Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Dod â gefeillio’n fyw!
Mae dinasoedd Caerdydd a Nantes (Naoned) wedi gefeillio ers 1964Mae ganddynt lawer yn gyffredin gan gynnwys castell a neuadd y ddinas yng nghanol y ddinas, hanes morwrol, a chanolfan siopa lewyrchus gydag arcedau
prydferth a theatr ysblennydd.
Cymerwch ran yn y cyfnewid rhwng Caerdydd a Naoned! Ymunwch â grŵp o bobl sydd â diddordeb mewn dysgu ieithoedd ei gilydd a chreu
cysylltiadau rhwng y ddwy ddinas.
Dyma gyfle i ymdrwytho yn yr iaith Ffrangeg p’un a ydych yn rhugl ai peidio!
Sut mae’n gweithio:9th Mai – 16th Mai 2020
Byddwch yn croesawu un (neu ddau) ymwelydd o’r grŵp o Naoned. Mae’n golygu cynnig llety a chyfle i’ch gwestai wella ei Saesneg.
(Trefnir rhaglen o ymweliadau).
6th Mehefin – 13th Mehefin 2020Fel dilyniant i hyn gallwch dreulio wythnos yn teithio i Naoned fel rhan o grŵp ac aros
mewn cartref yn Naoned, siarad yr iaith, mwynhau’r bwyd, a phrofi’r diwylliant Ffrengig ac ymweld â llefydd o ddiddordeb.
Cyfle i wella eich Ffrangeg llafar mewn wythnos!Wythnos yn Ffrainc am tua £425
I gael rhagor o wybodaeth:www.cardiff-nantes.org
E-bost: [email protected] neu ffoniwch: Angela Tebboth 029 2056 7583
Jenny Frost 029 2075 2851Shirley Parsons 01656 861652
Judi Wilkins 029 2049 9194Carolyn Evans 029 2077 7229