12
Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig Cartrefu Cenedl

Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr

Cymreig

Cartrefu Cenedl

Page 2: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Rhagair

1 http://england.shelter.org.uk/campaigns_/why_we_campaign/the_housing_crisis/what_is_the_housing_crisis

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig: Rhagair

Paul Davies ACArweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

Mae Cymru yng nghanol argyfwng tai.

Go brin y bydd llawer yn anghytuno â’r datganiad hwnnw, ac mae cryn drafodaeth ar beth ddylem ei wneud ar y mater.

I ni, mae geiriau’r elusen tai Shelter1 yn dweud y cyfan: ‘The housing crisis isn’t about houses – it’s about people’.

I’r rhai sydd ar y rheng flaen, mae’r argyfwng tai yn golygu straffaglu i dalu’ch morgais neu fethu gallu fforddio talu’ch rhent. Mae eraill yn poeni lle fyddan nhw’n treulio’r noson nesaf, a rhai’n diweddu’n cysgu allan. Ni allwn ganiatáu i hyn barhau.

Mae tai yn angen sylfaenol, ac mae’r hawl i dai gweddus lawn mor bwysig â’r hawl i ofal iechyd.

Does dim ateb hawdd i heriau anferthol, ond mae’n rhaid inni ddechrau gydag uchelgais fawr. Rhaid ystyried yr argyfwng tai, a’r ffactorau y tu ôl iddo, mewn cyd-destun polisi ehangach. Mae’r diffyg tai addas yn cael effaith negyddol ar recriwtio athrawon, nyrsys a gweision cyhoeddus eraill. Mae’r economi hefyd yn dioddef os nad oes digon o dai’n cael eu hadeiladu er mwyn denu buddsoddwyr ac entrepreneuriaid newydd.

Mae’r angen am strategaeth gyfannol a chydlynus i fynd i’r afael â’r broblem yn fwy amlwg nag erioed. Mae’r papur gwyn hwn yn cyflwyno ein syniadau ni i ganfod ffordd allan o’r argyfwng, a sicrhau bod tai addas ar gael i bawb.

David Melding ACLlefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Dai

1

Cynnwys

4Yr argyfwng

Fforddiadwyedd a pherchentyaeth 8

Tir a chyflenwad 10

Adeiladu ac arloesi 14

Amrywiaeth, addasrwydd a dyluniad 19

Crynodeb Gweithredol 2

Rhagair 1

Page 3: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Crynodeb Gweithredol

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig: Crynodeb Gweithredol

Byddwn yn lansio rhaglen uchelgeisiol i gyrraedd 12,000 o gartrefi y flwyddyn yn ystod tymor y Cynulliad nesaf, ac yn adeiladu 10,000 o dai dros ddeng mlynedd.

Byddwn yn creu Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Chynllunio.

Bydd yn ofynnol i osod pwynt gwefru trydan ym mhob cartref newydd.

Bydd 20% o holl gartrefi newydd Cymru yn cael eu datblygu trwy waith adeiladu oddi ar y safle erbyn 2030.

Bydd ad-daliadau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gael i gartrefi sy’n gwella eu safon effeithlonrwydd ynni.

Gweithio gyda llywodraeth y DU i sefydlu cynllun trwyddedu ar gyfer diwydiant adeiladu’r DU.

3

Yr argyfwng

Fforddiadwyedd a pherchentyaeth

Tir a chyflenwad

Adeiladu ac arloesi

Amrywiaeth, addasrwydd a dyluniad

Page 4: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Yr argyfwngYn dilyn cwymp byr yn 2008, mae prisiau tai wedi parhau i gynyddu ledled y DU, gan gyfrannu at ddirywiad mewn safon byw a mwy o anghydraddoldebau cyfoeth. Heddiw, mae materion tai yn aml yn destun pryder economaidd, atgasedd cymdeithasol a rhwystredigaeth wleidyddol.

Os ydym am ddiwallu’r anghenion ac ateb y galw am dai yng Nghymru yn y dyfodol, mae’n rhaid inni ddychwelyd at gyfraddau

adeiladu tai nad ydym wedi eu gweld ers dros 20 mlynedd. Dyna gasgliad yr Athro Holman – arbenigwr blaenllaw ar y galw am dai – a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i fwrw golwg ar y mater. Daeth ei adroddiad i’r casgliad y byddai Cymru angen hyd at 12,000 o aneddiadau newydd y flwyddyn rhwng 2011 a 2031 er mwyn osgoi sefyllfa lle mae teuluoedd yn byw mewn tai anfoddhaol. Byddai angen cynnydd sylweddol mewn tueddiadau codi tai ar gyfer hyn.

Yn seiliedig ar y dadansoddiad hwn, byddwn yn lansio rhaglen uchelgeisiol i gyrraedd targed i adeiladu 12,000 o gartrefi’r flwyddyn yn ystod tymor y Cynulliad nesaf, ac adeiladu 100,000 o gartrefi dros ddeng mlynedd.

Cymdeithasau Tai a chyllid

Mae cymdeithasau tai wedi gweddnewid ansawdd tai cymdeithasol ac wedi arwain y blaen wrth ddatblygu ac arloesi’r sector tai yn gyffredinol.

