46
Sul Cyfiawnder Hiliol 2014 Racial Justice Sunday 2014 Taith Geltaidd: Croeso Celtaidd A Celtic Journey: a Celtic Welcome ‘Cael neuadd fawr rhwng cyfyng furiau.’ ‘Finding a large room between narrow walls.’ Waldo Williams (1904-1971)

CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

Sul Cyfiawnder Hiliol 2014Racial Justice Sunday 2014

Taith Geltaidd: Croeso Celtaidd

A Celtic Journey: a Celtic Welcome

‘Cael neuadd fawr rhwng cyfyng furiau.’

‘Finding a large room between narrow walls.’ Waldo Williams (1904-1971)

Addoliad a gynigir gan Rwydwaith Cyfiawnder Hiliol Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru

Cyflwynwyd gan Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon.

Worship offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network

Presented by Churches Together in Britain and Ireland

Page 2: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

Cyflwyniad

Cynigir deunyddiau’r Sul Cyfiawnder Hiliol eleni gan Rwydwaith Cyfiawnder Hiliol Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru. Daw’n rhodd oddi wrth ddiwylliant litwrgaidd modern, amrywiol a soffistigedig, sy’n llwyr ymwybodol o’r pererindota wrth ei wreiddiau Celtaidd ac o’r angen i ddod o hyd i ddulliau newydd o groesawu Cristnogion o’r gymuned fyd-eang.

Daw’r deunyddiau o amgylchedd cenedlaethol modern, dwyieithog sy’n gynyddol ymwybodol o’i freuder ac yn ceisio dathlu cyfoeth ei amrywiaeth diwylliannol a hiliol, a chroesawu ar yr un pryd ymfudwyr modern, yn arbennig y rhai mwyaf bregus, a ddihangodd rhag trais, rhyfel ac erledigaeth. Gwna hynny trwy gynllunio blaengar a thrwy groesawu trafodaeth ar bolisïau cyhoeddus sy’n anelu at gynnwys yn hytrach nag intigreiddio pobl – yn pwysleisio mwy ar yr hyn sydd gan gymunedau a ddaeth i Gymru yn ddiweddar i’w ddathlu a’i rannu â’r genedl ddatganoledig nag ar sut i’w cymathu â hi.

Yn ddiweddar, bu Cytûn yn llawenhau o fedru croesawu a gwasanaethu nifer gynyddol o gynulleidfaoedd lleiafrifoedd ethnig. Yn ystod dathliadau’r Nadolig 2013, torrodd Drama’r Geni a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, gyda chynrychiolwyr o fwy na 50 o genhedloedd yn cymryd rhan, bob record byd. Cais Cytûn wasanaethu hefyd yng nghyd-destun newidiadau annymunol. Cynigir y deunyddiau hyn ar gefndir y gwirionedd oer bod caledu agweddau yng Nghymru at fewnfudo a hil.

Page 3: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

Introduction

This year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as a gift from a modern, diverse and sophisticated liturgical culture profoundly aware of the pilgrimage journeying of its own rich Celtic roots and a current imperative to find newer expressions of welcome offered to Christians from the global community.

The materials are offered specifically from a modern bilingual national environment that is increasingly aware of its own fragility and vulnerability. That same national environment seeks to celebrate the richness of its own cultural and ethnic diversity and welcome more modern migrants embracing, particularly the most vulnerable who have fled violence, war and persecution, through innovative schemes and welcoming public policy conversations around inclusion rather than integration. A conversation that seeks to place an emphasis more on what recent communities arriving in Wales have to celebrate and offer in the shared space of a still new devolved civic nation rather than on how they may be assimilated into the host community.

Cytûn, of late, has rejoiced in being able to welcome and serve a growing number of ethnic minority congregations. During the build up to the 2013 Christmas celebrations, the Millennium Centre, Cardiff hosted a world record breaking Christmas Nativity play embracing the participation of over 50 nationalities. Cytûn also seeks to serve in the context of unpalatable challenges. This material is offered to the backdrop of the harsh realities of a hardening of attitudes concerning migration and race within Wales.

