23
Darpariaethau a Deilliannau Cymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan CYNNAL sydd wedi’i gyflwyno mewn dwy ran: Cynnig arweiniad am y darpariaethau mwyaf effeithiol i ddisgyblion mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau cymdeithasol yng Nghyfnodau 2, 3 a 4 (y Tabl Darpariaethau). Dull cofnodi’r darpariaethau a’r deilliannau, yn ogystal â chynhyrchu adroddiadau am anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr i ddibenion hunan arfarnu. Mae tair rhan i’r rhaglen DaD, rheolaeth, mewnbynnu data ac adroddiadau. Mae rheolaeth yn golygu paratoi ar gyfer blwyddyn addysgol newydd, sef creu strwythr ffeiliau oddi fewn i’r ffolder un-swydd DaD ynghyd â ffeiliau data Excel i bob blwyddyn cwricwlwm cenedlaethol. Mewnforir cynnwys cychwynnol y ffeiliau data o ffeiliau a allforiwyd o SIMS. Pan gwblheir y broses hon bydd y ffeiliau data yn barod ar gyfer y cam nesaf, sef mewnbynnu data sydd ddim ar gael gan SIMS. I greu adroddiadau mae’n rhaid cyfuno cynnyws y ffeiliau blwyddyn cwricwlwm i un ffeil gynhwysfawr, yn rhan o’r ochr weinyddol. Golyga mewnbynnu data agor ffeil data pob blwyddyn cwricwlwm i ychwanegu, dileu neu newid y data na fedr SIMS eu darpar. Mae hyn yn cynnwys manylion costau staffio fesul awr y ddarpariaeth i bob dysgwr, hyd pob sesiwn, amlder yr wythnos a hyd y ddarpariaeth mewn wythnosau, dyddiad dechrau a gorffen y ddarpariaeth, sgôr ar y cychwyn ac ar y diwedd, ayyb. Mae’r rhan adroddiadau yn rhedeg nifer o raglenni parod i gynhyrchu, yn y lle cyntaf, Y Gofrestr ADY, adroddiad dysgwr unigol ac adroddiad ADY ysgol gyfan. Cyn i unrhyw adroddiad gael ei chynhyrchu, mae’n rhaid trosglwyddo cynnwys pob ffeil blwyddyn cwricwlwm i ffeil newydd, proses a ddarperir o fewn y rhaglen DaD. 1/23

Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Cymorth Defnyddio

Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan CYNNAL sydd wedi’i gyflwyno mewn dwy ran: Cynnig arweiniad am y darpariaethau mwyaf effeithiol i ddisgyblion mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau

cymdeithasol yng Nghyfnodau 2, 3 a 4 (y Tabl Darpariaethau). Dull cofnodi’r darpariaethau a’r deilliannau, yn ogystal â chynhyrchu adroddiadau am anghenion dysgu

ychwanegol dysgwyr i ddibenion hunan arfarnu.

Mae tair rhan i’r rhaglen DaD, rheolaeth, mewnbynnu data ac adroddiadau.

Mae rheolaeth yn golygu paratoi ar gyfer blwyddyn addysgol newydd, sef creu strwythr ffeiliau oddi fewn i’r ffolder un-swydd DaD ynghyd â ffeiliau data Excel i bob blwyddyn cwricwlwm cenedlaethol. Mewnforir cynnwys cychwynnol y ffeiliau data o ffeiliau a allforiwyd o SIMS. Pan gwblheir y broses hon bydd y ffeiliau data yn barod ar gyfer y cam nesaf, sef mewnbynnu data sydd ddim ar gael gan SIMS. I greu adroddiadau mae’n rhaid cyfuno cynnyws y ffeiliau blwyddyn cwricwlwm i un ffeil gynhwysfawr, yn rhan o’r ochr weinyddol.

Golyga mewnbynnu data agor ffeil data pob blwyddyn cwricwlwm i ychwanegu, dileu neu newid y data na fedr SIMS eu darpar. Mae hyn yn cynnwys manylion costau staffio fesul awr y ddarpariaeth i bob dysgwr, hyd pob sesiwn, amlder yr wythnos a hyd y ddarpariaeth mewn wythnosau, dyddiad dechrau a gorffen y ddarpariaeth, sgôr ar y cychwyn ac ar y diwedd, ayyb.

