Upload
others
View
2
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
1
Cynnwys
Adran Disgrifiad Tudalen Rhagair 3
1. Cyflwyniad 4
2. Ymgynghori Statudol 4 Ymgynghori gyda buddiolwyr 4
Ymgynghori gyda phlant 7
Sut i ymateb i’r ymgynghoriad 7
3. Y Sefyllfa Bresennol 7 Cefndir 7
Lleoedd yn yr ysgol a rhagolygon disgyblion 9
Adeiladau ac adnoddau yn yr ysgol 10
Ysgolion y gallai’r cynnig hwn effeithio arnynt 10
Darpariaeth meithrin bresennol yn y dalgylch 11
Ansawdd a safonau mewn addysg yn Ysgol Dyffryn Ardudwy 12
4. Yr Achos Dros Newid 12
5. Y Cynnig 13 Manteision ac Anfanteision 13
Effaith y cynnig ar ansawdd a safonau mewn addysg 13
Deilliannau 13
Darpariaeth 14
Arweinyddiaeth a rheolaeth 14
Yr effaith debygol ar gyflwyno’r cwricwlwm 14
Llywodraethu 15
Asesiad o’r effaith ar y gymuned 15
Effaith ar gydraddoldeb 15
Effaith ar yr iaith Gymraeg 15
Effaith ar gludiant 15
Effaith ar staff 16
Cyllid 16
Costau disgyblion 16
Arbedion refeniw 16
Buddsoddi cyfalaf 16
Derbyniadau cyfalaf 16
Teitl y tir ac adeiladau 16
Opsiynau eraill a ystyriwyd 16
Trefniadau derbyn plant 16
6. Risgiau Posib 17 7. Y Broses Statudol 17
Atodiad 1 - Ffurflen Ymateb
3
Rhagair
Yn dilyn cyhoeddi taflen benderfyniad ar 3 Awst 2018, penderfynodd Aelod Cabinet Addysg i
ymgymryd â phroses ymgynghori statudol ar gynnig i newid ystod oedran Ysgol Dyffryn
Ardudwy o 4-11 i 3-11, yn unol â gofynion Adran 48 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
2013.
Bydd yr ymgynghoriad statudol yn cael ei gynnal rhwng 17 Medi a 29 Hydref, 2018.
Byddai Cyngor Gwynedd yn hoffi i chi gyflwyno eich barn fel y gellir ei hystyried cyn gwneud
penderfyniad. Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cyflwyno adroddiad i Gabinet
Cyngor Gwynedd.
Mae copi o'r ddogfen hon, a phapurau cefndirol eraill, ar gael ar wefan y Cyngor
www.gwynedd.llyw.cymru/moderneiddioaddysg yn ogystal ag yn Ysgol Dyffryn Ardudwy. Os
ydych angen rhagor o gopïau mae croeso i chi gysylltu â'r Swyddfa Moderneiddio Addysg
drwy ffonio (01286) 679 247 neu drwy e-bostio [email protected]
SYLWER – dylid anfon unrhyw sylwadau ar y ddogfen ymgynghori statudol at y Swyddfa Moderneiddio Addysg erbyn 13:00 o’r gloch ar ddydd Llun, 29 Hydref 2018. Cewch hyd i’r manylion cyswllt perthnasol ar ddiwedd y ddogfen hon.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymateb.
Yn gywir,
Garem Jackson
Pennaeth Addysg
4
1. Cyflwyniad
Mae bron pob ysgol gynradd yng Ngwynedd yn derbyn plant i ddosbarth meithrin ym mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed. Ar hyn o bryd mae ystod oedran Ysgol Dyffryn Ardudwy yn 4-11 ac mae’r Corff Llywodraethol wedi cyflwyno cais i Adran Addysg Gyngor Gwynedd am gael newid yr ystod oedran i 3-11 fel eu bod hwythau hefyd yn gallu derbyn plant yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed. Yn dilyn rhoi ystyriaeth i’r cais mae’r Adran Addysg wedi cytuno y byddai ond yn deg i gynnig yr un hawl i Ysgol Dyffryn Ardudwy gynnig lle meithrin rhan amser (10 awr yr wythnos) yn ei ysgol nhw hefyd, yn unol â mwyafrif o ysgolion cynradd y sir a Pholisi Mynediad Ysgol Cyngor Gwynedd. Mae Polisi Mynediad Ysgol Cyngor Gwynedd yn nodi fod y Cyngor:
yn cynnig lle meithrin rhan amser (10 awr yr wythnos) i blant mewn ysgol, yn y mis Medi yn dilyn eu trydydd penblwydd, am flwyddyn ysgol lawn. Fel arfer mae gan ysgolion unai sesiwn bore neu sesiwn prynhawn. Mewn ysgolion sydd â sesiwn bore a phrynhawn nid oes hawl cyfreithiol gan rieni i ddewis pa sesiwn gall eu plentyn mynychu. Yn yr ychydig ardaloedd ble nad yw’r Awdurdod yn darparu ar gyfer addysg plant yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed mewn dosbarth meithrin mewn ysgol, cynigir darpariaeth trwy gyllido lleoedd a ddarperir gan y grwpiau gwirfoddol h.y. Mudiad Ysgolion Meithrin a Grwpiau chwarae cyn-Ysgol.
