4
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost. Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: 02920 490582 E-bost: [email protected] Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa: y John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01792 795888 E-bost: [email protected] tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 19, 2017 Y TYsT Golygydd Y Parchg Iwan Llewelyn Jones Fronheulog, 12 Tan-y-Foel, Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9UE Ffôn: 01766 513138 E-bost: [email protected] Golygydd Alun Lenny Porth Angel, 26 Teras Picton Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039 E-bost: [email protected] Dalier Sylw! Cyhoeddir y Pedair Tudalen Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’r Pedair Tudalen ac nid gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Nid oes a wnelo Golygyddion Y Tyst ddim â chynnwys y Pedair Tudalen. Golygyddion Nadolig yn yr Hendy-gwyn Cynhaliwyd dwy oedfa arbennig i ddathlu’r Nadolig yn y Tabernacl, Hendy-gwyn. Ar y Sul cyn y Nadolig adroddwyd stori’r geni gan y plant a’r bobl ifanc. Cafwyd parti mawr i ddilyn ac ymweliad gan Siôn Corn. Yna ar noswyl Nadolig cafwyd Gwylnos yng ngofal yr oedolion ifanc. Y thema oedd geiriau Martin Luther mai crud yw’r Beibl a’r gyfrinach yw darganfod yr Iesu yn y crud. Roedd naws arbennig i’w deimlo wrth i 14 o oedolion ifanc yr eglwys gynnal y gwasanaeth yng ngholau cannwyll. Capel y Tabernacl, Hendy-gwyn Dydd Sul, Ionawr 29ain am 11.00 “...wrth fy ngwendid, trugarha, paid â’m gwrthod, Iesu da.” Carol Hardy yn son am waith y Stafell Fyw ac am ei phrofiad personol. Casgliad at y ‘Stafell Fyw. Paned i ddilyn. Croeso cynnes i bawb.

Caerdydd, CF23 9BS ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01766 513138 E ... · yn mynd, nod ein bywyd. Ac ar hyd y daith o’ i ge ns a th y lmw b o bris ei exodus i fod yn Josua’r Ganaan newydd,

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:

    Y Parchg Ddr Alun Tudur

    39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,

    Caerdydd, CF23 9BS

    Ffôn: 02920 490582

    E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:

    Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc

    Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJ

    Ffôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 19, 2017Y TYsT

    Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn Jones

    Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,

    LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138

    E-bost: [email protected]

    Golygydd

    Alun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras Picton

    Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 /

    0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

    Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

    chynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    y

    y

    Nadolig yn yr Hendy-gwyn

    Cynhaliwyd dwy oedfa arbennig i ddathlu’r Nadolig yn y Tabernacl, Hendy-gwyn. Ar y

    Sul cyn y Nadolig adroddwyd stori’r geni gan y plant a’r bobl ifanc. Cafwyd parti mawr i

    ddilyn ac ymweliad gan Siôn Corn.

    Yna ar noswyl Nadolig cafwyd Gwylnos yng ngofal yr oedolion ifanc. Y thema oedd

    geiriau Martin Luther mai crud yw’r Beibl a’r gyfrinach yw darganfod yr Iesu yn y crud.

    Roedd naws arbennig i’w deimlo wrth i 14 o oedolion ifanc yr eglwys gynnal  y

    gwasanaeth yng ngholau cannwyll.

    Capel y Tabernacl, Hendy-gwyn

    Dydd Sul, Ionawr 29ain am 11.00“...wrth fy ngwendid, trugarha, paid â’m gwrthod, Iesu da.”

    Carol Hardy yn son  am waith y Stafell Fyw

    ac am ei phrofiad personol.

    Casgliad at y ‘Stafell Fyw. Paned i ddilyn. Croeso cynnes i bawb.

  • sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 3 Ionawr 19, 2017 50c.

    Y TYsT

    Mae’r Parchg Ken Williams, gweinidogPeniel a Bwlch-y-corn ger Caerfyrddiners 2003, wedi ymddeol. Dyma grynodebo’r deyrnged iddo gan Arthur Morgan,Ysgrifennydd Peniel a hanes y cydnabodym Mwlch-y-corn.