Mae’r rhan adroddiadau yn rhedeg nifer o raglenni parod i gynhyrchu, yn y lle cyntaf, Y Gofrestr ADY, adroddiad dysgwr unigol ac adroddiad ADY ysgol gyfan. Cyn i unrhyw adroddiad gael ei chynhyrchu, mae’n rhaid trosglwyddo cynnwys pob ffeil blwyddyn cwricwlwm i ffeil newydd, proses a ddarperir o fewn y rhaglen DaD.

1/19

Page 2: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

RheolaethMae strwythr arbennig wedi ei arsefydlu ar ddisg galed eich PC, yn “S:\DaD” fel rheol. Yn y strwythr gwreiddiol bydd y rhaglen gweinyddol, “vbDaDUwchradd” a ffolder “data”. Mae cynnwys y ffolder yn hanfodol i weithrediad y rhaglen ac ni ddylid newid unrhyw ran ohonno. Felly hefyd y rhaglen “vbDaDUwchradd”.

Cychwyn blwyddyn addysgol newyddPan wnewch redeg y rhaglen “vbDaDUwchradd” am y tro cyntaf, bydd y Panel Rheoli DaD yn edrych fel hyn:

Yn y blwch ar y dde fe welwch wybodaeth lleol, enw a rhif yr ysgol, y flwyddyn addysgol bresennol a’r llwybr at ffolder DaD (S:\DaD\ yn yr enghraifft uchod.) Dros amser ychwanegir enwau ffolderi blynyddoedd addysgol, e.e. 2010/2011 neu 2011/2012. Yn y ffolderi hyn fydd holl ffeiliau’r flwyddyn dan sylw yn cael eu storio.

Ar ochr chwith y Panel fe welwch bedwar botwm, i gychwyn ar waith gweinyddu neu adroddiadau.

2/19

Page 3: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Bydd clicio hwn yn cychwyn y broses o greu is-strwythr ar gyfer blwyddyn addysgol newydd...Bydd clicio ar y botwm

Yn eich dychwelyd i’r brif banel gan golli pob newid.

Rhaid dewis blwyddyn, bydd y rhaglen yn cynnig hyd at ddwy flwyddyn, y bresennol a’r nesaf, os nad ydynt wedi eu creu yn barod. Cliciwch y flwyddyn ac yna’r botwm “Creu ...” Bydd y rhaglen yn creu ffolder newydd (2010-2011)

a dangos hyn yn y panel ar y dde.

3/19

Page 4: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Bydd y ffolder newydd yn cynnwys tair ffolder arall, FfeiliauDaD, FfeiliauSIMS ac AdroddiadauDaD

Cyn symud ymlaen i drafod y botwm rheolaeth nesaf, “Creu Ffeil Blwyddyn CC”, mae’n rhaid cyfeirio at y cam nesaf yn y broses o gael ffeiliau’n barod i’w golygu.

Er mwyn gallu creu ffeil blwyddyn cwricwlwm (7, 8 ,9, 10 neu 11) mae’n rhaid mynd at SIMS i allforio dwy ffeil i bob blwyddyn. Mae’r manylion ar sut i wneud hyn i’w cael yn y dogfennau a baratowyd gan adran SIMS CYNNAL. Sylwer y dylech arbed y ffeiliau i S:\DaD\<ffolder y flwyddyn addysgol>\FfeiliauSIMS (<ffolder y flwyddyn addysgol> fydd 2010-2011, 2011-2012, ayyb, ee S:\DaD2010-2011\FfeiliauSIMS) a grewyd gan y broses uchod. Er nad oes rhaid gwneud hyn, bydd yn gyfleus cael y cyfan o’r ffeiliau gyda’u gilydd yn yr un fan. Awgrymir yn garedig eich bod yn enwi’r ffeiliau mewn dull ystyrlon, gyda 07, 08, ayyb yn yr enwau i’w adnabod yn y cam nesaf. Dyma enghraifft o hyn

Pan fydd y ffeiliau hyn wedi eu creu, gallwch fynd yn ôl at y Panel Rheoli DaD i ddechrau creu ffeil blwyddyn CC.