Yn dilyn cais gan y Corff Llywodraethol Ysgol Dyffryn Ardudwy, mae Cyngor Gwynedd yn cyflwyno cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy o 4-11 i 3-11 oed fel eu bod nhw hefyd yn gallu cynnig lle meithrin rhan amser (10 awr yr wythnos) i blant mewn ysgol, yn y mis Medi yn dilyn eu trydydd penblwydd yn unol â mwyafrif o ysgolion y sir. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r broses ymgynghori sydd rhaid ei ddilyn er mwyn gwneud hyn, gwybodaeth berthnasol a’r broses o wneud penderfyniadau.
2. Ymgynghori Statudol
Er mwyn ymateb i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 mae Llywodraeth Cymru wedi creu Cod Trefniadaeth Ysgolion sy’n gosod gofynion a chynnwys canllawiau ar gyfer beth sydd angen ei wneud pan fydd rhai newidiadau sylweddol yn cael eu cynnig i ysgolion. Mae’r Cod yn datgan fod angen dilyn trefn statudol os am newid ystod oedran ysgol o flwyddyn neu fwy. Gan fod y cynnig hwn ar gyfer ychwanegu dosbarth meithrin er mwyn gallu derbyn plant yn y mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn 3 oed, mi fydd angen dilyn trefn statudol cyn gallu gweithredu’r newid yma.
2.1 Ymgynghori gyda buddiolwyr
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng yr 17 Medi a 29 Hydref, 2018. Bydd y ddogfen ymgynghori yn cael ei ddosbarthu i'r ymgynghorai canlynol cyn y cyfnod ymgynghori statudol, yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru:
5
Gofynion y Cod Trefniadaeth 006/2013 Dosberthir i…
Awdurdod sy’n cynnal neu’r awdurdod arfaethedig sy’n cynnal unrhyw ysgol y mae'r cynigion yn debygol o effeithio arni
Cyngor Gwynedd sy’n cyflwyno'r cynnig
Unrhyw awdurdod lleol arall y mae'r cynigion yn debygol o effeithio arno - gan gynnwys, yn achos darpariaeth yr AALl dynodedig, unrhyw awdurdod sy'n gosod neu sy'n debygol o osod disgyblion ar ddatganiad oddi mewn iddi
Cynghorau Powys, Dinbych, Conwy ac Ynys Môn
Awdurdod Esgobaethol Yr Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys Gatholig i’r ardal lle mae unrhyw ysgol sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y cynnig
Awdurdod Esgobaethol Bangor Yr Eglwys yng Nghymru Awdurdod Esgobaethol Catholig
Unrhyw gorff crefyddol perthnasol arall i unrhyw ysgol y mae'r cynnig yn debygol o effeithio arni
-
Corff Llywodraethu unrhyw ysgol sy'n destun cynigion a chyrff llywodraethu ysgolion eraill y mae'r cynnig yn debygol o effeithio arnynt, gan gynnwys y rhai a allai dderbyn unrhyw ddisgyblion sydd wedi cael eu dadleoli
Corff Llywodraethu Ysgol Dyffryn Ardudwy, Llanbedr, Tan Y Castell ac Y Traeth.
Rhieni (a darpar rieni, lle bo hynny'n bosibl), gofalwyr a gwarcheidwaid, a staff yr ysgolion hynny
Rhieni, gofalwyr, gwarcheidwaid, a staff Ysgol Dyffryn Ardudwy.
Gweinidogion Cymru Carwyn Jones AC , Jeremy Miles AC, Mark Drakeford AC, Vaughan Gething AC, Lesley Griffiths AC, Ken Skates AC, Kirsty Williams AC, Alun Davies AC, Julie James AC
Aelodau Cynulliad (ACau) ac Aelodau Seneddol (ASau) sy'n cynrychioli ardaloedd a wasanaethir gan unrhyw ysgol sy'n destun i’r cynigion
Dafydd Elis Thomas AC
ACau rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru Michelle Brown AC
Llyr Gruffydd AC
Mark Isherwood AC
Mandy Jones AC
Liz Saville Roberts AS
Estyn Meilyr Rowlands – Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Undebau Athrawon ac undebau staff perthnasol sy'n cynrychioli ysgolion a staff eraill mewn unrhyw ysgol sy'n destun i’r cynigion
Cynrychiolwyr ASCL, UCAC, GMB, NAHT, NEU, UNSAIN, NASUWT
Y Consortiwm Addysg Ranbarthol berthnasol Arwyn Thomas – Prif Swyddog GwE Ieuan Jones – Cydlynydd Consortiwm Gogledd Cymru
Y Consortiwm Trafnidiaeth Ranbarthol berthnasol -
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer yr ardal a wasanaethir, neu y bwriedir ei gwasanaethu, gan unrhyw ysgol sy’n destun i’r cynigion
Arfon Jones - Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru
Unrhyw gyngor cymuned neu dref ar gyfer yr ardal a wasanaethir, neu y bwriedir ei gwasanaethu, gan unrhyw ysgol sy’n destun i’r cynigion
Cyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Talybont
6
Yn achos cynigion sy'n effeithio ar y ddarpariaeth feithrin, unrhyw ddarparwr annibynnol y gallai’r cynigion effeithio arnynt
Cylch Meithrin Y Gromlech
Yn achos cynigion sy'n effeithio ar y ddarpariaeth feithrin, y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc a/neu Bartneriaethau Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, lle mae’r partneriaethau hyn yn bodoli
Gwynedd Ni Mudiad Meithrin
Yn achos cynigion sy'n effeithio ar y ddarpariaeth AALl, unrhyw gorff iechyd neu gorff trydydd sector perthnasol gyda diddordeb yn y cynigion.
Cynrychiolydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Yn achos cynigion sy'n effeithio ar y ddarpariaeth uwchradd, unrhyw sefydliadau addysg bellach sy'n gwasanaethu ardal yr ysgol.
-
Yn achos cynigion sy'n effeithio ar y ddarpariaeth uwchradd, rhieni disgyblion sy'n mynychu ysgolion cynradd ac sydd fel arfer yn trosglwyddo i'r ysgol uwchradd.
-
Arall Meri Huws – Comisiynydd y Gymraeg, Pennaeth Ysgol Ardudwy Holl Gynghorwyr Cyngor Gwynedd Mantell Gwynedd
Bydd y ddogfen ymgynghori hon yn cael ei chyhoeddi ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/moderneiddioaddysg a bydd copïau caled ar gael ar gais o’r Swyddfa Moderneiddio Addysg. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd swyddogion Cyngor Gwynedd yn cynnal sesiwn ‘galw heibio’ er mwyn rhoi cyfle i unigolion ofyn cwestiynau ac er mwyn trafod gyda llywodraethwyr, staff addysgu ac ategol, rhieni a’r cyhoedd. Bydd y sesiwn ‘galw heibio’ yn cael ei gynnal yn neuadd Ysgol Dyffryn Ardudwy ar ddydd Mercher, 26 Medi rhwng 15:00 – 17:30. Bydd y sylwadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol yn cael eu hystyried gan Gabinet Cyngor Gwynedd, cyn gwneud penderfyniad ar y camau nesaf. Bydd y Cabinet yn penderfynu parhau â’r cynnig ai peidio, ac a ddylid cyhoeddi Rhybudd Statudol ai peidio. Fel rhan o'r broses ymgynghori, bydd pecyn gwybodaeth gefndirol ar gael yn Ysgol Dyffryn Ardudwy ac ar wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/moderneiddioaddysg. Mae'r pecyn yn cynnwys:
Cod Trefniadaeth Ysgolion 006/2013
Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
Addysg Gynradd o’r Ansawdd Gorau i blant Gwynedd
Adroddiad Asesiad Ardrawiad Ieithyddol
Adroddiad Asesiad Ardrawiad Cymunedol
Adroddiad Asesiad Cydraddoldeb
Taflen Benderfyniad Awst 2018 Os ydych yn dymuno derbyn y ddogfen hon ar ffurf wahanol, cysylltwch â Swyddfa Moderneiddio Addysg ar 01286 679247.
7
2.2 Ymgynghori Gyda Plant
Gwneir trefniadau hefyd i sicrhau ein bod yn derbyn barn plant a phobl ifanc sy'n mynychu Ysgol Dyffryn Ardudwy drwy gynnal sesiwn pwrpasol gyda grŵp ohonynt. Mae’r ddogfen ymgynghori ar gyfer plant a phobl ifanc i’w gweld ar wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/moderneiddioaddysg ynghyd â ffurflen ymateb/holiadur. Golygai hyn y gall plant a phobl ifanc sydd heb fynychu sesiwn yn eu hysgol, ymateb i'r ymgynghoriad yn ogystal.
2.3 Sut i Ymateb i’r Ymgynghoriad
Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad hwn trwy lenwi'r ffurflen ymateb sydd wedi ei hatodi i’r ddogfen ymgynghori a’i dychwelyd i: E-bost: [email protected] Post: Swyddfa Moderneiddio Addysg
Cyngor Gwynedd Stryd y Jêl Caernarfon Gwynedd LL55 1SH
Nodyn - Rhaid i bob ymateb, boed drwy'r post neu e-bost, gyrraedd Pencadlys y Cyngor erbyn 13:00 o’r gloch ar ddydd Llun, 29 Hydref 2018.
3. Y Sefyllfa Bresennol
3.1 Cefndir
Mae Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy wedi’i leoli ym mhentref Dyffryn Ardudwy yn nalgylch Ysgol Uwchradd Ardudwy o Wynedd. Mae’r ysgol yn gwasanaethu pentrefi Dyffryn Ardudwy a Thalybont.
Map o ddalgylch Ysgol Dyffryn Ardudwy
8
Mae’r tabl isod yn dangos gwybodaeth am yr ysgol gyda gwybodaeth am niferoedd hanesyddol a rhagolygon niferoedd i’r dyfodol.
