20
EICH STORI, EIN HANES Straeon ysbrydoledig ar gyfer ysgolion cynradd sy’n archwilio. Prydeinwyr du dylanwadol sydd wedi effeithio ar gyfreithiau a hawliau cyfartal y DU. learning.parliament.uk

EICH STORI, EIN HANES · 2020. 9. 30. · Adroddwch eich stori eich hun Gall myfyrwyr ddefnyddio’r templedi “Adroddwch eich stori eich hun” i greu eu portreadau a’u straeon

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • EICH STORI, EIN HANES

    Straeon ysbrydoledig ar gyfer ysgolion cynradd sy’n archwilio. Prydeinwyr du dylanwadol sydd wedi effeithio ar gyfreithiau a hawliau cyfartal y DU.

    learning.parliament.uk

    http://learning.parliament.uk

  • Crëwyd gan Machel Bogues a Holly GreenlandDarluniwyd gan Onyinye Iwu

    Cyhoeddwyd Medi 2020

    Rhannwch eich adborthMae Senedd y DU wedi ymrwymo i gynhyrchu adnoddau dysgu sy’n gywir, o ansawdd uchel ac yn hygyrch, mae eich adborth yn bwysig i wneud i hyn ddigwydd: [email protected]

    https://www.onyinyeiwu.com/mailto:engage%40parliament.uk?subject=

  • Mae’r adnodd ysgol gynradd hwn yn cynnwys straeon am Brydeinwyr du dylanwadol sydd wedi effeithio ar gyfreithiau a hawliau cyfartal y DU. Wedi’i lansio i nodi Mis Hanes Pobl Ddu 2020, gellir defnyddio’r adnodd hwn trwy gydol y flwyddyn academaidd i ymgorffori straeon am Brydeinwyr du pwysig ar draws y cwricwlwm cynradd.

    Cynnwys

    Olaudah EquianoAr ôl prynu ei ffordd allan o gaethwasiaeth, ysgrifennodd Olaudah lythyrau pwysig at seneddwyr gan ddylanwadu ar y deddfau newydd a ddaeth â chaethwasiaeth i ben o’r diwedd.

    Mary PrinceHelpodd ei stori bwerus am gaethwasiaeth i newid barn y Senedd a phobl Prydain.

    Claudia JonesDechreuodd y gweithredydd hawliau sifil Claudia Jones, ei phapur newydd ei hun i rannu straeon am bobl ddu Prydain. Hi hefyd yw sylfaenydd carnifal Notting Hill sy’n dathlu diwylliant y Caribî.

    Yr Arglwydd Learie ConstantineCricedwr enwog, hyrwyddwr hawliau cyfartal ac aelod du cyntaf Tŷ’r Arglwyddi.

    Bernie Grant ASUn o’r ASau du Affricanaidd cyntaf erioed i gael ei bleidleisio i mewn i Dŷ’r Cyffredin ym 1987 ac ymgyrchydd gydol oes dros hawliau cyfartal.

    Eniola AlukoChwaraewraig pêl-droed o Brydain a enillodd anrhydeddau a chyfreithiwr hyfforddedig a amlygodd hiliaeth a bwlio mewn pêl-droed yn ddewr mewn pwyllgor dethol.

    Adroddwch eich stori eich hunGall myfyrwyr ddefnyddio’r templedi “Adroddwch eich stori eich hun” i greu eu portreadau a’u straeon eu hunain am y bobl ysbrydoledig dan sylw, neu am eu harwr du lleol neu deuluol eu hunain.

    Nodiadau i athrawon Nodiadau ategol i athrawon ar gyfer gwasanaethau, Saesneg, Dinasyddiaeth, Celf a Hanes.

  • Olaudah Equiano(tua 1745 – 1797) Ganwyd Olaudah Equiano mewn lle roedd e’n ei alw’n ‘Eboe’ yn

    yr hyn a adnabyddir bellach fel de Nigeria. Pan oedd yn ddim ond un ar ddeg cafodd ef a’i chwaer eu herwgipio a’u gwerthu i mewn i gaethwasiaeth.

    Anfonwyd Olaudah i ffwrdd o’i gartref a’i deulu a’i orfodi i weithio i eraill. Aethpwyd ag ef i’r Caribî yn gyntaf, ac yna i America. Yno cafodd ei werthu i swyddog o’r Llynges Frenhinol o’r enw Is-gapten Michael Pascal, a roddodd enw newydd iddo ‘Gustavus Vassa’, ar ôl brenin yn Sweden.

