14
Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded Bwletin Mai 2017

Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Embed Size (px)

Citation preview

Page 2: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Kieran Jones

Enw sy’n hen gyfarwydd i’r bwletin yw Kieran o flwyddyn

10. Mae Kieran fel yr ydym yn gwybod yn llwyddiannus

iawn yn y byd pêl-fasged cadair olwyn. Ymhlith ei

lwyddiannau'r flwyddyn hon, mae wedi cynrychioli Cymru

yn y timau o dan 15, 19 a 23 oed. Mae ei dȋm lleol

‘Knights’ wedi ennill pob un o’u 12 gêm cynghrair a’u

galluogodd i gystadlu ar lefel genedlaethol yn Worcester.

Yn dilyn gemau anodd yn y gystadleuaeth, daeth y

‘Knights’ i’r brig!

Llongyfarchiadau iddynt ar yr aur, ac am fod yn

bencampwyr cenedlaethol Prydain 2016-2017.

Cafodd Kieran hefyd ei ddewis fel llysgennad anabledd

chwaraeon Ynys Môn er mwyn codi statws anabledd o

fewn chwaraeon ar draws y sir.

Ar lefel ysgol, mae Kieran gydag eraill wedi llwyddo i

ennill yr aur ar lefel rhanbarthol yng ngemau pêl-fasged

ysgolion Cymru yng Nghaerdydd ac yna 4ydd ar lefel

Prydeinig yn Worcester. Am fwy o’i hanes, mae erthygl

ddiddorol iawn yn y GAMP.

Page 3: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Zoe- May Owen

Mae’n braf cael trafod llwyddiannau ein disgyblion yn yr

ysgol a thu allan. Mae Zoe-May yn ferch ym mlwyddyn

11, sy’n flaengar iawn yn y gymuned. Yn ychwanegol i’w

gwaith ysgol yng nghyfnod prysur yr arholiadau, mae

Zoe-May wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gwaith

elusennol.

Ar ôl ei phenodiad fel brenhines elusennol Carnifal

Caergybi, mae wedi defnyddio’r rôl i godi arian ar gyfer

yr elusen Crohn’s and Colitis UK. Yn unigol mae Zoe-

May wedi codi bron i £5000 a chyda help cangen leol

codwyd £7000 yn ychwanegol. Cynhaliwyd stondinau

ganddi yng nghanol Caergybi. Trefnwyd digwyddiadau ar

y cyd gyda’r awyrlu yn RAF Valley ac yn dilyn cais i’r

cyngor ysgol, bydd yr ysgol yn cynnal diwrnod diwisg

ysgol, lle bydd canran o’r arian yn mynd at yr elusen.

Page 4: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Athletau Ysgolion Môn Bu cynrychiolaeth ar draws ystod o flynyddoedd yn athletau Ysgolion Môn y mis hwn.

Llongyfarchiadau i bawb ar gael eu dewis. Llwyddodd 6 disgybl i fynd ymlaen i

gynrychioli'r sir yng nghystadleuaeth Eryri.

Pob lwc i’r 6 a diolch i’r adran Addysg Gorfforol am eu hyfforddi, sef,

Jack Evans Blwyddyn 10- Pwysau

Siân Bown Blwyddyn 10- Naid Uchel

Lia Evans Blwyddyn 9- Pwysau

Aled Murphy Blwyddyn 8- 200m

Beth McCracken Blwyddyn 8- 800m

Shanellie Cooper Blwyddyn 8- Naid Uchel

Yr Adran Addysg Gorfforol

Page 5: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Pêl fasged IZB

Dyma’r tîm a lwyddodd i ddod yn 4ydd drwy Brydain yn dilyn eu buddugoliaeth

yng nghystadleuaeth Cymru. Diolch o galon i Gemma Thomas blwyddyn 13 am

eu harwain a'i hyfforddi.

Page 6: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Llwyddiant ar faes y bêl droed Curodd tîm pêl droed Blwyddyn 12 ac 13 yn erbyn Ysgol Uwchradd Caergybi

(3-0) yn ddiweddar. Diolch i Luke Roberts blwyddyn 13 am eu harwain.

Page 7: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Elain Rhys

Braf yw gweld un o dalentau mawr yr

ysgol a’r ardal yn cael ei chydnabod

unwaith eto. Mae Elain wedi ennill yn

genedlaethol yng nghystadlaethau’r Urdd.

