38
Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) - 2015

Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD

CYNLLUNIO (ABB) - 2015

Page 2: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 RHAGAIR Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn chwarae rhan allweddol o ran cyflwyno blaenoriaethau’r Cyngor a helpu Caerdydd i ddod yn un o brifddinasoedd mwyaf bywiog Ewrop a’r lle gorau i fyw. Gwnaed cryn gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf trwy lwyddo i fwrw ymlaen gyda’r CDLl tuag at ei fabwysiadu a rheoli’r baich achos trymaf o Reoli Datblygu yng Nghymru. Fodd bynnag, mae llawer her, yn amlwg, o ran y cydbwysedd rhwng adnoddau a baich gwaith. Yn hyn o beth, rwy’n croesawu yn frwd yr ABB cychwynnol am ei fod yn rhoi darlun o’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella perfformiad yn y cyd-destun hwn a bydd yn waelodlin ar gyfer dadansoddi o flwyddyn i flwyddyn. Rwy’n llawn gefnogi gweledigaeth y Gweinidog o system gynllunio gadarnhaol yng Nghymru ac yn gweld proses yr ABB fel un o’r elfennau niferus fydd yn helpu i gyflawni’r amcanion hyn. Y Cynghorydd Ramesh Patel, Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Phriffyrdd 1. CYD-DESTUN 1.1 Trosolwg Caerdydd yw prifddinas Cymru a sbardun economaidd Dinas-Ranbarth Caerdydd. Hi yw’r ddinas graidd sy’n tyfu gyflymaf mewn canrannau yn y DU, gyda phoblogaeth o 354,300 ar hyn o bryd. Mae rhyw 80,000 o bobl yn cymudo i’r ddinas bob dydd, sy’n adlewyrchu poblogaeth o 1.5 miliwn yn Ninas-Ranbarth Caerdydd yn ei chyfanrwydd. Mae gan y Gwasanaeth Cynllunio felly ran hanfodol i chwarae wrth osod y fframwaith polisi i reoli’r twf hwn, gweithio gydag Awdurdodau Lleol eraill ar ddimensiynau trawsffiniol, darparu gwasanaeth Rheoli Datblygu effeithiol er mwyn dwyn datblygiadau priodol ymlaen yn fuan a chwarae rhan arweiniol hefyd yn yr agenda o greu lleoliadau trwy sicrhau’r ansawdd uchaf bosib mewn datblygiadau newydd. 1.2 Cefndir cynllunio Y gobaith yw y bydd CDLl Caerdydd yn cael ei fabwysiadu yn y dyfodol agos iawn. Cwblhawyd Sesiynau Archwilio a rhagwelir y daw Adroddiad yr Arolygwyr ym mis Rhagfyr 2015. Bydd y ddogfen hon yn chwarae rhan hanfodol o ran rheoli twf yn y dyfodol. Mae’r Cynllun yn gosod allan sut y gall yr angen ar sail tystiolaeth am gartrefi newydd a swyddi gael ei gyflwyno mewn dull cynaliadwy sydd yn parchu ansawdd amgylcheddol y ddinas. Nodwedd bwysig arall yw ei fod yn gosod allan fframwaith cynhwysfawr i reoli’r twf trwy sicrhau bod seilwaith cymdeithasol, cymunedol a thrafnidiaeth yn cael ei gyflwyno fesul cam gyda manylion uwch-gynllunio ar gyfer pob Safle Strategol wedi’u gwreiddio yn y Cynllun. Mae’r Cynllun yn cynnwys Fframwaith Monitro arbennig o gynhwysfawr a ddefnyddir fel sail i adrodd yn flynyddol.

Page 3: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

O ran cyfran twf yn y Cynllun, gwneir darpariaethau i gyflwyno rhyw 45,415 o gartrefi newydd yng nghyfnod y Cynllun (2006-2026) gyda dros hanner yn cael eu darparu ar safleoedd tir llwyd. Nodwyd wyth o Safleoedd Strategol i helpu i gynnwys y twf, yn amrywio o Barth Menter cyffrous Canol Caerdydd yng nghanol y ddinas i bum safle tir glas ar gyfer tai yn bennaf, gyda chyfanswm o ryw 13,000 o gartrefi newydd gyda fframweithiau uwch-gynllunio yn gosod allan fanylion seilwaith a defnydd arall i gefnogi hyn. Unwaith iddo gael ei fabwysiadu, bydd y CDLl yn cymryd lle clytwaith o Gynlluniau cynharach sydd wedi dyddio, gyda’r Cynlluniau Fframwaith a Chynlluniau Lleol bron yn 20 mlwydd oed. Ni aeth y Cynllun Datblygu Unedol erioed i’r cyfnod archwilio/mabwysiadu a chafodd y CDLl a gynigiwyd gyntaf ei dynnu’n ôl yn dilyn pryderon sylweddol a godwyd gan yr Arolygwyr gan gynnwys diffyg tystiolaeth i gefnogi’r strategaeth ‘tir llwyd yn unig’ oedd yn ganolog i’r Cynllun. 1.3 Cyd-destun polisi corfforaethol Mae gwaith y Gwasanaeth Cynllunio yn helpu’n uniongyrchol i gyflwyno blaenoriaethau allweddol y Cyngor fel y’u gosodwyd allan yn Strategaeth Gymunedol y Cyngor (‘Beth sy’n Bwysig’) 210-20 sydd â gweledigaeth o Gaerdydd fel prifddinas Ewropeaidd o’r radd flaenaf gydag ansawdd bywyd eithriadol sydd wrth galon dinas-ranbarth ffyniannus. Ymhellach, mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor, 2015-17 yn seiliedig ar weledigaeth o ddod yn un o brifddinasoedd brafiaf Ewrop i fyw ynddi, gan ddweud fod “twf poblogaeth Caerdydd yn arwydd o’n llwyddiant - y ffaith fod cymaint o bobl eisiau byw yn ein dinas yw’r clod uchaf y gall dderbyn. Ond gall twf mewn poblogaeth roi pwysau ar wasanaethau a seilwaith cyhoeddus, ac felly mae’n rhaid i ni gynllunio ein dinas, a’n gwasanaethau cyhoeddus, at y dyfodol er mwyn gofalu ein bod yn amddiffyn yr union beth sy’n gwneud ein dinas yn fawr - ansawdd bywyd ein trigolion”. Mae’r Adroddiad, ‘ Caerdydd fel Dinas i Fyw Ynddi’ (Hydref 2015) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ategu’r weledigaeth hon: “Y dinasoedd mwyaf llwyddiannus yw’r rhai sy’n cynnig ansawdd uchel o fywyd yn ogystal â chyfleoedd am swyddi da. Dinasoedd fel Caerdydd. Dyna pam ein bod wedi rhoi bod yn lle braf i fyw ynddo wrth graidd ein strategaeth tymor-hir ar gyfer Caerdydd a Dinas-Ranbarth Caerdydd. Mae hyn yn galw am lawer mwy nac economi ffyniannus a chyfleoedd am swyddi gwych - mae’n galw am fannau cyhoeddus gwych a mynediad at ein hamgylchedd naturiol, diwylliant, ysgolion o safon uchel, tai fforddiadwy, a chyfleoedd dysgu, yn ogystal ag ymrwymiad i amddiffyn y rhai mwyaf bregus. Mae’n fater o gymryd agwedd ehangach, gwerthfawrogi popeth sy’n gwneud dinas yn lle gwych i fyw ynddi”. Mae swyddogaethau’r Gwasanaeth Cynllunio felly wrth galon cyflwyno’r blaenoriaethau corfforaethol hyn sydd yn cydnabod yr angen am lawer mwy o dwf, ond cyflwyno’r twf hwn mewn modd cynaliadwy sydd yn cyfoethogi nodweddion byw ac ansawdd bywyd y ddinas. Dylid crynhoi rôl ‘glasurol’ y system gynllunio i gydbwyso buddiannau gwahanol a chyflwyno twf mewn modd rheoledig. Mae’r CDLl yn amlwg yn ymateb i’r cyd-destun hwn a bydd, gyda’r canllawiau, yn rhoi’r fframwaith angenrheidiol i gyrraedd y nod. 1.4 Dylanwadau mawr yn awr ac yn y gorffennol ar ddefnydd tir

Page 4: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Ffynnodd Caerdydd yn ystod oes Fictoria ar gefn y diwydiant glo a’r diwydiannau cysylltiol yng nghymoedd y de. Arweiniodd hyn at godi cyfleusterau dociau yn ne’r ddinas, gyda’r rhain yn dwyn yn eu sgil ddiwydiannau ffyniannus a busnesau mewnforio/allforio. Datblygodd canol y ddinas rhyw filltir i’r gogledd ar yr un pryd, a hyn yn adlewyrchu’r cyfoeth a’r hyder newydd. Yn yr oes Edwardaidd cafwyd mwy o enghreifftiau o falchder sifig gyda datblygu Canolfan Ddinesig Parc Cathays, creu parciau helaeth a ‘filas’ moethus yn y maestrefi newydd, a hefyd ardaloedd mawr o dai teras ar gyfer gweithwyr o fewn dwy filltir i ganol y ddinas. Parhau i ymledu tuag allan wnaeth y ddinas gyda maestrefi newydd yn cael eu datblygu, cyfuniad o stadau cyngor wedi’r rhyfel, ac estyniadau trefol newydd preifat. Fodd bynnag, yn dilyn dirywiad y diwydiant glofaol yn y cymoedd a’r effeithiau cysylltiedig ar y dociau a’r diwydiannau atodol, cafwyd cryn adfywio ym Mae Caerdydd a’r cyffiniau. Sefydlwyd Corfforaeth Ddatblygu Bae Caerdydd ym 1987 a bu ar flaen y gad gyda rhaglen enfawr o adfywio gan gynnwys Morglawdd Bae Caerdydd. Creodd hyn lyn dŵr croyw newydd, sydd erbyn hyn yn ganolbwynt amrywiaeth o gynlluniau ailddatblygu a ddigwyddodd yn yr ardal. Heddiw, mae Bae Caerdydd yn gyrchfan ymwelwyr lwyddiannus fyd-eang, ac yno y mae’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, yn ogystal â llawer iawn o swyddfeydd a fflatiau. I ategu adfywiad sylweddol Cae Caerdydd, cafwyd mwy o welliannau yng Nghanol y Ddinas, gyda llawer o brosiectau mawr gan gynnwys Stadiwm Mileniwm Cymru, a Chanolfan Siopa 2 Dewi Sant, sydd wedi helpu i godi Caerdydd i fod yn 6ed brif ganolfan siopa yn y DU a dod yn ‘ganolfan digwyddiadau’ enwog ledled y byd fel y gwelwyd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn ddiweddar. Mae Canol y Ddinas a’r Bae felly yn brif leoliadau i swyddfeydd, a’r cynigion presennol am Gyfnewidfa Drafnidiaeth newydd a Sgwâr Canolog ar ei newydd wedd gan gynnwys Pencadlys newydd y BBC a swyddfeydd Graddfa A eraill yn bennod nesaf yn hanes llwyddiant Canol y Ddinas. 1.5 Tirwedd a lleoliad hanesyddol Gorwedd ardal drefol Caerdydd yn erbyn cefndir tirwedd diffiniedig, gydag Aber yr Afon Hafren i’r de, a bryniau a chribau amlwg tua’r gorllewin a’r gogledd. Mae cefn gwlad y tu hwnt o werth tirweddol a bioamrywiaeth uchel, gyda Mynydd Caerffili yn ‘gefndir gwyrdd’ cryf ac amlwg i’r ddinas. Yn wrthgyferbyniol i hyn, mae ymylon dwyreiniol y ddinas yn rhan o uned tirwedd ehangach o lawer o ‘wastadeddau’ isel, ardal wastad a adfeddiannwyd y tu ôl i Fur y Môr. Mae pedwar coridor sylweddol agored seiliedig ar afonydd Elái, Taf, Rhymni a Nant Fawr yn ‘fysedd’ o dir hygyrch, cyhoeddus i raddau helaeth, sy’n rhedeg trwy’r ardaloedd trefol ac yn gyswllt â chefn gwlad tu hwnt. Mae yn y ddinas 27 Ardal Gadwraeth ac yn agos i 1,000 o Adeiladau Rhestredig. Mae llawer ardal ddiddorol oedd yn seiliedig o gwmpas canol yr hen bentrefi yn awr yn rhan o’r ardal drefol; felly hefyd y waddol Fictoraidd ac Edwardaidd hynod gyfoethog. 1.6 Patrwm anheddiad O ran ehangder daearyddol, mae Caerdydd yn weddol gyfyngedig, a’r ardal drefol sydd amlycaf. Fodd bynnag, mae darnau gwledig helaeth mewn rhai mannau rhwng y ffiniau anheddiad a gweinyddol, yn bennaf tua’r gogledd-orllewin a’r gogledd. Mae pentrefi Sain Ffagan, Creigiau a

Page 5: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Phentyrch yn bentrefi yn eu hawl eu hunain o fewn ardaloedd gwledig o’r fath i’r gogledd-orllewin o’r dref. 1.7 Newid poblogaeth a dylanwad ar y CDLl Mae’r Cynllun yn darparu ar gyfer cyflwyno’r rhagamcanion swyddogol a hefyd yn adlewyrchu asesiad llawn o bob ffactor perthnasol gan gynnwys cymryd i ystyriaeth gyngor arbenigol annibynnol a gomisiynwyd cyn ac ar ôl y Dewis Strategaeth. O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae’r CDLl yn gwneud darpariaeth ar gyfer 45,415 annedd newydd i gwrdd â’r angen y mae tystiolaeth amdano. Yn bwysig iawn, mae’r lefel hon o dwf yn cyd-fynd yn llwyr â strategaeth y Cynllun ac yn cadw cydbwysedd priodol rhwng pob ffactor perthnasol.