    Daeth y Parchg Ken Williams atom ym mis

    Hydref 2003 yn llawn brwdfrydedd ac

    egni. Yn berson ffit a heini, byddai’n

    codi’n gynnar i fynd ar ei feic o amgylch

    Cwm Gwendraeth, ac yn ei eiriau ef, yn

    cael amser i feddwl. Cafodd aml i bregeth

    ei llunio ar y beic, rwy’n siŵr! Nid

    cenadwri o dân a brwmstan oedd ganddo,

    ond esboniadau bendithiol a chyfoes o’r

    efengyl. Pwysleisiau’r bygythiadau i

    ddynoliaeth oherwydd rhyfeloedd, casineb,

    trais a thlodi’r newynog, ond yn bennaf

    bod cariad Iesu Grist i bawb, a bod angen i

    ni arddel, ar goedd, y cariad nad yw byth

    yn pylu.

    Pan ddathlwyd Dauganmlwyddiant yr

    achos yn 2009 aeth ati i grynhoi’r holl

    wybodaeth ar gyfer cyfrol am fywyd yr

    eglwys. Mae “Peniel Ddoe, Heddiw ac

    Yfory” yn gyfrol sy’n haeddu pob

    canmoliaeth ac yn deilwng o gyfrol 1938 y

    Parchg S. B. Jones. Rwy’n siŵr mae un o’r

    breintiau mwyaf gafodd Mr Williams yn

    ystod ei weinidogaeth, oedd estyn

    deheulaw gymdeithas i gyflawn aelodau

    –11 o ieuenctid yn 2011, ac 13 eto eleni.

    Cyfeiriodd atynt fel ffrwyth yr Ysgol Sul, y

    feithrinfa sy’n gosod sylfeini newydd i’r

    eglwys.

    Mae’n amhosib bod yn bopeth i bawb

    ond heb amheuaeth, buom ni, yn

    ddiwahân, yn bopeth i’r Parchg Ken

    Williams. Os cofiwn dim ond un peth

    amdano, ei “Weinidogaeth Fugeiliol” fydd

    hynny. Ymhob sefyllfa, adfyd neu wynfyd,

    iach neu’n glaf, buodd yn ein cynnal ni fel

    ymwelydd cyson. Mae cyfnodau anodd

    wedi wynebu llawer ohonom, ambell

    deulu’n fwy na’i gilydd. Roedd ei gonsyrn

    didwyll amdanom fel ymgeleddwr tyner a

    chysurlon, wedi ein hatgyfnerthu i symud

    ymlaen i wynebu’r dyfodol gyda gobaith.

    Diolch i Gwyneth hefyd am ei dycnwch

    a’i dyfalbarhad fel ‘PA’ i Ken. Hi oedd yn

    cadw trefn ar ei ddyddiadur. Mae adnod yn

    y Diarhebion yn addas iawn; “Gwraig

    rymus sydd goron i’w gŵr.” Dymunwn

    ymddeoliad hir a hapus i’r ddau ohonoch –

    nid na fyddwch yn segur! Byddwn yn

    gweld Mr Williams ar Suliau achlysurol yn

    2017, ac fe fydd drws a chalon yr eglwys

    ar agor ichi eich dau bob amser. Dyma

    englyn sy’n addas i ddisgrifio’r Parchg

    Ken Williams.

    Mewn eisiau’n gymwynaswr – mewn heulwen

    mae’n hael gynorthwywr,

    Mewn gwaeledd, ymgeleddwr;

    A chadarn diragfarn dŵr.

    Cofio’r Cyfnod ym Mwlch-y-corn

    Nid araith ffarwel a gafwyd ym Mwlch-y-

    corn ar ddiwedd Oedfa Nadolig y Teulu,

    ond cipolwg yn ôl dros gyfnod y Parchg

    Ken Williams fel gweinidog trwy gyfrwng

    lluniau ar y sgrin fawr a sylwebaeth gan

    Alun Lenny, Arweinydd yr eglwys.