    Teithiodd Olaudah y cefnforoedd gyda Pascal am tua wyth mlynedd. Yn y cyfnod hwn, dysgodd sut i ddarllen ac ysgrifennu.

    Cafodd ei werthu ddwywaith eto a pharhaodd i deithio ar longau . Ond dechreuodd wneud ei arian ei hun wrth brynu a gwerthu pethau. Mewn tair blynedd gwnaeth ddigon o arian i brynu ei ryddid wrth dalu £40 i’r perchnogion caethweision i’w ryddhau.

    Yna treuliodd Olaudah ugain mlynedd yn teithio’r byd fel dyn rhydd, gan gynnwys mynd ar deithiau i Dwrci a’r Arctig.

    Ym 1786 daeth i Lundain lle ymunodd â grwp o bobl oedd yn gweithio i ddod â chaethwasiaeth i ben.

    Roedd Olaudah yn meddwl y gallai ei stori helpu i newid meddyliau pobl ynghylch caethwasiaeth. Ysgrifennodd lyfr o’r enw ‘The Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano’ a theithiodd o gwmpas Prydain ac Iwerddon i ddweud wrth bobl amdano.

    Cyn bo hir roedd llawer o bobl wedi clywed am Olaudah Equiano a’i lyfr pwysig. Penderfynodd fod rhaid iddo nawr siarad yn uniongyrchol â’r Senedd ynghylch newid y gyfraith i ddod â’r Fasnach Gaethweision ar draws yr Iwerydd i ben.

    Mynychodd Olaudah drafodaethau yn Nhŷ’r Cyffredin ac anfonodd lythyrau at aelodau’r Senedd i rannu ei farn. Darllenwyd hyd yn oed un o’i lythyrau, at yr Arglwydd Hawkesbury, mewn pwyllgor seneddol i ddangos bod rhaid newid y gyfraith i ddod â chaethwasiaeth i ben am byth.

    Roedd yn frwydr hir ond yn araf roedd camau gweithredu pobl megis Olaudah Equiano yn newid barn pobl a chafwyd cyfreithiau newydd. Ym 1833, daeth caethwasiaeth i ben o’r diwedd ym Mhrydain.

    Heddiw, rydym yn cofio Olaudah Equiano am ei lyfr pwysig a’i lythyrau yn enwedig i aelodau’r senedd. Helpodd ei stori i newid barn pobl Prydain a’r Senedd ar y daith hir i ddod â chaethwasiaeth i ben.

  • Mary Prince (1788 – tua 1833) Ganwyd Mary Prince i mewn i gaethwasiaeth yn Bermwda dros ddau

    gan mlynedd yn ôl.

    Pan oedd yn ddeuddeg oed yn unig, cymerwyd Mary a dwy o’i chwiorydd o’u teulu a’u gwerthu i dri theulu gwahanol. Roedd hyn yn golygu ei bod yn cael ei gorfodi i weithio bob dydd heb unrhyw arian. Nid oedd ganddi deulu i ofalu amdani ac ni chaniatawyd iddi fynd i’r ysgol.

    Cafodd ei thrin yn wael iawn. Ei gwaith oedd gweithio mewn llynnoedd halen lle roedd rhaid iddi gasglu halen o’r dŵr. Roedd hi’n gweithio yn yr haul crasboeth ac o ganlyniad roedd ganddi bothelli poenus.

    Gwerthwyd Mary dair gwaith eto a symudodd o amgylch y Caribî, cyn mynd i Antigwa i weithio i’r teulu Woods. Yn Antigwa, priododd Mary cyn cael ei gorfodi gan y Woods i deithio i Lundain a gadael ei theulu ar ôl unwaith eto.

    Pan gyrhaeddodd Mary Lundain llwyddodd i ddianc rhag Mr a Mrs Woods a chymerodd loches gyda grŵp a alwyd yn Gymdeithas Gwrth-Gaethwasiaeth. Roedd eisiau dod â chaethwasiaeth i ben ledled y byd arnynt.

    Roedd Mary’n dymuno dychwelyd at ei gŵr yn Antigwa ond roedd ofn arni. Roedd hi’n gwybod pe bai hi’n dychwelyd ei bod hi’n peryglu cael ei gorfodi i fod yn gaethferch eto.