4/19

Page 5: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Cliciwch

i gael y canlynol

Mae’n rhaid dewis blwyddyn addysgol a blwyddyn CC allan o’r rhestrau, ar gyfer yr ymarfer hwn, y flwyddyn addysgol fydd 2010-2011 a’r flwyddyn CC fydd 7.

Cliciwch y botwm fforio (gyda .. ynddo) i’ch galluogi i bwyntio at y ffeiliau a ddaeth o SIMS.

Fforiwch at leoliad y ffeiliau ddaeth o SIMS, bydd y blwch cyntaf yn chwilio am ffeil XLS

tra mae’r ail yn chwilio am un XML

5/19

Page 6: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Pan fyddwch yn fodlon fod y pedwar gwybodaeth yn gywir

cliciwch

Bydd Excel yn agor ffeil patrymlun newydd, mewnforio’r data allan o’r ddwy ffeil SIMS, cysefeillio (match) data dysgwyr ac arbed y ffeil. Mae’n broses sydd yn cymryd amser gweddol hir, y mwyaf yw nifer yn y flwyddyn, yr mwyaf yr amser. Hefyd, nid yw’n beth doeth i glicio ar y ffenestr Excel a welwch, “i weld beth sy’n digwydd” oherwydd gall hyn ymyrryd yn andwyol ar rediad y rhaglen.Pan fydd y rhaglen wedi gorffen ei waith fe welwch neges tebyg i hwn yn ymddangos ar y sgrîn, mae’n dangos yr amser gymerwyd i greu’r patrymlun.

Cliciwch OK i ddychwelyd at y Panel Rheoli DaD.

Mae’r broses uchod yn creu ffeil patrymlun ar gyfer un flwyddyn CC yn ffolder 2010-2011\FfeiliauDaD gyda’r enw “DaD_2010-2011_xxxxxxx-07.xlsm”

Pan fydd ffeiliau SIMS y blynyddoedd eraill yn barod, gwnewch yr un fath a hwy.

Cyn i chwi greu ffeil gyfansawdd mae’n rhaid mynd ati i ychwanegu data at bob un o’r ffeiliau blwyddyn CC, y data hynny na ddaeth allan o SIMS. Mae’r adran nesaf yn y ddogfen hon yn cynnig amlinelliad byr o’r data fydd eu hangen os yw’r rhannau olaf o DaD yn mynd i roi atebion ystyrlon i chwi.

6/19

Page 7: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Ychwanegu data at batrymlun blwyddyn CCI wneud hyn mae’n rhaid agor ffeil y flwyddyn dan sylw, sydd i’w chael o fewn ffolder 2010-2011\FfeiliauDaD

Agorwch y ffeil yn Excel, ac fe gewch (y tro cyntaf) y ddogfen gyda’r tab cyntaf “Blaenddalen.Frontispiece” y dangos.

Mae’r gwybodaeth a welwch yma i’ch atgoffa o ddifrifoldeb cadw’r cynnwys yn ddiogel.

Yn ogystal â’r Flaenddalen, mae i bob ffeil patrymlun blwyddyn CC ddeg taflen arall:Gwybodaeth gefn.Background infoRhifedd NumeracyLlythrennedd LiteracySgiliau cymd Social SkillsArall OtherDarpariaeth AALl LEA ProvisionCanlyniadau diwedd CA End of KSCyfanswmTotalsCyfalaf.Capitaldropdowns

Mae i bob un ei briod le yn y drefn a rhaid nodi yma, ar y cychwyn, NA DDYLECH AR UNRHYW GYFRIF YMYRRYD Â CHYNNWYS Y TAB “DROPDOWNS” NA CHWAITH GYDA THREFN NAG ENWAU DYSGWYR YNG NGHOLOFNAU A I E NA THREFN NAG ENWAU’R COLOFNAU ERAILL YN UNRHYW DAFLEN.

I ddilyn mae trafodaeth ar y taflenni hyn.

