu gostwng yr argloddiau yn is i lawr yr afon na Phont Spring Gardens a thynnu'r bont o'r model, yn rhagweld llai o lifogydd na senario L3. Rhagwelir y byddai hyd a lled y llifogydd yn llai i'r gorllewin o The Roe, yn uwch i fyny'r afon na'r A55, yn senario L4, ac mae'r llifogydd ym Mharc Roe yn lleihau'n sylweddol. Mae tynnu'r bont o'r model yn golygu na châi unrhyw bwysau dŵr ei golli ger y bont a bod cyfaint cludo'r sianel yn cynyddu ymhellach, gan arwain at lefelau dŵr is yn ardal Parc Roe. Dangosir hyd a lled y llifogydd a ragwelir gan L3 ac L4 ar gyfer digwyddiad AEP 1% yn Ffigur 2-2.

Ar gyfer digwyddiad AEP 1.33%, roedd senarios L3 ac L4 yn rhagweld llifogydd tebyg iawn o ran eu hyd a'u lled, gyda'r naill a'r llall yn dangos llai o lifogydd ym Mharc Roe o'i gymharu â digwyddiad dylunio AEP 1.33%. Ni ragwelir y byddai'r gwaith carthion i lawr yr afon o'r A55 yn cael llifogydd yn senarios L3 ac L4 yng nghyswllt digwyddiad AEP 1.33%, er ei fod o fewn amlinelliad llifogydd digwyddiad dylunio AEP 1.33%. O ran digwyddiad AEP 0.5%, nid yw senario L3 yn rhagweld llifogydd i'r gwaith trin carthion yn is i lawr yr afon na'r A55 ond fel arall mae hyd a lled y llifogydd a ragwelir yn agos iawn at yr hyn a ragwelir i ddigwyddiad dylunio AEP 0.5%. Mae hyd a lled y llifogydd a ragwelir i ddigwyddiad AEP 0.5% yn senario L4 fymryn yn llai o'i gymharu â'r digwyddiad dylunio. Ni ragwelir llifogydd i'r gwaith trin carthion yn senario L4 ac mae hyd a lled y llifogydd ym Mharc Roe yn llai o'i gymharu â'r digwyddiad dylunio. Yn uwch i fyny'r afon na'r A55, mae hyd a lled y llifogydd yn senario L4 mewn digwyddiad AEP 0.5% yn debyg i'r digwyddiad dylunio.

Page 10: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 6

Ffigur 2-2 Canlyniadau AEP 1% Opsiynau L3 ac L4

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Page 11: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 7

2.2.3 Profi Opsiwn L5

Mae Opsiwn L5 yn golygu clirio'r gorchudd coed ar lannau afon Elwy drwy Lanelwy, o Hen Bont Llanelwy hyd at Groesfan Elwy. Gwelir yr effaith fwyaf drwy ganol Llanelwy yn uwch i fyny'r afon na'r A55 lle mae'r perygl llifogydd yn lleihau'n arwyddocaol o'i gymharu â digwyddiad dylunio AEP 1% fel a ddangosir yn Ffigur 2-3. Ymhellach i lawr yr afon na'r A55, dim ond gostyngiad minimal yn hyd a lled y llifogydd a fyddai'n deillio o glirio'r gorchudd coed ac mae hyn yn bennaf tuag at derfyn y model i lawr yr afon oddi wrth Lanelwy ei hun. Caiff dyfnder llifogydd i lawr yr afon o'r A55 ei ostwng hyd at 100mm yn fras yn y senario hwn.

Ffigur 2-3 Canlyniadau AEP 1% L5

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl. Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Page 12: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 8

Mae digwyddiad dylunio AEP 1.33% yn rhagweld llifogydd drwy Lanelwy ar lan dde afon Elwy rhwng Hen Bont Llanelwy a'r A55. Yn senario L5, ni ragwelir y ceid llifogydd yn yr ardal hon. Yn yr un modd, câi'r perygl llifogydd yn uwch i fyny'r afon na Hen Bont Llanelwy ei leihau yn ystod digwyddiad AEP 1.33% yn senario L5 yn enwedig ar lan chwith afon Elwy. Mae'r perygl llifogydd a ragwelir gyda digwyddiad AEP 0.5% yn senario L5 yn arwyddocaol is o'i gymharu â digwyddiad dylunio AEP 0.5%. Caiff y llifogydd helaeth a ragwelir ar lan chwith afon Elwy yn uwch i fyny na'r A55 yn ystod digwyddiad dylunio AEP 0.5% eu cyfyngu i ardal lawer llai yn senario L5. Mae hyd a lled y llifogydd ym Mharc Roe hefyd yn lleihau mewn digwyddiad AEP 0.5% yn senario L5 o'i gymharu â'r digwyddiad dylunio.