    Penderfynodd fod yn rhaid iddi adrodd ei stori a gadael i bobl wybod sut brofiad oedd bod yn gaeth a pham roedd rhaid dod â chaethwasiaeth i ben. Ym 1829 hi oedd y fenyw ddu gyntaf i ddeisebu’r Senedd ynghylch diddymu. Yn ystod y cyfnod hwn, y Prydeinwyr oedd yn llywodraethu yn Antigwa a gwledydd eraill lle roedd caethwasiaeth yn parhau. Os oedd caethwasiaeth i ddod i ben, roedd yn rhaid i’r Senedd ym Mhrydain newid eu deddfau.

    Cyhoeddwyd ei llyfr pwerus ‘The History of Mary Prince’ ym 1831. Cafodd ei ddarllen gan lawer o bobl ac fe’i defnyddiwyd gan y Senedd i helpu i newid y gyfraith.

    Nid oedd yn newid cyflym na hawdd, ond ym 1833 pasiodd y Senedd ddeddf newydd a ddaeth â chaethwasiaeth i ben ac a roddodd eu rhyddid i lawer o bobl o’r diwedd.

    Nid ydym yn gwybod beth ddigwyddodd yn ddiweddarach ym mywyd Mary, ond rydym yn ei chofio heddiw am y rôl bwysig oedd ganddi mewn dod â chaethwasiaeth i ben wrth adrodd ei stori hyd yn oed pan nad oedd ar bobl eisiau ei chlywed.

  • Claudia Jones (1915 – 1964) Ganwyd Claudia Jones yn Nhrinidad ym 1915 a threuliodd lawer

    o’i bywyd cynnar yn America lle roedd hi’n newyddiadurwraig. Ysgrifennodd am driniaeth annheg merched du roedd hi’n dyst iddo ac a brofodd ei hun.

    Roedd Claudia hefyd yn aelod o blaid wleidyddol nad oedd y llywodraeth yn America yn cytuno â hi. Oherwydd hyn, ym 1955 cafodd ei hanfon i Loegr.

    Ymsefydlodd Claudia yn Llundain, lle roedd cymuned o bobl ddu Prydeinig a oedd wedi teithio i Loegr o’r Caribî.

    Ni chroesawyd y gymuned hon gan bawb, a chafodd Claudia sioc i ddysgu bod hyd yn oed dod o hyd i le i fyw yn anodd os oeddech yn ddu. Nid oedd unrhyw ddeddfau mewn grym i amddiffyn pobl rhag cael eu troi i ffwrdd yn seiliedig yn unig ar liw eu croen neu o ble y daethant.

    Roedd Claudia’n dymuno dweud wrth bobl pa mor annheg oedd hyn, ond roedd hi’n teimlo nad oedd gan bobl ddu ffordd i leisio’u barn. Felly ym 1958 cychwynnodd Claudia ei phapur newydd ei hun, o’r enw y West Indian Gazette, a oedd yn herio hiliaeth.

    Parhaodd Claudia i weithio gyda grwpiau eraill i ymgyrchu dros hawliau cyfartal i Brydeinwyr du a phrotestiodd yn erbyn deddfau hiliol. Roedd hi’n dymuno i bawb gael yr un hawliau i dai, addysg a swyddi da.

    Roedd gwaith Claudia’n bwysig iawn yn newid y deddfau yn y DU gan baratoi’r ffordd ar gyfer deddfau hawliau cyfartal llawer cryfach yn y dyfodol.

    Ond nid dyma’r cwbl a wnaeth Claudia. Ar ôl cyfnod o ymladd yn y DU, lle ymosodwyd ar rai pobl ddu hyd yn oed, roedd Claudia yn awyddus i ddod o hyd i ffordd i Brydeinwyr du ddod at ei gilydd i ddathlu a chefnogi ei gilydd.

    Felly, penderfynodd ddod â charnifal mawr Caribïaidd i Lundain!

    Roedd y carnifal yn ddigwyddiad mawrllawn cerddoriaeth a dawnsio a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref St Pancras. Fe’i dangoswyd hyd yn oed ar y teledu gan y BBC.

    Daeth y digwyddiad hwn yn Garnifal Notting Hill fel y’i hadnabyddir heddiw. Mae’n un o’r carnifalau mwyaf a mwyaf anhygoel yn y byd.

    Yn ogystal ag ymgyrchu i wella deddfau’r DU ac ymladd dros hawliau cyfartal, bydd Claudia yn cael ei chofio am helpu i gyflwyno diwylliant Caribïaidd i fywyd Prydain.

  • Learie Constantine (1901 – 1971) Ganwyd Learie Constantine yn Nhrinidad ym 1901. Yn union fel ei dad,

    roedd yn chwaraewr criced gwych. Enillodd gemau mawr a gwobrau pwysig yn Nhrinidad ac ar ei deithiau i Loegr.