Page 6: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

2. GWASANAETH CYNLLUNIO 2.1 Strwythurau’r Sefydliad Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yng Nghyfarwyddiaeth Gweithrediadau’r Ddinas, un o’r 6 Chyfarwyddiaeth isod sydd yn adrodd i’r Prif Weithredwr:

• Gweithrediadau’r Ddinas • Cymunedau, Tai a Gwasanaethau Cwsmeriaid • Datblygu Economaidd • Addysg a Dysgu Gydol Oes • Gwasanaethau Cymdeithasol • Adnoddau/ Llywodraethiant a Chyfreithiol

Mae Gweithrediadau’r Ddinas yn cynnwys amrywiaeth eang o swyddogaethau allanol gan gynnwys Trafnidiaeth, Priffyrdd, Seilwaith, Gwastraff, Ailgylchu, Ynni, Parciau, Chwaraeon, Hamdden, a Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestru. Mae 4 Tîm yn y Gwasanaeth Cynllunio, yn cael eu rheoli gan y Pennaeth Cynllunio, fel y gwelir yn y crynodeb isod:

• Polisi Cynllunio • Rheoli Datblygu- Strategol a Chreu Lle • Rheoli Datblygu- An-Strategol a Gorfodaeth • Rheoli Adeiladau

Yn Neuadd y Sir y mae’r holl dimau, ond nid ydynt ar hyn o bryd ar yr un llawr. Mae cynlluniau ar y gweill i ofalu bod y 3 Tîm Cynllunio yn agos at ei gilydd er mwyn bod yn fwy effeithiol, a chreu gwell cyswllt rhwng y timau. 2.2 Gweithgareddau trefniadol ehangach sy’n effeithio ar y Gwasanaeth Cynllunio Bu’n rhaid i’r Cyngor wneud gwerth £150 miliwn o arbedion ers 2010. Parhau wnaiff y duedd, gyda’r Cyngor yn gorfod gwneud £117 miliwn ymhellach o arbedion erbyn 2018/19 (gan gynnwys gwneud iawn am ddiffyg o £47.4 yn 2016/17, gyda £8.45 miliwn o hwn i’r gael o gyfarwyddiaeth Gweithrediadau’r Ddinas). Gwelodd y Gwasanaeth Cynllunio ei adnoddau staff yn gostwng yn sylweddol o ganlyniad i’r amgylchedd heriol hwn dros y blynyddoedd diwethaf. Nid yn unig mae nifer y Swyddogion wedi lleihau yn ddramatig, ond gostwng hefyd wnaeth nifer yr uwch-swyddi a Swyddogion profiadol. Yr hyn sy’n rhoi pwyslais ychwanegol i’r ffaith hon yw bod hyn yn batrwm cyfarwydd mewn Meysydd Gwasanaeth eraill sy’n helpu’r Gwasanaeth Cynllunio i gyflawni ei swyddogaethau. Er mwyn rhoi syniad o raddfa’r effaith, trwy gyfuniad o Ddiswyddo Gwirfoddol, dileu swyddi gwag a phrosesau a reolwyd, cymerwyd rhyw 20 swydd allan o’r sefydliad dros y 4 blynedd a aeth heibio. Ymhellach, collodd yr awdurdod gryn dipyn o brofiad mewn byr amser, fel y gwelwyd o’r ffaith fod nifer y Rheolwyr Gweithredol oedd yn arwain Timau Cynllunio dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gostwng o 5 i 2. Mae adrannau eraill yng Nghyfarwyddiaeth Gweithrediadau’r Ddinas hefyd wedi teimlo effaith y pwysau ariannol presennol, fel y mae’r Meysydd Gwasanaeth eraill sydd yn gweithio gyda’r

Page 7: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Gwasanaeth Cynllunio i gyflwyno amcanion a rennir. Mae hyn yn ei gwneud yn fwy anodd medru rheoli yn effeithiol, yr hinsawdd presennol o lai o adnoddau, ac yn arwain at ganlyniadau uniongyrchol mewn meysydd megis amseroedd ymateb i ymgynghoriadau mewnol ar geisiadau cynllunio, sicrhau’r adnoddau i fwrw ymlaen â mentrau ar draws Meysydd Gwasanaeth a chael Swyddogion eraill i fynd ati i ymwneud a llunio polisi megis paratoi CDS, monitro/adolygu’r CDLl a chyfrannu at agenda’r Cynllun Datblygu Strategol (CDS) sydd yn dechrau ymddangos. 2.3 Cyllideb weithredol Mae’r sefydliad Cynllunio wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf, ac y mae hyn wedi arwain at lai o orbenion yn y gyllideb staffio. Gwnaed arbedion pellach trwy leihau cyllidebau gwasanaethau mewnol, rheoli swyddi gwag, peidio â thalu ffioedd proffesiynol i staff, a chadw gwariant allanol i’r hyn sydd isaf bosib. Mae incwm o ffioedd cynllunio hefyd wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol i gyfrannu at gwrdd â thargedau arbedion y Gyfarwyddiaeth fel rhan o’r arbedion cyffredinol y mae gofyn i’r Cyngor eu gwneud. Fodd bynnag, mae’r brif ffynhonnell incwm a gynhyrchwyd trwy ffioedd cynllunio wedi amrywio yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu’r amodau economaidd presennol. Er enghraifft, yn ystod y dirwasgiad economaidd a’r adferiad araf rhwng 2008/09- 2012/13, arhosodd yr incwm o ffioedd rhwng £1.2- £1.4 miliwn. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gwelwyd cryn welliant mewn amodau economaidd, ac adlewyrchwyd hyn mewn cynnydd cyfatebol mewn incwm o ffioedd caniatâd cynllunio o bron i £1.5 miliwn yn 2013/14 a £1.86 miliwn yn 2014/15. O edrych ymlaen, mae’r cynnydd o 15% mewn ffioedd cynllunio i’w groesawu; felly hefyd ehangu’r sgôp am incwm o ffioedd, ond mae cryn risg yn y cymal ad-dalu ffioedd sydd yn y Rheoliadau Ffioedd Cynllunio newydd. Ymhellach, mae’n debyg y gosodir y cyfraddau safonol newydd am gyn-geisiadau ar gyfradd sy’n is na’r taliadau presennol am gyn-geisiadau yng Nghaerdydd, ac os cânt eu cyflwyno, bydd y ffynhonnell incwm hon yn gostwng. Yn achos cymalau ad-dalu ffioedd yn benodol, ystyrir bod Caerdydd yn arbennig o agored i broses nifer uchel o geisiadau mawr cymhleth, sydd yn aml yn mynnu llofnodi Cytundebau Adran 106, sydd yn anochel yn cymryd llawer o amser cyn cael caniatâd. Mae llawer o’r rhesymau am yr amser maith yn adlewyrchu’r cymhlethdodau, yr angen am newid cynlluniau i wneud cynigion yn dderbyniol, ac oedi cyn sicrhau’r caniatad terfynol. Cynhelir cyfarfodydd misol i fonitro cyllidebau rhwng y Pennaeth Cynllunio, Cyllid Canolog a Chyfrifydd y Gyfarwyddiaeth gyda’r nod o fonitro ffigyrau blaenu misol yn erbyn yr hyn y rhagwelir fydd yn cael ei wario o’r gyllideb. Y prif newidyn o hyd yw incwm o ffioedd cynllunio, felly gwneir ymdrechion i gael mwy o wybodaeth am geisiadau posib sydd ar y gweill er mwyn bod o gymorth uniongyrchol i drafodaethau ar y gyllideb. Yn hyn o beth, gan fod gan Gaerdydd nifer fawr o geisiadau ar raddfa fawr, mae’r incwm o ffioedd a gynhyrchir yn amrywio’n fawr, yn wahanol i ddeiliaid tai lle mae’n haws rhagweld swm yr incwm. Gall nifer fechan iawn o geisiadau gynhyrchu cryn swm o incwm yn hyn o beth. Er enghraifft, cynhyrchodd cyn lleied â 4 cais yn 2014/15 oddeutu £550,000 mewn incwm ffioedd, rhyw 30% o gyfanswm yr incwm a gafwyd o bob cais.

Page 8: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Bydd ymateb yn effeithiol i bob agwedd yn ymwneud â’r gyllideb weithredol yn parhau yn flaenoriaeth uchel yn y blynyddoedd i ddod. Tra bod incwm gwirioneddol y ffioedd yn 2014/15 yn cyfateb yn fanwl i’r incwm a gyllidebwyd, erys risg gynhenid o gwrdd â thargedau incwm y gyllideb na fydd, efallai, yn adlewyrchu yn gywir newidiadau yn y dyfodol yn amodau’r farchnad a ffactorau eraill a fydd yn pennu incwm yn fras. Fodd bynnag, nod y broses Cynllunio Busnes newydd, ynghyd â deialog reolaidd gyda’r adran Gyllid Ganolog, fydd gosod y strategaeth fwyaf ariannol gynaliadwy bosib mewn amgylchedd heriol. 2.4 Materion staff Ar hyn o bryd mae ychydig dan 50 swydd CALl yn y Gwasanaeth Cynllunio (heb gynnwys Rheoli Adeiladu). Gellir dadansoddi’r swyddi hyn fel a ganlyn (talgrynnu o ran canrannau CALl):

• 3 Uwch Reolwr - Sef 1 Pennaeth Cynllunio a 2 Reolwr Gweithredol • 7 Cynlluniwr Polisi Cynllunio • 14 Swyddog Achos Rheoli Datblygu • 1.5 Swyddog Gorfodi • 6 Cynlluniwr Tîm Creu Lle (Dylunio, Prosiectau a Chadwraeth) • 2 ‘Arbenigwr’- 1 Ecolegydd, 1 Swyddog Coed • 2 Gymhorthydd Cynllunio (Swyddogaethau Cofrestru/Dilysu RhD) • 10.5 Technegydd/Cefnogaeth weinyddol /Rheoli gwefan • 2 Dechnegydd/Swyddog GIS • 1 Swyddog E-Lywodraeth/Adrodd am Berfformiad

Fel yr amlinellwyd yn Adran 2.2, collodd y Gwasanaeth Cynllunio gryn nifer o staff mewn byr amser. Mae hyn wedi golygu nad oes digon o gapasiti yn y Gwasanaeth ac y mae llawer o bwysau o hyd ar Swyddogion ym mhob Tîm. Mewn cyd-destun o’r fath, mae’n anodd datblygu strategaeth cynllunio olyniaeth gref, yn enwedig gyda heriau llwyddo i lenwi swyddi gwag, ceisiadau am Ddiswyddo Gwirfoddol ac ymateb i geisiadau am wneud arbedion yn y gyllideb. Nid yw heriau o’r fath yn unigryw ar hyd a lled Cymru, ond mae’r effeithiau yng Nghaerdydd wedi eu dwysáu gan y galwadau trwm o ran baich gwaith fel sy’n cael ei adlewyrchu ym mhrosesu’r nifer uchaf o geisiadau yn y chwarter olaf (Gorffennaf-Medi 2015) yng Nghymru o bell ffordd (814, o gymharu â chyfartaledd ledled Cymru o 266). Mae hyn yn golygu nad oes lle i symud gyda’r adnoddau staff. Felly gall ‘pwyntiau gwasgu’ neu oedi gronni’n sydyn iawn pan fydd Swyddogion i ffwrdd neu’n ymdrin â blaenoriaethau brys, ac y maent yn anodd i’w datrys yn y tymor byr. Er enghraifft, gan fod y Swyddog sy’n arwain ar E-Lywodraeth/adrodd am berfformiad ar absenoldeb mamolaeth ar hyn o bryd, mae ei gwaith yn cael ei wneud gan y staff presennol a chreodd hyn anhawster, fel y gwelir yn llawnach yn yr Adran ar Fframwaith Perfformio. Ar waethaf hyn, mae’r Swyddogion yn frwd ac yn ymroddedig i roi’r gwasanaeth gorau oll i gwsmeriaid. Mae cyfraddau salwch yn isel iawn ac yn is o lawer na chyfartaledd y Gyfarwyddiaeth a’r Cyngor. Mae perfformiad unigol yn cael ei fonitro trwy ‘Raglen Ddatblygu a Pherfformiad Personol’ sy’n bodoli yn y Cyngor, a thrwyddo, mae disgwyliadau perfformio yn cael eu gosod, eu hadolygu’n ffurfiol wedi 6 mis a’u cyfoesi bob blwyddyn.