2.3 Opsiwn Storio yn Uwch i Fyny'r Afon

2.3.1 Trosolwg

Un o'r opsiynau o dan ystyriaeth i liniaru llifogydd yn Llanelwy yw storio dŵr llif yn y dyffryn i fyny'r afon o Lanelwy. Mae i hyn y potensial o ganiatáu i lif gormodol y tu hwnt i'r hyn a allai basio o fewn uchder yr amddiffynfeydd sydd yno gael ei sgimio oddi ar uchafbwynt yr hydrograff. Cam allweddol er penderfynu a yw storio yn opsiwn dichonadwy er lliniaru llifogydd yw penderfynu'n fras pa gyfaint storio fyddai'n ofynnol. Cytunwyd gyda CNC y bydd yr asesiad hwn yn canolbwyntio ar ddigwyddiad llifogydd AEP 0.5% (a llifogydd Tachwedd 2012) ac yn rhagdybio bod argloddiau amddiffyn rhag llifogydd Llanelwy yn aros ar eu lefelau presennol. Cyflwynir y dadansoddiad mewn cyfres o gamau isod.

2.3.2 Cam 1: Amcangyfrif llif ymlaen

Mae uchafbwynt digwyddiad 3.33% yn llifo dros yr amddiffynfeydd gyda llif uchaf o 171m3/s a lefel uchafbwynt o 13.2mAOD ym Mharc Roe. Mae llif o 150m3/s yn rhoi lefel o 12.8 mAOD sy'n is na thop yr argloddiau a arolygwyd. Mae top yr arglawdd isaf a arolygwyd dros 12.9 mAOD ond mae lefelau isel mwy arferol yn 13.1 mAOD. Felly mae 150m3/s yn werth rhesymol i'w ddefnyddio fel llif ymlaen ar gyfer yr asesiad hwn. Asesir ystod o werthoedd y naill ochr a'r llall o hyn hefyd fel cymhariaeth.

Ffigur 2-4: Cromlin raddio i ddigwyddiad AEP 3.33% ar SA014 ger Parc Roe (SA014)

2.3.3 Cam 2: Hydrograffau dylunio

Ar gyfer yr amcangyfrif storio cychwynnol hwn, defnyddiwyd hydrograffau digwyddiad AEP 0.5% yn y modelu hydrolig a defnyddir digwyddiad Tachwedd 2012 wedi'i fodelu ar gyfer yr hydrograffau dylunio i amcangyfrif y cyfaint storio. Cymerwyd yr hydrograffau ar ben uchaf model hydrolig Llanelwy i fyny'r afon. Mae'r hydrograffau wedi'u plotio isod yn Ffigur 2-5 gan osod yr uchafbwyntiau yr un pryd.

Page 13: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 9

Ffigur 2-5: Hydrograffau dylunio i amcangyfrif cyfaint storio

2.3.4 Cam 3: Cyfrifo cyfaint storio

Caiff yr hydrograffau llif eu dadansoddi i benderfynu ar y llif y mae gofyn ei dynnu bob 5 munud (h.y. y llif uwchlaw'r llif ymlaen). Caiff hynny wedyn ei drosi'n gyfaint y mae angen ei storio. Cyfanswm y cyfeintiau hyn bob 5 munud yw'r cyfanswm y mae gofyn ei storio.

Dangosir canlyniadau'r dadansoddiad hwn isod yn Nhabl 2-2. Ar gyfer llif ymlaen tebygol o 150m3/s (gan ragdybio y bydd yr argloddiau presnnol yn dal yn eu lle) mae'r amcangyfrif yn fwy na 2,300,000 m3 o storfa. I roi rhywfaint o gyd-destun, byddai angen arwynebedd storio 1km2 ar ddyfnder o 2.3m i storio hynny o ddŵr. Mae'n ymddangos yn annhebygol y gellid canfod storfa o'r maint hwn yn y dyffryn yn uwch i fyny'r afon na Llanelwy, er nad ymchwiliwyd i hyn. Mae'r cyfeintiau storio hynod fawr yn deillio oherwydd bod y llif yn uchel iawn a bod hyd digwyddiadau yn gymharol hir.