Ysgol Dyffryn Ardudwy
Lleoliad yr Ysgol Y Brif Heol, Dyffryn Ardudwy, Gwynedd,
LL44 2EP
Ystod Oedran (Medi 2017) 4-11
Categori’r Ysgol Cymunedol
Categori Cyfrwng Iaith Cymraeg
Niferoedd o ddisgyblion ar y
gofrestr – Ionawr 2018
Meithrin 0
Derbyn – Bl. 6 73
Cyfanswm 73
Nifer o ddisgyblion ar y gofrestr am y
pedair blynedd flaenorol
Medi 2017 73
Medi 2016 66
Medi 2015 63
Medi 2014 62
Capasiti 76
Llefydd Gweigion Ionawr 2018 3 (4%)
Rhagamcanion
Disgyblion (cynnwys meithrin
o Medi 2019 ymlaen)
Medi 2018 76
Medi 2019 88
Medi 2020 85
Medi 2021 83
Medi 2022 79
Data perfformiad Ysgolion (Estyn) 3 x Digonol Medi 2014
Categori Cyflwr Adeiladau (Criteria’r Cyngor) A
Dyraniad Cyllidol 2018/19 £287,149
Cost y disgybl 2018/19 £3,934
9
Mae niferoedd y disgyblion sy’n mynychu’r ysgol wedi cynyddu yn y 5 mlynedd diwethaf o 52 yn 2013 i 73 presennol. Mae’r disgyblion presennol wedi eu rhannu i 3 dosbarth gyda rhwng 23 a 26 plentyn ym mhob dosbarth. Caiff y dosbarthiadau eu haddysgu gan dri athro llawn amser ac un rhan amser (2 ddiwrnod) gyda’r Pennaeth yn dysgu cyfwerth a 3 diwrnod. Fe’u cynorthwyir gan 4 o gymorthyddion dysgu (cyfwerth a 3.5 llawn amser). Mae cyllideb y pen ar gyfer Ysgol Dyffryn Ardudwy yn £3,934 ar gyfer 2018/19. Y gwerth cyfartalog ar gyfer holl ysgolion cynradd Gwynedd ydi £3,777.
3.2 Lleoedd yn yr ysgol a rhagolygon disgyblion
Mae nifer y lleoedd mewn ysgolion yn cael ei fesur gan ddefnyddio fformiwla “mesur capasiti mewn ysgolion yng Nghymru”. Mi fydd lleoedd mewn ysgolion yn cael eu hadolygu pan fydd ysgol yn newid y ffordd mae’n defnyddio ei hadnoddau a phan fydd newidiadau yn digwydd i’r adeiladau. Ar hyn o bryd mae 73 disgybl yn yr ysgol sydd a capasiti o 76. Mae’r capasiti o 76 wedi ei selio ar ddefnydd ystafelloedd presennol ond mae yna opsiwn i addasu defnydd ystafell arall i fod yn ddosbarth dysgu yn Medi 2019 a drwy wneud hyn gynyddu lle ar gyfer mwy o ddisgyblion gan gynnwys plant dosbarth meithrin. Mae’r tabl isod yn dangos rhagolygon 5 mlynedd yr ysgol:
Ysgol Dyffryn Ardudwy
Niferoedd Ionawr 2018 73
Capasiti presennol 76
Llefydd gweigion Medi 2017 3 (4%)
Capasiti posib o Fedi 2019 ymlaen 88
Rhagamcanion disgyblion
(cynnwys meithrin o Fedi 2019 ymlaen)
Medi 2018 76
Medi 2019 88
Medi 2020 85
Medi 2021 83
Medi 2022 79
Mae rhagolygon 5 mlynedd yr ysgol (gan gynnwys meithrin o Medi 2019) yn awgrymu twf pellach ym mhoblogaeth yr ysgol i hyd at 88 disgybl.
10
3.3 Adeiladau ac adnoddau yn yr ysgol
Caiff cyfraddau cyflwr ysgolion eu hadolygu’n flynyddol gan yr Awdurdod ac maent yn adlewyrchu’r holl waith a wneir ar yr ysgolion. Rydym felly o’r farn fod ansawdd presennol adeiladau ac ystafelloedd Ysgol Dyffryn Ardudwy o ansawdd dda ac yng nghategori cyflwr ‘A’.
3.4 Ysgolion y gallai’r cynnig hwn effeithio arnynt
Mae dalgylch Ysgol Dyffryn Ardudwy yn cwmpasu ardal wledig ac ystyrir bod yr ysgolion canlynol mewn ardaloedd cyfagos yn ysgolion y gallai’r cynnig effeithio arnynt o safbwynt plant yn mynd all-dalgylch am eu haddysg.
Ysgol Cyfeiriad
Ysgol Llanbedr Llanbedr, Gwynedd, LL45 2NW
Ysgol Y Traeth Princes Avenue, Abermaw, Gwynedd, LL42 1HH
Ysgol Tan Y Castell Hwyla’r Nant, Harlech, Gwynedd, LL46 2UE
Dangosir manylion perthnasol yr ysgolion (gan gynnwys Dyffryn Ardudwy) yn y tabl isod.