    Agorwyd gyda llun o’r Oedfa Ordeinio a

    Sefydlu yn 2003, gyda’r Parchg Ddr Edwin

    C. Lewis yn trosglwyddo’r awenau i Mr

    Williams. Ymlaen wedyn trwy’r

    blynyddoedd, gyda lluniau’n dwyn i gof

    priodasau, bedyddio a derbyn aelodau. Saif

    Bwlch-y-corn fry yn y bryniau, ac

    edmygwyd llun o’n gweinidog yn ei lycra

    coch ar gefn ei feic ar ôl pedlo’r bymtheg

    milltir o’i gartref yng Ngorslas! Gwelwyd

    sawl pererindod, oedfaon Nadolig a llun

    nodedig o Mr Williams yn paratoi i weini’r

    Cymun - am un o’r troeon olaf.

    Wrth gyflwyno rhodd i’r Parchg Ken

    Williams ar ran yr eglwys, dywedodd Alun

    na allai unrhyw gydnabyddiaeth fod yn

    deilwng o’r cyfan wnaethom dderbyn

    ganddo dros y blynyddoedd. Prin fod yr un

    eglwys wedi cael gwell bugail erioed.

    Bydd y bwlch ar ei ôl yn fawr.

    Cafodd cyfraniad amhrisiadwy Mrs

    Gwyneth Williams ei gydnabod hefyd,

    trwy rodd a gyflwynwyd gan un o’r

    diaconiaid, Delyth John (yn y llun). Ac fe

    aeth Megan Lenny “babi’r eglwys” ymlaen

    i gyflwyno blodau iddi.

    Gyda chyfnod yn hanes yr ofalaeth yn

    prysur dynnu at ei derfyn, fe aeth pawb i’r

    festri i gymdeithasu a mwynhau te

    bendigedig.

    Bu’r Parchg Ken Williams hefyd yn

    aelod ffyddlon a gweithgar o Gyfundeb

    Gorllewin Caerfyrddin- yn Gadeirydd ac

    Ysgrifennydd yn ei dro. Bydd y Cyfundeb

    yn gweld eisiau ei ddoethineb a’i gyfraniad

    yn fawr iawn.

    CYDNABOD YMDDEOLIAD BUGAIL HEB EI AIL

    Cyflwynwyd baddon adar i’r Parchg Ken Williams gan Mr D. J. Evans, aelod hynaf yr

    eglwys, a rhodd i Mrs Gwyneth Williams gan Mrs Mary Evans.

    PaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 19, 2017Y TYsT

    Y Forwyn FairDyma’r rhan olaf o’r ail

    Astudiaeth Feiblaidd a

    draddodwyd gan y Parchg

    Kenneth Lintern yng

    Nghyfarfodydd Blynyddol

    Undeb yr Annibynwyr yn

    Llanuwchllyn.

    Yr unig wyrth gyffredin i’r pedair efengyl

    yw Porthi’r Pum Mil, eto yn ymyl y Pasg.Yn y sgwrs hir sy’n dilyn yn Ioan, eto mae

    Iesu’n rhoi bara’r bywyd yn wir fanna, yn

    fanna newydd yn disgyn o’r nef, gyda’r

    pwyslais ar y Tad fel y gwir roddwr, nid

    Moses (atgof o 1.17: “trwy Moses y

    rhoddwyd y Gyfraith, ond gras a

    gwirionedd, trwy Iesu Grist y daethant”,

    h.y. wedi eu hymgorffori ynddo ef). A’r

    manna newydd yw ei gnawd (a’i waed) a

    roddir dros fywyd y byd (digon ar gael i

    bawb). Dyna’r porthi “ysbrydol”! Ymateb

    yr Iddewon yw “Onid hwn yw Iesu fab

    Joseff? Sut y gall ddweud yn awr, ‘Yr wyf

    wedi disgyn o’r nef’?” Maent yn ddall i’r

    gwirionedd mai dyma’r nefol yn torri

    trwodd yn y person dihafal hwn. Dyma’r

    trobwynt yn Ioan lle mae llawer o’r

    dilynwyr yn troi cefn a Simon Pedr yn

    dweud “Y mae geiriau bywyd tragwyddol

    gennyt ti.” Ac yn y sgwrs hon cawn yn

    Ioan yr hyn sy’n cymryd lle manylu ar y

    bara a’r gwin yn y Swper Olaf.