Tabl 2-2 Cyfaint storio gofynnol

Llif ymlaen (m3/s)

200 175 150 125

Cyfaint storio gofynnol (m3) Digwyddiad dylunio

AEP 0.5% 863,134 1,516,876 2,320,989 3,272,100 Digwyddiad

Tachwedd 2012 746,178 1,470,041 2,387,650 3,498,224

2.3.5 Cam 4: Gwiriad maint o'r canlyniadau

Mae'r hydrograffau digwyddiad yn para 20 i 24 awr. O ran digwyddiad dylunio AEP 0.5%, mae'r gwahaniaeth rhwng yr uchafbwynt llif a'r llif ymlaen (~260m3/s i ~150m3/s) yn 110m3/s yn fras sy'n ymestyn yn fras dros 10 awr hyd y digwyddiad (-4 hrs i +6hrs yn Ffigur 2-5). Y llif cyfartalog i'w storio felly yw 50-60m3/s dros 10 awr. Mae hyn yn cyfateb yn fras i 1,980,000m3 o ddŵr i'w

Page 14: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 10

storio (wedi'i seilio ar 55*10*3600). Er mai cyfrifiad bras iawn yw hwn, mae'n awgrymu bod y 2.3 miliwn metr ciwbig o storfa a gyfrifwyd yn Nhabl 2-2 yn briodol o ran maint.

2.3.6 Step 5: Ystyried ffactorau ansicr

Mae 2 ffactor allweddol sy'n golygu bod yr amcangyfrifon uchod yn rhoi cyfaint storio sy'n llai na'r hyn a fyddai'n ofynnol pe câi asesiad manylach ei wneud:

1. Mae'r amcangyfrif wedi'i seilio ar y digwyddiad dylunio a ddefnyddiwyd yn y modelu hydrolig. Mae hefyd yn bosibl cael digwyddiad AEP 0.5% sy'n para'n hirach ond fod y llif uchaf yn is. Mae'n bosibl y byddai angen cyfaint storio mwy ar gyfer hyn. Ni chafodd hyn ei gyfrifo yn yr asesiad cychwynnol hwn.

2. Mae'r cyfrifiad yn rhagdybio y gellir rheoli'r llifoedd yn berffaith ar y llif ymlaen gofynnol. Mewn gwirionedd ni fyddai'r mecanwaith rheoli yn gweithio mor effeithlon â hyn ac er mwyn cyfyngu'r llif i'r llif ymlaen mae'n debygol y byddai'n dechrau storio dŵr cyn cyrraedd y llif hwnnw. Byddai hyn yn golygu felly fod angen cyfaint storio mwy. Eto, ni chafodd hyn ei gyfrifo yn yr asesiad cychwynnol hwn.

2.3.7 Canlyniadau

Y prif gyfaint storio i ddeillio o'r asesiad hwn yw 2.3miliwn metr ciwbig ac mae'n debygol fod yr amcangyfrif hwn yn rhy isel. Byddai angen seilwaith sylweddol ar gyfer hyn a thir i'w ddarparu arno ac nid yw'n debygol y byddai'n ddichonadwy (er na chafodd hynny ei asesu'n benodol). I roi rhywfaint o gyd-destun, mae cyfaint y basn storio ar gyfer llifogydd a godwyd yn ddiweddar ar afon Douglas yn Wigan yn 370,000m3.

Ar sail yr asesiad cychwynnol hwn, gwneir yr argymhellion a ganlyn:

1. Mae angen ystyriaeth fanylach i benderfynu a oes dichon darparu'r cyfaint storio hwn.

2. Gallai storfa fod yn rhan o gyfres o fesurau i leihau'r perygl llifogydd yn Llanelwy. Er enghraifft, gallai gwelliannau i'r amddiffynfeydd drwy'r dref i ganiatau llif uwch ymlaen leihau'r cyfaint storio gofynnol fel y byddai'n haws ei ddarparu.

3. Gellid ystyried storio yng nghyd-destun digwyddiad dylunio llai. Dylid nodi fodd bynnag fod disgwyl i newid yn yr hinsawdd gynyddu maint digwyddiadau llifogydd a bydd hynny'n lleihau'r digwyddiad dylunio y mae modd ei liniaru drwy storio.

Yn realistig, er nad yw storio llifogydd yn cael ei ddiystyru'n llwyr, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd yn opsiwn ymarferol i liniaru llifogydd mawr yn Llanelwy.

