Upload
katrina-wood
View
232
Download
3
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Â
Citation preview
Dyma wasanaeth rhad ac am
ddim sy’n anelu at:
Gall y defnydd cyson o alcohol a
chyffuriau effeithio ar iechyd
personol ac ar y gallu i gyflawni
dyletswyddau cymdeithasol yn
ogystal â gwaith. Gall yr olaf
arwain at absenoliaeth, colli amser
wrth wneud y gwaith,
damweiniau, diffyg buddsoddiad
mewn hyfforddiant, camfarnu a
gwneud penderfyniadau
anghywir. Yn ogystal, gall gael
effaith niweidiol ar gydweithwyr,
ffrindiau a theulu.
Mae’n bosib y gall eich cwmni
wario rhwng £5,000 a £10,000 er
mwyn recriwtio, hyfforddi, cefnogi
a datblygu un aelod o staff. Gallai
colli nifer fechan o weithwyr yn
ystod y flwyddyn o ganlyniad i
ddefnydd o alcohol neu gyffuriau
achosi costau sylweddol i’ch
cwmmi.
Mae’r Gwasanaeth Cefnogi Cyflogaeth yn
rhad ac am ddim ac mae ar gael i gyflogwyr yng
Ngogledd a De Cymru hyd at Mis Medi 2013.
Dyma gynllun Peilot
Ewropeaidd sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth
Cymru.
Hyrwyddo ymwybyddiaeth materion
camddefnyddio sylweddau er mwyn
annog amgylchedd waith ddiogel ac
iach.
Darparu cefnogaeth i bobl sy’n cael
eu heffeithio gan gamddefnyddio
sylweddau er mwyn eu galluogi i
barhau mewn gwaith a gwella safon
cyffredinol eu hiechyd.
Helpu cyflogwyr i ddatblygu polisÏau a
threfniadau yn y gweithle sy’n
ymwneud â defnyddio alcohol a
chyffuriau.
Mae’n darparu gwasanaeth cyfrinachol sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth
i unigolion:
Adnabod y potensial o risg i’w cyflogaeth oherwydd eu camddefnydd
o sylweddau.
Sy’n poeni bod eu defnydd o alcohol/cyffuriau yn rhoi eu swydd yn y
fantol
Sydd â phroblem iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio o ganlyniad i
ddefnyddio alcohol/cyffuriau
Sydd wedi dychwelyd i waith yn ddiweddar yn dilyn absenoliaeth
oherwydd salwch o ganlyniad i ddefnydd alcohol/cyffuriau
Sydd o’r gwaith am gyfnod hir o ganlyniad i ddefnyddio alcohol/
cyffuriau ac sydd angen cefnogaeth i ddychwelyd i’r gwaith
Sy’n poeni y gallai gofalu am aelod o’r teulu gyda phroblemau
camddefnyddio alcohol/cyffuriau roi eu swydd yn y fantol
Fel cyflogwr gall eich helpu i:
Gynnal gweithlu sefydlog a
chynhyrchiol
Gadw materion
problematig ac ymyrraeth o
ganlyniad i gamddefnyddio
sylweddau i’r isafswm
Leihau absenoliaeth
oherwydd salwch
Arbed arian!
Mae absenoliaeth o’r gwaith oherwydd
camddefnyddio alcohol yn costio gymaint
â £1.5 biliwn y flwyddyn i economi’r DU
Amcangyfrifir fod 18 miliwn o ddiwrnodau
gwaith yn cael eu colli yn flynyddol
oherwydd camddefnyddio alcohol
Collir y potensial o 58,000 o flynyddoedd
gwaith bob blwyddyn o ganlyniad i
farwolaethau cynamserol sydd ynghlwm
ag alcohol
Sefydliad Astudiaethau Alcohol, 2009
Gwaith sy’n cael ei effeithio arno
gan drydydd person? Mae cyngor a chyfarwyddiadau ar gael i
weithwyr lle mae eu gwaith yn cael ei
effeithio arno gan aelod o’r teulu sydd â
phroblemau camddefnyddio sylweddau.
Yn ogystal â sicrhau bod yr aelod yna o’r
teulu yn derbyn y lefel berthnasol o
gefnogaeth, bydd hefyd yn cynnal cyswllt
gyda’r gweithiwr, trwy ddarparu
cefnogaeth ffôn un wrth un yn ôl yr angen.
I godi ymwybyddiaeth ymhlith staff ynglyn âg effaith posibl
camddefnyddio sylweddau ar gyflogaeth a’r help sydd ar gael
Sy’n cael ei ddarparu i
reolwyr fydd yn dyfeisio a
gweithredu polisÏau a
threfniadau
I gynyddu hyder rheolwyr
wrth ddelio gyda materion
sy’n deillio o gamddefnyddio
sylweddau
Sy’n cael ei ddarparu yn
fewnol i’r cwmni ar adeg
sy’n gyfleus i chi
I weithwyr sydd ar hyn o bryd yn cael trafferthion gydag alcohol neu
gyffuriau, gall ein staff ddarparu ymyriadau un wrth un y byddem
rhan amlaf yn disgwyl i’w darparu yn wythnosol am gyfnod o hyd at
ddeuddeg wythnos. Os oes angen, gall y sesiynau yma gael eu
cynnal y tu allan i oriau gwaith er mwyn sicrhau cyfrinachedd i’r
gweithiwr a gyda chyn lleied o ymyraeth i’r sefydliad â phosib.
Bydd y sesiwn yn cynnig ffyrdd o:
Ysgogi’r unigolyn i wynebu’r problemau
sydd ganddynt gydag alcohol/cyffuriau
Gynnig help i ymdopi gyda’r straen a
phryder sydd wedi deillio o
gamddefnyddio sylweddau
Newid patrymau ymddygiad
Godi ymwybyddiaeth ynglyn â risg
camddefnyddio sylweddau i’r meddwl
a’r corff
Leihau’r risg o ailbwl yn dilyn cyfnodau o
ymwrthod
Ymdopi gyda’r chwant am alcohol/
cyffuriau
Pwrpas y sesiynau yma
ydy i gynyddu’r
ysgogiad i newid trwy
annog unigolion i
ddeall yr effaith y gall
camddefnyddio
sylweddau ei gael ar
eu dyheuadau yn y
dyfodol.
Hyfforddiant rhad ac am ddim wedi’i deilwra er
mwyn datblygu’r gweithlu:
Er mwyn trafod yr
amrywiaeth o
wasanaethau y gall
y Gwasanaeth
Cefnogi Cyflogaeth
ei gynnig i’ch
sefydliad, cysylltwch
os gwelwch chi’n
dda gyda:
Galwch 01685 721991
E-bostiwch [email protected]
Ewch ar-lein www.drugaidcymru.com
Cyfeiriad MIDAS, 1st Floor,
Oldway House, Castle Street,
Merthyr Tydfil, CH47 8UX
Galwch 01492 523040 / 01492 863001
E-bostiwch [email protected]
Ewch ar-lein www.cais.co.uk/ess
Hoffi ESSNW
Dilyn ESSNW
Galwch 01792 646421
E-bostiwch [email protected]
Ewch ar-lein www.wgcada.org
Cyfeiriad 41/42 St James Crescent,
Uplands, Swansea, SA1 6DR