    Ochr yn ochr ag ymateb anghrediniaeth,

    ceir yr ymateb yn 6.15, sydd yr un mor

    beryglus: y bobl am ei wneud yn frenin.

    Camddeall: “Nid yw fy nheyrnas i o’r byd

    hwn.” Ai’r un camddeall oedd y tu ôl i frad

    Jwdas? Talu gwrogaeth i Satan?

    Arwydd Olaf

    Ac yna deuwn at yr arwydd olaf oll, yr

    arwydd sydd hefyd yn realiti eithaf, a’r

    eneinio ym Methania ar gyfer ei

    gladdedigaeth, fel ar y dechrau, 6 diwrnod

    cyn y Pasg. Wrth y groes deuwn oll wynebyn wyneb â dechrau a diwedd, tarddiad a

    nod, ein bodolaeth. Yn yr ymwacâu

    terfynol, llythrennol hwn y gwelwn “yn

    llawn gras a gwirionedd” ar ei eithaf trwy

    lygaid ffydd. Ac medd Ioan: “Yn ymyl

    croes Iesu (nid “o bellter”, fel yn yr

    efengylau eraill), yr oedd ei fam ef yn

    sefyll” – Dim sôn amdani wrth y groes yn

    y lleill! – gyda thair gwraig arall. “Wraig,

    dyma dy fab di” – “dyma dy fam di” wrth

    “y disgybl yr oedd yn ei garu” (ni

    ddywedir pwy oedd, er bod llawer yn

    meddwl mai Ioan ei hun ydoedd). Nid yw

    hyn yn golygu nad oedd yn caru’r lleill,

    ond bod agosrwydd neilltuol o ran

    sensitifrwydd a chrebwyll yn perthyn i

    hwn.

    Isop a Surwin

    Dyma’r “Wraig” eto, fel yn y dechrau, a

    chwlwm yr agosrwydd corfforol a

    daearyddol yn cael ei dorri. Nid Iesu fydd

    ei mab hi yn y byd hwn bellach, ond mae

    ganddo ofal arbennig drosti, y wraig hollol

    arbennig hon. Ac nid oes sôn am loes na

    dagrau ar ei rhan hi. Ac wedyn rhoddwr y

    dŵr bywiol yn sychedig, “er mwyn i’r

    Ysgrythur gael ei chyflawni” (yn ôl gyda

    Mathew!). Noder yr “isop” yn dal yr

    ysbwng (coesyn y planhigyn), hussopo =

    “isop”; ond dywed un fersiwn husso –

    “gwaywffon”, sydd i bob golwg yn

    gwneud mwy o synnwyr. Ond pwysig yw

    gofyn pwy yw’r “hwy” a roddodd y gwin,

    gan gofio defnyddid isop i daenellu

    (gwaed)! Ac yfed nid y gwin gorau ond y

    gwin sur, ond er hynny yn gweiddi’n

    fuddugoliaethus Tetelestai: “Gorffennwyd”.

    Yn Actau 1.14 fe’i gwelwn – a’r brodyr, yn

    rhinwedd yr atgyfodiad – gyda’r lleill “yn

    dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi”.

    Dywed y Catholigion mai Mair yw’r wraig

    wedi ei gwisgo â’r haul yn Datguddiad

    12.1, ond dengys Caird eto mai Israel yw

    hi.