Mae wedi dod i’r brig mewn 3 maes; 3ydd

am gyfansoddi cerddoriaeth, 2il am

erthygl newyddiadurol a chyntaf am

gyfansoddi gosodiad yn Eisteddfod yr

Urdd.

Bydd Elain ymhlith eraill yn cystadlu ar

lwyfan genedlaethol Eisteddfod yr Urdd yn

Pen y Bont ar Ogwr.

Pob lwc iddynt i gyd.

Page 8: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Presenoldeb

Mae’n bleser pob tro i gydnabod llwyddiannau ein disgyblion. Un llwyddiant sy’n cael ei

gymryd yn ganiataol yn aml yw presenoldeb da. Targed yr ysgol i bob plentyn yw

presenoldeb llawn. Deallwn wrth gwrs bod salwch yn medru cael effaith ond disgwylir i bob

plentyn fynychu’r ysgol am o leiaf 95% o’r flwyddyn. Mae colli ysgol yn rheolaidd yn medru

cael effaith ar gyrhaeddiad, a gyda chyfnod yr arholiadau wedi cyrraedd mae pob gwers yn

bwysig.

Mae’r tabl isod yn amlygu effaith absenoldeb dros y flwyddyn ysgol.

Presenoldeb Blwyddyn Ysgol Nifer

Diwrnodau

Nifer

Wythnosau Nifer Gwersi

90% 19 4 100

80% 38 8 200

70% 57 11.5 290

Gofynnir yn garedig i rieni hysbysu’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf salwch eich plentyn am unrhyw

absenoldebau a’r diwrnod dychwelyd.

Eto'r tymor yma, cafwyd gwasanaeth arbennig er mwyn dathlu presenoldeb da gan ddilyn

cyfarwyddiadau'r cyngor ysgol o ddefnyddio sustem loteri i ddisgyblion sydd â phresenoldeb

da neu well. Mae tocyn yn cael ei roi i ddisgyblion sy’n cyrraedd ein targed o 95% a

phresenoldeb o 100% a chynnydd o 5% rhwng cyfnod arolygon. Y tymor yma, rhannwyd dros

400 o docynnau.

Page 9: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Mae’r rhif wedyn yn cael ei fwydo i’r rhaglen dewis rhif ar hap oddi ar y we.

Llongyfarchiadau i Lowri Thomas o flwyddyn 7, Courtney Williams o flwyddyn 8,

Louise Wiltshire o flwyddyn 9, Rhys Harris o flwyddyn 10 a Manon Hughes o

flwyddyn 11. Derbyniodd y 5 taleb stryd fawr werth £20.

Dyma Lowri, Manon, Louise a Rhys yn

derbyn eu talebau,- llongyfarchiadau!

Mae’r ysgol yn ymwybodol mai gwaith tîm yw cyrraedd ein targedau - a diolch i

rieni a staff mae presenoldeb disgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern ar gynnydd. I

gydnabod llwyddiannau, byd Mr Bryan Griffiths yn trefnu brecwast diolch i 9A am

wneud y cynnydd mwyaf y tu mewn i gyfnod arolwg - cynnydd sylweddol 2.7% ers

y Nadolig - gwych!

Page 10: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Cynllun Arloesi नमस्ते (namaste)

Dyma chi gyfarchiad mewn Hindi a gafodd ddysgwyr blwyddyn 7 yn ddiweddar gan Sarah

Roberts a ddaeth i siarad hefo nhw am ei thaith hi a’i gŵr yn India y llynedd. Roedden nhw wedi

bod i ffwrdd ar daith o gwmpas y byd o’r blaen ond penderfynon nhw’r tro hwn dreulio 6 mis yn

India ei hun ac aros am 3 mis yn Dharamsala yng Ngogledd India lle bu’r ddau’n dysgu

Saesneg i Dibetiaid a oedd wedi ffoi o’u gwlad. Roedd yn brofiad gwerthfawr a chyfoethog iawn

yn ôl Sarah.

