20
Rhagfyr 2012 www.pembrokeshire.gov.uk/sport Dathlwyd blwyddyn syfrdanol o chwaraeon yn Sir Benfro yng Ngwobrau Chwaraeon Sir Benfro dydd Gwener Tachwedd 30 2012. Dathliad Chwaraeon Cafodd llwyddiannau rhagorol ym maes chwaraeon o bob rhan o'r Sir eu cydnabod yn y digwyddiad o fri yn Folly Farm. Cynhaliwyd y noson gan Chwaraeon Sir Benfro - tîm datblygu chwaraeon Cyngor Sir Penfro. Noddwyd hi gan Valero, y Western Telegraph, Folly Farm a Radio Sir Benfro. Dathlwyd Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 hefyd gyda phresenoldeb nifer o gludwyr y Ffagl Olympaidd o Sir Benfro. A nodwyd llwyddiannau eithriadol Jacob Thomas - aelod o garfan ddethol Boccia Prydain Fawr - gydag anrhydedd arbennig Gwobr Arbennig y Cadeirydd. Llwyddodd Jacob o Fethesda ger Arberth, sy'n ddwy ar bymtheg oed, i ennill ei le yn 16 terfynol y Gystadleuaeth Boccia Olympaidd. Cafodd pencampwr BC3 Prydain 2010 a 2011 ei guro gan y medalydd aur Grigorios Polychronidis - un o'r chwaraewyr boccia gorau yn y byd. "Mae Jacob yn ysbrydoliaeth i ni i gyd," dywedodd y Cynghorydd Elwyn Morse. "Yr haf hwn, gwelwyd ffrwyth ei waith caled a'i benderfyniad tros y blynyddoedd, pan ddaeth, yn 17 oed yn unig, i fod y chwaraewr ifancaf yn nhîm Boccia PF yn y gemau Paralympaidd. "Nawr mae Jacob wedi dechrau paratoi ar gyfer ei ddewis i garfan PF ar gyfer Rio 2016 a bydd ei brofiadau o Lundain 2012 yn holl bwysig ar gyfer hyn. Rydym yn dymuno'r gorau oll iddo." Un arall o uchafbwyntiau'r noson Wobrwyo Chwaraeon oedd cyflwyno Gwobr Llwyddiant Oes i Paul Murphy gan Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jamie Adams. Parheir ar y dudalen nesaf Yr holl enillwyr ac eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol gyda’i gilydd ar y llwyfan.

Chwaraeon Sir Benfro

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Dathliad Chwaraeon

Citation preview

Page 1: Chwaraeon Sir Benfro

R h a g f y r 2 0 1 2

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Dathlwyd blwyddyn syfrdanol o chwaraeon yn Sir Benfro yng NgwobrauChwaraeon Sir Benfro dydd Gwener Tachwedd 30 2012.

Dathliad Chwaraeon Cafodd llwyddiannau rhagorol ymmaes chwaraeon o bob rhan o'r Sireu cydnabod yn y digwyddiad o friyn Folly Farm.

Cynhaliwyd y noson ganChwaraeon Sir Benfro - tîmdatblygu chwaraeon Cyngor SirPenfro. Noddwyd hi gan Valero, yWestern Telegraph, Folly Farm aRadio Sir Benfro.

Dathlwyd Gemau Olympaidd aPharalympaidd Llundain 2012 hefydgyda phresenoldeb nifer o gludwyr yFfagl Olympaidd o Sir Benfro.

A nodwyd llwyddiannau eithriadolJacob Thomas - aelod o garfanddethol Boccia Prydain Fawr - gydag

anrhydedd arbennig GwobrArbennig y Cadeirydd.

Llwyddodd Jacob o Fethesda gerArberth, sy'n ddwy ar bymtheg oed,i ennill ei le yn 16 terfynol yGystadleuaeth Boccia Olympaidd.Cafodd pencampwr BC3 Prydain2010 a 2011 ei guro gan ymedalydd aur GrigoriosPolychronidis - un o'r chwaraewyrboccia gorau yn y byd.

"Mae Jacob yn ysbrydoliaeth i ni igyd," dywedodd y CynghoryddElwyn Morse.

"Yr haf hwn, gwelwyd ffrwyth eiwaith caled a'i benderfyniad tros yblynyddoedd, pan ddaeth, yn 17 oed

yn unig, i fod y chwaraewr ifancaf ynnhîm Boccia PF yn y gemauParalympaidd.

"Nawr mae Jacob wedi dechrauparatoi ar gyfer ei ddewis i garfan PFar gyfer Rio 2016 a bydd eibrofiadau o Lundain 2012 yn hollbwysig ar gyfer hyn. Rydym yndymuno'r gorau oll iddo."

Un arall o uchafbwyntiau'r nosonWobrwyo Chwaraeon oeddcyflwyno Gwobr Llwyddiant Oes iPaul Murphy gan Arweinydd CyngorSir Penfro, y Cynghorydd JamieAdams.

Parheir ar y dudalen nesaf

Yr holl enillwyr ac eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol gyda’i gilydd ar y llwyfan.

Page 2: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Yn ddiweddar sicrhaodd Paul ei unfedar ddeg a'i ddeuddegfed teitl byd ymMhencampwriaethau Codi Pwysau'rByd yn Aldershot.

Enillodd y cyd-deitl Codi Pwysau yn ycategori 40 oed a throsodd / pwysau90 cilogram. Roedd ei gyfanswmcyfunol o 792.5 cilogram a'i godiadunion o 312.5 cilogram y ddau ynrecordiau byd ar gyfer y categorihwnnw.

Ers 1995 mae Paul wedi bod ynbencampwr codi pwysau Cymru saithgwaith, yn bencampwr Prydain 12 oweithiau, wyth gwaith yn bencampwrEwrop a 12 o weithiau yn bencampwry byd. Mae wedi dal naw recordBrydeinig, wyth record Ewropeaidd ac16 syfrdanol o recordiau byd.

Dywedodd Ben Field, RheolwrChwaraeon Sir Benfro, bod y nosonwedi bod yn gyfle gwych i gydnabodamrywiaeth eang ac ansawdd ychwaraeon sy'n cael eu mwynhaudwy'r Sir gyfan.

"Mae cymaint o ymroddiad ichwaraeon yn Sir Benfro, ohyfforddwyr lleol sylfaenol lan yr hollffordd i'n chwaraewyr gyda'r gorau yny byd," dywedodd. "Rydym yncroesawu'r cyfle hwn i ddathlullwyddiannau drwyddi draw."

Daeth mwy na 700 o wahoddedigioni'r seremoni wobrwyo, a oedd yncynnwys adloniant gan Dilemma, grwpdawnsio o Ysgol Syr Thomas Picton.

EnillwyrCamp y

Flwyddyn, TîmNofio RasGyfnewid i

Fechgyn SirBenfro gydaJane James

o Valero.

Paul Murphy,enillydd GwobrLlwyddiant Oes

gydachadeirydd y

Cyngor, yCynghorydd

Peter Morganac Arweinydd

y Cyngor, yCynghorydd

Jamie Adams.

Mike a JacobThomas gyda

ChadeiryddCyngor Sir Penfro,

y CynghoryddPeter Morgan.

