37
Agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu – Cymru Thema 4 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen Cynradd Dyddiad cyhoeddi: 09-2010 Cyf: 1346-2010-CYMRU Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen a ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol a Gwasanaethau Plant Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen a ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol a Gwasanaethau Plant

Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Agweddau cymdeithasol acemosiynol ar ddysgu – Cymru

Thema 4 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

Cynradd

Dyddiad cyhoeddi: 09-2010

Cyf: 1346-2010-CYMRU

Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewnlleoliadau Cyfnod Sylfaena ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol aGwasanaethau Plant

Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewnlleoliadau Cyfnod Sylfaena ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol aGwasanaethau Plant

Page 2: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Ymwadiad

Dymuna’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ddatgan yn glir nad yw’r Adrana’i hasiantiaid yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am union gynnwys unrhyw ddeunyddiau a gaiffeu hawgrymu’n ffynonellau gwybodaeth yn y cyhoeddiad hwn, boed y deunyddiau hynny arffurf cyhoeddiadau print neu ar wefan.

Yn y deunyddiau hyn caiff eiconau, logos, meddalwedd a gwefannau eu defnyddio amresymau cyd-destunol ac ymarferol. Nid yw’r ffaith eu bod nhw’n cael eu defnyddio’ngolygu bod cwmnïau penodol na’u cynnyrch yn cael eu cymeradwyo.

Roedd y gwefannau y cyfeirir atynt yn y deunyddiau hyn yn bodoli pan gafodd ydeunyddiau eu cyhoeddi. Dylech wirio pob cyfeiriad at wefan yn ofalus er mwyn gweld a ydynt wedi newid, a dylech eu cyfnewid am gyfeiriadau eraill lle bo hynny’n briodol.

Page 3: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Set Las – y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 i 7 oed

Cyflwyniad

Mae’r set Las wedi’i rhannu’n bedair elfen, wedi’u gosod yn nhrefn datblygiad o 1 i 4. Mae’rrhain yn cyfeirio at Feysydd Dysgu tebyg y Cyfnod Sylfaen. Bydd ymarferwyr yn ymwybodolo’r gwahanol gamau datblygu bydd plant yn eu lleoliad/ysgol wedi’u cyrraedd o ran eudysgu a bydd yn rhaid iddyn nhw bwyso a mesur pa elfen sy’n briodol iddyn nhw. Mae’nbosib hefyd byddan nhw am ddefnyddio rhai rhannau o’r set Felen (sydd wedi’i hanelu at Flynyddoedd 3 a 4).

Mae’r thema hon yn canolbwyntio’n bennaf ar y brif elfen sy’n ymwneud â chymhelliant,gan roi rhywfaint o sylw i hunanymwybyddiaeth. Mae’n rhoi cyfle pwysig i werthfawrogigalluoedd, rhinweddau a chryfderau pob plentyn. Mae’r thema’n rhoi cyfleoedd i’r plantfyfyrio amdanyn nhw eu hunain fel unigolion, yn arbennig eu cryfderau fel dysgwyr ac ymmha ffordd maen nhw’n dysgu fwyaf effeithiol.

Mae pob set o weithgareddau’n canolbwyntio ar ragofynion sylfaenol dysgu ac ymddygiadllwyddiannus sy’n ymgyrraedd at nodau, er enghraifft, cymryd cyfrifoldeb a meithrin hyder a hunaneffeithlonrwydd – y gred bod yr hyn rydych chi’n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth.Dim ond os ydyn ni’n gallu gwneud dewisiadau doeth a chytbwys am ein nodau y maeymddygiad sy’n ymgyrraedd at nodau yn werthfawr, felly mae’r thema hon yn rhoi cyfleoeddi blant ystyried hyn ac ymarfer strategaethau datrys problemau.

Disgrifir y deilliannau dysgu bwriedig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen isod a thros y tudalennaucanlynol.

Deilliannau dysgu bwriedig

Elfennau 1 a 2

1

Disgrifiad

Mae’r thema’n ymdrin â chamau cyntaf datblyguteimladau o hunanwerth a chymhwysedd, gwneudpenderfyniadau, hunangymhelliant, annibyniaeth,rhagwelediad, a meddwl yn rhesymegol adadansoddol.

Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu gallu’r plentyn iweithio at nod mae’r plentyn ei hun wedi’i osod, iddyfalbarhau ac i adnabod pan fyddan nhw wedicyrraedd eu nod.

Mae’r gweithgareddau’n cefnogi’r plant i ddysguamdanyn nhw eu hunain a’u doniau a’u talentauunigryw eu hunain yng nghyd-destun lleoliadCyfnod Sylfaen.

Deilliannau dysgu bwriedig

Adnabod fi fy hun Dwi’n gwybod ein bod yn dysgu mewn ffyrddgwahanol. Dwi’n gwybod fy mod i’n gallu gwneud mwy obethau’n awr nag yr oeddwn i’n gallu eu gwneudpan oeddwn i’n iau. Dwi’n gwybod bydda i’n gallu gwneud mwy obethau pan fydda i’n hyn. Dwi’n gwybod bod pob un ohonon ni’n dda mewngwahanol bethau. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth dwi’n hoffi eiwneud a’i ddysgu. Dwi’n gallu rhoi cynnig ar bethau newydd wrth i fiddysgu.

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 4: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Disgrifiad Deilliannau dysgu bwriedig

Gosod nod realistig Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth yw nod. Dwi’n gallu gosod nod i mi fy hun. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth dwi am eigyflawni a sut dwi’n mynd i wneud hynny.

Cynllunio i gyrraedd nod Dwi’n gallu dweud beth dwi am ei wneud nesaf.

Dyfalbarhad Dwi’n gallu hoelio fy sylw a dechrau tasg. Dwi’n gallu cynnal fy sylw. Dwi’n gallu gweithio’n galed er mwyn cyflawni fy nod.Dwi’n gwybod bod gweithio’n galed yn bwysig ermwyn cyrraedd fy nod.

Gwerthuso ac adolygu Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth dwi wedi’iwneud a’r pethau sydd wedi gweithio’n dda.

2

Disgrifiad

Yn y thema hon bydd y plant yn dechrau edrych arddysgu effeithiol a sut gallan nhw ddylanwadu ar eullwyddiant. Awgrymir gweithgareddau i’w hannog ifyfyrio dros beth yw eu hoff ffyrdd o ddysgu – drwyweld, clywed neu wneud – a’u helpu i sylweddolibod angen gwahanol ffyrdd o ddysgu ar gyfergwahanol dasgau dysgu.

Cyflwynir plant i broses datrys problemau sy’ncynnwys meddwl am broblemau sy’n effeithio arbobl a dewis y ffordd orau o’u datrys. Byddannhw’n canolbwyntio ar sut byddan nhw’npenderfynu beth maen nhw am ei weld yn digwyddpan fydd problem yn codi (gosod nod).

Bydd plant yn ystyried sut byddan nhw’n gosod noduchelgeisiol a sut byddan nhw’n dechrau gweithioat y nod hwn. Defnyddir stori i edrych ar sut gellirrhannu nod yn gamau bach.

Bydd plant yn meddwl am anwybyddu pethau sy’ntynnu eu sylw a goresgyn diflastod arhwystredigaeth wrth weithio at eu nodau.

Deilliannau dysgu bwriedig

Adnabod fi fy hun Dwi’n gwybod ein bod yn dysgu mewn ffyrddgwahanol. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth yw rhai o’mcryfderau fel dysgwr.

Gosod nod realistig Dwi’n gallu dweud beth dwi am ei weld yndigwydd pan fydd problem yn codi (gosod nod). Dwi’n gallu rhagweld a deall y canlyniadau addaw yn sgîl cyrraedd fy nod. Dwi’n gallu dewis nod realistig.

Cynllunio i gyrraedd nod Dwi’n gallu rhannu nod yn gamau bach. Dwi’n gallu dewis nod realistig.

Dyfalbarhad Dwi’n gallu anwybyddu pethau sy’n tynnu fy sylw. Dwi’n gallu gweithio at wobr neu at deimlo’rboddhad o gwblhau tasg. Dwi’n gallu gweld pan fydda i’n dechrau diflasuneu deimlo’n rhwystredig. Dwi’n gwybod am rai ffyrdd o oresgyn diflastod arhwystredigaeth.

Elfennau 3 a 4

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 5: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

3

Disgrifiad

Rhoddir cyfleoedd i blant gynllunio ar gyfercyrraedd nod maen nhw wedi’i ddewis eu hunainac i roi ynghyd y strategaethau maen nhw wedi’ucyflawni hyd yn hyn yn ystod y thema.

Deilliannau dysgu bwriedig

Gwneud dewisiadau Dwi’n gallu meddwl am lawer o wahanol syniadauneu atebion i broblemau. Dwi’n gallu rhagweld a deall y canlyniadau a ddawyn sgîl fy atebion neu syniadau. Dwi’n gallu dewis o blith fy syniadau a rhoi rhesymau.

Gwerthuso ac adolygu Dwi’n gallu dysgu yn sgîl fy llwyddiannau. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth dwi wedi’iddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n eiwneud yn wahanol er mwyn dysgu’n fwy effeithiol. Dwi’n gallu dweud wrthych chi pam mae pethauwedi llwyddo. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth sydd wedimynd o’i le gyda chynllun a pham. Dwi’n gallu siarad am y rhannau da a’r rhannaumae angen i mi eu newid petawn i’n defnyddio fynghynllun eto.

Deilliannau dysgu: canllawiau cwricwlwm ar gyfer y Cyfnod Sylfaen

Ceir cyfleoedd i ddatblygu’r agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu (ACEDd) ym mhob un o Feysydd Dysgu’r Cyfnod Sylfaen. Dylid nodi deilliannau dysgu drwy arsylwiymddygiad dysgu o fewn darpariaeth barhaus y Cyfnod Sylfaen.

Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol

Dyma’r cysylltiadau penodol gyda Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles acAmrywiaeth Ddiwylliannol.

Sylwer: Rhaid pwysleisio er bod gan ACEDd y potensial i gyfrannu at y Maes Dysgu hwn,ceir elfennau eraill o fewn Sgiliau ac Ystod mae angen rhoi sylw iddyn nhw hefyd o fewn y rhaglen a gynlluniwyd ar gyfer y lleoliad/ysgol.

Sgiliau

Datblygiad personol

Dylid rhoi cyfleoedd i blant:

• fynegi a chyfleu gwahanol deimladau ac emosiynau – rhai eu hunain yn osystal â rhaipobl eraill

• dangos chwilfrydedd a datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu a phrofiadau newydd

• arbrofi â chyfleoedd dysgu newydd, gan gynnwys TGCh

• dod yn feddylwyr ac yn ddysgwyr annibynnol

• datblygu ymwybyddiaeth o’r hyn y maent yn ei wneud yn dda, a deall sut y gallant wellaeu dysgu a defnyddio adborth i wella eu gwaith

• canolbwyntio am gyfnodau cynyddol

• gwerthfawrogi eu gwaith dysgu, eu llwyddiant a’u cyraeddiadau eu hunain a rhai pobl eraill.© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 6: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Datblygiad cymdeithasol

Dylid rhoi cyfleoedd i blant:

• gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain

• ystyried goblygiadau geiriau a gweithredoedd iddynt hwy eu hunain ac eraill

• ffurfio perthnasoedd a theimlo’n ddigon hyderus i gyd-chwarae a chydweithio ag eraill.

Datblygiad moesol ac ysbrydol

Dylid rhoi cyfleoedd i blant:

• ymateb i syniadau a chwestiynau’n frwdfrydig, yn sensitif, yn greadigol ac yn reddfol

• siarad am y penderfyniadau a wneir mewn storïau neu sefyllfaoedd, neu benderfyniadaupersonol a myfyrio yn eu cylch, gan awgrymu ymatebion eraill

• siarad am y dewisiadau sydd ar gael i unigolion, a thrafod p’un a yw’r dewisiadauhynny’n golygu bod gwneud penderfyniad yn haws neu’n fwy cymhleth

• gofyn cwestiynau ynghylch beth sy’n bwysig mewn bywyd o safbwynt personol ac osafbwynt pobl eraill.

Lles

Dylid rhoi cyfleoedd i blant:

• ddeall y berthynas rhwng teimladau a gweithredoedd, a deall bod gan bobl erailldeimladau

• gofyn am gymorth pan fo’i angen.

