4
CHEME Haf 2015 Rhoi sylw i ymchwil Digwyddiadau i ddod Newyddion am Staff Trefniadau cyllido newydd Digwyddiadau diweddar Swyddi Gweigion YN Y RHIFYN HWN ... Croeso i newyddlen Haf 2015 y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Yn y rhifyn hwn, rydym yn canolbwyntio ar lwyddiannau a gweithgareddau ymchwil yn ystod chwe mis cyntaf 2015. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys: Dathlu’r effaith a gafodd Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru (WHESS) yn ystod y 5 mlynedd a fu; Symposiwm Ymchwil Meddyginiaethau Gogledd Cymru; symposiwm ar yr Effaith a gaiff Tai ar Iechyd a Lles; a golwg ar brojectau CATCH a Girls Active. Ceir mwy o wybodaeth ar ymchwil, dysgu a gweithgareddau cefnogol GIG ar ein gwefan: cheme.bangor.ac.uk neu drwy gysylltu â’n gweinyddwr Ann Lawton: [email protected]. Dilynwch ni ar Twitter @CHEMEBangor a @ProfRTEdwards. Dyfrig Hughes & Rhiannon Tudor Edwards Cyd-gyfarwyddwyr CHEME Y fyfyrwraig PhD o CHEME, Eira Winrow, yn cyflwyno ei hymchwil ar wella’r stoc dai yn y Symposiwm ar yr Effaith a gaiff Tai ar Iechyd a Lles. Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau

CHEME - Bangor University · Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys: Dathlu’r effaith a gafodd Gwasanaeth ... Yn yr arolwg a gynhaliwyd yn 2010 ar Addysg Gorfforol a hwaraeon mewn Ysgolion

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: CHEME - Bangor University · Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys: Dathlu’r effaith a gafodd Gwasanaeth ... Yn yr arolwg a gynhaliwyd yn 2010 ar Addysg Gorfforol a hwaraeon mewn Ysgolion

CHEME

Haf 2015

Rhoi sylw i ymchwil Digwyddiadau i ddod Newyddion am Staff

Trefniadau cyllido newydd Digwyddiadau diweddar

Swyddi Gweigion

YN Y RHIFYN HWN ...

Croeso i newyddlen Haf 2015 y

Ganolfan Economeg Iechyd a

Gwerthuso Meddyginiaethau

(CHEME)

Yn y rhifyn hwn, rydym yn canolbwyntio ar lwyddiannau a

gweithgareddau ymchwil yn ystod chwe mis cyntaf 2015. Mae’r

uchafbwyntiau’n cynnwys: Dathlu’r effaith a gafodd Gwasanaeth

Cymorth Economeg Iechyd Cymru (WHESS) yn ystod y 5

mlynedd a fu; Symposiwm Ymchwil Meddyginiaethau Gogledd

Cymru; symposiwm ar yr Effaith a gaiff Tai ar Iechyd a Lles; a

golwg ar brojectau CATCH a Girls Active.

Ceir mwy o wybodaeth ar ymchwil, dysgu a gweithgareddau

cefnogol GIG ar ein gwefan: cheme.bangor.ac.uk neu drwy

gysylltu â’n gweinyddwr Ann Lawton: [email protected].

Dilynwch ni ar Twitter @CHEMEBangor a @ProfRTEdwards.

Dyfrig Hughes & Rhiannon Tudor Edwards

Cyd-gyfarwyddwyr CHEME

Y fyfyrwraig PhD o CHEME, Eira Winrow, yn cyflwyno ei hymchwil ar wella’r stoc dai yn y Symposiwm ar yr Effaith a gaiff Tai ar Iechyd a Lles.

Canolfan Economeg

Iechyd a Gwerthuso

Meddyginiaethau

Page 2: CHEME - Bangor University · Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys: Dathlu’r effaith a gafodd Gwasanaeth ... Yn yr arolwg a gynhaliwyd yn 2010 ar Addysg Gorfforol a hwaraeon mewn Ysgolion

Rhoi sylw i ymchwil...

