2
Doedd 2020 ddim yn flwyddyn i’r un ohonom ei disgwyl, ac mae’r dyfodol yn ymddangos yn ansicr iawn ar hyn o bryd. I lawer, fe ddaeth y pandemig ar ben argyfwng presennol newid hinsawdd. Ond mae 2021 yn rhoi cyfle inni fynd i’r afael â’r heriau hynny gyda’n gilydd. Gallwch helpu trwy lenwi’r flwyddyn gyda gweddi. Gweddi fydd yn ein trawsnewid ni a’n gweithredoedd, siapio ein deall, a’n helpu i gychwyn o’r newydd. Gweddi rydd egni pwysig inni ar gyfer y daith. Gan uno gyda phobl eraill o amgylch y byd, plygwn ein pen a chodwn ein llais i adeiladu byd gwell. Ym mis Tachwedd, bydd Llywodraeth y DG yn cynnal cynhadledd ar newid hinsawdd gyda’r Cenhedloedd Unedig. Yn y cyfnod cyn hyn, mae angen inni lenwi pob munud o bob dydd gyda gweddi dros fyd ble gall pawb ffynnu ac y gall y greadigaeth anadlu’n rhydd unwaith eto. Daliwch ati i weddïo Blwyddyn o weddi dros gyfiawnder hinsawdd Sut allai gymryd rhan? Cofrestrwch eich bwriad fel unigolyn i weddïo am gyfnod. • Cofrestrwch eich cymuned eglwysig i weddïo am ddiwrnod neu hanner diwrnod, a chychwynnwch drefnu digwyddiad gweddi a gweithred. caid.org.uk/prayerchain STOP Gyda’n gilydd rhown ar yr argyfwng hinsawdd hwn

Daliwch ati i weddïo - prod.christianaid.org.uk

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Daliwch ati i weddïo - prod.christianaid.org.uk

Doedd 2020 ddim yn flwyddyn i’r un ohonom ei disgwyl, ac mae’r dyfodol yn ymddangos yn ansicr iawn ar hyn o bryd. I lawer, fe ddaeth y pandemig ar ben argyfwng presennol newid hinsawdd. Ond mae 2021 yn rhoi cyfle inni fynd i’r afael â’r heriau hynny gyda’n gilydd. Gallwch helpu trwy lenwi’r flwyddyn gyda gweddi.

Gweddi fydd yn ein trawsnewid ni a’n gweithredoedd, siapio ein deall, a’n helpu i gychwyn o’r newydd. Gweddi rydd egni pwysig inni ar gyfer y daith. Gan uno gyda phobl eraill o amgylch y byd, plygwn ein pen a chodwn ein llais i adeiladu byd gwell.

Ym mis Tachwedd, bydd Llywodraeth y DG yn cynnal cynhadledd ar newid hinsawdd gyda’r Cenhedloedd Unedig. Yn y cyfnod cyn hyn, mae angen inni lenwi pob munud o bob dydd gyda gweddi dros fyd ble gall pawb ffynnu ac y gall y greadigaeth anadlu’n rhydd unwaith eto.

Daliwch ati i weddïoBlwyddyn o weddi dros gyfiawnder hinsawdd

Sut allai gymryd rhan?• Cofrestrwch eich bwriad fel unigolyn i weddïo am gyfnod.

• Cofrestrwch eich cymuned eglwysig i weddïo am ddiwrnod neu hanner diwrnod, a chychwynnwch drefnu digwyddiad gweddi a gweithred.

caid.org.uk/prayerchain

STOPGyda’n gilydd rhownar yr argyfwng hinsawdd hwn

Page 2: Daliwch ati i weddïo - prod.christianaid.org.uk

Mae 2021 yn allweddol Mae tlodion y byd wedi bod yn byw gydag effeithiau’r argyfwng hinsawdd am amser hir. Caiff teuluoedd eu rhwygo gan drychinebau, cnydau eu difetha gan sychder a thai eu colli i foroedd sy’n codi. I nifer o’n ffrindiau a’n cymdogion o amgylch y byd, mae oblygiadau diffyg gweithredu’n ddifrifol.

Mae’r flwyddyn hon yn gyfle brys. Wedi eu sbarduno gan weithredoedd ein ffrindiau ar linell blaen yr hinsawdd sy’n newid a chenhedlaeth o streicwyr ysgol, mae pobl o’r diwedd yn deffro i ddifrifoldeb y sefyllfa. Gallwn ymladd yn erbyn yr ymddatod oherwydd yr hinsawdd a gwneud hynny mewn ffordd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac adfer y greadigaeth.

Ond allwn ni ond gwneud hyn os byddwn yn mynd ati ar unwaith ac yn adeiladu mudiad i gynnal y gwaith.

Eleni, bydd arweinwyr yn gwneud penderfyniadau i ymateb i effeithiau’r pandemig, ac a allai ein gosod ar lwybr i fyd gwell a mwy diogel. Yn Nhachwedd, bydd Llywodraeth y DG yn cynnal cynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26. Bydd sylw mawr yn cael ei roi ar y Llywodraeth a bydd hithau am ddangos ei bod yn cynnig arweiniad. Rhaid inni sicrhau fod ein harweinwyr yn gwneud y penderfyniadau cywir.

Dowch inni gefnogi’r flwyddyn gyda gweddi a sicrhau fod cyfiawnder hinsawdd yn dod yn realiti.

caid.org.uk/prayerchain

Mae Cymorth Cristnogol yn aelod allweddol o ACT Alliance. Rhif elusen Cymru a Lloegr 1105851 Rhif cwmni DG 5171525. Argraffwyd yn llwyr ar ddeunydd wedi tarddu o fforestydd a reolir yn gyfrifol. Nodau masnachu Cymorth Cristnogol yw’r enw Cymorth Cristnogol a’r logo. © Cymorth Cristnogol Tachwedd 2020. Llun: Cymorth Cristnogol/ Tom Pilston

STOPGyda’n gilydd rhownar yr argyfwng hinsawdd hwn