Ym mis Mawrth 2018, roedd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig 142,760 o aneddiadau - tua 10% o holl gartrefi Cymru yn fras. Yn ôl Cartrefi Cymunedol Cymru - y corff ymbarél sy’n cynrychioli dros 70 o gymdeithasau tai dielw a thai cymunedol cydfuddiannol yng Nghymru - fe wnaeth eu haelodau gyfrannu dros £1 biliwn i’r economi y llynedd yn ogystal ag adeiladu bron i 2,000 o dai fforddiadwy a darparu gwaith i 8,800 o bobl ledled Cymru. Er mwyn gallu traws-sybsideiddio’r ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru, mae’r sector wedi arallgyfeirio i ryw raddau, fel Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn darparu llety myfyrwyr, eiddo masnachol (fel siopau) a hyd yn oed tai’r farchnad. Byddwn yn gweithio gyda’r cymdeithasau tai ac yn darparu cyllidebau tymor hirach fel bod modd cynllunio go iawn a chynnig amrywiaeth mwy hyblyg o’r mathau o gartrefi sydd ar gael.

Yn 2016, roedd 1.413 miliwn o aneddiadau yng Nghymru.

O’r rhain: roedd 69.8% yn eiddo i berchen-feddianwyr; 14.3% wedi’u rhentu’n breifat; 9.7% yn eiddo i gymdeithasau tai a 6.2% yn nwylo awdurdodau lleol.

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig: Yr argyfwng

4FF

AIT

H I

CHI

Page 5: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Awdurdodau Lleol

Mae’r sector tai cymdeithasol, gan gynnwys awdurdodau lleol, wedi cytuno i ddarparu o leiaf 13,500 o darged Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021.

Cymdeithasau tai fu’n gyfrifol am 84% o’r tai fforddiadwy a godwyd yma yng Nghymru yn 2017-18 – gostyngiad o’r 93% yn 2016/17. Fodd bynnag, mae awydd a gallu cynyddol ymhlith awdurdodau lleol i ddychwelyd at neu gynyddu eu rolau o ddarparu tai yn gyntaf.

Rydym yn rhagweld rôl o’r newydd i awdurdodau lleol fel eu bod nhw – unwaith eto – yn gallu darparu tai o safon i’r rhai mwyaf anghenus. Bydd cynllun Llywodraeth Cymru i lacio terfyn benthyca’r Cyfrif Refeniw Tai yn gwella gallu awdurdodau lleol i adeiladu tai cymdeithasol newydd yn aruthrol, ond gallwn wneud llawer mwyn. Byddwn yn codi’r cap benthyca er mwyn cynyddu’r cydweithrediad rhwng cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i gyflymu’r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol.

Tlodi tanwydd

Mae cartrefi’r DU gyda’r drutaf yn Ewrop i’w cadw’n gynnes oherwydd gwaith cynnal a chadw ac inswleiddio gwael2.

Hefyd, mae dadansoddiad o ddata swyddogol yr UE yn dangos mai’r DU sydd â’r lefelau tlodi tanwydd gwaethaf o gymharu â dwsin o wledydd tebyg eraill, ac un o’r cyfraddau gwaethaf o dai mewn cyflwr gwael.

Mae’r amcangyfrif diweddar yn dangos bod 291,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, sy’n gyfystyr â 23% o aelwydydd. Aelwydydd incwm isel yw’r rhain fel arfer, sydd hefyd gyda’r mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. I’r bobl hyn, mae aneffeithlonrwydd eu cartrefi yn gwneud eu bywydau’n anfforddiadwy.

Dyna pam y byddwn ni’n datblygu ‘pecyn cymorth ôl-osod’ i annog gwaith uwchraddio ac ôl-osod fel bod holl gartrefi Cymru’n cael eu huwchraddio i Dystysgrif Perfformiad Ynni Band C – neu well – erbyn 2035. Bydd yn seiliedig ar ddull adeiladu cyfan wedi’i ardystio gan y Gynghrair Adeiladau Traddodiadol Cynaliadwy. Mae’n cynnwys ‘cyfuno a chydbwyso mesurau ffabrig fel inswleiddio, atal drafftiau, ffenestri, diogelu rhag dŵr glaw; gwasanaethau fel awyru, gwresogi, rheolaethau thermostat, ynni adnewyddadwy’. Er mwyn helpu i gyflwyno cynllun o’r fath fesul cam, byddwn yn ariannu ymgyrch wybodaeth er mwyn rhoi gwybod i berchnogion tai am fanteision gwaith ôl-osod o’r fath i’r tymor hir. Hefyd, byddwn yn cynnig ad-daliadau’r Dreth Trafodiadau Tir i gartrefi sy’n gwella eu heffeithiolrwydd ynni i safon dda.

Tai gwag

Yn gynharach eleni, datgelwyd bod o leiaf 23,000 o gartrefi preifat gwag yng Nghymru, a 4,057 o gartrefi cymdeithasol gwag.

Mae’r lefelau uchel hyn yn gallu cael effaith ddifrifol ar fywiogrwydd ein cymunedau, a gallai adfer eu defnydd greu manteision aruthrol yn gymdeithasol, yn adfywiol ac ariannol. Byddwn yn sicrhau bod yr holl gartrefi tai cymdeithasol gwag yn cael eu llenwi eto erbyn diwedd tymor y Cynulliad nesaf.

Er nad yw cartrefi gwag yn cynnig yr ateb cyflawn, ni all unrhyw lywodraeth neu awdurdod lleol anwybyddu eu potensial. Mae angen taro cydbwysedd er mwyn sicrhau bod perchnogion yn cael eu hannog, a lle bo’n briodol, eu gorfodi i ddatgloi potensial yr adnodd segur hwn. Byddai Llywodraeth y Ceidwadwyr Cymreig yn cyhoeddi strategaeth i leihau nifer cartrefi gwag y sector preifat sy’n segur am 6 mis neu fwy.