Ysgol
Dyffryn Ardudwy
Ysgol Llanbedr
Ysgol Y Traeth
Ysgol Tan Y Castell
Ystod Oedran 4-11 4-11 3-11 3-11
Categori’r Ysgol Ysgol Gymuned [CS]
CS CS CS CS
Categori Cyfrwng Iaith Cyfrwng Cymraeg
Cyfrwng Cymraeg
Cyfrwng Cymraeg
Cyfrwng Cymraeg
Niferoedd o ddisgyblion ar y gofrestr – Ionawr 2018
Meithrin 0 0 21 9
Derbyn – Bl. 6
73 49 182 70
Cyfanswm 73 49 203 79
Nifer o ddisgyblion ar y gofrestr am y pedair blynedd flaenorol
Medi 2017 73 47 201 79
Medi 2016 66 48 213 76
Medi 2015 63 50 217 78
Medi 2014 62 48 211 76
Lleoedd Meithrin 0 0 28 19
Capasiti Derbyn - Bl 6 76 81 198 139
11
Llefydd Gweigion Ionawr 2018 3 (4%) 32 (40%) 16 (8%) 69 (51%)
Rhagamcanion Disgyblion
Medi 2018 76 45 194 78
Medi 2019 88 52 183 81
Medi 2020 85 50 175 81
Medi 2021 83 47 173 86
Medi 2022 79 48 163 86
Data perfformiad Ysgolion (Estyn) 3 x Digonol (Medi 2014)
3 x Digonol (Medi 2016)
3 x Da (Mawrth
2015)
2 x Digonol 1 x Da
(Chwefror 2013)
Categori Cyflwr Adeiladau (Criteria’r Cyngor)
A B B A
Dyraniad Cyllidol 2018/19 £287,149 £196,044 £697,540 £297,852
Cost y disgybl 2018/19 £3,934 £4,171 £3,664 £4,027
Mae mwy o fanylder i’w gweld yn y pecyn gwybodaeth gefndirol ar wefan y Cyngor neu gellir gweld copi caled yn Ysgol Dyffryn Ardudwy. Gan nad yw’r cynnig hwn yn argymell cau na ffedereiddio gyda’r ysgolion cyfagos ystyrir na fydd y cynnig yn cael unrhyw effaith ar ansawdd na safonau yn yr ysgolion hyn.
3.5 Darpariaeth Meithrin bresennol yn nalgylch yr ysgol
Yr unig ddarpariaeth meithrin yn nalgylch Ysgol Dyffryn Ardudwy ar hyn o bryd ydi Cylch
Meithrin Y Gromlech. Mae’r Cylch wedi'i gofrestru a’r Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu
gofal ar gyfer hyd at 24 o blant.
Darperir gwasanaeth ar gyfer plant sydd heb ddechrau yn yr ysgol eto.
Mae’r cylch yn darparu 10 awr o addysg meithrin rhwng 9.00 – 11.00 o ddydd Llun i ddydd
Gwener. (Mae Cylch Meithrin Y Gromlech ar agor o 9.00 – 13.00 os bydd angen gofal wedi
11.00)
Roedd 17 o blant yn mynychu’r cylch yn nhymor yr Haf 2018. Gweler oedran a niferoedd yn
y tabl isod:
Mae’n debyg fydd unrhyw newid o ran ymestyn ystod oedran Ysgol Dyffryn Ardudwy o 4-11 i
3-11 yn gallu effeithio ar niferoedd plant fydd yn mynychu’r cylch meithrin ac, o bosib,
cyllideb y cylch i’r dyfodol.
Mae cymorth ar gael gan Swyddog Busnes Tîm Plant a Chefnogi Teuluoedd Gwynedd i gynorthwyo’r cylch i edrych ar unrhyw effaith a ellir newid ei gael arnynt ac i gynllunio i ymateb i unrhyw effaith negyddol.
Oedran Nifer
2 ½ -3 oed 2
3 oed ar ôl 31 Mawrth 2018 3
yn 3 oed cyn 31 Mawrth 2018 12
12
3.6 Ansawdd a Safonau Mewn Addysg yn Ysgol Dyffryn Ardudwy
Estyn
Yn ystod yr arolwg diwethaf gan Estyn yn Medi 2014. Nodwyd Estyn bod perfformiad Ysgol
Dyffryn Ardudwy yn ddigonol gyda rhagolygon gwella’r ysgol hefyd yn ddigonol.
Ysgol Pa mor dda yw’r
deilliannau? Pa mor dda yw’r ddarpariaeth?
Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r
rheolaeth?
Ysgol Dyffryn Ardudwy
Digonol Digonol Digonol
Yn dilyn yr arolwg hwn gwnaed nifer o argymhellion.
Yn dilyn ymweliad monitro yn Rhagfyr 2015 barnwyd ‘bod Ysgol Dyffryn Ardudwy wedi
gwneud cynnydd da o ran y materion allweddol ar gyfer gweithredu yn dilyn ymweliad Estyn
yn Tachwedd 2015. Byddwn yn awr yn tynnu enw’r ysgol oddi ar y rhestr o ysgolion y mae
angen iddynt gael eu monitro gan Estyn. Ni fydd mwy o ymweliadau monitro gan Estyn
mewn perthynas â’r arolygiad hwn.’