Dathliad Chwaraeon . . . Parhad o dudalen 1

Page 3: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Hyfforddwr y Flwyddyn (Wedi'i noddi gan ChwaraeonCymru) Buddugol: Angie Nicholls Terfynwyr: Colin John a MelissaMcPhee

Llwyddiant Chwaraeon Merched(wedi'i noddi gan y WesternTelegraph) Buddugol: Becky Harries Terfynwyr: Stefanie Dando Jones aChloe Sinnott

Llwyddiant Chwaraeon Dynion (Wedi'i noddi gan Chwaraeon SirBenfro) Buddugol: Dan Colman Terfynwyr: Gavin Campbell a DarylJohn

Llwyddiant ChwaraeonBechgyn (o dan 16) (Wedi'i noddi gan Valero) Buddugol: Daniel Thomas Terfynwyr: Thomas Beazley a LorcanWilliams

Llwyddiant Chwaraeon Merched (o dan 16)(Wedi'i noddi gan Radio Sir Benfro) Buddugol: Sarah Omoregie Terfynwyr: Amy Leahy, Jessica Bradleya Rebekah Gwyther

Gwobr Chwaraeon Anabledd (Wedi'i noddi gan Folly Farm) Buddugol: James Tyler Terfynwyr: Ben Hopkin ac EmmaMartin

Gwobr Chwaraeon Anabledd(O dan 16) (Wedi'i noddi gan Folly Farm) Buddugol: Robyn Fellows Terfynwyr: Seren James a Harry

Arwr Di-glod(Wedi'i noddi gan y WesternTelegraph) Buddugol: Maurice Leyland Terfynwyr: Sue Alvey a Jenny Lewis

Trefnydd Clwb(Wedi'i noddi gan Radio Sir Benfro) Buddugol: Huw Bevan Terfynwyr: Brian Hawkins / PhilDevonald a Fintan Godkin

Llwyddiant Tîm y Flwyddyn (Wedi'i noddi gan Valero) Buddugol: Tîm Cyfnewid BechgynClwb Nofio Sir Benfro Terfynwyr: Tîm Hoci Hyn Abergwaunac Wdig a Chlwb Criced Hendy-gwynar Daf

Llwyddiant Tîm y Flwyddyn -Iau (O dan 16) Wedi'i noddi gan Chwaraeon SirBenfro) Buddugol: Tîm o dan 12 Academi SirolHwlffordd Terfynwyr: Tîm Peldroed o dan 11Ysgolion Sir Benfro a Thîm Criced odan 13 Cilgeti.

Gwobr Cyfraniad i ChwaraeonYsgol (Wedi'i noddi gan ChwaraeonCymru) Buddugol: Finola Findlay Terfynwyr: Chris Hinman a ScarlettRushby-Smith/ Tom Darcy

Gwobr Llwyddiant OesPaul Murphy

Gwobr Arbennig y CadeiryddJacob Thomas

Cafodd yr enillwyr a'r terfynwyr eleni ym mhob categori eu cyhoeddi fel a ganlyn:

Cludwyr y Ffagl Olympaidd o’r chwith i’rdde: George Barrah, Rhys Eynon, MikeDavies, James Williams, Adam Goy ac EricMathias.

Gwobr Anabledd Iau (o dan 16). O’rchwith i’r dde Seren James, RobynFellows (enillydd), Chris Ebsworth oFolly Farm a Harry Thomas.

Thomas

Page 4: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Cafodd pedwar disgybl o SirBenfro eu recriwtio felLlysgenhadon Ifanc Aur argyfer chwaraeon, yn dilynllwyddiant Gemau Olympaidda Pharalympaidd Llundain2012.

Cafodd Chloe Brown o YsgolDewi Sant, Natasha Jiwa-Waljio Ysgol y Preseli, ScarlettRushby-Smith a ChrisHinman, ill dau o YsgolGreenhill, eu dewis felLlysgenhadon Ifanc Auroherwydd eu hymrwymiad felLlysgenhadon Arian y llynedda’u gallu eithriadol felarweinwyr ifanc.

Mae eu rôl yn ymwneud âchynyddu cyfranogiad mewnchwaraeon ysgol ac addysggorfforol a hyrwyddo ffyrdd ofyw iach a gweithgar trwyweithio gyda staff 5x60 yn eu

hysgolion a swyddogioneraill Chwaraeon SirBenfro.

Maen nhw eisoes wedimynychu CynhadleddGenedlaetholLlysgenhadon Ifanc yngNghanolfan GenedlaetholChwaraeon Cymru,ynghyd â LlysgenhadonAur eraill o Gymru.

Bydd y pedwarawd ynymuno â phedwarLlysgennad Aur y llynedd igyflwyno gwobrauChwaraeon Sir Benfro arddydd Gwener 30Tachwedd. Hefyd byddannhw’n cymryd rhan mewndigwyddiadau hyrwyddo adigwyddiadau eraill gydaChwaraeon Sir Benfro yn ymisoedd i ddod.

Mae’r llun yn dangos Chloe Brown, Natasha Jiwa-Walji aChris Hinman gyda Joanne Williams, Chwaraeon SirBenfro, a Mel Clarke, a enillodd Fedal Arian mewnSaethyddiaeth yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012.

Gŵyl hoci ‘4689’ ar gae Astroturf Tasker Milward

Daeth dros 40 o blant o Ysgol Gynradd Wirfoddol aReolir Hwlffordd ac Ysgol Gynradd Spittal at eigilydd ar gyfer gwyl hoci i ddiweddu rhaglen hoci addarparwyd yn eu hysgolion trwy gyfrwng y prosiectAddysg Gorfforol a Chwaraeon mewnYsgolion. Hon oedd yr wyl hoci ‘4689’ gyntafyn Sir Benfro. ‘4689’ yw’r llwybr newydd imewn i hoci ar gyfer pobl ifanc rhwng 7 a 13mlwydd oed. Mae’r cysyniad yn broses “camnid oedran” gyda gweithgareddau cynyddol adysgu drwy chwarae.

Gosodwyd y plant mewn grwpiau o wyth abuon nhw’n cymryd rhan mewn gemau difyrgyda thimau bach, a dilynwyd hyn gangystadleuaeth o gemau pedwar pob ochr a

chwech pob ochr. I ddilyn hyn bydd canolfanhwyl hoci ‘4689’ yn dechrau ar gae AstroturfTasker Milward ar ddydd Iau 22 Tachwedd o 5-6pma bydd yn parhau am bum wythnos i ddechrau.

LLYSGENHADON CHWARAEONAUR AR GYFER SIR BENFRO

Page 5: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Cerddodd y ddau grwp o’r ysgol, ar hyd lonyddgwledig, traciau, llwybrau ceffyl a llwybraucerdded, gan ymdopi’n dda â’r amgylchiadau gwlyba chorslyd ar hyd y ffordd, hyd nes cyrraeddNolton Haven ar gyfer gwersylla dros nos.

Dychwelodd y grwp Gwobr Efydd i’r ysgol yprynhawn canlynol, ar ôl gorffen eu halldaith, ganadael y grwp Gwobr Arian i barhau yn y glaw!Roedd pawb wedi mwynhau eu profiad cyntaf owersylla yn fawr iawn, ac yn awyddus i rannu eustraeon.Dywedodd Emma, “Roedd yn wych – cerddomdrwy gors a oedd yn drewi, ond helpom ein gilydddrwyddi!”

Ychwanegodd Zoe, “Ffantastig! A gawn ni wneudhyn eto?”

Yn ffodus, gwellodd y tywydd gan ei gwneud ynnoson hyfryd ar gyfer gwersylla i’r grwp GwobrArian, ond ar y diwrnod olaf dychwelodd y glawtrwm!