Cafodd y disgyblion wybod am eu taith trên o Kolkata yn y dwyrain i fyny i Dharamsala gan

stopio yn y ddinas ysbrydol, Varanasi, lle aiff miloedd ar filoedd o bobl i farw cyn cael eu llosgi ar

goelcerthi angladdol ar yr afon Ganges. Teflir y lludw i’r afon hefyd. Serch hynny, mae’r bobl yn

ymolchi ac yn golchi’u dillad yn yr afon. Cawsant hefyd gyfle i weld ambell i ddilledyn a

deunyddiau o’r wlad enfawr honno ac arogli perlysiau megis Cardamon gwyrdd a garam masala.

Siaradodd Sarah am eu profiad o fwyta llysiau’r rhan fwyaf o’r amser a sut i osgoi’r buchod

sanctaidd ar y strydoedd ac weithiau mewn adeiladau. Caiff pobl eu herlid os ydyn nhw’n cam-

drin buchod. Diolchwn iddi am ddod i’r ysgol i siarad am ei phrofiadau. Tybed a ysgogwyd rai

disgyblion i ymweld ag India?

Page 11: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Llwyddiant disgybl blwyddyn 11

Fel rhan o arlwy cwricwlwm disgyblion

CA4, mae cynnig iddynt fynychu cyrsiau

yng ngholeg Menai. Mae’n bleser pur i

gyhoeddi fod Tomos Simpson o flwyddyn

11 wedi derbyn gwobr fel un o ddysgwyr

blwyddyn 11.

Llongyfarchiadau Tomos, rydym i gyd yn

falch iawn ohonot.

Page 12: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Mae’r ŵyl genedlaethol yn agoshau. Mae’r ysgol yn barod yn codi

ymwybyddiaeth disgyblion drwy wasanaethau ac arddangosfeydd.

I godi ymwybyddiaeth y gymuned, bydd stondin yng nghyntedd yr ysgol yn

ystod noson rieni blwyddyn 8 ar y 23ain o Fai o 4.30 tan 7yh.

Mae croeso i bawb i ddod draw, i gael sgwrs gyda swyddogion yr

Eisteddfod a chipolwg ar gynllun y maes.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Page 13: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Cafodd Bodedern ymweliad eto gan y ‘Labordy mewn Lori’, sy’n labordy gwyddoniaeth deithiol i

bobl ifanc, er mwyn i bobl ifanc yr ardal ddod i gysylltiad â gwyddoniaeth.

Pwrpas ‘Labordy mewn Lori’ yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr, gan

gynnig y cyfle i blant rhwng 11 a 14 oed archwilio gwyddoniaeth trwy gyfrwng arbrofion

rhyngweithiol a grëwyd yn arbennig ar eu cyfer.

Mae’r ‘Labordy mewn Lori’ yng Nghymru yn bartneriaeth rhwng y Sefydliad Ffiseg a Llywodraeth

Cymru. Mae Sefydliad Schlumberger yn un o’r partneriaid a sefydlodd y rhaglen, a darperir

cymorth ar ffurf gwirfoddolwyr gan y Rhwydwaith Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a

Mathemateg. Nod ‘Labordy mewn Lori’ yw hybu agweddau cadarnhaol at wyddoniaeth a sicrhau

bod gwyddoniaeth a pheirianneg yn fwy deniadol i bobl ifanc rhwng 11 a 14 oed.

Diolch i Mr Francis, Pennaeth yr Adran Ffiseg am drefnu'r weithgaredd ac i’r llysgenhadon

STEM o blith Blwyddyn 13 am helpu.

Gwelwn rai o flwyddyn 7 yn mwynhau'r profiad.

‘Labordy mewn Lori’

Page 14: Bwletin Mai 2017 - Ysgol Uwchradd Bodedern … Jones, William Bell a Cara Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil Cancr ym Mhrydain

Llongyfarchiadau i Courtney Jones,

Callum Jones, William Bell a Cara

Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay

for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer

ymchwil Cancr ym Mhrydain. Fel rhan o‘r

ras gyfnewid 24 awr yn Nhreborth, cododd

y gofalwyr, goroeswyr cancr a’r

gwirfoddolwyr £70,550.82 i Cancer

Research UK.

Rhedwr o fri

Llongyfarchiadau i Mr Tom williams

Pennaeth yr adran Addysg Gorfforol am

gwblhau Marathon Llundain yn ddiweddar.

Cododd dros fil o bunnoedd tuag at yr

elusen Clic Seargent.