Girls Active

Mae ffrwd ymchwil Iechyd Cyhoeddus yn CHEME wrthi’n gweithio gyda phartneriaid o Brifysgolion Caerlŷr, Stirling a Loughborough, gyda chyllid o NIHR PHR, i gynnal gwerthusiad economaidd ochr yn ochr â Hap-dreial Dan Reolaeth ar raglen Girls Active. Yn yr arolwg a gynhaliwyd yn 2010 ar Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion yn Lloegr, cafwyd bod gostyngiad brawychus mewn cyfranogiad wrth i ferched gyrraedd eu harddegau; 15% yn unig o ferched 17-18 oed oedd yn cymryd rhan mewn o leiaf 3 awr o addysg gorfforol a chwaraeon yn yr ysgol bob wythnos, wrth ochr 68% o ferched 10-11 oed. Mae Girls Active yn cynnig fframwaith cynllunio syml a hyblyg er mwyn helpu athrawon a merched i weithio ar y cyd i roi sylw i’r materion sy’n effeithio arnynt hwy’n benodol. Mae’n seiliedig ar egwyddorion a ddatblygwyd gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid ynglŷn â chyfranogiad myfyrwyr, megis llais ac arweiniad gan fyfyrwyr, ochr yn ochr â dulliau arloesol o farchnata chwaraeon ac ymarfer corff.

Prawf Heintiau CAThetr mewn Plant (CATCH)

Mae heintiau cathetr gwythiennol canolog (CVC) yn achos arwyddocaol o forbidrwydd iatrogenic, marwolaethau, arosiadau rhyw hir mewn ysbyty a chostau gofal iechyd y gellid eu hosgoi. Gyda chyllid o’r rhaglen HTA NIHR, bu prawf CATCH yn ystyried gwerth clinigol a chost-effeithiolrwydd CVCau â haen o heparin neu wedi’u trochi mewn gwrthfiotig, wrth ochr CVCau safonol o ran atal heintiau llif gwaed (BSI) mewn amgylchedd gofal dwys i blant. Yn yr astudiaeth hon ar 1,485 o blant a gynhaliwyd mewn sawl canolfan, cafwyd nad oedd trochi CVCau yn cael unrhyw effaith o gymharu â CVCau safonol ond, yn ôl dadansoddiadau eilaidd, cafwyd bod CVCau â gwrthfiotig yn well na’r rhai safonol. Er nad oedd gwahaniaethau o bwys o ran hyd arosiadau, roedd costau 6-mis am CVC gwrthfiotig yn uwch nag am rai cyffelyb, fel bod cymhareb gost-effeithiol gynyddrannol o £54,057 am bob haint llif gwaed a osgowyd wrth ochr CVCau safonol.

Cyfarfod Grŵp Economegwyr Iechyd Cymru (WHEG)

Cynhelir cyfarfod 2015 Grŵp Economegwyr Iechyd Cymru (WHEG) gan CHEME ar 1-2 Hydref yng Nghanolfan Reolaeth y Brifysgol. Mae cyfarfodydd WHEG yn darparu fforwm trafod a chyflwyno – ar lafar ac ar ffurf posteri – ar gyfer ymchwilwyr ar draws Cymru. E-bost [email protected] am fwy o wybodaeth.

Seminarau awr ginio CHEME

1 Medi – Dr Laura Ternent, Uwch

Ddarlithydd, Prifysgol Newcastle

6 Hydref – Dr Ed Wilson, Uwch

Gysylltai Ymchwil, CCHSR, Prifysgol

Caergrawnt

3 Tachwedd – Dr Apostolos

Tsiachristas, Uwch Ymchwilydd,

HERC Prifysgol Rhydychen

1 Rhagfyr – enw’r siaradwr i’w

gyhoeddi

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â

[email protected]

Dr Colin Ridyard yn rhoi cyflwyniad ar brawf CATCH yn y Symposiwm Ymchwil Meddyginiaethau Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Digwyddiadau i Ddod...

Newyddion am Staff...