Gweithiodd ygrwp yn dda feltîm gan beidio âcholli eu synnwyrdigrifwch – achafwyd hwylarbennig pangollodd yrAsesydd eihesgidiau yn ymwd!

Gorffennon nhweu halldaith ynwlyb, mwdlyd ablinedig, ond ynfalch dros beno’u cyflawniad.

Fel y dywedodd Jack, “Roedd yr un yma’n anodd!Roedd yn waith caled, ond llwyddom i’w gyflawni!Roedd yn gymaint o hwyl ac ni fyddaf fyth ynanghofio hyn!”

Ysgol Por t f ie ld – Al ldai th DofEWedi nifer o deithiau cerdded ymarfer a misoedd o baratoi a chynllunio, ym misGorffennaf aeth dau grwp o Ysgol Portfield ar alldeithiau fel rhan o’u Gwobrau DugCaeredin.

Page 6: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Gwobr MarcActif Cymru

Am fwy owybodaeth,cysylltwch âDaniel Field,Rheolwr AddysgGorfforol aChwaraeonYsgol, ynChwaraeon SirBenfro, 01437776191.

Mae Sir Benfro’n falch iawn bod 10 ysgolgynradd, un ysgol uwchradd ac Ysgol ArbennigPortfield wedi ennill Gwobr MarcActif Cymruerbyn hyn.

Dyfarniad ansawdd yw MarcActif Cymru(MAC) a ddatblygwyd gan Chwaraeon Cymrua’r Gymdeithas ar gyfer Addysg Gorfforol.Mae’n cael ei ddyfarnu i ysgolion i gydnabodAddysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol oansawdd uchel ac mae’n dathlu llwyddiant ydisgyblion yn yr ysgol a’r gymuned chwaraeonehangach.

Nid yw’r wobr yn cydnabod cyfleusterau, ondyn hytrach ansawdd y ddarpariaeth ar gyferchwaraeon a’r safonau uchel sydd ar gael. MaeMarcActif Cymru’n dathlu'r amrywiaeth eang ogyfleoedd dysgu o ansawdd sydd ar gael ynystod amser cwricwlwm a dysgu y tu allan ioriau ysgol.

Mae’n cydnabod rheolaeth effeithiol o’r pwnc ofewn y cwricwlwm ysgolion ac yn tynnu sylw atddilyniant a chynnydd yn natblygiad y disgyblion.Mae hyn, yn ei dro, yn cyfrannu at hyrwyddoagweddau cadarnhaol a ffyrdd o fyw iach agweithgar.

Gall pob ysgol wneud cais am FarcActif Cymrua gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Sir Benfroac Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewnYsgolion, llwyddodd Portfield i ennill GwobrMarcActif Cymru eleni.

Gall Ysgol Portfield arddangos y dystysgrif gydabalchder a bydd yn gallu defnyddio logo MACar ddogfennau a gwefannau’r ysgol am dairblynedd.Y cyfle nesaf i wneud cais am y wobr ymmlwyddyn academaidd 2012-2013:

• Rownd 2: 19 Ebrill 2013

Page 7: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Gwireddu breuddwydGwireddwyd breuddwyd Jacob Thomas o gymryd rhan yn y GemauParalympaidd ym mis Medi pan fu’n cynrychioli Tîm Prydain yn yParc Olympaidd yn Llundain. Yn y gystadleuaeth Boccia unigol, agynhaliwyd yn arena Excel, bu Jacob yn cystadlu yn erbyn VeronicaPamies Morera o Sbaen. Aeth Jacob ymlaen i’r rownd nesaf ar ôlennill o wyth pwynt i un. Bryd hynny, cyfarfu Jacob a’i arwr, sefGrigorioe Polychronidis o wlad Groeg sy’n 31 mlwydd oed, a oeddeisoes wedi ennill medal aur yn y gystadleuaeth parau BC3. Ynanffodus, collodd Jacob o bum pwynt i un, ond gan mai dim ond 17oed ydyw, mae Jacob wedi cyflawni llawer iawn mewn cyfnod byr oamser. Mae’n ysbrydoliaeth i bawb ohonom.

Bu James Tyler oAberdaugleddau, sy’n 22mlwydd oed, yn cystadlu’nddiweddar yn y GemauOlympaidd EwropeaiddArbennig yn Rwsia. Yn dilynperfformiadau gwefreiddiol,dychwelodd gyda dwy fedal aurac un fedal arian.

Enillodd James y ras 200m ac efoedd angor y tîm cyfnewid aenillodd fedal aur. Hefydenillodd fedal arian yn y ras100m. Ef yw’r athletwr cyntaf yny sir i gynrychioli Prydain. MaeJames yn hyfforddi gyda ChlwbAthletau Harriers Sir Benfro.

Mae hyd at 28 o fyfyrwyr yn Ysgol Portfield wedibod yn mwynhau clwb 5x60 newydd ers dechraumis Medi, wedi’i ddarparu gan Bob Nelson.

Mae’r Clwb Aml Sgiliau yn canolbwyntio arddatblygu ystod eang o sgiliau symud sylfaenol felblociau adeiladu ar gyfer profiadau chwaraeon yn ydyfodol. Mae ystwythder, cydbwysedd a chydsymudyn ogystal â chryfder, stamina a hyblygrwydd yn caeleu targedu i helpu datblygu cymhwysedd corfforolpob myfyriwr (yr hyn a elwir yn ‘llythrenneddcorfforol’).

Mae disgyblion yn gweithio mewn grwpiau bach acyn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n datblygucydsymud llaw a llygad, ymwybyddiaeth o ofod a

golwg cyrion y maes ynghyd â chyflwynocysyniadau megis perchenogaeth, ymosodac amddiffyn. Gwahoddir myfyrwyr iddewis o blith amrywiaeth o offer ac fe’u

hanogir i feddwl yn greadigol. Mae hyn yn annogagwedd eiddgar gadarnhaol sy’n eu helpu i ddeall yrhyn y maen nhw’n ceisio ei gyflawni a’r ffordd orau owneud hynny. Wedyn gellir defnyddio’r sgiliau generighyn mewn gweithgareddau chwaraeon penodol yn ydyfodol.

Un cyfle o’r fath yw’r gystadleuaeth Pêl-droedAnabledd sy’n cael ei chynnal yn Ninbych-y-pysgod.Dewiswyd carfan o fyfyrwyr i gymryd rhan yn ydigwyddiad hwn ac maen nhw wedi bod yn ymarfergyda Bob ar yr Astroturf yn Ysgol Tasker Milward felrhan o’i glwb Pêl-droed 5x60. Gobeithiwn y byddgwaith caled y myfyrwyr hyn a Bob ar y cae pêl-droed ac yn ystod y Clwb Aml Sgiliau yn helpucyfrannu at eu llwyddiant a’u mwynhad yn ydigwyddiad hwn.

‘Profiad Chwaraeon o Ansawdd Uchel drwy’r Dull Aml Sgiliau’

Page 8: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Mae deg athro o Deulu YsgolionSir Benfro wedi bod yn brysuryn chwarae badminton ynddiweddar. Yn dilyn llwyddiant yGemau Olympaidd yn Llundain,mae Chwaraeon Sir Benfro wediderbyn cyllid i sefydlubadminton fel gweithgareddcyfoethogi neu glwb ar ôl yrysgol yn Nheulu Ysgolion SirBenfro.