7/19

Page 8: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Gwybodaeth gefn.Background info

Gwybodaeth allan o CYBLD (PLASC) sydd yn y daflen hon. Mae’r gwybodaeth sydd yn y pum colofn gyntaf yn cael ei adlewyrchu ym mhob un o’r taflenni eraill. Os ydych angen newid sillafu enw neu ddyddiad geni, gwnewch hyn yma, bydd y newid yn sicr o ymddangos yn y gweddill.Rhestrir enwau’r dysgwyr yn nhrefn yr wyddor, fel y daw allan o SIMS. Pan fyddwch angen ychwanegu enw dysgwr newydd, gwnewch hyn ar waelod y rhestr. Peidiwch ceisio’i ychwanegu yng nghanol y rhestr a pheidiwch a cheisio ail drefnu’r rhestr (e.e. gyda Data > Sort), bydd hyn yn cael effaith andwyol ar weddill y taflenni.

ColofnColumn

CynnwysContent

DisgrifiadDescription

A Enw'r disgybl / (Name of pupil) Enw’r dysgwr, fel y daeth allan o SIMS.B Rhif Mynediad / (Entry number) Rhif mynediad (nid UPN).C Rhyw / (Gender) D Dyddiad Geni (DOB) E Blwyddyn / (YEAR) Blwyddyn Cwricwlwm Cenedlaethol (Blwyddyn CC), 7..11

F Tras ethnig(Ethnicity)

Côd ethnigrwydd a ddaw allan o SIMS. Fe ddylai gyfateb i’r hyn a gynhwysir yn CYBLD Ionawr.

G Presenoldeb(Attendance)

Canran presenoldeb y dysgwr.

H Math o ADY 1(Type of ALN 1)

AAA/SEN, SIY/EALa-e, PMG/LAC, MAD/MAT, LleiEth/EM, TEITH/TRAV, PYD/FSM YC/EI Ymyrraeth Cynnar (ddim o fewn CYBLD) Early Intervention (not within PLASC) gallwch ddefnyddio’r “dropdown” i ychwanegu hwn

I Math o ADY 2(Type of ALN 2)

AAA/SEN, SIY/EALa-e, PMG/LAC, MAD/MAT, LleiEth/EM, TEITH/TRAV, PYD/FSMYC/EI Ymyrraeth Cynnar (ddim o fewn CYBLD) Early Intervention (not within PLASC) gallwch ddefnyddio’r “dropdown” i ychwanegu hwn

J Math o ADY 3(Type of ALN 3)

AAA/SEN, SIY/EALa-e, PMG/LAC, MAD/MAT, LleiEth/EM, TEITH/TRAV, PYD/FSMYC/EI Ymyrraeth Cynnar (ddim o fewn CYBLD) Early Intervention (not within PLASC) gallwch ddefnyddio’r “dropdown” i ychwanegu hwn

K Prif Angen yn ôl CYBLD(Primary PLASC 'need')

SPLD, MLD, SLD, PMLD, BESD, SLCD, ASD, HI, VI, MSI

L 2il angen yn ôl CYBLD(Secondary PLASC need )

SPLD, MLD, SLD, PMLD, BESD, SLCD, ASD, HI, VI, MSI

M CT 1-4(CT 1-4)

Rhifau 1..4 i gynrhychioli CT1, CT2, CT3 a CT4

N GS 1-4(GS 1-4)

Rhifau 1..4 i gynrhychioli GS1, GS2, GS3 a GS4

O SR 1-4(SR 1-4)

Rhifau 1..4 i gynrhychioli SR1, SR2, SR3 a SR4

P AA 1-4(AA 1-4 )

Rhifau 1..4 i gynrhychioli AA1, AA2, AA3 a AA4

Q Cyfanswm 'pwyntiau' CYBLD(Total PLASC 'points')

Cyfanswm y colofnau M..P, fformiwla peidiwch ei newid.

R Cam Côd Ymarfer:CY, CY+, 3*, Dat (SEN Stage SA, SA+, 3*, Sta)

(A) EYA/SA Cymorth Ysgol a Cymorth Ysgol Blynyddoedd Cynnar. School Action and Early Years School Action Plus.(P) EYA+/SA+ Ysgol a Mwy a Ysgol a Mwy Blynyddoedd Cynnar. School Action Plus and Early Years Action Plus3* yn EYA+/SA+ o fewn CYBLD 3* is EYA+/SA+ within PLASC Defnyddiwch y “dropdown” i newid os oes angenS Datganiad Statement N Ddim ar y gofrestr AAA mwyach No longer on the SEN registerYC/EI Ymyrraeth Cynnar (ddim o fewn CYBLD) Early Intervention (not within PLASC) gallwch ddefnyddio’r “dropdown” i ychwanegu hwn.