Arweiniad

Chwalfa’r farchnad dai yw un o’r rhwystrau mwyaf i les cymdeithasol, ac mae’n effeithio waethaf ar weithwyr cyffredin. Mae angen inni roi sicrwydd a sefydlogrwydd i bobl allu ffynnu. Er mwyn darparu arweiniad, byddwn ni’n creu Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Tai a Chynllunio.

Digartrefedd

Bydd yr angen i drechu digartrefedd a chysgu allan yn rhan hollbwysig o unrhyw bolisi tai yng Nghymru.

Mae rhai o’r ffigurau diweddaraf ar gysgu allan yn gadarnhad digalon o’r hyn mae’r sector yn ei weld, gyda mwy o bobl yn cysgu ar y stryd a mwy yn chwilio am gymorth gan elusennau’r digartref. Credwn fod angen dull gweithredu cynhwysfawr ar gyfer y maes hwn fel rhan o ymrwymiad i ddileu achosion o gysgu allan yng Nghymru erbyn 2030. Felly, byddwn yn lansio ein strategaeth i gyflawni hyn ddechrau 2019 ar ôl cwblhau trafodaethau gyda rhanddeiliaid a’r sector polisi.

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig: Yr argyfwng

2 https://www.theguardian.com/environment/damian-carrington-blog/2013/nov/29/uk-homes-most-expensive-heat-eu-fuel-poverty 7

FFA

ITH

I CH

I

Mae 36% o gartrefi Cymru wedi’u hadeiladu cyn 1930. Llai na 10% sydd wedi’u codi ers y flwyddyn 2000.

Mae gan Gymru fwy o gartrefi wal solet (29%) a mwy o gartrefi heb eu cysylltu â’r grid nwy (21%) na chyfartaledd y DU (21% i’r naill a 15% i’r llall).

Bydd tua 70% o’r cartrefi a fydd yn bodoli yn y 2050au wedi’u hadeiladu cyn y flwyddyn 2000.

Page 6: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Gyda’r galw yn llawer mwy na’r cyflenwad, mae cwpl nodweddiadol yn y sector rhentu preifat yn gwario bron i hanner eu cyflog ar rent, sy’n ei gwneud hi’n aruthrol o anodd cynilo ar gyfer blaendal. Mae Cyngor y Benthycwyr Morgeisi yn rhagweld mai dim ond chwarter o bobl ifanc 30 oed fydd â’u cartref eu hunain erbyn 2020, er gwaethaf pob awydd i wneud hynny. Ar y llaw arall, roedd bron i hanner y genhedlaeth bresennol sydd ar fin ymddeol yn berchen ar eu cartref eu hunain erbyn eu pen-blwydd yn 30 oed3. Yn ôl ymchwil YouGov ar ran Cyngor y Benthycwyr Morgeisi4, mae perchentyaeth yn rhywbeth y mae pob grwp oedran yn anelu ato – gyda 72% o oedolion am fod yn berchnogion tai mewn dwy flynedd, ac 80% yn gobeithio bod felly ymhen 10 mlynedd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno amrywiaeth o gynlluniau er mwyn helpu prynwyr tro cyntaf i gael eu cartref cyntaf, fel Cymorth i Brynu, ISAs Oes, a chynlluniau benthyciad ecwiti. Ar ben hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cael gwared ar y Dreth Stamp i brynwyr tro cyntaf ar eiddo sy’n werth hyd at £300,000. Yng Nghymru, does dim tâl trafodiadau tir ar eiddo hyd at £180,000, ond codir tâl o 3.5% ar eiddo sy’n werth rhwng £180,000 a £250,000 heb unrhyw gymorth i brynwyr tro cyntaf. Mae hyn yn broblem gan fod pris cyfartalog cartref yng Nghymru eisoes dros y trothwy £180,000.Ar sail hyn, felly, byddwn yn dileu’r Dreth Trafodiadau Tir i brynwyr tro cyntaf ar eiddo hyd at £250,000.

Cartrefi cydweithredol

Mae angen inni hefyd ddechrau ystyried dulliau newydd o berchentyaeth a thenantiaeth. Mae ymchwil y farchnad yn dangos bod galw am dai cydweithredol a diddordeb yn y pwnc. Ac eto, er gwaethaf ambell gynllun peilot, mae Llywodraeth Cymru wedi methu buddsoddi a defnyddio’r ateb tai modern hwn. Mae cymdeithas tai cydweithredol yn eiddo i aelodau’r gymdeithas, sy’n rheoli holl fframwaith ariannol y gymdeithas. Gyda blaendal isel, costau cwblhau is a thermau morgais hirach, mae cymdeithasau tai cydweithredol yn fwy fforddiadwy nag unrhyw berchnogaeth annibynnol arall5. Er mwyn sbarduno twf y sector hwn , byddwn yn creu cronfa Cychwyn Cartrefi Cydweithredol newydd er mwyn cynyddu nifer y cartrefi ychwanegol sy’n cael eu cyflenwi gan y sector tai cymunedol yng Nghymru.

Hawl i Brynu

Y polisi hawl i brynu oedd un o’r polisïau tai mwyaf poblogaidd yn hanes Prydain. Roedd llawer o ddarpar berchnogion tai yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu’r polisi hwn. Yn ôl arolwg British Social Attitudes, byddai’n well gan tua dau o bob tri o denantiaid cymdeithasol fod yn berchen-feddianwyr pe baen nhw’n cael y dewis6.