Mae’r Fenter Badminton mewnYsgolion (Bisi) yn becynadnoddau sy’n cefnogi rhan o’r

gofynion ar gyfer Cwricwlwm yCyfnod Sylfaen a ChyfnodAllweddol 2. Mae’r pecynadnoddau sylfaenol yn cynnwysllawlyfr, cynlluniau gwersi,cardiau symudiadau a chardiaufflach y gellir eu defnyddiomewn gwersi Addysg Gorfforolo fewn y cwricwlwm ac mewnclybiau ar ôl yr ysgol.

Mae’r cyllid ar gyfer badmintonwedi galluogi staff o ysgolion ynardal Penfro i fynychu’r cwrsBisi, ac yn dilyn hynny, bydd

rhaglen o sesiynau badmintonyn cael eu darparu yn yr ysgolam bum wythnos ganhyfforddwr Clwb BadmintonPenfro, Phil Gwyther.

Y nod yw cefnogi athrawon ahyfforddwyr i ddatblygu symudcorfforol disgyblion a darparu’rcamau cyntaf ar gyfer pobchwaraewr badminton ifanc.Cynhelir sesiynau ar gyfer planto dan 11 oed yng NghanolfanHamdden Penfro bob nosWener o 7pm i 8pm.

Athrawon Bisi

Page 9: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Rhedeg Traws Gwlad YsgolionCynradd Sir Benfro 2012

Ar ddydd Iau 18 Hydref cynhaliwydy digwyddiad hwn am yr 22ain tro.Cafodd ei drefnu gan wirfoddolwyro glwb Harriers Sir Benfro ymMharc Thema Oakwood. Roedd ytywydd yn braf ond roedd y ddaearyn wlyb a mwdlyd iawn ar gyfer y905 o blant a gymerodd ran. Erhynny, gwnaeth y plant y gorau o’rachlysur a bu rhai rasys cyffrous ynyr wyth cystadleuaeth a restrwyd.Ni lwyddodd y mwd ac esgidiaucoll ddigalonni’r athletwyr hyn,buon nhw’n cystadlu fel athletwyrOlympaidd dros y ddau gwrs - buBlynyddoedd 3 a 4 yn rhedeg 800ma Blynyddoedd 5 a 6 yn rhedeg1,300m.

Dymuna’r trefnwyr ddiolch i bawbfu’n cymryd rhan yn ogystal âRheolwyr Oakwood am eucymorth wrth wneud y digwyddiadyn llwyddiant ysgubol. Mae caniatâdgan Oakwood i ddefnyddio’rcyfleusterau ar gyfer y digwyddiadyn hollbwysig, oherwydd mae’nbosibl nad oes lleoliad arall llegellir cynnal yr hyn sydd wedi dodyn ddigwyddiad chwaraeon mwyafy sir ar gyfer plant o’r grwp oedranhwn. Gyda rhieni, mam-guod athad-cuod ac athrawon yn ffurfiocynulleidfa fawr a swnllyd, mae’nrhaid y bu miloedd o bobl ynbresennol.

Yr enillydd tîm cyffredinol elenioedd Tavernspite, gydag Arberth ynail a Saundersfoot yn drydydd. Yrenillwyr ymhlith ysgolion bachoedd Hook, gyda Thredeml yn ail aRedhill yn drydydd.

Estynnir diolchiadau arbennig i’rgwirfoddolwyr ifanc o Ysgol TaskerMilward a Harriers Sir Benfro afu’n gweithredu fel ‘ysgyfarnogod’gan arwain y cystadleuwyr o

amgylch ycwrs, a sicrhaubod pob ras ynmynd yn eiblaen ynddidrafferth.Hefyd iAmbiwlansSant Ioan amddarparucymorth cyntafac i staffChwaraeon SirBenfro am eucymorth drwygydol ydigwyddiad.

Mae’r canlyniadau fel aganlyn:-

Merched Blwyddyn 3 1st Isla Craig – Arberth 2nd Esme Pykett – Y Garn 3rd Ella Winter – Dinbych-y-pysgod Enillydd Tîm BlwyddynArberth

Bechgyn Blwyddyn 3 1st Oliver Pailin – Dinbych-y-pysgod 2nd Shay Norcross – Arberth 3rd Daniel Jones – Tavernspite Enillydd Tîm BlwyddynArberth

Merched Blwyddyn 41st Menna Davies –Brynconin 2nd Kacey Arran – Ysgol IauAberdaugleddau3rd Kasia Cook – Llandyfái Enillydd Tîm BlwyddynYsgol Iau Aberdaugleddau

Bechgyn Blwyddyn 4 1st Iori Humphries – Orielton 2nd Henry White – Y Garn 3rd Dylan Morgan – Sageston Enillydd Tîm Blwyddyn Y Garn

Merched Blwyddyn 5 1st Ffion Davies – Gelli Aur2nd Kayleigh Taylor – YsgolWirfoddol a Reolir Hwlffordd3rd Molly O’Connor – AberLlydanEnillydd Tîm BlwyddynGelli Aur/Golden Grove

Bechgyn Blwyddyn 51st Harry Worh – Ysgol Wirfoddola Reolir Hwlffordd2nd Rowan Fair – Spittal 3rd Kieran Owen – Y Garn Enillydd Tîm Blwyddyn Ysgol Wirfoddol a ReolirHwlffordd

Merched Blwyddyn 6 1st Ella Townsend – Mair Ddihalog2nd Leah Raymond - Brynconin3rd Alice Evans – Mair DdihalogEnillydd Tîm BlwyddynMair Ddihalog

Bechgyn Blwyddyn 61st James Hill – Aber Llydan2nd Callum Williams – Cilgerran3rd Rowan Petersen – CroesgochEnillydd Tîm BlwyddynSaundersfoot

Page 10: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Mae Sir Benfro wedi lansio prosiectnewydd ar gyfer ysgolion, sef YsgolionAwyr Agored Sir Benfro. Mae’r prosiect ynannog plant i fod yn fwy hyderus yn euhamgylchedd lleol ac fe’i datblygwyd drwybartneriaethau gydag Addysg, ChwaraeonSir Benfro, Darwin Experience acAwdurdod Parc Cenedlaethol ArfordirPenfro (APCAP)

“Mae ‘Ysgol Awyr Agored’ yn dysgudisgyblion i ymgysylltu’n llwyr a bod âhyder yn eu hamgylchedd awyr agoredlleol. Trwy ymweliadau rheolaidd ag ardaloedd awyragored lleol, mae’r plant yn datblygu ymdeimlad cryf oles a lefelau uchel o weithgarwch corfforol. Maennhw’n dysgu gwybodaeth ddefnyddiol am ecoleg achynaliadwyedd ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu drwyrannu’r wybodaeth hon â phobl eraill.”

Bu chwe ysgol yn cymryd rhan i gychwyn yn y cynllunpeilot bron i ddwy flynedd yn ôl ac ers hynny mae’rprosiect wedi mynd o nerth i nerth. Nawr mae 16 oysgolion newydd wedi dechrau dod i adnabod euhardaloedd lleol drwy gael eu nodi gan APCAP ac

wedi dod yn gyfarwydd â’r gweithgarwch corfforol ygallant gymryd rhan ynddo yn yr ardaloedd hyn â’recoleg sydd i’w chael yno.