Page 4: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

Lluniwyd yr addoliad eleni ar batrwm traddodiadol y Foreol Weddi. Gwna hynny yn rhannol i nodi 350 o flynyddoedd ers cyhoeddi’r fersiwn terfynol o’r Llyfr Gweddi Gyffredin Cymraeg. Rhoddodd y Llyfr Gweddi Gyffredin, ynghyd â’r Beibl Cymraeg, a gyhoeddwyd yn 1588, statws cyfreithiol i’r Gymraeg na roddwyd i ieithoedd Celtaidd eraill Ynysoedd Prydain, a chyfeirio’r ffordd, efallai, ganrifoedd yn ddiweddarach, at y gynhaliaeth ddeddfwriaethol a roddir bellach i amrywiaeth o gymunedau y caiff eu nodweddion, yn cynnwys hil a chrefydd neu gred, eu hamddiffyn.

Cais y litwrgi a gyflwynir yma fod yn gatholig a Cheltaidd, yn gyffredinol a phenodol, yn amserol a thragwyddol. Hyd yn oed yn anterth eu diwylliant hynafol, rhyw chwe chanrif cyn geni Crist, ni chofnododd y Celtiaid ddim amdanynt eu hunain mewn ysgrifen. Serch hynny, fe ddeil y storïau a gadwyd mewn hen draddodiadau Ewropeaidd llafar am eu cymdeithasau hierarchaidd, eu synnwyr o berthyn, eu rhyfeloedd a’u buddugoliaethau, eu hymrwymiad at dir a diwydiant, a’u celfyddydau cain, i danio ein dychymyg. Yr un – am sawl rheswm – yw stori eu teithio â’n stori ni. Mae eu hymchwil am ddyfnach credoau – a ddilynwyd mewn cynifer o ffyrdd – yn cyffwrdd â’r ffydd a brofwn ni wrth deithio a chroesawu.

Page 5: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

This year’s worship is shaped along the traditional pattern of Morning Prayer. It does so in 2014 partly to mark the passing of 350 years since the publication of the Book of Common Prayer in Welsh. Alongside the publication of the Welsh Bible in 1588, the Book of Common Prayer not only gave the Welsh language a status in law not afforded the other Celtic languages of the British Isles but may have pointed the way, many centuries later, to the legislative support now offered to a diversity of communities marked by the differences of protected characteristics: including race and religion or belief.

The liturgy offered here, however, seeks to be both catholic and Celtic: universal and particular, temporal and eternal. Even at the height of their ancient civilization, some six centuries before the birth of Christ, the Celts wrote down nothing of themselves. Yet, from ancient European roots, the stories of: their hierarchical societies, their senses of belonging as peoples, their warring and conquests, their commitments to land and industry and their forging of fine arts have endured in oral traditions and in our kindling of imagination. Their stories of journeying – for so many reasons - are our stories: their quest for deeper beliefs – explored in so many ways - touches upon our faith as experienced here through journeying and welcoming.

Page 6: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

‘Addoliad: Taith a Chroeso’

Emyn

1. Bendithion Sawl Dechreuad

Eiddo’r Arglwydd yw’r holl fyd,Y ddaear a’i holl bobl.

Mor dda ac mor ddymunol ywI bobl fyw’n gytûn.

Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod, Cyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd.

Pe bai disgyblion Crist yn tewi,Byddai’r cerrig hyn yn gweiddi.

O Dduw, agor ein gwefusau,A bydd ein genau’n dy foliannu.

'Gwasanaeth y Bore: Ymatebion Agoriadol', Llyfr Addoliad Abaty Iona

‘O Dduw, dyro imi’r nerth i ddal gafael,

a’r nerth i ollwng gafael.’Michael Leunig

Page 7: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

‘Worship: journey and welcome’

Hymn

1. The Blessings of Many Beginnings

The world belongs to God,The earth and all its people.

How good it is, how wonderful,To live together in unity.

Love and faith come together,Justice and peace join hands.

If Christ’s disciples keep silentThese stones would shout aloud.

Open our lips, O God,And our mouths shall proclaim your praise.

'The Morning Service: Opening Responses', Iona Abbey Worship Book

‘God give me the strength to hold on,

and the strength to let go.’Michael Leunig

Page 8: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

2. Gollyngdod i Gyfeiriad Newydd

 pha beth y dof o flaen yr Arglwydd, a phlygu gerbron y Duw uchel?

A ddof ger ei fron â phoethoffrymau, neu â lloi blwydd?

A fydd yr Arglwydd yn fodlon ar filoedd o hyrddod neu ar fyrddiwn o afonydd olew?