Mae hyn yn dangos bod lle o hyd mewn cymdeithas fodern am bolisi sy’n cynnig cyfle i’r tenantiaid cymdeithasol hyn wireddu eu dyheadau. Tra bod y polisi Hawl i Brynu wedi llwyddo i hwyluso hynny am 30 mlynedd, rydym yn cydnabod bod angen addasu’r polisi fel mae pethau o ran adeiladu tai ar hyn o bryd. Dyna pam y byddwn ni’n ailgyflwyno’r Hawl i Brynu yng Nghymru, ar sail ddiwygiedig, sy’n caniatáu i 100% o elw’r gwerthiant gael ei ail-fuddsoddi’n ôl mewn tai cymdeithasol newydd, a diogelu unrhyw gartrefi cymdeithasol newydd rhag cael eu gwerthu am o leiaf ddeng mlynedd.

Lesddaliad

Nid yw mynd i’r afael â heriau fforddiadwyedd yn gorffen wrth brynu’r eiddo. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn gaeth i drefn ffiwdal a diegwyddor o lesddaliad ar gartrefi newydd eu hadeiladu.

Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau breision i ail-unioni’r mater hwn, ac wedi lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i wella’r sector lesddaliad ar gyfer darpar berchnogion tai, a fydd yn rhoi terfyn ar yr arfer o gartrefi newydd fel lesddaliad. Rydym yn dal i ddisgwyl i Lywodraeth Cymru ddilyn yr un trywydd, er bod y broblem yn effeithio ar hyd at 7,000 o bobl yng Nghymru. Mae lesddaliad yn iawn fel daliadaeth - gall fod yn ddefnyddiol mewn adeiladau sy’n rhannu’r un adeilad ac ardaloedd cyffredin, fel bloc o fflatiau, ond mae llawer gormod o dai newydd yn cael eu hadeiladu a’u gwerthu fel hyn. Byddwn yn cyflwyno gwaharddiad ar ddefnydd anghyfiawn o lesddaliadaethau ar dai newydd sbon yng Nghymru, ac yn gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i ganfod ffyrdd o unioni’r cam i filoedd o bobl sydd eisoes yn sownd yn y system.

Fforddiadwyedd a pherchentyaethMae prinder cartrefi wedi achosi i brisiau tai yng Nghymru gyrraedd uchafbwynt, gyda’r cartref cyfartalog yng Nghymru yn costio £184,722. Mae hyn tua saith gwaith yn fwy na’r enillion cyfartalog yng Nghymru. Does ryfedd fod pobl ifanc yn cael trafferth ymuno â’r farchnad dai.

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig: Ffordiadwyedd a pherchentyaeth

3 Cyngor y Benthycwyr Morgeisi (2015) The challenge facing first time buyers4 https://www.cml.org.uk/news/cml-research/home-ownership-or-bust-consumer-research-into/5 https://www.proptiger.com/guide/post/benefits-of-living-in-a-cooperative-housing-society6 MHCLG (2018) Public attitudes to house building: findings from the British Social Attitudes survey 2017 9

Page 7: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Tir a chyflenwad

Ni fydd unrhyw atebion i’r argyfwng tai yn llwyddo oni bai bod camau sylweddol yn cael eu cymryd i drafod materion tir. Mae gwerth tir yn y DU wedi cynyddu 412% ers 1995, o £918 biliwn i dros £5 triliwn.

Mae angen inni gynnal dadansoddiad trylwyr o’r her cyflenwad tir yng Nghymru. Tra bod y dadansoddiad hwn wedi’i gynnal yn Lloegr, mae’r adolygiadau hynny wedi canolbwyntio’n benodol ar safleoedd tai mawr o dros 1,500 o gartrefi. Prin yw safleoedd o’r fath yng Nghymru.

Roedd ymchwil yn 20157 yn awgrymu bod bron i 400 o safleoedd yng Nghymru lle’r oedd gwaith wedi’i atal am resymau amrywiol. Safleoedd segur yw’r rhain, y rhan fwyaf yn addas i’r sector busnesau bach a chanolig i’w datblygu. Dyma’r safleoedd y dylem eu datblygu. Byddwn yn sefydlu Comisiwn Tir Cymru, sy’n cynnwys arbenigwyr o bob cwr o’r sector, er mwyn cael dealltwriaeth well o’r materion tir yng Nghymru, a chyflymu’r broses o adeiladu safleoedd tai.

Dylai polisïau ganiatáu cymysgedd da o safleoedd fel bod darpariaeth amrywiol i ddiwallu anghenion tai gwahanol. Bydd mwy o amrywiaeth o safleoedd, gan gynnwys rhagor o safleoedd bach o fewn cynlluniau lleol yn helpu busnesau bach a chanolig i gyfnerthu a thyfu a chyflymu’r cyflenwad tai. Dan gynigion y Ceidwadwyr Cymreig, dylai o leiaf 10% o’r safleoedd mewn cynlluniau datblygu lleol fod yn hanner hectar neu lai.

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig: Tir a chyflenwad

7 https://gov.wales/docs/desh/research/151119stalled-sites-and-section-106-agreements-en.pdf

11

Page 8: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Mwy o dryloywder

Mae’n gallu bod yn anodd pennu pwy’n union sydd â diddordeb mewn tir, a dylai unrhyw lywodraeth sicrhau bod data am berchnogaeth, rheolaeth a buddiant tir yn fwy clir a thryloyw. Bydd hyn o gymorth i nodi tir a all fod yn addas ar gyfer tai. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cyflwyno gofyniad statudol bod awdurdodau lleol yn datblygu cofrestri tir safleoedd llwyd sy’n addas ar gyfer tai. Bydd y Llywodraeth yn mynd ymhellach trwy ddeddfu i roi caniatâd awtomatig mewn egwyddor ar safleoedd tir llwyd a nodwyd ar gofrestri, yn destun cymeradwyaeth ar nifer cyfyngedig o fanylion technegol. Ar safleoedd tir llwyd, bydd hyn yn golygu system “ardal/cylchfaol”, fel rhai mewn gwledydd eraill, gan leihau oedi ac ansicrwydd diangen ar ddatblygiadau tir llwyd. Er mwyn dilyn yr esiampl hon, byddwn yn datblygu cofrestr statudol o safleoedd tir llwyd sy’n addas ar gyfer tai yng Nghymru.