Ym mis Mawrth, etholwyd Rhiannon Tudor Edwards i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn anelu at ddathlu ac annog rhagoriaeth yn yr holl ddisgyblaethau ysgolheigaidd, yn cynnwys y proffesiynau, diwydiant a masnach, y celfyddydau a gwasanaeth cyhoeddus; hyrwyddo cynnydd dysg ac ysgolheictod a’r gwaith o ledaenu a defnyddio canlyniadau ymchwiliad ac ymchwil academaidd; a gweithredu fel ffynhonnell annibynnol o gyngor ysgolheigaidd a sylwebaeth arbenigol ar faterion sy’n effeithio ar les Cymru a’i phobl.

Llongyfarchiadau i Giovanna Culeddu o CHEME ar ennill ei MSc mewn Dulliau Ymchwil ac Ystadegau o Brifysgol Manceinion.

Llongyfarchiadau hefyd Nathan Bray ar lwyddo yn viva ei PhD. Gwnaeth Nathan ymchwil PhD i economeg ddarpariaeth cadeiriau olwyn ar gyfer plant sy’n byw gydag anableddau.

Dr Nathan Bray yn mwynhau gwydraid o siampên ar ôl viva ei PhD.

Page 3: CHEME - Bangor University · Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys: Dathlu’r effaith a gafodd Gwasanaeth ... Yn yr arolwg a gynhaliwyd yn 2010 ar Addysg Gorfforol a hwaraeon mewn Ysgolion

Cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru tuag at Wasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £1.2 miliwn i WHESS dros 3 blynedd, er mwyn darparu cymorth economeg iechyd i ymchwilwyr ym meysydd gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru, yn bennaf trwy’r tair uned treialon clinigol, a Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil Cymru. O ran cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae WHESS, yn ôl amcangyfrif ceidwadol, elw o fwy na £4 ar bob punt a fuddsoddwyd. Cyfarwyddir WHESS gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, ac mae’n enghraifft o gydweithrediad rhwng economegwyr iechyd o Brifysgolion Abertawe a Bangor. Meddai Rhiannon, “Ers pum mlynedd, rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen ar y cyd, ar lefel Cymru gyfan, wrth greu màs critigol o arbenigedd mewn ymchwil economeg iechyd a chefnogi polisïau. Ein nod yn awr yw adeiladu ar hyn a’i gynnal, gan gefnogi’r genhedlaeth nesaf o economegwyr iechyd, a chan gyfrannu at ymchwil benigamp yng Nghymru i ofal iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid inni gadw mewn cof fod adnoddau’n brin a bod angen nid yn unig dangos tystiolaeth fod gwasanaethau yn effeithiol, ond eu bod hefyd yn gost-effeithiol.”

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar gyfer Trawiadau Epileptig (SAFE)

Gyda chyllid o Raglen y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) (HS a DR), mae’r Athro Dyfrig Hughes wrthi’n cydweithio ag ymchwilwyr o Brifysgol Lerpwl er mwyn gwireddu i’r eithaf bosibiliadau cwrs sydd wedi’i anelu at bobl ag epilepsi sy’n mynd i adrannau brys, ynghyd â’u cynhalwyr anffurfiol, o ran cynnwys, darpariaeth a newid ymddygiad. Yna, bydd Hap-dreial peilot Dan Reolaeth yn amcangyfrif y tebygolrwydd o ran recriwtio, cydsynio a dilyniant yng nghyswllt prawf terfynol yn y dyfodol.

Optimeiddio ansawdd bywyd trwy gydol datblygiad cyflwr niwrolegol sydd, fesul tipyn, yn achosi anabledd (Opt-Life)

Cafodd yr Athro Carolyn Young (Ysbyty Walton) a’r Athro Dyfrig Hughes gyllid gan Gymdeithas Clefyd y Niwronau Motor i gynnal arolwg cenedlaethol ar ansawdd bywyd, effeithiau economaidd ac effeithiau cymdeithasol Clefyd y Niwronau Motor (CNM) ar gleifion a’u teuluoedd. Y dadansoddiad economeg iechyd fydd yn pennu’r deilliannau o ran iechyd a’r costau ar gyfer gwerthusiad economaidd yn y dyfodol ar feddyginiaethau ac ymyriadau newydd wrth drin CNM.