Tynnwyd sylw at y prosiect fel arfer sy’n arwain ysector gan Estyn yn gynharach eleni yn YsgolTavernspite, o ran datblygu gwybodaeth, balchder,perchenogaeth a mwynhad y plant o’u hardal awyragored leol.

Am fwy o wybodaeth neu os hoffech gymryd rhan,byddwch cystal â chysylltu â Simon Thomas, Pennaeth,Ysgol Llandyfái, a Chadeirydd Ysgolion Awyr AgoredSir Benfro.

Page 11: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Dinbych-y-pysgod yn arddangos Aml SgiliauBydd plant ifanc yn Sir Benfro aledled Cymru’n archwilio a dysgudrwy chwaraeon, yn dilyn cwrsAml Sgiliau a Chwaraeon y Ddraigar gyfer athrawon yn Ninbych-y-pysgod yn ddiweddar.

Cynhaliwyd cynllun peilotadnoddau Aml Sgiliau’r Ddraig ynNheulu Ysgolion Tyddewi'r hydrefdiwethaf, ac yn dilyn ei lwyddiant,mae’r gwaith wedi cychwyn osefydlu’r cynllun ledled Cymru.Mae’n golygu yn hytrach nadechrau drwy ganolbwyntio argamp benodol, bydd y ffocws arsgiliau hanfodol megis cydbwysedd,rhedeg neu ymwybyddiaeth o ofod- ac wedyn gellir trosglwyddo’rrhain i bêl-droed, tennis, pêl-rwyd,neu pa bynnag gamp y mae’runigolyn eisiau cymryd rhan ynddi.

O dair blwydd oed hyd at saithmlwydd oed (oedran sylfaen) maepobl ifanc yn datblygu sgiliau orauwrth chwarae. Mae’r adnoddChwarae i Ddysgu yn annog hyngydag adnoddau i helpu athrawon,hyfforddwyr a gwirfoddolwyr gangynnwys llyfrau o storïau, cardiaugweithgaredd a llawlyfr sgiliautechnegol.O saith mlwydd oed i 11 mlwyddoed (CA2), dylai pobl ifanc broficyfleoedd i barhau i ddatblygusgiliau corfforol cyffredinol fel ygallan nhw gymryd rhan mewnamrywiaeth o chwaraeon drwygydol eu bywydau. Ac mae adnoddAml Sgiliau’r Ddraig yn cyflawnihyn.

Er bod yr hyfforddiant cychwynnolwedi digwydd gydag ysgolion, y nodyw targedu clybiau yn y gymuned achanolfannau hamdden i gynnwyselfen o’r dull aml sgiliau sylfaenol iwella ystwythder, cydbwysedd achydsymud.Cafodd staff gwasanaeth AddysgGorfforol Peripatetig ChwaraeonSir Benfro eu hyfforddi’r tymorhwn hefyd, ac maen nhw wedi bodyn darparu gweithgareddau i 22 oysgolion cynradd fel rhan o’ugwersi Addysg Gorfforol ac mewnclybiau ar ôl yr ysgol.

Am fwy o wybodaeth,cysylltwch â Joanne Williams,Chwaraeon Sir Benfro, 01437776240.

Page 12: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Bu 40 o chwaraewyr yn cymrydrhan yn y gystadleuaeth gyntaf adrefnwyd gan GymdeithasBadminton newydd Sir Benfro syddwedi cael ei sefydlu gyda chymorthgan Chwaraeon Sir Benfro drwy’rCynllun Grantiau Cist Gymunedola Badminton Cymru.

Cynhaliwyd y Gystadleuaeth Parauyng Nghanolfan HamddenDinbych-y-pysgod ar 3 Tachweddac roedd yn llwyddiant mawr gydarhai parau iau rhagorol yn cymrydrhan hefyd, gan ychwanegu eubrwdfrydedd i’r digwyddiad.

Yn y gystadleuaeth i fenywod, yrenillwyr oedd Fiona Baker a LindaGwyther o glwb Penfro a daethJenny Juddha a Suchitra Vijay o glwbYsbyty Llwynhelyg yn ail.

Roedd mwy o gystadleuwyr yn ygystadleuaeth i ddynion, felly ar ôlchwarae’r gemau pwll cychwynnol,aeth y rhai a gafodd eu curo

ymlaen i gystadlu am y plât. Mewnrownd derfynol gystadleuol drosben, curwyd Dan Jenkins a WayneDavies o Glwb Dinbych-y-pysgodgan Ben Ashworth a Chris Farrowo Glwb Arberth.

Ym mhrif gystadleuaeth y dynion,bu Ben Richards, Penfro, a LukePierce, Tyddewi, sy’n bâr iau, yndangos pam maen nhw’n gwneudmor dda mewn cystadlaethauCenedlaethol Iau, gan ennill RowndDerfynol Cymru O Dan 15 Oed ytymor diwethaf. Llwyddodd y ddaugystadleuydd sy’n 14 oed guro’rholl barau dynion a osodwyd yn euherbyn hyd at y rownd derfynol, lleroedden nhw’n wynebu SarfarazMalik a David Juddha o glwb YsbytyLlwynhelyg. Mewn rownd derfynolo safon uchel, profodd profiad ydynion yn drech na’r cystadleuwyriau.

Cymdeithas BadmintonNewydd ar gyfer y Sir

Page 13: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Bu cyffro mawr ynghylch pêl-droedar gae Astroturf Ysgol Greenhill ynNinbych-y-pysgod ddydd Sul 21Hydref wrth i’r ysgol groesawupumed Gystadleuaeth Pêl-droedMerched Rhwng YsgolionUwchradd 5x60.

Bu mwy na 90 o ferched o bobcwr o’r sir yn cymryd rhan yn ydigwyddiad, a noddwyd gan fenter“Partneriaid Arweiniol mewnChwaraeon” Valero. Bu’r merchedyn cystadlu yn erbyn eu cyfoediono holl ysgolion uwchradd eraill SirBenfro.

Rhannwyd y gystadleuaeth yn ddaubwll o saith tîm gydag Ysgol yPreseli ac Ysgol Bro Gwaun, sef ypencampwyr presennol, yncyrraedd y rownd derfynol. Cafoddy ddau dîm eu cyfleoedd mewngêm agos, gyda sgôr terfynol o 0-0.Penderfynwyd y canlyniad mewn

brwydr saethuciciau cosb lleenillodd yPreseli o bedairgôl i ddwy.

Ym Mhwll B bubrwydr galed yny rowndderfynol achafwyd gêmgyffrous gydaTasker yn ennillyn erbynTyddewi.

Llongyfarchiadau i’r merched ameu holl waith caled.

Am wybodaeth am glybiau pêl-droed lleol sy’n cynnal timaumerched, cysylltwch â’r SwyddogDatblygu Pêl-droed, Carrie Slack,ar 07788 310406.

Roedd y tîm o ferched a enillodd fel aganlyn (o’r chwith i’r dde)Y rhes gefn - Bethany Heald, LauranWaters, Ella Rees, Erin Griffiths.Y rhes flaen - Ella Vaughan, GwawrJames, Lleucu George, HawyesDavies.

YSGOL Y PRESELI AC YSGOL TASKER YN FUDDUGOL MEWNCYSTADLEUAETH PÊL-DROED CHWECH BOB OCHR 5X60

Page 14: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Ysgol Dewi SantArforgampau –Ben Sutton – Llysgennad Aur

Dechreuom ein halldaitharforgampau drwy ddringo i lawr yclogwyn ger Sain Non. Mae llethrserth ar un ochr a drysni o fieri aryr ochr arall, ond llwyddodd pawb iddod i lawr yn ddiogel.