Yn ôl gwefan y Gofrestrfa Tir, ‘Mae’r Gofrestr Tir yn cynnwys mwy na 25 miliwn o deitlau yn dangos tystiolaeth perchnogaeth mwy nag 86% o’r ehangdir yng Nghymru a Lloegr8. Mae hyn yn dangos bod ansicrwydd ynghylch perchnogaeth 15% o dir Cymru a Lloegr o hyd. Felly, byddwn yn comisiynu system fapio ar-lein ar gyfer Cymru lle gellir cael gafael hawdd ar ddata tai, cynllunio a seilwaith.

Tir cyhoeddus

Yn ôl tystiolaeth gan Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai i Bwyllgor Materion Economaidd Tŷ’r Arglwyddi, roedd rhwng chwarter a thraean o’r holl dir preswyl posib yn nwylo’r sector cyhoeddus. Dylem roi’r flaenoriaeth i ddatblygiadau sy’n darparu gwerth cymdeithasol fel bod modd cyflwyno tir cyhoeddus er budd cyhoeddus tymor hir. Felly, byddwn yn gweithredu ‘Gostyngiad Gwaredu Tir Cyhoeddus’ ar gyfer datblygiadau sy’n gallu dangos gwerth cymdeithasol cryf. Dylai cynllun fel hwn gael ei weithredu er mwyn codi tai i nyrsys, datblygiadau cymdeithasau tai neu gartrefi pobl hyn.

Mae tua 30% o werth y tŷ dod o’r gwaith adeiladu, a rhyw 70% yn deillio o’r tir y mae’n sefyll arno.

Roedd y rhaniad hwn tua 50-50 ym 1995.

Mae gwerth tir adeiladu wedi cynyddu 544% ers 1995, tra bod asedau ategol wedi cynyddu 219%.

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig: Tir a chyflenwad

8 https://www.gov.uk/government/organisations/land-registry/about

Adeiladwyr bach oedd yn gyfrifol am 4 o bob 10 cartref newydd ym 1988 o gymharu â thros 1 o bob 10 heddiw.

Yn y cyfnod 2007-2009, fe wnaeth traean o gwmnïau bach roi’r gorau i adeiladu tai.

Mae 80% o holl gartrefi newydd Cymru yn cael eu hadeiladu gan bump cwmni.

13

FFA

ITH

I CH

I

FFA

ITH

I CH

I

Page 9: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Er hynny, mae’r diwydiant adeiladu yn cael trafferth recriwtio, hyfforddi a chyflogi rhai â’r sgiliau angenrheidiol. Yn ôl ‘Home Builders Survey 2018’ Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, dywedodd 44% o fusnesau bach a chanolig fod prinder gweithwyr medrus yn gryn rwystr i’w gallu i adeiladu mwy o gartrefi - o gymharu â 42% yn 2017. Mae Apple Construction Training wedi honni y bydd 400,000 o weithwyr adeiladu yn ymddeol yn y DU dros y 10-15 mlynedd nesaf, sef tua 30% o’r gweithlu cyfredol; ac nid yw nifer y gweithlu iau sy’n ymuno â’r diwydiant yn cyfateb i hyn8.

Beth sy’n gwneud y broses recriwtio’n anoddach fyth yw delwedd negyddol y sector yn aml oherwydd yr holl straeon am fasnachwyr twyllodrus a ‘chowbois’. Yn ôl Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, mae unrhyw un yn gallu galw’i hun yn adeiladwr yn y DU ar hyn o bryd, ac mae’r “economi anffurfiol” hon – a sbardunir gan fasnachwyr twyllodrus – yn werth tua £9.7 biliwn o bunnoedd. Yn wahanol i’r maes nwy a thrydanol, mae unrhyw un yn y DU yn gallu sefydlu’i hun fel adeiladwr neu grefftwr, gan adael y sector mewn perygl o fod yn agored i berfformiadau is na’r safon. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, byddwn yn sefydlu cynllun trwyddedu ar gyfer diwydiant adeiladu’r DU.

Adeiladu ac arloesiMae’r maes tai yn rhan hanfodol o economi Cymru. Mae gwaith adeiladu yn creu cyfoeth, ac yn aml, gweithwyr lleol yw’r rhai sy’n cael eu cyflogi gan y diwydiant. Am bob £1 a fuddsoddir yn y diwydiant adeiladu, caiff £2.84 ei gynhyrchu yn yr economi ehangach. Pa ryfedd fod economegwyr yn ystyried tai yn hollbwysig i’r economi sylfaeno.

Mae’r diwydiant adeiladu yn cyfrannu dros £110 biliwn, neu 7%, at gynnyrch domestig gros (GDP) y DU.

Mae diwydiant adeiladu’r DU yn cyflogi dros 2.3 miliwn o bobl, ac mae oddeutu 4% o’r rheiny’n gweithio yng Nghymru.