A rof fy nghyntafanedig am fy nghamwedd, fy mhlant fy hun am fy mhechod?

Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda, a'r hyn a gais yr Arglwydd gennyt:

dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch, ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.

Micha 6: 6-8

Y mae Duw, Tad pob trugaredd, wedi cymodi’r byd ag ef ei hun trwy farwolaeth ac atgyfodiad ei Fab, Iesu Grist, heb gyfrif ein troseddau yn ein herbyn, eithr anfon ei Ysbryd Glân i dywallt ei gariad arnom. Trwy weinidogaeth y cymoda ymddiriedodd Crist i’w Eglwys, derbyn ei faddeuant a’i dangnefedd i sefyll ger ei fron trwy ei nerth, y dydd hwn a hyd byth. Amen.

Cyffes y Kyrie, Y Llyfr Gweddi Gyfredin

‘Bydd yn rhaid inni edifarhau yn y genhedlaeth hon nid yn unig am eiriau a gweithredoedd ffiaidd y bobl ddrwg, ond am ddistawrwydd dychrynllyd y bobl dda.’

Martin Luther King

Page 9: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

2. The Absolutions of Altered Directions

“With what shall I come before the LORD,and bow myself before God on high?

Shall I come before him with burnt offerings,with calves a year old?

Will the LORD be pleased with thousands of rams,with ten thousands of rivers of oil?

Shall I give my firstborn for my transgression,the fruit of my body for the sin of my soul?”

He has told you, O man, what is good;and what does the LORD require of you

but to do justice, and to love kindness,and to walk humbly with your God?

Micah 6: 6-8

God, the Father of mercies, has reconciled the world to himself through the death and resurrection of his Son, Jesus Christ, not counting our trespasses against us, but sending his Holy Spirit to shed abroad his love among us. By the ministry of reconciliation entrusted by Christ to his Church, receive his pardon and peace to stand before him in his strength alone, this day and evermore. Amen.

Kyrie confession, Book of Common Prayer

‘We will have to repent in this generation not merely for the hateful words and actions of the bad people, but for the appalling silence of the good people.’

Martin Luther King

Page 10: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

3. Taith y Gorfoledd

Mewn gwaith ac addoliad

Y mae’r Arglwydd gyda ni.

Gyda’n gilydd ac ar wahân

Y mae’r Arglwydd gyda ni.

Yn awr a phob amser

Y mae’r Arglwydd gyda ni.

'Gweddi pan fydd y Gymuned yn Ymgynnull’, llyfr Aelodau Cymuned Iona

Gorfoleddwch

1. Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r Arglwydd, yr holl ddaear.Addolwch yr Arglwydd mewn llawenydd,dewch o'i flaen â chân.

2. Gwybyddwch mai'r Arglwydd sydd Dduw; ef a'n gwnaeth, a'i eiddo ef ydym, ei bobl a defaid ei borfa.

3. Dewch i mewn i'w byrth â diolch, ac i'w gynteddau â mawl. Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.

4. Oherwydd da yw'r Arglwydd; y mae ei gariad hyd byth, a'i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Salm100

Page 11: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

3. The Jubilate Journey

In work and worship

God is with us

Gathered and scattered

God is with us

Now and always

God is with us.

'An Act of Prayer For Use When Community Gathers', Iona Community Members’ book

Jubilate

1. O be joyful in the Lord, all the earth; serve the Lord with gladnessand come before his presence with a song.

2. Know that the Lord is God; it is he that has made us and we are his;we are his people and the sheep of his pasture.

3. Enter his gates with thanksgivingand his courts with praise; give thanks to him and bless his name.

4. For the Lord is gracious; his steadfast love is everlasting, and his faithfulness endures from generation to generation.

Psalm100

Page 12: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

4. Darlleniad o’r Hen DestamentAwgrymir: Genesis 12:1-9, Deuteronomium 1:1-8 neu Ruth 1:6-22.

Cân Eseciel

1. Byddaf yn eich cymryd o blith y cenhedloedd,

yn eich casglu o'r holl wledydd.

2. Taenellaf ddŵr glân drosoch i'ch glanhau;

a byddwch yn lân o'ch holl aflendid.

3. Rhof i chwi galon newydd,

a bydd ysbryd newydd ynoch.

4. Tynnaf allan ohonoch y galon garreg,

a rhof i chwi galon gig.