Ar ôl oedi rhywfaint (roedd y môryn oer ofnadwy!) roedd pawb imewn ac yn nofio at y naid gyntaf.Fel y ffotograffydd enwebedig,gorweddais yn y môr gan aros amy neidiwr cyntaf a hedfanodd oddiar y naid tair metr a sblasio i’r dwryn union wrth fy ymyl.

Ar ôl gwylio pawb yn cael cymainto hwyl, roedd yn rhaid i mi ymuno,a rhoddais gynnig arni. Roeddwnyn ofnus dros ben – ‘does gen iddim syniad sut y llwyddodd rhaio’r plant iau i neidio!

Wedyn buom yn trawsteithioclogwyn a oeddbron yn fertigol, cyndod ar draws pwllymchwydd gwychlle’n cariwyd i fynyac i lawr gan ytonnau.

Gorffennom drwyddringo’n ôl i fynyllwybr troellog acherdded nôl iDyddewi – ‘dwi

ddim ynmeddwlbod dwyawr erioedwedi myndheibio morgyflym!

Ar ddydd Mercher 24 Hydref, buLlysgenhadon Chwaraeon Aur SirBenfro yn ymweld â Chaerdydd.Dyma ddechrau fy rôl fel un o bedwarcynrychiolydd o Sir Benfro yn AthrofaChwaraeon Cymru.

Roedd cynrychiolwyr Aur o bob rhano Gymru’n edrych ymlaen atddiwrnod o drafod sut i hyrwyddochwaraeon o fewn eu siroedd a’uhysgolion. Rwyf wedi treulio’rflwyddyn ddiwethaf fel LlysgennadChwaraeon Arian o fewn fy ysgol, sefYsgol Dewi Sant. Nawr, fel llysgennadAur, cefais gyfle i wrando ar straeon

Alex Danson, sy’nchwarae hoci i Brydain Fawr, achwrdd â Mel Clarke, y saethyddParalympaidd, yn y gynhadledd yngNghaerdydd.

Yn ystod y diwrnod cefais oleunipellach ynghylch fy rôl newydd a’r hyna ddisgwylir gennyf, ac erbyn i miadael roeddwn yn frwdfrydig iddechrau nifer o brosiectau megisCyngor Chwaraeon, cystadlaethaubach, arolygon, a her Llwybr ArfordirSir Benfro. Rwy’n gobeithio y bydd ysyniadau a luniwyd yn y gynhadledd ynfy ngalluogi i fod yn Llysgennad Golff

Chloe Brown, Llysgennad Golff, Ysgol Dewi Sant

Page 15: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Tasker Milward

Mae tymor yr hydref wedi bod ynbrysur iawn, fel arfer, i’r AdranAddysg Gorfforol ac i 5x60. Gydahyd at 18 clwb yn cael eu cynnalbob wythnos, mae’r myfyrwyr yn eichael yn anodd penderfynu paglybiau i’w mynychu!

Dylid llongyfarch ein tîm pêl-droedmerched am eu llwyddiantdiweddar yng nghystadleuaeth pêl-droed chwech pob ochr Merched5x60 a gynhaliwyd yn YsgolGreenhill, Dinbych-y-pysgod, ar 21Hydref. Bu carfan o 11 o ferched oFlynyddoedd 7, 8 a 9 yn cystadlu ynerbyn chwe ysgol uwchradd arall oSir Benfro ac roedd ganddyntrecord ddiguro yn eu pwll. RebeccaRoberts oedd y capten, ac niildiwyd un gôl yn eu saith gêm.

Arweiniodd gêm derfynol dynn ynerbyn Ysgol Dewi Sant atfuddugoliaeth yn dilyn gôl aur yn yramser ychwanegol. Dylai pob uno’r merched a fu’n cymryd rhanfod yn falch o’u cyflawniad acrydym yn gobeithio y bydd rhaiohonynt yn cael eu harwyddo gandimau lleol yn y dyfodol agos!

Hefyd mae Adran AddysgGorfforol Tasker Milward a’rSwyddog 5x60 wedi bod yngweithio gyda’i gilydd i gryfhaucysylltiadau â’r ysgolion cynraddsy’n ein bwydo. Ar ddechrau misHydref, gwahoddwyd 180 ofyfyrwyr Blwyddyn 6 o chwe ysgolleol i fynychu diwrnod blasu. Bu’rmyfyrwyr yn cymryd rhan mewnpum gweithgaredd gwahanol yn

amrywio o zumba i godi hwyl idennis, pêl-rwyd ac addysg awyragored. Llawer o ddiolchiadau i’nmyfyrwyr Lefel Uwch mewnAddysg Gorfforol yn y chwecheddosbarth a fu’n hebrwng y grwpiau,a gwelwyd llawer ohonynt ynmwynhau’r gweithgareddau euhunain, yn enwedig y bechgynzumba!

Yn ogystal â hyn, croesawoddTasker Milward Wyl Hwyl HociAddysg Gorfforol a ChwaraeonYsgol i’r ysgol ar 23 Hydref. Bu 40o fyfyrwyr Blynyddoedd 5 a 6 oysgolion cynradd lleol yn cymrydrhan mewn sesiwn hoci yn dilyn yfenter ‘4689’ ddiweddaraf gan HociCymru. Diolch yn fawr iawn iAngela Miles (Swyddog Datblygu

Hoci) a gafodd eichynorthwyo gan ySwyddog 5x60,Claire Butler (yrAdran AddysgGorfforol), a’rarbenigwyr hociTom D’Arcy,Stephen Kendricka Molly Brick(Llysgenad AurBlwyddyn 12).Cawsom einplesio’n fawr gan ysgiliau a’rbrwdfrydedd addangosodd ygrwp hwn ofyfyrwyr agobeithiwn ybyddan nhw’ncynnal eudiddordeb mewnchwaraeon yn ydyfodol.

‘Gôl Aur i Tasker Milward’

Page 16: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Sesiynau Pêl-fasged5x60 Ysgol BroGwaun, gwyliau haf2012Mae 11 o ddisgyblion o Ysgol BroGwaun wedi bod yn mireinio eusgiliau pêl-fasged yn ystod gwyliau’rhaf. Roedd y sesiynau, yngnghampfa’r ysgol, yn canolbwyntioar sgiliau sylfaenol, gemau difyr agemau gyda thimau bach.

Trefnwyd y sesiynau i baratoi argyfer cyfres o gemau achystadlaethau pêl-fasged y bydd ybechgyn yn cymryd rhan ynddyntyn ystod y flwyddyn ysgol nesaf.

Y Cyfranogwyr Isaac Davis, Dan Evans, JordanGriffiths, Andrew Harries, HowardHarries, Thomas Hughes, JordanJames, Jordan Jones, Ieuan Lynch,Thomas O’Sullivan, Jack Phillips

Sioe Deithiol y GemauParalympaiddBu 20 o ddisgyblion Blwyddyn 7 oYsgol Bro Gwaun yn cymryd rhanmewn diwrnod o weithgareddau arddydd Iau 21 Mehefin i ddathluGemau Paralympaidd Llundain2012 a fyddai’n dechrau cyn bo hir.

Bu’r disgyblion yn cymryd rhanmewn gemau pêl foli, boccia aphêl-fasged cadair olwyn, a hefydbuon nhw’n dysgu am werthoedd yGemau Paralympaidd.