    Ond gwelodd Learie nad oedd yn cael ei drin yn deg bob amser. Ar un achlysur, ar ôl chwarae mewn gêm griced elusennol fawr yn Llundain, cafodd Learie a’i deulu eu troi i ffwrdd o westy. Gwrthodwyd yr ystafell iddynt ar sail lliw eu croen yn unig. Roedd yn gwybod bod hyn yn annheg a bod yn rhaid iddo wneud rhywbeth yn ei gylch.

    Aeth â’r gwesty i’r llys i brofi eu bod wedi ei drin ef a’i deulu’n annheg. Ac enillodd!

    Ond ni roddodd y gorau iddi. Parhaodd Learie i godi llais pan welodd anghydraddoldeb. Llwyddodd i leisio ei farn yn ei rôl newydd fel Uwch Gomisiynydd Trinidad a Thobago.

    Roedd hyn yn cynnwys cefnogi boicot bysiau ym Mryste. Yma, roedd cwmni bysiau wedi gwrthod caniatáu i bobl ddu weithio ar y bysiau. Cefnogodd Learie grŵp lleol a ofynnodd i bobl ym Mryste beidio â defnyddio’r bysiau tan i’r cwmni newid ei reolau. Ac unwaith eto enillon nhw. Roedd hi’n ymddangos bod pethau wir yn newid.

    Parhaodd Learie ac eraill i ymladd yn erbyn anghydraddoldeb, ac ym 1965 pasiodd Senedd y DU ddeddf bwysig iawn. Cafodd ei galw’n Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (1965). Dyma’r gyfraith gyntaf a ddechreuodd wahardd trin pobl yn annheg ar sail lliw eu croen.

    Yna, ym 1969, Learie oedd y dyn du cyntaf i ddod yn aelod yn Nhŷ’r Arglwyddi. Dyma’r ail siambr yn Senedd y DU. Mae aelodau Tŷ’r Arglwyddi’n edrych yn fanwl ar syniadau ar gyfer deddfau newydd ac yn trafod newidiadau i hen rai.

    Yma gallai eto sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed.

    Heddiw rydym yn cofio’r Arglwydd Learie Constantine am y camau mawr a wnaeth i wella cydraddoldeb yn y DU a sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu cynrychioli yn Senedd y DU.

  • Bernie Grant (1944 – 2000) Ganwyd Bernard Alexander Montgomery Grant ym 1944 yng Ngiana

    Brydeinig, a elwir bellach yn Gaiana. Roedd ei rieni yn athrawon ysgol a chafodd ei enwi ar ôl dau gadfridog o’r fyddin oedd yn ymladd yn yr Ail Ryfel Byd ar y pryd.

    Daeth Bernie i Loegr ym 1963 pan oedd yn bedair ar bymtheg oed. Aeth i’r coleg yn Llundain cyn mynd i astudio peirianneg mewn prifysgol yn yr Alban.

    Darganfu Bernie na allai myfyrwyr du gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau y gallai myfyrwyr gwyn fod yn rhan ohonynt. Yn arbennig, roedd yn ddig fod y brifysgol wedi caniatáu i fyfyrwyr gwyn deithio i Dde Affrica fel rhan o’u dysgu; rhywbeth na allai myfyrwyr du ei wneud. Teimlai’n gryf iawn fod y driniaeth hon yn annheg, a rhoddodd y gorau i’w le yn y Brifysgol mewn protest.

    Am y naw mlynedd nesaf parhaodd i ymladd yn erbyn anghyfiawnder, ond roedd yn dymuno gallu gwneud gwahaniaeth lle roedd y penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud.

    Felly, ym 1973 ymunodd â’r Blaid Lafur, a phum mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei ethol yn gynghorydd lleol yn Haringey, Llundain. Roedd hyn yn golygu y gallai helpu i wneud penderfyniadau am ei ardal leol.

    Ym 1985 daeth yn Arweinydd Cyngor Haringey: yr unigolyn du cyntaf erioed i ddal swydd o’r fath yn Ewrop gyfan.

    Fel Arweinydd y cyngor sicrhaodd ei fod yn gwrando ar bawb yn ei ardal leol a bod y polisïau roedd yn eu gwneud yn helpu i ddod â thriniaeth annheg i ben.

    Ym 1987 cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol, lle pleidleisiodd y DU gyfan dros ASau i’w cynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin yn Senedd y DU.