5. Byddwch yn bobl i mi,

a minnau'n Dduw i chwi.

Eseciel 36.24-26,28b

Page 13: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

4. An Old Testament Reading

Suggested: Genesis 12: 1-9, Deuteronomy: 1 1-8 or Ruth: 1 6-22.

Song of Ezekiel

1. I will take you from the nations,

and gather you from all the countries.

2. I will sprinkle clean water upon you,

and you shall be clean from all your uncleannesses.

3. A new heart I will give you,

and put a new spirit within you,

4. And I will remove from your body the heart of stone

and give you a heart of flesh.

5. You shall be my people,

and I will be your God.

Ezekiel 36.24-26,28b

Page 14: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

5. Darlleniad o’r Testament NewyddAwgrymir: Actau 16:1-15, Philipiaid 3:12-4, 1 neu Datguddiad 21:1-7.

Iachawdwr y Byd

1. Iesu, Iachawdwr y byd,tyrd atom yn dy drugaredd: wrthyt ti y disgwyliwn am waredigaeth a chymorth.

2. Trwy dy groes a’th fywyd a aberthaist,rhyddheaist dy bobl: wrthyt ti y disgwyliwn am waredigaeth a chymorth.

3. Gwaredaist dy ddisgyblion pan oeddynt ar drengi: wrthyt ti y disgwyliwn am gymorth.

4. Yn dy fawr drugaredd, rhyddha ni o’n cadwynau: maddau bechodau dy bobl.

5. Amlyga dy hun i ni yn Iachawdwr a Gwaredwr nerthol: gwared a chymorth ni fel y moliannwn di.

6. Tyrd yn awr ac aros gyda ni, O Arglwydd Iesu Grist: gwrando ein gweddi a bydd gyda ni byth.

7. A phan ddeui yn dy ogoniant: gwna ni’n un â thiac yn gyfrannog o fywyd dy deyrnas.

Common Worship

Page 15: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

5. A New Testament Reading

Suggested: Acts 16: 1-15, Philippians 3: 12- 4: 1 or Revelation 21: 1-7.

Saviour of the World

1. Jesus, Saviour of the world,come to us in your mercy: we look to you to save and help us.

2. By your cross and your life laid down,you set your people free: we look to you to save and help us.

3. When they were ready to perish, you saved your disciples: we look to you to come to our help.

4. In the greatness of your mercy, loose us from our chains, forgive the sins of all your people.

5. Make yourself known as our Saviour and mighty deliverer; save and help us that we may praise you.

6. Come now and dwell with us, Lord Christ Jesus: hear our prayer and be with us always.

7. And when you come in your glory: make us to be one with youand to share the life of your kingdom.

Common Worship

Page 16: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

6. Ynglŷn â Chredu

Ni fyddaf farw a’m bywyd heb ei fyw.Nid ofnafSyrthio na mynd ar dân.Dewisaf ffrwyno fy nyddiauI beri i’m bywyd agor imi,I’m gwneud yn llai ofnus,Yn fwy hygyrch,I lacio fy nghalonYn adain,Yn ffagl, yn addewid.Dewisais beryglu f’arwyddocâd:Dewisais fywFel yr â’r hyn a ddaeth i mi yn hedynI’r nesaf yn flodeuyn;A’r hyn a ddaeth i mi yn flodeuyn,I’r nesaf yn ffrwyth.

Dawna MarkovaNeu

Credwn yn Nuwsy’n cymryd ein munudyn lleiaf o obaithac yn peri iddo dyfufel coeden ganghennogi fod yn lloches i fywyd newydd.

Credwn yn Iesu Gristsy’n cerdded yn dalog yn ein plith,sydd i’w weld yn ein hwynebau, i’w deimlo yn ein calonnau, ac sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn hiraeth ein heneidiauam bopeth sy’n wir, yn gyfiawn ac yn llawn gobaith.

Credwn yn yr Ysbryd Glânsy’n disgwyl am ein munudau agoredac yn llamu i’r anwybodyn llawn llawenydd,fel y galwer niy tu hwnt i’r man y tybiasom y gallem fyndi’r man y mae pob cam a gymerwnar dir sanctaidd.