Ystod

Drwy gydol y Cyfnod Sylfaen, dylid rhoi cyfleoedd i blant ddatblygu eu sgiliau, eugwybodaeth a’u dealltwriaeth trwy gymryd rhan mewn ystod o brofiadau, gan gynnwys:

• gweithgareddau mewn amgylcheddau dysgu a geir dan do ac yn yr awyr agored

• gwahanol fathau o weithgareddau chwarae ac ystod o weithgareddau a gaiff eucynllunio, gan gynnwys y rheiny a gychwynnir gan y plant

• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt fabwysiadu ystod o rolau, gan gynnwys rôlarweinydd mewn grwp bach, gwaith dysgu mewn pâr neu waith a wneir mewn tîm

• gwahanol adnoddau megis adnoddau printiedig a rhyngweithiol

• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt dyfu’n ddysgwyr annibynnol

• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt ddefnyddio eu synhwyrau a bod yn greadigol a dychymygus

• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt gyfleu eu syniadau, eu gwerthoedd a’u credoaumewn perthynas â hwy eu hunain, pobl eraill a’r byd

• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt ddatrys problemau a thrafod canlyniadau

• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt deimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eugwerthfawrogi.

4

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 7: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru

Mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i blant ddatblygu’r sgiliau meddwl achyfathrebu a amlinellwyd yn y Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yngNghymru. Dyma’r cysylltiadau penodol yn y set hon.

Datblygu meddwl ar draws y cwricwlwm

Cynllunio

Gofyn cwestiynau

Ysgogi sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol

Cywain gwybodaeth

Pennu’r broses/dull a’r strategaeth

Pennu meini prawf llwyddiant

Datblygu

Creu a datblygu syniadau

Meddwl am achos ac effaith a dod i gasgliadau

Ffurfio barn a gwneud penderfyniadau

Monitro cynnydd

Myfyrio

Adolygu deilliannau a meini prawf llwyddiant

Adolygu’r broses/dull gweithio

Gwerthuso eu dysgu a’u meddwl eu hunain

Cysylltiadau a meddwl ochrol

Datblygu cyfathrebu ar draws y cwricwlwm

Llafaredd

Datblygu gwybodaeth a syniadau

Cyflwyno gwybodaeth a syniadau

Darllen

Defnyddio strategaethau darllen i ddod o hyd i wybodaeth, ei dewis a’i defnyddio

Ymateb i’r hyn a ddarllenwyd

Ysgrifennu

Trefnu syniadau a gwybodaeth

Sgiliau cyfathrebu ehangach

Cyfleu syniadau ac emosiynau

Cyfleu gwybodaeth

5

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 8: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Cynllunio

Er mwyn helpu gyda’r gwaith cynllunio, mae’r math o ddysgu ac addysgu sy’ngysylltiedig â phob cyfle dysgu yn cael ei ddangos gan eiconau ar ochr chwith yllyfr hwn.

Ar gyfer Elfennau 1 a 2

Dan arweiniad oedolyn – lle caiff iaith a syniadau eu cyflwyno a’u datblygu’nbenodol gan yr ymarferydd.

Dan arweiniad plentyn – lle bydd plant yn ysgogi’r dysgu, gyda chymorthaddasiadau i’r amgylchedd dysgu a rhyngweithio cymdeithasol sy’n hyrwyddollwybrau penodol o archwilio a thrafod.

Ar gyfer Elfennau 3 a 4

Nodir syniadau gan ymarferwyr ar ochr dde’r llyfr hwn. Mae’r syniadau’n cynnwysffyrdd y cynlluniodd ymarferwyr ar gyfer amrywiaeth yn eu dosbarth neu grwp, erenghraifft, er mwyn cefnogi dysgu plant ag anghenion caffael iaith neu angheniondysgu ychwanegol.

Geirfa allweddol (i’w chyflwyno o fewn y thema ac ar draws y cwricwlwm)

Ar gyfer Elfennau 1 a 2

dysgu gorffen cyn ar ôl yn awr heddiw

yfory dyfodol nod targed llwyddo balch

Ar gyfer Elfennau 3 a 4

nod canlyniadau cyflawni cyflawniad camau

byrbwyll pell eich meddwl pethau sy’n tynnu sylw dyfal dyfalbarhad

rhwystredig rhwystredigaeth wedi diflasu diflastod

Adnoddau

Dyma restr o’r adnoddau y gellir eu defnyddio i ategu’r gwaith yn y llyfr hwn.Mae’r rhain ar gael yn y Ffeil adnoddau ysgol gyfan.

6

Dosbarth cyfan

Unigolyn

Parau

Grwp bach

Adnoddau

Elfen 3 Cardiau llun – penderfynolPoster proses datrys problemauRhestr wirio ar gyfer hunanadolygu cydweithio

Elfen 4 Rhestr wirio ar gyfer hunanadolygu cydweithioCardiau llun – wedi diflasu/rhwystredig Poster ditectif teimladau

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 9: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Pwyntiau allweddol o stori’r gwasanaeth

1. Roedd Samindra yn byw gyda’i fam a’i chwaer. Roedd ei dad i ffwrdd yn ymladd mewnrhyfel. Roedd ganddyn nhw dractor i’w helpu ar y fferm.

2. Torrodd y tractor i lawr ac roedd angen darn newydd arno (carbwradur). Anafodd mamSamindra ei choes ac nid oedd yn gallu mynd i nôl y darn newydd.

3. Cychwynnodd Samindra ar ei daith dros y mynydd. Roedd y daith i weld yn hir iawn acroedd arno ofn.

4. Aeth Samindra dros y mynydd a phrynodd y darn newydd.

5. Aeth adref yn ôl a rhoi darn newydd y tractor i’w fam.

Nodweddion yr awgrymir i’r lleoliad/ysgol gyfan ganolbwyntio arnyn nhw ermwyn sylwi ar gyflawniad a’i ddathlu

Defnyddiwch ffordd arferol y lleoliad/ysgol o ddathlu (canmol, nodiadau i’r plentyn a’rrhieni/warcheidwaid, tystysgrifau, enwebiadau gan gyfoedion ac ati) i sylwi ar blant (neuoedolion) a welwyd yn cyflawni’r canlynol a’u dathlu:

• ysgwyddo cyfrifoldeb – dros eu llwyddiannau a phan aiff pethau o le

• aros am yr hyn mae arnyn nhw ei eisiau; dyfalbarhad (dal ati)

• dangos gwytnwch – codi’n ôl neu ddal ati drwy brofiad anodd neu ar ôl camgymeriadneu fethiant

• gosod a chyflawni nodau.

Bydd angen penderfynu ar yr amserlen ar gyfer pob nodwedd gan ystyried y lleoliad/ysgolgyfan.

7

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 10: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

8

Set Las: Elfen 1 y Cyfnod Sylfaen

Gemau cylch a rowndiau

Gemau cylch

Cadw’n dawel bach

Pasiwch dambwrîn neu glwstwr o allweddi yn dawel o gwmpas y cylch. Trafodwchwelliannau (er enghraifft, safon y tawelwch neu’r amser a gymerwyd i gyflawni’r nod hwn) a rhoi cynnig arall arni.

Rowndiau

Heddiw dwi’n mynd i ...

Ddoe fe ... i

Cyfleoedd dysgu: deall fi fy hun

Siaradwch am rywbeth mae un neu ragor o’r plant yn y grwp/dosbarth wedi’i gyflawni’nddiweddar.

Cyflwynwch y syniad canlynol:

Pan oeddwn i’n fabi, roeddwn i’n gallu ...

Nawr dwi’n gallu ...

Pan fydda i’n hyn, mi fydda i’n gallu ...

Os bydd plant yn siarad am gyflawniadau gellir eu dangos (er enghraifft, dringo i ris uchafysgol ffrâm ddringo), trefnwch fod y plant yn cael cyfle i wneud hynny. Pwysleisiwch ein bodyn cyflawni nodau am ein bod yn ymdrechu’n galed.

Gwnewch arddangosfa o ‘Beth alla i ei wneud yn awr’ drwy ofyn i bob plentyn gofnodirhywbeth gallan nhw ei wneud – gellir gwneud hyn gyda llun neu ffotograff.

Gwnewch arddangosfa o ‘Pan oeddwn i’n fabi, roeddwn i’n gallu ... ’. Efallai yr hoffech chiofyn i riant/warcheidwad ddod â babi i mewn a thynnu ffotograffau ohono’n bwyta, yfed,cael clwt/cewyn glân, cael ei wisgo, chwarae gyda thegan ysgwyd ac ati er mwyn euhychwanegu at yr arddangosfa.

Deilliant dysgu bwriedig

Dwi’n gallu gosod nod i fi fy hun ac i grwp.

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gwybod fy mod i’n gallu gwneud mwy o bethau’n awr nag yr oeddwn i’n gallueu gwneud pan oeddwn i’n iau.

Dwi’n gwybod bydda i’n gallu gwneud mwy o bethau pan fydda i’n hyn.

Dwi’n gwybod bod pob un ohonon ni’n dda mewn gwahanol bethau.

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 11: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

9

Gallai plant ac oedolion ddod â ffotograffau ohonyn nhw eu hunain pan oeddennhw’n fabanod.

Cyfleoedd dysgu: gosod nod realistig

Gwnewch ddeilliannau dysgu bwriedig yn rhan o’r profiad dysgu. Os byddnodau’n glir i’r plant cyn iddyn nhw ddechrau ar y gweithgareddau, er enghraifft,‘Bydd y gêm hon yn ein helpu i ymarfer cydweithio mewn parau’, gydag amser i fyfyrio wedyn, yna bydd y plant yn dechrau ystyried y gweithgareddau felrhywbeth sydd â phwrpas iddyn nhw ac sy’n ymgyrraedd at nod, a byddannhw’n gallu dweud a ydyn nhw wedi cyflawni’r nod.

Gallwch arsylwi’r plant yn chwarae gan nodi un peth a wnaeth pob plentyn yndda. Cofnodwch y rhain a’u rhannu gyda’r grwp. Trafodwch ‘nod’ neu dargednewydd gyda’r plentyn er mwyn ymestyn y cyflawniad hwn. Meddyliwch pa morhir gall pob plentyn ei gymryd i gyflawni ei nod. Rhannwch rai o’r rhain gyda’rgrwp. Esboniwch wrth y plant gallwn ni gyflawni rhai nodau bron yn syth, tra byddnodau eraill yn cymryd hirach i’w cyflawni. Rhowch enghreifftiau o bob un, erenghraifft: ‘Nod Nanceba yw chwarae gyda Shanaz amser chwarae’; ‘Nod Tomosyw bod yn ddiffoddwr tân’.

Yn yr ardal adeiladu, gallwch ddangos y broses o weithio at nod. Dechreuwchsiarad gyda grwp o blant am yr hyn rydych chi’n mynd i’w wneud, ac ynagyda’ch gilydd, crëwch lun clir o’r hyn rydych chi’n mynd i’w wneud. Gallechddangos enghreifftiau o gamgymeriadau bwriadol a rhoi cyfle i’r plant esbonio sutbydden nhw’n cywiro hyn. Pan fydd y plant yn gwneud eu modelau eu hunain,ceisiwch eu hannog i ganolbwyntio ar yr hyn maen nhw’n ei wneud drwy ofyncwestiynau am y nod yn y diwedd.

Gosodwch nod ar gyfer pob gweithgaredd yn yr ystafell ddosbarth. Gwnewch yn siwr bod digon o amser i bob plentyn ‘lwyddo’ yn y dasg. Dylai oedolion sy’ngweithio yn y lleoliad/ysgol helpu plant i ddeall beth yw nodau drwy ddefnyddiocwestiynau penagored, megis ‘Beth rydych chi’n ceisio ei wneud?’; ‘Beth sydd yn rhaid i chi ei wneud?’; ‘Ydych chi wedi gorffen?’; ‘Sut ydych chi’n gwybod eichbod wedi gorffen?’; ‘Pa gymorth sydd ei angen arnoch chi?’. Pan fydd plentyn yn gorffen tasg, gofynnwch iddo sut mae’n teimlo’n awr gan fod y dasg wedi’ichwblhau.