Trefniadau cyllido newydd...

Digwyddiadau diweddar...

Symposiwm Ymchwil Meddyginiaethau Gogledd Cymru

Daeth cynrychiolwyr o’r gwasanaeth iechyd ac o sefydliadau academaidd o bob cwr o Gymru i’r trydydd symposiwm, a groesawyd gan yr Athro Dyfrig Hughes (llun isod) ac a gyllidwyd gan Brifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Profysgol Betsi Cadwaladr, a Fforwm Ymarfer Lleol y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (http://cheme.bangor.ac.uk/nwmrs. Rhoddodd y prif anerchydd, yr Athro Andrew Farmer o’r Adran Gwyddorau Gofal Iechyd Sylfaenol ym Mhrifysgol Rhydychen, gyflwyniad ar ‘Medicines non-adherence: managing a complex problem’. Bu’n ymdrin â’r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir i wella’r graddau y mae cleifion yn cymryd eu moddion, gan sôn am y maglau sydd ynghlwm wrth hynny.

Economeg Iechyd ar gyfer Ymarfer ac Ymchwil i Iechyd Cyhoeddus – Cwrs byr

Ym mis Mawrth, cynigiodd CHEME, am yr ail flwyddyn, Gwrs Byr i Arbenigwyr mewn Economeg Iechyd Cyhoeddus, yn dysgu economeg iechyd i ymarferwyr ym maes Iechyd Cyhoeddus a’r rhai sy’n gwneud ymchwil ym maes Iechyd Cyhoeddus. Mae’r cwrs yn ymdrin â chysyniadau, dulliau a chymhwysiad Economeg Iechyd at Iechyd Cyhoeddus, ac yn denu cyfranogwyr, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. (http://cheme.bangor.ac.uk/short_course.php.en)

Symposiwm Effaith Tai ar Iechyd a Lles

Daeth cyfranogwyr a chyflwynwyr o amryw o gefndiroedd i symposiwm undydd a gynhaliwyd yn CHEME dan arweiniad Dr Joanna Charles ym mis Mawrth. Roeddent yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd, yn cynnwys ymchwil (Ysgol Economeg Llundain; Gentoo Green), Asesiad Effaith Iechyd, cynghorau (Cyngor Gwynedd; Cyngor Caerhirfryn) a sefydliadau megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, TPAS Cymru (Gwasanaeth Cynghori Tenantiaid ar Gyfranogi) a Gofal a Thrwsio Cymru. Trwy’r rhaglen, cafwyd diwrnod amrywiol o gyflwyno canfyddiadau ymchwil a gweithgareddau a gynhelir yn y gymuned .

Cyfres Seminarau awr ginio CHEME

Bu’n bleser gennym groesawu siaradwyr o sefydliadau eraill i’n cyfres seminarau rheolaidd ni. Ym mis Mawrth, rhoddodd yr Athro Darrin Baines o Brifysgol Coventry gyflwyniad ar asesu cost mewn economeg iechyd a oedd yn ysgogi’r meddwl, yn ei sgwrs ‘Cost, spending and opportunity cost: Key issues in research for health economics?’. Daeth Dr Louise Longworth o Brifysgol Brunel yn Ebrill i drafod ei gwaith diweddar ar gost-effeithiolrwydd dulliau anymwthiol o ddiagnosio ffibrosis yr iau mewn cleifion â hepatitis C cronig, yn hytrach na chymryd biopsi ar yr iau. Ym mis Mai, rhannodd Dr Emma Frew o Brifysgol Birmingham olygon ar ei

Parhad ar y dudalen nesaf...