S Dyddiad Cyfrifiad Dyddiad y cynhyrchwyd y ffeiliau data allan o SIMS.

8/19

Page 9: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau(Census Date)

Rhifedd Numeracy

Fe welwch fod taflenni “Rhifedd Numeracy”, “Llythrennedd Literacy”, “Sgiliau Cymd Social Skills”, “Arall Other” a “Darpariaeth AALl LEA Provision” yn debyg iawn i’w gilydd, y pum colofn gyntaf yn cyfateb i’r pum colofn gyntaf yn “Gwybodaeth gefn.Background info” ac yna nifer o golofnau sydd yn disgrifio’r ddarpariaeth y mae’r dysgwr yn/wedi ei dderbyn. Mae lle i gofnodi hyd at dri darpariaeth yn “Rhifedd Numeracy”, “Sgiliau cymd Social Skills”, “Arall Other” a “Darpariaeth AALl LEA Provision” a hyd at bump yn “Llythrennedd Literacy”. Yn eu hanfod, mae gosodiad pob darpariaeth yr un fath heblaw am y rhai yn “Darpariaeth AALl LEA Provision” sydd ychydig yn wahanol. Fe ddylai’r disgrifiad a ganlyn felly ddisgrifio pob un yn yr holl daflenni heblaw am “Darpariaeth AALl LEA Provision”.

CynnwysContent

DisgrifiadDescription

Darpariaeth Ysgol XSchool Provision X

Côd y ddarpariaeth, RHxx (Rhifedd), DAxx, SIxx, SGxx, LLxx (Llythrennedd), YMxx (Sgiliau cymd), CYxx (Arall) neu AWxx (Darpariaeth AALl). Ceir copi llawn o’r darpariaethau, eu codau, eu priodolrwydd ar gyfer pa ddisgyblion, y cyflenwr/darparwr ayyb, o’r Moodle ADY.

Enw'r prawfTest name

Daw enw’r prawf o fformiwla, mae prawf penodol ar gyfer pob côd darpariaeth, ni ddylech geisio newid hwn. Ceir rhestr llawn o’r holl brofion sgrinio a’r profion deiagnostig eraill sydd ar gael yn SIMS, o’r Moodle ADY.

Staff (athro/CD /gwirfoddolwr)Staff (teacher / LSA / volunteer)

Y staff sydd yn cyflenwi’r ddarpariaeth, mae lle yma i un (yn unig) allan o dri dewis (athro/ Cymhorthydd Dysgu/Gwirfoddolwr), defnyddiwch y “dropdown”.

Cost yr awrCost per hour

Mae’r ffigwr hwn yn dibynnu ar gost awr y staff sydd yn cyflenwi’r ddarpariaeth. Bydd taflen gan yr ALl yn cael ei ddosbarthu gyda’r wybodaeth yma.

Cymhareb Staff:disgyblStaff: pupil ratio

Yma, rhowch y nifer o ddysgwyr sydd yn derbyn y ddarpariaeth hon, ar yr un pryd. Bydd y rhif a roddir yma’n effeithio cost y ddarpariaeth i’r dysgwr.

Hyd y sesiwnLength of session

Mewn oriau neu ffracsiwn o oriau, 0.25, 0.5, 0.75, 1, 1.25, ayyb (nid yw hon yn nhaflen “Darpariaeth AALl...”)

Nifer o sesiynau pob wythnosnumber of sessions per week

Fe ddylai hwn fod yn hunan ddisgrifiad. “Oriau pob wythnos” sydd yn nhaflen “Darpariaeth AALl...”.

Hyd yr ymyrraeth mewn wythnosauLength of intervention in weeks

Mae angen hwn gan nad yw’n bosibl cael gwerth cywir drwy ddefnyddio dyddiadau dechrau a gorffen y ddarpariaeth, mae’n amhosib rhagdybied y gwyliau, dyddiau HMS, ayyb.