Gosodwch dasgau sy’n gofyn bod pawb yn cydweithio. Er enghraifft, gall pobplentyn gael un darn o jig-so a thasg y grwp fydd rhoi’r jig-so at ei gilydd.

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth yw nod.

Dwi’n gallu gweithio er mwyn ceisio cyrraedd fy nod.

Dwi’n gallu gosod nod i mi fy hun.

Dwi’n gallu rhoi cynnig ar bethau newydd wrth i fi ddysgu.

Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth dwi wedi’i wneud a’r pethau syddwedi gweithio’n dda.

Mae amser berf ynchwarae rhan fawrwrth siarad amnodau ond nid oeddpob un o fy nysgwyryn gyfarwydd âdefnyddio ‘mynd i’ i siarad am bethauroedden nhw’nbwriadu eu gwneudyn y dyfodol. I ddangos ystrwythur hwn, fe wnaethon niddangos y cwestiwn‘Beth rydych chi’nmynd i’w wneud?’ a chefnogi’r plantdrwy’r amser i siaradam bethau roeddennhw’n mynd i’wgwneud y diwrnodhwnnw neu drosgyfnod hirach.

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 12: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

10

Gofynnwch i bob plentyn osod nod syml gellir ei gyflawni yn ystod y diwrnod. Gallairhieni/warcheidwaid gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn drwy ddewis nod gyda’u plentyno restr a glynu’r nod wrth enw’r plentyn ar fwrdd arddangos. Gallai’r plentyn arhiant/warcheidwad naill ai dicio’r nod neu eu rhoi yn y blwch ‘pethau rydyn ni wedi’ucyflawni’ ar ddiwedd y dydd. Neilltuwch amser i drafod beth mae’r plant wedi’i gyflawni felgrwp cyfan.

Gweithgareddau parhaus

Mae strategaethau effeithiol i ddatblygu amgylchedd sy’n ategu’r sgiliau a nodwyd yn ythema hon yn cynnwys y canlynol.

Trefnu’r diwrnod

• Darparu amser i chwarae’n unigol gyda chymorth oedolyn pan fydd angen.

• Amser dewis rhydd, gyda chydbwysedd rhwng gweithgareddau.

• Rheoli amser sy’n rhoi cyfle ar gyfer ymchwiliadau a chwarae estynedig.

• Cyfleoedd i blant ysgwyddo cyfrifoldeb o fewn y lleoliad/ysgol (e.e. bod yn rhan o drefn lleoliad/ysgol).

• Deilliannau mae’r plant yn penderfynu arnyn nhw.

• Systemau sefydliadol sy’n annog plant i fod yn rhan o gynllunio beth maen nhw’n myndi’w wneud (e.e. bwrdd cynllunio).

• Cyfleoedd i blant adolygu eu cyflawniadau a rhoi sylwadau arnyn nhw.

• Cynnwys rhieni/warcheidwaid yn y lleoliad/ysgol a darparu gwybodaeth er mwyn iddynnhw allu siarad gyda’r plentyn am yr hyn maen nhw’n ei wneud ac adolygu beth maennhw wedi’i wneud yn y lleoliad/ysgol.

Yr amgylchedd

• Darparu amgylchedd sy’n annog annibyniaeth.

• Darparu ardaloedd ar gyfer gwahanol weithgareddau a dewisiadau personol.

• Darparu cyfarpar cyfleus mewn lleoliadau a labelwyd.

Rôl oedolion

• Oedolion sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau chwarae’r plant, gan gynnwyschwarae llawn dychymyg.

• Oedolion yn dangos ymddygiad sy’n ymgyrraedd at nod, dyfalbarhad, gwneudcamgymeriadau a dysgu oddi wrthyn nhw.

• Cyfleoedd i blant siarad ag oedolion ar eu pen eu hunain neu mewn grwpiau.

• Dathlu llwyddiant.

• Amgylchedd sy’n cwestiynu a lle rhoddir tasgau datrys problemau penagored i blant.

• Awyrgylch anfeirniadol lle ystyrir ei bod yn iawn i wneud camgymeriadau a dysgu oddiwrthyn nhw.

• Oedolion sy’n cefnogi syniadau plant ac yn defnyddio technegau cwestiynu i annog creusyniadau newydd.

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 13: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

11

Un o elfennau hanfodol ymarfer effeithiol yn y Cyfnod Sylfaen yw defnyddio’r materion sy’ncodi wrth chwarae’n ddigymell. Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos y mathau o brofiadsy’n gallu rhoi cyfleoedd i ddatblygu dysgu allweddol yn y thema hon.

• Pan fydd model plentyn yn torri, mae hyn yn rhoi cyfle gwych i fynd ar drywydd yteimladau o rwystredigaeth sy’n codi. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i gefnogi dyfalbarhad y plentyn ac annog gwytnwch emosiynol.

• Pan fydd rhywbeth yn tynnu sylw plentyn ac yntau’n gadael llun neu weithgaredd ar ei hanner, mae hyn yn rhoi cyfle i annog y plentyn i feddwl am ei nod gwreiddiol a’igysyniad o rywbeth ‘gorffenedig’.

Cwestiynau ar gyfer myfyrio ac ymholi

• Beth ydych chi’n ei wneud?

• Sut beth fydd hyn ar ôl i chi orffen?

• Sut byddwch chi’n gwybod pan fyddwch chi wedi gorffen?

• Beth ydych chi’n mynd i’w wneud yn gyntaf? Beth wedyn?

• Sut byddwch chi’n gwneud hynny? Pa gymorth a fydd ei angen arnoch chi?

• Beth fydd yn digwydd os ... ?

• Pam mai fel hyn rydych chi’n ei wneud?

• Oes yna rywbeth arall mae angen i chi ei wneud?

Adolygu

Adolygwch weithgareddau arwyddocaol wrth i’r plant eu cwblhau, gan ofyn a ydyn nhw’nmeddwl eu bod wedi cyflawni eu nod.

Gofynnwch: ‘Beth ydych chi wedi’i wneud heddiw?’ (gan gymell yn ôl y galw).

Rhowch rywfaint o amser ar gyfer myfyrio tawel ynghylch beth maen nhw wedi’i wneud abeth fydden nhw’n hoffi ei gyflawni yfory.

Gofynnwch: ‘Wnaeth rywun eich helpu i gyflawni eich nod? Beth wnaethon nhw?’ ‘Wnaethoch chi helpu rhywun i gyflawni eu nod? Beth wnaethoch chi?’

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 14: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Set Las: Elfen 2 y Cyfnod Sylfaen

Gemau cylch a rowndiau

Gemau cylch

Mae’r plant yn eistedd mewn cylch. Eglurwch fod yn rhaid iddyn nhw godi a dodo hyd i le newydd os yw’r hyn rydych chi’n ei ddweud yn berthnasol iddyn nhw.Er enghraifft, ‘Codwch a dod o hyd i le newydd os ydych chi’n mynd:

… i chwarae yn y tywod heddiw’

… i beintio heddiw’

… i chwarae gyda ffrind heddiw’

… i ddarllen llyfr heddiw’.

Rowndiau

Ewch o amgylch y cylch gan ofyn i’r plant siarad yn eu tro am bethau maennhw’n ei wneud:

Dwi’n dda am ...

Dwi’n hoffi …

Cyfleoedd dysgu: adnabod fi fy hun

Arsylwch y plant yn ofalus er mwyn nodi eu cryfderau unigol. Defnyddiwch luniaudigidol i ddangos y cryfderau hyn. Efallai yr hoffech chi arddangos y rhain.Ceisiwch gynrychioli amrywiaeth ddiwylliannol y plant a’ch gwybodaeth amdanynnhw fel dysgwyr tu allan i’r lleoliad/ysgol.

Defnyddiwch y ffotograffau i siarad am beth mae’r plant wedi bod yn ei wneud yny lleoliad/ysgol. Gofynnwch iddyn nhw gynnig sylwadau ynghylch beth mae’rplentyn yn ei wneud yn y ffotograff a pha mor dda maen nhw’n gwneud hynny.Byddwch yn barod gyda’ch sylwadau’ch hun.

Gwnewch yn siwr bod pob plentyn yn cael cydnabyddiaeth am rywbeth maennhw’n gallu ei wneud a’u cryfderau.

Ceisiwch annog y plant i wneud dewisiadau ynghylch pryd a beth fyddan nhw’nei wneud yn y lleoliad/ysgol. Siaradwch am beth maen nhw’n bwriadu ei wneudam y diwrnod. Adolygwch yr hyn dywedon nhw y bydden nhw’n ei wneud a’r hyna wnaethon nhw mewn gwirionedd.

Fe wnaethon niddefnyddio ffynlolipop ‘ie’ a ‘na’ i’rplant eu dal yn yrawyr fel bodplentyn sydd aganawsterau symudyn gallu cael eigynnwys yn well.

Mae Tom ynawtistig ac mae’ndefnyddio amserlenweledol. Gan ei fodyn ‘postio’ pobgweithgaredd o’iamserlen i focs cyngynted â mae wedigorffen, mae’nhawdd adolygubeth mae wedi’iwneud yn ystod ydydd.

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gwybod bod pob un ohonon ni’n dda mewn gwahanol bethau.

Dwi’n gallu dweud beth dwi am ei wneud nesaf.

Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth dwi’n hoffi ei wneud a’i ddysgu.

Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth dwi wedi’i wneud a’r pethau syddwedi gweithio’n dda.

12

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 15: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

13

Cyfleoedd dysgu: fy nod yw ...

Trafodwch ‘Pethau bydden ni’n hoffi gallu eu gwneud’ a chofnodwch syniadau’rplant, gan ddechrau, efallai, gyda rhywbeth byddech chi’ch hun yn hoffi gallu eiwneud. Pan fydd pawb sydd am gael tro wedi cael un, atgoffwch y plant y gelwiry ‘dymuniadau’ hyn yn ‘nodau’ weithiau – rhywbeth rydyn ni’n trio ei gyflawni.

Ewch drwy’r rhestr mae’r plant wedi’i chreu a phenderfynu gyda’ch gilydd pa rai sy’n nodau ‘cyflym’ a pha rai fydd yn cymryd mwy o amser i’w cyflawni.

Gwnewch arddangosfa, gan ddefnyddio lluniau neu ffotograffau’r plant i ddangosbeth mae’r plant am ei gyflawni.

Siaradwch gyda’r plant am rywbeth mae un neu ragor o’r plant yn y grwp wedi’igyflawni’n ddiweddar, o fewn y flwyddyn ddiwethaf os yn bosib. Cofnodwch yrymatebion. Os yw’r plant yn gallu dangos y cyflawniad, gofynnwch i ambellblentyn wneud hynny. Gallai plant gynllunio a gwneud gwobrau iddyn nhw euhunain neu’i gilydd er mwyn dathlu eu cyflawniadau.

Cyflwynwch byped yn y lleoliad/ysgol ac eglurwch byddai’n hoffi dysgu rhywbethnewydd heddiw. Dyma ei nod dysgu. Efallai y byddwch chi’n dweud bydd hi amddysgu sut mae tynnu llun ty. Dywedwch nad ydy hi’n dda iawn am dynnu llunsgwâr eto. Gofynnwch i’r plant ei helpu i ddysgu gwneud hyn. Beth ddylai hi eiwneud? Gadewch y pyped yn y lleoliad/ysgol er mwyn i’r plant allu ei helpu igyrraedd ei nod dysgu. Gwnewch yn siwr bod y pyped yn cyrraedd ei nod.Dangoswch i’r plant beth mae hi wedi’i wneud a thynnwch ffotograff ohoni ermwyn dangos beth mae hi wedi’i gyflawni.

Gofynnwch i bob plentyn osod nod syml gellir ei gyflawni yn ystod yr wythnos.Gallai rhieni/warcheidwaid gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn drwy ddewis nodgyda’u plentyn o restr a glynu’r nod wrth enw’r plentyn ar y bwrdd arddangos.Gallai’r plentyn a rhiant/warcheidwad naill ai dicio’r nod neu eu rhoi yn y blwch‘Pethau rydyn ni wedi’u cyflawni’ ar ddiwedd yr wythnos. Neilltuwch amser idrafod beth mae’r plant wedi’i gyflawni fel grwp cyfan.