Categoreiddio Llywodraeth Cymru 2017
Yn ôl categoreiddio diweddaraf Llywodraeth Cymru:
Mae Ysgol Dyffryn Ardudwy yn cael ei dynodi’n felyn, sef "ysgol effeithiol sydd eisoes
yn gwneud yn dda ac yn gwybod pa feysydd sydd angen iddi eu gwella"
4. Yr Achos dros Newid – Pam mae’r newid hwn yn cael ei gynnig?
Ar hyn o bryd, mae 86 o ysgolion cynradd yng Ngwynedd. O’r 86 yma mae 4 ysgol babanod (3-7) a 2 ysgol iau (7-11). Mae bron i bob ysgol yn derbyn plant yn mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn 3 oed. Ar hyn o bryd mae ystod oedran Ysgol Dyffryn Ardudwy yn 4-11 a mae’r Corff Llywodraethol wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am gael newid hyn fel eu bod hwythau hefyd yn gallu derbyn plant yn mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn 3 oed.
Mae Canllawiau Mynediad i’r Ysgol Cyngor Gwynedd yn nodi fod y Cyngor:
• yn cynnig lle meithrin rhan amser (10 awr yr wythnos) i blant mewn ysgol, yn y mis Medi yn dilyn eu trydydd penblwydd, am flwyddyn ysgol lawn. Fel arfer mae gan ysgolion unai sesiwn bore neu sesiwn prynhawn. Mewn ysgolion sydd â sesiwn bore a phrynhawn nid oes hawl cyfreithiol gan rieni i ddewis pa sesiwn gall eu plentyn mynychu. Yn yr ychydig ardaloedd ble nad yw’r Awdurdod yn darparu ar gyfer addysg plant yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed mewn dosbarth meithrin mewn ysgol, cynigir darpariaeth trwy gyllido lleoedd a ddarperir gan y grwpiau gwirfoddol h.y. Mudiad Ysgolion Meithrin a Grwpiau chwarae cyn-Ysgol.
Mi fydda newid i dderbyn plant yn 3 oed yn golygu y bydda Ysgol Dyffryn Ardudwy hefyd yn gallu cynnig lle mewn ysgol yr un fath a mwyafrif ysgolion cynradd y sir.
13
5. Y Cynnig
Mae cynnig Cyngor Gwynedd, gyda chefnogaeth Corff Llywodraethol Ysgol Dyffryn Ardudwy,
fel a ganlyn:
Newid ystod oedran Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy o 4-11 i 3-11 oed o Fedi 2019 ymlaen. Golygai hyn bydd yr ysgol yn gallu derbyn plant i ddosbarth meithrin ym mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn 3 oed.
5.1 Manteision ac Anfanteision Manteision Anfanteision
Plant yn gallu cychwyn yr ysgol, yn rhan amser, blwyddyn yn gynharach.
Effaith niweidiol posib ar Gylch Meithrin Y Gromlech.
Cynyddu niferoedd disgyblion yn yr ysgol.
Gallu cynnig yr un ddarpariaeth a mwyafrif ysgolion cynradd y sir.
Hwyluso paratoi plant i fod yn barod i ymuno a’r dosbarth derbyn.
Darparu addysg ddi-dor o’r dosbarth meithrin i flwyddyn 6, a thrwy hynny sicrhau parhad dulliau addysgu a dysgu a chynllunio gwell o ran y cwricwlwm.
Mwy o gyfle i blant gael eu trochi mewn profiadau a gweithgareddau yn yr iaith Gymraeg.
Does dim angen unrhyw fuddsoddiad cyfalaf.
Mae’r Corff Llywodraethol yn cefnogi’r cynnig.
5.2 Effaith y Cynnig ar Ansawdd a Safonau Mewn Addysg
5.2.1 Deilliannau (safonau a lles)
Bydd y cynnig yn galluogi’r ysgol i asesu disgyblion yn gynharach a chynnig gweithgareddau dysgu wedi’u gwahaniaethu er mwyn bodloni anghenion yr holl ddisgyblion yn well, yn enwedig y disgyblion mwy abl a’r disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd perfformiad disgyblion yn gallu cael ei fonitro a’i olrhain yn fwy effeithiol o’r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6, gyda’r ymyriadau’n cael eu rhoi ar waith lle mae’n hysbys y byddant yn cael y mwyaf o effaith ar leihau bylchau mewn cyflawniad, yn y blynyddoedd cynharaf.
14
Bydd cydweithio ac ymwneud cynharach yn ymestyn ymhellach anghenion a lles emosiynol disgyblion a’r berthynas gadarnhaol â’u teuluoedd. Hefyd, bydd y cynnig yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn Ysgol Dyffryn Ardudwy yn cyd-fynd â’r ddarpariaeth sydd eisoes ar waith yn llwyddiannus yn mwyafrif o ysgolion cynradd y sir.
5.2.2 Darpariaeth (profiadau dysgu, addysg, gofal, cymorth ac arweiniad, a’r amgylchedd dysgu) Mi fydd derbyn plant i’r ysgol yn 3 oed yn rhoi’r cyfle iddynt elwa o brofiadau cymysgu gyda disgyblion hŷn. Mi fydd mynychu ysgol yn gynharach yn golygu gofal cynhwysfawr oherwydd natur ysgolion a’r cydweithio gydag asiantaethau gofal a lles. Mi fyddant yn gallu manteisio o amgylchedd amrywiol drwy ddefnyddio adnoddau’r ysgol gyfan.