Dorothy McRae-McMahon, Awdur a diwinydd o Awstralia

Page 17: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

6. Of Believing

I will not die an unlived life.I will not go in fearOf falling or catching fire.I choose to inhibit my days,To allow my living to open to me,To make me less afraid,More accessible,To loosen my heartUntil it becomes a wing,A torch, a promise.I chose to risk my significance:To live.So that which came to me as seed,Goes to the next as blossom;And that which comes to me as blossom,Goes on as fruit.

Dawna Markova

Or

We believe in GodWho takes our smallest moment of hopeAnd grows it forth like a treewith spreading branchesfor the sheltering of new life.

We believe in Jesus ChristWho walks tall among us,Seen in our faces, felt in our hearts,Bedded deep in the longing of our soulsFor all that is true, just and full of hope.

We believe in the Holy SpiritWho waits on our moments of opennessand springs into the unknownswith joy and delight,that we may be called onbeyond where we thought we could gowhere every step is walked on holy ground.

Dorothy McRae-McMahon, Australian writer and theologianYn ein holl deithioArweinied ôl dy draed ni.

Page 18: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

Ar ein taith i’r gwaith ac adrefArweinied ôl dy draed ni.

Yn ein cartref a chyda’n teuluoeddArweinied ôl dy draed ni

Yn ein cyd-hamddenaArweinied ôl dy draed ni.

Mewn sefyllfaoedd anodd ac mewn gwrthdaroArweinied ôl dy draed ni.

Pan faglwn ar y fforddArweinied ôl dy draed ni.

Ar daith ein ffyddArweinied ôl dy draed ni.

Ynot ti yr ymddiriedwnArweinied ôl dy draed ni.

Yn ein holl deithio, Arglwydd, bydded inni osod ein traedyn ôl dy draed di.

O Heart2Heart, John Birch

Fel y dysgodd ein Gwaredwr ni, gweddïwn yn hyderus:Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,sancteiddier dy enw,deled dy deyrnas,gwneler dy ewyllys;megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiola maddau i ni ein dyledion,fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.Ac nac arwain ni i brofedigaeth;eithr gwared ni rhag drwg.Canys eiddot ti yw’r deyrnas,a’r gallu, a’r gogoniant,yn oes oesoedd.Amen.

Fersiwn Saesneg Gweddi’r Arglwydd o Common Worship

Page 19: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

In all our travellingMay your footsteps guide us

In our journeying to work and returningMay your footsteps guide us

Within our homes and familiesMay your footsteps guide us

In our leisure time togetherMay your footsteps guide us

In difficult situations and conflictMay your footsteps guide us

As we stumble on the wayMay your footsteps guide us

In the travelling of our faithMay your footsteps guide us

As we place our trust in youMay your footsteps guide us

In all our travelling. Lord, may it be your footsteps in which we place our feet.

From Heart2Heart, John Birch

Let us pray with confidence as our Saviour has taught us

Our Father, who art in heaven,hallowed be thy name;thy kingdom come;thy will be done;on earth as it is in heaven.Give us this day our daily bread.And forgive us our trespasses,as we forgive those who trespass against us.And lead us not into temptation;but deliver us from evil.For thine is the kingdom,the power and the glory,for ever and ever. Amen.

Common Worship

Emyn

Page 20: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

7. Gweddïau a Myfyrdod (Wynebau ar y Daith)Mae’r gweddïau a ganlyn yn seiliedig gan fwyaf ar fywydau teithwyr dienw. Gellir eu defnyddio ar eu pen eu hun o flaen y myfyrdod neu gyda gweddïau eraill.

Gweddïau

O Dduw, creawdwr a cheidwad pawb, gweddïwn dros bobl o bob hil ac ym mhob math o angen; hysbysa dy ffyrdd ar y ddaear, dy allu achubol ymhlith yr holl genhedloedd.

Common Worship

Macrinus (Ymfudwr o Ogledd Affrica yn y cyfnod Rhufeinig)Yr ydym yn meddwl am Macrinus, ymfudwr o Ogledd Affrica. Awgryma ysgrifen ar ddysgl Rufeinig sy’n dwyn ei enw, a ddarganfuwyd yn Holt ger Wrecsam, ei fod yn un o’r Affricaniaid cyntaf i ymfudo i Brydain.

Bendigedig wyt ti, Arglwydd Iesu Grist.

Yr wyt wedi croesi pob ffin

rhwng Duwdod a dyndod

i wneud dy gartref gyda ni.

Cymorth ni i’th groesawu mewn newydd-ddyfodiaid,

mewnfudwyr a ffoaduriaid.