    Gwaredwr Pechodau

    Disgynnodd Iesu “o’r nef” (y deimensiwn

    arall), a rhaid iddo ddychwelyd. Ac fe

    ddringodd yn ôl trwy ysgol y Groes. Ac

    amlygwyd ei ogoniant – a’n hachubiaeth

    ni. Dywed Luc fod yr ymddiddan ar

    Fynydd y Gweddnewidiad am ymadawiad

    (exodus) Iesu, ar y Groes. Gwelodd Mair,

    yn ôl Ioan, ei genesis a’i exodus. Ac fe

    welodd. Cafodd fenthyg ei mab am lai na

    40 mlynedd. Ac ar y trydydd dydd

    gwelodd y realiti terfynol, y dechrau

    newydd yn cyrraedd ei uchafbwynt, wedi

    ei ddyrchafu oddi ar y ddaear. Ac os cawn

    broblem gyda dehongli’r genesis, beth a

    wnawn o’r exodus hwn? – y

    dirgelwch/”dirgelion na all eu datrys, Ond

    Duwdod mawr ei hun”. Dywedodd rhywun

    fod Iesu ei hun yn ymddiddori’n fwy yn

    exodus pobl nag yn eu genesis – nid o ble

    y daethom, ein llinach, ond i ble yr ydym

    yn mynd, nod ein bywyd. Ac ar hyd y daith

    o’i genesis daeth yn gynyddol ymwybodol

    o bris ei exodus i fod yn Josua’r Ganaan

    newydd, ein Gwaredwr “oddi wrth ein

    pechodau”, yn ein harwain i’r Ganaan

    newydd.

    Kenneth Lintern

    Cyflwyno CenhadaethYn ystod 2016 yr oedd gan

    C.W.M (Cyngor y Genhadaeth

    Fyd-eang) brosiect fideo.

    Bwriad y prosiect hwn oedd

    gwneud 10 fideo byr yn rhoi

    darlun o weithgareddau

    cenhadol eglwysi o fewn i

    deulu C.W.M. Y mae gan 3 o’r

    ffilmiau gysylltiad cryf gydag

    Undeb yr Annibynwyr.

    Y cyntaf yw’r gwaith rhagorol a wneir dan nawdd Eglwys

    Bresbyteraidd Cymru yng Nghanolfan Noddfa,

    Caernarfon, o dan arweiniad y Parchg Mererid Mair,

    Salem, Caernarfon. Yr ail yw prosiect gyda’r henoed o

    dan arweiniad Y Parchg Carwyn Siddal yn Eglwys yr

    Annibynwyr, Llanuwchllyn. Y trydydd yw

    gweithgareddau a gynhelir gan eglwys Ebeneser,

    Caerdydd.

    Os am wylio’r fideos, rhuthrwch draw i wefan C.W.M. a

    dilynwch y dolennau cwmeurope.org/resources/growing-

    missional-churches/

    Pedwerydd Dathliad 2017Ar glawr y Tyst yr wythnos diwethaf fe nodwyd tri

    dathliad arbennig sydd i ddigwydd yn 2017. Ond

    tynnwyd sylw’r prif olygydd, gan Gareth Richards,

    Gwasg Morgannwg, at y ffaith bod o leiaf un dathliad arall y dylid ei

    nodi yn y cyhoeddiad hwn.

    Y dathliad hwnnw yw pen-blwydd y Tyst yn 150 oed. Os craffwch

    ar y clawr fe welwch yr ymddangosodd y Tyst am y tro cyntaf ym

    1867. Edrychwn ymlaen felly i ddathlu’r pen-blwydd ac i gynnwys

    peth erthyglau difyr o ôl-rifynnau a ymddangosodd tros y

    blynyddoedd. Gol.

    Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

    DALIER SYLW!Cywiriad

    Yr ydym yn falch o fedru dweud nad yw y Parchg Rosan Saunders,

    gweinidog y Tabernacl, Porthcawl, wedi ymddeol yn ystod 2016 fel yr

    awgrymir ar dudalennau 88 ac 111 Blwyddiadur 2017.