Dyddiad cychwyn / Start date Defnyddir hwn yn yr adroddiadau.

Dyddiad gorffen / End date Defnyddir hwn yn yr adroddiadau.Cyfanswm costau Darpariaeth Ysgol XTotal cost School Provision X

Cyfrifir hwn gan fformiwla, peidiwch ei newid, drwy luosi (cost yr awr), (hyd y sesiwn), (nifer o sesiynau pob wythnos) a (hyd yr ymyrraeth mewn wythnosau) gyda’u gilydd ac yna rhannu gyda (cymhareb staff:disgybl).

Asesiad cychwynnolInitial Assessment

Bydd hwn yn rif ar gyfer codau RHxx, SGxx, SIxx, LLxx, CYxx neu AWxx ac yn y ffurf “bb/mm” (e.e. 10/03 neu 11/02) ar gyfer DAxx.

Asesiad terfynolFinal assessment

Bydd hwn yn rif ar gyfer codau RHxx, SGxx, SIxx, LLxx, CYxx neu AWxx ac yn y ffurf “bb/mm” (e.e. 10/03 neu 11/02) ar gyfer DAxx.

Cynnydd Darpariaeth XProgress Provision X

Y gwahaniaeth rhwng yr asesiad cychwynnol a’r terfynol. Fe welwch saeth yn ymddangos yma i ddisgrifio’r cynnydd.

Indecs cynnyddProgress Indicator

Ansawdd y cynnydd yw hwn.Fformiwla sydd yn penderfynu’r nifer o ser a ddangosir yma, peidiwch newid y fformiwla na chynnwys y gell.

Gwerthusiad gyfansawdd o effeithiolrwydd: Darpariaeth YsgolOverall evaluation of effectiveness: School provision

Gofynnir i chwi ddewis disgrifiad o effeithiolrwydd y ddarpariaeth i’r dysgwr. Mae “dropdown” ar gael i’ch cynorthwyo. Dylech ddewis o grŵp A ar gyfer *****, o grŵp B ar gyfer ****, o grŵp C ar gyfer ***, D ar gyfer ** ac E ar gyfer *. Ceir copiau llawn o’r disgrifiadau yma o Moodle ADY.

9/19

Page 10: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Dar XProX Mae’r golofn hon yn adlewyrchu cynnwys colofn “Darpariaeth .. X”

Llythrennedd Literacy

Trafodaeth fel yr un ar gyfer “Rhifedd Numeracy”

Sgiliau cymd Social Skills

Trafodaeth fel yr un ar gyfer “Rhifedd Numeracy”

Arall Other

Trafodaeth fel yr un ar gyfer “Rhifedd Numeracy”

10/19

Page 11: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Darpariaeth AALl LEA Provision

Mae colofnau’r ddapariaeth yn y daflen hon ychydig yn wahanol i’r rhai yn y taflenni eraill fel y disgrifiwyd ar gyfer “Rhifedd Numeracy”.

Canlyniadau diwedd CA End of KS

Mae’n bosib y bydd y data o SIMS wedi lenwi’r celloedd hyn, rhai CA1 a CA2 ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7 i 9 a CA3 hefyd ar gyfer rhai blynyddoedd 10 ac 11.Mae colofnau CA1/KS1, CA2/KS2, CA3/KS3 aCA4/KS4 i ddangos os cyrhaeddodd y dysgwr y DPC ar ddiwedd y cyfnod allweddol dan sylw.Prif ddiben y daflen hon yw i gasglu’r gwybodaeth mewn man cyfleus, ac i gynorthwyo’r Pennaeth / Cydlynydd ADY wrth ddod i farn am ddeilliannau’r ddarpariaeth ychwanegol a gynigwyd i’r disgybl, o’i gymharu a’i gyrhaeddiad Cwricwlwm Cenedlaethol (sef y farn gyfansawdd sydd i’w gwblhau wrth arfarnu cynnydd disgybl a hunan arfarnu cost-effeithiolrwydd, ar ddiwedd y daflen Cyfanswm Totals).