    Y flwyddyn honno, roedd Bernie yn un o’r tri Aelod Seneddol du Affricanaidd cyntaf erioed i gael eu hethol.

    Gwnaeth ei farc bron yn syth trwy wisgo gwisg gotwm draddodiadol o Ghana yn Agoriad Gwladol y Senedd. Anfonodd hyn neges bwerus fod yn rhaid i bawb sy’n byw yn y DU, o bob cefndir, gael eu cynrychioli yn y Senedd.

    Parhaodd Bernie i ymladd dros hawliau cyfartal tra yn y Senedd. Pan fu farw yn 2000, daeth mwy na phum mil o bobl o bob cefndir a chymuned i ffarwelio ag ef, gan ddangos pa mor bwysig oedd yn y DU.

  • Eniola Aluko (ganwyd 1987) Ganwyd Eni yn Lagos, Nigeria ym 1987. Symudodd i Birmingham

    gyda’i theulu pan oedd hi’n chwe mis oed yn unig.

    Roedd Eni’n chwaraewraig pêl-droed wych. Pan ddaeth hi’n oeodlyn, chwaraeodd i rai clybiau pêl-droed mawr yn y DU a gwledydd eraill.

    Astudiodd yn galed iawn hefyd a chymerodd amser i ffwrdd o’i gyrfa bêl-droed brysur i gwblhau ei harholiadau a dod yn gyfreithiwr.

    Fel chwaraewraig pêl-droed, chwaraeodd Eni dros ganwaith i Loegr a hi oedd y ferch Affricanaidd gyntaf o Brydain i wneud hynny. Enillodd Gwpan FA Lloegr bedair gwaith a’r gynghrair dair gwaith!

    Fodd bynnag, roedd Eni wedi gweld a phrofi bwlio a hiliaeth tra’n chwarae pêl-droed ac roedd hi’n gwybod bod angen gwneud rhywbeth.

    Yn 2016 siaradodd Eni allan yn ddewr. Esboniodd ei bod wedi gweld pobl yn gwneud hwyl am ben chwaraewyr du a’u trin yn wahanol oherwydd lliw eu croen.

    Roedd y straeon a rannodd mor ddifrifol fel eu bod wedi cael eu hymchwilio gan bwyllgor dethol yn Senedd y DU. Mae pwyllgorau dethol yn grwpiau arbennig o ASau ac aelodau o Dŷ’r Arglwyddi sy’n ymchwilio i faterion pwysig ac yn gwneud awgrymiadau ynghylch sut i wneud newidiadau.

    Gwahoddwyd Eni ganddynt i siarad â nhw a rhannu ei stori. Roedd ei thystiolaeth ym mis Hydref 2017 yn bwerus iawn. Roedd yn amlwg bod chwaraewyr du wedi cael eu trin yn wahanol a bod hyn yn annheg.

    Sylweddolodd y Gymdeithas Bêl-droed, sy’n gyfrifol am sut mae pêl-droed yn cael ei reoli yn Lloegr, nad oeddent wedi gwneud digon i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg. Derbyniodd Eni a’r chwaraewyr eraill ymddiheuriad ganddynt am yr hyn roeddent wedi’i brofi ac edrychasant eto ar eu rheolau.

    Heddiw rydym yn dathlu Eni am amlygu’r ffordd roedd hiliaeth a bwlio’n parhau i effeithio ar y gêm roedd hi’n ei charu.

  • GweithgareddauPwy yw eich arwr du mewn hanes?

    Rhannwch stori Rhannwch un o’r straeon o’r pecyn hwn.

    Myfyriwch Defnyddiwch y cwestiynau hyn i helpu disgyblion i feddwl am yr unigolyn yn y stori a’r hyn roedd eu gweithredoedd yn ei olygu i’r DU heddiw.

    • Ydych chi’n gallu cofio pwy gafodd ei drin yn annheg yn y stori? Pam roedd pobl yn eu trin yn wahanol?

    • Sut safodd yr unigolyn yn y stori dros y driniaeth annheg a welsant neu a brofwyd ganddynt? (atgoffwch y disgyblion o’r camau a gymerodd yr unigolyn).

    • Pan fydd pobl yn sefyll dros driniaeth annheg gall fod yn frawychus, ac efallai y bydd angen iddynt fod yn ddewr. Beth yw’r rheswm dros hynny rydych chi’n meddwl? (mae awgrymiadau’n cynnwys; poeni na fyddai eraill yn cytuno â chi neu’n ansicr sut y bydd sefyll dros y mater yn effeithio arnoch).