Bendigedig wyt ti, Dduw’r holl genhedloedd.

Yr wyt yn bendithio ein gwlad

â chyfoeth y greadigaeth

ac â phobl a luniwyd ar dy ddelw.

Cymorth ni i fod yn oruchwylwyr da ac yn dangnefeddwyr

sy’n byw fel dy blant di.

Page 21: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

Hymn

7. Prayers and Meditation (Faces on the journey)

The following prayers, focused on the lives of mainly unknown travellers may be used on their own before the mediation or alongside other prayers.

Prayers

O God, the creator and preserver of all, we pray for people of every race and in every kind of need: make your ways known on earth, your saving power among all nations.

Common Worship

Macrinus (North African Migrant from Roman times)

We think of Macrinus, one migrant from north Africa. Writing on a bowl bearing his name from Roman times, found in Holt near Wrexham, suggests that he was amongst the first Africans to migrate to Britain.

Blessed are You, Lord Jesus Christ.

You crossed every border

between Divinity and humanity

to make your home with us.

Help us to welcome you in newcomers,

migrants and refugees.

Blessed are You, God of all nations.

You bless our land richly

with goods of creation

and with people made in your image.

Help us to be good stewards and peacemakers,

who live as your children.

Page 22: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

Bendigedig wyt ti, Ysbryd Glân.

Yr wyt yn gweithio yng nghalonnau pawb

i beri cytgord ac ewyllys da.

Nertha ni i dderbyn pobl

o wledydd a diwylliannau a chrefyddau eraill,

fel y gallwn gyd-fyw â’n gilydd

mewn gobaith.

Dduw’r holl bobloedd, dyro inni’r weledigaeth

i ganfod dy bresenoldeb yn ein plith,

ac yn enwedig yn ein chwiorydd a’n brodyr sy’n fewnfudwyr.

Dyro inni’r dewrder i agor y drws i’n cymdogion

a’r gras i adeiladu cymdeithas gyfiawn.

Pax Christi

Brynach (Abad)Yr ydym yn meddwl am Brynach, un sant Celtaidd o blith llawer. Teithiodd o Iwerddon i Lydaw, ac yna i Gymru, gan sefydlu nifer o fynachlogydd yn fannau o addoliad a gwasanaeth.

O Feistr Dwyfol,caniatâ imi ddeisyfucysuro yn fwy na chael fy nghysuro,deall yn fwy na chael fy neall,a charu yn fwy na chael fy ngharu.

Oherwydd trwy roi y derbyniwn,trwy faddau y maddeuir i ni,a thrwy farw y genir ni drachefni fywyd tragwyddol.

Page 23: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

Sant Ffransis o AsisiBlessed are You, Holy Spirit.

You work in the hearts of all

to bring about harmony and goodwill.

Strengthen us to welcome those

from other lands, cultures, religions,

that we may live in human solidarity

and in hope.

God of all people, grant us vision

to see your presence in our midst,

especially in our immigrant sisters and brothers.

Give us courage to open the door to our neighbors

and grace to build a society of justice.Pax Christi

Brynach (Abbot)

We think of Brynach, one Celtic saint of the many. He travelled from Ireland to Brittany and then to Wales establishing a series of monasteries as places of worship and service.

O Divine Master,

grant that I may not so much seek

to be consoled as to console,

to be understood as to understand,

to be loved as to love.

For it is in giving that we receive,

it is in pardoning that we are pardoned,

and it is in dying that we are born again

to eternal life.

Page 24: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

St Francis of Assisi

Joseph Potiphar (bachgen du a oedd yn ‘eiddo’ i Syr Rowland Gwin)Yr ydym yn meddwl am Joseph Potiphar, bachgen du, y person du cyntaf, efallai, i gael ei fedyddio yng Nghymru – yn Eglwys Sant Ioan, Caerdydd, ar 30 Mai 1687.O Dduw,creaist yr holl bobl ar dy ddelw.Diolchwn i ti am yr amrywiaeth ryfeddolo hiliogaethau a diwylliannau sydd yn y byd.Cyfoethoga ein bywydauâ chylchoedd bythol-gynyddol o gyfeillion,a dangos inni dy bresenoldebyn y rhai hynny sydd fwyaf gwahanol inni,nes perffeithio ein gwybodaeth o’th gariadyn ein cariad at bawb o’th blant;trwy dy Fab, Iesu Grist ein Harglwydd.