11/19

Page 12: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

CyfanswmTotals

Tudalen i grynhoi’r holl wybodaeth a gasglwyd yn y taflenni eraill sydd yma, gyda llawer o fformiwlau ynddi, peidiwch ymyrryd a rhain. Mae’r cyfanswm ysgol yn cynnwys holl gostau’r darpariaethau a hefyd y costau eraill o’r ddalen “Cyfalaf.Capital”.

Mae tair colofn bwysig ar bendraw dde y daflen, BI, BJ a BK sydd yno i chwi ddatgan eich barn ar yr holl ddarpariaethau a dderbyniwyd gan bob dysgwr: ar gynnydd yn erbyn targedau y Cynllun Addysg Unigol (BI), ar lwyddiant y darpariaethau ychwanegol i sicrhau deilliannau dysgu o ansawdd i’r disgybl (BJ), a chost-effeithiolrwydd y cyfan (BK).

Gwerthusiad gyfansawdd o gynnydd y dysgwr tuag at gyrraedd ei dargedau CAUSummative evaluation of learner’s progress towards IEP targets

A1) Wedi llwyddo i gyrraedd pob targed CAU a chynnydd cyffredinol rhagorol/achieved all IEP targets and excellent progress overallA2) Wedi llwyddo i gyrraedd y mwyafrif o dargedau CAU a chynnydd da/ achieved the majority of IEP targets and made good progress overallA3) Wedi llwyddo i gyrraedd rhai targedau CAU a chynnydd digonol/ achieved some IEP targets and made satisfactory progress overallA4) Heb lwyddo i gyrraedd targedau’r CAU a chynnydd annigonol/ not achieved IEP targets and insufficient progress overall

Barn am lwyddiant y ddarpariaeth i sicrhau deilliannau dysgu o ansawdd i’r dysgwrEvaluation of the success of the provision in securing good learning outcomes for the pupil

B1) Yr holl ddarpariaethau wedi bod yn llwyddiannus drosben/ all provisions highly successfulB2) Y mwyafrif o ddarpariaethau wedi bod yn llwyddiannus/ the majority of provisions proved to be successfulB3) Rhai darpariaethau wedi bod yn llwyddiannus/ some provisions have been successfulB4) Y ddarpariaeth ddim yn addas ac angen ei adolygu/ Inappropriate provision that needs to be reviewed

Gwerthusiad gyfansawdd o gost-effeithiolrwydd y ddarpariaethSummative evaluation of the cost-effectiveness of the provision

C1) Yr holl ddarpariaeth wedi bod yn gost-effeithiol iawn/ all provisions have been highly cost-effectiveC2) Y ddarpariaeth wedi bod yn gyffredinol gost-effeithiol/ provision have been generally cost-effectiveC3) Y ddarpariaeth wedi bod braidd yn ddrud ar y cyfan/ provisions have been rather costly

12/19

Page 13: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

C4) Y ddarpariaeth wedi bod yn ddrud iawn/ provisions have been very costly

Cyfalaf.Capital

Man i chwi gofnodi unrhyw wariant cyfalaf berthnasol sydd ddim ynghlwm â disgybl unigol,a ddaeth o gyllideb yr ysgol e.e. gemau ffoneg, llyfrau darllen, gliniadur, meddalwedd sillafu, dodrefn symudol, costau ‘chwyddo’ taflenni ayyb. Bydd y costau yma’n ymddangos yn y ‘Cyfanswm cost i’r ysgol’ar y dudalen ‘Cyfanswm Totals’.

13/19

Page 14: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Pan fyddwch yn fodlon fod popeth wedi ei ychwanegu at yr holl daflenni gallwch fynd ymlaen i greu ffeil gyfansawdd. Prif, efallai unig, bwrpas y ffeil hon yw i gasglu’r holl ddata ADY am y dysgwyr i un ffeil i’w gwneud yn haws i gynhyrchu adroddiadau.Gwnewch hyn drwy glicio