Ceisiwch annog y plant i osod nodau iddyn nhw eu hunain ar gyfer datblygiadcorfforol, er enghraifft:

• dysgu dal pêl

• cadw balans ar y bar

• neidio (yn uwch, yn fwy aml, yn bellach)

• gwneud tin-dros-ben

• dysgu mynd ar feic

• dysgu nofio

• dysgu chwibanu.

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Fe wnaethon niddefnyddiotargedau a oeddyn canolbwyntio arymddygiad dysgu’rplant, fel eistedd ynllonydd am bummunud amser stori,a rhoi ffotograffauo’r plentyn unigolyn ‘ei wneud yniawn’ ar y wal,gyda thystysgrif arôl iddo gyflawni hyn.

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gallu gosod nod i fi fy hun.

Dwi’n gallu hoelio fy sylw a dechrau tasg.

Dwi’n gallu canolbwyntio ar yr hyn dwi’n ei wneud.

Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth dwi am ei gyflawni a sut dwi’n mynd iwneud hynny.

Page 16: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

14

Daeth nain un o’rplant aton ni iddangos i ni sutmae gweu. Daethun arall aton ni iddangos sut maegwneud nwdls. Fe dynnais i luniaugyda’r camera.

Ceisiwch annog y plant i osod nodau ar gyfer y gweithgareddau maen nhw euhunain yn eu harwain. Gwnewch yn siwr bod digon o amser i bob plentyn‘lwyddo’ yn y dasg. Dylai oedolion sy’n gweithio yn y lleoliad/ysgol helpu plant iddeall beth yw nodau gan ddefnyddio cwestiynau penagored, er enghraifft: ‘Bethrydych chi’n ceisio ei wneud?’; ‘Beth sydd yn rhaid i chi ei wneud?’; ‘Ydych chiwedi gorffen?’; ‘Sut ydych chi’n gwybod eich bod wedi gorffen?’; ‘Pa gymorthsydd ei angen arnoch chi?’. Pan fydd plant yn gorffen tasg, efallai gellir rhoi sticeriddyn nhw i ddweud eu bod wedi cyrraedd y nod.

Trefnwch weithgareddau sy’n gofyn bod pawb yn cydweithio, er enghraifft, pobplentyn i gael darnau o offer adeiladu a thasg y grwp fydd rhoi’r darnau at eigilydd.

Rhowch gymorth i’r plant ddechrau ar weithgaredd drwy chwarae a dysgu wrtheu hymyl ac ennyn eu diddordeb.

Siaradwch am beth rydych chi’n ceisio ei gyflawni gan eu hannog i siarad ambeth maen nhw’n ei wneud a beth maen nhw am ei gyflawni.

Cyfleoedd dysgu: dal ati

Rhowch wahoddiad i ymwelydd (neu aelod arall o staff) sydd wedi cyflawnirhywbeth priodol – gellir ei ddangos o fewn y lleoliad neu’r ysgol (megis jyglo) –ddod i siarad gyda’r plant. Gofynnwch i’r plant gynnig cwestiynau i’w gofyn i’rymwelydd (er enghraifft, ‘Allech chi wneud hyn pan oeddech chi’n fach?’; ‘Ydy e’nanodd?’). Gwnewch yn siwr fod yr ymwelydd yn cael gwybodaeth ymlaen llaw. Y pwyntiau allweddol i’w pwysleisio yw ei bod hi wedi cymryd amser i ddysgu’r sgìla bod ymarfer yn angenrheidiol. Cofnodwch yr ymweliad ar ffurf lluniau os yn bosiber mwyn eu harddangos. Ceisiwch gynrychioli amrywiaeth eich grwp drwy gynnwysy sgiliau traddodiadol a gynrychiolir mewn gwahanol ddiwylliannau.

Defnyddiwch stori’r gwasanaeth i benderfynu ynghylch beth fydd y plant feldosbarth yn ei ddweud i helpu unrhyw un sydd â phroblem (‘Gallwch chi ei wneud’;‘Rydych chi bron â’i wneud’ ac ati).

Defnyddiwch stori Yr Ysgyfarnog a’r Crwban i ddangos sut gellir cyflawni nod drwyddyfalbarhau.

Gofynnwch i blant siarad gyda’u rhieni/neiniau a theidiau ynghylch sut rai oeddennhw pan oedden nhw’n blant.

Gwnewch lyfrau igam-ogam o ‘Mae babanod yn gallu ... ond dwi’n gallu ... ’.Er enghraifft: ‘Mae babanod yn gallu cropian, ond dwi’n gallu cerdded’.

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gallu gweithio at gyrraedd fy nod.

Dwi’n gwybod bod gweithio’n galed yn bwysig er mwyn cyrraedd nod.

Page 17: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

15

Gweithgareddau parhaus

Mae strategaethau effeithiol i ddatblygu amgylchedd sy’n ategu’r sgiliau a nodwyd yn ythema hon yn cynnwys y canlynol.

Trefnu’r diwrnod

• Darparu amser i chwarae’n unigol gyda chymorth oedolyn pan fydd angen.

• Amser dewis rhydd, gyda chydbwysedd rhwng gweithgareddau.

• Rheoli amser sy’n rhoi cyfle ar gyfer ymchwiliadau a chwarae estynedig.

• Cyfleoedd i blant ysgwyddo cyfrifoldeb o fewn y lleoliad/ysgol (e.e. bod yn rhan o drefn lleoliad).

• Deilliannau mae’r plant yn penderfynu arnyn nhw.

• Systemau sefydliadol sy’n annog plant i fod yn rhan o gynllunio beth maen nhw’n myndi’w wneud (e.e. bwrdd cynllunio).

• Cyfleoedd i blant adolygu eu cyflawniadau a rhoi sylwadau arnyn nhw.

• Cynnwys rhieni/warcheidwaid yn y lleoliad/ysgol a darparu gwybodaeth er mwyn iddynnhw allu siarad gyda’r plentyn am yr hyn maen nhw’n ei wneud ac adolygu beth maennhw wedi’i wneud yn y lleoliad/ysgol.

Yr amgylchedd

• Darparu amgylchedd sy’n annog annibyniaeth.

• Darparu ardaloedd ar gyfer gwahanol weithgareddau a dewisiadau personol.

• Darparu cyfarpar cyfleus mewn lleoliadau a labelwyd.

Rôl oedolion

• Oedolion sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau chwarae’r plant, gan gynnwyschwarae llawn dychymyg.

• Oedolion yn dangos ymddygiad sy’n ymgyrraedd at nod, dyfalbarhad, gwneudcamgymeriadau a dysgu oddi wrthyn nhw.

• Cyfleoedd i blant siarad ag oedolion ar eu pen eu hunain neu mewn grwpiau.

• Dathlu llwyddiant.

• Amgylchedd sy’n cwestiynu a lle rhoddir tasgau datrys problemau penagored i blant.

• Awyrgylch anfeirniadol lle ystyrir ei bod yn iawn i wneud camgymeriadau a dysgu oddiwrthyn nhw.

• Oedolion sy’n cefnogi syniadau plant ac yn defnyddio technegau cwestiynu i annog creusyniadau newydd.

Un o elfennau hanfodol ymarfer effeithiol yn y Cyfnod Sylfaen yw defnyddio’r materion sy’ncodi wrth chwarae’n ddigymell. Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos y mathau o brofiadsy’n gallu rhoi cyfleoedd i ddatblygu dysgu allweddol yn y thema hon.

• Pan fydd model plentyn yn torri, mae hyn yn rhoi cyfle gwych i fynd ar drywydd yteimladau o rwystredigaeth sy’n codi. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i gefnogi dyfalbarhad y plentyn ac annog gwytnwch emosiynol.

• Pan fydd rhywbeth yn tynnu sylw plentyn ac yntau’n gadael llun neu weithgaredd ar eihanner, mae hyn yn rhoi cyfle i annog y plentyn i feddwl am ei nod gwreiddiol a’igysyniad o rywbeth ‘gorffenedig’.

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 18: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

16

Cwestiynau ar gyfer myfyrio ac ymholi

• Beth ydych chi’n ei wneud?

• Sut beth fydd hyn ar ôl i chi orffen?

• Sut byddwch chi’n gwybod pan fyddwch chi wedi gorffen?

• Beth ydych chi’n mynd i’w wneud yn gyntaf? Beth wedyn?

• Beth fydd yn digwydd os ... ?

• Pam mai fel hyn rydych chi’n ei wneud?

• Oes yna rywbeth arall mae angen i chi ei wneud?

• Beth ydych chi’n mynd i’w wneud/dysgu heddiw?

• Ydy hi’n iawn brifo rhywun os ydyn nhw’n eich rhwystro?

Adolygu

Gofynnwch: ‘Beth ydych chi wedi’i wneud heddiw?’ (gan gymell yn ôl y galw.)

Adolygwch weithgareddau arwyddocaol a gofyn a yw’r plant wedi cyflawni eu nodau. (Gyda phlant iau, bydd angen cynnal yr adolygiad ochr yn ochr â’r gweithgaredd er mwyniddyn nhw allu defnyddio hyn wrth fyfyrio.)

Rhowch rywfaint o amser ar gyfer myfyrio tawel ynghylch beth maen nhw wedi’i wneud abeth fydden nhw’n hoffi ei gyflawni yfory.

Gofynnwch: ‘Wnaeth rywun eich helpu i gyflawni eich nod? Beth wnaethon nhw?’ ‘Wnaethoch chi helpu rhywun i gyflawni eu nod? Beth wnaethoch chi?’

Edrychwch eto ar syniad gallwn helpu ein gilydd i gyflawni ein nodau drwy roi anogaeth adweud pethau caredig.

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 19: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

17

Fe gawson nibroblemaucyrraedd y wersaddysg gorfforolmewn pryd. Feysgrifennaissyniadau’r plant ary bwrdd gwyn. Feosodon ni dargedamser. Defnyddionni siart i ddangosein cynnydd.Roedd hyn ynllwyddiant ysgubol.

Mae gen i sawlplentyn yn fynosbarth sydd aganawsterau iaithfelly fe ddefnyddiaisddol i helpu iwneud y stori’n fwy gweledol.

Set Las: Elfen 3 y Cyfnod Sylfaen

Gemau cylch a rowndiau

Gemau cylch

Pasio’r gwasgiad

Dechreuwch y gêm drwy wasgu llaw’r plentyn ar eich ochr dde yn ysgafn. Dylai’rplentyn hwn wneud yr un fath, ac yn y blaen. Dywedwch wrth y plant fod yn rhaidi’r gwasgiad fod yn un ysgafn. Bydd y gwasgiad yn mynd o amgylch y cylch acyn ôl atoch chi. Os byddan nhw’n ei chael yn anodd gwneud hyn a bod ygwasgiad yn aros yn ei unfan, yna gosodwch y nod: ‘Tybed allwn ni basio’rgwasgiad o amgylch y cylch cyfan?’. Os gallan nhw wneud hyn, yna gosodwchdarged amser. Gallan nhw basio’r gwasgiad mewn gwahanol gyfeiriadau ac owahanol bwyntiau cychwyn. Gwnewch hyn dro ar ôl tro nes cyrraedd y nod.

Rowndiau

Gallen ni geisio newid yn gyflymach ar gyfer addysg gorfforol os ...

Gallen ni giwio’n gynt ar gyfer y gwasanaeth os ...

Gallen ni ddod i mewn yn gynt ar ôl amser chwarae os ...

Cyfleoedd dysgu: adnabod fi fy hun

Bwriad y cyfle dysgu hwn yw annog y plant i feddwl am ddysgu, sut mae hyn ynmynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a sut gallan nhw ddefnyddio pob rhan o’ucyrff wrth iddyn nhw ddysgu. Darllenwch y stori ganlynol. Efallai y byddai’r plantyn hoffi actio’r senarios. Ar ddiwedd pob adran gofynnwch i’r plant feddwl bethmae Megan wedi’i ddysgu, a pha ran o’i chorff neu pa rai o’i synhwyrau a fu’n eihelpu i ddysgu.

Deilliant dysgu bwriedig

Dwi’n gwybod ein bod yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol.

Deffrodd Megan. Roedd y penwythnos wedi cyrraedd. Rhoddodd ei throed

allan o’r gwely. Roedd hi’n oer tu mewn ond yn gynnes tu allan. Rhoddodd

ei throed ym mhen draw un ei gwely. Roedd hi’n oer yno. Roedd y rhan

gynhesaf wrth ei hymyl, roedd y rhan gynhesaf wedyn yn eithaf agos ati, ac

roedd y rhan oeraf yn bell i ffwrdd.