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig: Adeiladu ac arloesi

9 http://appleconstructiontraining.co.uk/2018/03/20/skills-gap-construction/ 15

FACT

BOX

Page 10: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Carbon isel ac uwchsgilio

Mae arloesi ym myd adeiladu yn hanfodol er mwyn gweddnewid diwydiant adeiladu’r DU. Tra bod sgiliau caib a rhaw fel bricwyr yn dal yn ganolog i’r broses adeiladu, mae sgiliau newydd yn dod yn fwyfwy hanfodol. Cafodd hyn ei gydnabod gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad yn yr Adroddiad Tai Carbon Isel, a ddywedodd y dylai sgiliau a hyfforddiant yn y sector adeiladu fod yn ganolog i strategaeth tai carbon isel hirdymor Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymo i leihau’r allyriadau carbon isel gan o leiaf 80% erbyn 2050. Yng Nghymru’n unig, mae’r maes tai yn gyfrifol am 21% o allyriadau carbon. Er mwyn cyrraedd y targed hwn, bydd angen mwy o uchelgais gan ddefnyddio amrywiaeth o ysgogiadau polisi. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn sicrhau bod yr holl gartrefi newydd yng Nghymru yn cael eu hadeiladu yn ôl safonau di-garbon erbyn 2026. Mae cartref di-garbon yn fwy na chartrefi carbon niwtral – maen nhw’n garbon negyddol hefyd.  Yn ystod y flwyddyn, mae ty yn cynhyrchu mwy o drydan nag y mae’n ei ddefnyddio, felly mae’n lleihau ar y CO2 sy’n cael ei gynhyrchu’n rhywle arall10.

Wrth addysgu sgiliau newydd i fyfyrwyr a phrentisiaid, rhaid inni hefyd helpu gweithwyr adeiladu cyfredol i feithrin y sgiliau gofynnol i weithredu’r dulliau adeiladu newydd. Rhaid ni

hefyd annog datblygwyr a chyrff y diwydiant i fuddsoddi yn y gwaith o uwchsgilio’r gweithwyr sydd gennym eisoes. Gwelodd adolygiad “Adeiladu’r Dyfodol” Cymwysterau Cymru fod yr amrywiaeth o gymwysterau sydd ar gael yn gymhleth, yn ddryslyd a bod diffyg cydlyniant; nad yw llwybrau dilyniant bob amser yn glir; bod dysgwyr yn profi achosion o ailadrodd wrth iddynt ddatblygu drwy gymwysterau; a phryderon am y trefniadau asesu11. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, byddwn yn cynnal adolygiad maint llawn o gymwysterau galwedigaethol, prentisiaethau a’r system hyfforddiant yng Nghymru, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cymhwyster dan arweiniad cyflogwyr, a hyrwyddo cyflogaeth yn y sector yn well.

Pwyntiau gwefru

Rhaid cynllunio datblygiadau tai newydd yn well er mwyn hwyluso’r broses o bontio o gymdeithas sy’n dibynnu ar gerbydau tanio mewnol i un mwy cynaliadwy. Bydd angen cysylltiadau trafnidiaeth gwella a seilwaith carbon isel gwell ar gyfer hyn. Yn seiliedig ar fwriad Llywodraeth y DU i roi’r gorau i werthu ceir a faniau petrol a disel erbyn 2040, mae angen cymryd camau nawr. Dan gynigion y Ceidwadwyr Cymreig, bydd yn ofynnol i osod pwynt gwefru trydan ym mhob cartref newydd, a byddwn yn creu grant Seilwaith Cerbydau Trydan er mwyn helpu cwmnïau adeiladu bach a chanolig i fodloni’r gofyniad hwn.

Modiwlaidd

Y llynedd, dywedodd adroddiad gan Fwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu y gallai adeiladu oddi ar y safle chwyldroi’r diwydiant adeiladu a helpu i ddarparu ateb i brinder tai’r DU. Mae bron i 50% o gleientiaid y diwydiant adeiladu yn disgwyl i’r defnydd o adeiladu oddi ar y safle gynyddu dros y pum mlynedd nesaf12. Mae’n drueni bod y cyfleoedd newydd hyn wedi’u cyfyngu gan ddiffyg gwaith adeiladu tai.

O gymharu â Sweden, yr Almaen a’r Iseldiroedd, mae’r DU bellach ar ei hôl hi o ran cyfuno gwaith cynhyrchu ac adeiladu, tra yn Japan, mae dros 15% o’r cartrefi newydd a godir bob blwyddyn yn rhai ‘parod’ (pre-fab), neu’n rhannol barod o leiaf13. Mae atebion technolegol yn gweddnewid sectorau eraill, ond mae’r diwydiant adeiladu yn dal i lusgo’i draed. Gallai datblygu cartrefi oddi ar y safle ein helpu i gyflenwi llawer mwy o gartrefi o’r radd flaenaf, ar gyflymder, heb fawr o broblemau. Dan lywodraeth y Ceidwadwyr Cymreig, a thrwy gyfres o fesurau polisi, byddwn yn cynllunio ar gyfer sicrhau bod 20% o’r unedau tai newydd yn cael eu cynhyrchu ymlaen llaw erbyn 2030.

Technoleg ddigidol

Dywed adroddiad trawsddiwydiant gan economegwyr Rhydychen y gallai GDP economi’r DU gynyddu 2.5% (£92 biliwn) a chreu dros filiwn o swyddi yn y ddwy flynedd nesaf yn sgil datblygiadau technoleg ddigidol. Yn benodol, roedd yr adroddiad yn awgrymu y gallai’r diwydiant adeiladu fod ar flaen y gad yn nhermau’r hyn y gellir elwa arno, gan ddweud bod cwmnïau adeiladu sydd wedi cofleidio’r dechnoleg ddigidol wedi sicrhau 5.9% yn fwy o refeniw14. Er mwyn helpu i hybu hyn ymhellach, byddwn yn creu Cronfa Ymchwil Digidol mewn Adeiladu gwerth £10 miliwn er mwyn helpu i foderneiddio a hybu’r sector adeiladu yng Nghymru.