    • Ydych chi erioed wedi’ch trin yn annheg? Sut deimlad oedd e?

    • Neu efallai eich bod wedi gweld rhywun arall yn cael ei drin yn annheg? Beth wnaethoch chi, neu beth allech chi ei wneud?

    Gall pawb wneud gwahaniaethEsboniwch ei bod yn golygu bod angen i bob un ohonom wneud y DU yn lle amrywiol, teg a bywiog i fyw ynddo.

    Rhannwch eich ‘Arwr Du Mewn Hanes’ eich hunNaill ai ymchwiliwch fel grŵp, neu dewch â stori rydych wedi dod o hyd iddi o flaen llaw, sy’n amlygu arwr du lleol mewn hanes. Gallai fod yn gynghorydd, AS, Arglwydd, unigolyn ym myd chwaraeon, athro, aelod o’r teulu neu rywun o hanes a gafodd ei eni neu a oedd yn byw yn eich ardal. Cyflwynwch eich stori hanes lleol i’r dosbarth i’w thrafod.

    Byddwch yn greadigol Defnyddiwch y templedi yn y pecyn hwn i ddisgyblion dynnu llun, paentio neu lunio portread ac ysgrifennu stori fer am eu harwr du mewn hanes eu hunain.

    Gellir defnyddio’r straeon yn yr adnodd hwn i drafod tegwch, cydraddoldeb a hawliau trwy gydol y flwyddyn ac maent yn atodiad delfrydol ar gyfer gweithgareddau Mis Hanes Pobl Ddu.

    Themau: Mis Hanes Pobl Ddu, tegwch, cydraddoldeb a hawliau

    Meysydd y cwricwlwm: Dinasyddiaeth, Gwerthoedd Prydeinig, Datblygiad Personol a Chyd-ddealltwriaeth, Lles Cymdeithasol

  • Newid cyfreithiau

    Rhannwch stori Rhannwch straeon Mary Prince ac Olaudah Equiano, gan gyflwyno themâu allweddol hawliau cyfartal, rhyddid a thegwch. Os oes sgrîn gennych, arddangoswch y lluniau wrth i chi ddarllen.

    Beth sydd wedi newid? Trafodwch sut mae pethau wedi newid o gyfnod y straeon hyd heddiw.

    • Beth oedd caethwasiaeth yn ei olygu?

    • Pam roedd hi’n bwysig i gaethwasiaeth ddod i ben?

    • Beth oedd newid yn y gyfraith yn ei olygu?

    • Sut leisiodd y bobl yn y stori eu barn i helpu i wneud i’r newid ddigwydd?

    Sut mae hynny’n gwneud i chi deimlo? Gofynnwch i’r grŵp a ydynt yn synnu ynghylch sut beth oedd bywyd i’r bobl yn y straeon. Pam maent yn meddwl ei bod mor bwysig bod y gyfraith wedi’i newid?

    Mae deddfwriaeth bwysig (deddfau) yn dweud bod yn rhaid i ni i gyd gael hawliau cyfartalAtgoffwch y grŵp ei bod yn bwysig ein bod i gyd yn gwybod ein hawliau ein hunain a’n bod yn trin eraill yn deg. Mae’r gyfraith wedi newid dros amser, a heddiw mae deddfau ar waith sy’n dweud wrthym na ddylid trin unrhyw un yn annheg ar sail lliw eu croen neu o ble maent yn dod.

    Gwnaethpwyd y deddfau hyn yn Senedd y DU.

    Ond mae anghydraddoldeb yn parhau i fodoli ac mae mwy o waith i’w wneud.

    Gofynnwch: Pam ei bod hi’n bwysig bod deddfwriaeth cydraddoldeb yn bodoli heddiw?

    Estyniad: Gallai myfyrwyr fyfyrio ar reolau neu werthoedd eich ysgol eich hun a sut roedd y bobl yn y straeon yn eu hymgorffori. Er enghraifft dewrder, gwytnwch, gwaith tîm neu garedigrwydd.

    Yn y gweithgaredd hwn bydd disgyblion yn cymharu’r gorffennol â’r presennol gan ddefnyddio straeon Mary Prince ac Olaudah Equiano. Byddant yn ystyried sut y gwnaeth newidiadau i’r gyfraith ddod â chaethwasiaeth i ben a myfyrio ar gyfraith cydraddoldeb heddiw.

  • learning.parliament.uk

    http://learning.parliament.uk