Page 9: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Mae disgwyliadau a galwadau’r baich gwaith yn ymestyn y tu hwnt i geisiadau cynllunio a pharatoi polisi cynllunio. Yn hyn o beth, mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn gweithio’n rheolaidd gyda Meysydd Gwasanaeth eraill i roi cyngor arbenigol ar warediadau tir, uwch-gynllunio, blaenoriaethau Adran 106, mentrau ynni adnewyddol, helpu i sicrhau aml-ddefnydd o gyfleusterau cymunedol newydd, ynghyd â phrosiectau adfywio a threftadaeth. O edrych ymlaen, bydd proses y Cynllun Datblygu Strategol (CDS) newydd yn cynhyrchu llawer iawn mwy o waith ar y cyd ag Awdurdodau Lleol eraill a phartneriaid yn Ninas-Ranbarth Caerdydd. Ymhellach, mae’n debyg y bydd cryn alw ar adnoddau yn deillio o’r hyn a ragwelir fydd yn digwydd gyda phrosiect morlyn llanw o arwyddocâd cenedlaethol gyda morglawdd arfaethedig yn ymestyn rhyw 22km i Aber yr Afon Hafren o Gaerdydd i Gasnewydd. Mae datblygu Cynllun Busnes Ardal Gwasanaeth fel sy’n cael ei ddisgrifio yn Adran 3.5 yn amlinellu sut y bwriedir blaengynllunio er mwyn ceisio cyfatebu adnoddau i alwadau’r baich gwaith.

Page 10: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

3. EICH STORI LEOL 3.1 Baich Gwaith: Polisi Cynllunio Y gobaith yw y caiff CDLl Caerdydd ei fabwysiadu yn gynnar yn 2016 a disgwylir Adroddiad yr Arolygydd ym mis Rhagfyr 2015. Bydd hyn yn nod o bwys mewn cynllunio polisi gyda’r Cynllun Lleol blaenorol wedi ei gymeradwyo bron i 20 mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, y mae galwadau arwyddocaol o ran baich gwaith gan gynnwys:

• Sicrhau mabwysiadu’r CDLl • Cydgordio cyflwyno rhaglen o CCS wedi mabwysiadu’r CDLl. Hyd ym, nodwyd 28 CCS gyda 3

chyfnod cymeradwyo wedi’u cynllunio ymhen 6, 12 a 18 mis ar ôl mabwysiadu. Mae gwaith pellach ar y gweill i nodi blaenoriaethau ychwanegol

• Ymwneud â’r broses CDS newydd- Fel sbardun economaidd Dinas-Ranbarth Caerdydd, bydd Caerdydd am chwarae rhan weithredol ochr yn ochr ag Awdurdodau Lleol eraill i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, yn y pen draw dan gyfarwyddyd Panel CDS. Yn y cyfamser, efallai mai Caerdydd fydd yr ‘awdurdod cyfrifol’ o ran rhoi cychwyn ffurfiol i’r broses a sicrhau cytundeb ar faint yr ardal

• Paratoi Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) y CDLl bob hydref i’w ystyried gan Lywodraeth Cymru a chynnal adolygiad pellach o’r CDLl yn ôl y galw – Ystyrir mai’r AMB yw’r un mwyaf cynhwysfawr yng Nghymru hyd yma gyda dros 100 o ddangosyddion sydd yn gofyn am gryn adnoddau a systemau er mwyn cael y wybodaeth sydd ei angen

• Gweithio gyda’r Gwasanaeth Tai i nodi’r galw am safle(oedd) Sipsiwn a Theithwyr newydd i gwrdd â’r galw yn unol â gofynion yr AMB a Deddf Tai

• Paratoi’r Cydastudiaeth Argaeledd Tir blynyddol • Monitro defnydd tir • Darparu cyngor cynllunio ar geisiadau cynllunio • Darparu swyddogaeth Cynllunio Mwynau y Cyngor • Gweithio ar brosiectau ar draws Ardaloedd Gwasanaeth ynghylch ‘chwiliadau tir’,

gwarediadau tir a mentrau adfywio • Helpu i ymateb i alwadau baich gwaith trwm tebygol fydd yn deillio o brosiect Pŵer Morlyn

Llanw arfaethedig rhwng Caerdydd a Chasnewydd Yn gyffredinol, mae hyn yn faich gwaith heriol i Dîm bychan. Fodd bynnag, bydd y Tîm yn symud swyddfeydd yn fuan i fod gyda gweddill y Gwasanaeth Cynllunio. Bydd hyn yn arwain at bosibiliadau cysylltu mwy effeithiol gyda Thimau eraill yn y Gwasanaeth Cynllunio. Bydd y broses Cynllunio Busnes yn ystyried sut y gall gwahanol Dimau yn yr Adran weithio’n fwy hyblyg ac fel rhan o hyn, bydd yn ystyried taenu’r baich gwaith Rheoli Datblygu yn ehangach ac yn chwilio am ffyrdd o wella yn y modd mae arsylwadau mewnol yn cael eu gwneud ar geisiadau. 3.2 Baich Gwaith: Rheoli Datblygu a Gorfodi Caerdydd sy’n pennu’r nifer uchaf o geisiadau cynllunio yng Nghymru. Yn ystod 2014/15, fe wnaethom bennu 2,596 o geisiadau cynllunio o gymharu â chyfartaledd o 968 yng Nghymru. Mae’n ddiddorol nodi, yn ystod 6 mis cyntaf 2015/16, fod nifer y ceisiadau a bennwyd yng Nghaerdydd wedi codi o 20% ond wedi disgyn yng Nghymru yn gyffredinol. Rhwng misoedd Ebrill-Medi 2015, yr ydym wedi pennu 1,643 o geisiadau cynllunio o gymharu â chyfartaledd Cymru o 519 am yr un cyfnod. Os bydd y duedd hon yn parhau, efallai y bydd gofyn i ni bennu rhyw 3,300 o geisiadau

Page 11: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

cynllunio er y nodir na chododd incwm o ffioedd ar yr un gyfradd, sy’n adlewyrchu’r pwyntiau a godwyd am ansicrwydd ynghylch incwm o ffioedd yn Adran 2.3. Mae’r baich gwaith hwn yn cael ei reoli gan Swyddogion Achos wedi lledaenu ar draws 2 Dîm gyda cheisiadau mawr yn cael eu rheoli yn y Tîm Rheoli Datblygu Strategol a Chreu Lle ac eraill yn y Tîm Rheoli Datblygu An-Strategol. Mae nifer y ceisiadau a bennir gan Swyddogion Achos unigol yn amrywio’n fawr gan adlewyrchu’r gwahaniaethau enfawr rhwng cymhlethdodau ystyried ceisiadau mawr megis estyniadau trefol ar un pegwn i’r raddfa i gynigion aelwydydd yn y pegwn arall. Mae Swyddogion Achos felly yn pennu hyd at ryw 300 o geisiadau y flwyddyn gyda’r rhai sydd yn bwrw ymlaen gyda cheisiadau mawr yn pennu llai o lawer. Mae cefnogaeth ehangach o’r tu mewn i’r Gwasanaeth i helpu Swyddogion Achos yn eu trafodaethau hefyd yn hanfodol i brosesu ceisiadau trwy ddarparu cyngor arbenigol ar faterion megis dylunio a pholisi. Yn bwysig iawn, mae’r Swyddogion Gweinyddu hefyd yn chwarae rhan allweddol oherwydd bod swm enfawr y ceisiadau sy’n cael eu prosesu yn mynnu bod systemau effeithiol ar gael i gadw ceisiadau’n llifo’n llyfn trwy’r system a chyfoesi olrhain ceisiadau yn rheolaidd ar y wefan. O edrych ymlaen, gyda mabwysiadu tebygol y CDLl yn gosod allan strategaeth i gyflwyno lefel uchel o dwf, gwell hyder yn y farchnad, ac amrywiaeth eang y prosiectau tir glas a thir llwyd a all fod ar y gweill, rhagwelir mai parhau i gynyddu wnaiff nifer y ceisiadau a gyflwynir. Yn yr un modd, rhagwelir y bydd cynnydd mewn ceisiadau mawr, gyda’u graddfa a’u cymhlethdod o raid yn estyn yr amser a gymerir i’w pennu, yn enwedig o ystyried dimensiwn Adran 106. Ymhellach, gall ceisiadau mawr (yn enwedig y rhai sy’n tanio’r Rheoliadau AEA) yn aml esgor ar gostau sylweddol i’r Gwasanaeth yng nghyswllt rhybuddion hysbysebu. Baich gwaith arwyddocaol a chynyddol nas delir mewn ystadegau yw’r hyn a gynhyrchir gan ddeialog wedi’r penderfyniad gyda phartïon sydd wedi’u tramgwyddo ac sydd â phroblemau naill ai gyda’r penderfyniad a/neu y broses o ddod i’r penderfyniad. Gall y rhain yn fuan iawn droi’n achosion cymhleth sy’n cymryd amser, gydag Aelodau lleol yn dod yn rhan o’r peth, gweithdrefn gwynion ffurfiol a galw am sylw Swyddogion ar bob lefel. Mae ymchwiliadau gorfodaeth yn cynhyrchu baich o ryw 600-800 o achosion y flwyddyn. Mae’r Tîm Gorfodi wedi crebachu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gyda 3 o Swyddogion ar hyn o bryd yn rhannu eu hamser rhwng ymchwiliadau gorfodaeth ac fel swyddogion achos rheoli datblygu. Mae llawer o’r gwaith yn golygu adweithio i gwynion ac arsylwadau a dderbyniwyd, ond y mae gwaith/ymchwiliadau rhagweithiol hefyd yn cael ei wneud pan fydd pwysau gwaith arall yn caniatáu. Hefyd, gwneir gwaith prosiect weithiau i ddatrys broblem arbennig. Er enghraifft, gweithredwyd yn ddiweddar ynghylch arddangos arwyddion Ar Osod yr ystyriwyd eu bod yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynder gweledol ardal y ddinas oedd yn agos iawn at y Brifysgol. Yn sgil hyn, tynnwyd yr arwyddion traddodiadol a rhoddwyd yn eu lle arwyddion llai, mwy cydnaws, oedd yn plesio Aelodau Lleol a thrigolion parhaol. 3.3 Baich Gwaith: Creu Lle Mae’r Tîm Creu Lle yn cyflwyno amrywiaeth eang o swyddogaethau cynllunio statudol ac anstatudol ac y mae’n cynnwys arbenigedd mewn meysydd megis dylunio trefol, uwch-gynllunio, cadwraeth yr amgylchedd adeiledig a naturiol, a rheoli prosiectau.

Page 12: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Mae’r Tîm yn ymwneud llawer â chefnogi cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd trwy baratoi a gweithredu polisi cynllunio yn ogystal â pharatoi gwaith cefndir o ran egwyddorion uwch-gynllunio a chynllunio seilwaith er mwyn sicrhau bod lefel y twf cynlluniedig yn cyflwyno cymdogaethau integredig, dymunol i fyw ynddynt a fydd yn llesol i’r cymunedau presennol a rhai newydd. Hefyd, mae’r Tîm yn cefnogi’r swyddogaeth Rheoli Datblygu trwy roi cyngor arbenigol ar ddylunio, cadwraeth ac ecoleg ar gyfer ceisiadau cynllunio cyfredol gan gynnwys datblygiadau mawr ar dir llwyd ac estyniadau trefol sylweddol. Mae’r gwaith hwn yn golygu cydweithio agos gyda Rheoli Datblygu ac ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol. Mae’r Tîm hefyd yn arwain ar baratoi a mabwysiadu Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC) Caerdydd. Creodd y gwaith hwn faich gwaith ychwanegol sylweddol i’r Tîm a disgwylir iddo fwrw ymlaen tuag at ei gyflwyno yn 2016. Ochr yn ochr â pharatoi’r ASC, mae Caerdydd yn adolygu’r agwedd at oblygiadau cynllunio A106 gan gynnwys adolygiad cynhwysfawr o’r broses a chanllawiau polisi i gefnogi’r swyddogaeth Rheoli Datblygu a’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r tîm hefyd yn ymwneud ag asesiadau hyfywedd o ddatblygiadau mawr er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno’r seilwaith angenrheidiol i gynnal lefel twf cynlluniedig Caerdydd. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyfoesi ac adolygu nifer o Ganllawiau Cynllunio Atodol yn y Tîm, gan gynnwys gwaith cyfredol ar Oblygiadau Cynllunio, Canllawiau Dylunio Preswyl a Deiliaid Tai, Briffiau Cynllunio Ardal, Canllawiau ar gyfer Tai Amlbreswyliaeth a Seilwaith Gwyrdd i enwi dim ond rhai. Cynyddu’n sylweddol wnaiff y baich gwaith hwn yn dilyn mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd. Gwelodd y Tîm ostyngiad yn nifer y staff yn y Tîm amgylchedd naturiol o 6 i 2. Mae baich gwaith y swyddogion hyn yn drwm iawn ac y mae’n cynnwys darparu cyngor arbenigol i’r Gyfarwyddiaeth Rheoli Datblygu a Chyfarwyddiaethau eraill y Cyngor yn ogystal â gwneud eu dyletswyddau statudol dan ddeddfwriaeth genedlaethol ac Ewropeaidd. Mae mentrau mawr hefyd yn cael eu cyflwyno gan y Tîm Creu Lle gan gynnwys Rhaglen Cyfoethogi Treftadaeth Caerdydd, arolygon Adeiladau mewn Perygl, Menter Byrddau Gosod Caerdydd a pharatoi uwch-gynlluniau ar gyfer Canol y Ddinas a Bae Caerdydd. 3.4 Pwysau lleol Ar draws y Gwasanaeth Cynllunio yn gyffredinol, yr her allweddol yw sut i reoli’r baich gwaith a’r disgwyliadau cynyddol yn effeithiol yng nghyd-destun adnoddau sy’n crebachu. Yn gysylltiedig â hyn mae swm mawr y ceisiadau sy’n cael eu prosesu, ynghyd â nifer fawr o gynigion datblygu mawr a chymhleth. O gofio’r pwysau ariannol difrifol, mae’r gallu i gynyddu’r sefydliad staff wedi ei gyfyngu’n arw, felly bydd yr agwedd newydd tuag at wella perfformiad yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o’r adnoddau presennol ynghyd ag ymchwilio i’r gallu i dynnu ar adnoddau ychwanegol mewn modd hyblyg yn ôl y galw. Mae’r holl fesurau gwella a ystyrir fel rhan o Gynllun Busnes newydd wedi eu gosod allan yn yr adran nesaf, sydd yn crynhoi’r agwedd a gymerir i ymdrin â’r pwysau hyn. Fodd bynnag, yr ydym yn cydnabod fod y Gwasanaeth Cynllunio yn gweithredu o fewn amgylchedd sy’n newid yn sydyn iawn.