Aeth Megan i lawr y grisiau i gael brecwast. Roedd hi’n cael uwd. Roedd gas

gan Megan uwd. Edrychodd ar ei mam. Dechreuodd weiddi, ‘Dydy hyn

ddim yn deg.’ Dechreuodd ei mam edrych yn ddig. Rhoddodd Megan y

gorau i weiddi. Eisteddodd yn dawel. Yna aeth hi draw at ei mam a rhoi ei

braich amdani a dweud, ‘Os gwelwch yn dda, Mam, ga’ i ddarn o dost yn

unig heddiw?’ Gwenodd ei mam, ‘Iawn!’

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 20: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

18

Casglwch syniadau ynghylch yr holl bethau mae’r dosbarth wedi’u dysgu dros yrwythnos yn yr ysgol a gartref.

Gofynnwch y cwestiwn ‘Sut gwnaethon ni ddysgu’r pethau hyn?’. Nodwch einbod yn dysgu mewn pob math o wahanol ffyrdd – er enghraifft, gweld, clywed,cyffwrdd, gwneud.

Dylai plant ddewis un peth yr un maen nhw wedi’i ddysgu a’i ddarlunio er mwyndangos sut yr aethon nhw ati i’w ddysgu. Er enghraifft, ‘Dwi wedi bod yn dysgudarllen. Mi edrychais ar y geiriau a gwrando ar yr hyn roedd fy athro yn eiddweud.’ Gellir dangos hyn gyda llun o lygad a chlust.

Gwnewch arddangosfa gyda’ch gilydd i ddangos rhai o’r pethau mae’r dosbarthwedi’i ddysgu heddiw a pha synhwyrau neu rannau o’r corff a ddefnyddiwyd.

Cyfleoedd dysgu: gosod ein nodau

Defnyddiwch gardiau llun o’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan (er enghraifft,‘penderfynol’) i ddangos ystyr y gair ‘nod’. Cytunwch ar ddiffiniad gyda’r plant.

Gyda’r plant, ewch drwy’r dysgu rydych chi wedi’i gynllunio ar gyfer y diwrnodcyfan. Esboniwch beth maen nhw’n mynd i fod yn ei wneud. Gofynnwch i’r plantosod eu nodau eu hunain ar gyfer y diwrnod.

Y dysgwr gwyrthiol

Sut rydyn ni’n gwybod beth rydyn ni am ei gyflawni? Un ffordd o edrych ar hynyw meddwl am ein breuddwydion neu ein gwyrthiau – y pethau arbennig hynnybydden ni wrth ein boddau yn eu gweld yn digwydd.

Edrychodd Megan drwy’r ffenestr. Roedd hi’n ddiwrnod o hydref. Gwyliodd y

dail yn disgyn o’r coed. ‘Ydy popeth yn disgyn i lawr?’ meddyliodd. Daeth o

hyd i dri pheth a gadael iddyn nhw ddisgyn i’r llawr. Gwyliodd wrth iddyn

nhw ddisgyn i’r llawr fesul un.

Aeth Megan allan i gwrdd â’i ffrind gorau, Tom. Roedd yn sgipio. Roedd

Megan eisiau sgipio fel Tom. Dangosodd iddi beth i’w wneud. Rhoddodd

Megan gynnig arni ond doedd hi ddim yn dda iawn. Gadawodd Tom y rhaff

iddi. Ymdrechodd Megan dro ar ôl tro. Erbyn diwedd y dydd, roedd hi’n

gallu ei wneud.

Daeth taid Megan i ofalu amdani pan aeth ei mam i weithio. ‘Dywedwch

wrtha i am yr hen ddyddiau,’ dywedodd. Roedd Megan wrth ei bodd yn

dysgu am yr adeg pan oedd ei thaid yn fachgen bach.

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gallu dewis nod realistig.

Dwi’n gallu rhannu nod yn gamau bach.

Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth yw rhai o’m cryfderau fel dysgwr.

Dwi’n gallu anwybyddu pethau sy’n tynnu fy sylw.

Yn fy nosbarth fewnaeth y plantarddangosfa i’nhatgoffa o sutrydyn ni’n dysgu.Fe dynnon nhwlinell o gwmpassiâp corff y plentynlleiaf. Fe roddonnhw saeth atlygaid, clustiau, ac yn y blaen arhoi enghreifftiau o sut rydyn ni’ndefnyddio pob uno’r synhwyrau i’nhelpu i ddysgu.

Fe ddefnyddion ni’rdasg o ddysgu iaitharall fel nod. Yn gyntaf,fe siaradon ni am sawliaith gallen ni ei siaradyn y dosbarth, pa morhir mae’n ei gymryd iddysgu iaith, a phabethau a all ein helpuni. Yna fe benderfynonni weld a oedden ni’n gallu dysgu rhywfaint o iaith newydd fel her.Mae chwech o’ndisgyblion (a finnau a fy nghynorthwyyddaddysgu) ynddwyieithog mewngwahanol ieithoedd,felly aethon ni ati iddysgu grwp yr un. Fe wnaeth pob grwpbenderfynu bethroedden nhw eisiau eiddweud yn yr iaithnewydd a chawson ni sesiwn pum munudbob dydd. Ar ddiweddyr wythnos, rhoddoddpob grwp gyflwyniadar yr hyn roedden nhwwedi dysgu ei ddweud.Yr wythnos ganlynol,fe ddechreuon ni hergorfforol (cau carraiesgid, bownsio pêl 20gwaith), fel bodgwahanol blant yn caelcyfle i fod yn athrawon.

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 21: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

19

Esboniwch i’r plant: ‘Dychmygwch fod eich dewines garedig yn dod i chwifio eihudlath pan fyddwch chi’n cysgu yn y nos. Digwyddodd gwyrth ac yn y bore,wrth i chi ddeffro, roeddech chi’n ddysgwr gwyrthiol.’

• Beth fyddwn i (yr ymarferydd) yn ei weld wrth i mi edrych o gwmpas yr ystafellddosbarth?

• Beth fyddwn i’n ei weld a fyddai’n wahanol?

• Beth fyddwn i’n ei glywed a fyddai’n wahanol?

• Sut fyddwn i’n gwybod eich bod chi (y plant) yn ddysgwyr gwyrthiol?

Rhowch ychydig funudau o amser i feddwl, ac yna gofynnwch i’r plant siaradgyda’i gilydd mewn parau am eu nod o fod yn ddysgwr gwyrthiol.

Fel dosbarth, casglwch syniadau am briodoleddau dysgwr gwyrthiol.

Gall y plant wneud rhywbeth i’w helpu i gofio sut mae bod yn ddysgwr gwell. Gallhyn fod yn gerdyn cof a allai fynd ar eu desg neu boster ar gyfer y wal. Gall fod yngerdd neu’n rhigwm hyd yn oed.

Ar ddiwedd bob dydd, dewiswch ddysgwr gwyrthiol gyda’ch gilydd drwy fynddrwy’r priodoleddau a benderfynwyd gennych a gofynnwch i’r plant ddweud pamor dda yr oedden nhw’n bodloni’r meini prawf hyn.

Gallech chi ganolbwyntio ar ddwy neu dair elfen benodol:

Setlo’n gyflym i ddysgu: Gofynnwch i’r plant feddwl am rywbeth a all eu helpu isetlo i ddysgu. Efallai y byddan nhw am osod nod grwp iddyn nhw eu hunain iweld pa mor gyflym gallan nhw setlo. Gallan nhw ddefnyddio amserydd i’w helpu.

Gwrthsefyll pethau sy’n tynnu sylw: Gallech fynd ar drywydd hyn yn fanylachdrwy ofyn am wirfoddolwr i ddangos enghraifft o ymddygiad dysgu da drwygwblhau tasg syml, megis copïo model o friciau lliw neu ymarfer eu llawysgrifen.Mae gweddill y dosbarth yn ceisio tynnu ei sylw ym mha bynnag ffyrdd yr hoffennhw (o fewn rheswm). Mae’r gwirfoddolwr yn ceisio dal ati i ddysgu. Ar ôl dipyn,efallai yr hoffen nhw esbonio rhai o’r strategaethau a ddefnyddiwyd ganddyn nhw igynnal eu sylw. Mae modd ailadrodd hyn gyda gwirfoddolwr arall. Dylai’r dosbarthgeisio gwrthsefyll unrhyw beth sy’n tynnu eu sylw ac adrodd yn ôl ar ddiwedd yrwythnos.

Bod yn annibynnol: Gofynnwch i’r plant gynnig syniadau ynghylch yr holl bethaugallan nhw eu gwneud os ydyn nhw’n cael trafferth gyda’u gwaith. Gallen nhwawgrymu, er enghraifft:

• trafod hyn gyda ffrind neu gyfaill dysgu

• gofyn i rywun esbonio’r dasg yn wahanol

• defnyddio arddangosfeydd ac adnoddau’r ystafell ddosbarth fel matiau geiriau ihelpu

• cofio beth wnaethoch chi y tro diwethaf pan nad oeddech chi’n gwybod bethi’w wneud.

Gallai plant ddefnyddio eu syniadau i wneud posteri neu gardiau ‘Beth i’w wneudpan nad ydych chi’n gwybod beth i’w wneud’ i’w cadw ar eu byrddau.

Gofynnwch i’r disgyblion gwblhau’r daflen adnoddau Her barod i ddysgu (gwelertudalen 23).

Roedd ein posterdysgwr gwyrthiol yn dangos boddysgwr gwyrthiol yn ein dosbarth: yngwrando’n dda, yndal ati pan fyddrhywbeth yn anodd,yn gofyn amgymorth, ac yncanolbwyntio ar ei ddysgu.

Fe wnaeth plentyn,sy’n ei chael ynanodd canolbwyntio,ymateb yn dda iawni gael amseroedd‘targed’ iganolbwyntio arnynnhw yn ei orsafwaith. Defnyddiwydamserydd berwi wya, phob tro, byddaiun neu ddaublentyn yn ceisio ei gael i ‘golli’r bet’drwy siarad â’rplentyn neu geisiotynnu ei sylw. Pan‘enillodd y bet’,cysylltwyd ycyflawniad hwn â’i strwythurgwobrwyo unigol.

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 22: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

20

Pwysleisiwch bwysigrwydd cydweithio’n dda fel grwp, yn arbennig pa mor dda maen nhw’ncymryd tro i siarad, gwrando ar awgrymiadau ei gilydd a siarad am beth maen nhw’n myndi’w wneud. Ar ddiwedd y gweithgaredd, efallai yr hoffech ofyn i’r grwpiau ddefnyddio’rdaflen adnoddau Rhestr wirio ar gyfer hunanadolygu cydweithio o’r Ffeil adnoddau ysgolgyfan er mwyn adolygu’r gweithgaredd.

Cyfleoedd dysgu: dim ond oherwydd ...

Casglwch syniadau gyda’r plant ynghylch rhai o’u cyflawniadau. Er enghraifft, ‘Dwi’n gallumynd ar feic’. Rhestrwch nhw ar y bwrdd gwyn.

Holwch y plant ynghylch sut a pham eu bod wedi llwyddo yn eu cyflawniadau. Awgrymwchrai syniadau tebygol ac annhebygol, er enghraifft:

• Wnaethoch chi ddysgu ysgrifennu stori mor dda oherwydd bod yr haul yn tywynnu?

• Wnaethoch chi ddysgu cyfri fesul dau oherwydd eich bod wedi dal ati i ymarfer?

• Wnaethoch chi ... oherwydd eich bod yn gwisgo siwmper werdd?

• Wnaethoch chi ... oherwydd eich bod wedi gweithio’n galed iawn?

• Wnaethoch chi ... oherwydd bod y ffenestr ar agor?

• Wnaethoch chi ... oherwydd eich bod wedi gwrando’n ofalus ar y cyfarwyddiadau?

Cyfleoedd dysgu: y broses datrys problemau

Cyflwynwch neu edrychwch eto ar y broses datrys problemau, gan ddefnyddio’r poster o’rFfeil adnoddau ysgol gyfan. Canolbwyntiwch ar Gam 2: Barod .... gan ddechrau gyda ‘Sutrydych chi’n teimlo?’ ac yna ‘Sut byddech chi’n hoffi pethau i fod yn wahanol? Gosodwch nod.’