Page 15: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 11

3 Arfarniad Economeg

3.1 Trosolwg Defnyddiwyd pecyn dadansoddi perygl llifogydd JBA, FRISM, i asesu'r iawn economaidd yn gysylltiedig â pherygl llifogydd yn Llanelwy. Dim ond ar sail y sefyllfa waelodlin a fodelwyd yn yr adroddiad mapio llifogydd (h.y. model wedi'i raddnodi i lifogydd 2012) a'r dyfnder cymedrig mewn eiddo (fel y'i diffiniwyd yn FRISM) y gwnaed y dadansoddiad hwn,

Holwyd y gridiau digwyddiadau llifogydd wedi'u modelu yn erbyn pwyntiau eiddo NRD i ganfod dyfnder y llifogydd ym mhob eiddo yn ystod pob digwyddiad. Wedyn defnyddiwyd dulliau llaw amryliw i drosi hynny i iawn a oedd yn gysylltiedig â phob eiddo yng nghyswllt pob digwyddiad. Troswyd hyn wedyn yn ffigurau blynyddol er mwyn rhoi ffigur iawn blynyddol (AAD - average annual damage) cyfartalog a'i droi'n iawn gwerth presennol (pV) dros 100 mlynedd.

Cyfrifwyd gwerthoedd gan ddefnyddio trothwy eiddo 0.3m a hefyd gan ddefnyddio dim trothwy eiddo. Cyflwynir canlyniadau'r naill a'r llall i ddangos yr ansicrwydd wrth amcangyfrif dyfnder llifogydd mewn eiddo.

Ni fu angen capio ar gyfer eiddo preswyl. Dim ond un pV i eiddo preswyl sy'n fwy na £100,000 ac yn y rhan fwyaf o achosion mae'n llawer is. Yn gyffredinol maent yn sylweddol is na gwerth arferol eiddo yn Llanelwy.

3.2 Canlyniadau Rhoddir ffigurau am yr 20 eiddo uchaf a chyfanswm yr iawn yn Nhabl 3.1 ar gyfer y senario dim trothwy a Thabl 3.2 ar gyfer y senario trothwy 0.3m, gan ddangos yr iawn yn gysylltiedig â phob digwyddiad a ystyriwyd a'r AAD a'r pV.

Amcangyfrifir yr iawn blynyddol cyfartalog ar ~£300,000 ac amcangyfrifir cyfanswm yr iawn pV ar oddeutu £8.8 miliwn yn y senario dim trothwy eiddo. O gymhwyso trothwy eiddo 0.3m yn gyson mae'r ffigurau'n gostwng i ~£120,000 AAD a £3.6 miliwn o iawn pV. Nid oes ond angen edrych ar y gwahaniaeth y mae'r lefel trothwy yn ei wneud i weld bod y ffigurau hyn yn weddol ansicr. Dyma rai o'r elfennau allweddol sy'n achosi ansicrwydd:

Amrywiadau posibl yn nyfnder llifogydd ar draws eiddo a'r lefelau trothwy.

Mae cyfnod dychwelyd llifogydd yn ansicr - mae rhai newidiadau tymor byr i liniaru llifogydd wedi cael eu gwneud eisoes.

Mae rhai o'r achosion mwyaf o iawn yn gysylltiedig ag eiddo nad yw wedi'i ddiffinio'n glir yn y codau NRD ac MCM.

Rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â'r trothwy llifogydd isaf (rhagdybir AEP 10%) er bod hyn wedi cael ei brofi a dangoswyd nad yw'r iawn yn sensitif iawn i hyn.

Gellid lleihau peth o'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'r ffactorau uchod drwy gynnal ymchwiliadau pellach megis:

Gellid arolygu lefelau trothwy er mwyn gwella'r amcangyfrifon o ddyfnder llifogydd

Gellid archwilio eiddo masnachol a rhoi dosbarth MCM mwy priodol iddynt os yw'n bosibl.

Bydd ansicrwydd arwyddocaol yn parhau o fewn unrhyw gyfrifiadau iawn hyd yn oed ar ol eu gwella fel hyn.