Page 13: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Er enghraifft, gall blaenoriaethau Aelodau ‘nas rhagwelwyd’ ddod i’r golwg, gan alw am fwy o adnoddau, a gall yr adnoddau staff sydd ar gael ar unrhyw un adeg amrywio. Yr ydym yn cydnabod felly bod yn rhaid i’r ymateb mwyaf effeithiol ganiatáu am beth hyblygrwydd a’r gallu i ymateb i gyfleoedd neu heriau. Bydd yr agwedd newydd felly yn gosod fframwaith yn ei le sydd yn rhoi cyfeiriad strategol ond a fydd hefyd yn esblygu. Mae’r amrywiaeth o fesurau gwella sy’n cael eu datblygu fel yr amlinellir yn Adran 3.5 yn dangos awydd cryf i wella perfformiad yn yr amgylchedd hwn, ond nid oes modd tanbrisio maint yr her na’r gallu i esgor ar ganlyniadau yn syth. Felly, mae pwyslais cryf ar osod mesurau rheoli perfformiad mwy effeithiol ar waith fel, dros amser, fod y lefel gywir o wybodaeth fanwl a chyfoes ar gael yn rhwydd fel sail o wybodaeth i benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch adnoddau a blaenoriaethau baich gwaith. 3.5 Gwella’r Gwasanaeth Arweiniodd cyfuniad o ffactorau gan gynnwys y pwysau a amlinellwyd uchod at ddatblygu agwedd o’r newydd tuag at wella’r Gwasanaeth Cynllunio. Mae’r newidiadau diweddar i’r System Gynllunio yng Nghymru wedi rhoi mwy o bwyslais ar gyflwyno a pherfformiad gwell, fel sy’n briodol. Mae hyn yn asio gyda gwell monitro ar berfformiad a mesurau rheoli, gyda’r broses ABB cychwynnol yn awr yn sicrhau trafodaeth ledled Cymru ar sail o wybodaeth ynghylch y modd i gynnal gwelliannau dros amser. Wrth i adnoddau a chapasiti barhau i fod dan bwysau eithriadol a galwadau/disgwyliadau barhau i godi, mae mwy o angen rheoli adnoddau a gwneud y mwyaf ohonynt, a gwella parhaus yw’r allwedd i gyrraedd yr amcan hwn. Gyda phenodi Pennaeth Cynllunio newydd ym mis Mehefin 2015 cafwyd agwedd newydd i ymateb i’r amgylchedd heriol ac y mae’n adeiladu ar waith a wnaed eisoes. Wrth graidd yr agwedd hon mae cydnabod fod yr angen am fesurau gwella yn fwy dwys nac erioed. Cydnabyddir hefyd y gall mesurau gwella fod ar bob ffurf a maint a’u cyflwyno dros wahanol gyfnodau o amser. Yr allwedd i osod allan yr agwedd newydd hon fydd paratoi Cynllun Busnes newydd i’r Gwasanaeth Cynllunio. Caiff hwn ei baratoi erbyn mis Mawrth 2016 a bydd yn gosod allan Strategaeth ar gyfer 2016-17 gan gynnwys trefniadau ar gyfer monitro, adolygu a chyfoesi wedi hynny. Bydd hyn yn datrys y sefyllfa bresennol o beidio â bod wedi paratoi Cynlluniau Busnes i’r Gwasanaeth Cynllunio dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd yn sail cadarnach i gyflwyno gwelliannau a rheoli adnoddau prin yn fwy effeithiol yn y blynyddoedd i ddod. Bydd Cynllun Busnes y Gwasanaeth Cynllunio yn dal y mesurau gwella sy’n cael eu cyflwyno mewn ymateb i newidiadau yn y broses ffioedd cynllunio ynghyd â mentrau eraill a weithredir yn ôl gwahanol amserlenni, gan adlewyrchu natur y gwaith dan sylw. Hyd yma, nodwyd tair prif thema ar gyfer gwella’r gwasanaeth:

• Gwneud gwelliannau i systemau a phrosesau presennol • Edrych i mewn i ffyrdd newydd ac arloesol o weithio • Datblygu gwell gwybodaeth /data i fod yn well sail i weithio, rheoli perfformiad a chynllunio

busnes

Page 14: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Yn anad dim, bydd y Cynllun Busnes yn gosod fframwaith a ddefnyddir fel sylfaen i asesu perfformiad yn flynyddol ac ystyried y mesurau gwella pellach mwyaf priodol a chamau eraill o ystyrir yn angenrheidiol i sicrhau y gall y Gwasanaeth Cynllunio gyflawni ei swyddogaethau yn llwyddiannus yn y blynyddoedd i ddod. Adeg ysgrifennu hyn, crynhoir yn y tabl isod y rhestr ‘gwaith ar y gweill’ o fesurau gwella a ystyrir fel rhan o’r Cynllun Busnes newydd: Crynodeb o fesurau gwella gwasanaeth i Wasanaeth Cynllunio Caerdydd Tachwedd 2015- I helpu fel sail o wybodaeth i gynnwys y Cynllun Busnes(2016-17) 1. Paratoi Cynllun Busnes i’r Gwasanaeth Cynllunio (2016-17) -Cysylltiedig â’r Cynllun Corfforaethol a Chynllun Cyflwyno’r Gyfarwyddiaeth -Cynnwys adborth cwsmeriaid/rhanddeiliaid – Codi ymwybyddiaeth a cheisio syniadau am wella -Paratoir erbyn Mawrth 2016 a chynnwys trefniadau am gyfoesi yn y dyfodol fel bod system ffurfiol, seiliedig ar dystiolaeth ar gael i asesu perfformiad a gallu mewn ymateb i ddadansoddiad o ddata a gafwyd yn ystod y flwyddyn a chan ystyried ffactorau perthnasol ehangach -Gosod allan flaenoriaethau rhaglen waith ar sail dadansoddiad o alw/capasiti -Gosod allan fesurau datblygu staff -Trwy’r agwedd hon, datblygu diwylliant cyfoethocach o geisio gwelliant parhaus -Ymdrin â’r heriau o’n blaenau a gosod allan gyfres o fesurau gwella seiliedig ar themâu sydd wedi eu gosod allan yn y tabl isod 2. Gwneud gwelliannau i systemau a phrosesau presennol -Edrych ar bob cam o’r broses o wneud cais cynllunio o gofrestru/dilysu hyd at gyhoeddi penderfyniadau gyda’r nod o gael gwell perfformiad a gwasanaeth i gwsmeriaid -Gwneud y mwyaf o rôl cyn-geisiadau -Adolygu llythyrau a thempledi safonol -Nodi gwelliannau posib i broses y Pwyllgor Cynllunio (gan gynnwys ymweliadau safle) -Nodi gwelliannau posib i ymchwiliadau gorfodaeth 3. Ymchwilio i ffyrdd newydd ac arloesol o weithio -Mireinio cyfarfodydd ‘Adolygu Dylunio’ mewnol newydd os bydd angen -Ymchwilio i ledaenu’r baich achos RhD yn ehangach o fewn y Gwasanaeth -Dysgu o’r arfer gorau mewn mannau eraill Nghymru- POSW, SEWSPG, adborth ABB, ‘Grwpiau Cymru’ RhD a Gorfodaeth a chyswllt uniongyrchol gydag ACLl eraill - Dysgu o’r arfer gorau yng ngweddill y DU - e.e., trwy fynychu’r Grŵp Cynllunio Dinasoedd Craidd a dilyn esiamplau arloesol -Gwneud y mwyaf o rôl gwasanaethau digidol – e.e., gwella’r wefan fel y gall cwsmeriaid wneud mwy o ddefnydd o’r tudalennau Cynllunio ar y wefan fel pwynt cyswllt cyntaf gyda’r Cyngor -Edrych i mewn i ffyrdd eraill o sicrhau adnoddau staff ac incwm ychwanegol gan gynnwys ystyried y sgôp am Gytundebau Perfformiad Cynllunio (CPC) 4. Datblygu gwell gwybodaeth /data i fod yn sail well i weithredu, rheoli perfformiad a chynllunio busnes -Taenlen newydd i fonitro yn well geisiadau byw yn awr ar waith -Taenlen newydd yn crynhoi ceisiadau posib ar y gweill - (gwneud gwaith pwysig mewn perthynas â chynllunio cyllidebol a baich gwaith) -Taenlen newydd i reoli blaengynllunio Agendau y Pwyllgor Cynllunio ar y gweill -Cyfarfodydd Rheolwyr Wythnosol i adolygu ac ymateb i wybodaeth a ddaliwyd uchod: Canolbwynt ar gwrdd â thargedau cyflwyno ceisiadau diweddar a ‘glanhau’ ceisiadau hŷn yn y system -osod mesurau i ddal gwybodaeth sydd ei angen yn y Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy fel sydd

Page 15: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

wedi ei osod allan yn Fframwaith Perfformiad yr ABB -Cyfarfodydd monitro cyllidebau misol gyda’r Adran Gyllid Ganolog a Chyfrifydd Ardal y Gwasanaeth yn awr yn digwydd -Datblygu gwell tystiolaeth ynghylch costau darparu gwasanaethau Cynllunio -Gwaith pellach ar y ‘dashfwrdd perfformiad’ a mesur llwyddiant yn y modd mwyaf llwyddiannus gan gynnwys gofalu fod pob gwybodaeth a gesglir yn gyfoes, wedi ei ddal yn gyson ac yn gywir 3.6 Fframwaith Perfformiad Mae dadansoddi perfformiad yn erbyn y dangosyddion a osodir allan yn y Fframwaith Perfformiad wedi helpu i fod yn sail o wybodaeth i’r amrywiaeth o fesurau sydd yn yr Adran uchod. Hefyd, darperir sylw byr ar gyfer pob dangosydd yn yr Adran Fframwaith Perfformiad gan gynnwys gwybodaeth gyd-destunol fel rhan o’r ymateb. Dylid nodi, hyd yn oed mor gynnar â hyn yn yr agwedd newydd at wella’r gwasanaeth, fod proses yr ABB wedi bod yn fuddiol iawn o ran taflu goleuni ar nifer o faterion ac anghysonderau oedd yn deillio ohonynt ynghylch y modd mae data yn cael ei ddal a’i roi wedi hynny yn nangosyddion y Fframwaith Perfformiad. Yn benodol, ymddengys nad yw’r canlyniadau am nifer fechan o ddangosyddion (amser a gymerir ar gyfartaledd i bennu pob cais yn ôl dyddiau a dangosyddion yn ymwneud â Gorfodaeth) yn adlewyrchiad manwl gywir o’r perfformiad fel y mae, ac nid oedd data wedi ei gyflwyno ar gyfer pob dangosyn Gorfodaeth. Felly, ymchwiliwyd yn eithaf manwl i’r broses sydd gennym o ddal data, gan ddatgelu nad yw’r trefniadau adrodd cystal ag y dylent fod. Cododd anghysonderau o ganlyniad i ddata yn cael ei ddal trwy wahanol adroddiadau yn ymdrin â gwahanol gyfnodau (misol, chwarterol a blynyddol) ac at wahanol ddibenion (dangosyddion cenedlaethol a lleol). Cymhlethwyd hyn ymhellach oherwydd bod peth data yn cael ei fewnbynnu â llaw i ategu adroddiadau a redir gan y pecyn meddalwedd Rheoli Datblygu, sydd yn golygu fod problemau gyda systemau TG a’u gallu i addasu a chyfoesi yn rhwydd, ynghyd â’r ffaith fod y Swyddog sy’n arwain ar adrodd am berfformiad ac E-Lywodraeth ar absenoldeb mamolaeth ar hyn o bryd. Yn fyr, canlyniad hyn yw bod data ar hyn o bryd yn cael ei ddal yn anghyson, gan nad yw adroddiadau misol yn cyfateb yn gywir i adroddiadau chwarterol (am y 3 mis cyfatebol) ac nad ydynt yn cael eu cydamseru 100% gydag adroddiadau blynyddol (lle mae adroddiadau’n cael eu rhoi i mewn â llaw ar gyfer rhai dangosyddion). Fodd bynnag, y mae ‘sylfaen’ y wybodaeth o ran nifer y ceisiadau a bennir yn gadarn, ynghyd â’r data yn ymwneud â’r rhan fwyaf o ddangosyddion. Bydd systemau newydd llyfnach felly yn cael eu datblygu fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau fod amrediad cywir y data yn cael ei ddal yn gywir yn fisol, a defnyddir y data hwn wedyn yn uniongyrchol fel sail o wybodaeth i adroddiadau chwarterol a blynyddol i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn enghraifft o sut y mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn cymryd agwedd gyda mwy o ffocws tuag at reoli perfformiad. Mae hefyd yn dangos sut y mae’r agwedd gadarnach newydd at reoli perfformiad yn ôl gofynion proses yr AMB yn creu gwelliannau i gasglu data perfformiad, cam cyntaf hanfodol o ran cael tystiolaeth o gynnydd dros amser a bod yn sail i ddadleuon yn y dyfodol.