Mewn grwpiau, rhowch broblem i’r plant (gellir defnyddio un o’r rhestr dros y dudalen) agofynnwch iddyn nhw beth fydden nhw’n hoffi i ganlyniad y sefyllfa hon fod (eu nod). Yna,byddan nhw’n actio beth ddigwyddodd wedyn. Pan fyddan nhw wedi cyflawni eu nod,byddan nhw’n ‘rhewi’ er mwyn creu ‘ffrâm llonydd’ neu greu darlun o’r canlyniad terfynol.

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gallu dweud beth dwi am ei weld yn digwydd pan fydd problem yn codi (gosodnod).

Dwi’n gallu meddwl am lawer o wahanol syniadau neu atebion.

Dwi’n gallu rhagweld a deall y canlyniadau a ddaw yn sgîl fy atebion neu syniadau.

Dwi’n gallu dewis nod realistig.

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gallu dysgu yn sgîl fy llwyddiannau.

Dwi’n gallu dweud wrthych chi sut dwi’n dysgu orau.

Dwi’n gallu rhagweld a deall y canlyniadau a ddaw yn sgîl cyrraedd fy nod.

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 23: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

21

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o sefyllfaoedd ‘problem’.

Mae eich ffrind yn mynd â’ch rhwbiwr heb ofyn. Rydych chi eisiau’r rhwbiwryn ôl.

Dydych chi ddim yn gwybod beth i’w wneud nesaf. Mae angen help arnochchi ond mae’r athro yn brysur.

Rydych chi’n llwgu. Mae ffrind wedi gadael ei banana ar y bwrdd ac wedimynd allan o’r ystafell ddosbarth.

Rydych chi’n chwarae gyda’r bêl ac mae rhywun yn mynd â hi oddi arnoch chi.

Mae rhywun yn eich gwthio chi.

Rydych chi eisiau gweithio ond mae’ch ffrind yn siarad gyda chi drwy’r amser.

Rydych chi eisiau gweithio ond rydych chi’n teimlo’n rhy ofidus.

Dydych chi ddim yn gallu cofio sut mae sillafu’r geiriau sydd eu hangenarnoch ar gyfer eich stori.

Ar ôl amser penodol, mae pob grwp yn dweud beth yw’r sefyllfa broblem maennhw wedi bod yn gweithio arni ac yn cyflwyno eu ffrâm llonydd terfynol. Mae’rdisgyblion eraill yn dyfalu beth yw ystyr y ffrâm llonydd. Ar ôl iddyn nhw ddyfalu,gofynnwch i’r grwp beth oedd eu nod.

Holwch y plant a oedd eu nod yr hyn yr oedden nhw wirioneddol ei eisiau. Erenghraifft, yn y sefyllfa broblem gyntaf efallai y byddan nhw wedi cael eu rhwbiwryn ôl, ond os dim ond ei gipio’n ôl wnaethon nhw, efallai eu bod wedi cwerylagyda’u ffrind. Rhaid i chi feddwl ‘y tu hwnt i bethau’ i weld beth allai ddigwydd ynddiweddarach.

Gofynnwch i’r plant roi cynnig arall arni er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn cael ycanlyniad maen nhw wirioneddol ei eisiau.

Yn enghraifft y rhwbiwr, gall hyn ddangos plentyn yn dal y rhwbiwr a’u braich oamgylch y plentyn sydd wedi’i gymryd er mwyn dangos eu bod yn dal yn ffrindiau.

Atgoffwch y plant ynghylch y broses datrys problemau ac esbonio eu bod nhw’nawr yn mynd i edrych ar y darn ar y poster sy’n dweud ‘Beth yw’r holl bethaugwahanol gallwch chi eu gwneud?’.

Rhowch funud i’r plant gofio’r broblem a ystyriwyd ganddyn nhw a nod y ffrâmllonydd a benderfynwyd ganddyn nhw.

Gofynnwch i’r disgyblion beth fyddai angen iddyn nhw ei wneud i gyrraedd eunod. Gofynnwch iddyn nhw weithio yn eu grwpiau i gynnig cynifer o syniadau agsy’n bosib.

Pan na fyddan nhw’n gallu meddwl am ragor o syniadau, bydd y plant yn eurhestru ac yn dewis yr un gorau yn eu barn nhw. Yna byddan nhw’n rhoi rheswmdros eu dewis.

Gallech siarad am ddefnyddio rhan meddwl eich ymennydd pan fyddwch chi’ndewis y peth gorau i’w wneud, a chyferbynnu hyn â bod yn ‘fyrbwyll’, pan nafyddwch chi’n aros a meddwl.

Fe wnaethon ni ofyni blant hyn actio rhaio’r senarios a dalarwydd marccwestiwn mawr drosddarn ‘ffrâmllonydd’, ac fewnaethon ni dynnullun hyn â chamera.Bu grwp o blant aganghenion arbennigyn ‘datrys’ pobsefyllfa, gan weithiogyda’r actorion hyn,a dangos y canlyniad.

Yn ein dosbarth buun o’r genethod ynymladd ar y caechwarae. Cafodd eihanfon ataf i. Feofynnais iddi a oeddhi’n iawn bod ydosbarth cyfan yn eihelpu. Defnyddionni’r broses datrysproblemau i’w helpui feddwl am fforddwell y tro nesaf. Fe ysgrifennodd hihyn ar gyfer einbwrdd dosbarth yn ymwneud agACEDd.

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 24: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

22

Gweithgareddau parhaus

Gofynnwch i’r plant ganolbwyntio ar osod nodau teg pan fyddan nhw’n wynebu problemau,a cheisio meddwl am gynifer o ffyrdd ag sy’n bosib i ddatrys problemau, gan ddefnyddiorhan meddwl yr ymennydd.

Gofynnwch i’r plant edrych ar sefyllfaoedd ar yr iard chwarae neu ar y teledu. Treuliwchychydig bach o amser yn meddwl am y sefyllfaoedd. Beth, yn eu barn nhw, oedd nod yplentyn? Oedd y nod yn deg? A fyddai’r nod wedi gallu bod yn well? Allen nhw feddwl amwahanol ffyrdd o ddatrys y broblem?

Cwestiynau ar gyfer myfyrio ac ymholi

• Sut ydych chi’n gwybod beth sydd ei eisiau arnoch chi?

• Ddylech chi gael eich ffordd eich hun bob amser?

• Pryd ddylech chi ddim cael eich ffordd eich hun?

Adolygu

• Pa nodau a osodwyd gennych chi?

• Sut hwyl gawsoch chi ?

• Welsoch chi unrhyw enghreifftiau o unrhyw un yn ymddwyn yn ‘fyrbwyll’?

• Welsoch chi unrhyw un yn defnyddio rhan meddwl eu hymennydd – meddwl am yr hollbethau gallen nhw eu gwneud a dewis eu syniad gorau?

• Dyma’r pethau dywedon ni bydden ni’n dysgu eu gwneud yn ein gwaith ar y thema hon ... Ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gallu gwneud y pethau hynny nawr?

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 25: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

COFIWCH EICH SGILIAU GRWP

Mae gennych chi 20 munud i gwblhau’r her.

Cofiwch feddwl am sut byddwch yn cydweithio yn ogystal â beth fydd gennych ar y diwedd!

Gwnewch yn siwr eich bod yn siarad gyda’ch gilydd am yr hyn rydych chi’n mynd i’w wneud.

Siaradwch yn eich tro a gwrandewch ar yr hyn sydd gan bobl eraill i’w ddweud.

23

Taflen adnoddau set Las: Elfen 3 y Cyfnod Sylfaen

Her barod i ddysgu

Annwyl Blant

Rydyn ni’n dod o blaned bell i ffwrdd. Rydyn ni’ngreaduriaid newydd sbon ac rydyn ni eisiau dysgu. Rydynni am greu ysgol. Mae angen eich help chi arnon ni.

Dywedodd ein harweinydd Ool, ‘Rhaid i ni beidio âgwastraffu amser! Dim ond y rheini sy’n barod i ddysgu all ddod i’r ysgol.’

Ond dydyn ni ddim wedi cael ysgol o’r blaen a dydyn niddim yn gwybod beth i’w wneud.

Mae’ch athrawes wedi dweud wrthyn ni eich bod yngwybod bob dim am ddysgu.

Mae hi’n dweud byddwch chi’n gallu ateb ein cwestiwn.

Sut gallwch chi ddweud os yw rhywun yn barod i ddysgu?

Helpwch ni os gwelwch yn dda – mae angen i ni wybod er mwyn i ni allu cychwyn ein hysgol cyn gynted â phosib.Hoffen ni allu defnyddio eich ateb gyda’r holl greaduriaid ar ein planed. Bydd yn rhaid i’r ateb fod yn eithaf syml adylai gynnwys rhywbeth gallwn ni ei weld.

Ffrind

O blaned bell i ffwrdd

Gwrando ar eich gilydd

Cyflwyno ir dosbarth

Gweithgareddau

Siarad a chynlluniogydach gilydd

Cadw amser

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 26: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

24

Set Las: Elfen 4 y Cyfnod Sylfaen

Gemau cylch

Mae ‘na gadair ar fy ochr dde

Rhowch gadair ar yr ochr dde i chi a dweud: ‘Mae ‘na gadair ar fy ochr dde ac fehoffwn i (enw plentyn yn y grwp) ddod i eistedd arni.’

Mae’r plentyn a gaiff ei enwi yn symud i’r gadair sbâr, gan adael cadair wag yn ycylch. Yna, mae’r plentyn ar ochr chwith y gadair hon yn dweud, ‘Mae ‘na gadairar fy ochr dde ac fe hoffwn i (enw plentyn yn y grwp) ddod i eistedd arni’ ac yn yblaen.

Ar ddiwedd y gêm, gallech chi ofyn i’r rheini a eisteddodd yn y gadair sut deimladoedd cael eich dewis.

Cyfle dysgu: gwybod sut rydw i’n dysgu orau

Penderfynwch ar dasg dysgu. Gall y dasg hon fod yn un rydych chi wedi’i chreu’narbennig ar gyfer y gweithgaredd hwn neu’n un sy’n rhan o faes cwricwlwm arall.

Rydych chi’n mynd i roi tair gwahanol ffordd o ddysgu’r sgìl. Gallech chi osod yrhain mewn gwahanol ardaloedd o’r ystafell ddosbarth a gofyn i’r plant symud o’rnaill weithgaredd i’r llall. Dyma’r tair ffordd o ddysgu:

• gweld – bydd hyn ar ffurf arddangosiad

• clywed – bydd hyn ar ffurf cyfarwyddiadau llafar

• gwneud – bydd hyn ar ffurf profi a methu.

Gallech chi ddefnyddio’r taflenni adnoddau Origami (gweler tudalennau 30–32)neu defnyddiwch sgìl sy’n seiliedig ar y cwricwlwm os yw’n well gennych chiwneud hynny.

Os byddwch chi’n defnyddio’r taflenni adnoddau, bydd angen i chi osod y canlynol:

• un ardal lle caiff plant enghraifft orffenedig a phapur, a gofynnir iddyn nhwddatrys sut mae gwneud y model eu hunain

• un ardal o’r ystafell ddosbarth lle rydych chi’n rhoi cyfarwyddiadau llafar i’rplant ynghylch sut mae gwneud model origami arall

• un ardal o’r ystafell ddosbarth lle bydd cynorthwyydd addysgu, cymhorthyddystafell ddosbarth neu blentyn hyn yn dangos sut mae gwneud model arall.

Dylai pob plentyn gael profi’r tair ffordd o ddysgu. Pan fyddan nhw wedi gorffen,gofynnwch i’r plant ddweud pa ffordd oedden nhw’n ei hoffi orau ac iddyn nhwfynd i’r ardal honno o’r ystafell ddosbarth.

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gallu dweud wrthych chi sut dwi’n dysgu orau.

Dwi’n gallu dysgu yn sgîl fy llwyddiannau.

Yn ein hysgol, maegennyn ni ddiwrnod‘dysgu sut maedysgu’ ac rydynni’n ceisio gosodgweithgareddausy’n defnyddiocynifer â phosib o wahanol ffyrdd o ddysgu.