Page 16: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 12

Tabl 3.1: Cyfanswm Iawn a'r 20 eiddo uchaf sy'n cyfrannu i'r senario dim trothwy (mae'r iawn i gyd yn £oedd)

OBJECTID_1 Cod mcm Dosbarth 'os' Arwynebedd llawr

Iawn Q30 Iawn Q75 Iawn Q100 Iawn Q200 Iawn Q1000 Iawn Blynyddol pV

1572 999 2379 0 0 31849.04 763537.1 1875467 9195 274103

866 213 SIOPA 654 0 113907.3 294759.8 524322.3 863192.4 7506 223757

1598 999 308 6803.631 293258.8 303284.1 306916.8 309279.6 7288 217279

1297 999 1255 0 0 101947.9 522622.6 1056626 5946 177264

1597 999 233 6697.968 218481.1 226855.5 229635.1 231450.7 5512 164316

1669 511 GWESTY 1439 0 0 0 399365.3 956960.7 4668 139153

985 1 ANNEDD 208 0 128987.5 168211.9 197382.5 220915.2 3756 111987

1395 1 ANNEDD 85 34866.2 55333.71 56403.89 59118.92 67468.93 2859 85253

1946 1 ANNEDD 103 12710.62 92474.04 95552.91 96774.09 97522.84 2755 82151

1742 1 ANNEDD 105 36630.63 42944.34 45381.4 51092.95 64466.01 2700 80509

908 1 ANNEDD 211 0 105791.3 124021.6 115141.5 127242.8 2650 79021

859 21 MASNACHOL CYFFREDINOL 367 0 20151.15 113954.1 195763 340649.7 2612 77887

893 1 ANNEDD 208 0 69584.95 117147.7 130614 148770.6 2334 69576

1813 1 ANNEDD 83 29751.42 41461.79 43411.57 46132.53 54314.38 2324 69289

1721 1 ANNEDD 103 26464.45 40748.74 44406.75 50773.03 64006.48 2227 66408

1941 660 YSBYTY 673 0 40067.23 47866.72 142431.1 294980.8 2192 65366

1512 214 WARWS MANWERTHU 272 0 0 47029.91 216381.5 329101.5 2156 64299

1394 1 ANNEDD 95 21859.55 46172.91 47596.06 50005.26 61312.23 2093 62398

1692 1 ANNEDD 89 22568.94 39791.82 44335.37 51467.58 66881.24 2059 61384

1794 1 ANNEDD 99 20048.1 43304.56 45792.56 51853.83 62413.57 1985 59183

Nifer yr eiddo yn cyfrannu 57 179 379 534 824

Cyfanswm iawn 810037 4208143 8685079 16912220 33246908 296230 8830621

Page 17: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 13

Tabl 3.2: Cyfanswm Iawn a'r 20 eiddo uchaf sy'n cyfrannu i'r senario trothwy 0.3m (mae'r iawn i gyd yn £oedd)