Page 16: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

BETH YW BARN DEFNYDDWYR GWASANAETH

Yn 2014-15 fe wnaethom gynnal dau arolwg boddhad cwsmeriaid gyda’r nod o asesu barn pobl oedd wedi derbyn penderfyniad ar gais cynllunio yn ystod y cyfnod. Yr oedd y cyntaf yn ymdrin â’r cyfnod Ebrill 2014 - Medi 2014 a’r ail yn ymdrin â’r cyfnod Hydref 2014 - Mawrth 2015. Mae’r adborth isod yn seiliedig ar ganlyniadau cyfun y naill arolwg a’r llall.

Anfonwyd yr arolygon at 1137 o bobl, gyda 16% ohonynt wedi cyflwyno ymateb cyflawn neu rannol. Yr oedd mwyafrif yr ymatebion (55%) gan asiantwyr lleol. Daeth 29% o aelodau’r cyhoedd. Yr oedd 8% o’r ymatebwyr wedi cael eu cais cynllunio diweddaraf wedi ei wrthod.

Fe wnaethom ofyn i ymatebwyr a oeddent yn cytuno neu’n anghytuno a chyfres o osodiadau am y gwasanaeth cynllunio. Rhoddwyd y dewisiadau isod o ran atebion:

• Cytuno’n gryf; • Tueddu i gytuno; • Heb gytuno nac anghytuno; • Tueddu i anghytuno; ac • Anghytuno’n gryf.

Dengys Tabl 1 ganran yr ymatebwyr a ddewisodd naill ai ‘tueddu i gytuno’ neu ‘cytuno’n gryf’ ar gyfer pob gosodiad am ein hawdurdod cynllunio ni a Chymru.

Tabl 1: Canran yr ymatebwyr oedd yn cytuno â phob gosodiad, 2014-15

%

Canran yr ymatebwyr oedd yn cytuno fod: ACLl Caerdydd

Cymru

Yr ACLl yn gorfodi eu rheolau cynllunio yn deg a chyson 48 45 Roedd yr ACLl yn rhoi cyngor da i’w helpu i wneud cais llwyddiannus 57 57 Mae’r ACLl yn rhoi help trwy’r adeg, gan gynnwys gydag amodau 43 48 Ymatebodd yr ACLl yn brydlon pan oedd ganddynt gwestiynau 52 55 Cawsant wrandawiad am eu cais 52 56 Yr oeddent yn cael y newyddion diweddaraf am eu cais 43 46 Yr oeddent yn fodlon yn gyffredinol am y modd y triniodd yr ACLl eu cais 58 57

Gofynasom hefyd i ymatebwyr ddewis tri o nodweddion o’r gwasanaeth cynllunio o restr a fyddai, yn eu barn hwy, o fwyaf o help i gael datblygiadau llwyddiannus. Dengys Ffigwr 1 pa mor aml y dewiswyd pob nodwedd fel canran o gyfanswm nifer y detholiadau. I ni, 'cael penderfyniad cyflym ar gais a gyflwynwyd' oedd y dewis mwyaf poblogaidd.

Page 17: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Ffigwr 1: Nodweddion gwasanaeth cynllunio da, ACLl Caerdydd, 2014-15

Ymysg y sylwadau a dderbyniwyd roedd:

"Does dim hanner digon o adnoddau gan Adran Gynllunio Caerdydd. Rwy’n teimlo dros y Cynllunwyr sy’n gwneud eu gorau dan amgylchiadau eithriadol o anodd. " [sic]

"Gwasanaeth cyson ragorol. Yn cyfathrebu, yn gyson, ac yn broffesiynol dros ben. Adran weinyddol hynod o gwrtais, hefyd."

"Ein profiad ni yw fod yr awdurdod hwn yn cyflogi staff deallus a chymorthgar, ond mae prinder staff difrifol yn arwain at oedi annerbyniol cyn prosesu pob cais."

Page 18: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

EIN PERFFORMIAD 2014-15

Mae’r adran hon yn rhoi manylion am ein perfformiad yn 2014-15. Mae’n ystyried dangosyddion y Fframwaith Perfformiad Cynllunio a data arall sydd ar gael i helpu i roi llun cyflawn o berfformiad. Lle bo hynny’n briodol, rydym yn gwneud cymariaethau rhwng ein perfformiad ni a darlun Cymru gyfan.

Mae perfformiad yn cael ei ddadansoddi ar draws pum agwedd allweddol o gyflwyno’r gwasanaeth cynllunio fel sy’n cael ei osod allan yn y Fframwaith Perfformiad Cynllunio: • Gwneud cynllun; • Effeithiolrwydd; • Ansawdd; • Ymwneud; a • Gorfodaeth.

Gwneud cynllun

Fel ar 31 Mawrth 2015, ni oedd un o’r 4 ACLl nad oedd yn meddu ar gynllun datblygu cyfredol. Yr ydym ar hyn o bryd yn gweithio tuag at fabwysiadu ein CDLl a rhagwelir y bydd yn cael ei fabwysiadu yn gynnar yn 2016. Yn dilyn Cytundeb Cyflwyno diwygiedig gyda Llywodraeth Cymru yn Rhagfyr 2011, rhyw 4 blynedd yn ôl, yr ydym wedi bwrw ymlaen yn hollol unol â’r amserlen y cytunwyd arni, gan gyflwyno’r Cynllun Adnau i’w archwilio erbyn y dyddiad a fynnwyd ym mis Awst 2014.

Fodd bynnag, tynnodd y Cyngor ei ymgais gyntaf i baratoi CDLl yn ôl yng ngoleuni’r pryderon sylweddol a godwyd gan yr Arolygwyr, gyda diffyg tystiolaeth i gefnogi agwedd ‘tir llwyd yn unig’ tuag at gwrdd ag anghenion tai yn achos pryder. Felly, o ystyried y Cytundeb Cyflwyno yng nghyswllt y CDLl a dynnwyd yn ôl, dengys hyn ein bod 70 mis y tu ôl i’r dyddiad mabwysiadu a nodwyd yn y Cytundeb Cyflwyno hwn.

Yn ystod cyfnod yr ABB, nodwyd cyflenwad 3.6 blynedd o dir ar gyfer tai, a’n gwnaeth yn un o 18 ACLl yng Nghymru heb y cyflenwad 5 mlynedd angenrheidiol. Fodd bynnag, dangosodd tystiolaeth a gyflwynwyd i’r broses archwilio CDLl sut y gall y CDLl osod mewn lle fframwaith dan arweiniad y cynllun i gynhyrchu cyflenwad 5 mlynedd ynghyd â chwrdd ag anghenion dros gyfnod y cynllun 2006-26.

Effeithiolrwydd

Yn 2014-15 fe wnaethom bennu 2,596 o geisiadau cynllunio, gyda phob un yn cymryd, ar gyfartaledd, yn ôl gwybodaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, 39 diwrnod (6 wythnos) i’w pennu. Mae hyn yn cymharu â chyfartaledd o 76 diwrnod (11 wythnos) ar draws Cymru. Dengys Ffigwr 2 gyfartaledd yr amser a gymerwyd gan bob ACLl i bennu cais yn ystod y flwyddyn.

Page 19: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Ffigwr 2: Amser a gymerwyd ar gyfartaledd (dyddiau) i bennu ceisiadau, 2014-15

Pennwyd 65% o’r holl geisiadau cynllunio o fewn yr amser angenrheidiol. Hwn oedd y pumed canran isaf yng Nghymru ac yr oedd yn is na’r targed o 80%. 5 yn unig o’r 25 ACLl wnaeth gwrdd â’r targed o 80%.

Fodd bynnag, yr ydym wedi edrych yn fanylach ar gadernid y wybodaeth a gyflwynwyd fel sail i’r ffigwr hwn ym mharagraff 3.6 uchod. Datgelodd hyn anghysondeb arwyddocaol sydd yn cael ei amlinellu’n llawnach yn ymateb Atodiad A i’r dangosydd hwn. I grynhoi, mae’r ffigwr a ddyfynnwyd yn anghywir - 80 diwrnod a ddylai fod.

Dengys Ffigwr 3 ganran y ceisiadau cynllunio a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol ar draws y pedwar prif fath o gais ar gyfer ein ACLl ni ac ar gyfer Cymru. Dengys i ni bennu 71% o geisiadau gan ddeiliaid tai o fewn yr amser angenrheidiol.

Ffigwr 3: Canran o geisiadau cynllunio a bennwyd o fewn yr amserlenni angenrheidiol, yn ôl math, 2014-15

Page 20: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Rhwng 2013-14 a 2014-15, fel y dengys Ffigwr 4, gostyngodd canran y ceisiadau cynllunio a bennwyd gennym o fewn yr amser angenrheidiol o 72%. Gwelodd Cymru gynnydd yn y flwyddyn honno.

Ffigwr 4: Canran o geisiadau cynllunio a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol

Dros yr un cyfnod: • Cynyddodd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd gennym; • Cynyddodd nifer y ceisiadau a bennwyd gennym; a • Cynyddodd nifer y ceisiadau a gymeradwywyd gennym.

Ceisiadau mawr

Fe wnaethom bennu 37 cais cynllunio mawr yn 2014-15, gyda 14% (5 o geisiadau) yn destun AEA. Cymerodd pob cais (gan gynnwys y rhai oedd yn destun AEA) ar gyfartaledd 172 diwrnod (25 wythnos) i’w pennu. Fel y dengys Ffigwr 5, yr oedd hyn yn llai na chyfartaledd Cymru o 206 diwrnod (29 wythnos).

Ffigwr 5: Amser cyfartalog (dyddiau) a gymerwyd i bennu cais mawr, 2014-15

Page 21: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Pennwyd 8% o’r ceisiadau mawr hyn o fewn yr amser angenrheidiol, y canran ail isaf o holl ACLl Cymru.

Dengys Ffigwr 6 ganran y ceisiadau a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol yn ôl y math o gais mawr. Pennwyd 6% o’n ceisiadau mawr ‘safonol’, h.y., y rhai lle nad oedd angen AEA, o fewn yr amser angenrheidiol yn ystod y flwyddyn.

Ffigwr 6: Canran y ceisiadau mawr a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol yn ystod y flwyddyn, yn ôl math, 2014-15

Ers 2013-14 yr oedd canran y ceisiadau mawr a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol wedi gostwng o 22%. Yn yr un modd, gostyngodd nifer y ceisiadau mawr a bennwyd tra’r arhosodd nifer y ceisiadau oedd yn destun AEA a bennwyd yn ystod y flwyddyn yr un fath.

Dengys Ffigwr 7 y duedd yng nghanran y ceisiadau cynllunio mawr a bennwyd o fewn yr amser dros y blynyddoedd diwethaf a sut y mae hyn yn cymharu â gweddill Cymru.

Ffigwr 7: Canran y ceisiadau cynllunio mawr a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol

Page 22: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Dros yr un cyfnod: • Gostyngodd canran y ceisiadau llai a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol o 71% i 67%;

• Gostyngodd canran y ceisiadau deiliaid tai a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol o 75% i 71%; a

• Gostyngodd canran y ceisiadau eraill a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol o 76% i 65%.