Mae technoleg ddigidol hefyd yn gallu cyflymu’r broses gynllunio a’i gwneud yn fwy rhyngweithiol. Trwy ddefnyddio technoleg o’r radd flaenaf, mae modd cael cynrychiolaeth gywir o ddatblygiad neu eiddo unigol yn brydlon a fforddiadwy. Gall hyn helpu i leihau unrhyw bryderon a all fod gan drigolion lleol, a helpu pobl i wneud dewisiadau doethach a hyddysg wrth ystyried prynu ty sydd wrthi’n cael ei ddatblygu. Byddwn yn cydweithio â datblygwyr ac adrannau cynllunio awdurdodau lleol i gynnwys technoleg rithwir a dronau yn y broses adeiladu tai.

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig: Adeiladu ac arloesi

10 http://zerocarbonhousebirmingham.org.uk/about/what-is-a-zero-carbon-house/11 https://www.qualificationswales.org/media/3176/building-the-future.pdf12 https://www.citb.co.uk/research-and-insight/innovation-technology/faster-smarter-building-skills-for-offsite-construction1/13 https://www.raconteur.net/business-innovation/modular-homes-future-housing14 https://www.designingbuildings.co.uk/wiki/Digital_technology_boost_to_construction_industry

17

Page 11: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Amrywiaeth, addasrwydd a dyluniadYn ôl cyfraniad Cartrefi Cymunedol Cymru at adolygiad Llywodraeth Cymru o gartrefi fforddiadwy, mae angen pwyslais ar adeiladu cymunedau o ddaliadaeth wirioneddol gymysg gyda chartrefi y mae pobl yn dyheu am fyw ynddynt, er mwyn creu llefydd cynaliadwy.

Dechreuodd Llywodraeth y DU adolygiad o achosion yr arafwch wrth ehangu datblygiadau tai, gyda phwyslais penodol ar gyfraddau adeiladu safleoedd mwy. Cynhaliwyd yr adolygiad hwn gan Syr Oliver Letwin AS, a’i brif gasgliad oedd bod cyfraddau ehangu ar safleoedd mwy wedi’u cyfyngu gan gynnyrch rhy debyg i’w gilydd (“homgenity of product”). Yn ôl Letwin, dylai’r prif gwmnïau adeiladu gynnig mwy o amrywiaeth o ran cynnyrch, math, daliadaeth a chynllun, a allai arwain at fwy o amrywiaeth mewn prisiau. Byddai hyn yn gwneud y farchnad tai newydd yn fwy hygyrch a llawer mwy atyniadol i amrywiaeth ehangach o bobl, gan gynyddu capasiti’r farchnad.

Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn datblygu set newydd o reolau cynllunio ar gyfer safleoedd mawr mewn ardaloedd â’r galw mwyaf am dai, a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ddatblygwyr cynlluniau mawr ddarparu amryw o gynhyrchion. Byddai hyn yn cynnwys tai cymdeithasol, tai rhent, tai’r farchnad agored, cynlluniau fforddiadwyedd fel Cymorth i Brynu a Rhanberchnogaeth, a chynlluniau tai cydweithredol. Hefyd, bydd awdurdodau lleol yn cael y grym i ddynodi tir ar gyfer datblygiad ‘safle mawr’ yn unig.

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig: Amrywiaeth, addasrwydd a dyluniad

19

Page 12: Cartrefu Cenedl - conservatives.wales

Mae’n bwysig bod atebion carbon isel wrth wraidd camau dylunio a chynllunio datblygiad tai. Mewn sesiwn dystiolaeth ar gyfer y Low Carbon Housing Report, pwysleisiodd Roisin Willmott o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) “it is about how you design a site, and that is very much at the planning stage... rather than trying to adjust it later on in the development. We shouldn’t just focus on the building itself -we need to look at the design of sites ... So, we need to look at where we put houses and whether they’re accessible by active travel, by public transport, and reduce that kind of carbon as well.”

Hunanadeiladu

Mae lle o hyd i fwy o arallgyfeirio, gyda mwy o gystadleuaeth, mwy o newydd-ddyfodiaid a dulliau datblygu newydd, er mwyn cynyddu cyflymder ac ansawdd tai newydd. Gallai’r sector hunanadeiladu gyfrannu’n allweddol at gyrraedd y nod hwn.

Mae rhai enghreifftiau gwych o uchelgais hunanadeiladu ledled y DU. Mae’r strydoedd cyntaf ar un o’r safleoedd hunanadeiladu ar raddfa fawr mwyaf y DU, yn Graven Hill, Swydd Rydychen yn dechrau dwyn ffrwyth. Graven Hill yw arbrawf mwyaf arloesol erioed y DU o ran hunanadeiladu a hunandeilwra, sy’n cynnwys 1,900 o gartrefi. Aeth y cyngor lleol ati i brynu cannoedd o erwau o dir segur y Weinyddiaeth Amddiffyn, cyn creu’r lleiniau o dir, cynllun y strydoedd, ysgol, meithrinfeydd, llwybrau beicio a hyd yn oed tafarn. Yna, mae’r prynwr yn dewis ei lain (o ofod ar gyfer tŷ dwy lofft i dŷ sengl chwe llofft) ac yn cynllunio’i gartref ei hun.