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 27: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

25

Gofynnwch i’r plant fyfyrio ynghylch sut roedden nhw’n dysgu yn y gwahanolardaloedd. Efallai y bydd y cwestiynau hyn yn helpu’r drafodaeth.

• Beth oedd yn arbennig am ddysgu yn yr ardal hon?

• Sut roeddech chi’n dysgu yn yr ardal hon? (Ceisiwch eu hannog i feddwl am y synhwyrau maen nhw wedi’u defnyddio.)

• Beth oedd yn eich helpu chi i ddysgu?

• Beth oedd yn eich atal chi rhag dysgu?

• Beth fyddai wedi helpu i wneud y dysgu’n haws?

Mae’r plant yn esbonio yn eu tro pryd a sut maen nhw’n dysgu orau. Efallai yrhoffen nhw gofnodi hyn yn eu cofnod dysgu os oes gennyn nhw un.

Ceisiwch annog y plant i fyfyrio hefyd dros y syniad mai defnyddio amrywiaeth oarddulliau dysgu yw’r ffordd orau yn aml iawn. Maen nhw’n debygol o fod wedidweud wrthych chi byddai cyfuniad o eiriau, arddangosiadau a phrofi a methuwedi bod yn ddelfrydol, mewn gwirionedd, ar gyfer dysgu sut mae gwneud ymodelau origami. Ar gyfer tasgau eraill, efallai y bydd un arddull benodol yngweithio orau. Dyna pam ei bod yn bwysig i ni fod yn ymwybodol o’n hoffarddulliau dysgu a sicrhau hefyd ein bod yn gallu defnyddio amrywiaeth ohonynnhw ac nid dim ond un.

Cyfleoedd dysgu: fesul cam mae concro mynydd

Gofynnwch i’r plant grynhoi eu gwybodaeth am ‘nodau’ mewn grwp bach. Dylennhw ddewis sut mae cyflwyno eu gwybodaeth, er enghraifft drwy:

• siarad

• tynnu llun

• defnyddio diagramau gwe pry cop.

Gofynnwch am adborth. Ceisiwch ennyn y pwyntiau canlynol.

Mae nodau’n rhywbeth mae arnon ni ei eisiau fel arfer a bydd yn rhaid i niweithio i’w cael.

Gallwn ni gael nodau tymor hir neu dymor byr.

Mae pob un ohonon ni wedi cyflawni llawer o nodau erbyn diwedd y CyfnodSylfaen.

Mae cyflawni nodau yn ymwneud mwy â’r hyn rydyn ni’n ei wneud a sut rydynni’n ei wneud na ffactorau allanol megis y tywydd, lwc ac ati.

Mae gosod nod yn rhan bwysig o’r broses datrys problem (gwybod sut rydynni am weld pethau yn y pen draw). Mae’n rhaid i ni feddwl am ein nodpresennol a’r hyn mae ei angen arnon ni yn y tymor hir.

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gallu dweud beth dwi am ei weld yn digwydd pan fydd problem yncodi (gosod nod).

Dwi’n gallu rhannu nod yn gamau bach.

Dwi’n gallu dewis nod realistig.

Fe ddefnyddion nigardiau awnaethpwyd argyfer gweithgareddcynharach er mwyn atgoffa’rplant o’r ffactorausy’n gwneudgwahaniaeth addim yn gwneudgwahaniaeth i’ncanlyniadau.

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 28: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

26

Elen a Rehana: Rhan 1

Canolbwyntiwch ar gynllunio er mwyn cyflawni nod. Ar gyfer y gweithgaredd hwnbydd angen i’r plant wrando ar stori Elen a Rehana o’r taflenni adnoddau (gwelertudalen 33).

Darllenwch Ran 1 o’r stori i’r plant a gofyn: ‘Beth, yn eich barn chi, roedd tadRehana yn ceisio ei ddweud pan ddywedodd mai fesul cam y mae concro mynydd?’.

‘Sut byddai hynny’n helpu Elen a Rehana i gyflawni’u nod?’.

Gan weithio mewn parau neu grwpiau o dri, esboniwch mai tasg y plant yw helpuElen a Rehana i lunio cynllun er mwyn cyflawni’u nod. Gall trafod y math o bethaugall fod eu hangen arnyn nhw helpu’r plant i roi trefn ar eu syniadau. Gallai’rgrwpiau weithio ym mha bynnag ffordd yr hoffen nhw (rhestru syniadau a gynigir,tynnu llun diagramau gwe pry cop ac ati) a gellir rhoi’r daflen adnoddau Ysgol(gweler tudalen 34) iddyn nhw neu rywbeth tebyg er mwyn gweld trefn y camaugall Elen a Rehana eu cymryd er mwyn cyflawni’u nod.

Gall enghreifftiau o’r broses gynllunio gynnwys y canlynol – darganfod sut maemynd i’r parc thema, faint o’r gloch mae’r bws neu’r trên yn mynd, faint o’r glochmae’r parc yn agor, pryd gall eu rhieni fynd â nhw ac ati. Efallai yr hoffen nhwgynllunio pa reidiau i fynd arnyn nhw hefyd. Yn bwysig iawn, bydd yn rhaid iddynnhw gynllunio hefyd i ennill yr arian i fynd yno, ar ôl iddyn nhw gael gwybod faintmae’n ei gostio.

Pan fydd y plant wedi gwneud hyn, rhennir gwaith y grwpiau a chytunir ar gynlluncyffredinol. Bydd y cynllun yn nodi’r is-gamau angenrheidiol i gyflawni’r nodcyffredinol.

Cyfleoedd dysgu: dyfalbarhad

Elen a Rehana: Rhan 2

Darllenwch Ran 2 o’r stori i’r plant. Trafodwch sut roedd Elen a Rehana yn teimlo.Siaradwch am y geiriau teimladau ‘wedi diflasu’, ‘rhwystredig’, ‘croendenau’ ageiriau eraill mae’r plant yn ei gynnig.

Pwysleisiwch bwysigrwydd cydweithio’n dda fel grwp, yn arbennig pa mordda mae’r plant yn sicrhau bod pawb yn cyfrannu, yn dyrannu tasgau, ynystyried ffyrdd eraill ac yn dod i gytundeb. Ar ddiwedd y gweithgaredd,efallai yr hoffech ofyn i’r grwpiau ddefnyddio Rhestr wirio ar gyferhunanadolygu cydweithio o’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan, er mwynadolygu’r gweithgaredd.

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gallu gweld pan fydda i’n dechrau diflasu neu deimlo’n rhwystredig.

Dwi’n gwybod am rai ffyrdd o oresgyn diflastod a rhwystredigaeth.

Gan fod plentyn ynfy nosbarth sydd ânam ar y golwg yncael trafferth gyda’rcysyniad ynghylchmaint, fe adeiladonni ‘fynydd’ enfawr ofriciau a gofyn iddisut fyddai hi’nceisio cael yr hollfriciau’n ôl yndaclus yn y drôr.Dangosodd hi drwyeu cadw fesul un.

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 29: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

27

Defnyddiwch y cardiau llun ‘rhwystredig’ ac ‘wedi diflasu’ a’r Poster ditectifteimladau o’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan i edrych ar y teimladau hyn. Ceisiwchannog y plant i ystyried sut olwg sydd ar bobl pan fyddan nhw’n rhwystredig neuwedi diflasu, a sut bydden nhw’n adnabod y teimladau hyn ynddyn nhw’u hunainneu ar bobl eraill. Trafodwch sut mae’n hanfodol gallu rheoli rhwystredigaeth osydyn ni am lwyddo i gyrraedd ein nodau.

Yn eu grwpiau, gofynnwch i’r plant benderfynu ar sut byddai stori Elen a Rehanayn gorffen. Fyddai Elen a Rehana yn cael yr arian? Sut bydden nhw’n gallu euhannog eu hunain i ddal ati? Beth allai fod o gymorth? (Atgoffwch y plant amstori’r gwasanaeth.)

Gellid gofyn i’r plant actio diwedd y stori, gan gynnwys sut gwnaeth Elen aRehana ddatrys eu rhwystredigaeth.

Gallai plant weithio mewn grwpiau i ystyried sut gallen nhw orchfygu diflastod(‘dinistrio diflastod’) a rhwystredigaeth (‘rhwystro rhwystredigaeth’) a chreu rhestro syniadau’r dosbarth. Dylid eu hatgoffa o’r gwaith maen nhw wedi’i wneud arsut i ymdawelu a’r poster maen nhw wedi’i wneud yn gynharach yn y flwyddyn.Ymdawelu yw un o’r strategaethau gallen nhw ei defnyddio pan fyddan nhw’ndechrau teimlo’n rhwystredig.

Gellid rhoi stribedi o bapur i’r plant a gofyn iddyn nhw wneud cynifer o gadwynipapur ag y gallen nhw yn eu grwp mewn amser penodol. Gellid rhoi gwobr fachi’r grwp sydd (a) wedi gwneud y nifer fwyaf o gadwyni/cadwyni hiraf a/neu (b) ygrwp sydd wedi cydweithio mwyaf. (Neu, gallen nhw wneud y modelau origamio’r gweithgaredd cynharach.)

Gellid defnyddio’r profiad hwn wedyn i drafod teimladau a chyflwyno’r prif syniadauynghylch ‘dyfalbarhau’ a ‘gorchfygu rhwystredigaeth’. Gofynnwch i’r plant:

• Wnaethoch chi ddal ati pan oeddech chi wedi diflasu neu am roi’r gorau iddi?

• Beth wnaeth eich helpu? (Er enghraifft: pethau gwnaethon nhw feddwlamdanyn nhw a phethau yr oedd eraill wedi’u gwneud neu eu dweud.)

• Sut oeddech chi’n teimlo pan roeddech chi’n dechrau diflasu? (Gellir cysylltuhyn â gwaith blaenorol gall fod y plant wedi’i wneud ar oresgyn ymddygiadbyrbwyll.)

Gall rhai o’r strategaethau a awgrymir gan y plant gynnwys, er enghraifft:

• cadw’r nod mewn cof – gweld y darlun cyflawn

• dweud pethau calonogol i chi’ch hun (cysylltu â stori’r gwasanaeth)

• dychmygu’r canlyniad yn y diwedd

• gosod nod i chi’ch hun am gwblhau’r dasg

• gosod her amser i chi’ch hun

• rhannu’r dasg yn gamau a gosod amserlen ar gyfer pob darn

• rhannu’r dasg yn gamau ac addo gwobr i chi’ch hun am orffen pob darn o’r dasg

• cael hoe, gwneud rhywbeth cwbl wahanol, oedi tan y diwrnod wedyn,cerdded o gwmpas

• gofyn i eraill am gymorth

• trafod beth rydych chi’n ei wneud

• cael adborth gan eraill.

Yn ein hystafellddosbarth, cafodd yplant syniad o osodarosfan RhwystroRhwystredigaeth ynyr ystafell ddosbarth.Dyma le iddyn nhwfynd i gael ail wyntpan roedden nhw’nteimlo’n rhwystrediggyda’u gwaith.Roedd posterymdawelu ar y wal,ychydig o ymarferionsyml, posau atheganau meddal.

Roedd mam un o’rplant yn ymarfer argyfer rhedegmarathon Llundain.Dywedodd hiwrthyn ni am ei nodo redeg 26 milltir ar gyfer elusen. Bu’r plant yn ei holi.

Fe ddefnyddion nihyn i dynnu sylw aty ffaith bod ganbob un ohonon niwahanol ddoniau athalentau a sutroedd un plentynawtistig ynanhygoel o wycham ddal ati yn ygweithgaredd hwn(roedd hi wrth eibodd yn glynu abyddai wedi boddigon hapus i ddalati drwy’r dydd).

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 30: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

28

Gall plant wneud posteri, arddangosfa neu lyfr dosbarth yn cynnwys yr hollbethau gallwn ni ei wneud i orchfygu rhwystredigaeth a helpu ein hunain i ddal atipan fydd pethau’n anodd. Gallen nhw rannu hyn gyda dosbarthiadau eraill a gydaphobl gartref. Gellid ychwanegu at yr arddangosfa/llyfr pan fyddai plant yn gweld,darllen neu’n meddwl am ffordd newydd o ddelio â rhwystredigaeth neu o ddal atigyda thasg.

Cyfle dysgu: rhoi’r cyfan at ei gilydd

Mynd amdani!