Ansawdd

Yn nau chwarter olaf 2014-15 (Hydref 2014 – Mawrth 2015) gwnaeth ein Pwyllgor Cynllunio 41 o benderfyniadau ceisiadau cynllunio, oedd yn cyfateb i 3% o’r holl geisiadau cynllunio a bennwyd. Ar draws Cymru, gwnaed 7% o bob penderfyniad ar geisiadau cynllunio gan bwyllgor cynllunio dros yr un cyfnod.

Aeth 10% o’r penderfyniadau hyn gan aelodau yn groes i gyngor swyddogion. Yr oedd hyn yn cymharu ag 11% o benderfyniadau gan aelodau a wnaed dros Gymru gyfan. Y mae hyn yn cyfateb i 0.3% o bob penderfyniad ar geisiadau cynllunio a aeth yn erbyn cyngor swyddogion; 0.7% ar draws Cymru gyfan.

Yn 2014-15 derbyniasom 42 apêl yn erbyn ein penderfyniadau cynllunio, oedd yn gyfystyr â 1.4 apêl am bob 100 cais a dderbyniwyd. Ar draws Cymru, derbyniwyd 1.9 apêl am bob 100 cais. Dengys Ffigwr 8 sut mae nifer yr apeliadau a dderbyniwyd wedi newid ers 2013-14 a sut y mae hyn yn cymharu â gweddill Cymru.

Ffigwr 8: Nifer apeliadau a dderbyniwyd am bob 100 cais cynllunio

Dros yr un cyfnod, cododd canran y ceisiadau cynllunio a gymeradwywyd o 90% i 94%.

O’r 45 apêl a bennwyd yn ystod y flwyddyn, gwrthodwyd 67%. Fel y dengys Ffigwr 9, yr oedd hyn yn uwch na chanran yr apeliadau a wrthodwyd ar draws Cymru gyfan, a ni oedd un o’r 14 ACLl a gyrhaeddodd y targed o 66%.

Page 23: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Ffigwr 9: Canran apeliadau a wrthodwyd, 2014-15

Yn ystod 2014-15 ni chawsom unrhyw geisiadau am gostau am apêl adran 78 a gadarnhawyd.

Ymwneud

Yr ydym yn: • un o’r 22 ACLl sy’n caniatau i aelodau o’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Cynllunio; ac yn

• un o’r 20 ACLl oedd a chofrestr ar-lein o geisiadau cynllunio, y gall aelodau’r cyhoedd ei gyrchu, olrhain eu hynt (a gweld eu cynnwys).

Fel y dengys Tabl 2, yr oedd 57% o’r sawl a ymatebodd i’n harolwg boddhad cwsmeriaid yn 2014-15 yn cytuno fod yr ACLl yn rhoi cyngor da i’w helpu i wneud cais llwyddiannus.

Tabl 2: Adborth o’n harolwg boddhad cwsmeriaid 2014-15

%

Canran yr ymatebwyr oedd yn cytuno fod: ACLl Caerdydd

Cymru

Yr ACLl wedi rhoi cyngor da i’w helpu i wneud cais llwyddiannus 57 57 Y gwrandawyd arnynt ynghylch eu cais 52 56

Gorfodaeth

Yn 2014-15 fe wnaethom ymchwilio i 8 achos gorfodaeth, sy’n gyfystyr â 0.02 am bob 1,000 o boblogaeth. Dyma’r gyfradd isaf yng Nghymru. 1

1 Nid oes cymariaethau cadarn ar gael ar hyn o bryd gan mai dim ond 14 o’r 25 ACLl a gyflenwodd ddata ar gyfer y dangosydd hwn

Page 24: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Fe wnaethom ymchwilio i 50% o’r achosion gorfodaeth hyn ymhen 84 diwrnod. Ar draws Cymru, ymchwiliwyd i 66% ymhen 84 diwrnod. Dengys Ffigwr 10 ganran yr achosion gorfodaeth yr ymchwiliwyd iddynt ymhen 84 diwrnod ar draws pob ACLl yng Nghymru.

Ffigwr 10: Canran achosion gorfodaeth yr ymchwiliwyd iddynt ymhen 84 diwrnod, 2014-15

Dros yr un cyfnod, fe wnaethom ddatrys 20 achos gorfodaeth, gan gymryd, ar gyfartaledd, 72 diwrnod i ddatrys pob achos.

Cymerwyd 75% o’r camau gorfodi hyn ymhen 180 diwrnod i gychwyn yr achos. Fel y dengys Ffigwr 11 mae hyn yn cymharu â 77% o achosion gorfodaeth a gafodd eu datrys ymhen 180 diwrnod ar draws Cymru.

Fodd bynnag, yr ydym wedi edrych i mewn yn fanylach i’r wybodaeth a gyflwynwyd fel sail i’r ffigyrau hyn fel y nodir ym mharagraff 3.6 uchod. Datgelodd hyn anghysonderau arwyddocaol sydd yn cael eu hamlinellu yn llawnach yn yr ymateb yn Atodiad A i’r dangosyddion hyn ac y maent yn adlewyrchu’r materion a ddaeth i’r amlwg wrth ymateb i’r dangosyddion newydd hyn. I grynhoi, dylai canran yr achosion yr ymchwiliwyd iddynt ymhen 84 diwrnod fod yn 75% (nid 50%) ond oherwydd y problemau a nodwyd, nid oes modd cadarnhau ffigyrau am y 3 dangosydd arall. Fodd bynnag, fe wnaethom ddatrys rhwng 600-800 o achosion gorfodaeth dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ystod 2014-15, cyhoeddwyd 16 Rhybudd Gorfodaeth gennym.

Ffigwr 11: Canran o achosion gorfodaeth a gafodd eu datrys ymhen 180 diwrnod, 2014-15

Page 25: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth
Page 26: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

ATODIAD A - FFRAMWAITH PERFFORMIAD TROSOLWG

MESUR DA GWEDDOL GWELLA

CYFARTALEDD CYMRU

ACLl Caerdydd LLYNEDD

ACLl Caerdydd

ELENI Gwneud cynllun A oes Cynllun Datblygu cyfredol ar gael sydd o fewn cyfnod y cynllun? Oes Na Oes Na Na

Paratoi’r CDLl yn gwyro oddi wrth y dyddiadau a nodwyd yn y Cytundeb Cyflwyno gwreiddiol, mewn misoedd <12 13-17 18+ 60 70 70

Adroddiadau Monitro Blynyddol yn cael eu cynhyrchu yn dilyn mabwysiadu’r CDLl Oes Na Yes D/G D/G

Cyflenwad tir yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer tai, mewn blynyddoedd >5 4-4.9 <4 4.2 2.9 3.6

Effeithiolrwydd Canran ceisiadau “mawr” a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol

Heb eu gosod

Heb eu gosod

Heb eu gosod

24 22 8

Amser a gymerwyd ar gyfartaledd i bennu ceisiadau “mawr” mewn dyddiau

Heb eu gosod

Heb eu gosod

Heb eu gosod

206 Dim Data 172

Canran o bob cais a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol >80 60.1-79.9 <60 73 72 65 Amser a gymerwyd ar gyfartaledd i bennu pob cais mewn dyddiau Heb eu

gosod Heb eu gosod

Heb eu gosod

76 Na data 39

Ansawdd Canran o benderfyniadau a wnaed gan Aelodau yn erbyn cyngor swyddogion

Heb eu gosod

Heb eu gosod

Heb eu gosod

11 0.2 10

Canran apeliadau a wrthodwyd >66 55.1-65.9 <55 66 63 67 Ceisiadau am gostau apêl Adran 78 a gadarnhawyd yn y cyfnod adrodd 0 1 2 0 1 0

Ymwneud A yw’r awdurdod cynllunio lleol yn caniatau i aelodau’r cyhoedd Ydyw Na Ydyw Ydyw Ydyw

Page 27: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

MESUR DA GWEDDOL GWELLA

CYFARTALEDD CYMRU

ACLl Caerdydd LLYNEDD

ACLl Caerdydd

ELENI annerch y Pwyllgor Cynllunio? A oes gan yr awdurdod cynllunio lleol swyddog ar ddyletswydd i roi cyngor i aelodau’r cyhoedd? Oes Na - - -

A oes gan wefan yr awdurdod cynllunio lleol gofrestr arlein o geisiadau cynllunio, y gall aelodau’r cyhoedd gyrchu, dilyn eu hynt (a gweld eu cynnwys)?

Oes Rhannol Na

Oes Oes Oes

Gorfodaeth Canran achosion gorfodaeth yr ymchwiliwyd iddynt (pennu a dorrwyd rheolaeth cynllunio, ac os felly, a gawsant eu datrys, boed angen camau gorfodi neu beidio) o fewn 84 diwrnod

Heb eu gosod

Heb eu gosod

Heb eu gosod

66 Dim Data 50

Amser a gymerwyd ar gyfartaledd i ymchwilio i achosion gorfodaeth

Heb eu gosod

Heb eu gosod

Heb eu gosod

71 Dim Data Dim Data

Canran achosion gorfodaeth lle cymerwyd camau gorfodaeth neu y derbyniwyd cais ôl-weithredol o fewn 180 diwrnod o gychwyn yr achos (yn yr achosion hynny lle’r oedd angen gorfodi)

Heb eu gosod

Heb eu gosod

Heb eu gosod

77 Dim Data 75

Amser a gymerwyd ar gyfartaledd i gymryd camau gorfodaeth Heb eu gosod

Heb eu gosod

Heb eu gosod

175 Dim Data 71.5

Page 28: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

ADRAN 1 – GWNEUD CYNLLUN

Dangosydd 01. A oes Cynllun Datblygu cyfredol ar gael sydd o fewn cyfnod y cynllun?

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Mae cynllun datblygu (CDLl neu CDU)ar gael ac o fewn cyfnod y cynllun

D/G Nid oes cynllun datblygu ar gael (gan gynnwys lle daeth y cynllun i ben)

Perfformiad yr Awdurdod Na- Gweler nodiadau esboniadol isod Rhagwelir y daw Adroddiad yr Arolygwyr ym mis Rhagfyr 2015 felly y gobaith yw y mabwysedir y CDLl yn gynnar yn 2016.

Dangosydd 02. Paratoi’r CDLl yn gwyro oddi wrth y dyddiadau a nodwyd yn y Cytundeb Cyflwyno gwreididol, mewn misoedd

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Bwrir ymlaen â’r CDLl o fewn 12 mis o’r dyddiadau a nodwyd yn y Cynllun Cyflwyno gwreiddiol

Bwrir ymlaen â’r CDLl rhwng 12 a 18 mis o’r dyddiadau a nodwyd yn y Cynllun Cyflwyno gwreiddiol

Bwrir ymlaen â’r CDLl fwy na 18 yn hwyrach na’r dyddiadau a nodwyd yn y Cynllun Cyflwyno gwreiddiol

Perfformiad yr Awdurdod 70- Gweler nodiadau esboniadol isod ar amserlenni CC Yn dilyn Cytundeb Cyflwyno diwygiedig gyda Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2011, rhyw 4 blynedd yn ôl, yr ydym wedi bwrw ymlaen yn hollol unol â’r amserlen y cytunwyd arni, gan gyflwyno’r Cynllun Adnau i’w archwilio erbyn y dyddiad angenrheidiol ym mis Awst 2014.

Fodd bynnag, tynnodd y Cyngor eu hymdrech gyntaf i baratoi CDLl yn ôl yng ngoleunio pryderon sylweddol a godwyd gan yr Arolygwyr, gyda diffyg tystiolaeth i gefnogi’r strategaeth ‘tir llwyd yn unig’ i gwrdd ag anghenion tai yn brif fater pryder. Felly, o gadw mewn cof fod a wnelo’r Cytundeb Cyflwyno gwreiddiol â’r CDLl a dynnwyd yn ôl, dengys hyn ein bod 70 mis y tu ôl i’r dyddiad mabwysiadu a nodwyd yn y Cytundeb Cyflwyno gwreiddiol hwn.

Page 29: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Dangosydd 03. Adroddiadau Monitro Blynyddol yn cael eu cynhyrchu yn dilyn mabwysiadu’r CDLl

“Da” “Angen gwella” Mae AMB i fod yn barod, ac wedi ei baratoi

Mae AMB i fod yn barod, ac nid yw wedi ei baratoi

Perfformiad yr Awdurdod D/G Paratowyd AMB cynhwysfawr gan y Cyngor fel rhan o broses archwilio’r CDLl. Fe’i hystyrir yn sail arbennig o gynhwysfawr ar gyfer monitro yn y dyfodol ac y mae’n cynnwys dros 100 o ddangosyddion.

Dangosydd 04. Cyflenwad tir yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer tai, mewn blynyddoedd

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Mae gan yr awdurdod gyflenwad tir tai o fwy na 5 mlynedd

Mae gan yr awdurdod gyflenwad tir tai o rhwng 4 a 5 mlynedd

Mae gan yr awdurdod gyflenwad tir tai o lai na 4 blynedd

Perfformiad yr Awdurdod 3.6- Gweler y sefyllfa ddiweddaraf isod Dangosodd tystiolaeth a gyflwynwyd i’r broses archwilio’r CDLl sut y gall y CDLl osod fframwaith dan arweiniad y cynllun i ddwyn gerbron gyflenwad 5 mlynedd ynghyd â chwrdd anghenion dros gyfnod y cynllun 2006-26. Gan y rhagwelir Adroddiad yr Arolygwyr ym mis Rhagfyr 2015, y gobaith yw y mabwysiedir y Cynllun yn gynnar yn 2016.