Page 4: CHEME - Bangor University · Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys: Dathlu’r effaith a gafodd Gwasanaeth ... Yn yr arolwg a gynhaliwyd yn 2010 ar Addysg Gorfforol a hwaraeon mewn Ysgolion

Digwyddiadau diweddar(parhad…)

hymchwil gyfredol ar gost-effeithiolrwydd defnyddio ymyriadau i atal gordewdra ymysg plant. Ym mis Mehefin, rhoddodd Dr Martin Duerden, Ymgynghorydd Clinigol i’r RCGP ar Ragnodi, gyflwyniad ar ‘Polypharmacy and Medicines Optimisation’, a rhoddodd ein siaradwr olaf, yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu, Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru, sgwrs ddifyr yn dwyn y teitl ‘From Babylon to Bangor - 10,000 years of Drink, Dance and Danger in Nightlife’.

Cyflwyniadau

Cyflwynodd Dr Carys Jones ‘Social Return on Investment Analysis of an art group for people with dementia’ yng nghynhadledd NEURODEM a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor University yn Chwefror 2015, ac yng nghynhadledd Byw’n Dda gyda Dementia trwy’r Celfyddydau, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor University yn Ebrill 2015.

Gwahoddwyd Dr Joanna Charles gan Dr Jane Callaghan, Athro Cysylltiol Seicoleg, Prifysgol Northampton, i gyflwyno seminar fel siaradwr gwadd. Yn ei chyflwyniad, yn dwyn y teitl “I Predict a Riot! The Public Health Economics of Improving Parenting”, rhoddodd Dr Charles drosolwg ar swyddogaeth economegydd iechyd mewn ymchwil i gamau ataliol i’w cymryd yn y blynyddoedd cynnar.

Rhoddodd Dr Catrin Plumpton gyflwyniad ar ‘Cost effectiveness of screening for HLA-A*31:01 prior to initiation of carbamazepine in epilepsy’ yn y Gynhadledd a gynhaliwyd yn Rhydychen ar ‘Personalised Medicine and Resource Allocation’.

Ym Mehefin, cyflwynodd Dr Nathan Bray ei ymchwil PhD ar economeg y ddarpariaeth o gadeiriau olwyn i blant sy’n byw gydag anableddau, a hynny i’r Gymdeithas Gogledd America dros Beirianneg a Thechnoleg Gynorthwyol ar gyfer Ailsefydlu a gynhaliwyd yn Denver, Colorado UDA.

Cyhoeddiadau Diweddar

Williams NH, Hawkes C, Din NU, Roberts J, Charles J, Morrison V, Hoare Z, Edwards RT, Andrew G, Alexander S, Lemmey A, Woods B, Sackley C, Logan P, Hunnisett D, Mawdesley K and Wilkinson. Fracture in the Elderly Multidisciplinary Rehabilitation (FEMuR): study protocol for a Phase II randomised feasibility study of a multidisciplinary rehabilitation package wing hip fracture. BMC Pilot and Feasibility

Studies. 2015; 1:13 doi:10.1186/s40814-015-0008-0.

Blair J, Gregory JW, Hughes D, Ridyard CH, Gamble C, McKay A, Didi M, Thornborough K, Bedson E, Awoyale L, Cwiklinski E, Peak M. Study protocol for a randomised controlled trial of insulin delivery by continuous subcutaneous infusion compared to multiple daily injections. Trials. 2015 Ebrill 16; 16(1):163.

Edwardson CL, Harrington DM, Yates T, Bodicoat DH, Khunti K, Gorely T, Sherar LB, Edwards RT, Wright C, Harrington K, Davies MJ. A cluster randomised controlled trial to investigate the effectiveness and cost effectiveness of the Girls Active intervention: a study protocol. BMC Public Health. 2015 Mehefin 4;15:526.

Lötsch F, Hackenberg LA, Groger M, Rehman K, Morrison V, Holmes E, Parveen S, Plumpton C, Clyne W, de Geest S, Dobbels F, Vrijens B, Kardas P, Hughes D, Ramharter M. Adherence of patients to long-term medication: A cross sectional study of antihypertensive regimens in Austria. Wien Klin Wochenschr. 2015 Mai;127(9-10):379-84.

Hughes DA, Wood EM, Tuersley L. NICE recommendations: why no disinvestment recommendations to offset investment decisions? BMJ. 2015 Mai 19;350:h2656.