Mae tai hunanbwrpasol a hunanadeiladu yn aml yn rhatach, yn fwy ecogyfeillgar a fforddiadwy na thai’r farchnad sylfaenol. Mae ymchwil a gynhaliwyd yn 2013 yn dangos bod hunanadeiladwyr yn gallu arbed rhwng 20 a 25% o gost tŷ cyfatebol ar y farchnad agored - sy’n hanfodol i lawer sy’n bwriadu ymuno â’r farchnad dai. Er mwyn manteisio ar y farchnad gynyddol hon, byddwn yn cyflwyno Deddf Cartrefi wedi’u Hunanadeiladu a Hunandeilwra yng Nghymru, ac yn mynd ymhellach trwy gyflwyno Hawl i Adeiladu lle byddai awdurdodau lleol yn gorfod cyflwyno lleiniau o dir ar gyfer hunanadeiladwyr cofrestredig.

Dylunio: Tai hardd

Yn rhy aml, mae pobl sy’n dylunio ac adeiladu cartrefi newydd yn dueddol o ddilyn patrwm sylfaenol. Rydym nid yn unig eisiau adeiladu mwy o dai, ond hefyd eisiau adeiladu cymunedau brafiach i fyw ynddynt. Adroddiad ‘Building More, Building Beautiful’ gan y Policy Exchange sy’n croniclo hyn orau – ‘As the country takes to building a new generation of homes, public support for which is much higher than often presented, it is essential they meet the aesthetic needs of citizens, communities and the nation as a whole, both now and in the future’. Eisoes, mae awdurdodau lleol mewn rhai rhannau o’r DU yn dechrau mynnu bod datblygiadau tai yn edrych yn debyg i, ac yn cyd-fynd â steil yr ardal leol. Dan gynlluniau’r Ceidwadwyr Cymreig, bydd yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddatblygu canllawiau dylunio ac arddulliau/patrwm sy’n gweddu i’w hanghenion lleol.

Mae angen i’r sector preifat fentro rhywfaint hefyd a gwella safonau dylunio. Rydym yn gweld gormod o adeiladau a llefydd wedi’u cynllunio’n wael, ac yn aml, y trethdalwyr sy’n gorfod talu’r bil i’w hunioni. Er mwyn rhwystro hyn, a sicrhau ein bod ni’n adeiladu tai ar gyfer y tymor hir, dylai pob datblygiad o dros 150 o unedau gynnwys pensaer ymgynghorol wedi’i benodi gan y cyngor lleol, ond wedi’i ariannu gan y datblygwr fel rhan o’u hymrwymiad Adran 106 i’r gymuned.

Pobl hŷn

Dylai cartref fforddiadwy o safon fod yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru, waeth beth fo’u hoed neu incwm. Mae ein cymdeithas yn prysur heneiddio, gyda 18% o bobl yn 65 oed a throsodd a 2.4% yn 85 oed a throsodd yn 201615. Disgwylir y bydd cyfran y bobl 85 oed yn dyblu dros y chwarter canrif nesaf16. Fel unrhyw grŵp oedran arall, mae pobl hŷn yn amrywiol, ac mae eu hanghenion a’u dewisiadau tai lawn mor amrywiol.

Mae gormod o bobl hŷn yn dal i wynebu tai mewn cyflwr gwael sy’n niweidiol i’w hiechyd. Mae 22.6 y cant o aelwydydd sy’n cynnwys person hŷn yn byw mewn cartref is na’r safon, a’r mwyafrif ohonynt yn y sector preifat. Trwy gynnig dewis gwell o lety i bobl hŷn, gallai

hyn eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hirach a helpu i leihau costau i’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai helpu pobl hŷn i symud ar yr adeg gywir, ac yn y ffordd gywir, hefyd o fudd i’w safon bywyd, ac yn rhyddhau eu cartref maint teulu i brynwyr eraill. Trwy gydweithio â phobl hŷn a’r rhai sy’n darparu tai ar eu cyfer, byddwn yn cyflwyno Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Tai Pobl Hŷn yng Nghymru, sy’n cyfuno agweddau ar bolisïau tai ac iechyd.

Cyn-filwyr

Mae’n hollbwysig bod cyn-filwyr a’u teuluoedd yn cael tai diogel, sicr â chymorth wrth ddychwelyd i fyd sifiliaid. Mae llawer o gynlluniau llwyddiannus eisoes yn darparu’r gwasanaeth hwn, fel Alabaré, sy’n cael ei gyflwyno ar y cyd â First Choice Housing. Mae’r cynllun hwn yn gweithio ledled Cymru i sicrhau nad yw 120 o gyn-filwyr yn cysgu allan ar y stryd ar unrhyw noson benodol17.

Ac eto, er gwaetha’r arfer gorau hwn, mae ymdrechion i atal digartrefedd a gwella mynediad i gartrefi wedi methu. Credwn y gellir mynd i’r afael â hyn trwy integreiddio tai a gwasanaethau iechyd yn well, a byddwn yn cyflwyno Comisiynydd y Lluoedd Arfog yng Nghymru i gyflawni hyn.

Strategaeth Tai y Ceidwadwyr Cymreig: Amrywiaeth, addasrwydd a dyluniad

15 Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Overview of the UK population: July 2017, Gorffennaf 201716 Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, National Population Projections: 2016-based statistical bulletin, Hydref 2017 17 Alabaré Homes for Veterans Wales, fel ar 1 Tachwedd 2018 (dolen)

2120