5.2.3 Arweinyddiaeth a Rheolaeth (arweinyddiaeth, gwella ansawdd, gweithio mewn partneriaeth a rheoli adnoddau) Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod pwysigrwydd arweiniad cryf mewn ysgol fel ffordd o gynnal a gwella safonau. Mae’r camau canlynol ar waith er mwyn sicrhau arweinyddiaeth gref yn ysgolion Gwynedd ar gyfer y dyfodol:
GwE yn hyfforddi un uwch-reolwr o bob ysgol uwchradd i ddatblygu eu sgiliau arwain personol, a hefyd i ddatblygu rheolwyr canol eu hysgolion;
Ysgolion llwyddiannus yn rhannu arfer dda a chynnal dyddiadau Datblygu Arweinyddiaeth i reolwyr gweddill yr ysgolion;
Cynlluniau ysgol i ysgol yn sicrhau fod arweinwyr ysgolion yn cydweithio ac yn datblygu arbenigedd arweinydd;
Annog darpar arweinwyr i ennill y cymhwyster CPCP;
Cynllun mentora Penaethiaid;
Cynllun Peilot Arweinydd Strategol dalgylchol ar waith er mwyn hybu a datblygu arweinyddiaeth strategol yng Ngwynedd
Ein gobaith yw y bydd penaethiaid holl ysgolion y sir, gan gynnwys Ysgol Dyffryn Ardudwy, yn
cael digon o gyfle i ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth broffesiynol ar gyfer eu hysgolion.
Hefyd rydym yn disgwyl i gyrff llywodraethol arwain ysgolion yn effeithlon o fewn eu
cyllidebau er budd y disgyblion. Byddwn yn disgwyl i ysgolion fod a’r staff gorau ar gyfer
darparu addysg o’r ansawdd orau.
5.2.4 Yr Effaith Debygol ar Gyflwyno’r Cwricwlwm
Bydd y cynnig yn rhoi cyfleoedd estynedig i’r staff sydd yn addysgu yn y Cyfnod Sylfaen
gynllunio’r cwricwlwm. Mae potensial mawr am effeithio’n gadarnhaol ar safonau
cyffredinol yr ysgol.
15
Bydd disgyblion yn gallu manteisio ar addysg Gymraeg mewn ysgol o oedran gynharach, yn enwedig y rhai na fynychodd y cylch meithrin, gan fanteisio ar yr amser bydd plant ifanc yn fwyaf parod i gaffael iaith. Dylai hyn arwain at gyflawni gwell deilliannau gan ddisgyblion ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen ac, yn ei dro, ar ddiwedd y cyfnod yn yr ysgol gynradd.
5.3 Llywodraethu
Ni fydd newid i gorff llywodraethol Ysgol Dyffryn Ardudwy ac ni fydd gweithredu’r cynnig yn effeithio’n ormodol ar ei gyfrifoldebau.
5.4 Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned
Gan nad oes defnydd cymunedol o’r safle tu allan i oriau ysgol, ar wahân i ddefnydd disgyblion, ac na fydd unrhyw newid i’r ysgol ei hun, bydd y newid ddim yn cael effaith andwyol cymunedol. Mae copi o’r asesiad llawn yn cael ei gynnwys yn y pecyn gwybodaeth gefndirol ar wefan y Cyngor neu gellir gweld copi caled yn yr ysgol.
5.5 Effaith ar Gydraddoldeb
Yn dilyn cynnal asesiad effaith cydraddoldeb ar yr opsiwn rydym o’r farn nad yw’r cynnig yn debygol o arwain at unrhyw effaith ar y nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ac y bydd yn cael effaith bositif o ran rhoi cyfle i blant gychwyn ysgol yn mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn 3 oed fel mwyafrif ysgolion cynradd y sir. Mae copi o’r asesiad llawn yn cael ei gynnwys yn y pecyn gwybodaeth gefndirol ar wefan y Cyngor neu gellir gweld copi caled yn yr ysgol.
5.6 Effaith ar yr Iaith Gymraeg
Yn dilyn cynnal asesiad effaith ar yr iaith Gymraeg rydym o’r farn na fydd unrhyw effaith negyddol ac y bydd galluogi plant i gychwyn yr ysgol yn 3 oed yn creu effaith bositif ar eu sgiliau iaith Gymraeg gan y byddant yn gallu manteisio ar gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol blwyddyn yn gynharach. Mae copi o’r asesiad llawn yn cael ei gynnwys yn y pecyn gwybodaeth gefndirol ar wefan y Cyngor neu gellir gweld copi caled yn yr ysgol.
5.7 Effaith ar Gludiant
Yn unol â pholisi cludiant y Cyngor ni fydd disgyblion dosbarth meithrin yn derbyn cludiant. Mi fydd disgyblion blwyddyn derbyn i flwyddyn 6 yn parhau i dderbyn cludiant o’r cartref i’r ysgol yn unol â pholisi’r Cyngor. Felly ni fydd ymestyn yr ystod oedran yn Ysgol Dyffryn Ardudwy yn effeithio ar y trefniadau cludiant.