Page 30: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

ADRAN 2 - EFFEITHIOLRWYDD

Dangosydd 05. Canran ceisiadau “mawr” a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi

Perfformiad yr Awdurdod 8 Mae Caerdydd yn prosesu nifer fawr o geisiadau mawr cymhleth yng nghyd-destun Cymru, sy’n cael dylanwad clir ar y dangosydd hwn. Mae natur llawer o’r ceisiadau hyn yn gymhleth eithriadol, sy’n aml yn rhoi bod i ofynion Rheoliadau AEA ac sy’n mynnu llofnodi Cytundebau Adran 106 hirfaith, sydd weithiau yn galw am drafodaethau estynedig rhwng y Cyngor, tirfeddianwyr a datblygwyr. Er enghraifft, mae ceisiadau mawr diweddar wedi cynnwys Pencadlys newydd y BBC yn y Sgwâr Canolog, nifer o adeiladau uchel dros 20 llawr a chynigion datblygu cynhwysfawr am bedwar estyniad trefol ar dir glas, fyddai’n golygu rhyw 9,000 o gartrefi newydd ynghyd â seilwaith trafnidiaeth, cymdeithasol a chymunedol i’w cefnogi. I roi cyd-destun ehangach y DU, mae Arolwg Cynllunio Blynyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ym mis Hydref 2015 gan GL Hearn yn darparu data ynghylch amseroedd pennu ceisiadau mawr yn rhai o ddinasoedd craidd y DU ac y mae felly yn cynnig cymhariaeth fuddiol â Chaerdydd. Nododd yr adroddiad, er bod swm y ceisiadau mawr wedi cwympo, “codi wnaeth yr amser cyfartalog cyffredinol o gyflwyno hyd at bennu ar draws Lludnain Fwyaf, Manceinion Fwyaf a Bryste a’r ardal o amgylch o 10% o gymharu a llynedd, o 28 wythnos i 32 wythnos”. Amser cyfartalog Caerdydd i bennu ceisiadau mawr yn 2014/15 oedd 24.5 wythnos felly mae hyn yn cymharu’n ffafriol â’r wybodaeth am Ddinasoedd Craidd sydd yn Arolwg Cynllunio Blynyddol GL . O edrych ar ddata Cymru ochr yn ochr â data ehangach y DU, efallai bod cysylltiad rhwng cymhlethdod a nifer y ceisiadau mawr sy’n cael eu prosesu a’u heffaith dilynol ar amseroedd penderfynu. Yng nghyd-destun Cymru, mae gan Gaerdydd nifer uchel o geisiadau mawr cymhleth, ond mae’r amseroedd penderfynu yn hwy na’r cyfartaledd, ond yng nghyd-destun ehangach y Dinasoedd Craidd, mae gan Gaerdydd lai o geisiadau mawr cymhleth, ond mae’r amseroedd penderfynu yn fyrrach. Er y gellid dadlau fod yr hypothesis hon yn or-syml, bydd Caerdydd yn ymwneud yn uniongyrchol â Dinasoedd Craidd y DU i edrych i mewn ymhellach i feincnodi perfformiad perthnasol ( a byddant yn mynychu Grŵp Cynllunio nesaf Dinasoedd Craidd y DU). Fodd bynnag, mae Caerdydd wedi ymrwymo’n llawn i wneud gwelliannau i’r Gwasanaeth Cynllunio gyda’r amrywiaeth o fesurau a osodir allan yn Adran 3.5 sydd yn datgan agwedd gynhwysfawr tuag at fynd i’r afael â’r heriau sylweddol a wynebir.

Dangosydd 06. Amser a gymerwyd ar gyfartaledd i bennu ceisiadau “mawr” mewn dyddiau

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi

Page 31: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Perfformiad yr Awdurdod 172 Mae Caerdydd yn prosesu nifer fawr o geisiadau mawr cymhleth yng nghyd-destun Cymru, sy’n cael dylanwad clir ar y dangosydd hwn. Mae natur llawer o’r ceisiadau hyn yn gymhleth eithriadol, sy’n aml yn rhoi bod i ofynion Rheoliadau AEA ac sy’n mynnu llofnodi Cytundebau Adran 106 hirfaith, sydd weithiau yn galw am drafodaethau estynedig rhwng y Cyngor, tirfeddianwyr a datblygwyr. Er enghraifft, mae ceisiadau mawr diweddar wedi cynnwys Pencadlys newydd y BBC yn y Sgwâr Canolog, nifer o adeiladau uchel dros 20 llawr a chynigion datblygu cynhwysfawr am bedwar estyniad trefol ar dir glas, fyddai’n golygu rhyw 9,000 o gartrefi newydd ynghyd â seilwaith trafnidiaeth, cymdeithasol a chymunedol i’w cefnogi. I roi cyd-destun ehangach y DU, mae Arolwg Cynllunio Blynyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ym mis Hydref 2015 gan GL Hearn yn darparu data ynghylch amseroedd pennu ceisiadau mawr yn rhai o ddinasoedd craidd y DU ac y mae felly yn cynnig cymhariaeth fuddiol â Chaerdydd. Nododd yr adroddiad, er bod swm y ceisiadau mawr wedi cwympo, “codi wnaeth yr amser cyfartalog cyffredinol o gyflwyno hyd at bennu ar draws Lludnain Fwyaf, Manceinion Fwyaf a Bryste a’r ardal o amgylch o 10% o gymharu a llynedd, o 28 wythnos i 32 wythnos”. Amser cyfartalog Caerdydd i bennu ceisiadau mawr yn 2014/15 oedd 24.5 wythnos felly mae hyn yn cymharu’n ffafriol â’r wybodaeth am Ddinasoedd Craidd sydd yn Arolwg Cynllunio Blynyddol GL . O edrych ar ddata Cymru ochr yn ochr â data ehangach y DU, efallai bod cysylltiad rhwng cymhlethdod a nifer y ceisiadau mawr sy’n cael eu prosesu a’u heffaith dilynol ar amseroedd penderfynu. Yng nghyd-destun Cymru, mae gan Gaerdydd nifer uchel o geisiadau mawr cymhleth, ond mae’r amseroedd penderfynu yn hwy na’r cyfartaledd, ond yng nghyd-destun ehangach y Dinasoedd Craidd, mae gan Gaerdydd lai o geisiadau mawr cymhleth, ond mae’r amseroedd penderfynu yn fyrrach. Er y gellid dadlau fod yr hypothesis hyn yn or-syml, bydd Caerdydd yn ymwneud yn uniongyrchol â Dinasoedd Craidd y DU i edrych i mewn ymhellach i feincnodi perfformiad perthnasol ( a byddant yn mynychu Grŵp Cynllunio nesaf Dinasoedd Craidd y DU). Fodd bynnag, mae Caerdydd wedi ymrwymo’n llawn i wneud gwelliannau i’r Gwasanaeth Cynllunio gyda’r amrywiaeth o fesurau a osodir allan yn Adran 3.5 sydd yn datgan agwedd gynhwysfawr tuag at fynd i’r afael â’r heriau sylweddol a wynebir.

Dangosydd 07. Canran o’r holl geisiadau a bennwyd o fewn yr amser angenrheidiol

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Pennir mwy na 80% o geisiadau o fewn y cyfnod amser statudol

Pennir rhwng 60% a 80% o geisiadau o fewn y cyfnod amser statudol

Pennir llai na 60% o geisiadau o fewn y cyfnod amser statudol

Perfformiad yr Awdurdod 65 Er ein bod yn nodi’r gradd ‘gweddol’, yr ydym yn cydnabod fod hyn yn is na’r targed o 80% ac mai dyma’r pumed canra isaf yng Nghymru. Dengys y dadansoddiad fod y broblem yn amlycaf gyda

Page 32: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

cheisiadau mawr, mater yr ymdrinnir ag ef yn y dangosyddion uchod. Ymhellach, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu’r agwedd i geisio sicrhau safon derbyniol mewn ceisiadau yn hytrach na gwrthod ceisiadau a all fod ddim mwy nag un newid ymaith o fod yn dderbyniol. Ystyrir hyn yn agwedd ddilys yn ôl yr agenda gynllunio gadarnhaol, ond bydd o raid yn cael effaith ar benderyfniadau o fewn yr amseroedd targed. Yn amlwg, gyda’r cymalau ad-dalu yn y Rheoliadau Ffioedd Cynllunio newydd, rhoddir mwy o bwysau ar bennu ceisiadau yn brydlon, ond carai’r Cyngor barhau i fod yn rhagweithiol o ran cael cynlluniau derbyniol a bydd angen rheoli ceisiadau yn ofalus yn hyn o beth. Felly, caiff gwelliannau i reoli’r broses o wneud penderfyniadau eu hystyried fel rhan o’r gwelliannau ehangach i’r Gwasanaeth Cynllunio gyda’r amrywiaeth o fesurau a osodir allan yn Adran 3.5 sydd yn datgan agwedd gynhwysfawr tuag at fynd i’r afael â’r heriau sylweddol a wynebir.

Dangosydd 08. Amser a gymerwyd ar gyfartaledd i bennu pob cais mewn dyddiau

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi

Perfformiad yr Awdurdod 39 Fel y crybwyllwyd ym mharagraffau 3.6 ac yn yr Adran ar Berfformiad, yr ydym wedi edrych i mewn yn ddyfnach i gadernid y wybodaeth fel sail i’r ffigwr hwn, sydd wedi datgelu cryn anghysondeb. Ymddengys i’r data a gyflwynwyd gael ei fewnbynnu â llaw fel sail i’r adroddiad blynyddol, ac nad oedd wedi deillio o asesiad trylwyr o adroddiadau misol a chwarterol yn ystod 2014/15. Dylai’r ffigwr, seiliedig ar gofnodion misol cyfun y ceisiadau a bennwyd a nifer cyfartalog y dyddiau i bennu, fod yn 80.68 diwrnod. Yng nghyd-destun Cymru, byddai hyn yn dod yn agos at lefel gyfartalog o berfformiad (a dylid nodi, petai’r cofnodion yn cael eu cyfoesi i adlewyrchu’r anghysondeb hwn, byddai cyfartaledd Cymru yn cynyddu fymryn). O ystyried nifer uchel y ceisiadau a bennwyd, ystyrir hyn o hyd yn lefel derbyniol o berfformiad. Fodd bynnag, ar waethaf hyn, mae Caerdydd wedi ymrwymo’n llawn i wneud gwelliannau i’r Gwasanaeth Cynllunio gan gynnwys ymdrin â’r amser cyfartalog a gymerir i bennu ceisiadau gyda’r amrywiaeth o fesurau a osodir allan yn Adran 3.5 sydd yn datgan agwedd gynhwysfawr tuag at fynd i’r afael â’r heriau sylweddol a wynebir. Yn amlwg, mae cywirdeb adrodd yn y dyfodol yn fater sy’n cael ei drin fel mater o flaenoriaeth.

Page 33: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

ADRAN 3 - ANSAWDD

Dangosydd 09. Canran o benderfyniadau a wnaed gan Aelodau yn erbyn cyngor swyddogion

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi

Perfformiad yr Awdurdod 10 Mae 10% o benderfyniadau sy’n mynd yn erbyn cyngor Swyddogion yn is na chyfartaledd Cymru o 11%. Gwneir mwy o waith fel rhan o’r broses Cynllun Busnes i weld a oes unrhyw themâu yn dod i’r golwg yng nghyswllt sefyllfaoedd lle cymerwyd penderfyniadau yn erbyn cyngor Swyddogion, ac os felly, a oes lle i gymryd camau i ymateb.

Dangosydd 10. Canran apeliadau a wrthodwyd

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Mae mwy na 66% (dwy ran o dair) o benderfyniadau cynllunio wedi eu hamddiffyn yn llwyddiannus ar apêl

Mae rhwng 55% a 66% o benderfyniadau cynllunio wedi eu hamddiffyn yn llwyddiannus ar apêl

Mae llai na 55% o benderfyniadau cynllunio wedi eu hamddiffyn yn llwyddiannus ar apêl

Perfformiad yr Awdurdod 67- ‘Da’ Yn gyffredinol yng Nghaerdydd, gwnaed 1.4 apêl am bob 1,000 o geisiadau a dderbyniwyd. Mae hyn yn cymharu â 1.9 apêl am bob 1,000 o geisiadau a dderbyniwyd ar draws Cymru. O’r 45 apêl, gwrthodwyd 67% sydd yn cwrdd â’r targed o 66% sef dwy ran o dair o benderfyniadau yn cael eu hamddiffyn yn llwyddiannus ar apêl. Gwneir mwy o waith fel rhan o’r broses Cynllun Busnes i weld a oes unrhyw themâu yn dod i’r golwg a pha gamau cysylltiedig sydd eu hangen i ymateb iddynt.