Trefnwyd y digwyddiad ganSwyddog Chwaraeon AnableddChwaraeon Sir Benfro, AngelaMiles.

Dywedodd Swyddog 5x60 yr ysgol,Dan Bellis, “Roedd hwn yn gyflegwych i’r disgyblion roi cynnig arnifer o chwaraeon newydd achawsant lawer o hwyl. Wrthgymryd rhan, daethant i sylweddolicymaint o allu, penderfyniad acymroddiad y mae’n eu cymryd igyrraedd lefel uchel yn ychwaraeon hyn.Gobeithir y bydd digwyddiadaueraill tebyg yn cael eu trefnu yn ydyfodol agos.

Codi Hwyl a DawnsioStryd 5x60 ar gyferMerched yn Ysgol BroGwaunMae codwyr hwyl 5x60 Ysgol BroGwaun wedi cael haf prysur. Bu’rmerched yn perfformio euhymarferion o flaen torfeydd mawryng Nghanolfan Phoenix ar ddyddSul 5 Awst ac yn ystod CarnifalAbergwaun ar ddydd Sadwrn 25Awst. Bu’r merched yn ymarfer argyfer y digwyddiadau yn ystod eusesiynau Codi Hwyl 5x60 agynhaliwyd amser cinio, ar ôl yrysgol a hefyd yn ystod gwyliauysgol gyda’u hyfforddwr, FinolaFindlay. Roedd y digwyddiadau’nymarfer da i’r merched, a fydd yncymryd rhan mewn cyfres o wyliaua chystadlaethau yn y misoedd iddod.

Participants: Jasmine Williams-Meaney, KeiraMorris, Joanna Thomas, Lowri Feild,Nia Antonen, Kate Griffiths, LowriBowen, Abbie Ladd, Livvy Williams,

Y s g o l B r o G w a u n

Page 17: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Gêm Bêl-droedMerched 5x60 YsgolBro Gwaun yn erbynYsgol Aberdaugleddaumis Hydref 2012

Bu 20 o ferched o Ysgol BroGwaun yn cymryd rhan mewn gêmbêl-droed 5x60 ‘gyfeillgar’ yn erbyneu cyfoedion o YsgolAberdaugleddau ddydd Llun 15Hydref ar y cae Astroturf yngNghanolfan Hamdden Abergwaun.

Trefnwyd y gêm fel paratoad argyfer cystadleuaeth Pêl-droedMerched 5x60 a gynhaliwyd ddyddSul 21 Hydref.

Roedd gan y ddwy ysgol ddau dîmchwech pob ochr, ac mewn pedair

gêm gystadleuol iawn, enilloddmerched Bro Gwaun ddwy gêm.Enillodd Aberdaugleddau un gêmac roedd un gêm gyfartal.Gobeithir y gellir trefnu gemau ynôl wedi hanner tymor. Rheolwydtimau Bro Gwaun gan yLlysgenhadon Ifanc Becky Hayes acAmy Leahy.

Dywedodd Swyddog 5x60 YsgolBro Gwaun, Dan Bellis,’Mae gemau

fel hyn yn arddangos yr effaithwych y mae 5x60 yn ei chael ar einhysgolion a’r cyfleoedd y mae’n eudarparu. Roedd yn dda i weldcymaint o ferched yn chwarae pêl-droed i safon mor uchel.

Tîm Ysgol Bro GwaunCaryl Roberts, Nia Evans, ChelseyLadd, Chloe Craig, Buddug Lewis, Chloe Gallagher, Abbie Ladd, GraceThomas, Nancy John, Ffion Evans, Jemma Clifford, Kelsie Jones, KateGriffiths, Kim George, JasminReynolds, Carys Williams, LaurenWilmott, Megan Evans, AmyCampbell, Carys John,

Am fwy o wybodaeth ynghylch 5x60yn Ysgol Bro Gwaun, cysylltwch âDan Bellis ar: 07920 702044 [email protected].

DAWNSIO STRYD Mae Finola Findlay wedi bod yndarparu sesiynau Dawnsio Stryd5x60 yn yr ysgol bob nos Wener y

tymor hwn,cynCystadleuaethGenedlaetholrhwngYsgolion ySefydliadDawnsUnedig ymmis Tachwedd.Mae gan yrysgol ddaudîm yn

cymryd rhan yn y gystadleuaeth amy tro cyntaf, ac yn ystod hannertymor cynhaliodd Finola weithdytair awr gyda’r 12 disgybl sy’ncymryd rhan er mwyn mireinio’rymarferiadau cyn y gystadleuaeth.

Mae’r timau fel a ganlyn:Blake Wonnacott, Chloe Jenkins,Hannah Hawkins-Greene, AlannisStewart, Bethany Roberts, JadeRoberts, Shania Roberts, AlyshaDimond, Rebecca Edwards, RobynBriskham, Danielle Rendell, CerynLing.

Ysgol Aberdaugleddau

Page 18: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Nid diwrnod cyffredin oedd ydiwrnod cyntaf yn ôl yn yr ysgol i’rllysgenhadon ifanc ac aelodau’rcyngor chwaraeon yn YsgolGreenhill. Ar ôl blwyddyn o waithcaled, cawsant gyfle unigryw ifynychu digwyddiad chwaraeonanabledd mwyaf y byd, sef yGemau Paralympaidd!

Roedd y Stadiwm Olympaidd yndrawiadol dros ben. Cafodd pawbeu cyffroi yn ystod y paratoadaucyn y digwyddiad. Yn sydyn, roedd ystadiwm yn ferw gan gymeradwyo

iasol. Roedd seremoni’r medalau argyfer y ras cadair olwyn 1,500metr T54, a enillwyd gan DavidWeir, yn digwydd – ac mae’r dynhwn yn eicon Prydeiniggwirioneddol! Ond nid dyna’r cyfanoedd gan y ‘Weir Wolf’ i’w gynnig.Enillodd ei ragras 800m yn hawdd,gan wneud i bawb gymeradwyo’nuwch.

Roedd cymaint yn digwydd: y naidhir, taflu disgen, taflu maen a’rcystadlaethau trac. Roedd yrathletwyr yn ysbrydoliaeth i bawb.

Gwelsom rai perfformiadaugwirioneddol anhygoel. Dymaddigwyddiad unigryw go iawn.

Llawer o ddiolch iWyndhamWilliams,Swyddog 5x60, astaff ChwaraeonSir Benfro, sef JoWilliams acAngela Miles, amofalu amdanom –roeddent bobamser yn barodam hwyl achafodd pawbamser gwych.Felly , bobl – betham Rio yn 2016?

Y s g o l G r e e n h i l l

Llysgenhadon Ifanc Ysgol Greenhill yngNgemauParalympaiddLlundain 2012.

Page 19: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

PARKOUR YN DOD I YSGOL GREENHILLMae myfyrwyr o Ysgol Greenhillwedi rhoi croeso mawr iddisgyblaeth a ddaw o Ffrainc ynwreiddiol, sy’n golygu llywioffordd o gwmpas amrywiaeth orwystrau.

Diolch i lwyddiant mawr ysesiynau blasu ‘Parkour’, lle bu mwyna 100 o ddisgyblion yn cymrydrhan yn ystod gwersi addysggorfforol yn Ysgol Greenhill, maeclwb Rhedeg Rhydd 5x60 newyddwedi cychwyn.