16
5.8 Effaith ar Staff
Bydd y cynnig yn effeithio ar staff yn Ysgol Dyffryn Ardudwy yn sgil y ffaith y bydd yr ysgol yn darparu ar gyfer carfan newydd o ddisgyblion. Oherwydd hyn mae’n debygol y bydd angen staff ychwanegol i gynnig y ddarpariaeth ychwanegol. Mi fydd ystyriaethau effaith a gofynion ar staff yn cael eu gwneud gan gorff llywodraethol yr ysgol.
5.9 Cyllid
Bydd yr ysgol yn parhau i gael ei hariannu yn unol â chynllun y Cyngor ar gyfer ariannu ysgolion, a bydd yn derbyn ei chyllid dirprwyedig yn unol â hynny.
5.9.1 Costau Disgyblion
Ar hyn o bryd (2018/19) mae Ysgol Dyffryn Ardudwy yn derbyn dyraniad o £287,149 sydd gyfwerth a £3,934 y pen. Nid oes modd rhoi syniad manwl o’r costau disgyblion o Fedi 2019 ond rhagwelir bydd y plant meithrin yn denu cyllid blynyddol o £1,040 y pen.
5.9.2 Arbedion Refeniw
Mae’n annhebygol y bydd unrhyw arbedion refeniw yn deillio o ganlyniad i’r cynnig.
5.9.3 Buddsoddi Cyfalaf
Nid oes angen buddsoddi cyfalaf i wireddu’r cynnig hwn.
5.9.4 Derbyniadau Cyfalaf
Ni fydd unrhyw dderbyniadau cyfalaf fel rhan o’r cynnig hwn.
5.10 Teitl y Tir ac Adeiladau
Delir teitl tir ac adeiladau Ysgol Dyffryn Ardudwy gan Gyngor Gwynedd.
5.11 Opsiynau Eraill a Ystyriwyd
Yr unig opsiwn arall a ellir ei ystyried yw ‘gwneud dim’. Ystyrir bod manteision ychwanegu darpariaeth feithrin at yr ysgol yn gwrthbwyso cynnal y sefyllfa bresennol.
5.12 Trefniadau Derbyn Plant
Gan na fydd unrhyw ysgol yn cau fel rhan o’r broses bydd mynediad i’r ysgol yn parhau i ddilyn Polisi Mynediad Cyngor Gwynedd.
17
6. Risgiau Posib
Risgiau Camau lliniaru
Na fydd digon o le yn yr ysgol ar gyfer plant ychwanegol.
Mae ystafelloedd ellir eu addasu i fod yn ddosbarth ychwanegol yn ôl yr angen.
Bydd safonau yn gostwng yn dilyn newid.
Mae safonau presennol y Cyfnod Sylfaen yn rhoi hyder fydd y cynnig yn llwyddo ac y bydd derbyn plant blwyddyn yn gynharach yn fanteisiol i ddatblygiad y disgyblion.
Na fydd strwythur staffio yn addas ar gyfer y dosbarth a phlant newydd.
Corff Llywodraethol i flaengynllunio trefn dosbarthiadau a strwythur staffio i ddelio a'r dosbarth meithrin a phlant ychwanegol o fewn y gyllideb.
Na fydd modd gwneud cais am le yn y dosbarth meithrin ar gyfer Medi 2019 oherwydd na fydd y drefn statudol yn dod i ben tan ar ôl dyddiad cau ceisiadau am le, sef 1af Chwefror 2019.
Mi fydd yr Adran Addysg yn rhoi trefniadau arbennig yn eu lle fydd yn caniatáu rhieni i wneud cais ar yr amod fod y caniatâd yn cael ei roi i newid ystod oedran yr ysgol.
7. Y Broses Statudol
Bydd y broses statudol a ddilynir mewn perthynas â’r cynnig a gynhwysir fel rhan o’r ddogfen hon yn cydymffurfio a Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac yn benodol Cod Trefniadaeth Ysgolion (006/2013). Bydd y broses ac amserlen fel a ganlyn:
Dyddiad Camau
17 Medi 2018 Cyhoeddi dogfen ymgynghori
29 Hydref Dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau ar y cynnig
O fewn 13 wythnos o’r dyddiad cau uchod
Cyflwyno’r Adroddiad Ymgynghori i Gabinet Cyngor Gwynedd - Cabinet i benderfynu a ddylid cymeradwyo cyhoeddi Rhybudd Statudol Os caiff ei gymeradwyo – bwrw ymlaen gyda’r Rhybudd Statudol Os na chaiff ei gymeradwyo – y cynnig yn dod i ben
O fewn 26 wythnos o’r dyddiad cau uchod
Cyhoeddi Rhybudd Statudol
28 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r Rhybudd Statudol
Dyddiad cau ar gyfer derbyn gwrthwynebiadau i’r cynnig
O fewn 28 diwrnod o ddyddiad cau’r rhybudd statudol
Cabinet Cyngor Gwynedd i ystyried unrhyw wrthwynebiadau a gwneud penderfyniad terfynol ar y cynnig
Cyhoeddi penderfyniad y Cabinet
Medi 2019 Gweithredu’r cynnig neu barhau a’r drefn bresennol