Dangosydd 11. Ceisiadau am gostau apêl Adran 78 a gadarnhawyd yn y cyfnod adrodd

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Ni ddyfarnwyd costau yn erbyn yr awdurdod ar apêl

Dyfarnwyd costau yn erbyn yr awdurdod mewn un achos apêl

Dyfarnwyd costau yn erbyn yr awdurdod mewn dau neu fwy o achosion apêl

Perfformiad yr Awdurdod 0- ‘Da’ Ni ddyfarnwyd unrhyw gostau yn erbyn y Cyngor ar apêl.

Page 34: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

ADRAN 4 – YMWNEUD

Dangosydd 12. A yw’r awdurdod cynllunio lleol yn caniatau i aelodau’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Cynllunio?

“Da” “Angen gwella” Gall aelodau’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Cynllunio

Ni all aelodau’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Cynllunio

Perfformiad yr Awdurdod Ydyw- ‘Da’ Mae Protocol y Pwyllgor Cynllunio yn gosod allan drefniadau sy’n llywodraethu’r modd y gall y cyhoedd annerch y Pwyllgor Cynllunio a mynychu ymweliadau safle a wneir gan y Pwyllgor.

Dangosydd 13. A oes gan yr awdurdod cynllunio lleol swyddog ar ddyletswydd i roi cyngor i aelodau’r cyhoedd?

“Da” “Angen gwella” Gall aelodau’r cyhoedd geisio cyngor gan swyddog cynllunio ar ddyletswydd

Nid oes swyddog cynllunio ar ddyletswydd ar gael

Perfformiad yr Awdurdod Oes- ‘Da’ Mae cyngor i’r cyhoedd ar gael gan staff Derbynfa Neuadd y Sir, Swyddogion o’r Adran Bwyllgorau a hefyd Swyddogion Cynllunio.

Dangosydd 14. A oes gan wefan yr awdurdod cynllunio lleol gofrestr arlein o geisiadau cynllunio, y gall aelodau’r cyhoedd gyrchu, dilyn eu hynt (a gweld eu cynnwys)?

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Mae pob dogfen ar gael arlein Dim ond manylion y cais

cynllunio sydd ar gael arlein, rhaid ceisio cyrchu dogfennau eriall yn uniongyrchol

Ni cyhoeddir unrhyw wybodaeth am geisiadau cynllunio arlein

Perfformiad yr Awdurdod Oes- ‘Da’ Mae tudalennau Cynllunio gwefan y Cyngor yn cynnwys manylion cyfoes am bob cais cynllunio byw a gellir olrhain hynt ceisiadau unigol ynghyd â’r gallu i weld ymatebion i ymgynghori. Caiff aelodau’r cyhoedd wybod am y cyfleusterau hyn mewn llythyrau ymgynghori a anfonir allan i roi gwybod i’r cyhoedd am geisiadau newydd.

Page 35: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

ADRAN 5 – GORFODAETH

Dangosydd 15. Canran achosion gorfodaeth yr ymchwiliwyd iddynt (pennu a dorrwyd rheolaeth cynllunio, ac os felly, a gawsant eu datrys, boed angen camau gorfodi neu beidio) o fewn 84 diwrnod

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi

Perfformiad yr Awdurdod 50- Gweler yr esboniad isod Fel y crybwyllwyd yn yr Adran ar Berfformiad, yr ydym wedi edrych i mewn yn ddyfnach i gadernid y wybodaeth fel sail i’r ffigwr hwn, sydd wedi datgelu anghysondeb gyda’r data. Ymddengys i’r data a gyflwynwyd gael ei fewnbynnu â llaw fel sail i’r adroddiad blynyddol, ac nad oedd wedi deillio o asesiad trylwyr o adroddiadau misol a chwarterol yn ystod 2014/15. Y ffigwr cywir, seiliedig ar gofnodion cyfun misol o achosion gorfodaeth a gafodd eu datrys, yn datgelu fod 457 o 606 o achosion a ddatryswyd yn 2014/15 o fewn 84 diwrnod, sydd yn cadarnhau yr ymchwiliwyd i 75% o achosion ymhen 84 diwrnod. (Mae’r ffigwr o 50% felly yn anghywir ac angen ei gyfoesi). Yng nghyd-destun Cymru, byddai hyn yn dod yn agos at lefel gyfartalog o berfformiad (a dylid nodi, petai’r cofnodion yn cael eu cyfoesi i adlewyrchu’r anghysondeb hwn, byddai cyfartaledd Cymru yn cynyddu fymryn). O ystyried nifer uchel y ceisiadau yr ymchwiliwyd iddynt (dros 600) ystyrir hyn o hyd yn lefel derbyniol o berfformiad. Fodd bynnag, dylid nodi fod Caerdydd wedi ymrwymo’n llawn i wneud gwelliannau i’r Gwasanaeth Cynllunio gan gynnwys ymchwilio a datrys achosion sydd yn ymwneud â thorri rheolaeth cynllunio a honiadau o’u torri. Yn amlwg, mae cywirdeb adrodd yn y dyfodol yn fater sy’n cael ei drin fel mater o flaenoriaeth.

Dangosydd 16. Amser a gymerwyd ar gyfartaledd i ymchwilio i achosion gorfodaeth

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi

Perfformiad yr Awdurdod Dim Data- Gweler yr esboniad isod Nid yw trefniadau adrodd cyfredol wedi dal y wybodaeth hon yn rhwydd, yn wahanol i’r dangosydd uchod lle cofnodwyd cyrraedd y targed o 84 diwrnod trwy ymateb do/naddo ar adroddiadau hanes achosion gan swyddogion achos. Er bod modd olrhain bob achos yn ôl a chymryd data ohonynt, ystyrir ei bod yn fwy o flaenoriaeth edrych ar y trefniadau presennol i adrodd am berfformiad, a mynd ati’n fuan i sefydlu gwell fframwaith adrodd fel sail i fonitro pellach.

Page 36: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Dangosydd

17. Canran achosion gorfodaeth lle cymerwyd camau gorfodaeth neu y derbyniwyd cais ôl-weithredol o fewn 180 diwrnod o gychwyn yr achos (yn yr achosion hynny lle’r oedd angen gorfodi)

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi

Perfformiad yr Awdurdod 75- Gweler yr esboniad isod Nid yw’r ffigwr a roddir yn cael ei ystyried yn gywir, ac ymddengys ei fod wedi ei ddrysu â’r ffigwr cywir am nifer yr achosion yr ymchwiliwyd ynddynt ymhen 84 diwnrod. Nid yw’r trefniadau adrodd presennol wedi dal yn rhwydd y wybodaeth angenrheidiol sy’n mynnu derbyn data ar Rybuddion Gorfodaeth a gyhoeddwyd a cheisiadau ôl-weithredol. Dylid rhoi cofnod o ddim felly yn lle’r ffigyrau. Dylid cofnodi fod 16 o Rybuddion Gorfodaeth yn ystod 2014/15. Mae hyn yn adlewyrchu’r agwedd a gymerwyd sy’n ceisio datrys pethau trwy drafodaeth lle bo modd, gan gymryd camau ffurfiol yn unig fel y dewis olaf. Fodd bynnag, nid oes data ar gael yn rhwydd ar hyn o bryd am y ceisiadau ôl-weithredol. Ystyrir felly ei bod yn flaenoriaeth edrych ar y trefniadau presennol i adrodd am berfformiad er mwyn mynd ati’n fuan i sefydlu gwell fframwaith adrodd fel sail i fonitro pellach.

Dangosydd 18. Amser a gymerwyd ar gyfartaledd i gymryd camau gorfodi

“Da” “Gweddol” “Angen gwella” Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi Targed i’w feincnodi

Perfformiad yr Awdurdod 71.5- Gweler yr esboniad isod Nid yw’r ffigwr a roddir yn cael ei ystyried yn gywir, ac ymddengys ei fod wedi ei ddrysu mewn adroddiadau eraill am orfodaeth. Nid yw’r trefniadau adrodd presennol wedi dal yn rhwydd y wybodaeth angenrheidiol sy’n mynnu derbyn data ar Rybuddion Gorfodaeth a gyhoeddwyd a cheisiadau ôl-weithredol. Dylid rhoi cofnod o ddim felly yn lle’r ffigyrau. Ystyrir felly ei bod yn flaenoriaeth edrych ar y trefniadau presennol i adrodd am berfformiad er mwyn mynd ati’n fuan i sefydlu gwell fframwaith adrodd fel sail i fonitro pellach.

Page 37: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

ADRAN 6 – DANGOSYDDION DATBLYGU CYNALIADWY Diben y Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy yw mesur y cyfraniad mae’r system gynllunio yn wneud i ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru. Caiff y Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy eu defnyddio i fesur cynnydd yn erbyn amcanion cynaliadwyaeth cynllunio cenedlaethol, sydd wedi eu gosod allan ym Mholisi Cynllunio Cymru, a gellir eu defnyddio i ddangos i’n rhanddeiliaid rôl a chwmpas y system gynllunio o ran cyflawni amcanion ehangach. Bydd y wybodaeth yn ddefnyddiol hefyd i awdurdodau cynllunio lleol ddeall mwy am ddeilliannau’r system gynllunio a bydd yn help i fod yn sail o wybodaeth i benderfyniadau yn y dyfodol.

Adroddiadau’r Awdurdod

Yn chwarter 1 ni wnaethom ddarparu data; Yn chwarter 2 ni wnaethom ddarparu data; Yn chwarter 3 ni wnaethom ddarparu data; Yn chwarter 4 ni wnaethom ddarparu data.

Ni roddwyd systemau ar waith eto i ddal yn effeithiol ystod eang y wybodaeth sydd ei angen i fesur cynnydd yn erbyn y dangosyddion Datblygu Cynaliadwy. Mae hyn yn adlewyrchu blaenoriaethau baich gwaith eraill, pryderon gyda diffinio rhai dangosyddion ac anawsterau yn sgil hynny i ddal data a’r ffaith na osodwyd systemau i gasglu’r wybodaeth angenrheidiol yn effeithiol. Fodd bynnag, cafodd tîm o Swyddogion y dasg o osod systemau newydd ar waith i geisio dal yr holl ddata angenrheidiol gan gychwyn yn chwarter 1, 2016.

Dangosydd

DC1. Y gofod llawr (metrau sgwâr) lle rhoddwyd ac y gwrthodwyd caniatad cynllunio am ddatblygu economaidd newydd ar safleoedd cyflogaeth a neilltuwyd yn ystod y flwyddyn.

Dangosydd DC2. Caniatad cynllunio a roddwyd am ddatblygiadau ynni adnewyddol a charbon isel yn ystod y flwyddyn.

Rhoddwyd caniatad (nifer ceisiadau)

Rhoddwyd caniatad (MW cynhyrchu ynni)

Dangosydd DC3. Nifer yr aneddfannau y rhoddwyd caniatad cynllunio ar eu cyfer yn ystod y flwyddyn.

Tai ar y farchnad (nifer unedau)

Tai fforddiadwy (nifer unedau)

Page 38: Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd · 2016. 8. 24. · Awdurdod Cynllunio Lleol Caerdydd . ADRODDIAD BLYNYDDOL AR BERFFORMIAD CYNLLUNIO (ABB) – 2015 . RHAGAIR . Mae’r Gwasanaeth

Dangosydd DC4. Caniatad cynllunio a roddwyd ac a wrthodwyd am ddatblygiadau mewn ardaloeddu gorlifdir C1 ac C2 yn ystod y flwyddyn.

Nifer unedau preswyl (a hefyd hectarau o unedau heb fod yn rhai preswyl) NAD OEDD yn cwrdd â holl brofion TAN 15 a GAFODD ganiatad

Nifer unedau preswyl (a hefyd hectarau o unedau heb fod yn rhai preswyl) nad oedd yn cwrdd â holl brofion TAN 15 lle GWRTHODWYD caniatad ar seiliau perygl llifogydd

Nifer unedau preswyl (a hefyd hectarau o unedau heb fod yn rhai preswyl) oedd yn CWRDD â holl

brofion TAN 15 a GAFODD ganiatad

Dangosydd DC5. Arwynebedd tir (ha) lle rhoddwyd caniatad cynllunio am ddatblygiad newydd ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol a thir glas yn ystod y flwyddyn.

Tir a ddatblygwyd yn flaenorol (hectarau)

Tir glas (hectarau)

Dangosydd DC6. Arwynebedd mannau agored cyhoeddus (ha) fyddai’n cael ei golli a’i ennill o ganlyniad i ganiatad cynllunio a roddwyd yn ystod y flwyddyn.

Mannau agored a gollwyd (hectarau)

Mannau agored a enillwyd (hectarau)

Dangosydd DC7. Cyfanswm y cyfraniadau ariannol (£) y cytunwyd arnynt o ddatblygiadau newydd a gafodd ganiatad cynllunio yn ystod y chwarter ar gyfer darparu seilwaith cymunedol.

Enillwyd trwy gytundebau Adran 106 (£)

Enillwyd trwy Ardoll Seilwaith Cymunedol (£)