O’r Llyfr Gweddi Lwtheraidd

Willis (caethwas a ryddhawyd)Yr ydym yn meddwl am Willis, caethwas a ryddhawyd. Un o’r caethweision cyntaf o America i’w ryddfreinio ym Mhrydain ac Iwerddon, wedi iddo lanio ym Mae Abertawe ar y llong, St Peter.Dduw rhyddid, bydd gyda phawb a gaethiwyd ledled y byd. Cynorthwya hwy i gofio bod iddynt urddas a gwerth. Arwain ni yn ein hymdrechion i roi terfyn ar fasnachu pobl ac i sicrhau rhyddid i bawb.

Y Ganolfan Heddwch a Chyfiawnder Rhyng-gymunedol

Käte Bosse-Griffiths (ffoadur rhag y Natsïaid)Yr ydym yn meddwl am Käte Bosse-Griffiths, ffoadur. Ganwyd a magwyd hi yn nhref Luther, Wittenberg, cyn gorfod ffoi yn 1936 rhag y Natsïaid oherwydd ei llinach Iddewig. Yn ei chartref mabwysiedig yn Abertawe, daeth yn gefnogwr cryf i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.Hollalluog a thrugarog Dduw, y bu dy Fab yn ffoadur, ac na bu ganddo le i’w alw’r eiddo’i hun; edrych yn drugarog ar bawb sydd heddiw yn ffoi rhag perygl, yn ddigartref a newynog. Bendithia’r rhai sy’n gweithio i’w cynorthwyo; cynnau haelioni a thrugaredd yng nghalonnau pob un ohonom; a thywys genhedloedd y byd tua’r dydd pan fydd pawb yn gorfoleddu yn dy Deyrnas o gyfiawnder a heddwch; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Gweddi o Eglwys Loegr dros Ffoaduriaid

Page 25: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

Joseph Potiphar (a black boy ‘belonging to’ Sir Rowland Gwin)We think of Joseph Potiphar, one black baby boy. Perhaps the first black person to be baptised in Wales in St John’s Church, Cardiff on 30 May, 1687.O God,you created all people in your image.We thank you for the astonishing varietyof races and cultures in this world.Enrich our lives by ever-widening circles of friendship,and show us your presence in those who differ most from us,until our knowledge of your love is made perfectin our love for all your children;through your Son, Jesus Christ our Lord.

Lutheran Book of Worship

Willis (a freed slave)We think of Willis, one freed slave. Amongst the first slaves from America, who on arriving at Swansea Bay on the St Peter, was granted emancipation in Britain and Ireland.

God of freedom, be with the people enslaved around the world. Help them to remember that they have dignity and worth. Guide us as we endeavour to end human trafficking and work for freedom for all people.

Intercommunity Peace and Justice Center

Käte Bosse-Griffiths (refugee from the Nazi persecution)We think of Käte Bosse – Griffiths, one refugee. Born and brought up in Luther’s own town, Wittenberg, before having to flee Nazi persecution in 1936 because of her Jewish ancestry. From her adopted home in Swansea, she became a strong advocate for the Welsh language and culture.Almighty and merciful God, whose Son became a refugee and had no place to call his own; look with mercy on those who today are fleeing from danger, homeless and hungry. Bless those who work to bring them relief; inspire generosity and compassion in all our hearts; and guide the nations of the world towards that day when all will rejoice in your Kingdom of justice and of peace; through Jesus Christ our Lord. Amen.

A Prayer for Refugees from Church of England

Page 26: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

Myfyrdod

Emyn

8. Y FendithCyfoded y ffordd i’ch cyfarfod.

Bydded y gwynt bob amser i’ch cefn.

Tywynned yr haul yn gynnes ar eich wyneb.

Disgynned y glaw yn dyner ar eich meysydd

a hyd y cyfarfyddwn drachefn

dalied Duw chwi yng nghledr ei law. Amen.