Plumpton CO, Brown I, Reuber M, Marson T, Hughes DA. Economic evaluation of a behavior-modifying intervention to enhance antiepileptic drug adherence. Epilepsy Behav. 2015 Ebrill;45:180-6.

Whitaker R, Hendry M, Booth A, Carter B, Charles J, Craine N, Edwards RT, Lyons M, Noyes J, Pasterfield D, Rycroft-Malone J, Williams N. Intervention Now To Eliminate Repeat Unintended Pregnancy in Teenagers (INTERUPT): a systematic review of intervention effectiveness and cost-effectiveness, qualitative and realist synthesis of implementation factors and user engagement. BMJ Open. 2014 Ebrill 10;4(4):e004733.

Mountain GA, Hind D, Gossage-Worrall R, Walters SJ, Duncan R, Newbould L, Rex S, Jones C, Bowling A, Cattan M, Cairns A, Cooper C, Edwards RT, Goyder EC. 'Putting Life in Years' (PLINY) telephone friendship groups research study: pilot randomised controlled trial. Trials. 2014 Ebrill 24;15:141.

Watt H, Harris M, Noyes J, Whitaker R, Hoare Z, Edwards RT, Haines A. Development of a composite outcome score for a complex intervention - measuring the impact of Community Health Workers. Trials. 2015 Mawrth 21;16:107.

Clare L, Nelis SM, Jones IR, Hindle JV, Thom JM, Nixon JA, Cooney J, Jones CL, Edwards RT, Whitaker CJ. The Agewell trial: a pilot randomised controlled trial of a behaviour change intervention to promote healthy ageing and reduce risk of dementia in later life. BMC Psychiatry. 2015 Chwefror 19;15:25.

Swyddi Gweigion

Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol

Rydym yn chwilio am ymchwilydd ôl-ddoethurol (£31,342 - £37,394 y flwyddyn) â sgiliau meintiol i ymuno â’n tîm mewn swyddogaeth bwysig i gyfrannu at brojectau sy’n ymwneud â modelu canlyniadau ymyriadau gofal iechyd, o safbwynt clinigol a hefyd o ran cost. Trwy gyllid MRC, ceir cyfleoedd ar gyfer ymchwil fethodolegol. Mae’r swydd ar gael ar unwaith ac i bara am 18 mis; dylech gyfeirio ymholiadau at [email protected].

Efrydiaethau PhD

Gwahoddir ceisiadau am ddwy efrydiaeth PhD – mae’r ddwy’n llawn-amser ac i bara am 3 blynedd, ac yn cynnwys cymorth llawn tuag at ffioedd dysgu (ar gyfer dinasyddion y DU/EU), ynghyd â thâl.

Cefnogir un gan Gymdeithas y Clefyd Niwronau Motor (MND), a hynny trwy roddion yn cynnwys yr ‘Her Bwced Rew’, ac mae’n anelu at amcangyfrif y costau sy’n gysylltiedig ag MND, mesur ansawdd bywyd cleifion o ran iechyd, a datblygu model economaidd ar gyfer asesu cost-effeithiolrwydd ymyriadau meddygol. Dylech gyfeirio ymholiadau at [email protected].

Mae’r ail, gan gydweithredu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Blackburn gydag Awdurdod Lleol Darwin, yn anelu at ymchwilio i’r effeithiau a gaiff digwyddiadau straenus yn ystod plentyndod ar iechyd unigolion yn ystod eu bywydau. Bydd y PhD yn defnyddio dull Profiadau Annymunol mewn Plentyndod er mwyn edrych, yng Nghymru a Lloegr, ar achosion o afiechyd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod bywyd. Dylech gyfeirio ymholiadau at [email protected] neu [email protected]

Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Ardudwy, Safle’r Normal, Prifysgol Bangor,

Bangor, Gwynedd LL57 2PZ

Mae CHEME wedi’i lleoli ar Safle’r Normal, rhwng Bangor ac Ynys Môn, ar ffordd yr A5.

cheme.bangor.ac.uk

[email protected]

01248 382153

@CHEMEBangor