OBJECTID_1 Cod mcm Dosbarth 'os' Arwynebedd llawr

Iawn Q30 Iawn Q75 Iawn Q100 Iawn Q200 Iawn Q1000 Iawn Blynyddol pV

1598 999 308 0 272917.6 285195.6 289922.1 292996.2 6555 195434

1572 999 2379 0 0 0 224800.7 1603353 5821 173543

1597 999 233 0 202693 212146.4 216012.3 218374.5 4875 145349

1297 999 1255 0 0 0 233404.2 929910.6 3840 114471

985 1 ANNEDD 208 0 110171.6 153906.4 187728.6 199795.7 3370 100482

866 213 SIOPA 654 0 0 0 158019.4 552169.6 2367 70577

1946 1 ANNEDD 103 1377.76 84253.75 89818.59 91592.72 92452.72 2106 62792

1669 511 GWESTY 1439 0 0 0 80978.07 554289.3 2027 60432

1512 214 WARWS MANWERTHU 272 0 0 0 157124.5 293364.5 1587 47312

886 1 ANNEDD 169 0 3108.32 92522.9 134230.7 145907.7 1463 43627

893 1 ANNEDD 208 0 2782.27 81795.58 113483.4 135895.2 1291 38503

1925 513 GWERSYLLA 0 0 52034.27 56847.4 57774.13 58381.08 1279 38128

908 1 ANNEDD 211 0 14727.93 97112.74 66434.17 104445.2 1188 35436

1491 21 MASNACHOL CYFFREDINOL 272 0 0 0 77372.73 267732.8 1151 34322

1524 21 MASNACHOL CYFFREDINOL 272 0 0 0 77372.73 267732.8 1151 34322

1525 21 MASNACHOL CYFFREDINOL 272 0 0 0 77372.73 267732.8 1151 34322

859 21 MASNACHOL CYFFREDINOL 367 0 0 6563.89 81350.85 252247 1150 34286

1526 211 SIOP LOGI 272 0 0 0 74111.23 265466.4 1129 33682

896 1 ANNEDD 113 0 1511.52 75318.86 91794 103699.1 1055 31468

986 1 ANNEDD 120 0 1605.15 74622.35 90796.87 105751 1055 31464

Nifer yr eiddo yn cyfrannu 48 132 284 440 758

Cyfanswm iawn 62754 1075207 3163968 6722553 20345808 119731 3569203

Page 18: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc

4 Casgliadau Mae'r adroddiad hwn yn rhoi asesiad dangosol o opsiynau posibl i liniaru perygl llifogydd yn Llanelwy, a'r economeg sylfaenol sy'n gysylltiedig â hynny. Fel man cychwyn yn unig yn edrych ar opsiynau ar gyfer Llanelwy y mae'r ddogfen hon wedi'i bwriadu ac mae angen gwaith pellach cyn y gellid dyfeisio cynllun manwl. Mae'r profi opsiynau o fewn y model yn dangos bod newidiadau bach yn lefelau'r dŵr ar hyd afon Elwy yn gallu cael effaith amlwg ar hyd a lled y llifogydd a ragwelir yn Llanelwy oherwydd presenoldeb argloddiau drwy'r dref.

Dylid nodi y gallai hydroleg y dalgylch newid gan fod adolygiad graddio wedi'i gynllunio ar gyfer medrydd Pont y Gwyddel yn uwch i fyny'r afon o Lanelwy ar afon Elwy, yn dilyn canfyddiadau'r dadansoddiad a wnaed gan JBA fel rhan o Ddiweddariad Mapio Llifogydd Llanelwy2 yn sgil llifogydd Tachwedd 2012. Efallai y caiff y graddio ar y mesurydd ei addasu ar gyfer llifoedd uchel a gallai hyn effeithio ar y llifoedd digwyddiad dylunio a gyfrifir ar hyd afon Elwy drwy Lanelwy. Gallai hyn olygu na fyddai'r gostyngiad mewn perygl llifogydd i Lanelwy, a ragwelwyd yn yr opsiynau tymor hir yn Adran 2 o'r adroddiad, yn cael eu gwireddu'n llwyr pe bai'r llifoedd dylunio yn newid yn sgil adolygiad graddio ym Mhont y Gwyddel.

Mae'r arfarniad economaidd cychwynnol lefel uchel a wnaed yn amlygu'r ansicrwydd sydd ynghlwm wrth gyfrifo iawn ar gyfer digwyddiadau llifogydd. Bydd angen asesiad iawn trylwyr, llinell sylfaen, fel rhan o unrhyw arfarniad economaidd manwl pellach a wneir ar gyfer Llanelwy.

2 St Asaph Flood Mapping Update, JBA Consulting, 2014.

Page 19: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

Swyddfeydd yn Coleshill

Doncaster

Caeredin

Haywards Heath

Limerick

Newcastle upon Tyne

Casnewydd

Saltaire

Skipton

Tadcaster

Thirsk

Wallingford

Warrington

Swyddfa Gofrestredig South Barn Broughton Hall SKIPTON Gogledd Swydd Efrog BD23 3AE t:+44(0)1756 799919 e:[email protected] Jeremy Benn Associates Ltd Cofrestredig yn Lloegr 3246693

Page 20: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

Ewch I'n gwefan www.jbaconsulting.com

Page 21: Arfarniad Opsiynau ac Economeg Tymor Hir Llanelwy · cym-2013s6840 St Asaph Long Term Options and Economics Appraisal FINAL 19-02-14.doc 2 2 Arfarniad Opsiynau Tymor Hir 2.1 Trosolwg

Figure 2-1 L1 1% AEP Outline L2 1% AEP Outline 1% AEP Design Event

Amlinelliad AEP 1% L1 Amlinelliad AEP 1% L2 Digwyddiad Dylunio AEP 1%

Figure 2-2

1% AEP Design Event L4 1% AEP Outline L3 1% AEP Outline

Digwyddiad Dylunio AEP 1% Digwyddiad AEP 1% L4 Digwyddiad AEP 1% L3

Figure 2-3

L5 1% AEP Outline 1% AEP Design Event`

Amlinelliad AEP 1% L5 Digwyddiad Dylunio AEP 1%

Figure 2-5

Flow (m3/s Llif (m3/s) Time (hrs) Amser (oriau) Q200 design Nov-12

Dylunio Q200 Tach-12