    Mae Rosan yn parhau yn weinidog yn y Tabernacl, ac ymddiheurwn

    yn ddiffuant iddi hi ac i aelodau’r eglwys am unrhyw anghyfleustra a

    gyfyd o ganlyniad i’r gamddealltwriaeth a fu.

  • Ionawr 19, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT

    Barn AnnibynnolGeiriau o’r Gair

    Wel, dyma ni - diwrnod defod urddoArlywydd etholedig Unol DaleithiauAmerica. O hynymlaen dros ypedair blyneddnesaf DonaldTrump fydd ynarwain UDA ar eithir ei hun ac ynei chynrychiolimewn byd sydd wedi ei rwygo. Er iwahanol draddodiadau gael euhychwanegu at restr y digwyddiadau ar ydiwrnod mawr, yr unig ddefod orfodol ersdyddiau George Washington, yr arlywyddcyntaf yw cymryd y llw arlywyddol.

    Dewisodd y mwyafrif o’r 44 arlywyddgymryd eu Llw Arlywyddol ar y Beibl – aBeibl y teulu wedi ei ddefnyddio’n aml;defnyddiodd Barack Obama FeiblAbraham Lincoln y tro cyntaf a BeiblMartin Luther King yr eildro. Dewisoddgymryd y llw dros Feibl wedi ei gau.

    Adnod Arbennig

    Ond mae’r mwyafrif a ddewisodd dyngullw ar y Beibl, wedi ei agor ar adnod

    arbennig. Dewisodd Abraham LincolnMathew 7.1 – “Na fernwch fel na’chbarner” ac mae llawer wedi dewis o lyfr yDiarhebion. Dewisodd Ulysses S Grant,Eseia 11 – “Ac ysbryd yr Arglwydd aorffwys arno ef, ysbryd doethineb adeall…”. Bu Franklin D Roosevelt ynArlywydd deirgwaith yn olynol a’i ddewisbob tro oedd 1 Corinthiaid 13, 13 – “Ac ynawr erys ffydd, gobaith a chariad a’rmwyaf o’r tri hyn yw cariad”. Ganrif unionyn ôl dewisodd Woodrow Wilson –“Duwsydd noddfa nerth i ni, cymorth hawdd eigael mewn cyfyngder”. Roedd dewisTheodore Roosevelt ar ddechrau’r ganrifddiwethaf yn feddylgar: Iago 1.22 – “Abyddwch wneuthurwyr y gair ac nidgwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eichhunain.”

    Eironig

    Mae rhai o’r dewisiadauyn eironig o edrych ynôl drwy delesgophanes; Mathew 5 – YBregeth ar y Mynydd -oedd dewis GeorgeBush (y tad) a dewis eifab, George W. arddechrau ei ail dymor(pan oedd rhyfel yn Iracar ei hanterth) oeddEseia 40. 31 - Eithr y rhai a obeithiant ynyr Arglwydd a adnewyddant eu nerth;ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant;rhodiant ac ni ddiffygiant.”

    Eseia oedd ysbrydoliaeth Bill Clintonhefyd ar ddechrau ei ail dymor; pennod58.12 - “ A’r rhai a fyddant ohonot ti aadeiladant yr hen ddiffeithleoedd; ti agyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth; a thi aelwir yn gaewr yr adwy, yn gyweirwyrllwybrau i gyfanheddu ynddynt.”

    Y Llw Arlywyddol

    Dim ond ychydig o eiriau, yng nghanol yr

    holl sbloets, sy’n troi darpar arlywydd yn

    Arlywydd llawn ers Ebrill 30ain 1789:

    “Rwyf yn ddifrifol yn tyngu llw (neu yncadarnhau) y byddaf yn cyflawniSwyddogaeth Arlywydd yr Unol Daleithiauyn ffyddlon, ac y byddaf hyd eithaf fyngallu, yn cadw, yn diogelu ac ynamddiffyn Cyfansoddiad yr UnolDaleithiau.”