Mae mwy nag 20 disgybl wedicofrestru ar gyfer cwrs rhedegrhydd chwe wythnos, yr unig un o’ifath yn Sir Benfro, a gaiff ei gynnal

yn Ysgol Greenhill. Ar ddiwedd yrhaglen, bydd pob disgybl yn caeltystysgrif a chrys T a byddan nhwhefyd yn cael cyfle i ymuno â’r clwbKBAM.

Cynhelir ydosbarthiadaurhedeg rhydd ar dirYsgol Greenhill odan arweiniad Mike

Newman, sy’n hyfforddwrproffesiynol gyda Kinetics BodyArtist Movement (KBAM).

Yr amcan yw dysgu pobl sut ilywio’u ffordd dros, o dan neudrwy unrhyw rwystr y gallentddod ar ei draws yng nghanoldinas neu mewn maes chwarae.

Dywedodd Wyndham Williams,Swyddog 5x60, “Mae wedi bod ynwych, mae’r disgyblion wrth eubodd.”

Mae disgyblion o Ysgol Greenhill sy’naelodau o glwb dawnsio stryd 5x60 ‘Crisis’wedi bod yn gweithio’n galed y tymor hwn i baratoiar gyfer cystadleuaeth y Sefydliad Dawns Unedig sy’ncael ei chynnal yng Nghasnewydd ar 11 Tachwedd, ynogystal â’u hyfforddwr dawnsio stryd, Finola Findlay,sydd wedi bod yn gwneud gwaith gwych wrth ddysgupobl ifanc sut i ddawnsio.Bydd tîm o 15 disgybl a phum grwp deuawd o Crisisyn cymryd rhan ddydd Sul nesaf. Mae’r merched a’rbechgyn sy’n aelodau o glwb dawnsio stryd Crisiswedi bod yn ymarfer ddwywaith yr wythnos gydaFinola ac maen nhw’n fwy na pharod ar gyfer ygystadleuaeth.

AR FRIG Y DON GYDA5X60 MYFYRWYR YNDYSGU SYRFFIO!Dros y pum mlynedd diwethaf mae mwy na600 o ddisgyblion ifanc o Ysgol Greenhillwedi cael gwersi syrffio.

Mae 60 disgybl arall yn cymryd rhan mewnrhaglen ‘dysgu syrffio’ chwe wythnos oddi ararfordir Sir Benfro yn Ninbych-y-pysgod,Maenorbyr a Freshwater West.Trefnwyd y cwrs gan swyddog 5x60, Wyndham

Williams, o ChwaraeonSir Benfro, ac YsgolSyrffio Outer Reef.

Yn ystod y chwewythnos ddiwethafmae pobl ifanc wedicymryd rhan yn y‘Cynllun Syrffio ar gyfer Athletwyr Ifanc Iau’ agafodd ei gynllunio a’i ddatblygu gan GymdeithasSyrffio Prydain.Cynhaliwyd llawer o gystadlaethau difyr yn ogystalâ gweithgareddau ffitrwydd, datblygu sgiliau,diogelwch ac ymwybyddiaeth o’r môr.

CLWB DAWNSIO STRYD CRISIS AREI FFORDD I GYSTADLEUAETH Y

SEFYDLIAD DAWNS UNEDIG

Page 20: Chwaraeon Sir Benfro

www.pembrokeshire .gov.uk/spor t

Mae wedi bod yn hanner tymorcyntaf prysur a phleserus iawn ibawb yn Ysgol Penfro. Mae’r hollddisgyblion wedi cael y cyfle igymryd rhan mewn clybiau newyddyn ogystal â’r clybiau hirsefydlogtraddodiadol yn Ysgol Penfro. Ytymor hwn rydym yn anelu atwella a datblygu iechyd a lles ydisgyblion.

Sefydlwyd y clybiau newyddcanlynol:

Troelli – Sesiynau bechgyn amerchedPwmpio’r Corff – Pob blwyddyn

Yoga – Pob blwyddynCriced i Ferched – Pobblwyddyn

Mae’r clybiau hyn wediprofi i fod yn boblogaiddiawn, gyda ‘throelli’ ar beny rhestr! Bu’n rhaidcynnwys sesiwnychwanegol er mwyn darparu argyfer yr holl ddisgyblion a oeddeisiau cymryd rhan. Bu disgyblionhefyd yn mwynhau sesiynaudawnsio stryd, badminton, tennisbwrdd, pêl fasged, pêl-droed iferched a ffitrwydd iau.

Yn ystod ‘Dawnsio Stryd’ maennhw wedi bod yn brysur yn

ymarfer ar gyfer CystadleuaethGenedlaethol i Ysgolion y SefydliadDawnsio Unedig, lle fydd LaurenSmith, Leah Willis, Rebecca-AnnNewton a Zac Coles yncynrychioli’r ysgol. Mae’r disgyblionhyn wedi bod yn gweithio’narbennig o galed i fireinio euperfformiad – gan ddod i mewn amddwy awr yn ystod hanner tymorhyd yn oed!

Y s g o l P e n f r o

Wal Ddringo Mae gan Ganolfan HamddenCrymych wal ddringo yn yr hengwrt sboncen sy’n cael ei defnyddiogan y clwb dringo 5x60. Maedisgyblion Blwyddyn 7 ac 8 ynmwynhau defnyddio’r wal gydachlybiau’n cael eu cynnal bob dyddMawrth a dydd Iau. Cynigir nifer ogemau gwahanol i’r disgyblion euchwarae, ac maen nhw wedimwynhau’r heriau gwahanol aosodwyd.

YOGA 5x60Mae Blynyddoedd 10 ac 11 yn gallubod yn llawn straen mewn ysgolionuwchradd oherwydd y baich gwaitha straen ychwanegol oherwyddarholiadau ar ddiwedd y flwyddyn. I

helpu disgyblion i ymlacio yn ystod ycyfnod hwn, mae’r swyddog 5x60wedi trefnu i hyfforddwr gychwynsesiynau yoga. Mae disgyblion wedimwynhau’r sesiynau hyn yn fawrgyda’r hyfforddwr Lisa Taylor. Maemwy na 30 o ddisgyblion wedimynychu’r sesiynau a gynhaliwyd yngNghanolfan Hamdden Crymych arddydd Llun, dydd Mercher a dyddGwener.

Gwyliau’r HafYn ystod gwyliau’r haf bu saithdisgybl o Ysgol y Preseli ar daithcaiacio o Henffordd i Rosan ar Wy.Tomos Dugmore, Rheinallt George,Aaron Williams, James Bentely, IeuanCooke ac Antoine Simmons oedd ydisgyblion.

Yn ystod tridiau’r daith, rhoddwydtasgau i’r disgyblion gan gynnwysgosod pebyll i gysgu ynddynt, eu rhoiheibio cyn gwneud eu brecwast euhunain yn y boreau ac wedyncychwyn yn eu caiacau am ydiwrnod. Ar ôl cwblhau’r cwrstridiau, enillodd y disgybliongymhwyster.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos,treuliodd y disgyblion ddiwrnod ymMharc Hamdden Heatherton. Buonnhw’n dringo llwybr antur ar raffauuchel ‘Tree Tops’, chwarae pêl fas agolff gwallgof, cymryd rhan mewnsaethyddiaeth a saethu colomennodclai a chawsant amser yn ogystal igael tro ar y gwibgerti.

Ysgol y Preseli

I gael copi mewn print bras, Braille, tâp sain neu iath arall, byddwch cystalâ ffonio(01437) 776613