Bendith Wyddeleg draddodiadol

Cydnabyddiaethaut2. Ffoto: Matt Hamm

t4. Ffoto: © Mazur/catholicchurch.org.uk

t.6/7 'Gwasanaeth y Bore: Ymatebion Agoriadol', Llyfr Addoliad Abaty Iona, Cyhoeddiadau Wild Goose, Glasgow (2001),t.15.

t.8/9 fersiynau Saesneg Micha 6:6-8 a t12/13 Cân Eseciel o’r New Revised Standard Version (Anglicized Edition), hawfraint 1989, 1995 Adran Addysg Gristnogol Cyngor Cenedlaethol Eglwysi Crist yn Unol Daleithiau’r America. Defnyddiwyd trwy ganiatâd. Cedwir pob hawl.

Atgynhyrchir y weddi o’r Llyfr Gweddi Gyffredin, y mae ei hawlfraint yn perthyn i’r Goron, trwy ganiatâd Gwasg Prifysgol Caergrawnt.t.

10/11 'Gweddi pan fydd y Gymuned yn Ymgynnull’, llyfr Aelodau Cymuned Iona, © Cymuned Iona,' t6.

Fersiwn Saesneg Salm 100 o Sallwyr Common Worship © Cyngor yr Archesgobion

t.14/15 Gwaredwr y Byd o Common Worship © Cyngor yr Archesgobion

t.16/17 Deunydd wedi ei godi o’r llyfr, I WILL NOT DIE AN UNLIVED LIFE ©2000 Dawna Markova, gyda chaniatâd Red Wheel/Weiser, LLC Newburyport, MA a San Francisco, CA www.redwheelweiser.com

Dorothy McRae-McMahon, Liturgies for the Journey of Life, SPCK

t.18/19 Gweddi o Heart2Heart - Contemporary Prayers and Liturgies, John Birch (www.faithandworship.com)

Fersiwn Saesneg Gweddi’r Arglwydd o Common Worship © Cyngor yr Archesgobion

t.20/21 Gweddi o Common Worship © Cyngor yr Archesgobion

t. 24/25 O’r Llyfr Gweddi Lwtheraidd hawlfraint © 1978 gweinyddiaeth y Llyfr Gweddi Lwtheraidd,.Augsburg Fortress. Atgynhyrchwyd trwy ganiatâd

Gweddi dros y rhai a gaethiwyd. Y Ganolfan Heddwch a Chyfiawnder Rhyng-gymunedol (www.ipjc.org)

Page 27: CTBI – more together less apart€¦  · Web viewThis year’s Racial Justice Sunday materials are offered by the Cytûn: Churches Together in Wales’ Racial Justice Network as

Gweddi o Eglwys Loegr dros Ffoaduriaid

Meditation

Hymn

8. The Blessing

May the road rise up to meet you.

May the wind be always at your back.

May the sun shine warm upon your face;

the rains fall soft upon your fields and until we meet again,

may God hold you in the palm of His hand. Amen.

Traditional Gaelic blessing

AcknowledgementsP2. Photo: Matt Hamm

P4. Photo: © Mazur/catholicchurch.org.uk

p.6/7 'The Morning Service: Opening Responses', Iona Abbey Worship Book, Wild Goose Publications, Glasgow (2001), p.15.

p.8/9 Micah 6:6-8 and p.12/13 Song of Ezekiel from The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America. Used by permission. All rights reserved.

Prayer from Book of Common Prayer, rights in which are vested in the Crown, is reproduced by permission of the Crown's Patentee, Cambridge University Press.

p.10/11 'An Act of Prayer For Use When Community Gathers', Iona Community Members’ book, © Iona Community, p.6.

Psalm 100 from The Common Worship Salter © The Archbishop’s Council

p.14/15 Saviour of the World from Common Worship © The Archbishop’s Council

p.16/17 Material excerpted from the book, I WILL NOT DIE AN UNLIVED LIFE ©2000 Dawna Markova, with permission from Red Wheel/Weiser, LLC Newburyport, MA and San Francisco, CA www.redwheelweiser.com

Dorothy McRae-McMahon, Liturgies for the Journey of Life, SPCK

p.18/19 Prayer from Heart2Heart - Contemporary Prayers and Liturgies, John Birch (www.faithandworship.com)

Lord’s Prayer from Common Worship © The Archbishop’s Council

P.20/21 Prayer from Common Worship © The Archbishop’s Council

P. 24/25 From Lutheran Book of Worship copyright © 1978 Lutheran Book of Worship admin. Augsburg Fortress. Reproduced by permission Prayer for those enslaved, Intercommunity Peace and Justice Center (www.ipjc.org)

A Prayer for Refugees from Church of England