Gofynnwch i’r plant weithio mewn parau i gynnig nod byddai’r ddau ohonynnhw’n hoffi ei gyflawni yn y dyddiau nesaf (nodwch y cyfnod amser). Rhaid i’rddau ohonyn nhw fod â diddordeb yn y nod a rhaid iddo adeiladu ar rywbethmaen nhw’n gallu ei wneud yn barod (megis amseroedd rhedeg, record gyfredolar gyfer sgipio neu droi cylch hwla, jyglo, poi-poi, sglefrfyrddio, sglefrolio, sgôrgêm gyfrifiadur).

Dylai pob plentyn ddweud beth yw eu nod, nodi eu perfformiad ar hyn o bryd acenw’r cyfaill. Dylai ddweud sut caiff y nod ei gyflawni (mewn o leiaf ddau gam) aphwy all helpu gyda hyn. Gallech wneud ffurflen i’r plant ei defnyddio, gydalleoedd gwag ar gyfer enw’r cyfaill, o leiaf dau gam a gwerthusiad.

Dylid gwerthuso ar ddiwedd cyfnod penodol a dylai gynnwys cwestiynau megis:

• Wnaethoch chi gadw at eich cynllun? Os na, pam ddim?

• Beth oedd o gymorth i chi – yn benodol, beth wnaeth eich cyfaill a oedd ogymorth i chi?

• Os gwnaethoch chi gyflawni’ch nod, sut roeddech chi’n teimlo?

• Os na wnaethoch chi gyflawni’ch nod, beth rwystrodd chi? Beth allwch chi eiwneud?

• Oedd rhaid i chi newid eich cynllun wrth i chi fynd yn eich blaenau? Os oedd,sut a pham wnaethoch chi hyn?

• Sut allech chi wella’ch cynllun?

Deilliannau dysgu bwriedig

Dwi’n gallu dewis nod realistig.

Dwi’n gallu rhannu nod yn gamau bach.

Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth dwi wedi’i ddysgu.

Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn wahanol ermwyn dysgu’n fwy effeithiol.

Dwi’n gallu dweud wrthych chi pam mae pethau wedi llwyddo.

Roedd ein hysgolyn casglu arian ibrynu ffynnon argyfer pentref ymMozambique.Penderfynodd eindosbarth gynnalamrywiaeth oddigwyddiadaunoddedig. Feroddon ni fwrdd ary wal. Roedd llunffordd arno ac arddiwedd y fforddroedd llun o’ntarged – ffynnonmewn pentref ynAffrica. Fe wnaethonni liwio’n ffordd iddangos faint oarian roedden niwedi’i godi.

Roedd rhaid i nihelpu’r plant inewid eu cynllungan eu bod ynmeddwl bod ynrhaid iddyn nhwlynu ato bethbynnag oedd yndigwydd. Roeddrhai o’u cynlluniau iweld yn iawn ar ydechrau, onddaethon ni i weldeu bod yn rhyanodd.

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 31: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

29

Gweithgareddau parhaus

Gellir annog plant i fod yn rhan o gynllunio teithiau, gwibdeithiau neu ddigwyddiadau codiarian, i ymarfer y sgiliau o rannu nod yn nifer o dasgau llai ac ailfeddwl cynlluniau pan fyddangen gwneud hynny.

Gallech chi osod amcanion dysgu ar draws y cwricwlwm sy’n rhoi cyfle i blant ddysgumewn gwahanol ffyrdd drwy weld, clywed a gwneud. Ceisiwch annog trafodaeth am baffyrdd sy’n gweithio orau ar gyfer gwahanol dasgau a gwahanol ddysgwyr.

Cwestiynau ar gyfer myfyrio ac ymholi

• Nodau pwy sydd bwysicaf, rhai chi neu rai eich ffrind?

• Nodau pwy sydd bwysicaf, rhai plentyn neu rai oedolyn?

• Nodau pwy sydd bwysicaf, rhai eich ffrind neu rai rhywun nad ydych chi’n ei adnabod yndda iawn?

Adolygu

• Beth wnaethoch chi ei ddysgu am sut mae dal ati pan fyddwch chi wedi diflasu?

• Ydy cadw at eich cynllun yn hawdd?

• Pan fydd gennych chi dasg anodd neu ddiflas, beth wnewch chi?

• Dyma’r pethau dywedon ni bydden ni’n dysgu eu gwneud yn ein gwaith ar y thema hon ... Ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gallu gwneud y pethau hynny nawr?

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 32: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

30

Taflen adnoddau set Las: Elfen 4 y Cyfnod Sylfaen

Origami

Gwneud het

Cymerwch sgwâr o bapur Plygwch y papur yn Plygwch y gornel chwith siâp triong i fyny at y brig

Plygwch y gornel dde Plygwch y gornel dde i lawr Plygwch y gornel chwith at y brig i lawr

Trowch y model drosodd a Plygwch y gornel dde Plygwch y gornel waelod chymerwch y gornel chwith am allan i fyny – i bwynt dri ffordd

a’i blygu am allan chwarter o’r brig

Plygwch yr ymyl i fyny Trowch y model drosodd Plygwch y gornel waelod i fyny

Trowch y model drosodd Eich het

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 33: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Taflen adnoddau set Las: Elfen 4 y Cyfnod Sylfaen

Origami

Gwneud gêm syml

31

Cymerwch ddarn sgwâr Plygwch y darn yn ei Plygwch y papur yn o bapur hanner – o’r gwaelod i fyny – ei hanner o’r chwith i’r dde

agorwch y papur allan

Agorwch y papur allan – Plygwch y gornel dde Plygwch y gornel chwith mae hyn yn eich helpu waelod at y canol waelod at y canol i ddod i hyd i’r canol

Plygwch y ddwy gornel Trowch y papur o gwmpas Trowch y gornel ddearall at y canol a throsodd. Trowch y gornel at y canol

waelod i fyny at y canol

Trowch y gornel chwith Trowch y gornel uchaf Plygwch y model yn at y canol i lawr at y canol ei hanner

Rhowch eich bysedd dan y fflapiau a’i agor allan

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 34: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Taflen adnoddau set Las: Elfen 4 y Cyfnod Sylfaen

Origami

Gwneud cwpan syml

32

Cymerwch ddarn sgwâr Plygwch y papur yn Plygwch un ochr i lawr o bapur siâp triongl

Plygwch yn ôl fel eich bod Plygwch y gornel chwith Plygwch y gornel dde yn gallu gweld y llinell blygu at yr ymyl dde fel bod y drosodd

pwynt ar y man lle mae’r llinellblygu yn torri’r ochr dde

Plygwch y gornel uchaf Trowch y model drosodd a Agorwch eich cwpan i lawr phlygu’r gornel uchaf i lawr

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Page 35: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

33

Taflen adnoddau set Las: Elfen 4 y Cyfnod Sylfaen

Elen a Rehana

Rhan 1

Roedd Elen a Rehana yn ffrindiau gorau. Fe benderfynon nhw un flwyddyn mai’r hyn roeddennhw ei eisiau mwy na dim byd arall oedd teithio i barc thema yn ystod gwyliau hir yr haf.

Dywedodd eu rhieni wrthyn nhw fod hyn yn llawer rhy ddrud. Ond daliodd y plant i swnian,fel mae plant yn ei wneud weithiau pan fyddan nhw wirioneddol eisiau rhywbeth. Yn ydiwedd, dywedodd mam Rehana (dim ond er mwyn ei chadw’n dawel, dwi’n meddwl),‘Wel, os ydych chi wirioneddol eisiau mynd, bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i’r arian athrefnu popeth, ac yna fe wnawn ni feddwl am hyn eto’.

Rhuthrodd Rehana i’r ysgol y diwrnod canlynol a dweud y newyddion da wrth Elen. ‘Ondsut gawn ni’r arian?’ gofynnodd Elen. ‘A sut ar y ddaear gwnawn ni drefnu rhywbeth felhyn?’

‘Mae’n hawdd’, dywedodd Rehana, a oedd wedi clywed ei thad yn ei ddweud droeon.‘Mae’n debyg i goncro mynydd – rydych chi’n gwneud hyn fesul cam!’

Rhan 2

Roedd cynllun Rehana ac Elen yn mynd yn dda iawn – roedden nhw wedi dod o hyd ilawer o wybodaeth ac wedi trefnu pryd a sut i gyrraedd y parc thema (wedi gwneud ynsiwr, hyd yn oed, nad oedd eu rhieni yn brysur ar y diwrnod roedden nhw’n bwriadu mynd).Codi’r arian oedd yr anhawster – roedd y ddwy ohonyn nhw’n rhy ifanc i gael swydd iawn.

Doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w wneud, ac roedden nhw’n dechrau meddwl nafydden nhw’n cyrraedd yno wedi’r cyfan pan ofynnodd Ieuan, brawd mawr Elen iddyn nhw a fydden nhw’n hoffi ei helpu i wneud cadwyni papur ar gyfer dathliadau Blwyddyn Newyddy Tsieineaid – dywedodd byddai’n eu talu pe bydden nhw’n gorffen y bocs o stribedi papurerbyn diwedd yr wythnos. Wrth gwrs, roedden nhw wrth eu bodd a buon nhw’n meddwl ynhapus am yr arian bydden nhw’n ei wneud ... o’r diwedd roedd eu breuddwyd am ddod yn wir.

Fe ddechreuon nhw ar y dasg mewn hwyliau da y noson ganlynol, wrth iddyn nhw eisteddgydag Ieuan i ddechrau ar eu gwaith pwysig. Ond wrth i amser fynd yn ei flaen, doedd ydasg ddim mor hawdd ag y swniai. Ni waeth faint o gadwyni papur roedden nhw’n eiwneud na pha mor hir oedd pob un, doedden nhw fawr agosach at ddefnyddio’r hollstribedi papur.

Ar ôl tair noson fe ddechreuon nhw gweryla. ‘Elen – ti’n mynd yn araf yn fwriadol’; ‘Rehana – ti’n torri fy rhai i drwy’r amser pan rwyt ti’n rhoi dy rai di ar eu pennau’. Roedd eu bysedd yn brifo, roedden nhw wedi cael llond bol ac yn teimlo’n rhwystredig.Roedd y ddwy’n teimlo fel rhoi’r ffidil yn y to – a fydden nhw byth yn cael yr arian roedd ei angen arnyn nhw er mwyn gwireddu eu breuddwyd?

© Hawlfraint y Goron 2010 Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen

1346-2010-CYMRU

Page 36: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

34

Mynd amdani! Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010

1346-2010-CYMRU

Taflen adnoddau set Las: Elfen 4 y Cyfnod Sylfaen

Ysgol

Page 37: Cynradd Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ...sealcommunity.org/files/resources/Theme 4 - EYFP - Blue...ddysgu. Dwi’n gallu dweud wrthych chi beth fyddwn i’n ei wneud yn

Gallwch lawrlwytho’r cyhoeddiad hwn a chaelmwy o wybodaeth yn: www.cymru.gov.uk/addysgasgiliau

Dylech ddyfynnu’r cyfeirnod hwn:1346-2010-CYMRU

© Hawlfraint y Goron 2010

Gellir atgynhyrchu darnau o’r ddogfen hon at ddibenion sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant neu ymchwil anfasnachol, cyhydâ bod y ffynhonnell yn cael ei chydnabod ynhawlfraint y Goron, bod teitl y cyhoeddiad yn cael ei nodi, bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael eiddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydda warchodir gan hawlfraint y Goron ynymestyn i unrhyw ddeunydd yn ycyhoeddiad hwn y nodir ei fod ynhawlfraint trydydd parti.

Ar gyfer unrhyw ddefnydd arall, cysylltwch â[email protected]/click-use/index.htm

Seiliwyd y deunyddiau hyn ar y deunyddiau Primary: Social and emotional aspects of learninga ddatblygwyd yn wreiddiol gan Yr Adran Addysg a Sgiliau yn Lloegr. Addaswyd a chyfieithwyd y deunyddiau hyn i’w defnyddio yng Nghymru gan Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliaugyda chaniatâd Yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoeddyn Lloegr.

Tîm Ennyn Diddordeb DisgyblionAPADGOSLlywodraeth Cynulliad CymruParc CathaysCaerdyddCF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 1556Ffacs: 029 2080 1044e-bost: [email protected]