Dewiswch y flwyddyn addysgol

A chliciwch “Creu”Unwaith eto, mae’n broses a all gymryd tipyn o amser, y mwyaf o ddisgyblion sydd yn yr ysgol yna’r hiraf fydd yr amser. Peidiwch clician ar y taflenni Excel tra mae’n rhedeg, rhag ofn i hyn gael effaith andwyol ar y prosesu, sydd yn agor pob ffeil blwyddyn CC a chopio cynnwys pob taflen i’r ffeil newydd. Ar ddiwedd y broses bydd y rhaglen yn arbed y ffeil newydd yn ffolder “2010-2011\FfeiliauDaD” gyda’r enw “DaD_2010-2011_XXXXXXX.xlsx”.Nid oes unrhyw fath o ffwythiannaeth (functionality) yn y ffeil hon. Os gwelwch fod angen newid data, gwnewch hyn yn y ffeil blwyddyn CC briodol ac yna ail wnewch y ffeil gyfansawdd.

Maes o law bydd CYNNAL, ar ran eich Awdurdod Lleol, yn gofyn i chwi yrru’r ffeil hon i fan ddiogel fel y gall greu adroddiadau ar lefel awdurdod.

14/19

Page 15: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Cliciwch

I gael at y rhestr adroddiadau:

Fel ym mhob man arall yn y rhaglen, mae’n rhaid dewis blwyddyn addysgol yna, dewiswch yr adroddiad cyn clicio

Mae pob un o’r adroddiadau yn cynhyrchu ffeil Excel newydd bob tro ac yn arbed hon i ffolder “2010-2011\AdroddiadauDaD” gyda dyddiad yr adroddiad yn yr enw, e.e. “Adroddiad_ADY_Ysgol_Gyfan_2011-05-12.xlsx”, “Y_Gofrestr_ADY_2011-05-12.xlsx” neu “AdroddiadauDysgwyr_2011-05-12.xlsx”Yn achos “AdroddiadauDysgwyr_2011-05-12.xlsx”, mae’r rhaglen yn creu taflen i bob dysgwr sydd gyda data “Cam côd ymarfer” neu “Math o ADY” gan gynnwys y rhai Cinio am ddim a Saesneg fel iaith ychwanegol.Pan argreffir pob adroddiad, bydd dyddiad ac amser yr adroddiad yn ymddangos yn y gornel isaf chwith a rhif y tudalen ynghyd â nifer y tudalennau yn yr adroddiad.

15/19

Page 16: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a DeilliannauAdroddiad Ysgol Gyfan

Bydd tabl ar gyfer pob un o’r taflenni “Rhifedd Numeracy”, “Llythrennedd Literacy”, “Sgiliau cymd Social Skills”, “Arall Other”, “Darpariaeth AALl LEA Provision” yn rhestru pob math o ddarpariaeth a defnyddiwyd, i arbed lle dim ond Rhifedd a welir yn yr enghraifft uchod.

16/19

Page 17: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Y Gofrestr ADY

Mae hon yn rhy lydan i’w hargraffu ar draws un tudalen felly mae’n cael ei rhannu’n ddwy, popeth hyd at golofn “2il angen yn ôl CYBLD” yn gyntaf ac yna popeth hyd at “Cam côd ymarfer” ac yna “Darpariaethau” ymlaen i’r dde.

17/19

Page 18: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Adroddiadau DysgwyrMae’r rhaglen yn creu taflen adroddiad ar gyfer pob dysgwr ADY a thaflen “rhestr-list” gyda dolen at daflen pob dysgwr. Bydd clic ar enw’r dysgwr yn eich gyrru’n syth at ei daflen/thaflen adroddiad.

Mae un tudalen arall yn yr adroddiad hwn sydd yn rhestru darpariaethau “AALl / LEA” y dysgwr a fydd yn dilyn yr un patrwm a’r un Llythrennedd.

18/19

Page 19: Cymorth Defnyddio - Cynnalsims.cynnal.co.uk/.../Canllawiau_Defnyddio_DaD_Uwchradd.docx · Web viewCymorth Defnyddio Cynlluniwyd strategaeth Darpariaethau a Deilliannau (DaD), gan

Darpariaethau a Deilliannau

Efallai y bydd y siart rhediad hwn o gymorth i chwi gael syniad o lif y gwaith sydd angen ei wnued ar gyfer cynllun DaD:

19/19