    Yn aml gall geiriau roi awdurdod a

    chyfrifoldeb rhyfeddol ar ysgwyddau

    unigolion digon diffygiol. Gobaith y bobl

    yw y bydd yr unigolyn yn dehongli ei

    awdurdod er lles y gymdeithas ac y bydd

    ei gyfnod yn y swydd yn ychwanegu at

    werth bywyd y mwyafrif ac nid yr unigolyn

    sydd yn y swydd. Nid yw’n gweithio bob

    tro, wrth gwrs. Dewis adnod Richard

    Nixon ar gyfer ei ddwy seremoni oedd

    Eseia 2.4 – “Ac efe a farna rhwng ycenhedloedd, ac a gerydda bobloeddlawer: a hwy a gurant eu cleddyfau ynsychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: Nichyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, acni ddysgant ryfel mwyach.” Gwnes addunedau fil…

    Euryn Ogwen(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o

    reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr

    Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)

    Euryn Ogwen

    Williams

    Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

    SWYDDOG

    CYHOEDDIADAU

    A CHYNORTHWY-YDD

    Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

    yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac

    egnïol i weithio yn

    Nhŷ John Penri, Abertawe.

    Gwahoddir ceisiadau gan rai sydd o

    argyhoeddiad Cristnogol, ac sy’n

    drwyadl ddwyieithog

    mewn Cymraeg a Saesneg.

    Ceir disgrifiad llawnach o’r swydd,

    amodau gwaith a chyflog,

    a ffurflen gais gan:

    Yr Ysgrifennydd Gweinyddol,

    Tŷ John Penri, 5 Axis Court,

    Parc Busnes Glanyrafon,

    Bro Abertawe, ABERTAWE. SA7 0AJ

    Ffôn: 01792-795888

    e-bost: [email protected]

    Dyddiad cau:

    17 Chwefror 2017

    Cynhelir y cyfweliadau ar

    2 Mawrth 2017

    Rhyng FfyddWrth deithio o gwmpas fe sylweddolwn y

    dyddiau hyn fel mae ardaloedd a

    chymdogaethau yn newid. Mae hynny yn

    wir am ein dinasoedd a’n trefi yn ogystal

    â chefn gwlad. Sylwaf ar hynny yn

    arbennig yma yn Harrow. Rwyf yma

    bellach ers deunaw mlynedd ar hugain, a

    sylwaf ar y newid enbyd wrth gerdded y

    strydoedd.

    Yn y llyfrgell leol yr wythnos diweddaf

    roedd yna arddangosfa ddiddorol iawn am

    Rhyng Ffydd/Inter Faith. Nodwyd

    amlinelliad o bob ffydd ond yr hyn a’m

    trawodd oedd y canran o bob ffydd

    ynglŷn â thrigolion Harrow. Dyma’r

    ffeithiau:

    Cristnogaeth 37%

    Hindwaeth 25%

    Islam 12.5%

    Iddewiaeth 4%

    Siciaeth 1.2%

    Bwdaeth 1.1%

    Cynnydd Mawr

    Yn gymdogion i mi yn ein stryd o fewn

    deg tŷ y mae yna un ar ddeg o

    genhedloedd yn byw. Mynychaf o bryd

    i’w gilydd yr Harrow International

    Christian Centre i addoli. Yno y mae yna

    ddeugain o genhedloedd yn addoli’r

    Arglwydd Iesu. Mae’r gynulleidfa yn

    enfawr, y llawr a’r galeri yn orlawn. Y Sul

    diwethaf yma wrth groesawu pymtheg o

    oedolion yn aelodau am y tro cyntaf

    mewn Eglwys dywedwyd fod aelodaeth yr

    Evangelical Alliance yn cynyddu 12% bob

    blwyddyn.

    Er yr holl newid yn y dyddiau hyn yn ein

    hardaloedd mae rhaid cofio:

    “Newid mae gwybodaeth a dysgeidiaeth dyn,

    Aros mae Efengyl Iesu byth yr un”

    Oes, mae yna newid mewn llawer ardal.

    Y mae’r Iesu yr un o hyd.

    D. Gwylfa Evans